Pembrokeshire
Contents
Proof read by Eleri Rowlands (March 2008)
|
|
114
yr achos yn hen gapel Maenclochog. William David, o'r Broadmoor, a Thomas Francis, pregethwr cynorthwyol, oedd blaenoriaid y blaid a ymadawsant o Landilo i fyned i Maenclochog. Bu y bobl hyn am oddeutu pedair blynedd, yn dilyn pob cyfarfod chwarterol i geisio derbyniad i'r undeb, ond gwrthwynebai Mr. Morgans, Henllan, hwy bob tro. O'r diwedd, mewn cyfarfod chwarterol yn Nglandwr, dywedodd rhywun yn y gynadledd, fod pobl Maenclochog wedi dyfod yno i ymofyn am gael eu derbyn i'r undeb, a gofynodd, "Pa beth a wneir iddynt?" Attebodd Mr. Griffiths, Glandwr, "Beth a wneir i fastard ond ei fagu?" Ac felly cawsant eu derbyn. Yn ganlynol, dewisasant Mr. Stephen Lloyd, Brynberian, yn weinidog iddynt, a than ofal gweinidogion Brynberian y buont hyd farwolaeth Mr. John Owen.* Nid oedd yr amgylchiad hwn yn hysbys i ni pan yn ysgrifenu hanes Maenclochog.
Er i'r rhan fwyaf o'r eglwys ymadael yn y rhaniad, bu raid i'r rhai arosasant gyda Mr. Morgans yn Llandilo, fyned i'r draul o adeiladu capel newydd, gan fod yr hen yn rhy ddadfeiliedig iddynt allu addoli ynddo yn ddiberygl. Gan fod yr hen gapel ar gwr lled anmhoblog o'r ardal, penderfynwyd adeiladu yr ail yn nes i lawr, ac yn agos i Eglwys y plwyf. Buwyd yn addoli yn yr ail gapel am o haner cant i driugain mlynedd. Yr addoldy presenol, yr hwn sydd adeilad hardd a chyfleus, ac yn cael ei amgylchynu gan fynwent brydferth, yw trydydd addoldy yr eglwys henafol hon, ac er mai Llandilo y gelwir ef, saif ar y terfyn yn mhlwyf Llangolman.
Wedi i Mr. Lloyd, Henllan, roddi gofal y lle i fyny, dewiswyd Mr. Benjamin James, o athrofa Neuaddlwyd, ac urddwyd ef yma yn y flwyddyn 1837. Efe yw y gweinidog yma yn bresenol. Nid yw y gynnulleidfa yn lluosog yma, ac nis gall fod, gan nad yw poblogaeth yr ardal ond bechan; etto y mae yma achos cryf a siriol. Nid ydym wedi gallu dyfod o hyd i enwau neb a gyfodwyd yma i bregethu, ond Thomas Francis, yr hwn a ymadawodd oddiyma i gychwyn achos yn Maenclochog. Mae yn ddiamheuol fod rhai eraill wedi cyfodi yma o bryd i bryd er y flwyddyn 1714.
Megis y crybwyllasom eisioes yn hanes Maenclochog, dechreuwyd yr achos hwn yn y flwyddyn 1844, gan ran luosog o'r eglwys a anghytunent a'r mwyafrif ynddi gyda golwg ar ddewisiad Mr. R. Thomas yn weinidog. Nid yw yn angenrheidiol i ni fyned trwy yr amgylchiadau yma, er fod y manylion yn hollol adnabyddus i ni, ond ni wnai eu cofnodi ond ail agor hen glwyfau sydd erbyn hyn bron wedi cwbl iachau, ac y mae y rhan fwyaf o lawer o'r rhai oedd a fynent a'r cweryl o bob ochr wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Mae yn deg i ni, pa fodd bynag, i ddyweyd ddarfod i rai o weinidogion y sir wneyd pob ymdrech i ragflaenu y rhwyg; a barnent buasai yn well i Mr. Thomas fyned ymaith nac i'r eglwys ymranu yn achos; er nad oeddynt, mewn un modd, yn amheu hawl y mwyafrif o'r eglwys i alw gweinidogion i'w urddo, nac yn beio y rhai a aeth yno i hyny. Barnodd gweinidogion y sir, o dan yr amgylchiadau, yn hytrach nag i'r lleiafrif i wasgaru a myned at enwadau eraill, i'w cefnogi i godi achos arall yn yr ardal. Dechreuasant mewn amaethdy a elwir y Blacknuck, a ffurfiwyd
* Llythyr Mr. Abednego Jenkins.
115
hwy yn eglwys yno gan Mr. Mortimer, Solfach. Symudasant oddi yno i dy newydd yn y pentref, yr hwn a adnabyddir yn awr fel y Farmers' Arms, a buont yma am ysbaid dwy flynedd, a gweinidogion y sir yn gweinyddu iddynt hyd y flwyddyn 1845, pryd y cymerodd Mr. James, Llandilo, ofal yr eglwys, ao y mae yn parhau dan ei ofal hyd y dydd hwn. Adeiladwyd yma gapel newydd, ac agorwyd ef yn y flwyddyn 1847. Cafwyd hefyd ddarn helaeth o dir claddu yn nglyn ag ef, a'r cyntaf a gladdwyd yn y tir oedd Gad Jenkins, brawd Mr. Abednego Jenkins, yr hwn a gladdwyd Mawrth 15fed, 1849. Y personau mwyaf blaenllaw gyda chychwyniad yr achos hwn ydoedd Benjamin Evans, Patchin; Thomas Rees, Quarry; Richard John, Mountain; David Morris, Maenllwyd; David Williams, Blacknuck; David James, Dyffryn; Enoch Jenkins, Forlan; John Howells, Maenclochog, ac eraill. Yr oedd y pedwar olaf a enwyd yn ddiaconiaid yn yr hen gapel cyn yr ymraniad, ac felly yr oeddynt hefyd gyda'r achos newydd. Bu y ddau flaenaf farw yn fuan, a Medi 28ain, 1872, bu farw Evan Jenkins. Bu ef yn nodedig o ffyddlon. Ni chollodd yr un Sabboth cymundeb yn y Tabernacl am bum'-mlynedd-ar-hugain. Daeth at grefydd pan oedd tua deunaw oed, a hyny dan amgylchiadau nodedig. Yr oedd Mr. George wedi dyweyd wrth bregethu, " Os oedd dyn heb ei ethol na chedwid mo hono pe gweddiau nes y byddai croen ei benliniau wedi codi." Fel y mae yn naturiol meddwl yr oedd llawer o ddadleu wrth fyned o'r oedfa yn nghylch y fath ddywediad dyeithr ac anoeth. "Ond," meddai Enoch Jenkins, "pe gwyddwn mai dim ond un y mae Duw wedi ethol, mi wnawn fy ngoreu i fod yr un hwnw, ac yr wyf fi wedi penderfynu myned at grefydd." Ac felly yr aeth, a glynodd yn ffyddlon hyd y diwedd. Collwyd yma lawer o ffyddloniaid eraill o bryd i bryd, ond y mae yr achos yma mewn gwedd obeithiol etto, a'r eglwys, y gynnulleidfa, a'r ysgol Sabbothol mewn agwedd lwyddianus.
Gan i ni gael ychydig ffeithiau ychwanegol am yr achos yn Maenclochog, ar ol i ni ysgrifenu hanes yr hen gapel, rhoddwn hwy i mewn yma. Yr oedd yr achos yn Maenclochog yn meddu gafael gref ar yr holl wlad am bedair milldir o ffordd yn rhai cyfeiriadau hyd derfyn gweinidogaeth Mr. George, ac am dymor ar ol hyny. Nid oedd Siloh y pryd hwnw wedi ei godi, ac arferid pregethu yn lled reolaidd yn Llandre, a Holway, a manau eraill. Bu son am gael capel heb fod yn mhell o'r lle olaf, mewn man a elwir Penyffordd, ond bu yr ymraniad yn atalfa i hyny, ac y mae yno yn awr gapel perthynol i'r Methodistiaid, yr hwn a gyfodwyd yn benaf gan wr cyfrifol yn y gymydogaeth; ond ar yr un pryd, ni bu yr eglwys mewn un adeg yn ei hanes mor lluosog ag ydyw y ddwy eglwys yn Maenclochog yn awr. Yr oedd yma rai personau o ddylanwad bydol yn cyrchu i'r lle, megis teuluoedd Llandre, Holway, Felindre, Sychbant, Blaenwern, Llysyfran, Cluncemaes, ac eraill. Ond yr oedd yma bersonau yn meddu dylanwad crefyddol helaeth, er heb feddu llawer o dda y byd hwn. Coffeir yn nodedig am Evan, Blaenffos, yr hwn a adnabyddir fel y " Gweddiwr Mawr". Byddai ei wefusau yn wastad yn symud. Ar un adeg yr oedd gwr cyfoethog a gwr tlawd mewn rhyw ymrafael, a barnai pawb mai y cyfoethog oedd ddyfnaf yn y camwedd, ond ni fynai gydnabod hyny, ac nid oedd nemawr neb yn meddu gwroldeb digonol i ddyweyd hyny wrtho. Ond cymerodd Evan ef mewn llaw, ac ni bu yn hir cyn ei gael mor ystwyth a phlentyn, ac yr oedd gan y gwr cyfoethog barch mawr iddo byth ar ol hyny. Er's mwy na deuddeng-mlynedd-ar-hugain yn ol, bu yn gynhauaf
116
gwlyb iawn yn y wlad yma. Gwlaw bob dydd ond y Sabboth. Bu yr yd ar y maesydd am chwech wythnos yn egino ac yn pydru. Yn Plasyniot, lle o fewn tair milltir i Faenclochog, yr oedd lluaws o ddynion yn gweithio o dan stiward annuwiol, yr hwn ar un nos Sadwrn, ar ol bod yn codi yd trwy y dydd, a ddywedai wrth y dynion, "Os bydd hi yn deg yfory, dewch yma bob un i rwymo yr yd, a phwy bynag na ddaw yma yfory, peidied a dod yma ddydd Llun. Trodd y Sabboth allan i fod yn ddiwrnod braf iawn, ac aeth llawer o'r gweithwyr at yr yd yn ol y gorchymyn, ac yn eu plith tua deuddeg o ddynion oedd yn aelodau gyda'r gwahanol enwadau. Ond yr oedd yno dri o aelodau Maenclochog, y rhai nid ofnasant orchymyn y stiward, a rhai a deimlent mai "rhaid oedd ufuddhau i Dduw yn fwy nac i ddynion." Ond boreu Llun aethant yno fel arfer, ac wedi rhoddi y rheswm goreu a allent roddi dros eu hymddygiad, dywedodd y stiward fod ganddo barch iddynt hwy, y gallasai ymddiried i ddynion a fyddont ffyddlawn i'w Duw y byddont ffyddlawn iddo yntau, a sicrhaodd hwy na chai fod eisiau diwrnod o waith arnynt tra fyddai gwaith ganddo ef; ond ataliodd y deuddeg eraill, y rhai a brofasant yn anffyddlon i'w crefydd, ac ni chafodd yr un o honynt ddiwrnod yn ychwaneg o waith ganddo. Yr oedd rhai o honynt yn aelodau yn Maenclochog. Ceisiai unto honynt ymesgusodi fod ganddo haid o blant, a bod arno ofn colli ei waith. "Wel, John bach," meddai Mr. George, " yr ydych trwy halogi y Sabboth wedi colli eich gwaith - wedi colli eich cymeriad - ac wedi colli eich crefydd yn nglyn a'r eglwys hon." " Ie," ychwanegai Evan Blaenyffos, gyda phwyslais nodedig, " ac yr ydych ar y ffordd i golli eich enaid." Nid yw hon ond un engraifft o'r dull y byddai yr hen bobl dda yma gynt yn dysgyblu eu gilydd, ac un engraifft o lawer, mai llwybr dyledswydd yw y llwybr dyogelaf, hyd yn nod yn y byd hwn.
Diau fod yr ymraniad yma wedi bod yn wanychdod mawr i'r achos, a da fyddai pe gellid dwyn y pleidiau at eu gilydd, a ffurfio yma un achos cryf, a dichon gydag amser y bydd angen un o'r ddau gapel at wasanaeth y Saeson. Mae Maenclochog yn sicr o ddyfod yn lle pwysig, a chyda dyfodiad rheilffordd yn agos, y mae yn fwy na thebyg yr agorir yma weithfeydd yn yr ardal, y rhai a fydd yn dynfa llawer o Saeson yn gystal a Chymry.*
O.Y. - Ar ol ysgrifenu hanes yr hen gapel yr hysbyswyd ni fod William Perkins yn bregethwr cynorthwyol parchus yn yr eglwys yno.
(Moylgrove parish)
Mae yn dra sicr i'r achos yn y lle hwn gael ei ddechreu fel cangen o eglwys Llechryd, tua yr un amser ag y dechreuwyd yr achos yn Brynberian, ac mai dan ofal gweinidogion Llechryd y bu hyd farwolaeth Mr. David Sais yn 1741. Yn y flwyddyn 1743, urddwyd Mr. David Lloyd yn
*Anfonwyd y rhan fwyaf o ddefnyddiau yr hanes blaenorol i ni gan Mr. Abednego Jenkins. Hefyd, y mae yn iawn i ni ddyweyd fod Mr. Jenkins yn amheu yn fawr gywirdeb yr hyn a ddywedasom yn hanes yr hen gapel, fod William Prlce, tad Mr. Henry Price, Rhydwilym, yn un o gychwynwyr yr achos. Ystyria ef fod William Price yn rhy ieuangc i fod gyda'r achos ar ei ddechreuad. Yr ydym, fel y gwelir, hefyd wedi cyhoeddi rhai ffeithiau ychwanegol am ddechreuad yr achos yn Maenclochog, yn hanes Llandilo. Buasai yn dda genym eu cael yn gynt, ond nid oes genym ond gwneyd goreu gallwn o honynt ar ol eu cael.
117
weinidog i eglwysi Brynberian a Threwyddel. Yn mhen rhai blynyddau wedi hyny, urddwyd ei frawd Mr. Thomas Lloyd yn gynorthwywr iddo. Bu y ddau yn cydlafurio trwy yr holl gylch hyd farwolaeth D. Lloyd. Ond Thomas Lloyd a ystyrid yn fwyaf neillduol fel gweinidog Trewyddel. Wedi marwolaeth D. Lloyd, bu Trewyddel a Brynberian dan ofal Thomas Lloyd hyd 1770, pryd yr urddwyd ei nai Stephen Lloyd, yn Brynberian. O hyny allan, cyfyngodd ef ei lafur i Drewyddel. Yn wyneb ei fod yn heneiddio, yn 1778 urddwyd Mr. John Phillips yn gynorthwywr iddo. Bu yntau yn llafurio yma gyda llwyddiant a pharch nodedig am yr yspaid maith o dair a deugain o flynyddau. Bu farw yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau, ac o barch gan fyd ac eglwys, yn Chwefror, 1821. Bu ychwanegiadau anghyffredin at yr eglwys ar rai adegau yn nhymhor gweinidogaeth Mr. Phillips, a chyfododd rhai o'r gwyr ieuaingc a dderbyniwyd ganddo i'r eglwys i fod yn mysg y gweinidogion mwyaf adnabyddus, cyhoeddus, a defnyddiol yn Nghymru, megis Azariah Shadrach, Aberystwyth; Daniel Evans, Mynyddbach; Daniel Davies, Aberteifi, ac eraill. Yn y flwyddyn 1812, rhoddwyd galwad i Mr. Daniel Davies, Rhesycae, aelod a phregethwr yn wreiddiol o'r eglwys hon, i ddyfod yn gydweinidog a Mr. Phillips, ac i ofalu yn benaf am yr achos newydd oedd wedi ei gychwyn ychydig flynyddau cyn hyny yn Aberteifi. Llafuriodd Mr. Davies yma yn ffyddlon dros amryw flynyddau, ond gan fod yr achos yn Aberteifi yn galw am ei holl amser, penderfynwyd urddo Mr. Llewellyn Rees, un o aelodau yr eglwys, a'r hwn a fuasai yma yn bregethwr cynorthwyol defnyddiol am ugain mlynedd cyn hyny. Cymerodd ei urddiad le yr wythnos gyntaf yn mis Gorphenaf, 1820, pryd y gweinyddwyd gan y Meistri James Phillips, Bethlehem; H. George, Brynberian; J. Evans, Penygroes; W. Griffiths, Glandwr, a T. Griffiths, Hawen. Ni fwriedid i Mr. Davies dori ei gysylltiad a Threwyddel ar urddiad Mr. Rees, ac arferai ddyweyd, yn ei ffordd ddifyr ei hun, ei fod ef o hyd yn weinidog yn Nhrewyddel, gan na roddodd ei swydd i fyny yn ffurfiol. Ond ychydig fu a wnelai a'r achos yno ar ol hyny, oddigerth pan y gelwid am wasanaeth. Bu yr hen weinidog, Mr. Phillips, farw yn mhen ychydig fisoedd wedi urddiad Mr. Llewellyn Rees. Parhaodd Mr. Rees i gyflawni ei weinidogaeth yma gyda llwyddiant a chymeradwyaeth neillduol am flynyddau lawer. Pan yr oedd llesgedd henaint wedi ei analluogi i gyflawni dyledswyddau ei swydd fel cynt, rhoddwyd galwad i Mr. David Evans i ddyfod yn gynorthwywr iddo. Urddwyd Mr. Evans yma yn y flwyddyn 1849, a bu yma yn cydlafurio a'r hen weinidog hyd 1859, pryd y symudodd i Salem, sir Gaerfyrddin, lle y mae yn bresenol. Yn nhymhor cydweinidogaeth y Meistri Rees ac Evans, adeiladwyd addoldy y Cippin, ar gwr pellenig o'r ardal, a ffurfiwyd yno gangen o'r fain eglwys yr hon a ddaw dan ein sylw etto. Cyn pen dwy flynedd wedi ymadawiad Mr. Evans, bu farw yr hen weinidog oedranus Mr. Rees; ac yn y flwyddyn 1862, rhoddwyd galwad i Mr. George Williams, ac urddwyd ef yma Awst 6ed, yn y flwyddyn hono. Cymerwyd rhan yn ngwasanaeth yr urddiad gan y Meistri D. Davies, Aberteifi; D. Bateman, Rhosycaerau; J. Davies, Glandwr; S. Thomas, Bethlehem; J. Lewis, Henllan; H. Jones, Ffaldybrenin; E. Lewis, Brynberian, ac eraill. Ni bu arosiad Mr. Williams yma ond ychydig gyda saith mlynedd. Yn nechreu y flwyddyn 1870, symudodd i Amlwch, Mon. Yn nechreu Gorphenaf, 1871, urddwyd Mr. William Jones, o athrofa Caerfyrddin,
118
yma. Y gweinidogion a weinyddasant yn yr urddiad oeddynt, Meistri W. Morgan, Caerfyrddin; S. Evans, Hebron; R. Perkins, Maenclochog; L. Jones, Carfan; J. Davies, Glynarthen; I. Williams, Trelech, ac eraill. Mae Mr. Jones yn parhau i lafurio yma gyda gobeithion addawol.
Mae eglwys Trewyddel, o eglwys mewn ardal wledig, a chymharol deneu ei phoblogaeth, wedi bod er amser Mr. John Phillips hyd yn bresenol yn dra lluosog ei haelodau. Ni bu ar un adeg oddiar yr amser hwnw o dan ddau neu dri chant o rif. Nid ydym yn gwybod am un eglwys yn Nghymru, yn ol ei maint, sydd wedi cyfodi mwy o ddynion enwog a defnyddiol i'r weinidogaeth, a'r eglwys hon. Heblaw John Phillips a Llewellyn Rees, y rhai fuont yn weinidogion yma, anrhegodd yr eglwys nodedig hon eglwysi Cymru, a'r nifer luosog a ganlyn o bregethwyr:
Nid yn aml y cyfarfyddir ag eglwys fel hon mewn ardal wledig, wedi cyfodi cynifer o bregethwyr mewn yspaid o tua chan mlynedd, a'r rhan fwyaf o honynt wedi cyrhaedd graddau o enwogrwydd. Dywed Mr. Bateman, mewn llythyr atom, am beth ag sydd yn myned yn mhell i gyfrif am lwyddiant y frawdoliaeth gyda magu pregethwyr: - "Mae yr hen eglwys barchus hon, wedi bod yn enwog trwy oesau ei hanes am ei chyfarfodydd gweddio, y tuhwnt feallai, i nemawr un eglwys yn Nghymru, fel y gellir dyweyd mai yn hyn y mae cuddiad ei chryfder a dirgelwch ei llwyddiant wedi bod" Ond er ei bod yn enwog am fagu pregethwyr ac am gyfarfodydd gweddio, y mae wedi bod i raddau mawr yn feius am esgeuluso helaethu terfynau yr achos. Er fod yr holl wlad am filldiroedd o gwmpas, flynyddau yn ol, yn agored o'i blaen, ni wnaed un ymdrech ganddi i blanu achosion newyddion, fel y dylasai ac y gallasai wneyd. Y Cippin, yr hon a ddaw dan sylw etto, yw yr unig gangen o'r eglwys hon. Yn ddiweddar, adeiladwyd ysgoldy hardd a chyfleus yn mhentref Trewyddel, yr hwn sydd yn wasanaethgar iawn i'r gymydogaeth. "Aeth yr hen gapel o dan lawer o helaethiadau ac adgyweiriau er y pryd yr adeiladwyd ef gyntaf. Rai blynyddau yn ol, cafodd ei ailadeiladu, ac
119
mae yn awr yn dy hardd, cyfleus, ac eang, yn cynwys o bump i chwe' chant o eisteddleoedd" *
THOMAS LLOYD. Yr oedd ef yn fab i George Lloyd, Machongle, yn mhlwyf Nefern, ac yn frawd i David Lloyd, gweinidog Brynberian. Nid ydym yn gwybod pa flwyddyn y ganwyd ef. Yn 1703 y ganwyd ei frawd, ond y mae yn ymddangos i fod ef ychydig flynyddau yn ieuengach. Cafodd ei urddo yn gynorthwywr i'w frawd, yr hwn oedd er y flwyddyn 1743 yn weinidog yn Brynberian a Threwyddel. Nid ydym yn gwybod pa flwyddyn yr urddwyd ef, na pha flwyddyn y bu farw. Yr oedd yn fyw yn 1782, ond mae yn debygol iddo farw y flwyddyn hono, neu yr un ganlynol. Cyfrifid ef yn ddyn da, yn ddiweinydd galluog, ac yn bregethwr melus; ond yr oedd rhai yn ei ddrwgdybio o fod yn gogwyddo at Arminiaeth, ac o ddal golygiadau nad ystyrid yn ysgrythyrol am y Drindod. Dichon mai gogwyddo at Sabeliaeth yr ydoedd. Nid oes genym ychwaneg o hanes i'w roddi am dano.
JOHN PHILLIPS. Ganwyd ef mewn lle a elwir Pengarnfach, yn ardal Trewyddel, yn y flwyddyn 1747. Enwau ei rieni oeddynt Thomas ac Anne Phillips. Pobl isel eu hamgylchiadau oeddynt, ac felly bu raid i'w mab fyned allan yn ieuangc iawn i wasanaethu gydag amaethwyr yn y gymydogaeth. Er na chafodd ond y nesaf peth i ddim o fanteision addysg yn ei febyd, etto gan ei fod yn hogyn ymroddgar a thalentog, daeth yn ysgolhaig lled dda. Pan yn was amaethwr, cynilodd ddigon o arian i dalu i grydd yn y gymydogaeth am ei addysgu yn y gelfyddyd hono. Yr oedd cyn myned yn egwyddorwas at y crydd, wedi ei dderbyn yn aelod eglwysig yn Nhrewyddel. Tua y flwyddyn 1773 dechreuodd bregethu, ac yn 1778 cafodd alwad gan ei fam eglwys i fod yn gynorthwywr i'r hen weinidog, Mr. Lloyd. Parhaodd i fod yn weinidog yn Nhrewyddel hyd ei farwolaeth yn Chwefror 1821. Am y naw mlynedd diweddaf o'i fywyd, cynorthwyid ef yn y weinidogaeth gan Mr. D. Davies, Aberteifi, a Mr. Llewellyn Rees.
Yr oedd John Phillips yn ddyn nodedig o ddefnyddiol. Yr oedd yn ddoniol iawn fel pregethwr, yn hynod am ei wresawgrwydd crefyddol, ac yn rhyfeddol o lwyddianus fel gwenidog. Gan iddo trwy ei briodas ddyfod i feddiant o ychydig gyfoeth, yr oedd yn alluog i gynorthwyo y tlawd, ac yr oedd yn ganmoladwy o haelionus.
Pan yr oedd yn dilyn ei alwedigaeth fel crydd, ymgymerodd ag astudio physigwriaeth, ac yn fuan daeth i enwogrwydd mawr fel meddyg. Yr oedd dynion o bob parth agos o holl ddeheudir Cymru yn myned ato am gynghorion meddygol, ac yr oedd ei lwyddiant i wellhau clefydau yn ddigyffelyb. Gresyn na buasai rhai o'r gweinidogion enwog a fagwyd dan ei weinidogaeth, yn ysgrifenu cofiant helaeth i ddyn mor ddefnyddiol a gweinidog mor rhagorol. Diau y gallesid, ddeugain mlynedd yn ol, gasglu lluaws o ffeithiau am dano gwerth eu cofnodi. Cafodd deulu o ddeg neu un-ar-ddeg o blant, Mr. James Phillips, Bethlehem, St. Clears, oedd yr unig un o honynt a gyfodwyd i'r weinidogaeth.
LLEWELLYN REES. Ganwyd ef yn Nhreboeth, yn agos i Drewyddel, yn y flwyddyn 1773. Pan yn blentyn, cafodd bob manteision addysg ag a
* Llythyr Mr. Bateman, Rhosycaerau.
120
allasai gael yn ardal ei enedigaeth; yna anfonwyd ef i'r ysgol i Hwlffordd, er mwyn dysgu yr iaith Saesonig, a gorphen ei addysg mewn canghenau eraill o wybodaeth. Yr oedd ef yn ddeiliad argraffiadau crefyddol er pan yn blentyn. Rywdro, wrth ddysgu ei wers yn yr ysgol, gadawodd y gair consider argraff ddwys iawn ar ei feddwl, a bu yn foddion i'w ddwyn i deimlo yn ddifrifol am achos ei enaid. Pan yn fachgen lled ieuangc, denwyd ef gan rywrai o'i gyfoedion, i fyned gyda hwy ar y Sabboth i greigiau y mor i dori nythod gwylanod, ac aeth i le ofnadwy o beryglus. Pan yr oedd yno mewn enbydrwydd am ei fywyd, daeth ei hen gyfaill, y gair consider, drachefn yn fyw i'w feddwl. Addunedodd yno, os cawsai ei waredu, na buasai iddo mwyach gymeryd ei ddenu i halogi y Sabboth. Cafodd ei waredu, ac yn fuan wedi hyny, aeth yn ymgeisydd am aelodaeth eglwysig yn Nhrewyddel. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig pan yr oedd rhwng pedair-ar-ddeg a phymtheg mlwydd oed. Yn y flwyddyn 1800, cafodd anogaeth gan yr eglwys i ddechreu pregethu, a thua yr un amser, ymunodd mewn priodas a Jane, merch Thomas Phillips, Cwmconnell, Llandudoch, o'r hon y cafodd wyth o ferched a dau o feibion, a chafodd ef a'i briod, yr hyfrydwch o'u gweled oll yn proffesu crefydd. Bu am ugain mlynedd yn bregethwr cynorthwyol yn ei fam eglwys a'r eglwysi cymydogaethol, cyn iddo gael ei urddo. Wedi i Mr. D. Davies, yr hwn oedd yn gynorthwywr i Mr. Phillips, roddi gofal Trewyddel i fyny, a chyfyngu ei lafur i Aberteifi, Llandudoch, a Llechryd, cafodd Mr. Rees ei ddewis yn ganlyniedydd iddo, ac urddwyd ef, fel y nodasom, yn mis Gorphenaf 1820. Y Chwefror canlynol bu farw Mr. Phillips, ac yn ganlynol, disgynodd y gofal oll ar Mr. Rees ei hun. Parhaodd fod yr unig weinidog yma hyd y flwyddyn 1849, pryd yr urddwyd Mr. David Evans yn gynorthwywr iddo. Yn 1838, cafodd ergyd trwm yn marwolaeth ei briod. Ar ol bod un-flynedd-ar-ddeg yn weddw, ac wedi i'r olaf o'i ferched briodi a'i adael yn unig, priododd a gwraig weddw o'r enw Hannah Gordon. Mwynhaodd iechyd da hyd yn agos terfyn ei oes. Yn niwedd mis Chwefror 1861, tarawyd ef yn glaf iawn ar ol ei foreufwyd fore y Sabboth, a gwaethygodd o ddydd i ddydd, fel y bu farw Mawrth 1af, 1861, yn yr oedran teg o bedwar-ugain-ac-wyth mlwydd. Claddwyd ef yn mynwent Bethel, Trewyddel. Gweinyddwyd yn ei angladd gan Meistri D. Davies, Aberteifi; E. Lewis, Brynberian; J. Davies, Gedeon, a D. Jones, Penygroes. Y trydydd Sabboth wedi ei farwolaeth, traddodwyd ei bregeth angladdol gan ei hen gyfaill hoff, yr hybarch William Davies, Rhosycaerau, oddiwrth Heb. xiii. 7, 8. Fel hyn y gorphenodd y gwas ffyddlon hwn i Iesu Grist ei oes, wedi bod dri-ugain-a-thair-ar-ddeg o flynyddau yn aelod eglwysig, tri-ugain-ac-un o flynyddau yn pregethu yr efengyl, ac un-flynedd-a-deugain yn weinidog sefydlog.
Nid oedd Llewellyn Rees yn hynod am ei alluoedd fel pregethwr. Traddodai wirioneddau yr efengyl mewn iaith ysgrythyrol, ac mewn modd gwresog. Yr oedd yn bregethwr derbyniol a defnyddiol, er nad oedd ystyr arferol y geiriau yn bregethwr mawr. Nid yn fynych y clywsom neb yn fwy doniol mewn gweddi nag ef. Yr oedd rhywbeth yn nodedig o effeithiol yn ei agwedd, ei lais, a'i ymadroddion wrth weddio. Clywsom ef pan yr oedd yn agos i bedwar ugain oed yn gweddio mewn cymanfaoedd, mewn llais digon uchel ac eglur i ddeng mil o bobl i'w glywed. Dyn lled fychan o gorph ydoedd, ond yr oedd yn fywiog iawn yn ei ysgogiadau, ac yn rhyfeddol o siriol a chyfeillgar.
121
(St Dogmaels parish)
Enw cymydogaeth yw y Cippin. Adeiladwyd yma gapel bychan gan eglwys Trewyddel yn y flwyddyn 1852, ac oddiar y pryd hwnw hyd yn awr, y mae yma foddion crefyddol yn cael eu cadw yn rheolaidd. Dan yr un weinidogaeth a Threwyddel y mae yr eglwys hon wedi bod oddiar ei ffurfiad. Mae yr achos wedi llwyddo yn dda yma, fel y mae y capel wedi myned yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa. Bwriedir ei ailadeiladu yn ddioed. Gan nad ydym wedi derbyn un hanes ysgrifenedig o'r lle hwn, nid ydym yn alluog i grybwyll enwau y personau fuont yn fwyaf blaenllaw gyda sefydliad a dygiad yr achos yn mlaen yma, ond digon i'r cyfryw ydyw fod enwau yr holl ffyddloniaid yn ysgrifenedig yn y nefoedd.
Mae pentref St. Florence mewn dyffryn nodedig o brydferth, tua thair neu bedair milldir i'r gorllewin o Tenby. Adeiladwyd y capel Annibynol cyntaf yma tua y flwyddyn 1800 gan eglwys Henllan, sir Gaerfyrddin. Yr un fu yn offerynol yn llaw yr Arglwydd i alw sylw yr eglwys yn Henllan at y lle hwn, oedd Mr. John Morgan, o'r Forge, - taid y Proffeswr Morgan, Caerfyrddin, a Mr. John Griffiths, un o ddiaconiaid presenol yr eglwys yn St. Florence. Yr oedd Mr. Morgan yn ei ieuenctyd wedi bod am ryw gymaint o amser mewn ysgol a gedwid gan offeiriad plwyf St. Florence, a'r pryd hwnw cafodd fantais i fod yn llygad-dyst o sefyllfa isel y trigolion mewn ystyr foesol a chrefyddol. Gadawodd yr hyn a welodd ac a glywodd yno, argraff annileadwy ar ei feddwl. Pan gafodd amser cyfaddas, galwodd sylw ei weinidog, Mr. Richard Morgans, a swyddogion yr eglwys yn Henllan, at y peth. Y canlyniad fu, i Mr. Morgan a Mr. Jones, Trelech, fyned i ymweled a'r lle, ac amryw leoedd eraill yn y parth Saesonig o sir Benfro. Dilynwyd hwy gan amryw weinidogion eraill o siroedd Caerfyrddin a Phenfro, a llwyddwyd yn raddol i agor drws i'r efengyl, ac i sefydlu achosion mewn amryw ardaloedd. Wedi ychydig ymweliadau a St. Florence, casglwyd cynnulleidfa a ffurfiwyd eglwys fechan yma. Ymgymerodd Mr. Morgan, o'r Forge, a Mr. Thomas, o'r Gwyndy, a'r anturiaeth o adeiladu capel yma. Darparasant y coed yn barod i'w gosod ar y muriau, a dygasant hwy yma erbyn fod y muriau yn gymwys i'w gosod arnynt. Wedi agor y capel, bu Mr. Meyler, Rhosycaerau; Mr. Davies, Bethlehem; Mr. Griffiths, Glandwr, ac eraill, yn dyfod yma yn fynych hyd nes cael gweinidog sefydlog i'r lle. Yn y flwyddyn 1804, daeth Mr. Benjamin Evans, o athrofa Caerfyrddin, i fyw i gymydogaeth gyfagos, a chafodd alwad oddiwrth yr eglwys ieuangc hon, ac urddwyd ef yma yn mis Chwefror 1805. Yr oedd y Meistri D. Peter, Caerfyrddin; M. Jones, Trelech; R. Morgan, Henllan, a B. Evans, Trewen, yn gweinyddu yn yr urddiad. Yr oedd Mr. Evans yn ddyn cymwys iawn i'r lle, a bu o wasanaeth dirfawr i achos crefydd yma ac mewn ardaloedd cymydogaethol. Trwy ei lafur ef yn benaf, ac agos yn hollol, dechreuwyd yr achosion yn Sardis, Templeton, a Tenby; a bu yn gwasanaethu pob un o'r lleoedd hyn yn ffyddlon am lawer o flynyddoedd. Bu
122
farw yn nechreu y flwyddyn 1849. Yn fuan wedi marwolaeth yr hen weinidog, rhoddwyd galwad i Mr. Benjamin Watts Evans, o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Awst 8fed, 1849. Traddodwyd y gyn-araeth gan Mr. J. Griffiths, Tyddewi; a gweddiwyd yr urddweddi gan Mr.Joseph Williams, Pembroke Dock. Yn yr hwyr, pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. Griffiths, Tyddewi, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. T. R. Williams, Templeton. Yr oedd yr achos wedi gwanychu yn fawr yn mlynyddau diweddaf yr hen weinidog, oherwydd ei anallu i gyflawni ei waith yn effeithiol; ond adfywiodd gyda dyfodiad gweinidog ieuangc i'r lle. Prin ddwy flynedd yr arosodd Mr. Evans yma. Yn Mehefin 1851, symudodd i Ellesmere, yn sir Amwythig. Wedi bod am rai blynyddau yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, rhoddwyd galwad i Mr. Jason Jenkins, o athrofa Caerfyrddin, ac ymsefydlodd ef yma tua diwedd y flwyddyn 1854, a pharhaodd i lafurio yma hyd ei symudiad i Bontypool yn 1862. Dilynwyd ef yn mhen ychydig fisoedd gan Mr. David Griffiths, Bethesda, gerllaw Narberth. Symudodd yntau oddiyma i Falfield, sir Gaerloew, yn 1865. Yn Rhagfyr yr un flwyddyn, ymsefydlodd Mr. John Griffiths, Llanymddyfri, yma, ac efe yw y gweinidog yn bresenol. Mae golwg siriol iawn ar yr achos yma yn awr, dichon well nag a fu ar un adeg o'i hanes. Mae yma ddwy ysgol Sabbothol nodedig o lewyrchus; un yn cael ei chadw yn yr hen addoldy yn St. Florence, o dan arolygiaeth effeithiol Mr. John Noot, a'r llall yn mhentref Pengelly, dan arolygiaeth Mr. John Griffiths, Pengelly Court. Mae angen mawr am ysgoldy neu gapel bychan yn Pengelly, ond oherwydd dylanwad gelynol yr Eglwys Sefydledig, nid oes un gobaith am gael tir i'w adeiladu. Mae capel St. Florence wedi cael ei adeiladu dair gwaith. Y waith gyntaf, fel y nodwyd, yn 1800; yr ail waith yn 1837; a'r drydedd waith yn 1857. Nid yw y capel presenol yn yr un man a'r un blaenorol, yr hwn sydd etto yn sefyll, ac wedi cael ei adgyweirio a'i gyfaddasu at gynal yr ysgol Sabbothol ynddo. Yn 1867, muriwyd oddiamgylch y fynwent, ar ran o ba un y saif yr hen gapel. Gan un Mr. Gibbon y cafwyd tir at adeiladu y capel cyntaf, a chan A. W. G. Adey, Yswain, o Lundain, y cafwyd y tir ar ba un y saif y capel newydd. Hyd y les yw 999 o flynyddau, a'r ardreth blynyddol yw haner coron. Traul adeiladaeth y capel oedd 700p. Yr hwn fu a'r llaw blaenaf yn ei adeiladiad oedd y diweddar Mr. William Williams, Iyy Tower Farm.
BENJAMIN EVANS. Ganwyd y dyn da hwn yn Mhenpontbren, Llancych, yn y flwyddyn 1786. Yr oedd ei rieni yn aelodau yn y Drewen, a derbyniwyd yntau yn aelod yno yn ieuangc iawn. Anogwyd ef i ddechreu pregethu pan nad oedd dros bymtheng mlwydd oed. Yn fuan wedi hyny, aeth i athrofa Caerfyrddin, ac wedi gorphen ei amser yno, ymsefydlodd yn mysg y Saeson yn sir Benfro, ac urddwyd ef, fel y gwelsom, yn St. Florence yn 1805, pryd nad oedd nemawr dros bedair-ar-bymtheg oed. Yn mhen rhyw gymaint o amser wedi iddo ymsefydlu yn St. Florence, priododd wraig weddw yn y gymydogaeth, yr hon oedd mewn amgylchiadau cysurus. Trwy hyny galluogwyd ef i dreulio ei oes i lafurio yn cylch hwn, lle nad oedd yn derbyn oddiwrth y bobl haner digon at ei gy-
123
naliaeth. Wedi bywyd o lafur dibaid, yr hwn a ddilynwyd gan radd helaeth o lwyddiant, bu farw yn yr Arglwydd, Ionawr 26ain, 1849, yn 63 mlwydd oed, ac yn y bedwaredd-flwyddyn-a-deugain o'i weinidogaeth.
Yr oedd Benjamin Evans yn ddyn hawddgar, yn ysgolhaig da, o gymeriad difrycheulyd, ac yn bregethwr buddiol a chymeradwy iawn. Er iddo dreulio ei holl oes i weinidogaethu yn mysg y Saeson, medrai hyd derfyn ei fywyd, bregethu gyda rhwyddineb yn yr iaith Gymraeg, a byddai yn fynych yn myned i gyfarfodydd ei frodyr Cymreig yn y rhan ogleddol o'r sir. Byddai ei bresenoldeb a'i bregethau yn dderbyniol pa le bynag yr elai. Er nad oedd dim yn anghyffredin yn ei alluoedd, gwnaeth y defnydd goreu o honynt er gogoniant i Dduw a lleshad ei gyd-ddynion. Tra byddo yr amrywiol achosion a blanwyd ganddo yn sir Benfro yn bodoli, ac yn fendithiol i ddynion, bydd yntau yn parhau fel Abel, er "wedi marw yn llefaru etto."*
(St Issells parish)
Mae y capel hwn o fewn ychydig filldiroedd i'r dwyrain o Tenby. Tua dechreu y ganrif bresenol, byddai Mr. R. Morgans, Henllan; Mr. Jones, Trelech, a gweinidogion Cymreig eraill, yn ymweled yn achlysurol a'r parthau Saesonig o sir Benfro, ac yn pregethu mewn anedd-dai ac ar yr heolydd, a pha le bynag y cawsent bobl i'w gwrandaw. Llwyddasant trwy yr ymweliadau hyn, i ennill ychydig bersonau mewn amryw ardaloedd, garu ac i groesawi yr efengyl. Yn mysg manau eraill, ymwelsant a'r ardal hon. Croesawyd hwy yma gan Mr. Clement Phillips, amaethwr cyfrifol. Adeiladodd y gwr da hwn, ystafell yn ymyl ei dy, at bregethu ynddi. Wedi i Mr. Benjamin Evans ymsefydlu yn St. Florence yn 1804, byddai yn dyfod yma yn lled reolaidd i bregethu, ac yn fuan ffurfiwyd yma eglwys. Yr oedd Mr. William Thomas, gwr ieuangc o'r ardal, a ennillwyd i'r ffydd trwy weinidogaeth y Meistriaid Morgans a Jones, pan yr ymwelsant a'r gymydogaeth, yn un o'r aelodau cyntaf a mwyaf gweithgar yma. Cymhellwyd ef i ddechreu pregethu, a bu o wasanaeth neillduol i'r achos yn ei wendid yma, ac i achosion newyddion mewn amryw ardaloedd eraill. Yn 1809, adeiladwyd capel Sardis. Parhaodd yr eglwys hon i fod dan weinidogaeth Mr. Evans, St. Florence, hyd 1819, pryd yr urddwyd y rhag-grybwylledig William Thomas yn weinidog yma. Urddwyd ef Mai 19eg, 1819. Cymerwyd rhan yn ngwasanaeth yr urddiad gan y Meistriaid J. Bulmer, Hwlffordd; T. Harries, Penfro; W. Warlow, Milford; J. Meyler, Rhosycaerau, a W. Thomas, Tier's Cross. I fod yn gyd- weinidog a Mr. Evans yn holl gylch ei weinidogaeth yr urddwyd Mr. Thomas; ond yn fuan, cyfyngodd ei lafur yn benaf i Sardis. Parhaodd lafurio yma, ac yn Saundersfoot, wedi adeiladu capel yno, hyd ei farwolaeth yn 1855. Yn mhen ychydig gyda blwyddyn ar ol marwolaeth Mr. Thomas, rhoddwyd galwad i Mr. D. Mathias, o Elim, gerllaw St. Clears, ac efe yw y gweinidog yma, ac yn Saundersfoot, hyd yn bresenol. Nid ydym yn gwybod am neb a gyfodwyd yma i bregethu, heblaw Mr. William Thomas, y gweinidog cyntaf, a'i fab, y Dr. David Thomas, Stockwell.
* Llythyr Mr. John Griffiths.
125
Agorwyd y capel yma, Mai 23ain, 1838, pryd y traddodwyd chwech o bregethau gan y Meistri J. Davies, Glandwr; D. Davies, Zion's Hill; Davies, Narberth; T. Jones, Rosemarket; J. Evans, Hebron, a T. Jones, Llacharn. Dan yr un weinidogaeth a Sardis y mae yr eglwys hon wedi bod o'r dechreuad hyd yn bresenol. Er nad oes yma gynnulleidfa fawr, y mae yr achos a golwg lewyrchus arno, ac wedi ac yn parhau i fod o fendith fawr i'r lle.
(Translation on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hanes1.html )
Enw plwyf, tua phum' milldir i'r de o Narberth, yw Reynoldston. Er fod yma olyniad o bersoniaid wedi derbyn tal da am ganoedd o flynyddau am addysgu y trigolion, dywed Mr. Lingen, yr hwn a anfonwyd i lawr gan y llywodraeth yn 1847, i edrych ansawdd addysg yn Nghymru, fod y lle hwn yn nodedig am ei anwybodaeth, mor ddiweddar a'r flwyddyn hono. Os bu yma bregethu achlysurol gan yr Ymneillduwyr flynyddau yn ol, ni wnaed un cynygiad at sefydlu achos yma cyn y flwyddyn 1866. Yn Mawrth y flwyddyn hono, pregethodd Mr. E. Griffiths, gweinidog yr eglwys yn Templeton, ar lofft ystordy perthynol i Mr. John Griffiths, Reynoldston. Anogodd Mr. Griffiths ef i ddyfod yno drachefn, gan addaw rhoddi yr ystafell at gynal moddion crefyddol bob Sabboth. Derbyniodd Mr. E. Griffiths y cynygiad. Llwyddodd yn fuan i gasglu cynnulleidfa dda i'r lle, ac i sefydlu yma ysgol Sabbothol. Yn y flwyddyn 1867, ffurfiwyd yma eglwys. Cafwyd yma amryw bersonau selog i weithio gyda'r achos o'i gychwyniad, megis John Griffiths, Reynoldston; Ebenezer James; John James; Miss John, Loveston, a rhai eraill. Er mawr golled i'r achos, mae Meistri J. Griffiths ac E. James wedi marw, ac eraill o'r aelodau mwyaf gweithgar wedi symud o'r ardal; ond etto y mae eraill wedi cyfodi i lenwi eu lle, fel y mae yr achos ieuangc yn fyw, ac yn debyg o fyw. Cynygiodd Mr. S. Morley, A.S., gan' punt at adeiladu capel yma, ond methwyd cael tir; ac felly, collwyd cynygiad haelfrydig Mr. Morley. Pa fodd bynag, cafwyd gan T. H. Powell, Ysw., roddi tir a defnyddiau at adeiladu ysgoldy yma. Cedwir ysgol ddyddiol yn y ty hwn, a moddion crefyddol ar Sabboth. Mae yma gynnulleidfa o tua phedwar ugain o bersonau yn dyfod i wrandaw bob Sabboth, a golwg dra gobeithiol ar yr achos. Mr. Griffiths, Templeton, yw y gweinidog yma o'r dechreuad.
(Llanwinio CMN, parish)
Mae y capel hwn yn mhlwyf Llanwinio, yn sir Gaerfyrddin, ond o'r dechreuad yn dal cysylltiad ag undeb eglwysi sir Benfro. Yr oedd amryw o aelodau Glandwr yn cyfaneddu yn y gymydogaeth hon, ac yr oeddynt rai blynyddau cyn marwolaeth Mr. W. Griffiths, yn cynal cyfarfodydd gweddio a chyfarfodydd esbonio, ac yn cael pregeth fynychaf bob pythefnos yn ngwahanol anedd-dai yr ardal. Gan fod Glandwr yn lled bell iddynt fyned yno yn gyson, penderfynasant, yn y flwyddyn 1828. adeiladu addoldy yma. Cafwyd tir cyfleus at gapel a mynwent gan Mrs. Brittania Richards, ar dir y Castellmawr, am yr ardreth o haner coron yn y flwyddyn, ac yn unol a'i dymuniad hi, galwyd yr addoldy newydd Moriah. Yn y flwyddyn 1829, aed oddiamgylch yr ardal i gasglu tanysgrifiadau at yr adeiladaeth, ac yn 1830 agorwyd y capel, pryd y pregethodd Mr. Lloyd, Henllan, ac eraill.
126
Byddai yr aelodau am rai blynyddau ar ol hyn, yn parhau i fyned i Glandwr i'r cyfarfod cymundeb; ond wedi cael gwasanaeth rheolaidd yn eu cymydogaeth eu hunain, aethant o radd i radd i gyrchu yn llai mynych i'r hen le, ac i ymgartrefu yn eu lle newydd. Y maent er's blynyddau lawer bellach, wedi ymneillduo yn hollol oddiwrth y fam eglwys, ac nid oes yn Moriah yn awr, ond dau neu dri o'r aelodan a berthynent i Landwr cyn cyfodi y capel hwn. Mr. John Davies yw y gweinidog yma er dechreuad yr achos. Yn niwedd y flwyddyn 1863, rhoddodd ofal Glandwr i fyny, a chyfyngodd ei lafur er y pryd hwnw hyd yn awr i Moriah yn unig. Mae yma gynnulleidfa dda, capel cyfleus, a mynwent helaeth oddiamgylch iddo.
Cafodd y personau canlynol eu cyfodi i bregethu yma
Y mae yn awr ddau o aelodau yr eglwys hon yn fyfyrwyr yn athrofa y Bala.
(Carew parish)
(Translation on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist2.html )
Yn y flwyddyn 1862, aeth nifer o'r aelodau allan yn heddychol o'r eglwys yn St. Florence, a chawsant eu ffurfio yn eglwys yn y lle hwn. Adeiladwyd yma gapel bychan, tlws, a chyfleus. Cyfranodd Mr. S. Morley, A.S., yn haelionus at draul yr adeiladaeth, ac y mae y gymdeithas er cynorthwyo achosion Saesonig yn Neheubarth Cymru yn cynorthwyo yn flynyddol at gynal gweinidogaeth yma. Mr. William Davies, sydd wedi bod yn weinidog yma o'r dechreuad, mewn cysylltiad a Horeb. Mae golwg obeithiol ar yr achos ieuangc yn y lle hwn.
(Manorbier parish)
Cangen yw yr eglwys fechan hon o eglwys St. Florence. Ffrwyth ymweliadau achlysurol Meistri Morgan, Henllan, a Jones, Trelech. Arnold Davies, a Mr. David Phillips, pregethwr cynorthwyol defnyddiol iawn oedd yn byw yn Wolfsdale, yn agos i Hwlffordd, oedd y dysgyblion cyntaf a ennillwyd yn yr ardal hon. Ymaelodasant yn St. Florence, a phan y ffurfiwyd yma eglwys, cawsant ollyngdod oddiwrth y fam eglwys. Mr. Arnold Davies oedd y gweinidog cyntaf yma yn y flwyddyn 1802. Wedi iddo ef gyfyngu ei lafur yn benaf i Rosemarket, cymerwyd gofal y lle hwn gan Mr. T. Harries, Penfro, yr hwn fu yn gofalu am y lle dros rai blynyddau. Pan gyfyngodd Mr. Harries ei ofal i Penfro yn unig, bu yr achos yn Manorbier, Newton, dros ysbaid o amser dan ofal Mr. B. Evans, St. Florence. Dan ei ofal ef yr oedd pan yr adeiladwyd y capel yma yn y flwyddyn 1822. Gan fod Mr. Evans yr amser hwnw yn adeiladu capel yn Tenby, ac yn gofalu hefyd am yr achos yno, bu raid iddo, wedi cael capel yma, roddi gofal y lle i fyny. Y gweinidog nesaf a ymsefydlodd yma oedd Mr. James Eddy. Yr oedd ef wedi dyfod yma o Cornwall i gadw ysgol, ac yma y dechreuodd bregethu, a phan y rhoddodd Mr. Evans, St. Florence, ofal y lle i fyny, urddwyd Mr. Eddy yn weinidog yma. Mae amser a
127
hanes ei urddiad yn anhysbys i ni. Symudodd oddi yma i ardal Whitland, ac oddi yno yn 1855 i Lacharn, sir Gaerfyrddin, lle y bu farw. Daw ei hanes etto dan sylw mewn cysylltiad a'r eglwys yn Lacharn. Yn nhymor gweinidogaeth Mr. Eddy y bu yr achos yn Newton yn fwyaf llewyrchus. Wedi ei ymadawiad ef, oherwydd rhyw anghydwelediad, ymranodd ac ymwasgarodd y rhan fwyaf o'r gynnulleidfa. Bu yr ychydig a arosasant yn y capel am ryw faint o amser dan ofal gweinidogion Penfro. Wedi i Mr. Jason Jenkins ymsefydlu yn St. Florence, cymerodd ef ofal yr ychydig braidd yn Manorbier, Newton, a than ofal gweinidogion St. Florence y maent wedi bod hyd yn bresenol. Rhif yr aelodau yn bresenol yw tua deugain, a'r gwrandawyr oddeutu yr un nifer. Mae yma ysgol Sabbothol ac ysgol gan, a phob un o honynt yn llewyrchus. Bu yma ychydig o ychwanegiad y flwyddyn ddiweddaf, ac y mae golwg obeithiol ar yr achos, ond oherwydd nad yw poblogaeth yr ardal yn lluosog, ac i'r Bedyddwyr sefydlu achos yma ar yr adeg y cymerodd anghydfod le yn yr eglwys Annibynol, nis gellir disgwyl y ceir yma byth gynnulleidfa fawr iawn. Gan Mrs. Elizabeth Phillips y cafwyd y tir at adeiladu y capel yn 1822, ar les o gant ond un o flynyddau, am yr ardreth o swllt y flwyddyn. Y Meistri W. Warlow, Milford; J. Bulmer, Hwlffordd; David Thomas, Tier's Cross; T. Harries, Penfro; B. Evans, St. Florence; Joseph Thomas, Penfro; Benjamin Thomas, Narberth; George Marchant, Manorbier, Newton, a David Phillips, Wolfsdale, yw yr ymddiriedolwyr yn ngweithred y capel. Mae yr addoldy wedi cael ei adgyweirio ragor nag unwaith oddiar pan yr adeiladwyd ef gyntaf.
(Llanstadwell parish)
Mae y lle hwn yn sefyll ar y to gogleddol i angorfa Milford, gyferbyn a Pembroke Dock. Yma y terfyna cledrffordd Deheubarth Cymru. Ychydig flynyddau yn ol nid oedd yma ond pedwar neu bump o anedd-dai, ond wedi agoryd y gledrffordd, dechreuwyd adeiladu tai yma, ac erbyn hyn mae y lle wedi myned yn dref lled boblog. Yn y flwyddyn 1862, dechreuwyd son am adeiladu capel coffadwriaethol yma, a chasglwyd cryn swm o arian at hyny gan gyfundebau eglwysi Saesonig a Chymreig y sir. O herwydd gwahanol bethau nis gallwyd cychwyn gyda'r adeiladaeth cyn flwyddyn 1864. Yn y flwyddyn hono gosodwyd i lawr gareg sylfaen y capel newydd gan y diweddar Mr. H. O. Wills, Caerodor, ac agorwyd ef yn 1865. Y gweinidog a ymsefydlodd yma oedd Mr. Thomas Davies, mab yr hybarch W. Davies, Rhosycaerau. Wedi agoryd y capel, casglwyd yma gynnulleidfa dda. Mae yr addoldy yn dy hardd a chyfleus iawn, yn cynwys o bedwar i bum, cant o eisteddleoedd. Parhaodd Mr. Davies i weinidogaethu yma hyd ddiwedd y flwyddyn 1871, pryd y darfu ei gysylltiad a'r lle fel gweinidog. Yn fuan wedi hyny, derbyniodd alwad o Wellington, sir Amwythig, ac yno y mae yn bresenol. Mae yr eglwys yn Neyland hyd yn hyn heb weinidog. Mae yma le gobeithiol, ac os arweinia rhagluniaeth weinidog cymwys yma, gall sefydlu achos cryf a dylanwadol, gan fod y lle ar gynydd parhaus, ac yn debyg o ddyfod yn lle pwysig.
* Llythyr Mr. J. Griffiths, St. Florence.
( Gareth Hicks - 24 May 2008)
Find help, report problems, and contribute information.
| Note: The information provided by GENUKI must not be used for commercial purposes, and all specific restrictions concerning usage, copyright notices, etc., that are to be found on individual information pages within GENUKI must be strictly adhered to. Violation of these rules could gravely harm the cooperation that GENUKI is obtaining from many information providers, and hence threaten its whole future. |