GENUKI Home page

Merionshire Merionethshire     Contents Contents
 

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

MERIONETHSHIRE   (Vol 1)

Pages 428 - 441

See main project page

Proof read by Maureen Saycell (May 2008)

Chapels below;

 


Pages 428 - 441

428

(Continued) DINAS MAWDDWY

fywiad yn Nghwmtafolog a'r Dugoed yn 1805, ac ychwanegwyd amryw at yr eglwys ; ac yn 1807 bu un llawer grymusach ; ac yn y flwyddyn 1808 helaethwyd capel y Dinas. Yn y cyfnod yma y sefydlwyd Ysgolion Sabbothol yn y Dinas a Llanymawddwy, a Chywarch, a Cherist, a'r Groeslwyd, a chymydogaeth Bethsaida; a chariasant ddylanwad daionus ar y wlad oll. Yn y flwyddyn 1821, codwyd capeli bychain yn Llanymawddwy a Bethsaida, a thalwyd am danynt ; a thrwy lafur Mr Hughes a'r eglwys, dan fendith yr Arglwydd, llwyddwyd i ddwyn y Dinas a'r amgylchoedd yn lled gyfan dan ddylanwad yr efengyl. Ond yr oedd Mr Hughes yn heneiddio, a'i ddyddiau yn nesau i farw ; ac ar y dydd olaf o'r flwyddyn 1826, hunodd mewn tangnefedd, wedi llafurio yn y cylch eang yma am yn agos i 30 mlynedd.

Yn mhen dwy flynedd i'r Sabboth y bu farw Mr Hughes, daeth Mr John Williams, myfyriwr o athrofa y Drefnewydd, yma i weinidogaethu, ac urddwyd ef Chwefror 18fed a'r 19eg, 1829. Ar yr achlysur traddodwyd y gynaraeth gan Mr J. Roberts, Llanbrynmair ; holwyd y gweinidog gan Mr H. Lloyd, Towyn ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr M. Jones, Bala, a phregethodd E Davies, athraw yr athrofa yn y Dref-newydd, ar ddyledswydd y gweinidog, a Mr D. Morgan, Machynlleth, ar ddyledswydd yr eglwys Gweinyddwyd hefyd gan Meistri J. Humphreys, Towyn; H. Morgan, Sammah; M. Evans, Llacharn; E. Evans, Abermaw; H. Pugh, Llandrillo ; I. Davies, Llanfair; C. Jones, Dolgellau ; Williams, Ffestiniog, ac E. Rowlands, Rhoslan.* Yr oedd Mr Williams yn bregethwr poblogaidd a chynes, a bu yn hynod o ymdrechgar fel gweinidog, a chynyddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa trwy ei lafur. Yn 1832, ail adeiladwyd y capel, a gwnaed ef yn helaethach, a chodwyd ysgoldy bychan yn nglyn ag ef er cynal ysgol ddyddiol. Codwyd hefyd ysgoldy yn Nghywarch er cynal Ysgol Sabbothol, a phob moddion yn achlysurol. Llafuriodd Mr Williams yma am ddeng mlynedd, nes yn 1839, y derbyniodd alwad o Aberhosan a Phenegos, lle y treuliodd weddill ei oes. Yr ydym eisioes wedi cyfeirio at ei fywyd, a'i gymeriad, a lafur yn nglyn ag eglwys Penegos. Yn y flwyddyn 1840, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr Robert Thomas, genedigol o Lanuwchllyn, ond yr hwn oedd yn aros ar y pryd hwnw yn Nghonwy ; ac urddwyd ef Mehefin 18fed a'r 19eg, 1840. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gam Mr S. Roberts, Llanbrynmair ; holwyd y gofyniadau gan Mr C. Jones, Dolgellau ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr E. Davies, Trawsfynydd ; a phregethodd Mr M. Jones, Bala, i'r gweinidog, a Mr E. Evans, Abermaw, i'r eglwys. Cymerwyd rhan hefyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan Meistri H. Morgan, Sammah; E. Hughes, Treffynon ; H. Lloyd, Towyn E. Griffiths, Llanegryn ; J. Parry, Machynlleth, ac E. Roberts, Marton, (Cwmafon.) #  Bu Mr Thomas yma am tua dwy flynedd yn nodedig o boblogaidd, ac yr oedd y tymor hwnw yn dymor llewyrchus iawn ar grefydd trwy yr holl wlad, a phrofodd y Dinas oddiwrth effeithiau yr ymweliad grasol. Yn yr adeg yma codwyd ysgoldy Hermon, Cerist. Derbyniodd Mr Thomas alwad cyn diwedd 1842 oddiwrth yr eglwys yn Salem, Liverpool, a symudodd yno yn nghanol ei boblogrwydd yma. Yn y flwyddyn 1843, derbyniodd Mr John Thomas o Fachynlleth, and a fuasai dan addysg yn Windsor, Liverpool, alwad oddiwrth yr eglwys

**Dysgedydd, 1829. Tudal 117.  # Dysgedydd, 1840. Tudal. 288.

429

ac urddwyd ef Medi 29ain, 1843. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr C. Jones, Dolgellau, holwyd y gweinidog gan Mr H. Morgan, Sammah; gweddiodd Mr J. Williams, Aberhosan; pregethodd Mr H. Llwyd, Towyn i'r gweinidog, a Mr S. Roberts, Llanbrynmair i'r eglwys. Pregethwyd hefyd yn oedfaon y dydd. gan Meistri T. Edwards, Ebenezer D. Davies, Berea; J. H. Hughes, Llangollen; W. Roberts, Penybontfawr; H. James, Llansantffraid, ac E. Evans, Abermaw. * Ymroddodd Mr Thomas a'i holl egni yn y tymor byr y bu yma, ond symudodd yn 1845, i gymeryd gofal yr eglwys Gymreig yn Amwythig. Yn y flwyddyn 1848, rhoddwyd galwad i Mr Edward Williams, aelod o Blaenafon, ond a fuasai dan addysg yn Hanover, ac urddwyd of Ebrill 26ain a'r 27ain, 1848. Ar yr achlysur traethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Williams, Aberhosan ; holwyd y gofyniadau arferol i'r gweinidog gan Mr H. Morgan, Sammah ; offrymwyd y weddi am fendith ar yr undeb gan Mr C. Jones, Dolgellau. ; pregethodd Mr E. Griffiths, Blaenafon, i'r gweinidog, a phregethodd Mr R. Thomas, Liverpool, i'r eglwys. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri J. Davies, Brynbiga; E. Roberts, Foel, J. Roberts, Llanbrynmair; R. Ellis, Brithdir ; W. Roberts, Penybontfawr; R. Edwards, Rhydymain, a G. Evans, Pennal. Mae Mr Williams wedi llafurio yma yn ddiwyd am dair-blynedd-ar-hugain, ac nid yn ofer ychwaith. Mae yma dri o ysgoldai yn perthyn i'r eglwys yn y cymoedd cymydogaethol, y rhai a elwir Bethlehem, Hermon, a Salem, a chynhelir ynddynt ysgolion bob Sabboth a chyfarfodydd gweddi, a phregethu achlysurol, ond daw yr holl ganghenau yn nghyd i'r Dinas i'r oedfa, ddau or gloch bob Sabboth. Yn y flwyddyn 1868, adeiladwyd capel newydd mewn safle llawer mwy manteisiol na'r un y safai yr hen gapel arno; ac er iddo gostio 1150, agorwyd ef Hydref 30ain, 1868, yn rhydd o ddyled, ac y mae rhestr y tanysgrifiadau, yr hon sydd wedi ei chyhoeddi, yn anrhydedd i'r gweinidog eglwys, ac i'w cyfeillion y to allan, y rhai a'u cynorthwyasant.

Bu yma lawer o wyr rhagorol yn mysg y brodyr yn perthyn i'r eglwys hon. Heblaw y saith oedd yn cychwyn yr achos, y mae olynwyr iddynt yn glynu wrth yr Arglwydd. Meibion i'r John Evans a enwyd oedd Richard Evans a Rowland Evans, (Morben), a Morris Evans, (Lacharn), heblaw brodyr eraill o'r un teulu, ac mae llawer o'i wyrion yn gwasanaethu Duw eu tadau, ac yn llenwi cylchoedd o ddefnyddioldeb mawr mewn eglwysi yn Nghymru a Lloegr. Yn mysg y rhai a fu yn gwasanaethu fel swyddogion yn yr eglwys yma, yr ydym yn cael enwau Rowland Griffith, John Jones, Ceinan; Evan Jones, Castell; John Rowlands, Allt; Lewis Roberts, Llwyni; Evan Evans, Nant-yr-hedydd ; John James, Tygwyn ; Rowland Evans, Dolobran; Richard Evans; Dinas ; Richard Rowlands, David Jones, Llwynygrug, a John Jones, Tydu. Coffeir yn barchus am John James, Tygwyn, (tad Mr H. James ) un o gedyrn crefydd yn ei oes, ac un nas gallesid yn fuan ei symud oddiwrth y ffydd, ac yr oedd ef a Richard Evans, Dinas, a Rowland Evans, Dolobran, yn mysg y rhai mwyaf amlwg o'r rhai a fu yma gyda'r achos.

Codwyd i bregethu yn yr eglwys hon :-

* Dysgedydd, 1843. Tudal. 249.   # Dysgedydd, 1848. Tudal; 187.

430

Mae Thomas Davies, Dinas ; Edward Evans, Llwyndu ; Lewis Jones, Bwlch ; Morris Evans, Dinas, a Robert Evans, Llwyngrug, yn ddiaconiaid yn yr eglwys yn bresenol, ac y mae rhifedi yr aelodau yn fwy na chant a haner, ac nid yw yr achos heb arwyddion fod yr amddiffyn ar yr holl ogoniant,

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

WILLIAM HUGHES. Ganwyd ef yn Rhos-cyll-bach, plwyf Llanystumdwy, Sir Gaernarfon, yn mis Mai, 1761. Yr oedd ychydig gloffni arno yn naturiol, ac aeth ei rieni ag ef pan yn blentyn at Mr John Thomas, gweinidog Pwllheli, i ofyn a oedd yn tybied y gallasai y meddygon wneyd rhyw les iddo, ond cynghorodd Mr Thomas hwy i adael iddo, gan mai gwaith yr Arglwydd ydoedd, y buasai iddo ef ofalu am dano, a dichon yr ai trwy y byd yn gystal ag un o'u plant. Derbyniwyd ef yn aelod yn Mhenlan, Pwllheli, pan oedd yn ugain oed, ac yn fuan cymhellwyd ef ddechreu pregethu. Pregethodd ei bregeth gyntaf yn y Capel Newydd, Lleyn, ar y geiriau, "Edifarhewch, gan hyny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau." Treuliodd ychydig amser yn Llanuwchllyn dan addysg gyda Mr A. Tibbot, ond yn y flwyddyn 1788, aeth i Fangor a'r amgylchoedd i lafurio, ar gais gweinidogion y wlad yn benaf. Urddwyd ef yn Caegwigin, (Bethlehem yn awr,) yn y flwyddyn 1789, ac yr oedd Meistri B. Jones, Pwllheli ; D. Lloyd, Dinbych; A. Tibbot, Llanuwchlyn, a G. Lewis, Caernarfon, yn cymeryd rhan yn ngwasanaeth ei urddiad. Trwy ymdrech caled y llwyddodd i gael lle i'r achos roddi ei droed i lawr yn Mangor. Yr oedd tir ar werth yn Tyddynordor, fwy na haner milldir o'r dref, ar ffordd Caernarfon, ond ni fynai ei berchenog ei werthu i weinidog Ymneillduol, ond rhoddodd yr Arglwydd yn nghalon un David Owen, crydd, i brynu y tir, ac i ganiatau darn o hono at godi addoldy bychan, yr hwn trwy ddiwydrwydd Mr Hughes a godwyd, a thalwyd am dano. Dyoddefodd fesur o erledigaeth yn achos yr efengyl, a phan yn pregethu Llanrwst unwaith, ymosodwyd arno, a dygwyd ef ger bron yr ynadon, a dirwywyd ef iddo dalu deg punt, a chadwyd ef yn nwylaw creulawn yr heddgeidwaid nes ddo dalu yr arian, neu ryw rai i dalu drosto. Barnai pawb fod y dirwyad yn anghyfreithlon, ond gwell oedd gan Mr Hughes oddef cam, na chodi terfysg. Teimlodd pobl Bangor yn fawr pan glywsant am ei helbul, oblegid cyfrifai pawb ef y diniweitiaf o feibion dynion. Priododd yn y flwyddyn 1790, a Margaret, merch Ellis Roberts, Tyddynyddol, gerllaw y Bala, o ba un y bu iddo ddeg o blant. Mab iddo ef ydyw Mr Ellis Hughes, Penmain, Mynwy, ac y mae Mr William Hughes, mab

431

arall iddo, yn ddiacon parchus yn yr eglwys gynnulleidfaol yn y Crescent, Liverpool, dan ofal Mr J. Belly, ac un o'i ferched ydyw gwraig Mr H. Morgan, Sammah, ac y mae ei ferched eraill, y rhai a dyfasant i fyny, wedi llenwi eu lle fel gwragedd rhinweddol. Yn nechreu y fiwyddyn 1797, symudodd Mr Hughes i Dinasmawddwy, ac yno y llafuriodd hyd ddiwedd ei oes, fel " gweinidog da i Iesu Grist." Mewn llafur dibaid, mewn gostyngeiddrwydd diddichell, mewn duwioldeb diamheuol, mewn gofal bugeiliol, mewn gweinidogaeth Ysgrythyrol, ac mewn awydd cyson am wneyd daioni, nid oedd Mr Hughes yn ail i neb yn ei oes. Dywed M. J. Roberts, Llanbrynmair yn ei gofiant iddo :- " Mae yn sicr nad oes neb yn fyw yn bresenol yn mhlith yr Ymneillduwyr a deithiodd gymaint ar hyd Cymru i bregethu yr efengyl a Mr Hughes. Arferai bob blwyddyn wneyd taith go hir trwy ranau o'r Gogledd a'r Deheu. Ar y teithiau hyny, pregethai yn gyffredin dair gwaith y dydd, a sicrhai ei bregethau dwys a'i ymddygiad boneddigaidd a duwiol, iddo barch mawr gan bawb oedd yn ofni yr Arglwydd. Ymddangosai bob amser pan yn pregethu ei fod dan ystyriaeth ddifrifol o bwys ei waith, ac o fawredd canlyniadau i'w wrandawyr, pa un a wnaent ar gwrando ai peidio. Ardderchawgrwydd penaf ei bregethau oedd, eu bod oll yn Ysgrythyrol. Yr wyf yn cofio pan glywais ef gyntaf yn Llanbrynmair, yn y flwyddyn 1784, fy mod yn meddwl fod yn rhaid ei fod yn cofio yn mron yr holl Fibl. Nodwedd mwyaf eglur Mr. Hughes oedd duwioldeb gwastad. Yr oedd yn wastad yn rhodio megis ger bron yr Arglwydd. Gofalus iawn ydoedd na ddeuai un ymadrodd llygredig allan o'i enau. Nid wyf yn meddwl fod neb yn llettya meddyliau gwaelach am dano ei hun nag efe. Pan fyddai yn dyweyd ychydig o'i brofiad gyda'i frodyr mewn cyfeillachau neillduol yn ein Cymanfaoedd, byddai bron bob amser dan ddwys deimlad o'i wendidau, ac nid anfynych byddai yn dyweyd fod llawer o anmheuon yn ei feddwl yn nghylch ei gyflwr ei hun. Byddai yn arfer dyweyd ei brofiad ar yr achlysuron hyn mor deimladwy a thoddedig, fel yr oedd yn anhawdd i neb ei glywed ef a'i lygaid yn sychion. Mae pawb a'i hadwaenai yn gwybod ei fod yn cyfateb i'r desgrifiad a wneir gan Paul o ddyn duwiol, yn 1 Corinthiaid xiii." Sonir gan y rhai a'i clywsant yn arbenig am dano fel gweddiwr, ac mor afaelgar ac ymdrechgar ydoedd. Dywedai un brawd ffraeth unwaith, y ceid cyfarfod cyflawn ond cael Hughes o'r Dinas i weddio, Williams o'r Wern i bregethu, a Roberts, Llanbrynmair i wylo. O ran ei berson yr oedd Mr Hughes yn ddyn mawr, esgyrniog, ac yn camu ychydig yn ei war. Dywedir gan hen bobl, fod ei fab, Mr Hughes, Penmain, fel y mae yn heneiddio, yn myned yn fwy- fwy tebyg iddo. Gwisgai fynychaf yn blaen, mewn dillad gwlad,. gyda napcyn sidan India am ei wddf, ond yr oedd yn wastad yn lan a thrwsiadus, a llafuriodd yn y weinidogaeth mewn amser ac allan o amser, heb arbed ei gorph. Cyfarfu a phrofedigaethau chwerwon, gwelodd gladdu amryw o'i blant, ac yn neillduol bu y ddamwain anguol a gyfarfu ei fab, John, yn mis Mai, 1811, yn brofedigaeth danllyd iddo ef a'i anwyl briod. Yr oedd yn fachgen 15 oed, ac yn egwyddorwas gyda Miss Mary Ann Jones, yn Llansantffraid, as wrth geisio atal yr anifail oedd ganddo yn y drol rhag rhedeg, tarawyd ef yn ei ben gan y drol, fel y bu farw yn mhen wyth niwrnod. Claddwyd ef yn mynwent capel, y Simiau, a chanodd dad alargan ar yr achlysur. Mae yn llawn o syniadau prydferth, yn neillduol o deimlad dwys. Ond ei holl brofedigaethau daliodd ymddiried

432  

yn ei Dduw. Mae ei enw yn perarogli hyd heddyw yn Ninasmawddwy, a'r holl ardaloedd cymydogaethol; a dywed Mr. Williams o'r Dinas wrthym, " er teithio yn fynych ar hyd ei lwybrau, ac yn mysg y rhai a'i hadwaenent orau, ni chawsom erioed yr un awgrym ond oedd dda a pharchusol am dano."

Nid oes ond un arall o'r gweinidogion a fu yn y Dinas wedi gorphen eu gyrfa, a gwnaethum gyfiriad eisioes ato ef yn nglyn ag eglwys Penegos, ac am y brodyr eraill a fu yma, a'r brawd sydd yma, gobeithio fod y dydd yn mhell pan y gelwir ar neb i ysgrifenu eu cofnodion bywgraphyddol.

 

BETHSAIDA

(Mallwyd parish)

Mae y lle hwn yn Mhenrhiwcil, heb fod yn mhell o Lidiart-croes-y-Barwn, lle y llofruddiwyd Lewis Owen, Yswain, hen daid yr enwog Dr. John Owen, yn nheyrnasiad y Frenhines Elizabeth, gan y Gwylliaid Cochion. Pregethwyd llawer gan Mr Hughes yma cyn codi Bethsaida. Adeiladwyd y capel yn 1821, yr un flwyddyn ag y codwyd capel Llanymawddwy, ac agorwyd ef Mai 29ain a'r 30ain. Ar yr achlysur, pregethwyd y noson gyntaf gan Meistri H. Lloyd Towyn ; a J. Lewis, Bala. Dranoeth, am ddeg, pregethodd Meistri M. Jones, Llanuwchllyn ; J. Jones, Main ; ac E. Davies, Rhoslan. Am ddau, pregethodd Meistri W. Morris, Llanfyllin ; a D. Morgan Machynlleth. Am chwech, pregethodd Meistri J. Ridge, Penygroes; J. Davies, Llanfair; a C. Jones, Dolgellau. Corpholwyd yma eglwys yn 1832, gan Mr J. Williams ; ac y mae y lle o'r dechreuad dan un weinidogaeth a'r Dinas. Mae yma achos llewyrchus iawn  - cynnulleidfa o bobl astud, ddeallgar, ac yn ymhyfrydu yn fawr yn mhethau yr efengyl. Rhifa yr aelodau oddeutu triugain. Codwyd yma un pregethwr, sef William Griffiths, yr hwn sydd yn bresenol yn athrofa y Bala. Gwasanaethwyd swydd diaconiaid yn dda yma gan John Jones, Yr Allt, ac Evan Evans, Nantyrhedydd; ac y mae Hugh Jones, Tymawr, ac Owen Jones, Nantydugoed, yn olynwyr iddynt.

 

LLANYMAWDDWY

Already translated etc, see  http://www.genuki.org.uk/big/wal/MER/Llanymowddwy/Hanes.html

"Codwyd capel yma, trwy lafur Mr. W. Hughes, Dinas, yn y flwyddyn 1821. Agorwyd ef Mai 30ain a'r 31ain, o'r flwyddyn hono. Pregethwyd ar yr achlysur gan Meistri M. Jones, Bala ; H. Lloyd, Towyn ; W. Morris, Llanfyllin; D. Morgan, Machynlleth; C. Jones, Dolgellau; J. Ridge, Penygroes ; H. Hughes, Llechwedd; a J. Lewis, Bala. Bwriedid ef i wasanaethu fel ysgoldy, a lle i bregethu yn achlysurol, ac felly y bu hyd farwolaeth Mr. Hughes, ac am dymor wedi dechreuad gweinidogaeth Mr. J. Williams. Tua'r flwyddyn 1832 y corpholwyd yr aelodau yma yn eglwys Annibynol, ac y mae wedi parhau felly, ond dan yr un weinidogaeth a'r Dinas. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf, ond y mae yma nifer o bobl  ffyddlon. Rhifa yr aelodau o ugain bedwar-ar-hugain. Ni chodwyd yma yr un pregethwr. Bu John Jones, Tycanol, Hugh Thomas, Blaenfenant, ac Edward Evans, Brynuchaf, yma yn ddiaconiaid, a llenwir yr un swydd yn bresenol gan Evan Jones, Tycanol."

433

PENYSTRYD

(Trawsfynydd parish)

Mae y eapel hwn ar un o'r lleoedd uchaf yn mhlwyf  Trawsfynydd ; ac y mae y lle, a golwg hynafol yr addoldy, yn ein hadgofio o sefyllfa dra gwahanol ar Ymneillduaeth Cymru i'r hyn ydyw yn bresenol. Yr ydym wedi derbyn y rhan fwyaf o hanes yr eglwysi yn y plwyf hwn, a rhai o'r plwyfi cylchynol, oddiwrth yr hyharch Mr Edward Davies, Trawsfynydd ; a sicr genym, nad oes neb yn fyw mor alluog at hyn o orchwyl. Mae traddodiad yn mysg hen bobl y wlad hon, fod dau dy anedd yn mhlwyf Trawsfynydd wedi eu trwyddedu yn foreu i bregethu ynddynt, sef Tyddynsais, a Bronysgellog. Os yw hyny yn gywir, y tebygolrwydd yw, mai yn nyddiau Mr H. Owen, Bronyclydwr, a'i gydlafurwyr, y bu hyny. Bu teulu o gymydogaeth Llanuwchllyn, yn byw yn Hafodygarreg, Trawsfynydd, er's mwy na phedwar-ugain-mlynedd yn ol, a byddai yno foddion crefyddol, yn cael eu cynal yn awr a phryd arall, a byddai Lady Nanney, o Gefnddeuddwr, yn arfer a myned yno i addoli. Yr oedd march-faen, hyd yn ddiweddar, yn ymyl hen gapel Penystryd, a byddai y Lady Nanney yn arfer cerdded o ben ffridd y Tyddyndu at y march-faen, ac yna yn myned ar gefn ei cheffyl drachefn ; a byddai un John Garmons, o'r Rhiwgoch, yn annog rhyw anifeiliaid o ddynion, tebyg iddo ei hunan, i aflaneiddio y marchfaen, o ddirmyg arni am ei bod yn myned i gydaddoli a'r Annibynwyr. Ni sefydlwyd achos yma y pryd hwnw, ond pan ymadawodd y teulu hwnw o Hafodygarreg, arosodd pobl y gymydogaeth mor ddigrefydd ag o'r blaen. Yr oedd gwr o'r enw Mr Robert Price yn byw yn y Gilfachwen, Trawsfynydd - etifedd y Gerddibluog, a'r berthynas agosaf oedd yn fyw y pryd hwnw, i Mr Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd. Yr oedd gan Robert Price ferch o'r enw Jane, a hi oedd ei unig ferch, ac ymbriododd a Mr John Jones, o Aeddren, yn mhlwyf Llangwm, tua'r flwyddyn 1785. Yr oedd John Jones yn Annibynwr selog, ac yn aelod, mae yn debygol, yn Rhydywernen, cangen y pryd hwnw o'r eglwys yn Llanuwchllyn. Mae yn fwy na thebyg mai John Jones a berswadiodd  dad-yn-nghyfraith i ganiatau i ambell oedfa gael ei chynal yn y Gilfachwen. Mae yn amlwg mai Mr Abraham Tibbot, a Mr Robert Roberts, o Dyddynyfelin, a fu yn offerynol i sefydlu yr achos Annibynol yn Nhrawsfynydd. Ymunodd Mr Robert Price, a'i wraig, ac amryw eraill a'r Annibynwyr, a derbyniwyd hwynt yn aelodau yn hen gapel Llanuwchllyn, a byddent yn arfer myned yno i gymundeb bob mis am gryn amser.

Efallai mai nid annyddorol fyddai ychydig o hanes John Jones, o Aeddren, gan ei fod yn dal perthynas mor agos a dechreuad yr achos Annibynol yn Nhrawsfynydd. Yr oedd John Jones, fel y sylwyd, yn barod yn Annibynwr trwyadl, yn ddyn gwybodus a pharchus iawn yn ei gymydogaeth, ac yn fwy dysgedig na'r than fwyaf yn y dyddiau hyny. Ar ol y chwyldroad yn Ffraingc, yr oedd yn amser blin yn Lloegr, ac yn y rhan fwyaf deyrnasoedd y Cyfandir. Yr oeddynt yn codi yn fynych iawn. Meddyliodd llangciau Llangwm am sefyll yn erbyn hyny, a phenderfynasant fyned i Ddinbych i'r perwyl. Ni wyddai John Jones ddim am eu bwriad hyd nes yr oeddynt wedi cychwyn ; ond pan ddeallodd. eu bod wedi myned, cyfrwyodd ei anifail mor fuan ag y gallai, ac aeth ar eu hol i'w perswadio i fod yn llonydd, a llwyddodd i hyny. Gofynodd rhai o'r ustusiaid i'r llangciau, pa beth a'u boddlonai i fyned adref yn dawel ?

434  

Atebasant hwythau y gadawent i John Jones gytuno drostynt. Cynygiodd yr ustusiaid iddo ddeg swllt, fel y gallent gael tamaid i'w cario adref, a boddlonodd yntau i'w cymeryd, ac felly ymadawsant yn heddychlon a diderfysg. Yn mhen ychydig amser ar ol hyny, anfonwyd mintai o feirch-filwyr i ddal John Jones i'w roddi yn y carchar fel terfysgwr, ond yn ffodus, cafodd ef wybod am eu dyfodiad mewn pryd, a methasant a chael gafael arno, chwiliasant ei dy gyda dibrisdod a manylrwydd mawr, ond ni buont yn llwyddianus y tro hwnw. Ar ol hyn aeth John Jones i'r America, gan adael ei deulu ar ol i ymdaro fel y gallent. Yn mhen cryn amser dychwelodd o'r America, gan ddisgwyl y cawsai lonyddwch, ond nid felly a fu. Cymerwyd ef i'r ddalfa, a rhoddwyd ef yn ngharchar Rhuthin hyd y brawdlys. Y cyhuddiad a ddygwyd yn ei erbyn ydoedd, ei fod wedi mynu haner gini trwy drais oddiar yr ustusiaid. Parhaodd y prawf am ddau ddiwrnod, ond y dydd olaf o'r prawf, daeth dyn cyffredin yn mlaen, a thyngodd iddo weled John Jones yn derbyn haner gini o aur, gan un o'r ustusiaid, ac iddo yntau roddi chwe'cheiniog yn ol, yr hyn oedd yn profi yn amlwg fod yno gytundeb rhyngddynt, ac nas gallasai fod yno na thrais na gorthrech, a barnodd y rheithwyr ei fod yn cael ei gam gyhuddo, ac felly daeth yn rhydd o afaelion ciaidd y creuloniaid a fynent ei gosbi. Disgynodd y trallod a'r erledigaeth hon ar John Jones o herwydd ei fod yn Annibynwr !

Yn y flwyddyn 1789, cafwyd lle gan Meistri William a Robert Jones, o Dolgain, i godi y capel, a elwir yn gyffredin Capel Penystryd. Cafwyd prydles ar ddarn bychan a gwael o dir am 99 o flynyddoedd. Costiodd y lle ryw gymaint heblaw ardreth flynyddol o haner coron. Ymddiriedolwyr y capel oeddynt Meistri Abraham Tibbot, George Lewis, Benjamin Jones, a Robert Roberts. Agorwyd y capel tua diwedd y flwyddyn 1789, a chorpholwyd eglwys ynddo. Cangen o Llanuwchllyn yr ystyrid y lle am y ddwy flynedd gyntaf, a deuai Mr Tibbot a phregethwyr Llanuwchllyn yma dros y Feidiog er pellder a gerwinder y ffordd. Bu Mr Robert Price a'i briod yn gryn lawer o gymorth i'r achos yn nghymydogaeth Penystryd, yn enwedig yn ei ddechreuad. Efe fyddai yn myned i gyfarfodydd i ymofyn am gyhoeddiadau pregethwyr, a byddai ei ef yn agored i'w derbyn am flynyddau. Parhaodd ei briod ef yn ffyddlon gyda chrefydd hyd ddiwedd ei hoes, ond trodd ef yn wrthgiliwr cableddus, ac yn erlidiwr creulon ! Y fath resyn fod un a ddechreuodd mor addawus, yn dybenu mor druenus. Bu Robert Owen a'i briod yn byw flynyddoedd lawer yn y Gilfachwen, ar ol marw Robert Price, a buont yn ffyddlon ac yn ymgeleddgar iawn i'r achos ar hyd eu hoes. Tua'r flwyddyn 1792, daeth Mr William Jones yma. Yr oedd wedi hod am dymor yn Beaumaris, and nid ordeiniwyd ef yno, ond wedi iddo dderbyn galwad yr eglwys Mhenystryd, urddwyd ef Mai 22ain, 1792. Nid oedd yr eglwys yn gallu rhoddi ond ychydig iddo at ei gynhaliaeth. Mewn llythyr at y Trysorfwrdd Cynnulleidfaol, dyddiedig Awst 26ain, 1796, dywed mai 13 y flwyddyn oedd cwbl a dderbyniai o bob man at ei gynhaliaeth ef a'i deulu, a beth oedd hyny at gadw pump o honynt. Mae ei lythyr yn un o'r rhai mwyaf torcalonus o'r holl lythyrau y digwyddodd i m eu gweled, y rhai a anfonid gan weinidogion Cymru at reolwyr y Drysorfa, yn y dyddiau hyny. Hawdd deall ar ei lythyr ei fod mewn tlodi dwfn. Dywed ei fod ef a'i deulu yn gorfod byw yn aml ar fara haidd a llaeth enwyn. Nid rhyw lwyddiant mawr a fu ar ei weinidogaeth, er ei fod yn wr da,

435

ond siriolwyd ef yn niwedd ei oes trwy ymweliad nerthol oddiwrth yr Arglwydd. Cafodd Mr. Jones ergyd o'r parlys pan yn pregethu yn Nhowyn, ar ei ddychweliad o'i daith yn y De. Cyrhaeddodd adref, ond bu farw Hydref 30ain, 1820.

Wedi marw Mr Jones, rhoddodd yr eglwys yn Penystryd alwad i Mr Edward Davies, yr hwn oedd er's blynyddau yn weinidog yn Capelhelyg a Rhoslan, a chan fod Mr Davies yn flaenorol wedi priodi merch Gwynfynydd, Trawsfynydd, a thrwy hyny dan ryw fath o angenrheidrwydd i drigianu yn y wlad yma, cydsyniodd a'r gwahoddiad, a dechreuodd ei weinidogaeth yn Mhenystryd a Maentwrog, yn mis Mai, 1822. Nifer yr aelodau yma ar y pryd oedd naw-a-thriugain, a thair punt a phymtheg swllt y chwarter, oedd y cwbl a addewid iddo fel ffrwyth ei lafur, ac i ba raddau y cyflawnasant eu haddewid, goreu y gwyr efe. Ymroddodd Mr Davies i gyflawni ei weinidogaeth, gan bregethu trwy yr holl wlad oddiamgylch, a sefydlu achosion newyddion, y rhai a ddaw etto dan ein sylw. Tua'r flwyddyn 1839, o gylch canol oes weinidogaethol Mr Davies, torodd diwygiad grymus iawn allan yn y plwyf hwn, fel mewn llawer o leoedd eraill, ac ychwanegwyd tua dau gant at rifedi yr eglwysi Annibynol, ond trwy wrthgiliadau, symudiadau, a marwolaethau, lleihaodd rhifedi yr eglwys, fel na bu ar ol hyny mor lluosog. Cafwyd darn o dir wrth gefn hen gapel Penystryd i gladdu y meirw, ac y mae yno lawer wedi eu claddu eisioes. Pan ydoedd Mr Davies tua 69 oed, ac wedi llafurio yn galed trwy bob tywydd am dair-ar-ddeg-ar-hugain o flynyddau yn y gymydogaeth hon, yr oedd ei nerth i raddau yn pallu, a'r gwaith yn fawr, barnodd fod yn well iddo ymddeol o'i ofalon gweinidogaethol, ac yn y flwyddyn 1855, rhoddodd yr eglwysi yn mhlwyf Trawsfynydd i fyny, heb na thwrf na therfysg.

Bu yr eglwysi o'r flwyddyn 1855, hyd y flwyddyn 1863, heb un gweinidog sefydlog, ond yr oeddynt yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol; ond yn y flwyddyn uchod rhoddasant alwad i Mr William G. Williams, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Mehefin 18fed a'r 19eg, 1863. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr E. Williams, Dinas; holwyd y gweinidog gan Mr J. Jones, Abermaw ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr E. Davies, Trawsfynydd ; pregethodd Mr T. Roberts, Llanrwst, i'r gweinidog, a Mr W. Ambrose, Porthmadog, i'r eglwys. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri E. Stephen, Tanymarian; J. Thomas, Towyn; H. Ellis, Corwen ; J. Jones, Maentwrog ; R. Ellis, Brithdir, ac R. P. Jones, Llanegryn. Bu Mr Williams yma hyd 1869, pan y darfu ei gysylltiad a'r eglwys, ac er hyny, y mae yr eglwys yma yn amddifad o weinidog.

Codwyd y personau a ganlyn i bregethu yn yr eglwys hon :-

436

 

Robin Meirion dirionwedd - yma roed,
Mor wael yw ei anedd !
Yn foreu iawn o'i fawredd,
Ow! i'w fath wywo i fedd:

Ei glod ef fel goleu dydd - dywyna,
Hyd wyneb ein broydd ;
Ie'n fawr ei enw fydd,
Tra saif enw Trawsfynydd."

IEUAN IONAWR

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

WILLIAM JONES. Ganwyd of yn Lledrod, sir Aberteifi, Medi 15fed, 1760. Yr oedd Theophilus Jones, pregethwr hynod gyda'r MethodIstiaid, yn frawd iddo. Derbyniodd addysg yn Ystradmeurig, a bu unwaith yn meddwl am fyned i weinidogaeth yr Eglwys Sefydledig, ond trwy gyfarfod a Mr R.Tibbot, Llanbrynmair, newidiwyd ei holl gynlluniau. Os nad

437

ydym yn camsyniad, yn Llanbrynmair, tua'r flwyddyn 1786, y daeth i gysylltiad a'r Annibynwyr, trwy lythyr oedd ganddo oddiwrth y Methodistiaid yn ei gymeradwyo. Bu yn Beaumaris am ddwy flynedd, a thra yno y priododd, ac yn 1792, daeth i Penystryd, lle y treuliodd weddill ei oes. Yr oedd Mr Jones yn ddyn syml, dirodres, diniwaid, a gonest iawn, braidd yn rhy ddiniwaid i fyw yn mysg dynion drwg a thwyllodrus, a chymerodd rhai fantais ar ei ddiniwidrwydd i'w dwyllo a'i ddrygu yn ei amgylchiadau tymorol. Bu iddo naw o blant, tri o feibion a chwech o ferched. Claddwyd saith o'r plant yn mynwent plwyf Trawsfynydd, gyda eu rhieni, aeth un mab iddynt yn forwr, ac ni chlybuwyd dim am dano er's llawer blwyddyn, priododd un o'r merched, a bu farw heb adael plant, ac felly nid oes o deulu Mr. Jones, heddyw yr un yn fyw.

Dywedodd Mr Edmund Jones, Yr Hen Brophwyd o Bontypool, fel ei gelwid wrth Mr Jones, pan ydoedd yn ddyn ieuangc, cyn iddo ddyfod i'r Gogledd, y byddai llwyddiant ar ei weinidogaeth yn enwedig tua diwedd i oes, ac felly a fu, torodd allan ddiwygiad lled rymus yn Mhenystryd ychydig amser cyn iddo farw, ac felly aeth adref, a gwynt teg loned ei hwyhau. Cafodd daith lled helbulus trwy'r byd o ran ei amgylchiadau tymorol, rhwng fod ganddo deulu lluosog, eglwysi gweiniaid, a gwaeth na'r cwbl, lled esgeulus a diymdrech. Yr oedd o dan anfantais fawr o ddiffyg llyfrau, y rhai oedd yn ei ddyddiau ef yn ddau cymaint o bris ragor ydynt yn y dyddiau hyn, a chan nad ydoedd yn cael ond ychydig oddiwrth y weinidogaeth, nis gallodd gyrhaedd ond nifer fechan o honynt. Ond er nad oedd gan Mr Jones ond ychydig o lyfrau, yr oedd yn bregethwr da, sylweddol, ac efengylaidd. Ni astudiodd ond ychydig o drefn ar ei bregethau, mwy na llawer o'i gydoeswyr. Yr oeddynt hwy yn ymddiried cryn lawer ar eu cof, ac yn ymddibynu yn neillduol ar yr hwyl a gaffent wrth bregethu. Ond er mai lled anrhefnus a fyddai ei bregethau, ceid ambell afal aur a pherlyn dysglaer ganddo weithiau. Teithiodd lawer i gyfarfodydd, yn gwbl ar ei gost  hunan, fel yr oedd pawb o'i frodyr yn gorfod gwneyd yn y dyddiau hyny, etto medrodd dalu i bawb yr eiddo, a myned i'w fedd yn ddiddyled. Yr oedd Mr Jones, fel y sylwyd yn barod, yn cael ei ystyried yn ddyn plaen, gonest, a diniwaid iawn, yn fwy felly na'r cyffredin, etto, byddai ganddo ambell i ddywediad hynod synwyrol chyrhaeddgar. Yr oedd unwaith yn cadw oedfa mewn ty annedd yn agos i Langwm, lle yr oedd ychydig o gyfeillion crefyddol yn arfer ymgynull, ac ar ddiwedd yr oedfa, cyhoeddwyd fod yno gyfeillach neillduol i gael chynal yn mhellach. Safodd yn ol yno ddau o'r dynion dihiraf yn y gymydogaeth, gan ddisgwyl cael rhywbeth mae yn debygol i wawdio crefydd ar ol hyny. Gofynodd rhai o'r bobl yn ddistaw Mr Jones, ai nid gwell fuasai iddynt ddyweyd wrth y bobl hyn am fyned allan? "Na," meddai yntau, " gadewch iddynt ;" yna cyfododd yn araf ar ei draed, a dywedodd, " Wel, beth a fyddai oreu i ni gymeryd dan sylw yma heno ? Oni fyddai yn well i ni ofyn tipyn i bawb, pa faint y maent yn gofio o'r bregeth ? Pa le tybed y byddai oreu i ni ddechreu ? Goeliaf fi y byddai yn well i ni ddechreu tipyn tua'r drws yma." Gyda hyny, dyma y ddau ddyn allan ar draws eu gilydd, gan adael eu hetiau ar ol, heb gael un testyn i wawdio, ond wedi gwneyd gwawd o honynt eu hunain. Yr oedd Mr Jones unwaith yn y Deheudir, yn nhy hen weinidog, yr hwn oedd wedi rhoddi y weinidogaeth heibio oherwydd henaint,  ac yr oedd yr hen wr yn dangos cryn lawer o anfoddlonrwydd tuag at ei olynydd ieuangc,

438

ond o'r diwedd dywedai Mr Jones, " Hawyr bath, Mr E., yr ydwyf yn ofni yn sound eich bod chwi yn byw yn ormod o dan lywodraeth y twea." Mown cyfarfod yn Llanuwchllyn, gofynai y Dr. Lewis i'r gweinidogion oedd yn bresenol, beth oedd i'w wneyd i'r bobl ieuangc oedd yn cadw cwmpeini a phobl o'r byd, fel y dywedid, ac yr oedd pawb yno yn golygu dylesid eu dysgyblu, yn mhlith eraill, gofynai i Mr Jones, beth oedd ef yn ei feddiwl? Dywedai yntau, " eu gyru nhw allan yn sownd dybiaf fi, edrych a oerant hwy beth." Yr oedd Mr Jones unwaith yn myned a buwch i'r ffair i'w gwerthu, a chyfarfu ar y ffordd ag un o'i gymydogion, a gofynodd iddo, pa faint a dalai y fuwch ? Atebodd hwnw ei bod yn werth naw punt, ond y gallai ef ofyn deg punt am dani. " Na," meddai yntau, " nid ydyw pethau fel hyny yn cydfyned a'm galwadigaeth i." Bu Mr Jones yn ffyddlon iawn i godi achos yn Maentwrog, teithiodd yno trwy bob tywydd, am ychydig iawn o gydnabyddiaeth. Tarawyd ef gan y parlys, yn mis Mehefin, pan yn pregethu yn Nhowyn, Meirionydd, a bu farw yr 31ain o'r Hydref canlynol, yn y flwyddyn 1820, yn 60 mlwydd o'i oedran, a chladdwyd  ef yn mynwent plwyf Trawsfynydd, wedi bod yn gweinidogaethu yn Mhenystryd am yn agos i ddeg-ar-hugain o flynyddau. Mae ef a'i wraig a'u plant i gyd, onid dau, yn gorwedd yno gyda'u gilydd.

Footnote below copied from end of MER section

Dylasem grybwyll hefyd yn nglyn a Phenstryd, am ddau bregethwr arall a godwyd yno, sef John Gwilym Roberts, brawd Robin Meirion. Bu yn athrofau y Bala ac Airedale. Urddwyd ef yn Lloegr, ac y mae yn awr yn Howden, Yorkshire ; ac Ellis Jones, yr hwn a ddechreuodd bregethu yn ddiweddar, ac y mae fel y deallwn, wedi derbyn galwad o Langwm, Gellioedd, a Phentrellyncymer. Gadawyd y cyntaf o'r ddau allan gan yr Argraffydd, ac ar ol gweithio hanes Penstryd, yr anfonwyd i ni enw yr olaf. Yr ydym mor ofalus ag y gallom, ond y mae rhai gwallau yn diangc er i ni wneyd ein goreu. Cywirir y cwbl y deuwn i wybod am danynt mewn Attodiad yn niwedd y gwaith.

 

JERUSALEM

Already translated etc, see http://www.genuki.org.uk/big/wal/MER/Trawsfynydd/Hanes.html

"Mae y capel hwn yn mhlwyf Trawsfynydd, ar ochr y ffordd sydd arwain o'r Llan i Ddolgellau. Byddid yn arfer pregethu ar nos Sabbothau yn y Tyddynmawr, er's amryw o flynyddau, ac yr oedd ychydig o aelodau Penystryd yn byw yn y gymydogaeth hon.

Yn y flwyddyn 1826, cafwyd prydles am 40 mlynedd, gan Syr W. Williams Wynne, ar ran o dir y Tyddynmawr, i adeiladu y capel a elwir Jerusalem, am yr ardreth o bum' swllt y flwyddyn. Yr ymddiriedolwyr ydoedd Meistri Edward Davies, Trawsfynydd ; Cadwaladr Jones, Dolgellau; Hugh Lloyd Towyn; a Thomas Davies, Dolgellau. Daeth y brydles gyntaf i fyny yn y flwyddyn 1866, ac adnewyddwyd y weithred gan Syr W. W. Wynne presenol, am 40 mlynedd ychwaneg. Gweithiodd un gwr lawer arno nes ei orphen heb geisio dim gan neb am ei lafur. Teithiodd lawer i gasglu at dalu am dano, a thalwyd pob dimai a gasglwyd ato yn mhob man, heb gadw dim at na thraul na thrafferth. Rhoddodd un teulu yn y gymydogaeth 12p. yn arian tuag at dalu am y capel, ac ni bu arnynt ddim heisiau hyd yma. Mae y lle yma wedi bod o'r dechreuad mewn cysylltiad gweinidogaethol a Penystryd, a than ofal yr un gweinidogion, ac y mae yn awr yn amddifad o fugail.

Ni chodwyd yma ond un pregethwr, sef Griffith Price, Corsygarnedd, yr hwn sydd yn bregethwr cymeradwy Llanfachreth."

 

 TRAWSFYNYDD

Yn y flwyddyn 1839 y dechreuwyd pregethu yn rheolaidd yn mhentref Trawsfynydd ; ac yn y flwyddyn ganlynol, prynwyd darn o dir gan Mr Ellis Jones, Ddolwen, i adeiladu capel arno. Cyflwynwyd y tir drosodd

439

i Meistri Griffith Roberts, Tyddynbach ; Edmund Evans, Dolymynach ; John Jones, Dolwen ; David Lloyd, y Cigydd ; a John Morris, Bryncelynog, fel ymddiriedolwyr. Galwyd y capel yn Ebenezer. Mae wedi bod mewn cysylltiad a Penystryd o'r dechreuad, hyd 1869, pan y rhoddodd Mr W. G. Williams i fyny ofal yr eglwys yno, ond parhaodd yn weinidog yma hyd y flwyddyn hon, pan y symudodd i Seion, Rhymney, Mynwy ; ac y mae yr holl eglwysi Annibynol yn mhlwyf Trawsfynydd yn awr yn amddifaid o weinidog.

 

MAENTWROG

Mae hon yn un o ardaloedd prydferthaf Gogledd Cymru, a'r holl olygfeydd o gylch yn swynol i'r llygaid. Cydgyferfydd yr aruchel a'r prydferth, nes gwneyd y lle yn degwch bro. Ond a hynafiaethau Ymneillduaeth yma y mae a wnelom ni ; oblegid y dylanwad y mae crefydd wedi  adael ar wlad yw ei haddurn prydferthaf. Yr oedd boneddiges o'r enw Mrs Lloyd, yn byw yn y Cefnfaes, Maentwrog, yr hon pan yn ieuangc a fuasai yn byw yn Llundain, ac a arferai yno wrando yr efengyl gyda'r Annibynwyr. Ni dderbyniwyd hi yn aelod tra yn Llundain, nac am flynyddau ar ol dyfod oddiyno ; ond hoffai egwyddorion a threfn eglwysig yr Annibynwyr yn well nag un enwad arall. Yn mhen cryn amser, iddi briodi Mr Lloyd, o'r Cefnfaes, derbyniwyd hi yn gyflawn aelod yn Mhenystryd, yn y flwyddyn 1793. Arferai fyned i Benystryd, o leiaf unwaith yn y mis, trwy bob tywydd am flynyddoedd, a byddai  mab ieuengaf, John Lloyd, Yswain, o'r Cefnfaes, neu fel y gelwid ef yn gyffredin, "Llwyd y Twrne," pan yn llanc ieuangc, yn arfer a myned yno gyda ei fam. Annibynwr o farn ydoedd Mr Lloyd, ond treuliodd ei oes yn hollol annghrefyddol. Mrs Lloyd a anogodd Mr W. Jones, Penystryd, roddi ambell bregeth yn Penyglanau, amaethdy ar yr etifeddiaeth, yn agos i'r Cefnfaes, o fewn tua milldir a haner i bentref Maentwrog. Bu Mr Jones ae eraill yn myned yno i bregethu am flynyddoedd, pan nad oedd un aelod gyda'r Annibynwyr yn yr ardal ond Mrs Lloyd. Pan oedd Mr Jones ar un boreu Sabboth yn pregethu yn Mhenyglanau, cyhoeddodd ar ddiwedd yr oedfa y cynhelid cyfeillach neillduol am ddau o'r gloch prydnawn yn y Llwyn, ffarmdy cyfagos. Daeth amrai i'r gyfeillach hono, heblaw Mrs. Lloyd, sef David Richard, a Catherine ei wraig, William Williams, (Gwilym Twrog), ac Anne ei wraig, a John Lloyd, a Grace ei wraig. Daliodd pedwar o'r chwech hyn gyda'r Annibynwyr yn ffyddlon ar hyd eu hoes, ond ymadawodd Gwilym Twrog, a'i wraig, ac ymunasant a'r Bedyddwyr, yn Ramoth. Parhaodd Mr Jones, ac eraill, bregethu yn led gyson yn Mhenyglanau ; ac yn mhen tua blwyddyn ar ol y gyfeillach neillduol uchod, sef yn y flwyddyn 1798, daeth William Williams, Cwmhwyson, (Williams, o'r Wern, wedi hyn), a Richard Roberts, Penystryd, i Goedytwyn, tyddyn bychan arall ar etifeddiaeth Cefnfaes, i gadw ail gyfeillach, a chwanegwyd Margaret Lloyd, Pantyclegar, at y saith eraill, i'w gwneyd yr un rhif a theulu yr Arch. Daeth un arall i'r gyfeillach hono' a gofynodd William Williams iddi pa beth oedd ar ei meddwl hi. Cyffrodd, a dywedodd, " Aros di, y corgi bach ; be' waeth i ti beth sydd ar fy meddwl i. A wyddost ti beth sy' ar dy feddwl di dy hun ? Yr wyt ti yn rhy ifanc i holi hen wraig fel y fi," ac ymadawodd

440

yn dramgwyddedig iawn. Derbyniwyd yr wyth a enwyd yn Mhenystryd yn aelodau, ac aent yno yn gyson o leiaf unwaith yn y mis, am tua deng mlynedd. Yn nechreu gwanwyn y flwyddyn 1809, sefydlodd Mr W. Jones, eglwys yn Penyglanau, pan y derbyniwyd John ac Elizabeth Humphreys, (Nantymarch wedi hyny) ; Robert a Margaret Roberts, Gof ; Thomas a Gwen Humphreys ; Mrs Davies, Maentwrog Inn ; a Margaret Owen, Tanybwlch, at yr wyth eraill. Yr oedd Owen Evans, Tanydduallt i'w dderbyn yr un amser, ond oedwyd hyny am fis, oherwydd iddo fyned a baban i'w fedyddio i'r eglwys wladol. Y fath fanylwch oedd yn yr hen bobl. Gwnaeth Owen Evans, ac eraill o aelodau yr eglwys yn Penyglanau, grefyddwyr ffyddlon a dysglaer ; ac y mae eu henwau yn perarogli hyd y dydd hwn. Yn nechreu Mehefin, cynhaliwyd cyfarfod pregethu yn Penyglanau, gan y Dr. Lewis, o Lanuwchllyn ; Meistri W. Hughes, o'r Dinas ; R. Williams, o Resycae ; I. Griffiths, Caernarfon; ac A. Shadrach, o Talybont. Yr oeddynt wedi dechreu pregethu a chadw ysgol yn y Tyuchaf, (Penlan ) Maentwrog, gyda Phenyglanau, tua dwy flynedd cyn hyn. Yn niwedd y flwyddyn 1809, a dechreu y flwyddyn 1810, adeiladwyd capel Glanywern, ar ochr y ffordd o Drawsfynydd i Faentwrog, yn y cyfwng rhwng Penyglanau a Phenlan, er gwneyd y ddwy ysgol a'r ddwy gynnulleidfa yn un. Costiodd lle y capel, er ei fod yn y lle mwyaf anghyfleus a chostus i adeiladu a allesid gael yn y gymydogaeth, y swm o 46 cyn rhoddi caib na rhaw ynddo ; ond buasai cymaint a hyny o sylltau yn llawn cymaint ag a dalasai y lle. Yn mhen ychydig wedi adeiladu y capel, ceisiodd Mrs Lloyd gael eisteddle ynddo, yn perthyn i'r Cefnfaes, ond gwrthwynebwyd hyny, am y gallasai fod yn niwed i'r achos mewn amser dyfodol. Tramgwyddodd yr hen foneddiges, ac enciliodd at y Methodistiaid Calfinaidd, a chafodd dderbyniad rhwydd. Nid oedd capel Glanywern ond un gwael a chyffredin iawn, etto, dygwyd llawer o eneidiau ynddo i adnabyddiaeth o honynt eu hunain fel pechaduriaid, ac o Dduw yn Nghrist yn derbyn pechaduriaid. Bu Mr W. Jones yn ymdrechgar iawn i gasglu i dalu am dano, a llwyddodd i wneyd hyny, ond ugain punt, y rhai oedd yn ddyledus i Mr W. Evans, o Lenyrch, yr hwn a addawodd eu cymeryd bob yn bunt, os byddai hyny yn angenrheidiol. Llafuriodd Mr Jones yn ffyddlon iawn yn ardal Maentwrog am bum-mlynedd-ar-hugain, a bu yn byw am y pedair blynedd olaf o'i fywyd yn y gymydogaeth hon, mewn tyddyn a elwir Tyddyndewyn. Yn nechreu yr haf, yn y flwyddyn 1820, tarawyd ef gan y parlys, yn yr areithfa, yn Towyn, Meirionydd, a bu farw yn dangnefeddus, yn Tyddyndewyn, ar y 31ain o'r Hydref cadlynol, yn ei 60fed flwyddyn o'i oedran, a chladdwyd ef yn mynwent Trawsfynydd, gyda llawer o'i gyfeillion a'i deulu lluosog. Yn mis Mai, 1822, rhoddodd yr eglwys yma, yn nglyn a Phenystryd, alwad unfrydol i Mr Edward Davies, o Rosylan, swydd Gaernarfon, i gymeryd eu gofal gweinidogaethol, a chydsyniodd yntau a'u cais, a pharhaodd i ddyfod i Maentwrog dair gwaith bob mis am yn agos i bedair-ar-bymtheg o flynyddoedd, a hyny fynychaf ar ei draed, rhag pwyso ar y cyfeillion i gadw ei anifail,  fod ganddo tua saith milldir i'w teithio ar y Sabboth, ac weithiau fwy, pan yn myned a dychwelyd yr un diwrnod ; a byddai yn pregethu dair gwaith bob Sabboth, heblaw gweinyddu yr ordinhadau yn fynych. Yn yspaid ei weinidogaeth, talwyd yr ugain punt gweddill o ddyled y capel. Parhau yn lled ddigynydd a wnaeth yr eglwys am gryn amser, ond parhaodd bron yr un rhifedi o

441

hyd. Yr oedd undeb a brawdgarwch yn yr eglwys ; ac ni bu nemawr i eglwys a gweinidog yn fwy yn mynwesau eu gilydd.

Yn y flwyddyn 1839, a'r blynyddoedd dilynol, torodd gwawr ar yr achos yn Maentwrog, ac ychwanegwyd llawer at yr eglwys o rai yn rhoddi lle cryf i obeithio fyddant gadwedig. Yr oedd y rhan fwyaf o honynt yn ieuengctyd. Yn y cyfnod newydd yma, daeth yr eglwys yn weithgar a llafurus, a dewiswyd dau ddyn ieuangc bywiog yn ddiaconiaid, fel y gwisgodd yr achos wedd newydd. Yr oedd yr hen gapel erbyn hyn wedi dadfeilio, ac yn anghysurus fel lle i addoli, heblaw ei fod mewn lle hollol anghyfleus. Yn y flwyddyn 1840, trwy gefnogaeth ac ymdrech Mr a Mrs Lloyd, Tanybwlch Hotel, cafwyd lle i wneyd capel newydd yn ymyl y pentref, a galwyd ef Gilgal. Mae yn gapel hardd a chyfleus, wedi ei orphen yn y modd goreu, wedi costio 424/ 0/ 3, a gwell na'r cwbl wedi talu am dano. Y mae yr eglwys a'r gymydogaeth yn cydnabod hyd heddyw ffyddlondeb a haelioni Mr a Mrs Lloyd a'r teulu gyda'r adeilad yma, yn gystal a'u caredigrwydd gwastadol at grefydd. Gwraig na chyfarfyddir ond anfynych a'i chyffelyb oedd Mrs Lloyd, ac y mae ei choffa yn barchus gan bawb a fu yn eu gwasanaeth, neu yn llettya yn ei thy. Pan ddechreuwyd adeiladu Gilgal, a'r eglwys yn cynyddu mewn rhif a gweithgarwch, gwelwyd fod angen and am fwy o freintiau nag oedd yn alluadwy iddi gael trwy weinidogaeth Mr Davies; rhoddodd ef gan hyny ei weinidogaeth i fyny, ac anogodd hwy i ymofyn am weinidog iddynt eu hunain, a chyfeiriodd hwy at Mr Samuel Jones, yr hwn oedd y pryd hwnw yn yr ysgol yn Marton. Derbyniodd Mr Jones yr alwad, ac ar y 27ain o Rhagfyr, 1840, y dechreuodd ei weinidogaeth yn yr hen gapel, yn gysylltiedig a Saron, Ffestiniog ; ond gohiriwyd ei urddiad hyd agoriad y capel newydd, yn Mai, 1841. Yn yr urddiad, pregethodd Mr C. Jones, Dolgellau, ar natur eglwys ; holwyd y gweinidog gan Mr H. Morgan, Sammah ; gweddiodd Mr R. P. Griffiths, Pwllheli ; pregethodd Mr M. Jones, Llanuwchllyn, ar ddyledswydd y gweinidog, a Mr E. Davies, Trawsfynydd, ar ddyledswydd yr eglwys. Llafuriodd Mr Jones yn ymdrechgar yn ei dymor byr, fel pe buasai yn gwybod nad oedd iddo ond ychydig amser yn y winllan. Oddiar ei ofal am Saron, Ffestiniog, aeth i Sir Amwythig i gasglu ato, pan y tarawyd ef gan glefyd yr ymenydd, ond cyrhaeddodd adref trwy boen fawr, a bu farw yn dangnefeddns ar ol cystudd byr, ond trwm iawn, Tachwedd 1af, 1843. Bu yr eglwys am tua dwy flynedd heb weinidog ar ol marw Mr Jones, ond yn y flwyddyn 1844, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr Evan Evans o'r Abermaw, a chydsyniodd yntau. Ymsefydlodd Mr Evans yma yn nechreu Tachwedd y flwyddyn hono. Llafuriodd gyda ffyddlondeb, diwydrwydd, a chymeradwyaeth neillduol am tuag wyth mlynedd a haner. Yn Mai, 1853, ymadawodd gymeryd gofal yr eglwys gynnulleidfaol yn Llangollen . changhenau. Yn mis Tachwedd ar ol hyny, rhoddodd yr eglwys alwad unol i Mr Owen Evans, Berea, Mon. Dechreuodd yntau ar ei lafur gweinidogaethol yn nechreu Ionawr, 1854. Gwnaeth waith efengylwr gyda diwydrwydd mawr a derbyniad cymeradwy. Ymadawodd yntau yn Mawrth, 1857, ofalu am yr eglwys Annibynol Gymreig a ymgyferfydd yn Fetter Lane, Llundain. Ar ol hyn rhoddwyd galwad unfrydol i Mr John Jones, Cemaes, Mon, a dechreuodd ar ei waith yma Hydref 4ydd, 1857. Cyfarfu y gweinidogion canlynol y diwrnod uchod yn Maentwrog i gydnabod yr undeb sef Meistri W. Ambrose, Porthmadog ; S. Jones, Penmorfa ; W.

 

  CONTINUED


(Last updated : 3 March 2011 : Gareth Hicks) Valid HTML 4.01 Transitional

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI