GENUKI Home page

Merionshire Merionethshire     Contents Contents
 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

MERIONETHSHIRE section (Vol 1, pages 400 - 518)

The umbrella project for WALES is detailed  on this Genuki page where there is a contents listing for each county/section and data on what has been extracted/translated already.
This is the complete Merionethshire section of Volume 1, in Welsh -  any existing translations will be itemised on the above page.
This extraction is as it is in the book, chapel names and page numbers act as separators.
Pages are in groups of 14, each group will be on a separate page of Genuki.
Footnotes remain at the bottom of pages
Extraction by Gareth Hicks (April 2008)

 

Chapels below;

Proof read by Yvonne John (May 2008)


Pages 400 - 413

400

BALA

(Llanycil parish)

Mae yn ymddangos mai dyma yr achos hynaf yn sir Feirionydd y gellir ei ddilyn yn ddigoll hyd ein dyddiau ni. Nid oes sicrwydd pwy a bregethodd yma gyntaf, ond y mae yn ymddangos yn lled sicr fod Mr. Morgan Llwyd o Wynedd, wedi pregethu yma wrth fyned i neu ddychwelyd o Wrecsam, i'w gartref yn Nghynfal, Maentwrog. Bu Mr. M. Llwyd farw yn Mehefin, 1659, ac os pregethodd ef yn y Bala, fel y mae pob tebygolrwydd ddarfod iddo wneyd, rhaid fod Ymneillduaeth wedi cychwyn yma yn foreu. Pan y sefydlodd Mr. Hugh Owen yn nhreftadaeth ei henafiaid yn Mronyclydwr, yn fuan wedi cyhoeddiad Deddf Unffurfiaeth, dechreuodd ei ymweliadau trimisol a ryw haner dwsin o leoedd yn sir Drefaldwyn, a thua yr un nifer o leoedd yn sir Feirionydd; ac yr oedd y Bala yn un o honynt. Parhaodd i ddyfod yma yn gyson er holl rym yr erledigaethau, a phregethai pa le bynag y rhoddid iddo ddrws agored, hyd nes y rhoddwyd terfyn ar ei fywyd llafurus, yn y flwyddyn 1699. Dilynwyd Mr. Owen gan Mr. Edward Kenrick, yr hwn a briododd ei ferch, ac a aeth i fyw i Fronyclydwr. Ymwelai Mr. Kenrick a'r lleoedd lle yr ymwelai ei dad-yn-nghyfraith a hwy, gan wneyd ei oreu i lenwi yr adwy oedd angau wedi ei wneyd. Urddwyd ef Awst 17eg, 1702, gan Meistri James Owen, Mathew Henry, ac eraill, a mwynhaodd. y gangen yn y Bala ran o'i weinidogaeth.* Nid oedd Mr. Kenrick yn meddu ar dalentau a chymwysderau gwenidogaethol ei dad-yn-nghyfraith, ond bu yn nodedig o ffyddlon, ac ni bu ei lafur yn gwbl ddilwydd. Wedi urddo Mr.

* MSS Josiah Thompson, Ysw.

401

Thomas Baddy yn Ninbych, yn 1693, deuai ef yn fisol i'r Bala. Dywedir y byddai yn nyddiau byrion y gauaf yn cadw y moddion ar hyd y dydd, a rhag ofn cynddaredd yr erlidwyr, elai i gysgu i le o'r enw Bodweni, rai milldiroedd o'r dref.* Mewn tai anedd yr arferent ymgynnull, a chan amlaf mewn ty a elwid y Store-house, wrth gefn Plasyndre. Pan ddaeth Mr. John Evans - hen bregethwr parchus gyda'r Methodistiaid - i'r Bala, yn 1742, at un Edward Williams, Gwehydd, un o hen Ymneillduwyr y Bala, y daeth i weithio, a llefara yn uchel am grefydd ei feistr - yr arferai addoli Duw yn ei deulu hwyr a boreu. Merch Morris ap Robert, un o hen aelodau yr Eglwys Ymneillduol yn y Bala, oedd Margaret, gwraig John Evans, wedi hyny. Saer coed wrth ei alwedigaeth oedd Morris ap Robert, ac yr oedd yn fardd o gryn enwogrwydd. Ceir nifer o'i ganiadau yn Mlodeugerdd Cymru ; a chyfansoddodd gywydd i Lyn Tegid, yn yr hwn y cyffelyba donau'r llyn i dragwyddoldeb.+ Nid oedd yr hen brydydd ond isel ei amgylchiadau, a byddai yn aml yn dywyll arno am angenrheidiau bywyd. Dywedir ei fod un boreu heb damaid o fwyd yn y ty, na modd i'w gael, ac yr oedd yr hen wraig wedi disgyn yn isel iawn ei meddwl ; ond dywedai ef wrthi wrth gychwyn allan o'i dy i'w waith, " O paid ti a gofidio, fe ddaw." Ond nid oedd ei wraig yn gweled yr un sail i'w ffydd bwyso arni i gredu y deuai. Ond erbyn fod Morris ap Robert wedi dychwelyd yr hwyr, dyma yr hen wraig yn y drws yn ei gyfarch yn llawen, gan waeddi, "fe ddaeth, fe ddaeth." "Fe ddaeth pwy ?" meddai yntau, heb gofio, mewn munyd, at ba beth y cyfeiriai. "Ond yr angel - fe ddaeth ar gefn ceffyl gwyn, ac a roddodd i mi gini ;" ac ni fynai hi ei hargyhoeddi nad yr Arglwydd a anfonasai ei angel a'r ymwared prydlawn yma iddi. Erbyn holi, cafodd yr hen brydydd allan mai Mr. Lewis Morris, o Fon, oedd wedi galw heibio, yr hwn oedd ar y pryd yn golygu y Tolldy yn Aberteifi, ac wedi clywed, ond odid, am galedi yr hen fardd. Un o'r hen Ymneillduwyr a feddyliodd gyntaf am gael oedfa yn Tynant yn agos i'r Rhiwlas, i wrthweithio dylanwad y noson ganu, fel ei gelwid, yn yr hon y dywedir fod Mr. Jenkin Morgan wedi pregethu dan arddeliad neillduol. Yr oedd Mr. Jenkin Morgan yn aelod yn Watford, gerllaw Caerdydd. Aeth i gadw un o ysgolion cylchredol Madam Bevan, o dan arolygiad Mr. Griffith Jones, Llanddowror ; pregethodd lawer o fan i fan y Gogledd, nes yr urddwyd ef yn Rhosymeirch, lle y llafuriodd am ugain mlynedd. Ond am yr oedfa y cyfeiriasom ati, dyma fel yr adroddir ei hanes gan Mr. John Evans, Bala. Yr oedd noswaith ganu, neu noswaith lawen yn cael ei chynal bob nos Sadwrn yn ysgubor Tynant. Gofidiai un o'r hen Ymneillduwyr yn fawr oblegid dylanwad drwg y fath lygredigaeth, a gwnaeth gais at wr y ty am genad i Mr. Jenkin Morgan gael pregethu yn y ty, ar yr un pryd ag y byddai y bobl ieuaingc yn yr ysgubor yn canu ac yn dawnsio. Cafwyd cenad, ac aeth Mr. Jenkin Morgan a'r hen Ymneillduwr tuag yno, ond yr oeddy bobl ieuaingc yno yn barod yn yr ysgubor, ac yn benderfynol i wneyd noson o honi, er llwyr foddi a dyrysu swn yr addoli. Ond rywfodd, nid oedd dim hwyl ar y chwareu y noson hono fel arfer, a daeth i feddwl un o honynt am fyned i'r ty, yr hwn oedd o dan yr un t a'r ysgubor, i weled pa hwyl oedd ar bethau yno, ac erbyn hyny yr oedd y pregethwr wrthi a'i holl egni, a'i Dduw yn ei gynorthwyo yn amlwg iawn. Wrth weled y cyntaf yn aros

*Llyfr Eglwys y Bala . + Llyfryddiaeth y Cymry. Tu dal. 674.

402  

yn y ty heb ddychwelyd, aeth eraill i weled pa beth oedd yn myned yn mlaen, ond swynwyd hwythau hefyd gan y pregethwr. Yn mhen ychydig, aeth eraill drachefn, ond nid oedd neb a i yn dychwelyd, ac yr oeddynt wedi myned o un i un o'r diwedd nes nad oedd neb ar ol ond y telynwr ; ac wrth weled hyny, barnodd hwnw mai cystal fuasai iddo yntau fyned hefyd, ac felly fu, a darfu am noson lawen yn ysgubor Tynant o hyny allan. Dychwelai llawer adref o'r oedfa dan lefain am drugaredd i'w heneidiau, a dywedai John Evans yr adwaenai efe bump o bersonau y rhai a ddangosasant arwyddion amlwg eu bod wedi eu hargyhoeddi i fywyd yn yr oedfa hono.* Wedi dechreu pregethu yn Weirglawdd-y-gilfach, arferai Ymneillduwyr y Bala gyrchu yno i addoli, canys dywed John Evans iddo ef fyned yno gydag Edward Williams, ei feistr, a'i fod yn synu wrth glywed y pregethwr yn gallu myned trwy yr holl wasanaeth heb un llyfr. Nid oes genym sicrwydd pwy a bregethai yn benaf i'r gynnulleidfa yn y Bala wedi marwolaeth Mr. Baddy, yn 1729 - a Mr. Kenrick, yn 1742, ond cawn fod Mr. Jervice, Llanfyllin, a Mr. Lewis Rees, Llanbrynmair, yn ymweled yn aml a hwy, ac mae yn debyg fod gweinidogion Llanuwchllyn yn gofalu am y lle, o leiaf, y mae agos yn sicr fod Mr. Evan Williams yn gofalu am y gangen fechan yma o'i sefydliad yn Llanuwchllyn, yn 1759, hyd ei ymadawiad yn 1765. Yr oedd yr eglwys yn Llanuwchllyn erbyn hyn wedi dyfod yn llawer cryfach na'r eglwys yn y Bala; ac edrychid ar yr olaf fel cangen o'r flaenaf, a mynych y cyrchid o'r Bala i Lanuwchllyn, gan fod yno le cyfleus wedi ei godi i addoli. Yn y flwyddyn 1770, ymsefydlodd Mr. Daniel Gronow yn weinidog ar yr eglwys yma, a thrwy ei lafur ef yn benaf y codwyd y capel. Trosglwyddwyd y tir iddo ef trwy weithred, dyddiedig Mawrth 22ain, 1774 ; ac yn ei enw ef yr oedd hyd nes y trosglwyddwyd ef i ymddiriedolwyr, yn 1779. Yr oedd y capel wedi ei adeiladu rywbryd rhwng 1774 a 1779, ond nid oedd wedi ei wneyd drosodd yn feddiant i'r eglwys. Gallwn gasglu fod tipyn o gamddealldwriaeth wedi bod rhwng yr eglwys a Mr. Gronow, gyda golwg ar drosglwyddiad y capel, oblegid mewn llythyr sydd yn awr ger ein bron oddiwrth eglwys y Bala at reolwyr y Trysorfwrdd Cynnulleidfaol, dywedir mai y rheswm na buasent yn gwneyd cais yn gynt am gynorthwy ydoedd, " nad oedd y capel wedi ei roddi i fyny yn briodol gan en diweddar weinidog, Mr. Gronow." Ymddengys Mr. Gronow ymadael yr un flwyddyn ag y gwnaed y capel drosodd yn feddiant i'r eglwys, oblegid yn Hydref, 1779, daeth Mr. Evan Williams yma o Benybontarogwy. Yr oedd Mr. Williams wedi bod yn gofalu am yr eglwys yma flynyddau cyn hyny mewn cysylltiad a Llanuwchllyn, a dychwelodd yma yr amser a nodir uched. Dywed Benjamin Chidlaw, dicaon, a Robert Owen, Ellis Roberts, John Evans, ac Ellis Jones, henuriaid, gyda saith eraill o aelodau yr eglwys, wrth wneyd apeliad am gynorthwy y Bwrdd Cynnulleidfaol, " ei fod nid yn unig yn llafurus, ond hefyd yn llwyddianus iawn, a bod crefydd wedi ennill tir yn fawr trwy ei sefydliad yn y lle," ac ychwanegent mai 24p. y flwyddyn, oedd y cwbl a allent wneyd er ei gynhaliaeth. Bu Mr. Williams yma yn gymeradwy hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le ryw bryd yn y flwyddyn 1786, canys Mawrth 9fed, y flwyddyn hono, ydyw y bedyddiad olaf a gofrestrodd yn llyfr yr eglwys. Derbyniodd Mr. William Thomas, Hanover, alwad gan

*Drysorfa Ysbrydol. Cyf I. Tu dal 30 a 31.

403

yr eglwys yma, a dechreuodd ei weinidogaeth yn Mai, 1787. Bu yma yn llafurio am ddwy-flynedd-ar-hugain. Nid ydym mewn cyfle i wybod dim am sefyllfa fewnol yr eglwys yn nhymor ei weinidogaeth. Mewn llythyr at y Trysorfwrdd Cynnulleidfaol, yn 1797, dywed Mr. Thomas mai pedwar ugain oedd nifer y cymunwyr, a bod mwy na'u haner yn rhy dlawd i allu cyfranu dim at ei gynhaliaeth. Yn ol cofrestiad y bedyddiadau, Ionawr, 1809, yw y cofnodiad olaf o'i eiddo, a bu farw yn mis Mai y flwyddyn hono. Cyfododd anghydfod rhwng Mr. Thomas a rhan o'r eglwys tua'r flwyddyn 1800, yr hwn a derfynodd mewn ymraniad. Aeth plaid allan, a buont am rai blynyddoedd yn addoli ar wahan, mewn t a elwid y Cross-keys. Mae yn anhawdd dweyd yn bendant beth oedd gwir achos y cweryl, a dichon i gydgyfarfyddiad o wahanol bethau ei achosi. Ymddengys ddarfod i Mr. Thomas brynu y tir gwag oedd rhwng y capel a'r heol, ac adeiladu tai arno. Yr oedd pump yn y lle, o'r hwn y byddai y cymydogion yn cael dwfr, a symudodd Mr. Thomas hwnw o'i le er mwyn ei gyfleustra ei hun, a thynodd wg llawer trwy hyny, oblegid cyhuddid ef o sathru ar hawliau ei gymydogion. O gylch yr un amser bu farw un Robert Jones, Coedyfoel, yr hwn oedd yn wr hynaws a charedig i'r achos, er nad oedd yn aelod eglwysig; ac y mae yn debyg i Mr. Thomas ddyweyd yn ei gladdedigaeth y gallasai ei fod yn ddyn duwiol er nad oedd yn proffesu crefydd. Anfoddlonodd llawer o'r aelodau yn fawr wrtho am gyhoeddi y fath syniad, a thrwy nad oedd pethau yn rhy gysurus o'r blaen, aethant rhagddynt waethwaeth. Tueddir ni hefyd i feddwl fod Mr. Thomas yn ddyn o ysbryd anhyblyg, ac heb feddu y dawn angenrheidiol I drin dynion yn y ffordd oreu. Gwelsom yn nglyn a'i hanes yn Hanover, sir  Fynwy, i weinidogion dyeithr fod yno fwy nag unwaith yn ceisio heddychu rhwng yr eglwys ag yntau, yn nhymor byr ei arosiad yn y lle hwnw. Pa fodd bynag, torodd rhwygiad allan, ac yr ydym yn cael fod Dr. Lewis, Llanuwchllyn, ac amryw eraill o brif weinidogion y Gogledd yn cynorthwyo y blaid oedd wedi ymneillduo, fel y mae yn rhaid eu bod hwy yn tybio nad oedd Mr. Thomas yn ddifai yn yr amgylchiadau. Dilynwyd Mr. Thomas, gan Mr. John Lewis, myfyriwr o athrofa Gwrecsam. Yr ydym yma yn cyfarfod a gradd o anhawsder i gysoni y gwahanol adroddiadau a'r cofnodion sydd genym. Crybwyllasom eisioes mai yn Mai, 1809, y bu farw Mr. Thomas. Yn ol yr hyn a ddywedir gan y diweddar Mr. Cadwaladr Jones, Dolgellau, yn Nghofiant Mr. John Lewis, yr hwn a gyhoeddwyd ganddo yn yr Annibynwr, am 1862, tu dal. 245, urddwyd Mr. Lewis yn y Bala, yn y flwyddyn 1807, ac yr oedd Dr. Lewis, Llanuwchllyn ; Meistri J. Griffith, Caernarfon ; W. Hughes, Dinas; J. Roberts, Llanbrynmair; W. Jones, Trawsfynydd ; Jenkin Lewis, Wrecsam, a B. Jones, Pwllheli, yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth. Nid yw Mr. Jones yn gwbl sicr am y ddau olaf, er y tybiai eu bod yn bresenol. Yr oedd Mr. Jones mewn cyfle i wybod yn gywir amser yr urddiad, canys yr oedd efe a Mr. John Lewis wedi eu magu yn yr un ardal, ac erbyn hyn yr oedd Mr. Jones wedi dechreu pregethu ei hun. Yn ol hyn, yr oedd Mr. Lewis wedi ei urddo ddwy flynedd cyn marwolaeth Mr. Thomas. Mae genym brawf arall fod Mr. Lewis wedi ei urddo cyn marwolaeth Mr. Thomas, canys yr ydym yn cael yn llyfr eglwys y Bala, dan law Mr. Lewis ei hun, gofrestriad bedydd a weinyddodd Ionawr 13eg, 1809, ac yr ydym yn cael cofrestriad o fedyddiad gan Mr. Thomas, ar ol y dyddiad yma. Y mae yn sicr gan hyny fod Mr. Thomas a Mr. Lewis yn weinidogion yn y Bala yr

404

un pryd, dros ryw gymaiut. Coffeir yn arbenig mai Mr. Lewis a fu yn foddion i gyfanu y rhwyg, ac yr oedd un hen frawd ffraeth yn y lle yn arfer dweyd, " mai adfer heddwch i'r eglwys oedd yr unig beth, gwerth son am dano, wnaeth John Lewis yn ei oes." Yr ydym ni yn gogwyddo i feddwl i Mr. John Lewis gael ei urddo yn weinidog blaid oedd allan. Fel y gwelsom, yr oedd cydymdeimlad Dr. Lewis a hwy, ac yr oedd hyny yn ei gwneyd yn bur naturiol i Mr. John Lewis, yr hwn oedd yn ddysgybl ffyddlon i'r Doctor, ymsefydlu yn eu plith; ac fel yr oedd iechyd Mr. Thomas yn gwaelu, a Mr. John Lewis yn nodedig am ei bwyll a'i fedr i hwylio yn mlaen rhwng pleidiau rhanedig, llwyddodd i gyfanu y rhwyg ac adfer heddwch, a dychwelodd ef a'i bobl i'r capel cyn marwolaeth Mr. Thomas, fel yr ymddengys, a llwyddodd trwy ddoethineb i lywodraethu yn foddhaol i'r ddwy blaid unedig. Yn y flwyddyn 1813, ailadeiladwyd y capel, yr hwn a dynwyd i lawr yn ddiweddar. Bu Mr. Lewis yn Llundain yn casglu at y capel, a llwyddodd i gasglu 100p. Anfonodd masnachwr o'r Bala ato i ofyn iddo, gan ei fod yn Llundain, i dalu swm o arian drosto, yr arbedasai hyny ef i anfon arian i fyny, ac y telid ef yn ol ar ei ddychweliad. Gan wybod ei fod yn fasnachwr cyfrifol, gwnaeth Mr. Lewis yn ol ei gais, ond erbyn ei ddychweliad cafodd fod y masnachwr wedi tori, a swm mawr o'r arian a gasglwyd trwy lafur caled, oblegid hyny, wedi eu colli. Tua'r flwyddyn 1823, o herwydd fod rhyw gamddealldwriaeth rhyngddo a'i ail wraig, yr hyn a brofai yn anffafriol i'w weinidogaeth, rhoddodd Mr. Lewis i fyny ofal yr eglwys yn y Bala, a symudodd i fyw at ei ferch i Hafod-yr-haidd, Llanuwchllyn, lle y bu dros weddill ei oes.

Yn nechreu y flwyddyn 1824, derbyniodd Mr. John Ridge, Penygroes, alwad gan yr eglwys yma, a chydsyniodd a hi, a bu yn boblogaidd a pharchus gan bob enwad yn y dref a'r amgylchoedd, hyd nes y symudodd i Cendl, sir Fynwy, yn niwedd y flwyddyn 1829. Wedi bod am dymor heb weinidog, yn niwedd y flwyddyn 1831, rhoddwyd galwad i Mr. Richard Jones, myfyriwr o athrofa y Drefnewydd; ac urddwyd ef Mai 3ydd a'r 4ydd, 1832. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. M. Jones, Llanuwchllyn ; holwyd y gofyniadau gan Mr. C. Jones, Dolgellau ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Roberts, Capel-garmon ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. T. Lewis, Llanfairmuallt, ac i'r eglwys gan Mr. W. Williams, Wern. Gweinyddwyd hefyd yn y gwahanol gyfarfodydd gan Meistri J. Williams, Dinas ; R. Rowlands, Henryd ; T. Jones, Llangollen ; E. Davies, Trawsfynydd ; T. Ellis, Llangwm; H. Pugh, Llandrillo ; E. Davies, Llanrwst ; Ll. Samuel, Bethesda ; W. Morris, Llanfyllin; D. Price, Penybontfawr; S. Roberts, Llanbrynmair ; J. Jones, Llanidloes ; T. Morgan, Trallwm, a J. Davies, Llanfair.* Ychydig gyda thair blynedd y bu Mr. Jones yma, canys ymadawodd cyn diwedd y flwyddyn 1835. Curodd tymestloedd cryfion ar yr achos yn y cyfnod yma, ond er " ei fwrw i lawr ni lwyr ddifethwyd ef," ac ni chaniataodd yr Arglwydd i'r rhai a geisient ei einioes i gael eu hewyllys arno. Bu yr eglwys am rai blynyddoedd ar ol hyny heb weinidog sefydlog, ond oblegid fod yr Athrofa Ogleddol wedi ei sefydlu yn y Bala, dan ofal Mr. Michael Jones, Llanuwchllyn ; penderfynodd Mr. Jones roddi yr eglwys yn Llanuwchllyn, lle y llafuriasai am wyth mlynedd-ar-hugain, i fyny, a

*Dysgedydd, Mai, 1832.

405

derbyniodd alwad gan yr eglwys yn y Bala, a llafuriodd yma mewn cysylltiad a'r eglwysi eraill dan ei ofal, hyd nes y rhoddodd angau derfyn ar ei holl lafur, Hydref 27ain, 1853. Nid oedd Mr. Jones yn gallu bod yma ond dau Sabboth o bob mis, a phregethai y myfyrwyr ar y Sabbothau eraill. Yn niwedd 1854, rhoddwyd galwad i Mr. Michael Daniel Jones, Bwlchnewydd, (mab y diweddar weinidog,) i fod yn weinidog yma. Yr oedd Pwyllgor yr athrofa hefyd wedi ei ddewis i fod yn olynydd ei dad fel athraw. Bu gofal yr eglwys ar Mr. Jones am fwy na phedair blynedd, ond oblegid fod maes ei lafur mor eang, rhoddodd yr eglwysi yn y Bala a Thy'nybont i fyny, gan eu hanog i edrych am ryw un cymwys i fwrw golwg drostynt, a dewiswyd Mr. John Peter, un o aeladau yr eglwys yn y Bala, ac a ddechreuodd bregethu ynddi, ac a addysgwyd yn yr athrofa. Urddwyd ef Mawrth 30ain, 1859. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. R. Ellis, Brithdir ; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Jones, Abermaw; gweddiodd Mr. M. D. Jones, Bala ; pregethodd Mr. C. Jones, Dolgellau, i'r gweinidog, a Mr. D. Roberts, Caernarfon, i'r eglwys ; a chymerwyd rhan yn ngwaith y dydd gan nifer luosog o weinidogion eraill. Bu adfywiad pur rymus ar grefydd yn y wlad yn fuan wedi sefydliad Mr. Peter yn weinidog yma, a chwanegwyd llawer at rifedi yr eglwys hon.

Dewiswyd Mr. Peter yn fuan gan y Pwyllgor yn gydathraw yn yr athrofa, yr hon swydd a lenwir ganddo hyd yr awr hon. Yr oedd yr hen gapel, yr hwn a adeiladesid yn y flwyddyn 1813, wedi myned yn adfeiliedig, heblaw ei fod yn gwbl anheilwng o'r lle a'r gynnulleidfa, ac yn 1867, penderfynwyd codi capel newydd hardd. Cafwyd tir agos ar gyfer yr hen gapel, mewn man tra chyfleus, ar brydles o gan' mlynedd. Costiodd y capel newydd tua 1200p., ond y mae tua haner y ddyled eisioes wedi ei thalu. Fel y gwelir oddiwrth ei hanes, y mae yr eglwys yma o bryd i bryd wedi myned trwy amgylchiadau helbulus, ac nid aeth drwyddynt heb iddynt adael eu heffeithiau arni. Nid yw ei dylanwad er daioni, wedi bod y peth y dylasai, ac er nad oes dim a fyno y genhedlaeth bresenol a hyny, etto, y maent hwy yn gorfod dyoddef anfantais oddiwrth annoethineb y rhai a fu o'u blaen. Bu yma lawer o bobl yn perthyn i'r achos o bryd i bryd, a choffeir yn barchus am enwau rhai gwragedd rhagorol a fu yma, ond nid ydym wedi cael hysbysiaeth ddigonol yn eu cylch i wneyd cofnodiad o honynt.

Codwyd yma amryw bregethwyr yn yr eglwys, heblaw y rhai fagwyd yma, ac a ddechreuodd bregethu mewn eglwysi eraill, ond yr ydym yn lled sicr i'r rhai a ganlyn ddechreu pregethu yn yr eglwys hon.

406

Mae yr eglwys hon yn hawlio William Evans, Stockport; David Jones, Treffynon ; William Thomas, Beaumaris ; Hugh Evan Thomas, Pittsburgh, (Birkenhead gynt,) ac eraill, fel ei phlant, oblegid iddynt gael rhan helaeth o'u haddysg grefyddol ganddi, ond gan mai mewn cysylltiad ag eglwysi eraill yr oeddynt, pan y dechreuasant bregethu, nis gallwn eu rhoddi i mewn yma.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

EDWARD KENRICK. Nid oes genym ond ychydig o'i hanes. Priododd ferch yr hyglod Hugh Owen, Bronyclydwr, ac wedi marw Mr. John Owen, ei frawd-yn-nghyfraith, daeth Bronyclydwr yn feddiant iddo gyda'i wraig. Yr oedd yn ddyn da, ond nid ymddengys ei fod yn meddu ar ddoniau a phoblogrwydd ei dad-yn-nghyfraith a'i frawd-yn-nghyfraith, fel y gwanychodd yr achosion a gasglwyd gan ei ragflaenoriaid gryn lawer yn ei amser ef. Cafodd fyw hyd y flwyddyn 1742, pan y gwelodd adfywiad mawr ar yr achos trwy offerynoliaeth Meistri Lewis Rees a Jenkin Morgan, ac eraill o ddiwygwyr y ddeunawfed ganrif.*

DANIEL GRONOW. Aelod gwreiddiol o'r Mynyddbach, ger Abertawy, ydoedd. Derbyniwyd ef i athrofa Caerfyrddin yn y flwyddyn 1757, a bu yno dair blynedd. Ymddengys mai yn sir Aberteifi yr ymsefydlodd ar ei ymadawiad a'r athrofa, yn rhan o esgobaeth Mr. Phillip Pugh, ac mai yno yr urddwyd ef. Yr oedd cylch gweinidogaeth Mr. Pugh yn eang iawn, ac yn y rhanau o honi o gylch Ciliauaeron a Neuaddlwyd y llafuriodd Mr. Gronow hyd ddiwedd 1769, pan y symudodd i'r Bala. Bu yma yn agos i ddeng mlynedd, a thrwy ei lafur ef y codwyd y capel Annibynol cyntaf yn y dref. Yr oedd ganddo gynnulleidfa gref, ac yr ydym yn cael enwau llawer o bersonau oeddynt yn byw yn mhlwyf Llangwm ar lyfr yr eglwys. Trwy ei lafur ef y sefydlwyd yr achos yn Nhynybont, ac yr oedd ganddo gynnulleidfa yn Llandderfel. Pregethai yn Llanfor y boreu, ac yn y Bala yn y prydnhawn, ac yn Llandderfel yn yr hwyr.+ Yn ol y y cyfrif a anfonwyd gan Mr. Job Orton i Mr. Josiah Thompson, yn 1773, yr oedd y gynnulleidfa yn y Bala yn rhifo 300, Talgarth (Ty'nybont,) 260, a Llandderfel 220. Dichon fod y cyfrif yn uchel, ond cymerai i fewn o bosibl, bawb o'r rhai a ddeuai yn nghyd i'r cyfarfodydd. Bu Mr. Gronow, yn myned unwaith yn y mis, am dymor, i Lanfyllin a'r Pantmawr. Nid oes unrhyw wybodaeth wedi ei adael ar ol i ni am dano fel pregethwr, ond y mae yn eglur iddo fod yn ddefnyddiol a llwyddianus yn y Bala dros y blynyddoedd y bu yma. Wedi ymadael a'r Bala, yr ydym yn ei gael yn Mixendem, yn swydd Caerefrog, a thebygol mai yno y bu farw. Mab iddo ef oedd Joseph Gronow, a addysgwyd yn yr athrofa yn Ngwrecsam, a urddwyd yn Weedon, yn swydd Northampton, yn Ebrill, 1797, ac a fu farw yn dra ieuangc.

EVAN WILLIAMS. Nis gwyddom un o ba le ydoedd, na pha le yr add-

*MSS Mr. Josiah Thompson. + MSS Mr. Josiah Thompson.

407

ysgwyd ef. Urddwyd ef yn y Brychgoed, Medi 28ain, 1752. Symudodd i Lanuwchllyn yn 1759, a bu yno hyd 1765, pryd y symudodd i Benybontarogwy. Bu yno bymtheng mlynedd, ac yn 1780, dychwelodd i'r Bala, lle y treuliodd weddill byr ei oes. Bu farw yn 1786, a chladdwyd ef yn Llanuwchllyn, lle yr oedd ei wraig wedi ei chladdu, yn Hydref, 1762, cyn ei symudiad i Benybontarogwy. Cyfansoddwyd " Cerdd o Alarnad" ar ol ei wraig, Mrs. Gwen Williams, gan un William Jones, ac argraffwyd hi yn y Bala gan un John Rowlands.* Derbyniwyd mab iddo, o'r enw David Williams, i athrofa Abergavenny, yn 1775, ac ymsefydlodd yn weinidog yn rhywle yn sir Gaerefrog. Dywedai y diweddar Mr. H. Lloyd, Towyn, rai blynyddau yn ol, wrth Mr. Simon Jones, Bala, iddo, pan yn casglu at gapel y Towyn yn y sir hono, tua'r flwyddyn 1820, weled mab i Mr. Evan Williams yn weinidog yn rhywle yn agos i Hull. Merch i Mr. E. Williams, hefyd, oedd ail wraig Mr. John Roberts, Llangwm, hen weinidog i'r Methodistiaid. Nid oes genym ddim yn ychwaneg o'i hanes, ond gallwn gasglu oddiwrth ei lythyrau ei fod wedi cael addysg dda, ac o olygiadau efengylaidd.

WILLIAM THOMAS. Ganwyd ef yn Awst, 1749. Amaethwyr cyfrifol oedd ei rieni. Yr oedd ei dad yn enedigol o sir Forganwg, a'i fam o sir Gaerfyrddin. Claddodd ei dad cyn ei fod yn ddeuddeg oed, ac ar ol hyny, symudodd ei fam i'w chymydogaeth ei hun, heb fod yn mhell o Lanymddyfri. Derbyniodd Mr. Thomas addysg dda pan yn fachgen, ac aeth i Lundain, lle yr oedd ganddo berthynasau, a chafodd le gyda masnachwr yn Longacre, a bu yno mewn parch ac ymddiried dros rai blynyddoedd. Er ei fod y pryd hwnw o ymarweddiad moesol diargyhoedd, etto, yr oedd yn gwbl ddyeithr i grefydd. Pan tua thair-ar-hugain oed, cafodd glefyd trwm yn Llundain, ac wedi gwella i raddau, aeth adref at ei fam. Eglwyswraig selog oedd ei fam' ond yr oedd adfywiad grymus ar y pryd mewn amryw o gynnulleidfaoedd Ymneillduol, a denwyd Mr. Thomas, o gywreinrwydd, i fyned i Grygybar i wrando Mr. Isaac Price, a bu yr oedfa hono yn oedfa i'w chofio iddo. Newidiwyd holl gynlluniau ei fywyd ar unwaith. Unodd a'r eglwys, ac aeth i Ty'nycoed, Cwmtawe, ac yno fel yr ymddengys y dechruodd bregethu. Aeth i'r athrofa yn Abergavenny, lle yr arhosodd ddwy flynedd. Urddwyd ef yn Hanover, Hydref 2i1, 1782. Nid arhosodd yno ond llai na phum' mlynedd, ac nid rhyw gysurus iawn y bu yno yn yr yspaid hwnw. Symudodd i'r Bala yn 1787, a llafuriodd yno am ddwy-flynedd-ar-hugain. Yr oedd yn ddyn o ddeall cryf, ac ysbryd penderfynol, a chyhuddid ef o fod yn rhy awyddus am y byd. Nis gwyddom a oedd sail i'r fath awgrymau. Yr oedd ei ofal am ei amgylchiadau, a'i ymdrech i gyfieithu a chyhoeddi llyfrau, yn ddigon o achlysur i ryw ddosbarth achwyn felly arno. Bu ganddo ddeg o blant, ac yr oedd yn ofynol wrth gynnildeb mawr i ddarpar cynhaliaeth i deulu mor lluosog. Cyhoeddodd lawer o lyfrau, a gwnaeth yn dda, fel y tybir, ar amryw o honynt. Ond y gwaith mwyaf yr ymgymerodd ag ef oedd, cyfieithu a chyhoeddi Esboniad Dr. Guyse ar y Testament Newydd ; ac oddiwrth hwnw y collodd fwyaf. Yn Nhrefecca byddai yn argraffu ei holl lyfrau, ac yno y dechreuwyd argraffu Esboniad Dr. Guyse. Arferai Mr. Thomas brynu y papur ei hun, a'i anfon i Drefecca i'w weithio. Llawer o drafferth a gafodd gydag argraffwyr

*Llyfryddiaeth y Cymry. Tu dal. 465.

408

Trefecca. Byddai yn methu cael y rhanau allan mewn pryd. Anfonai ei fab, John, i Drefecca i ymofyn y rhanau, ac yna cymerai y llangc hwy yn bynau ar gefn caseg fechan, o eiddo ei dad, i'r prif ddosbarthwyr ar hyd y wlad. Ond yn aml iawn, erbyn ei fyned i Drefecca, ni byddai y rhanau yn barod, a byddai raid iddo aros yno am danynt weithiau am wythnosau, yr hyn oedd yn anghyfleustra ac yn golled fawr. Symudodd ef, wedi hir flino, at Mr. John Evans, yn Nghaerfyrddin, i'w argraffu, ac wedi hyny at Mr. R. Saunderson, i'r Bala. Yr oedd wyth rhan heb eu parotoi i'r wasg, pan fu farw Mr. Thomas, a chafodd ei fab gan Mr. Ebenezer Jones, Pontypool, gwblhau y gwaith. Parodd y maith flynyddoedd y bu y rhanau yn dyfod allan golled dirfawr. Yr oedd 1800 o dderbynwyr i'r rhanau cyntaf ; yr oedd cynnulleidfa Henllan, sir Gaerfyrddin, yn derbyn 102, ond cyn y diwedd, nid oedd ond 800 yn myned, fel yr oedd 1000 o gopiau ar hyd y wlad yn anorphenol. Dywedai ei fab i Mr. Thomas golli 300p. yn yr anturiaeth.* Dichon fod y llafur llenyddol yma o eiddo Mr. Thomas yn peri nad oedd yn gallu rhoddi cymaint o'i amser at ei ddyled-swyddau gweinidogaethol ag a ddylasai, yn ol fel y syniai ei ofal; ond gwnaeth, er hyny, wasanaeth dirfawr i'w genhedlaeth. Cafodd ei ran o drallodion teuluol. Gwelodd gladdu y rhan fwyaf o'i blant, a dyrysodd ei wraig yn ei synhwyrau, a daeth i ddiwedd gofidus iawn. Adwaenem ddau o'i blant, sef ei fab John Thomas, yr hwn a fu fyw am flynyddoedd yn Mhenycae, Mynwy, a'i ferch, Mary, gwraig Mr. David Johns, y Cenhadwr llafurus yn Madagascar ; ond y maent hwythau bellach er's blynyddau wedi en casglu at eu pobl. Bu farw Mr. Thomas yn mis Mai, 1809, ym 60 oed, a chladdwyd ef yn neu wrth gapel y Bala, ac y mae etto rai yn fyw sydd yn cofio dydd ei angladd.

JOHN LEWIS. Ganwyd ef yn Caerhys, plwyf Llanuwchllyn, yn y flwyddyn 1761. Enwau ei rieni oeddynt Lewis a Gainor Jones; ac aeth ef yn Lewis yn ol enw ei dad. Symudodd ei rieni i Hafodyrhaidd, pan nad oedd ef ond plentyn, ac fel John Lewis, Hafodyrhaidd, yr adnabyddid ef drwy ei oes yn y rhan fwyaf o sir Feirionydd. Derbyniwyd ef yn aelod yn hen gapel Llanuwchllyn, gan Mr. Abraham Tibbot, pan nad oedd ond llangc ieuangc, a derbyniwyd amryw yr un pryd ag ef, ond edrychid ar John Lewis yn fwy deallgar na hwynt oll. Priododd yn mhen rhai blynyddoedd ag un Mary Jones, o'r Ddolfach, Llanuwchllyn, a ganwyd iddynt ddwy fetch. Ni bu yn briod ond tua chwe' blynedd, ac yn y tymor hwn y dechreuodd bregethu, ac nid oedd yn meddwl mwy na bod yn bregethwr achlysurol. Wedi claddu ei wraig, anogwyd ef i fyned i'r athrofa i Wrecsam, er ei fod y pryd hwnw yn ddeugain oed. Bu yn yr athrofa bedair blynedd, ac er nas gallesid disgwyl iddo ddyfod yn ysgolhaig gwych, etto, profodd yr addysg a gafodd o help iddo drwy ei oes. Cafodd wahoddiad i Lanfyllin a'r Capel-bach, Penybontfawr, ar brawf, ond nid oedd eglwys Llanfyllin yn unol i roddi galwad iddo. Sefydlodd yn y Bala, ac urddwyd ef yn y flwyddyn 1807, ac ar ol ei urddo yno, bu yn gofalu am Benybontfawr am ddwy flynedd, hyd nes yr urddwyd Mr. Morris Hughes yno. Gwnaeth les mawr yn y Bala, yn enwedig mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth, pan yr oedd teimladau yr eglwys yn rhanedig. Priododd a gwraig weddw, yr hon a fuasai ddwywaith yn weddw, ac ni bu y briodas yn un gysurus mewn un modd. Mynai hi aros

