Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

Montgomeryshire section (Vol 1) - Pages 304 - 317

See main project page

Proof read by Maureen Saycell (May 2008)

Chapels below;

  • (Continued) PENEGOS
  • LLANWRIN       (with translation)
  • SOAR       (with translation)
  • GLASBWLL    (with translation)
  • DERWENLAS (with translation)

 


Pages 304 - 317

304

(Continued) PENEGOS

 i Mr J. Williams, Dinas ; ac er i Mr. Williams roddi i fyny ofal Aberhosan, parhaodd i ofalu am Penegos tra y gallodd ; a phan y gorfodwyd ef gan waeledd i roddi i fyny ei ofal gweinidogaethol yma hefyd, etto parhaodd mewn cysylltiad a'r eglwys hyd ei ddiwedd. Wedi i Mr Williams fethu, cymerodd Mr Jones, Machynlleth, ofal yr eglwys, ac efe sydd  parhau i fwrw golwg drosti. Ni bu yr achos yma erioed  gryf, ac nid oes dim nodedig wedi digwydd  ei hanes; ond y mae yma nifer o frodyr a chwiorydd ffyddlon a heddychol, a mawr ofal calon ganddynt am achos yr Arglwydd. Nid ydym  gwybod fod neb oddi yma wedi codi i bregethu, ac ni bu yr un pregethwr cynorthwyol hyd y deallasom yn perthyn iddi mewn unrhyw gyfnod yn  ei hanes.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

JOHN WILLIAMS. Ganwyd Mr Williams yn 1798,  yn Pennal, ger Machynlleth. Dygwyd ef i fyny fel gwas amaethyddol, ac felly y treuliodd flynyddau boreu ei oes. Dychwelwyd ef dan weinidogaeth Mr Morgan, Machynlleth, tua'r flwyddyn 1817, ac ymunodd a'r gangen fechan oedd dan ofal Mr Morgan  Pennal. Symudodd oddi yno i wasanaethu i Towyn, ac wedi hyny i Lanegryn, a thra  aros  y lle olaf y dechreuodd bregethu ar gais yr eglwys a'i gweinidog, Mr Lloyd, Towyn. Bu rai blynyddau yn pregethu yn y wlad oddi amgylch gyda derbyniad mawr cyn ei fyned i'r ysgol ramadegol yn  y Drefnewydd  1827. Arosodd yno ddwy flynedd, nes y derbyniodd alwad o Dinasmawddwy i fod  olynydd i'r efengylaidd Mr. Hughes. Urddwyd ef Chwefror 19eg, 1829, a llafuriodd yno am ddeng mlynedd.

Yn 1839, derbyniodd wahoddiad eglwysi Aberhosan a Phenegos i ddyfod  fugail arnynt. Trwy ryw amgylchiadau na waeth heb eu crybwyll, terfynodd ei gysylltiad ag Aberhosan tua'r flwyddyn 1860 ; ond parhaodd yn weinidog Penegos tra y gallodd. Yr oedd ei iechyd wedi gwaelu yn  fawr; ac ysigodd ei gyfansoddiad, yr hwn oedd  naturiol  gryf, trwy yr amgylchiadau a'i cyfarfu, ac  neillduol trwy farwolaeth ei unig blentyn. Ni bu y byd byth yr un peth iddo wedi iddo golli ei anwyl John. Derbyniwyd ef ar Drysorfa, yr Hen Weinidogion, ond galwyd arno  fuan i wlad nad oedd raid iddo wrth ei chynorthwy. Bu farw Medi 12fed, 1864,  66 oed, a chladdwyd ef  mynwent capel Aberhosan, lle yr oedd wedi rhoddi ei fab i orwedd.

Yr oedd Mr. Williams o faintioli cyffredin, ac o wneuthuriad cadarn. Pan yn nghanol ei ddyddiau, yr oedd golwg gryf, iachus, wridcoch arno, a'i wallt  yn ddu fel y fran ; ond yn ei flynyddoedd olaf, yr oedd wedi cyfnewid  ddirfawr. Yr oedd y gwrid wedi cilio o'i ruddiau, a'i wallt yn wyn ei liw. Yr oedd o dymer siriol, lawen,  nodedig o garedig i ddynion ieuaingc, ac o ffyddlon i'w holl frodyr. Ni wyddai am ofn dyn, ac ni feddyliai am atal ei dafod pan y barnai ef y dylasai lefaru. Os rhoddai addewid cadwai ati, a lle y byddai ganddo ymrwymiad yno y ceid ef. Gwnai aberth er mwyn yr hyn a farnai  yn wirionedd, ac ni phetrusai am wg neb os meddyliai fod dyledswydd  galw arno i gymeryd cyfeiriad neillduol. Diamheu yr arbedasid iddo lawer o'i ofidiau gweinidogaethol pe buasai yn fwy gochelgar i ymadroddion ; a theimlai rhai o'i wrandawyr fod rhai o'i saethau o'r pulpud weithiau  cael eu cyfeirio atynt  ...................................

305

hwy yn bersonol. Yr oedd yn bregethwr rhagorol o ran sylwedd a thraddodiad. Dysgybl i Mr. Morgan, Machynlleth, ydoedd yn ei olyg-iadau duwinyddol; ac fel ei athraw, yr oedd yn Annibynwr ac yn Ym-neillduwr selog. Yr oedd wedi myfyrio duwinyddiaeth yn dda, ac yn glir a phenderfynol yn ei farn ar ras a phen-arglwyddiaeth, ac etto heb betrusder i alw ar ddyn at ei ddyledawydd. Gorphenodd ei yrfa mewn tangnefedd, wedi pregethu am o fwy na deugain mlynedd ; a'i eiriau diweddaf ydoedd, " mai ei ddyddanwch oedd yr efengyl a bregethodd cyhyd, a'i fod yn gorphwys ar y cyfamod disigl."

 

LLANWRIN

Cychwynwyd yr achos yma fel cangen o eglwys Machynlleth gan Mr. D. Morgan, a chodwyd capel bychan tua'r flwyddyn 1824. Gofalai Mr. Morgan am y lle nes y symudodd o Machynlleth, yna rhoddodd yr ychydig aelodau yn Llanwrin eu hunain dan ofal Mr. J. Parry, yr hwn a ddewiswyd yn weinidog gan y gangen a aeth allan o'r Graig i Salem ; ac o hyny allan, gweinidogion Salem fu yn gofalu am Lanwrin hyd uniad y ddwy eglwys yn 1853, yna rhoddodd yr eglwys fechan yma ei hun dan ofal y Graig. Ac ar sefydliad Mr. Josiah Jones yn Machynlleth yn 1854, cymerodd ofal y gangen yn Llanwrin; ac y mae yn parhau i ofalu am dani. Ni bu yr achos erioed yn gryf, ond y mae yma ychydig enwau a'u calonau yn gynes at achos yr Arglwydd.

Ni chodwyd yr un pregethwr yn yr eglwys hon; ond yr ardal yma a gafodd y fraint o fagu Mr. William Jones, y Cenhadwr, a Mr. R,. Rowlands, Llansamlet, er mai nid yma y dechreuodd yr un o honynt bregethu. Gallwn grybwyll yn arbenig am William Jones, canys y mae efe wedi ei symud, ei fod wedi gosod enwogrwydd ar Lanwrin uwch na phe buasai y cadfridog galluocaf a arweiniodd fyddin erioed i faes y gwaed wedi codi o hono. Mae ffeithiau newyddion yn dyfod i'r golwg beunydd o'i lafur didor yn ngwasanaeth ei Arglwydd. Pwy ddisgwyliasai i fachgen tlawd o bentref dinod Llanwrin ymgodi i'r fath safle uchel fel cenhadwr Cristionogol?

Translation by Maureen Saycell (Sept 2012)

This cause began as a branch of the Church in Machynlleth by Mr D Morgan, a small chapel was built around 1824. Mr Morgan took care of them until he moved from Machynlleth, the few members at Llanwrin placed themselves in the care of Mr J Parry, who had been chosen as minister of Graig from Salem. After that time the ministers of Salem cared for them until the two churches united in 1853, following that this small church put itself in the care of Graig. When Mr Josiah Jones settled at Machynlleth in 1854 he took on the care of the branch at Llanwrin, he continues to minister to them. The cause here has never been strong, but there are a few names whose hearts are close to God's cause.

No preachers were raised here but the area was privileged to raise the missionary Mr William Jones and also Mr R Rowlands, Llansamlet, although neither of them began to preach here. We can state that William Jones put the name of Llanwrin on the map through his achievments as a missionary.

SOAR (Machynlleth parish)

Saif y capel hwn oddeutu pedair milldir i'r de-ddwyrain o Fachynlleth. Dechreuwyd pregethu yn yr ardal tua'r flwyddyn 1794, mewn amaethdy o'r enw Ty'nyplas, lle yr oedd un o'r enw John Davies yn byw. Mae llawer o hiliogaeth y gwr hwnw yn aros hyd yr awr hon, ac yn grefydd-wyr gyda'r gwahanol enwadau. Nis gellir cael allan pwy bregethodd gyntaf yn Ty'nyplas ; ond dywedir fod Meistri George Lewis, J. Evans, Machynlleth; W. Hughes, Dinas; K. Tibbott, Richard Herbert, a Rees Davies, wedi bod yno. Yn yr adeg yma, nid oedd cymaint ag un crefyddwr yn yr ardal. Treulid y Sabbothau mewn difyrwch pechadurus, ac ymgynnullid i dai y gymydogaeth i chwareu y delyn. Deuid a'r delyn i Dy'nyplas pan ddeallid fod John Davies wedi myned i'r eglwys; ond: gofelid am ei chuddio cyn y dychwelai. Y mae llynbwll yn yr ardal a elwir Llyn y delyn; ac y mae traddodiad yn dy weyd fod ty wedi bod yno yn yr hwn yr oedd y telynwr yn byw, ac y byddai yr ardalwyr yn ei

306

ymgasglu i'r ty hwn ar y Sabbothau i chwareu ac ymddifyru gyda'r delyn. Ar un Sabbath daeth priodas yno, ac wedi blino chwareu aethant allan i roddi tro i ben bryn cyfagos; ac ar eu dychweliad, cawsant y lle wedi ei lyncu gan y ddaear, a llyn o ddwfr yn y lle ; a Llynydelyn y gel-wir y lle hyd heddyw.*

Wedi ymadawiad John Davies a Thy'nyplas, bu pregethu ac ysgol Sabbothol yn Bryncynfil, Llwyngwyn, a Chwmdwrgi; ond wedi dyfodiad Thomas Rowland i'r ardal yn y flwyddyn 1807, yr oedd ei dy ef, sef Byr-dir, yn agored; ac yno y cyfarfyddid nes yr adeiladwyd Soar yn 1819. Hyd lease y capel yw 1,000 o flynyddoedd, am yr ardreth o heidden y flwyddyn. Aelodau o'r Graig, Machynlleth, oedd yr ychydig grefyddwyr oedd yma, a Mr. Morgan oedd eu gweinidog. Mae coffad parchus yn cael ei wneyd am dri brawd oedd yn perthyn i'r achos yma yn ei gychwyniad, sef Edward Edwards, John Breese, a John Davies, ac nis gallesid cael cyf-arfod cyfan heb fod y tri yno. Medrai un ganu, ond ni fedrai ddarllen na gwedilio - medi'ai un arall ddarllen, ond nis gallai na chanu na gweddio - medrai y Hall weddio, ond ni fedrai na chanu na darllen ; ond pan y ceid y tri gyda'u gilydd, yr oedd yno ddigon o ddarllen, canu, a gweddio. Yr oedd dyfodiad Thomas Rowland i'r ardal yn gefn mawr i'r achos; a byddai ei wraig Elizabeth Rowland yn cymeryd rhan gyhoeddus yn y cyfarfodydd gweddio; ac ar Sarah Breese yn aml y disgynai dechreu y gan. Dwy chwaer nodedig am eu duwioldeb. O'r amser y codwyd y capel hyd y flwyddyn 1825, nid oedd ond pregethu achlysurol yn Soar ; ond gwnaed yma lawer o ddaioni trwy hyny, a'r cyfarfodydd gweddi a'r ysgol Sabbothol; a bendithiwyd yr ardal a diwygiad grynius, fel yr oedd golwg lewyrchus ar bethau. Yr oedd Mr. David Pritchard, Ceniarth, yr hwn oedd mewn amgylchiadau bydol cysurus, yn aelod yn Machynlleth, ac yn brif gefn i'r achos yn Soar, gan fod ei drigfa gerllaw iddo. Yroedd wedi dechreu pregethu er's rhai blynyddau ; a chan ei fod yn ddyn cyfoethog, ac wedi cael addysg dda, ac wedi troi mewn cymdeithas uwch-raddol, yr oedd ganddo ddylanwad mawr ar y rhai oedd o'i gylch. Tua y flwyddyn 1825, cyfododd anghydwelediad blin rhwng Mr. Pritchard a Mr. Morgan, ei weinidog, yr hyn a barodd deimladau chwerwon am lawer o flynyddau. Buasai yn dda genym fyned heibio i hyn heb oi grybwyll; ond nis gallwn hanesyddu yn gywir a myned heibio i ffeithiau pwysig yn nglyn ag eglwysi sydd yn dyfod i'n ffordd. Nid ein gwaith ni yw rhoddi ein barn ar ffeithiau, ond yn unig eu mynegu; ac os digwydd fod dau adroddiad o'r un amgylchiad ger ein bron, a'r adroddiadau yn anghytuno, nid oes genym ond eu gosod ger bron fel y maent. Mae adroddiad Mr. Morgan ei hun ger ein bron, ac y mae Mr. Edwards, Machynlleth, yn ei Fywgraffiad o Mr. Pritchard, yn Nysgedydd 1862, tudal. 205, yn gwneyd cyfeiriad cynil a boneddigaidd at y mater; a chan fod eiddo Mr. Edwards yn y ffeithiau gan mwyaf yr un ag adroddiad ysgrifenedig Mr. Morgan, cymerwn y dyfyniad a ganlyn o'r Bywgraffiad :-

"O herwydd helaethder y weinidogaeth (sef Machynlleth a'r canghenau), daeth i feddwl rhai brodyr mai buddiol fyddai rhanu y weinidogaeth, er mwyn gwell trefn ac adeiladaeth mwy ; a phenderfynwyd ar Mr. Pritchard fel y cymhwysaf i amlygu hyny. Ond edrychid ar ranu y frenhiniaeth yn deyrn fradwriaeth o'r fath waethaf; a chan mai efe a ddygodd y mater i sylw, edrychid arno

* Llythyr Mr. S. Edwards, Machynlleth.

 

307

fel y troseddwr mwyaf. Pan welodd ei gydgynygwyr fod hyn yn dwyn drygfyd, ciliasant, gan ei adael ef a'r gynnulleidfa y peithynai iddi yn unig yn yr helbul a ddechreuasant hwy yn benaf. * * * Ond o herwydd ei ymlyniad ef a'r gynulleidfa yn Soar wrth y drefn Annibynol, yn ol eu golygiad hwy, aethant yn rhy annibynol yn ngolwg y fam eglwys, a diarddelwyd hwy fel rhai afreolaidd, nid yn gymaint oherwydd yr ystyrid eu cais yn anfuddiol, ac nad oedd ganddynt hawl iddo, ond oblegid na ofynent am hyny yn rheolaidd. Yn awr, nid oedd gan Mr. Pritchard a'i gyf'eillion yn y cyfwng hwn ddim i'w wneyd ond syrthio dan eu bai, neu fyned yn mlaen eu hunain ; ond edifarhau nis gallent, oblegid ni chydnabyddent fai, a rhwyfo yn mlaen oedd anhawdd, oblegid nid oedd neb gyda hwynt, a llawer yn eu herbyn. Am hyny, neillduwyd ef (Mr. P.) gan yr eglwys yn Soar i fod yn fugail iddynt, a bu am flynyddoedd yn llafurio yn eu plith gyda gofal a diwydrwydd mawr, a chariad ac undeb yn ffynu yn eu mysg."

 

Felly, o'r flwyddyn 1825 hydd dechreu 1837, Mr. Pritchard oedd y gweinidog yn Soar, a gweinyddai holl ordinhadau y ty ; ond ni chydnabyddid ef fel gweinidog rheolaidd ond gan ychydig. Parodd yr amgylchiad lawer o drallod yn y cyfnod hwnw y tu allan i gylch gweinidogaeth Machynlleth.   Anfonai Mr. Pritchard ei gyhoeddiad weithiau i siroedd eraill; ond ychydig o weinidogion a roddent dderbyniad iddo, a'r rhai a wnelent hyny, a dynent arnynt anfoddlonrwydd y lluaws. Galwyd Dr. Arthur Jones i gyfrif yn Nghymanfa Llanrwst am agor ei bulpud iddo : a gwrthwynebai llawer i Mr. Pritchard, yr hwn a ddarthai yno gyda Dr. Jones i gael aros yn y gynhadledd. Mae yn dda genym gael cyfle i ddyweyd yn y fan yma cyn myned yn mhellach i'r drwg deimlad rhwng Mr. Pritchard a Mr. Morgan gael ei symud cyn eu marwolaeth, a diau genym fod pob un o'r ddau wrth adfeddwl yn gweled eu bod wedi gwneyd pethau na wnaethent drachefn pe cawsent fyned eilwaith trwy yr un amgylchiadau.

Yn nechreu 1837, rhoddodd Mr. Pritchard ei weinidogaeth i fyny yn Soar, a daeth ef a'r eglwys dan ei ofal i undeb a'r eglwys yn Machynlleth; a phan yn 1839, y daeth Mr. Edwards i Fachynlleth, cymerodd hefyd ofal Soar, ac efe sydd yn parhau i'w bugeilio ; ac y mae golwg siriol ar yr achos pan gofiom mai gwlad deneu wasgaredig ei phoblogaeth ydyw. Bu Mr. a Mrs. Pritchard yn aelodau ffyddlon yn Soar hyd eu diwedd oddigerth ryw ddeng mlynedd a dreuliasant yn y brifddinas. Gadawodd Mrs. Pritchard log l00p. tuag at yr achos yn Soar; ac nid oedd hono ond un o lawer o weithredoedd da y wraig rinweddol hon.

Yn Soar y dechreuodd Mr. Richard Rowlands, Henryd, bregethu, er mai aelod yn Machynlleth ydoedd ; ac yr oedd Mr. Pritchard wedi dechreu pregethu pan yn aelod yn Machynlleth yn mhell cyn corffoliai yr eglwys yn Soar.

Am hanes a chymeriad Mr. Pritchard. rhaid i ni grynhoi y cwbl a wyddom am dano i gylch bychan. Ganwyd ef yn 1790, mewn palasdy o'r enw Ceniarth, yn Uwchgareg, Machynlleth. Yr oedd yn ddisgynydd o deulu a fu yn trigianu yn Ceniarth yn ddigoll er dyddiau William y Gorchfygwr. Efe oedd y cyntaf o'r teulu a drodd allan yn Ymneillduwr. Denwyd ef i foddion gras i ddechreu, wrth glywed son am ryw fachgen ieuangc oedd yn nodedig fel gweddiwr, a chafodd y fath flas arnynt nes penderfynu eu mynychu ; ac o'r diwedd ymunodd a'r crefyddwyr tlodion, a derbyniwyd ef yn aelod yn Machynlleth. Dechreuodd weithio a'i holl

308 

egni gyda holl ranau y gwaith, yn enwedig gyda'r ysgol Sabbothol; a chafodd ar ei feddwl bregethu. Nid oedd yn meddu hylithrwydd dawn; ond yr oedd y cwbl a ddywedai yn ddoeth a synwyrol. Yr oedd yn dyn iawn dros y peth a gredai, fel yr oedd ei anhyblygrwydd yn ei wneyd yn wrthwynebwr peryglus. Er fod ei holl berthynasau yn Eglwyswyr cryfion, yr oedd ef yn Ymneillduwr penderfynol, ac ni phetrusai ddatgan ei olygiadau. Meddai wybodaeth eang ar byngciau cyffredinol, yn wladol a chrefyddol; ac yr oedd yn nodedig o awyddus i gynorthwyo yr egwan a'r dinerth. Y farn gyffredinol am dano unwaith ydoedd, nad oedd dim cydymdeimlad rhyngddo a'r weinidogaeth fel swydd, ac yn neillduol a chynhaliaeth y weinidogaeth; ond y mae y rhai a gawsant y fantais oreu i gyfeillachu ag ef yn synied yn hollol wahanol am dano, a'i fod bob amser yn barod a'i law a'i logell i gynorthwyo cynhaliad y weinidogaeth. Daliodd yn ei deimlad Cymreig er symud i'r brifddinas; ac yr oedd yn ei ddyddiau olaf yn ymddangos yn dwyshau yn ei deimlad ; a bu farw yn gyflawn o'r dyddanwch sydd yn Nghrist, Rhagfyr 29ain, 1859, yn 69 oed.

Translation by Maureen Saycell (Sept 2012)

This chapel stands about for miles south east of Machynlleth. Preaching started in this area around 1794 in a farmhouse named Ty'nyplas, home of John Davies. Many of his descendants remain in the area, worshipping with various religions. The name of the first preacher is not known but Messrs George Lewis, J. Evans, Machynlleth, W. Hughes, Dinas, K. Tibbott, Richard Herbert, and Rees Davies have visited here. There was no religion here at the time and the sabbath was spent in pursuit of pleasure, even the harp was played. Stories are told of a harp taken to Ty'nyplas while John Davies was in church and carefully hidden afterwards. There is a lake in the area known as Llyn y Delyn (Harp Lake) where legend has it the harp players lived. This was where the locals gathered to enjoy themselves and listen to the Harp, one day they walked to the summit of a nearby mountain and when they returned the place had been swallowed by the earth and a lake had appeared.*

Following the departure of John Davies from Ty'nyplas, sermons were given and Sunday School was held at Bryncynfil, Llwyngwyn, and Cwmdwrgi. When Thomas Rowland came to the area in 1807 to live in Byr-Dir, meetings were held there until Soar was built in 1819. The lease on the chapel is a thousand years at a rent of a barley seed (peppercorn rent) per annum. The few who attended here were members of Graig, Machynlleth with Mr Morgan as their preacher. Three outstanding members here were  Edward Edwards, John Breese, and John Davies  - one could sing, one could read and the other could pray so no meeting was complete without them. The arrival of Thomas Rowland in the area was a boost for the cause, his wife frequently led prayer meetings with Sarah Breese leading the singing. From the time the chapel was constructed until 1825 there was only occasional preaching at Soar, but benefit derived from Sunday Schools and prayer meetings and they were blessed with a strong revival which improved the outlook. Mr David Pritchard, Ceniarth, was comfortably placed, a member at Machynlleth, and as he lived nearby was the main support for Soar. He had been preaching for some years, was a rich man with a good education and moved among the upper classes, a man of some influence. Around 1825 there was a disagreement between him and Mr Morgan, his minister, which caused long term repurcussions. We have the two sides of the argument before us - Summarised - Machynlleth Parish was large and there was a proposed division but disagreement over stipends. The originators abandoned the proposition and Soar parted from Graig with Mr Pritchard as minister.

He ministered to the congregation from 1825 to 1837, although he was not recognised as a regular minister by most congregations and the few that accepted him were victimised by the many, for example Dr Arthur Jones was called to account for opening his pulpit to Mr Pritchard at Llanrwst Festival meeting when they went there to try and keep Soar within the Independent Movement. We are thankful that the problem was solved and that both men regretted some of the decisions they made at the time.

Early 1837 gave up the ministry of Soar and both he and his congregation were reunited with the church in Machynlleth. In 1839 Mr Edwards came to Machynlleth and took on the care of Soar as well, he continues to minister to their needs and the church is flourishing despite it's scattered congregation. Mr and Mrs Pritchard remained members and on death Mrs Pritchard left £100 to the cause.

  • RICHARD ROWLANDS, Henryd, began to preach in Soar although a member in Machynlleth.

BIOGRAPHICAL NOTES**

DAVID PRITCHARD  - born 1790 at Ceniarth, Uwchgarreg, Machynlleth  - first nonconformist in his family - died December 29th, 1859 aged 69

* Llythyr Mr. S. Edwards, Machynlleth.

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

GLASBWLL (Machynlleth parish)

Saif y capel hwn oddeutu dwy filldir a haner i'r de-orllewin o dref Machynlleth, ar y terfyn rhwng De a Gogledd. Bu pregethu achlysurol yn moreu y ganrif hon gan yr Annibynwyr yn Ty'nypwll, Maesycilin, Llechweddeinion, a Nantysebon; ond tua y flwyddyn 1806, cafwyd hyny yn fwy rheolaidd. Y mae yn ymddangos mai Rees Davies a bregethodd gyntaf yn yr ardal, mewn ty o'r enw Ty'nypwll. Yr oedd y pryd hwnw yn cadw ysgol mewn amaethdy o'r enw Glanymerin. Bu teulu Glany-merin yn garedig iawn i'r achos yn ei wendid; ond nid ymunodd yr un o honynt a chrefydd hyd yn ddiweddar. O gvlch yr amser yma y daeth John Davies i fyw i Maesycilin, William Meredith i Alltddu, Thomas Pugh i Cwmrhaiadr-bach, John Evans i Garthgwynion, John Davies ( y pregethwr) i'r Castell, a Thomas Jones i Nantysebon. Yr oedd y gwyr hyn yn cael eu cyfrif yn gawri yn y dyddiau hyny, ac y mae eu hiliogaeth yn ffyddlon gyda'r achos hyd y dydd hwn.*

Tua'r flwyddyn 1810, cafwyd yma dy bychan i bregethu ynddo yn ochr sir Aberteifi ; oblegid yn y sir hono y mae y llecyn a elwir Glasbwll.   Y Capel bach y gelwid ef, ac felly yr ydoedd; ac erbyn hyn, nid oes careg o hono yn aros. Adeiladwyd y capel presenol yn 1821, ar ddarn o dir a roddwyd gan etifeddes Cae'rsaer, wedi hyny priod Mr. Thomas Lewis, yr hwn a fu yn brif gefn i'r achos yma yn ei amgylchiadau allanol am flynyddau, ac yr oedd yn gwir ofalu drosto. Y mae y capel yma yn sir Drefaldwyn, ond o fewn can' llath i'r lle y safai y capel bach. Ni chaed ac ni ofyn-wyd am bryd-les i'r capel yma, ond y mae hir-feddiant didal wedi ei wneyd yn eiddo y gynnulleidfa yn y lle. Pregethid yn y lle y blynyddau hyny gan Mr. Morgan a'r pregethwyr oeddynt yn gynorthwyol iddo. Coffeir gydag anwyldeb am ffyddlondeb Betty Pugh, Cwmrhaiadrbach, Sian y Castell, a Wosley, Llechweddeinion. Cyrchent i Fachynlleth i'r gyfeillach, er fod ganddynt bedair neu bum milldir o ffordd. Yn y gauaf rhoddai Betty Pugh y plant yn y gwely cyn cychwyn, ac ymddiriedai hwy i ofal Rhagluniaeth, ac ni ddigwyddodd niwed i un o honynt; a chafodd

* Llythyr Mr S. Edwards, Machynlleth.

309

fyw i'w gweled oll yn proffesu crefydd. Ni ffurfiwyd yma eglwys Annibynol hyd 1853, pryd y torodd ei chysylltiad a'r fam eglwys yn y dref; ac er hyny hyd yn awr y mae Mr. S. Edwards yn llafurio gyda derbyniad mawr a graddau o lwyddiant.

Ni chodwyd yma yr un pregethwr yn yr eglwys; ond yr oedd John Davies wedi dechreu pregethu pan oedd y Glasbwll yn gangen o Machynlleth, ac y mae enw JOHN DAVIES, GLASBWLL, yn hysbys trwy holl eglwysi y Dywysogaeth; a dichon iddo ef wneyd mwy Da neb arall i roddi cyhoeddusrwydd i'r lle. Ganwyd ef yn Machynlleth yn y flwyddyn 1788, a bu farw yn 1865 ; felly cafodd fyw oes hir. Dechreuodd grefydda yn ieuangc, a bu yn ffyddlon hyd y diwedd. Bu fyw am flynyddau yn y Castell, ac yno y magodd ei deulu gan mwyaf; ond yn ei flynyddau olaf preswyliai yn Caemardin. Llafuriodd lawer gyda chrefydd yn ei fro ei hun, a chyrchai i gyfarfodydd gweddio, ac i bregethu mewn anedd-dai trwy yr holl fynydd-dir oddiamgylch. Ar ol dechreu pregethu, teithiodd lawer trwy dde a gogledd; ac yr oedd yn adnabyddus ac yn dderbyniol pa le bynag yr elai. Yr oedd yn ddyn o ddeall cryf, ac o ewyllys benderfynol wedi ei wneyd gan natur i lywodraethu; a phe cawsai ddiwylliant ac addysg yn moreu ei fywyd, buasai yn ddyn uwchraddol. Ennillodd iddo ei hun gymeriad uchel fel gweddiwr pan yn ieuangc, a pharhaodd trwy ei oes i wrteithio y dawn oedd ynddo. Anaml y clywid gweddiwr mwy gafaelgar, a choffeir am rai adegau nodedig pan y dilynwyd ei weddiau ag effeithiau anghyffredin. Fel pregethwr, yr oedd yn Ysgrythyrol ac efengylaidd, ei lais yn gryf a soniarus, a'i draddodiad yn wresog ac effeithiol; ac yr oedd yn un o'r rhai olaf o'r to hwnw o bregethwyr cynorthwyol a fu yn Nghymru yn " tramwy gan bregethu teyrnas Dduw."

Translation by Maureen Saycell (Sept 2012)

This chapel stands about 2 miles south west of Machynlleth, on the line defining North from South. Preaching by the Independents began here early this century at  Ty'nypwll, Maesycilin, Llechweddeinion, and Nantysebon and around 1806 this became more regular. Rees Davies was the first to preach here at Ty'nypwll, at the time he was keeping school at Glanymerin Farm, the family were kind to the cause because of i's weakness. The following giants of religion moved to the area during this period :-  John Davies to Maesycilin, William Meredith to Alltddu, Thomas Pugh to Cwmrhaiadr-bach, John Evans to Garthgwynion, John Davies (preacher) to Castell, and Thomas Jones to Nantysebon, their descendants continue to follow the cause.*

In 1810  small house was acquired on the Cardiganshire side, where Glasbwll is located, it was named Capel Bach (the Little Chapel) . There is no trace of it now.The current chapel was built in 1821 on land donated by the heiress of Cae'rsaer, later married to Thomas Lewis who took care of this chapel for many years. This chapel is in in Montgomeryshire, although only a hundred yards from Capel Bach. There was no lease on this chapel and none requested, long term usage has given the congregation posession. The ministry at the time was in the hands of Mr Morgan and his supporting ministers. There are fond memories of  Betty Pugh, Cwmrhaiadrbach, Sian  Castell, and Wosley, Llechweddeinion, they walked to Machynlleth, some 4 to 5 miles away to the socials, Betty putting her children to bed before going. The first Independent church was formed here in 1853 when they broke the ties to the town, Mr S Edwards remains the minister.

No preacher was raised here but when John Davies, Glasbwll, began to preach this chapel was still a branch of Machynlleth. He was born in Machynlleth in 1788 and died in 1865. During his long life he remained faithful and became known nationwide, as a preacher he was both scriptural and evangelical. He was one of the last of the supporting preachers in Wales who "travelled to spread the Kingdom of God".

* Llythyr Mr S. Edwards, Machynlleth.

DERWENLAS (Machynlleth parish)

Pentref bychan ddwy fllldir o Fachynlleth ar y ffordd i Aberystwyth. Pregethwyd yma gyntaf o gylch y flwyddyn 1802, gan Meistri Rees Davies, ac Azariah Shadrach, yn nhy un Robert Evans, Joiner. Bu Mr. Shadrach yn cadw ysgol yn y lle hwn am dymor cyn myned i Lanrwst. Yn y flwyddyn 1810, priododd Mr. Davies, Rhiwlas, & merch ieuangc grefyddol o Brynaere, Llanbrynmair; ac ar ol hyn, cafwyd llofft yn y pentref i gynal moddion crefyddol. Gwnaed pulpud ynddi, ac un seat at wasanaeth teulu y Rhiwlas. Bu Mrs. Davies yn ffyddlon iawn gyda'r achos, a thrwy ei llafur hi ceid pregethu yn aml yn y llofft; ac yr oedd bwyd a lletty i'r pregethwr yn y Rhiwlas. Bu pregethu yn y llofft hon hyd 1849, pryd yr adeiladwyd capel ar etifeddiaeth y Rhiwlas; ond oblegid fod yr etifeddiaeth dan ymddiriedolwyr, ni chafwyd pryd-les ar y tir hyd 1859. Yn y flwyddyn 1861, ail adeiladwyd a helaethwyd y capel, a thalwyd am dano heb gael ceiniog o un man tu allan i'r ardal.* Mae enwau Robert Evans, Joiner, Shon William, a Walter Thomas, yn nodedig fel rhai a gymerodd lawer o boen gyda'r achos ar ei gychwyniad. Bu dyfodiad Mr. Rowland Evans a'i deulu o'r Dinas i'r Morben yn 1845 yn ddechreuad cyfnod newydd ar yr achos yma. Yr oeddynt hwy yn Annibynwyr goleuedig a deallgar, a'u ty yn wastad yn

* Llythyr Mr. S. Edwards.

310

agored i lettya y rhai a ddelai heibio, a thrwy eu bod yn deulu lluosog yr oeddynt yn gaffaeliad pwysig. "Mam yn Israel" oedd Mrs. Evans. Canmolai ei gwr hi yn y pyrth, a chododd ei phlant i'w galw yn wynfydedig. Bu eu mab Mr. John Evans ar eu hol, a'i ewyllys tua thy yr Arglwydd, a'i law, a'i logell, a'i dy bob amser yn agored. Ac er fod y teulu yn awr wedi eu gwasgaru, y mae llawer o honynt yn fyw, ac yn eu gwahanol gylchoedd yn gwasanaethu Duw eu rhieni. Y mae yn weddus i ni gofiau mai mab Robert Evans a wnaeth yr holl waith coed ar y capel cyntaf, a hyny heb godi yr un geiniog am ei waith. Y mae etto yn fyw yn 80 oed. Drwg genym ychwanegu nad yw, ac na bu erioed, yn proffesu crefydd.

Er fod pregethu yma er yn foreu yn y ganrif hon, a chapel wedi ei godi er 1849, ni chorpholwyd yma eglwys hyd 1853, pan y darfu cysylltiad Mr. S. Edwards a'r Graig ar uniad y ddwy eglwys yn y dref; ac y torodd y canghenau yn Soar, a'r Glasbwll, a'r Dderwenlas eu cysylltiad a'r eglwys yn y dref, a ffurfiwyd eglwysi Annibynol yn y tri lle, ac y mae eu gofal ar Mr. Edwards ; ac er pob collodion a gafwyd trwy symudiadau ac angau, y mae yr achos yn " dal ei ffordd, ac yn ychwanegu cryfder."

Translation by Maureen Saycell (Sept 2012)

This is a small village some 2 miles from Machynlleth on the Aberystwyth road. Preaching started here about 1802 with Messrs  Rees Davies and Azariah Shadrach in the home of Robert Evans, Joiner. Mr Shadrach kept a school here before moving to Llanrwst. In 1810 Mr Davies, Rhiwlas married a very religious young woman from Brynaere, Llanbrynmair and following this there was a place in the village to hold religious services. A pulpit was constructed and one seat for the use of the family at Rhiwlas. Mrs Davies was faithful and generous to the cause and there was always food and shelter for the ministers at Rhiwlas. Preaching here continued until 1849 when a chapel was built on land belonging to Rhiwlas but a lease was not obtained because the inheritance was in the hands of Trustees. In 1861 the chapel was rebuilt and it was paid for totally within the area.*

Robert Evans, Joiner, Shon William, and Walter Thomas were notably devoted at the start of this cause. The arrival of Mr Rowland Evans and family at Morben in 1845 heralded a new beginning for the cause. They were educated, enlightened Independents who welcomed all, and as they were a large family they were a welcome addition. We should record that their son Robert Evans undertook all the carpentry in the original chapel, all without charge despite not being religious. He is now 80 years old.

Despite the early preaching here the church was not formed until 1853, although the chapel was completed in 1849. This was when Mr S Edwards broke his connections with the causes in the town and Independent churches were formed here and in Glasbwll and Soar. The cause continues gradually gaining strength.

* Llythyr Mr. S. Edwards.

SAMMAH (Cemmaes parish)

Saif y lle hwn yn mhentref Cwmllynau, o fewn milldir a haner i'r Cemmaes. Dechreuwyd pregethu yn yr ardal yma yn 1798, gan Mr. W. Hughes, Dinas, mewn lle a elwir Drwsynant, ar dir Cwmmeidrol. Yr achlysur oedd fel y canlyn. Yroedd Mr. Richard Jones, Cwmmeidrol, yn aelod gyda'r Methodistiaid, ac wedi trwyddedu Drwsynant  - anedd-dy bychan ar ei dir - i bregethu gan y Methodistiaid. Arferent hwy y pryd hwnw fyned i'r eglwys i gymuno, ac yr oedd R. Jones yn gweled hyny yn anghyson. Teimlai ef yn an-foddlon i fyned gan ei fod wedi ymneillduo oddiwrthi, ac amlygodd hyny i'w gyfeillion. Ychwanegodd fod Gweinidog Ymneillduol newydd ddyfod i'r Dinas, ac yr anfonai efe ato i ddyfod yno i bregethu a gweini yr ordin-hadau, ac felly y gwnaeth; a chydsyniodd Mr. Hughes a'i gais, a dyna ddechreuad achos Sammah.

Yr oedd gan R. Jones deulu lluosog o blant, a chau ei fod mewn am-gylchiadau bydol cysurus, yr oedd yn awyddus am roddi addysg iddynt; a gofynodd i Mr. Hughes, Dinas, ai ni allai gael neb yno i gadw ysgol ddyddiol, y rhoddai efe fwyd a lletty iddo am addysgu ei blant ef. Yr oedd Rees Davies yn ddyn ieuangc, yn tramwy y wlad i bregethu y pryd hwnw, ac yn cadw ysgol yma a thraw, a llwydwyd i'w gael i Drwsynant. Aeth R. Jones a Rees Davies ryw noswaith i Drwsynant i gadw society, ac ymddengys fod yno un hen wraig o'r enw Ann gyda hwy, a chafwyd yno gyfeillach felus. Wedi dychwelyd i Gwmmeidrol, gofynai Mrs. Jones, gwraig y ty, i Rees Davies, "A ddaru chi gadw seiat?" " Cadw seiat? do, do," ebe Rees Davies, yn swta ac yn sarug. Ailofynai Mrs. Jones, "A ddaeth modryb Ann o'r Tydraw atoch chwi?" "Ddaeth. hi? do," ebe Rees Davies, yn fwy cwta nag o'r blaen, " mae hono yn well na chi." " A ddaru i chi ganu yno Rees Davies ?" gofynai Mrs. Jones drachefn. " Canu ? do," ebe Rees Davies. "Beth ynte, beth oedd yr hymn ?" meddai Mrs. Jones.

" Arglwydd oni ddarfu it addo,
Bod lle byddo ond dau neu dri, &c."

311

ebe Rees Davies, ac ychwanegai, " Mrs. Jones, yr wyf yn disgwyl y cenwch chwi gyda ni yn fuan." Ac felly fu, ymunodd a'r achos a bu yn ffyddlon hyd angau. Yn fuan wedi hyny ymunodd William Jones, Cae-athgen, a hwynt, yr hwn a fu yn ffyddlon a llettygar hyd derfyn ei oes, a Morris Davies, Talyrnau, hen wr gonest a ddaliodd ati hyd y diwedd, a Richard Rowlands a'i wraig, toddedig a theimladol yn wastad wrth wrando yr efengyl, a'i Amen gynes a siriolai galon y pregethwr ; Rowland James oedd un o'r ffyddloniaid cyntaf, ac a dynodd ei gwys i'r terfyn yn gymhwys; John James, ei fab, a fu yn ddefnyddiol yn ei dyrnor ; James Davies, un o flaenffrwyth yr achos yn Drwsynant, dyn diwyd, gweithgar, a sytnudwyd gan angau yn nghanol ei ddisgwyliadau a'i obeithion; John Anthony oedd nodedig am ei haelioni, ac a fu o gynorthwy mawr i'r achos. Mae lluaws o hiliogaeth yr hen bererinion hyn yn glynu wrth Dduw eu tadau er eu bod wedi eu gwasgaru i Gymru, Lloegr, ac America. Cafwyd llawer o gyfarfodydd llewyrchus yn Nrwsynant, ac er mor gyffredin oedd y lle, ymgeleddwyd yno lawer o eneidiau. Pregethwyd yno gan weinidogion enwocaf Cymru yn yr ugain mlynedd cyntaf o'r ganrif bresenol. Codwyd Ysgol Sabbothol yn nhy Richard Rowlands, i lawr wrth y bont; a bu yno am beth amser, yna symudwyd i Gaeathgen, a chynhelid hi yn y ty, ac ar dywydd teg yn yr haf, yn yr ysgubor; a phregethid weithiau yn y ddau le gan Humphrey Jones, Nathin. Teimlid gwir angen am gapel, ond yr anhawsder oedd cael tir i adeiladu arno. Yn y cyfamser, yr oedd ystad Dolcorslwyn yn cael ei gwerthu, a phrynodd Mr. John Jones, Masnachydd yn Machynlleth, yr hwn oedd yn Annibynwr, gae bychan wrth y pentref, mewn lle cyfleus i godi capel. Trwy ddylanwad Mr. Hughes, o'r Dinas, a Mr. Morgan Machynlleth, cafwyd lle gan Mr. Jones, a gwnaed pryd-les am y tir am ddeng mil o flynyddoedd i godi arno gapel ac ystabl; am yr ardreth blynyddol o pepper corn, os gofynid am dani, ond hyd yma nid oes neb wedi gofyn am dani, Gosodwyd y capel i Mr. Jones i'w wneyd am l00p., yn 10 llath wrth 7, ond yr oedd yr ardalwyr yn ymgymeryd a chludo y defnyddiau. Ni fwriedid cael oriel ynddo ar y dechreu, ond dangosodd y bobl awydd mawr am ei chael, a gosododd Mr. Hughes hi allan i Mr. Rowland Evans, Dinas, am 60p. Yr oedd y capel erbyn ei orphen, heb gyfrif cario y defnyddiau ato, yn llawn werth 200p. Agorwyd ef yn mis Mehefin, 1819, a phregethwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Lewis, Bala; M. Jones, Llanuwchllyn; W. Jones, Trawsfynydd ; C. Jones, Dolgelleu ; J. Roberts, Llanbrynmair; a D. Morgan, Machynlleth. Enwodd Mr. Morgan y capel yn SAMMAH - " Yr Arglwydd sydd yno." Trwy lafur ac ymdrech Mr. Hughes, yr oedd y capel wedi talu am dano cyn ei orphen; a bu yr hen weinidog parchus yma yn llafurus a llwyddianus hyd derfyn ei oes; Rhagfyr 21ain, 1826.   Yn mhen ychydig gyda blwyddyn wedi hyny rhoddwyd galwad i Mr. Hugh Morgan, yr hwn oedd yn aelod gwreiddiol o'r eglwys; a fuasai am dymor dan addysg yn Athrofa Neuaddlwyd, ond oedd ar y pryd hwnw yn cadw ysgol yn y Dinas. Y mae yn deilwng o'i gofnodi, fod yr hen weinidog Mr. Hughes, yn meddwl i Mr. Morgan fod yn olynydd iddo yn Sammah, a'i fod yn disgwyl cael byw i weled hyny. Yr oedd Mr. Morgan wedi bod yn aros am rai misoedd yn Rhoslan, a Capelhelyg, pan yr oedd ei gyfaill, Mr. Rowlands, oddicartref yn casglu, ac yn nechreu Rhagfyr, 1826, derbyniodd lythyr yn ei wahodd yno eilwaith. Deallodd beth oedd eu hamcan, ac wrth gychwyn gyda'i gyfaill, Mr. Hugh Hughes, Foel,

 

312

hysbysodd hyny i'w hen weinidog, Mr. Hughes. Dywedodd Mr. Hughes wrtho mai ei ddymuniad ef a'r cyfeillion yn Sammah oedd iddo ymaefydlu yno; ac ychwanegai, "Wedi fy ymadawiad i, bydd y Dinas a Sammah yn ddwy weinidogaeth;" a'r gair diweddaf a ddy wedodd Mr. Hughes wrth Mr. Morgan wrth ffarwelio oedd, " Yr Arglwydd a fyddo gyda chi, ac a'ch llwyddo." Yn Nhrefriw, cyn dychwelyd o'r daith hono, cafodd Mr. Morgan y newydd trist fod Mr. Hughes wedi marw. Wedi gorphen y tymor dros yr hwn y hwriadai gadw yr Ysgol yn y Dinas ; symudodd i Sammah, a neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, Mehefin 5ed, 1828. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. A.Jones, Bangor. Gofynwyd yr holiadau arferol i'r gweinidog gan Mr. C. Jones, Dolgelleu; offrymwyd yr urdd- weddi gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. M. Hughes, Sardis, ac i'r eglwys gan Mr. M. Jones, Llanuwchllyn. Pregethwyd hefyd gan Meistri E. Davies, Trawsfynydd; E. Evans, Abermaw ; J. Jones, Main, ac eraill. Mae Mr. Morgan wedi llafurio yma o hyny hyd yn awr gyda derbyniad a chymeradwyaeth mawr, a'r Arglwydd wedi rhoddi seliau ei foddlonrwydd ar ei weinidogaeth. Nid llawer a dderbyniodd erioed oddiwrth yr eglwys at ei gynhaliaeth, ond trwy ei ymroddiad a'i ofal ef a'i wraig, y mae ei ddwylaw wedi gwasanaethu i'w cyfreidiau, ac wedi eu galluogi i fod yn haelionus tuag at Dduw a'i dy. Cafodd yr eglwys aml ymweliad oddiwrth yr Arglwydd, fel y cynyddodd yr achos yn fawr ; ac yn enwedig tua'r flwyddyn 1858, ychwanegwyd cynifer fel yr aeth llawr y capel yn rhy fychan i gynwys y cymunwyr. Yn 1861 penderfynwyd ei helaethu yn ddeg Hath a haner ysgwar, a'i ailwneyd drwyddo. Aeth y draul yn 200p. Tanysgrifiwyd l00p, yn yr eglwys cyn dechreu. Agorwyd ef Mehefin 5ed, 1861, yn mhen 33 mlynedd i'r un dydd ag yr urddwyd Mr. Morgan. Gweinyddwyd gan Meistri D. Rowlands, B.A., Llanbrynmair; W. Roberts, Penybont; C. Evans, Foel; B. Evans, Sardis; H. James, Llansantffraid; E. Williams, Dinas; J. Williams, Aberhosan ; E. Ellis, Brithdir; W. Ambrose, Porthmadog; J. Williams, Castellnewydd ; W. Evans, Neuadd-lwyd; a W. Jones, Glynarthen. Nid oedd yr un o'r rhai oedd yn yr agoriad yn 1819 yn yr agoriad yn 1861. Mae Mr. Morgan wedi ei ddal gan lesgedd a mynych wendid; ac yn niwedd y flwyddyn 1870, penderfynodd gael cydlafurwr; ac wedi ymgynghori a'r eglwys, rhoddwyd galwad i Mr. Richard O. Evans, Glynhafren, ac y mae wedi dechreu ei weinidogaeth ddechreu y flwyddyn hon, 1871 ; a goheithio y bydd yn ddefnyddiol a llwyddianus iawn ; ac yr arbeda yr Arglwydd fywyd ei was ffyddlawn, Mr. Morgan, am lawer o flynyddoedd etto.

Y diaconiaid cyntaf yn Nrwsynant oedd Richard Jones, Cwmmeidrol; a William Jones, Caeathgen; ac wedi marw y blaenaf, dewiswyd John Jones, Darowen, yn ei le. Symudodd J. Jones, a neillduwyd Harri Humphreys i lenwi y swydd yn ei le. Bu y brodyr yma a llawer eraill yn ffyddlon a diwyd yn eu cylch; ac y mae eu holynwyr yn y swydd yn dilyn eu camrau.

Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon : -

  • Evan Rowlands.    Yr oedd ef yn was yn Cwmmeidrol pan aeth i'r gyfeillach yn Nrwsynant.    Gweler ei hanes yn nglyn ag Ebenezer, Pontypool.
  • Hugh Morgan.   Y gweinidog presenol.   Derbyniwyd ef yn Drwsynant, tua'r flwyddyn 1816, a dechreuodd bregethu  yn 1820.    Gobeithio na elwir ar neb i ysgrifenu ei fywgraffiad am flynyddoedd lawer.

 

313

  • William Lloyd. Dechreuodd bregethu tua diwedd 1839. Addysgwyd of yn Athrofa y Bala ; urddwyd ef yn y Wern, ac y mae yn awr Nghaergybi.
  • Abraham Mathews. Addysgwyd ef yn Athrofa y Bala; urddwyd ef yn Llwydcoed, Aberdare ; ac yn 1865, ymfudodd i Patagonia, gyda'r fintai gyntaf i'r Wladychfa Gymreig, ac yno y mae.

Daw ein Cofnodiad Bywgraphyddol o Mr Hughes, yr unig weinidog a fu gan yr eglwys hon o flaen Mr Morgan, ynglyn a Dinasmawddwy. Cawsom y rhan fwyaf o ddefnyddiau yr hanes blaenorol o ysgrif eiddo Mr Morgan a ymddangosodd  Nysgedydd 1866, tudal. 92.

Translation by Maureen Saycell (Nov 2012)

This place stands in the village of Cwmllinau, a mile and a half from Cemmaes. Mr W Hughes, Dinas, began preaching here at Drwsynant, on Cwmmeidrol land. Mr Richard Jones, Cwmmeidrol was a member with the Methodists and had licensed Drwsynant to be used for preaching by them. At the time they went to the church for communion, he was not happy with the arrangement and was withdrawing, he spoke to his friends about it. He added that there was a new Independent minister in Dinas and he asked him to come and preach and minister the sacraments, he agreed and this was the beginning of the cause in Sammah.

R Jones had a large family, and as he was comfortably off, he was keen to have them educated and asked Mr Hughes, Dinas, whether he knew of anyone who would open a school if he gave him bed and board for teaching his children. Mr Rees Davies was travelling Wales preaching and teaching and came to Drwsynant. One night R Jones and Rees Davies went to Drwsynant to keep society, also there was an old lady named Ann. On their return to Cwmmeidrol Mrs Jones asked Rees Davies whether they had held a fellowship meeting, he replied sharply "yes". Then asked "Did Aunty Ann,Tydraw, join you?" "yes" he replied more shortly than before " more than you did". "Did you sing there?"She enquired again, "Yes" said Rees Davies. "And what was the hymn?" she asked .  " Lord did you not promise to be where there are only two or three......etc." adding "I hope you will sing with us soon". Soon she became a lifelong member, and after her William Jones, Cae-athgen, Morris Davies, Talyrnau, Richard Rowlands and his wife, Rowland James, James Davies, John Anthony. Many of the old faithful have scattered around Wales, England and America. Many well known preachers were heard at Drwsynant in the first half of this century. A Sunday School was built at Richard Rowlands house, near the bridge, after a while it was moved to Cae-athgen where Humphrey Jones, Nathin, also preached occasionally. The need for a chapel was felt but there was a problem finding land. In the mean time Dolcorslwyn Estate was for sale and Mr John Jones, a businessman in Machynlleth and an Independent, bought a small field in the village ideal to build a chapel on and through the influence of Mr Hughes, Dinas and Mr Morgan, Machynlleth land was acquired from Mr Jones for a lease of 10,000 years for a peppercorn rent, which has not yet been collected. The contract for the chapel was given to Mr Jones for £100, to be 10 x 7 yards and with the community transporting the materials. Originally a gallery was not planned but the members were keen to have one and it was awarded to Mr Rowland Evans, Dinas for £60. When the Chapel was completed it was worth £200. It was opened in July 1819, those officiating were Messrs  J. Lewis, Bala, M. Jones, Llanuwchllyn, W. Jones, Trawsfynydd , C. Jones, Dolgelleu , J. Roberts, Llanbrynmair and D. Morgan, Machynlleth. Mr. Morgan named the chapel SAMMAH - " God is here". Through the effort of Mr Hughes, the minister, the chapel was paid for before the building was complete. He continued as minister until his death on December 21st 1826. Mr Hugh Morgan was called to succeed him as minister, an original member of the chapel who had been educated at Neuaddlwyd and was keeping school at Dinas. He was the one that Mr Hughes wanted to take over,  his last words to Mr Morgan were "The Lord be with you, and grant you success". After completing his term at the school in Dinas he was ordained at Sammah on June 5th, 1828. Those officiating were  Mr. A.Jones, Bangor. Mr. C. Jones, Dolgelleu, Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, Mr. M. Hughes, Sardis, Mr. M. Jones, Llanuwchllyn. Sermons were also given by Messrs E. Davies, Trawsfynydd, E. Evans, Abermaw, J. Jones, Main, and others. Mr Morgan remains as minister, and despite being on a low stipend he and his wife have always been generous to the cause. The congregation has increased considerably, particularly around 1858, to a point where the chapel was extended in 1861 to be ten and a half yards square, and renovated throughout at a cost of £200. It was reopened on June 5th, 1861, exactly 33 years to the day from when Mr Morgan was ordained. Those officiating were Messrs D. Rowlands, B.A., Llanbrynmair, W. Roberts, Penybont, C. Evans, Foel, B. Evans, Sardis, H. James, Llansantffraid, E. Williams, Dinas, J. Williams, Aberhosan, E. Ellis, Brithdir, W. Ambrose, Porthmadog, J. Williams, Castellnewydd, W. Evans, Neuadd-lwyd and W. Jones, Glynarthen. None of those officiating at the opening in 1819 were present in 1861. By the end of 1870 Mr Morgan was weakening and decided to have some help, the church called Mr Richard O Evans, Glynhafren and he began his ministry early 1871, we wish him well and may the Lord grant Mr Morgan many more useful years.

The first Deacons at Drwsynant were  Richard Jones, Cwmmeidrol and William Jones, Caeathgen and following the death of the former John Jones, Darowen in his place. When John Jones moved away Harri Humphreys replaced him.

BIOGRAPHICAL NOTES*

  • EVAN ROWLANDS - farm servant at Cwmmeidrol - see Ebenezer, Pontypool.
  • HUGH MORGAN - the current minister - confirmed at Drwsynant, 1816 - began preaching 1820 - living.
  • WILLIAM LLOYD - began preaching 1839 - educated Bala - ordained at Wern - now at Holyhead.
  • ABRAHAM MATHEWS - educated at Bala - ordained Llwydcoed, Aberdare - emigrated in 1865 to Patagonia, with the first wave of Welsh migrants and remains there.
  •  
  • For biographical notes for MR HUGHES see Dinas Mawddwy

Most of the information above taken from Dysgedydd 1866, page 92.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

CEMMAES ROAD

Translation available on  /big/wal/MGY/Darowen/Hanes.html

"Dechreuwyd pregethu yn achlysurol yn nhy John Jones, Ty'nrhos, Darowen, tua'r flwyddyn 1816, neu yn fuan wedi hyny, gan Mr. Hughes, Dinas. Yn mhen amser, symudodd John Jones i Allt Tafolog, yn agos Bethsaida, a chododd Richard Owens, Cefncoch, gapel bychan ar ei dyddyn yn y flwyddyn 1827, a galwyd of Nebo ; ac y mae ychydig enwau wedi bod yma er hyny. Gofalodd Mr. Morgan, Sammah, am y lle fel mam yn gofalu am blentyn gwan, am fwy na deugain mlynedd. Wedi agoriad y ffordd haiarn, a gweled fod nifer o dai yn cael eu codi lle y mae station Cemmaes Road, a bod y lle yn debyg o ddyfod yn bentref, penderfynwyd ail godi Nebo yno, am fod lle yr hen gapel yn hollol anghyfleus. Cymerwyd Mr. Morgan yn glaf tuag adeg cychwyniad adeiladiad y capel newydd, a dywedodd wrth gyfaill -

" Yr wyf fi yn rhy wael i gymeryd gofal dygiad y gwaith yn mlaen, cymerwch chwi hwnw; a pha un bynag ai byw ai marw a fyddaf fi, bydd yma 50p. at draul y capel newydd."

Rhoddodd hyny fywyd newydd yn y cyfeillion, ac ymroisant i weithio a'u holl egni. Gweithiodd llawer yn ardderchog mewn cyfranu a chasglu, ond rhagorodd un wraig arnynt oll. Agorwyd y capel newydd Mehefin 28ain a'r 29ain, 1870, ac  oedd ei holl ddyled wedi ei thalu ddydd ei agoriad. Gweinyddwyd ar  achlysur gan Meistri E. Hughes, Penmain; J. Owen, Llangefni ; J. R. Roberts, Aberhosan.; J. Jones, ac S. Edwards, Machynlleth ; I. Thomas, Towyn ; J. C. Williams, Corris ; ac E. Williams, Dinas. Mae y lle yn parhau fel o'r dechreuad dan  un weinidogaeth a Sammah.

Codwyd yma ddyn ieuangc o'r enw James Jones i bregethu ; bu yn Athrofa y Bala, ac y mae yn awr yn Mhrifysgol Glasgow. "  

 

CARNO

Dechreuwyd pregethu  yr ardal hon gan y diweddar Mr John Roberts, Llanbrynmair; ac ar ol pregethu llawer o dy i dy, sicrhawyd darn o dir at adeiladu capel ar dir Mr Joseph Thomas, Creigfryn. Dyddiad y weithred ar y tir ydyw Chwefror laf, 1811, ac fel ymddiriedolwyr yr ydym yn cael enwau John Davies, Rhydlydan, Llanwnog;John Roberts, Llanbrynmair ; James Griffiths, Machynlleth ; James Davies, Bwlchyffridd ; David Roberts, Llanfyllin, y rhai a ddynodir fel gweinidogion yr efengyl ; a John Jones, masnachydd, Machynlleth ; Richard Tibbott, masnachydd, Machynlleth ; Charles Jones, masnachydd, Llan-

314

fyllin ; Richard Jones, Tymawr, Llanbrynmair; David Davies, Cwmclegyrnant, Llanbrynmair ; a John Roberts, Ieuaf, Llanbrynmair. Y mae yn debygol i rai o'r rhai olaf gael eu hychwanegu mewn blynyddau diweddarach. Agorwyd y capel Hydref 18fed, 1811. Yn Ebrill 1812 y bu y cymundeb cyntaf ynddo, a derbyniwyd pump o'r newydd.

" Aeth traul ei adeiladiad yn fwy na £350. Bernir na ddylasai fyned yn gymaint. Derbyniwyd £100 o Loegr tuag at y ddyled. Talwyd y gweddill gan gyfeillion yn yr ardal, ac yn Llanbrynmair. Erys cof hir a chynes am ffyddlondeb teuluoedd y Creigfryn, Trawsgoed, Pentre'rne, Plasau, Pikins, y Beudy-hir, y ddau Glanhanog, Evan Humphrey o'r Capel, ac eraill, eu llafurus gariad ar gychwyniad yr achos yma. Y mae hiliogaeth rhai o'r teuluoedd hyny wedi bod yn ddefnyddiol gydag achos Gwaredwr mewn llawer man yn Lloegr ac America.*"

Bu y lle dan ofal gweinidogion Llanbrynmair hyd ddiwedd y flwyddyn 1848, pan y symudodd Mr John Roberts i Rhuthyn (nid 1847, fel y cam hysbyswyd yn hanes Llanbrynmair), ac y rhoddodd Mr S. Roberts i fyny ofal Carno, oblegid fod y cylch yn rhy eang iddo heb gyd-lafurwr. Rhoddodd yr eglwys alwad i Mr John Jones, Penllys, yr hwn a ddechreuodd yma yn 1849, ac a fu yma hyd 1851, pan y symudodd i Sir Amwythig i ffarmio. Wedi ei ymadawiad, derbyniodd Mr Edward Roberts alwad, yr hwn oedd wedi bod dros chwe blynedd yn llafurio  y Foel a Llanerfyl. Daeth Mr Roberts yma yn 1852, a llafuriodd gyda chymeradwyaeth a mesur o lwyddiant hyd 1865, pan y symudodd i Coedpoeth, Sir Ddinbych. Bu adfywial grymus ar yr achos yn adeg gweinidogaeth Mr Jones, ac un arall nerthol iawn yn 1861, yn nhymor gweinidogaeth Mr Roberts. Yn 1866, derbyniodd Mr Robert Ellis, yr hwn a fuasai am dymor dan addysg yn Manchester, alwad, ac urddwyd ef Hydref 13eg, yn yr un flwyddyn. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr E. Roberts, Coedpoeth. Holwyd y gofyniadau gan Mr J. Roberts, Conway. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr H. Morgan, Sammah. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr R. Ellis, Brithdir (tad yr urddedig), ac i'r eglwys gan Mr J. Jones, Smethcott. Gweinyddwyd hefyd yn y cyfarfodydd gan Meistri D. Rowlands, B.A., Llanbrynmair ; H. James, Llansantffraid; H. Ellis, Llangwm ; a J. Watkins, Bwlchyffridd. Mae Mr Ellis yn parhau yma yn y weinidogaeth, a'r achos ar y cyfan mewn agwedd lwyddianus.

Translation by Maureen Saycell (Aug 2009)

Preaching was started here by Mr John Roberts, Llanbrynmair, and after preaching from house to house, a piece of land was acquired for building a chapel on land owned by Mr Joseph Thomas, Creigfryn. The date on the deed is February 1st, 1811. The trustees named on it are  John Davies, Rhydlydan, Llanwnog; John Roberts, Llanbrynmair ; James Griffiths, Machynlleth ; James Davies, Bwlchyffridd ; David Roberts, Llanfyllin, Ministers of the church; and  John Jones, Businessman, Machynlleth ; Richard Tibbott, Businessman, Machynlleth ; Charles Jones, Businessman, Llanfyllin ; Richard Jones, Tymawr, Llanbrynmair; David Davies, Cwmclegyrnant, Llanbrynmair ; and John Roberts, Ieuaf, Llanbrynmair. It is likely that some of the latter were added in later years. The Chapel was opened October 18th, 1811. The first communion was held in April 1812, when 5 new members were accepted.

" The cost of building went beyond £350. It was judged that it should not have been so much. £100 was received from England toward the debt. The remainder was paid by local friends and those in Llanbrynmair. The following familles are remembered warmly for their help and care in the beginning - Creigfryn, Trawsgoed, Pentre'rne, Plasau, Pikins, Beudy-hir, both of the Glanhanog, Evan Humphrey, Capel. Their descendants continue in the faith in many places including England and America."*

The ministers of Llanbrynmair took care of this place until 1848, when Mr John Roberts moved to Ruthin, (not 1847 as mistakenly reported in Llanbrynmair's history), and Mr S Roberts gave up the care of Carno, because the area was too large on his own. The church sent a call to Mr John Jones, Penllys, who started here in 1849 and stayed until 1851 when he moved to Shropshire to farm.. Following his departure Mr Edward Roberts accepted a call, he had been at Foel and Llanarfyl for 6 years. He started here in 1852 and was sucessful and liked until 1865, when he moved to Coedpoeth, Denbighshire. There was a strong revival during Mr Jones' Ministry and another in 1861 during Mr Roberts' time. In 1866 Mr Robert Ellis, who had been studying in Manchester accepted the call and was ordained here on October 13th, the same year. On the occasion a sermon on the nature of a church was given by Mr E. Roberts, Coedpoeth. Questions were asked by Mr J. Roberts, Conway. The ordination prayer was offered by Mr H. Morgan, Sammah. Mr R. Ellis, Brithdir , father of the ordinant, preached to the minister, and a sermon to the church from Mr J. Jones, Smethcott. The following also took part - Messrs  D. Rowlands, B.A., Llanbrynmair ; H. James, Llansantffraid; H. Ellis, Llangwm ; and J. Watkins, Bwlchyffridd. Mr Ellis remains here and the cause appears healthy.

* Llythyr Mr S. Roberts.

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

BEULAH

(Llanerfyl parish)

Y mae y capel yma  mhlwyf Llanerfyl, mewn ardal uchel, fynyddig, a elwir Nantyreira. Mae y lle yn hollol ddiarffordd, ond yn y cyfeiriad o Lanbrynmair i Cann-office, tua haner ffordd o'r naill i'r llall. Mae yn y gymydogaeth lawer o ffermydd ; ac er mai mynydd-dir gwyllt yw y tir, ceir yma lawer o bobl gefnog eu hamgylchiadau. Driugain mlynedd yn ol, a chyn hyny, yr oedd amryw o'r trigolion yn aelodau  Llanbrynmair, a chyrchent yno yn gyson i'r moddion ar hyd llwybrau corsiog, gwlybion, ac elai y diweddar Mr John Roberts yno atynt yn achlysurol i bregethu iddynt. Yn Nghwmderwen y dechreuwyd pregethu ; ac yr oedd Thomas

* Llythyr Mr S. Roberts.

315

Edwards, Cwmderwen, a'i wraig, a Hugh Sychnant, a'i wraig, a Susan o'r Myrddyn Llwyd, y rhai cyntaf o'r gymydogaeth a ymunodd a'r eglwys yn Llanbrynmair. Cyrchent yno bob wythnos yr holl ffordd i'r gyfeillach, a chyn ymadael wrth y Ddolgaregwen, cydymgryment gyda'u gilydd i weddio. Yn Nolgaregwen y pregethodd Mr John Breese, wedi hyny o Liverpool, ei bregeth gyntaf. Yr oedd ar y pryd yn was yn Cwmcarnedd, ac yn gweithio yn Prisgwyncyll. Mae yma rai etto yn ei gofio, yn ei glocs a'i smockfrock, yn pregethu y noson hono. Pregethwyd llawer yn Cannon, Ffrwdfawr, a Phenffriddnewydd, cyn codi y capel. Adeiladwyd capel Beulah yn 1822, ar ddarn o dir ar etifeddiaeth Wynnstay ; a thalwyd am dano trwy ffyddlondeb yr ardalwyr, a'r cymhorth a gafwyd gan y fam eglwys yn Llanbrynmair ; ac wedi codi capel Llanbrynmair,  cymerwyd areithfa yr hen gapel, bwrdd, a pheth o'i ddodrefn eraill, i  Beulah, ac y maent yno hyd y dydd heddyw. Prif ategwyr yr achos yma yn  gychwyniad, ac am flynyddoedd wedi hyny, oeddynt deuluoedd Cwmderwen, Cannon, Bryngwyn, Penffriddnewydd, Hafod, Sychnant, Dolau, a'r Ffriddfawr ; ac y mae hiliogaeth rhai o honynt yn parhau yn y lle, ac yn ffyddlon i'r achos.*

Bu Beulah mewn cysylltiad gweinidogaethol a Llanbrynmair hyd fynediad Mr Samuel Roberts i America yn 1858. Er hyny ni bu yno weinidog sefydlog ; ond gofelir am y lle yn benaf  awr gan Mr Evans, Llanbrynmair, a Mr Evans, Foel, fel y ddau gymydog agosaf. Rhifa y gynnulleidfa tua 130 yn gyffredin, ac y mae o leiaf haner y nifer hwnw yn aelodau. Maent yn nodedig o ffyddlon i ddyfod i'r moddion, os na bydd hi yn dywydd afresymol i neb fyned o'i dy ; ac y mae yn anhawdd cael cynnulleidfa o wrandawyr mwy astud ; ac y mae ynddi nifer o ddynion deallus yn mhethau yr efengyl. Sonir ganddynt am adgyweirio yr hen gapel, neu adeiladu un newydd, ac y mae mawr angen am hyny. #

Translation by Maureen Saycell (Aug 2009)

This chapel is in the parish of Llanerfyl, in a high , mountainous area named Nantyreira. It is a very remote place, about half way between Llanbrynmair and Cann Office. The area has many farms and despite the fact that the land is rough there are many well off people here. Sixty years ago and earller, many were members in Llanbrynmair and travelled the wet and muddy paths to worship, as well as Mr John Roberts coming to preach to them occasionally. Preaching began at Cwmderwen and Thomas Edwards, Cwmderwen, and his wife,  Hugh Sychnant, and his wife and Susan from Myrddyn Llwyd, were the first to become members at Llanbrynmair. They went all the way to the socials weekly, and before going their separate ways at Dolgarregwen they would kneel and pray together. It was at Dolgarregwen that Mr John Breese, later of Liverpool, gave his first sermon. At the time he was a servant in Cwmcarneddand working in Prisgwyngyll. There are still some who remember him preaching that night in his smock and clogs. Preaching took place in Cannon, Ffrwdfawr and Penffriddnewydd before the chapel was built. Beulah was built in 1822 on a piece of land on the Wynnstay estate, it was paid for by the local faithful with some assistance from the mother church at Llanbrynmair, when the new chapel was built in Llanbrynmair the old pulpit, table and some other furniture was taken to Beulah, and remain there to this day. Those supporting the new cause and for years after were the familles of  Cwmderwen, Cannon, Bryngwyn, Penffriddnewydd, Hafod, Sychnant, Dolau, and Ffriddfawr, and their descendants remain in the area and faithful to the cause.*

Beulah was in joint ministry with Llanbrynmair until Mr Samuel Roberts left for America in 1858. Since then there has been no regular minister, most of the care being taken by Mr Evans, Llanbrynmair and Mr Evans, Foel, being the closest neighbours. The congregation numbers about 130, at least half of them being members.They are notably faithful in their attendanceof the services, unless the weather is bad enough to prohibit them leaving their homes, it would be most difficult to find a more attentive congregation which includes some knowledgeable in the scriptures. There is talk of restoring the chapel, or building a new one, which is badly needed.#

* Llythyr Mr B. Roberts.

 # Llythyr Mr 0. Evans.

 

BWLCHYFFRIDD

(Aberhafesb parish)

Aberhafesp y gelwid yr achos yma gynt, am mai mewn gwahanol fanau yn mhlwyf Aberhafesp y cyfarfyddid; ond pan godwyd y capel, galwyd of Bwlchyffridd. Sail o fewn pedair milldir i'r Drefnewydd, ar ddarn o dir sydd yn cysylltu dau ddyffryn prydferth, sef dyffryn Hafren, yr hwn a red i fyny i Gaersws, a dyffryn Creginog, yr hwn sydd yn rhedeg i fyny at Creginog Hall, palas Arglwydd Sudley. Ymddengys fod pregethu yn mhlwyf Aberhafesp er yn foreu iawn. Nid yw yr Ysgafell lle y preswyliai Mr Henry Williams ond tua phedair milldir oddi yma'i a phregethodd ef a'i gyd-lafurwyr lawer yn yr holl wlad oddi amgylch yma. Yn nyddiau Meistri Lewis Rees a Richard Tibbott, yr oedd llawer o aelodau Llanbrynmair yn preswylio yn y plwyf hwn, a chyfarfyddent a'u gilydd i gynal cyfeillachau crefyddol, a deuai eu gweinidogion yn fynych i bregethu iddynt. Pan oedd Mr Evan Roberts, tad. Mr J. Roberts, Llanbrynmair, yn byw yn mhlwyf Mochdre, at y gangen oedd yn Aberhafesp y deuai i'r cyfeillachau crefyddol, er mai aelod o Llanbrynmair ydoedd. Fel y crybwyllasom eisioes, yr oedd  Llanbrynmair y pryd hwn nifer o Fedyddwyr yn aelodau ; ac ymddengys mai y Bedyddwyr oedd luosocaf yn y

* Llythyr Mr B. Roberts.       # Llythyr Mr 0. Evans.

316

gangen yn Aberhafesp, oblegid mae yn debyg eu bod  fwy dan ddylanwad gweinidogion y Bedyddwyr yn y Dolau a'r Pentre, ac  mwynhau mwy o'u gweinidogaeth. Adeiladodd y Bedyddwyr gapel heb fod yn nepell oddi yma, lle y maent yn ymgynnull etto ; ac o hyny allan, parhaodd yr Annibynwyr i ymgynnull o dyledswydd i dyledswydd, gan gyfrif eu hunain yn aelodau yn Llanbrynmair, a deuai gweinidogion Llanbrynmair i bregethu iddynt.

Nis gallwn gael allan i sicrwydd pa bryd y ffurfiwyd y gangen yn Aberhafesp yn eglwys Annibynol. Er fod y cyfamod eglwysig a dynwyd allan ganddynt  awr ger ein bron, ac enwau yr aelodau cyntaf wedi eu cadw yn ddiogel ; ond  anffodus, nid oes dyddiad i'r cyfamod. Yn ol pob peth a allwn gasglu, yr oedd rywbryd wedi 1780, a chyn dechreu gweinidogaeth Mr J. Roberts. Y mae un o hen aelodau yr eglwys, Mr Charles Benbow,  yn cofio yn dda am ymweliadau Mr Tibbott i'r ardal i bregethu. Pregethai yn aml ar y maesydd, ac yn  unrhyw dyledswydd y rhoddid derbyniad iddo, nes o'r diwedd y dechreuwyd cynal moddion yn sefydlog yn Brynygroes, tyddyndy bychan rhwng Bwlchyffridd a Llanwnog. Yn fuan wedi hyny, agorodd Mr Richard Lewis, Gareglwyd, ei dyledswydd, yr hwn oedd  lle helaeth a chyfleus, a chafodd yr achos gartref yma dros lawer o flynyddau. Yr oedd Mr Lewis, Gareglwyd,  amaethwr cyfrifol, ac yn berchen ar amryw ffermydd  y gymydogaeth, a bu o gynorthwy mawr i'r eglwys ; ac y mae wyrion iddo yn glynu gyda'r achos yn  y lle hyd y dydd hwn. Y mae yn debyg mai yn y Gareglwyd y corpholwyd yr eglwys, tua'r flwyddyn 1790, fel y gallwn farnu oddiwrth y gwahanol adroddiadau a roddir. Dyma y cyfamod ar yr hwn y cytunasant : .................................

" Y Cyfamod Eglwysig y cytunwyd arno gan y Gymdetíhas o Ymneillduwyr  Protestanaidd yn Aberhafesp"

(Not extracted)

317

(Not extracted)

John Reynolds, Richard Lewis, Evan Evans, Morris Griffiths, Francis Watts, Joseph Richards, Evan Morris, Elizabeth Lewis, Mary Watts, Jane Shutt, Margaret Morris, a Jane Griffiths. Y tri cyntaf ar y rhestr oeddynt brif gefnogwyr yr achos, ac yr oeddynt mewn amgylchiadau bydol cysurus, ac yn ddynion o gymeriadau crefyddol nodedig. Sonir yn arbenig am John Reynolds fel un enwog yn ei ofal am yr achos yn y lle. Aeth y Gareglwyd  rhy gyfyng i gynwys y rhai a ddeuai yn nghyd. Mewn llythyr at ei frawd yn America, dyddiedig Chwefror 1800, dywed Mr J. Roberts, Llanbrynmair : - " Bydd  dda genych glywed fod y gymdeithas yn Aberhafesp wedi cynyddu yn ddiweddar nes ydyw ty Mr R. Lewis yn rhy fychan i'w chynwys ; ac yr ydym wedi cytuno am dir wrth Bwlchyffridd i godi arno addoldy yr haf nesaf." Yr oedd y llecyn ar yr hwn y saif y capel yn lle nodedig  y dyddiau gynt. Yma yr arferid cyfarfod i ymladd ceiliogod, a dwyn yn mlaen chwareuon annuwiol at y Sabbothau ; a meddyliwyd nas gallesid gwneyd dim yn well na chodi y capel ar y llanerch lle yr oedd y diafol a'i weision wedi arfer cynal eu campau annuwiol, heblaw ei fod  ganolog rhwng y tri phlwyf - Aberhafesp, Tregynon, a'r Bettws, trwy y rhai yr oedd yr aelodau yn wasgaredig. Cafwyd y tir yn rhodd ac yn rhad gan y boneddwr oedd y pryd hwnw yn berchenog y Creginog Hall. Agorwyd y capel yn 1800, ac yr oedd gofal yr eglwys ar y pryd, ac am flynyddau wedi hyny, ar Mr J. Roberts, Llanbrynmair. Deuai yma  rheolaidd unwaith bob mis, ac elai oddi yma y prydnawn i Penarth. Nid ymddengys fod ffydd y cyfeillion yma yn gref  yn nghodiad y capel cyntaf, oblegid gwelwyd yn fuan ei fod yn llawer rhy fychan ; a chyn pen deng mlynedd, bu raid ei dynu lawr, a chodi un llawer helaethach. Agorwyd hwnw yn  1810 ; a thra y buwyd  ail adeiladu y capel, cynhelid y cyfarfodydd  y Gareglwyd fel

Translation by Maureen Saycell (Aug 2009)

This cause was previously known as Aberhafesp, as they met in various parts of that parish that meetings were held, but when the chapel was built it was named Bwlchyffridd. It stands within 4 miles of Newtown, on a piece of land connecting two beautiful valleys, that of the Severn, running to Caersws and the Gregynog valley leading to Gregynog Hall, home of Lord Sudley. It appears that preaching began in Aberhafesp very early. Ysgafell, the home of Mr Henry Williams, is only about 4 miles away, and both he and his fellow workers preached everywhere in the area. In the days of Messrs Lewis Rees and Richard Tibbott  there were many members of Llanbrynmair living in this area, they came together for religious social meetings and their ministers frequently came to preach to them. When Mr Evan Roberts, father of Mr J Roberts, Llanbrynmair, lived in the parish of Mochdre, he attended the religiou socials at Aberhafesp despite being a member at Llanbrynmair. As mentioned there were a number of Baptists  who were members at Llanbrynmair, and it appears that they were in the majority at the branch in Aberhafesp and they seemed to be under the influence of the Baptist ministers at Dolau and Pentre and enjoyed their ministry. The Baptists built a chapel not far from here where they continue to worship. Since then the Independents continue to meet, considering themselves to be members of Llanbrynmair with the ministers from there coming to preach to them.

We do not know when Aberhafesp branch became an Independent church. The original Church Agreement drawn up is now in our possesion, preserving the names of those original members, but unfortunately it is not dated. From the available evidence it appears to be around 1780, before the ministry of Mr Roberts. An elderly member, Mr Charles Benbow, remembers Mr Tibbott's visits to preach in the area. He would frequently preach in fields, or anywhere he was given a welcome, until eventually regular services were held at Brynygroes, a smallholding between Bwlchyffridd and Llanwnog. Shortly afterward Mr Richard Lewis, Gareglwyd, allowed them a place which was spacious and convenient and this gave the cause a home for many years. Mr Lewis, Gareglwyd was a responsible farmer, owning many farms in the neighbourhood, and a great supporter of the church, and his grandsons continue to this day. It is likely that it was at Gareglwyd that the Church was formed around 1790, from the various reports available. This is the Covenant they drew up:............

 

" The Church Covenant agreed upon by the Society of Nonconformist Protestants in Aberhafesp"

(Not Extracted)

John Reynolds, Richard Lewis, Evan Evans, Morris Griffiths, Francis Watts, Joseph Richards, Evan Morris, Elizabeth Lewis, Mary Watts, Jane Shutt, Margaret Morris, and Jane Griffiths.The first three were the main backers of the cause, all in a comfortable wordly state and strongly religious. John Reynolds, particularly, was known for his care of this place. Gareglwyd became too small for the congregation. In a letter to his brother in America, dated February 1800, Mr J Roberts, Llanbrynmair, states - " You will be pleased to hear that the association in Aberhafesp has grown lately so that Mr Lewis' house is too small to hold them, and we have agreed on a piece of land near Bwlchyffridd to build on next summer." The land where the chapel stands was notorious in days gone by, it was where cock fights were staged along with other ungodly games on Sundays. The idea that there could be no better use, along with the convenience or all 3 parishes - Aberhafesp, Tregynon and Bettws, where the scattered members lived. The land was donated by the owner of Gregynog Hall. The chapel was opened in 1800 and was under the care of Mr J Roberts, Llanbrynmair. He used to attend once a month and went from here to Penarth in the afternoon. It is obvious that the original members had little faith, as the chapel they built was soon too small and had to be rebuilt in 10 years. The new one was opened in 1810 and during the building services continued to be held in Gareglwyd as before. Seeing the cause getting stronger, Mr Roberts encouraged this church and Penarth to get together and share a minister. They decided on Mr James Davies, a student at Wrexham, who was ordained on April 18th, 1811. The following officiated - Dr. G. Lewis, Llanuwchllyn ; Dr. Jenkin Lewis, Wrexham ; Dr. T. Phillips, Neuaddlwyd ; and Messrs J. Roberts, Llanbrynmair ; J. Griffiths, Machynlleth ; D. Williams, Llanwrtyd ; and W. Hughes, Dinasmawddwy. Mr. Davies worked here faithfully and with a measure of success. He accepted many members into the church, among them two that were to prove very useful - John James and George Morgan. Mr Davies remained here for 7 years before emigrating to America*.

In 1821 the College was moved from Llanfyllin to Newtown and Dr George Lewis became the minister there and at Bwlchyffridd, as well as teaching at the College. A call was sent to his son in law, Mr Edward Davies, who was a supporting teacher at the College, to co-minister with Dr Lewis. He was ordained in Bwlchyffridd on January 24h, 1822. On the occasion a sermon on the nature of a church was given by Mr. J. Whitridge, Oswestry. The minister's confession of faith was accepted by Dr. G. Lewis. The ordination prayer offered by Mr. T. Weaver, Shrewsbury. Mr. W Williams, Wern, preached to the minister, and Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, to the church. Mr. Davies, with the support of the students, cared for the church until 1835, when he gave up the care and confined his ministry to Newtown and teaching at the College. In the same year the church sent a call to Mr John Davies, a student at Carmarthen, and he was ordained on July 8th and 9th, 1835.  The opening address was given by Mr. T. Morgan, Welshpool. The usual questions were asked by Mr. S. Roberts, Llanbrynmair. Mr. E. Davies, Newtown, offered the ordination prayer. Mr. James Davies, Llanfair, preached on the duties of a minister and a sermon on the duty of a church was given by Mr. D. Morgans, Machynlleth. Mr Davies's ministry was acceptable for many years but the final 3 were not happy. He gave up his ministry in 1843, he continues to reside in the area and preaches occasionally.

In 1845, a call was sent to Mr John Morris, a student at Brecon, but a native of Ffestiniog, who was ordained here. His stay was very short. Despite all the problems the cause held on and gained strength, to a point where the chapel became too small for the congregation, beside the fact that it was delapidated. It was decided to demolish it and build a bigger one. It was opened on June 21st and 22nd, 1848. The following officiated - Messrs L. Roberts, Sarnau ; H. Morgan, Sammah ; S. Roberts, and J. Roberts, Llanbrynmair ; J. Thomas, Shrewsbury ; and A. Francis, Wrexham. It was announced that the chapel was free of debt on the day it was opened. Despite all the great sermons given there the very short one given by Mr Benbow was the best - "The Chapel is free." In the same year it was opened, Mr John Owen, Newtown, accepted a call from the church. He remained here, successfully, until 1864. It was during his ministry that Bethel, a small chapel on the Waun, between Bwlchyffridd and Llanwnog, was built. John James, previously mentioned, was the one that motivated the building. He donated most of the money to build and collected the rest, before he died, he left £30 to Bwlchyffridd, on condition that they took care of Bethel. Prior to that he had donated £60 to build the current chapel at Bwlchyffridd, he also bequeathed £30 to Cefnfaenor and £30 to Bethany, near Kerry. His memory should be honoured.**

In March 1866, Mr Isaac Watkin, a young man from Abergavenny, came here from the Wesleyans. He was on trial for 3 months, then ordained on June 18th and 19th, 1866. A sermon on the nature of a church was given by Mr. R. Hughes, Cendl, and to the minister by Mr. W. Lloyd, Marton. Mr. D. M. Davies, Llanfyllin, preached to the church. Mr. Watkin was here until September 29th, 1867, when he preached a farewell sermon, leaving for Shrewsbury.

At the end of 1869, Mr Robert Lumley, Cwmbran, accepted a call from the church and was settled here June 22nd and 23rd, 1870. Those officiating were - Messrs J. Peters, Bala ; J. Jones, Machynlleth; R. Hughes, Cendl; H. Oliver, B A.,Newport ; O. Evans, Llanbrynmair . D. Rowlands, B.A., Trallwm ; D. M. Jenkins, Newport and others. This cause has become almost totally English, except for one Sunday morning a month. The cause is strong here and has a strong hold on the community. The church has built a convenient house for the minister at a cost of £250, which was all collected except for the £30 left by Mr John James. The members number 130, we are pleased to hear that Mr Lumley's ministry has begun so well.

We have previously mentioned Mr Samuel Benbow and Mr George Morgan, both alive and in advanced years, they have served the cause well. Mr Williams, Wernwas in this area as a schoolboy before going to Wrexham College, there are still some alive that remember his first attempt at preaching in English, when he failed and turned to Welsh. His teacher was a Mr Roberts.

The only preacher raised here was-

THOMAS PETERS - ordained at Marton, then moved to Caerleon, where he remains.

BIOGRAPHICAL NOTES***

JAMES DAVIES - native of Neuaddlwyd - hard worker, accepted by rich and poor - emigrated to America - problems followed him, died some years ago in Ohio.

 

* MSS Mr. D. Morgan.

** Llythyr Mr. R. Lumley, Bwlchyffridd.

 

***Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

CONTINUED

 

(Gareth Hicks 27 Nov 2012)