GENUKI Home page

Merionshire Merionethshire     Contents Contents
 

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

MERIONETHSHIRE   (Vol 1)

Pages 498 - 511

See main project page

Proof read by Maureen Saycell (April 2008)

Chapels below;

 


Pages 498 - 511

498

(Continued) LLWYNGWRIL

waith, hwyliai ef y mesur ei hunan. Ar ol diweddiad y mawl, 'Yddwan,' meddai, 'ni awn ychydig at wrandawwdd gweddi.' Gweddiai yn ddifrifol, cynwysfawr, gwresog, ac yn fyr-eiriog. Byddai ganddo rhyw fater neillduol bob amser ynddi, a byddai yn hynod yn ei sylw o ryw amgylchiadau a fyddai yn fwy pwysig na chyffredin yn ngoruchwyliaethau Duw at y byd a'r eglwys. Byddai ei deimlad weithiau yn ei orchfygu. Ar ol hyn rhoddai benill drachefn, a phan y gorphenid ei ddatganu, eisteddai pawb gan ddisgwyl clywed y testyn. Hysbysai a darllenai ef, gan ddangos ei gysylltiadau, a'i egluro i'r gynnulleidfa. Yr oedd yn gampus am hyn. Medrai ef amlygu ei olygiad arno mewn ychydig eiriau, oblegid nid ydoedd un amser yn amleiriog. Yna drachefn crybwyllai y materion a gynwysid yn ei destyn, mewn modd eglur, dirodres, a naturiol iawn. Ei raniadau ar ei destyn oeddynt yn gyffredin yn dlysion a tharawiadol. Byddai ymddangosiad yn rhoddi argraff ar ei wrandawyr ei fod yn feistr ar bwngc, a'i fod yn teimlo hyfrydwch yn ei waith. Yr oedd ganddo ddull priodol iddo ei hun yn yr hyn oll a wnai, ac ni bu erioed yn amcanu at ddynwarediad o neb mewn dim. Yr oedd rhyw bethau yn ei ddull yn pregethu a barai weithiau i rai ysgeifn chwerthin wrth ei wrandaw, ac yn wir, gormod camp fyddai  wyr go ddifrifol hefyd beidio gwenu wrth glywed yr hen Ddoctor ; ond pob un ystyriol a esgusodai yn rhwydd y diffygion diniwaid hyny, oherwydd yr adeiladaeth a'r hyfrydwch geid dan ei weinidogaeth. Wrth ddybenu ei bregeth, dywedai, gan symud y Bibl, a'i ddodi ar y faingc o'r tu ol iddo, 'Yddwan, ni nawn ychydig o gathgliadau,' y rhai bob amser fyddent yn naturiol ac i bwrpas. Edryched y canwr ato ei hun, oblegid gyda'i fod yn dyweyd y gair olaf yn  bregeth, dyna'r penill allan yn ddisaib, oblegid ni byddai ganddo un saib rhwng ei Amen a'i benill, a phrin iawn y cai un  synwyr ato i chwilio am fesur priodol ; ond yr oedd yn hawdd i'r canwr faddeu iddo ffaeleddau bach fel hyn, gan mor dda y pregethai."

Gwnai deithiau rheolaidd fel hyn trwy Dde a Gogledd, am ddeng-mlynedd-ar-hugain, ac yr oedd derbyniad croesawgar iddo ba le bynag yr elau. Ond daeth ei ddyddiau teithio i ben, a nesaodd ei awr yntau i farw, ac ni chafodd ond byr gystudd. Awgrymasai ychydig cyn ei farw, fod awr ei ymddatodiad yn ymyl, ond yr oedd yn gwbl foddlawn i ewyllys yr Arglwydd. Gofynai ei chwaer iddo pan yn agos angau, " Dic bach, leicet ti fyw dipyn etto gyda ni ?" "Dim o bwyth," ebe fe. "A fyddai yn well gen' ti farw?" "Wel y gwelo Fo'n dda," ebe yntau. Arswydai groesi rhyd fechan dros bontbren yn ei fywyd, ond aeth trwy lifeiriant afon angau heb fraw nac arswyd, a bu farw mewn tangnefedd, Chwefror 18fed, 1853, yn 73 oed.

" Hiraeth gyfyd wrth gofio
I ddu fedd ei guddio fo."

 

HOREB, ARTHOG

(Llangelynin parish)

Yn mis Mai, 1863, symudodd teulu o Ddyffryn-Ardudwy, y rhai oeddynt Annibynwyr, i'r Bwlchgwyn i fyw. Yr oedd llawer o bregethu wedi bod yn Bwlchgwyn yn nyddiau Lewis Evans, tad Mr E. Evans, Llangollen, ond ni wnaed un cynyg ar sefydlu achos yma. Wrth weled fod gweithiau llechfeini yn cael eu hagor yn yr ardal, gwelwyd fod yr amser

499

wedi dyfod  wneyd hyny. Agorodd teulu Bwlchgwyn eu ty, ac aeth Mr Jones, Abermaw, i bregethu yno yn Mai, 1864, gyda bwriad i wneyd hyny yn rheolaidd. Bu Mr Ellis, Brithdir, a Mr Evans, Llangollen, yno drachefn, ac yn Nghymanfa Dolgellau, yn haf y flwyddyn hono, dygwyd i sylw y gynadledd y priodoldeb o gychwyn achos yn Arthog. Amlygwyd gwrthwynebiad gan rai brodyr ofnus, ond ymrwymodd Meistri J. Jones, Abermaw ; R. Ellis, Brithdir ; I. Thomas; Towyn, ac R. P. Jones, Llanegryn, i roddi Sabboth iddynt bob tri mis, ac i Mr Jones, Abermaw, a'r cyfeillion yn y lle drefnu i lenwi y Sabbothau eraill goreu gellid. Bu pregethwyr cynorthwyol y Sir yn ffyddlon iawn, ac athrawon a myfyrwyr y Bala bob amser yn barod pan y byddai galwad, ac yr oedd pethau yn myned yn mlaen mor llwyddianus fel y penderfynwyd ffurfio eglwys yn y lle, ac ar nos Wener, Hydref 28ain, 1864, aeth Mr Jones, Abermaw, a Griffith Jones, un o'i ddiaconiaid, drosodd i Bwlchgwyn, a ffurfiasant yno eglwys o ddeuddeg o bersonau oeddynt yn cydymroddi i gynal coffadwriaeth o enw yr Arglwydd yn y lle, a chadwyd y cymundeb cyntaf yno y Sabboth canlynol. Cynyddodd yr achos yn raddol, a barnwyd y dylesid cael capel, ac wedi tipyn o drafferth cafwyd prydles am gan' mlynedd ond un, ar ddarn o dir ar ffarm a elwir Tyddyn-Sheffrey, yr hwn oedd ar y pryd yn feddiant i gwmni chwarel a weithid yn yr ardal ; a chodwyd capel prydferth, yn mesur deg llath wrth wyth, a chostiodd rhwng pob treuliau, yn nghyd a'r ty perthynol iddo, 400. Bu Mr Jones, Abermaw, yn hynod lafurus i gasglu ato, a rhwng ei ymroddiad ef a gweinidogion eraill yn y Sir, ac ymdrech y cyfeillion yn y lle, y mae y ddyled wedi  thalu, fel nad oes ond ychydig yn aros arno. Mae yr eglwys yma yn awr wedi uno a'r eglwys yn Llwyngwril, i roddi galwad i Mr Peter Davies, myfyriwr o athrofa y Bala, i ddyfod yma yn weinidog mewn cysylltiad a Llwyngwril, ac urddwyd ef yma Mai 9fed, 1871. Ar yr achlysur, eglurwyd natur eglwys gan Mr M. D. Jones, Bala ; holwyd y gweinidog gan Mr D. Evans,

