GENUKI Home Page LlanbleddianLlanbleddian Contents Contents

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees and John Thomas; published in 1871+.

 

This chapel history was extracted by Gareth Hicks from the CD published by Archive CD Books (Feb 2008)

Proof read by David Rowlands (Feb 2008)

Translation by Maureen Saycell (April 2009)


Maendy

Return to top

(Vol 2, p 226-229)

"Mae y lle hwn yn mhlwyf Llanbleddian, ac mae yn ymddangos fod gwasanaeth crefyddol yn cael ei gynal yn yr ardal hon er dyddiau Siarl II. Bu Henry Williams, Llantrisant; John Powell, Llanbleddian; W. Thomas, Llanfair, a Samuel Jones, Llangynwyd yn llafurio yma. Dywedir fod ty wedi ei drwyddedu yn mhentref Aberthyn cyn gynted ag y cafwyd cysgod dan Ddeddf Goddefiad, a rhoddodd y perchenog y ty a'r ardd berthynol iddo drosodd trwy weithred gyfreithiol i fod yn feddiant i'r Ymneillduwyr. Yr oedd y lle hwnw mewn cysylltiad a Phenybont-ar-ogwy, a bu Mr. Lewis Jones yn gofalu am y ddeadell fechan wedi ei ddyfodiad ef i Benybont, ond nid oes genym sicrwydd a oedd ei ragflaenoriaid yn y weinidogaeth yn gwneyd hyny. Tua'r flwyddyn 1740, daeth Mr. Howell Harris, Trefeca, trwy y wlad, a pharodd ei ymweliad gyffroad mawr. Rhoddwyd derbyniad iddo yn Aberthyn fel y gwneid mewn llawer o fanau lle yr oedd hen gynnulleidfaoedd Ymneillduol. Yr ydym fwy nag unwaith yn flaenorol wedi cael achlysur i gofnodi y gefnogaeth a roddid i Howell Harris gan rai o weinidogion yr Ymneillduwyr a chan eu cynnulleidfaoedd. Ymunodd pobl Howell Harris, fel eu gelwid, a'r Annibynwyr yn Aberthyn, am fod ganddynt ryw fath o dy addoliad yn barod, a buont yno yn cydaddoli dros lawer o flynyddoedd. Nid y Methodistiaid yn benaf yn cael eu cynorthwyo gan yr Annibynwyr fel y camhysbysir yn  Hanes Methodistiaeth, Cyf. III., tu dal. 51, a adeiladodd gapel Aberthyn; ond y Methodistiaid a ymwasgodd at yr Annibynwyr i'r ty cwrdd bychan oedd ganddynt yno eisioes at eu gwasanaeth.*  Gwelir hefyd nad cywir yw yr hyn a ddywedir gan awdwr yr ysgrif ar "Jones o Langan a'i amserau"yn y Traethodydd: - "Adeiladwyd y capel hwn yn benaf gan y Methodistiaid, ond nid ganddynt hwy eu hunain. Cynorthwyid hwy gan yr Annibynwyr, y rhai er bod llawer o honynt yma a thraw ar hyd y wlad nid oedd ganddynt un lle o addoliad eu hunain." Oedd, yr oedd yr hen dy yn Aberthyn ganddynt, ac er mor ddiaddurn-

*Ysgrif Mr J Evans, Maendy.

227

ydoedd yr oedd yn dda gan y dychweledigion trwy weinidogaeth Howell Harris gael ymwasgu at yr Annibynwyr ynddo. Yn y flwyddyn 1749, codwyd capel newydd yn Aberthyn yn lle yr hen dy, ac ar y fan lle y safai hwnw; ac yn adeiladiad hwnw yr oedd y ddau enwad yn cydweithio, ac nid ydym mewn cyfle i ddywedyd pwy a wnaeth fwyaf. Pregethid yma gan weinidogion yr Annibynwyr, a chan y pregethwyr Methodistaidd y rhai a deithiant y wlad. Tua'r flwyddyn 1766, rhoddwyd galwad i Mr. David Williams, Llysyfronydd i fod yn weinidog yr eglwys yn Aberthyn, ac urddwyd ef yn ol trefn yr Annibynwyr. Dywedir mai un o Blaenpenal, sir Aberteifi oedd David Williams, a'i fod yn un o ddisgyblion yr hybarch Phillip Pugh, ond iddo ar doriad y diwygiad Methodistaidd allan ymuno a Daniel Rowlands yn Llangeitho, fel y gwnaeth amryw eraill nad oeddynt yn teimlo fod gwres digonol yn nghrefydd yr Ymneillduwyr, ac nad oedd nodwedd eu gweinidogaeth yn ddigon ymosodol. Mae yn ffaith mai o'r hen eglwysi Ymneillduol oedd eisioes yn y wlad y cafodd y Methodistiaid lawer, os nad y rhan fwyaf o'u cynghorwyr cyntaf; a hen Ymneillduwyr gan mwyaf oedd y rhai a osodwyd yn olygwyr ar eu cymdeithasau neillduol; a dychwelodd amryw o honynt yn ol at eu pobl a chymerasant ofal gweinidogaethol. Un o honynt hwy fel yr ymddengys oedd David Williams, ac anfonwyd ef i Fro Morganwg i edrych ar ol y mān gymdeithasau Methodistaidd oedd bellach wedi eu sefydlu yn y wlad; a chan mai achos cymysgedig o Annibynwyr a Methodistiaid oedd yn Aberthyn, yr oedd y lle hwnw yn rhan o faes ei lafur. Priododd ferch i wr cyfrifol yn y wlad ac aeth i fyw i Lysyfronydd, yr hyn a'i cododd i barchusrwydd yn ngolwg y bobl, ac fel y crybwyllasom, urddwyd ef yn weinidog i'r gynnulleidfa gymysg yn Aberthyn. Cynyddodd yr eglwys dan ei ofal mewn rhifedi ac mewn doniau, a chyrchid i'r lle gan luaws o bobl o'r holl wlad oddiamgylch. Ond ni ddiangodd Mr. Williams heb gael ei flino gan gyfeiliornadau. Diarddelwyd tua dwsin o Antinomiaid o Aberthyn tua'r flwyddyn 1780, y rhai a wnaethant gais am sefydlu achos iddynt eu hunain yn y Bontfaen. Blaenorid hwy gan un a elwid Rhys y Printer; ond yntau hefyd a ddarfu am dano, a chynifer ag a lynasant wrtho a wasgarwyd. Ar ol hyny bu Sandemaniaeth yn ymosod ar y lle trwy ddylanwad Mr. Popkin, Talygarn, yr hwn a gyhoeddodd waith Robert Sandeman; ond symudodd ef i Abertawy, ond nid cyn peri rhwyg a therfysg yn yr eglwys. Ciliodd plaid Arminaidd hefyd allan o'r eglwys, ond darfu yn fuan am danynt hwythau. Er fod lefain drygionus yn gweithio fel hyn yn yr eglwys yn mhell cyn diwedd oes Mr. David Williams, etto yr oedd yr achos ar y cyfan yn flagurog a llwyddianus. Yn nechreu 1780, penderfynwyd ailadeiladu y capel, yr hyn a wnaed trwy gydweithrediad yr Annibynwyr a'r Methodistiaid; ac agorwyd ef Awst 20fed y flwyddyn hono. Bu farw Mr. David Williams Mai 5ed, 1792, yn 75 oed, wedi bod yn pregethu yr efengyl am haner can' mlynedd. Cyn diwedd y flwyddyn hono, rhoddwyd galwad i Mr. David Davies Rhiadr-wy; a bu diwygiad grymus yn y lle yn ddioed wedi iddo ddechreu ei weinidogaeth. Clywid sain cān a moliant yn mhyrth merch Seion. Ond dilynwyd yr haf dymunol hwn gan auaf blin ac ystormus. Daeth Mr. Peter Williams i'r ardal ar ol i'r Methodistiaid ei fwrw ymaith am ei Sabeliaeth, a bu yn aros yma dros dymor; ac yn y cyfamser hauodd ei egwyddorion o dy i dy nes cynhyrfu y wlad. Cofleidiwyd y golygiadau Sabelaidd gan lawer yn eglwys Aberthyn, fel yr aeth yn gynwrf a therfysg mawr; ac ar un Sab-

228

both yn y flwyddyn 1797, daeth Mr. John Davies, Alltwen, a gweinidog arall i'r lle a diarddelasant driugain o'r Sabeliaid. Parodd hyn derfysg mawr - clowyd y drysau - torwyd y cloion - ac ymgyfreithiwyd am y capel, ond collodd y Sabeliaid y dydd fel y bu raid iddynt fyned i chwilio am rywle arall i draethu eu golygiadau. Yr oedd Thomas Williams, awdwr Dyfroedd Bethesda yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw yn eu plith; ac efe wedi hyny a ddewiswyd ganddynt yn weinidog pan ymffurfiasant yn eglwys, ac adeiladasant Bethesda-y-fro. Ond effeithiodd hyn yn ddinystriol ar yr eglwys. Cyn dechreu y terfysg yn nghylch Sabeliaeth yr oedd yn ddau gant mewn nifer, ond yn mhen blwyddyn ar ol hyny yr oedd yn llai na thriugain. Yn 1798, ymadawodd Mr. Davies i gymeryd gofal yr eglwys yn Llangatwg, Crughowell, Brycheiniog. Dilynwyd ef gan Mr. Howell Powell, yr hwn oedd yn weinidog yn Zoar, Merthyr Tydfil, ac yn rhoddi rhan  o'i lafur yn Aberthyn; ac yn ei dymor ef yr aeth yn ddadl rhwng yr Annibynwyr a r Methodistiaid am y capel. Nid oedd eu hundeb ar y goreu o'r fath fwyaf efengylaidd. Byddai hwyliau mawrion yn y lle ar amserau, ond anaml yr ai yr Annibynwyr i hwyl o dan weinidogaeth un o'r Methodistiaid, ac yn llawn mor anaml y dangosai y Methodistiaid eu bod yn cael dim o dau weinidogaeth yr Annibynwyr. Ymwasgent at eu gilydd pan y byddai rhyw gyfeiliornwyr i'w bwrw allan; ond nid oeddynt yn nodedig am fod yn dangnefeddus yn eu plith eu hunain. Cydunent i fwrw ymaith y blaid gyfeiliornus, ond methent a chytuno pa beth i'w wneyd wedi hyny. Cauodd yr Annibynwyr y drws yn erbyn y Methodistiaid, ond "trwy ymadrodd teg"llwyddodd y Methodistiaid i gael ganddynt eu gollwng i mewn drachefn, ond wedi cael i mewn talasant y pwyth trwy gloi y capel yn erbyn yr Annibynwyr. Bygythiodd yr Annibynwyr dori y clo, soniasant am fyned i gyfraith, ond ni wnaethant mor naill na'r llall, ond ymadawsant yn dawel a chychwynasant achos Annibynol yn y Maendy. Bu Mr. Howell Powell yn pregethu yn ysgubor y Maendy, ac weithiau yn yr awyr agored; ond Chwefror 27ain, 1800, trwyddedwyd ty Robert Rees, yn mhlwyf Llanbleddian. Yn y flwyddyn 1800, ymadawodd Mr. Powell i fyned i America, a chymerwyd gofal yr eglwys ddau Sabboth o bob mis gan Mr. Methusalem Jones, Llangynwyd; ac yn ei amser ef, yn 1802, yr adeiladwyd capel y Maendy, a thrwyddedwyd ef yn llys yr Esgob gan un William Thomas, Gorphenaf 5ed, 1802.* Yn y flwyddyn 1807, urddwyd Mr. Shadrach Davies yn y Maendy; a thynodd ei ddoniau poblogaidd sylw mawr. Bu yma hyd y flwyddyn 1824, pryd yr ymfudodd ef a'i deulu i America. Yn yr un flwyddyn rhoddwyd galwad i Mr. John Hughes, myfyriwr o athrofa Neuaddlwyd, ac urddwyd ef cyn diwedd y flwyddyn hono. Bu yma yn ddefnyddiol a llwyddianus iawn am naw mlynedd, hyd nes yn 1833 y derbyniodd alwad o Bethania, Dowlais, ac y symudodd yno. Yn 1835, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Williams, Llandilo, a bu yma hyd 1839, pan y symudodd i Bontypool. Yn 1841, rhoddwyd galwad i Mr. John Evans, myfyriwr yn athrofa Ffrwdyfal, ac urddwyd ef Hydref 27ain, 1841. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Hughes a D. Roberts, Dowlais; M. Rees, Groeswen; W. Griffiths, Llanharan; D. Williams, Llanwrtyd; T. Rees, Aberdar; W. Williams, Hirwaun; P. Griffiths, Alltwen; L. Smith, Taihirion; D. Thomas, Troedyrhiw, ac eraill. Mae Mr. Evans

* Cefnodion Llandaf.

229

yn parhau i lafurio yma, a'r achos dan ei ofal mewn gwedd gysurus. Yn 1842, ailadeiladwyd y capel a gwnaed ef yn addoldy helaeth a chyfleus, ac agorwyd ef Hydref 12fed a'r 13eg, yr un flwyddyn. Talwyd am dano gan yr eglwys a'r ardal ar y pryd.

Mae eglwys y Maendy wedi bod yn nodedig yn ei sel dros burdeb yr athrawiaeth, ac am ei gwresowgrwydd crefyddol, ac nid yw y tān santaidd etto wedi diffodd ar ei hallor, er y gwelwyd ef ar rai adegau yn llosgi yn fwy angerddol. Ni chyfodwyd yma hyd y gwyddom ond dau bregethwr, sef Shadrach Davies, a David Thomas, am yr hwn y crybwyllasom yn hanes Llanfaches."

COFNODION BYWGRAPHYDDOL. (Not extracted fully)

SHADRACH  DAVIES. Ganwyd ef yn 1778. Yr oedd ei rieni o ardal Mynyddbach, gerllaw Abertawy, ond daethant i ardal y Maendy yn fuan wedi priodi, ...........................

Translation by Maureen Saycell (April 2009)

This place is in the parish of Llanbleddian, it appears that there have been religious services in the area since the time of Charles II. Henry Williams, Llantrisant; John Powell, Llanbleddian; W. Thomas, Llanfair, and Samuel Jones, Llangynwyd worked here. It appears that a house at Aberthyn was licensed as soon as The Act of Toleration was passed, the owner legally gifted the house and garden to the Independents. It was associated with Bridgend and when Mr Lewis Jones came there he took on the care of the small flock, though it is not known if his predecessors did this or not. Mr Howell Harris, Treveca, visited here during his journey through the country, causing great excitement. He was welcomed here as he was in other old Indepedent strongholds. The followers of Howell Harris joined those at Aberthyn and worshipped there for many years. Not as stated in Hanes Methodistaith, Vol. III., page. 51, the Independents supporting the Methodists but the other way around as the Independents already had a house of worship*. It is also inaccurately reported in the article "Jones of Langan and his times" in the Traethodydd - "This chapel was built mainly by the Methodists but not by them alone. They were assisted by Independents who did not have any place of worship despite there being a number of them in the area." They had the old house in Aberthyn although it was plain, It was good enough for those that returned through the work of Howell Harris to sqeeze in alongside the Independents. In 1749 a new chapel was constructed on the site of the old house which was built jointly but we do not know which denomination if any took the lead. Preaching was done here by both denominations. In about 1766 a call was sent to Mr David Williams, Llysyfronydd, who was ordained according to Independent order, to be the minister of Aberthyn. It was said that he came from Blaenpennal, Cardiganshire, and had been a pupil of the Venerable Phillip Pugh, but that at the outbreak of the Methodist revival he joined Daniel Rowlands, Llangeitho, along with many others that felt there was not enough fire in the Independent cause. It was from the Independents that the Methodists drew many, if not most, of their councillors, many of these retuned to be ministers with their original denomination. Mr Williams had been caring for various small Methodist churches in South Wales and settled in Llysyfronydd. During his ministry of this mixed church it flourished, many from the surrounding countryside attending. In 1780 around 12 Antinominians were expelled, who then attempted to obtain a place for themselves at Bontfaen. They were led by Rhys the Printer, he died and his followers dispersed. Later there was an attack attempted by the Sandemanians, under the influence of Mr Popkin's published work of Roberts Sandeman, but he moved to Swansea ahter causing considerable discord within the church. An  Arminian faction also withdrew from the church, but came to nothing. Despite these occurrences in the church long before the death of Mr Williams, on the whole the cause was successful and flourishing. Early in 1780 it was decided to rebuild the chapel, which was done with cooperation between the Methodists and the Independents, it was opened on August 20th that year. Mr David Williams died May 5th, 1792, age 75, having been a minister for 50 years. A call was sent to Mr David Davies, Rhayader, soon after he took up his ministry there was a strong religious revival. Following that pleasant summer came a stormy winter. Mr Peter Williams moved here after the Methodists threw him out because of his Sabellinist views. He spread his beliefs from house to house and caused considerable upheaval. Some members of Aberthyn embraced his doctrine, causing disagreements. One Sunday in 1797 Mr John Davies, Alltwen and another minister came here and expelled 60 Sabellinists. This caused a huge upheaval, doors were locked - locks were broken and legal action taken regarding the chapel. The majority won and those cast out had to go elsewhere to expound their theologies. Thomas Williams, author of Dyfroedd Bethesda, was one of the leaders among them and was chosen as their minister when they formed a church and built Bethesda y Fro. This had dire effects on the church. Before all the upheaval there were 200 members, afterwards there were less than 60. In 1798 Mr Davies left to take care of  Llangadog, Crickhowell, Breconshire. He was succeeded by Mr Howell Powell, minister of Zoar, Merthyr Tydfil, giving part of his time in Aberthyn. It was during his time that the arguments between the Independents and the Methodists began over the chapel. Their union was not harmonious at best, there was great spirit in the place at times and other times they were at pains to show no support one to the other. They came together to face a foe but there was never peace between them.

Eventually the Independents moved out peacefully and began a cause of their own in Maendy. Mr Howell Powell preached in a barn at Maendy, sometimes in the open air, but on February 27th, 1800, Robert Rees' house was licensed in Llanbleddian parish. In 1800 Mr Powell left for America, Mr Methusalem Jones, Llangynwyd, took on the care of the church for 2 Sundays a month, during his time, 1802,  Maendy chapel was built and it was licensed by the Bishop on July 5th, 1802**. In 1807 Mr Shadrach Davies was ordained here, he remained until 1824 when he emigrated to America. In the same year a call was sent to Mr John Hughes, a student at Neuaddlwyd, and he was ordained  the end of that year, he remained for 9 years then accepted a call fron Bethania, Dowlais, and moved there. 1835 a call was sent to Mr Thomas Williams, Llandilo, who was here till 1839, when he moved to Pontypool. 1841 Mr John Evans, student at Ffrwdyfal, and ordained October 27th, 1841. The following officiated - Messrs J. Hughes and D. Roberts, Dowlais; M. Rees, Groeswen; W. Griffiths, Llanharan; D. Williams, Llanwrtyd; T. Rees, Aberdar; W. Williams, Hirwaun; P. Griffiths, Alltwen; L. Smith, Taihirion; D. Thomas, Troedyrhiw, and others. Mr Evans remains here. In 1842 the chapel was rebuilt and opened on October 12th and 13th of that year. The church and surrouding area paid for it at the time.

The only 2 preachers raised here known to us -

BIOGRAPHICAL NOTES***   (Not extracted fully)

SHADRACH DAVIES - born 1778, Mynyddbach, Swansea...........

*Article Mr J Evans, Maendy.

** Cefnodion Llandaf.

***Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.


Return to top

[Last Updated : 17 April 2009- Gareth Hicks]

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Valid HTML 4.01 Transitional

Copyright © GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI