| Montgomeryshire | Contents |
Proof read by Maureen Saycell (May 2008)
Chapels below;
|
|
332
perthynasau ei wraig. Wedi rhoddi y weinidogaeth i fyny, pregethai yn achlysurol, ac yr oedd yn dra derbyniol gan bawb ; ond yn 1851, rhoddodd angau derfyn ar ei holl lafur. Rhoddir y cymeriad uchaf i Mr Rees fel Cristion a phregethwr, ac nis gellir yn y Sarnau a'r cylchoedd grybwyll ei enw ond gydag edmygedd a pharch. Gallwn gasglu oddiwrth gofnodion y dyddiau hyny ei fod yn ddyn o ysbryd cyhoeddus ; canys yr ydym yn cael ei enw yn fynych yn nglyn a gweithrediadau ei enwad yn ei sir. Fel pregethwr, yr oedd yn fywiog ac effeithiol, ac etto yn amcanu addysgu ac adeiladu ; ac yr oedd ei draddodiad rhwydd yn y ddwy iaith yn ei wneyd yn dderbyniol gan Gymry a Saeson.
(Llansantffraid-yn-Mechain parish)
Y mae Penygroes yn nhref ddegwm Llanerchemrys, yn mhlwyf Llansantffraid-yn-Mechain. Cafodd y apel ei enw oddiwrth dy bychan oedd yn yml y man y saif. Aelodau yn y Sarnau oeddynt y personau a fu a'r llaw flaenaf yn nghychwyniad yr achos ; ac oblegid hyny, cangen o'r Sarnau yr ystyrid ef. Tua'r flwyddyn 1795, os nad cyn hyny, agorodd Mr Thomas Moreton, Pentreheilyn, ei dy i'r Annibynwyr i bregethu ; ac er holl anfoddlonrwydd ei feistr tir, parhaodd i gadw cartref i'r achos hyd 1803, pan y symudodd i Llwydiarth ; ond yno hefyd agorodd ei dy i'r efengyl, fel y cawn achlysur i sylwi pan ddeuwn at Penllys a Braichywain. Wedi ymadawiad Mr Moreton, agorodd un John Badda ei dy ar ochr y Brynmawr i dderbyn y pregethu ; a buwyd yn ymgynull yno dros rai blynyddoedd. Adroddir fod Mr Williams, o'r Wern, unwaith, tua'r flwyddyn 1812, yn pregethu yn nhy John Badda, ac iddo ar ganol y bregeth droi o'r Saesonaeg i'r Gymraeg, gan fod yr hwyl wedi myned yn ormod i'r Saesonaeg ei dal. Preswylid y rhan fwyaf o'r anedd-dai bychain ar ochr y Brynmawr y pryd hwnw gan ddynion crefyddol. Crybwyllasom yn hanes y Sarnau am un John Davies, dilledydd wrth ei alwedigaeth, yn byw yn y Gilfach, ac yn aelod ffyddlon yn y Sarnau. Cynhaliai gyfarfodydd gweddio yn ei dy ar y Sabbothau, o'r flwyddyn 1787 hyd 1791 ; ond yn y flwyddyn olaf a nodwyd symudodd i Ty'nystryd, Llanerchemrys, a pharhaodd yr un modd yma i gynal cyfarfodydd gweddi Yn ei dy am saith mlynedd. Adeiladodd dy bychan iddo ei hun, a galwodd ef Penygroes, a thrwyddedodd ef i bregethu tua 1798, neu y flwyddyn ganlynol. Bron yr un amser dechreuwyd pregethu yn yr Aethnen, lle preswyliai Mr Thomas Moreton, mab Mr Moreton, Pentreheilyn. Yn fuan ar ol dechreu pregethu yn y ddau le, corphorwyd yr ychydig aelodau oedd yma yn eglwys. Yr aelodau ar ffurfiad yr eglwys oeddynt John Davies, a'i wraig Ann Davies; Thomas Moreton, a'i chwaer Rebecca Moreton; Edward Edwards, slater, ac Elizabeth Edwards ei wraig. Dyma flaenffrwyth eglwys Penygroes. Yn 1801, derbyniwyd pump o aelodau newyddion yn yr Aethnen gan y gweinidog, Mr David Richards, Sarnau; sef Thomas Davies, y Fenn; James Edwards, Tynyrywen ; Robert Williams, Crydd ; Ann Evans, a Mary Jones, merched John Davies, Penygroes. Coffeir am Meistri Rees Davies; Azariah Shadrach ; Hugh Pugh, o'r Brithdir ; Jenkin Lewis, Llanfyllin; David Thomas, o Lanfair, John Jones, Afonfechan ; J. Lewis, Llanuwchllyn ; ac eraill, yn mysg y pregethwyr a ymwelent a'r Aethnen a Phenygroes yn yr adeg dan sylw.
333
Pregethodd y ddau frawd Meistri R. a C. Jones, Llanfyllin, hefyd lawer yn yr ardal, a choffeir yn nodedig am bregeth o eiddo Mr Robert Jones, yr hon a draddodedd efe yn y flwyddyn 1808, oddiar y geiriau, " Pa hyd yr ydych yn cloffi rhwng dau feddwl ?" a'r hon a ddilynwyd ag effeithiau grymus. Dalai amryw o aelodau y Sarnau yma i gynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddio yn absenoldeb pregethwr. Yr oedd Edward Morris, gwas i Mr Owens, Penrhos, yn un o'r cyfryw. Pan glywodd ei feistr fod Edward wedi ymuno a'r capelwyr ffromodd yn aruthr, a dywededd wrtho am ddewis yr un a fynai- ai y Penrhos, ai y capel. " 0 y Capel, Syr," meddai Edward, heb ddim petrusder. " Yna, ynte, ymadewch a'm gwasanaeth," meddai ei feistr ; ac felly fu. Yn mhen amser, daeth ei hen feistr heibio i Edward, a chafodd ef yn teri cerig ar yr heol. " Well, Edward, pa un yw y goreu, y capel a thori cerig, ai ynte Penrhos heb y capel ?" " Y capel a thori cerig o ddigon, Syr," meddai Edward. " Wel," ebe y boneddwr, " dos yn dy ol i dy hen wasanaeth yn Penrhos," ac felly yr aeth, ac yno y bu hyd ddiwedd ei oes. Bu Mr. D Richards yn gweinyddu i'r eglwys yn Aethnen a Phenygroes tra y gallodd. Gwnaeth John Davies ystafell at ei wasanaeth yn gydiol a'i dy, fel y gwnaethal y Sunamees hono i Eliseus y prophwyd, yr hwn a dramwyai heibio. Wedi marwolaeth Mr Richards, daeth Mr Daniel Davies, ei olynydd yn y Sarnau, i ofalu am y gangen hon hefyd ; ac yn fuan ar ol dechreuad gweinidogaeth Mr Davies y cedwyd y capel yma. Sylfaenwyd ef yn y flwyddyn 1811, ond nid agorwyd mo hono yn gyhoeddus hyd Ebrill 21ain, 1813. Pregethwyd yn y boreu gan Mr James Davies, Aberhafesp ; a Mr J. Lewis, Bala ; yn y prydnhawn gan Mr Lewis, Newport ; a Mr W. Williams, o'r Wern ; ac yn yr hwyr gan Mr E. Davies, a Mr C. Jones, Dolgellau. * Y personau oedd a'r llaw flaenaf yn nghodiad y capel oeddynt Meistri Roberts, Priddbwll ; Moreton, Aethnen ; T. Davies, Felin; ar hen frawd ffyddlon John Davies. Costiedd y tir £10, a'r adeilad £190, ond cafwyd digon o gerig ato o'r tir lle y saif. Llafuriodd Mr Davies yma nes y symudodd i Woolerton, Sir Amwythig. Wedi ei ymadawiad, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr John Ridge, ac urddwyd ef Awst 4ydd, 1820. Bu Mr Ridge yn hynod boblogaidd yn y cymydogaethau hyn, a'i weinidogaeth yn dra llwyddianus. Adfywiwyd y canu yn fawr, oblegid rhoddodd Mr Ridge i'r rhan hono o wasanaeth y cysegr sylw arbenig. Talwyd rhan fawr o ddyled y capel, ac aed i draul i wneyd eisteddleoedd newyddion ynddo gan fod galwad am danynt ; ond yn nghanol ei ddefnyddioldeb symudodd Mr Ridge i'r Bala, yn 1824. Yn nechreu Ionawr, 1827, cymerodd Mr John Rees ofal yr eglwys, yr hwn ddwy flynedd cyn hyny oedd wedi ei urddo yn y Sarnau, a bu Mr Rees yma yn llwyddianus am chwe' blynedd, nes y symudodd i Loegr. Yn fuan wedi ymadawiad Mr Rees, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr John Williams, Ffestiniog, (Llansilin erbyn hyn), a bu Mr Williams yn gweinidogaethu yma ac yn Llansilin hyd nes yr ymfudodd i America, yn y flwyddyn 1840. Wedi ei ymadawiad, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr John Howes, yr hwn a urddasid ychydig cyn hyny yn Llansantffraid, a bu yma hyd nes y symudodd i Fachynlleth, yn agos i ddiwedd y flwyddyn 1840. Yn nechreu y ftwyddyn 1842, derbyniodd Mr Hugh James, Brithdir, alwad gan yr eglwys hon, a'r eglwysi yn Llansantffraid a Llansilin, a dechreu-
*Evangelical Magazine, 1813. Tudal. 430.
334
odd ar ei weinidogaeth yn mis Mai y flwyddyn hono; ac er hyny hyd yr awr hon y mae wedi llafurio yma gyda pharch a chymeradwyaeth mawr. Adgyweiriwyd y capel yn 1845, trwy draul o £30, ond erbyn 1858 barnwyd y dylesid tynu yr hen dy i lawr, ac adeiladu un gwell a helaethach, yr hyn a wnaed trwy draul o £180, heb gyfrif y llafur a roddwyd yn rhad ; ac y mae yr holl ddyled wedi ei thalu. Nid ydym yn cael fod ond dau bregethwr wedi codi yma, sef Edward Davies, yr hwn a ddaw dan ein sylw yn nglyn a Smyrna ; a Thomas Morgan sydd yn awr yn bregethwr cynorthwyol yn Nghroesoswallt. Mae yma lawer o bersonau ffyddlawn a chywir wedi bod yn nglyn a'r achos heblaw y rhai y coffawyd am danynt eisioes ; ac er nas gallwn ni gofnodi eu henwau yma, mae en cymeriadau yn sail dda i gasglu fod eu henwau wedi eu hysgrifenu yn y nefoedd.
Pa mor bell yr effeithiodd gweinidogaeth nerthol pregethwyr y cyfnod cyntaf ar Lansantffraid-yn-Mechain, nid oes genym un wybodaetb. Os dygwyd rhai o'r trigolion dan ddylanwad yr efengyl, nid oes yr un prawf o hyny wedi ei adael ar gof a chadw i ni. Cawn fod rhai yn mhlwyf Llanfechain yn glynu wrth yr Arglwydd. Cyfarfyddent yn nhai Arthur Chidlaw a Richard Trollus, ac yr oeddynt o 50 i 60 o rifedi. Yr ydym wedi cael enw Arthur Chidlaw eisioes yn un o'r rhai a adeiladasant gapel Llanfyllin ; ac yr ydym yn cael enw Richard Trollus yn mysg y rhai a garcharwyd yn y Trallwm o achos enw yr Arglwydd Iesu. Nid oes gan yr Annibynwyr yr un achos yn Llanfechain yn awr, ac nid ydym yn cael fod un cynyg wedi ei wneyd ganddynt i bregethu yma, er pan rwystrwyd Mr Robert Jones, Llanfyllin, i bregethu yn yr awyr agored gerllaw Pontydreflan.
Yn 1805, daeth Miss Mary Ann Jones, i Lansantffraid, i gadw siop, mewn ty a adeiladasid iddi. Yr oedd hi er's mwy na deng mlynedd cyn ei dyfodiad yma yn aelod yn Llanfyllin, ac wedi symud yma ymunodd a'r cyfeillion a gyfarfyddent yn Aethnen a Phenygroes; ond mynodd hefyd drwyddedu ei thy newydd yn Llansantffraid yn lle i bregethu ; a phregethwyd y bregeth gyntaf ynddo gan ei brawd, Mr Robert Jones, Llanfyllin. Parhawyd i gynal moddion crefyddol yn y siop newydd am flynyddau, a phregethid yma fynychaf gan weinidog Penygroes, dan ofal yr hwn yn benaf yr oedd y lle. Bu Miss Jones yn gefn mawr i'r achos am flynyddau, ac wedi iddi briodi a Mr Richard Tibbott, parhaodd y ddau yn eu gofal am achos y Gwaredwr yma hyd nes y symudasant i Lanfyllin yn 1819. Cymerodd Mr David Jones, brawd Mrs Tibbott, y siop ganddynt ar eu symudiad i Lanfyllin ; a chymaint oedd pryder y chwaer dduwiol am yr achos, fel y mynai rwymo ei brawd trwy gytundeb i gadw cartref iddo. Ond ni fynai Mr David Jones ei rwymo felly, ac nid oedd achos chwaith, canys yr oedd ei galon yntau yn gwir ofalu am achos yr Arglwydd, fel y cadwyd y pregethu yn rheolaidd fel o'r blaen. Gwnaed llawer cynyg am gael tir i adeiladu capel, and yn aflwyddianus am fod yr holl dirfeddianwyr yn dra gelynol i Ymneillduaeth ac Ymneillduwyr. Yn 1826, prynodd Mr Jones faes gerllaw y Dreflan, a thalodd am dano lawer mwy na'i werth - oblegid fod yno eraill yn cynyg yn ei erbyn yn yr
335
arwerthiant - a hyny yn unig er mwyn cael lle i adeiladu capel arno. Rhoddodd ddarn o hono yn rhad i godi y capel arno, a bu amaethwyr y gymydogaeth yn garedig i gludo y defnyddiau; ac agorwyd of Hydref 9fed a'r 10fed, 1827. Pregethwyd y noson gyntaf gan. Meistri J. Ridge, Bala; a J. Roberts, Llanbrynmair. Dranoeth, am 10, gan Meistri J. Roberts ; a J. Pearce, Wrecsam. Am 2, gan Meistri T. W. Jenkyn, Croesoswallt ; a J. Jones, Main. Am 6, gan Meistri I. Harris, Wyddgrug ; G. Ryan, Trallwm; a J. Griffiths, Llandegle. Cymerodd Meistri C. Jones, Llanfyllin ; ac E. Davies, hefyd ran yn y gwaith. Felly symudwyd yr arch o dy Mr Jones, Siop, lle y buasai am 22 mlynedd, i'w thrigfa sefydlog yn Bethesda. Bu Llansantffraid mewn undeb a Phenygroes am dymor wedi codi y capel; ac er y byddai pregethu rheolaidd a chymundeb achlysurol yn y lle blaenaf, nid oedd etto eglwys Annibynol wedi ei ffurfio. Mai 8fed, 1829, y cynhaliwyd y cyfarfod eglwysig cyntaf yn y capel newydd, pryd y derbyniwyd pedwar o aelodau newyddion i gymundeb. " Dyma y rhai cyntaf a dderbyniwyd i gymundeb ar ol pedair-blynedd-ar-hugain o lafurio a phregethu yn y pentref gan wahanol weinidogion yr efengyl Dim ond PEDWAR fel ffrwyth llafur PEDAIR- BLYNEDD-AR-HUGAIN !! A'r hyn sydd yn hynod ydyw, gwrthgiliodd y pedwar - llafurio yn galed am bedair-blynedd-ar-hugain cyn gweled blodeu, ac wedi eu gweled, y rhai hyny yn gwywo cyn dwyn ffrwyth."
Yn 1832, ymadawodd Llansantffraid oddiwrth Penygroes, oblegid methu cydweled yn newisiad. gweinidog ; a ffurfiwyd hwy yn eglwys Annibynol gan Mr David Price, Penybontfawr, yr hwn hefyd a weinyddodd Swper yr Arglwydd iddynt. Nid oeddynt ond 11 mewn rhifedi. Pregethid iddynt o hyny allan gan weinidogion a phregethwyr cylchynol, ond yn benaf gan Mr Price, Penybont ; ac yn Rhagfyr, 1834, rhoddwyd galwad i Mr Price i fod yn weinidog i'r eglwys fechan, wedi ei harwyddo gan 15 o bersonau, sef y cwbl oedd ar y pryd yn aelodau ynddi. Cynhaliwyd cyfarfod sefydliad Mr Price yma yn hynod ddirodres. Yr oedd Mr Williams, o'r Wern yn dygwydd dyfod heibio ar noson o'r wythnos ; a chymerwyd mantais ar ei ddyfodiad i sefydlu y gweinidog newydd. Eglurodd Mr Williams natur eglwys, a'i hawl i ddewis ei gweinidog, yna gofynodd arwydd cyhoeddus y gynnulleidfa o'u dewisiad o Mr Price, ac arwyddodd Mr Price ei gydsyniad mewn anerchiad priodol; yna anerchodd Mr Williams y gweinidog, yr eglwys, a'r gynnulleidfa, a therfynodd trwy weddi. Chwanegwyd amryw at yr eglwys yn ystod gweinidogaeth Mr Price, a lluosogodd y gynnulleidfa i raddau mawr, ond oherwydd pellder ffordd ac amledd ei ofalon, rhoddodd yr eglwys i fyny yn niwedd 1838. Yn nechreu 1839, rhoddwyd galwad i Mr John Howes, yr hwn a ddygasid i fyny gyda'r Wesleyaid, ond a oedd y pryd hwnw yn aelod yn Mangor yn yr eglwys dan ofal Dr. Arthur Jones, ac urddwyd of Mai 14eg. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr S. Roberts, Llanbrynmair. Holwyd y gofyniadau arferol gan Mr J. Williams, Llansilin. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr James Davies, Llanfair. Pregethodd Dr. Arthur Jones, Bangor, i'r gweinidog ; a Mr D. Price, Penybontfawr, i'r eglwys. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri C. Jones, Llanfyllin ; J. Morris, Main ; T. Griffiths, Rhydlydan ; J. Jones, Preshenlle ; E. Wynne, Llanrhaiadr; T. Richards; ac E. Jones, (Ieuan Gwynedd), Penybontfawr. Llafuriodd. Mr Howes yma gyda mesur o lwyddiant hyd Hydref, 1840, pryd y symudodd i Salem, Machynlleth. Yn Mawrth, 1842, rhoddodd yr eglwys yma - mewn cysylltiad a'r eg-
336
lwysi yn Llansilin a Phenygroes - alwad i Mr Hugh James, o'r Brithdir, yr hwn a urddasid yn weinidog yno ac yn Rhydymain dair blynedd cyn hyny ; a dechreuodd Mr James ei weinidogaeth yma yn Mai y flwyddyn hono ; ac wedi cael nerth gan Dduw, y mae yn aros hyd yr awr hon. Tri-a-deugain oedd rhifedi yr aelodau a roddasant alwad i Mr James, nawmlynedd-ar-hugain yn ol, ac fel y gallesid disgwyl, y mae y rhan fwyaf o honynt wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Er na bu yr eglwys hon erioed yn lluosog, y mae wedi bod yn weithgar a haelionus. Costiodd y capel cyntaf - yn 1827-£153/17/00. Gwnaed adgyweiriadau yn 1837, a gostiodd £29/13/81/2c. Yn 1844, helaethwyd a prydferthwyd ef trwy draul o £215, fel yr oedd yn un o'r capeli harddaf a ellid ei weled ; ond trwy gydymdrech yr eglwys a'i gweinidog, ac ychydig o help gan gyfeillion oddi allan, talwyd yr holl ddyled, ac yn ddiweddar codwyd ysgoldy cyfleus yn nglyn a'r capel at gadw ysgol ddyddiol. Yn mysg yr un-ar-ddeg oeddyn gwneyd yr eglwys i fyny ar ei chorpholiad, cawn enw Edward Bowen, am yr hwn y dywed y diweddar Mr D. Jones, y ffaith darawiadol a ganlyn. Teimlai Edward Bowen, pan yn ieuangc, yn erlidgar lawn ei ysbryd tuag at yr Ymneillduwyr, a thuag at Mr J. Griffiths, Llanfyllin - Caernarfon wedi hyny - yn arbenig. Ar un Sabboth, pan oedd Mr Griffith yn myned i'r Sarnau, penderfynodd Edward Bowen ymosod arno, a safodd ar bentwr o gerig yn ochr y ffordd, gan benderfynu ei labyddio pan ddeuai heibio. Yn fuan dyma Mr Griffith yn dyfod, a gwelodd Edward o draw, ac amheuodd ei amcan, ac wrth nesau ato gwnaeth fow boneddigaidd. Tarawodd hyn yn effeithiol ar Edward, a meddyliodd fod yn rhaid fod Mr Griffith yn rhywun allan o'r ffordd gyffredin, a gadawodd iddo fyned heibio heb gynyg gwneyd niwed iddo. Yr oedd Edward Bowen y pryd hwnw yn llanc ugain oed, ac o hyny i'w fedd bu a wnelai a'r grefydd yr hon gynt a erlidiasai. Er nad oedd yr eglwys yma ond bechan, bu ynddi gryn nifer o ffyddloniaid, o ba rai y mae amryw wedi huno, ond y mae etto rai yn aros, Nis gallwn eu crybwyll yma, ond ni bydd yn dramgwydd i neb i ni enwi teulu y Siop, y rhai er dechreuad yr achos a fuont ei brif gynhalwyr. Mam yn Israel oedd Mrs Jones, tirion ac ymgeleddgar, ac o foreu ei hoes hyd derfyn ei dyddiau, bu yn ffyddlon yn holl wasanaeth Ty yr Arglwydd.
Codwyd dau i bregethu yma, David Jones ; ac Edward Jones, yr hwn a aeth oddiyma i Lanuwchllyn.
337
338
(DENBIGHSHIRE)
Mae Siroedd Maldwyn, Dinbych, a'r Amwythig yn cydgyfarfod yma ; and y mae eglwys Annibynol y lle wedi bod o'r dechreuad yn nglyn chyfundeb Sir Drefaldwyn. Tua'r flwyddyn 1807, y mae genym yr hanes cyntaf am ddechreuad pregethu yma gan yr Annibynwyr. Yn nhy Hugh Jones, Ty'nllan y pregethwyd gyntaf, a'r tebygolrwydd yw mai Mr D. Richards, Sarnau, oedd y pregethwr. Miriam, gwraig Ty'nllan, oedd yn fwyaf awyddus am groesawu y pregethwyr. Symudodd y teulu o Ty'nllan i le o'r enw Workhouse, a llwyddodd Miriam i gael gan ei gwr ganiatau pregethu yno drachefn. Un tro, yr oedd Mr Robert Roberts, Llanuwchllyn, yma yn pregethu, a'r gynnulleidfa yn aflonydd a therfysglyd, o'r diwedd dywedodd, " Byddwch ddistaw, da gyfeillion, gad mi gael dyweyd gair wrthych am y ffordd i gadw enaid rhag angeu, bydd llon'd fy ngenau i o bridd yn fuan." Cafodd lonydd ar hyny. Bu cyfeillachau crefyddol yn cael eu cynal yn y Priddbwll; a thua'r flwyddyn 1810, dechreuwyd cynal Ysgol Sabbothol yn Melinyglasgoed, ac yr oedd Edward Davies, y Felin ; Robert Roberts, o'r Priddbwllmawr; a Richard Hughes, Hafodty, yn mysg yr athrawon cyntaf. Symudwyd yr Ysgol yn mhen tua dwy flynedd i Pyllaumeirch ; ac wedi bod yno am dymor byr, symudwyd hi drachefn i Wern Llyffeint. Yn y flwyddyn 1815, prynodd Edward Williams, Llansilin ; R. Roberts ; ac R Hughes, tai a gardd, gan un Dafydd Jones, Crydd, yr hwn a breswyliai yn un o'r tai, am £220. Gelwid y tai yr "Henstent." Ni wyddai Dafydd Jones wrth werthu y tai a'r ardd y bwriedid codi capel arno, a phan ddeallodd hyny ffromodd yn aruthr, ac nid gweddaidd iawn oedd yr iaith a ddefnyddiai; ac nid llawer "well ei foes a'i iaith oedd yr offeiriad hefyd o'i bulpud. Ond yr oedd yn rhy ddiweddar, yr oedd y tir wedi ei sicrhau. Trwy anhawsderau mawrion yr aed yn mlaen - gomeddwyd hwy o gerig at adeiladu o un man yn y plwyf; fel y bu raid cario priddfeini o ymyl Croesoswallt ato. Y fath drafferth a gafodd Ymneillduaeth i gael lle i roddi ei throed i lawr mewn llawer plwyf yn Nghymru. Yn 1816, gwerthwyd y capel a'r tai i saith o ymddiriedolwyr, am £340, ac o'r adeg yma y gellir dyddio dechreuad yr achos yn Llansilin. Gweinidogion Penygroes a ofalent am yr achos yn benaf hyd ymadawiad Mr Ridge, yn 1824 ; and am rai blynyddau ar of hyny ymddibynai ar gynorthwy gweinidogion a phregethwyr dyeithr.Yn 1831, rhoddwyd galwad i Mr John Williams, Ffestiniog; a chynhaliwyd cyfarfod i'w sefydlu, Tachwedd 3ydd, a'r 4ydd, y flwyddyn hono. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri H. Pugh, Llandrillo; D. Price, Penybontfawr; E. Davies, Smyrna ; T. W. Jenkyn, Croesos- wallt ; a W. Williams, o'r Wern. Isel oedd yr achos ar ddyfodiad Mr Williams, and yn fuan lluosogodd y gynnulleidfa, ac ychwanegwyd rhai at yr eglwys. Penderfynwyd cael capel newydd, a chodwyd capel da, yn mesur 33 troedfedd wrth 27 troedfedd; ac aeth y draul yn £180, ac agorwyd ef Rhagfyr 23ain a'r 24ain 1832. Llafuriodd Mr Williams yma nes y symudodd i America, yn nechreu 1840. Yr un flwyddyn rhoddwyd galwad Mr Howes, yr hwn oedd ychydig cyn hyny wedi ei urddo yn Llansantffraid, a bu yma hyd ddiwedd 1840, pan y symudodd i Fachynlleth. Yn 1842, daeth Mr H. James a weinidogaethu mewn cysylltiad a Llansantffraid a Phenygroes, a than ei ofal bugeiliol ef y mae
339
y lle yn parhau. Er fod dyled drom ar y lle pan ymadawodd Mr Williams i America, etto yn nhymor gweinidogaeth Mr James talwyd y cwbl. Yn niwedd y flwyddyn 1870, adgyweiriwyd a helaethwyd y capel trwy draul o fwy na £170, ac y mae mwy na'r haner eisioes wedi ei dalu.
Codwyd i bregethu yma Richard Davies, yr hwn sydd yn aros yn bregethwr cymeradwy yn y lle ; a Thomas Griffiths, yr hwn a urddwyd yn Rhydlydan, yn 1838, ac sydd yn awr yn Wigan.
JOHN WILLIAMS. Ganwyd of Mawrth 17eg, 1791, yn mhlwyf Llandilofawr, Sir Gaerfyrddin. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nghapel Isaac, gan Mr Daniel Jones, Crygybar, yn 1810. Dechreuodd bregethu yn 1815, ac yn 1818 aeth i'r ysgol i Neuaddlwyd, lle yr arosodd fwy na dwy flynedd. Cafodd alwad o Bethania, Ffestiniog, ac urddwyd ef yno Mai 31ain, 1821. Llafuriodd yno yn ddiwyd am 10 mlynedd. Casglodd tra yno gan' gini yn Llundain at dalu dyled capel Bethania, a gwelodd ef yn rhydd o ddyled, ac wedi ei helaethu. Symudodd i Lansilin yn nechreu 1831, a'r flwyddyn ganlynol cymerodd ofal Penygroes hefyd ; a bu yno hyd ddechreu 1840, pan yr ymfudodd i America. Sefydlodd yno yn gyntaf yn swydd Indiana, yn agos i Ebensburgh, Pensylvania, lle yr arhosodd am wyth mlynedd. Oddiyno symudodd i Palmyra, Ohio, lle y llafuriodd am naw mlynedd ; ac oddiyno drachefn i Harrison, yn yr un dalaeth, lle y bu am y chwech neu y saith mlynedd olaf o'i oes. Claddodd ei wraig yn 1863, ac yn fuan wedi hyny symudodd at ei ferch yn agos i Newark ; ac yno y bu farw, Hydref bed, 1865.*
Yr oedd Mr Williams yn ddyn da, ond o duedd gwynfanus, ac yn dueddol i edrych ar yr ochr dywyll i bob peth. Gwedd felly fyddai ar ei bregethau, ond yr oedd ei lais yn dyner a thoddedig. Profodd ymfudo yn fanteisiol iddo yn ei amgylchiadau bydol ; a bu yn llawn mor ddefnyddiol yno, ag y gallesid disgwyl iddo fod yn y wlad hon. Bu yn pregethu yr efengyl am fwy na haner can' mlynedd, a disgynodd i'r bedd heb golli ei goron.
(Llanyblodwel parish, Shropshire)
Mae y capel hwn yn mhlwyf Llanblodwel. Mae yr ardal yn myned dan wahanol enwau, ond Smyrna y gelwir y capel. Ymddengys fod pregethu achlysurol wedi bod yn y gymydogaeth yma gan yr Annibynwyr er y flwyddyn 1818. Bu pregethu yn nhy un John Morris, y White Horse, ac wedi hyny yn Tydraw, ac ar ol hyny yn nhy Edward Rees. Yn mhlith y pregethwyr cyntaf a ddeuent yma, yr oedd Meistri E. Davies, Cutiau; Lewis Pugh ; Rowland Roberts, o'r Bala ; a'r myfyrwyr oedd y pryd hwnw yn yr athrofa yn Llanfyllin. Aelodau yn Mhenygroes oedd y cyfeillion oedd yn byw yn yr ardal yma ; ac yn 1825, ar ol i Mr J. Ridge ymadael a'r ardal a myned i'r Bala, penderfynasant ymffurfio yn eglwys An-
* Cenhadwr Americanaidd, Ebrill, 1869,
340
nibynol yn nhy Edward Rees; a chymerodd Mr Edward Davies, Cutiau, yr hwn oedd erbyn hyn wedi dyfod i fyw i Dreflach, eu gofal. Nid oedd nifer yr eglwys ar ei ffurfiad ond pedwar-ar-ddeg ; ond glynasant yn ffyddlon wrth yr achos er lleied oeddynt. Pregethid yn rheolaidd bob nos Sabboth yn Nantmawr hyd nes y codwyd capel Smyrna, yn 1830. Codwyd ef gan Mr William Tannat, y Graig, gan yr hwn yr oedd prydles ar y fan, a gosodwyd ef i'r eglwys dan ardreth o £2 yn y flwyddyn; ond yr eglwys yn y lle a aeth i'r draul o'i drefnu oddifewn. Agorwyd ef Ebrill 24ain, 1831, trwy i Mr E. Davies, gweinidog y lle, bregethu ynddo am y waith gyntaf. Y Sabboth canlynol dechreuwyd Ysgol Sabbothol ynddo; ac ar y 9fed a'r 10fed o Fehefin, cynhaliwyd cyfarfod agoriadol mwy cyhoeddus, pryd y pregethodd Meistri J. Morris, Llanfyllin ; M. Hughes, Llanwddyn; C. Jones, Llanfyllin ; J. Rees, Seaman; W. Morris, Llanfyllin; R. Jones, Llanfyllin ; D. Price, Penybontfawr ; a J. Griffiths, Blodwel. Llafuriodd Mr Davies yma yn ddiwyd nes y tarawyd ef gan ergyd o'r parlys, yr hyn a'i hanalluogodd i gyflawni ei weinidogaeth. Bu Mr J. Williams, Llansilin yn ei gynorthwyo dros dymor trwy ddyfod yma i gadw cymundeb ; ond pan urddwyd Mr J. Howes yn Llansantffraid, yn Mai, 1839, cymerodd hefyd ofal yr eglwys hon, a pharhaodd yn weinidog iddi hyd Mehefin y flwyddyn ganlynol. Yn niwedd yr haf hwnw, daeth Mr Robert Thomas, o Lanrwst - ond a fuasai am dymor yn yr Ysgol yn Marton - yma, ac urddwyd ef yn Nghroesoswallt, Tachwedd 26ain, 1840, i fod yn weinidog i'r eglwys yno, a'r eglwysi yn Smyrna a Bethel. Parhaodd Mr Thomas yn weinidog yma am yn agos i ddeunaw mlynedd, hyd Mai, 1858, pan y symudodd i'r Rhyl, Sir Fflint. Yn nechreu Ionawr, 1863, daeth Mr James Bowen, yma, yr hwn a urddasid yn weinidog Sir Ddinbych; ac efe yw y gweinidog presenol. Mae y lle ar y goror rhwng Cymru a Lloegr, ac y mae yr iaith Gymraeg yn colli tir yma yn gyflym. Mae yr eglwys wedi ymuno eisioes a chyfundeb Seisnig Sir Amwythig ; ac ofer fyddai disgwyl gwneyd daioni i'r genedl sydd yn codi, ond trwy bregethu iddynt yn yr iaith a ddeallir ganddynt.
Mae Mr. Bowen a'r eglwys yn llwyr fwriadu codi capel newydd, ac wedi sicrhau darn o dir at hyny ; ac y mae ganddynt yn barod swm da o arian wedi ei ddiogelu i'r perwyl. Maent yn ymddangos yn teimlo pwysigrwydd y sefyllfa drawsnewidiol y maent ynddi, ac yn gwneyd eu goreu i ddarparu ar gyfer hyny.
EDWARD DAVIES. Ganwyd ef yn Melin Penybont, plwyf Llanblodwel, sir Amwythig, yn flwyddyn 1786. ..............................
341
(Llanyblodwel parish, Shropshire ?)
Mae hanes Bethel yr un yn ei ddechreuad ag achos Smyrna. Dwy gangen o'r un cyff ydynt. Yn 1837, sicrhawyd darn o dir yr ochr ddwyreiniol i drefddegwm Sychtyn, i godi capel arno. Cafwyd y tir gan Edward Rees, am chwe' phunt a chwe' swllt. Sylfaenwyd y capel yn mis Mehefin, 1838, ac agorwyd ef Tachwedd 5ed a'r 6ed, yn yr un flwyddyn. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Morris, Main; J. Jones, Forden ; J. Howes, Bangor ; S. Davies, Ruabon ; S. Roberts, Llanbrynmair ; Griffiths, Blodwel; W. Morris, Llanfyllin, yr hwn a enwodd y capel yn Bethel ; a D. Price, Penybontfawr. Costiodd £117, heblaw llafur rhad yr ardalyddion. Ffurfiwyd eglwys yma yn Mawrth, 1840 ; cytunwyd ar hyny yn rheolaidd mewn cyfarfod eglwysig yn Smyrna, Mawrth 12fed, a chorpholwyd yma eglwys gynwysedig o bedwar-ar-ddeg o bersonau. Er hyny hyd yn awr, y mae Bethel a Smyrna wedi bod dan ofal yr un gweinidogion, ac felly y maent yn bresenol dan ofal Mr Bowen. Nid yw yr faith Gymraeg wedi colli llawn cymaint o dir yn ardal Sychtyn ag y mae yn ardal Nantmawr ; ond gweithio yn mlaen y mae y Saesonaeg yma hefyd, fel y mae y gwasanaeth yn rhwym o gael ei gario yn mlaen yn y ddwy iaith, neu i'r efengyl golli ei gafael ar yr oes sydd yn codi.
(Oswestry, Shropshire)
Er mai yn Sir Amwythig y mae y dref, etto y mae yr achos Cymreig yma o'i gychwyniad wedi bod mewn cysylltiad a chyfundeb Sir Drefaldwyn, fel mai yn nglyn a'r Sir hon y mae yn fwyaf priodol i ni roddi ei hanes. Yn y flwyddyn 1836, ymneillduodd ychydig gyfeillion oddiwrth y Saeson i ddechreu achos Cymreig ; a chymerasant ystafell i'r perwyl gerllaw y White Lion, yn Willow Street. Yr oedd un John Edwards, pregethwr cynorthwyol o'u nifer, ac efe a bregethodd y bregeth gyntaf iddynt, Awst 7fed, 1836 ; ac ar yr 17eg o Fedi, 1837, ffurfiwyd yno eglwys gan Mr John Morris, Main, cynwysedig o 15 o aelodau. Mae tri o'r aelodau cyntaf yn aros yn yr eglwys etto, sef Thomas Griffiths ;
342
Evan Davies ; a Mrs Askin. Tybiai rhai o'r cyfeillion fod John Edwards a'i lygad ar gael ei ordeinio yma ; ac iddo, pan welodd nad oedd gobaith am hyny, gilio yn ol at y Saeson. Bu y gweinidogion a'r pregethwyr cylchynol yn dirion iawn o'r achos yn ei wendid, a deuent yma yn ffyddlon, er mai ychydig a allai yr eglwys roddi o gydnabyddiaeth iddynt. Cymerodd Mr J. Howes, Llansantffraid, ofal yr eglwys, yn 1839 ; a chynhaliwyd cyfarfod i'w gydnabod yn weinidog yma, Hydref 10fed a'r 11eg, o'r flwyddyn hono ; ond ni bu yma ond hyd Gorphenaf y flwyddyn ganlynol, pan y rhoddodd yr eglwys hon, a Smyrna, a Bethel, i fyny, as y cymerodd at Lansilin, a Phenygroes, gyda Llansantffraid. Yn nechreu 1840, symudwyd yr achos i ystafell uwchben cegin berthynol i'r Red Lion, gerllaw y Town Hall ; a byddai trwst y glanhau yn y gegin odditanodd yn aml yn aflonyddu yr addoliad. Yn fuan wedi ymadawiad Mr Howes, rhoddodd yr eglwys yma - mewn cysylltiad. a Smyrna a Bethel alwad i Mr Robert Thomas, o Lanrwst, yr hwn a fuasai am dymor dan addysg gyda Mr Jones, Marton ; ac urddwyd of yn nghapel yr Annibynwyr Saesonaeg, Tachwedd 26ain, 1840. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr D. Morgan, Llanfyllin. Holwyd y gofyniadau gan Mr H. Davies, Llangollen. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr D. Griffiths, Ruabon. Pregethodd Mr L. Everett, Llanrwst, i'r gweinidog ; a Mr D. Price, Penybontfawr, i'r eglwys. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri J. Morris, Main ; A. Francis, Drefnewydd ; T. Griffiths, Rhydlydan; D. Jones, Llansantffraid ; J. Thomas, myfyriwr, Marton, (Liverpool yn awr), ac eraill. Nid oedd nifer yr aelodau pan ddechreuodd Mr Thomas ei weinidogaeth ond 24 ; a thri swllt a chwe' cheiniog yr wythnos oedd y cwbl a allasai yr eglwys addaw iddo. Cynyddodd yr achos yn gyflym, rhoddwyd i'r gweinidog yn fuan bum' swllt yr wythnos ; ac erbyn Rhagfyr, 1842, yr oeddynt mewn sefyllfa i allu rhoddi deg swllt yr wythnos; a threfnwyd i gaeldwy bregeth yn y dref bob yn ail Sabboth. Pobl ieuaingc oedd yr aelodau agos oll, ac oblegid hyny nid oedd yma swyddogion wedi eu dewis yn rheolaidd ar ddechreuad gweinidogaeth Mr Thomas; ond yn 1841, dewiswyd John Askin, ac Edward Roberts, yn ddiaconiaid, ac y maent yn aros hyd yr awr hon ; a'u plant yn dilyn llwybrau eu tadau. Erbyn 1842, yr oedd yr hen ystafell yn orlawn, a meddyliwyd o ddifrif am gael capel newydd. Gan nad oedd yr aelodau oll ond gweiniaid -daeth Mr D. Jones, Llansantffraid, yn mlaen i'w cynorthwyo. Prynwyd, y tir gan Mr James Vaughan, yr hwn hefyd a adeiladodd y capel. Costiodd y tir a'r capel £400. Dyddiad y weithred ydyw Awst 15fed, 1842, a'r ymddiriedolwyr oeddynt Robert Thomas, Croesoswallt; David Price, Rhos ; James Davies, Llanfair; John Jones, Penllys ; Samuel Roberts, Llanbrynmair ; Aaron Francis, Drefnewydd - gweinidogion yr efengyl; ac Allen Emerson Evans, Charles Jones, David Jones, John Byner, a John Jones. Pregethwyd y bregeth gyntaf ynddo y Sabboth cyn y Pasg, 1843, gan Mr D. Jones, Llansantffraid, oddiar y geiriau " Na wnewch dy fy nhad I yn dy marchnad ;" a'r Sabboth canlynol. (Pasg 1843), cynhaliwyd cyfarfod ei agoriad, pan y pregethodd Meistri W. Rees, Dinbych ; S. Roberts, Llanbrynmair D. Price, Rhos ; D, Morgan, Llanfyllin ; H. James, Llansantffraid ; E. Thomas, Llanrwst; D. Jones, Llansantffraid; ac R. Davies, Llansilin. Bu ffyddlondeb mawr yn mysg y cyfeillion i gyfranu a chasglu at y capel newydd, fel erbyn diwedd yr agoriad, yr oedd £74 wedi dyfod i law; yr
343
hyn - yn nghyd a chymunrodd o £44 oddiwrth Mr Davies, tad-yn-nghyfraith Mr J. Vaughan, Builder - a dynodd y ddyled i lawr dan £300. Cafwyd cynorthwy o Lanbrynmair, Llansantffraid, a Llansilin, a daeth Mr S. Roberts i'r dref, a chasglodd £20 yn mysg y Saeson. Rhifedi yr eglwys ar ei mynediad i'r capel newydd oedd 55 o bobl ieuaingc, symudol gan mwyaf ; ond aeth yr achos rhagddo yn siriol am y tair blynedd cyntaf yn y capel newydd. Yn haf 1846, cymerodd camddealltwriaeth le rhwng rhyw bersonau yn yr eglwys ; ac o ddiffyg doethineb a phwyll, parodd hyny gryn niwed i'r achos. Ciliodd amryw o'r aelodau, a lleihaodd y gwrandawyr, fel mai llawn gwaith i'r eglwys oedd cynal yr achos a thalu llog y ddyled. Yn y flwyddyn 1850, gwnaed ymdrech i dalu cyfran o'r ddyled, ac aeth Mr Thomas trwy Sir Drefaldwyn i gasglu. Dyma y flwyddyn y daeth Mr Joseph Evans i'r dref, a bu ei ddyfodiad yn gynorthwy mawr i'r achos ; ac o hyny allan ni adawyd llonydd i'r ddyled nes ei llwyr ddileu. Yn nechreu 1857, codwyd cyflog y gweinidog i 15s. yn yr wythnos, a chael dwy bregeth bob Sabboth. Bu Mr Thomas yma hyd Mai, 1858, pryd y symudodd i Rhyl, ar ol llafurio yma dan wahanol amgylchiadau am 18 mlynedd. Am ychydig fisoedd, ymddibynai yr eglwys ar gynorthwy gweinidogion a phregethwyr dyeithr ; ac adfywiwyd yr achos yn fawr. Rhoddwyd galwad i Mr Lewis Jones, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, i fod yn weinidog, a dechreuodd ar ei waith y Sabboth cyntaf yn Medi, 1858 ; ac urddwyd of ar y 7fed o'r *Tachwedd canlynol. Ar yr achlysur' pregethwyd ar natur eglwys gan Mr W. Jenkins, Brynmawr. Holwyd y gofyniadau gan Mr S. Edwards, Machynlleth. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr C. Guion, Aberhonddu. Rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr R. W. Roberts, Clarach ; a siars i'r eglwys gan Mr J. Saunders, Aberystwyth. Pregethwyd hefyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan Meistri J. Thomas, Ellesmere, a W. Roberts, Penybontfawr. Rhif yr aelodau ar ddyfodiad Mr Jones oedd 65, ac addewid iddo £52 y flwyddyn o gyflog, i'w godi i £60 pan y telid y ddyled. Yn nechreu 1860, torodd diwygiad grymus allan yn yr eglwys pan yr oedd Meistri D. M. Jenkins, (Penmaenmawr) ; R. Lumley, (Bwlchyffridd) ; J. Stephens, (Taibach) - myfyrwyr yn athrofa y Bala - yn galw heibio ar eu ffordd i gynal cyfarfod yn Bethel. Cymerodd rhywbeth dyeithr iawn le, ac enynodd y tan trwy yr eglwys, fel yr ychwanegwyd 24 at yr aelodau mewn ychydig fisoedd ; ac y mac effeithiau yr ymweliad hwnw yn parhau ar yr eglwys hyd yn bresenol. Yn y flwyddyn hono, aeth yr eglwys o ddifrif yn nghylch talu y £140 gweddill o'r ddyled, yr hyn a gwblhawvd trwy gydymroddiad pawb. Rhoddodd Mr Joseph Evans £20/12/0 ; a Mr L. Jones, y gweinidog, £12/9/0 ; a Mr David Evans, Machynlleth, yr hwn oedd yn aros yma ar y pryd, a roddodd y £5 olaf i lwyr ddileu dyled yr hen gapel. Erbyn dechreu 1861, yr oedd rhif yr aelodau yn 108 ; ac nid cynt nag y talwyd dyled yr hen gapel y meddyliwyd am godi capel newydd. Yr oedd rhai yn ofnus, ond dywedodd Mr Joseph Evans os cytunai yr eglwys i gad capel newydd teilwng, y deuai of a £100 ato ; a gwnaeth M. Jones, y gweinidog, addewid am yr un faint, a rhoddodd hyny ar unwaith galon yn y bobl i weithio. Tynwyd cynllun o hono gan Mr Thomas, Glandwr. Cymerwyd ef i'w adeiladu gan Mr J. Rees, Temperance, gynt ; a chostiodd y capel a'r festri, a phob peth o'i gylch, £1015/13/7. Mae ynddo eisteddleoedd i 450. Dechreuwyd arno yn haf 1863. Ar ei sylfaeniad, traddodwyd araeth ragorol
344
ar ragoriaeth y drefn gynnulleidfaol, gan Mr T. Minshull, diacon hynaf y capel Saesonaeg. Tra y bu y capel ar lawr, addolid yn yr Ysgoldy Brytanaidd ; ond gan y byddai ar y Saeson eisiau hono bob prydnhawn Sabboth, cedwid yr ysgol yn ystorfa flawd Mr Joseph Evans, yr hon bob nos Sadwrn a glirid allan i'r perwyl. Agorwyd y capel newydd Mehefin 14eg, 1863, ac ar yr achlysur pregethodd Meistri W. Ambrose, Porthmadog ; S. Edwards, Machynlleth ; T. Thomas, Glandwr ; a J. Jones, Smethcote. Yr un haf ag yr agorwyd y capel, ymadawodd Mr Lewis Jones, oblegid sefyllfa ei iechyd yn benaf, wedi bod yma am bum' mlynedd ; ac y mae yn awr yn Abergwaun, Sir Benfro. Daeth Mr Evans yn mlaen a'i gan' punt, ac er i Mr Jones ymadael, daeth yntau a £60, a thrwy gydymdrech yr eglwys, yr oedd y ddyled erbyn dechreu 1864 wedi ei thynu i lawr i £670, ac er hyny nid yw yr eglwys wedi gorphwyso, fel erbyn nos Sabboth, Chwefror 12ed, 1871, yr oedd y ddyled wedi ei dwyn i lawr i £140, a phenderfynwyd dileu y cwbl erbyn dechreu 1872. Erbyn y Sabboth cymundeb cyntaf yn y capel newydd, gwnaeth Mrs Joseph Evans anrheg o lestri cymundeb hardd at wasanaeth yr eglwys. Yn haf 1868, rhoddwyd galwad i Mr Joseph Farr, yr hwn oedd newydd ddychwelyd i Awstralia, lle y buasai yn weinidog am flynyddau ; a dechreuodd ei weindogaeth yma y Sabboth cyntaf yn Medi y flwyddyn hono. Bu yma yn barchus iawn am 18 mis ; ac fel arwydd o barch yr eglwys iddo, anrhegwyd ef ar ei ymadawiad a swm o arian, yn nghyda Bibl hardd, ac enwau y pedwar diacon ynddo. Ymadawod i Mount Stuart, Caerdydd ddechreu Mawrth, 1870 ; ac er hyny y mae yr eglwys yn amddifad o weinidog. Mae yr eglwys yn awr yn 130 o nifer, a golwg llewyrchus arni - cynnulleidfa dda - ac ysgol Sabbothol nodedig o lafurus. Mae yr eglwys yma teimlo ei bod yn ddyledus i luaws o weinidogion am eu caredigrwydd iddi o'r dechreuad ; ond nid yn fwy i neb nag i Mr S. Roberts, Llanbrynmair, a'r diweddar Mr D. Jones, Llansantffraid, am y cynorthwy effeithiol a roddasant iddi yn ei gwendid dechreuol. Coffeir yn barchus am enw Edward Williams, un o'r aelodau a fu farw yn 1847; ac er nad ydoedd ond dyn cyffredin ei amgylchiadau yr oedd yn uchel ei gyrhaeddiadau, ac yn meddu dawn gweddi nodedig. Gadawodd ar ei ol deulu lluosog, ond gofalodd "tad yr amddifad, a barnwr y gweddwon " am danynt oll.
Codwyd yma ddau bregethwr.
345
Bu John Edwards, am yr hwn y crybwyllasom, yn aelod yma am ychydig yn nechreuad yr achos. John Newman Richards, hefyd fu yma am dymor yn aelod, ond ymfudodd i'r America, ac yn Cincinnati y dechreuodi bregethu yn 1859. Bu yn Athrofa Marrietta, Ohio, ond dychwelodd i'w wlad, ac wedi treulio ei amser yn Athrofa Aberhonddu, urddwyd ef yn weinidog i'r Saeson yn Aberteifi.
Yr ydym yn ddyledus am hanes manwl o'r eglwys yn Nghroesoswallt i Mr Edward Roberts, un o'r diaconiaid, yr hwn sydd wedi bod yma o gychwyniad yr achos ; ac yr ydym wedi rhoddi i mewn fanylion cyflawnach nag a fyddai bosibl i ni, o ddiffyg lle, roddi i'r eglwysi yn gyffredinol, er dangos mor werthfawr yw cofnodion cyfiawn o hanes yr eglwysi.
"Mae y lle hwn ar y goror, yn mhlwyf Llandisilio, ac er fod yr achos yn Saesonaeg, ac wedi ymuno a chyfundeb sir Amwythig, etto y mae bob amser wedi ei gyfrif gyda sir Drefaldwyn. Daliwyd Mr. G. Ryan, Tra- llwm yma mewn ystorm, fel nas gallasai fyned yn mhellach, a throdd i'r gwesty a elwir y Golden Lion Hotel, yn mhentref Llandisilio. Wedi deall mai gweinidog Ymneillduol ydoedd, amlygodd Mrs. Edwards, gwraig y ty, ei gofid iddo, am nad oedd. Ymneillduwyr yn y lle ; ac y teimlai hyny yn llawer mwy oblegid fod yr offeiriad yn mhell o fod yn efengylaidd ei athrawiaeth, nac yn ddiargyhoedd ei fuchedd. Ymgynghorodd Mr. Ryan a Mr. J. Whitridge, Croesoswallt, ac arweiniodd hyny hwy i'r ardal i bregethu tua'r flwyddyn 1808. Cynhelid y gwasanaeth i ddechreu mewn cotty o eiddo Mr. J. Grifflths, ond oblegid ymosodiad erlidwyr, cynhelid hwy yn nhy Mr. Griffiths ; ac oblegid ei fod yn uwch ei sefyllfa na'r rhan fwyaf ni feiddiant aflonyddu arnynt yno. Corpholwyd yma eglwys yn fuan wedi dechreu pregethu ; ond ni chodwyd y capel hyd 1823, ar dir a roddwyd gan Mr. Griffiths, Domgay, ac agorwyd ef yn y flwyddyn ganlynol. Mr. Morris, am yr hwn y crybwyllasom yn hanes y Sarnau, yma am dymor byr ; ond nid oes genym ddim o'i hanes, ond ymddengys iddo farw yn fuan. Pan y cymerodd Mr. Daniel Davies ofal eglwys y Sarnau, cymerodd hefyd ofal yr eglwys hon, a bu yma nes yr ymadawodd i Woolerton, yn 1821. Ar ei ol ef daeth Mr. James Peregrine yma o Bishop Castle, ond yr oedd wedi bod cyn hyny yn Llanfaches, yn sir Fynwy, fel y crybwyllasom yn hanes yr eglwys hono. Ni bu yma ond am bedair blynedd ; er fod eglwys Domgay yn unol am dano, ond nid oedd y Sarnau felly; ac ymfadodd America tua'r flwyddyn 1825. Yn fuan wedi sefydliad Mr. John Rees yn y Sarnau yn 1825, cymerodd hefyd ofal yr eglwys hon, a bu yma nes yr ymadawodd i Cholfort yn 1833. Yn 1836, cymerodd Mr. J. Griffiths, Pant, ofal yr eglwys, a bu yma hyd 1850. Ar ol Mr. Griffiths daeth Mr. William Cynon Davies, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu yma, ac urddwyd ef Gorphenaf 13eg, 1858; a bu yma hyd 1861, pryd y symudodd i Prees. Yn 1864, urddwyd Mr. David Evans, myfyriwr o Athrofa, Aberhonddu, yma ac ymadawodd. yn 1866. Daeth Mr. B. J. Harker, y gweinidog persenol, yma yn 1869. Dygwyd ef i fyny yn Nghyfundeb y Wesleyaid Cymanfaol.
Codwyd yma ddau bregethwr.
Mae ein cofnodion o'r eglwys hon yn anmherffaith iawn, ond costiodd i ni lawer o drafferth i'w cael fel y maent. Rhoddodd Mr. T. Jenkins, Sarnau, i ni bob help yn ei allu."
(Gareth Hicks - 22 May 2008)
Find help, report problems, and contribute information.
Copyright © GENUKI and Contributors 1996
to date |