Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

Montgomeryshire section (Vol 1) - Pages  276 - 289

See main project page

Proof read by Maureen Saycell (May 2008)

Chapels below;

  •  (Continued)  LLANFYLLIN
  • MACHYNLLETH   (with translation)

Pages 276 - 289

276

(Continued)  LLANFYLLIN

*(Not fully extracted)

DAVID ROBERTS. Daw ei hanes ef yn nglyn ag eglwys Dinbych, lle y terfynodd ei yrfa.

DR. GEORGE LEWIS. Gweler ei hanes ef mewn cysylltiad a'r achos. yn y Drefnewydd, lle y bu farw y flwyddyn gyntaf wedi gadael Llanfyllin.

WILLIAM MORRIS. Er mai yn Llanfyllin yw urddwyd ef, y bu farw, ac y claddwyd ef, etto, gan mai Bryngwran, Mon, fu ddiweddaf dan weinidogaeth, yn nglyn a'r eglwys yno y ceir ei hanes.

*DAVID MORGAN. Ganwyd ef Rhagfyr 27ain, 1779, yn y Ddolwen, yn mhlwyf Llanfihangel-Creuddyn ;.......................................................

277 - 284

*DAVID MILTON DAVIES. Ganwyd ef mewn amaethdy o'r enw Hen-

285

 

........feddau, ger llaw Llanbedr, sir Aberteifi, Tachwedd 23ain, 1827.........................................

286

 

MACHYNLLETH

Mae y dref hon o ran ei safiad yn nghanolbarth y Dywysogaeth, ac ar y brif dramwyffordd rhwng y Gogledd a'r Deheudir. Gallesid disgwyl oblegid hyny fod crefydd wedi cael gafael yn foreu ar y lle, wrth fod y diwygwyr cyntaf yn teithio yn ol ac yn mlaen, ac yn neillduol gan fod genym sicrwydd fod rhai o bregethwyr yr eilfed ganrif ar bymtheg wedi ymweled a'r lle; ond dirmygus fu gair yr Arglwydd gan y trigolion. Dywedir i Mr Morgan Llwyd, o Wynedd, gael ei atal i bregethu yma; ac yn ychwanegol at hyny, maeddwyd ef yn dost ; ac y mae traddodiad iddo ddyweyd y hyddai i'r efengyl adael y dref am amser hir, cyn y byddai i'r plant oedd yno yn chwareu ac yn dringo y coed ddyfod i oedran gwyr- Pa fodd bynag, y mae yn sicr i dymor maith fyned heibio cyn i'r efengyl yn ei phurdeb gael ei phregethu yma yn sefydlog. Triniwyd Mr Howell Harries yma yn mhen can' mlynedd ar ol hyny yn chwerw iawn. Yn ddiweddarach, ymosodwyd ar Mr Jones, Llangan, pan y safai ar ganol yr heol i bregethu, a tharawyd y Beibl o'i law gan gyfreithiwr a gyfrifid yn barchus. Lliniarwyd cynddaredd y cyfreithiwr hwnw yn erbyn yr efengyl trwy sylwi ar ymddygiad gweddus a thymer addfwyn geneth o forwyn. oedd yn ei wasanaeth, yr hon a arferai gyrchu i'r cyfarfodydd. Daeth benderfyniad nad oedd un drwg yn cael ei ddysgu a'i ddwyn yn mlaen yn y cyfarfodydd hyny, onide ni buasai yr eneth hono gymaint yn rhagorach nag un forwyn arall a fuasai yn ei wasanaeth.

Pan oedd Mr. Benjamin Evans, Llanuwchllyn, yn myned trwy y lle unwaith, ryw bryd ar ol y flwyddyn 1769, disgynodd mewn gwesty i gael

287

lluniaeth iddo ei hun a'i anifail. Gan ei bod yn oer iawn ceisiai gwr ty gan nifer o ddynion oedd yno yn yfed droi o'r neilldu fel y gallai y gwr dyeithr fyned at y tan, nes y cyneuid tan mewn ystafell arall. Yn fuan deallasant mai pregethwr oedd, a dechreuasant ei wawdio a'i ddifenwi gan el alw yn " Bengrwn." Dyoddefodd y cwbl yn fwynaidd, a dywedodd y byddai yn arfer pregethu weithiau. Gofynasant iddo ai un o'r Methodistiaid oedd ? Attebodd, " Nage." Ar hyny dechreuasant drin y Methodistiaid, mai y bobl ddihyraf yn y wlad oeddynt." " Nis gallaf ateb am danynt oll," meddai Mr Evans, " ond mor bell ag yr wyf fi yn eu hadnabod nid ydynt yn haeddu y cymeriad r ydych chwi yn ei roddi iddynt." " Ond paham," meddynt, " y maent yn wylo ac yn ochain yn eu cyfarfodydd ?" " Mae yn debyg, foneddigion, eich bod yn ddigon cydnabyddus ag ymladd ceiliogod," ebe Mr Evans, a pharod oeddynt i addef eu bod ; "yn awr pan y bydd eich ceiliogod chwi yn colli y dydd yr ydych yn tristau ac yn gofidio ; felly y mae y bobl yma yn gweled eu bod yn golledig, ac yn teimlo eu heuogrwydd, ac oblegid hyny yn wylo." " Ond paham y maent yn gorfoleddu ac yn neidio ?" ail-ofynent. " Wel yn union yr un fath etto, pan fyddo eich ceiliogod chwi yn gorchfygu yr ydych yn bloeddio ac yn curo dwylaw ; felly y mae y Methodistiaid wrth weled fod trefn i faddeu iddynt yn gorfoleddu ac yn neidio." *  Boddlonwyd hwy yn fawr yn Mr Evans, a dofwyd ychydig ar eu digofaint at y Methodistiaid.

Dyoddefodd Mr Richard Tibbott oddiwrth yr ysbryd erledigaethus oedd yma gynt ; a dywedir fod nifer o gryddion yn gweithio yn agos i'r man y mae y Corner Shop yn awr y rhai oeddynt yn mysg yr erlidwyr mwyaf. Aeth Mr Tibbott i'w gweithdy unwaith i fesur ei droed i gael par o esgidiau pan yn ofni cael ei aflonyddu ganddynt ; a bu hyny yn ddigon i'w prynu hwy yn ei ffafr. Gwelir gan hyny mai trwy lawer o rwystrau y gosodwyd achos yr Arglwydd i fyny yn y dref.

Mae yn ymddangos fod nifer o bersonau o Fachynlleth a'r gymydogaeth yn arfer cyrchu i Lanbrynmair yn gynar yn yr haner olaf o'r ganrif ddiweddaf, os nad cyn hyny. Coffeir am ryw gyfarfod gweddi nodedig a gawsant unwaith ar y maes agored yn agos i Brynwg ar eu dychweliad oddiyno. Pan na allent fyned i Lanbrynmair ymgynnullent yn nhai eu gilydd i gynal cyfarfodydd gweddi, ac i ymddyddan am grefydd. Yn y flwyddyn 1787, daeth Mr R. Tibbott, Llanbrynmair, yma i gorphori yr "ychydig enwau " yn eglwys. Gwnaed hyn mewn ty anedd bychan a elwid y Doll. Nid oedd nifer yr eglwys ar ei sefydliad ond saith ; a daeth chwech neu saith o aelodau Llanbrynmair yma gyda'u gweinidog i fod yn dystion o'r corpholiad, yn gystal ag i fod yn galondid i'r ychydig gyfillion oedd yn y lle yn cymeryd arnynt ofal achos yr Arglwydd. Yn mhlith y rhai a ddaeth yr oedd y diweddar Mr J. Roberts, Llanbrynmair, yr hwn y pryd hwnw oedd yn ddyn ieuangc heb fyned i'r Athrofa, ac heb ddechreu pregethu, canys y flwyddyn flaenorol yr oedd wedi ei dderbyn yn aelod. Bu yr achos bychan yn fwy llwyddianus nag y disgwyliai y rhai mwyaf gobeithiol. Gofelid am dano yn benaf gan Mr Tibbott, ond yr oedd eraill yn ei gynorthwyo. Sicrhawyd darn o dir i adeiladu capel arno yn y fan lle y saif y capel presenol. Dechreuwyd arno yn nechreu 1789, os nad yn niwedd y flwyddyn o'r blaen, ac yr oedd yn barod erbyn

*Cofiant Mr. Grifflths, Hawen, tudal. 12.

288  

Mai 20fed, 1789, oblegid yr ydym yn cael Titus Evans, William Pierce, John Davies, Richard Hughes, a John Edwards, yn anfon hysbysiad pryd hwnw at Esgob Llanelwy i'r perwyl o'i hysbysu eu bod wedi adeiladu y capel, ac yn dymuno arno roddi iddynt Certificate o'i gofrestriad, yr hyn a gawsant y 30ain o'r un mis. Y Titus Evans yma oedd Excise Officer - tad Mr John Evans, Argraffydd, Caerfyrddin, gwr a ddaeth wedi hyny yn adnabyddus iawn yn yr enwad. William Pierce oedd tad y diweddar Mr Thomas Pierce, Liverpool.

O gylch yr amser yma daeth Mr William Jones yma o Sir Fon ; ond genedigol o Gwernogle, Sir Gaerfyrddin. Nid oedd wedi ei urddo cyn ei ddyfodiad yma ; ac nid ymddengys iddo gael  urddo yma er iddo fod yma yn llafurio am yn agos i ddwy flynedd. Yr oedd gwedd lwyddianus ar yr achos yn nhymor byr ei weinidogaeth ; a bu yn dra egniol i bregethu yn yr holl wlad oddiamgylch nes y rhoddodd angeu derfyn ar ei lafur. Claddwyd ef y tu fewn i'r capel, oddeutu y man y saif yr areithle yn bresenol, lle y gwelwyd ei arch pan yn ailadeiladu y capel. *

Yn fuan wedi marwolaeth Mr Jones daeth Mr John Evans yma i lafurio. Un o gymydogaeth Llanbedr, yn sir Aberteifi, ydoedd. Dyn ieuangc tal, llathraidd, hoyw, boneddigaidd ei ymddangosiad. Anaml y gwelid ei gyffelyb. Urddwyd ef yma tua'r flwyddyn 1791, a bu yn llafurio yma am tua phum mlynedd ; canys yr ydym cael mewn llythyr a ysgrifenodd y diweddar Mr J. Roberts, Llanbrynmair, at ei frawd yn America, Mai 3ydd, 1796, nad oedd un gweinidog yn Machynlleth y pryd hwnw. Yr oedd Mr Evans yn boblogaidd iawn fel pregethwr, a rhwng ei ymddangosiad tywysogaidd - ei ddoniau swynol  - a'i lais peraidd, ymdyrai llawer iawn i wrando arno. Yn ei amser ef y dechreuwyd yr achos yn Aberhosan, ac yn Mhennal.  Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, a chyrchai llawer o bobl ieuaingc y dref a'r amgylchoedd ato i dderbyn addysg. Gwrthweithid dylanwad gweinidogaeth ddoniol Mr Evans i raddau mawr gan ei ysgafnder a'i anwyliadwriaeth ; a chyfeillachai yn ormodol mewn cwmniau nad oeddynt gydweddol ag urddas yr efengyl. Symudodd i Amlwch, lle y treuliodd oes hir ; ac yn ei flynyddoedd olaf yr oedd yn byw yn Nhremadog, lle y gloywodd yn fawr yn ei gymeriad, ac y bu farw " yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau."

Wedi ymadawiad Mr Evans, daeth Mr Edward Francis yma yn 1799. Crybwyllasom am dano yn hanes y New Inn, Sir Fynwy. Daeth yma o Lambeth, Llundain, lle yr oedd wedi bod yn llafurio am dymor yn mysg ychydig o Gymry oedd yno. Bu yma am tua thair blynedd. Yr oedd yn bregethwr derbyniol iawn, a safai yn barchus yn ngolwg y drefYmddengys iddo fod yn fwy llwyddianus yma nag y bu yn un lle arall. Yr oedd Dr. Lewis yn anfoddlawn ryfeddol iddo i ymadael, a bygythiai os gwnai na ddeuai byth ddim daioni o hono. Deallwn nad oedd dywediad y Doctor yn mhell o fod yn gywir.

Rhoddodd yr eglwys yma alwad yn 1802 i Mr John Lloyd, wedi hyny o Henllan, ond gwrthododd gydsynio ; a bu yr eglwys heb weinidog hyd fis Gorphenaf 1806, pan y derbyniodd Mr James Griffiths, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, alwad ganddi; ac yn fuan wedi hyny dechreuodd ar  weinidogaeth. Urddwyd ef Mawrth 7fed, 1807, a gweinyddwyd ar yw achlysur gan Dr. G. Lewis, Llanuwchllyn ; Dr. T. Phillips, Neuadd-

*  M.S.S y diweddar Mr D. Morgan, Llanfyllin.

289

lwyd ; a Meistri D. Peter, Caerfyrddin; J. Roberts, Llanbrynmair ; W. Hughes, Dinas ; H. Pugh, Brithdir ; W. Jones, Trawsfynydd, ac eraill. Bu Mr Griffiths yn llafurio yma yn ffyddlon a llwyddianns, ac er anrhydedd a chodiad achos crefydd yn y dref a'r wlad oddi amgylch. Dywed Mr Griffiths ei hun fod mesur o gynydd ar yr eglwys yr holl amser y bu yma. Yr oedd heddwch a chydweithrediad dymunol yn eu plith, a rhwng y canghenau yn Aberhosan a Phenal. Yr oedd cylch ei weinidogaeth am rai blynyddau yn cyrhaedd o Lwyngwril i Aberhosan, ac yn nhymor ei weinidogaeth ef y codwyd capeli yn y ddau le a enwyd. Yn y flwyddyn 1811, trwy briodi a, boneddiges ieuangc o gymydogaeth Tyddewi, symudodd Mr Griffiths yno i fyw ; ond deuai ddau Sabboth o'r mis yr holl ffordd o waelod Sir Benfro i wasanaethu pobl ei ofal yn Machynlleth a'r canghenau. Yn mhen y flwyddyn, symudodd ei deulu i Fachynlleth, gyda bwriad i aros yma ond yn 1814, trwy gysylltiadau teuluaidd, gorfodwyd ef i symud yn ol i Sir Benfro, a thorodd ei gysylltiad a'r eglwys yma, gan gymeryd gofal yr eglwys yn Rhodiad, ac yno y bu hyd derfyn ei oes ddefnyddiol a llafurus. Dywed Mr Griffiths iddo brofi serchowgrwydd mawr oddiwrth yr eglwys yn Machynlleth ; a hyderai fod yr Arglwydd i ryw raddau yn bendithio ei ymdrechion yn eu plith. Cafodd lawer o hyfrydwch a chymhorth i fyw yn dduwiol yn nghymdeithas rhai o hen frodyr a chwiorydd yr eglwys. Yn yr adeg yma yr oedd Hugh Pugh, John Lewis, John Jones, ac Edward Meredith yn swyddogion dan yr enw henuriaid.

Ar ymadawiad Mr Griffiths, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr David Morgan, yr hwn oedd eisioes wedi ei urddo yn y Towyn. Cynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad Rhagfyr 19eg a'r 20fed, 1814. Nos Lun, pregethodd Mr R. Roberts, Llanuwchllyn, a Mr W. Hughes, Dinas. Dydd Mawrth, am 9 o'r gloch, pregethodd Mr A. Shadrach, ar "Natur a phwysigrwydd y weinidogaeth. Yna rhoddodd y gweinidog a'r eglwys eu hunain i fyny i'w gilydd yn yr Arglwydd. Yr oedd y rhan yma o'r gwasanaeth mor effeithiol fel nad oedd llygad sych yn y lle. Yna pregethodd Mr J. Roberts, Llanbrynmair, ar " Bwysigrwydd ac anwyldeb y berthynas rhwng y gweinidog a'i bobl.Yn y prydnawn a'r hwyr, pregethwyd gan Meistri M. Jones, Llanuwchllyn ; C. Jones, Brithdir (Dolgellau) ; E. Davies, Allt (Cutiau), a J. Davies, Aberhafesp.*

Ar sefydliad Mr Morgan, ffurfiwyd y gangen yn Aberhosan yn eglwys Annibynol, a chadwyd yno o hyny allan gymundeb yn rheolaidd, er y cedwid yno gymundeb achlysurol yn flaenorol. Gwenodd yr Arglwydd mewn modd neillduol ar lafur yr eglwys a'r gweinidog am fwy na deng mlynedd, yn enwedig tua'r flwyddyn 1818, bu ychwanegiad mawr at nifer yr eglwys o'r dref a'r cylchoedd, ac yn eu plith lawer iawn o ddynion a fu o ddefnydd mawr gyda'r achos ; ac yr oedd rhai o honynt mewn amgylchiadau bydol manteisiol i fod o wasanaeth i grefydd. Agorwyd drysau i bregethu mewn tai trwy y cymoedd oddi amgylch - gosodwyd ysgolion Sabbothol i fyny mewn conglau ac yn nghilfachau y mynyddoedd - a daeth adfywiad ar yr ysgolion yn y lleoedd lle yr oeddynt eisioes. Daeth galwad am ysgoldai, a lleoedd sefydlog i bregethu, ac adeiladwyd chwech o honynt mewn gwahanol ardaloedd o amgylch y dref. Ystyrid yr oedfa ddau o'r gloch yn y dref y prif gynnulliad, i'r hwn y disgwylid yr holl ganghenau;

* Evangelical  Magazine, 1815. Tudal. 298.

Translation by Maureen Saycell (April 2010)

This town is situated in the centre of the principality, on the main route from north to south. Therefore it would be easy to assume that religion had got an early hold here, the opposite is the case, although there are records of some 17th century preachers visiting, they were rejected by the inhabitants. It was said that Mr Morgan Llwyd, Gwynedd, was badly abused when he tried to preach here and that those who were children would be old before religion got a foothold here.* 100 years later Mr Howell Harries was treated in the same manner as were Mr Jones, Llangan, Mr Benjamin Evans, Llanuwchllyn, Mr Richard Tibbott.

It appears that some from the area went to Llanbrynmair, and would hold prayer meetings in each others homes when they could not get there. In 1787 Mr R Tibbott came to form a church of the few people , in a house named y Doll (the Toll). There were only seven. Among those who witnessed the ceremony was a young Mr J Roberts, Llanbrynmair, who had not yet been to college. Most of the care was undertaken by Mr Tibbott, supported by others. Land was acquired for a chapel on the existing site. It was started early in 1789 and completed by May 20th 1789, as we have Titus Evans, William Pierce, John Davies, Richard Hughes, and  John Edwards,  writing to the Bishop of Llanelwy informing him of the build and asking him for a certificate of registration, which was issued on the 30th of that month. This Titus Evans was the Excise Officer - father of Mr John Evans, Printer, Carmarthen, who later became well known to the denomination. William Pierce was the father of Mr Thomas Pierce, Liverpool. Around this time Mr William Jones came from Anglesey, originally from Gwernogle, Carmarthen. He had not been ordained and worked here for 2 years until he died, not ordained. He was buried inside the chapel, close to the pulpit. His coffin was seen during re building.**

Soon after came Mr John Evans, a native of Lampeter, Cardiganshire. He was ordained here about 1791 and remained here for some 5 years. The fact that there was no minister in Machynlleth on May 3rd, 1796 in a letter from Mr J Roberts, Llanbrynmair to his brother in America. It was during Mr Evans time that causes were started in Pennal and Aberhosan, despite his good work his association with unsuitable people negated some of it. He left here for Amlwch, but spent the last years of a long life in Tremadog. The next incumbent was Mr Edward Francis in 1799. He was included in the history of New Inn, Monmouthshire. He came here from Lambeth, London and was here for 3 years, apparently more successfully than any where else he served.

The church called Mr John Lloyd, later Henllan, but he did not accept.They were without a minister until July 1806 when Mr James Griffiths, student at Carmarthen, was called. He was ordained on March 7th, 1807, when the following took part - Dr. G. Lewis, Llanuwchllyn, Dr. T. Phillips, Neuaddlwyd, and Messrs D. Peter, Carmarthen,  J. Roberts, Llanbrynmair, W. Hughes, Dinas, H. Pugh, Brithdir, W. Jones, Trawsfynydd, and others. The church grew considerably in his time here, branches were established at Llwyngwril and Aberhosan. In 1811 he married a lady from St. Davids and moved there to live, he continued to travel to minister to Machynlleth twice a month from south Pembrokeshire. He did move here within a year, but had to move back due to family circumstances. He then took charge of Rhodiad where he remained for the rest of his life. Hugh Pugh, John Lewis, John Jones, and Edward Meredith were the officers here then.

Next came Mr David Morgan, ordained at Towyn. His induction service was on the 19th and 20th December 1814 taking part were - Mr R. Roberts, Llanuwchllyn, Mr W. Hughes, Dinas, Mr A. Shadrach, Mr J. Roberts, Llanbrynmair, Messrs M. Jones, Llanuwchllyn, C. Jones, Brithdir (Dolgellau), E. Davies, Allt (Cutiau), and  J. Davies, Aberhafesp.***

Aberhafesp was formed into an independent church soon after and communion was held regularly from then on. The Lord smiled on the church's work for 10 years, particularly around 1818 when many useful members were added. Many doors were opened for preaching in the surrounding valleys, sunday schools were established and those already existing re-energised. 6 schoolhouses were built in proximity to the town. The main service was considered the  2 o'clock in the town , most of the branches were expected. Sunday schools in the mornings and prayer meetings in the evening when a preacher was not available. A new chapel was built in the town at the price of £700, but cost escalated to £1,200. Mr Morgan travelled a great deal to raise money for it, and the church itself raised a considerable sum.

Some problems arose between some of the people and Mr Morgan, things settled down and he was persuaded not to agree to a call from Drewen, Cardiganshire. Mr Morgan did not feel that all was well and moved to Manchester in 1836. A special service was held to wish him well and he was presented with a gift of £28 along with the following letter of recommendation -

" MACHYNLLETH, November 19th, 1836.

As it appears that The Lord has arranged to move his ministry to another branch, we feel that we should declare that he has been very active among us for 22 years and to acknowledge the edcation and friendship we have benefitted from. We wish him great success to the end of life

  • ROBERT PETER, Deacon, Machynlleth.
  • HUGH PUGH, Machynlleth.
  • PETER ROWLAND, Deacon, Machynlleth.
  • DAVID MORGAN, Machynlleth.
  • EDWARD MORGAN, Deacon, Machynlleth.
  • JOHN LEWIS, Machynlleth.
  • JOHN DAVIES, Glasbwll.
  • JOHN JONES, Machynlleth.
  • DAVID THOMAS, Deacon, Machynlleth.
  • THOMAS ROWLAND.
  • DAVID DAVIES, Aberhosan.
  • WILLIAM WILLIAMS, Aberhosan.
  • DAVID PUGH, Glasbwll.
  • EDWARD EDWARDS, Pennal.
  • JOHN PETER, Deacon, Machynlleth.#"

Despite his departure a rift appeared in 6 months, but as The Duke of Wellington said "it is hardly fair to judge a battle in hindsight". Despite the fact that he had left he returned to form a church from those who left Graig chapel. The ministers to the north supported them but the Cardiganshire ministers supported those remaining at Graig.

Graig was without a minister until 1839 when Mr Samuel Edwards, Ceidio, Llaniestyn and Tudweiliog, Carnarvonshire, accepted a call. He took care of Graig, Glasbwll, Soar and Derwenlas until he left Graig but continued with the other three. Those who left Graig called their meeting place Salem and called Mr John Parry, student at Newtown, who was ordained on November 9th, 1837 - the following officiated - Mr E. Davies, Trawsfynydd, Mr C. Jones, Dolgellau, Mr S. Roberts, Llanbrynmair, Mr M. Jones, Llanuwchllyn, Mr D. Williams, Llanwrtyd. Also present Messrs D. Price, Penybontfawr, E. Griffiths, Llanegryn, E. Evans, Barmouth, T. Griffiths, Bethel, L. Everett, Llanrwst, H. Morgan, Samah, Roberts, Llanbrynmair, J. Williams, Dinas, R. Jones, Aberhosan andc E. Thomas, Dolgellau. The service was held in the yard of the Herbert Arms.##   This was a very lively time in religion and with Mr Parry full of the spirit, the cause looked healthy.

A new chapel was built, named Salem. It cost around £300 and the payments, with the associated houses, was £10 annually. It was opened June 22nd and 23rd, 1840. Before the end of that year Mr Parry accepted a call to Wern and Harwd. Later that year Mr John Howes accepted a call, he was ordained 2 years earlier at Llansanffraid. He stayed 2 years then emigrated to America in April 1842. A year later they called Mr Mathew Lewis, a young man from Llanidloes, ordained on June 21st and 22nd, alongside the Montgomeryshire Festival, held at Salem that year. The following took part - Mr J. Roberts, Llanbrynmair, Mr H. Morgan, Samah, Mr J. Davies, Llanfair, Mr D. Evans, Llanidloes, and Mr D. Morgan, Llanfyllin. ###  Mr. Lewis was here for some 2 years when he moved to Bethel, Bangor. Mr Parry returned here from Wern in 1846, and was here until he decided to emigrate to America and only remained until some arrangements had been made in Rhoslan, Caernarfonshire, emigrating in 1850.

Early in 1849 Mr William Davies, Rhymney, arrived. his time was no great success as he was 60 years old when he came. Attempting to unite the 2 sections proved difficult and 18 years later the event occured. Graig undertook responsibility for Salem, paying the £72 debt and sold the leasehold Lord Vane, the owner for £140. Let peace be there for them.**** This event had a beneficial effect on the town and chapel. 1854 saw a call to Mr Josiah Jones, a student at Brecon. He was ordained August 9th and 10th. The following took part  Mr S. Roberts, Llanbrynmair, Mr C. Jones, Dolgellau, Mr H. Lloyd, Towyn, Mr J. Morris, teacher Divinity at Brecon, Mr D. Davies, Aberteifi. and also Messrs R. Gwesyn Jones, Rhaiadr, D. Jones, Drewen, R. Thomas, Penrhiwgaled, E. Jones, Sardis, C. Jones, Llanfaircaereinion, T. Pierce, Liverpool, J. Saunders, Aberystwyth, W. Roberts, Penybontfawr, I. Thomas, Towyn, H. Morgan, Samah, I. Williams, Aberhosan and  J. Evans, Brecon College. #### The cause has flourished for 16 years, the land has been bought out for £400, £90 spent on a vestry and another £90 on some land for a minister's house, £250 was donated by the widow of Mr D Griffiths, a missionary in Madagascar, but a charge to be levied on £100 pounds to support the poor of the church. Together with Calvinistic Methodists and Baptists land has been secured for burial.

The following list of individuals have been of service over time :-

HUGH PUGH  -ROBERT PETER -  JOHN LEWIS - PETER ROBERT -  ROWLAND PRYCE - EDWARD MEREDITH  -DAVID THOMAS, father of JOHN THOMAS, Swansea.
Ladies included are  Mrs ANWYL, Llugwy - Mrs DAVIES, Rhiwlas -  Mrs WATKINS - Mrs LEWIS - Mrs MILES - her daughter Mrs Morgan, - Mrs MARY THOMAS , wife of the above David Thomas.

The following were raised to preach here:-

  • LEWIS PUGH - Aberffrydlan, Llanwrin -one of the first supporting preachers - kept a day school -  made a journey through North Wales to preach - died around 1830, buried Llanwrin.
  • THOMAS ROWLANDS -  father of Mr R. Rowlands, Henryd, grandfather of Mr J. Rowlands, now Rhos - came from Dinasmawddwy in 1807, lived in Byrdir,near Soar.
  • RICHARD ROWLANDS - ordained Henryd, died at his most popular.
  • EDWARD EDWARDS -  confirmed by Mr Morgan, 1817, aged 12  - began to preach age 16  - went to Neuaddlwyd, then Blackburn, ordained Garstang 1829 then Hyde andfinally Manchester - died  December 20th, 1868.
  • JAMES HUGHES MORGAN -son of the late Mr D. Morgan - ordained Leeds, where he remains.
  • DANIEL CADVAN JONES - Educated Bala and Brecon - ordained Abergwyli and Siloam, Carmarthenshire, where he remains.
  • DAVID EDWARDS - Educated Bala and Brecon - ordained Coed-duon, Monmouthshire now in Park Mill, near Swansea.
  • JOHN REES - supporting preacher here.
  • JOHN THOMAS -  preparing to go to a College.
  • !EVAN THOMAS - Did not start preaching here but ended his life in Machynlleth - born Dolgellau,  1805. ...........................

!(Not fully extracted)

 

BIOGRAPHICAL NOTES+

*(Not fully extracted)

*WILLIAM JONES - born Gwernogle, Carmarthenshire -  Spent some time at Oswestry College under the care of Dr. Edward Williams. ..........................

JOHN EVANS - See Amlwch.

EDWARD FRANCIS - See New Inn, Monmouthshire.

JAMES GRIFFITHS - See Rhodiad and St David's, Pembrokeshire.

DAVID MORGAN - See Llanfyllin, where he spent his last 18 years.

*(Not fully extracted)

*JOHN PARRY - Born Penycefn, Llanfor, Bala, March 10th, 1810. ..............................

JOHN HOWES -  originated in Tre-ffynon, well off parents - good education raised among the Wesleyans, he left the old way for the Wesleyan  community  around 1836 - he inherited a considerable amount from relatives and  went to considerable risk to build a village of houses in Glasinfryn, near Bangor  where Abel-Bethmaca is built - after completion he built a large business but lost almost all his assets and he joined the Independents in Bangor in 1838  - ordained next year in Llansantffraid,  Montgomeryshire,  stayed around 2 years - moved to Salem, Machynlleth, after a year he emigratyed to America in 1842 - first with Dr Everett in Steuben , then Pittsburgh - broke association with welsh Independents and went to Canada where he died later.  Mr Edwards and Mr Jones remain and we wish the many succesful years.

*Cofiant Mr. Grifflths, Hawen, tudal. 12.

**  M.S.S y diweddar Mr D. Morgan, Llanfyllin.

*** Evangelical  Magazine, 1815. Tudal. 298

****Ysgrif Mr Josiah Jones, Machynlleth, Annibynwr 1864, tudal. 219.

#Dysgedydd,1836. Tudal, 385.

##Dysgedydd, 1837. Tudal. 383.

### Dysgedydd, 1843. Tudal. 254.

#### Diwygiwr 1854. Tudal. 282.

+Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

CONTINUED

 

(Gareth Hicks - 22 April 2010)