Abermaw;  gweddiodd Mr J. Jones, Abermaw ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr J. Peter, Bala, ac i'r eglwys gan Mr R. Ellis, Brithdir. Gweinyddwyd hefyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan Meistri R. P. Jones, Llanegryn ; E. A. Jones, Dolgellau ; P. Howell, Ffestiniog ; I. Thomas, Towyn ; R. Thomas, Llanelltyd ; J. Davies, Rhiw, a Ll. Roberts, Borth. Amlygodd eglwys Coedpoeth ei pharch i Mr Davies, ar ddechreuad ei weinidogaeth, trwy anfon iddo erbyn dydd ei urddiad, yn llaw un o'i diaconiaid, byrsiad o aur, fel arwydd o'i theimlad da tuag ato fel gwr ieuangc wedi ei fagu yn eu mynwes, ac heb roddi un briw iddi erioed trwy unrhyw gamymddygiad. *

 

LLANEGRYN

Nid yw yr hanes ydym wedi ei gael am ddechreuad yr achos yma ond tra anmherffaith. Mae yn ymddangos iddo gael ei gychwyn tua'r flwyddyn 1806, yn fuan ar ol dechreu yr achos yn Towyn a Llwyngwril, ond nid oes genym enwau y tai y pregethwyd gyntaf ynddynt, na phwy oedd y rhai blaenaf yma i dderbyn yr efengyl. Mr Hugh Pugh, o'r Brithdir,

* Llythyr Mr J. Jones, Abermaw.

500

oedd un o'r rhai cyntaf a bregethodd yma yn y ganrif bresenol, ac efe fel yr ymddengys a sefydlodd yr achos. Dilynwyd ef gan Mr James Griffith, ac wedi hyny gan Mr David Morgan, ac yn y flwyddyn 1816, daeth Mr Hugh Lloyd i lafurio yma mewn cysylltiad a'r Towyn a Llwyngwril. Yn y flwyddyn hon yr adeiladwyd y capel cyntaf, yr hwn a alwyd Ebenezer, ac agorwyd ef yr un pryd ag yr urddwyd Mr Lloyd, sef Hydref 3ydd, 1817. Cynyddodd yr achos o dan weinidogaeth Mr Lloyd, ac ennillwyd amryw deuluoedd at yr achos, a rhai o honynt yn barchus a chyfrifol yn y byd. Helaethwyd y capel yn y flwyddyn 1829. Gan fod cylch y weinidogaeth yn rhy eang, rhoddodd Mr Lloyd y lle hwn, a Llwyngwril, a Llanfihangel i fyny, a dewiswyd Mr Evan Griffith, yr hwn oedd wedi bod am dymor dan addysg yn Nghroesoswallt, yn weinidog. Urddwyd ef Ionawr 2il a'r 3ydd, 1836. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr S. Roberts, Llanbrynmair ; holwyd y gofyniadau gan Mr H. Lloyd, Towyn, dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr C. Jones, Dolgellau ; pregethodd Mr D. Morgan, Machynlleth, i'r gweinidog, a Mr E. Davies, Trawsfynydd, i'r eglwys. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri H. Morgan, Sammah ; J. Williams, Dinas ; T. Davies, Ffestiniog; E. Evans, Ahermaw; M. Jones, Llanuwchllyn; J. Davies,Glasbwll; W.Roberts,Dinas, a W.Ellis (Edwards,) Ffestiniog.* Llafuriodd Mr Griffith yma yn ddiwyd am bymtheng mlynedd, nes y penderfynodd ymfudo i America, lle y mae etto yn gryf a defnyddiol. Yn nechreu y flwyddyn 1850, daeth Mr John Owen yma Nefin, i weinidogaethu, a bu yma yn llafurus a llwyddianus am yn agos ddeng mlynedd. Rhoddodd ei weinidogaeth yma i fyny, a chyn hir symudodd i Langefni, Mon, lle y mae yn aros etto. Yn nechreu y flwyddyn 1863, rhoddodd yr eglwys hon a'r eglwysi cysylltiedig, alwad i Mr Robert P. Jones, myfyriwr o athrofa Dduwinyddol Manchester, ac urddwyd ef Mai 20fed, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Wiliiams, Castellnewydd ; holwyd y gofyniadau gan Mr C. Jones, Dolgellau ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr E. Davies, Trawsfynydd ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr H. Morgan, Sammah, ac ar ddyledswydd yr eglwysi gan Mr E. Evans, Llangollen. Gweinyddwyd hefyd yn nghyfarfodydd y dydd gan Meistri R. Ellis, Brithdir; J. Jones, Abermaw; W. Rees, Corris; D. C. Rees, Talybont ; J. Davies, Glasbwll, ac eraill. Mae Mr Jones yn parhau yma yn y weinidogaeth, a'r achos er y mynych symudiadau sydd yma, yn myned yn mlaen yn siriol.Yn y flwyddyn 1845, adeiladwyd capel bychan islaw Llanegryn, yr hwn a elwir Nazareth, gyda bwriad i gynal Ysgol Sabbothol, a phregethu achlysurol. Mae y brodyr ffyddlon J. Lloyd, Pant, a G. Jones, yn deilwng o goffad parchus yn nglyn a'r lle hwn. #

Codwyd y personau canlynol i bregethu yma -

* Dysgedydd, 1836. Tu dal 99.    # Llythyr Mr R. P. Jones.

501

LLANFIHANGEL

(Llanfihangel-y-Pennant ?)

Arferid pregethu mewn amaethdy o'r enw Tyno, ryw dair milldir o'r Llan, cyn dechreu pregethu yma. Mr Lloyd, Towyn, oedd yn gofalu am y lle ar y pryd. Adeiladwyd y capel yma yn 1821, ac adgyweiriwyd ef yn 1839. Mae y lle o'r dechreuad wedi bod yn nglyn a Llanegryn, ac felly y mae yn parhau. Bu pregethu rheolaidd am flynyddoedd mewn capel bychan yn Nhalyllyn, pan oedd Mr Griflith Evans yn byw yn Maesypandy, ond nid ydym yn deall i'r enwad Annibynol gael meddiant o hono erioed, a phan y darfu cysylltiad y gwr hwnw a'r enwad, darfu y pregethu gan yr Annibynwyr yn y capel. Mabwysiadodd Mr Evans syniadau y Plymouth Bretheren, a llwyddodd i dynu rhai dysgyblion yn y wlad yma ar ei ol. Magodd deimlad gwrth-weinidogaethol mewn cryn lawer o bersonau, a bu raid i'r achos yn Llanfihangel ymladd yn erbyn yr ysbryd hwnw, ac ni ddiangodd heb dderbyn niwed ar y pryd oddiwrtho. Llawen genym ddeall fod olion yr ysbryd gwenwynig hwnw wedi ei olchi ymaith.

 

ABERGYNOLWYN

Already translated etc, see /big/wal/MER/LlanfihangelYPennant/Hanes.html

" Nid oedd gan yr Annibynwyr yr un achos yn y lle yma hyd yn ddiweddar, a chydag agoriad y gweithfeydd yma, a chynydd poblogaeth y lle, symudiad llawer o Annibynwyr i'r ardal, teimlid y dylesid gwneyd cynyg ar sefydlu achos yma. Ymgymerodd y gweinidogion cymydogaethol, gyda chefnogaeth y cyfarfod chwarterol, a'r gorchwyl, a phrynwyd hen gapel y Methodistiaid Calfinaidd yn y Cwrt, lle sydd yn gydiol bron ag Abergynolwyn. Mae y capel yn rhyddfeddiant i'r enwad er Ionawr 25ain, 1868, ac y mae golwg addawol iawn ar yr achos ynddo. Y mae y lle dan ofal gweinidogaethol Mr. Jones, Llanegryn, a thrwy eu bod yn cael gweinidogaeth reolaidd, a'r eglwys fechan yn weithgar, ni bydd y ddyled sydd ar capel yn hir heb ei chwbl ddileu."

CORRIS

(Talyllyn parish)

Dechreuwyd yr achos hwn mewn amaethdy a elwir Rhiwgwreiddyn, o fewn milldir a haner i'r lle yma, ar y ffordd i Fachynlleth. Preswylid y lle ar y pryd gan Mr Hugh Pugh, ac yr oedd ei wraig, Mrs Gwen Pugh, yn aelod yn nghapel y Graig, Machynlleth. Oblegid pellder y ffordd i'r dref, meddyliodd teulu Rhiwgwreiddyn am gael Ysgol Sabbothol a phregethu achlysurol yn eu ty, a dechreuwyd ar hyny yn ddioed, ac elai Mr Morgan, Machynlleth, yno i bregethu mor aml ag y gallai. O gylch y flwyddyn 1824, adeiladwyd capel bychan ar ddarn o dir a roddwyd gan Mr Hugh Pugh, Rhiwgwreiddyn. Galwyd ef Achor. Yn fuan ar ol dechreu yr achos yma derbyniwyd Mr Pugh yn aelod, a pharhaodd yn ffyddlon hyd ei farwolaeth, ac yr oedd ei wraig, yn arbenig, yn hynod garedig i'r achos, a llettygar i'r pregethwyr a ddeuai heibio. Bu mab iddynt, Mr William Pugh, yn byw yma dros ychydig wedi marw ei rieni, ac yn ofalus iawn am yr achos, hyd nes y symudodd i gymydogaeth y Drefnewydd, ond er symud arferai am flynyddau gyfranu 5 yn y flwydd-

502

yn at yr achos yn Achor. Merch Rhiwgwreiddyn ydyw Mrs Evans, Hengae, Aberllefeni, ac y mae ysbryd llettygar hen deulu Rhiwgwreiddyn yn aros yn Hengae.* Bu gofal Achor ar Mr Morgan, hyd nes yr ymadawodd a Machynlleth yn 1836. Yn 1837, cymerodd Mr John Parry ofal y lle mewn cysylltiad a Machynlleth, ond yn mhen ychydig gyda blwyddyn rhoddodd Achor a Phennal i fyny, ac unasant hwythau i roddi galwad i Mr William Roberts, yr hwn a ddaeth yma yn nechreu 1839, ac a fu yma yn ymdrechgar, nes y symudodd i Benybontfawr yn 1841. Daeth Mr Grey Evans yma cyn diwedd y flwyddyn hono, ond rhoddodd ef y lle i fyny, er cymeryd gofal Aberdyfi, a bu Meistri John Parry, a William Davies yn gofalu am y lle yn olynol, mewn cysylltiad a Salem, Machynlleth. Parhau yn wan yr oedd yr achos yn Achor trwy y blynyddoedd, ac yr oedd ei bellder oddiwrth y chwarelau, lle yr oedd lluaws y boblogaeth, yn gwneyd nad oedd fawr o obaith am gynnulleidfa gref yno' ac oblegid hyny, yn 1851, penderfynwyd gwerthu hen gapel Achor, a symud yr achos i Corris, i ganol y boblogaeth. Cymerwyd yma ystafell am ddeng mlynedd o dan ardreth flynyddol. Hen Lodge perthynol i'r Odyddion oedd yr ystafell, ond ad-drefnwyd hi, a gwnaed un ran o honi yn dy anedd, a'r rhan arall yn lle i bregethu, ac ar y 27ain a'r 28ain o Fedi, 1851, cadwyd yma gyfarfod i agor y lle, pryd y gweinyddwyd gan Meistri W. Davies, Machynlleth ; E. Stephen, Dwygyfylchi; I. Thomas, Towyn; R. Ellis, Brithdir, ac S. Edwards, Machynlleth. Yn fuan wedi dechreu yn Nghorris, unodd yr eglwys a Pennal i roddi galwad i Mr David Evans, o Sir Gaerfyrddin, ac urddwyd ef Mehefin 17eg, 1853. Tua dwy flynedd yr arhosodd yma, canys dychwelodd i Sir Gaerfyrddin. Bu yr eglwys am ysbaid ar ol ymadawiad Mr Evans heb sefydlu ar weinidog. Rhoddwyd galwad i Mr Richard Hughes, Gwalchmai, Mon, ond gwrthododd gydsynio. Yn niwedd 1857, rhoddwyd galwad i Mr William Rees, o Lanrhaiadr-yn-Mochnant, ac urddwyd ef Ionawr 3ydd, 1858. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr R. Ellis, Brithdir ; holwyd y gofyniadau a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr C. Jones, Dolgellau ; pregethodd Mr W. Roberts, Penybontfawr, i'r gweinidog, a Mr S. Edwards, Machynlleth, i'r eglwys. Yr oedd sefyllfa wanaidd iechyd Mr Rees, a'r mynych gystudd oedd yn ei deulu, yn anfantais fawr iddo gydag achos mewn lle newydd, i weithio yn erbyn anhawsderau, ond yr oedd yn dderbyniol a chymeradwy gan yr holl ardalwyr. Bu yma hyd 1866, pryd y rhoddodd i fyny ei ofal gweinidogaethol, a bu farw yn fuan ar ol hyny. Y flwyddyn ganlynol i ymadawiad Mr Rees, rhoddwyd galwad i Mr John C. Williams, myfyriwr o athrofa y Bala, urddwyd ef yn Aberllefeni, Ebrill 19eg, 1867; ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr R. Thomas, Llanuwchllyn ; holwyd y gofyniadau gan Mr R. Ellis, Brithdir ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr H. T. Parry, Abersoch ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr J. Peter, Bala, ac i'r eglwys gan Mr J. Jones, Machynlleth. Yr oedd yr achos yma wedi casglu nerth yn raddol, ac yr oedd teimlad cryf er's blynyddoedd y dylesid cael gwell lle  addoli na'r hen ystafell yn Mhenygraig, ac ar ol sefydliad Mr Williams, penderfynwyd myned yn nghyd a'r gorchwyl o ddifrif. Rhoddwyd lle cyfleus i adeiladu arno yn rhad gan Mr D . Morgan, Machynlleth, ac nid hyny yn unig, ond cyfranodd hefyd yn haelionus at godi y capel. Dechreuwyd adeiladu yn Hydref,

* Llythyr Mr J. C. Williams.

503

1867, ac agorwyd y capel Ebrill 22ain, 1869; ac ar yr achlysur, pregethwyd gan Meistri J. Jones, Machynlleth; E. Evans, Caernarfon; O. Evans, Llanbrynmair; M. D. Jones, Bala, ac R. Thomas, Bangor. Costiodd 600, ac y mae ynddo eisteddleoedd i dri chant. Mae dau gant a haner o'r ddyled eisioes wedi  thalu, ac nid yw y ddyled sydd yn aros yn cael  theimlo mewn un modd yn faich rhy drwm i'w dwyn. Rhifa yr eglwys dros bedwar ugain o aelodau, a llawer o honynt yn weithgar a selog. Nid ydym yn cael i neb godi i bregethu yn yr eglwys yma, ond Roderick Lumley, yr hwn a addysgwyd yn athrofa y Bala. ac a urddwyd yn Elim, Cwmbran, Mynwy, ond sydd yn awr yn Bwlchyffridd, Maldwyn.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

WILLIAM REES. Ganwyd ef yn Llanrhiadr-yn-Mochnant, Tachwedd 7fed, 1822. Yr oedd ei dad yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond yn wr o feddwl rhydd a diragfarn, a chan nad oedd gan y Methodistiaid yn Llanrhaiadr ar y pryd le i addoli, aeth ei blant at yr Annibynwyr. Brawd i wrthrych ein cofnodiad, oedd Mr Edward Rees, yr hwn a urddwyd yn Brynsion, ac a fu farw yn nghanol ei ddyddiau, ac yn nghanol ei boblogrwydd yn Llanymddyfri. Derbyniwyd Mr W. Rees yn aelod yn Llanrhaiadr gan Mr D. Price, y gweinidog, yn y flwyddyn 1839, a bu am flynyddau yn aelod defnyddiol yn yr eglwys, ac yn athraw llafurus yn yr Ysgol Sabbothol. Dechreuodd bregethu Rhagfyr 19eg, 1845 ; ac yr oedd fel pregethwr yn dderbyniol gan y cynnulleidfaoedd yr ymwelai a hwynt. Bu yn cadw ysgol yn Llanrhaiadr, a Dolanog, ac wedi hyny yn Rhuddlan, lle hefyd y cynorthwyai yn y weinidogaeth, a thra yn aros yno, y priododd a Miss Sarah Williams. Derbyniodd alwad o Gorris ac Aberllefeni, ac urddwyd ef Ionawr 3ydd, 1858. Profodd yn nhymor  weinidogaeth ei fod yn weithiwr ffyddlon, ac yn gristion gloyw, ac er iddo gael rhan helaeth o gystuddiau a phrofedigaethau, dyoddefodd y cwbl yn dawel. Claddodd ei wraig yn niwedd y flwyddyn 1865, ae yn fuan wedi hyny, aeth ar daith i'r Deheudir yn achos y Dysgedydd, ond cymerwyd ef yn glaf, a dychwelodd adref i dy ei  fam yn Llanrhaiadr, a gwaelach, waelach yr aeth, nes y bu farw Mai 14eg, 1866, yn 43 oed, a gadawodd ar ei ol ferch fechan wyth oed, yn amddifad o dad a mam.

  

ABERLLEFENI

(Talyllyn parish)

Yn y flwyddyn 1852 y cychwynwyd yr achos yma, yn mhen tua blwyddyn ar ol symudiad yr achos o Riwgwreiddyn i Gorris. Yr oedd deg o aelodau Corris yn byw yn Aberllefeni, a chan rai o honynt bedair milldir o ffordd i fyned yno, ac wrth weled hyny, a bod y lle yma yn cynyddu, bernid y dylesid cynyg sefydlu achos yma. Yr oedd Richard Jones, Llwydiarth, a'i wraig, yn aelodau ffyddlon yn Achor. Byddent yn myned yno yn rheolaidd bob Sabboth, er fod ganddynt chwe' milldir o ffordd. Cychwynwyd Ysgol Sabbothol yn Llwydiarth, a chodwid hi weithiau mewn tai eraill yn yr ardal. Cedwid hefyd gyfarfod gweddi yn yr hwyr, fynychaf, os na buasai pregeth yn Nghorris. Ar un nos Sadwrn, daeth Mr S. Roberts, Llanbrynmair, i Lwydiarth  bregethu, ac anogodd y cy-

504

fillion yn y lle i edrych allan am dir i godi capel yn yr ardal. Cymerwyd yr awgrym i fyny o ddifrif, a chafwyd lle i adeladu gan berchenog chwarelau Aberllefeni, ar brydles o driugain mlynedd, am yr ardreth o bunt y flwyddyn. Mae y weithred wedi ei dyddio Mawrth 25ain, 1857, ond yr oedd y capel wedi  godi ddwy flynedd cyn hyny. Nid yw sefyllfan y mwyaf manteisiol, am ei fod mewn pant, ac ar lan afon. Yr oedd John Stephens yn weithgar iawn y pryd hwnw gydag adeiladu capel. Trefnwyd i gyfarfod yr agoriad fod ddydd Gwener y Groglith, 1855, ond erbyn i'r amser ddyfod, nid oedd y capel yn barod, ac felly, bu raid cynal y cyfarfod yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd. Gweinyddwyd gan Meistri H. Morgan, Sammah ; S. Edwards, Machynlleth ; R. Ellis, Brithdir, a C. Jones, Dolgellau ; ac yn fuan ar ol hyny, wedi cael y capel yn barod, daeth Meistri S. Roberts, Llanbrynmair, ac R. Ellis, Brithdir, yma  bregethu am Sabboth, a ffurfiwyd eglwys yn y lle, ac o hyny allan, bu yma bregethu rheolaidd. Galwyd y capel yn Achor, yn ol enw yr hen gapel yn Rhiwgwreiddyn. Mae y lle wedi bod o'r dechreuad dan yr un weinidogaeth a Chorris, ac felly y mae yn parhau. Yn yr adegau y ,bu yr eglwys yn amddifad o weinidog, cafodd y gweinidogion cylchynol yn garedig iawn, a bu John Davies, Glasbwll, yn pregethu yma ac yn Corris yn rheolaidd bob mis hyd  farwolaeth, a theimlir yn yr ardad barch diffuant i'w goffadwriaeth. Mae yr achos yma wedi myned trwy gryn lawer o gyfnewidiadau, ond er y cwbl y mae wedi myned rhagddo yn llwyddianus. Cynaliwyd Cymanfa sir Feirionydd yma Mehefin 8fed a'r 9fed, 1858, a gadawodd ddylanwad da ar yr holl wlad. Bu yn foddion i ladd y culni a'r rhagfarn yn erbyn yr enwad oedd hyd hyny yn aros mewn llawer o feddyliau. *

Yn nechreu Mehefin, 1870, tynwyd i lawr yr hen gapel, a gwnaed ef bron i gyd o newydd. Mae yn awr yn gapel hardd. Costiodd 600, ond bydd haner y draul wedi  thalu yn fuan. Agorwyd ef Ebrill 7fed, 1871, pryd y pregethwyd gan Meistri E. Evans, Caernarfon, ac R. Williams, Llundain. Da genym ddeall fod yr eglwysi yn Aberllefeni a Chorris yn myned rhagddynt mor egniol, a'u bod hwy a'u gweinidog yn ymdeimlo mor fyw  anghenion yr ardaloedd pwysig  a chynyddol hyn.

 

RHYDYWERNEN

(Llanfawr parish )

Mae y lle yma wedi derbyn ei enw oddiwrth amaethdy o'r enw Rhydywcrnen, yn mhlwyf Llanfawr. Saif ar gwr uchaf cwm cul, ond prydferth, sydd i'r Gogledd-orllewin o'r ffordd sydd yn arwain o'r Bala i Gorwen. Ymddengys fod pregethu achlysurol yma er o gylch y flwyddyn 1740.# Ond yn nhymor gweinidogaeth Mr Benjamin Evans, yn Llanuwchllyn, y dechreuwyd pregethu yma yn rheolaidd. Tua'r flwyddyn 1770, yr oedd gwr o'r enw Hugh Jones yn byw yn Rhydywernen, ac efe oedd perchenog y lle. Nid oedd fel yr ymddengys yn proffesu crefydd ei hun, ond ei fod yn ewyllysiwr da i'r achos, a gwahoddai bregethwyr yr Annibynwyr a'r Methodistiaid Calfinaidd yn ddiwahaniaeth i'w dy i bregethu. Yn y flwyddyn 1775, adgyweiriodd Hugh Jones hen dy oedd ganddo at

* Llythyr Mr. J. C. Williams.

# Dysgedydd, 1830. Tu dal, 34. Cofiant Evan Dafydd, gan H. P.

505

gadw mawn, a throdd of yn lle addoli. Ystafell isel, hirgul, a tho brwyn, tlodaidd iawn yr olwg arni ydoedd, ond buwyd yn addoli yma am fwy na haner can, mlynedd, a chafodd llawer o saint y dyddiau hyny wleddoedd blasus i'w heneidiau yn hen gapel Rhydywernen. Gwnaed meinciau a phulpud yn yr hen dy, ac yr oedd y llythyrenau H J., a'r ffugyrau 1775, ar y talcen uwchben y pulpud. Bu y lle o'r dechreuad dan ofal gweinidogion Llanuwchllyn, ac wedi symudiad Mr Benjamin Evans, i'r Drewen, yn 1777, daeth Meistri T. Davies, A. Tibbot, G. Lewis, ac M. Jones, yma yn olynol. Nis gwyddom pa flwyddyn y rhoddodd y Methodistiaid i fyny bregethu yma'i na pha bryd y ffurfiwyd yma eglwys Annibynol. Mae yn sicr yr arferai rhai oddiyma fyned i Lanuwchllyn i gymundeb yn nyddiau Mr B. Evans, ac y mae yn debyg mai wedi ei ymadawiad ef yn 1777, a marwolaeth Hugh Jones yn 1778, y rhoddodd y Methodistiaid i fyny ymweled a'r lle, ac y ffurfiwyd yma eglwys Annibynol. Dywedir mai Mr Abraham Tibbot a ffurfiodd yr eglwys yma, os felly, nis gallasai hyny fod cyn y flwyddyn 1784, canys dyna y flwyddyn y daeth ef i Lanuwchllyn. Nid oedd yn y cyfnod hwnw yr un capel yr holl ffordd o'r Bala i Wrecsam, ond Rhydywernen. Arferai yr hen gristion Sion Edward, a'i wraig, ddyfod yma o Gynwyd yn rheolaidd, a deuai Edward Jones yn ffyddlon yr holl ffordd o Langollen - pellder o ugain milldir - yma bob mis i gymundeb. Yr oedd pregethwyr cymeradwy yn Llanuwchllyn, megis Robert Roberts, Robert Lloyd, a John Evans, y rhai a gynorthwyent eu gweinidogion, ac a ddeuent yma yn rheolaidd. Yn Mai, 1826, daeth Mr Hugh Pugh, o Dowyn,  gadw ysgol i Bethel, ac i gynorthwyo Mr Michael Jones, yn yr eglwysi bychain newydd-ffurfiedig yn Edeyrnion. Urddwyd of yn Llandrillo, Gorphenaf 3ydd, 1827. Gan mai Rhydywernen oedd yr eglwys hynaf yn nghylch ei weinidogaeth, rhoddwn hanes ei urddiad yma. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr C. Jones, Dolgellau ; gofynwyd y cwestiynau arferol gan Mr M. Jones, Llanuwchllyn ; gweddiodd Mr D. Roberts, Dinbych, am fendith ar yr undeb ; pregethodd Mr H. Lloyd, Towyn, i'r gweinidog, a Mr E. Davies, Trawsfynydd, i'r eglwys ; a Mr W. Williams, Wern, i'r gwrandawyr yn gyffredinol.* Mae yn debyg i'r urddiad gymeryd lle yn Llandrillo, oblegid fod y lle yn fwy canolog i'r holl aelodau yn nghylch y weinidogaeth. Cafodd Rhydywernen fantais fawr i fwynhau cymdeithas fuddiol ac addysg bur Mr Pugh, oblegid  fod yn llettya yn nheulu yr haelionus a'r caredig William Jones, Coedybedo, ac yn cael edrych arno fel un o'r teulu, a mawr yr hiraeth a deimlid ar ei ol wedi ei symudiad i Fostyn. # Yn y flwyddyn 1828, adeiladwyd capel newydd cryf a hardd, a chyn pen ychydig flynyddau yr oedd ei holl ddyled wedi ei dalu trwy lafur yr ardalwyr yn benaf. Yn nhymor gweinidogaeth Mr Pugh, codwyd yma ddyn ieuangc o'r enw John Griffith i bregethu, yr hwn ar ol hyny a fu yn weinidog i'r eglwys hon. Yn Mai, 1837, symudodd Mr Pugh oddiyma i Mostyn, ar ol llafurio yma gydag ymroddiad mawr am unmlynedd-ar-ddeg. Ni bu yma yr un gweinidog sefydlog ar ol hyny dros rai blynyddoedd. Er i Mr Pugh gael ei ordeinio i fod yn gydweinidog a Mr Michael Jones, yn yr eglwysi hyn, etto, yr oedd Mr Jones wedi gadael y gofal yn hollol arno, fel y teimlai yr eglwysi eu bod heb fugail ar ol colli Mr Pugh. Ymwelid a'r lle yma

* Cofiant y Parch. Hugh Pugh, gan y Parch. W. Rees, D.D. Tu dal. 13.

# Llythyr Mr H. Ellis.

506

fynychaf ar of hyny gan Meistri M. Jones, Llanuwchllyn, a T. Ellis, Llangwm , ond yn 1841, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr John Griffith, yr hwn oedd eisioes wedi ymsefydlu yn yr ardal, ac yn byw yn Cablyd. Urddwyd ef Mai 21ain, 1841. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr C. Jones, Dolgellau; holwyd y gweinidog a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr T. Ellis, Llangwm ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr M. Jones, Llanuwchllyn, ac i'r eglwys gan Mr E. Davies, Trawsfynydd. Gweinyddwyd hefyd yn y cyfarfod gan Meistri J. Parry, Wern; R. Ellis, Rhoslan; T. Ellis, Llangwm; W. Roberts, Pen ybont ; T. Davies, Llandrillo ; R. Evans, Derwen ; J. Edwards, Croesoswallt, ac R. Thomas, Bala.*  Bu Mr Griffith yn ymdrechgar a ffyddlon tra y parhaodd ei dymor. Profodd yr ardal hon awelon grymus y diwygiad yn 1840, fel yr oedd agos yr holl wrandawyr ar un adeg yn proffesu crefydd. Yr oedd Mr Griffith yma yn aelod a phregethwr gweithgar yn ystod y diwygiad hwnw, ac urddwyd ef yn agos i'w ddiwedd, pan oedd teimladau yn dechreu oeri, ac er nad oedd y tymor y bu yn y weinidogaeth yn dymor bywiog ar grefydd, etto, ni bu ei lafur yn ofer yn yr Arglwydd. Bu farw Hydref 6ed, 1849. Dilynwyd ef yn y weinidogaeth yma gan Mr Humphrey Ellis, yr hwn wedi cael help gan Dduw sydd yn aros hyd yr awr hon i fugeilio yr hen eglwys barchus yn Rhydywernen, ac y mae golwg gysurus ar yr achos. Yn y flwyddyn 1862, prynwyd prydles y capel, fel y mae yn awr yn rhyddfeddiant ; a phrynwyd hefyd ddarn o dir i wneyd mynwent, fel y mae y cwbl yn eiddo i'r eglwys yn y lle, ac y mac y rhan fwyaf o'r treuliau hyn wedi eu talu gan yr eglwys a'r ardalwyr, a llwyrfwriedir talu y gweddill yn fuan. #

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

JOHN GRIFFITH. Ganwyd ef yn yr ardal hon, yn y flwyddyn 1805. Gogwyddwyd  feddwl yn foreu at grefydd, a phan yn ugain oed, derbyniwyd ef yn aelod yn hen gapel Rhydywernen, gan Mr Michael Jones. Ymaflodd o ddifrif yn ngwaith crefydd. Yr oedd yn athraw diwyd a ffyddlon yn yr Ysgol Sabbothol, a gwelodd yr eglwys gymhwysder ynddo, fel y dewiswyd ef pan yn ieuangc yn ddiacon. Anogwyd ef i ddechreu pregethu yn y flwyddyn 1832, ac er ei gymhwyso yn fwy i'r gwaith pwysig, aeth am dymor i'r ysgol at Mr M. Jones, i Lanuwchllyn, ac er cael cyfleustra ychwanegol i ddysgu yr iaith Saesonaeg, aeth at Mr. J. Jones, i Marton. Dychwelodd adref a phriododd, ac ymroddodd i fywyd amaethyddol, a phregethu yn achlysurol, ac yr oedd yn dra derbyniol yn mhob man lle yr elai. Rhoddwyd galwad iddo gan ei fam eglwys yn Rhydywernen i fod yn weinidog iddi, ac urddwyd ef Mai 21ain, 1841, a llafuriodd yn ffyddlawn am wyth mlynedd, nes y rhoddodd angau derfyn ar ei fywyd, Hydref 6ed, 1849, yn 44 oed. Claddwyd of oddifewn i furiau y capel, ac y mae maen coffadwriaeth iddo ar y mur ynddo. Yr oedd Mr. Griffith yn " wr da " - yn synwyrol a deallgar yn mhob peth, ac wedi casglu cryn lawer o wybodaeth yn gyffredinol. Nid amheuai neb nad ydoedd yn gristion cywir a defosiynol, ac fel pregethwr yr oedd yn Ysgrythyrol ac ymarferol, a'i ddifrifwch bob amser y fath fel y teimlau ei wrandawyr fod eu hachos tragwyddol hwy yn agos at ei feddwl. Bu

* Dysgedydd, 1841. Tu dal. 290.  

# Llythyr Mr. H. Ellis.

507

fugail ffyddlon a gofalus dros y praidd ar yr rhai y gosodwyd ef yn olygwr a cherid ef yn fawr gan ei holl gydnabod, ac yr oedd y cynnulliad lluosog o honynt a ddaeth yn nghyd i'w angladd, yn gystal ac o'i frodyr yn y weinidogaeth, yn dangos mor barchus y safai yn eu meddyliau,

  

BETHEL

(Llandderfel parish)

Yr oedd mwy na deuddeng mlynedd o'r ganrif bresenol wedi myned heibio cyn fod un cynyg wedi ei wneyd i sefydlu moddion crefyddol o un math yn yr ardal hon. Cyrchai dau hen grefyddwr da oddiyma yn rheolaidd i Rhydywernen, sef Sion Edward, Braichdu, a Sion Charles, Caereuchaf, ond nid oeddynt wedi magu digon o wroldeb i gynyg sefydlu addoliad cyson, er gwrthweithio yr arferion annuwiol, a'r chwareuyddiaethau pechadurus oeddynt yn ffynu yn yr ardal. Dywedir fod yma bregethu achlysurol wedi bod. Sonir am Mr Williams, o'r Wern, yn pregethu yn Cwm Cottage, lle yr oedd un Catherine Williams yn byw, a bu John Jones, Hafodfawr, hefyd yn pregethn yn Ty'nyfedw, pan oedd gwr y ty yn sal, ond nid oedd etto un cynyg ymosodol wedi ei wneyd i gymeryd meddiant o'r ardal. Yn y flwyddyn 1813, symudodd un Dafydd Jones, saer, wrth  gelfyddyd, o Lanfawr, gerllaw y Bala, i Dy'nyllechwedd i fyw. Nid oedd Dafydd Jones yn proffesu crefydd, ond yr oedd tra yn Llanfawr wedi agor ei dy i gadw Ysgol Sabhothol, ac wedi cael blas ar hyny, ac ar ol symud i Dy'nyllechwedd, yr oedd am barhau i groesawu arch Duw i'w dy. Yr oedd un Edward Williams yn byw y drws nesaf iddo yn Ty'nyllechwedd, ac yr oedd yntau hefyd, er nad oedd yn proffesu crefydd, yn barod i agor ei dy i'r Ysgol Sabbothol. Gwnaeth y ddau hyn gais at Sion Edward a Sion Charles am iddynt hwy ymgymeryd a'r gorchwyl, a'r hyn y cydsyniasant yn ddinag. Aeth Dafydd Jones o gylch y tai i hysbysu y cynhelid ysgol y Sabboth canlynol, a daeth deuddeg yn nghyd y Sabboth cyntaf, erbyn yr ail Sabboth yr oedd y nifer yn ddau cymaint, a chynyddodd yn fuan i bedwar ugain, fel mai prin yr oedd digon o le yn y ddau dy i'r rhai a ddeuai yn nghyd. Sion Edward oedd yr arolygwr, a'i fab, John Jones, Bethel wedi hyny, oedd yr ysgrifenydd, a'r athrawon cyntaf oeddynt Sion Charles, Humphrey Thomas, Evan Evans, a Rowland Jones. Yn fuan wedi cychwyniad yr ysgol yn Ty'nyllechwedd, daeth Mr Michael Jones, yn weinidog i Lanuwchllyn a Rhydywernen, felly yr oedd efe gyda'r achos yma o'i gychwyniad. Derbyniwyd amryw o'r ardal yma yn Rhydywernen, fel ffrwyth yr Ysgol Sabbothol, ac yn eu plith y ddau deulu yn Ty'nyllechwedd, y rhai a agorasant eu drysau iddi. Ar ol mwy na dwy flynedd o lafur heb fod yn ofer, meddyliasant am gael capel yn yr ardal, a llwyddwyd i gael tir gan John Jones, Ty'nyddol, Llandderfel, a chyflwynwyd ef i ymddiriedolwyr, Ionawr, 1816, y rhai oeddynt Meistri Michael Jones, John Lewis, David Morgan, John Roberts, James Davies, William Williams, Robert Everett, a Peter Griffith. Y rhai fu ffyddlonaf  godi y capel oedd Sion Edward, Sion Charles, Sion Vychan, a Sion Jones. Mae ein hysbysydd yn rhoddi eu henwau i ni yn y ffurf yna, a dywed fod careg ysgwar ar wyneb capel Bethel ac enwau y pedwar arni. Daeth Mr Moses Ellis yma i gadw ysgol yn fuan ar ol agoriad y capel, a byddai yn pregethu yn achlysurol yn y naill fan neu y llall, er cynorthwyo Mr Jones. Ennillodd yr achos yma dir yn gyflym, a chyfnewidiwyd agwedd foesol yr ardal i

508  

raddau dymunol. Yn mis Mai, 1826, daeth Mr Hugh Pugh yma i gadw ysgol, ac yn mis Gorphenaf, y flwyddyn ganlynol, urddwyd ef i fod yn gydweinidog a Mr Michael Jones, yn y lleoedd islaw y Bala. Ymddiriedodd Mr Jones ofal yr eglwysi hyn yn hollol i Mr Pugh, er ar yr un pryd ystyrient Mr Jones hefyd yn weinidog iddynt. Athraw doeth a synwyrol a fu Mr Pugh yma am un-mlynedd-ar-ddeg. Gwreiddiodd yr aelodau dan ei ofal yn dda yn egwyddorion crefydd, ac yn enwedig addysgodd yr ieuengctyd yn drwyadl yn seiliau eu Hymneillduaeth, a'u hawliau fel Ymneillduwyr. Mae llawer yn y wlad yma hyd heddyw yn cydnabod eu bod yn ddyledus i Mr Pugh, am roddi cyfeiriad priodol i'w meddyliau yn y pyngciau hyn. Yn Mai, 1837, symudodd Mr Pugh i Mostyn, Sir Fflint, lle y treuliodd weddill ei oes, ac yn yr adeg yma rhoddodd Mr Jones hefyd i fyny ofal yr eglwysi hyn, gan eu hanog i ddewis rhyw wr ieuangc cymhwys i fod yn weinidog iddynt eu hunain, ond parhaodd i ddyfod yma yn gyson bob mis, ac yn fynych yn amlach na hyny. Yn y flwyddyn 1840, bu yma adfywiad grymus ar grefydd, ac ychwanegwyd cryn nifer at yr eglwys. Yn y flwyddyn 1843, wedi symudiad Mr Jones i'r Bala, ail ymgymerodd a gofal yr eglwys hon, yn gystal a Llandderfel, a Soar, a pharhaodd  ofalu am y lle hyd ei farwolaeth. Mewn rhyw ystyr yr oedd Mr Jones yn weinidog i'r eglwys hon o'i sefydliad yn Llanuwchllyn hyd ei farwolaeth, er ddarfod iddo ar adegau ymryddhau oddiwrthi hi yn rhanol, ond trwy ei oes edrychai arnynt fel pobl ei ofal, ac edrychent hwythau arno yntau fel eu hathraw a'u bugail. Bu yr eglwysi yn y rhanbarth yma yn ffyddlon iddo yn yr holl dymhestloedd a'i cyfarfu, ac y mae perarogl ei goffadwriaeth yn aros yn y wlad, ac fe erys dros genedlaethau. Yn nechreu y flwyddyn 1855 y daeth Mr Michael D. Jones yma o Bwlchnewydd, Sir Gaerfyrddin, i fod yn olynydd i'w hybarch dad fel athraw yr athrofa, a gweinidog yr eglwysi hyn. Cynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad yma Gorphenaf 6ed, 1855. Pregethwyd gan Meistri Joseph Evans, Capel Sion; T. Davies, Llandeilo; D.C. Jones, Abergwyli; J. Roberts, Rhuthin ; Ismael Jones, Rhos ; W. Roberts, Penybontfawr ; W. Roberts, Pentrefoelas, ac eraill ; choffeir am y cyfarfod fel un dan arddeliad nodedig. Profodd yr eglwys yma adfywiad lled rymus yn y flwyddyn 1860, a chynyddodd yr aelodau nes bod yn fwy na thriugain ; and oblegid symudiadau a marwolaethau, nid yw yn awr ond tua deugain o rifedi. Nid yw y cylch ond cyfyng, na'r boblogaeth ond tenau, ond y mae yma eglwys fechan ddeallgar a heddychol, a pharha Mr Jones i lafurio yma gyda chymeradwyaeth mawr. Gweinyddwyd swydd diacon yma yn gyntaf gan Sion Edward, Braichdu. Treuliodd oes hir gyda chrefydd, ac yr oedd yn ddyn cywir a ffyddlon, ond fod ei dymer braidd yn chwerw. Bu farw Hydref. 31ain, 1851, yn 88 oed, a chladdwyd of wrth gapel Bethel. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan ei weinidog, y diweddar Mr Michael Jones, a chan ei wyr Mr John Jones, yn awr o Langiwc, Morganwg. Bu David Davies, Caere, a John Jones, Bethel, yn gyd-swyddogion yma, ac y mac eu ffyddlondeb hwythau hefyd mewn coffa ger bron Duw,

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:-

509

Yn yr eglwys yma y magwyd John Jones, Llangiwc, ond yn Llanrhaiadr-yn-mochnant y dechreuodd bregethu, megis y gwelir yn hanes yr eglwys hono.

 

LLANDDERFEL

Mae yn ymddangos yr arferai gweinidogion y Bala er yn foreu bregethu yn Llandderfel. Yn ol y cyfrifiad a roddodd Mr Job Orton i Mr Josiah Thompson, yr oedd gan Mr Daniel Gronow gynnulleidfa o ddau cant yma yn 1773. Nis gwyddom pa fodd i gyfrif am hyny, os na chymerodd Mr Orton y gynnulleidfa allasai fod yno gan y Methodistiaid mewn camgymeriad, ond nid oedd hono ychwaith yn cyrhaedd y rhifedi hwnw yn yr adeg hono. Pa fodd bynag, os bu yma gynnulleidfa o Annibynwyr gan Mr Gronow, yr oedd hi wedi darfod yn llwyr cyn diwedd y ganrif ddiweddaf, ac aeth chwarter y ganrif bresenol heibio cyn Annibynwyr ddechreu pregethu yn mhentref Llandderfel. Dechreuwyd pregethu yma yn y flwyddyn 1826, mewn lle a elwir Brynyfedwen, lle yr oedd Edward a Catherine Jones yn byw, y rhai oeddynt yn aelodau yn Bethel. Pregethodd Mr Pugh yma rai troion, ac ennillwyd yma amryw i broffesu crefydd. Ymofynwyd am le yn mhentref Llandderfel, ac agorodd John Roberts, gwehydd, ei dy, er nad oedd yn aelod ar y pryd, a rhoddodd lofft helaeth at wasanaeth yr achos. Coffeir am Dr. Arthur Jones yn pregethu yn yr awyr agored, oblegid na chynwysai yr ystafell mor gynnulleidfa. Teimlodd un dyn mor ddwys yn yr oedfa, nes y gwaeddodd allan fod rhyw un o'r crefyddwyr wedi dyweyd ei hanes ef wrth y pregethwr. Yr oedd Robert Daniel, Rhydlydan, yn pregethu y noson hono drachefn yn yr ystafell. Yr aelodau eglwysig cyntaf yma oeddynt Edward a Catherine Jones, Brynyfedwen; John ac Elizabeth Watkin, Cae-crydd; Robert Roberts, Ty'n yfron ; Evan Dafydd a Sydney Jones, Llan ; Mrs Jones, Ty'nddol, ac yn fuan fe ymunodd John Roberts, gwehydd, a hwy. Efe oedd y cyntaf a dderbyniwyd o'r newydd atynt, a bu yn aelod ffyddlon, a dewiswyd ef yn ddiacon cyn hir. Efe a John Watkin oeddynt y diaconiaid cyntaf, a buont ffyddlon hyd angau. Bu Mr. David Owens, Tyuchaf, (yn awr o Newark, America,) yn ffyddlon i'r achos yma ar ei gychwyniad, a deuai o Bethel yma  gynorthwyo yr achos yn ei wendid. Meddyliodd Mr Jones a Mr Pugh am gael capel yma, ond yr anhawsder oedd cael tir, a chyfododd gwrthwynebiad o le na ddisgwylid. Yr oedd gardd gan John Jones, crydd, Pensingrig, yr hon a gauwyd ganddo i mewn o'r tir cyffredin, a boddlonai  gwerthu, ond pan ddeallodd gwr cyfrifol yn y gymydogaeth hyny, dyrysodd y cynllun. Yn rhagluniaethol, yr oedd gan ddyn o Gwyddelwern, dir yn nghanol y Llan, ac yr oedd yn barod i'w werthu, a phan ddeallodd y gwr mawr, yr hwn a ddyrysodd eu cynllun cyntaf hyny, cynygiodd yr hen ardd iddynt, gan feddwl y byddent yn mhellach o'i ffordd yno nag yn nghanol y pentref. Prynwyd y lle am 15 gan John Jones, crydd, a John Davies, Fronheulog, a throsglwyddwyd ef i Thomas Evans, i'w gyf-

510  

lwyno i Michael Jones, Hugh Pugh, David Owens, John Jones, Thomas Owens, a Thomas Jones, ac y mae y weithred yn cael ei dyddio Mawrth, 1828. Adeiladwyd y capel, a phregethodd Mr Pugh ynddo gyntaf ddydd Nadolig, 1828, ac agorwyd  yn gyhoeddus Mawrth 3ydd a'r 4ydd, 1829. Ar yr achlysur, gweinyddodd Mr R. Ellis, Penybont ; T. Simon, Llangollen ; I. Williams, Dinas ; T. Jones Llangollen ; H. Morgan, Sammah ; T. Ellis, Llangwm ; J. Ridge, Bala, a D. Roberts, Dinbych. * Mae y lle o'r dechreu wedi bod dan yr un weinidogaeth a Bethel, ac felly y mae yn awr. Yn y flwyddyn 1840, dan weinidogaeth Mr Richard Jones, Rhuthin, yr hwn oedd yn y lle ar ymweliad, torodd diwygiad grymus allan, yr hwn a fu er codiad mawr i'r achos yn y lle. Bu yr eglwys mewn tipyn o brofedigaeth oblegid i'r llywodraeth ddyfod i hawlio ardreth am y capel, gan ddyweyd nad oedd gan y rhai a'i gwerthodd ddim hawl ynddo, ond wedi sefydliad Mr M. D. Jones yma, mynodd ef chwilio i'r mater, a'i wneyd yn ddiogel, ac ail brynwyd y tir gan y llywodraeth am 11/13/00 ac y mae yn awr yn feddiant i'r eglwys yn y lle. Wrth weled fod yr hen gapel wedi myned yn adfeiliedig, penderfynwyd adeiladu un newydd yn yr un lle, ond fod eisiau ychwaneg o dir er ei wneyd yn helaethach. Dechreuwyd arno yn 1868, ac agorwyd ef y dydd olaf o fis Mawrth, 1869. Ar yr achlysur, pregethodd Meistri Samuel Roberts, J. Williams, Castellnewydd ; E. Evans, Caernarfon ; D. Rowlands, B.A., Trallwm, ac R. Thomas, Bangor, a chan fod cyfarfod chwarterol y Sir yn cael ei gynal yma yr un pryd, yr oedd y rhan fwyaf o weinidogion y Sir yn bresenol. Galwyd ef yn Ramah. Nid oedd ond dau o'r rhai oeddynt yn aelodau yma yn agoriad y capel cyntaf yn fyw yn agoriad yr ail, sef Edward a Catherine Jones, y rhai y pregethwyd gyntaf yn eu ty yn Brynyfedwen, a rhieni Mr Robert Derfel Jones, Manchester. Yr oedd John Watkin, yr hwn a fu yn ddiacon ffyddlon am ddeugain mlynedd, wedi meddwl cael byw i weled agor y capel newydd, ond gwelodd ei Dad nefol yn oreu ei gymeryd adref cyn gweled hyn. Canmolir ffyddlondeb John Roberts, y gwehydd, yn nodedig. Rhoddodd lofft ei dy i gynal y moddion ar y dechreu, a chyfranai chwe' cheiniog yn yr wythnos at gynal yr achos, er nad ydoedd ond isel ei amgylchiadau.

Nid ydym yn cael i neb godi i bregethu yma ond

Mae yr achos yma mewn agwedd siriol, a nifer yr aelodau o gylch pump a deugain.

  

SOAR

510/511

Already translated etc, see   /big/wal/MER/Llandderfel/Hanes.html

" Mae y capel hwn yn mhlwyf Llandderfel. Bu Sion Edward yn byw yn Melinddimel, ychydig islaw y lle y mae Soar, a bu Dr. Lewis, Llarnuwchllyn, a Robert Roberts, Tyddynyfelin, yn pregethu llawer yn ei dy, yn mhell cyn codi Soar. Cynhelid Ysgol Sabbothol a phregethid yn achlysurol gan Mr. M. Jones, yn Gwern-braich-y-dwr, ac yn 1827, adeiladwyd yma dy bychan saith lath ysgwar. Mae careg uwchben ei ddrws ac arni, " Soar, adeiladwyd 1827." Codwyd ef ar dir Syr Watkin Wynne, Barwnig, ond heb brydles, ond telid ardreth o haner coron y flwyddyn. Yr oedd Meistri W. Williams, Wern, a Mr. J. Ridge, Bala, yma yn ei agoriad. Bwriedid ef ar y cyntaf i fod yn ysgoldy yn unig, ac elai yr aelodau i Bethel i gymundeb, ac nid oeddynt ond ychydig mewn nifer, ond y mae yma eglwys wedi ei ffurfio bellach er's blynyddau. Mae y lle o'r dechreu wedi bod yn nglyn a Bethel, a'r un gweinidogion yn olynol yn gofalu am dano. Pan oedd. Syr Watkin yn gwerthu amryw o'i diroedd rai blynyddoedd yn ol, gwerthodd Wern-braich-y-dwr, a gwerthwyd capel Soar hefyd. Parodd gwerthiad y Soar yma, a Soar arall yn sir Drefaldwyn, gynhwrf mawr ar y pryd hwnw. Prynwyd y Soar yma gan John Davies am 30p., a chyflwynwyd ef i Simon Jones, Michael D. Jones, John Peter, Robert Jones, Edward Wynne, Edward Roberts, William Jones, Thomas Owen, ac Humphrey Ellis, fel ymddiriedolwyr. Dyddiad y weithred ydyw, Medi 29ain, 1860.

Codwyd i bregethu yn y gangen fechan yma :-

Mae Edward Wynne yn yr ardal hon er's llawer o flynyddoedd bellach, ac yn bregethwr cynorthwyol cymeradwy gan yr holl eglwysi."

 

LLANDRILLO

Yn y flwyddyn 1814, daeth John Jones, a'i wraig, a'i deulu o felin Frongoch, gerllaw y Bala,  i fyw i felin Llandrillo. Arferent cyn symud fyned i addoli i Dy'nybont, ac ar ol eu symudiad, deuai rhai o hen aelodau Ty'nybont i'w ty i Landrillo, ar nosweithiau o'r wythnos i gynal cyfarfodydd gweddio. Ymwelai John Jones, Hafodfawr, hefyd a hwy, yr hwn yn achlysurol a bregethai iddynt. O gylch yr un amser ag y symudodd teulu y felin, daeth gwraig o Lanuwchllyn, o'r enw Elizabeth Roberts, yr hon oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr, i fyw yma'i ac ar ol hyny ceid pregethu yma yn amlach. Deuai Mr M. Jones, Llanuwchllyn, a Mr J. Lewis, Bala, yma i bregethu, ac yn achlysurol deuai Dr. Arthur Jones, Bangor, i ymweled a brawd oedd ganddo yn yr ardal, a phregethai bob tro y deuai. Yn y flwyddyn 1818, cymerwyd ty gan William Fairclough i bregethu y Sabboth, a chadw ysgol ddyddiol, ac aeth Mr M. Jones, Llanuwchllyn, yn gyfrifol am ardreth y ty. Yr amser yma daeth Mr Moses Ellis - Mynyddislwyn, wedi hyny - yma i gadw ysgol, a bu yn ddefnyddiol iawn ddechreu yr achos yn y lle. Ffurfiwyd yma gangen-eglwys yn mhen blwyddyn neu ddwy wedi cymeryd y ty i bregethu, ac er nad oedd yma ond ychydig o bobl druain, dlodion, yn cychwyn yr achos, etto bu Mr M. Jones yn ffyddlon i ddyfod atynt, a chynorthwyid ef gan Meistri J. Roberts, Capelgarmon ; J. Lewis, Bala ; J. Jones, Bancog ; J. Jones, Hafodfawr, ac eraill. Bu teulu Syrior yn garedig i'r achos, ac y mae bendith yr Arglwydd yn aros arnynt hyd heddyw. Yn y flwyddyn 1821, symudwyd yr achos i hen gapel y Methodistiaid, ac wedi bod yno dros ryw gymaint o amser, symudwyd drachefn i ystafell perthynol i'r New Inn, sef ty

  

CONTINUED


(Last updated : 8 May 2008 : Gareth Hicks) Valid HTML 4.01 Transitional

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI


Hosted by Mythic Beasts Ltd.