*Llyfryddiaeth y Cymry. Tu dal 604

409

yn y Bala, a barnai yntau mai yn eu hen gartref, yn Hafodyrhaidd, y dylasent fyw, ac aeth pethau mor ddiflas fel yr aeth ef yn rhy ddigalon i bregethu. Rhoddodd y weinidogaeth yn y Bala i fyny, ac aeth i fyw at ei ferch yn Hafodyrhaidd, ond ymwelai a'i wraig yn y Bala yn achlysurol. Cymhellwyd ef i bregethu drachefn, yn mhen amser, yr hyn a wnaeth tra y gallodd, yn mha le bynag y gelwid am ei wasanaeth. Daliwyd ef gan fusgrellni a methiant hen ddyddiau, yr hyn a'i hanalluogodd i fyned allan o'i gymydogaeth, ond cyrchai i'r hen gapel tra y gallodd, hyd ei ddiwedd, a bu farw, Ionawr 23ain, 1850, yn 89 oed.* Dyn byr, crwn, o ran corpholaeth, ydoedd, ac o dymer siriol a charedig. Ni byddai byth mewn brys, a phan y dechreuai aros ar y ffordd i siarad, ni feddyliai am droi pen ar yr ymddyddan. Yr oedd yn deall duwinyddiaeth yn dda, ac anhawdd fuasai ei orchfygu mewn dadl, ond nid oedd erioed wedi dysgu dyweyd ei feddwl yn fyr a chynhwysfawr. Calfiniad cymhedrol ydoedd o ran ei olygiadau duwinyddol, ac yr oedd yn deall y pynciau y dadleuid yn eu cylch y dyddiau hyny yn well na'r rhan fwyaf. Nid oedd dim yn boblogaidd yn ei ddawn, er yr ymadroddai yn rhwydd, ac yr oedd yn wastad yn ddifrifol a digellwair, ond yr oedd yn amddifad o wres ac angerddoldeb. Gwnaeth " waith efengylwr," ac y mae wedi derbyn gwobr " y gwas da a ffyddlon."

MICHAEL JONES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1785, yn agos i Neuaddlwyd, sir Aberteifi. Enwau ei rieni oeddynt Daniel a Mary Jones, ac yr oeddynt ill dau yn nodedig am eu cryfder corphorol a meddyliol. Yn fuan wedi geni Michael Jones, symudodd ei rieni i Ffos-y-bont-bren, ac yno y treuliodd efe y rhan fwyaf o'i ddyddiau boreuol. Er nad oedd ei rieni yn proffesu crefydd, etto, dygasant eu plant i fyny mewn moesoldeb cyffredin, a chyn diwedd eu hoes ymunodd ei dad a'r Wesleyaid, a'i fam a'r Methodistiaid; ond i'r Neuaddlwyd i fwynhau gweinidogaeth Dr. Phillips, y cyrchai Michael Jones. O herwydd fod tyddyn Ffos-y-bont-bren yn rhy fychan i gynal teulu Daniel Jones, trodd Michael Jones allan i wasanaethu, ac ar of bod felly yn gwasanaethu dros ychydig, drwy gynorthwy ei frawd Evan Jones, yr hwn oedd hynach nag ef, ac wedi casglu tipyn o arian, aeth i'r ysgol, a gwnaeth gynydd buan mewn dysgeidiaeth. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn y Neuaddlwyd, yn mis Medi, 1807, ac yn fuan anogwyd ef i ddechreu pregethu. Pregethodd ei bregeth gyntaf mewn lle a elwir Penrhiw. Aeth i'r ysgol drachefn at Mr. D. Davies, Castell-howell, ac yr oedd ganddo trwy ei oes feddwl uchel am Mr. Davies, fel athraw. Treuliodd dair blynedd, weithiau yn yr ysgol, a phryd arall yn gweithio, er ennill arian i'w gynal yn yr ysgol; hyd y flwyddyn 1810, pryd y derbyniwyd ef yn fyfyriwr i'r athrofa yn Wrecsam. Rhagorodd ar y rhan fwyaf o'i gydfyfyrwyr fel ysgolhaig, ac fel ysgolhaig cywir a manwl yr hynododd ei hun, yn fwy nag fel pregethwr, er fod ei bregethau, hyd yn nod yn y cyfnod hwnw, yn sylweddol, ac yn cynwys hanfod yr efengyl. Wedi gorphen ei dymor yn yr athrofa, derbyniodd alwad gan hen eglwys barchus Llanuwchllyn, yr hon a adawsid yn amddifad o fugail trwy symudiad Dr. Lewis i gymeryd gofal yr athrofa yn Wrecsam. Urddwyd Mr. Jones Hydref 10fed, 1814, ond er fod yr eglwys yn lluosog a chyfoethog, nid oedd yr hyn a addawent at ei gynhaliaeth ond ychydig. Yn y flwyddyn 1816, priododd a Miss Mary Hughes, merch Mr Edward  

*Gwel ei Gofiant, Annibynwr, 1862, tu dal. 245, gan Mr. C. Jones.

410

Hughes, Cwmcarnedd, Llanbrynmair, a bu iddynt bump o blant, dau fab a. thair merch. Claddwyd y mab ieuengaf o flaen ei dad, ond y mae y tair merch a'r mab hynaf - Mr. M. D. Jones, athraw yr athrofa yn y Bala  - etto yn fyw. Cyfarfyddodd Mr. Jones ag ystormydd blinion yn Llanuwchllyn, ystormydd na chyfarfu yr un gweinidog yn Nghymru erioed a'u chwerwach, a pharhasant yn hir iawn. Dyoddefodd drwyddynt golledion mawrion yn ei amgylchiadau, ac y mae yn rhaid ddarfod iddynt effeithio ar ei gyfansoddiad, er cryfed ydoedd. Nid awn i mewn i'r amgylchiadau hyny yma, gan y deuant i'n ffordd yn nglyn a hanes Llanuwchllyn, a chan fod nodwedd a chymeriad Mr. Jones, yn rhwym o ddyfod dan ein sylw yno, nid rhaid i ni aros llawer ar hyny yma. Cafodd Mr. Jones fyw i weled yr ystorm wedi myned heibio - y rhwyg wedi ei gyfanu  - heddwch wedi ei adfer- a theimladau i raddau dymunol wedi eu heddychu.

Ar sefydliad yr Athrofa Ogleddol, dewiswyd Mr. Jones yn athraw, a sefydlwyd ar y Bala, fel y lle cymhwysaf i'w chynal, a derbyniodd yntau yr apwyntiad. Yn mhen amser, gwelodd Mr. Jones yn angenrheidiol i ddatod ei gysylltiad gweinidogaethol a Llanuwchllyn, lle y bu am wyth-mlynedd-ar-hugain, a symudodd i'r Bala, lle y treuliodd weddill ei oes. Cyflawnodd ddyledswyddau ei swydd fel athraw gyda'r gofal manylaf, ac ni bu neb erioed yn fwy cydwybodol yn cyflawni yr ymddiriedaeth a roddwyd iddo. Dysgai y myfyrwyr yn yr hyn a dybiai yn fwyaf angenrheidiol arnynt, a'r hyn a'u gwnai, ar ol gadael yr athrofa, yn ddefnyddiol yn y weinidogaeth. Arolygai yn fanwl dros eu holl arferion. Dichon y tybiai rhai ef yn rhy lym mewn pethau bychain, ond credai ef fod blysiau a chwantau o bob math i gael eu darostwng dan lywodraeth deall a rheswm. Yr oedd arfer myglys, neu ymwneyd a diodydd meddwol, yn arferion nas gallasai eu harbed, ac edrychai arnynt yn rhy beryglus i gellwair a hwy. Nid oedd profedigaeth iddo ef mewn dim o'r fath, a gallasai yn anad neb ddyweyd gyda Paul, " ni'm dygir i dan awdurdod gan ddim." Yr oedd yn feistr perffaith ar holl flysiau y cnawd, ac nis gallasai oddef gweled dynion ieuaingc oedd a'u gwynebau ar waith cysegredig y weinidogaeth, yn cellwair ag arferion oedd yn peryglu eu dwyn yn gaethion iddynt. Ystyriai ef mai rhan hanfodol o grefydd oedd " croeshoelio y cnawd, ei wyniau, a'i chwantau." Nerth a chywirdeb oeddynt linellau amlycaf ei gymeriad, ac yr oedd mor ffyddlawn i argyhoeddiadau ei gydwybod,  fel nad oedd perygl iddo fradychu yr hyn a gredai oedd wirionedd. Buasai ychydig yn ychwaneg o dynerwch ac ystwythder yn ei wneyd aelod hapusach o gymdeithas ac arbedasai iddo ei hun, drwy hyny, lawer o'i ofidiau, ond yr oedd wedi tybied fod pob cyfrwyddiant felly yn fradychiad ar y gwirionedd, ac yn anffyddlondeb i gydwybod, a'i bwngc mawr ef wastad oedd "ymarfer i gael cydwybod ddirwystr tuag at Dduw a dynion." Dilynodd yr hyn a farnai yn ddyledswydd, hyd yr nod i'w anfantais ei hun, a gwnaeth fwy nag a allasai ei natur, er cryfed oedd, ymgynal dano, rhag i neb gael achlysur i ddyweyd ei fod yn anffyddlon i'r ymddiriedaeth a roddwyd ynddo. Ni dderbyniai ond 30p. y flwyddyn fel athraw yr athrofa, ond gwnai, yr holl waith mor onest a phe talesid iddo 300p. y flwyddyn. Anonestrwydd y cyfrifasai ef dderbyn yr arian, er lleied y swm, heb wneyd y gwaith.

Yr oedd cylch weinidogaeth yn eang, oblegid heblaw y Bala a Thy'nybont, yr oedd Bethel, Llandderfel, a Soar, dan ei ofal, yr hyn yn nghyda'i

411

ddyledswyddau fel athraw, oedd yn ormod i'r dyn cryfaf. Teimlai yn achlysurol oddiwrth boen ac anhwyldeb am y ddwy flynedd olaf o'i oes, ond daeth y diwedd yn gynt nag yr oedd neb yn ddisgwyl. Bu farw Hydref 27ain, 1853, yn 68 oed, ac wedi bod yn agos i ddeugain mlynedd yn y weinidogaeth. " Daliodd gyffes ei obaith yn ddisigl hyd y diwedd," a bu farw fel y bu fyw, gan bwyso ar y gwirionedd. Nid oedd gan benillion fawr o ddylanwad arno wrth fyw, ac ni fynai bwyso arnynt wrth farw. Wrth ei weled yn ei boenau olaf yn cael ei arteithio, dywedai Mrs. Jones, "Wel fy anwylyd, y mae yn galed iawn," "nag ydyw," ebe yntau, yn ei ddull pwyllus, " byr ysgafn gystudd, yn odidog ragorol, yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant." Adroddodd Mrs. Jones yn ei glyw, y penill adnabyddus :-

" Ar lan'r Iorddonen ddofn, 'rwyn oedi'n nychlyd, Mewn blys myn'd trwy ac ofn, ei 'stormydd enbyd."

"Na,  na, dim ofn - Ysgrythyr, fy anwylyd - Ysgrythyr." Darllenwyd iddo y drydedd Salm ar hugain, a phan ar ganol y geiriau, "Ie pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed," dywedodd yn orfoleddus, " Dyna, dyna, fy anwylyd, dyna graig yn awr," a bu farw gan bwyso ar y graig. Claddwyd ef Hydref 31ain, 1853, yn mynwent Hen Gapel, Llanuwchllyn, ac yr oedd mwy na deg-ar-hugain o weinidogion y gwahanol enwadau, gyda thorf alarus, yn ei ddwyn i'w gladdu, ac yr oedd y galar a amlygid y fath, fel yr oedd yn amlwg i bawb fod "tywysog a gwr mawr yn Israel wedi syrthio."

  

TYNYBONT

(Llanfawr parish)

Mae y lle hwn yn nhref-ddegwm Cil Talgarth, o fewn pedair milldir i'r Bala. Ymddengys fod yr achos yma yn hen, a bod y capel wedi ei godi mor foreu, os nad yn foreuach, na chapel y Bala. Fel y crybwyllasom, y mae y cyfrifiad a roddodd Mr. Job Orton i Mr. Josiah Thompson yn gwneyd rhif y rhai a ymgynnullent yma yn 260, er fod yn anhawdd genym gredu eu bod mor lluosog. Mr. Daniel Gronow oedd y gweinidog pan godwyd y capel. Eiddo un Thomas Jones oedd tir Tynybont, ac efe a roddodd le i adeiladu y capel arno. Gwerthwyd tyddyn Tynybont gan Thomas Jones, i Mr. Price, Rhiwlas, a chan nad oedd Thomas Jones wedi trosglwyddo y capel trwy weithred i ymddiriedolwyr, aeth yn eiddo i Mr. Price gyda'r tyddyn. Buwyd yn talu 3p. y flwyddyn o ardreth i Simon Jones, mab y dywededig Thomas Jones, oblegid mai efe oedd tenant Mr. Price yn Nhynybont ; ond oblegid i Simon Jones dori rhyw bren ar y tir, digiodd Mr. Price wrtho, a rhoddodd brydles i'r eglwys ar y capel, a dyna y, pryd y daeth yn feddiant i'r eglwys. Gadawodd Robert Griffith, o'r Garneddlwyd, 2p. at yr achos ei ewyllys, ac o log y rhai hyny y mae Edward Jones, mab-yn-nghyfraith Robert Griffith, yn talu swllt y flwyddyn o gydnabyddiaeth i Mr. Price, Rhiwlas. Nid oedd y capel cyntaf ond un syml a diaddurn iawn ; ond ad-drefnwyd ef tua'r flwyddyn 1857. Tynwyd ymaith yr hen oriel, fel y mae yn awr yn gapel bychan cyfleus. Costiodd y cwbl tua 40p., a thalwyd yr holl ddyled. Mae y lle yma wedi bod o'r dechreuad mewn cysylltiad gweinidogaethol a'r Bala ; ac felly y mae yn parhau. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf, ond y mae

412  

yma ffyddloniaid wedi bod " yn sefyll yn nhy yr Arglwydd y nos." Bu teulu Coedyfoel o gryn swcr i'r achos, a choffeir yn arbenig am Dorothy. Jones, Coedyfoel, fel gwraig ragorol. Yr oedd yn un o'r rhai a gymerai ddyddordeb mawr yn nadleuon duwinyddol dechreuad y ganrif hon, a gwrandawai yn graff ar bob dyn dyeithr a ddenai heibio, er deall beth ydoedd. Daeth Mr. Arthur Jones, o Fangor, (Dr. Jones wedi hyny,) heibio unwaith, ond er gwrando yn astud, methodd hen dduwinyddes Coedyfoel, a gwneyd allan pa beth ydoedd ef, na'r dyn ieuangc a bregethai o'i flaen. Wedi myned i'r ty, gofynai yn bur siomedig, "Wel, ddynion, pa'm bregethwch chi be' ydach chi ?"  " Well i mi bregethu Crist i chwi, na phregethu beth ydwyf fi," ebe Dr. Jones, gyda'r parodrwydd ymadrodd oedd mor nodedig ynddo ; a gwelodd Dorothy Jones nad gwr i wneyd yn hyf arno oedd y pregethwr o Fangor. Codwyd capel bychan tua diwedd y ganrif ddiweddaf, mewn cysylltiad a Thynybont, ar dir Mr. Price, Rhiwlas, yn Tynant, yn Nghwmtirmynach. Ni chafwyd prydles ar y tir, ac yr oedd yn rhaid codi y ty a chorn simdde arno, fel na feddyliai neb wrth fyned heibio nad ty anedd oedd ; ac nid oedd pulpud i gael ei roddi ynddo, oblegid mai yn dy ysgol, ac yn lle i gynal cyfarfodydd achlysurol yn nglyn a Thynybont, y bwriadwyd ef. Ond rhoddwyd pulpud bychan ynddo, ac aeth rhyw rai prysur i Rhiwlas i hysbysu hyny, a'r diwedd fu cloi y lle, a throi yr addolwyr allan.*

Codwyd i bregethu yn yr eglwys hon :-

  

LLANUWCHLLYN

Yn y flwyddyn 1737, yr ydym yn cael Meurig Dafydd, Weirglawdd-y- gilfach, yn y Bala, yn gwrando Mr. Lewis Rees, o Lanbrynmair, pregethu. Nis gwyddom pa beth harweiniodd yno. A oedd yn digwydd bod yn y dref eisioes, ac iddo yn ddamweiniol droi i mewn i wrando beth oedd gan y pregethwr i ddyweyd, ai ynte a aeth efe yno yn ei unswydd, gan ewyllysio clywed y dyn. Nid oes neb a all ateb yr ymholion hyn, a gwaith ofer yw i ninau geisio dyfalu. Beth bynag, yr ydym yn cael Meurig Dafydd yn yr oedfa, ac oedfa nodedig iddo ef ydoedd, canys dygwyd ef ynddi i adnabod ei gyflwr, a'r drefn i'w gadw trwy y Gwaredwr. Ar y diwedd, gwahoddodd Mr. Rees i bregethu i'r Weirglawdd-y-gilfach, a'r hyn y cydsyniodd, ac ar yr amser apwyntiedig, daeth yn ol ei addewid. Yr oedd Meurig Dafydd, fel Cornelius, o'r blaen wedi bod yn ddiwyd yn gwahodd ei gymydogion a'i geraint i'w dy erbyn oedfa, a phan ddaeth Mr. Rees yno, cafodd gynnulleidfa luosog yn ei ddisgwyl. Ond y mae yr olwg arnynt yn ddyeithr iddo. Mae pob un, gwryw a benyw, a'i hosan yn ei law, ac yn brysur yn gwau, yn ol arfer y wlad. Eisteddai Mr. Rees wrth y tn i ddisgwyl amser dechreu, a thaflai ei lygaid ar ei ddarpar wrandawyr yn awr ac eilwaith, er gweled a oedd dim tebyg iddynt i roddi heibio, ond ni welai un arwydd. O'r diwedd, cododd i fyny, ac agorodd y Bibl yn araf, gan ddisgwyl y buasai hyny arwydd iddynt i roddi heibio, ond nid oedd dim yn tycio. Dechreuodd

*Llythyr Mr. J. Peter, Bala.

413

ddarllen, a thaflai gil ei lygaid arnynt, ond yr oedd eu dwylaw yn brysur gyda'r gweill. Gwnaeth rai nodiadau, gan dybied y buasai hyny yn galw eu sylw, ond pa faint bynag o sylw a dalai eu llygaid a'u clustiau, ni lonyddai eu dwylaw. Penderfynodd droi at Dduw mewn gweddi, a'r olwg ddiweddaf a gafodd cyn cau ei lygaid oedd, pob un yn ddiwyd yn gwau ei hosan. Ond wedi dechreu gweddio, cafodd nerth gyda Duw, fel yr anghofiodd hwy yn fuan. Deallodd wrth yr ocheneidiau a glywai fod Duw yn wir yn y lle, a phan yr agorodd ei lygaid ar ddiwedd y weddi, gwelai bob hosan a gweill wedi syrthio i'r llawr fel " taenfa rhwydau," a phob gwyneb wedi ei wlychu gan ddagrau. Dyna yr oedfa gyntaf erioed, hyd y mae genym sicrwydd, gan yr Ymneiliduwyr yn mhlwyf Llanuwchllyn. Wedi bod yno drachefn ar Sabboth, ar gais Meurig Dafydd a'r bobl, anogodd Mr. Rees, Meurig Dafydd i gofrestru ei dy i bregethu, fel y byddai yn ddiogel dan nawdd y gyfraith rhag pob ymosodiad. Ond teimlai Meurig Dafydd yn ddigalon i wneyd hyny, rhag na chawsai bregethwr iddo ar ol ei drwyddedu, a dywedai "pe gwyddwn y cawn i bregeth unwaith yn y flwyddyn mi wnawn." Addawodd Mr. Rees y rhoddai fwy na hyny - y deuai yno unwaith bob tri mis. Llonodd Meurig Dafydd yn fawr pan glywodd hyny, a thrwyddedodd ei dy, a chafwyd addoliad rheolaidd yno o hyny allan, a ffurfiwyd yno eglwys yn fuan. Mae Weirglawdd-y-gilfach mewn cwm anghysbell, rhwng Llanuwchllyn a chyfeiriad Dinasmawddwy, yn nghesail Aran Benllyn, ac yma yn benaf y cyfarfyddai y gynnulleidfa, hyd nes yr adeiladwyd y capel. Buwyd yn addoli hefyd yn Nantydeiliau, lle yr oedd un o'r aelodau, o'r enw Dafydd Stephen, yn byw ; ac am ddwy neu dair blynedd cyn codi y capel, addolid yno bob yn ail a Gweirglawdd-y-gilfach. Rhoddwyd galwad gan yr eglwys, pan yn Weirglawdd-y-gilfach, i un Mr. Thomas Evans, i fod yn weinidog. Gwr o'r Deheudir ydoedd. Gelwid ef Mr. Evans, Talardd, oblegid iddo briodi a chwaer Mr. Thomas Owen, Talardd, amaethwr, a thirfeddianwr cyfrifol oedd yn byw yn ymyl Weirglawdd-y-gilfach, ac ymddengys i Mr. Evans fod yn byw ac yn cadw ysgol yn Talardd. Nid oes genym sicrwydd pa bryd y daeth Mr. Evans yma, ond yr oedd yma yn 1744, canys yr oedd y flwyddyn hono yn derbyn arian o drysorfa y Presbyteriaid, a bu yma beth bynag hyd 1757, canys yr ydym yn cael ei enw y flwyddyn hono hefyd, yn derbyn o'r un drysorfa, fel gweinidog Llanuwchllyn. Y mae yn eglur, gan hyny, ei fod ef yma cyn codi y capel, ac mai yn yspaid ei weinidogaeth ef y bu hyny Wedi i'r eglwys gynyddu yn Weirglawdd-y-gllfach, a bod llawer o'r aelodau yn byw i lawr yn ngwaelod y plwyf, penderfynwyd fod yn well cael capel mewn rhyw le canolog, fel y gallai yr holl frawdoliaeth gydymgynnull i fwynhau cymdeithas eu gilydd. Gosodwyd ar Meurig Dafydd, Weirglawdd-y-gilfach, a Thomas Cadwaladr, i fyned at Dafydd Stephen, Nantydeiliau, i geisio lle i'w godi ar ei dir ef. Llwyddasant yn eu hamcan, a chodwyd yno gapel cyfleus i'r gynnulleidfa.* Dyddiad weithred gyntaf ydyw 1745, ond y flwyddyn ganlynol, fel yr ymddengys, y codwyd y capel. Arferai boneddwr o Loegr, Mr. Twanley, gwr duwiol, selog, a haelfrydig o Kidderminster, ymweled a Llanuwchllyn a'r amgylchoedd, ar adeg ffeiriau i brynu anifeiliaid. Wrth weled amddifadrwydd yr ardal o le addoliad, rhoddodd bob cefnogaeth i'r cyfeillion yn y lle i godi capel. Cyfranodd ei hun, a chasglodd oddiar eraill

*Ysgrifiau Rhys Mynwy ; Y Dydd, Awst 28ain, 1868.

 

  CONTINUED

 


(Last updated : 8 May 2008 : Gareth Hicks) Valid HTML 4.01 Transitional

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI