GENUKI Home page

Montgomeryshire Montgomeryshire Contents Contents

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

Montgomeryshire section (Vol 1)

Pages  290 - 303

See main project page

Proof read by Maureen Saycell (May 2008)

Chapels below;

 


Pages 290 - 303

290

(Continued) MACHYNLLETH

a chedwid ysgolion yn yr holl leoedd y boreu, a chyfarfod gweddi yn yr hwyr, neu bregethu pan y gellid cael pregethwr. Aeth yr addoldy yn y dref yn rhy fychan, a phenderfynwyd cael un newydd, yr hwn a adeiladwyd yn y flwyddyn 1824. Ni fwriedid ar y cyntaf i'r draul fod yn fwy na £700, ond aeth yn agos i £1,200, ond yr oedd ar y pryd y capel goreu a feddai yr enwad yn ngogledd Cymru. Teithiodd Mr Morgan lawer i gasglu ato, a bu yn llwyddianus iawn, a thalwyd cryn swm gan yr eglwys ei hun.

O gylch yr amser yma, drwy ryw amgylchiadau, cyfododd teimladau anghysurus rhwng Mr Morgan a rhai o'i gyfeillion yn yr eglwys. Nid yw yn perthyn i ni ymholi ar bwy yr oedd y bai, yn ddim pellach mynegi y ffaith ofidus. Disgwylid y buasai teimladau yn iachau, ac ymddangosodd arwyddion o hyny tua'r flwyddyn 1827, pan y derbyniodd Mr Morgan alwad o'r Drewen, Sir Aberteifi. Perswadiwyd ef i wrthod cydsynio, gan y tybiai llawer mai awel ydoedd a  heibio yn fuan; ac aeth pethau yn mlaen yn weddol dros rai blynyddau ; ond nid oedd y teimladau wedi cwbl iachau. Wrth ganfod sefyllfa pethau, rhoddodd Mr Morgan r eglwys i fyny, a symudodd i Manchester yn niwedd y flwyddyn 1836. Cynhaliwyd cyfarfod ar yr achlysur o'i ymadawiad yn yr addoldy yn Machynlleth, Tachwedd 9fed, i weddio am ei lwyddiant yn ei faes newydd. Ar ddiwedd y cyfarfod, cyflwynwyd anrheg o £28 iddo fel arwydd o'u parch; ac estynwyd iddo y llythyr canlynol : -

" MACHYNLLETH, Tachwedd 9fed, 1836.

Gan yr ymddengys fod Rhagluniaeth yn trefnu i'n cyfaill Parchedig Mr Morgan symud i weinidogaethu i gangen arall o eglwys Crist, yr ydym yn teimlo yn rhwymedig i grybwyll, yn wyneb ei ymadawiad, ei fod wedi llafurio yn egniol a ffyddlon yn ein mysg am ddwy ar hugain o flynyddau ; ac i gydnabod ein bod ni a'n plant wedi derbyn addysg a chysur mawr oddiwrth ei gyfeillach a'i weinidogaeth ; ac yr ydym yn unol ac yn gwresog obeithio ar iddo fod yn fwy-fwy defnyddiol a dedwydd hyd derfyn ei oes.

Er i Mr Morgan fyned ymaith, yr oedd y chwerwedd ar ol ; a chyn pen chwe' mis, torodd y rhwygiad allan yn weithredol. Am achosion yr ymraniad yma nid awn yn awr i ymofyn ; ond y mae yn fwy na thebyg gallesid, gyda graddau o bwyll, a goddefgarwch, a hunan-ymwadiad, ragflaenu, fel y gellid rhagflaenu y rhan fwyaf o ymrafaelion eglwysig ;

* Dysgedydd,1836. Tudal, 385.

291

ond y mae yn llawer iawn haws dyweyd pa fodd y dylesid ymddwyn mewn amgylchiad dyrus ar ol iddo fyned heibio nac iawn ymddwyn pan ynddo. Y Duc Wellington, onide, a ddywedodd unwaith " mai prin yr oedd yn deg beirniadu brwydr ar ol iddi fyned heibio."

Er fod cysylltiad Mr Morgan eglwys wedi ei dori rai misoedd cyn yr ymraniad, etto yr oedd ei gydymdeimlad ef a'r cyfeillion a ymadawodd a chapel y Graig; oblegid daeth ef yma i'w corffoli yn eglwys Annibynol, ac yr oedd gweinidogion y gogledd gan mwyaf yn eu cefnogi ; ond yr oedd gweinidogion Sir Aberteifi gan mwyaf yn ffafrio y rhai a arosasant yn nghapel y Graig.

Bu yr eglwys yn y Graig am fwy na dwy flynedd heb weinidog ar ol ymadawiad Mr Morgan, hyd nes yn 1839 y rhoddasant alwad i Mr Samuel Edwards, yr hwn oedd yn weinidog yn Ceidio, Llaniestyn, a Tydweiliog, Sir Gaernarfon. Cymerodd Mr Edwards ofal yr eglwys a'r canghenau yn y Glasbwll, Soar, a'r Dderwenlas ; a pharhaodd i lafurio iddynt oll gyda derbyniad mawr hyd 1853, pan y darfu ei gysylltiad a'r eglwys yn y dref ; ond erys i lafurio yn ddiwyd yn y tri lle olaf a enwyd.

Galwodd y cyfeillion a aethant allan y lle y cyfarfyddent ynddo i addoli yn Salem ; a chyn hir, ar ol eu corffoliad yn eglwys, rhoddasant alwad i Mr John Parry, myfyriwr o Athrofa y Drefnewydd, i fed yn weinidog iddynt. Urddwyd ef Tachwedd 9fed, 1837. Traddodwyd y gyn-araeth gan Mr E. Davies, Trawsfynydd. Derbyniwyd cyffes gweinidog ieuangc gan Mr C. Jones, Dolgellau. Dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr S. Roberts, Llanbrynmair. Anerchwyd y gweinidog gan Mr M. Jones, Llanuwchllyn ; a'r eglwys gan Mr D. Williams, Llanwrtyd. Yr oedd yn bresenol hefyd - Meistri D. Price, Penybontfawr ; E. Griffiths, Llanegryn ; E. Evans, Abermaw ; T. Griffiths, Bethel ; L. Everett, Llanrwst ; H. Morgan, Samah ; Roberts, Llanbrynmair ;J. Williams, Dinas ; R. Jones, Aberhosan ; ac E. Thomas, Dolgellau. Cynhaliwyd y gwasanaeth yn muarth yr Herbert Arms. * Yr oedd yr adeg hono yn adeg fywiog iawn ar grefydd, a Mr Parry yn llawn o ysbryd y diwygiad, fel yr oedd golwg lewyrchus ar yr achos. Adeiladwyd capel newydd, yr hwn a alwyd Salem. Costiodd tua £300; ac yr oedd yr ardreth arno, a'r tai cysylltiedig, yn £10 yn flynyddol. Agorwyd of Mehefin 22ain a'r 23ain, 1840. Cyn diwedd y flwyddyn hono, derbyniodd Mr Parry alwad o'r Wern a Harwd, lle y symudodd. Yn niwedd 1840, derbyniodd Mr John Howes, yr hwn a urddasid ddwy flynedd cyn hyny yn Llansantffraid, alwad gan eglwys Salem ; a bu yno nes yr ymfudodd i America yn Ebrill 1842. Wedi bod flwyddyn heb weinidog, rhoddasant alwad i Mr Mathew Lewis, gwr ieuangc o Lanidloes ; ac urddwyd of Mehefin 21ain a'r 22ain, 1843, yn nglyn a Chymanfa Sir Drefaldwyn, a gynhelid yn Salem y flwyddyn hono. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Roberts, Llanbrynmair. Holwyd y gweinidog gan Mr H. Morgan, Samah. Gweddiodd Mr J. Davies, Llanfair. Pregethodd Mr D. Evans, Llanidloes, i'r gweinidog ; a Mr D. Morgan, Llanfyllin i'r eglwys. # Bu Mr. Lewis yn gweinyddu i'r gynnulleidfa am ychydig flynyddoedd, nes y symudodd i Bethel, Bangor. Dychwelodd Mr Parry yma o'r Wern yn 1846, a bu pma nes y gwnaeth ei feddwl i

*Dysgedydd, 1837. Tudal. 383.   # Dysgedydd, 1843. Tudal. 254.

292  

fyny i ymfudo i America ; ond arosodd dros dymor byr, nes gwneyd rhyw barotoadau yn Rhoslan, Sir Gaernarfon, ac ymfudodd yn 1850. Yn nechreu y flwyddyn 1849, daeth Mr William Davies, o Rhymni, yma. Nid rhyw lawer o lewyrch a fu ar yr achos yn ei amser ef ; ac nis gallesid disgwyl, gan ei fod yn mhell dros 60 oed pan y daeth yma. Yr oedd teimladau erbyn hyn yn addfedu mai gwell fuasai i'r ddau achos uno na bod ar wahan. Nid oedd y lle yn ddigon poblog i ddau achos, ac yr oedd eu parhad yn rhoddi gwedd ranedig ar yr enwad ger bron y dref ; heblaw fod y drwg deimlad yn rhwym o barhau cyhyd ag y buasai dau achos mor agos i'w gilydd. Ond yr oedd anhawsder mawr i ddwyn oddiamgylch yr uniad. Yr oedd gweinidog gan bob un, a pha mor gryf bynag oedd ymglymiad y naill a'r llall yn eu gweinidogion, gwelid fod yn anmhosibl uno heb i'r ddau weinidog roddi i fyny, ac i'r eglwys yn unedig yn yr hen gapel ddewis ei gweinidog. Ar hyny cytunwyd; ac yn mis Awst 1853, unwyd y ddwy eglwys oedd wedi bod ar wahan am ddeunaw mlynedd. " Ymgymerodd yr eglwys unedig yn y Graig a phob cyfrifoldeb cysylltiedig a Salem ; talwyd y £72 o'r ddyled oedd yn aros arno, a gofalwyd am y £10 ardreth bob blwyddyn hyd eleni. Erbyn hyn, y mae y capel hwn - hyny ydyw, y leasehold arno -  wedi ei gwerthu i Lord Vane, y perchenog, am £140. Felly y dechreuodd ac y diweddodd hi gyda chapel Salem. A chan fod y rhwyg wedi cymeryd lle, ni ryfeddem na ddarfu Salem hwn ateb dyben da, trwy gadw y cyfeillion a addolent yno gyda'u gilydd yn lle myned at enwadau eraill. Gan iddynt gael eu cadw felly, gallasant hwy a'r cyfeillion yn y Graig ddyfod at eu gilydd yn mhen deunaw mlynedd, yr hyn nid yw yn debyg y gallasent byth ped aethai y naill yma a'r llall acw. Arosed yr hyn oedd yn enw o'r blaen (Salem) yn sylwedd yn yr eglwys unedig. Heddwch fyddo o fewn dy ragfur."*. Effeithiodd yr uniad yn ffafriol nid yn unig ar yr eglwys ei hun, ond ar yr holl dref. Yr oedd y gynnulleidfa unedig ar eu cyfarfyddiad yn llawer mwy na'r ddwy gynnulleidfa yn ysgaredig, ac adferwyd i'r hen eglwys barchus y dylanwad a berthynai iddi yn nyddiau ei gogoniant. Yn y flwyddyn 1854, rhoddwyd galwad i Mr Josiah Jones, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, i ddyfod yn weinidog iddi. Urddwyd ef Awst 9fed a'r 10fed y flwyddyn hono. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr S. Roberts, Llanbrynmair. Holwyd y gofyniadau gan Mr C. Jones, Dolgellau. Gweddiwyd gan Mr H. Lloyd, Towyn. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr J. Morris, athraw Duwinyddol Aberhonddu; ac i'r eglwys gan Mr D. Davies, Aberteifi. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri R. Gwesyn Jones, Rhaiadr ; D. Jones, Drewen; R. Thomas, Penrhiwgaled ; E. Jones, Sardis ; C. Jones, Llanfaircaereinion ; T. Pierce, Liverpool ; J. Saunders, Aberystwyth ; W. Roberts, Penybontfawr ; I. Thomas, Towyn; H. Morgan, Samah ; I. Williams, Aberhosan ; a J. Evans, o Athrofa Aberhonddu.# Mae yr achos wedi myned yn mlaen yn llwyddianus ar y cyfan yma yn ystod yr un mlynedd ar bymtheg diweddaf. Mae yr hen deimladau wedi eu hiachau yn llwyr, a'r Graig a Salem bron wedi eu hanghofio. Mae yr eglwys yn myned rhagddi mewn nerth a dylanwad ysbrydol, fel y dengys i llafur a'i gweithgarwch gyda phethau allanol Mae yr hawl ar y tir y saif y capel arno wedi ei brynu am £400, a'r aria.

* Ysgrif Mr Josiah Jones, Machynlleth, Annibynwr 1864, tudal. 219.

# Diwygiwr 1854. Tudal. 282.

293

wedi eu talu. Mae tir hefyd wedi ei brynu am £90 i adeiladu festri arno, er nad yw hyny etto wedi ei wneyd. Yn ychwanegol at hyn, prynwyd darn o dir am £90 mewn man dymunol o'r dref er adeiladu arno dy i weinidog y Graig a'i olynwyr yn y weinidogaeth yno. Mae yn deilwng o'i gofnodi yma fod Mrs Griffiths, gweddw y diweddar Mr D. Griffiths, Cenhadwr yn Madagascar, wedi rhoddi £150 i'r amcan hwn, a £100 arall i'w defnyddio i'r un perwyl ; ond fod llog blynyddol i'w dalu ar y cant diweddaf a nodwyd i fyned er cynorthwyo tlodion eglwys a chynnulleidfa y Graig. Erbyn hyn y mae y ty agos a bod yn barod, a chydnabyddir gan bawb ei fod yn un o'r adeiladau goreu yn y dref. Yn ychwanegol at y pethau a nodwyd, yn 1869, prynodd yr eglwys yn y lle yn nglyn a'r Methodistiaid Calfinaidd o gylch dwy erw o dir, yn un o'r manau mwyaf dymunol yn ymyl y dref, i fod yn gladdfa iddynt ; ac erbyn hyn y mae y Bedyddwyr wedi uno a hwy ; ac am na fynai neb arall ymuno, y mae y tir wedi ei ddiogelu hyd byth i fod yn eiddo cyffredin cydrhwng y tri enwad.

Mae hanes eglwys yn cael ei gwneyd i fyny o hanes personau unigol; ac er nas gallwn grybwyll am yr holl unigolion a fu yn perthyn i'r eglwys hon o'r dechreuad, etto y mae rhai nodedig wedi bod yn eu plith, ac ni byddai yr hanes yn gyflawn heb grybwylliad am danynt.

Ni byddai yr hanes yn gyflawn heb grybwyll enwau rhai chwiorydd dylanwadol a fu yn nglyn a'r achos yma; ac yn eu ffordd hwy, efallai yn llawn mor deilwng o'u cofnodi a neb. Mrs Anwyl, Llugwy, a Mrs Davies, Rhiwlas, a gymerasant lawer o boen er mwyn yr achos yma, gan, ei ymgeleddu yn ei wendid a'i ddinodedd. Mrs Watkins a Mrs Lewis a fuont ill dwy yn dirion i'r achos yn eu bywyd, ac a gofiasant am dano yn eu hewyllysiau diweddaf. Gadawodd y flaenaf £300, llog yr haner i'r eglwys yn y Graig, a'r haner arall cydrhwng eglwysi Towyn a Llwyngwril, y rhai a delir yn rheolaidd. Gadawodd y llall £5 yn flynyddol i weinidog y Graig, pwy bynag fyddai, o genhedlaeth i genhedlaeth. Gadawyd y gymunrodd hon am ryw reswm dros flynyddau heb ei chodi ; ac erbyn. hyn, y mae y Charity Commissioners wedi penderfynu nas gellir ei chodi.

Mrs Miles oedd wraig o synwyr cryf, a bu am flynyddoedd yn brif gynhalydd i'r achos. Mrs Morgan, merch y dywededig Mrs Miles, oedd

294  

yn nodedig am ei chrefyddolder a'i gweithredoedd da. Nid a ei charedigrwydd yn anghof gan neb o'r rhai a groesawyd ganddi dan ei chronglwyd- Mrs Mary Thomas, gwraig y David Thomas y cyfeiriasom ato, oedd yn ffyddlon a charedig yn ei ffordd. Yr oedd gwahaniaeth mawr rhwng ei gwr a hithau o ran tymer a thueddfryd ; ond ni bu dau erioed hoffusach o gymdeithas  gilydd. Nid ydym am gyfeirio at y byw, onide gallesid enwi merched sydd yn aros ydynt yn mhob ystyr yn deilwng o'n mamau, a meibion sydd yn olynwyr ffydd eu tadau.

Bu yma lawer o bregethwyr cynorthwyol yn dal cysylltiad eglwys o bryd i bryd; rhai o honynt wedi  codi ynddi, ac eraill wedi symud yma o fanau eraill. Codwyd y rhai canlynol i bregethu yma : -

295

*(Not fully extracted)

296

 

COFNODION BYWGRAPHYDDOL *

*(Not fully extracted)

*WILLIAM JONES. Genedigol o Gwernogle, yn sir Gaerfyrddin. Bu am ryw dymor yn yr Athrofa yn Nghroesoswallt, dan ofal Dr. Edward Williams. ..........................

 297

JOHN EVANS. Gan mai yn Amlwch y treuliodd efe y rhan fwyaf o'i oes yn nglyn a'r eglwys yno y bydd ein cofnodion am dano.

EDWARD FRANCIS. Gweler ei hanes ef eisioes yn nglyn ag eglwys New Inn, Sir Fynwy.

JAMES GRIFFITHS. Daw hanes y gwr da a defnyddiol hwn yn nglyn a Rhodiad a Thyddewi, pan ddeuwn i Sir Benfro.

DAVID MORGAN. Gweler hanes llawn o'i gymeriad a'i fywyd llafurus- yn nglyn a Llanfyllin, lle y llafuriodd y deunaw mlynedd olaf o'i oes.

*JOHN PARRY. Ganwyd ef yn Penycefn, yn mhlwyf Llanfor, ger llaw y Bala, Mawrth 10fed, 1810. ..............................

298

JOHN HOWES. Yr oedd Mr Howes yn enedigol o gymydogaeth Tre-ffynon, a bu ei rieni yno mewn amgylchiadau cysurus. Derbyniodd addysg dda, a dygwyd ef i fyny yn nghyfundeb y Wesleyaid. Gadawodd yr hen gyfundeb, ac ymunodd gangen a elwid y Wesleyaid Cymanfaol tua'r flwyddyn 1836. Daeth cryn lawer o eiddo i Mr Howes ar ol rhai o'i berthynasau, ac aeth i anturiaeth fawr i adeiladu pentref o dai yn Glasinfryn, ger llaw Bangor, lle y mae Abel-Bethmaca wedi ei godi. Agorodd yno fasnachdy eang; ond aflwyddianus fu yn ei anturiaeth, fel yr aeth trwy y rhan fwyaf o'r eiddo a gafodd. Ymunodd a'r Annibynwr ym Mangor yn 1838 ; a'r flwyddyn ganlynol, urddwyd ef yn Llansantffraid, Sir Drefaldwyn. Bu yn weinidog yno ac yn yr eglwysi cylchynol am tua dwy flynedd, yna symudodd i Salem, Machynlleth. Ni bu yno ond

299

ychydig gyda blwyddyn ; canys ymfudodd i America yn ngwanwyn 1842. Bu am dymor yno yn cynorthwyo Dr. Everett yn Steuben, a bu wedi hyny dros yspaid yn Pittsburgh. Trwy ryw amgylchiadau, darfu ei gysylltiad Annibynwyr Cymreig, a symudodd i Canada, lle y bu farw er's rhai blynyddau yn ol, ac ni chlywsom ddim am ei gysylltiadau crefyddol yn niwedd ei oes. Ystyrid Mr. Howes yn ddyn da, ond yn wan ac ansefydlog. Pregethai am dro yn hyawdl a phoblogaidd; ond nid oedd defnydd ynddo i barhau fel gweinidog sefydlog. Yr oedd o deimladau cryfion, a theimlai serch cryf at ei gyfeillion ; ac felly y teimlent hwythau ato yntau.

Mae Mr Edwards a Mr Jones etto yn aros ; a gobeithiwn fod blynyddoedd lawer o ddefnyddioldeb mawr yn ol iddynt.

 

ABERHOSAN

(Penegos parish)

Dyma y gangen gyntaf a dorodd allan o eglwys y Graig, Machynlleth. Saif o fewn ychydig gyda phedair milldir o'r dref, ar y llaw ddeheu i'r ffordd sydd yn arwain i Lanidloes. Y Methodistiaid, fel yr ymddengys, a ddechreuodd bregethu yn yr ardal, a hyny cyn canol y ddeunawfed ganrif ; a bu ganddynt am dymor yma achos lled flodeuog. Yr oedd yma hen bregethwr perthynol iddynt o'r enw William Lewis, yr hwn a fu yn gynorthwy mawr i'r achos. Cymerasant dy bychan i bregethu ynddo, yr hwn hyd heddyw a elwir " yr hen gapel," er mai ychydig bregethu fu ynddo yn y ganrif bresenol. Cynhaliodd y Methodistiaid Gymdeithasfa yn y lle hwn yn 1770 ; ac yr oedd Peter Williams, William Williams, Pantycelyn, a Dafydd Morris, yn mysg eraill, yn pregethu ynddi.

Yr oedd yr Annibynwyr wedi dechreu pregethu yn Aberhosan yn mhell cyn i'r Methodistiaid roddi yr achos i fyny ; ac yr oedd y cyfeillgarwch puraf rhwng y ddau enwad. Deuent yn fynych at eu gilydd i gyfarfodydd gweddi, a chyfeillachau crefyddol. Adroddir am ryw gyfarfod gweddi nodedig a gafwyd yn lle addoliad yr Annibynwyr, yn yr hwn yr oedd gwr ieuangc perthynol i'r Methodistiaid, yr hwn oedd yn cadw ysgol yn yr ardal, mewn teimladau neillduol. Pan ar ganol gweddio, torodd allan i ganmol a molianu, a symudai ar ei liniau o amgylch yr ystafell fel un wedi cwbl anghofio ei hun yn y mwynhad ysbrydol a brofai. Crybwyllai yr adnod hono - " Fy anwylyd sydd wyn a gwridog, yn rhagori ar ddeng mil " - a chwanegai gyda nerth mawr, " deng mil o'r peth a fynoch."*

Tua'r flwyddyn 1791, y flwyddyn y daeth Mr John Evans, i Machynlleth, y dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn Aberhosan. Yr oedd un Hugh Tudor, yr hwn oedd yn byw yn y Dyffryn, wedi dyfod i gydnabyddiaeth a Mr Evans, ac wedi ei hoffi yn fawr, a gwahoddodd ef i'w dy i bregethu. Derbyniodd Mr Evans y cynhygiad, ac aeth yno i bregethu, a dyna y bregeth gyntaf hyd y mae genym hanes gan Annibynwr yn mhlwyf Penegos. Bu Hugh Tudor yn noddwr caredig i'r achos am flynyddau, ac agorodd ei ddrws i dderbyn yr efengyl. Nid oedd ef ei hun yn proffesu crefydd, ac ni ddaeth ar ol hyny ; ac ysywaeth yn ddyn anystyriol y parhaodd hyd ei fedd ; ond teimlai yn falch mai efe a agorodd

* Methodistiaeth Cymru, Cyf. II, tudal. 244.

300

ei dy gyntaf i'r efengyl yn y lle, a byddai yn fynych yn ymffrostio mai efe oedd tad yr achos yn Aberhosan.

Yn yr adeg y bu Mr Evans yn cyrchu i'r Dyffryn i bregethu, yr oedd un John Bulk neu Vulk yn ymweled lle, ac yn pregethu yn achlysurol. Mae mwy nag un o'r enw yma wedi bod yn mysg efengylwyr teithiol Cymru, y rhai a ddaw dan ein sylw yn eu lleoedd priodol. Cafodd pregethau taranllyd y gwr hwn argraff ddofn yn ardal Aberhosan. Adroddir am dro rhyfedd a gymerodd le o dan ei weinidogaeth yn mhen ychydig amser wedi i bregethu ddechreu yn y Dyffryn. Yr oedd ar un prydnawn Sabboth ynpregethu yn ysgubor Esgairfochnant, perthynol y pryd hwnw i Humphrey Tudor, brawd. Hugh Tudor. Daeth yno luaws ynghyd, ac yr oedd y pregethwr yn taranu yn ddychrynllyd oddiar Sinai, a cherddai rhyw nerth anorchfygol gyda'i weinidogaeth. Torodd y gynnulleidfa allan i lefain a gwaeddi yn ddychrynedig iawn am eu bywyd ; ac o'r diwedd i neidio mewn gorfoledd, fel rhai yn gweled diangfa. * Nid hir y bu gweinidogaeth Mr Evans yn y Dyffryn heb ddwyn ffrwyth ; ac yn mysg y dychweledigion cyntaf yr oedd dau o bersonau a fu wedi hyny am dymor maith o wasanaeth mawr i'r achos yn y lle, sef Sion Evan, Cwmgwarchae, a Griffith Jones, Tygwyn. Nid oedd Mr G. Jones ond dyn ieuangc, ac aeth am dymor oddi cartref i'r ysgol, yr hyn oedd yn golled fawr i'r achos bychan ; ond dychwelodd adref cyn hir. Symudwyd yr achos o'r Dyffryn i dy yn Aberhosan, o fewn lled cae i'r man lle y cyfarfyddai y Methodistiaid i addoli; ac yno y buont hyd nes y codwyd y capel yn y flwyddyn 1808.

Yn fuan wedi symudiad yr achos i Aberhosan, daeth dyn ieuangc o'r enw Sion Wood i wasanaethu i'r ardal. Un o gymydogaeth y Penant, Llanbrynmair, ydoedd, fel yr ymddengys. Yr oedd yn ymchwilgar ysbryd, ac yn gryn dipyn o ddadleuwr. Pan glywodd fod Mr Evans yn Machynlleth yn pregethu rhyw  bethau a dybiai efe yn hynod, penderfynodd fyned i'w wrando, a chael ymddyddan ag ef. Yno yr aeth, as ar ganol yr oedfa torodd yn orfoledd ; ac yn mhlith y lluaws, gwelwyd Sion Wood, y cecryn dadleugar, yn molianu hefyd. # Arweiniodd Rhagluniaeth ef yn fuan ar ol hyn i Gefngwyddgrug i wasanaethu; a than fod Mr G. Jones, Tygwyn, wedi myned oddi cartref i'r ysgol, yr oedd ei ddyfodiad yn gaffaeliad mawr i'r achos. Wrth gytuno yn Cefngwyddgrug, gwnaeth yn amod fod i'r holl bregethwyr a ddeuai i Aberhosan i gael bwyd a lletty yno, a chyflogai am ddeg swllt y flwyddyn yn llai ar gyfer hyny. Daeth yr achos rhagddo yn llwyddianus yn ystod gweinidogaeth Mr Evans, fel yr oedd golwg lewyrchus arno ar ei ymadawiad. Yn 1799, daeth Mr Edward Francis i weinidogaethu i Fachynlleth, a gofalai yntau fel ei ragflaenor am y gangen yn Aberhosan. Yn 1807, daeth Mr James Griffiths i Fachynlleth, ac yn y flwyddyn gyntaf wedi ei ddyfodiad y codwyd y capel. Yr oedd yr achos a fu yn y lle gan y Methodistiaid erbyn hyn wedi ei roddi i fyny, fel y cafodd yr Annibynwyr y maes yn gwbl iddynt eu hunain. Cafwyd tir i adeiladu yn rhodd gan Mr G. Jones, Tygwyn. Dyddiad y weithred ydyw Gorphenaf 6ed, 1807, a'r ymddiriedolwyr gwreiddiol oeddynt John Evans, Cwmgwarchae ; John Wood, Ty'nyfedw ; John David, Bryntudor ; John Jones, Hugh Pugh, a David

*Dysgedydd, 1865. Tudal. 49. Ysgrif Mr D. M. Jenkins.    # Annibynwr 1864. Tudal. 219. Ysgrif Mr. Josiah Jones.

301

Beynon, Machynlleth ; John Hughes, Hendre, Llanbrynmair ; William Jones, Maesgwian, Llanbrynmair ; John Lloyd, Towyn ; a Thomas Anwyl, Cwmffernol. Trwy lafur Mr Jones, a ffyddlondeb yr holl frawdoliaeth, gorphenwyd y capel yn 1808, yr hwn oedd yn worth £244. Yn nhymor, gweinidogaeth Mr Griffiths yma, bu pregethu yn achlysurol yn Nhalywern, pentref bychan o gylch tair milldir o Aberhosan, a deuai cynnulleidfaoedd lluosog i wrando ; ond oblegid fod cylch gweinidogaeth Mr Griffiths yn cyrhaedd oddi yma i Lwyngwril, a'r anhawsder i gael pregethwyr i lenwi y bylchau, bu raid rhoddi y lle i fyny, a daeth y Bedyddwyr a meddianasant yr ardal. Byddai Sion Evan a Sion Wood yn myned i Dalywern i gynal cyfarfodydd gweddio, a chyfarfyddid a hwy yno gan nifer o frodyr o Lanbrynmair ; a choffeir hyd heddyw am y cyfarfodydd gwlithog gafwyd yno. Bu doniau gweddi y brodyr hyn ac eraill yn help mawr i'r achos bychan yn Aberhosan, oblegid un waith bob pythefnos yr oedd Mr Griffiths yn gallu bod gyda hwy, gan amledd ei ofalon; ond bu ei weinidogaeth o les mawr yn yr ardal ; a phan yr ymadawodd yn 1814, yr oedd yma ddeugain o aelodau. Yn mis Tachwedd yr un flwyddyn ag yr ymadawodd Mr Griffiths, y derbyniodd Mr David Morgan alwad oddi yma ynglyn a Machynlleth, ac yr ymsefydlodd yn eu plith. Yr oedd Aberhosan hyd yma yn cael ei chyfrif yn gangen o eglwys Machynlleth. Er y cynhelid cymundeb yma yn achlysurol er dechreuad gweinidogaeth Mr Griffiths, a bod y ddau frawd Sion Evan a Sion Wood yn cad eu hystyried yn ddiaconiaid, etto yn 1814, ar ddechreuad gweinidogaeth Mr Morgan, yr ystyriodd ei hun, ac y cydnabyddwyd hi gan y fam eglwys yn Machynlleth yn eglwys Annibynol. * Llafuriodd Mr Morgan yma gydag, ymroddiad mawr am ddwy flynedd ar hugain ; ac ar ei ymadawiad yn 1836, yr oedd rhifedi yr aelodau yn dri chymaint ag y cafodd hwy yn 1814. O'r holl weinidogion a fu yn llafurio yma, y mae yn debyg mai Mr Morgan a adawodd fwyaf o nodwedd ei feddwl ei hun ar feddwl y gynnulleidfa. " Ei Ymneillduaeth anmhlygedig ac ymosodol ef a laddodd bob tuedd Eglwysig oedd wedi llechu yn yr ardal ; a'i feddwl grymus ef a ddiffynodd syniadau yr eglwys ar byngciau mawrion trefn iachawdwriaeth." Bu Mr Morgan yn hapus iawn ar y cyfan yn ei gysylltiad a'r eglwys hon ; a phan y symudodd i Manchester, teimlid colled a hiraeth ar ei ol.

Cyn ymadael, cynghorodd Mr Morgan yr eglwys yn Aberhosan i fynu gweinidog iddi ei hun ; a chymeradwyodd i'w sylw Mr Richard Jones, yr hwn oedd y pryd hwnw yn fyfyriwr yn Athrofa y Drefnewydd. Wedi cael prawf o Mr Jones, rhoddwyd. galwad iddo gan yr eglwys yma, ac yn Mhenegos, ac urddwyd ef Ebrill 4ydd, 1837. Ar yr achlysur, traddodwyd y gyn-araeth gan Mr J. Williams, Dinas. Derbyniwyd cyffes ffydd gweinidog gan Mr M. Ellis, Talybont. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gydag arddodiad dwylaw gan Mr H. Lloyd, Towyn. Anerchwyd y gweinidog gan Mr S. Roberts, Llanbrynmair ; a'r eglwys gan. Mr D. Morgan, Manchester. Gweinyddwyd hefyd yn y cyfarfodydd gan Meistri J. Saunders, Aberystwyth ; H. Morgan, Samah ; D. Griffith, Madagascar ; J. Davies, Glasbwll ; a D. Hughes, Wyddgrug. # Ymaflodd Mr Jones yn ei waith o ddifrif, a bu yn nodedig o lwyddianus. Aeth y capel yn fuan yn rhy fychan, fel y bu raid rhoddi oriel ynddo ; and erhyn ei fod yn i barod, derbyniodd Mr Jones alwad o Rhuthyn, ac er galar mawr i'w gyf-

*MSS Mr. D. Morgan, Llanfyllin.    # Dysgedydd, 1837. Tudal. 168.

302

eillion yn Aberhosan symudodd yno ; and yn ystod y ddwy flynedd y bu yma yn llafurio, yr oedd yr eglwys wedi cynyddu i yn agos i 200 o rifedu

Byr fu tymor gweinidogaeth Mr Jones yn Rhuthyn ; canys bu farw yn nghanol ei ddefnyddioldeb yn mlodeu ei ddyddiau. Daw hanes y "gweinidog da yma i Iesu Grist" yn nglyn a Rhuthyn, lle y terfynodd ei weinidogaeth.

Wedi ymadawiad Mr Jones, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr John Williams, Dinasmawddwy. Dechreuodd ei weinidogaeth yma yn nechrau y flwyddyn 1839, a chynaliwyd cyfarfod ei sefydliad Mehefin 14eg, yn yr un flwyddyn, pryd y gweinyddwyd gan Meistri T. Griffith; Rhydlydan; C. Jones, Dolgellau ; H. Lloyd, Towyn ; R. Jones, Rhuthyn ; E. Hughes, Treffynon ; D. Price, Penybontfawr ; H. Morgan, Samah ; W. Roberts, Pennal ; J. Roberts, Llanbrynmair ; J. Davies, Llanfair ; M. Jones, Llanuwchllyn ; ac E. Davies, Trawsfynydd. Bu Mr Williams yn llafurio yn ddiwyd yma am yn agos i ddwy flynedd ar hugain ; ac aeth yr achos rhagddo ar y cyfan yn llwyddianns. Talwyd y ddyled oedd yn aros ar yr hen gapel - cauwyd i fewn ddarn o dir yn ymyl y capel, yr hwn a gafwyd gan Mr G. Jones, Tygwyn, i fod yn lle claddfa - a chynlluniwyd at gael capel newydd. Cafwyd y tir yn rhad am 999 o flynyddau, gan Mr G. Jones, Cefngwyddgrug, mab y diweddar Mr G. Jones, Tygwyn, ac ar y 29ain o Ionawr, 1859, torwyd y dywarchen gyntaf o dir y capel newydd gan Mr Griffith Jones, unig fab Mr G. Jones, Cefngwyddgrug, ac wyr Mr G. Jones, Tygwyn. Costiodd y capel mewn arian, heblaw llafur yr ardalyddion, £725, ac y mae yn un o gapeli harddaf y wlad ; a dangosodd yr eglwys a'r gynnulleidfa haelioni mawr i dalu yr oll o'i ddyled. Trowyd yr hen gapel yn ysgoldy Brytanaidd at wasanaeth yr ardal. Yn fuan ar ol codi y capel newydd, oherwydd rhyw amgylch: iadau, rhoddodd Mr Williams yr eglwys yma i fyny ; ond parhaodd lafurio yn Penegos tra y daliodd ei iechyd ; ac yn nglyn a'r eglwys yno y bydd ein cofnodiad bywgraphyddol o hono.

Yn nechreu y flwyddyn 1861, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr David Miles Jenkins, myfyriwr o Athrofa y Bala, ac urddwyd ef Mehefin 6ed a'r 7fed, yn yr un flwyddyn. Pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr J. Jones, Machynlleth. Holwyd y gofyniadau gan Mr E. Thomas, Meifod. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr I. M. Davies, Maesycwmwr. Pregethwyd siars y gweinidog gan Mr E. C. Jenkins, Rhymni ; a siars yr eglwys gan Mr J. Williams, Castellnewydd ; a gweinyddwyd hefyd gan Meistri W. Ambrose, Porthmadog ; E. Williams, Dinas ; T. Davies, Dolgellau ; ac I. Thomas, Towyn.

Yn nhymor gweinidogaeth Mr Jenkins, codwyd ty newydd i'r gweinidog. Rhoddwyd y tir trwy garedigrwydd Mr Lewis Lewis, Cefn'rhosan, wedi ei sicrhau yn eiddo i'r eglwys am fil o flynyddoedd ; ac y mae rhan fawr o'i ddyled wedi ei thalu. Llafuriodd Mr Jenkins yma hyd ddiwedd Medi 1866, pan y symudodd i gymeryd gofal yr eglwys Gymreig yn y Drefnewydd.

Yn gynar yn y flwyddyn 1867, rhoddwyd galwad gan yr eglwys i Mr John R. Roberts, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Gorphenaf 11 eg a'r 12fed, 1867. Ar yr achlysur, pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr R. Jones, Llanidloes (ewythr y gweinidog ieuangc). Holwyd y gofyniadau gan Mr J. Roberts, Conwy. Gweddiodd Mr Josiah Jones, Machynlleth. Pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr W.

303

Morgan, athraw yr Athrofa yn Nghaerfyrddin ; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan ei diweddar weinidog, Mr D. M. Jenkins, Drefnewydd. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri D. Oliver, Llanberis ; O. Evans, Llanbrynmair ; S. Edwards, Machynlleth ; R. Thomas, Bangor; I. Thomas Towyn ; a Mr H. C. Williams, gweinidog y Bedyddwyr yn y Dylife ; ac y mae Mr Roberts yma yn parhau i lafurio.

Nid yw yn debyg fod mwy nag un pregethwr wedi ei godi yma i bregethu, sef Mr John Morgan, Caehaulog, yr hwn a fu yn bregethwr cymeradwy yma am dymor maith. Mae yma ddau bregethwr yn perthyn i'r eglwys yn awr, er mai nid yma y dechreuasant bregethu, sef Mr John Hughes, Rhiwgam, a Mr Edward Davies, Dolcaradog. Heblaw y personau a enwyd eisioes, bu yma gryn nifer o bobl dda yn nglyn a'r mhos, y rhai y mae eu henwau yn berarogl yn yr ardal.. David Davies, Bryntudor, oedd un o'r rhai cyntaf a dderbyniwyd yn Aberhosan pan y dechreuodd Mr Griffith gadw cymundeb achlysurol yma, ac a fu trwy ei oes yn nodedig fel athraw deallgar a diacon gofalus. Yr hen Ddafydd Robert, o'r Gaethle, a Hugh Mathew, a fuont nodedig o ffyddlon, ac a gawsant fyw i weled dyddiau da ; ac y mae yn dda genym fod hiliogaeth y rhai fu yn enwog gynt yn parhau i rodio llwybrau ffydd eu henafiaid; ac y mae yr Arglwydd yma mewn llawer engraifft yn llythyrenol yn cyflawni yr addewid  - "Plant dy weision a barhant, a'u had a sicrheir ger dy fron di."

 

DYLIFE

Translation available on http://www.genuki.org.uk/big/wal/MGY/Dylife/Hanes.html

" Yn ddiweddar y ffurfiwyd Dylife yn blwyf. Mae y lle wedi dyfod yn lled boblog trwy agoriad gweithiau plwm ar y mynydd. Arferid pregethu yma er yn foreu gan weinidogion Machynlleth, Aberhosan, a Llanbrynmair; ond yn 1863 y corpholwyd yma eglwys fel cangen o Aberhosan a than ofal ei gweinidog. Nid oes yno gapel wedi ei godi, ond cyfarfyddant mewn pabell goed gyfleus iawn, yr hon a roddir at eu gwasanaeth gan gwmni gwaith plwm y Dylife. Mae yma gynnulleidfa gryno, a phobl ffyddlon dros ben. Griffith Wilson yw yr unig ddiacon yn y lle, ac y mae wedi bod yma er dechreuad yr achos, ac nis gellir canmol gormod ar ei ffyddlondeb ; a gwyr y pregethwyr fu yn myned i'r Dylife o Machynlleth am garedigrwydd ac arabedd diarhebol ei wraig Mary Wilson, a'i pharodrwydd i ymgeleddu y rhai a ddelo heibio."

 

  PENEGOS

Ebenezer y gelwir y capel bychan sydd yma. Y mae o fewn dwy filldir i Fachynlleth. Dechreuwyd pregethu yma gan Mr Morgan yn fuan wedi dechreu ei Weinidogaeth yn y dref. Mewn anedd-dy o'r enw Coedcae y pregethid ar y dechreu ; and yn y flwyddyn 1824, codwyd yma gapel bychan. Bwriadwyd ef ar y cyntaf i gadw ysgol Sabbothol, a chynal cyfarfodydd gweddi, a phregethu achlysurol ; ac felly y bu hyd adeg ymadawiad Mr Morgan yn 1836, yna ymffurfiodd yr aelodau yn y lle yn eglwys Annibynol; ac unasant a'r eglwys yn Aberhosan i roddi galwad i Mr Richard Jones, a bu yn gweinyddu iddynt nes yr ymadawodd i Rhuthyn. Cytunasant drachefn a'r eglwys yn Aberhosan i roddi galwad

 

CONTINUED


Return to top

(Gareth Hicks  - 21 May 2008)

Valid HTML 4.01 Transitional

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright © GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI