GENUKI Home Page Glamorgan Glamorgan Contents Contents

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees and John Thomas; published in 1871+.

 

These 7 chapel histories were extracted by Gareth Morgan from the CD published by Archive CD Books (Feb 2008)  - no translations

The main project page is on http://www.genuki.org.uk/big/wal/Indchapels.html#Glamorgan

Proof read by Yvonne John (March 2008)

 


EBENEZER, ABERDAR

Return to top

(Vol 2, p 323)

Tua diwedd y ganrif ddiweddaf daeth llawer o bobl o wahanol barthau o ddeheudir Cymru i Aberdar i weithio, ac yn eu mysg yr oedd rhai aelodau eglwysig perthynol i'r Annibynwyr a'r Methodistiaid Calfinaidd. Nid oeddynt ond chwech neu saith o rif ar y cyntaf. Buont am rai blynyddau yn cyd-gynal cyfarfodydd gweddio mewn anedd-dai, ac yn llwyddo yn achlysurol i gael pregethwr o'r naill enwad neu'r llall i ymweled a hwy. Tua diwedd y flwyddyn 1799, ymwahanodd y ddau enwad. Aeth y Methodistiaid i gynal en gwasanaeth yn nhy William Pugh, yn Llwydgoed, a'r Annibynwyr yn nhy Timothy Davies, yn y pentref. Yr aelodau cyntaf gyda yr Annibynwyr oeddynt Timothy Davies a'i wraig; Lewis a Dafydd Lawrence a'u gwragedd; Dafydd Richard a'i wraig, a Morgan Rowland a'i wraig. Yn y flwyddyn 1804, cymerasant dý bychan ar Benypound, yn ngwaelod y pentref, yr hwn a gyfaddaswyd at fod yn addoldy. Cafodd y tý hwn ei drwyddedu fel addoldy yn llys Llandaf, Hydref 16eg, 1804, gan Mr. G. Hughes, Groeswen, yr hwn oedd eu gweinidog ar y pryd. Bu Mr. Hughes yn gofalu am yr achos hwn am chwech neu saith mlynedd. Wedi i Mr. Methusalem Jones ymsefydlu yn Merthyr yn 1809, cymerodd ef ofal y ddeadell fechan yn Aberdar, gan ei fod yn nes atynt na Mr. Hughes. Yr oedd nifer yr eglwys wedi lluosogi ychydig erbyn i Mr. Jones gymeryd ei gofal. At y rhai a enwyd yn barod, yr oedd Dafydd Jenkyn ac Ann ei wraig; Benjamin Havard, Margaret Williams, William Williams a'i wraig; Thomas a Joseph Harrison, a rhai eraill, wedi ymuno a'r achos erbyn 1809. Yn y flwyddyn 1811, adeiladwyd capel Ebenezer, ar Heolyfelin, yr hwn le a ystyrid yn fwy canolog na'r pentref. Byddai Mr. Walter Thomas yn pregethu yma yn fynych fel cynorthwywr i Mr. Hughes a Mr. Jones; ac yr ydym yn cofio clywed yr hen aelodau bymtheg-mlynedd-ar-hugain yn ol, yn son yn barchus iawn am dano fel dyn da a nodedig o wresog yn ei ysbryd. Wedi adeiladu Ebenezer ar Heolyfelin, cynyddodd yr eglwys a'r gwrandawyr yn fawr, ac yn 1813, penderfynasant fyny gweinidog iddynt eu hunain. Rhoddasant alwad i Mr. David Jones, aelod o'r eglwys yn y Mynyddbach, ger Abertawy, ac urddwyd ef yma Gorphenaf 29ain, 1813. Ni bu ei arosiad ef yma dros o ddwy i dair blynedd. Gan fod yr eglwys yn analluog i'w gynal ef a'i deulu, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwysi yn Llanharan a'r Taihirion, a symudodd yno. Yn 1817, dewisodd yr eglwys un o'i phlant ei hun i fod yn weinidog iddi, sef Mr. Joseph Harrison, yr hwn oedd wedi dechreu pregethu yma yn 1812. Rhif yr aelodau pan urddwyd Mr. Harrison, oedd 26. Nid oeddynt yn alluog i wneyd digon at ei gynal, ond gan ei fod yn ddyn sengl, ac yn cael rhan fawr o'i gynhaliaeth gan ei gâr, Dafydd Jenkyn, yn nhy yr hwn y llettyai, ni bu raid iddo ef ymadael oddi yma am yr un rheswm ag a orfododd ei ragflaenydd, Mr. Jones, i ymadael. Bn Mr. Harrison yn gwasanaethu yr eglwys hon gyda diwydrwydd diflino a mesur helaeth o lwyddiant hyd y flwyddyn 1835, pryd y darfu y cysylltiad rhyngddynt. Er fod y capel wedi cael ei adeiladu yn 1811, yr oedd dyled drwm yn aros arno yn y flwyddyn 1817, pan ddechreuodd Mr. Harrison ei weinidogaeth yma, a bu ef yn llafurus iawn, ac yn teithio mhell ac agos i gasglu nes llwyr symud y baich. Yn niwedd y flwyddyn 1828, torodd allan yma, fel yn y rhan amlaf o eglwysi Deheudir Cymru, ddiwygiad grymus anarferol, yr hwn a barhaodd am fwy na dwy flynedd. Yn y diwygiad hwn ychwanegwyd amryw ugeiniau at rif yr aelodau, ac aeth y capel lawer rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, fel y bu raid yn y flwyddyn 1829, ei dynu i lawr, ac adeiladu un mwy. Cynwysai y capel newydd tua chwe' chant o eisteddleoedd, ac yr oedd yn yr amser yr adeil- adwyd ef yn cael ei gyfrif yn addoldy hardd iawn. Costiodd tua 700p., ac yr oedd y ddyled wedi ei dynu i lawr i 240p. erbyn terfyniad gweinidogaeth Mr. Harrison yn 1835. Yn nechreu y flwyddyn 1836, rhoddodd yr eglwys hon a'r eglwys yn Nebo, Hirwaun, alwad i Mr. John Davies, Llantrisant, i ddyfod yn weinidog iddynt. Bu Mr. Davies yn llafurio yma ac yn Nebo hyd 1840, pryd y symudodd i'r Mynyddbach. Ni chymerodd dim nodedig le yma yn nhymor gweinidogaeth Mr. Davies, amgen nag i bob peth fyned yn mlaen yn dangnefeddus, ac i ychydig gael eu hychwanegu at yr eglwys. Wedi ymadawiad Mr. Davies yn Mai, 1840, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Thomas Rees, Craigyfargod, yr hwn a fuasai am dymor yn aelod yma yn amser Mr. Harrison. Bu pobl Ebenezer mewn cryn betrusder wrth roddi yr alwad, gan nad oedd Nebo yn uno a hwy fel yn amser y gweinidogion blaenorol, rhag na fuasent yn alluog i gynal gweinidog eu hunain. Tybiai rhai eu bod yn rhyfygu wrth addaw rhyw dair punt a deg swllt yn y mis at y Weinidogaeth, ond yn fuan gwasgarwyd eu holl ofnau trwy yr ysbryd haelionus a ddisgynodd ar yr eglwys a'r gwrandawyr, a'r ychwanegiad dirfawr a gafwyd yn fuan at rif yr aelodau. Tua chant a haner oedd rhif yr aelodau pan ddechreuodd Mr. Rees ei weinidogaeth yma, ac yn mhen ychydig gyda deuddeng mis ar ol ei sefydliad yr oedd cant a haner eraill wedi eu hychwanegu atynt. Cyn diwedd y flwyddyn 1841, yr oedd casgliadau yr eglwys yn dyfod i fyny i 12p. y mis, ond o herwydd fod amryw o'r hen aelodau am ddefnyddio yr arian a gyfrenid at y weinidogaeth at dalu dyled y capel, ac yn gwrthod rhoddi i'r gweinidog yr hyn oedd yn anhebgorol at ei gynhaliaeth, yn hytrach nag ymryson a hwy, penderfynodd dderbyn galwad o Siloa, Llanelli, a symudodd yno yn Mawrth, 1842. Wedi hyn bu yr eglwys yn Ebenezer yn byw ar weinidogaeth achlysurol hyd 1844, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. William Edwards, o athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef Gorphenaf 1af a'r 2i1, yr un flwyddyn. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. B. Owen, Merthyr. Holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Williams, Hirwaun. Dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. D. Roberts, Dowlais. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. Davies, athraw ieithyddol athrofa Aberhonddu, ac i'r eglwys gan Mr. D. Jones, Bethesda, Merthyr.*  Mae Mr. Edwards wedi bod yn weithiwr difefl yma bellach er's with-mlynedd-ar-hugain, a'i fwa etto yn parhau yn gryf trwy ddeheulaw grymus Dduw Jacob. Heblaw gofalu am bobl neillduol ei ofal ei hun, y mae wedi gwneyd ei ran yn deg yn sefydliad yr holl eglwysi a ffurflwyd yn y plwyf hwn yn yr with-mlynedd-ar-hugain diweddaf. Er fod llawer o ganghenau wedi myned allan o honi, a chapeli a chynnulleidfaoedd lluosog o'r un enwad oddi amgylch iddi yn mhob cyfeiriad. y mae yr hen fam yn Ebenezer yn awr yn gryfach ac yn fwy llewyrchus nag y bu ar unrhyw gyfnod o'i hanes. Yn 1859, cafodd y capel ei adeiladu y drydedd waith trwy draul o leiaf o 800p. Mae yn awr yn addoldy prydferth iawn, ac yn cynwys dros saith gant o eisteddleoedd. Aed yn ddiweddar hefyd i'r draul o 300p. i'w adgyweirio a'i brydferthu. Ychydig flynyddau yn ol hefyd adeiladwyd ysgoldy eang y tu arall i'r heol gyferbyn a'r capel, yr hwn a gostiodd agos saith cant o bunau. Darfu i'r eglwys weithgar hon hefyd yn y blynyddau a aethant heibio adeiladu ysgoldai yn Llwydgoed, Penywern, a Chwmdar, ac yn awr y mae eglwysi Annibynol yn cynal eu gweinidogion eu hunain mewn dau o'r tri lle hyn.

Nid ydym yn sicr na chyfodwyd rhai yma i bregethu yn yr ugain mlynedd cyntaf o'r ganrif bresenol, nad ydym ni wedi gallu dyfod o hyd i'w henwau. Y rhai canlynol yw yr unig rai y gwyddom ni am danynt.

* Dysgedydd 1844. Tudal. 251.

** Llythyrau Mr. Edwards.

 


CRAIG Y FARGOD  (Gelligaer parish)

Return to top

(Vol 2, p 311)

Cafodd y capel hwn ei adeiladu mor foreu a'r flwyddyn 1750, gan blaid o Fedyddwyr Arminaidd a ymneillduasant o Hengoed. Mr. Charles Winter oedd y gweinidog cyntaf. Cawsai ef ei addysg yn athrofa Caerfyrddin, dan ofal Mr. Perrot. Wedi gorphen ei amser yno urddwyd ef yn ei fam-eglwys yn Hengoed, a bu yma am rai blynyddau yn gydweinidog ag eraill. Yn mhen amser arweiniodd ei olygiadau Arminaidd i rwygiad yn yr eglwys, ac aeth ef a'i blaid allan. Wedi bod am dymor yn addoli mewn anedd-dai, adeiladasant gapel Craigyfargod. Bu Mr. C. Winter yn gweinidogaethu yma hyd ei farwolaeth yn mis Ebrill 1773. Dilynwyd ef yn y weinidogaeth am ychydig amser gan Mr. Jacob Isaac, aelod o'r eglwys, ac ar ei symudiad ef i Loegr, urddwyd ei frawd, Mr. Daniel Isaac, yn ganlyniedydd iddo. Dilynwyd yntau gan un Mr. Henry Evans, yr hwn a fu yn gweinidogaethu yma am amryw flynyddau o'r ganrif bresenol. Yr oedd yma achos cymharol gryf yn amser Mr. Winter a'r ddau Isaac, ac amryw deuluoedd cyfrifol o blwyfydd Gelligaer, Bedwellty, a Merthyr yn perthyn iddo; ond tua dechreu y ganrif hon dygwyd Ariaeth ac Undodiaeth i mewn yn lle Arminiaeth, a'r canlyniad fu i'r achos wanychu o radd i radd nes y bu raid cau y capel ryw amser cyn y flwyddyn 1830, am nas gallesid cael pobl i ddyfod iddo.

Yr oedd Lewis John Richard, amaethwr parchus o'r gymydogaeth, a'r unig un o'r ymddiriedolwyr oedd yn fyw, yn teimlo rhyw anwyldeb mawr at y lle fel y man yr arferai ei henafiaid addoli, ac fel lle beddrod ei dadau, fel y byddai am rai blynyddau wedi i'r capel gael ei gau yn myned yno fynychaf bob boreu Sabboth i ddarllen penod neu ddwy yn yr hen Fibloedd ar y pulpud. Yn niwedd y flwyddyn 1832, cyfododd anghydfod yn Zoar, Llanfabon, rhwng y gweinidog, Mr. Jonathan Jones, yn nghyd a nifer o'r aelodau, a Mr. Thomas, Llechweddlydan, perchenog y capel hwnw, ac ymadawsant a'r lle. Gan fod nifer o'r aelodau a ymadawsant gyda Mr. Jones o Zoar yn byw ar odre Craigyfargod, cynaliasant eu cyfarfodydd yn aneddau y cyfryw yn achlysurol. Daeth Lewis John Richard i un o'r cyfarfodydd hyn, a dywedodd wrth y gweinidog a'r bobi fod iddynt roesaw i ddyfod i gynal eu cyfarfodydd i gapel Craigyfargod, yr hwn oedd yn segur, ac yn ei feddiant ef fel ymddiriedolwr. Derbyniasant y cynygiad yn ddiolchgar, ac ail agorwyd yr hen gapel yn y flwyddyn 1833, fel capel Annibynol. Tuag wyth neu naw oedd nifer yr aelodau a ddaethant gyda Mr. Jones o Zoar, Llanfabon i Graigyfargod, ond wedi iddynt fyned yno ymunodd Mrs. Edwards, Bedlinog, gwraig Mr. Lewis Edwards, perchenog y tir ar yr hwn y safai y capel; Lewis John Richard, a Hannah ei wraig; Mary Williams, Penymount; James Davies, Penygraig a'i wraig, yn nghyd a'i chwaer; Margaret Richard, Tylanglas, a'r eglwys fechan. Ar of bod yn ymgynnull yno am amryw wythnosau, clywodd rhyw bersonau yn Merthyr a Sirhowy, y rhai a'u galwent eu hunain yn Fedyddwyr Arminaidd, fod yr hen addoldy yn cael ei ddefnyddio gan yr Annibynwyr, a daethant yno un boreu Sabboth i gymeryd meddiant o'r lle. Er nad oedd ganddynt un hawl gyfreithiol i'r eiddo, gan fod y les wedi ei thori trwy beidio talu yr ardreth flynyddol am fwy nag ugain mlynedd, a bod pob un o'r hen gynnulleidfa Arminaidd wedi marw neu adael y lle, ond Lewis John Richard, yr hwn yn awr oedd wedi ymuno a'r Annibynwyr, etto er mwyn tawelwch, cydsyniodd yr Annibynwyr i roddi ugain punt am feddiant o'r lle i'r rhai a broffesent eu bod yn cynrychioli enwad y Bedyddwyr cyffredinol. Yn fuan wedi hyn cafodd yr hen gapel, yr hwn oedd yn ddadfeiliedig iawn, ei wneyd oll o'r newydd ond y muriau. Parhaodd Mr. Jonathan Jones i weinidogaethu yma hyd ddiwedd y flwyddyn 1835, pryd yr ymfudodd ef a Mr. James Davies, Penygraig, a'i deulu, i'r America. Yn mis Mai, 1836, cafodd ysgrifenydd y llinellau hyn wahoddiad i ddyfod yma i gadw ysgol, ac yn fuan wedi hyny derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys fechan, yr hon nid oedd ond deuddeg o aelodau ar y pryd, i ddyfod yn weinidog iddi. Cynaliwyd cyfarfodydd ei urddiad Medi 14eg a'r 15fed, 1836. Rhoddir hanes y cyfarfodydd hyn yn y Diwygiwr am 1836, fel y canlyn :-Medi 14eg a'r 15fed, neillduwyd y brawd Thomas Rees, gynt o Gapel Isaac, sir Gaerfyrddin, i gyflawn waith y weinidogaeth yn gydsyniol a galwad unol yr eglwys Gynnulleidfaol yn addoldy Craigyfargod, swydd Forganwg. Yr hwyr cyntaf dechreuwyd gan Mr. W. Jones, Capel Isaac, a phregethodd y Parchedigion T. Williams, Maendy, a W. Griffiths, Llanharan, a G. Griffiths, Carmel, oddiar Ioan iii. 16; Phil. ii. 12, 13, a Luc xxiv. 24-29. Yr ail ddydd, am 10, gweddiodd y Parch. Josiah Thomas Jones, Merthyr, a thraddodwyd y gynaraeth ar natur eglwys gan y Parch. Thomas Harris, Mynyddislwyn, oddiar 1 Cor. i. 2; derbyniwyd cyffes y gweinidog gan y Parch. John Davies, Llantrisant; gweddiwyd yr urdd-weddi, gydag arddodiad dwylaw, gan y Parch. Methusalem Jones, Merthyr; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan y Parch. Evan Rowlands, Pontypool, oddiar 1 Tim. iv. 16, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan y Parch. Hugh Jones, Tredegar, oddiar Heb. xiii. 7, 17, 24. Am 3 o'r gloch, dechreuwyd gan y Parch, D. Davies, Taf-fechan, a phregethodd y Parchedigion J. Thomas, Adulam, Merthyr; W. Hughes, Treforis, a J. Jones, Penmain, oddiar Dat. ii. 10; Joel ii.14, a Rhuf. viii. 1. Am 6, dechreuwyd a phregethwyd gan R. Powell, ieu., Cross Inn; Jonathan Davies, myfyriwr, Drefnewydd, a J. Davies, Llantrisant, oddiar Rhuf. viii. 34; Gen. vi. 22, a Gen. vii. 1."

Bu Mr. T. Rees yn llafurio yma am bedair blynedd, a chyda chymaint o lwyddiant ag a allesid ddisgwyl wrth ystyried fod poblogaeth yr ardal yn deneu iawn, a'r Bedyddwyr wedi meddianu y wlad er's agos i ddau cant o flynyddau. Cynyddodd yr eglwys yn ystod y pedair blynedd y bu ef yma o ddeuddeg o aelodau i ddeg-ar-hugain. Gan nad oedd argoel i'r boblogaeth gynyddu am lawer o flynyddau fel ag i roddi mantais i'r achos i ddyfod yn hunan-gynaliol, derbyniodd y gweinidog alwad o Ebenezer, Aberdar, a symudodd yno yn Awst, 1840, ond parhaodd i ddyfod yn fisol yma hyd ddechreu y flwyddyn 1841; yna rhoddodd ofal y lle i fyny yn hollol. Yr un amser rhoddodd yr eglwys yn Nghraigyfargod ei hun dan ofal Mr. David Thomas mewn cysylltiad a Throedyrhiw, a than ei ofal ef y bu hyd ei farwolaeth yn mis Hydref, 1843. Yn y flwyddyn 1844, rhoddwyd galwad i Mr. James Evans, Merthyr, ac urddwyd ef yma. Parhaodd i lafurio yma ac yn Llanfabon am ugain mlynedd. Yn 1864, rhoddodd ei ofal I fyny, er mwyn cyfyngu ei lafur gyda chychwyniad yr achos newydd yn Fochriw. Yn fuan wedi ymadawiad Mr. Evans, rhoddodd yr eglwysi yn Nghraigyfargod, a'r Nelson, Llanfabon, alwad i Mr. Robert Jones, o athrofa y Bala, ac y mae efe yn parhau i lafurio yma, ac argoelion fod Duw a dynion yn cymeradwyo ei waith.

Yr unig bregethwr a godwyd yn Nghraigyfargod yw Mr. John Rees, yn awr o Rodborough, sir Gaerloew. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yma yn 1838, gan Mr. T. Rees, a dechreuodd bregethu yn 1841. Ye fuan wedi. hyny symudodd ar ol ei hen weinidog i Lanelli, sir Gaerfyrddin, Ile y bu dan addysg, ac urddwyd ef yn y Bryn, yn 1846.

Yr oedd capel Craigyfargod pan yr adeiladwyd ef yn sefyll mewn man canolog iawn o'r ardal, ac yn gyfleus i'r boblogaeth, ond yn awr, pan y mae y gweithiau glo yn cael eu hagor ar waelod y cymoedd o bob tu iddo, ac anedd-dai y gweithwyr yn cael eu hadeiladu yn ymyl y gweithiau, bydd yn rhaid cael addoldai yn fwy cyfleus na'r hen gapel, ac felly nid yw yn debyg y bydd yma byth achos cryf iawn. Mae hen fynwent wrth y capel, ac er nad yw ond bechan, y mae canoedd o feirw ye gorwedd ynddi.

 


PONTLOTYN  (Gelligaer parish)

Return to top

(Vol 2, p 313)

Pentref poblog ar lan yr afon Rhymni, ychydig islaw gwaith haiarn Rhymni, ac o fewn plwyf Gelligaer, yn sir Forganwg, yw Pontlotyn. Er fod yr Annibynwyr yn cynal cyfarfodydd achlysurol yma mewn anedd-dai er's degau o flynyddau, etto nid oedd yma un achos rheolaidd wedi cael ei sefydlu hyd yn ddiweddar. Yn nechreu y flwyddyn 1864, darfu i amryw o aelodau yr eglwys yn Moriah, Rhymni, ddechreu cynal cyfarfodydd wythnosol yn yr ysgoldy Brutanaidd, ac ar yr 3lain o Fawrth, yn yr un flwyddyn, corpholodd Mr. E. C. Jenkins, gweinidog Moriah, hwy yn eglwys Annibynol. Yn fuan wedi hyny, cymerwyd darn o dir er adeiladu capel arno, yr hwn a orphenwyd ac a agorwyd Gorphenaf 17eg, 1865. Pregethwyd ar yr achlysur gan Meistri Jones, Heolgerig; Roberts, Cefn; Griffiths, Cefn; Hughes, Tredegar; Dr. Rees, Abertawy, ac eraill. Nazareth y galwad y capel, yr hwn sydd yn addoldy hardd a chyfleus, ac yn cynwys o bedwar i bum' cant o eisteddleoedd. Bu Mr. Jenkins, Moriah, a Mr. George Owens, Trifil, ac eraill, yn gweinidogaethu yma yn achlysurol hyd Awst, 1868, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. T. Cunllo Griffiths, gwr ieuangc o ysgol ramadegol Castellnewydd-yn-Emlyn. Cydsyniodd Mr. Griffiths a'r alwad, ac urddwyd ef yma Hydref 5ed, yn yr un flwyddyn. Gweinyddwyd yn nghyfarfod yr urddiad gan Meistri W. P. Davies, Rhymni; J. Williams, Castellnewydd; D. Price, Aberdar, ac eraill. Yn Mai, 1871, gwnaeth Mr. Griffiths ei feddwl i fyny i ymadael a'r lle, a rhoddodd rybudd i'r eglwys o'i fwriad i ymadael, ond y mae y bobl ag yntau wedi ail gydio yn en gilydd, fel y mae wedi penderfynu aros etto, ac yr ydym yn hyderu y bydd ei lafur yn y lle yn fendith i ganoedd.

Yn mlwyddyn gyntaf gweinidogaeth Mr. Griffiths yma, dechreuodd Mr. B. Evans bregethu. Yn fuan wedi hyny ymfudodd i America, ac y mae yn awr, fel y deallwn, yn weinidog llwyddianus yn Carbondale.

Mae golwg dra gobeithiol ar yr achos yn Mhontlotyn yn awr, a chan fod yma faes helaeth i weithio, mae gobaith y bydd yma eglwys luosog ac enwog yn mhen ychydig o flynyddau.

 


TABOR, CEFN COED Y CYMER  (Merthyr Tydfil)

Return to top

(Vol 2, p 299)

Wedi urddiad Meistri ac R. Evans gan eglwys Ebenezer, aeth nifer o'r aelodau a anghymeradwyant hyny allan gyda Mr. W. Moses -yr hwn oedd hyd hyny yn gweinyddu fel gweinidog yn Ebenezer-i ddechreu achos newydd. Cefnogwyd hwy yn hyny gan weinidogion y ddwy sir, Morganwg a Brycheiniog; a chynhaliwyd cyfarfod gyda'r blaid oedd wedi myned allan ar y Cefn, Mai 9fed a'r 10fed, 1842, ac yn y cyfarfod gweinyddodd Meistri J. Prothero, Llangynidr ; D. Jones, Aber; J. Stephens, Brychgoed; G. Griffiths, Aberhonddu; J. Hughes, Dowlais; J. Thomas, Adulam, Merthyr; D. Roberts, Dowlais, ac eraill. Yn y cyfarfod hwnw gwnaed cais, ond yn afiwyddianus, i ddwyn y pleidiau at eu gilydd.* Adeiladwyd yma gapel yn nghwr uchaf y Pentref, gyda mynwent helaeth yn nglyn ag ef, ac agorwyd y capel Medi 27ain a'r 28ain, 1845. Parhaodd Mr. Moses i lafurio yma hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Mehefin 27ain, 1857, yn 49 oed. Wedi bod am dymor heb weinidog, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Richard Griffiths, pregethwr cynorthwyol perthynol i Zoar, Merthyr; ac urddwyd ef Mawrth 2i1 a'r 3ydd, 1858. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri T. Llewellyn, Mountain Ash; J. Morgan, Cwmbach; W. Williams, Hirwaun; J. Thomas, Tresimwn; D. Roberts, Dowlais; J. M. Bowen, Penydarran; J. Evans, Gellideg; J. Hughes, Dowlais; B. Owens, Merthyr; D. Jones, Cefn; B. Williams, Gwernllwyn; E. Jones, Ynysgau; J. Thomas, Salem, Aberdar; a D. Stephens, Glantaf. Mae Mr. Griffiths yn parhau i weinidogaethu yma, a'r achos yn myned rhagddo yn siriol. Rhifedi yr aelodau ydyw 80.

Codwyd yma ddau bregethwr :-

* Diwygiwr, 1842. Tu dal. 176.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

WILLIAM MOSES. Ganwyd ef yn Rhiwlas, yn mhlwyf Llanfynydd, sir Gaerfyrddin, Tachwedd 5ed, 1808. Yr oedd ei dad yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Methodistiaid, a chafodd yntau addysg grefyddol pan yn blentyn. Derbyniwyd ef yn aelod yn Siloam, Pontargothi, yn y flwyddyn 1830, a chyn hir dechreuodd bregethu, a bu am dymor yn yr ysgol ramadegol yn Nghaerfyrddin, dan ofal Mr. D. Peter. Urddwyd ef yn Libanus, gerllaw Aberhonddu, Medi 26ain, 1833. Bu yn gofalu am yr eglwys yn Ebenezer, Cefn-coed-y-cymer, am flynyddau mewn cysylltiad a Libanus, a phan y cymerodd ymraniad le yno, ffurfiodd eglwys arall, ac adeiladodd gapel newydd, yr hwn a elwir Tabor, a bu gofal y lle arno hyd ddydd ei farwolaeth. Yn y flwyddyn 1848, rhoddodd Libanus i fyny, a symudodd i fyw i Gefn-coed-y-cymer. Tymhestlog fu ei yrfa, ond daliodd i lafurio yn ddiwyd hyd ei ddiwedd. Bu farw Mehefin 27ain, 1857, yn 49 oed, ac wedi bod 24 mlynedd yn y weinidogaeth, a chladdwyd ef yn mynwent Tabor. Gadawodd ar ei ol bump o blant yn amddifaid, a rhai o honynt ar ganol eu magu, ond bu Rhagluniaeth yn dirion o honynt.

 


PEN-HEOL-GERIG  (Merthyr Tydfil parish)

Return to top

(Vol 2, p 300)

Mae y lle hwn o fewn milldir a haner i Ferthyr, ar yr ochr orllewinol i'r ffordd yr eir i Aberdar. Yr oedd yma dri o bersonau o'r enwau Moses Richard, Jenkin Rosser, a Thomas Jones. Yr oedd y blaenaf yn perthyn i'r Bedyddwyr, yr ail i'r Wesleyaid, a'r trydydd i'r Annibynwyr; ond unent a'u gilydd i gynal cyfarfodydd gweddi yn y lle pan na byddai yn gyfleus iddynt fyned i'w gwahanol gapeli yn Merthyr. Cychwynwyd yma Ysgol Sabbothol, yr hon a gynhelid yn nhy un John Davies, a chyn hir dechreuwyd cynal cyfeillachau yn yr un lle. Annibynwyr oedd y rhan fwyaf o'r aelodau oedd yn byw yma, ac yn perthyn i eglwys Bethesda. Meddyliwyd am adeiladu yma gapel bychan, a chafwyd tir i hyny gan Mr. Evan Evans, Six Bells, am yr ardreth o swllt y flwyddyn. Costiodd yr adeilad 120p., ac yr oedd yn barod erbyn mis Mehefin, 1840. Cyn hir ar ol cael capel blinodd yr aelodau fyned i lawr i Bethesda, a ffurfiwyd hwy yn eglwys yma, ond mewn cysylltiad gweinidogaethol a Bethesda. Erbyn y flwyddyn 1854, yr oedd y capel wedi myned yn rhy gyfyng, heblaw ei fod mewn lle anghyfleus, a llwyddwyd i gael tir mewn man ar ochr yr heol fawr am yr ardreth o ddeg swllt y flwyddyn. Costiodd y capel newydd 368p. 8s. 7c., ac agorwyd ef Mai 26ain a'r 27ain, 1856. Yr oedd y lle dan ofal gweinidog Bethesda o'r dechreu, ond oblegid nas gallasai roddi iddynt gymaint o'i wasanaeth ag a ddymunent, rhoddodd Mr. Rhys Gwesyn Jones y gofal i fyny cyn hir wedi ei sefydliad yn Bethesda. Cawsant help gweinidogion cymydogaethol am dymor ar ol hyny, hyd nes y rhoddasant alwad i Mr. Samuel D. Jones, aelod o Brynseion, gerllaw Castellnewydd, ac urddwyd ef Gorphenaf 23ain, 1861. Bu Mr. S. D. Jones yma hyd y flwyddyn 1869, pryd y symudodd i Saron, Maesteg. Ar ol hyny rhoddwyd galwad i Mr. Daniel Jones, pregethwr cynorthwyol perthynol i Hen Gapel, Llanybri, ac urddwyd ef Mawrth 29ain, 1869. Nid arosodd yma ond ychydig gyda blwyddyn, canys symudodd yn ol i Lanybri, lle yr oedd ei deulu yn aros. Yn fuan wedi ei ymadawiad rhoddwyd galwad i Mr. Isaac J. Evans, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Ebrill 10fed, 1871, ac y mae yn parhau i lafurio yma.

Codwyd yma un pregethwr, sef Thomas C. Griffiths, sydd yn awr yn weinidog yn Pontlotyn. Yr oedd y lle yma gynt yn gyrchfa i luaws o Ferthyr, yn enwedig ar y Sabbothau, lle y dygid yn mlaen bob math o ddifyrwch pechadurus ac annuwiol, ond y mae yr holl arferion hyny wedi eu dileu o'r ardal. Mae gwedd siriol ar yr achos yma, ond y mae tir lawer i'w feddianu yma yn mysg poblogaeth fawr a chynyddol.

 


GELLIDEG, MERTHYR

Return to top

(Vol 2, p 300)

Dechreuwyd yr achos yma gan eglwys Bethesda. Yn mysg yr aelodau mwyaf gweithgar ar gychwyniad yr achos yma yr oedd John Roger, Thomas Watkins, Edward Hughes, Rees Price, Thomas Morris, a David Jones. Cynhelid yma Ysgol Sabbothol mewn gwahanol dai yn y gymydogaeth, a cheid ambell bregeth achlysurol yn yr awyr agored, gan na chynwysai yr un o'r tai anedd y lluaws a ddeuai yn nghyd. Cafwyd y tir yn rhad at adeiladu capel, yr hwn a fwriedid i wasanaethu fel ysgoldy, gan Robert T. Crawshey, Ysw., a rhoddodd hefyd y ceryg a'r calch am bris isel, a chaniataodd i'w oruchwylwyr arolygu y gwaith yn rhad, ac yn ychwanegol at hyny, rhoddodd 5p. at y draul. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1860, a chyn hir corpholwyd yr aelodau oedd yn yr ardal yn eglwys, ac yr oedd y lle dan ofal Mr. R. G. Jones, hyd nes yr ymfudodd i America. Yn 1867, cymerodd Mr. James Evans, Craigyfargod, gynt, ofal yr achos, a chynhaliwyd cyfarfod i'w gydnabod yn weinidog yma yn mis Mai y flwyddyn hono, ac y mae yn parhau etto i lafurio yma.

 


SALEM, MERTHYR

Return to top

(Vol 2, p 301)

Pan y cymerodd ymraniad le yn nghyfundeb y Wesleyaid, o gylch flwyddyn 1850, ac yr ymadawodd y blaid a elwid y Diwygwyr Wesleyaid ( Wesleyan Reformers), yr oedd nifer o honynt yn Merthyr, y rhai a ymadawsant oddiwrth yr hen gyfundeb, ac a ffurfiasant eu hunain yn Eglwys Ddiwygiadol yn y Temperance Hall. Yr oedd un hen frawd selog yn eu plith, Mr. Walter Watkins, yr hwn oedd mewn amgylchiadau gwell na'r rhan fwyaf o honynt,,ac felly yn gefn mawr i'r achos. Yr oedd yn un o'r dynion mwyaf gweithgar gyda phob achos da, ac yn enwedig gyda'r achos dirwestol yr oedd ei sel yn angherddol. Gelwid of yn aml Father Watkins. Efe a W. John, Rees Chandler, George Williams, a Richard Harris, oeddynt brif gychwynwyr yr achos yma. Wedi bod am amser yn disgwyl i'r rhwyg rhyngddynt a'r hen gyfundeb gael ei gyfanu, ac heb weled gobaith am hyny, adeiladasant gapel iddynt eu hunain yn niwedd y flwyddyn 1856, yr hwn a alwyd Salem. Gweinyddid iddynt yn benaf gan Mr. W. Jones, Tredegar, a chan nifer o bregethwyr perthynol i'w plaid oedd yn yr amgylchoedd o Aberdar i Dredegar, ac weithiau yn niffyg un o'u pregethwyr eu hunain, pregethid iddynt gan rai o bregethwyr yr Annibynwyr. Dewisasant Mr. Thomas Jenkins, Aberaman, pregethwr a ymneillduasai oddiwrth yr hen gyfundeb gyda'r blaid Ddiwygiadol yn weinidog iddynt, ac yn nghyfarfod chwarterol cyfundeb dwyreiniol Morganwg a gynhaliwyd yn Bethesda, Merthyr, Mai 8fed a'r 9fed, rhoddasant eu hunain fel gweinidog ac eglwys drosodd i gyfundeb yr Annibynwyr, a derbyniwyd hwy yn roesawgar. Llafuriodd Mr. Jenkins yma hyd y flwyddyn 1864, pryd yr ymfudodd i America. Wedi hyny rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Ephraim Thomas, pregethwr cynorthwyol yn Pentre-estyll, gerllaw Abertawy, ac urddwyd ef yma Mehefin 26ain a'r 27ain, 1866. Ni bu yma yn hir, canys symudodd i Rhesycae, sir Fflint, cyn diwedd 1868, ac er hyny ni bu un gweinidog sefydlog yn yr eglwys hon.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yma:-

Rhif yr eglwys yn bresenol ydyw 80, ac y mae yr aelodau yn dangnefeddus yn eu plith eu hunain.

Cyn gadael eglwysi Cymreig Merthyr y mae yn briodol i ni wneyd cyfeiriad pellaeh at un gwr enwog, yr hwn yr ydym eisioes wedi crybwyll ei enw, a'r hwn na chawn gyfle i wneyd cofnodiad bywgraphyddol o hono yn un man arall, oblegid mai yn Lloegr y treuliodd ei oes.

THOMAS WILLIAM JENKIN, ond a adnabyddir yn well yn Nghymru fel Dr. Jenkyn. Yn nglyn ag eglwys Bethesda yr ydoedd, fel y gwelsom, pan y dechreuodd bregethu; ond ar Zoar yr edrychai trwy ei oes fel ei fam-egiwys, a theimlai bob amser serch cryf ati, fel y teimlai yn wir at holl eglwysi a gweinidogion ei le genedigol. Ganwyd Dr. Jenkyn Medi 1af, 1794, mewn bwthyn bychan, diaddurn, heb fod yn mhell o'r fan y saif capel Ynysgau, yn Merthyr. Yr oedd ei dad, David Jenkyn. yn enedigol o Lanymddyfri, sir Gaerfyrddin, a'i fam, Maria Morris-yn ol ei henw morwynol-yn enedigol o blwyf Llandilofawr, yn yr un sir. .................................................... ( This VERY lengthy section not extracted fully)

 


Return to top

[Last updated: 2 March 2008 - Gareth Hicks]

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Valid HTML 4.01 Transitional

Note: The information provided by GENUKI must not be used for commercial purposes and all specific restrictions concerning usage, copyright notices, etc., that are to be found on individual information pages within GENUKI must be strictly adhered to. Violation of these rules could gravely harm the cooperation that GENUKI is obtaining from many information providers, and hence threaten its whole future. GENUKI is a registered trademark.