GENUKI Home page

Montgomeryshire Montgomeryshire Contents Contents

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

Montgomeryshire section (Vol 1)

Pages 318 - 331

See main project page

Proof read by Gareth Hicks (May 2008)

Chapels below;

 


Pages 318 - 331

318

(Continued) BWLCHYFFRIDD

cynt. Wrth weled yr achos yn cryfhau, anogodd Mr. Roberts yr eglwys yma a'r eglwys yn Penarth i uno a'u gilydd i gael gweinidog cydrhyngddynt ; a sefydlasant ar Mr. James Davies, myfyriwr o Athrofa Wrecsam, ac urddwyd ef yma Ebrill 18fed, 1811. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Dr. G. Lewis, Llanuwchllyn ; Dr. Jenkin Lewis, Wrecsam ; Dr. T. Phillips, Neuaddlwyd ; a Meistri J. Roberts, Llanbrynmair ; J. Griffiths, Machynlleth ; D. Williams, Llanwrtyd ; a W. Hughes, Dinasmawddwy. Llafuriodd Mr. Davies yma yn ffyddlon a chyda mesur o lwyddiant. Derbyniwyd ganddo lawer o aelodau i'r eglwys, ac yn eu plith ddau a fu yn hynod o ddefnyddiol gyda'r achos, sef John James a George Morgan. Mae eu henwau yn parhau yn berarogl yn yr ardal. Arosodd Mr. Davies yma tua saith mlynedd, ac yna ymfudodd i America.*

Yn 1821, symudwyd yr Athrofa o Lanfyllin i'r Drefnewydd, a daeth Dr. George Lewis i fod yn weinidog yn y dref a Bwlchyffridd, yn gystal ag i fod yn athraw yr Athrofa. Rhoddwyd galwad i'w fab yn nghyfraith, Mr. Edward Davies, yr hwn oedd yn athraw cynorthwyol, i fod hefyd yn gyd-weinidog a Dr. Lewis ; ac urddwyd ef yn Bwlchyffridd Ionawr 24ain, 1822. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Whitridge, Croesoswallt. Derbyniwyd cyffes y gweinidog gan Dr. G. Lewis. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Weaver, Amwythig. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W Williams, Wern ; ac i'r eglwys gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair. Bu Mr. Davies, gyda chynerthwy y myfyrwyr, yn gofalu am yr eglwys hyd y flwyddyn 1835, pan y rhoddodd i fyny ei gofal, gan gyfyngu ei lafur i'r Drefnewydd, ac i'w ddyledswyddau fel athraw yr Athrofa. Yn y flwyddyn hono, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Davies, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Gorphenaf 8fed a'r 9fed, 1835. Traddodwyd y gyn-araeth gan Mr. T. Morgan, Trallwm. Gofynwyd yr holiadau arferol gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. E. Davies, Drefnewydd. Pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. James Davies, Llanfair; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. D. Morgans, Machynlleth. Bu Mr. Davies yma yn gweinidogaethu am rai blynyddau yn dra derbyniol ; ond am y tair blynedd diweddaf nid oedd pethau mor gysurus ; ac yn flwyddyn 1843, rhoddodd yr eglwys i fyny ; ond y mae etto yn byw yn y gymydogaeth, ac yn pregethu lle y gelwir am ei wasanaeth.

Yn 1845, rhoddwyd galwad i Mr. John Morris, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, ond genedigol o Ffestiniog, ac urddwyd ef yma ; ond ni bu tymor ei arosiad ef ond byr. Yr oedd yr achos drwy yr holl amgylch-iadau a'r cyfarfu yn dal ei dir ac yn casglu nerth, fel yr oedd y capel wedi myned yn rhy fychan i'r gynnulleidfa, heblaw ei fod yn adfeiliedig. Penderfynwyd ei dynu i lawr, ac adeiladu un helaethach, a dechreuwyd arno o ddifrif. Agorwyd ef Mehefin 21ain a'r 22ain, 1848. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri L. Roberts, Sarnau ; H. Morgan, Sammah ; S. Roberts, a J. Roberts, Llanbrynmair ; J. Thomas, Amwythig ; ac A. Francis, Wrecsam. Cyhoeddwyd y capel newydd yn rhydd o ddyled ddydd ei agoriad. Gweithiodd y gymydogaeth holl egni i gael yr amcan i ben ; a dywedai pawb oedd yno, er yr holl bregethau da a gafwyd, mai y bregeth fwyaf effeithiol oedd pregeth fer Mr. Benbow, pan ddywedodd, " The chapel is free." Yr un flwyddyn ag yr agorwyd y capel newydd,

* MSS Mr. D. Morgan.

319

ac o gylch yr un amser, derbyniodd Mr. John Owen, Drefnewydd, alwad gan yr eglwys ; a llafuriodd yma yn barchus a chymeradwy iawn hyd y flwyddyn 1864, pryd y rhoddodd ofal yr eglwys i fyny. Yn amser gweinidogaeth Mr. Owen, codwyd Bethel, capel bychan ar y Waun, rhwng Bwlchyffridd a Llanwnog. Y John James at ba un y cyfeiriasom eisioes oedd y prif offeryn i'w godi. Rhoddodd y rhan fwyaf o'r arian ato  hun, a chasglodd y gweddill ; a chyn marw, gadawodd yn ei ewyllys 30p. i eglwys Bwlchyffridd, ar yr amod iddynt i ofalu am Bethel. Yr oedd cyn hyny wedi rhoddi 60p. at godi y capel presenol yn Bwlchyffridd; a gadawodd yn ei ewyllys hefyd 30p. i Cefnyfaenor, a 30p. i Bethany, yn agos i Ceri. Y mae enw y fath wr yn werth ei gadw mewn coffadwriaeth.*

Yn Mawrth 1866, daeth Mr. Isaac Watkin yma, gwr ieuangc o Abergavenny, yr hwn a ddaethai oddiwrth y Wesleyaid. Bu yma ar brawf am dri mis, ac urddwyd ef Mehefin 18fed a'r 19eg, 1866. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. R. Hughes, Cendl. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Lloyd, Marton ; ac i'r eglwys gan Mr. D. M. Davies, Llanfyllin. Bu Mr. Watkin yma yn barchus gan ddosbarth o'r gynnulleidfa hyd Medi 29ain, 1867, pryd y traddododd ei bregeth ymadawol, a symudodd i sir Amwythig.

Yn niwedd 1869, derbyniodd Mr. Roderick Lumley, Cwmbran, alwad gan yr eglwys, a'r hon cydsyniodd ; a chynhaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad Mehefin 22ain a'r 23ain, 1870, pryd y gweinyddwyd gan Meistri J. Peters, Bala ; J. Jones, Machynlleth; R. Hughes, Cendl; H. Oliver, B A., Casnewydd ; O. Evans, Llanbrynmair . D. Rowlands, B.A., Trallwm ; D. M. Jenkins, Drefnewydd, ac eraill. Y mae yr achos yma wedi myned yn Saesonaeg yn llwyr, oddigerth un boreu Sabboth o'r mis. y mae yma achos cryf, ac cael gafael lled lwyr ar y gymydogaeth, ac y mae gan mwyaf yn meddiant y gynnulleidfa yn y lle. Y mae yr eglwys newydd godi ty cyfleus i'r gweinidog, yr hwn a gostiodd tua 250p., y rhai a gasglwyd oll yn y gymydogaeth, oddigerth y 30p. y rhai a adawyd gan Mr. John James. Rhif yr eglwys yn awr yw 130 ; a da genym ddeall fod Mr. Lumley yn dechreu ei weinidogaeth dan amgylchiadau mor addawus.

Crybwyllasom eisioes am Mr. Samuel Benbow a Mr. George Morgan, y rhai sydd etto yn fyw, er mewn gwth o oedran, ac y mae eu gwasanaeth wedi bod yn helaeth iawn i'r achos. Bu Mr. Williams, o'r Wern, yn y gymydogaeth hon am ychydig amser yn yr ysgol, pan yn ddyn ieuangc cyn i fynediad. i'r Athrofa i Wrecsam;. ac y mae yma etto rai yn fyw yn ei gofio yn gwneyd y cynyg cyntaf i bregethu yn Saesonaeg, a phan yn methu yn troi i'r Gymraeg. Un Mr. Roberts oeddei athraw.

Nid ydym wedi cael hanes ond am un pregethwr a gododd oddi yma.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

JAMES DAVIES. Yr oedd yn enedigol o gymydogaeth Neuaddlwyd. Ystyrid ef yn bregethwr rhagorol, ac o fywyd dichlynaidd a diargyhoedd.

* Llythyr Mr. R. Lumley, Bwlchyffridd.

320

Yr oedd yn ddyn hynaws a siriol, ond yn gwbl benderfynol yn yr hyn yr ymaflai ynddo--yn gyfaill ffyddlon a chywir - ac yn gymeradwy gan ei frodyr yn y weinidogaeth, a chan yr eglwysi yn gyffredinol. Llafuriodd yn ddiwyd yn y cylch y troai ynddo, ac y mae ei goffadwriaeth yn barchus gan bawb sydd yn ei gofio. Arferai bregethu unwaith y flwyddyn i'r bobl ieuaingc, a mawr y cyrchu a fyddai i'w wrando ; a chafwyd profion fod rhai o honynt wedi eu dychwelyd at yr Arglwydd trwy hyny. Yr oedd yn ymwelydd derbyniol yn y teuluoedd lle y llettyai, a derbynid ef yn roesawgar gan gyfoethog a chyffredin.*

Cyfarfu a siomedigaethau a ddyrysodd ei gynlluniau, ac ymfudodd i America o gylch y flwyddyn 1820. Blin a helbulus a fu ei yrfa yno, fel y deallwn, ac y mae wedi ei gladdu er's blynyddau yn rhywle yn Ohio.

 

LLANWNOG

Dechreuwyd pregethu yn yr ardal hon yn gynar yn y ganrif bresenoL Yn Gwynfynydd, lle y bu tad y diweddar Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, yn byw, y pregethid fynychaf. Un Evan Davies oedd yno yn byw y pryd hwnw, aelod o Bwlchyffridd, ac adnabyddid ef fel " y gweddiwr." Cyrchai y rhai oedd yn gogwyddo at yr Annibynwyr yn yr ardal i Bwlchyffridd i wrando, a deuai Mr. James Davies yn aml i bregethu yma. Pregethwyd llawer yn y Clogau, Brynderwen, a Pharcyresgob, yn enwedig gan myfyrwyr wedi symudiad yr Athrofa i'r Drefnewydd. Ar ol ordeinio Mr. Edward Davies yn Bwlchyffridd, penderfynwyd ar gael gwasanaeth mwy sefydlog yn Llanwnog ; ac yn 1823, corpholwyd yr ychydig aelodau oedd yma yn eglwys yn mharlwr Parcyresgob, a rhoddid iddi ran o weindogaeth Bwlchyffridd. Yn 1826, rhoddwyd tir i adeiladu capel gan Mr. David Reynolds, Tan'rallt, Llanwnog; a throsglwyddwyd ef i Meistri Edward Davies, Drefnewydd ; Samuel Bowen, Drefnewydd ; James Davies, Llanfair ; John Rees, Sarnau ; John Jones, Trefaldwyn ; Samuel Roberts, Llanbrynmair; John Roberts (Ieuaf.), Llanbrynmair ; Charles Benbow, Aberhafesp ; William Jones, Llanwnog ; ac Evan Davies, Parcyresgob; fel ymddiriedolwyr. Dyddiad y weithred ydyw Awst 29ain, 1826. Adeiladwyd y capel y flwyddyn ganlynol, a galwyd ef Seion. Bu Mr. Edward Davies, gyda chynorthwy y myfyrwyr, yn gofalu am y lle hyd ddiwedd y flwyddyn 1834, pan y rhoddodd i fyny ofal Bwlchyffridd a Llanwnog. Dechreuodd Mr. John Davies ei weinidogaeth yma yn 1835, yr un pryd ag yn Bwlchyffridd ; ond parhaodd ei gysylltiad a'r eglwys yma dros yspaid wedi iddo roddi yr eglwys yno i fyny. Bu gofal yr eglwys wedi hyny ar Mr. Roberts, Carno, o'r flwyddyn 1858 hyd nes yr ymadawodd i Coedpoeth ; ac er ei sefydliad yn Carno, y mae Mr. Ellis yn gofalu am yr achos yma.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon :-

* Llythyr Mr. D. Davies, Ty'nyfawnog (gynt).

321

Ni bu yr achos yma erioed yn gryf ; ond y mae y frawdoliaeth yn ffyddlon ac ymdrechgar, ac y mae yma rai personau nodedig wedi bod yn nglyn a'r achos. Mae y Saesonaeg yn cario y dydd yma yn awr, fel y mae y rhan fwyaf o'r gwasanaeth yn cael ei ddwyn yn mlaen yn yr iaith hono.

 

PENARTH

(Llanfaircaereinion parish)

Saif yr addoldy hwn yn mhlwyf Llanfaircaereinion, o fewn dwy filldir i'r dref. Penarth y gelwir y bryndir ar yr hwn y saif, a derbyniodd capel ei enw oddiwrth y lle. Mae yn lled sicr fod yr Annibynwyr yn pregethu gyda gradd o gysondeb yn y parthau hyn er yn gynar yn y ddeunawfed ganrif. Yr oedd lluaws o aelodau Llanbrynmair yn wasgaredig trwy blwyfi Aberhafesp, Manafon, a Llanwyddelen ; ac nid yw yn debyg fod y rhai hyny yn boddloni heb gyfarfod a'u gilydd yn amlach nag y gallasent fyned i Lanbrynmair. Yn ystod y pedair blynedd y bu Mr. Lewis Rees heb ei urddo - o 1734 hyd 1738 - arferai newid ar bob cymundeb a Mr. Jervice, Llanfyllin, cyn-weinidog Llanbrynmair ; ac wrth fyned a dychwelyd pregethent lawer yn nhai yr aelodau trwy y wlad oddiamgylch. Ond yn y flwyddyn 1766 y dechreuwyd cynal moddion yn rheolaidd er cyfleustra i ardalwyr yr amgylchoedd hyn. Y flwyddyn yma y daeth David Richards - Tynyfawnog wedi hyny - o'r Drefnewydd i Lanfaircaereinion, ac efe a'i wraig oeddynt yr Annibynwyr cyntaf yn y plwyf. Yn nhy un Lewis Griffiths, Gof, oedd yn byw yn y Tyisaf, yn ymyl Penygelli, Llanwyddelen. Bu yno bregethu a chymundeb rheolaidd dros rai blynyddau. Ar ddymuniad Mr. Jones, Llangan, cododd y Methodistiaid Calfinaidd gapel yn Llanwyddelen, yr hwn a elwir Capel yr Adfa ; ac oblegid hyny symudodd yr Annibynwyr i Wtrewen, lle y buont yn cyfarfod am yspaid. Oddiyno symudwyd yr achos i'r Tycroes lle y preswyliai yr hen bererin duwiol Richard Tibbot, yr hwn oedd berthynas i Mr. R. Tibbot, Llanbrynmair ; a'r hwn a fu yn swcwr mawr i'r achos am dymor hir ; ac efe a roddodd dir yn rhad i godi y capel arno ; yr hwn a adeiladwyd yn 1789 ; a darn o dir i fod yn lle claddfa yn ei ymyl. Richard Tibbot oedd y diacon cyntaf yn yr eglwys, ac wedi hyny David Richards, Tynyfawnog, brawd-yn-nghyfraith Richard Tibbot; ac wedi hyn John Pryce, Tycroes. Dyma dri o enwau sydd hyd heddyw yn berarogl yn yr ardaloedd hyn ar gyfrif eu duwioldeb. Mr. R. Tibbot, Llanbrynmair, oedd gweinidog yr eglwys hon am y blynyddoedd cyntaf wedi ei ffurfiad, a dilynwyd ef gan Mr. John Roberts; ond oblegid pellder ffordd, ac eangder maes eu llafur, nis gallasent eu gwasanaethu ond yn anaml, heblaw ar y Sabboth cymundeb ; ond cawsant gynorthwy effeithiol gan ddau bregethwr oedd yn perthyn i'r eglwys, sef William Tibbot, Wtrewen, a Richard Davies, Bonfedw ; ac yn enwedig gan yr addfwyn a'r hynaws David Richards, Tynyfawnog, hyd nes y cymerodd ofal eglwys y Sarnau, ac symudodd yno. Yn fuan wedi adeiladu capel, bu yma adfywiad grymus ar yr achos. Mewn llyfhyr a ysgrifenodd Mr. John Roberts at ei frawd yn America, dyddiedig Mai 3ydd, 1796, dywed, " Da genyf eich hysbysu fod cryn adfywiad yn awr ar grefydd oddeutu Penarth a Thregynon. Derbyniwyd deuddeg yma yn y pedwar

322

mis diweddaf, ac yr ydym yn hyderu fod yma rai etto am droi eu hwyn, ebau tua'r nefoedd." Yn amser y gorfoledd mawr yma yn Penarth y niweidiwyd troed yr hen bregethwr Rees Davies. Dyn mawr, cryf, trwm, o'r enw John Rogers, wrth neidio a gorfoleddu, a sathrodd ar ei droed, a chwyddodd yr enyniad i fyny i'w goes, fel y bu raid ei thori ! Yr oedd yr eglwys ar derfyn y diwygiad yn 60 o rifedi; ond oherwydd rhyw amgylchiadau, daeth drwg-deimlad i'r eglwys, yn benaf, fel yr ymddengys, rhwng y ddau bregethwr - W. Tibbot ac R. Davies, Bonfedw ; a rhanwyd teimladau yr eglwys yn eu hachos. Ymfudodd W. Tibbot i America, ac aeth yn agos i haner yr eglwys gydag ef, ac yn eu plith rai o'r aelodau goreu. Ymaflodd darfodedigaeth yn Richard Davies  - bu farw, a chladdwyd ef yn y capel. Rhwng y cwbl, gwanychwyd yr achos yn ddirfawr. Ond cofiodd yr Arglwydd ei bobl, ac ymwelodd a hwy drachefn, nes y llawenychodd eu calonau. Yn ol llythyr a ysgrifenodd Mr. J. Roberts at ei frawd yn Ameriea, Mai, 1808, rhif yr eglwys yn Penarth oedd 32. Yn fuan wedi hyn, anogodd Mr. Roberts yr eglwys yma a'r eglwys yn Aberhafesp i uno a'u gilydd, a chael gweinidog rhyngddynt, gan na allasai efe eu gwasanaethu yn hwy ; ac yn y flwyddyn 1811, rhoddasant alwad i Mr. James Davies, yr hwn a urddwyd yn weinidog iddynt mewn cysylltiad a Bwlchyffridd, fel y crybwyllasom yn hanes yr eglwys hono. Llafuriodd Mr. Davies yma ysbaid chwe' blynedd, ond darfu ei gysylltiad a'r eglwys hon cyn iddo ymadael a Bwlchyffridd. Aeth i gadw ysgol i'r Drefnewydd, ac i gynyg ailgychwyn yr achos yno a dichon mai hyny a barodd iddo ddatod ei berthynas a Phenarth. Yn ei amser ef y cychwynwyd yr achos, ac y codwyd y capel yn Llanfair. Wedi ymadawiad Mr. James Davies - y cyntaf, rhoddodd yr eglwys, a'r gangen yn Llanfair yn awr, alwad i Mr. James, Davies, myfyriwr o Athrofa Llanfyllin ; ac urddwyd ef yn Llanfair, Medi 18fed, 1818; ond er mai yn Llanfair yr urddwyd ef, Penarth oedd y fam eglwys, a'r prif le dan ei ofal. Cymerwyd rhan yn ngwasanaeth yr urddiad gan Meistri D. Williams, Llanwrtyd ; W. Jones, Penybontarogwy ; J. Roberts, Llanbrynmair ; W. Hughes, Dinas ; a James Davies, Bwlchyffridd. Ymroddodd Mr. Davies a'i holl egni i gyflawni ei weinidogaeth yma, ac yr oedd yn ymddangos fel wedi ei wneyd gan natur ar gyfer y lle. Pregethai bob prydnhawn Sabboth yn Penarth, a'r hwyr yn Llanfair ; a'r boreu pregethai ar gylch yn Tynyfawnog, Bedwgwynion, a Brynelen ; ac wedi codi capeli yn y lleoedd yma, aeth y maes yn ormod iddo er holl yni ei natur. Byddai y myfyrwyr yn Athrofa y Drefnewydd yn arfer ei gynorthwyo mewn rhyw gwr o'i esgobaeth agos bob Sabboth ; ac wedi hyny bu y myfyrwyr oedd yn Marton, dan addysg gan Mr. John Jones, yn cynorthwyo ddwywaith bob mis yn y naill fan neu y llall : ond wedi marw Mr. Jones, ac i'r gwyr ieuaingc dan ei ofal fyned ymaith : daeth Mr. Edward Wynne, Lanrhaiadr, yma, yn 1841, i gynorthwyo Mr. Davies yn yr holl leoedd, a bu yma hyd 1842. Ond gwelwyd fod yn cael gweinidog i rai o'r lleoedd ; a rhoddodd Mr. Davies, Penarth a Jerusalem i fyny, gan gymeryd at Lanfair, Siloh, a Penuel. Yn niwedd 1842, rhoddodd yr eglwysi yn Penarth a Jerusalem alwad i Mr. Robert David Thomas, ( Iorthryn Gwynedd), o Lanrwst, ond a fuasai am dymor yn derbyn addysg dan ofal Mr. Eleazer Jones, yn Rhydychain ; ac urddwyd ef Mai 24ain 25ain, 1843. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. Morgan, Llanfyllin. Holwyd y gweinidog gan Mr. J. Davies, Llanfair.

323

Gweddiwyd yr urdd-weddi gydag arddodiad dwylaw gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair ; yr hwn hefyd a bregethodd ar ddyledswydd yr eglwysi ; a phregethodd Dr. A. Jones, Bangor, ar ddyledswydd y gweinidog. Cymerwyd rhan yn nghyfarfodydd yr urddiad hefyd gan Meistri J. Jones, Penllys ; D. Davies, Llanerfyl ; E. Thomas, Llanrwst ; W. Daniel, Ceri ; W. Roberts, Penybontfawr ; A. Francis, Drefnewydd ; J. Roberts, Llanbrynmair ; J. Morris. Main ; M. Jones, Farteg ; a R. Thomas, Croesoswallt. Ymaflodd Mr. Thomas yn ei waith o ddifrif ar ei sefydliad yma. Codwyd capel yn ymyl Bonfedw, a alwyd Canaan ; ac yn 1847, ailadeiladwyd capel. Penarth trwy draul o fwy na 255p. Yr oedd yr amseroedd hyny yn gyfyng a gwasgedig ar amaethwyr, yn enwedig ar diroedd uchel y fath ag y sydd yn yr amgylchoedd yma ; fel yr ymfudodd lluaws America; ac yn 1851, penderfynodd Mr. Thomas fyned i America i gasglu er talu dyledion y capeli oedd dan ei ofal, a bu yn llwyddianus yn ei anturiaeth. Casglodd dros 360p., a thrwy yr hyn a wnaed ganddo, a'r hyn a gasglwyd gan yr eglwysi gartref, cafwyd digon wedi talu pob treuliau i lwyr ddileu y ddyled. Ond yn ei ymweliad ag America, hoffodd Mr. Thomas y wlad, ac ni bu yn esmwyth heb ymfudo iddi. Rhoddodd yr eglwysi dan ei ofal i fyny yu nechreu haf 1854, er nad ymadawodd o'r wlad hyd y flwyddyn ganlynol. Yr oedd Mr. Thomas yn llawn egni a gweithgarwch tra y bu yma yn llafurio ; a thrwy ei lafur ef yn benaf y sefydlwyd yr achos Cymreig yn y Trallwm, ac yr oedd yn flaenllaw iawn yn sefydliad yr achos Cymreig yn y Drefnewydd, a bu yn ymroddgar dros ben gyda'r hyn a elwid yn Genhadaeth Gartrefol Maldwyn. O gylch yr un amser ag y rhoddodd Mr. Thomas yr eglwysi i fyny, derbyniodd Mr. David Evans - y pryd hwnw o Saron, Tredegar - alwad i lafurio yma ; a pharhaodd yma yn weinidog hyd ddiwedd 1870; ac y mae yr achos wedi dal ei dir trwy yr holl flynyddau er yr holl symudiadau. Nis gallesid disgwyl cael yma gynnulleidfa fawr, nac eglwys luosog ; ond y mae yma lawer o hen bobl dda wedi bod yn nglyn a'r achos o bryd i bryd. Crybwyllasom eisioes am Richard Tibbot, Tycroes, yr hwn a roddodd dir i adeiladu y capel ; rhoddodd hefyd dy, a thipyn o dir yn perthyn iddogwerth o 6 i 8 punt yn y flwyddyn - i fod byth yn feddiant i'r eglwys. Yr hen frodyr John Richard, gonest a didderbynwyneb ; John Pryce, hwyliog a chynes gyda chrefydd ; Morris Hughes, Brynpenarth, tawel, pwyllog, a dirodres, David Roberts, Penbelan, manwl a didwyll yn mhob peth; Morris Evans, Graig, cywir a gofalus am gyfrifon yr eglwys; Benjamin Hudson, diddichell a chyfeillgar, ac yn ganwr rhagorol; Benjamin Lloyd, enwog fel crefyddwr, ac yn meddu dawn gweddi tra nodedig, ac eraill a gofir gyda hiraeth ar eu hol gan y rhai a'u hadwaenent.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon

324

LLANFAIRCAEREINION

Dechreuwyd pregethu yma mewn ystafell, gan Mr. James Davies, Aberhafesp, cyn hir wedi iddo ddechreu ei weinidogaeth. Pregethai yn Bwlchyffridd y boreu, yn Penarth am ddau, ac yn Llanfair yr hwyr ; neu dechreuai yn Llanfair y boreu, ac i Bwlchyffridd yr hwyr. Bu ei weinidogaeth yma yn dra llwyddianus, fel y bu raid cael capel yma yn fuan. Cafwyd tir yn mhen uchaf y Llan, gan Mr. Griffith Evans, Glover, ac agorwyd ef tua'r flwyddyn 1813. Y pryd yma, yr oedd Thomas Bebb, o'r Brwyn, a Mrs. Watkins, a'u teuluoedd, yn ffyddlon iawn gyda'r achos. Rhoddodd Mr. Davies ofal Penarth a Llanfair i fyny ; a rhoddwyd galwad i Mr. James Davies, myfyriwr o athrofa Llanfyllin, yr hwn, fel y crybwyllasom yn hanes Penarth, a urddwyd yma, Medi 18fed, 1818. Llafuriodd Mr. Davies yma am fwy na 30 mlynedd, hyd nes yr ymfudodd i America, yn Mehefin, 1849, ac y mae etto yn parhau yn ei fywiogrwydd, er ei fod yn tynu yn agos i 80 oed. Gwelodd wahanol dymorau ar yr achos yn Llanfair, ac ni ddiangodd heb gyfarfod ag ystormydd, ond glynodd yn llwyr wrth ei waith, ac ni bu ei lafur yn ofer. Yn y flwyddyn 1845, ailadeiladwyd y capel trwy draul fawr, ac er i gryn ymdrech gael ei wneyd i dalu am dano, etto teimlai yr eglwys yn y lle fod baich y ddyled yn pwyso yn drwm arni. Wedi ymadawiad Mr. Davies, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Cadwaladr Jones, yr hwn oedd ar y pryd yn weinidog yn Llangollen. Dechreuodd Mr. Jones ei weinidogaeth yma yn 1851, a bu yma yn boblogaidd fel pregethwr hyd nes yr ymfudodd i America, yn nechreu haf 1857. Bu yr eglwys ar ol hyny dros rai blynyddoedd heb weinidog sefydlog. Yn 1861, rhoddwyd galwad i Mr. Robert Evans, myfyriwr o athrofa y Bala; ac urddwyd ef Medi. 25ain, a'r 26ain, y flwyddyn hono. Pregethwyd ar " Annibyniaeth " gan Mr. J. Peters, Bala. Holwyd y gweinidog gan Mr. E. Roberts, Carno. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Williams, Peneges. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. H. Morgan, Sammah, ac i'r eglwys gan Mr. J. Jones, Abermaw. Cymerwyd rhan hefyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan Meistri E. Thomas, Meifod; W. Roberts, Penybont ; D. M. Davies, Llanfyllin; R. Hughes, Trallwm ; D. Evans, Penarth; J. Owen, Bwlchyffridd; H. Lewis, Llanidloes ; L. Jones, Croesoswallt ; D. M. Jenkins, Aberhosan ; J. Jones, Bristol ; ac E. Stephen, Tanymarian.* Bu Mr. Evans yma hyd ddiwedd y flwyddyn 1865, pryd y symudodd i gymeryd gofal yr eglwys yn Bethel, Aberdare, Morganwg. Ar ol hyn, ni bu yma neb yn sefydlog nes y derbyniodd Mr. Richard Roberts, myfyriwr o athrofa y Bala, alwad ; ac urddwyd ef Ebrill 22ain a'r 23ain, 1868. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Peters, Bala ; holwyd y gweinidog gan Mr. J. Jones, Machynlleth ; gweddiwyd am fendith ar yr undeb gan Mr. D. Evans, Penarth ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. Stephen, Tanymarian ; ac i'r eglwys gan Mr. M. D. Jones, Bala. Cymerwyd rhan yn y cyfarfodydd gan Meistri O. Evans, Llanbrynmair ; J. R. Roberts, Abhosan ; C. Evans, Voel ; B. Evans, Sardis ; R. Ellis, Carno ; C.. R. Jones, Llanfyllin; G. Roberts, Main, ac eraill. Ni bu Mr. Roberts yma ond prin ddwy flynedd, canys symudodd cyn diwedd 1870, i gymeryd gofal yr eglwys

* Dysgedydd, 1861. Tu dal. 438.

325

Gymreig yn Gartside Street, Manchester. Mae y mynych symudiadau hyn, ac amddifadrwydd yr eglwys o fugeiliaeth yn y cyfwng rhwng ymadawiad y naill a dyfodiad y llall, wedi bod o anfantais fawr i'r achos. Bu yn perthyn i'r eglwys yma ar wahanol amserau bersonau neillduol, y rhai y teimlid eu dylanwad gan bawb o'u cylch Mr. J. Jones, Gwynyndy, a fu yn fraich gref i'r achos yma am flynyddau lawer. Evan Hughes, er nad oedd ond byr ei ddoniau, oedd yn nodedig am ei ffyddlondeb. Mr. T. Owens, Penllys, wedi ei symudiad i'r Neuadd a wasanaethodd swydd diacon yma yn dda hyd ddydd ei farwolaeth. Mr. J. Evans, Heniarth, a gymerodd ei ran o ofal am yr achos ar ol iddo adael y Wesleyaid ac uno a'r Annibynwyr, er o bosibl fod ei syniadau braidd yn eithafol am ryddid Annibyniaeth.

Yn yr eglwys yma y codwyd i bregethu, John Watkins. Aeth ef a'i fam at y Bedyddwyr, a hyny a fu yn achlysur i sefydlu achos gan yr enwad hwnw yn y lle.

 

SILOH

(Llanfaircaereinion parish ?)

Mae pregethu wedi bod yn Nhynyfawnog er dyddiau Mr. David Richards, ac wedi hyny yn nyddiau ei fab Mr. John Richards. Yn y flwyddyn 1825, rhoddwyd darn o dir gan Mr. J. Richards, ar dir Tynyfawnog, i adeiladu capel, a lle claddu wrtho. Yr oedd y pryd hwnw o dan yr un weinidogaeth a Penarth, ac felly y parhaodd hyd y flwyddyn 1842, pryd y rhoddodd Mr. James Davies i fyny ofal Penarth, gan gyfyngu ei lafur i Lanfair, Siloh, a Penuel. Ailadeiladwyd Siloh yn y flwyddyn 1845, a pharhaodd Mr. Davies i ofalu am y lle hyd nes yr ymfudodd i America, yn 1849; ac er hyny y mae Siloh wedi bod yn olynol dan ofal yr un gweinidogion a Llanfair. Gwelwyd adegau llewyrchus ar yr achos yn Siloh ; a phrofwyd yma ymweliadau grymus oddiwrth yr Arglwydd fwy nag unwaith. Ar nos Nadolig, 1818, yr oedd Mr. James Davies, Llanfair, yn pregethu yma oddiwrth y geiriau,  " Ac y mae cyfaill a lyn wrthyt yn well na brawd." Torodd diwygiad nerthol allan - aeth yn orfoledd cyffredinol - ymdaenodd trwy yr holl wlad - ac ychwanegwyd ugeiniau at yr eglwysi. Nid ydym yn cael i bregethwr godi o'r eglwys yma yr un adeg yn ei hanes ; ond mab i'r efengylaidd David Richards, Tynyfawnog, oedd Mr. David Richards, South Petherton, Somersetshire, yr hwn a fu yn weinidog cymeradwy yn y lle hwnw am 60 mlynedd, ac a fu farw rywbryd o gylch y flwyddyn 1848. Bu John Richards, Tynyfawnog, mab arall i David Richards, yn noddwr caredig i'r achos yma am oes hir. Efe, fel y dywedasom, a roddodd dir yn rhad at adeiladu capel arno.; ac efe a fyddai yn croesawu y rhan fwyaf o'r pregethwyr a ddeuai heibio. Bu yn ddiacon am 54 o flynyddoedd ; 30 o ba rai a wasanaethodd yn Mhenarth, cyn codi Siloh. Dyn bychan, bywiog, cryno, glanwaith yr

326 

olwg arm ydoedd ; ac yr oedd yn hawdd i ddyn dyeithr wrth ei weled mewn cynnulleidfa ddeall ar unwaith nad dyn cyffredin ydoedd. Yr oedd wedi cael gwell addysg na'i gyfoed, ac wedi diwyllio ei feddwl trwy ymroddiad personol. Cafodd fyw i oedran teg, ac ni bu yn analluog i fyned i'r capel ond un Sabboth cyn ei farw. Yr oedd yn Nghymanfa Llanfair, Mehefin 20fed, 1850 ; a bu farw am 2 o'r gloch ddydd. Llun, Mehefin 24ain, yn 91 oed. Claddwyd ef yn mynwent Penarth, yn meddrod ei wraig, yr hon a gladdesid agos i ugain mlynedd cyn hyny.

 

PENUEL

Translation available on http://www.genuki.org.uk/big/wal/MGY/LlanfairCaereinion/Hanes.html

" Mae y capel hwn etto yn mhlwyf Llanfaircaereinion, yn agos i Goedygarthlwyd. Bedwgwynion y gelwir y lle weithiau. Bu Mr. James Davies, Llanfair, yn pregethu llawer yma mewn tai annedd, a chedwid yn yr ardal gyfarfodydd gweddio ac Ysgol Sabbothol ; ac yn 1830, adeiladwyd capel Penuel, ar dir Mr. Hughes, Plascoch, Llangyniw, er mae prydles yw y tir etto, gan nad yw yr ardreth ond swllt yn y flwyddyn, y mae agos gystal a phe buasai yn rhyddfeddiant. Yr ymddiriedolwyr oeddynt Meistri James Davies, Llanfair ; John Jones, Main ; Samuel Roberts, Llanbrynmair ; John Jones, Gwynyndy ; Thomas Hughes, Llanloddian; Thomas Roberts, Tanyffridd ; Joseph Griffiths, Cyfrwydd ; Thomas Davies, Brynelen ; a John Lewis, Llanfair. Ffurfiwyd eglwys yma y flwyddyn gyntaf wedi agoriad y capel, ac y mae y lle o'r dechreuad wedi bod dan ofal gweinidogion Llanfair. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf, ond bu yma o bryd i bryd ychydig o bobl ffyddlon yn gwir ofalu am achos yr Arglwydd. Bu Mr. Richard Herbert yn byw am flynyddau yn nhy capel Penuel; ac y mae yn deilwng o'i goffau fod yr hen frawd Thomas Hughes, Llanloddian, a'i deulu, wedi bod o help mawr i'r achos. Mae eangder cylch y weinidogaeth wedi bod yn anfanteisiol i'r lle bychan gael pregethu mor aml ag y byddai yn ddymunol ; ac yn enwedig i gael pregethu ar yr awr o'r dydd fwyaf ffafriol i gael cynnulleidfa." 

JERUSALEM

(Castellcaereinion parish)

Dechreuwyd pregethu yn yr ardal yma gan Mr. James Davies, Aberhafesp. Symudodd un Benjamin Hudson, aelod o Bwlchyffridd i'r ardal yma i fyw ; a byddai Mr. Davies yn dyfod yma yn achlysurol i ymweled ag ef, ac yn pregethu yn ei dy. Arweiniodd hyn i bregethu mwy rheolaidd ; ac yn nhymor gweinidogaeth ei ganlyniedydd Mr. James Davies, Llanfair, cychwynwyd Ysgol Sabbothol yn Brynelen, a chedwid yno gyfeillachau crefyddol yn gystal a phregethu ; ac o'r diwedd corpholwyd yno eglwys. Pregethid hefyd yn Moedog, yn is i lawr ar y ffordd Trallwm. Ond yn 1841, prynwyd darn o dir yn mhlwyf Castellcaereinion, gan Mr. John Williams, clochydd, Forden, ac adeiladwyd capel cyfleus arno, yr hwn a alwyd Jerusalem. Costiodd dros 208p. Rhoddodd Mr. Davies, Llanfair, ofal y lle hwn i fyny yr un pryd ag y rhoddodd Penarth i fyny ; ac yn niwedd 1842, dechreuodd Mr. Robert D. Thomas

327

ei weinidogaeth yma. Talwyd yr oll o ddyled y capel ar ddychweliad Mr. Thomas o'i daith gasglyddol yn America. Mae y lle wedi bod o'r dechreuad mewn cysylltiad gweinidogaethol a Phenarth, ac felly y mae yn parhau. Bu teulu Mr. Davies, Brynelen, yn nodedig o groesawgar. Nid anghofir eu caredigrwydd gan y rhai a fu yn pregethu yno cyn codi Jerusalem ; ac y mae yn dda genym ddeall fod hiliogaeth y teulu hwn yn glynu wrth yr Arglwydd.

Codwyd i bregethu yma :-

Translation by Maureen Saycell (Aug 2009)

Preaching started here with Mr James Davies, Aberhafesp. One Benjamin Hudson, a member of Bwlchyffridd, moved to the area and Mr Davies would visit him occasionally, preaching at his home. This led to more regular preaching, and during the ministry of his successor Mr James Davies, Llanfair, a Sunday school was started at Brynelen, along with socials and occasional preaching, and eventually a church was formed there. There was also preaching at Moedog, lower down the Welshpool road. In 1841 a piece of land in the parish of Castellcareinion, was bought from Mr John Williams, Bellmaker, Forden, and a convenient chapel built upon it which was named Jerusalem. It cost £208. Mr Davies, Llanfair, gave up the care here and at Penarth at the same time and at the end of 1842 Mr Robert D Thomas began his ministry here. The full cost was paid on the return of Mr Thomas from a trip to America, collecting funds. It has always been in association with the ministry at Penarth and continues so. Mr Davies, Brynelen, and his family have always been very welcoming. Their kindness will not be forgotten by those who preached there before the chapel was built, and we are pleased to understand that their descendants continue to keep with the Lord.

The following were raised to preach here -

 

CANAAN

(Llanfair Caereinon parish)

Pregethwyd llawer yn yr ardal yma mewn lle a elwir Lawnt; ac nid yn fuan yr anghofir caredigrwydd y teulu yma gan y rhai fu yno ; yn enwedig y wraig, Mrs. Davies. Yn 1845, rhoddodd Mr. William Baxter, Bonfedw, ddarn o dir yn rhad i godi capel arno, a galwyd ef Canaan. Ni fwriedid ef ar y cyntaf yn ddim ond lle i gynal Ysgol Sabbothol a pregethu achlysurol; ond er's blynyddoedd bellach y mae pob moddion yn cael eu cynal yn rheolaidd ynddo. Costiodd yn agos i 120p., ond ar ddychweliad Mr. Thomas o'r America, llwyr dalwyd ei ddyled yntau hefyd. Mae y lle yn parhau mewn cysylltiad a Phenarth ; ac er nad yw yr aelodau yn lluosog, y maent yn nodedig o ffyddlon.

Translation by Maureen Saycell (August 2009)

Much preaching was done in the area in a place named Lawns, that family's kindness will long be remembered, particularly the wife, Mrs Davies. In 1845 Mr William Baxter, Bonfedw, donated a piece of land to put the chapel on, it was named Canaan. Initially it was intended to be used for occasional preachng and Sunday School, but full services have been held here regularly for many years. The cost of the chapel was £120, and on the return from America Mr Thomas paid the full amount owing . The place continues to be in association with Penarth, but although the members are not numerous they are very faithful.

BYRWYDD

(Manafon parish)

Pregethid yn Brynhwdog, a lleoedd eraill o gylch yma, er's mwy na deng mlynedd ar hugain yn ol ; ond yn 1850, codwyd yma ysgoldy, a galwyd ef Byrwydd. Costiodd yn agos i 80p. Casglwyd rhan o'r arian gan y cyfeillion yn y lle, a thalwyd y gweddill gan Mr. Thomas, o gynyrch y casgliadau yn America. Yn nglyn a gweinidogaeth Penarth y mae y lle hwn yn parhau, ac er mai i wasanaethu fel ysgoldy y bwriedid ef ar y cyntaf, etto, er's blynyddoedd bellach y mae y cyfeillion yn y lle wedi ymffurfio yn gangen eglwys, a gweinyddir holl ordinhadau y ty yma. Mae yr iaith Seisnig yn ennill tir yma, fel y mae yn rhaid cael y rhan fwyaf o'r gwasanaeth yn yr iaith hono ; ac y mae yr elfen Seisnigaidd yn ymwthio i'r eglwysi eraill o fewn cylch yr un weinidogaeth.

Yr ydym yn ddyledus am lawer o'r ffeithiau cysylltiedig a hanes Penarth a Llanfair, a'r canghenau a darddodd o honynt, i ysgrifeniadau anghyoeddedig y diweddar Mr. D. Morgan, ac i adroddiad Mr. R. D. Thomas yn nghyfarfod Jubili Penarth ; ac i lythyrau a dderbyniasom oddiwrth Mr. David Davies, gynt o Dynyfawnog.

Translation by Maureen Saycell (August 2009)

Preaching took place in Brynhwdog among other places in the area for more than 20 years. In 1850 a schoolhouse was built here and named Byrwydd. The cost was close to £80. Some of the money was collected by the local friends and the remainder was paid by Mr Thomas, as the result of his collections in America. This place continues in association with the ministry in Penarth and although originally intended as a schoolhouse, the friends have formed as a branch of the church and all the sacraments are celebrated here. The English language is gaining ground , so much that most services are now in that language. English is also gaining ground in the other churches in the area.

We are grateful for much of the facts surrounding Penarth and Llanfair, along with their branches, to the unpublished writings of Mr D Morgan and a report at the Penarth Jubilee by Mr R D Thomas, also letters we received from Mr David Davies, previously from Dynyfawnog.

328

SARNAU

(Meifod parish)

Saif y capel hwn yn mhlwyf Meifod, ond y mae rhan o'r fynwent yn mhlwyf Gygigfa, ar y goror rhwng Cymru a Lloegr yn ngwaelod y sir. Mae yr eglwys yn awr wedi ymuno a chyfundeb Seisnig sir Amwythig, fel y mae amryw eglwysi eraill ar y terfynau. Dechreuwyd pregethu yma gan yr Annibynwyr tua'r flwyddyn 1780, gan Mr. J. Griffith, yn ystod y tymor byr yr arhosodd yn Llanfyllin. Wedi priodi, bu Mr. Griffith yn byw heb fod yn mhell iawn o'r Sarnau ; ac un Miss Meredith o'r gymydogaeth hon oedd ei wraig gyntaf. Pregethodd Mr. Griffith lawer yma ar hyd y maesydd ac mewn tai anedd, ac ymgynnullai tyrfaoedd lluosog i'w wrando. Adroddir un hanesyn nodedig am Mr. Griffith, yr hwn a gymerodd le yn yr ardal hon, a'r hwn a ddengys mor dra awyddus ydoedd am achub eneidiau. Yr oedd wedi dyfod yma i bregethu mewn amaethdy ar un prydnawn Sabboth, a gofynodd chlywais wr y ty am gael myned o'r neilldu i ystafell am ychydig. Dangoswyd iddo ystafell i fyned iddi; ond wrth ei weled yn hir heb ddychwelyd, a'r gynnulleidfa wedi dyfod yn nghyd yn lluosog, dechreuodd gwr y ty anesmwytho, ac anfonodd y forwyn i alw arno, gan ei bod yn amser dechreu yr oedfa. Aeth y llances, ond erbyn ei bod wrth y drws, clywai Mr. Griffith yn dyweyd yn uchel -  " nid af oni ddeui gyda mi." Brysiodd y ferch yn ol, a dywedodd wrth ei meistr fod yno ryw un gyda'r pregethwr. "'Does dim fath beth," ebe ei meistr; ond y llances a daerodd mai felly yr oedd, ac ychwanegodd -" ond chlywais i e yn dyweyd, nad a e ddim heb i'r llall ddod gydag ef " "Gad iddo ynte," ebe ei meistr, " fe ddaw y ddau cyn hir." Daeth Mr. Griffith allan o'r ystafell yn fuan, a chafwyd prawf cyn diwedd yr oedfa nad yn unig y daeth, ond fod y gwr y bu mewn ymdrech am ei gael wedi dyfod gydag ef. Dwy flynedd yr arhosodd Mr. Griffith yn Llanfyllin; ond yn yr yspaid hwnw, mwynhaodd ardal y Sarnau gryn lawer o'i weinidogaeth ; ac nid ofer fu ei lafur yno. Nis gallasom gael allan a gorpholwyd yma eglwys gan Mr. Griffith - yr ydym yn tueddu i feddwl na wnaed - ond y cyfrifai yr aelodau oedd yma eu hunain yn perthyn i Lanfyllin a'r Pantmawr. Ymddengys mai pan y sefydlwyd eglwysi Annibynol yn y Sarnau a'r Trallwm, yr hyn a gymerodd le agos yn gyfamserol, y gwelwyd yn ddiangenrhaid cynal addoliad a gweinyddu yr ordinhadau gyda'r un rheoleiddiwch yn y Pantmawr ag y gwneid cyn hyny. Bu yno gymuno ar ol hyn, fel y cawn weled etto, ond nid gyda'r un cysondeb ag o'r blaen. Y mae yr hen fwrdd cymundeb oodd yn y Pantmawr yn awr yn nghapel y Sarnau. Y mae gan yr hen fwrdd hwn ei hanes. Wrtho safodd Vavasor Powell, Henry Williams, Ambrose Mostyn, James Owen, Rees Prothero, William Jervice, John Griffith, ac eraill yn olynol am fwy na chant a haner o flynyddau ; a chafwyd wrtho lawer gwledd felus y cofir am dani yn y nefoedd. Ond i ddychwelyd at gychwyniad yr achos yn y Sarnau. Yn ysgrifeniadau anghyhoeddedig Mr. Morgan, Llanfyllin, dywedir ei fod ef (Mr. M.), mewn ymddyddan ag un o aelodau hynaf y lle, ddeng mlynedd ar hugain yn ol, wedi gofyn pwy oedd yr Ymneillduwyr a bregethodd gyntaf yn yr ardal, attebodd yr hen wr mai y myfyrwyr o Groesoswallt a arferai ddyfod yma, a bod yr athraw, Dr. Edward Williams, wedi pregethu yn y lle amryw weithiau. Mae hyn yn eithaf cyson a'r hyn a ddywedasom eisioes am ddechreuad yr achos gan Mr. Griffith; oblegid yr un

329

flwyddyn ag yr ymadawodd Mr. Griffith o Lanfyllin y symudwyd yr Athrofa o Abergaveny i Groesoswallt. Ar ol sefydliad Mr. Jenkin Lewis yn Llanfyllin yn 1785, yr ydym yn cael ei enw ef yn fynych yn nglyn bedyddiadau a chladdedigaethau yn Sarnau hyd. 1793.

Medi 19eg, 1785, cawn yn llawysgrif Mr. Jenkin Lewis, Llanfyllin, gofrestriad o fedydd Mary, march Edward Ashley, yn mhlwyf Gygigfa, yr hon a fedyddiwyd, a'r cofnod hynaf sydd ar gael yma o'r rhai a fedyddiwyd ganddo.

Medi 12fed, 1790, cawn ef yn bedyddio Thomas, plentyn i John Davies, Gilfach, dilledydd wrth ei alwedigaeth. Y tystion o r gweinyddiad oeddynt John Williams, aelod yn y Sarnau, a William Hughes, o'r Llidiart Fechan, Pantmawr ; ac fel gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llanfyllin y mae Mr. Lewis yn arwyddo ei enw. Parodd symudiad yr Athrofa i Wrecsam yn 1792 amddifadrwydd mawr am weinidogaeth yma, gan nad oedd nifer y gweinidogion ond ychydig. Ond daeth Mr. David Richards, Ty'nyfawnog, yr hwn oedd yn bregethwr parchus yn Mhenarth, i'r lle o gylch yr amser y collwyd gwasanaeth y myfyrwyr, neu yn fuan wedi hyny ; ac urddwyd ef yn weinidog yma, a bu o wasanaeth mawr i'r achos am ddeuddeng mlynedd. Mae dyddiad dyfodiad Mr. Richards i'r lle, ei urddiad, a'i farwolaeth yn mysg y lluaws pethau gwerthfawr o'r fath sydd wedi myned i ddifancoll ; ond y mae agos yn sicr i'w farwolaeth gymeryd lle cyn y flwyddyn 1810 ; oblegid yn y flwyddyn hono yr ydym yn cael Mr. Daniel Davies, myfyriwr o Athrofa Gwrecsam, yn derbyn galwad gan yr eglwys, ac yn ymsefydlu yn y lle. Ac yr oedd un gwr ieuangc o'r enw Mr. Morris wedi bod yma am chwe mis cyn dyfodiad Mr. Davies ar ol marwolaeth Mr. D. Richards ; ond bu y gwr ieuangc hwnw farw yn fuan o'r darfodedigaeth. Bu Mr. Davies yma yn pregethu am un mlynedd-ar-ddeg, ac yna symudodd i Woolerton, sir Amwythig, lle y treuliodd weddill ei oes. Wedi ymadawiad Mr. Davies, daeth Mr. James Peregrine yma yn 1821 o Bishop Castle. Yr oedd yn weinidog yma mewn cysylltiad a Domgay. Nid oedd teimlad yr eglwys yn unol gyda golwg arno, ac ymadawodd nifer o'r aelodau ; ond ni arosodd Mr. Peregrine yma ond hyd 1824, pan yr ymadawodd i America; ac yn fuan wedi ei ymadawiad, dychwelodd y rhai a aethant allan. Y flwyddyn ganlynol i ymadawiad Mr. Peregrine, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Rees, myfyriwr o Athrofa y Drefnewydd. Urddwyd ef Mai 17eg, 1825. Traddodwyd y gyn-araeth gan Mr. E. Davies, athraw yr Athrofa yn y Drefnewydd. Holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Pearce, Wrecsam. Gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. G(O?). Ryan, Trallwm. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Stewart,. Liverpool; ac i'r eglwys gan Mr. W. Williams, Wern. Yr oedd amryw weinidogion eraill yn bresenol, ac yn cymeryd rhan yn ngwasanaeth y cyfarfod. Bu Mr. Rees yma yn gymeradwy a defnyddiol dros amryw flynyddau ; ond yn 1832, symudodd i Cholfort, yn sir Gaerloyw. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1835, rhoddwyd galwad i Mr. David Arthur Owen, myfyriwr o Athrofa y Drefnewydd; ac urddwyd ef Mehefin 15fed, 1835, pryd y gweinyddwyd gan Mr. T. Morgan, Trallwm ; W. Roaf, Elsmere ; T. W. Jenkin, Croesoswallt ; J. Jones, Bromley; D. Morgan, Machynlleth ; D. Price, Penybontfawr; T. Jones, Minsterlay, ac eraill. Bu Mr. Owen yma yn dderbyniol a llwyddianus, hyd nes yn 1838 y symudodd i Smethwick, gerllaw Birmingham. Y flwyddyn ganlynol, rhoddwyd galwad i Mr. John Mark Evans, myfyriwr o Athrofa Hackney, Llundain, a mab i Mr. Evans,

330

Crwys, ger Abertawy ; ac urddwyd ef Mai 20fed, 1839, pryd y gweinyddwyd gan Meistri J. Pearce, Wrecsam ; J. Jones, Preshenlle; T. Morgan, Trallwm.; S. Bowen, Macclesfield; a J. Reeve, Croesoswallt. Arhosodd Mr. Evans yma hyd 1844, pryd y symudodd i Lacharn, sir Gaerfyrddin.

Yn mhen amser, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Lewis Roberts, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, a mab Mr. Roberts, Dinbych; ac urddwyd ef Ionawr 1af, 1846. Ar yr achlysur, gweinyddwyd gan Meistri W. Rees Liverpool . D. Price, Dinbych ; D. Morgan, Llanfyllin ; T. Jones, Minsterley ; ac H. James, Llansantffraid. Bu Mr. Roberts yma yn ffyddlon a diwyd dros lawer o flynyddau, a hyny yn ngwyneb llawer o ddigalondid ; ac ni bu ei lafur yn gwbl ddilwydd. Yn 1854, symudodd i Dorrington, sir Amwythig, lle y mae yn aros etto. Ar ol ei ymadawiad, rhoddwyd galwad i Mr. David Davies, myfyriwr o Athrofa y Bala; ac urddwyd ef Mawrth 9fed, 1855, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri R Hughes, Trallwm ; H. James, Llansantffraid ; J. Griffiths, Domgay ; J. Jones, Minsterley ; D. Evans, Penarth ; J. Owen, Bwlchyffridd ; ac L. Roberts, Dorrington. Bu Mr. Davies yma hyd 1866, pan y rhoddodd i fyny ei weinidogaeth ; ond y mae etto yn y gymydogaeth, ac yn pregethu os gelwir am ei wasanaeth. Mae y mynych symudiadau hyn wedi bod o anfantais fawr i'r achos, ac wedi effeithio i raddau er peri i'r ardalwyr golli eu hymlyniad yn y lle. Yn mis Medi 1869, urddwyd Mr. Thomas Jenkins, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, yn weinidog ar yr eglwys yma. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Farr, Croesoswallt; H. James, Llansantffraid; a J. Morris, Athraw Duwinyddol Athrofa Aberhonddu; ac y mae yr eglwys yn parhau dan ofal Mr. Jenkins, a phob peth yn myned yn mlaen yn gysurus.

Codwyd yma un pregethwr, F. Pugh, yn y flwyddyn 1864 ; ac y mae yn y gymydogaeth etto, ac yn pregethu yn achlysurol. Yr oedd Cymraeg a Saesonaeg yn cael ei bregethu yma er dechreuad yr achos, ond Cymraeg yn benaf hyd tua'r flwyddyn 1825 ; er hyny, y mae yr iaith Gymraeg yma wedi colli tir, fel na bu y pregethu ynddi ond yn achlysurol; ac yn awr er's blynyddau y mae yr achos yn Saesonaeg hollol.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

DAVID RICHARDS. Ganwyd ef yn agos i Langeitho, yn sir Aberteifi. Yr oedd ei dad yn ddiacon yn Llwynpiod yn nyddiau Mr. Phillip Pugh; a gwasanaethodd y swydd am flynyddau. Magwyd ef yn grefyddol, a rhoddodd ei wddf yn ngwasanaeth yr Arglwydd yn moreu ei ddyddiau. Addysgwyd ef yn y gelfyddyd o gylchwr (cooper), a symudodd pan yn ieuangc i'r Drefnewydd, sir Drefaldwyn, i weithio. Priododd ag un Mary Tibbott, chwaer i Richard Tibbott, o Benarth ; ac yr oedd yn berthynas agos i Mr. R. Tibbott, Llanbrynmair. Yr oedd hithau yn ferch ieuangc grefyddol, ac ar y pryd yn gwasanaethu yn y Glasgoed, gerllaw Bwlchyffridd. Wedi priodi, cymerasant dy yn y Drefnewydd, ac ymroddasant wneyd y goreu o'r ddau fyd. Dilynai y gwr ei alwedigaeth, ac yr oedd y wraig yn ddiwyd wrthi yn pobi ac yn gwerthu bara. Yr oedd achos Cymreig bychan gan yr Annibynwyr yn y Drefnewydd ar y pryd, ac un Mr. D. Lewis yn weinidog, a dewiswyd Mr. D. Richards yn ddiacon, a

331

gweinyddodd ei swydd yn ffyddlon am flynyddau. Tua'r flwyddyn 1766 symudodd o'r Drefnewydd i ymyl Llanfaircaereinion, a bu yno yn byw mewn lle a elwir Tir Elusen am oddeutu dwy flynedd; ac oddi yno symudodd i Dy'nyfawnog, lle tua thair milldir i'r gorllewin o Lanfair, ac yno bu y rhan fwyaf o'i oes, ac fel " David Richards, Ty'nyfawnog," y daeth ei enw yn adnabyddus. Yr oedd crefydd yn isel iawn yn mhlwyf Llanfaircaereinion ar y pryd y symudodd yno. Efe a'i wraig oeddynt yr aelodau cyntaf gyda'r Annibynwyr yn y plwyf, ac arferent fyned i Lanbrynmair bob mis i gymundeb. Trwy ei lafur ef yn benaf y dechreuwyd yr achos Annibynol yn mhlwyf Llanfair ; ac oblegid yr anhawsder i gael pregethwyr, dechreuodd gynghori yn gyhoeddus ; a phregethodd ei bregeth gyntaf yn Nhy'nyfawnog. * Llafuriodd yn helaeth fel cynorthwywr i Mr. Tibbott yn Llanbrynmair, Aberhafesp, a Penarth. Er mai Mr. Tibbott oedd y gweinidog, etto efe a bregethai amlaf, ac a ofalai fwyaf am yr achos yn y lle olaf a nodwyd ; a gwelodd lwyddiant mawr ar ei ymdrechion. Wedi claddu ei wraig, symudodd yn ei hen ddyddiau i gymeryd gofal yr eglwys yn y Sarnau ; ac yno y treuliodd ei flynyddau diweddaf yn ddefnyddiol iawn. Bu yn byw am yspaid mewn ystafell a godwyd iddo gan John Davies, Penygroes, yn gydiol a'i dy ; ac aeth wedi hyny i fyw i'r Winllan, lle y gweinyddid arno ac yr ymgeleddid ef yn ofalus gan hen forwyn iddo o'r enw Martha. Nis gallwn gael dyddiad ei farwolaeth, ond yr oedd tua'r flwyddyn 1809. Claddwyd ef yn y Sarnau ; ond nid oes neb a edwyn le ei fedd. Bu iddo saith o blant, a mab iddo ef oedd Mr. David Richards, yr hwn a fu yn weinidog parchus a defnyddiol yn South Petherton, Gwlad yr Haf, am 60 mlynedd. Yr oedd Mr. Richards yn nodedig am ei diriondeb a'i grefyddolder, ac y mae perarogl hyfryd yn nglyn a'i enw gan hen bobl sir Drefaldwyn hyd y dydd hwn ; a da genym ddeall fod llawer o wyrion a gor-wyrion iddo etto yn glynu yn ffyddlon wrth Dduw eu tadau.

DANIEL DAVIES. Ganwyd of yn Hawey Mill, sir Faesyed, Ebrill 12fed, 1787. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Annibynol yn Llanfairmuallt pan yn ieuangc, ac ar gais yr eglwys a'i gweinidog y dechreuodd bregethu. Addysgwyd ef yn yr Athrofa yn Ngwrecsam, ac urddwyd ef yn y Sarnau yn 1810 ; ac wedi llafurio yno am un-mlynedd-ar-ddeg, symudodd i Woolerton, sir Amwythig, le y llafuriodd gyda mesur o lwyddiant am dair blynedd a deugain. Collodd ei olygon, fel y bu raid iddo roddi i fyny ei weinidogaeth yn egos i ddwy flynedd cyn ei farwolaeth. Gwr pwyllog, synwyrol, oedd Mr. Davies, cynil iawn ei eiriau, a gofalus ar  holl ymddygiadau. Ni bu ei gystudd ond byr, ond ei ddiwedd fu tangnefedd. Bu farw yn nhy capel Woolerton, Mawrth 20fed, 1865, yn 78 oed. Claddwyd ef yn mynwent capel Wistanswick, Ile arall oedd dan ei ofal mewn cysylltiad a Woolerton.

JOHN REES. Nis gallasom ddyfod o hyd i ond ychydig o hanes y gwr da hwn. Yr oedd yn enedigol o Benybont-ar-Ogwy, a derbyniwyd ef yn aelod yno gan Mr. William Jones. Derbyniodd ei addysg yn Athrofa Llanfyllin, ac urddwyd ef yn y Sarnau, Mai 17eg, 1825; ac wedi llafurio yno yn ddiwyd a ffyddlon, ac yn nodedig o gymeradwy, hyd 1832, symudodd i Cholfort, sir Gaerloyw, lle y llafuriodd hyd 1847. Gorfodwyd ef gan sefyllfa ei iechyd i roddi i fyny ei weinidogaeth, a symudodd. i'r Amwythig, lle yr oedd

*Cenhadwr Americanaidd. 1852. Tudal. 1. Ysgrif Iorthryn Gwynedd.

 

CONTINUED


Return to top

(Gareth Hicks  - 23 Aug 2009)

Valid HTML 4.01 Transitional

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright © GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI