GENUKI Home page

Montgomeryshire Montgomeryshire Contents Contents

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

Montgomeryshire section (Vol 1)

Pages 360 - 373

See main project page

Proof read by Maureen Saycell (Sept 2008)

Chapels below;

 


Pages 360 - 373

360

 (Continued) SARDIS, LLANWDDYN

un John Davies a'i wraig o Lanuwchllyn yma i fyw ; ac am eu bod yn aelodau ffyddlon o'r eglwys yno, nid hir y buont cyn gwahodd eu gweinidog, Dr. G. Lewis, i bregethu iddynt yn eu preswylfa newydd ; a pharhawyd i bregethu mor gyson ag y gellid. Heblaw Dr. Lewis, sonir am John Jones, Afonfechan, yn mysg y pregethwyr cyntaf a ddaeth yma. Claddwyd John Davies, Cynonisaf, ym mhen rhai blynyddoedd wedi eu symudiad yma ; ond parhaodd ei weddw i noddi yr achos fel o'r blaen. Priododd merch iddi a John Jones, Gwynyndy, ger Llanfaircaereinion, a daeth Mr. Jones i fyw i Cynon dros yspaid ; ac adeiladwyd ty i'r weddw ar y buarth ; a phregethid o hyny allan yn y ddau dy yn ol cyfleustra. Nid oedd eglwys y pryd hwn wedi ei ffurfio yn Cynonisaf, ond elent i Lwydiarth i gymuno, ac yno y derbyniwyd Mr John Jones yn aelod, gan Mr James Griffiths, Machynlleth ; ond ffurfiwyd yma eglwys cyn y flwyddyn 1809; y flwyddyn yr aeth Mr Jones yn ei ol i'r Gwynyndy, canys dywedir yn hanes ei fywyd, ei fod yn ddiacon yn yr eglwys yn Cynonisaf, pan y symudodd i'r Gwynyndy.* Nid hir y bu Mr. Jones heb symud yn ol i Gwynyndy, lle y bu o gefn mawr i'r achos, fel y crybwyllasom yn hanes Llanfair ; ond parhaodd Mrs Davies i dderbyn y pregethu i'w thy, hyd nes y symudodd i Efailycwm, ger Llanfyllin, ac yr unodd a'r eglwys yno, lle y bu yn ffyddlon hyd ei diwedd. Ar symudiad Mr Jones i'r Gwynyndy, daeth un Thomas Gittins, o Brynadda, Cwmcowni, i fyw i Cynon. Yr oedd ar y pryd yn aelod defosiynol yn yr Eglwys Sefydledig, ond wrth wrando ar yr Annibynwyr, yn nhy Mrs Davies, ennillwyd ef i'w hoffi, a bwriodd ei goelbren yn eu plith ; a phan yr ymadawodd Mrs. Davies a'r lle, agorodd ef ddrws ei dy i'r efengyl, ac yno y cafodd yr achos gartref, hyd nes y codwyd capel Sardis, yn y flwyddyn 1821 ; ac agorwyd ef Ebrill 10fed, a'r 11eg, 1822. Ar yr achlysur pregethwyd y noson gyntaf gan Meistri J. Davies, Llanfair, a W. Hughes, Dinas. Dranoeth am 10, gan Meistri E. Davies, Cutiau, a J. Roberts, Llanbrynmair. Am 2, gan Meistri J. Jones, Main, a D. Morgan, Machynlleth. Am 6, gan Meistri H. Lloyd, Towyn, J. Ridge, Penygroes. Mr Morris Hughes, oedd y gweinidog i'r eglwys yn Cynon, mewn cysylltiad a'r Capel Bach, Penybontfawr, am flynyddau cyn codi Sardis; ac yn mysg y rhai a fuont yn golofnau achos yn ei flynyddoedd cyntaf, heblaw John Davies a'i wraig, yr ydym yn cael enwau Evan Davies, Lletty ; Robert Rees, Caeaubychain ; Edward Thomas, Tymawr ; Thomas Gittins, Cynonisaf; Robert Evans, Abermarchnad ; John Parry, Tynewydd; a William Davies, Rhiwlas. Pregethodd Mr M. Hughes lawer yn Tanyfoel, yn ngwaelod Cwmcowni, a chynorthwyid ef gan y myfyrwyr o athrofa Llanfyllin, yn yr adeg yr oedd yr athrofa yno; ac yn. 1825, codwyd yno gapel bychan a alwyd Saron. Ni bu yma eglwys Annibynol erioed, ond ystyrid y lle yn gangen o Sardis. Llafuriodd Mr Hughes yma yn gymeradwy iawn hyd ddydd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Medi laf, 1846.

Bu yr eglwys ar ol marwolaeth Mr Hughes, am rai blynyddoedd heb sefydlu ar weinidog, hyd nes y rhoddwyd galwad i Mr Joseph Jones, myfyriwr yn athrofa y Bala, yr hwn a urddwyd Mehefin 23ain a'r 24ain, 1853. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr D. Price, Dinbych ; holwyd y gweinidog gan Mr W. Roberts, Penybont; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr J. Williams, Aberhosan; pregethodd Mr M. Jones, Bala,  i'r

* Dysgedydd, 1842. Tud dal. 261.

361

gweinidog ; a Mr D. Morgan, Llanfyllin, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri J. Hughes, Foel; R. D. Thomas, Penarth; ac H. Ellis, Corwen. Bu Mr Jones yma yn barchus, hyd y flwyddyn 1857, pan y symudodd i Bristol. Wedi ymadawiad Mr Jones, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr Benjamin Evans, o Peniel, Sir Gaerfyrddin, ond a fuasai am dymor yn athrofa y Bala ; ac urddwyd ef Medi 14eg a'r 15fed, 1858. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Hughes, Foel; holwyd y gofyniadau gan Mr R. Thomas, Llanuwchllyn; pregethodd Mr W. Roberts, Penybont, i'r gweinidog ; a Mr D. Evans Penarth, i'r eglwys; ac y mae Mr Evans yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad, a'r achos mewn agwedd siriol iawn.

Nid. ydym yn cael am neb a ddechreuodd bregethu yn yr eglwys hon, ond Mr Evan Jones (Ieuan Gwynedd); yr hwn a ddaeth i'r ardal hon gadw ysgol yn 1837, ac a ddechreuodd bregethu yma yn ystod y tymhor hwnw.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

MORRIS HUGHES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1780, mewn lle a elwir Penyfigin, yn nghymydogaeth Braichywaun. Yr ydym er chwilio llawer. wedi methu cael sicrwydd pa le y derbyniwyd ef yn aelod; ond y mae Mr Edward Davies, Trawsfynydd, yn tueddu i feddwl mai yn Llanfyllin, cyn dechreu yr achos yn Llwydiarth. Melinydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu am dymor yn dal melin yn, neu gerllaw, Llanfaircaereinion. Nid oedd yn Llanfair yr un capel y pryd hwnw, a'r tebygolrwydd yw, mai yn ei dy ardrethol ei hun yno y dechreuodd bregethu. Symudodd cyn hir i Lanwddyn ; a byddai yn pregethu llawer ar y Sabbothau, yn Tanyfoel am 10, Cynon 2, Llwydiarth 6; ac unwaith yn y mis deuai i'r Capel Bach a Llanrhaiadr i bregethu. Yn y flwyddyn 1809, penderfynodd yr eglwysi yn y Capel Bach, Penybont, a'r Cynon, Lanwyddyn ; roddi galwad iddo i fod yn weinidog ; a bu Mr Davies, Trawsfynydd, pan yn ddyn ieuangc, mewn cyfarfod gweinidogion yn Nrwsynant, (Sammah, yn awr), yn ceisio ganddynt ddyfod yno i'w ordeinio, yr hyn a wnaed yn y Capel Bach, cyn diwedd y flwyddyn hono. Bu yn ffyddlon iawn i ddyfod i'r Capel Bach a Llanrhaiadr am flynyddau lawer, a hyny am ychydig iawn o gydnabyddiaeth. Rhoddodd ofal Penybont i fyny tua'r flwyddyn 1829 ; ac o hyny allan, cyfyngodd ei lafur i Lanwddyn a Braichywaun. Bu yn briod ddwywaith, a magodd deulu lluosog o blant ; a digon isel a helbulus ei amgylchiadau bydol a fu drwy ei oes. Yr oedd yn ddyn mawr, tal, teneu, esgyrniog, o dueddfryd arafaidd, yn hytrach yn bruddaidd. Ystyrid ef yn ddyn deallgar a gwybodus, ac yr oedd yn bregethwr tra sylweddol; and heb y tan a'r gwres sydd yn ofynol i wneyd pregethwr poblogaidd. Llafuriodd yn ddiwyd a ffyddlon am oes hir, am gydnabyddiaeth fechan, dan amgylchiadau digon anffafriol, ond nid aeth ei lafur yn ofer. Yr oedd yn frawd i'r diweddar Mr John Hughes, Pontrobert, yr hwn oblegid iddo dreulio ei oes i deithio y wlad fel pregethwr Methodistaidd, sydd a'i enw yn fwy adnabyddus. Nid oedd dim tebygolrwydd ynddynt o ran corph na meddwl, ond yr oeddynt ill dau, pob un yn ei ffordd a'i ddawn ei hun, yn wyr rhagorol. Bu. Mr M. Hughes farw Medi 1af, 1846, yn 66 oed, wedi dau fis o gystudd, yr hwn a ddyoddefodd yn amyneddgar. Ar achlysur ei gladdedigaeth, gweddiodd Mr R. Thomas, Croesoswallt; areithiodd Mr D. Davies, Llanerfyl ; a phregethodd Mr R. D. Thomas, Penarth ; a'r

362   

Sabboth canlynol, pregethwyd ei bregeth angladdol gan Mr J. J ones, Penllys. Claddwyd ef yn mynwent Llanwddyn, lle y mae beddfaen hardd, yr hwn a osodwyd arno yn 1865, gan eglwys Sardis.

 

PENLLYS

( Llanfihangel yng Ngwynfa parish ?)

Mewn trefn i gael golwg glir ar ddechreuad yr achos yn Penllys, Sardis, Dolanog, a Braichywaun, y mae yn angenrheidiol i ni gyfeirio at achos a fu am flynyddoedd, yn nechreu y ganrif bresenol, yn flodeuog yn Llwydiarth, amaethdy cyfrifol yr olwg arno, rhwng Llanfyllin a Cann Office, a thua haner y ffordd o'r naill i'r llail. Tua'r flwyddyn 1806, symudodd Mr Thomas Moreton, Pentreheilyn, am yr hwn y crybwyllasom yn nglyn a Phenygroes, i Lwydiarth i fyw. Yr oedd efe yn hen aelod o'r Sarnau, ac yn un o aelodau cyntaf yr eglwys sydd yn awr yn Mhenygroes ; a phan y symudodd i Lwydiarth, meddyliodd yn ddioed am godi achos i'r Arglwydd yn ei dy. Pregethwyd llawer yno gan hen weinidogion y dyddiau hyny, yn enwedig gan Mr Roberts, Llanbrynmair, a Mr Hughes, o'r Dinas. Codwyd capel bychan, neu trowyd ty oedd yno eisioes, at wasanaeth yr achos ; a chadwyd moddion cyson yno, a phregethu mor rheolaidd ag y gellid. Corpholwyd yno eglwys, ac yn mysg yr aelodau, yr oedd Mr Moreton, a'i wraig, a'i ferch Frances, (Mrs Owens, Penllys, wedi hyny) ; Robert Davies, Felinwnfa, a'i wraig ; Thomas Williams, (Eos Gwnfa), a'i wraig ; John Griffiths, Penyfigin, a'i wraig; John Breese, a'i wraig ; Robert Ellis, a'i wraig; Jane Hughes, mam Meistri Morris Hughes, Sardis, a John Hughes, Pontrobert ; Mary Williams, hen wraig a ddaeth i'r ardal o Landderfel ; ac eraill o bosibl, na chawsom eu henwau.*  Nid ydym yn sicr a oedd yr holl rai yna yn Llwydiarth ar gychwyniad yr achos, ond y mae yn sicr iddynt ymuno ag ef yn fuan wedi hyny ; ac ychwanegwyd eraill atynt, fel yr oedd gwedd addawus ar yr achos. Bu farw Mr Moreton yn mhen rhai blynyddoedd, ond cyn marw rhoddodd orchymyn difrifol i'w blant i fod yn ymgeleddgar o achos yr Arglwydd ; a pheidio gadael i bregethwyr yr efengyl i fyned heibio heb ddangos caredigrwydd iddynt. Bu cartref i'r achos yn Llwydiarth dros yspaid bywyd Mrs Moreton, y weddw; ond wedi ei marwolaeth hi, priododd ei mab, Mr John Moreton, a Miss Lloyd, o'r Rhiwlas, yr hon oedd eglwyswraig ragfarnllyd; ac wedi ei rhagddysgu gan ei mam cyn gadael y Rhiwlas, i beidio darostwng ei hun trwy ymgysylltu a'r Ymneillduwyr, na derbyn y pregethwyr i'w thy ; ac ar ei mynediad hi i Lwydiarth trowyd achos yr Arglwydd allan. Dywedir fod Mr John Moreton yn teimlo yn ofidus oblegid y peth; canys yr oedd efe yn ddyn hynaws, a buasai yn dda ganddo wneyd dymuniad diweddaf ei dad, ond yr oedd dan lywodraeth ei wraig, yr hon fel yr yr ymddengys, oedd ddynes o ewyllys gref a phenderfynol, ac wedi ei rhagddysgu gan ei mam pa fodd i wneyd ar ol myned i Lwydiarth. Gwasgarwyd yr ychydig enwau oedd yma, rhai i Cynonisaf, a rhai i Dolanog; ac yr oedd Miss Frances Moreton, merch Llwydiarth, yn awr yn briod a Mr Thomas Owens, Penllys, ac ill dau yn aelodau yn Llwydiarth. Yr oedd Mr Owens wedi ei dderbyn yn Llwydiarth tua'r flwyddyn 1814, gan Mr Daniel Davies, Sarnau. Wrth weled pregethu yn cael ei droi o dy ei thad,

* Llythyr Mr. John Williams, mab Eos Gwnfa.

363

penderfynodd Mrs Owens, a'i phriod, y mynent agor eu drws i roddi cartref i'r achos. Mae yn deilwng o'n sylw fod achos wedi bod gan y Methodist- iaid yn Mhenllys, yn nyddiau tad Mr Thomas Owens. Pregethent mewn amryw dai, megis yr Halfen, Dolwarfawr, Llaethbwll, Moelyfronllwyd; ond Penllys fu yn brif gartref i'r achos dros amryw flynyddoedd, nes y symudwyd ef i Bontrobert, ac y codwyd capel yno yn 1800.* Rhyw dramgwydd rhwng tad Mr T. Owens a'r Methodistiaid yn nghylch ei ail briodas, a barodd symudiad yr achos i Bontrobert ; ond yr oedd Mr T. Owens, y mab, wedi ei ddysgu o'i febyd i barchu crefydd,  mai yn mhen mwy na blwyddyn ar ol priodi yr ymunodd a'r eglwys yn Llwydiarth ; ac yr oedd mor barod a'i wraig i groesawu yr arch i'w dy. Tua'r flwyddyn 1817, y dechreuwyd yr achos yn Mhenllys. Bu y myfyrwyr oedd yn yr athrofa yn Llanfyllin, yn pregethu llawer yma, ond ar ol ymadawiad yr athrofa, ac i Mr W. Morris gael ei sefydlu yn Llanfyllin, arno ef yr oedd gofal y lle ; ac yn y flwyddyn 1822, rhoddodd Mr Owens, Penllys, ddarn o dir yn rhad i godi capel, a mynwent yn ei ymyl.

Bu Mr Morris yn dyfod yma yn rheolaidd hyd ei ymadawiad a Llanfyllin yn 1839 ; ac yr oedd yn nodedig o boblogaidd trwy yr holl wlad. Coffeir yn gynes am ei ymweliodau rheolaidd pan y pregethai yn Pentrepoeth am 10, ac yn Penllys am 2, ac i Llanfyllin erbyn yr hwyr. Gwanychodd yr achos gryn lawer wedi ymadawiad Mr Morris, ac yn neillduol trwy i Mr T. Owens, yr hwn oedd yn brif golofn yr achos, gymeryd fferm yn agos i Trallwm, ac  nad oedd wedi llwyr adael Penllys, etto yn ei le newydd y treuliai y rhan fwyaf o'i amser. Yn yr adeg yma sicrhaodd Mr Owens wasanaeth y gwyr ieuaingc oedd dan addysg gan Mr Jones, yn Marton, i ddyfod i Benllys ddwywaith yn y mis, yr hyn a brofodd yn adfywiad mawr i'r achos. Yn y flwyddyn 1840, rhoddwyd galwad i Mr John Jones, Parc, gerllaw Penybontfawr ; ac urddwyd ef Ionawr 5ed a'r 6ed, 1841. Pregethodd Mr J. Williams, Aberhosan, ar natur eglwys ; holwyd y gweinidog gan Mr John Roberts, Llanbrynmair ; gweddiodd Mr J. Davies, Llanfair, am fendith ar yr undeb ; pregethodd Mr D. Price, Penybont, i'r gweinidog, a M. D. Morgan, Llanfyllin, i'r eglwys ; pregethwyd hefyd gan Mr R. Thomas, Dinas; W. Roberts, Pennal, ac H. James, Brithdir. Bu Mr Jones yma yn llafurio hyd ddiwedd 1848, pan y symudodd i Carno. Teimlodd yr achos yma oddiwrth ymadawiad Mr T. Owens, Penllys, yr hwn a symudodd i'r Neuadd, gerllaw Llanfair, yn 1841, ac ni ddychwelodd yma mwy i fyw ; ond dychwelwyd ei gorph i orphwys yn y fynwent yma, Ionawr, 1850. Wedi ymadawiad Mr J. Jones, ni bu yma yr un gweinidog sefydlog am flynyddau. Daeth Mr Robert Fairclough, i'r ardal, a bu yma mewn rhyw fath o gysylltiad a'r lle dros rai blynyddoedd ; ond gwywodd yr achos yn fawr trwy ei annoethineb ef, a drwgfuchedd rhai o'r aelodau. Nid oes yma yr un gweinidog ar hyn o bryd, ond gwasanaethir yr achos gan weinidogion y Sir ; ac y mae myfyrwyr y Bala wedi bod bob amser yn ffyddlon i'r eglwys yn y lle. Mae yn resyn gweled achos fu unwaith mor llewyrchus, wedi disgyn mor isel; ond nid yw yn ddiobaith pe ceid i'r ardal ddyn ieuangc, a chanddo "galon i weithio."

Codwyd yma un pregethwr ; sef, Hugh Hughes, yr hwn a ymfudodd i America.

* Methodistiaeth Cymru. Cyf. ii. Tu dal. 415 a 416.

364

BRAICHYWAUN

(Llanfihangel yn Ngwnfa parish)

Salem yw enw y capel, or mai anaml y gelwir of ar yr enw hwnw. Mae yn mhlwyf Llanfihangel yn Ngwnfa. Mae yr eglwys hon yn dilyn ei tharddiad i'r eglwys yn Llwydiarth; er mai aelodau o Lanfyllin, Sardis, a Phenllys oedd yn ymuno ynddi ar ei chorpholiad. Pregethwyd llawer yn yr ardal hon yn Efailycwm, Tynewydd, Llawrycwm, Penyfigin, a Phentrepoeth, gan weinidogion Llanfyllin, ac eraill ; ac yn Felinwnfa, a Rhiwlas, gan Mr Morris Hughes, Sardis, ac eraill. Tua'r flwyddyn 1832, barnwyd mai gwell fuasai i'r achos yn y gymydogaeth yma fod dan ofal un gweinidog ; a chael achos Annibynol yn y lle, gan y teimlid fod Sardis a Phenllys yn rhy bell. Yr oedd rhai dros i'r achos fod dan ofal Mr Morris, Llanfyllin, mewn cysylltiad a Penllys ; ac eraill am iddo fod dan ofal Mr Morris Hughes, mewn cysylltiad a Sardis. Cyfarfu Mr Morris, a Hugh Hughes, yr hwn oedd yn aelod ac yn bregethwr yn Mhenllys, a Mr M. Hughes, a Thomas Williams, (Eos Gwnfa), yr hwn oedd yn aelod yn Sardis, yn nhy John Breese, er cydystyried y mater ; ac wedi siarad llawer, a dadleu yn gynes, ond yn frawdol, penderfynwyd fod i Mr Morris Hughes gymeryd gofal yr achos. Yr oedd ymlyniad cyfeillion Penllys oedd yn yr ardal, yn gryf wrth Mr Morris, ac efe oedd y pregethwr mwyaf poblogaidd; and yr oedd eangder maes ei lafur yn ei gwneyd yn anmhosibl iddo of ofalu am y lle.Yr oedd Mr Morris Hughes, o'r ochr arall, wedi rhoddi Penybontfawr i fyny rai blynyddau cyn hyny, ac nid oedd ganddo ond Sardis dan ei ofal; ac yr oedd ei fod wedi ei eni a'i fagu yn yr ardal yn gwneyd fod llawer o'i gyfeillion, ac yn enwedig Thomas Williams, y prydydd, fel ei gelwid, yn selog drosto. Ni bu ond y teimladau goreu rhwng Mr Morris, Llanfyllin, a Mr Hughes, Sardis ; ond oblegid eu hymlyniad wrth Mr Morris, daliodd rhai i fyned i Benllys i gymundeb, hyd nes yr ymadawodd a Llanfyllin. Corpholwyd eglwys yma yr amser hwn, yn Tynant - ty Edward Watkin, heb fod yn nepell o'r fan y mae capel Braichywaun. Bu yr achos yma yn llewyrchus am tua thair blynedd, or nad oedd y lle ond distadl a diaddurn. Yn y ty hwn y derbyniwyd Mr R. Hughes, yn awr o Cendl, yn aelod, pan nad oedd ond wyth oed. 0herwydd rhyw amgylchiadau, bu rhaid gadael ty Edward Watkin ; ond agorwyd dau ddrws i'r achos ar unwaith ; sef Rhydllechau, a thy John Breese ; a byddai pregethu yn ol cyfleustra yn y ddau le, ond fynychaf yn nhy John Breese. " Bu John Breese yn wir Obed Edom i arch Duw yn Braichywaun. Ni bu par yn y gymydogaeth hon o gymeriad gwell, nac yn fwy parchus a chariadus yn nghyfrif pawb a'u hadwaenent, na John Breese ac Ann ei wraig. Er nad oedd of ond saermaen, bychan, cyffredin, ac yn isel eu hamgylchiadau, a buont ill dau yn bur fethiedig am flynyddoedd olaf eu hoes ; etto, llawer pryd o fwyd a roisant yn llawen i bregethwyr, a'u ty a roisant yn babell i'r Arglwydd." Crybwyllasom yn hanes Ieuan Gwynedd, yn nglyn a Saron, Tredegar, mai yn yr ardal hon y dechreuodd bregethu,  mai aelod yn Sardis ydoedd tax_ y pryd ; a char i ni gaol rhai crybwyllion ychwanegol oddiwrth oedd yn cyd-ddechreu pregethu fig ef, rhoddwn hwy i mewn yma. Yr oedd Thomas Williams, (Eos Gwnfa), wedi cael y fath foddlonrwydd yn Ieuan Gwynedd wrth ei glywed yn areithio ar Ddirwest, fel y trefnodd a'i

365

weinidog, Mr Morris Hughes, i'w godi i bregethu, ac yr oedd Joseph Williams, mab Thomas Williams, i ddechreu yr un diwrnod. Yr oedd Mr M. Hughes wedi crybwyll wrth rai o gyfeillion Sardis, fod son am godi Evan Jones yn bregethwr, ond nid oeddynt yn rhoddi iddo fawr gefnogaeth. Galwasant ef yn of ar ddiwedd yr ysgol un boreu Sabboth, a gofynasant iddo ai nid gwell fuasai iddo aros dipyn yn hwy cyn dechreu ; ond nid atebodd Ieuan iddynt air, ond torodd i wylo, ac wrth weled hyny, dywedodd y brodyr wrtho am fyned yn ei flaen, na safai yr un ohonynt hwy ar ei ffordd. Y boreu Sabboth hwn, yr oedd Mr Morris Hughes yn pregethu yn Felinwnfa ; a phregethodd Joseph Williams ychydig o'i flaen. Erbyn dau o'r gloch, aeth Ieuan Gwynedd i Rhydllechau, lle yr oedd Mr Hughes i bregethu ; a phregethodd ychydig o'i flaen; ac am chwech, yn nhy John Breese, pregethodd Joseph Williams, ac Ieuan Gwynedd ; a dyna y tro cyntaf erioed i Ieuan Gwynedd bregethu. Bu pregethu yn rheolaidd, a holl ordinhadau crefydd yn cael eu gweinyddu yn gyson, yn nhy John Breese, hyd nes y codwyd capel; a thrwy drafferth fawr y cafwyd lle i adeiladu capel arno. Cafwyd addewid unwaith am dir gan oruchwyliwr Syr Watkin, yn ymyl. Felinwnfa, ond oblegid gwrthwynebiad Mr Hamer, offeiriad Llanfihangel, ataliwyd y gwaith, er fod y sylfaen. wedi ei thori. Yr oedd yr offeiriad wedi gwneyd rhyw ffafr a Syr Watkin, ac fel ad-daliad gofynai na byddai iddo roddi tir at godi capel o fewn dwy filldir i'r Llan; ac er marw Mr Hamer, yr oedd ei olynydd, Mr Pugh, yn sefyll dros gyflawniad yr un amod. Ond tua'r flwyddyn 1842, prynodd Mr William Williams, un o aelodau Penllys, dy yn mhentref Llanfihangel, ac yr oedd yn foddlawn i'w werthu i godi capel arno. Pan ddeallodd yr offeiriad hyny, cydsyniodd, o rhoddodd heibio ei wrthwynebiad rhag i'r capel gael ei godi wrth ddrws y Llan, a chafwyd darn o dir wrth dalcen ty John Breese. Dangoswyd ffyddlondeb mawr gan yr ardalwyr yn nghodiad y capel, ac yn enwedig bu Thomas Thomas, Cefnllwyni, a Thomas Jones, Blaenycwm, yn flaenllaw gyda'r gwaith.

Bu y lle dan ofal Mr Hughes, Sardis, hyd ei farwolaeth. Wedi hyny bu dan ofal Mr J. Jones, mewn cysylltiad a Penllys, hyd nes y symudodd i Carno. Ar sefydliad Mr Joseph Jones, yn Sardis, cymerodd hefyd ofal Braichywaun, ac y mae y yn parhau dan ofal Mr Evans, ei olynydd yn Sardis. Heblaw y personau a enwyd yn flaenorol, bu yma lawer o ffyddloniaid yn nglyn a'r achos. Mae Thomas Williams, (Eos Gwufa,) yn deilwng o gofnodiad parchus yn nglyn a hanes crefydd yn y wlad yma. Yr oedd yn ddyn gwybodus a deallgar, a llafuriodd, yn arbenig gyda'r Ysgol Sabbothol, o'i chychwyniad cyntaf yn yr ardaloedd yma. Derbyniwyd ef yn aelod yn Llwydiarth, ac wedi i'r drws yno gael ei gau yn erbyn yr achos, ymaelododd yn Sardis, gyda'i gyfaill Mr Morris Hughes, yr hwn oedd wedi ei gydfagu ag ef; a bu o gynorthwy mawr i'r achos yn ei fynych symudiadau, o fan i fan yn y gymydogaeth hon. Yr oedd yn fardd gwych, a chyfansoddodd lyfr a elwir Telyn Dafydd. Yr oedd yn nodedig o dyner tuag at fechgyn ieuaingc, a gwnai bob peth a allai er eu cefnogi ; ac y mae ei enw yn barchus gan lawer ohonynt hyd y dydd hwn.

Codwyd i bregethu yn yr eglwys yma, o'r rhai oedd yn aelodau ynddi, y personau canlynol :-

366

Bu Evan Thomas, am yr hwn y crybwyllasom yn nglyn a Machynlleth, yn byw yma dros dymhor hir, ac yn pregethu yn yr holl wlad oddiamgylch. Mae yn Braichywaun yr achos mwyaf bywiog, siriol, a gobeithiol, ag sydd o fewn plwyf Llanflhangel-yn-ngwnfa.*

 

FOEL, LLANGADFAN

Dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn y cymydogaethau hyn cyn diwedd y ganrif ddiweddaf. Yr oedd Evan Hughes, a'i wraig, Susan Hughes, Nantysaeson, tad a mam Mr Hugh Hughes, gweinidog y Foel wedi hyny, yn mysg y rhai cyntaf yn yr ardal i groesawi pregethu i'w ty. Yr oedd gwraig Nantysaeson, yn ferch Ffriddfawr, Nantyreira, ac fel yr ymddengys, yn arfer myned yn achlysurol, os nad yn rheolaidd, i Lanbrynmair i wrando. Wedi priodi, aeth Evan Hughes a'i wraig fyw i Nantysaeson, rhwng y Foel a Mallwyd, a dechreuasant fyned wrando i Ddinas Mawddwy, a chyn hir, derbyniwyd y ddau yn aelodau yno. Yn mhen amser, prynodd Evan Hughes dyddyn, yn mhlwyf Garthbeibio, a elwid Llechwedd-bach, ac ar un Sabboth, daeth Mr Roberts, Llanbrynmair, yno i bregethu. Yn y ty Ile y cedwid y gwair y pregethai, ac afreolus iawn oedd y gwrandawyr. Daeth Mr Hughes, Dinas, i gynorthwyo Mr Roberts, a thrwyddedwyd y Llechwedd-bach yn lle addoli ; ac wedi i bobl yr ardal ddeall hyny, ymddygasant yn llawer mwy gofalus. Pregethwyd llawer yn y Llechwedd gan Meistri Azariah Shadrach, H. Pugh, ac R. Roberts, o'r Brithdir ; D. Richards, Tynyfawnog ; R. Roberts, Tyddynyfelin ; J. Lewis, Bala, ac eraill. Wedi codi ty newydd yn y Llechwedd, a thrwyddedu hwnw at bregethu, meddyliwyd am droi yr hen dy i gadw ynddo ysgol ddyddiol. Bu hen wr crefyddol, o'r enw John Llwyd, yma yn cadw ysgol am ychydig. Ar ei ol ef, daeth Rees Davies yma i gadw ysgol, a bu yn y lle dros dro, ac llafurus iawn yn pregethu yn mhob man y cawsai ddrws agored. Yn ei amser ef, ennillwyd yma dri at grefydd, fel yr oedd nifer y dysgyblion yn bump, a theimlent erbyn hyn yn galonog iawn i fyned yn mlaen. Tua'r flwyddyn 1797, ymwelodd Mr Hughes, Dinas, ag ardal y Foel, a phregethodd ar fuarth Llettypiod ; ac ar y diwedd, rhoddodd gyhoeddiad i fod yno drachefn, a derbyniwyd ef i'r ty yr ail waith. Trwyddedwyd y ty hwn hefyd i bregethu, a bu pregethu cyson am flynyddau yn y Lletty a'r Llechwedd ; yn un y boreu ac yn y llall y prydnhawn. Yn 1805, cafwyd darn o dir gan Mr Davies, Siop, i adeiladu capel y Foel arno. Nid oedd ond bychan, ond yr oedd dan yr amgylchiadau hyny yn gaffaeliad gwerthfawr. Yr oedd yr ardal yn dywyll ac anwybodus, a llawer o weddillion hygoeledd yn aros ; ond llafuriodd Mr Hughes, o'r Dinas, yma gyda ffyddlondeb mawr am fwy nag ugain mlynedd. Yn y flwyddyn 1820,

*Llythyrau Meistri John a Joseph Williams, ac R. Hughes, Cendl; ac ysgrif Mr B. Evans, Sardis, yn Nghronicl yr Undeb.

367

rhoddodd yr eglwys alwad i un Hugh Hughes, Llechwedd, pregethwr a godasid ganddi, i fod yn weinidog iddi; a llafuriodd yn ffyddlon yma am bedair-blynedd-ar-hugain, nes y bu raid iddo, oblegid gwaeledd a nychdod, roddi i fyny. Rhoddodd yr eglwys alwad i Mr Edward Roberts, myfyriwr o athrofa y Bala ; ac urddwyd ef Gorphenaf 9fed a'r 10fed, 1844. Pregethodd Mr D. Morgan, Llanfyllin, ar natur eglwys. Holwyd y gweinidog ieuangc gan Mr M. Jones, Bala, yr hwn hefyd a weddiodd. Dywedodd Mr D. Davies, Llanerfyl, a Mr Hugh Hughes, Foel, y ddau hen weinidog, air o'u teimladau ar yr achlysur. Pregethodd Mr H. James, Brithdir, i'r gweinidog ; a Mr S. Roberts, Llanbrynmair, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri T. Thomas, Dinas; W. Roberts, Llanrhaiadr ; D. Evans, Llanidloes ; R. D. Thomas, Penarth ; J. Thomas, Bwlchnewydd ; J. Jones, Penllys ; J. Davies, Llanfair ; a J. Davies, Glasbwll.*  Bu Mr Roberts yma am wyth mlynedd, a symudodd oddiyma i Carno. Ar ei ol ef daeth Mr John Hughes yma, yr hwn a urddasid yn Victoria, Sir Fynwy, a bu yn y lle am saith mlynedd, a symudodd i Hanley, swydd Stafford. Yr oedd yr eglwys yn parhau i gasglu nerth yr holl flynyddoedd hyn, ond yn 1859 ac 1860, bendithiwyd hi ag ymweliad neillduol oddiwrth yr Arglwydd. Ychwanegwyd lluaws o bobl ieuaingc at yr eglwys, ac y mae llawer ohonynt yn glynu yn eu proffes. Yn y flwyddyn olaf a nodwyd, rhoddwyd galwad i Mr Caleb Evans, efrydydd o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Mehefin 26ain, 1860. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Jones, Machynlleth. Gofynwyd yr holiadau gan Mr J. Williams, Aberhosan. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr D. Evans, Penarth. Anerchwyd y gweinidog gan Mr J. Lewis, Henllan, a'r eglwys gan Mr H. Morgan, Sammah. Pregethwyd hefyd gan Meistri E. Williams, Dinas ; H. James, Llansantffraid ; W. Roberts, Penybontfawr ; E. Roberts, Carno ; R. Hughes, Trallwm ; a B. Evans, Sardis ; #  ac y mae Mr Evans yma etto, yn parhau i lafurio. Yn 1846, yn fuan wedi sefydliad Mr E. Roberts yma, rhoddwyd darn newydd yn yr hen adeilad ; ond yn 1866, adeiladwyd ef yn gapel hardd, ac agorwyd ef wythnos y Pasg, 1867, a'r ddyled wedi ei thalu;  ac y mae yr achos yn parhau mewn gwedd siriol, pan gofiom farweidd-dra yr amseroedd presenol ar grefydd.

Wedi ymadawiad y teulu o'r Llechwedd-bach, teimlid fod angen lle i addoli at wasanaeth y cwr hwnw o'r ardal, ac yn 1842, codwyd Beersheba. Nid oes eglwys wedi ei chorpholi yma, ond y mae yn gangen berthynol i'r Foel, lle y cynhelir Ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd gweddi, a phregethu. achlysurol ; ond y mae yr ardalwyr gan mwyaf yn dyfod i'r Foel i'r odfa ddau o'r gloch bob Sabboth.

Codwyd yma i bregethu :-

*Dysgedydd, 1814. Tu dal. 252.   # Dysgedydd, 1860. Tu dal. 318.

368

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

HUGH HUGHES. Ganwyd ef yn 1792. Yr oedd ei rieni, fel y crybwyllasom, yn byw yn Nantysaeson, ac wedi hyny yn Llechwedd-bach. Yr oedd yn ei febyd yn hynaws a charedig, a chymerodd iau Grist arno yn foreu. Ystyrid ef gan bawb yn ddyn diniwed, mor nodedig felly, nes bod mewn llawer o bethau yn blentynaidd. Urddwyd of yn 1820, a llafuriodd yn ddiwyd yn ol mesur y dawn a rodded iddo. Ymgymerodd a chodi capel yn y Ddol-lwyd, a gwnaeth hyny gan mwyaf ar ei draul hun ; ond y mae y lle hwnw wedi ei roddi i fyny er's wyth-mlynedd-ar-hugain. Nid oedd ei alluoedd yn gryfion na'i wybodaeth yn eang, ond yr oedd ei ffyddlondeb yn fawr, a gwir ofalai am yr eglwys dan ei arolygiad ; ac yr oedd ei bryder am yr achos yn ei wneyd yn bruddaidd a chwynfanus. Codai yn foreu y Sabboth, ac elai o gylch i gymell pobl i'r cyfarfod gweddi saith o'r gloch. Ni bu erioed yn briod, ac yr oedd holl hynodion hen lanc ynddo. Mae gan ei gydoeswyr a'i frodyr yn y weinidogaeth lawer o chwedlau dyddan am dano, ond y mae y cwbl yn esboniad o'i ddiniweidrwydd, ac mor unplyg yr ydoedd gyda phob peth. Dyoddefodd yn dost oddiwrth ddiffyg anadl, a theimlodd fod angenrhaid arno i ymneillduo o'r weinidogaeth, fel y gallasai yr eglwys ddewis rhyw un ieuengach a chryfach. Wedi rhoddi yr eglwys i fyny, aeth i Lanfyllin i fyw at nith iddo, ac yno y gorphenodd ei yrfa. Yn ei gystudd, cwynai ei bod yn dywyll arno ; ond cyfododd goleuni iddo yn y tywyllwch, a bu farw mewn llawn sicrwydd gobaith, Tachwedd 15fed, 1846, yn 54 oed, a chladdwyd of yn mynwent Capel Pendref, Llanfyllin, lle yr erys ei weddillion marwol gydag eiddo llawer o rai rhagorol y ddaear.

 

LLANERFYL

Capel y Diosg, y gelwir ef yn yr ardal, am fod ychydig o dai yn y man lle y mae yn dwyn yr enw hwnw. Dechreuwyd pregethu yn y Siop, yn y Llan, ac yn y Tygwyn, lle y preswyliai John Evans, yr hwn oedd yn briod a chwaer Mr David Davies, Llanerfyl. Bu pregethu a chyfarfodydd gweddio yn y ddau dy uchod am flynyddau, ac nid oeddynt yn gofalu rhyw lawer ba sect y perthynai y pregethwyr. Bu llawer o bregethwyr y Methodistiaid ynddynt yn pregethu o bryd i bryd, megis Meistri Humphrey, Gwalchmai ; J. Hughes, Pontrobert ; Ismael Jones, ac eraill ;  mai Meistri W. Hughes, Dines ; M. Hughes, Sardis ; E. Davies, Allt-tafolog; a D. Davies, Llanerfyl, a bregethai iddynt fynychaf. Nid oedd yma ar y pryd ond ychydig o broffeswyr, ac i'r Foel yr elent i gymuno. Symudodd John Evans, o'r Tygwyn i Gyfylche, ond yr oedd cartref i'r achos yn ei dy yno hefyd, a phregethodd Mr Hughes, o'r Dinas, ac eraill, lawer yn y Tygwyn, Pandy, Siop, Gyfylche, a llawer o fanau eraill. Dechreuwyd Ysgol Sabbothol yn Llanerfyl yn ysgubor Mr Davies, Siop ; ac yr oedd yno nifer o frodyr yn selog drosti, ac nid ofer fu eu llafur. Trwy yr ysgol a'r pregethu lladdwyd yr ofergampiau a ddygid yn mlaen yn yr ardal yma ar ddydd yr Arglwydd, ar ol i bob parth yn mron o'r Dywysogaeth eu rhoddi i fyny. Yn

369

1824, corpholwyd yma eglwys,  nad oeddynt ond saith mewn nifer. Yn 1827, y codwyd y capel, a'r un flwyddyn derbyniodd Mr David Davies, un o aelodau cyntaf yr eglwys, alwad i fod yn weinidog, ac urddwyd ef, Medi 12fed. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr C. Jones, Dolgellau ; gofynwyd yr holiadau a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr J. Roberts, Llanbrynmair ; pregethodd Mr E. Davies, Trawsfynydd, i'r. gweinidog, a Mr J. Roberts, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri J. Davies, Llanfair ; J. Jones, Main; H. Hughes, Foel; ac M. Hughes, Sardis. Nid oedd ond deuddeg o aelodau yn yr eglwys pan urddwyd Mr Davies, yn 1827, ond pan y rhoddodd yr eglwys i fyny, yn 1844, yr oedd yn driugain o nifer. Oherwydd ei fod yn teimlo yn adfeiliedig o ran corph a meddwl, rhoddodd yr eglwys i fyny, ac unodd Llanerfyl a'r Foel, yn 1844, i fod yn un weinidogaeth, a dewiswyd Mr E. Roberts, i fod yn weinidog ; ac y mae y Foel a Llanerfyl yn parhau hyd yr awr hon dan yr un weinidogaeth; ac ond edrych pwy fu y gweinidogion yn y Foel, gwelir hefyd pwy fu yma. Yn 1862, adgyweiriwyd y capel trwy draul o £100, a thalwyd y cwbl yn fuan.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

DAVID DAVIES. Ganwyd ef yn y Tygwyn, Llanerfyl, yn 1780. Yr oedd ei rieni Thomas a Mary Davies, yn aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a gallwn gasglu iddo gael addysg grefyddol yn foreu. Denwyd of i wrando Mr Hughes, o'r Dinas, yn ei ymweliadau cyntaf a Llanerfyl, ac yr oedd yn mysg y rhai cyntaf yn yr ardal i broffesu crefydd ;  ei fod yn 30 oed cyn gwneyd hyny. Bu rai blynyddoedd cyn dechreu pregethu, ac yr oedd yn 47 oed pan urddwyd of i waith y weinidogaeth. Gwladwr syml a dirodres ydoedd, yn gyffelyb i amaethwyr ei wlad yn gyffredinol. Yr oedd yn ddyn o ddeall da, ac o synwyr cyffredin cryf, yn meddu llawer o ffraethineb tawel, ac yn llawn caredigrwydd a natur dda. Cerid ef fel cymydog gan bawb, ac nid oedd anmheuaeth yn meddwl neb nad ydoedd yn "Israeliad yn wir." Ni chafodd ddim manteision addysg, ond yr oedd ganddo gof cryf, a dawn ymadrodd a pharabl rhwydd, a melus. Gweithiwr egniol ydoedd. Trwy ei lafur ef yn benaf y codwyd capel Llanerfyl, a thrwy ei ymdrechion ef yn benaf y talwyd am dano. Llafuriodd lawer yn Dolanog heb nemawr ddim cydnabyddiaeth am ei waith. Rhoddodd y weinidogaeth i fyny pan welodd nas gallasai fod o lawer o ddefnydd yn hwy ; ond  rhoddi y gofal i fyny, gwnaeth ei oreu tra y gallodd i gynorthwyo ei olynydd yn y swydd. Cafodd iechyd da trwy ei oes, hyd o fewn tair blynedd i'w ddiwedd. Cododd dafaden wyllt ar ei wefus isaf, yr hon,  pob dyfais feddygol a ymwthiodd yn ddyfnach, nes myned a'i fywyd ymaith, Mawrth 23ain, 1850, pan yn 70 oed. Dyoddefodd boenau dirfawr, ond dyoddefodd y cwbl fel cristion, a bu farw mewn tangnefedd.

Translation by Maureen Saycell (Oct 2009)

Known locally as "Capel y Diosg", as there were a few houses there bearing that name. Preaching began in the shop, at Llan and Tygwyn, where John Evans lived who was married to Mr David Davies, Llanerfel's sister. Sermons and prayer meetings took place in the above houses for many years, not much attention was given to which denomination the preachers belonged to. Many Methodist preachers preached there from time to time , including Messrs Humphrey, Gwalchmai ; J. Hughes, Pontrobert ; Ismael Jones, and others ; Messrs W. Hughes, Dinas ; M. Hughes, Sardis ; E. Davies, Allt-tafolog; and D. Davies, Llanerfyl, preached most frequently. There were few who professed their beliefs at the time, they attended communion at Foel. John Evans moved from Tygwyn to Gyfylche, but there was a home for religion there too and Mr Hughes, Dinas, and others preached there and Pandy, Shop and Gyfylche. A Sunday school was started in Llanerfel in Mr Davies, the Shop's barn. There were many who were very supportive and their work was not in vain. Through sermons and the work of the Sunday school the evil games that used to take place here on the Lord's day were eliminated, after almost all other parts of the Principality had done so. In 1824 a church was established here, they were only seven in number. In 1827 a chapel was built, and in the same year Mr David Davies, one of the first members accepted a call to become its minister. He was ordained on June 12th. On the occasion Mr C Jones, Dolgellau, preached on the nature of a church. The questions were asked and the ordination prayer were offered by  Mr J. Roberts, Llanbrynmair ;  Mr E. Davies, Trawsfynydd, preached to the minister and Mr J. Roberts, to the church. Sermons were also given by Messrs J. Davies, Llanfair ; J. Jones, Main; H. Hughes, Foel; and M. Hughes, Sardis. There were only 12 members when Mr Davies was ordained in 1827, but when he left in 1844 there were 60 members. As he was feeling worn out in body and mind, he gave up the church and they merged with Foel in 1844 to become one ministry, Mr E Roberts was chosen to be the minister. Foel and Llanerfel continue under the same ministry and by looking at Foel we see who were ministers here. In 1862 the chapel was refurbished at a cost of £100, which was soon paid.

BIOGRAPHICAL NOTES*

DAVID DAVIES - born Tygwyn, Llanerfyl, 1780 - parents Thomas and Mary were Calvinistic Methodists - age 30 when he declared his religious beliefs - age 47 when he was ordained - Llanerfel chapel was built mainly through his efforts - worked hard in Dolannog without recognition - died March 23rd, 1850, aged 70.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

DOLANOG

(Llanfair Caereinion parish)

Yn y flwyddyn 1806, daeth un David. Thomas, o ardal Penarth yma gadw ysgol. Cymerodd ystafell i'r perwyl, mewn ty a elwid y Dafarn, oblegid ei fod wedi bod felly unwaith, ond nid oedd felly y pryd hwn. Rhoddid yr ystafell yn rhad gan David Harris, y perchenog, ond yn unig

370

i'r athraw roddi addysg i ddau o'i blant. Gan fod David Thomas yn bregethwr, gofynai genad i bregethu yn yr ystafell y Sabboth, a chafodd hyny; a deuai cryn lawer i'w wrando, oblegid yr oedd pregethu yn newydd-beth yn yr ardal. Dechreuodd gadw cyfeillachau crefyddol yno, ac yn mysg y rhai cyntaf a unodd a'r achos, yr oedd Ann Wood, ac Abraham Wood, y Gro, ac Elizabeth Williams, Maesyglynog. Yn fuan daeth y ddau frawd Meistri R. a C. Jones, Llanfyllin, i gynorthwyo David Thomas ; ac er fod y rhai a ddeuant yn nghyd yn aml yn afreolus ac anweddaidd, etto, daliodd y gwyr da hyn, ac eraill i bregethu iddynt. Codwyd y capel yn 1810, yn benaf drwy offerynoliaeth Mr R. Jones, Llanfyllin, a bu ef ei hun ar daith trwy y Deheudir yn casglu ato. Cafodd daith galed, ond dychwelodd gyda digon o arian i orphen talu y ddyled.* Wedi symudiad yr athrofa i Lanfyllin, cafwyd llawer o help gan y myfyrwyr ; a byddai Mr W. Hughes,o'r Dinas, yma yn amlach na neb arall yn gweini yr ordinhadau, a sonir am dano gan yr hen bobl gyda serch mawr. Yn fuan wedi codi y capel, daeth Lewis Pugh, Llanwrin, yma i gadw ysgol, ac i bregethu, a bu yn y lle dros rai blynyddoedd. Wedi ei urddo yn Llanfair, deuai Mr James Davies yma yn fynych ; ond Mr David Davies, Llanerfyl, ar ol urddo yn 1827, oedd y gweinidog cyntaf a fu yn gweini i'r eglwys yma gydag un math o reoleidd-dra. Bu yn dyfod yma am flynyddau, a'r cwbl a dderbyniai am ei lafur oedd swllt bob Sabboth ; ond pan y deuai i'r cyfeillachau crefyddol, i'r rhai y deuai fynychaf bob wythnos,  fod ganddo filldiroedd o ffordd, ni feddylid am gynyg ceiniog iddo. Yr oedd yma ar y: pryd hwnw gynnulleidfa luosog, ac eglwys yn gymharol gref. We urddo Mr John Jones, yn Penllys, yn 1841, cymerodd ef ei gofal, a bu yn llwyddianus tra yr arosodd yma. Wedi bod flynyddau heb weinidog, gan ddibynu ar weinidogion a phregethwyr yr eglwysi cylchynol, tua wedd 1859, daeth Mr Robert Fairclough yma, a chytunasant ag ef i gymeryd eu gofal am flwyddyn, ond pan y daeth y flwyddyn i ben, ni fynai ymadael, a helynt flin a ganlynodd; a rhwng annghallineb a chyndynrwydd, y naill a'r llall, llwyddasant i lwyr ysigo yr achos, fel y bu y lle am yspaid, mai anaml yr agorid y drws, oblegid na ddeuai neb yma i bregethu. Yn niwedd 1865, daeth Mr Richard O. Evans yma i gadw ysgol, ac i bregethu; ac yn ystod ei arosiad ef yma, cafwyd moddion rheolaidd yn Sabbothol, ac yn wythnosol, ond yn Mehefin, 1867, ymadawodd i gymeryd gofal eglwys Glynhafren, gerllaw Llanidloes ; ac er hyny dibyna y lle ar weinidogaeth achlysurol.

 

TRALLWM   (Saesonaeg)

(Welshpool parish)

Yr ydym yn cael fod Ymneillduaeth wedi ymdaenu i raddau helaeth yn y Trallwm, a'r gymydogaeth, yn amser y werin-lywodraeth. Bu y Crynwyr yno ar un adeg yn lled luosog, a chan mai o eglwysi yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, yn ol eu haddefiad eu hunain, y darfu iddynt hwy gasglu y rhan luosocaf o'u dysgyblion cyntaf, mae yn naturiol casglu fod Ymneillduaeth yn lled gryf yn y parthau hyn ar amser eu cyfodiad hwy. Ymddengys oddiwrth hanes Richard Davies, Cloddiau-cochion, un o'r Crynwyr, ei fod ef yn perthyn i'r Annibynwyr yn nhref y Trallwm, canys dywed

* Llythyr Mr R. O. Evans.

371

fod yr " Anymddibynwyr y bobl y perthynwn i iddynt gynt, yn bobl neillduedig, wedi eu casglu yu benaf gan Vavasor Powell." Dywed iddo ymuno a hwy pan oedd. " tua 12 neu 13 oed ;" a Chan mai yn y flwyddyn1635 y ganwyd ef, rhaid mai o gylch y flwyddyn 1648 yr ymunodd a hwy. Pregethodd Mr Vavasor Powell lawer yn erbyn y Crynwyr, ac aeth Richard Davies i'r Cloddiau-cochion unwaith gan ddisgwyl clywed Mr Powell, a chyda y bwriad i'w wrthwynebu. Fel hyn y dywed Richard Davies ar hyny, " Vavasor Powell a bregethodd lawer yn erbyn y Crynwyr ; pan glywais i hyn, daethum i le a elwid y Cloddiau-cochion, yn agos i'r Trallwm, i'w cyfarfod hwynt, gan ddisgwyl y cawn ef yno; and nid oedd ef yno. John Griffithes, Ynad Heddwch yn y dyddiau hyny, oedd yn pregethu yno." Gallwn gasglu oddiwrth yr hanes, fod hyn tua'r flwyddyn 1658. Crybwyllasom fwy nag unwaith am y John Griffiths yma, yn nglyn a hanes Llanfyllin ; ac y mae yn eglur ei fod yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw gyda'r achos yn y dyddiau hyny.

Yr oedd Mr Nathaniel Ravens, yn gweinidogaethu yn eglwys plwyf y Trallwm, ar amser adferiad Siarl II, a chafodd ei droi allan gan Ddeddf Unffurfiaeth, yn 1662. Nis gwyddom i sicrwydd pa beth a ddaeth o hono ar ol hyny. Wedi i Vavasor Powell, yn 1655, newid ei farn ar fedydd, a chymeryd ei drochi tua'r flwyddyn 1657, daeth dyn a elwid Morgan Evan, o Ddeheudir Cymru, i gyffyrddiad a Richard Davies, yr hwn ar y pryd hwnw oedd yn perthyn i'r Annibynwyr, ac o'r pryd hwnw aeth Richard Davies, yn Grynwr selog a llafurus. Felly chwalwyd yr Annibynwyr yn y Trallwm, a'r amgylchoedd ; aeth rhai yn Fedyddwyr gyda, Vavasor Powell, a'r lleill yn Grynwyr gyda Richard Davies ; a darfu am yr achos yn llwyr; ac y mae yn ymddangos i Ymneillduaeth wywo o radd i radd yma gydag amser, nes darfod yn hollol. Ryw bryd ar ol y flwyddyn 1780, ailgychwynwyd yma achos Annibynol. Nis gallasom gael allan i sicrwydd pa bryd ei dechreuwyd. Mae Mr D. Morgan, yn ei ysgrifiau angyhoeddedig, yn dyweyd mai Mr John Griffith, Llanfyllin a ddechreuodd bregethu yma yn ystod y ddwy flynedd o 1780 i 1782, y bu yn aros yn Llanfyllin; ac ychwanega, mai Miss Meredith, (Mrs Griffith, wedi hyny), a'i mam, a roddodd dir at adeiladu Capel yma. Mae yr ymroddiad mawr a ddangoswyd gan Mr Griffith, i eangu terfynau yr achos yn ystod yr adeg fer y bu yn Llanfyllin, yn gystal a'r traddodiad sydd yn gyffredinol yn y dref, a'r amgylchoedd, mai efe a fu yr offeryn i'w sefydlu, yn ein gogwyddo yn  i gydsynio a'r hyn a ddywedir gan Mr Morgan, mai i lafur Mr Griffith fel offeryn, y mae yr achos yn y Trallwm yn ddyledus am ei gychwyniad.

Yn ol hen lyfr yr eglwys, yr hwn sydd yn awr yn meddiant y Cofrestrydd Cyffredinol yn Somerset House, Llundain, Mr Richard Tibbott oedd y gweinidog yma yn 1788, a Mr Jenkin Lewis, Llanfyllin, a ystyrid fel gweinidog yn 1790, ac mae yn debygol iddo ef barhau i ddyfod yma, yn fisol neu fynychach, hyd 1793. Mae yn ymddangos mai un Mr Thomas Evans, eglwyswr efengylaidd, fel y tybir, a dyn o gryn, gyfoeth a dylanwad, fu y prif offeryn mewn cysylltiad a gweinidogion Llanbrynmair a Llanfyllin, i sefydlu eglwys yma. Pregethid yn y lle yn flaenorol; ond nid ymddengys i eglwys gael ei chorpholi yma cyn Rhagfyr 19eg, 1793, ac ar yr 21ain o'r un mis, gweinyddwyd Swpper yr Arglwydd i'r eglwys ieuangc, gan Mr J. Whitridge, Croesoswallt. Y personau canlynol oeddynt yr aelodau ar gorpholiad yr eglwys : Thomas Evans, Thomas Jones,

372  

John Taylor, Morris Edwards, John Roberts, Joseph Jones, Grace Evans, a Mary Jeffreys. Yr oeddynt er mis Medi cyn hyny wedi cyduno i roddi galwad i Mr David Francis, myfyriwr yn athrofa Gwrecsam. Bu Mr Francis yn pregethu yma o1793 hyd Mawrth 3 leg, 1796, cyn cael ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth. Nis gwyddom pa beth oedd y rheswm iddo fod cyhyd heb gael ei urddo. Rhoddir hanes yr urddiad fel y canlyn yn yr Evangelical Magazine : - "Dydd Iau, Mawrth 31ain, 1796, urddwyd y Parch. Mr Francis yn weinidog yr eglwys Annibynol yn Trallwm, Maldwyn. Dechreuwyd y gwasanaeth trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. Mr Edwards, Wem ; traddodwyd y gynaraeth, a derbyniwyd y gyffes ffydd gan y Parch. Mr Whitridge, Croesoswallt ; gweddiwyd yr urdd-weddi gan y Parch. Mr Lucas, Amwythig ; traddodwyd y siars i'r gweinidog gan y Parch. Mr Lewis, Wrecsam ; ac i'r eglwys gan y Parch. Mr J. Boden, Hanley. Mae yn hyfrydwch genym edrych ar waith y dydd hwn, pan feddyliom nad oedd yn y dref hon tua deuddeng mlynedd yn ol ddim pregethu efengylaidd, a bod yr achos ieuangc yma  pan ddechreuwyd pregethu yn efengylaidd yn y lle, wedi gweithio ei ffordd trwy lawer o gyfnewidiadau ac anhawsderau. Yr ydym yn hyderu y bydd i'r undeb a ffurfiwyd heddyw, effeithio llawer o ddaioni i eneidiau, a gogoniant i Dduw. Mae yn ymddangos fod llawer o bobl y dref yn gogwyddo roddi gwrandawiad astud i'r gwirionedd." Aelod o eglwys y Bwlchnewydd, Sir Gaerfyrddin, oedd Mr Francis. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn Nghresoswallt, Awst 15fed, 1789. Dywed Mr Lucas, o'r Amwythig, wrth gymeradwyo ei achos i'r Bwrdd Cynnulleidfaol yn Llundain, ei fod yn ddyn da iawn, yn bregethwr rhagorol, ac yn nodedig am ei gallineb. Nid Ymddengys iddo fod yn nodedig o lwyddianus yn y Trallwm, na fu yn hollol ddilwydd. Rhif yr aelodau ar ffurfiad yr eglwys, fel y gwelsom, oedd wyth, a deuddeg oedd eu rhif yn niwedd y flwyddyn 1796. Yr ydym wedi methu a chael gafael ar weithred y capel,  gwybod pa bryd adeiladwyd ef, a phwy a roddodd y tir. Yn ol rhyw hen gofysgrifau sydd etto ar gael, ymddengys i'r capel gael ei godi rywbryd o 1798 i 1800.* Yr oedd ganddynt " dy cyfarfod" cyn codi y capel ; ond nis gwyddom yn mha le yn y dref yr oedd. Telid ardreth am dano, ac y mae £10 o ardreth am yr hen gapel, yn cael ei roddi yn nhraul y capel newydd. Yn nhymor gweinidogaeth Mr D. Francis y codwyd y capel. Costiodd £344/10/6 1/2c. Bu Mr. Francis yn casglu llawer at y draul, ond ni ddywedir yn yr hen gofysgrifau sydd ar gael, pa faint a gasglodd ; ond talwyd iddo £56/18/4 1/2c., am ei lafur, ac ar gyfer ei dreuliau ; a thalwyd £5/9/8c  i'r pregethwyr a fu yn gweini i'r eglwys yn ei absenoldeb. Yr anffawd am yr holl fan bapurau hyn ydyw, nad oes dyddiad wrth yr un ohonynt. Bwriedid unwaith i godi y capel yn agos i'r fynedfa i barc Castell Powys ; ond dangoswyd gwrthwynebiad gan deulu y castell i hyny; a chyda rhyw fanteision tybiedig ar y pryd, cynygiwyd iddynt y lle y saif y capel yn awr arno, yr hwn a dderbyniwyd, ond taflwyd ef drwy hyny i heol o'r neilldu.

Yn y flwyddyn 1799, ymneillduodd pedwar o'r aelodau, a gosodasant i fyny achos Wesleyaidd yn y dref, ac ymadawodd un arall yn yr un flwyddyn,  er dechreu achos i'r Bedyddwyr, ond er y colledion hyn, yr oedd rhif yr aelodau yn niwedd flwyddyn hon yn bedwar-ar-bymtheg. Ar y 27ain o Awst, 1800, rhoddodd Mr Francis ei weinidogaeth i fyny.

* Llythyr Mr R. Hughes, Cendl.

373

Nid ydym yn gwybod dim o'i hanes ar ol hyn. Wedi ymadawiad Mr Francis, bu yr eglwys heb un gweinidog sefydlog hyd Ebrill 18fed, 1802, pryd y rhoddwyd galwad unfrydol i Mr David Davies, Treffynon. Arwyddwyd ei alwad gan Mr Thomas Evans, ac un-ar-ddeg eraill o'r aelodau, yn nghyda phedwar o'r gwrandawyr, y rhai nid oeddynt yn gymunwyr. Yn yr alwad hon, addewir i Mr Davies £20 y flwyddyn o gyflog, sef tair punt yn fwy nag a roddid i'w ragflaenydd, Mr Francis ; " heblaw yr hyn a allasai gael o'r funds yn Llundain." Nid ymddengys i Mr Davies fod yma dros o dair i bedair blynedd, ac nis gwyddom pa un ai yma y bu farw, ai ynte a symudodd i ryw le arall. Dywedir mai yn ardal Penygraig, Sir Gaerfyrddin, y ganwyd Mr Davies, ond nid ydym yn sicr o hyny, nac ychwaith o amser ei enedigaeth. Cafodd ei addysgu yn athrofa Caerfyrddin, yr hon a gedwid yn Abertawe, yn nhymor ei efrydiaeth ef. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn 1876, ac aeth allan yn 1790, pryd yr urddwyd ef yn Nghapel Sul, Cydweli. Bu yn gwasanaethu yr eglwys hon, mewn cysylltiad a Phenygraig, hyd y flwyddyn 1795, pryd y symudodd i Dreffynon,Sir Fflint. Ni bu yn Abergavenny, fel y camddywedir yn Llyfryddiaeth y Cymry. Yn fuan ar ol ei sefydliad yn Nhreffynon, dechreuodd gyhoeddi  Y Geirgrawn, neu Drysorfa Gwybodaeth. Oherwydd fod y cyhoeddiad hwn yn amddiffyn egwyddorion rhyddfrydig, bu ei olygydd mewn enbydrwydd, a dywedir iddo orfod ymguddio am beth amser rhag cael ei ddal. Bu Mr Davies yn Nhreffynon hyd y flwyddyn 1799 neu 1800, ond nis gwyddom yn mha le y bu o'r pryd hwnw hyd nes iddo ymsefydlu yn y Trallwm yn 1802, ac y mae ei hanes ar ol ei ymadawiad oddiyma, os nad yma y bu farw, yn hollol anhysbys i ni. Ar ymadawiad Mr Davies, urddwyd Mr George Ryan, yr oedd ar y pryd yn bregethwr teithiol yn Sir Amwythig, i fod yn weinidog i'r eglwys Annibynol yn Minsterley a'r Trallwm. Felly y dywedir yn hanes ei urddiad yn yr Evangelical Magazine, am 1806, tudal. 380 Cymerodd ei urddiad le Mai 28ain, 1806.Mae yr hanes hwn a'r cofnodion yn llyfr eglwys y Trallwm, yn ymddangos yn anghyson. Yn ol llyfr yr eglwys, yn 1812 y dechreuodd Mr Ryan ei weinidogaeth yma. Bu Mr John Harries, am yr hwn nid oes genym unrhyw hanes, yn weinidog yma o 1808, hyd tua diwedd 1811. Dichon i Mr Ryan fod yma ran o'i amser mewn cysylltiad a Minsterley, o 1806 hyd 1808, pryd y rhoddwyd galwad Mr Harries. Yn 1812, ymsefydlodd Mr Ryan yn gyflawn yma, a pharhaodd ei weinidogaeth hyd 1830. Mae yn debygol iddo farw y flwyddyn hono, ond yr ydym wedi methu taro wrth hanes ei farwolaeth yn un o fisolion y flwyddyn hono, na'r blynyddau dilynol. Ei fab ef oedd G. Ryan, D.D., am yr hwn y rhoddasom ychydig hanes yn to dal. 46. Dilynwyd Mr Ryan, gan Mr Thomas Morgan, yn awr o Hinckley, Sir Leicester. Aelod gwreiddiol o eglwys Ebenezer, Pontypool, yw Mr Morgan, ac addysgwyd ef yn athrofa y Drefnewydd. Derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys hon yn Gorphenaf, 1831, ond yn y flwyddyn ganlynol yr urddwyd ef. Bu yma hyd y flwyddyn 1840, pryd y symudodd i Loegr. Y gweinidog nesaf oedd Mr C. Hudson, urddwyd of yma yn 1840, a rhoddodd ei weinidogaeth i fyny yn Ionawr, 1844. Yn Mai, yr un flwyddyn, y rhoddwyd galwad i Mr H. Kerrison, ac urddwyd ef Mehefin I leg, 1845, pryd y gweinyddwyd gan Dr. Raffles, Liverpool ; Mr Pearce, Wrecsam ; Dr. Halley, Manchester, ac eraill. Y dydd blaenorol, agorwyd y capel newydd, pryd y casglwyd ato dros un bunt a deugain. Yn mis Medi, 1849, rhoddodd Mr Kerrison ei weinidogaeth i fyny o ddiffyg iechyd. Yn yr

CONTINUED


Return to top

(Gareth Hicks  - 20 Oct 2009)

Valid HTML 4.01 Transitional

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright © GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI