GENUKI Home page

Merionshire Merionethshire     Contents Contents
 

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

MERIONETHSHIRE   (Vol 1)

Pages 442 - 455

See main project page

Proof read by Maureen Saycell (May 2008)

Chapels below;

  • (Continued) Maentwrog
  • UTICA (with translation)

 


Pages  442 - 455

442

(Continued) Maentwrog

Roberts, Pentrefoelas ; R. E. Williams, Llanddeusant ; D. Griffith, ieuengaf, Bethel ; W. Edwards, Aberdare, ac E. Davies, Trawsfynydd. Ar ol adeiladu Gilgal, gwerthwyd yr hen gapel Glanywern.

Yn 1859, cafwyd tir yn ymyl capel Utica i wneyd mynwent, a chostiodd y lle 12, a sychu y lle, a chau o'i gwmpas 18, y cwbl yn 30. Llafuriodd Mr Jones yn ddiwyd iawn yn Maentwrog ac Utica, gyda chymeradwyaeth hyd ac eglwys am tuag wyth mlynedd, nes yr ymadawoddi gymeryd gofal eglwysi Carmel a Gwryd, Llangiwc, Morganwg, yn Mai, 1865. Bu yr eglwysi yn Maentwrog ac Utica yn agos i flwyddyn heb weinidog, yna rhoddasant alwad unfrydol i Mr John Williams, Llanelwy, a chydsyniodd yntau a'u cais, a dechreuodd ar ei weinidogaeth yn Mawrth, 1866. Bu yma yn ffyddlon ac ymdrechgar iawn am bedair blynedd. Yn Mai, 1870, ymadawodd am America, a chyrhaeddodd ef a'i wraig a phlentyn bychan tua dwy flwydd oed i New York yn llwyddianus, heb i ddim anghysurus eu cyfarfod hyd yno. Bu Mr Williams a'i deulu yn aros am ryw gymaint o amser yn nhy ei frawd, yr hwn sydd yn y weinidogaeth yn America er's cryn amser. Yr oedd Mr Williams wedi derbyn galwad unfrydol oddiwrth yr eglwys Gymreig yn Pomeroy. Yr oeddynt yn myned mewn bad pwrpasol ar hyd yr afon Ohio, a phan oeddynt wedi cyrhaedd pen eu taith, ac barod i fyned i'r lan, syrthiodd Mrs Williams ryw fodd dros ymyl y bad i ddwfr tros wyth llath o ddwfn, a than ei bod yn nos dywyll, methwyd a'i hachub, ac oni buasai i ryw un gael gafael yn Mr Williams cyn iddo allu rhuthro ar ei hol, wedi colli ei hunanfeddiant, mae yn debygol y buasai of a'i blentyn bychan - yr hwn oedd yn cysgu yn ei freichiau - wedi boddi gyda hi. Cafwyd gafael yn Mrs Williams yn mhen tuag awr wedi iddi syrthio, ond yr oedd yr enaid wedi cyrhaedd i'w gartref dedwydd ! Er ymadawiad Mr Williams, y mae yr eglwys heb weinidog.

Ni chyfodwyd yma ond un pregethwr, sef,

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

Crybwyllasom am Mr W. Jones, y gweinidog cyntaf a fu yn yr eglwys hen, yn nglyn a hanes Penystryd, ac y mae yr holl weinidogion eraill a fu yn gweini iddi, ond un, wedi cad " help gan Dduw, yn aros hyd yr awr hon," a'r un hwnw yn unig sydd genym i wneyd byr goffad am dano.

443

SAMUEL JONES. Ganwyd ef yn Dolyddelen, Gorphenaf 10fed, 1817. Yr oedd ei rieni John a Margaret Pritchard, yn bobl barchus a chrefyddol, ac y mae ei dad yn aros hyd yr awr hon, er mewn gwth o oedran, ac yn hen bregethwr cynorthwyol cymeradwy yn Llanberis. Dangosodd Samuel ogwyddiad yn ieuangc at fod yn bregethwr, a rhagfynegai pawb mai dyna a fyddai. Pan oedd o gylch tair-ar-ddeg oed, symudodd ei rieni o Dolyddelen i Lanberis, a dygodd hyny ef i gyffyrddiad a phrofedigaethau oeddynt hyd yma yn ddyeithr iddo. Yr oedd wedi arfer myned i'r gyfeillach gyda'i rieni er yn blentyn, ond ar ol myned i'r chwarel i weithio, ac ymgymysgu a bechgyn gwyllt o'i oed, gwelwyd ei fwynder yn ymadaw; ac er gofid dwys i'w dad a'i fam, gadawodd gyfeillach y saint, fel y caffai fwy o ryddid i " rodio yn ol helynt y byd hwn." Ond daliwyd ef yn fuan, gan yr Hwn a'i neillduasai o'r groth i fod yn llestr etholedig i'w wasanaeth - dychwelodd i'r gorlan o'r hon y crwydrasai - ac ar y Sabboth cyntaf o'r flwyddyn 1833, derbyniwyd ef yn gyflawn aelod o'r eglwys yn Jerusalem' Llanberis, gan ei frawd Mr. Richard Jones, yn awr o Lanidloes, yr hwn oedd yn digwydd bod yno y Sabboth hwnw. Wedi ymuno a'r eglwys, ymroddodd Samuel Jones i weithio a'i holl egni. Yr oedd yni a bywiogrwydd lonaid ei natur, fel nas gallasai fod yn segur a diffrwyth. Nid oedd dim pall ar ei lafur gyda'r Ysgol Sabbothol, nid yn unig yn y gangen i'r hon y perthynai, ond hefyd yn y cyfarfodydd chwechwythnosol a gynhelid y pryd hwnw yn nosbarth Caernarfon. Dechreuodd yn fuan ag arfer ei ddawn yn gyhoeddus i areithio yn y cyfarfodydd hyny, ac yn nghyfarfodydd y gymdeithas gymedroldeb, a'r gymdeithas Ddirwestol, yn ei ardal. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf yn ei gymydogaeth i arwyddo yr ardystiad dirwestol, a pharhaodd yn Ddirwestwr ffyddlon a phybyr hyd ei ddiwedd. Wrth weled ei ddoniau yn ymddadblygu, anogwyd ef i ddechreu pregethu, ac yu mis Mawrth' 1836, y traddododd ei bregeth gyntaf yn gyhoeddus. Nid oedd wedi cael ond ychydig fanteision addysg, ac yr oedd yn dyheu am fwy o wybodaeth i'w gymhwyso i'w waith. Penderfynodd gynilo cymaint o arian ag a slim. i'w gynorthwyo i gael addysg er ymbarotoi i fyned i ryw athrofa. Gadawodd Lanberis, Nadolig, 1837, a'i becyn ar ei ysgwydd, i fyned i Marton, Sir Amwythig, i'r ysgol, a dechreuodd ei efrydiau yno cyn diwedd mis Ionawr, ar ol hyny. Enillodd serch a pharch ei athraw a'i gydefrydwyr; a gwnaeth gynydd cyflym yn ngwahanol ganghenau gwybodaeth. Gwnaeth gais am dderbyniad i athrofa Aberhonddu yn 1840, ond bu yn aflwyddianus, nid am nad oedd i fyny a'r safon, ond oblegid rhyw amgylchiadau nad oedd a fynai efe a hwynt. Ond dichon mai felly yr oedd oreu, am fod ei Feistr Mawr yn gweled nad oedd ganddo ond tymor byr i weithio drosto. Bu am rai misoedd yn Sirhowy yn gwasanaethu yn lle ei frawd, a bu ei weinidogaeth yno yn nodedig o lwyddianus. Yr oedd ar y pryd hwnw yn llawn o dan diwygiad, fel y llosgai yn angerddol pa le bynag yr elai, ac yr oedd llaw yr Arglwydd gydag ef. Derbyniodd alwadau o amryw fanau i ymsefydlu yn weinidog, ac yr ydym yn cofio yn dda y petrusder mawr a deimlai yn ei feddwl, pa un ai i Bethel a'r eglwysi cysylltiedig, gerllaw Bala, ai i Maentwrog yr ai, ond trodd y glorian, oherwydd ryw resymau, o du y lle olaf, a dechreuodd ei weinidogaeth yno, mewn cysylltiad a Llan, Ffestiniog, yn niwedd y flwyddyn 1840. Urddwyd ef yr un pryd ag agoriad capel newydd Maentwrog, Mai 26ain, 1841, ac anaml y gwel-wyd gweinidog ieuangc yn dechreu ei weinidogaeth dan amgylchiadau

444  

mwy ffafriol. Ymroddodd a'i holl egni i gyflawni ei weinidogaeth, ac ymosododd gyda phenderfyniad yn erbyn meddwdod a holl annuwioldeb yr ardal, a gwelodd ffrwyth buan ar ei lafur, ond ni ddiangodd rhag difenwad y rhai a genfigenant oblegid ei lwyddiant, ond bu ei Dduw yn amddiffyn iddo, fel " na chaed ynddo nac amryfusedd na bai," y gallasai ei gaseion gael gafael arno. Yr oedd yr achos yn Llan, Ffestiniog yn isel, a baich y ddyled yn ei lethu, a phenderfynodd Mr. Jones wneyd ymdrech i'w ryddhau oddiwrth y baich, ond costiodd hyny ei fywyd iddo. Yn Hydref, 1843, cymerodd daith trwy ranau o Siroedd Amwythig a Threfaldwyn i gasglu ato. Pan ar ei daith teimlai boen dyeithr yn ei ben, a chwanegai fel yr elai yn mlaen. Aeth i dreulio Sabboth at ei gyfaill Mr H. James, yn Llansantffraid, a phregethodd yno y boreu a'r hwyr, a dyna tro diweddaf y pregethodd. Dydd Llun aeth i Benybontfawr, a thranoeth teithiodd adref yr holl ffordd i Faentwrog, ac ymddangosai fel yn ymwybodol ei fod yn dyfod adref i farw. Yr oedd yn awyddus am gael pregethu i'w gyfeillion y Sabboth ar ol hyny, ond nis gallai ; yr oedd clefyd yr ymenydd (brain fever) wedi ei gymeryd, ac aeth i'w wely, ac ni chododd mwy o hono. Bu farw dydd Mercher, Rhagfyr 2il, 1843, yn 26 oed. Claddwyd ef yn mynwent capel yr Annibynwyr yn Mhorthmadog, y dydd Sadwrn canlynol, a dilynwyd ef i'w orweddle oer gan dorf fawr o bobl alarus, ac yn eu plith luaws o'i frodyr yn y weinidogaeth, y rhai a deimlent y parch dyfnaf iddo. Cyhoeddwyd cofiant rhagorol i Mr Jones, gan ei gyfaill hoff, Mr Ambrose, Porthmadog, o'r hwn y cymerasom brif ffeithiau y cofnodion uchod, ac ychwanegwn y difyniadau canlynol ar ei nodwedd. " Yr oedd ei gorph yn dal ac yn lluniaidd, ei wallt yn oleu, ei ruddiau yn wridog, ei lygaid yn siriol, ac eisteddai gwen serchus ac esmwyth ar ei enau. Yr oedd yn gyfaill trwyadl a ffyddlon. Nid aml y bu gan un mor ieuangc gynifer o gyfeillion mynwesol. Gwariai bunoedd bob blwyddyn am gludiad llythyrau i "gadw cariad." Gellir dywedyd am dano, fel y dywedwyd am Spencer, o Liverpool, ei fod yn, cario ei galon mewn llestr grisial, fel yr oedd yn hawdd i bawb ei gweled. Yr oedd yn byw yn nghymdeithas Duw, yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf.' Yr oedd yn argyhoeddedig o werth crefydd bersonol i lenwi y swydd sanctaidd. Yr oedd ei ymarweddiad difrycheulyd a' i ymddiddanion crefyddol, yn fwy defnyddiol na wasanaeth yn yr areithfa. Fel pregethwr, yr oedd yn dringo yn gyflym i enwogrwydd. Nid oedd dim hynod ynddo yn nechreu ei weinidogaeth. Cyfodai yn uwch uwch bob dydd mewn enwogrwydd, a rhyfeddai pawb wrth ganfod ei gynydd fel pregethwr. Pan gyfodai i gyfarch cynnulleidfa, ymddangosai yn wylaidd ac esmwyth, a chyhyrau ei wyneb fel pe buasent yn chwareu rhwng hyfrydwch a phoen, rhoddai benill byr i'w ganu, a darllenai ei destyn yn bwyllog. Byddai ei sylw cyntaf bob amser yn darawiadol, a rhedai fel mellten trwy dorf, yna ymddangosai fel pe buasai yn ymwybodol ei fod wedi dyfod hyd i wythien y teimlad. Dilynai ychydig sylwadau priodol fel arweiniad at athrawiaeth ei destyn. Byddai ei raniadau bob amser yn naturiol, o ganlyniad yn eglur ac esmwyth. Yna, mewn iaith ddestlus, canlynai drychfeddyliau mor gyflym a chenadon Job. Wedi hyny, troai ei holl rym ymaflyd yn nghydwybodau ei wrandawyr, daliai hwy yn ngwyneb yr athrawiaeth a eglurwyd, yna gwelid y deigryn yn dysgleirio ar ei amrant., chanoedd o rai tebyg yn llygaid bobl, a phan orphenai lefaru, gadawai wrandawyr bob amser mewn teimlad hyfryd wrth droed y groes."

445

UTICA

(Maentwrog parish)

Mae y lle hwn o fewn dwy filldir i Faentwrog, ar y ffordd i Drawsfynydd. Rhoddwyd tir i adeiladu y capel gan William Jones, yr hwn a fuasai am flynyddoedd yn America, ac yn aelod yn Utica, a galwodd y lle yma ar enw hwnw, oblegid y llwyddiant bydol a'r daioni crefyddol a fwynhaodd yno. Adeiladwyd y capel yn 1843, yn nhymor byr gweinidogaeth. Mr Samuel Jones, ac y mae y lle o'r dechreuad wedi bod dan yr un weinidogaeth a Maentwrog. Nid yw yr achos yn gryf yma, ond teimlid ar ol symud capel Maentwrog i'r pentref, fod yn angenrheidiol cael lle o addoliad er cyfleustra i bobl yr ochr uchaf, y rhai a arferent ddyfod i'r hen gapel. Mae mynwent helaeth yn nglyn a chapel Utica, a llawer wedi eu claddu ynddi. Trwy offerynoliaeth William Jones, yr hwn a roddodd dir i adeiladu, yn benaf y cychwynwyd yr achos yma, a bu trwy ei oes yn gefn mawr iddo. Yr oedd yn ddyn rhagorol - ffyddlon yn holl wasanaeth ty yr Arglwydd, a pharod i bob gweithred dda fel gwladwr a chrefyddwr.

Translation by Maureen Saycell (April 2011)

This is within a 2 miles of Maentwrog on the road to Trawsfynydd. Land to build was given by William Jones, who had been in America for many years in Utica, and named the chapel by that name because of the worldly success and religious comfort he enjoyed there. The chapel was built in 1843, during the short ministry of Mr Samuel Jones, and has always been under the ministry of Maentwrog. The cause is not strong here, but it was felt that after the chapel was moved into Maentwrog that there needed to be a place convenient for the upper side, that used to use the old chapel. There is a large cemetery with Utica, containing many burials. William Jones was instrumental in building this chapel and he supported it throughout his life. He was a great man in all aspects.

RHYDYMAIN

(Llanfachreth parish)

O Lanuwchllyn y seiniodd gair yr Arglwydd i'r ardal hon, a Mr Abraham Tibbot oedd y pregethwr cyntaf a ymwelodd a'r ardal. Nid yw dyddiad ei ymweliad cyntaf wedi ei gofnodi, ac nid yw enwau y personau hyny a agorodd eu tai i dderbyn yr efengyl wedi eu trosglwyddo i ni. Mae yn amlwg y byddai amryw o'r gymydogaeth hon yn arfer cyrchu i Lanuwchllyn, yn mhell cyn dechreu pregethu yma, ond ar ol dechreu pregethu ennillwyd dysgyblion newydd yma, fel y gwelwyd yn angenrheidiol codi capel, er cael yma foddion crefyddol yn rheolaidd. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1788, a ffurfiwyd yr aelodau perthynol i Lanuwchllyn oedd yn yr ardal yn eglwys, a gweinyddid iddynt gan Mr Tibbot, hyd ei ymadawiad a Llanuwchllyn, ac wedi hyny gan ei olynydd, Dr. George Lewis. Yn Hydref, 1802, dewiswyd Mr Hugh Pugh, yn weinidog i'r eglwys hon, a'r eglwys oedd erbyn hyn wedi ei ffurfio yn y Brithdir, a bu yma yn ddefnyddiol a llwyddianus iawn, a'i weinidogaeth yn gymeradwy gan yr holl wlad. Ond byr fu ei dymor, canys yn mhen saith mlynedd i adeg ei ordeiniad, " machludodd ei haul a hi yn ddydd," a bu farw Hydref 28ain, 1809, yn 29 oedd. Dilynwyd ef yn ei faes eang gan Mr Cadwaladr Jones, o'r Deildre, Llanuwchllyn, yr hwn a urddwyd yn Nolgellau, Iau Dyrchafael, 1811. Llafuriodd Mr Jones yma gyda diwydrwydd, a chysondeb, a llwyddiant graddol am wyth-mlynedd-ar-hugain, nes y teimlodd fod cylch ei weinidogaeth yn rhy eang iddo, ac anogodd yr eglwys yma a'r eglwys yn y Brithdir i edrych allan am weinidog iddynt eu hunain, ond trefnodd ar yr un pryd, i'w olynydd yn y lleoedd hyn newid ag ef un Sabboth o bob mis, fel yr oedd datodiad yr hen gysylltiad yn esmwyth o'r ddau tu.*  Rhoddodd yr eglwys alwad i Mr Hugh James, o Ddinasmawddwy, ond a fuasai am yspaid dan addysg yn Marton, Sir Amwythig, ac urddwyd ef yn Rhydymain, Hydref 30ain a'r 31ain, 1839. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Roberts, Llanbrynmair; holwyd y gofyniadau gan Mr E. Davies, Trawsfynydd; gweddiwyd

* Ysgrif y diweddar Mr C. Jones.

446  

am fendith ar yr undeb gan Mr H. Lloyd, Towyn ; pregethodd Mr M. Jones, Bala, i'r gweinidog, a Mr C. Jones, Dolgellau, i'r eglwysi. Pregethwyd hefyd gan Meistri E. Evans, Abermaw ; D. Price, Penybont; W. Roberts, Pennal ; J. Parry, Machynlleth ; H. Morgan, Sammah ; E. Griffith, Llanegryn ; T. Griffith, Rhydlydan, a J. Williams, Aberhosan.*  Bu Mr James yma dair blynedd, a chyfrif yr amser y bu yma cyn ei urddo, ac yr oedd yr adeg y bu yma yn adeg lewyrchus ar grefydd. Triugain ac wyth oedd rhifedi yr aelodau ar ddyfodiad Mr James yma, a derbyniwyd ganddo driugain a naw, yn y tair blynedd y bu yma. Tynodd amryw ohonynt yn ol yn fuan, ond er hyny gadawodd yr eglwys agos yn ddau cymaint ag y cafodd hi. Yr oedd gwres a brwdfrydedd yn amryw o blant y diwygiad yn Rhydymain y pryd hwnw, nas gallesid meddwl dan amgylchiadau cyffredin fod pobl Sir Feirionydd yn alluog iddo. Yn Mai, 1843, symudodd Mr James i Lansantffraid, Sir Drefaldwyn, lle y mae yn parhau i lafurio hyd y dydd hwn. Yn mhen amser wedi ymadawiad Mr James, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr John Davies, yr hwn a urddasid ychydig flynyddoedd cyn hyny yn Ceidio, Sir Gaernarfon, ond gan nad oedd yr eglwys yn unol yn ei gylch, ac nad oedd yr eglwys yn y Brithdir yn cyduno i roddi galwad iddo, ni bu yma ond ychydig. Ymadawodd a'r enwad, ac unodd a'r Methodistiaid Calfinaidd, a bu yn pregethu yn eu plith. Ymfudodd i America yn 1855, a bu farw yno, gan adael teulu lluosog ar ei ol. Aelod gwreiddiol o'r Drewen, Sir Aberteifi ydoedd, a bu am ychydig yn athrofa Neuaddlwyd. Yr oedd yn ddyn da, ond nad oedd dim yn nodedig yn ei alluoedd meddyliol na'i ddawn fel pregethwr. Gwelodd gryn dipyn o galedfyd, ac nid oedd digon o yni yn ei natur i ymladd ystormydd bywyd.

Yn nechreu y flwyddyn 1847, derbyniodd Mr Robert Ellis, Rhoslan, alwad gan yr eglwys hon a'r eglwysi yn y Brithdir a Llanfachreth, a chynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad yn mis Ebrill y flwyddyn hono, ac y mae yn parhau yma yn ddefnyddiol a pharchus, a'r achos dan ei ofal yn ennill tir ac yn casglu nerth. Yn y flwyddyn 1868, gan fod y capel wedi myned yn hen, ac yn rhy fychan, heblaw ei fod yn anghyfaddas i'r oes, penderfynwyd codi capel newydd hardd, ac ymroddodd yr eglwys a'r ardal o ddifrif i wneyd hyny. Agorwyd ef y flwyddyn ganlynol, ac erbyn mis Medi, 1870, yr oedd yr holl ddyled wedi ei thalu, er ei fod yn werth 700. Mae llawer o hen bobl dda wedi bod yn nglyn a'r achos, y rhai y mae eu henwau yn werth eu cadw mewn coffadwriaeth. Robert Thomas, Penybont, oedd ddyn ffyddlon a synwyrol - gwasanaethodd swydd diacon yn dda ; ymfudodd ef i America. Coffeir gyda pharch am Hugh Robert a Dafydd Robert, Cefnybraich - hen gymeriad rhyfedd oedd Dafydd Robert blinodd lawer ar ei feddwl ei hun ac ar feddyliau eraill, yn nghylch pechod Adda, ac yr oedd cadwedigaeth y Paganiaid, yn bwngc a barodd iddo lawer o boen. Gadawodd 100  yn ewyllys at yr achos yn Rhydymain, llog y rhai sydd i fyned i gynorthwyo y weinidogaeth, heblaw symiau llai a adawodd at achosion eraill. Robert Edwards, Rhydymain, (tad Mr Roberts, Coedpoeth,) oedd ddyn deallus a doniol. Arferai ddweyd am gyfeillion Rhydymain, nad oedd gwell crefyddwyr na hwy pe buasai modd cario achos crefydd yn mlaen heb arian. Am y bobl gynt y mae yn debyg y dywedai hyny, ac nid am y bobl sydd yma yn bresenol.

* Dysgedydd, 1889. Tudal. 380.

447

Yn yr eglwys yma codwyd i bregethu :-

Translation by Maureen Saycell (April 2011)

It was from Llanuwchllyn that God's word first came to this area, the first preacher was Mr Abraham Tibbot. No precise dates are known or who opened their doors to him.  It is obvious that many from here attended Llanuwchllyn but many more new converts were won when preaching began here, and building a chapel was essential despite regular worship being held here. The chapel was built in 1788, a church was established and Mr Tibbot ministered to them until he left Llanuwchllyn, followed by Dr George Lewis. In October 1802 Mr Hugh Pugh was chosen as minister here and for Brithdir. His success here was short, he died 7 years later on October 28th, 1809, aged 29. He was followed by Mr Cadwalader Jones, Deildre, Llanuwchllyn who had been ordained at Dolgellau, Ascension Thursday, 1811. He worked here, with some success, for 28 years when he found the work too much and encouraged both churches to find a new minister. He also arranged to continue for one Sunday a month to smooth the changeover.*  The church called Mr Hugh James, Dinasmawddwy, educated Shrewsbury, ordained in Rhydymain October 30th, 1839. The following officiated Mr J. Roberts, Llanbrynmair, Mr E. Davies, Trawsfynydd, Mr H. Lloyd, Towyn, Mr M. Jones, Bala, Mr C. Jones, Dolgellau. Sermons were also given by Messrs E. Evans, Barmouth, D. Price, Penybont, W. Roberts, Pennal, J. Parry, Machynlleth, H. Morgan, Sammah, E. Griffith, Llanegryn, T. Griffith, Rhydlydan and  J. Williams, Aberhosan.** Mr James stayed for 3 years, a good time for religion. There were 68 on his arrival and he confirmed another 69 during his ministry. Many left quite soon afterwards but he left a church nearly twice as large as when he arrived. There was great zeal among the children of the revival here that was surprising. In May 1843 Mr James moved to Llansanffraid, Montgomeryshire, where he remains. Next called was Mr John Davies, ordained Ceidio, Caernarvonshire. It was not an united call, Brithdir did not want him, his stay was short. He went to the Calvinistic Methodists, eventually to America and died there leaving a large family. He was originally from Drewen, Cardiganshire - educated at Neuaddlwyd for a time.

In 1847 Mr Robert Ellis, Rhoslan, accepted a call from here as well as Brithdir and Llanfachreth. He took up the ministry in April of that year and remains here. In 1868 a new chapel was constructed, opened in 1870 with the full 700 paid by September. The following people should be remembered for their service to this cause -  Robert Thomas, Penybont, deacon, went to America. Hugh Robert a Dafydd Robert, Cefnybraich - left 100 in his will with the interest to support the ministry at Rhydymain. Robert Edwards, Rhydymain, (father of Mr Roberts, Coedpoeth).

The following were raised to preach here:-

* Ysgrif y diweddar Mr C. Jones.

** Dysgedydd, 1889. Tudal. 380.   

BRITHDIR

(Dolgellau parish)

Nid oes dim yn agweddion allanol y llanerch hon o'r ddaear i osod arbenigrwydd arni, mwy na lluaws o lanerchau eraill yn ein gwlad. Nid oes yma dir ffrwythlawn, na daear gynyrchiol. Mae yn wir fod y mynyddau ban, ysgythrog, a welir o gylch y fan yn ymddangos yn fawreddog, pan yn gwisgo eu niwl goronau, a'r ffrydiau grisialaidd a fwrlymant i fyny o'r ddaear, ac a ddisgynant dros y creigiau, yn bur ac iachusol, a'r awelon balmaidd a wyntyllir gan y llwyni a'r coedwigoedd gwyrddlas yn adloniant i ysbryd y preswylwyr, ac yn sirioldeb calon i ymwelwyr achlysurol, etto nis gallasai y pethau hyn oll roddi i'r llecyn dinod yma o Feirionydd yr hynodrwydd y mae wedi ei gyrhaedd. Crefydd y lle sydd wedi gosod arbenigrwydd arno, ac y mae enw y Brithdir yn anfarwol yn nglyn a'r enwogion a gyfododd o hono. Dechreuwyd pregethu yn y lle cyn hir ar ol dechreu yn Rhydymain ; a Mr Abraham Tibbot, a'i gynorthwywyr yn. Llanuwchllyn, Robert Roberts, Tyddynyfelin; Rowland Roberts, Penrhiwdwrch ; John Jones, Afonfechan, a John Lewis, Hafodyrhaidd, oedd y rhai a ymwelent a'r lle yn mlynyddoedd cyntaf yr achos. Pregethid mewn ty annedd yn ymyl y fan lle y safai hen gapel y Brithdir, ac yn aml gorfodid pregethu y to allan i'r drws, gan na chynwysai y ty y rhai a ddeuant yn nghyd. Derbyniwyd ychydig bersonau oddiyma yn aelodau yn Rhydymain, ond yn fuan wedi sefydliad Dr. G. Lewis yn Llanuwchllyn, corpholwyd yr aelodau oedd yn y lle yn eglwys. Nid oeddynt ond wyth o bersonau, a dyma eu henwau - Sion Ellis, Mary Pugh, Perthillwydion, (mam H. Pugh, o'r Brithdir, wedi hyny,) Robert Roberts, o'r Henblas ; Sion Jones, o'r Gorwys; Sion Risiart Wmffre, a gwragedd y tri a enwyd olaf. Robert Roberts, o'r Henblas, oedd yr unig un o honynt a allasai ddarllen ychydig, ac arno ef yn benaf yn ymddibynid pan na byddai pregethwr yn digwydd bod. Yn y flwyddyn 1795, derbyniwyd Hugh Pugh, mab Perthillwydion, yn fachgen ieuangc un-ar-bymtheg oed, yn aelod o'r eglwys gan Dr. Lewis, a theimlai y frawdoliaeth fechan yn y lle fod ei gael yn ennill anmhrisiadwy iddynt, ac felly y profodd. Yn y flwyddyn 1800, adeiladwyd yma gapel, a mawr y llawenydd a deimlid wrth gael pabell i'r arch i drigo ynddi. Gan fod yn anmhosibl i Dr. Lewis weini i'r eglwys yn y Brithdir a Rhydymain ond yn anaml, oblegid eangder maes ei lafur, anogodd hwy i roddi galwad i Mr Hugh Pugh, Perthillwydion, yr hwn oedd wedi treulio blwyddyn yn fyfyriwr yn yr athrofa yn Ngwrecsam. Rhoddodd yr eglwysi alwad iddo, cydsyniodd yntau, ac urddwyd ef yma yn mis Hydref, 1802, a bu yma yn weithiwr difefl, hyd nes y gostyngwyd ei nerth ar y ffordd, ac y byrhawyd ei ddyddiau, a dis-

448

gynodd i'w fedd yn 30 oed. Yn mhen blwyddyn wedi marwolaeth Mr Pugh, rhoddwyd galwad i Mr Cadwaladr Jones, yr hwn a fuasai yn fyfyriwr yn yr athrofa yn Ngwrecsam, ac urddwyd ef yn Nolgellau, Mai 23ain, 1811, a bu gofal yr eglwys yma arno am wyth-mlynedd-ar-hugain, a pharhaodd i bregethu yn fisol yn y lle hyd ddiwedd ei oes. Dechreuodd Mr Hugh James ei weinidogaeth yma yn Mai, 1839, ac urddwyd ef yn Rhydymain, Hydref 30ain a'r 3lain, y flwyddyn hono, a bu yma yn ddefnyddiol hyd fis Mai, 1842, pan y symudodd i gymeryd gofal yr eglwysi yn Llansantffraid, Penygroes, a Llansilin. Yn ystod y tair blynedd y bu Mr James yma, derbyniodd driugain a dau o aelodau, a gadawodd yr eglwys a gafodd yn driugain a chwech, rhifedi yn ugain a chant. Nid oedd ond ychydig o'r gwrandawyr cyson, nad oeddynt y pryd hwnw wedi eu derbyn yn aelodau. Wedi ymadawiad Mr James, bu yr eglwys yma am rai blynyddau heb weinidog gan na chydsyniodd a'r eglwys yn Rhydymain, yn ei dewisiad o Mr John Davies, Ceidio. Yn nechreu y flwyddyn 1847, unodd yr eglwys hon a'r eglwysi yn Rhydymain a Llanfachreth, i roddi galwad i Mr Robert Ellis, Rhoslan; a chynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad yma, Ebrill 12fed, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur, gweinyddwyd gan Meistri J. Jones, Abermaw ; H. Lloyd, Towyn ; C. Jones, Dolgellau ; E. Davies, Trawsfynydd ; M. Jones, Bala ; H. Ellis, Llangwm , J. H. Hughes, Llangollen ; E. Griflith, Llanegryn, ac eraill; ac y mae Mr Ellis yn parhau yma yn y weinidogaeth. Adgyweiriwyd a helaethwyd y capel ar ol ei adeiladu y tro cyntaf, ond yn y flwyddyu 1860, penderfynwyd codi capel newydd ychydig oddiwrth yr hen gapel, a thaflodd yr ardalwyr eu holl galon i'r gwaith, fel y codwyd capel cryf, cadarn; a gwasanaethgar, gydag ysgoldy o'r to cefn iddo, ac y mae claddfa eang wrtho, a gweddillion lluaws o rai anwyl eisioes wedi eu rhoddi i orwedd ynddi. Mae achos cryf a llewyrchus yn y Brithdir, a'r maes gan mwyaf wedi ei feddianu gan yr eglwys yn y lle. Yr oedd yn y Brithdir lawer o hen bobl dda, a hyderwn fod y rhai sydd yno yn awr, yn deilwng o'u henafiaid. Sion Dafydd, cedd yn nodedig am ei ffyddlondeb. Bu Thomas Richard yn ddiacon yma am flynyddau, a chafodd fyw i oedran teg. William Richard, am yr hwn y crybwylla Ieuan Gwynedd, yn hanes wylnos ei fam, na chlywodd ei gyffelyb fel gweddiwr. Hugh Jones, Tynant, oedd gristion didwyll, a diacon ffyddlon - efe oedd y cyntaf gladdwyd yn mynwent y capel newydd. Evan Price, hynaf, Bronalchen, oedd yn ddyn call a thirion iawn ; ac yr oedd yma eraill mae yn ddiau o gyffelyb feddwl, er na chyrhaeddodd eu henwau hyd atom ni. Arferai Richard Jones, Llwyngwril ddweyd, mai mewn profiad y rhagorai hen bobl dda y Brithdir. - " Pwnc yn Rhydymain, profiad yn Brithdir, a meindiwch yr amser yn Nolgellau," oedd ei ddynodiad ef o neillduolion y tri lle.

Codwyd i bregethu pi yr eglwys hen: -

449

 

Yn yr eglwys yma y dygwyd Evan Jones (Ieuan Gwynedd) i fyny, ac y derbyniwyd ef yn aelod, ond fel y crybwyllasom, fwy nag unwaith, aelod yn Sardis, Llanwddyn, ydoedd, pan ddechreuodd bregethu. Mae maen caffadwriaeth iddo ar fur capel y Brithdir, ac nid yw Tycroes, lle y treuliodd flynyddoedd ei febyd, yn nepell oddiyma.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

HUGH PUGH. Ganwyd ef Tachwedd 22ain, 1779, yn Tynant-bach, Brithdrr. Yr oedd ei rieni Robert a Mary Pugh, yn bobl barchus a chyfrifol, ac yn well arnynt yn y byd na'r rhan fwyaf o'u cymydogion. Yr oedd pan anwyd  ef yn eiddilach na phlant yn gyffredin, fel yr ofnid am ei einioes beunydd, ond cryfhaodd yn raddol, er na ddaeth byth yn gryf. Derbyniodd addysg gyffredinol dda, pan yn fachgen yn Nolgellau, ae wedi hyny yn Sir Amwythig, fel y daeth yn lled hyddysg yn yr iaith Saesonaeg, ac yn gyfarwydd yn elfenau gwybodaeth gyffredin. Yr oedd er yn fachgen yn nodedig ar gyfrif ei diriondeb a'i hynawsedd, fel yr ennillai ei dymer serchus iddo air da gan bawb. Symudodd ei rieni Perthillwydion, ac yn nglyn a'r lle hwnw yr oedd eu henwau yn fwyaf adnabyddus. Yr oedd ei fam yn aelod yn y gangen oedd wedi ei ffurfio yn Rhydymain, os nad oedd yn wir yn un o'r rhai a arferai gyrchu i Lanuwchllyn i gymundeb. Byddai Hugh Pugh yn arfer myned gyda'i fam i Rhydymain i'r gyfeillach, ond bu yn hir yn cloffi rhwng dau feddwl cyn rhoddi ei hun yn gyflawn i'r Arglwydd. Ofnid unwaith yr ymollyngai gyda'i gyfoedion gwyllt, ac un tro gwelwyd arwyddion ei fod wedi aros yn rhy hir yn y dafarn. Parodd yr amgylchiad dristwch mawr i'w fam, ac er nad oedd ei dad yn proffesu crefydd, yr oedd arno ofn mawr rhag i'w hoff fab droi allan yn oferddyn penrydd. Ond rhagflaenodd yr Arglwydd ef, a thrwy ddylanwad pregeth gyffrous o eiddo rhyw wr dyeithr oedd yn myned trwy y wlad, dygwyd ef i benderfynu rhoddi ei hun i'r Arglwydd, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod gan Dr. Lewis, pan nad oedd ond un-ar-bymtheg oed. Cyn pen dwy flynedd, anogwyd ef gan y cyfeillion i ddechreu pregethu, a dymunent arno ddarllen penod, a dywedyd ychydig oddiwrth ryw ranau o honi, yn y cyfeillachau a'r cyfarfodydd gweddio. Ni wyddai ei dad, gan nad oedd yn aelod, ddim am y peth, a rhyw noswaith wedi myned i'r cyfarfod yn yr hen lofft yn y Brithdir, beth a welai er ei syndod, ond Huwcyn (chwedl yntau,) yn codi i fyny, ac yn darllen penod ac yn esbonio ychydig arni. Tarawyd yr hen wr a syndod, ac a theimladau digofus, ac ni wyddai pa la yr ai, na pha beth a wnai. Plygai ei ben mewn cywilydd yn y gongl, a dywedai  fod yn mron cnoi ei fysedd, a'i fod yn meddwl ei fod yn teimlo ei wallt yn sefyll ar ei ben, ac nad oedd yn teimlo ei ddillad am dano. Bu ar fedr llithro allan

450  

yn ddistaw, ond aros yno fel ar ddrain hyd y diwedd a ddarfu iddo. Ond wedi cael y diwedd, allan ag ef, ac adref ar ffrwst, ac yn orlawn o ddigllonedd at y bachgen am ei ryfyg, ac erbyn cyrhaedd y ty, ebe efe wrth ei wraig, yr hon oedd gartref yn gwarchod, " Wel, Mari, Mari, welist ti 'riod ffasiwn beth, naddo yn fy myw - wyddwn i ddim lle 'roeddwn i, 'roeddwn i bron a myn'd o nghroen."  "Wel, yn enw dyn, Robert bach, beth sydd yn bod ?" ebe ei wraig mewn braw, rhag fod rhyw anffawd wedi digwydd. " Beth sy'n bod yn wir ? ond y bachgen Huwcyn yna yn mynd i ddarllen penod ac i ,sponio yn y cyfarfod gweddi heno- welis i 'riod ffasiwn beth - hogyn drwg fel yna yn rhyfygu myn'd wrth ben Bibl Duw ;" ac erbyn hyn dyma Hugh druan i'r ty, heb wybod fawr beth oedd yn ei aros. Ond nid cynt yr oedd i fewn nag y dechreucdd ei dad arno mewn llais cryf ac ysbryd cyffrous - "Wel Huwcyn, yr ydw i yn dy roi di dan dy rybudd, na wnei di ddim peth fel yna etto-ti yn cymryd gair Duw i'w drin fel yna." Ond ni ddywedodd Hugh ddim, ond cilio o'r neilldu, ac ni ddywedodd ei fam ddim, a daeth y tad bob yn dipyn i gymodi a'r peth, ac i allu gwrando ei fab heb deimlo fod achos iddo guddio ei ben rhwng ei liniau. Ymgododd Mr Pugh yn fuan i boblogrwydd fel pregethwr, fel yr aeth son am dano ef trwy yr holl wlad oddiamgylch. Yr oedd cymeriad ei deulu mor barchus yn yr ardal-ei ddull yntau o bregethu mor hynod o ddengar-ei lais mor beraidd - ei ysbryd mor danbaid - a'i olwg ieuengaidd yn ychwanegol at hyny, yn ei wneyd yn nodedig o dderbyniol a phoblogaidd. Pan oedd tuag ugain oed, aeth i'r athrofa yn Ngwrecsam, ac arosodd yno flwyddyn. Teimlai yn awyddus i dreulio yr amser rheolaidd yno, ond oblegid rhyw amgylchiadau perswadiwyd ef ddychwelyd gartref, a chymeryd gofal yr eglwysi ffurfiedig yn Rhydymain a'r Brithdir. Cydsyniodd a hyny, ac urddwyd ef yn y lle olaf a nodwyd yn Hydref, 1802. Urddwyd ef yn y Brithdir oblegid ei gysylltiad blaenorol a'r lle hwnw, er mai Rhydymain oedd yr achos hynaf. Yr oedd capel wedi ei godi yno er y flwyddyn 1788, ac agorwyd ef y flwyddyn ganlynol, o fewn wythnos i agoriad capel Penystryd. # Yn fuan

* Ysgrif M. R. Ellis, Brithdir.

# Wedi i hanes Rhydymain fyned i'r wasg, derbyniasom air oddiwrth gyfaill Yn wedyd fod nifer o ddynion o sir Fflint, wedl dyfod yn fwnwyr i'r gymydogaeth, tua chanol y ganrlf ddiweddaf, a bod un o honynt yn aelod ac yn bregethwr perthynol i Newmarket, ac mai efe a bregethodd yno gyntaf, ac iddo ddyoddef erledigasth dost o herwydd hyny,   ac mai rhyw deiliwr yno oedd yr erlidiwr gwaethaf. Yr oedd gwraig o enw Ellinor Davies, yn byw ar y pryd yn Hafodwyn, ac yn aelod yn Llanuwchllyn. Nid oedd hi yn yr oedfa, oblegid fod gormod o ddwfr yn yr afon, ond yr oedd yn gallu gweled y driniaeth oedd y pregethwr yn ei gael,  ac wedi marcio y teiliwr allan fel un o'r rhai ffyrnicaf yn ei erbyn. Yn fuan ar ol hyn, digwyddodd i'r teiliwr fyned i Hafodwyn i ofyn ychydig laeth, ac nid oedd neb ond y wraig yn y ty ar y pryd. Gwahoddodd ef mewn yn garedig, ac wedi ei gael i fewn clodd y drws, a gafalodd mewn ffon gref, a dywedodd, " Wel, yr  hen was a wyt ti yn cofio fel yr oeddit ti yn rhedeg ac yn lluchio y pregethwr ?   Mi dalaf i ti heddyw am hyn, mi dy wnaf di, na redi di byth mwy ar ol yr un pregethwr." Dychrynodd y teiliwr trwy ei galon - canys yr oedd Ellinor Davies yn wraig rymus - ac addawodd os ca'i bardwn y tro hwnw, heb y fath beth byth mwyach. Ar yr amod hon, cafodd ddiangc y tro hwnw, heb fyned o dan ddysgyblaeth y pestwn. Nid yw ein hysbysydd yn gwybod fod yma neb y pryd yn proffesu crefydd ; ac ni wnaed cynyg ar bregethu yno hyd nes y daeth Mr A. Tibbot i'r wlad. Yr oedd y bobl ar ei ddyfodiad cyntaf, wedi parotoi  i'w erlid yntau, ond dychrynodd rhai pan welsant ei fod yn " wr cadarn nerthol," a theimlodd eraill nerth ei weinidogaeth, fel nad oedd awydd arnynt i godi llaw yn ei erbyn. Dylasem grybwyll hefyd, fod ysgoldy perthynol i Rydymain, yr hwn a elwir Soar, wedi ei godi yn agos i Ddrwsynant, a chynhelir Ysgol Sabbothol ynddo yn rheolaidd, a phregethir ynddo yn achlysurol.

451

wedi ei urddo cafodd yr hyfrydwch mawr o dderbyn ei dad a'i unig chwaer i'r eglwys trwy ddeheulaw cymdeithas, ac mor effeithiol oedd yr olygfa, pan y gwelwyd ef yn estyn ei law dros y bwrdd i'w dad, fel y llwyr orchfygwyd pawb yn y lle, a methodd yntau ei hun a dyweyd yr un gair ond ymollwng i gydwylo dagrau llawenydd. Pregethodd y Sabboth hwnw ar y geiriau, "Ond myfi, mi a'm tylwyth, a wasanaethwn yr Arglwydd." Ni chyfyngodd ei lafur i'r Brithdir a Rhydymain yn unig, ond ymdrechai i helaethu terfynau yr achos. Dechreuodd bregethu yn Nolgellau, a phrynodd hen gapel i'r Methodistiaid Calfinaidd at wasanaeth yr enwad. Pregethodd yn Llanelltyd, a sefydlodd achos yno, ac ymwelai yn aml a'r Ganllwyd. Eangodd gylch ei lafur i'r Cutiau, a gwelodd yno ffrwyth i'w lafur, a byddai yn pregethu yn achlysurol yn Abermaw a'r Dyffryn, ac ymestynai ei lafur cyn belled a Llwyngwril, Llanegryn, a Thowyn. Wrth ysgrifenu at gyfaill iddo oedd yn fyfyriwr yn yr athrofa yn Ngwrecsam, dywed, " Yr wyf yn wastad yn bur llawn o waith, ac yr wyf yn gobeithio y byddaf felly tra y byddaf yn y byd, oblegid digonedd o waith yw fy nghysur penaf. Yr ydwyf yn pregethu dair gwaith hob Sabboth, a thair neu bedair gwaith yr wythnos heblaw hyny, mewn gwahanol fanau. Wrth hyn, chwi a welwch nad oes genyf ond ychydig o amser er difyrwch. Yr wyf yn cael hyfrydwch mawr wrth fyfyrio, ac yn gyffredin yn cael fy nghynorthwyo i bregethu yn gyhoeddus, gyda boddlonrwydd i fy meddwl fy hun, ac mor belled ag yr wyf yn deall i'r bobl, er i mi weled amser pan yr oedd mwy o arwyddion fod y gwirionedd yn effeithio er eu hiechydwriaeth." * Mae pob peth sydd wedi eu mynegi i ni am dano yn dangos yn eglur ei fod wedi ei gynysgaeddu a galluoedd dealldwriaethol, a chymwysderau gweinidogaethol pell uwchlaw y rhan fwyaf o'i gydoeswyr. Er fod ei edrychiad yn wylaidd, etto yr oedd gwroldeb neillduol ynddo. Yr oedd uwchlaw ofn dyn yn y pethau a dybiai yn rhwymedigaethau arno i Dduw. Ni phetrusai fynegi eu diffygion i ddynion yn eu gwynebau pan y credai eu bod i'w beio, ond gwnai hyny gyda'r fath dynerwch, fel yr argyhoeddid pawb mai am ei fod yn eu caru yr oedd yn eu ceryddu. Ond pan yn nghanol ei boblogrwydd a'i lwyddiant, a phawb yn meddwl nad oedd ond dechreu ymagor i oes o ddefnyddioldeb, nodwyd ef gan angau i ollwng ei saeth arno. Yr oedd yr haf diweddaf y bu byw wedi bod yn dymor o lafur neillduol iddo. Bu yn Llundain am rai wythnosau, a dychwelodd tua chanol mis Awst. Yr oedd yn Nhreffynon yn y gymanfa yn mis Medi yn pregethu gyda'i fywiogrwydd arferol. Yn mhen pythefnos wedi hyny, yr oedd yn Liverpool yn y cyfarfod blynyddol, yr hwn a gynhelid y pryd hwnw yn mis Hydref, ac ar ddydd Iau y 18fed dychwelodd adref. Bu mewn cyfeillach yn y Brithdir nos Wener, a chanai yn beraidd gyda'i frodyr. Nos Sadwrn ymddangosai yn fwy pruddaidd nag arferol, a dywedai wrth ei wraig, fod rhyw argraff ar ei feddwl na byddai yn hir gyda hwy, ac mai ei unig bryder oedd wrth feddwl ei gadael hi a'r plant yn amddifaid. Pregethodd y Sabboth yn Rhydymain, a dychwelodd adref fel arferol. Ond dechreuodd gwyno ddydd Mawrth, ac ni allai godi o'r gwely, yr oedd wedi meddwl pregethu ddydd Mercher, oblegid yr oedd Jubili teyrnasiad Sior III. am haner can' mlynedd, ond nis gallasai godi o'i wely, ac erbyn dydd Iau, gwelwyd ei fod dan y clefyd coch (scarlet fever), a chyn dydd boreu Sadwrn, yr oedd ei

* Dysgedydd, 1824. Tudal. 357.

452

ysbryd wedi ei ollwng o'r corph a ddirdynwyd gan y clefyd, i'r wlad lle "na ddywed y preswylwyr claf ydwyf." Dydd Mawrth canlynol, dygwyd  gorph i'w gladdu mewn bedd newydd yn mynwent Dolgellau, gan dyrfa fawr o alarwyr dwys, y rhai a deimlant fod cymylau a thywyllwch o amgylch yr oruchwyliaeth ddygodd "Pugh o'r Brithdir" i'w fedd, cyn ei fod yn lawn ddeng-mlwydd-ar-hugain oed.

Translation by Maureen Saycell (June 2011)

There is nothing more outstanding about this area than any other in our country. There is no fertile land. True the mountains are majestic, the streams clear falling over the rocks and the scenery inspiring for locals and visitors, but this does not equal the greatness achieved by this insignificant part of Meirioneth. It is religion that has made it great, many well known people have been nurtured here. Preaching began soon after Rhydymain,  Mr Abraham Tibbot, and his supporters from Llanuwchllyn, Robert Roberts, Tyddynyfelin, Rowland Roberts, Penrhiwdwrch, John Jones, Afonfechan, and John Lewis, Hafodyrhaidd, were the ones who came in the early years. Preaching took place in a house near the old chapel at Brithdir, often outside as there was no room. Some people from here became members at Rhydymain but soon after Dr G Lewis was settled at Llanuwchllyn the members were formed into a church here. There were only eight - Sion Ellis, Mary Pugh, Perthillwydion, (mother of H. Pugh, later Brithdir,) Robert Roberts, Henblas, Sion Jones, Gorwys, Sion Risiart Wmffre, and the wives of the last three. Robert Roberts, Henblas was the only one that could read a little, he was the mainstay when there was no preacher. In 1795 Hugh Pugh, aged 16, son of Perthillwydion, was accepted as a member by Dr Lewis, he proved to be as priceless as the small brotherhood hoped. A chapel was built in 1800, to much rejoicing. As Dr lewis was not able to minister to Brithdir and Rhydymain because of the size of the area, he encouraged them to send a call to Hugh Pugh, Perthillwydion, who had completed a year at Wrexham College. He accepted and was ordained in October 1802. He remained here until his untimely death at the age of 30. Within a year they called Mr Cadwalader Jones, a student at Wrexham, and he was ordained at Dolgellau on May 23rd, 1811. He continued to preach monthly for 28 years.Mr Hugh James began his ministry here in May 1830 and was ordained at Rhydymain on October 30th and 31st of that year. He stayed until May 1842 when he moved to Llansanffraid, Penygroes and Llansilin. During the 3 years he confirmed 62 new members and left the church with 120 members, they were 66 when he arrived. There were few regular listeners who had not become members by then. There was no minister for some time after that as they did not unite with Rhydymain in choosing Mr John Davies, Ceidio.

At the beginning of 1847, this church along with Rhydymain and Llanfachreth, called Mr Robert Ellis, Rhoslan, he was settled here on April 12th.The following officiated Messrs J. Jones, Barmouth, H. Lloyd, Towyn, C. Jones, Dolgellau, E. Davies, Trawsfynydd, M. Jones, Bala, H. Ellis, Llangwm , J. H. Hughes, Llangollen, E. Griffith, Llanegryn, and others; he remains the minister here. The old chapel had been renovated and extended but in 1860 it was decided to build a new chapel a short distance away. A strong, servicable chapel, with a schoolhouse behind and a large cemetery, was built. There is a flourishing cause at Brithdir, caring for most of the area. The following deserve mentioning -  Sion Dafydd, Thomas Richard, William Richard, Hugh Jones, Tynant, Evan Price, senior, Bronalchen.    

Those raised to preach here were:-

BIOGRAPHICAL NOTES *

HUGH PUGH - Born November 22nd, 1779, in Tynant-bach, Brithdir - parents Robert a Mary Pugh - general education in Dolgellau, then Shrewsbury, where he learned to speak English - confirmed by Dr. Lewis, aged 16 - His mother was a member, father not - discovered his son's talent when he went to listen at Brithdir, he was not happy but came to terms eventually - ordained Brithdir in October 1892. Brithdir - next to Rhydymain is a schoolhouse, named Soar, where Sunday School and occasional preaching is conducted. After settling here he confirmed his father and sister as members. He extended his preaching to Dolgellau,where he acquired the Calvinistic Methodist chapel for the cause, Llanelltyd, Ganllwyd, Cutiau, Barmouth, Dyffryn, Llwyngwril, Llanegryn, and Towyn. In a letter to a friend in Wrexham he stated he was always busy, satisfied and he hoped successful despite the fact that there was not as much evidence of souls being saved** - he died of scarlet fever - buried in Dolgellau before his 30th birthday.

** Dysgedydd, 1824. Tudal. 357.  

* Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

DOLGELLAU

Already translated etc, see  http://www.genuki.org.uk/big/wal/MER/Dolgellau/Hanes.html

452/455

" Yr oedd Dolgellau yn un o'r gorsafoedd yn y rhai y pregethai yr enwog Hugh Owen, o Fronyclydwr, yn ei ymweliadau tri-misol, ac ymddengys fod ganddo yma gynnulleidfa fechan wedi ei chasglu, ac adnabyddid y lle y cyfarfyddent, fel y " Ty cyfarfod." Pa beth a ddaeth o'r " ychydig enwau " ar ol marwolaeth Mr. Owen, nis gallasem wybod, er gwneyd pob ymchwil, ond y mae yn eglur i'r Annibynwyr roddi i fyny bregethu yn y dref am gan' mlynedd. Pregethid llawer gan eu gweinidogion yn amgylchoedd y dref, a dichon i ambell un yn achlysurol bregethu yn y dref; ond ni wnaed un cynyg i ail gychwyn yr achos yma, hyd nes yr ymsefydlodd Mr. Hugh Pugh yn weinidog yn y Brithdir. Yr oedd y gwr ieuangc llafurus hwn mor llawn o ysbryd ei waith, fel y torai allan ar y ddeheu ar aswy i bregethu yr efengyl. Dechreuodd bregethu a chadw cymundeb yn Llanelltyd, cyn dechreu yn Nolgellau, ac elai amryw o'r dref yno i wrando, a derbyniwyd rhai o honynt yn aelodau ; ond wedi corpholi yr eglwys yn y dref, a chael capel cyfleus, deuai yr aelodau o Lanelltyd i Ddolgellau i gymundeb, ac ystyrient eu hunain yn rhan o'r eglwys yma. Dechreuodd Mr. Pugh bregethu yn Mhen-bryn-glas, Dolgellau, a chyn hir " derbyniwyd yn y Brithdir o gymydogaeth Dolgellau, fel ffrwyth llafur Mr. Pugh, cyn bod un eglwys ffurfiedig yn y dref ei hun gan yr Annibynwyr, John Evans, Talywaun, a'i wraig ; Evan Dafydd, Gellidwylan, a'i wraig; Ann Jones, Pantypiod; William Vincent, Morris Dafydd (Meurig Ebrill), Evan Owen, Gyllestra ; Catherine Thomas, Dolrisglog ; John Mills, Hafod-dywyll, a'i wraig ; Morris Evan, o'r Gilfachwydd; Elizabeth Ellis, John Lewis Owen, ac amryw eraill. Yn Ebrill, 1808, prynodd Mr. Pugh, addoldy y Trefnyddion Calfinaidd yn Nolgellau, yn nghyd a'r tai perthynol iddo am 500p., a phregethwyd yn y capel gan y ddwy blaid, hyd nes y daeth capel newydd y Trefnyddion yn gymwys iddynt i addoli ynddo. Unwaith cyn ymadawiad y Trefnyddion, gweinyddwyd Swper yr Arglwydd i gynifer o'r Annibynwyr a allwyd gael yn nghyd o Rydymain, Brithdir, Llanelltyd, a'r Cutiau, pryd yr eglurodd Mr. Pugh sylfaeni Ymneillduaeth, y dull Ysgrythyrol o ymarfer yr ordinhad o Swper yr Arglwydd, a dybenion sefydliad yr ordinhad, ac amryw o bethau pwysig eraill. Bu ei sylwadau yn achlysur i roddi tramgwydd i rai o'r Trefnyddion, ond rhoddasant foddlonrwydd mawr i lawer eraill.*"  Evan Jones, tad Ieuan Gwynedd, oedd y cyntaf a dderbyniwyd o'r newydd gan Mr. Pugh yn Nolgellau. Tynodd doniau ennillgar ac ysbryd gwrol Mr. Pugh sylw y dref, a deuai cynnulleidfa dda i'w wrando, a daeth amryw o'r gwrandawyr i geisio yr Arglwydd gyda'i bobl. Ymroddodd Mr. Pugh i dalu y ddyled oedd yn faich trwm ar ysgwyddau gweiniad. Bu yn Llundain yn

* Cofiant Mr. Cadwaladr Jones. Tu dal; 11 a 12.

casglu, ond ni bu mor lwyddianus ag y disgwyliai. Ychydig uwchlaw 60p. a gasglodd. Ond yn nghanol ei lwyddiant a'i ddefnyddioldeb, tarawyd ef yn glaf gan y clefyd coch, a bu farw ar fyr rybudd, Hydref 28ain, 1809, er mawr alar i'r eglwysi bychain oedd dan ei ofal a cholled i ogledd Cymru yn gyffredinol.

Yr oedd sefyllfa yr achos yma ar y pryd, y fath fel y teimlid fod angen gweinidog yn ddioed. Yr oedd y wlad eang o Ddrwsynant i'r Abermaw, ac o Fwlchyroerddrws i'r Ganllwyd, darn o wlad oedd yn ddeunaw milldir o hyd, a deuddeg o led, heb neb i gymeryd gofal y praidd bychain oedd yn wasgaredig ar hyd-ddo. Heblaw hyny, yr oedd yr holl gapeli trwy y cylch, ond Rhydymain, dan faich trwm o ddyled. Yr oedd 230p. ar gapel y Brithdir a'r ty newydd a adeiladwyd wrtho i Mr. Pugh, a'i briod. Yr oedd 20p. ar Lanelltyd; 160p. yn aros ar gapel y Cutiau, ac yn agos i 500p. ar gapel Dolgellau. Cawsant gydymdeimlad a chynorthwy effeithiol gan amryw weinidogion. Aeth Mr. W. Hughes, Dinasmawddwy, i'r Deheudir, a chasglodd dros 100p. Casglodd Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, 20p. yn yr Amwythig, ac aeth Mr. W. Williams, Wern, i amryw leoedd yn y Gogledd, a chasglodd 40p., a bu yr help amserol yma yn ymwared mawr i'r achos.* Ond er yr holl gynorthwy a roddid iddynt, teimlai yr eglwysi amddifadrwydd mawr o eisiau gweinidog, ond teimlant ar yr un pryd, mai nid gorchwyl hawdd oedd cael olynydd teilwng o Mr. Pugh. Tueddid rhai i roddi galwad i Mr. David Morgan, Talybont, (Machynlleth, wedi hyny); ond gogwyddai eraill yn ffafr rhoddi galwad i Mr. Cadwaladr Jones, myfyriwr ar y pryd, yn athrofa Gwrecsam. Daeth yr eglwysi benderfyniad i roddi y ddau ger bron, ac i'r lleiafrif roddi i fyny i'r mwyafrif. Dywedir mai etholiad tyn a fu, ac mai un yn ychwaneg gafwyd dros Mr. Jones, na thros Mr. Morgan, ac mai un rheswm mawr dros Mr. Jones ydoedd, fod ei lais yn debyg iawn i eiddo Mr. Pugh. Ni bu un gronyn o ddrwgdeimlad rhwng Mr. Morgan a Mr. Jones, o herwydd yr amgylchiad, ac yr oedd y rhai a bleidiasant dros Mr. Morgan pan welsant eu bod wedi colli, mor selog a neb dros Mr. Jones. Derbyniodd yr alwad cyn diwedd haf 1810, ond cafodd gan yr eglwysi foddloni iddo aros yn yr athrofa hyd ddiwedd y flwyddyn hono. Brithdir oedd eisteddle y weinidogaeth yn nyddiau Mr. Pugh, ond ar sefydliad Mr. Jones, symudwyd eisteddle y weinidogaeth i Ddolgellau. Yma yn awr yr oedd yr eglwys luosocaf, er nad oedd ond pedwar-ar-bymtheg-ar-hugain o rifedi, a hyny yn cynwys yr aelodau a ddeuai o Lanelltyd, Ganllwyd, ac Islaw'rdre. Nid oedd ond pedwar-ar-ddeg-ar-hugain yn y Brithdir ; tri-ar-hugain yn Rhydymain, a dau-ar-bymtheg yn y Cutiau, yn gwneyd cyfanswm aelodau yr esgobaeth ar ddyfodiad Mr. Jones yma yn nechreu y flwyddyn 1811, yn gant-a-thri-ar-ddeg. Urddwyd ef yma Medi 23ain, 1811, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri G. Lewis, Llanuwchllyn; B. Jones, Pwllheli ; J. Roberts, Llanbrynmair ; J. Griffith, Machynlleth ; W. Hughes, Dinas; W. Jones, Trawsfynydd; J. Lewis, Bala; D. Roberts, Llanfyllin ; J. Davies, Aberhafesp ; W. Williams, Wern, a J. Powell, Rhosymeirch. Yr oedd Mr. Jones pan urddwyd ef, yn ddyn ieuangc hoyw, gwisgi, wyth-ar-hugain oed, ac er ei fod yn araf a phwyllog, yr oedd yn llawn o ysbryd ei waith. Cynyddodd yr achos yn y dref yn fawr trwy ei lafur, a gwnaed llawer o adgyweiriadau ar y capel, a thalwyd rhan fawr o'r ddyled oedd

*Ysgrif y diweddar Mr. Cadwaladr Jones.

 arno. Bu Mr. Jones yn y De a'r Gogledd yn casglu, ac yn Liverpool, a'r Amwythig, a Llundain. Casglodd yn Llundain yn unig 132p. 4s. 2c. Yn mhen blynyddoedd gwelwyd yn angenrheidiol adnewyddu a helaethu capel, ac aeth y draul yn nglyn a hyny yn 448p. Daeth yr achos yma yn gryf a dylanwadol - Ysgol Sabbothol luosog a gweithgar, ac yr oedd nifer o ddynion yn yr eglwys, oeddynt yn nodedig ar gyfrif eu gwybodaeth Ysgrythyrol a duwinyddol. Graddol oedd ei chynydd, ond yr oedd yn sicr ; ac am y rhai a ychwanegid at yr eglwys, yr oeddynt yn gyffredin yn gyfryw ag a allent roddi rheswm am y gobaith oedd ganddynt. Cafodd Mr. Jones oes hir i'w dysgu, ac yr oedd yn meddu cymhwysderau arbenig i ddysgu y rhai oedd dan ei ofal yn mhyngciau athrawiaethol yr efengyl, yn gystal ag yn egwyddorion, trefn, a llywodraeth eglwysig. Cyfrifid yr eglwys yn nhymor gweinidogaeth Mr. Jones, yn un o'r rhai mwyaf goleuedig a deallgar, ac yr oedd yn nodedig am ei heddychlonrwydd.

Wedi llafurio yn ddyfal yn y weinidogaeth am chwe'-blynedd-a-deugain, dechreuodd deimlo fod cymdeithion henaint gydag ef, a meddyliodd y buasai cystal iddo ymddeol o'i ofalon gweinidogaethol, fel y gallai yr eglwys yn y dref gael rhyw un ieuengach i fwrw golwg trosti. Yn nechreu y flwyddyn 1858, cydunodd ef a'r eglwys i roddi galwad i Mr. Thomas Davies, myfyriwr o athrofa Aberhonddu ; ac urddwyd ef Gorphenaf 21ain a'r 22ain, o'r flwyddyn hono.  Ar yr achlysur, gweinyddwyd gan Meistri J. Williams, Castellnewydd ; J. M. Davies, Maescwmwr ; J. Jones, Machynlleth ; W. Griffith, Caergybi ; J. Roberts, Llundain ; W. Roberts, Aberhonddu; N. Stephens, Sirhowy, a W. Rees, Liverpool. Rhoddodd yr hen weinidog adroddiad effeithiol o'i adolygiad ar saith-mlynedd-a-deugain o weinidogaeth yn y lle, ac ymddiosgai o'i ofalon gyda'r dymuniadau goreu i'w olynydd. Bu Mr. Davies yn weithgar a defnyddiol am y tymor byr y bu yma. Bendithiwyd yr eglwys ag adfywiad grymus, ac ychwanegwyd llawer at yr eglwys, yn enwedig o bobl ieuaingc. Nid arosodd Mr. Davies yma ond ychydig gyda phedair blynedd, canys symudodd i gymeryd gofal yr eglwys Saesonaeg, yn Painswick, swydd Gaerloyw. Bu yr eglwys yma dros rai blynyddau heb weinidog, ond daliai yr achos ei dir er pob peth, a daethpwyd i benderfyniad i adiladu capel newydd mewn man mwy cyfleus o'r dref, a chodwyd capel rhagorol, yr hwn yn nghyd a'r tir ar yr hwn y saif, a gostiodd 2800p. Agorwyd ef Mehefin 4ydd a'r 5ed, 1868. Derbyniodd Mr. Evan A. Jones, Llangadog, alwad gan yr eglwys yma yn Ionawr, 1868, ond oblegid cystudd ag angau yn ei deulu, bu am naw mis heb ei hateb yn gadarnhaol, ond o'r diwedd cydsyniodd a'r gwahoddiad, symudodd yma yn Ionawr, 1869, ac y mae er ei sefydliad yn hapus a defnyddiol yma. Mae dyled y capel newydd trwy haelioni y cyfeillion yn y lle, a'r swm a gafwyd am yr hen gapel, wedi ei dynu i lawr i 700p., ac yn ol fel yr ymddengys pethau yn awr, nid y pedair blynedd nesaf heibio heb weled y ddyled oll wedi ei thalu. Mae yr achos yma ar y cyfan, mewn gwedd iachusol, a holl gylchoedd cyhoeddus crefydd, o leiaf, yn eu llenwi yn lled ddifwlch. Cafwyd yma dipyn o drafferth yn nglyn a gwerthiad yr hen gapel, oblegid fod yr hen weithred yn gwahardd . werthu i un pwrpas, ond i fod yn gapel i'r Annibynwyr, a'r rhai hyny yn fedyddwyr babanod. Nid yn unig gofynai fod yr arian a geid am dano i   fyned i'r un amcan ag oedd gan y rhai a'u hadeiladodd, yr hyn a gyfrifa llawer yn deg a rhesymol ; ond nid oedd yn ol y weithred i gael ei werthu i ddim ond i fod yn gapel, nac yn gapel i neb ond yr Annibynwyr. Trwy apelio at .y Charity Commissioners, cafwyd cenad i'w werthu, ar yr amod fod yr arian a geid am dano i fyned i dalu am y capel newydd, ac yr oedd pawb yn foddlawn i hyny, oblegid er mwyn cael yr arian i dalu am y capel newydd y gwerthid ef. Nid ystyrid yn gyflawn i'r arian a geid am dano i fyned at ddim ond rhywbeth cydnaws a golygiadau y rhai a aeth i'r draul i'w adeiladu a thalu am dano.

Mae yma lawer o hen bobl ddeallgar a chrefyddol wedi bod yn nglyn a'r achos. Evan James, y cylchwr, oedd yn hen grefyddwr nodedig. Cyfrifid ef yn gristion tawel, didwyll, ac yn gadarn yn yr Ysgrythyrau. Meurig Ebrill, oedd un o aelodau cyntaf yr eglwys yma, ac a fu fyw i oedran teg. Yr oedd yn ddyn deallus, ac yn fardd rhagorol. Henry Miles, oedd wr da a ffyddlon, a gair da iddo gan y rhai a'i hadwaenai oreu. Lewis Pugh, a fu yma am flynyddau lawer yn gefn mawr i'r achos, ac yr oedd mewn amgylchiadau bydol y gallasai wneyd llawer drosto. Bu ef a Mrs. Pugh yn groesawgar a llettygar i'r achos am flynyddau lawer. Mrs. Anwyl hefyd, oedd un o'r gwragedd y cofir am dani gyda hiraeth gan y rhai a ymwelent a'r lle gynt. Nid oes o'r to cyntaf yn aros yma ond Evan Jones, Ty'rcapel, ac y mae yntau yn llesg a methiedig ; ond y mae hiliogaeth rhai o'r rhai fu yn wyr enwog yma gynt, yn aros etto, ac yn dilyn llwybrau eu tadau.

Codwyd amryw bregethwyr yn yr eglwys hon, ac o'r cyfryw yr ydym yn sicr o'r rhai canlynol

 

CONTINUED


(Last updated : 24 June 2011: Gareth Hicks) Valid HTML 4.01 Transitional

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI