Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

From the CD published by Archive CD Books See main project page

MERIONETHSHIRE   (Vol 1)

Pages 456 - 469

Proof read by Maureen Saycell (May 2008)

Chapels below;

  • (Continued) DOLGELLAU
  • ISLAW'RDREF    (with translation)
  • TABOR  (with translation)

 

Pages 456 - 469

456

(Continued) DOLGELLAU

Already translated etc, see  /big/wal/MER/Dolgellau/Hanes.html

  456/460

  • .......................... sylw, pa un bynag a'i mewn gair, acen, neu bwyslais y byddai.
    " Yr oedd ei fryd yn fawr i gael cyhoeddiad bychan at wasanaeth yr Ysgol Sul yn arbenig. Gwnaeth unwaith weithred yn cyflwyno 800p. i ddiaconiaid yr eglwys Annibynol yn Nolgellau fel ymddiriedolwyr, er dwyn allan gyhoeddiad o'r natur yma, a chyhoeddi llyfrau eraill perthynol i'r Ysgol Sul. Teimlai braidd yn chwerw tuag atynt, yn enwedig tuag at un person, eisiau na buasai y peth yn cael ei ddwyn oddiamgylch, a chyhoeddiad yn cael ei gychwyn. Yr esboniad tecaf ag y gallwn ei roi ar yr achos na chychwynwyd cyhoeddiad oedd hyn : - ni ddarfu iddo ef drosglwyddo yr arian drosodd i'w dwylaw fel ymddiriedolwyr. Yn awr, yr oedd ef yn disgwyl iddynt hwy gychwyn cyhoeddiad, a hwythau yn disgwyl iddo yntau gychwyn trwy roi yr arian yn en gallu hwy, a thrwy fod y naill yn disgwyl wrth y llall, aeth y ddwy flynedd o amser oedd wedi ei roi er cychwyn yr anturiaeth heibio, ac aeth y cytundeb yn ofer. Ffurf arall ar yr un bwriad, oedd yr arian a roddwyd ganddo er cychwyn yr Annibynwr. Rhoddwyd ganddo 500p. at yr amcan hwnw, ar yr amod fod yr Ysgol Sul yn cael rhan o'r cyhoeddiad yn wastadol at ei gwasanaeth. Rhoddwyd 500p. at y dyben hyny, a hen wasg, yr hon a gyfrifai efe yn werth 60p., yr ydym yn meddwl. Mae 400p. o'r arian hyny ar dir, ac y mae llog at wasanaeth y Dysgedydd a'r Annibynwr, fel y maent yn awr yn unedig, ac mae yr elw oddiwrth y cyhoeddiad i gael ei gyflwyno i gynnorthwyo hen weinidogion a phregethwyr analluog. Collwyd y lleill yn ngwahanol reverses anturiaeth yr Annibynwr." *  Yr oedd ei holl galon o blaid llwyddiant yr Ysgol Sabbothol, a'r cwbl a ddymunai fod ar gareg i fedd ydoedd :- " Yma claddwyd Thomas Davies, Dolgellau, awdwr Hyfforddwr ymarferol yr Ysgol Sul;" a gwnaethpwyd yn ol ei gais. Rhoddodd symiau helaeth rai troion at y Gymdeithas Genhadol, a thystiai y rhai a'i hadwaenent oreu, fod llwyddiant teyrnas y Gwaredwr yn agos at i galon. Bu farw yn Gorphenaf, 1865, yn 88 mlwydd oed, ac er na bu iddo na gwraig na phlentyn, etto disgyna ei enw yn barchus i'r oesau a ddel fel apostol yr Ysgol Sabbothol.
  •  
  • Evan Thomas. Yr ydym eisioes wedi crybwyll am dano ef yn nglyn a hanes Machynlleth, lle yr ydoedd pan y bu farw.
  • Rowland Hughes. Mae efe yn aros yn bregethwr parchus a defnyddiol yn yr eglwys yn Nolgellau.
  • William Meirion Davies. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Blaenycoed, sir Gaerfyrddin, lle y mae yn aros etto.
  • Isaac Jones. Dechreuodd bregethu yr un pryd a'r olaf a enwyd. Yr oedd. yn wr ieuangc talentog, a phe cawsai fyw yr oedd yn debyg o wneyd gweinidog defnyddiol. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a gwywodd blodeuyn cyn cyflawn ymagor. Yr oedd yn fab i Evan Jones, un o aelodau hynaf yr eglwys, ac yn frawd i Ieuan Ionawr.
  • Evan Edmunds. Bu yn efrydydd yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Dwygyfylchi, ac y mae yno etto.
  • Robert P. Jones. Derbyniodd ei addysg yn Manchester, ac urddwyd ef yn Llanegryn, lle y mae hyd yn bresenol.
  • Lewis Humphreys. Bu yn athrofa y Bala. Urddwyd ef i fyned allan i'r Wladychfa Gymreig yn Patagonia. Dychwelodd oddiyno, ac y mae yn awr yn weinidog yn Cwmtwrch, Morganwg.

* Cofiant  Mr. T. Davies, gan Mr. E. Williams, Dinas. Dysgedydd, 1870. Tu dal 10.

  • William Griffith. Er mai nid yma y dechreuodd bregethu, etto, gan mai yma y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes fel pregethwr, yma y mae yn briodol ni wneyd crybwylliad am dano. Ganwyd ef yn y Mynhadogisaf, Dolddelen, ac yr oedd ei rieni William a Lowry Griffith, yn mysg yr Annibynwyr hynaf yn y plwyf hwnw. Derbyniwyd ef yn aelod yn ieuangc. Aeth i Lanrwst i ddysgu argraffu, ac yno y dechreuodd bregethu. Symudodd i Ddolgellau yn nechreu y flwyddyn 1843, a bu yma hyd ei farwolaeth yn Hydref, 1864. Claddwyd ef yn mynwent Tabor. Pregethwr cynnorthwyol yn ngwir ystyr y gair ydoedd, ac ennillodd trwy ei ffyddlondeb barch a chydymdeimlad. Dyoddefodd gystudd hir, ac yr oedd ei amgylchiadau yn ddigon cyfyng, ond cafodd Dduw a dynion yn dirion iddo, a bu farw mewn tangnefedd.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

Pedwar gweinidog fu i'r eglwys hon er cychwyniad yr achos. Yr ydym eisioes wedi cyfeirio at Mr. Pugh, yn nglyn a'r Brithdir, ac y mae Dr. Davies, a Mr. Jones, y gweinidog presenol, etto yn aros, a hyderwn fod dyddiau lawer o ddefnyddioldeb mawr yn ol iddynt ill dau. Nid oes genym gan hyny ond un gweinidog i wneyd cofnodiad o hono yn nglyn a'r eglwys hon.

CADWALADAR JONES. Ganwyd ef yn Deildreuchaf, plwyf Llanuwchllyn, yn mis Mai, 1783. Yr oedd ei rieni John a Dorothy Cadwaladr, er nad yn proffesu crefydd, yn bobl barchus a chyfrifol yn eu hardal, ac ni bu iddynt un plentyn ond y bachgen hwn. Nis gwyddom pa fodd y gogwyddodd ei feddwl i ymofyn am grefydd, ond gwyddom i Cadwaladr Jones gael ei dderbyn yn aelod o'r eglwys yn yr Hen Gapel gan Dr. Lewis, yn mis Mai, 1803, pan yn ugain mlwydd oed. Dechreuodd bregethu yn Gorphenaf, 1806, wedi bod yn aelod am fwy na thair blynedd. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn Ngwrecsam yn mis Tachwedd y flwyddyn hono, a threuliodd yno y rhan fwyaf o'r pedair blynedd dilynol. Nid oedd yno gyda'r un cysondeb a'r myfyrwyr yn gyffredinol, oblegid ar ei draul ei hun yr oedd, a byddai yn gorfod aros adref y rhan fwyaf o bob haf i gynorthwyo ei dad ar y tyddyn. Yn y flwyddyn 1810, derbyniodd alwad i fod yn olynydd i Mr. Pugh o'r Brithdir, yn ei faes eang, ac urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, Mai 23ain, 1811. Traddodwyd siars bwysig iddo gan ei weinidog, Dr. Lewis ; a chafodd Mr. Jones oes hir i gyflawni ei weinidogaeth. Llafuriodd trwy yr holl gylch am saith mlynedd, hyd y flwyddyn 1818, y rhoddodd i fyny ofal y Cutiau a Llanelltyd. Yn mhen pedair-blynedd-ar-bymtheg drachefn, yn 1839, barnodd yn briodol roddi fyny ofal y Brithdir a Rhydymain. Yn mhen pedair-blynedd-ar-bymtheg drachefn, yn 1858, ymddeolodd o bwys gofal gweinidogaethol yr eglwysi yn Nolgellau ac Islaw'rdre, wedi saith-mlynedd-a-deugain o lafur dibaid yn eu mysg, ond parhaodd am yn agos ddeng mlynedd yn hwy i gydlafurio a'i hen gyfaill Mr. E. Davies, Trawsfynydd, yn Llanelltyd, ac a'i gyfaill hoff Mr. R. Ellis, Brithdir, yn Tabor, hyd nes y rhoddodd angau derfyn ar ei lafur, ac y gorphenodd ei yrfa mewn tangnefedd, Rhagfyr 5ed, 1867, yn 85 oed, wedi bod 56 mlynedd yn y weinidogaeth, ac wedi pregethu yr efengyl am 62 mlynedd, ac am 65 mlynedd yn aelod yn eglwys Dduw. Mae yn rhaid ddarfod i'r fath un, a gafodd y fath oes hir, adael dylanwad annileadwy ar yr holl gylch yn yr hwn y llafuriai. Mae cofiant helaeth iddo wedi ei gyhoeddi gan Mr. R. Thomas, Bangor, gyda chynorthwy nifer o'i frodyr yn y weinidogaeth, yn yr hwn y mae y tegwch mwyaf wedi ei wneyd a'i gymeriad. Nis gallwn ni yma ond prin gyfeirio at y llinellau amlycaf yn ei nodwedd fel dyn cyhoeddus, a chyfeirio ein darllenwyr a fyno weled YR HEN OLYGYDD yn ei holl neillduolion at y cofiant rhagorol hwnw, o'r hwn yr ydym yn gwneyd rhai difyniadau.

Yr oedd arafwch Mr. Jones "yn hysbys i bob dyn." Hynodid ef gan "ysbryd, nerth, a chariad, a phwyll." Os digwyddai fod camddealldwriaeth rhwng rhai o'r aelodau, neu achos dysgyblaeth yn yr eglwys, cymerai y fath bwyll gyda'r gorchwyl, fel yr oedd yn ddigon eglur ei fod yn penderfynu ei gwblhau cyn ei roddi i fyny. Bugail tyner a gofalus ydoedd wrth ymgeleddu y briwiedig o ysbryd a'r drylliedig o galon, ond mewn achosion a fyddai yn galw am farn, eisteddai fel barnwr hunanfeddianol gan bwyso y tystiolaethau a ddygid ger ei fron, ac nid oedd na chydnabyddiaeth na chyfeillgarwch a barai iddo gilio oddiwrth yr hyn a ymddangosai iddo yn deg a chyflawn. Athraw doeth yn nghanol ei ddysgyblion ydoedd yn mysg pobl ei ofal. Dysgai iddynt " ffordd Duw " gyda manylwch, a thuag at y rhai oeddynt yn hwyrfrydig i ddysgu, yr oedd yn addfwyn fel mamaeth yn meithrin i phlant. Fel duwinydd, yr oedd yn meddu golygiadau cyson a chlir ar drefn yr efengyl. Nid oedd cylch ei ddarlleniad yn eang, ond am yr hyn a ddarllenai, darllenai hwy yn drwyadl, a mynai ddeall yr hyn a ddarllenai. "Yr oedd yn bwyllog i gael gafael ar y gwirionedd ; yr oedd llygaid ei feddwl yn graff a threiddlym i wahaniaethu y gwir oddiwrth y gau ; yr oedd egwyddorion sylfaenol duwinyddiaeth wedi cael eu hastudio ganddo yn fanwl a thrwyadl, a chanfyddai gyda chywirdeb mawr, pa syniadau oeddynt mewn cysondeb a'r egwyddorion gwreiddiol hyny ; ac o'r ochr arall, pa syniadau oeddynt mewn gwrthdarawiad iddynt, ac yn milwrio yn eu herbyn. "  Yn y tymor hir y bu yn eistedd wrth lyw y Dysgedydd, cafodd lawer cyfle i ddangos mor addfed oedd ei feddwl ar byngciau duwinyddol. "Y 'system newydd' fel ei gelwid oedd yn peri cyffro mawr yn mlynyddoedd cyntaf ei olygiaeth. Un o'r rhai blaenaf yn mysg dadleuwyr y dyddiau hyny oedd yr hybarch J. Roberts, Llanbrynmair, a hen ddadleuwr teg a boneddigaidd iawn ydoedd.   Tyn a phenderfynol dros ei bwngc, mae yn wir, ond yr oedd yn hawdd gweled mai ymofynydd gonest am y gwirionedd ydoedd. Ei ddadl ef a D. S. Davies, Llundain, ac eraill, yn erbyn Sion y Wesley oedd un o'r rhai cyntaf yn y Dysgedydd. Rhoddodd y Golygydd bob tegwch iddynt. Nid oedd byth ddim brys arno i gau y dadleuon i fyny, a gallesid bod yn bur sicr os soniai y Golygydd am dynu pen ar unrhyw ddadl, fod corff y darllenwyr wedi llwyr flino arni. Yn rhifyn Mai, 1825, y mae yn cloi y ddadl hono i fyny, ac y mae yn gwneyd hyny gyda'r pwyll a'r craffder oedd (n.. ?) briodol iddo. Dywed yn bur ddigynwrf  'Nid ydym yn deall fod y ddadl wedi parhau cyhyd oblegid cyfatebolrwydd ymddangosiadol yn synwyr, dysg, a rhesymau y dadleuwyr, ond oblegid gorhoffedd Sion yn, a'i sel dros y gwaith o wrthwynebu ei wrthwynebwyr goreu ag y medrai, pan na fyddai ganddo ond ychydig iawn o feddyliau newyddion. Mor ddidwrw onide, y mae yn ei droi o'r neilldu. Yna y mae yn myned yn mlaen i sylwi ar bwyntiau y ddadl. Bu yr un ddadl ger bron mewn gwahanol ffurfiau lawer gwaith ar ol hyny ; ac ymddengys i ni bob amser fod terfyniad 'Dadl Etholedigaeth' yn Nysgedydd Ebrill, 1847, yn un o'r ysgrifau galluocaf a gyhoeddwyd erioed ar y pwngc yn ein hiaith. Dyna oedd ein barn am dani y pryd hwnw, darllenasom hi fwy nag unwaith wedi hyny, ac nid ydym wedi gweled achos i newid na chymedroli ein barn. Gwyddom yn dda na bu yn foddion i argyhoeddi y rhai a wrthwynebant y golygiadau a gofleidiai efe. Nid ydym yn meddwl fod neb yn disgwyl y gwnai hyny, ond gwyddom iddi gadarnhau llawer o'r rhai oeddynt amheus; a pheri i'r rhai a gredant yr athrawiaeth o'r blaen deimlo yn gryfach a gwrolach ynddi. Anhawdd genym feddwl fod unrhyw ddyn teg a diduedd (os yw yn bosibl cael y fath) beth bynag fydd ei farn bersonol ar yr athrawiaeth, na chydnebydd y craffder, y medrusrwydd, a'r annibyniaeth meddwl gyda pha un y mae yr 'Hen Olygydd" fel barnwr yn symio y cwbl i fyny."  Fel pregethwr, " yr oedd ganddo i safle briodol ei hun yn mysg ei frodyr, nid oedd yn meddu ar dreiddgarwch ac angerddolder Morgan, o Fachynlleth, na grymusder meddyliol Michael Jones, o Lanuwchllyn, nac athrylith Williams, o'r Wern, &c., ond yr oedd mor siwr o'i fater ag yr un o honynt. Yr oedd ol arafwch, a gofal, a phwyll, a barn, ar gyfansoddiad ei bregethau, yn gystal ag ar y traddodiad o honynt yn yr areithfa. Ni thaniai y fellten yn ei lygaid ; ni chanfyddid dychrynfeydd yn i wedd ; ac ni chlywid swn y daran yn i lais ; ac ni chlywid gwynt nerthol yn rhuthro, na'r gwlaw mawr ei nerth yn disgyn braidd un amser, yn ei bregethiad ef. Afon hyd ddol-dir gwastad oedd ei weinidogaeth ef - 'Dyfroedd Siloa yn cerdded yn araf,' ydoedd. Gwelir ambell i afon fel pe byddai ar frys gwyllt am gyrhaedd y mor, chwyrna megis yn ddigofus ar y creigiau a safant ar ei ffordd, tra y mae un arall fel yn caru ymdroi, ymddolenu, ac ymfwynhau ar ei thaith i adlewyrchu pob gwrthrych yr elo heibio iddo ar wyneb ei dyfroedd. Cyffelyb oedd afon ei weinidogaeth yntau. Nid oedd mor gyfaddas i'r gwaith o dynu i lawr a chwalu cestyll a muriau o ddifrawder ac anystyriaeth, ag ydoedd i adeiladu meddyliau yn ngwirioneddau a ffydd yr efengyl. Nid ei gwaith priodol hi oedd arloesi a diwreiddio y drain a'r mieri, ond yn hytrach planu a maethu y ffinwydd a'r myrtwydd. Teimlai rhai deallus wrth ei wrando yn pregethu mai nid 'newyddian yn y ffydd', oedd y pregethwr ; nid un wedi brysgipio golygiadau duwinyddol pobl eraill, a rhedeg a hwynt ymaith i'r areithfa, cyn eu chwilio, eu profi, a'u deall, ac felly yn myned i'r niwl a'r tywyllwch gyda hwynt,- ond eu bod yn eistedd dan athraw deallus, un a wyddai beth oedd efe yn ei gylch, ac un a allasai roddi rheswm da dros y pethau a gynygiai efe i sylw a derbyniad ei wrandawyr. Felly os nad oedd efe yr hyn a ystyrid yn bregethwr mawr a phoblogaidd, yr oedd yn athraw a dysgawdwr da; yn was ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd yr Arglwydd ar ei deulu i roddi bwyd iddynt yn ei bryd. Os nad oedd yn meddu ar y nerth a allasai ysgwyd gwlad, fel oedd gan ambell i un o'i frodyr cyfoediol yn y weinidogaeth, yr oedd ganddo y dawn a'r cymhwysder i arwain, a choleddu, a phorthi praidd Duw."

Ond yr oedd Mr. Jones fel Golygydd yn llanw cylch neillduol, ac yn y cylch hwnw cyrhaeddodd gyhoeddusrwydd na chyrhaeddasai oni buasai hyny. Yr oedd y dadleuon duwinyddol oedd yn cynhyrfu y wlad yn fuan wedi dechreu y ganrif bresenol, a'r ymosodiadau a wneid ar weinidogion yr Annibynwyr, yn peri iddynt deimlo fod gwir angen arnynt am ryw gyfrwng nid yn unig i amddiffyn eu hunain rhag y cyhuddiadau. a ddygid i'w herbyn, ond hefyd i addysgu a goleuo yr eglwysi y gwirionedd sydd yn ol duwioldeb. Ymosodid arnynt gan yr Arminiaid ar y naill law, a chan yr uchel-Galfiniaid ar y llaw arall; ac nid oedd ganddynt yr un cyhoeddiad i'w gylchdaenu yn mysg pobl eu gofal trwy yr hwn y gallasent amddiffyn yr hyn a gredid ganddynt fel gwirionedd, yn gystal a throi yn ol gamgyhuddiadau eu gwrthwynebwyr. Cydymroddodd deuddeg o weinidogion i gychwyn cyhoeddiad misol, pris chwe'cheiniog yn y mis, dan yr enw Dysgedydd Crefyddol, a chytunasant i fod yn gydgyfrifol am ba golled arianol bynag a allasai fod yn nglyn a'i ddygiad allan, a dewiswyd Mr. Jones, Dolgellau i fod yn Olygydd, ac yn sicr efe o honynt oll, a chymeryd pob peth i ystyriaeth, oedd y cymhwysaf i'w osod ar hyn o orchwyl. Daeth y rhifyn cyntaf allan yn mis Tachwedd, 1821; a bu Mr. Jones wrth lyw yr hen gyhoeddiad clodwiw am un-mlynedd-ar-ddeg-ar-hugain. Nid yn aml y disgyn i ran un dyn i eistedd yn y gadair olygyddol am dymor mor hir. Rhaid fod cymhwysder neillduol yn yr " Hen Olygydd" i'r swydd, cyn y gallasai barhau ynddi cyhyd, a rhoddi ar y cyfan foddlonrwydd cyffredinol. Pe gofynid i ni grynhoi elfenau gymeriad fel Golygydd, fel y gellir eu casglu oddiar dudalenau y Dysgedydd yn ystod tymor maith ei olygyddiaeth, dywedem mai synwyr cyffredin cryf, arafwch, pwyll, ac ysbryd barn, anmhleidgarwch ac annibyniaeth meddwl, ac eglurdeb a symledd fel ysgrifenydd.

Ond dirwynodd oes hir Mr. Jones i ben. Nid oedd un afiechyd neillduol arno, ond fod natur yn graddol ymollwng, fel derwen yn gwywo, am na all mwy dderbyn nodd i fod yn iraidd. Bu farw yn union fel y bu byw, mewn hunanfeddiant tawel, a'i galon yn glymedig a'r pethau y cysegrodd ei fywyd iddynt, a'i ymddiried yn ei Dduw yn dal fel y graig yn ddiysgog er grym y llif. Diwrnod a hir gofir yn Nolgellau yw dydd Mercher, Rhagfyr  11eg, 1867, pan ddygwyd yr Hen Olygydd mewn elorgerbyd o Gefnmaelan, i'w roddi i orwedd yn mynwent y Brithdir. Dilynid ef gan luaws mawr o gerbydau a gwyr meirch - yr oedd haner cant o bregethwyr o wahanol enwadau yn bresenol i amlygu eu parch i'w goffadwriaeth - gallesid tybied wrth fyned trwy Ddolgellau mai y Sabboth ydoedd, am fod pob siop wedi cau i fyny, a gwelid blinds gwynion galarus ar ffenestri y tai yr elid heibio iddynt - cyfrifid fod y dorf alarus yn fil o rifedi wrth fyned trwy y dref, a chyn cyrhaedd ei le beddrod, yr oedd wedi chwyddo yn fwy na phymtheg cant, ac yn nghanol y dagrau a dywalltid, rhoddwyd ef gan ei bum' mab i lawr i orwedd yn ei fedd newydd - a chefnai y dorf fawr ar ei weddillion marwol gan sibrwd yn ddistaw, fod y tirionaf a'r hawddgaraf o ddynion, wedi ei adael yn " nhy ei hir gartref." Heddwch i'w weddillion cysegredig ?.  "Nac ymyred neb a'i esgyrn ef," hyd nes yr aflonyddir hwy gan "floedd a llef yr archangel," ac y daw i fyny i fwynhau y  gobaith gwynfydedig " yn yr  "adgyfodiad gwell." "

 

ISLAW'RDREF

(Dolgellau parish )

Mae y lle yma wrth droed Cadair Idris' o fewn pedair milldir i Ddolgellau, ar yr hen ffordd sydd yn arwain i'r Towyn. Dechreuwyd pregethu yma mewn hen felin, gan Mr H. Pugh, Brithdir, rywbryd cyn y flwyddyn 1804 ; a choffeir hefyd, am Mr Pugh yn pregethu yn Ty'nyceunant.

461

Symudwyd o'r felin i le a elwir y King's, ac yno y bu Mr C. Jones ac eraill yn pregethu am flynyddau, hyd y flwyddyn 1821, pan y symudwyd i'r lle y maent ynddo yn bresenol. Yr oedd yr ychydig aelodau oedd yma yn arfer myned i Ddolgellau i gymundeb, oddigerth ambell gymundeb achlysurol a gedwid yma er cyfleustra i'r rhai ni allent fyned i'r dref. Yn y flwyddyn 1831, ffurfiwyd yr ychydig aelodau oedd yma yn eglwys, ac er hyny y mae holl ordinhadau crefydd yn cael eu cynal yma yn rheolaidd. Ad-drefnwyd a helaethwyd y capel yn 1836, ac agorwyd ef Hydref 28ain a'r 29ain, y flwyddyn hono, pryd y pregethodd Meistri H. Pugh, Llandrillo ; H. Lloyd, Towyn ; E. Davies, Trawsfynydd ; D. Morgan, Machynlleth ; J. Williams, Dinasmawddwy ; S. Roberts, Llanbrynmair ; E. Griffith, Llanegryn, ac E. Evans, Abermaw. Rhifedi yr aelodau yn 1846, oedd pedwar-ar-hugain, ac felly y parhasant hyd adeg y diwygiad yn 1859, pan y dyblodd yr eglwys fechan yma mewn rhifedi, ond fel yn y rhan fwyaf o fanau y maent yn llai ar hyn o bryd. Mae yma nifer o bobl lled gefnog yn eu hamgylchiadau bydol, ac y maent yn awr yn myned  i adeiladu capel newydd. Mae y lle yma o'r dechreuad wedi bod dan yr un weinidogaeth a Dolgellau, ac felly y mae yn parhau. Oddieithr i'r cloddfeydd sydd yn yr ardal fyned rhagddynt yn llwyddianus, nid oes un gobaith am eglwys luosog yma, canys ardal denau ei phoblogaeth ydyw, mewn cilfach anghysbell a mynyddig, ond y mae yma bobl ffyddlon, ac yn medru gwerthfawrogi a mwynhau gweinidogaeth bur ac efengylaidd.

Translation by Maureen Saycell (June 2011)

This place is at the foot of Cadair Idris within 4 miles of Dolgellau, on the old road to Towyn. Preaching began in the old mill, with Mr H Pugh, Brithdir, sometime before 1804, it is also remembered that he preached in Ty'nceunant. From the mill they moved to a place called King's and it was there that Mr C Jones and others preached until 1821, when they moved to their current location. The few members went to Dolgellau for communion, except for the occasional communion held here for the convenience of those unable to travel. In 1851 a church was formed here, since then all the sacraments were held here regularly. The chapel was renovated and extended in 1836 and opened on October 28th and 29th that year, those officiating were Messrs  H. Pugh, Llandrillo, H. Lloyd, Towyn, E. Davies, Trawsfynydd, D. Morgan, Machynlleth, J. Williams, Dinasmawddwy, S. Roberts, Llanbrynmair, E. Griffith, Llanegryn, and E. Evans, Barmouth. There were 24 members in 1846 and remained so until the revival of 1859 when the numbers doubled, but like most places have now diminished. There are some well off people here and they are going to build a new chapel. This place has been in joint ministry with Dolgellau from the beginning. Unless the mines in the area become very successful there is little hope of a large congregation here, the current members are very faithful.

TABOR

(Dolgellau parish)

"Capel y Cwecers " y gelwir ef fynychaf yn y gymydogaeth, oblegid mai eu heiddo hwy ydoedd yn wreiddiol. Ymddengys fod y Crynwyr yn lluosog mewn parthau o Sir Feirionydd tua'r flwyddyn 1662, ac am flynyddau ar ol hyny, a dyoddefasant erledigaethau chwerwon. Ymfudodd llawer o honynt i Pennsylyania, ac y mae yno rai sefydliadau ac y mae yr enwau sydd arnynt yn dangos mai pobl Meirionydd oedd y rhai cyntaf ymsefydlu ynddynt. Casglasant gynnulleidfa yn foreu o amgylch Dolgellau, a chodasant y "Ty Cyfarfod," fel yr arferent hwy ei alw, gyda gardd gladdu yn nglyn ag ef. Ond lleihau yn raddol yr oedd eu hachos, fel erbyn canol y ganrif bresenol yr oeddynt wedi llwyr ddarfod, a'r " Ty Cyfarfod" heb neb yn cyfarfod ynddo. O gylch y flwyddyn 1851, gwnaeth yr Annibynwyr gais am dano, a chafwyd ef i ddechreu dan ardreth, ac unodd ychydig gyfeillion perthynol i Ddolgellau a'r Brithdir oedd yn gyfleus iddo, i gychwyn achos Annibynol ynddo-Peter Price, Robert Thomas, Tyddynygraig, a Robert Jones, Tyddynmawr, a fu yr offerynau penaf i sefydlu yr achos yn Tabor. Cymerodd Mr C. Jones, Dolgellau, a Mr R. Ellis, Brithdir, ofal gweinidogaethol y lle rhyngddynt, ac felly y parhaodd hyd farwolaeth Mr Jones, ac yn awr y mae y gofal yn llwyr ar Mr Ellis. Yn mhen amser llwyddwyd i gael gan y Crynwyr ei werthu, ac y mae yn awr yn feddiant i'r eglwys yn y lle. Ad-drefnwyd ef oddimewn y llynedd, fel y mae yn gapel cyfleus, a chynnulleidfa dda, ac eglwys weithgar ynddo, ac Ysgol Sabbothol fywiog, a'r achos ar y cyfan yn myned yn mlaen yn ddedwydd.

Translation by Maureen Saycell (June 2011)

Popularly known as the "Quakers Chapel", as they originally owned it. It appears that the Quakers were numerous in parts of  Meirionethshire around 1662, and for some years afterwards despite terrible persecution. Many migrated to Pennsylvania where the names of the settlements betray the Meirioneth roots. They had an early congregation around Dolgellau and built the "Meeting House" as they called it, with a cemetery. Their cause diminished and by the current century had disappeared altogether, the Meeting House empty. Around 1851 the Independents made an offer for it and it was acquired on a lease, members of Dolgellau and Brithdir for whom it was convenient started a cause here - Peter Price, Robert Thomas, Tyddynygraig, and Robert Jones, Tyddynmawr, were the main movers. Care was undertaken by Mr C Jones, Dolgellau and Mr R Ellis, Brithdir, and continued until the death of Mr Jones, and is now in the hands of Mr Ellis. In time it was bought from the Quakers and the church now owns it. The interior was renovated last year so it is now comfortable with a good congregation and active Sunday School.

[PS. This would appear to be the chapel called Ty Cyfarfod, Independents under Dolgellau parish in the 1851 Religious Return]

462  

LLANELLTYD

Mae yn debygol mai Mr Hugh Pugh, o'r Brithdir, a ddechreuodd bregethu yn Llanelltyd, tua'r flwyddyn 1802. Cafwyd ty o'r enw Penygarnedd yn y pentref uchod, dan ardreth flynyddol i bregethu ynddo. Cyfaddaswyd y ty trwy wneyd ynddo bulpud, bwrdd, ac eisteddleoedd, a pharhaodd felly hyd o fewn ychydig o flynyddoedd yn ol. Yr oedd Mr Pugh yn ddyn hawddgar iawn, o ran corph ac yspryd - yn meddu ar mwynaidd a thoddedig - yn dduwinydd clir a goleuedig, ac yn llawn iawn o hyawdledd ; fel, rhwng y cwbl, yr oedd yn hynod o gymeradwy a derbyniol. Bu yn dra llafurus ac ymdrechgar tra y parhaodd ei dymor byr, a diameu, pe cawsai fyw, y buasai yn un o'r gweinidogion mwyaf poblogaidd yn Nghymru ; ond torwyd ef i lawr yn flodeuyn prydferth, pan nad oedd ond megis yn ymagor.* Ffurfiwyd yr eglwys Annibynol yn Llanelltyd yn y flwyddyn 1802, a derbyniwyd yno ychydig o aelodau, ond y mae yr aelodau cyntefig wedi meirw oll er's llawer dydd. Yma y derbyniwyd Mr E. Davies, Trawsfynydd, yn aelod, yn 1808, ac efe ydyw yr aelod hynaf sydd yn fyw a dderbyniwyd i eglwys Penygarnedd. Yn fuan ar ol corpholi yr eglwys yr Llanelltyd, dechreuodd Mr Pugh bregethu yn y Ganllwyd, a'r Cutiau, a derbyniwyd aelodau o'r manau hyny yn Llanelltyd, a byddai yr holl aelodau o'r Cutiau a'r Ganllwyd yn arfer a dyfod yma bob mis i gymundeb, dros amryw flynyddoedd. Bu yr aelodau oddiyma am dymor ar ol cael capel yn Nolgellau yn myned i'r dref i gymundeb ; ond parheid i bregethu yma fel o'r blaen, ac ystyrient eu hunain fel rhan o'r eglwys yn Nolgellau. Tua'r flwyddyn 1818, cydunodd  y cyfeillion yn Llanelltyd mewn cysylltiad a'r Cutiau a'r Ganllwyd i roddi gwahoddiad unfrydol i Mr Edward Davies, o'r Allt-tafolog, fel ei gelwid, i gymeryd eu gofal fel gweinidog, a chydsyniodd yntau a'u cais, a bu yma am o bedair i bum' mlynedd, nes yr ymadawodd i Sir Drefaldwyn. Yn amser Mr Davies, sefydlwyd yr eglwys Annibynol yn y Ganllwyd. Ar ol ymadawiad Mr Davies, byddai Mr C. Jones, Dolgellau yn ymweled a'r eglwys yn Llanelltyd unwaith yn y mis, a pharhaodd felly hyd ei farwolaeth. Yn y flwyddyn 1822, daeth Mr E. Davies i fyw i Drawsfynydd, a chan fod ganddo un Sabboth o bob mis yn rhydd, dymunodd y cyfeillion yn y Ganllwyd a Llanelltyd am iddo roddi y Sabboth hwnw iddynt hwy, ac felly bu, a pharhaodd i wneyd hyn am yspaid o saith-mlynedd-a-deugain, yn lled ddigoll, hyd ddechreu y flwyddyn 1870. Gwelwyd yn angenrheidiol helaethu ac adgyweirio yr hen Addoldy yma. Gollyngwyd y ty oedd wrth ei dalcen yr un ffordd a'r capel, gwnaed ffenestri newyddion, a'r cwbl oddifewn yn newydd, yn nghydag oriel am un pen. Y mae yn awr, yn addoldy cyfleus, hardd, a chysurus. Costiodd yr adgyweiriad tua £100, ac y mae y £100 wedi ei dalu. Yn niwedd 1869, rhoddwyd galwad  Mr. Robert Thomas, myfyriwr yn athrofa y Bala, i ddyfod yn weinidog yma, mewn cysylltiad a'r Ganllwyd a Llanfachreth, a chydsyniodd yntau a'u cais. Dymunodd yr eglwysi ar Mr Davies, yr hen weinidog, ysgrifenu yr alwad, a gwnaeth yntau hyny, a phregethodd yn y tri lle yr un Sabboth, er mwyn i'r holl aelodau gael cyfle i arwyddo yr alwad. Yn yr wythnos gyntaf yn 1870, cadwyd cyfarfod yn Llanelltyd i neillduo

* Llythyr Mr E. Davies, Trawsfynydd.

463

Mr Robert Thomas yn gyflawn i waith y weinidogaeth. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Peter, o'r Bala ; holwyd y gweinidog gan Mr I. Thomas, Towyn ; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr R. Thomas, Bangor ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr W. Edwards, Aberdare ; ac ar ddyledswydd yr eglwysi gan Mr E. Davies, Trawsfynydd. Mae lle bychan yn perthyn i Lanelltyd, rhyngddo a'r Abermaw, Lle y pregethir yn achlysurol, a elwir y Borthewynog. Mae Mr Thomas a'r eglwysi yn ymddwyn yn serchog a charedigol iawn tuag at eu gilydd hyd yma, a gobeithio y parhant felly, ac yr estynir i Mr Thomas oes hir, ddedwydd a llwyddianus.* Rhoddodd un Cadben Williams, log £400 i Meistri C. Joues, Dolgellau, ac E. Davies, Trawsfynydd, dros eu bywyd, am weinidogaethu yn Llanelltyd ; ond dewisodd mab Cadben Williams dalu y £400 i fyny, ac y maent wedi eu rhoddi i ymddiriedolwyr ; ac y mae eu llog i'w dalu i weinidog Llanelltyd o oes i oes.

Translation by Maureen Saycell (July 2011)

It was probably Mr Hugh Pugh, Brithdir, that started preaching here around 1802. A house named Penygarnedd was leased annually for preaching in. The house was adapted by adding a pulpit, table and seating - this continued until a few years ago. Mr Pugh was a kind, generous and enlightened man. He was industrious during his short lifetime and would otherwise have been one of the most popular preachers in Wales.* An Independent church was formed at Llanelltyd in 1802, a few members were confirmed but those original members are long dead. Mr E Davies, Trawsfynydd, was confirmed here in 1808, making him the oldest member. It was soon after the church was established here that Mr Pugh began to preach in Ganllwyd and Cutiau, members from those areas were confirmed here. All the members gathered here for monthly communion. The members moved from here, for communion, when a chapel was established in Dolgellau, but preaching continued here. They considered themselves to be part of Dolgellau Chapel. Around 1818 the members here, Ganllwyd and Cutiau united to send a call to Mr Edward Davies, Allt-tafolog, to be their minister. He agreed and spent 4 to 5 years here before leaving for Montgomeryshire. It was in Mr Davies' time that a church was established in Ganllwyd. After his departure Mr C Jones, Dolgellau, came monthly for communion in Llanelltyd, and continued until his death. In 1822 Mr E Davies moved to Trawsfynydd, he had one Sunday a month free and the members of Llanelltyd and Ganllwyd aked him to minister to them once a month, this continued for 47 years, almost without a break, until early 1870. The need to renovate and extend the old chapel became apparent. The adjoining house was demolished and new windows and a complete renovation with a new galley inside. It is now comfortable and convenient. The renovation cost £100, now paid. Towards the end of 1869 a call was sent to Mr Robert Thomas, student at Bala, along with Ganllwyd and Llanfachreth, and he agreed. The church asked the old minister, Mr Davies, to write the call for them, which he did and preached at all three chapels on the same Sunday to give them all a chance to sign the letter. He was ordained in the first week of 1870 at Llanelltyd. Those officiating were - Mr J. Peter, Bala, Mr I. Thomas, Towyn, Mr R. Thomas, Bangor, Mr W. Edwards, Aberdare, and Mr E. Davies, Trawsfynydd. There is a small place named Porthewynog, between Llanelltyd and Barmouth where occasional preaching is done. The church and Mr Thomas are getting along well and hopefully will continue so, hopefully Mr Thomas will have a long, contented and successful life.** Captain Williams gave a trust of £400 for life to Mr C Jones, Dolgellau and Mr E Davies, Trawsfynydd for ministering to Llanelltyd, his son gave the £400 to trustees with the income to be paid to the minister of Llanelltyd in perpetuity.

* Llythyr Mr E. Davies, Trawsfynydd.  

** Llythyr Mr D. Davies, Trawsfynydd.

 

GANLLWYD

(Llanddwywe parish)

Dechreuwyd pregethu yma gan Mr Hugh Pugh o'r Brithdir, yn y flwyddyn 1805, yn Llofftyfelin, sef ty Richard Roberts, y melinydd, a pharhawyd i gadw moddion yn y lle hwn am amryw flynyddau, hyd nes cymerwyd y felin gan Mr Robert Roberts o Ddol-y-melyn-llyn, yn lle i durnio coed. Yna cafwyd lle i bregethu ac i gadw Ysgol Sabbothol mewn hen ystafell a adeiladwyd yn weithdy gof, a bu yno Factory wlan wedi hyny. Buwyd yn cynal moddion crefyddol yn y lle hwn am amryw flynyddau heb na phulpud o un math nag eisteddleoedd ynddo. O'r diwedd teimlodd y gwr oedd yn byw yn y ty, y gwnai yn well er ei les ei hun, iddo fod yn arweinydd i ddangos y rhiadrau oedd gerllaw ar y Sabhothau ac amserau eraill, a rhoddi ceffylau yr ymwelwyr i aros yn y man lle yr oeddid yn pregethu! Felly gorfodwyd ymadael a'r lle hwnw er gwaeled ydoedd, a buwyd yn cynal moddion yn y Tycerig, a lleoedd eraill yn y gymydogaeth, fel y gellid am ryw gymaint o amser. Ar ol ymadawiad yr arweinydd hwnw, cafwyd myned i'r Factory drachefn, a gwnaed yno rhyw fath o bulpud gwael ac ychydig o eisteddleoedd, ac felly cafwyd llonydd hyd nes yr adeiladwyd y capel. Ni chorpholwyd eglwys yn y Ganllwyd, hyd nes y daeth Mr Edward Davies o'r Allt i gymeryd eu gofal fel gweinidog mewn cysylltiad a Llanelltyd a'r Cutiau, yr hyn oedd tua'r flwyddyn 1818. Ymadawodd Mr Davies yn mhen o bedair i bum' mlynedd. Yn flwyddyn 1822, daeth Mr E. Davies i fyw i Drawsfynydd, a chymerodd ef ofal y lle yn benaf, a rhoddai ran o un Sabboth yma yn rheolaidd bob mis. Byddai yn arfer myned boreu y Sabboth hwnw i'r Penrhosisaf, yn ochr Llanfachreth, ac i'r Ganllwyd erbyn 2, Llanelltyd at 6, ac felly ennillwyd cryn lawer o bobl o ochr Llanfachreth, a derhyniwyd hwy yn aelodau yn y Ganllwyd. Bu yr achos yn lled isel yn y Ganllwyd, hyd yn ddiweddar. Nid oedd ganddo dy i aros ynddo, ac ar ewyllys da yr ymddibynai am le i drigo. Ymadawodd amryw o aelodau y Ganllwyd oedd yu byw yn mhlwyf Llanfachreth, pan godwyd Capel yn y lle olaf. Breuddwydiwyd llawer am le i godi capel yn y Ganllwyd, and nid oedd ond

* Llythyr Mr D. Davies, Trawsfynydd.

464  

gobaith gwan am lwyddiant. Ond yn ddisymwth ac annisgwyliadwy cafodd Mr John Jones o'r Tynewydd, ddarn o dir gan Arglwydd Kenyon, mewn lle cyfleus ar fin y ffordd o Ddolgellau i Drawsfynydd, i wneyd capel a mynwent, am y pris rhesymol o £10. Talodd am y lle gan gwbl fwriadu iddo fod yn feddiant i'r Annibynwyr. Teimlodd Mr John Jones ei hun yn gwanhau, a bod angau yn dechreu tynu ei babell bridd i lawr, a dangosodd le yn nghongl y darn tir ydoedd wedi ei brynu, a dywedodd, " Cleddwch fi yn y fan yma." Bu farw yn fuan ar ol hyn, a chladdwyd ef yn y lle a ddangosasai yn ol ei ddymuniad. Yr oedd hyn cyn cau y tir i fewn na gwneyd un parotoad at adeiladu. Gan i Mr Jones farw cyn gwneyd cyflwyniad o'r lle i'r dyben a fwriedid, a chan na feddyliodd grybwyll dim yn nghylch y lle yn ei ewyllys, yr oedd yn disgyn yn etifeddiaeth i nai o fab brawd iddo, yr hwn oedd yn cartrefu yn yr America. Ofnid unwaith y collasid y tir wedi ei gael, neu o leiaf y buasai yn rhaid talu llawer mwy na'r pris gwreiddiol am dano, ond trwy gyfryngiad goruchwyliwr Arglwydd Kenyon, gwnaed pob peth yn ddiogel.* Yn flwyddyn 1857, cauwyd y darn tir i fewn, ac adeiladwyd capel hardd a chyfleus iawn ar y lle, ei fai mwyaf ydyw ei fod yn rhy fychan. Dangosodd trigolion yr ardal ffyddlondeb mawr tuag at yr achos, fel y talwyd am y cwbl, heb fyned bron ddim allan o'r gymydogaeth.

Yn niwedd 1869, unodd yr eglwys hon a Llanelltyd a Llanfacheth, i roddi galwad i Mr Robert Thomas, ac y mae yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad. Bu yma lawer o bobl weithgar gyda chrefydd, ac yr oedd John Jones, Tynewydd, yn arbenig, yn gedrwydden gref yn mynydd Duw yn y Ganllwyd; a theimlwyd colled fawr pan y cwympwyd ef gan angau.

Codwyd i bregethu yn yr eglwys yma y personau canlynol-

  • Richard Roberts. Dechreuodd bregethu yn fuan wedi cychwyniad yr achos yma. Symudodd i fyw i Lanuwchllyn ac oddiyno i Lanbrynmair, lle y dibenodd ei yrfa.
  • Thomas B. Morris. Bu yn athrofa y Bala, urddwyd ef yn Rhosllanerchrugog. Symudodd i'r Rhyl, ond ni bu yn hir yn yr un o'r ddau le. Ymunodd a'r Bedyddwyr, ac aeth i America, ac y mae yno yn bresenol yn golygu newyddiadur Cymreig. Adnabyddir ef fel Gwyneddfardd.
  • Richard Williams. Aeth i'r America, a bu farw yno.
  • Nicholas Parry. Bu farw yn ieuangc, a chladdwyd ef yn plwyf Trawsfynydd.

Mae golwg siriol llewyrchus ar yr achos yn y Ganllwyd, ac y mae yn ymddangos yn well nag y gwelwyd of erioed o'r blaen

Translation by Maureen Saycell (July 2011)

Preaching began with Mr Hugh Pugh, Brithdir, in 1805, at Llofftyfelin, the home of Richard Roberts, the miller. This continued for many years until the mill was taken over by Mr Robert Roberts, Ddol-y-melyn-llyn, and he changed the use to woodturning. A place  to worship and hold a Sunday School was found in a room originally a forge, then a wool factory. Services were held here for many years with no pulpit or seating. Eventually the owner decided to lead sightseeing trips to the nearby waterfalls on Sundays and other days of the week and use the space to stable the visitors horses. They were forced to leave and services were held at Tycerrig and various other houses until the man moved on and they were allowed back into the factory. A crude pulpit and some seating were installed, they were left in peace until a new chapel was built. The church was not established in Ganllwyd until Mr Edward Davies, Allt, took on the  ministry along with Llanelltyd and Cutiau, around 1818. He left after 4 to 5 years. In 1822 Mr E Davies came to Trawsfynydd and came here once a month. He would go on Sunday morning to Penrhosisaf, Llanfachreth, Ganllwyd at 2 and Llanelltyd at 6, so gaining many from Llanfachreth area to become members at Ganllwyd. The cause was small at Ganllwyd until recently. He had no house to live in and depended on the people's charity. Many left when the chapel was built in Llanfachreth. There were many dreams of building a chapel in Ganllwyd but there was little hope of success. Suddenly and unexpectedly Mr John Jones, Tynewydd, got a piece of land from Lord Kenyon, in a convenient place on the road between Dolgellau and Trawsfynydd, for a chapel and cemetery, for the reasonable price of £10. He bought the place intending to donate it to the Independents. Mr John Jones' health began to fail and expressed a wish to be buried in the corner of the land he had bought. He died soon after this and he was buried in the unconsecrated ground, before the land was even enlosed. He died without donating the land or making known his wishes in his will, it was inherited by a distant relative living in America. It was feared that all would be lost, but Lord Kenyon's overseer intervened on their behalf and saved the day.* In 1857 the land was enclosed and a chapel built on the site, the only fault was that it was too small. The generosity of the locals paid for almost all the outlay.

At the end of 1857, this church along with Llanelltyd and Llanfachreth united to call Mr Robert Thomas, who remains here. There have been many outstanding faithful people here, particularly John Jones, Tynewydd.

The following were raised to preach here -

  • RICHARD ROBERTS - began to preach soon after the cause started - moved to Llanuwchllyn then Llanbrynmair, where his career ended.
  • THOMAS B MORRIS -  educated Bala - ordained Rhosllanerchrugog - moved to Rhyl, only a short time in each - then joined the Baptists and went to America - edits a Welsh news sheet, known as Gwyneddfardd.
  • RICHARD WILLIAMS - went to America, died there.  
  • NICHOLAS PARRY - died young buried at Trawsfynydd.

The cause at Ganllwyd is flourishing, better than ever before.

 * Llythyr Mr E. Davies, Trawsfynydd.

LLANFACHRETH

Saif Llanfachreth oddeutu pedair milldir i'r gogledd o Ddolgellau, yn nghanol mynyddoedd cribog a golygfeydd gwylltion a rhamantus.Yn ddiweddar mewn cydmariaeth y cychwynodd yr achos Annibynol yn yr ardal hon. Meddienid yr ardal gan y Methodistiaid Calfinaidd a'r Eglwys Sefydledig. Bu y Wesleyaid yn cychwyn achos mewn anedd-dy o'r enw Corsygarnedd, ychydig cyn i'r Annibynwyr ddechreu. Cynhalient Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddi yn lled gyson, ac ymwelid a hwy yn

* Llythyr Mr E. Davies, Trawsfynydd.

465

awr a phryd arall, gan weinidogion perthynol i'r cyfundeb yn nghylchdaith Dolgellau, ond byr fu arhosiad y Wesleyaid yn yr ardal. Y gallu crefyddol mwyaf yn Llanfachreth y dyddiau hyny oedd y Methodistiaid. Yr oedd ganddynt Ysgol Sabbothol boblogaidd ac enwog, ac y mae yn ymddangos mai o Ysgol Sabbothol y Trefnyddion Calfinaidd y torodd y blaguryn Annibynol allan gyntaf. Yr oedd yn perthyn i'w hysgol y pryd hwnw amryw bersonau yn gogwyddo yn gryf at y golygiadau a adnabyddid fel y system newydd, y rhai a ddiystyrid yn ddiarbed gan awdurdodau yr ysgol. Cyfododd hen flaenor ar ei draed ar ddiwedd yr ysgol un Sabboth, a chyhoeddodd gydag awdurdod, nad oedd yr un athrawiaeth i gael ymdrin a hi yn eu hysgol hwy, ond a gytunai yn mhob peth a'r golygiadau a gyhoeddid o'r pulpud. Ofer fu y gorchymyn, ac yn hytrach na diffodd y golygiadau, enynwyd hwynt yn fwy. Buasai atal eu lledaeniad mor anhawdd a throi y Mawddach yn ei hol. Ni bu y gwaharddiad yn ddim amgen na chawod o wlaw taranau i chwyddo'r afon dros ei cheulanau. Enciliodd pleidwyr y system newydd o'r ysgol, ac aeth amryw ohonynt i Ysgol Sabbothol y Wesleyaid, yr hon a gynhelid ar y pryd yn Nghorsygarnedd, a'r gweddill i'r Ganllwyd.

Y cyntaf i ymuno a'r Ganllwyd o ardal Llanfachreth oedd Edward Pugh, crydd, wrth ei gelfyddyd. Efe oedd y cyntaf i fyned i'r gyfeillach yno. Derbynwyd ef gan Hugh Pugh, ei frawd, yr hwn oedd yn byw mewn lle o'r enw Caetanglwys. Dilynwyd y ddau gan J. Morris, Rice Price, &c. Derbyniwyd pedwar ohonynt gan Mr E. Davies, Trawsfynydd, yn y Ganllwyd. Buont yn cerdded o Lanfachreth yno - pellder o dair milldir o ffordd, am rhyw gymaint o amser. Yn y flwyddyn 1838, penderfynasant gynal moddion yn Caetanglwys, cartref yr H. Pugh y cyfeiriwyd ato yn barod. Cymerasant lofft fechan yno ar ardreth, a gwnaethant bulpud, ac ychydig feinciau, er mwyn gwneyd y lle mor gyfleus ag yr oedd modd. Y cyntaf o'r Annibynwyr i bregethu yn y lle hwn oedd Mr Davies, Trawsfynydd. Dilynwyd ef gan amryw o'i frodyr, ac yn eu plith, daeth yr hen efengylydd gonest o Lwyngwril yno un noson. Fel yr oedd yn pregethu, ac yn cynesu yn ei fater, digwyddodd iddo daro y ganwyll oddiar ymyl y pulpud nes y syrthiodd, a than mai hono oedd yr unig ganwyll oedd ganddynt yn yr ystafell, nid oedd gan y pregethwr ddim ond gyru yn mlaen yn y tywyllwch, neu dori i fyny. Ond yr oedd gormod o hwyliau ar lestr yr hen frawd i sefyll mewn mynyd, ac meddai " oddth ydi hi wedi t'wddthu o'dd ddaiadd fddodydd Bach, gwnawn tddo oddth cawn ni oddeuni o'dd nefoedd." Cafodd lonyddwch a hwylusdod i orphen ei bregeth, a mynych y diolchai iddynt am eu hymddygiad gweddus yn ngwyneb yr anffawd. Yn mhen oddeutu blwyddyn wedi iddynt ddechreu yn Caetanglwys, cawsant rybudd i ymadael a'r llofft. Yr oedd hyn yn gryn siomedigaeth, a pharodd y rhybudd hwn i rai ddigaloni am ychydig, ond gwnaeth eraill yn fwy selog a phenderfynol. Y Sabboth olaf yn yr hen lofft a ddaeth, ac nid oedd gwawr gobaith yn ymdori o unman, fod lle arall yn ymagor iddynt. Modd bynag, cyhoeddodd Edward Pugh y byddai ysgol yn ei ef yn Llanfachreth y Sabboth dilynol, ac y byddai croesaw calon i bawb ddewsai ddyfod yno. Felly y bu, daethant yn nghyd yn lled gryno, ac ymddangosent yn llawer siriolach y Sabboth hwn na'r diweddaf. Yn mhen ychydig amser wedi iddynt ail ddechreu yn nhy Edward Pugh, penderfynasant gael eu ffurfio yn eglwys Annibynol reolaidd. Daeth Mr C. Jones, Dolgellau, a Mr H. James, o'r Brithdir,

466

i'w ffurfio yn eglwys. Nid ydys yn gwybod yn sicr faint o gymundebau a gafwyd yn nhy E. Pugh, ond fe dderbyniwyd rhai yn aelodau yno, a buwyd yn cynal moddion yno am oddeutu pymtheg mis. Cawsant eu bendithio a diwygiad lled rymus yn y cyfnod yma, ac arwyddion amlwg fod y nefoedd yn cymeradwyo eu gwasanaeth.

Wrth weled fod yr eglwys yn cynyddu, a bod ty yn fychan ac anghyfleus, dechreuasant edrych am ryw gornel i godi capel. Yr oedd cael hyn yn bur anhawdd, trwy fod tirfeddianwyr y lle mor selog dros yr Eglwys Wladol, ac yn dra gelyniaethus i Ymneillduaeth. Ond trwy garedigrwydd y boneddwr haelfrydig, Mr R. Pugh, Helygog, (tad yr un presenol,) llwyddasant i gael lle ar dir Ffrwdyrhebog, am yr ardreth resymol o £78/0/6 y flwyddyn. Wedi sicrhau tir, yr oedd yn eithaf digalon i feddwl dechreu ar y gwaith, gan nad oeddynt ond ychydig weithwyr yn ymladd a'r byd i geisio cynal eu hunain a'u teuluoedd. Addawai rhai o gyfeillion y Ganllwyd eu cynorthwyo yn eu hymdrech, ond oblegid rhyw ddylanwadau o eiddo rhywun neu rywrai, ychydig o gefnogaeth chwaethach cymorth o gafwyd oddiyno. Yn y cyfamser daeth Samuel Williams, Hendregyfelliad, (Dolgellau yn bresenol,) i aros i ardal Llanfachreth, yr hwn sydd yn Annibynwr selog a phenderfynol, a bu o help mawr i roddi ail gychwyn ar y gwaith. Apeliasant at eglwys Dolgellau am gynorthwy a chymorth i godi y capel. Cawsant hyny. Dechreuasant arno ar unwaith, ac fel hagorwyd yn y flwyddyn 1840. Maint y capel yw saith lath wrth wyth. Maint y tir a gafwyd ar y dechreu oedd deuddeg llath wrth un- ar-bymtheg. Costiodd yr adeilad oddeutu £96. Yn ddiweddarach fe brynwyd y tir gafwyd i ddechreu ar brydles, ac fe ychwanegwyd ato ddigon i wneyd mynwent fechan yn ymyl y capel. Mae dau neu dri wedi eu claddu ynddi yn barod. Mae cyfeillion Siloh, Llanfachreth, (oblegid dyna enw'r capel,) wedi cae Mr. R. Pugh, Helygog, yn foneddwr parod i roddi iddynt y tir at wasanaeth yr enwad, a hyny ar y telerau mwyaf rhesymol. * Costiodd adgyweirio y capel tua £10, ond y mae yn dda genym allu dyweyd nad oes arno ddim dyled o gwbl. Wedi cael capel newydd, trodd y cyfeillion yn Llanfachreth eu hwynebau am weinidogaeth i gyfeiriad Rhydymain a'r Brithdir, a'r cyntaf i gymeryd gofal yr eglwys fel ei gweinidog fu Mr Hugh James. Llafuriodd yn galed gyda graddau helaeth o lwyddiant yn eu plith. Ar ei ol ef cymerwyd ei gofal gan Mr John Dayies, yn nglyn a Rhydymain yn unig ; byr fu ei arosiad yn eu mysg, ond bu yn ddiwyd ac ymdrechgar yn ystod yr amser hwnw. Ymadawodd a'r Annibynwyr ac ymunodd a'r Methodistiaid Calfinaidd. Y trydydd gweinidog i gymeryd gofal yr eglwys yma fu Mr Robert Ellis, Brithdir. Gan fod ganddo i ofalu am Rydymain, Brithdir, Tabor, Ganllwyd, a Llanfachreth, ychydig o ffrwyth ei lafur a allasai y gangen hon ei gael, ond bu yn hynod ddedwydd a llwyddianus yn ei gysylltiad a'r eglwys hon hyd y diwedd. Yn y flwyddyn 1869, anogodd hwy i ymuno a Llanelltyd a'r Ganllwyd, i roddi galwad i ddyn ieuangc i gymeryd eu gofal. Gwnaethant ei gyngor, a rhoddasant wahoddiad unfrydol i Mr Robert Thomas, myfyriwr o athrofa y Bala. Atebodd yntau hwy yn gadarnhaol, ac ymsefydlodd yn eu plith Ionawr, 1870. Mae cysylltiad Mr Thomas a'r eglwysi yn bob peth a ellid ei ddymuno, ac yr ydym yn hyderu yr erys felly am lawer o flynyddoedd. Mae golwg siriol

* Llythyr R. Thomas, Llanelltyd.

467

ar yr achos. Llawer fu yn darogan, os nad yn dymuno ei angau, ond byw ydyw - golwg byw sydd arno - a chan mai achos y "Duw byw" ydyw, byw a fydd. Ni chodwyd yma yr un pregethwr, ond y mae yn perthyn i'r eglwys un pregethwr cynorthwyol, sef Griffith Price. Dechreuodd bregethu yn Jerusalem, Trawsfynydd, er mai brodor oddiyma ydyw, ac y mae yn parhau gyda'r gwaith. Gobeithiwn fod i'r dyn hynaws a thangnefeddus hwn lawer o flynyddoedd etto i wasanaethu ei Arglwydd.

Translation by Eleri Rowlands (6/2020)

Llanfachreth stands about four miles to the north of Dolgellau, amongst the crested mountains with wild and romantic views. The Independent movement started relatively lately in this area. The Calvinist Methodists 'owned' the area along with the Established Church. The Wesleyans formed a cause in a home called Corsygarnedd, a little before the Independents started. They would hold a Sunday School and prayer meetings quite regularly and were visited now and then
* Mr E. Davies, Trawsfynydd's letter.

465

by  ministers associated with the Union of Welsh Independents in the Dolgellau region, but the Wesleyans were in the area for a very short time. The Methodists were the strongest religious movement in Llanfachreth in those days. They had a well known, popular Sunday School, and it appears that it was from the Calvinist Sunday school that the first Independent buds broke through. There were several people at that time who belonged to the school who strongly leant towards views that  were known as a new system, who were ignored by the school authorities. An old deacon came to his feet one Sunday at the end of the school time and announced with authority, that no philosophy was going to be discussed in their school, unless it could agree with the views that were announced from the pulpit. The command was in vain and rather than depressing the views, they were rekindled. Stopping their spread would have been as difficult as turning the Mawddach back. The effect of the ban was very weak. It didn't even have the effect that a shower of thundery rain would have in swelling the river over the banks. It had the effect of splitting the pupils and some went to the Wesleyan Sunday school, which was being held at the time in  Gorsygarnedd, and the rest went to the Ganllwyd.
Edward Pugh, a cobbler, was the first from Llanfachreth to join the Ganllwyd. He was the first to go to the fellowship there. He was accepted by Hugh Pugh, his brother, who lived in a place called Caetanglwys. The two were followed by J. Morris, Rice Price, etc. Four of them were accepted by Mr E. Davies, Trawsfynydd, in Ganllwyd. They used to walk there from Llanfachreth - a distance of three miles, for quite some time. In 1838, it was decided to hold services in Caetanglwys, the home of the aforementioned H. Pugh. They rented a small room there and formed a pulpit and a few benches, in order to make it as suitable as they could. The first Independant to preach here was Mr Davies, Trawsfynydd. Many of his brothers followed him, and amongst them, the old honest evangelical from Llwyngwril came one evening. As he was preaching, and warming up to his subject, he accidentally hit the candle from near the pulpit and it fell, and as that was the only candle that they had in the room, he had no choice but to carry on in the darkness, or to break the atmosphere. But the old brother was too emotional to pause, and he said " if it has gone dark dear brothers, we know we'll have light from heaven." He received the peace and quiet to finish his sermon, and he often thanked them for their sensitive behaviour in the face of adversity. Within about a year after they started in Caetanglwys, they received a warning that they had to leave the little room. This was a great disappointment, and some became disheartened for a while, but others were more zealous and determined. When the last Sunday in the old room arrived there was no hope that they would find somewhere else. But Edward Pugh announced that there would be a school in his house in Llanfachreth the following Sunday, and that there would be a warm welcome for everyone who chose to come there. And that is how it was. Quite a large group came together and they appeared to be much more cheerful this Sunday than the last one. Soon after they restarted their meetings in the house of Edward Pugh, they decided to form a regular Independent church. Mr C. Jones, Dolgellau, came here and also Mr H. James, from Brithdir,

466

to form the church. We are not sure how many communions were held in E. Pugh's house, but some were accepted as members there, and they held services there for about fifteen months. They were blessed with quite a powerful revival and clear signs that Heaven approved of their service.
As the church increased in number, the house became too small and inconvenient, so they started to search for some corner to build a chapel. It wasn't an easy task, as landowners were zealous on behalf of the Established Church, and were quite opposed to non-conformism. But as a result of the kindness of the generous gentleman, Mr R. Pugh, Helygog, (the father of the present one) they succeeded in getting land on  Ffrwdyrhebog land, for the reasonable rate of £78.0s.6d. a year. After securing the land they were quite low spirited thinking of starting such a task, as there were so few of them fighting against the world and trying to keep themselves and their families Some of the friends in Ganllwyd promised to support them inj their efforts, but as a result of some circumstances, they received little support from them. In the meantime Samuel Williams, Hendregyfelliad, (now in Dolgellau) came to stay in the  Llanfachreth area. He is a staunch, determined Independent, and he was a great help in restarting the work. An appeal was sent to Dolgellau church for help and support to build a chapel. They received the help. It was started immediately, and was opened in  1840. The chapel is seven yards by eight. The original land was twelve yards by fifteen. The building cost around £96. Later the land that was obtained on rent was bought, and some was added to it in order to make a small cemetery near the chapel. Two or three have been buried there already. The friends of Siloh, Llanfachreth, (that is its name) have Mr. R. Pugh, Helygog, as a very helpful gentleman to give them land for the purposes of furthering the denomination, and that at very favourable rates. * The repairs to the chapel cost about £10, but we are very pleased to announce that the chapel has no debt. after securing a new chapel the friends in Llanfachreth turned their attention for a ministry towards Rhydymain and Brithdir, and the first to take the care of the church as their minister was Mr Hugh James. He laboured there with a great deal of success amongst them. Mr John Davies took over their care after him, along with just Rhydymain. His stay here was short, but he was busy and put a great deal of effort into his work during that time. He left the Independents and joined the Calvinist Methodists. The third minister to take the care of the church was Mr Robert Ellis, Brithdir. As a result of being responsible for Rydymain, Brithdir, Tabor, Ganllwyd, and Llanfachreth, this church saw very little of the fruits of his labour, but he was very successful and fond of his connection with this church till the end. In 1869, they were encouraged to join Llanelltyd and Ganllwyd, in sending a call to a young man to care for them. They consulted with him and invited him unanimously. Mr Robert Thomas was a student from Bala college. He agreed and settled among them in January, 1870. Mr Thomas' relationship with the churches is all they would have wanted it to be, and we are confident that it will remain so for many years. The cause is looking
* R. Thomas, Llanelltyd's letter.

467

very comfortable. Many have predicted if not wished for his death, but he still lives - he has a zest for life - and since it is the "Living Lord's" business, he will carry on living. No preacher was raised here, but in the church membership there is one lay preacher. He is Griffith Price. He started preaching in Jerusalem, Trawsfynydd, even though he is from here, and he continues to preach. We hope that this gentle, peaceful man has many more years to serve his Lord.
 

 

CUTIAU

(Llanaber parish)

Mae y lle hwn yn mhlwyf Llanaber. Yr Annibynwr a'r Ymneillduwr cyntaf a bregethodd yn y plwyf, yn ol dim hanes a ellir gael, oedd y diweddar Mr Benjamin Evans, o'r Drewen, Ceredigion, ond Llanuwchllyn y pryd hwnw. O gylch y flwyddyn 1770, cofrestrodd Mr Evans, gegin amaethdy o'r enw Maesyrafallen, i bregethu ynddi. Perchenog a phreswylydd yr amaethdy crybwylledig oedd un Cadben William Dedwith, (Dedwydd), gwr genedigol o Abergwaun, Penfro ; ac ewythr, brawd ei mham, i wraig y rhagddywededig B. Evans. Ymbriodasai y Cadben Dedwith ag aeres y Gorllwyn, gerllaw Abermaw, rai blynyddoedd cyn dyfodiad Mr Evans i Llanuwchllyn, ac felly rhoddasai heibio forio, a bu yn seren oleu yn awyrgylch crefydd yn y parthau yma o Sir Feirionydd. Yn y flwyddyn 1777, ymadawodd Mr Evans o Llanuwchllyn i Hwlffordd, Penfro, ac o herwydd diffyg gweithwyr selog, gadawodd yr Annibynwyr y maes a ddechreuasant ei lafurio, am o gylch pedair-blynedd-ar-hugain, hyd nes y cyfododd yr Arglwydd ddau wr ieuangc yn y sir, sef William Williams, wedi hyny o'r Wern, a Hugh Pugh, o'r Brithdir ; y rhai, er yn ieuangc, a bregethent Air y Bywyd gyda rhyw ddylanwad anarferol yn mhob cwm, ac ar bob bryn yn y cymydogaethau o gylch y lleoedd y magwyd hwynt. Yr oedd yr enwog John Jones, o Ramoth, fel i gelwid, gweinidog, gyda'r Bedyddwyr Sandemanaidd, yn gwneyd cryn dwrw yn y parthau yma y blynyddoedd hyny, ac yr oedd ef a'i ganlynwyr yn bur ddirmygus o'r ddau wr ieuangc, oherwydd eu poblogrwydd a'u hieuengctyd, mewn rhan, ond bu ymweliadau achlysurol y Dr. Lewis, o Lanuwchllyn, yn foddion tra effeithiol i symud y rhagfarn oedd gan rai pobl hunain-ddoethion yn erbyn y gwyr ieuaingc, oblegid yr oedd efe yn wr mewn oed, ac yn ysgrythyrwr mawr, a dylanwad neillduol, ar y cyfan, yn cydfyned a'r hyn a ddywedai. Ty'nyllwyn, yn Nghwm-y-sylfaen oedd y ty cyntaf y cafodd y brodyr Pugh a Williams ganiatad i fyned iddo i bregethu, ond nid oedd yn y ty hwnw, nac mewn un ty arall yn y gymydogaeth, yr un tamaid i'w fwyta cyn dechreu nac wedi gorphen pregethu, am droiau lawer, a thystiai Mr Pugh yn nghlyw un hen chwaer a adroddai yr hanes i Mr Jones, Abermaw, iddynt ddyoddef eisiau caled y troion cyntaf y daethent i'r gymydogaeth i bregethu, ond ni ddigalonasant er dim. Wedi i Mr Williams fyned i'r athrofa'i parhaodd Mr Pugh i ddyfod, a chyn hir ennillodd deimlad ffafriol iddo, ac ennillodd eneidiau hefyd at yr Arglwydd. Cofrestrodd dy i bregethu ynddo, yr hwn a elwir Penbrynisaf. Saif y ty hwnw gerllaw y capel a adeiladwyd yn y flwyddyn 1806. Y Cadben Rees Griffith, o'r Farchynys, taid "Y Gohebydd,"  Mr Thomas Davies, Dolgellau ; a Mr C. Jones, o'r Sylfaen, ac amryw eraill, llai mewn gallu, ond nid mewn ffyddlondeb, fu yn brif offerynau i gael y

468

capel, y rhai oll a ennillwyd i'r ffydd yn y gymydogaeth hon, ond a gyrchent i gymuno i'r Brithdir, ddeuddeng milldir o ffordd, nes y ffurfiwyd eglwys yn Llanelltyd. Wedi marwolaeth Mr Pugh, bu yma gryn ddiffyg am weinidogaeth gyson, ond gofalai y ffyddloniaid yn Rhydymain a'r Brithdir i ddyfod yma i gynorthwyo cynal cyfarfod gweddio. Yn mhen o gylch dwy flynedd, daeth Mr Cadwaladr Jones i faes mawr, hir, Mr Pugh, a llafuriodd yma gyda chysondeb a ffyddlondeb digyffelyb, pan gofiom eangder ei gylch. Yn mhen o gylch saith mlynedd wedi i Mr Jones lafurio y maes o flaen Drwsynant, hyd ganol Dyffryn Ardudwy, sef gwlad o gylch pedair-milldir-ar-hugain o hyd, anogodd y cyfeillion yn y Cutiau i roddi galwad i Mr Edward Davies, o'r Allt Tafolog, ger Dinasmawddwy, i ddyfod i'w bugeilio ; ac yn mis Mai, 1818, ymsefydlodd Mr Davies yn eu mysg, a bu yma yn bur lafurus a defnyddiol am bedair blynedd, nes y symudodd i Treflech, gerllaw Croesoswallt. Wedi hyny, am o gylch dwy flynedd, syrthiodd gofal gweinidogaethol y cwr yma o'r maes hir drachefn ar ysgwyddau Mr Jones, ond yr oedd ganddo erbyn hyn lu o bregethwyr cynorthwyol. Enwir Robert Roberts, o'r Brithdir ; Owen Owens, (Rhesycae wedi hyny) ; Richard Roberts, o'r Ganllwyd ; Richard Herbert; Richard Jones, Llwyngwril; Evan Evans, yn awr o Langollen, ac eraill. Yn niwedd y flwyddyn 1826, rhoddodd yr eglwys yn y Cutiau, mewn cysylltiad a'r ychydig gyfeillion oedd yn yr Abermaw a'r Dyffryn, alwad i Mr. Evan Evans, Bwlchgwyn - am yr afon a'r lle - i fod yn weinidog. Yr oedd Mr Evans yn yr Abermaw, er y flwyddyn flaenorol, yn cadw ysgol, ac yn pregethu agos bob Sabboth yn y Cutiau, Abermaw, a'r Dyffryn. Rhoddwn yma gopi o'r alwad a dderbyniodd Mr. Evans

" CUTIAU, Tachwedd 16eg, 1826.

Mr. Evan EVANS, Bwlchgwyn,

Yr ydym ni, aelodau yr eglwys sydd yn ymgyfarfod yn y Cutiau, yn sefyll mewn angen, fel y gwyddoch, am weinidog i flaenori yn ein plith, ac i dori i ni o fara y bywyd. Ar of cael cyfleusdra i sylwi ar eich golygiadau chwi ar athrawiaethau yr efengyl - y doniau a pha rai yr ydych wedi eich cynysgaeddu, a'ch ymddygiad addas i'r gwirionedd ; ac ar ol i ni gael cyfleusdra i ymgynghori a'n gilydd, gan hyderu hefyd ein bod wedi ymgynghori a'r Arglwydd! yr ydym yn calonog roddi i chwi alwad i lafurio yn ein plith, ac i gymeryd ein gofal yn yr Arglwydd, gan hyderu y bydd i chwi a ninau fod o lawer o gysur i'n gilydd. A chyda golwg ar eich cynhaliaeth, yr ydym yn addaw casglu yn ein plith ein hunain, yn y Cutiau yn unig, WYTH BUNT yn y flwyddyn. Gan obeithio y bydd i chwi gael eich tueddu i gydsynio a'n dymuniad, ydym, dros yr eglwys, yr hon sydd yn cynwys ugain o aelodau, eich brodyr a'ch cyfeillion yn rhwymau yr efengyl,

REES GRIFFITH, LEWIS WILLIAMS, RICHARD WILLIAMS."

Ar y 28ain o Fai, 1827, cynhaliwyd cyfarfod yn y Cutiau i'w neillduo i waith pwysig y weinidogaeth. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr C. Jones, Dolgellau; holwyd y gofyniadau gan Mr J. Roberts, Llanbrynmair; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr D. Morgan, Machynlleth ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr M. Jones, Bala ; ac i'r eglwys gan Mr E. Davies, Trawsfynydd. Gwinyddwyd hefyd gan Meistri H. Lloyd, Towyn ; H. Morgan, Sammah ; J. Ridge, Bala ; a W. Roberts, Trawsfynydd. * Llafuriodd Mr Evans yma yn ddiwyd hyd y flwyddyn 1844,

* Dysgedydd, 1827. Tudal. 217.    

469

pan y symudodd i Faentwrog. Dilynwyd ef gan Mr James Jones, Capelhelyg, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn nglyn ag Abermaw a'r Dyffryn, yn fuan wedi ymadawiad Mr Evans, ac a fu yma yn gymeradwy am bum'-mlynedd-ar-hugain, pryd y rhoddodd i fyny ei ofal gweinidogaethol. Yn mis Tachwedd, 1869, dechreuodd Mr David Evans, Rhosymedre, ei weinidogaeth yma, ac yn yr Abermaw a'r Dyffryn, ac y mae yn parhau i ofalu am y tri lle. Ni bu yr achos yma yn gryf yn un adeg yn ei hanes; ond bu yma amryw o bobl ffyddlon a chrefyddol o bryd i bryd, y rhai nad oedd dim yn ormod ganddynt ei wneyd er mwyn achos yr Arglwydd. Nid ydym yn cael i un pregethwr godi yn yr eglwys hon, ond bu yma un hen bregethwr, yr hwn a dreuliodd flynyddoedd olaf i oes yn yr ardal yma, sef Robert Roberts. Adwaenid ef gynt fel Robert Roberts, Henblas, Brithdir. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf a dderbyniwyd yn aelodau yn y Brithdir ar gorpholiad yr eglwys yno. Dechreuodd bregethu megis yn ddiarwybod iddo ei hun, trwy ddarllen penod mewn cyfarfodydd gweddio, a dyweyd ychydig oddiwrthi, a bu felly am fwy na dwy flynedd cyn pregethu yn ffurfiol oddiar destyn. Pregethodd lawer trwy yr holl wlad o Rydymain i'r Dyffryn, ac o Drawsfynydd i Lwyngwril, ac yr oedd yn dderbyniol pa le bynag yr elai. Yr oedd yn ddyn o gorff cryf, ac o feddwl grymus, ac yn nodedig am graffder ac ysbryd barn. Gwelodd dymhorau gwahanol ar grefydd yn ei oes, ond nid ar awelon yr ymddibynai ; ond gwnai waith crefydd yn ol rheswm a chydwybod. Arferai adrodd gyda difyrwch, fod Mr D. Davies, Abertawy, a John Bulk, yn pregethu ar ganol dydd yn y Brithdir mewn ty anedd, ar adeg o ddiwygiad grymus; ac yr oedd dawn swynol Mr Davies wedi peri i'r rhan fwyaf anghofio eu hunain yn llwyr, ac yn mysg eraill yr oedd ei gydbregethwr John Bulk yn moli ac yn neidio gyda 'r bobl mewn gorfoledd. Eisteddai Robert Roberts ar y bwrdd, a daeth John Bulk ato gan ddyweyd wrtho "Hawyr Bach, wyt tithau ddim yn molianu fachgen?" " Nac wyf fi," ebe Robert Roberts, " mae arnaf ddolur o'm coes." "Hawyr, dere fachgen, ti gei goes," atebai John Bulk. " Cha'i 'run gen ti," ebe Robert Roberts, " ac am hyny gad lonydd i mi." Addefai Robert Roberts iddo yntau deimlo rhyw gynyrfiadau yn yr adeg hono, er na buont yn ddigon grymus i beri iddo neidio. Cafodd oes hir i wasanaethu yr Arglwydd, a gwelodd ei blant a phlant ei blant yn rhodio yn llwybrau ei ffydd. Mae llawer o wyrion iddo yn Nghymru ac yn Liverpool yn aelodau defnyddiol yn eglwys Dduw, ac un o'i wyrion ydyw Mr Edward Roberts, Cwmafon, Morganwg. Bu Robert Roberts farw Tachwedd 15fed, 1842, yn 85 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llanaber.

Translation by Eleri Rowlands (4/2020)

This place is in the parish of Llanaber. The late Mr Benjamin Evans, from Drewen, Ceredigion, but in Llanuwchllyn at that time, was the first Independent and Non-conformist to preach in the parish, according to the information we can find. About 1770, Mr Evans registered the kitchen of a farm by the name of Maesyrafallen, in which to preach. The owner and inhabitant of the farm was Captain William Dedwith, (Dedwydd), a man originally from Fishguard, Pembrokeshire and an uncle, to B. Evans' wife. Captain Dedwith married the heir of Gorllwyn, near Barmouth, some years before Mr Evans came to  Llanuwchllyn, so he gave up his seafaring and was a bright star in religious circles in this part of Merionethshire. In 1777, Mr Evans moved from Llanuwchllyn to Haverford West, Pembrokeshire, and because of a lack of settled workers, the Independents left the area where they had started labouring, for about twenty four years, until the Lord raised two young men in the county. They were William Williams, later from the Wern, and Hugh Pugh, from Brithdir, who even though they were young, preached the Word of Life with an unusual inspiration in every valley, and on every hill in the communities where they were born. The well-known John Jones, Ramoth, as he was known, a minister with the Sandeman Baptists, was very vocal in this area during those years. He and his followers showed contempt for the two young men, because of their popularity and their youth, but the occasional visits of Dr. Lewis, from Llanuwchllyn, was very effective in removing the prejudice that some felt against these young men. He was an older man, and a great man of the Word, and had a special influence which agreed with what he said. The first house in which the Pugh and Williams brothers had permission to preach was  Ty'nyllwyn, in Cwm-y-Sylfaen, but they never had anything to eat either before nor after they finished preaching in that house nor in any other house in the area. Mr Pugh said, in the hearing of an old sister who passed it on to Mr Jones, Barmouth, that they had suffered hardship during the first couple of times they visited the community, but they still didn't lose heart. After Mr Williams went to college Mr Pugh continued to come here, and before long he won the favour of the people, and he also won their souls for the Lord. He registered a house called Penbrynisaf for preaching. That house was near to the chapel which was built in 1806. Captain Rees Griffith, from Marchynys, the grandfather of "Y Gohebydd,"  Mr Thomas Davies, Dolgellau and Mr C. Jones, from Sylfaen, and several others, were faithful in securing a


468


chapel. They were all committed to the faith in this area, but they went to Brithdir, twelve miles away for communion, until a church was formed in the chapel in Llanelltyd. When Mr Pugh died, it was very difficult for the church to find a regular minister, but the faithful in Rhydymain and Brithdir came to support them in prayer meetings. Within two years Mr Cadwaladr Jones came to take over Mr Pugh's large and long district, and he laboured here regularly and faithfully, when we remember the extent of his area. This area stretched from  Drwsynant to the middle of Dyffryn Ardudwy, that is countryside of about twenty four miles long. In the seven years that Mr Jones laboured here, the friends in Cutiau decided to give a call to Mr Edward Davies, from Allt Tafolog, near Dinasmawddwy, to come to shepherd them, and in May,1818, Mr Davies settled amongst them, and he stayed here very diligently and usefully for four years, until he moved to Treflech, near Oswestry. After that, for about two years, the ministerial care fell on the shoulders of Mr Jones, but by now he had a multitude of lay preachers. We have the names of Robert Roberts, from Brithdir, Owen Owens, (later Rhesycae), Richard Roberts, from Ganllwyd, Richard Herbert, Richard Jones, Llwyngwril, Evan Evans, now from Llangollen, and others. At the end of 1826, the church in Cutiau, along with the few friends that were in  Barmouth and Dyffryn, sent a call to Mr. Evan Evans, Bwlchgwyn to be their minister. Mr Evans had been in Barmouth, since the previous year, keeping a school, and preaching almost every Sunday in Cutiau, Barmouth, and Dyffryn. We include a copy of the call that Mr Evans received

" CUTIAU, November 16th, 1826.
Mr. Evan EVANS, Bwlchgwyn,
We, the members of the church who meet in Cutiau, as you know, stand in need of a minister to lead us and to break the bread of life. Since we have had the opportunity to notice aspects of your opinions on doctrines of the gospels - the gifts with which you've been endowed and your good, truthful demeanor, once we had a chance to discuss the situation, hopefully with the Lord's favour! we joyfully give you a call to labour in our midst, and to put our care into God's hands, with confidence that you and we will be a comfort to each other. And considering your maintenance we promise to collect amongst ourselves in Cutiau only, EIGHT POUNDS a year. Hoping that you will agree with our offer, we, on behalf of the church, which has twenty members, your brothers and friends in the gospel,
REES GRIFFITH, LEWIS WILLIAMS, RICHARD WILLIAMS."

On May 28th, 1827, a meeting was held in Cutiau to accept him in the important work of the ministry.  Mr C. Jones, Dolgellau, preached on the nature of the church; the questions were asked by Mr J. Roberts, Llanbrynmair; the ordination prayer was given by Mr D. Morgan, Machynlleth; Mr M. Jones, Bala preached to the minister and Mr E. Davies, Trawsfynydd preached to the church. Messrs H. Lloyd, Towyn, H. Morgan, Sammah, J. Ridge, Bala, and W. Roberts, Trawsfynydd, officiated. * Mr Evans laboured here diligently until 1844,


* Dysgedydd, 1827. page. 217.   


469


when he moved to Maentwrog. He was followed by Mr James Jones, Capelhelyg, who started his ministry here along with Barmouth and Dyffryn, soon after Mr Evans left. He stayed here, well respected, for twenty five years. He then gave up the ministry. In November 1869, Mr David Evans, Rhosymedre, started his ministry here and in Barmouth and Dyffryn. He continues his care for the three places. This cause was never very strong during its whole history, but there were several faithful, religious people here from time to time, those that put the Lord's work above all else. We haven't found one preacher who was raised in this church, but there was one old preacher, who spent his last years in this area. He was Robert Roberts. He had been  known as Robert Roberts, Henblas, Brithdir. He was one of the first to be accepted as a member in Brithdir when the church was embodied there. He was unaware of his first forays into preaching. He would read a chapter in prayer meetings and would start explaining a little of it. This is how he carried on for more than two years before he started preaching formally from a text. He preached a lot throughout the Rydymain to Dyffryn area, and from Trawsfynydd to Llwyngwril and he was welcomed wherever he went. He was a strong man, with a powerful mind and was notable for his keen observation and his spirit of judgment. He saw different aspects on religion during his life, but he didn't depend on these occasional wafts. He depended entirely on reason and conscience. He told entertaining stories about Mr D. Davies, Swansea and John Bulk, preaching at midday in a house in Brithdir, during the time of a powerful revival, and Mr Davies' pleasant demeanor had caused the majority of the people to forget themselves completely. Amongst others his fellow preacher John Bulk was praising and leaping with the people while rejoicing. Robert Roberts sat on the table and John Bulk came to him and said "Good gracious, aren't you praising son?" "No I'm not," said Robert Roberts, "I have a pain in my leg." "Gracious, come here son, you'll have a leg," answered John Bulk. "I won't have one from you," said Robert Roberts, "so leave me alone."  Robert Roberts admitted that he had felt some stirrings at that time, but that they weren't powerful enough to make him want to leap. He was given a long life to serve the Lord and he saw his children and the children of his children walking in the paths of  faith. He had many grandchildren in Wales and Liverpool who were very useful members in God's church and one of those grandsons is Mr Edward Roberts, Cwmafan, Glamorgan. Robert Roberts died on November 15th, 1842, at the age of 85. He is buried in Llanaber churchyard.
 

 

ABERMAW

(Llanaber parish )

Llongborth bychan ydyw y lle hwn, ac y mae yn gyrchfa i filoedd o ddyeithriaid bob blwyddyn, i ymdrochi ac i yfed o ddwfr ac awelon iachus glan y mor, ac i ddringo y bryniau a'r mynyddoedd llawn o drysorau gwerthfawr oddifewn iddynt, sydd yn cysgodi y lle. Nis gallasom gael allan pwy oedd yr Ymneillduwr cyntaf fa yn pregethu yn y lle hwn, ond yn y flwyddyn 1846, dywedodd hen wraig o'r enw Catherine Roberts, o'r Hafodboeth, wrth Mr James Jones, ei bod hi yn cofio Mr Evans, o Lanuwchllyn, yn gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd yn mharlwr

 

CONTINUED