GENUKI Home page

Montgomeryshire Montgomeryshire Contents Contents

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

Montgomeryshire section (Vol 1)

Pages 346 - 359

See main project page

Proof read by Mike Cox (July 2008)

Chapels below;

  • (Continued) DOMGAY
  • MAIN   (with translation)
  • MEIFOD    (with translation)

 


Pages 346 - 359

346

(Continued) DOMGAY

Mae ein cofnodion o'r eglwys hon yn anmherffaith iawn, ond costiodd i ni lawer o drafferth i'w cael fel y maent. Rhoddodd Mr. T. Jenkins, Sarnau, i ni bob help yn ei allu.

 

MAIN

(Meifod parish)

Ar ben mynydd y Broniarth, tu cefn i'r Pantmawr, am yr hwn y crybwyllasom yn hanes Llanfyllin, saif anedd-dy bychan o'r enw Llidiartfechan. Nid oes o bellaf fwy na haner milldir rhwng y ddau le. Preswyliai un o'r enw William Hughes yn Llidiartfechan, tua diwedd y ganrif ddiweddaf, ac yn y flwyddyn 1798, os nad yn foreuach, agorodd ei dy i dderbyn pregethu, ac i gynal Ysgol Sabbothol. Y rheswm am hyn mae yn debyg ydoedd, am na oddefai John Wynne, Pantmawr, iddynt ddyfod i'w dy, ond ar y Sabboth yr oedd yn rhaid iddo, yn ol cytundeb cymeriad ei dir, agor y drws iddynt. Aelod o'r Sarnau, fel y gallwn gasglu, oedd William Hughes, canys cawsom ei enw fel un o dystion bedyddiad plentyn i un o aelodau yr eglwys hono; ond yn y dyddiau hyny nid oeddynt yn cyfyngu gweinyddiad yr ordinhadau i ryw un lle penodol. Ar foreu Sabboth, yn y flwyddyn 1800, yr ydym yn cael Dr. Lewis, Llanuwchllyn, yn pregethu yn Llidiartfechan, ac yn derbyn dau aelod oeddynt wadi hyny i fod yn golofnau cryfion o dan achos yr Arglwydd yn yr ardal, sef John Griffiths Cil ; ac Edward Ellis, Ceunant-bach. Cyn hyn, arferai Mr. Griffiths wrando yn eglwys y plwyf, ac yr oedd yn un o'r dynion mwyaf moesol a dichlynaidd, yn yr holl wlad; ond argyhoeddwyd ef nad oedd bywyd moesol ddim yn ddigon heb gyfnewidiad cyflwr. Agorodd Mr. Griffiths ei dy i dderbyn yr efengyl, a ffurfiwyd yno eglwys, ac efe, ac Edward Ellis, oeddynt y diaconiaid. Tarawyd Mrs. Griffiths, (mam Mr. Griffiths, canys hen lanc oedd efe), gan aflechyd trwm, a chan fod swn yr addoliad yn peri, poen iddi, symudwyd y pregethu a'r cyfeillachau i'r Main, lle yr oedd Edward Ellis erbyn hyn wedi symud i fyw o'r Ceunant-bach. Wedi marwolaeth. Mrs. Griffiths, yn 1804, symudwyd yr achos yn ei ol i'r Cil, ac yno y cartrefodd hyd adeiladiad y capel, yn y flwyddyn 1819. Yr oedd golwg obeithiol ar yr achos, fel y cymerodd yr eglwys galon i roddi galwad i Mr. John Jones, oedd yn yr athrofa yn Llanfyllin. Adnabyddid of fel " Jones bach, Llundain, " oblegid mai o Lundain y daeth i'r athrofa yn Llanfyllin. Sefydlodd,  Mr. Jones yma yn Chwefror, 1819. Nis gallasom gael hanes ei urddiad, ond agorwyd y capel yn nghorph y flwyddyn hono, ac ar yr achlysur pregethodd Meistri W. Hughes, Dinas; J. Roberts, Llanbrynmair; a Morris Hughes, Sardis. Yr oedd y pryd hwnw pia adeg lewyrchus ar grefydd, a pharhaodd y Main am. flynyddau, i raddau mwy neu lai, dan effeithiau y diwygiad. Yr oedd Mr. Jones yn bregethwr  bywiog, tanllyd, cyfaddas iawn at adeg felly ar grefydd.

Ni chwblhawyd y weithred yn yr hon y rhoddai Mr. Griffiths y capel i'r enwad hyd 1824. Cofrestrwyd hi y 24ain, o Fawrth y flwyddyn hono,. Y swm a enwyd gan Mr. Griffiths am y tir a'r capel oedd 18p., ond nid ymddengys iddynt gael eu talu, gan mai ei ddymuniad ef oedd rhoddi y capel i'r enwad yn rhad. Wedi llafurio yn y Main a'r, cylchoedd am un-flynedd-ar-ddeg, derbyniodd Mr. Jones alwad o Lanidloes, a

347

symudodd yno yn nechreu haf 1830. Yn ein cofnodiad bywgraphyddol o hono yn nglyn a Heol-y-felin, Casnewydd, (tu dal. 63), gwnaethom gam hysbysiad gyda golwg ar anaser ei farwolaeth, a lle ei gladdedigaeth; ac nis gallwn wneyd yn well na'i gywiro yma. Bu Mr. Jones farw Awst 31ain, 1851, yn 63 oed, a chladdwyd of yn mynwent Llandysilio, gerllaw Domgay, Maldwyn.

Digwyddodd yn nodedig, pan yr oedd Mr. Jones yn pregethu ei bregeth ymadawol yn y Main, i Mr. Edward Williams, y pryd hwnw o Bethesda'rfro, Morganwg, ddyfod i'r capel yn hollol annisgwyliadwy, ac yn ei ddull sydyn arferol dywedai Mr. Jones,  "Wele weinidog i chwi, gafaelwch ynddo;" ac felly fu, a derbyniodd Mr. Williams eu gwahoddiad, a dechreuodd ar ei weinidogaeth yma yn ddioed. Cynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad Tachwedd 29ain a'r 30ain, 1830 ; ac ar yr achlysur gweinyddodd Meistri J. Williams, Ffestiniog ; W. Morris, Llanfyllin ; J. Roberts, Llanbrynmair ; J. Williams, Dinas ; D. Morgan, Machynlleth ; D. Davies, Llanerfyl ; T. W. Jenkyn, Croesoswallt ; J. Davies, Llanfair ; H. Morgan, Sammab ; a J. Jones; Llanidloes. Yspaid dwy flynedd yr arhosodd Mr. Williams yma, canys yn Tachwedd, 1832, ymadawodd i Lansantsior a Moelfra, sir Ddinbych. Yn nechreu y flwyddyn ganlynol, rhoddwyd galwad i Mr. John Morris, aelod o eglwys Llanfyllin, yr hwn a neillduwyd yn gyhoeddus yn y Main, Ebrill 10fed, 1833. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Williams, o'r Wern. Holwyd y gweinidog ieuangc gan Mr. J. Jones, Forden. Dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. W. Morris, Llanfyllin. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair ; ac i'r eglwys gan Mr. W. Williams, o'r Wern. Gweinyddwyd hefyd yn y cyfarfodydd gan Meistri D. Davies, Llanerfyl; J. Williams, Llansilin ; Josiah Jones, Caernarfon ; J. Rees, Sarnau ; D. Price, Penybontfawr; ac H. Hughes, Penllys.* Bu Mr. Morris yn weinidog yma am o gylch deng mlynedd ; pryd y rhoddodd i fyny ei ofal gweinidogaethol, ond parhaodd i bregethu tra y bu byw. Wedi ymadawiad Mr. Morris, bu Mr. D. Jones, Llansantffraid, yn gofalu yn benaf am y Ile, ond yn y flwyddyn 1845, rhoddwyd galwad i Mr. Hugh. D. Pughe, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd. ef Tachwedd 11eg a'r 12fed y flwyddyn hono. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. M. Jones, Bala. Holwyd y gweinidog gan Mr. H. James, Llansantffraid. Offrymwyd yr urdd-weddi gydag arddodiad dwylaw gan Mr. W. Roberts, Penybontfawr. Rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr. H. Lloyd,. Towyn, ac i'r eglwys gan Mr. D. Morgan, Llanfyllin; pregethwyd hefyd gan Meistri E. Thomas, Trallwm ; J. Jones, Penllys; R. Thomas, Croesoswallt ; L. Roberts, Sarnau ; ac R. D. Thomas, Penarth. Bu Mr. Pughe yma yn ddiwyd am bedair blynedd, nes y symudodd i gymeryd gofal yr eglwys Gymreig yn y Drefnewydd. Yn fuan wedi ymadawiad Mr. Pughe, derbyniodd Mr. Evan Thomas, Trallwm, alwad oddiyma, a dechreuodd ei weinidogaeth yn 1850, a llafuriodd yma am fwy na deunaw mlynedd, hyd 1869, pan y rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny, ac y derbyniwyd ef ar Drysorfa yr Hen Weinidogion. Mae yn awr yn byw yn Llanfyllin, ac yn pregethu fynychaf bob Sabboth.

Yn y flwyddyn 1869, rhoddwyd galwad i Mr. Richard Trevor Jones, myfyriwr o athrofa y Bala, yr hwn a urddwyd yma, Gorphenaf 27ain a'r

* Dysgedydd, 1833. Tu dal. 169.

348

28ain ; ond llai na blwyddyn yr arosodd yma, canys derbyniodd alwad o Pantteg Morganwg, a symudodd yno; ac yn nechreu 1871, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. D. Evans, Penarth.

Ni bu yr achos yma erioed yn gryf a lluosog mewn nifer; a gwelodd dymhorau isel a digalon, ond y mae yma ffyddloniaid wedi bod, ac yn bod, sydd yn glynu wrth yr Arglwydd yn ddi-ildio trwy bob tywydd. Bu Mr. J. Griffiths, Cil, yn golofn gref i'r achos am dymor hir. Erys capel a mynwent y Main yn golofnau o'i haelioni; a rhoddodd dri o dai anedd, ardreth y rhai sydd tuag at gynal ysgol ddyddiol yn y Main. Yr oedd ynddo lawer o bethau hynod, ond yr oedd ei galon yn caru y Gwaredwr, a gwasanaethodd ei achos fel diacon ffyddlon yn y Main am 43 mlynedd. Bu farw yn y flwyddyn 1843. Edward Ellis hefyd oedd wr da a ffyddlon, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer.

Nid ydym yn cael ond am un a godwyd i bregethu yn yr eglwys hon, sef Evan Ellis, mab Edward Ellis. Yr oedd yn wr ieuangc crefyddol a gair da iddo gan bawb a'i hadwaenai, ac yn bregethwr cymeradwy. Derbyniwyd ef i'r Ysgol Ramadegol yn nglyn ag athrofa y Drefnewydd, yn Hydref, 1827, a bu yno hyd y Sulgwyn canlynol; ond dychwelodd adref yn fuan wedi hyny, a'i iechyd wedi rhoi ffordd, ac nid hir y bu byw ar ol hyny; ond bu farw mewn hyder cryf yn ei Bryniawdwr. Cyhoeddwyd bywgraffiad helaeth iddo yn y Dysgedydd am 1829; tu dal. 193, gan y diweddar Mr. J. Roberts, Llanbrynmair.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

JOHN MORRIS. Ganwyd ef yn Llanfyllin yn y flwyddyn 1793 ; a derbyniwyd ef yn aelod yno pan yn ddyn ieuangc. Dechreuodd bregethu yn 1825 ; a bu am dymor dan addysg dan ofal Dr. Phillips, yn athrofa Neuaddlwyd. Dychwelodd adref oddiyno, a bu am yspaid yn pregethu i'r eglwysi lle y gelwid am ei wasanaeth. Urddwyd ef yn y Main, Ebrill 10fed, 1833, a llafuriodd yno am fwy na deng mlynedd, yna symudodd i Grimp, sir Amwythig, lle yr arhosodd wyth mlynedd, ac oddiyno dychwelodd i'r Carneddau, yn agos i Groesoswallt, lle y bu byw dair blynedd. Nid oedd gofal unrhyw eglwys arno, ond pregethai fynychaf bob Sabboth, hyd nes y rhoddwyd terfyn ar ei lafur gan angeu, Awst 10fed, 1860, yn 63 oed; a chladdwyd ef yn Nghroesoswallt. Yr oedd Mr. Morris yn ddyn da, ac yn bregethwr sylweddol, ond yr oedd tipyn o surni ac afrywiogrwydd yn ei dymer, yr hyn a laddai ei ddefnyddioldeb. Cadwai yn mhell oddiwrth bawb, fel y cyfrifid ef yn ddyn digymdeithas. Ymladd a'r byd y bu o ran ei amgylchiadau bydol trwy ei oes; ond cadwyd ef i ymddiried yn yr Arglwydd trwy y cwbl. Y mae ei wraig a'i unig ferch etto yn fyw yn Nghroesoswallt.

Translation by Maureen Saycell (Aug 2010)

On top of Broniarth mountain, behind Pantmawr, previously mentioned with Llanfyllin, stands a small house names Llidiartfechan. There is no more than half a mile between the two places. One William Hughes lived at Llidiartfechan, around the end of the last century, and in 1798 if not earlier he opened his doors to allow sermons and a Sunday school. The reason for this was that John Wynne only allowed them into his home on the Sundays he was obliged to in the terms of his agreement. We gather that William Hughes was a member of Sarnau as he was named as a witness to the baptism of the child of a member there, in those days the sacraments were not limited to one location. On a sabbath morning in 1800 we have Dr Lewis, Llanuwchllyn confirming two new members, who would become cornerstones in the service of the Lord in the area, namely John Griffiths, Cil and Edward Ellis, Ceunant-bach. Prior to this Mr Griffiths was a Listener at the parish Church, he was one of the most kind and moral nature in the country, but he became aware that living a moral life was not enough to save his soul. He opened his home to the scriptures and a church was formed there with Edward Ellis and himself as Deacons. Mrs Griffiths, his mother, suffered some severe illness and as the sound of worship upset her, the services were moved to Main where Edward Ellis now lived. After her death in 1804 the services moved back to Cil and remained there until a Chapel was built in 1819. The cause looked promising enough to give the church the heart to call Mr John Jones, Llanfyllin College. He was known as "Jones bach, London", as it was from London that he came to the College in Llanfyllin. He settled here in February, 1819. We have no history of his ordination, but the Chapel was opened during that year, Sermons were given by Messrs W. Hughes, Dinas; J. Roberts, Llanbrynmair; and Morris Hughes, Sardis. This was  good time for religion and Main continued to greater or lesser influence of revivals. Mr Jones was a lively and fiery preacher suited to this time.

The Deed of gift covering the land from Mr Griffiths was not completed until 1824, and registered on March 24th that year.The nominal sum of money mentiond was £18, but it does not appear that it was paid as his stated wish was to donate the Chapel to the denomination. After 11 years at Main Mr Jones accepted a call to Llanidloes and moved there in the summer of 1830. We gave the wrong facts in his biographical notes with Heol y Felin, Newport, and correct them here - Mr Jones died August 31st, 1851 aged 63 and was buried in the cemetery at Llandyssilio, near Domgay, Montgomeryshire.

Notably while Mr Jones was preaching his farewell sermon to Main Mr Edward Williams, then Bethesda'r fro, Glamorganshire, happened to come to the chapel and Mr Jones stated "There is a Minister for you, take hold of him", and so it was  he accepted their invitation and began his ministry without delay. His Induction Service was held on November 29th and 30th, 1830. Those officiating were Messrs J. Williams, Ffestiniog ; W. Morris, Llanfyllin ; J. Roberts, Llanbrynmair ; J. Williams, Dinas ; D. Morgan, Machynlleth ; D. Davies, Llanerfyl ; T. W. Jenkyn, Oswestry; J. Davies, Llanfair ; H. Morgan, Sammah and  J. Jones; Llanidloes. He remained here for 2 years only and left for Llansantsior and Moelfre, Denbighshire in November 1832. Early the next year a call was sent to Mr John Morris, a member at Llanfyllin and he was ordained here on April 10th, 1833 - the following officiated Mr. W. Williams, Wern. Mr. J. Jones, Forden. Mr. W. Morris, Llanfyllin. Mr. J. Roberts, Llanbrynmair ; also contributing were Messrs D. Davies, Llanerfyl; J. Williams, Llansilin ; Josiah Jones, Caernarfon ; J. Rees, Sarnau ; D. Price, Penybontfawr; and H. Hughes, Penllys.*

Mr Morris was here for some ten years when he gave up his ministry, but continued to preach for the remainder of his life. After his departure Mr D Jones, Llansanffraid took care of the place but in 1845 a call was sent to Mr Hugh D Pughe, a student at Bala. He was ordained on November 11th and 12th that year, those officiating were Mr. M. Jones, Bala. Mr. H. James, Llansantffraid. Mr. W. Roberts, Penybontfawr.Mr. H. Lloyd,. Towyn, Mr. D. Morgan, Llanfyllin; Messrs E. Thomas, Trallwm ; J. Jones, Penllys; R. Thomas, Croesoswallt ; L. Roberts, Sarnau ; and R. D. Thomas, Penarth also took part. Mr Pughe was very industrious here for four years, then moved to take care of the Welsh Church in Newtown. Soon after Mr Evan Thomas, Welshpool accepted a call and began his ministry in 1850, continuing until 1869 when he gave up his ministry and he was accepted by the Fund for the Old Ministers. He now lives in Llanfyllin and preaches most Sundays.

In 1869 a call was given to Mr Richard Trevor Jones, a student at Bala, he was ordained here July 27th and 28th, but he stayed less than a year before accepting a call from Pantteg, Glamorganshire. Early 1871 the church called Mr D Evans, Penarth.

The cause here was never strong in numbers and endured some hard times, but the faithful kept with the Lord through it all. The Chapel and Cemetery at Main remain as a memorial to Mr J Griffiths, Cil along with the three houses whose rent helps to maintain a day school at Main. He was a Deacon for 43 years and died in 1843. Edward Ellis was also strong and faithful.

The only one who was raised to preach here was Evan Ellis, son of Edward Ellis. His health deteriorated and he died before getting through College. A full biography was published in Dysgedydd, 1829 page 193 by the late Mr J Roberts, Llanbrynmair.

BIOGRAPHICAL NOTES **

JOHN MORRIS - Born Llanfyllin 1793, confirmed there - began to preach 1825 - educated Neuaddlwyd with Dr Phillips - ordained Main April 10th, 1833 - then went to Grimp, Shropshire 8 yrs, then Carneddau, near Oswestry 3 yrs - died August 10th, 1860 aged 63 - buried Oswestry where his wife and daughter continue to live.

* Dysgedydd, 1833. Page 169.

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

MEIFOD

Mae genym hanes fod Annghydffurfiaeth wedi cychwyn yn foreu yn mhlwyf Meifod. Yn ol yr hyn a ddywed Richard Davies, Cloddiaucochion, yr oedd cynnulleidfa yn cyfarfod yn nhy Huw Dafydd - un o denantiaid Dolobran - mor gynar a'r flwyddyn 1649; a gofelid am y

349

gangen yma gan y gweinidogion oedd ar y pryd yn bwrw golwg dros yr eglwys yn sir Drefaldwyn. Yn 1669, ymgynnullai yr Annibynwyr yn nhy boneddwr o'r enw David Williams; a byddai yn nghyd yn y cyfarfodydd hyn weithiau 50, weithiau 60, ac yn aml 100. Cyfarfyddent weithiau yn y dydd, ac weithiau yn y nos. Yr oedd William Beddoe, Edward Meredith, Humphrey Meredith, Samuel Meredith, a Thomas Meredith, yn mysg y rhai blaenaf yn y plwyf o gefnogwyr y cynnulliadau hyn.* Ond er fod pregethu fel hyn wedi bod yn y plwyf er amser boreuaf Ymneillduaeth yn ein gwlad; etto yn ddiweddar mewn cydmariaeth y sefydlwyd achos Annibynol yn nhreflan Meifod.

Yn y flwyddyn 1814, trwyddedwyd ty Edward Ellis i bregethu ynddo, a buwyd ynddo yn cynal gwasanaeth rheolaidd am bedair blynedd, hyd nes ei symudwyd i dy John Miles; ac yno y bu yr arch nes yr adeiladodd Mr. John Griffiths dy, ac y rhoddodd at eu gwasanaeth yr oruwchystafell, yn yr hon y maent etto yn parhau i addoli. Cafwyd gwrthwynebiad mawr yma ar y dechreu; ac yn aml cyflogid dynion meddwon i aflonyddu yr addoliad; ond wedi cael yr ystafell, yr oeddynt i raddau allan o'u cyrhaedd. Rhoddwyd yr ystafell iddynt yn rhad gan Mr. Griffiths o'r Cil; ac agorwyd hi yn gyhoeddus Medi 27ain, a'r 28ain, 1824; ar yr achlysur gweinyddodd Meistri J. Ridge, Bala; W. Hughes, Dinas; J. Williams, Ffestiniog; D. Morgan, Machynlleth; J. Roberts, Llanbrynmair; J. Peregrine, Domgay; M. Ellis, Talybont; J. Griffith, Pentraeth; W. Morris, Llanfyllin; ac  - Owens, Croesoswallt. Mae y lle yma wedi bod bob amser mewn cysylltiad a'r Main, a than yr un weinidogaeth; ac ond edrych pwy oedd y gweinidogion a fu yn llafurio yn olynol yno, gwelir hefyd pwy a fu yma. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf, ond coffeir am enwau John Miles, Thomas Miles, Abraham Davies, David Edwards, Thomas Ellis, Richard Lloyd, a Thomas Griffiths, fel rhai nodedig yn mysg y ffyddloniaid yma. Mae yr achos dan anfantais dirfawr yma o eisiau lle mwy cyfleus i addoli. Yr oedd cael ystafell yn werthfawr haner can mlynedd yn ol, ond nid yw yn ateb gofynion y dyddiau hyn.

Translation by Maureen Saycell (Aug 2010)

There is a history of early nonconformity at Meifod. According to Richard Davies, Cloddiaucochion, there was a congregation meeting at Huw Dafydd's home, he was a tenant of Dolobren, as early as 1649. In 1669 Independents met in the home of a gentleman named David Williams, sometimes 50 or 60 and frequently 100. They met either in the day or at night. William Beddoe, Edward Meredith, Humphrey Meredith, Samuel Meredith, and Thomas Meredith were among the foremost of the supporters.*   Despite this history it is comparatively recently that a cause was established in Meifod.

In 1914 Edward Ellis' home was licensed for preaching and regular services were held there for 4 years, then moved to John Miles' house. That is where they remained until John Griffiths built a house and gave them an upstairs room to use, which is still used. There was considerable opposition here, even employing drunks to disrupt the services, Once they moved into the room donated by John Griffiths they were not so open to this problem. The place was opened on September 27th and 28th,1824 - those officiating were Messrs  J. Ridge, Bala; W. Hughes, Dinas; J. Williams, Ffestiniog; D.Morgan, Machynlleth; J. Roberts, Llanbrynmair; J. Peregrine, Domgay; M. Ellis, Talybont; J. Griffith, Pentraeth; W. Morris, Llanfyllin; and - Owens, Oswestry. This place has always been under the same ministry as Main. The cause here has never been strong but these faithful will be remembered - John Miles, Thomas Miles, Abraham Davies, David Edwards, Thomas Ellis, Richard Lloyd, and Thomas Griffiths. The room is no longer meeting the needs here which is a disadvantage.

*Rees's Nonconformity. page 201.

PONTROBERT

(Meifod parish)

Pentref bychan yw Pontrobert-ab-Oliver, fel ei gelwir, ar derfynau plwyfydd Meifod a Llangyniw; mewn dyffryn bychan coediog, unig, a diarffordd. Mae yma er hyny lawer o bethau sydd yn gosod arbenigrwydd ar y lle. Heb fod yn nepell o'r pentref y mae Plas Dolobran, cyn-breswylfod hen Grynwyr duwiolfrydig yr ardal; ac y mae y capel bychan lle yr addolent yn aros etto yn ei symledd cyntefig, a'r fynwent lle yr erys eu gweddillion heb ddim ond y dywarchen werddlas i ddynodi lle eu gorweddfa. Ychydig i fyny i'r cwm y mae Dolwarfechan, preswylfod Ann Griffiths, yr Emynyddes enwog. Yr ardal yma gafodd yr anrhydedd o fagu John Davies, un o'r Cenadon cyntaf a aeth allan i Ynysoedd Mor y De, a'r cyntaf oll o Gymru, ac a gafodd oes hir i lafurio yn Tahiti: ac y mae enw yr hen bererin John Hughes, Pontrobert, yn adnabyddus i grefyddwyr pob enwad yn Nghymru; fel rhwng y cwbl y mae gan bentref bychan Pontrobert fwy o bethau i ymffrostio ynddynt na'r rhan fwyaf o bentrefydd ein gwlad.

350 

Tua thri chwarter milldir i'r gogledd-ddwryreiniol o'r lle yma, y mae Rhosyglasgoed, lle y pregethwyd llawer gan yr Annibynwyr; a choffeir am un tro pan oedd Dr. Lewis, y pryd hwnw, o Lanfyllin, i fod yno yn pregethu, a chan ei fod dipyn ar ol ei amser, a'r gwrandawyr yno yn disgwyl, aeth un o honynt allan i edrych a welai ef yn dyfod; ac wedi ei weled o draw yn dyfod, rhedai yn ol i'r ty, a dywedai yn uchel, "Ust! byddwch ddystaw, dyma yr hen fachgen yn d'od;" ac nid gorchwyl hawdd oedd i'r rhai mwyaf difrifol gad eu hunain i agwedd weddus erbyn ei ddyfodiad, ar ol y fath gyhoeddiad.* Cadwodd y teulu yma eu drws yn agored i bregethu, ac i lettya pregethwyr, hyd nes y daeth Mr. John Jones i'r Main, pan y dechreuwyd pregethu yn nhy un John Williams, a chedwid y gyfeillach grefyddol yn llofft Morris Howells, tad Mr. Price Howells, yn awr o Ffestiniog. Nid oedd nifer y rhai a gyfarfyddent yn y gyfeillach yn y llofft ond wyth, ac i'r Main yr elent i gymuno. Wrth weled yr achos yn llwyddo, barnwyd yn angenrheidiol cael capel yma; a sicrhawyd darn o dir i'r perwyl, ar fin y ffordd sydd yn arwain o'r Bont i Lanfyllin. Agorwyd y capel, Medi 18fed, a'r 19eg, 1829; ac ar yr achlysur gweinyddodd Meistri W. Morris, Llanfyllin; M. Hughes, Sardis; H. Morgan, Sammah; J. Davies, Llanfair; J. Rees, Sarnau; E. Davies, Treflach; H. Hughes, Foel ; a D. Davies, Llanerfyl. Y flwyddyn ganlynol, ymadawodd Mr. Jones i Lanidloes. Nid oedd rhif yr eglwys ond 11, ac nid ymunodd a Main a Meifod yn newisiad y gweinidogion dilynol yn y ddau le, ond rhoddodd ei hun dan ofal Meistri Morris, Llanfyllin; a Davies, Llanerfyl; a bu Hugh Hughes, Felin, pregethwr cynorthwyol yn Penllys, yn ffyddlon i ddyfod atynt, hyd nes yr ymfudodd i America. Yn 1833, daeth Mr. Richard Herbert yma i gadw ysgol ddyddiol, ac i bregethu; ac yn 1839, rhoddwyd galwad iddo i fod yn weinidog, ac urddwyd ef Gorphenaf 3ydd, a'r 4ydd, yr un flwyddyn: ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Williams, Aberhosan; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Davies, Llanerfyl; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. M. Ellis, Talybont, ac i'r eglwys gan Mr. J. Davies, Llanfaircaereinion. Yr oedd Meistri J. Williams, Llansilin; J. Morris, Main; D. Jones, Llansantffraid; ac E. Wynne, Llanrhaiadr, hefyd yn bresenol, ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth. Ni bu Mr. Herbert yma ond prin dair blynedd, ac yr oedd yr achos wedi myned yn isel iawn. Wedi urddo Mr. John Jones, yn Penllys, cymerodd ef ei gofal yn Chwefror, 1842, ac adfywiodd yr achos yn fawr. Lluosogodd yr eglwys a'r gwrandawyr-talwyd y ddyled oedd yn aros-ac adgyweiriwyd y capel, a thalwyd yr holl draul gysylltiedig a hyny, fel yr oedd golwg siriol ar yr achos pan yr ymadawodd Mr. Jones i Carno, yn Rhagfyr,1848. Yn nechreu Ebrill, ar sefydliad Mr. Evan Thomas, yn y Main a Meifod, cymerodd hefyd ofal Pontrobert; ac er hyny y mae y tri lle wedi bod mewn cysylltiad a'u gilydd, a than yr un weinidogaeth.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

RICHARD HERBERT. Ganwyd ef Hydref 14eg, 1779, mewn Ile a elwir Gogerddanfach, yn mhlwyf Llanfihangel-Genau'rglyn, sir Aberteifi. Yr

* Cronicl yr Undeb. Rhif vi., gan Cyfflu.

351

oedd yn un o'r aelodau cyntaf a dderbyniwyd yn Nhalybont ar gychwyniad yr achos yno yn 1801; ac efe oedd y cyntaf yno a agorodd ei dy i Dr. Phillips, Neuaddlwyd, i gynal cyfeillach ynddo.. Yn 1805, y dechreuodd bregethu, ac o hyny allan, bu o fan i fan yn cadw ysgol, a theithiodd lawer ar hyd y wlad i bregethu. Daeth i Bontrobert, fel y crybwyllasom, yn 1833, ac urddwyd ef yn 1839; ond nis gallesid disgwyl iddo fod yn llwyddianus iawn, canys yr oedd yn 60 oed pan yr urddwyd ef. Rhoddodd weinidogaeth i fyny yn 1841, ond bu fyw hyd ddydd Sadwrn, Ionawr 1af, 1848, pan yr hunodd mewn tangnefedd, a chladdwyd ef y dydd Gwener canlynol yn mynwent Penllys, a phregethodd Mr. D. Morgan, Llanfyllin, ar yr achlysur.

Yr oedd Mr. Herbert yn ddyn tal, tenau, heb ond un fraich; yr oedd golwg lym, fywiog arno, a'i attebion yn fyr a swta, a'i dymer o duedd sarug ac afrywiog, Teithiodd lawer yn ei oes, ond yr oedd ei ddull hyf a diofn o ddweyd ei feddwl, yn ei wneyd yn annerbyniol gan lawer; ond credai y rhai a'i hadwaenai oreu, am dano, mai cristion didwyll a gwirioneddol ydoedd. Yr oedd wedi cael gwell manteision addysg na'r rhan fwyaf o'i ddosbarth, a'i wybodaeth ar bethau yn gyffredinol yn eangach; ond yr oedd yn amddifad o'r tynerwch teimlad, a'r ireidd-dra ysbryd hwnw, wrth draddodi, oedd gan rai o'i gydoeswyr teithiol. Ond bu yn ffyddlon yn ol y ddawn a rodedd iddo; ac y mae wedi derbyn ei wobr gan el Arglwydd.

Translation by Maureen Saycell (Aug 2010)

Pontrobert-ab-Oliver, as it is known, is a small village on the edge of Meifod and Llangyniw parishes, in a small, isolated and woody valley. Despite this there are advantages, it is near to Plas Dolobran where the Quaker meeting house still stands and the only evidence of the burials is the green sods. A little further along the valley is Dolwarfechan, home of the celebrated hymn writer, Ann Griffiths. This area was the birthplace of John Davies, one of the first missionaries to go to the South Sea Islands and spent his life on Tahiti. And the name of the old bard John Hughes, Pontrobert is well known to all religious people in Wales: all in all the small village of Pentrobert has more to glory in than most places in the land.

Some three quarters of a mile north east of here is Rhosyglasgoed where the Independents preached. A little story is told of Dr Lewis, then of Llanfyllin, being late arriving and one of the congregation going out to see if there was any sign of him, seeing him in the distance he ran in saying "Hush, the old boy is coming", most struggled to keep a straight face after such an announcement.* This family continued to open their doors for services and to give shelter to the ministers until Mr John Jones came to Main. Then the services moved to John Williams' home and the socials to Morris Howell's upstairs, he was the father of Mr Price Howells, Ffestiniog. There were only eight attending the socials, they attended Main for communion. A chapel was deemed neccessary and was duly built on land by the road leading from Bont to Llanfyllin. It was opened September 18th and 19th, 1829 - Messrs W. Morris, Llanfyllin; M. Hughes, Sardis; H. Morgan, Sammah; J. Davies, Llanfair; J. Rees, Sarnau; E. Davies, Treflach; H. Hughes, Foel ; and D. Davies, Llanerfyl officiated. Mr Jones left for Llanidloes the next year, the church numbered 11 people. They did not join with Main and Meifod in their choice of ministers but put themselves in the care of Messrs Morris, Llanfyllin, Davies, Llanerfel and Hugh Hughes, Felin, a supporting preacher at Penllys was very faithful to them until he emigrated to America. In 1833 Mr Richard Herbert came to keep a school here and to preach. He was asked to become minister in 1839 and was ordained July 3rd and 4th that year. Those officiating were Mr. S. Roberts, Llanbrynmair; Mr. J. Williams, Aberhosan;  Mr. D. Davies, Llanerfyl;  Mr. M. Ellis, Talybont, Mr. J. Davies, Llanfaircaereinion. Messrs J. Williams, Llansilin; J. Morris, Main; D. Jones, Llansantffraid and E. Wynne, Llanrhaiadr, were also present and participating.

Mr Herbert was here for only 3 years and the cause had gone down considerably. When Mr John Jones was ordained at Penllys he took on their care in February, 1842 and the cause was rejuvenated. The chapel was repaired and all the debts were paid. The chapel was in good shape when Mr Jones left for Carno in December, 1848. In April, on the induction of Mr Evan Thomas to Main and Meifod, he took on the care of Pontrobert also, and the three have remained under joint ministry since then.

BIOGRAPHICAL NOTES **

RICHARD HERBERT - Born October 14th, 1779 in Gogerddanfach, Lanfihangel-Genau'rglyn, Cardiganshire - one of the first confirmed at Talybont in 1801, opening his home for socials with Dr Phillips, Neuaddlwyd - 1805 began to preach - aged 60 when ordained at Pontrobert, gave up his ministry in 1841 - died January 1st, 1848 - buried at Penllys by Mr D Morgan, Llanfyllin.

* Cronicl yr Undeb. Rhif vi., gan Cyfflu

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

PENTRE'R BEIRDD

(Guilsfield parish)

Mae y lle hwn yn mhlwyf Gygigfa, (Guildsfield), ar y ffordd rhwng Meifod a'r Trallwm. Dechreuwyd pregethu yma gan Mr. John Jones, Main, yn fuan ar ol ei urddiad i'r weinidogaeth. Cafwyd. darn o dir ar bryd-les, gan Mr. John Davies, Twll-farm, yn 1822; a'r ymddiriedolwyr cyntaf oeddynt Meistri John Jones, y gweinidog; John Griffiths, o'r Cil ; Edward Ellis, Saercoed; Humphrey Ellis, Saermaen; Richard Lloyd, Amaethwr; Simon Williams, Amaethwr; John Miles, Saercoed; David Davies, Saercoed; Morris Jones, (Farteg wedi hyny,) Saermaen. Yr oedd y capel wedi talu am dano agos yn llwyr erbyn dydd ei agoriad, yr hyn a gymerodd le Gorphenaf  laf a'r 2il, 1823; ac ar yr achlysur gweinyddodd Meistri S. Williams, Llanidloes; J. Jones, Hafodfawr; M. Hughes, Llanwddyn; J. Williams, Sarnau; J. Lewis, Bala; G. Ryan, Trallwm; J. Williams, Ffestiniog ; J. Davies, Llanfair; a J. Ridge, Penygroes.* Bu Mr. Jones yn llafurio yma hyd nes yr ymadawodd i Lanidloes, yn 1830 ; ac ar ol hyny bu y lle dan weinidogaeth ei olynwyr yn y Main, Mr. Edward Williams, a Mr. John Morris; ond cyn diwedd tymhor gweinidogaeth yr olaf, yr oedd yr achos wedi myned yn isel iawn. Yr oedd y genedl ieuaingc yn cael eu magu yn yr iaith Seisnig, fel nad oedd gwasanaeth Cymreig o fawr iawn o fudd iddynt. Bu yr hen bererin Humphrey Ellis, a'i wraig, yn nodedig o ffyddlon er pob digalondid. Cadwasant y drws yn agored ar yr adeg dywyllaf, ac ymdrechasant i gynal Ysgol Sabbothol yn mlaen, er y byddai y plant yn ddigon drygionus i grynhoi o gylch yr hen wr, a thynu ei wallt pan y byddai yn gweddio. Yu fuan wedi sefydliad Mr. Lewis Roberts yn weinidog yn y Sarnau, cymerodd ef

* Dysgedydd, 1823. Tu dal. 245

352 

ofal y lle, a throwyd yr achos yn Saesonaeg, ac felly y mac yn parhau, ac mewn cysylltiad gweinidogaethol a'r Sarnau. Nid ydym yn gwybod am neb a godwyd yma i bregethu ond Morris Jones, yr hwn a fu am dymhor yn y Neuaddlwyd dan addysg, ac a urddwyd yn y Farteg, sir Fynwy; ac yr oedd yntau yn aelod yn y Main cyn ffurfio eglwys yma.

Translation by Maureen Saycell (Aug 2010)

This place is in the parish of Guilsfield, between Meifod and Welshpool. Mr John Jones began preaching here soon after he was ordained at Main. A piece of land was obtained on lease from Mr John Davies, Twll Farm in 1822. The first trustees were Messrs John Jones, minister, John Griffiths, Cil , Edward Ellis, Carpenter, Humphrey Ellis, Stonemason, Richard Lloyd, Farmer,  Simon Williams, Farmer, John Miles, Carpenter,  David Davies, Carpenter, Morris Jones, (Later of Farteg) Stonemason. The Chapel was completely paid for before it was opened on July 1st and 2nd, 1823. The following officiated Messrs S. Williams, Llanidloes; J. Jones, Hafodfawr; M. Hughes, Llanwddyn; J. Williams, Sarnau; J. Lewis, Bala; G. Ryan, Welshpool; J. Williams, Ffestiniog ; J. Davies, Llanfair; and J. Ridge, Penygroes.* Mr Jones was here until 1830 when he left for Llanidloes, following this the place was under his succeeding ministers at Main - Mr Edward Williams and Mr John Morris and before the latter had completed his ministry the cause had deteriorated badly. The younger generation were mainly brought up in the English language. The old pilgrim Humphrey Ellis and his wife were notably faithful in keeping the doors open through the darkest times, attempting to keep the Sunday school going, despite the children being naughty enough to pull his hair while he was praying. Soon after the induction of Mr Lewis Roberts at Sarnau, he took on the care and the cause became an English one. It continues so and also in association with Sarnau. The only one we know that began to preach from here was Morris Jones, who spent some time at Neuaddlwyd and was ordained at Farteg, Monmouthshire.

* Dysgedydd, 1823. page. 245

PENYBONTFAWR

(Pennant parish)

Mae y lle hwn o fewn ychydig gyda phum' milldir i Lanfyllin, ar y ffordd i'r Bala. Mae y lad o gylch y pentref yn brydferth a ffrwythlon, a chysgodir y dyffryn bychan, tlws, gan y bryniau cylchynol. Mae yn ymddangos mai yn Pedairffordd - lle o gylch dwy filldir islaw Penybont y dechreuwyd pregethu yn y wlad yma, ac arferai Owen Phillips, Rhywsaeth, a Mary Llwyd, ei forwyn, ac eraill o ardal Penybont, fyned yno i addoli. Nis gallasom gael allan pwy oedd y pregethwyr cyntaf a ymwelodd a'r ardal, na pha bryd yr ymwelasant. Mae yn bosibl mai Mr. John Griffith a ymwelodd gyntaf a'r lle, yn ystod ei arosiad yn Llanfyllin, o 1780 hyd 1782; neu fe ddichon fod Mr. Daniel Goronwy, o'r Bala, wedi pregethu yma cyn hyny wrth fyned i neu ddychwelyd o'r Pantmawr i'r lle y cyrchai yn fisol ar un adeg. Bu pregethu yn nhy Watkin Jones, Felinbach, ger Penybont, ac yn hen ysgubor y masiwn yn Hirnant; ond tua'r flwyddyn 1782, cymerwyd pryd-les gan David Jones, Foelcortho, ar dy David Jones, y Gwehydd, yn mhlwyf Hirnant, a symudwyd yr holl foddion crefyddol yno; a galwyd y lle o hyny allan y "Capel Bach." * Cangen o Lanfyllin y cyfrifid y lle, ac yno y cyrchai yr aelodau i gymuno. Nid oes genym sicrwydd am neb yn gweinyddu iddynt o flaen Mr. Jenkin Lewis, Llanfyllin. Yn 1785 y daeth ef i Lanfyllin, ac y mae yn awr ger ein bron lythyr o'i eiddo at reolwyr y Trysorfwrdd Cynnulleidfaol, wedi ei gyfeirio at Burton Wilbie, Ysw., Walthamston, Essex, ac wedi ei ddyddio Ionawr 6ed, 1795.#  Yn ei lythyr dywed nad oedd y bobl yn mysg y rhai yr oedd yn Ilafurio ond ychydig mewn nifer, ac isel en hamgylchiadau; ac mai pum' punt yn y flwyddyn a allasent wneyd iddo, a bod dau swm wedi eu gadael er cynorthwyo yr achos - un o chwe' phunt a'r llail o ddeg swllt a deugain y flwyddyn; a'i fod yn cael chwe' phunt yn flynyddol am bregethu yn fisol yn Pantmawr, lle o gylch wyth milldir o'r dref lle yr oedd. Ei fod yn cael heblaw hyny bedair punt y flwyddyn o Drysorfa y Presbyteriaid, yn gwneyd gyda'u gilydd dair punt ar hugain a degswIlt; heb gyfrif y pedair punt oedd wedi gael y flwyddyn flaenorol o'r Trysorfwrdd Cynnulleidfaol. Ac ychwanega nad oedd hyny fawr at ei gynhaliaeth ef a'i wraig, a'i fod yn rhwym o gadw ceffyl gan fod ganddo le bychan arall tua saith milldir o'r dref ar y ffordd i'r Bala, lle yr oedd yn pregethu dri boreu Sabboth o bob mis, ac yn dyfod i'r dref erbyn y prydnhawn. Y lle hwn y mae yn amlwg oedd y Capel Bach. Yr ydym yn cael fod Mr. Azariah Shadrach yma yn cadw Ysgol yn niwedd y ganrif ddiweddaf a dechreu y ganrif hon, canys dywedwyd wrthym gan yr Hybarch D. Williams, Llanwrtyd, ei fod yno pan yr aeth ef ar daith i'r gogledd gyntaf, gyda Mr. Daniel

* Cronicl yr Undeb.  Rhif. III. Ysgrif Mr. W. Roberta.

# Records of the Congregational Fund Board.

353

Evans, wedi hyny o'r Mynyddbach, yn nechreu 1800. Parhaodd Mr. Lewis, Llanfyllin, i ofalu am y lle hyd ei farwolaeth. Ar ei ol ef bu Mr. John Lewis, Bala, yn dyfod yn fisol i'r Capel Bach hyd nes yr urddwyd Mr. Morris Hughes, yn y flwyddyn 1809. Yn ei amser ef y symudwyd o'r Capel Bach, ac y codwyd capel newydd yn Mhenybontfawr, yr hwn a alwyd Bethania. Mae yn mhlwyf Pennant-moelangell. Agorwyd ef Tachwedd 17eg a'r 18fed, 1823. Y nos gyntaf pregethodd Meistri H. Hughes, Llechwedd, ac M. Jones, Llanuwchllyn. Y dydd canlynol, am ddeg, pregethodd Meistri James Davies, Llanfair, a W. Morris, Llanfyllin. Am ddau, Meistri J. Jones, Main, a W. Hughes, Dinas; yr hwn a enwodd y capel yn Bethania. Am chwech, Meistri W. Davies, Llangollen, a J. Ridge. Dechreuwyd yr odfaeon gan Meistri W. Hughes, Dinas; J. Jones, Hafodfawr; a James Peregrine.*  Bu Mr. Hughes yma hyd y flwyddyn 1829, pryd y rhoddodd yr eglwys i fyny, ac y cyfyngodd ei lafur i Lanwddyn. Yn niwedd y flwyddyn ganlynol, rhoddwyd galwad i Mr. David Price, yr hwn a urddasid ddwy flynedd cyn hyny yn Nghapel Helyg, a'r eglwysi cysylltiedig, yn sir Gaernarfon. Cynhaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad Ionawr 13eg a'r 14eg, 1831, pryd y cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Meistri J. Roberts, Llanbrynmair; M. Hughes, Sardis; W. Morris, Llanfyllin; J. Jones, Llanidloes; J. Rees, Sarnau; T. Jones, Llangollen; J. Williams, Dinas; E. Davies, Coed Treflach; C. Jones, E. Evans, J. Morris, a T. Richards, Llanfyllin. Bu Mr. Price yma yn boblogaidd fawn am ddeng mlynedd, hyd nes yr ymadawodd i Rhosllanerchrugog, ac oddiyno i Ddinbych, ac y mae yn awr yn America. Yn nechreu 1841, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. William Roberts, yr hwn oedd yn weinidog yn Pennal a Rhiwgwreiddyn, gerllaw Machynlleth, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn mis Mai, a chynhaliwyd cyfarfodydd yn Mhenybont ac yn Llanrhaiadr, Awst 17eg a'r 18fed, 1841, i'w gydnabod yn gyhoeddus. Ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri H. James, Brithdir; J.Williams, Aberhosan; H. Morgan, Sammah; R. Thomas, Dinas; D. Price, Rhos; J. Davies, Llanfair; J. Jones, Penllys; R. Thomas, Croesoswallt; S. Jones, Maentwrog; E. Griffiths, Llanegryn; E. Roberts, o athrofa Aberhonddu; a J. Thomas, Machynlleth. Bu Mr. Roberts yma yn barchus a chymeradwy am bum'-mlynedd-ar-hugain, hyd nes y derbyniodd alwad o Danygrisiau a Rhiwbryfdir, Ffestiniog, ac y symudodd yno. Trwy symudiadau a marwolaethau dyoddefodd yr achos yma golledion trymion, fel y teimlai y rhai a adawyd ar ol yn isel a digalon. Yr oedd y capel wedi myned yn adfaeliedig, ac nid oedd ysbryd wedi ei adael yn y cyfeillion i ymgymeryd a'i ailadeiladu. Wrth weled gwendid yr achos yn y lle wedi ymadawiad Mr. Roberts, anogwyd Mr. C. R. Jones, Llanfyllin, i gynorthwyo y frawdoliaeth yno i godi addoldy newydd. Ymgymerodd Mr. Jones a hyny, a thaflodd ei holl ysbryd i'r gwaith. Cafwyd tir yn rhad gan Mrs. Evans, Penybont Farm, mewn man nodedig o gyfleus yn mhentref Penybont; a chodwyd arno gapel prydferth, gwerth 360p, ac agorwyd ef Hydref 22ain a'r 23ain, 1868.

Gwerthwyd yr hen gapel, a rhwng yr arian a gafwyd am dano, a'r hyn a gasglwyd gan yr eglwys a'r gynnulleidfa yn y lle, a'r hyn a gasglodd Mr. C. R. Jones oddiar gyfeillion mewn manau eraill, y mae dros 250p. o'r ddyled wedi ei dalu. Yn haf 1870, rhoddwyd galwad i Mr. Lewis

* Dysgedydd, 1824. Tu dal. 49

354

Evans, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Hydref 10fed a'r 11eg. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Jones, Machynlleth. HoIwyd y gofyniadau gan Mr. O. Evans, Llanbrynmair. Gweddiodd Mr. H. James, Llansantffraid. Pregethodd Mr. J. G. Morris, Trefdraeth, i'r gweinidog, a Mr. W. Roberts, Ffestiniog, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri C. Evans, Foel; a W. Perkins, Pennal.* Mae Mr. Evans yn dechreu ei weinidogaeth dan amgylchiadau pur siriol ac y mae yr eglwys fechan yn Llangynog wedi ymuno dan yr un weinidogaeth. Yma y codwyd John Jones, Parc, i bregethu, yr hwn a urddwyd yn Penllys, ac a symudodd i Carno, ac sydd yn awr yn America. Bu yma amryw bregethwyr eraill o bryd i bryd yn perthyn i'r eglwys, ond nid ydym yn cael fod un o honynt wedi ei godi ynddi i bregethu; ond bu yma un pregethwr am dymhor hir yn nglyn a'r eglwys, am yr hwn y mae yn weddus i ni wneyd byr goffad.

Thomas Richards, Penybontfawr. Yr oedd yn adnabyddus i'r rhan fwyaf o siroedd Cymry fel pregethwr cynorthwyol parchus a chymeradwy. Ganwyd ef yn Llanfyllin. Yr oedd ei dad, John Richards, Patent Maker, fel ei gelwid, yn hen aelod yn nghapel Pendref; a derbyniwyd Mr Thomas Richards yn aelod pan yn ieuangc. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1824; ac yr oedd ef a Mr. Morris, Main, yn gyfeillion mawr, ac yn dechreu pregethu o gylch yr un amser, ac yn cynorthwyo Mr. Morris, Llanfyllin, yn y lleoedd o gylch y dref. Symudodd Mr. Richards cyn hir i Benybontfawr, lle y bu yn cadw siop, ac yn pregethu pa le bynag y gelwid am dano. Yr oedd yn ddyn hynaws a charedig, yn hytrach yn llwfr a digalon. Nid oedd ei dalentau yn loywon, na'i alluoedd pregethwrol yn gryfion; ond yr oedd ei gymeriad difwIch, a'i ddull anymhongar, a'i ddawn ennillgar, yn ei wneyd yn dderbyniol a pharchus pa le bynag yr elai. Bu yn myned yn rheolaidd trwy ranau o'r De neu y Gogledd yn achos y Dysgedydd, am 24 mlynedd. Dechreuodd waelu yn ei iechyd yn Ebrill, 1866; ac ar yr 8fed o Fai, yr un flwyddyn, hunodd yn yr lesu, yn 63 oed. Dywedai ychydig cyn marw, " Mi a wn i bwy y credais." Claddwyd ef yn mynwent Llanfyllin. Mab iddo ef ydyw Mr. John Newman Richards, gweinidog yr Annibynwyr Seisnig yn Aberteifi.

Translation by Maureen Saycell (Sept 2010)

This place is just over 6 miles from Llanfyllin on the road to Bala.The surrounding countryside is beautiful and productive, the small valley is protected by surrounding hills. It appears that preaching began in this area at Pedairffordd, some 2 miles below Penybont, and Owen Phillips, Rhywsaeth and his maid Mary Llwyd as well as others went there to worship. We do not know who the preachers were that visited the area, or when.  It could have been any of these - Mr. John Griffith, Llanfyllin, c 1780 -1782, Mr. Daniel Goronwy, Bala, on his way to and from Pantmawr, a monthly journey. There was preaching at Watkin Jones' home, Felinbach, near Penybont, and the old stonemason's barn at Hirnant. In 1782,  David Jones, Foelcortho, took a lease on David Jones, the Weaver's, house in Hirnant, all services were moved there and it became known as "Capel Bach." *  It was always regarded as a branch of Llanfyllin, where they attended for communion. The first known minister was Mr Jenkin Lewis, who came to Llanfyllin in 1785. We have a letter of his  to the Congregational Treasury addressed to Burton Wilbie, Esq, Walthamston[w?], Essex, dated January 6th, 1795.# In the letter he states that there are few members and the income is low. His annual total is £23/10/=, not counting the £4/=/= he received from their fund. He also says it is not much to support him and his wife, and that he has to keep a horse in order to get to a small place under his care 7 miles out 3 Sundays a month, probably Capel Bach. Mr Azariah Shadrach was keeping a school here in 1800 when the Venerable D Williams, Llanwrtyd amd Mr Daniel Evans, later Mynyddbach travelled through on their way north. Mr Lewis, Llanfyllin ministered until his death, then John Lewis, Bala on a monthly basis until Mr Morris Hughes was ordained in 1809. It was during his time that the move from Capel Bach to the new chapel in Penybontfawr, named Bethania. It is in the parishof Pennant-moelangell. The opening took place November 17th and 18th, 1823. Those officiating were Messrs H. Hughes, Llechwedd, M. Jones, Llanuwchllyn, James Davies, Llanfair,  W. Morris, Llanfyllin, J. Jones, Main,  W. Hughes, Dinas who named the chapel Bethania,W. Davies, Llangollen, J. Ridge, W. Hughes, Dinas, J. Jones, Hafodfawr; and James Peregrine.** Mr Hughes was here until 1829, when he confined his ministry to Llanwddyn. They called Mr David Price, ordained Capel Helyg, Caernarfonshire and his induction took place January 13th and 14th, 1831 - those officiating were Messrs J.Roberts,  Llanbrynmair, M. Hughes, Sardis, W. Morris, Llanfyllin, J.Jones, Llanidloes, J. Rees, Sarnau, T. Jones, Llangollen, J. Williams, Dinas, E. Davies, Coed Treflach, C. Jones, E. Evans, J. Morris, and T. Richards, Llanfyllin. Mr Price was here for 10 years then left for Rhosllanerchrugog, then to Denbigh and is now in America. In 1841 Mr William Roberts, Pennal and Rhiwgwreiddyn, Machynlleth, was called. He began his ministry in May, induction services were held at Penybont and Llanrhayader on August 17th and 18th, 1841 - those officiating were Messrs H. James, Brithdir; J.Williams, Aberhosan, H. Morgan, Sammah, R. Thomas, Dinas, D. Price, Rhos, J. Davies, Llanfair, J. Jones, Penllys, R. Thomas, Oswestry, S. Jones, Maentwrog, E. Griffiths, Llanegryn, E. Roberts, Brecon College and  J. Thomas, Machynlleth. Mr Roberts was here for 25 years before moving to Tanygrisiau and Rhiwbryfdir, Ffestiniog. The cause became low and disheartened by various events and there was no drive to repair or rebuild the chapel. Mr C R Jones, Llanfyllin was asked to help the brotherhood build a new chapel. Land was donated by Mrs Evans, Penybont Farm and a new chapel was built at a cost of £360 and it was opened October 22nd and 23rd, 1868.

The old chapel was sold and the money gained along with that collected from various sources means that £250 has already been paid. In 1870 Mr Lewis Evans, a student in Carmarthen was called, he was ordained on October 10th and 11th. Those officiating were Mr. J. Jones, Machynlleth, Mr. O. Evans, Llanbrynmair, Mr. H. James, Llansantffraid, Mr. J. G. Morris, Trefdraeth, Mr. W. Roberts, Ffestiniog, sermons were also given by Messrs C. Evans, Foel,and W. Perkins, Pennal.* Llangynog has now come under the same ministry.

Only one has been raised to preach from here

The following have been associated with this church -

* Cronicl yr Undeb.  Rhif. III. Ysgrif Mr. W. Roberts.

** Dysgedydd, 1824. page 49

# Records of the Congregational Fund Board.

 

LLANRHAIADR YN MOCHNANT

Dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn y lle hwn tua'r flwyddyn 1808. Deuai pregethwr i lawr at ddau o'r gloch o'r "Capel Bach," gerllaw Penybontfawr. Pregethid yn nhy Maurice Francis, tad Mr. A. Francis, Rhyl, ac elai y pregethwr a'r ychydig aelodau oedd yn Llanrhaiadr, yn ol drachefn at yr oedfa hwyrol i'r "Capel Bach." Er mai pregethu oedd y moddion cyhoeddus cyntaf a ddefnyddiwyd i alw sylw trigolion at yr efengyl, etto, yr Ysgol Sabbothol a fu yn parotoi meddyliau y bobl ar raddeg eang i ddod i wrando yr efengyl a'i derbyn. Gwelir felly, mai peth diweddar iawn yw Ymneillduaeth yn y lle hwn. Pan y dechreuwyd cynal yr Ysgol Sabbothol, yr oedd yn tynu gryn sylw, ac yn cael ei gwrthwynebu gan rai ag y buasid yn disgwyl yn amgen oddiwrthynt. Er na archollwyd hi yn nhy ei charedigion, archollwyd hi gan rai

* Tyst Cymreig, Hydref 28ain, 1870.

355

a ddylasai fod yn garedigion iddi. Ond fel pob achos da pan ei cymerir i fyny gan rai sydd yn cydymdeimlo yn drwyadl įg ef, y mae hyd yn nod gwrthwynebiadau yn troi yn fanteisiol iddo, fel y dderwen yn gwreiddio yn ddyfnach yn yr ystorm. Cychwynwyd yr Ysgol Sabbothol yma tua'r flwyddyn 1814. Dyma'r pryd yr oedd yr oes batriarchaidd yn yr ardal hon yn rhoddi lle i ffurf eangach a mwy effeithiol i oleno a chrefyddoli rhai ieuaingc. O'r blaen, y penteulu oedd yr offeiriad yn y teulu, ac os esgeulusid yr addysgu a'r aberthu yn y teulu - fel y byddai y mwyafrif yn gwneyd - yr oedd crefydd y plant yn cael ei hesgeuluso yn gwbl. Ond yn yr Ysgol Sabbothol, agorodd yr eglwys ei mynwes, a pharotodd ei  haelwyd i dderbyn plant bychain; a bu yn allu effeithiol i'w dysgu, a'u dad-ddysgu o'r arferion yn yr rhai yr oeddynt wedi eu meithrin. Amseroedd blinion oedd y dyddiau hyny. Yr amser hwn yr oedd Boni bron a gorphen llanw cwpan Ffrainc hyd yr ymyl, pan y bu raid iddo ef a hithau gydyfed ei waddod. Yr oedd a holl egnion, un o'r arweinwyr mwyaf llwyddianus, yn rhoddi yr arfau ydynt gnawdol yn nwylaw y tadau i ymladd, ac yn nwylaw y plant i chwareu a hwy, a phobl Prydain ac eraill yn rhoddi arfau yn nwylaw eu pobl hwythau i wrthryfela, gan "ymgynghori yn unig i'w fwrw ef i lawr o'i fawredd." Y pryd hwnw yr oedd Pioneer yr Ysgol Sabbothol yn Llanrhaiadr yn llawn o sel ac yni yn rhoddi yr arfau "nid ydynt gnawdol " yn nwylaw, ac yn neall y tadau a'r plant yn yr ardal hon, a gwnaed llu o honynt yn filwyr, a rhai o honynt yn " filwyr da i Iesu Grist." Y mae " ymdrech deg " yr olynwyr hyn i'r apostolion, y fath, fel y byddai yn flin genym iddo fod allan o "Lyfr Actau'r Apostolion" a berthyn i'r gangen hon o eglwys Crist, fel y caffo yr oesau a ddel wybod fod cewri wedi bod ar y ddaear heblaw cewri rhyfel, y rhai oedd yn cynhyrfu Ewrop y dyddiau hyny, a'r rhai yr oedd yn rhaid eu hysgubo oddiar wyneb y byd, a'u " bwrw i eigion y mor." Yr oedd trigolion Llanrhaiadr yr adeg hon yn dra annuwiol ac anwybodus - y gwylmabsantau, a'r chwareuon ar y Sabboth, y meddwi a'r ymladd, yn eu llawn rym. Yn mhlith eu tadau y bu Doctor Morgan, " yn poeni yn y gair," er ei gael allan o guddfanau ieithoedd estronol. Ond nid adnabu Llanrhaiadr " ddydd ei hymweliad," ac os bu rhai o honynt yn "llawenychu dros amser " yn ei oleuni, tra y daliai efe y gwirionedd yn " Ilewyrch i'w llwybr;" yn fuan " troisant bawb i'w ffordd ei hun." Henry Parry, yr hwn oedd yn aelod yn y " Capel Bach," ac yn cadw siop fechan yn Llanrhaiadr, oedd yn arbenig yn poeni ei enaid cyfiawn wrth ganfod y fath dywyllwch a drygioni. Daeth i'w feddwl yn rymus iawn i geisio codi Ysgol Sabbothol yn y lle; ond methai a chael neb o gyffelyb feddwl, hyd yn mhen ysbaid, y cafodd gan John Rees, tad y Meistri E. Rees, Llanymddyfri; a W. Rees, Corris, ei gynorthwyo. Aelod gyda'r Trefnyddion Calfinaidd oedd Mr. J. Rees, ond yr oedd eu ty addoli hwythau ryw dair milldir o'r Llan, ac hyd y pryd hwnw buwyd heb ddechreu yr un ysgol yn y lle. Darllenwr cymharol wael oedd Mr. H. Parry ei hunan pan ddechreuodd y gwaith da hwn; ond wrth ymdrechu cymhwyso ei hun i fod yn athraw i eraill, daeth yn fedrus yn y gorchwyl, ac yn ysgrythyrwr cadarn. Wrth ddysgu eraill dysgodd ei hun. Aeth y rhif yn ormod i'r ddau athraw allu gweinyddu arnynt fel y dymunent; a gofynodd Mr. H. Parry i un o'i gydaelodau, saer wrth ei gelfyddyd, am ddyfod i'w cynorthwyo, a'r ateb a gafodd oedd, " A wyddost ti beth, Harri?  Byddai yr un peth i ti geisio genyf fyn'd a fy llif i'r pit ar

356

foreu Sabboth o, a cheisio genyf ddod i gadw ysgol." Ond daeth y brawd hwn wedi hyny i sefyll yn ystyriol uwchben y cwestiwn, " Ai rhydd gwneuthur da ar y Sabboth?" ac fel llawer eraill, wedi iddo iawn ddeall ei ddyledswydd, aeth ati yn galonog. Gwnaeth yr Ysgol Sul gyfnewidiad dirfawr yn fuan. Dysgai yr athrawon i'r plant eu dyledswydd tuag at Dduw a dyn, a bu y plant hyny yn ddysgawdwyr i'w rhieni. Arferai y mamau anfon eu plant ar foreuau Sabbothau i dai yr amaethwyr cylchynol i ymofyn llaeth, er eu galluogi i wneyd ciniaw Sabboth teilwng, gan feddwl na buasai Sabboth yn well na rhyw ddydd arall oni allesid arlwyo y bwrdd yn well arno, ond yn yr ysgol dysgwyd y plant fod y fath negeseuau yn halogiad ar y Sabboth, ac ni cheid ganddynt fyned, a daeth y rhieni i deimlo grym yr addysg a dderbyniai eu plant, darfyddodd yr arferiad, a chyn pen nemawr o amser darfyddodd chwareuyddiaethau y fynwent, gwywodd y gwylmabsantau, newidiwyd yr iaith a'r arferion fesur mawr, ac yn lle bod yn treulio eu Sabbothau yn mysg y beddau, daethant yn eu hiawn bwyll i eistedd wrth draed yr Iesu. Yr oedd yr ysgol a'r pregethu yn cael eu cynal yn nhy Maurice Francis, ond aeth y ty yn rhy fychan i gynwys y rhai a ddeuai yn nghyd, a symudwyd yr holl foddion i ystafell eangach, a berthynai i John Rees. Yr amser hwn, yr oedd yr athrofa yn Llanfyllin, a'r myfyrwyr yn benaf a ddeuai atynt i bregethu. Yr oedd yn yr athrofa ar y pryd ddynion ieuaingc tra gobeithiol, ac yn bregethwyr poblogaidd. Mr. W. Morris, Llanfyllin; Mr. J. Ridge, y Bala; Mr. W. Jones, o Amlwch; Mr. J. Jones, o Lundain, ac eraill; a deuai Mr. Morris Hughes, o Sardis, yn fisol. Aeth y lle hwn yn rhy gyfyng drachefn, ac yn y flwyddyn 1822, adeiladwyd addoldy, a galwyd ef y Tabernacl. Dyddiad y Trust Deed yw Mawrth 16eg, 1822 ; a mawr y ffyddlondeb a ddangoswyd gan yr ychydig aelodau i dalu dyled y ty hwn. Nid yw enwau yr aelodau nemawr o honynt ar gael. Teg yw dyweyd fod y ddau foneddwr Mr. Charles Jones, Llanfyllin; a Mr. Edward Evans, siop, Llanrhaiadr; y rhai mwyaf eu dylanwad er cael y symudiad hwn oddiamgylch yn llwyddianus. O'r braidd y gellid cael tir ar werth gan neb at y fath amcan! ac yr oedd yn rhaid ei gymeryd yn y fan lle y gellid ei gael, a bod yn ddiolchgar am dano boed ef gyfleus neu beidio. Ar y dechreu pan mewn cysylltiad a'r Capel Bach, Penybont, deuai Mr. J. Lewis, y Bala, yma yn fisel am ysbaid, Ar ei ol ef fe ddaeth Mr. Morris Hughes, o Sardis, yn fisol i weinyddu yr ordinhad, &c. Ond ar ol codi y capel, Mr. W. Morris, Llanfyllin a fu yn dod yma yn fisol i weini yr ordinhadau, hyd y flwyddyn 1830, ac yr oedd pregethwyr Llanfyllin yn gofalu am y Sabbothau eraill. Wedi sefydliad Mr. D. Price yn Mhenybont, yn nechreu 1831, rhoddodd yr eglwys alwad iddo ef; a bu yma yn gweinidogaethu am yn agos i ddeng mlynedd, pan y symudodd i Rhos, yn nechreu 1841, a rhoddodd yr eglwys yma, nglyn a Phenybont a Llangynog, alwad yn ddiaros i Mr. W. Roberts, Pennal, a dechreuodd ei weinidogaeth. Mai 16eg, 1841. Bu Mr. Roberts yma am 25 o flynyddoedd, yn llafurus iawn, ac ni "bu ei lafur yn ofer yn yr Arglwydd." Cafodd lluaws mawr eu hychwanegu at yr. eglwysi yn ystod ei arhosiad yn y lle. Wedi ei ymadawiad ef, teimlid fod y maes yn rhy eang i un gweinidog, a phenderfynodd yr eglwys hon i gael gweinidog iddi ei hun, gan fod angen gweinidogaeth yn fwy cyson. Yn y flwyddyn 1867, rhoddwyd galwad i Mr. John Morris, efrydydd yn athrofa y Bala, i ddod. i'w bugeilio yn yr Arglwydd, ac arosasant wrtho

357

am haner blwyddyn, nes iddo orphen ei amser yn yr athrofa. Urddwyd ef Ebrill 19eg a'r 20fed, 1868. Traethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Roberts, Tanygrisiau. Holwyd y gofyniadau gan Mr. C. Evans, y Foel. Gweddiodd Mr. D. M. Davies, Llanfyllin. Rhoddwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. M. D. Jones, o'r Bala; ac i'r eglwys gan Mr. R. Thomas, Bangor. Y mae cariad a dedwyddwch mawr yn ffynu rhwng y gweinidog a phobl ei ofal hyd y dydd hwn.

Mae amryw ganghenau perthynol i'r lle hwn, lle y cynhelir ysgolion Sabbothol, a phregethu achlysurol, ac y mae capeli bychain wedi eu codi yn rhai o honynt.

COMMINS.  - Ar gymelliad T. Davies, Dolgellau, y cychwynwyd ysgol yn y lle hwn tua'r flwyddyn 1819. Yn yr ardal hon y ganed Mr. Davies, ond achlysurol oedd ei arosiad yr adeg hon. Yr oedd sel dros yr ysgo yn llosgi yn ei fynwes tra yn ieuangc, i'r hon wedi hyny y gwnaed of yn apostol. Cychwynwyd yr ysgol mewn tyddyndy bychan a elwid Gardden, o dan ofal un William Owen, mab i amaethwr cyfagos, oedd yn byw yn y lle a elwir yr Ochr. Nid oedd W. Owen yn proffesu crefydd, ond o foesau da; ac ar y cyntaf nid oedd ei wybodaeth yn ngair yr Arglwydd ond bychan, ond wrth "boeni yn y gair," er goleuo meddwl ei ddysgyblion, daeth yn yn fuan i wybod "ffordd Duw yn fanylach." Yr oedd yn meddu ar y tact gwerthfawr i reoli yr afreolus, a dysgu yr anwybodus; ond cyn pen pedair blynedd "efe a fu farw," a thrwy nad oedd neb o'i gynorthwywyr o gyffelyb fedr a sel, bu yr ysgol farw hefyd am yspaid, ond daeth rhai o'i ysgoleigion yn fuan yn aelodau yn y Tabernacl; a phenderfynodd Edward Wynne, O. Lewis, a Mathew Davies, y rhai sydd yn aros hyd heddyw, roi ailgychwyniad i'r ysgol; ac o hyny allan y mae yn aros, ac yn llwyddo. Yn y flwyddyn 1836, cafwyd fir gan Mr. O. Lewis, yn rhodd, a chodwyd yno gapel bychan ; ac yn 1862, helaethwyd ef i'w faintioli presenol.

MAENGWYNEDD. - Cangen arall mewn cwm sydd yn dwyn yr enw hwnw. Yr ysgol Sabbothol a fu yn digaregu y ffordd yma hefyd. Yr oedd cychwynydd moddion crefyddol yn y cwmwd hwn, yn un o'r cymeriadau hyny, na anghofir mo honynt gan ei gydoeswyr yn yr un ardal; ac fe ddisgyna ei enw yn anwyl a pharchus i'w blant. Cerddodd ef a'i briod, cyn dechreu yr un moddion yn Maengwynedd, am flynyddoedd dros y mynyddoedd i Gapel Bach, Penybontfawr, yn gyson ar y Sabboth, ac i'r gyfeillach ar noson o'r wythnos, pellder yn ddiau rhwng myned a dychwelyd, o ddeng milldir neu ragor o ffordd uchel ac anwastad. Yr oedd y gwr yn ewythr i Mr. R. Thomas, Bangor, o frawd ei dad; a dylasai ei nai, neu hen weinidog, Mr. W. Roberts, fod wedi ysgrifenu cofiant iddo i un o fisolion yr enwad. Methodd dinodedd ei amgylchiadau ei wneyd yn ddinod - ymwthiodd i gyhoeddusrwydd ar eu gwaethaf. Y mae rhyw bobl yn dyheu yn barhaus am amgylchiadau manteisiol i allu gwneyd rhywargraff ar y byd; ac ambell un arall, heb ymgais na bwriad, megis o dan yr anfanteision mwyaf, yn ysgogi ac yn cyfarwyddo cydoeswyr ac olafiaid heb yn wybod iddynt eu hunain.

Y mae enw a choffadwriaeth Robert Thomas yn perarogli awyrgylch grefyddol yr ardal hon yn barhaus, ac yn y cyfeillachau crefyddol, ac ar aelwydydd, " y mae efe er wedi marw, yn llefaru etto."  Y mae ei feddyliau, a'i ddull dirodres, ond grymus, yn bethau sydd yn glynu nes ymffurfio yn meddyliau olafiaid, fel na ellir eu claddu na'u colli. Y mae adgyfodiad i'w feddyliau dynodiadol, yn cynyrchu y wen hono, sydd yn

358

yr ystafell agosaf i'r deigryn. Ac yr oedd mor hynod yn ei farwolaeth ac yn ei fywyd. Bu ei wraig farw ryw ychydig o'i flaen, a phan yr oedd hi bron a gadael y byd, nesai yr hen frawd at ochr y gwely, a gofynai, "Wyt ti yn myn'd Betti ?" " Ydwyf," meddai hithau, mor dawel ag yntau. "Wel, dywed fy mod yn cofio at lawer o honynt, a fy mod lnau yn d'od yn bur fuan."  "Mi wnaf," meddai yr hen chwaer yn gwbl gartrefol. Ychydig cyn iddo farw ei hunan, dywedai wrth frawd crefyddol oedd yn edrych am dano. Y buasai yn dda ganddo i rai o'r rhai oedd ef wedi eu gynghori yn ofer yn ei fywyd, fod yn ei ymyl y funud ddiweddaf. " Wel i ba amcan Robert Thomas?" meddai'r cyfaill. "I mi gael dyweyd wrthynt," meddai yntau, " Dewch yma i chwi gael gweled sut y gall cristion farw." Dechreuodd ef gadw ysgol yn ei dy ei hun, ac adeiladwyd capel bychan, a alwyd yn Tabor yn mhen amser, ac adgyweiriwyd ef yn 1862. Yn awr, y mae y cyfeillion yma wedi penderfynu adeiladu capel helaethach, ac mewn lle mwy cyfleus yn y cwm hwn, yr haf nesaf.

PEDAIRFFORDD. - Cychwynwyd yr ysgol yn y lle hwn, Mehefin 24ain, 1827, gan Mr. John Roberts, Cefngwyn, - un ag y mae ei dduwioldeb a'i sel grefyddol wedi rhoddi iddo goffadwriaeth barchus iawn. Cychwynwyd hi yn y Dderwenfawr. Un Edward Jones oedd yno yn byw ar y pryd, a bu yn garedig iawn i'r ysgol tra yn ei dy. Aeth yr ysgol oddi yno i Gwernffinant, ac oddi yno i bentref bychan Pedairffordd, lle y bu yn treiglo o dy i dy hyd y flwyddyn 1862, pryd y cafodd dy iddi ei hun; ac y mae yn gorphwys byth ar ol ei phererindod, yn bur ddedwydd mewn capel bychan tlws. Cafwyd tir i adeiladu gan Mr. Richard Davies, Llanfyllin; a mawr a fu ffyddlondeb Mr. D. Roberts, Cefngwyn, ac eraill, yn adeg adeiladu y capel. Pregethodd Meistri D. Davies, New Inn; a John Jones, Llangiwc, ddydd ei agoriad. Yr oedd y diweddaf, wedi teithio yno am rai blynyddoedd, efe a Mr. J. Davies, Ruthin, i gynorthwyo cynal yr ysgol, hyd nes yr aethant i'r athrofa. Ac o'u blaen hwynt, a chyda hwynt, ac ar eu hol hwynt, y mae yr hen frawd ffyddlon D. Thomas, yn myned o'r Llan atynt, bob Sabboth er's deugain mlynedd, oddieithr iddo gael ei luddio gan afiechyd. A bydd ei enw ef yn gysegredig gydag achos crefydd yn y Ile, ac nid y lleiaf fel apostol Pedairffordd.

CEFNCOCH  - Enw ar ran o'r ardal ydyw hwn, a chynhelir yno ysgol mewn ty anedd er's llawer blwyddyn, a dechreuwyd yn benaf trwy y brawd Mr. Richard Davies, yn awr o Lansilin.

Fe welir oddiwrth y canghenau hyn, fod eglwys y Tabernacl yn bur wasgarog. Cafodd yr hen gapel aros yn ei ffurf ddechreuol, hyd y flwyddyn 1862, pan yr ailadeiladwyd ef, a rhwng y gost gyda'r Tabernacl a'r canghenau, aeth yr eglwys y flwyddyn hono i 600p. o draul, a llafuriasant hwy a'u gweinidog yn ddiorphwys, nes cael y ddyled ymaith. Casglodd Mr. Roberts tua 100p. Yn Hydref, 1868, cyhoeddwyd y Tabernacl yn gapel annibynol yn llawn ystyr y gair; yn wr rhydd oddiwrth ei ofynwyr, ac  mae ei gyfeillion ffyddlonaf, yn bur benderfynol yn awr, na chaiff fod " yn nyled neb o ddim," yn eu hoes hwy. Yn 1870, rhoddwyd costau ychwanegol o ddeugain punt, a thalwyd hwy y flwyddyn hono; ac y mae bwriad i roi costau etto arno yr haf dyfodol. Nid oes ball ar ei gweithgarwch. Heblaw y rhai a enwyd eisioes, bu yma lawer o ffyddloniaid yn nglyn a'r achos; ac y mae yma ffyddloniaid yn aros.

Codwyd yma i bregethu yn yr eglwys yma o bryd i bryd, y personau canlynol:

359

Translation by Maureen Saycell (Feb 2010)

The Independents began preaching here around 1808. A preacher came down for 2 o'clock from "Capel Bach" near Penybontfawr. Sermons were given at the home of  Maurice Francis, father of Mr A Francis, Rhyl, both minister and the few members returned to the evening service at "Capel Bach". Despite the fact that it was preaching that first drew attention to religion, it was Sunday School that opened their minds to listen to the scriptures and accept them. It appears therefore that nonconformity in this area was recent. When Sunday School was started it drew attention and opposition from some that should have known better. Although it was not damaged with sympathisers, it was damaged by those who should have understood. But like many good causes when it is taken up by true supporters, even the opposition can be turned to advantage, like the oak tree that roots deeper in a storm. The Sunday School was opened around 1814. This was the time when the old patriarchs in the area gave way to a method with wider appeal to reach the young. Previously the head of the household was the pastor and if education was neglected, as it frequently was, the children's religion was completely neglected. The Sunday School opened their hearts and prepared them to be educated and moved away from their old ways. These were dark days. At this time Bonaparte had almost filled the cup of France to overflowing when he was forced to drink the dregs. All the energy of this most successful leader was to put physical weapons in the father's hands a to fight with and in the childrens hands to play with, Britain and others giving their people weapons to their people in order to fight back  while "holding council only to knock him down from his position of power." At the same time the Pioneer of the Sunday School in Llanrhaiadr was zealously putting arms "not of the physical kind" in the hands and the understanding of the fathers and children of this area, many became soldiers and some became "good soldiers for Jesus". There was a strong effort by these followers of the Apostles that we regret that he was not included in the Acts of the Apostles belonging to this branch of Christ's Church, so that in the future people will know there were giants on the earth that were not belligerent. The citizens of Llanrhaiadr at that time were ungodly and uneducated - the feasts, gaming on Sundays, drunkeness and fighting all had their effect. Amongst their forefathers was Doctor Morgan "worrying over the word" despite being in foreign languages. If anyone in Llanrhaiadr recognised the visitation and rejoiced in the light while he held his belief, they soon went their own way. Henry Parry, a member of Capel Bach and a local shopkeeper, was particurlarly concerned with the situation. He felt strongly the need to open a Sunday School here but failed to find anyone of the same opinion, then he found support from John Rees, father of Messrs E Rees, Llandovery and W Rees, Corris. Mr J Rees was a Calvinist, who had their place of worship some 3 miles from Llan, they had not started any Sunday School there. Mr H Parry was a poor reader when he began this good work, but made the effort to learn so that he could teach others and became quite able, with a strong knowledge of the scriptures. While teaching others he educated himself. The numbers became too great for the 2 of them, they were not able to give the attention needed. Mr H Parry asked one of the other members, a carpenter by trade, to help them. His answer was "Do you know what, Harry? I would as soon take my saw into the Pit on the Sabboth". Later this brother considered the question "Is freedom to do good on the Sabboth?" and as many others had he understood his duty and went to his labours heartily. The Sunday School soon made a big difference. The teachers taught the children their duty to God and man, the children taught their parents. The mothers used to send their children to the surrounding farms for milk, so they could make better food on Sunday so that it was different to other days. In the School the children were taught this was not relevant to the Sabboth and refused to go, the parents felt the edge of the education their children received and the habit ended, soon the old ways of spending Sundays disappeared and they came to their senses and sat at the feet of Jesus. The School and preaching were held in Maurice Francis' home, the small house became too small and both were moved to a larger room, owned by John Rees. At this time the College was in Llanfyllin, and the preaching was mainly done by the students. At that time there were some very promising students there, popular preachers, Mr. W. Morris, Llanfyllin; Mr. J. Ridge, Bala; Mr. W. Jones,  Amlwch; Mr. J. Jones, London, and others, and Mr. Morris Hughes, Sardis, came monthly. This space became too small again and in 1822 a small chapel was built, named Tabernacl. The date of the Trust Deed was March 16th, 1822, great faith was shown by the small membership to pay off the debt on this house. Their names are not known. It is fair to say that the two gentlemen Mr Charles Jones, Llanfyllin and Mr Edward Evans, Shop, Llanrhaiadr had the greatest influence in the success of the venture. Finding land was very difficult, it had to be taken where it could be found and be grateful whether convenient or not. Initially while in association with Capel Bach, Penybont, Mr Lewis, Bala came here monthly for a while. After him Mr Morris Hughes, Sardis, came monthly to celebrate the sacrament. After the chapel was built it was Mr Morris, Llanfyllin that  came to give the sacrament until 1830, with the preachers of Llanfyllin took care of the other Sundays. After Mr D Price settled in Penybont, early 1831, the church called him and he ministered to them for over 10 years, until he moved to Rhos early in 1841 and this church along with Penybont and Llangyno called Mr W Roberts, Pennal, who began his ministry on May16th, 1841. He remained here for 25 successful years. Many were added to the church during his time here. After his departure the area was felt to be too large for one minister so this church decided to have its own minister as the need for regular ministry was necessary. A call was sent to Mr John Morris, a student at Bala, and waited 6 months for him to complete his studies. He was ordained April 19th and 20th, 1868. A sermon on the nature of a church was given by  Mr. W. Roberts, Tanygrisiau. Questions asked by Mr. C. Evans,  Foel. Mr. D. M. Davies, Llanfyllin, offered a prayer. The minister was challenged by Mr. M. D. Jones, Bala, and a sermon to the church from Mr. R. Thomas, Bangor. There is considerable affection between the minister and the people under his care to this day.

There are many branches to this church where Sunday Schools and preaching take place, some have their own chapels.

COMMINS.

It was on the recommendation of T Davies, Dolgellau, that a school was started here around 1819. He was born in this area and visited occasionally at this time. He was very keen on a school in his youth and became an apostle for it later. The school was started in a small cottage named Gardden, under the supervision of a William Owen, son  of a neighbouring farmer at a place called Ochr. W Owen was not religious but morally sound, his knowledge of the Lord's word was small, but as he tried to learn more to enlighten his pupils, he learned the ways of God. He had the ability to handle the unruly, teach the ignorant but within 4 years he died and as none of his assistants had an equal ability the school died for a time, but some of the pupils became members of Tabernacl. Edward Wynne, O Lewis and Mathew Davies decided to restart the school, and it continues successfully. In 1836, Mr O Lewis gave a gift and a small chapel was built here, and in 1862 was extended to its current size.

MAENGWYNEDD.

Another branch in a valley of the same name. It was  Sunday School that cleared the way here also. The originator of religious observance in this valley was the kind of character that would not be forgotten by those who knew him, and his reputation was handed down to their children. He and his wife walked to services in Capel Bach, Penybontfawr, over the hills, before services began in Maengwynedd, every Sunday as well as a week night for a social, a distance of over 10 miles each time on rough mountain roads. He was an uncle to Mr R Thomas, Bangor, on his father's side. His nephew or the old minister should have written his obituary in one of the monthly newletters of the denomination. Being unremarkable in his way did not make him an unremarkable person, he pushed into being well known despite that. Some people strive for greatness, he stumbled into it.

The memory and name of Robert Thomas still have great respect locally. His thoughts and unassuming ways remain in memory down the generations. ...... He kept a small school in his home, a small chapel was built and named Tabor, it was refurbished in 1862. There are now plans to build a larger, more convenient chapel here, to be started next summer.

PEDAIRFFORDD.

The School here was started on July 24th, 1827, by Mr John Roberts, Cefngwyn, whose fervour for religion has gained him great respect. It was started in Derwenfawr. The occupant was Edward Jones, who was very kind to the school whilst it was there. It then moved to Gwernffinant, then to the hamlet of Pedairffordd where it moved from house to house until 1862 when it got a home of its own, it remains fairly comfortable in a pretty little chapel. Land to build was given by Mr Richard Davies, Llanfyllin, Mr D Roberts and others were dedicated to building the chapel. Messrs D Davies, New Inn and John Jones, Llangiwg, preached at the opening. The latter had travelled here for many years along with Mr J Davies, Rhuthin to help maintain the school, until they went to College. D Thomas, Llan, was here before, with and after them faithfully for 40 years, every Sunday. His name will be sacred to religion in this area, not least as the Apostle of Pedairffordd.

 

LLANGYNOG

Translation available on /big/wal/MGY/Llangynog/Hanes.html

"Adeiladwyd capel bychan yn y lle hwn tua'r flwyddyn 1833, yn fuan wedi dechreuad gweinidogaeth Mr. Price, yn Mhenybont; ac efe a fu y prif offeryn i'w godi. Y mae ar y ffordd o'r Llan i'r Pennant, mewn man heb fod y mwyaf cyfleus i luaws y boblogaeth. Lled isel y mae yr achos yma wedi bod, a gwasgodd baich y ddyled yn drwm arno. Ymddibyna y lle lawer ar llwyddiant y gwaith mwn a'r cloddfeydd cerrig, y rhai sydd wedi bod ar rai adegau yn farwaidd iawn. Bu y lle dan ofal Mr. Price, nes yr ymadawodd a Phenybont; ac wedi hyny, am dymor, dan ofal Mr. Roberts, ond oblegid amledd ei ofalon, bu raid iddo ei roddi i fyny. Syrthiodd yr achos mor isel am dymor ar ol hyny, fel y bu y capel yn nghau dros amser. Mae clod mawr yn ddyledus i fyfyrwyr athrofa y Bala, am eu gwasanaeth ffyddlon i'r lle hwn. Buont yn dyfod yn rheolaidd ar bob tywydd dros y Berwyn, i bregethu i'r ychydig a ddeuai yn nghyd, a hyny am dal llai nag a gynygiasid i un gweithiwr cyffredin am fyned ar neges o'r Bala i Langynog; ac oni buasai eu ffyddlondeb a'u hunanymwadiad hwy, nis gallesid  cadw y drws yn agored.

Codwyd yma un pregethwr yn nhymor gweinidogaeth Mr. Price; sef, John Watkins, 'Rhenstent. Mae yr eglwys yn awr wedi uno a Phenybont, a than ofal Mr. Evans. Er nad oes yma neb wedi bod yn amlwg iawn fel crefyddwyr, y mae yn mysg yr ychydig enwau yn y lle, rai i "mawr ofal calon" ganddynt am achos y Gwaredwr."

 

SARDIS, LLANWDDYN

Ymddengys mai yn Cynonisaf y pregethodd yr Annibynwyr gyntaf yn yr ardal hon. Amaethdy ydyw heb fod yn mhell o'r ffordd sydd yn arwain o Lanfyllin i'r Bala, trwy Lanwddyn. Yn nechreu y ganrif hon, symudodd

* Llythyr Mr. I. Morris. 

Translation by Maureen Saycell (March 2010)

It appears that the Independents first preached here at Cynonisaf. It is a farmhouse close to the road from Bala to Llanfyllin, via Llanwddyn. At the start of this century John Davies and his wife moved here from Llanuwchllyn and as they were faithful members there it did not take long before they invited their minister, Dr G Lewis, to preach to them in their new home, this continued as often as possible. As well as Dr Lewis, John Jones, Afonfechan, is also mentioned among the early preachers. John Davies was buried a few years later but his widow continued to support the cause. One of her daughters married John Jones, Gwynyndy, near Llanfaircareinion. Mr Jones came to live in Cynon for a while, and a house was built in the yard for the widow, preaching took place in both places as convenient. There was no church formed at that time in Cynonisaf, they went to Llwydiarth for communion and it was there that Mr John Jones was confirmed a member by Mr James Griffiths, Machynlleth. A church had been formed here before 1809, the year he returned to Gwynyndy, it is stated in his biography that he was a deacon at Cynonisaf when he moved.* It was not long before he moved back to Gwynyndy, where he was a great support to the cause, as will be shown with Llanfair. Mrs Davies continued to have services in her home until she moved to Efailycwm, near Llanfyllin and joined the church there.. Thomas Gittins, from Brynadda, Cwmcowni, followed Mr Jones to Gwynyndy. At the time he was a devout follower of the established Church, but listening to the Independents with Mrs Davies, he was won ove and when she departed, he opened his house to them until Sardis Chapel was opened in 1821. It was opened April 10th and 11th, 1822. Those who took part were Messrs  J. Davies, Llanfair, W. Hughes, Dinas, E. Davies, Cutiau,  J. Roberts, Llanbrynmair, J. Jones, Main, D. Morgan, Machynlleth, H. Lloyd, Towyn, J. Ridge, Penygroes. Mr Morris Hughes, was the minister at Cynon, in association with Capel Bach, Penybontfawr, for years before the building of Sardis. Among the pillars of this cause were, besides John Davies and his wife, we have Evan Davies, Lletty ; Robert Rees, Caeaubychain ; Edward Thomas, Tymawr ; Thomas Gittins, Cynonisaf; Robert Evans, Abermarchnad ; John Parry, Tynewydd; and William Davies, Rhiwlas. Mr M. Hughes preached often at Tanyfoel, Cwmcowni, supported by the students of Llanfyllin, and in 1825, a small chapel was built there named Saron. There was never an Independent church here but it was considered a branch of Sardis. Mr Hughes remained here until his death on September 1st, 1846.

Following Mr Hughes' death, the church was without a minister until a call was sent to Mr Joseph Jones, a student at Bala, who was ordained on June 23rd and 24th, 1853. The following took part in the service - Mr D. Price, Denbigh, Mr W. Roberts, Penybont, Mr J. Williams, Aberhosan,  Mr M. Jones, Bala,  Mr D. Morgan, Llanfyllin, Mr J. Hughes, Foel, R. D. Thomas, Penarth,and H. Ellis, Corwen. Mr Jones was well respected here until 1857, when he moved to Bristol. The next minister called was Mr Benjamin Evans, Peniel, Carmarthenshire, who had been a student at Bala for a while. He was ordained September 14th and 15th, 1858. Those taking part were Mr J. Hughes, Foel, Mr R. Thomas, Llanuwchllyn, Mr W. Roberts, Penybont, and  Mr D. Evans Penarth. Mr Evans remains here with a healthy cause.

The only one to start preaching here was Mr EVAN JONES (Ieuan Gwynedd), who began to preach while keeping school here.

BIOGRAPHICAL NOTES**

MORRIS HUGHES.   - Born 1780, Penyfigin, Braichywaun - not known where he was confirmed a member - possibly Llanfyllin before starting the cause at Llwydiarth - Miller by trade, at Llanfaircareinion for a time - probably started to preach in his own home there - moved to Llanwddyn, preached Sundays at Tanyfoel at 10, Cynon 2, Llwydiarth 6, and monthly at Capel Bach, Llanrhaiadr -  1809, Capel Bach, Penybont, and Cynon, Lanwyddyn called him to be their minister and Mr Davies, Trawsfynydd, went to a ministers meeting at Drwsynant, (Sammah, now), requesting his ordination, which took place at Capel Bach - gave up Penybont 1829 continued with Llanwddyn and Braichywaun - Married twice and raised a large family - a good preacher but not fiery - Mr M. Hughes died September 1st, 1846, age 66, after 2 months illness - his funeral was attended by Mr R. Thomas, Oswestry, Mr D. Davies, Llanerfyl, Mr R. D. Thomas, Penarthand the following Sunday his funeral sermon was given by Mr J. J ones, Penllys. Buried in Llanwddyn, with a fine sone laid there in 1865, by the church at Sardis.

* Dysgedydd, 1842. Tud dal. 261.

** Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

CONTINUED


Return to top

(Gareth Hicks  -20 Sept 2010)

Valid HTML 4.01 Transitional

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright © GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI


Hosted by Mythic Beasts Ltd.