GENUKI Home Page Llangyfelach Llangyfelach ContentsContents

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru

(History of the Welsh Independent Churches)

By T Rees & J Thomas. Vol 2, 1872; pages 94-95.

This extract (in Welsh) is by Darris G.Williams, January 2004.
It relates to Pantycrwys near Cwmclydach in the parish of Llangyfelach; there is no translation currently available


Pantycrwys

Mae y lle hwn yn agos i flaen Cwmclydach, yn mhlwyf Llangafelach.  Yn y flwyddyn 1862, adeiladwyd yma ysgoldy bychan yn mesur o fewn y muriau 23 troedfedd wrth 15.  At gadw Ysgol Sabbathol, cyfarfodydd gweddio, a phregethu achlysurol y bwriedid ef.  Cafodd y ty hwn ei agor Gorphenaf 27ain, 1862, pryd y pregethwyd gan Meistri P. Griffiths, Alltwen; R. Pryse, Cwmllynfell; J. Rees, Canaan, ac E. Owen, Clydach. 

Y personau fuont a'r llaw flaenaf gyda chychwyniad yr achos hwn oeddynt Mr. Thomas Davies, gweinidog yr eglwysi yn Horeb, Treforis, a Baran; Llewellyn Bevan, John Thomas, Evan Thomas, Morgan Thomas, Thomas Thomas, a'i feibon, Thomas a Stephen, yn nghyd a rhai eraill o aelodau Baran; David Davies a'i wraig, aelodau o Rhydyfro, a Howell Hopkin, aelod o Glydach. 

Ar ol cael ty cyfarfod yn eu hardal blinodd y bobl yn fuan fyned i Baran, a manau pellenig eraill i addoli.  Ni buont yn dawelnes iddynt gael eu ffurfio yn eglwys, yr hyn a wnaed yn mis Awst, 1866, gan Mr. T. Davies, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. John Howells, un o ddiaconiaid y fam-eglwys yn Baran.  Ar y pryd hwnw cafodd David Davies ei neillduo yn ddiacon, a gwasanaethodd ei swydd yn ffyddlon nes iddo gael ei symud yn ddisymwth trwy ddamwain angeuol yn y gwaith.  

Ar ol ffurfio yr eglwys, a chael moddion crefyddol cyson bob Sabbothcynyddodd y gynnulleidfa yn raddol fel y bu raid helaethu y ty yn 1869.  Mae yn bresenol yn mesur 33 troedfedd wrth 23 y tu fewn i'r muriau, ac nid yw y ddyled sydd yn aros arno ond ugain punt.  Mae rhif yr aelodauyn awr yn 65, a'r gwrandawyr tua yr un rhif, neu ychydig yn rhagor.

Er nad oes fawr dros naw mlynedd er pan gychwynwyd, yr achos hwn y Mae amryw o'i gychwynwyr wedi cael eu rhifo yn mysg y meirw, megisJoseph Rees, Cynhordy, a'i wraig; David Davies, a'i wraig; gweddw John Thomas, a Hannah Davies, a'i mherch.  Dan ofal gweinidogaethol Mr. Davies, Treforis y mae yr achos hwn wedi bod o'r dechreuad, ac yr ydym yn hyderu mai dan ei ofal ef y bydd am flynyddau etto.  Gan fod cyflawnder o lô yn y ddaear oddiamgylch y lle hwn, mae yn debygol y bydd yma boblogaeth fawr yn mhen ychydig flynyddau.


[Last Updated : 15 January 2004- Gareth Hicks]

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Valid HTML 4.01 Transitional

Copyright © GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI

Valid HTML 4.01 Transitional