Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees and John Thomas; published in 1871+.  

Extracted by Darris G Williams (2/2008)   - with translation by Maureen Saycell (Feb 2008)

BRYNTEG, Gorseinon

(Vol 2, p 27-30)

"Bernir mai cangen o hen eglwys Ty'rdwncyn yw yr eglwys hon, ac iddi gael ei chorpholi yn eglwys yn amser Mr. Lewis Davies, tua y flwyddyn 1693. Dywedir mai mewn anedd-dy yn Nhrefuchaf, Casllwchwr y dechreuwyd yr achos. Yn gynar yn y ddeunawfed ganrif, symudwyd o'r Drefuchaf i Rhydymardy, ychydig gyda haner milldir yn nes i'r dwyrain. Buwyd yn addoli yn hen dy cyfarfod Rhydymardy hyd y flwyddyn 1815, pryd yr adeiladwyd capel y Brynteg. Mae yn debyg i'r eglwys hon o'r dechreuad fod dan yr un weinidogaeth ag eglwys Ty'rdwncyn hyd y flwyddyn 1747, pryd y cafodd un Thomas Jones ei urddo yma. Nid ydym yn gwybod dim am y gwr hwn, ond ei enw ac amser ei urddiad, yr hyn a gawsom yn llyfr eglwys y Cilgwyn, yn llawysgrifen Mr. Phillip Pugh. Mae yn ymddangos na fu cysylltiad Mr. Jones a'r eglwys hon yn faith, oblegid yn Ebrill, 1754, yr oedd Mr. William Evans yn weinidog yma. Mr. Evans, fel yr ymddengys, oedd y gweinidog cyntaf a gadwodd gofnodion eglwysig yma. Mae ychydig ddalenau wedi haner pydru o'r hen lyfr eglwys, a ysgrifenwyd ganddo ef a'i ganlynyddion, yn awr ger ein bron. Bu Mr. Evans yn gweinidogaethu yma, ac yn y Cwmmawr, ddau Sabboth o bob mis hyd y flwyddyn 1770, pryd y bu farw, er mawr alar i'r eglwysi a wasanaethid ganddo mor ffyddlon ac effeithiol. Mae rhai o'r cofnodion a ysgrifenwyd ganddo yn llyfr yr eglwys yn dangos fod yr aelodau yn wasgaredig iawn, bod yr achos yn hen yn ei amser ef, a bod llawer o fywyd a gweithgarwch yn yr eglwys. Yr ydym yn cael fod rhai o'r aelodau yn byw yn ymyl tref Abertawy, a rhai yn mhlwyfydd Llanelli, Llangenych, Llanedi, Llanon, a Llangafelach. Yn mysg y marwolaethau a gofnodir, cawn y rhai canlynoll: "Mai 8fed, 1754, bu farw yr hen gristion duwiol a selog David Rowland, o blwyf Llanedi. Yr oedd ei enaid yn llawn cysur yn ei awr ddiweddaf. Claddwyd ef yn Llanedi."

"William Harry, o dref Casllwchwr, a ymadawodd a'r byd hwn Ionawr 6ed, 1763. Bu yn aelod o'r eglwys hon tua deugain mlynedd. Yr oedd yn un ffyddlon a diwyd iawn gyda moddion gras. Aeth o'r byd hwn a'i enaid yn gyflawn o dangnefedd, ac a'i ffydd yn ddiysgog yn yr Arglwydd Iesu. Ei eiriau diweddaf ydoedd gorchymyn ei unig fab i ras Duw. Claddwyd ef yn Nghasllwchwr." "David Mathew, hen broffeswr a henuriad llywodraethol yn eglwys Rhydymardy, ac ymadawodd a'r bywyd hwn mewn heddwch a thawelwch enaid, Tachwedd 18fed, 1769."  

Yn ol yr hen gofnodion hyn, mae yn ymddangos mai tua thri o aelodau yn y flwyddyn oedd yr ychwanegiad at yr eglwys yn nhymor gweinidog­aeth Mr. W. Evans, ar ol tynu allan y marwolaethau. Pan ystyrir mai eglwys fechan mewn gwlad deneu o bobl ydoedd, yr oedd y cynydd yn gymaint ag a allesid ddisgwyl. Mae y cofnodiad canlynol yn dangos nad oedd yr eglwys yn amddifad o fywyd ysbrydol:

"Medi 6ed, 1762, heddyw trwy gydsyniad unfrydol yr eglwys, cadwasom ddydd o ympryd a gweddi ar ran ein plant ac ieuengctyd y gymydogaeth yn gyffredinol, i ddeisyf bendith yr Arglwydd i wneyd y weinidogaeth yn effeithiol er eu troedigaeth. Traddodwyd ychydig sylwadau sylfaenedig ar y nawfed benod o Nehemiah, a rhoddodd yr Arglwydd radd o'i gymorth i'r hen frodyr i ymdrechu ag ef mewn gweddi. Yr ydym yn cyfrif hyn yn arwydd y bydd iddo, yn ol ei addewid, ein hateb i ryw fesur yn ei amser ei hun."

Mae y crybwyllion am gasgliadau sydd yn yr hen lyfr yn dangos fod yr eglwys hon yn meddu gradd helaethach o gyfoeth ac ysbryd haelionus na'r eglwysi yn gyffredinol yn y dyddiau hyny.  Mehefin 22ain, 1755, casglwyd pymtheg swllt ar gais Mr. Owen Davies at adeiladu capel Esgairdawe. Ebrill 22ain, 1759, casglwyd tair punt a deuddeg swllt a chwe' cheiniog at gynorthwyo Mr. Jenkin Morgan i adeiladu capel yn Mon. Yn 1762, casglodd Mr. Lewis Rees dair punt at adeiladu capel y Mynyddbach, ac yn Tachwedd 1770, casglodd Mr. Thomas Lewis ddeg swllt-ar-hugain at adeiladu capel Ty'nycoed, Glyntawy. Mae yn ymddangos fod cyfarfod gweinidogion yn cael ei gynal yn y lle hwn fynychaf bob blwyddyn. Mae y cofnodion canlynol am gyfarfodydd o'r fath wedi diangc rhag y difrod a ddigwyddodd i'r rhan fwyaf o hen lyfr yr eglwys.   

 "Cynaliwyd cyfarfod gweinidogion yn Rhydymardy Mai 22ain a'r 23ain, 1754. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol, sef Meistri Edmund Jones, Joseph Simons, Millbourn Bloom, Thomas Lewis, Owen Davies, Evan Williams, Thomas Davies, a William Evans, gweinidog y lle. Y dydd cyntaf pregethodd Mr. Edmund Jones, oddiwrth Iago i. 16. Yr ail ddydd pregethodd Mr. Owen Davies, a Mr. Millbourn Bloom, y ddau oddiwrth yr un testyn, sef Heb. ii. 3., ac oedfa anghyffredin o doddedig ydoedd. Yr oedd llaw yr Arglwydd i'w gweled yn amlwg yn yr effeithiau a ganfyddid ar y bobl. Dydd o wledd fras i bob cristion ydoedd. Cydunodd y gweini­dogion ar y pethau canlynol: (1) I gadw dydd o ddiolchgarwch i'r Arg­lwydd am arbed y da corniog yn Nghymru rhag y clefyd sydd mewn ffordd o farn oddiwrth yr Arglwydd, wedi difetha miloedd o honynt yn Lloegr.    (2) I weinyddu dysgyblaeth lemach ar bersouau o fuchedd anfoesol yn ein gwahanol eglwysi."

"Cynaliwyd cyfarfod gweinidogion yn Rhydymardy, Mehefin 2il a'r 3ydd, 1756. Yr oedd y gweinidogion parchedig canlynol yn bresenol, sef Meistri Lewis Jones, Edmund Jones, Lewis Rees, Evan Williams, Thomas Jones, Thomas Davies, Henry Thomas, Rees Davies, William Miller, Benjamin Cadman, Thomas Lewis, William Jones, a William Evans. Pregethodd Mr. Rees Davies bregeth ardderchog y dydd cyntaf oddiwrth 1 Tim. i. 15. Y dydd canlynol preg­ethodd Mr. Lewis Rees oddiwrth Gal. iv. 18., a Mr. Lewis Jones oddiwrth Mat. xxviii. 20., a bendigedig fyddo enw Duw, oedfa hyfryd ydoedd, canys fe anrhydeddodd yr Arglwydd ni a'i bresenoldeb, i'w enw mawr y byddo'r holl ogoniant.    Cydunwyd yn mysg y gweinidogion - (1) I gadw dydd o ympryd a gweddi yn ein gwahanol eglwysi unwaith bob tri mis ar gyfrif cyfeiliornadau yr oes, y marweidd-dra crefyddol sydd yn mysg yr Ymneillduwyr, i ddymuno bendith yr Arglwydd ar arfau Lloegr yn y rhyfel presenol a Ffraingc, ein gelyn cyffredin, i ddeisyf dylanwad yr Ysbryd er troedigaeth y dynion duon yn yr India Orllewinol, ac i ddiolch i Dduw dros y rhai sydd wedi eu dychwelyd yno yn barod.    (2) I gadw dysgyblaeth fanylach yn ein heglwysi, ac i fod yn fwy diwyd i holwyddori ein pobl."

"Cynaliwyd cyfarfod gweinidogion yn Rhydymardy, Mai 31ain, a Mehefin 1af, 1758, pryd yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol, sef Meistri Joseph Simons, Gellionen; Thomas Jones, Drefach ; Millbourn Bloom, Pentretygwyn ; Thomas Morgan, Henllan; Lewis Phillips, o'r un lle; Owen Davies, Crofft-y-cyff; Thomas Davies, Castellnedd; David Williams, Cefnarthen; Henry Thomas, Gellidochleithe, (Godrerhos); Isaac Price, Llanwrtyd; David Jardine, Abergavenny, a William Evans, gweinidog y lle. Anrhydeddodd y Duw mawr ni a'i bresenoldeb. Bendigedig fydd ei enw."

"Cynaliwyd cyfarfod gweinidogion yn Rhydymardy, Mehefin 10fed a'r 11eg, 1761, pryd yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol, sef Meistri Morris Griffith, Kebidog, (Trefgarn); David Lloyd, Brynberian; Rees Davies, Canerw; Thomas Davies, Llanybri; John Davies, Trelech ; Thomas Jones, Drefach ; Thomas Gray, Llwynypiod ; Millbourn Bloom, Pentretygwyn; Evan Griffiths, Capel Sion; Jenkin Morgan, o Ynys Mon; Joseph Simons, Castellnedd; Solomon Harris, Abertawy ; Lewis Rees, Ty'rdwncyn; Edward Williams, Blaengwrach; Henry Thomas, Gelli­dochleithe ; Thomas Williams, Groeswen, a William Evans, gweinidog y lle, heblaw amryw bregethwyr heb eu hurddo. Fe ymddangosodd y Duw mawr yn amlwg yn ein plith. Bendithier ei enw."  

Gallwn farnu oddiwrth luosogrwydd y gweinidogion a ddeuant i'r cyfarfodydd, yr ystyrid Rhydymardy, y pryd hwnw, yn lle o gryn bwysigrwydd. Mae yn ymddangos i'r eglwys oddiar farwolaeth Mr. W. Evans, yn 1770, fod heb un gweinidog sefydlog hyd 1777, pryd yr urddwyd Mr. Noah Jones, myfyriwr o athrofa Abergavenny.    Bu Mr. Jones yn llafurio yma gyda mesur o lwyddiant hyd 1784, pryd y symudodd i Lanharan a'r Taihirion. Dilynwyd ef gan Mr. Jonathan Lewis, aelod o eglwys Capel Isaac. Tua dwy flynedd y bu ef yma. Y gweinidog nesaf oedd Mr. Daniel Lewis, myfyriwr o athrofa Croesoswallt. Urddwyd ef yn 1789, a bu yma hyd ddiwedd y flwyddyn 1803, pryd y symudodd i Zoar, Merthyr. Y gweini­dog nesaf oedd Mr. Thomas Edwards, Castellnedd. Mae yn ymddangos iddo ef ddechreu ei lafur yma yn 1805, ac iddo ymadael yn 1813. Yn mis Tachwedd, y flwyddyn hono, dechreuodd Mr. Lewis Powell, o Lanrwst ei weinidogaeth yma. Mab yr hybarch Jonathan Powell, Rhosymeirch oedd ef. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Gwrecsam, ac urddwyd ef yn Llanrwst yn 1810. Bu yn llwyddianus iawn am y tymor byr y bu yno, ac yma drachefn, mae yn ymddangos ei fod yn boblogaidd iawn am rai blynyddau. Ond yn raddol daeth yn amlwg ei fod yn yfwr anghymedrol, ac mewn canlyniad, lleihaodd ei barch a'i boblogrwydd, a phan ddeallodd yntau fod yr eglwysi ar fedr ymwrthod ag ef, cymerodd y blaen arnynt, trwy fyned at Esgob Tyddewi i ofyn am urddau esgobyddol. Cafodd yr hyn a geisiai, a threuliodd weddill ei oes yn gurad yn Llanon, sir Gaerfyrddin, yn hollol ddinod a diddefnydd i fyd ac eglwys. Tua diwedd y flwyddyn 1818, y rhoddodd ei swydd i fyny yn y Brynteg a'r Crwys, ac yn mhen ychydig wythnosau wedi hyny, rhoddodd yr eglwysi alwad i Mr. John Evans, yr hwn a lafuriodd yn eu plith am agos i ddeunaw-ar-hugain o flynyddau gyda pharch a llwyddiant mawr.    Yn y flwyddyn 1849, gan fod Mr. Evans wedi cymeryd gofal yr achos yn Mhenyclawdd, mewn cysylltiad a'r Crwys a'r Brynteg, teimlai fod maes ei lafur yn ormod, ac felly anogodd eglwys y Brynteg i roddi galwad i Mr. Isaac Williams, yr hyn a wnaethant. Urddwyd Mr. Williams Ebrill 25ain, 1849. Dechreuwyd gwasanaeth yr urddiad trwy weddi gan Mr. E. Griffith, Abertawy; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. T. Rees, Siloa, Llanelli; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. T. Thomas, Clydach; gweddiwyd yr urddweddi gan Mr. J. Evans, Crwys; rhoddwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. D. Jones, Gwynfe, ac i'r eglwys gan Mr. P. Griffiths, Alltwen. Gweddiwyd a phregethwyd y nos flaenorol, a phrydnawn a hwyr dydd yr urddiad, gan Meistri W. Williams, Bryn; H. Davies, Bethania; T. Davies, Llandilo ; J. Evans, Capel Sion; Griffith John, Abertawy, (Cenhadwr i China); J. Thomas, Cefncribwr; J. Thomas, Maenclochog; J. Davies, Cwmaman; W. Humphreys, Glandwr; E. Jacob, Abertawy; J. Mathews, a D. Evans, Castellnedd. Ni bu arosiad Mr. Williams yma ond byr, tua dwy flynedd a dau fis, ond yr oedd yn boblogaidd a pharchus iawn tra, y bu yn y lle. Derbyniodd alwad i Drelech, a symudodd yno yn Mehefin, 1851, ac yno y mae hyd yn bresenol. Ar ol ymadawiad Mr. Williams, bu yr eglwys drachefn am oddeutu tair blynedd dan ofal ei hen weinidog, Mr. Evans, o'r Crwys. Yn 1854, rhoddasant alwad i Mr. William Humphreys, i'w gwasanaethu mewn cysylltiad a Chadle, yr hyn a wnaeth yn ffyddlon ac effeithiol hyd ei farwolaeth yn 1869. Er hyny hyd yn awr, nid oes un gweinidog sefydlog wedi bod yma, ond yr ydym yn deall eu bod wedi rhoddi galwad unfrydol i Mr. John Stephens, Taibach. Os yma y daw, hyderwn y caiff ef a'r eglwys fesur helaeth iawn o wenau yr Arglwydd. Bu yr hen eglwys hon am tua chan mlynedd yn addoli yn hen gapel bychan Rhydymardy, ac fel y nodasom eisioes, adeiladwyd capel y Brynteg yn 1815, ac yn 1846, cafodd ei ailadeiladu a'i helaethu yn fawr. Mae yn awr yn addoldy cyfleus, digon helaeth i bedwar neu bum' cant o bobl i eistedd ynddo. Ni bu yr eglwys hon ar un cyfnod o'i hoes yn lluosog iawn, o herwydd nad oedd yr ardal hyd yn ddiweddar ond cymharol deneu ei phoblogaeth, ond yr ydym yn barnu y gall gyda bendith yr Arglwydd, ddyfod yn eglwys gref a lluosog iawn yn mhen ychydig amser, gan fod y boblogaeth yn cynyddu yn gyflym.  

Nis gwyddom am neb a gyfodwyd yma i bregethu ond William Davies, o Whitley. Bu ef yma am ddegau o fflynyddau yn bregethwr cynorthwyol parchus iawn. Yr oedd yn Galfiniad uchel o ran ei farn. Y mae wedi marw er's tua deng-mlynedcl-ar-hugain. Yma hefyd yn amser Mr. W. Evans, y derbyniwyd Mr. John Thomas, awdwr Caniadau Sion, i gyfundeb yr Annibynwyr, ac oddi yma yr aeth i athrofa Abergavenny, ond gan ei fod yn pregethu gyda'r Methodistiaid cyn ei dderbyn yma, prin y gall yr eglwys hon honi yr anrhydedd o'i gyfodi i bregethu.  

Gan mai yr un gweinidogion a fu yma ac yn y Crwys ond Mr. Thomas Jones yn 1747, am yr hwn nid oes genym un hanes i'w roddi, a Mr. W. Humphreys, yr hwn y rhoddir ei hanes yn nglyn a Chadle; yn nglyn a hanes y Crwys y rhoddwn gymaint o gofnodion bywgraphyddol ag sydd genym am y gweinidogion."

Translation by Maureen Saycell (Feb 2008)

 (Vol 2, p 27-30)

"It is thought that this church is a branch of Ty'rdwncyn, and it was established around 1693, in the time of Mr Lewis Davies. The cause was started in a dwelling house in Treuchaf(Upper Town), Loughor. Early in the eighteenth century, there was a move from Treuchaf to Rhydymardy, about half a mile to the east. Worship took place in the old meeting house in Rhydymardy until 1815, when Brynteg was built. This church appears to have been under the same ministry as Ty'dwncyn until 1747, when a Thomas Jones was ordained here. We have no knowledge of this gentleman, other than his name and date of ordination, which was obtained from the church books of Cilgwyn, in the hand writing of Mr Phillip Pugh. It would appear that Mr Jones was not at this church for long, as in 1754, Mr William Evans was minister here. Mr Evans, it appears, was the first to keep church records here. There are a few half rotten pages written by him and those who followed. Mr Evans was minister here and in Cwmmawr, two Sundays a month, until 1770 when he died, a great loss to the churches he had served so faithfully and effectively. Some of the notes written by him in the church records show the members to be very scattered, and the cause to be old in his time, also that the church was lively and industrious. We find that some of the members live on the outskirts of Swansea, others in the parishes of Llanelli, Llangennech, Llanedi, Llanon, and Llangafelach. Among the deaths recorded are the following: "May 8th, 1754, David Rowland the old faithful and godly christian died, from the parish of Llanedi. His soul was full of comfort in his final hour. He was buried in Llanedi."

"William Harry, from Loughor, left this world on January 6th, 1763. He was a member of this church for around forty years. He was faithful and worked for the services. He left this world with his soul filled with peace, and his faith in the Lord Jesus unshaken. His last words were to commend his only son to the grace of God. He was buried in Loughor."
"David Mathew, ex professor and a governing elder in Rhydymardy church, he left this life with a quiet and peaceful soul, November 18th, 1769."

According to these old records, it would appear that about three members were added each year, during the ministry of Mr W. Evans, after subtracting the deaths. When it is considered that this is a small church in a thinly populated area, this increase is about as much as can be expected. The following annotations show the church was not lacking in spiritual life.

"September 6th, 1762, today with the consent of the church, we held a day of fasting and prayer for our children and the youth of the community generally, to ask for the Lord's benediction on the ministry on their conversion. A few basic remarks were made regarding the ninth chapter of Nehemiah, and the Lord gave some support to the old brothers to pray. We take this to mean that, as he promised, he will answer us in his own time."

The hints about collections in the old book shows that this church possessed a higher standard of riches and a more generous spirit than was common in most churches then. June 22nd, 1755 , fifteen shillings was collected at the request of Mr Owen Davies to build a chapel at Esgairdawe. April 22nd, 1759 Three pounds, ten shillings and sixpence to support Mr Jenkin Morgan build a chapel in Angelsey. In 1762 Mr Lewis Rees collected three pounds for the building of Mynyddbach chapel, and in November 1771 casglodd Mr Thomas Lewis collected thirty shillings to build a chapel at Ty'ncoed, Glyntawe. It seem that ministerial meetings were held here most years. The following notes regarding these types of meetings appear to have escaped the damage that happened to most of the church records.

"A meeting of ministers was held at Rhydymardy on May 22nd and 23rd, 1754. The following ministers were present, Messrs Edmund Jones, Joseph Simons, Millbourn Bloom, Thomas Lewis, Owen Davies, Evan Williams, Thomas Davies, and William Evans, the minister. The first day Mr Edmund Jones preached from James 1v 16.The second day Mr Owen Davies and Mr Millbourn Bloom took the same subject i.e. Hebrews 2 v 3, and it was an unusually moving service."

The Lord's hand was obvious in the effect on the people. It was a full feast day for all Christians. The ministers agreed on the following :- (1)To have a day of thanks to God for saving the horned cattle in Wales from the disease, which was a judgement from the Lord, that has killed thousands in England.(2) To have stricter discipline for persons of immoral conduct in our various churches."

"A meeting of ministers was held at Rhydymardy, on 2nd and 3rd of June, 1756. The following ministers were present :- Messrs Lewis Jones, Edmund Jones, Lewis Rees, Evan Williams, Thomas Jones, Thomas Davies, Henry Thomas, Rees Davies, William Miller, Benjamin Cadman, Thomas Lewis, William Jones, and William Evans. Mr Rees Davies gave a superb sermon on the first day from Tim.1, i 15. The following day Mr Lewis Rees preached from Gal. iv 18, and Mr Lewis Jones from Math. xxviii 20, and glory be to the name of God, it was an inspiring service, the Lord honoured us with his presence, all glory to His name.

It was agreed among the ministers - (1) To hold a day of  fasting and prayer in our different churches every three months for the quandaries of the age, the religious inactivity among the nonconformists, to ask the Lord's  blessing on England's army in the current war with France, our common enemy, to ask for spiritual guidance in the conversion of the black men of India, and to thank God for those already converted.(2) To keep a tight discipline in our churches, and to be more thorough in our question our people."

"A meeting of ministers was held in Rhydymardy on May 31st and June 1st, 1758, when the following ministers were present:- Messrs Joseph Simons, Gellionen; Thomas Jones, Drefach ; Millbourn Bloom, Pentretygwyn ; Thomas Morgan, Henllan; Lewis Phillips, of the same place; Owen Davies, Crofft-y-cyff; Thomas Davies, Neath; David Williams, Cefnarthen; Henry Thomas, Gellidochleithe, (Godrerhos); Isaac Price, Llanwrtyd; David Jardine, Abergavenny, a William Evans, the minister here. God honoured us with his presence. Glory be to His name."

"A meeting of ministers was held at Rhydymardy on June 10th and 11th, 1761, when the following were present:- Messrs Morris Griffith, Kebidog, (Trefgarn); David Lloyd, Brynberian; Rees Davies, Canerw; Thomas Davies, Llanybri; John Davies, Trelech ; Thomas Jones, Drefach ; Thomas Gray, Llwynypiod ; Millbourn Bloom, Pentretygwyn; Evan Griffiths, Capel Sion; Jenkin Morgan, Anglesea; Joseph Simons, Neath; Solomon Harris, Swansea ; Lewis Rees, Ty'rdwncyn; Edward Williams, Blaengwrach; Henry Thomas, Gellidochleithe ; Thomas Williams, Groeswen, a William Evans, the minister here, as well as many ministers that have not been ordained. God was among us. Blessed be His name."

We can judge by the numbers of ministers attending the meetings, that at this time, Rhydymardy  was considered of some importance. It appears that after the death of Mr W. Evans, in 1770, that there was no regular minister until 1777, when Mr Noah Jones, a student from Abergavenny College. Mr Jones worked here with some measure of success until 1784, when he moved to Llanharan and Taihirion. He was followed by Mr Jonathan Lewis, a member of Capel Isaac. He was here about two years. The next minister was Mr Daniel Lewis, a student of Oswestry College. He was ordained in 1789, and was here until the end of 1803, when he moved to Zoar, Merthyr. The next minister was Mr Thomas Edwards, Neath. It appears that he began his work here in 1805, and left in 1813. In November that year, Mr Lewis Powell, Llanrhwst began his ministry here. He was the son of the venerated Jonathan Powell, Rhosymeirch. He was educated in Wrexham College, and ordained in Llanrhwst in 1810. He was very successful for the short time that he was there, and again here, it appears that he was very popular for some years. Slowly it became apparent that he was a heavy drinker, and as a result, his respect and popularity diminished, when he realised that the churches were on the verge of throwing him out, he took the lead and went to the Bishop of St David's and asked to be ordained by him. He got what he asked for, and spent the rest of his life as a curate in Llannon, Carmarthenshire, unnoticed and useless to church and world. It was around 1818 that he left Brynteg and Crwys, and a few weeks later the churches sent a call to Mr John Evans, who worked among them for thirty eight years with great respect and success. In 1849, as Mr Evans had taken on care of Penyclawdd, in association with Brynteg and Crwys, he felt the area he worked was too much and encouraged Brynteg to  call Mr Isaac Williams, which they did.Mr Williams was ordained April 25th, 1849. The ordination service was begun with prayers by Mr. E. Griffith, Swansea; the initial address was given by Mr. T. Rees, Siloa, Llanelli; the confession of faith was taken by Mr. T. Thomas, Clydach; prayer of ordination by Mr. J. Evans, Crwys; the challenge to the minister given by Mr. D. Jones, Gwynfe, and to the church by Mr. P. Griffiths, Alltwen. Sermons and prayers on the night beforeand the morning and the evening of the ordination, by Messrs W. Williams, Bryn; H. Davies, Bethania; T. Davies, Llandilo ; J. Evans, Capel Sion; Griffith John, Swansea, (Chinese missionary); J. Thomas, Cefncribwr; J. Thomas, Maenclochog; J. Davies, Cwmaman; W. Humphreys, Glandwr; E. Jacob, Swansea; J. Mathews, and D. Evans, Neath. Mr Williams only stayed here about two years and two months, but he was well respected and popular while he was here. He received a call to Trelech, and moved there in June1851, and remains there at present. After Mr Williams departure the church was again under the care of the old minister, Mr Evans, Crwys, for around three years. In 1854 the called Mr William Humphreys to minister in combination with Chadle, this he did faithfully and effectively until his death in 1869. Since then there has been no settled minister here, but we understand that they have sent an united call to Mr John Stephens, Taibach. If he should come here we hope the Lord smiles upon him and the church. This church worshipped for many years in the little chapel of Rhydymardy, but as previously noted Brynteg was built in1815. and in 1846, it was rebuilt and extended considerably. It is now a convenient chapel, seating four to five hundred. This church was never very numerous at any stage, because the area was not populous until recently, but we hope that with the Lord's blessing, it will become a strong numerous church, as the population is increasing rapidly. We do not know of anyone that was raised to preach here only William Davies, of Whitley. He was here for many tens of years as a supporting preacher of great respect. He was highly Calvinistic in his opinions. He has been dead for thirty years. It was here too that in the time of Mr W. Evans, Mr John Thomas, author of Caniadau Sion, was accepted into the Independent Union, he went from here to Abergavenny College , but as he was already preaching with the Methodists before he was accepted here, the church cannot claim the glory .

As it was the same ministers that served here as did at Crwys, except Mr Thomas Jones in 1747, of whom we have no knowledge and Mr W. Humphreys, whose story is with Chadle. The other ministers biographies will be given with Crwys."