Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

Extracted  by Gareth Hicks from the CD published by Archive CD Books (Jan 2008) - with translation


Llangynog

(Vol 1, p 359)

"Adeiladwyd capel bychan yn y lle hwn tua'r flwyddyn 1833, yn fuan wedi dechreuad gweinidogaeth Mr. Price, yn Mhenybont; ac efe a fu y prif offeryn i'w godi. Y mae ar y ffordd o'r Llan i'r Pennant, mewn man heb fod y mwyaf cyfleus i luaws y boblogaeth. Lled isel y mae yr achos yma wedi bod, a gwasgodd baich y ddyled yn drwm arno. Ymddibyna y lle lawer ar llwyddiant y gwaith mwn a'r cloddfeydd cerrig, y rhai sydd wedi bod ar rai adegau yn farwaidd iawn. Bu y lle dan ofal Mr. Price, nes yr ymadawodd a Phenybont ; ac wedi hyny, am dymor, dan ofal Mr. Roberts, ond oblegid amledd ei ofalon, bu raid iddo ei roddi i fyny. Syrthiodd yr achos mor isel am dymor ar ol hyny, fel y bu y capel yn nghau dros amser. Mae clod mawr yn ddyledus i fyfyrwyr athrofa y Bala, am eu gwasanaeth ffyddlon i'r lle hwn. Buont yn dyfod yn rheolaidd ar bob tywydd dros y Berwyn, i bregethu i'r ychydig a ddeuai yn nghyd, a hyny am dal llai nag a gynygiasid i un gweithiwr cyffredin am fyned ar neges o'r Bala i Langynog; ac oni buasai eu ffyddlondeb a'u hunanymwadiad hwy, nis gallesi ? cadw y drws yn agored.

Codwyd yma un pregethwr yn nhymor gweinidogaeth Mr. Price ; sef, John Watkins, Rhenstent.

Mae yr eglwys yn awr wedi uno a Phenybont, a than ofal Mr. Evans. Er nad oes yma neb wedi bod yn amlwg iawn fel crefyddwyr, y mae yn mysg yr ychydig enwau yn y lle, rai ? " mawr ofal calon " ganddynt am achos y Gwaredwr. "

  ? =  illegible original image

Translation by Maureen Saycell (Feb 2008)

 "This small chapel was built around 1833, soon after Mr Price began his ministry in Penybont, and he was the main instigator of the building. It is on the road between Llan and Pennant in the most convenient position for most of the population. This cause has been quite low, and the weight of the debt has been heavy. The place depends largely on the success of the lead mines and the quarries, which have at times have been very quiet. The place has been under the care of Mr Price, until he left Penybont, after that, for a spell, under the care of Mr Roberts, but because of the number of calls upon him, he had to give it up. The cause became so small after that. The chapel was closed for some time. Praise should be given to the students of Bala College for their faithful service to this place. They crossed the Berwyn Mountains in all weathers, to preach to the few that gathered, and all for a fee less than a common labourer would get for carrying a message from Bala to Llangynog, and if it was not for their selflessness, ? the doors could not have been kept open.

One preacher was raised here in the time of Mr Price's ministry, he was John Watkins of Rhenstent

The church has now united with Penybont, and under the care of Mr Evans. Although there have been no outstanding religious people here, in the midst of the few names in this place , there are a few who hold the Redeemer's cause ? close to their hearts."

? =  illegible original image