GENUKI Home page upPembrokeshire Contents Contents
 
 

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

  Pembrokeshire section (Vol 3)

  Pages 128 - 141

See main project page

Proof read  by Maureen Saycell (March 2008)

  • TIER'S CROSS  (Steynton parish)(with translation)
  • LONGSTONE   (Ludchurch parish)(with translation)
  • MIDDLEHILL   (Freystrop parish)(with translation)
  • WESTHOOK    (Llangwm parish)(with translation)
  • NEBO                (Cosheston parish)(with translation)
  • WOLFSDALE    (Camrose parish)(with translation)
  • CRUNDALE    (Rudbaxton parish)(with translation)
  • MILFORD        (Steynton parish)(with translation)
  • LANTEGUE     (Crunwear parish)(with translation)
  • AMROTH(with translation)
  • HOREB             (Martletwy parish)(with translation)
  • TEMPLETON    (Narberth parish)(with translation)

 


Pages 128 - 141

 

128

KEYSTON

(Camrose parish)

Translation for this chapel on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist1.html

Mae y lle hwn ychydig filldiroedd i'r gorllewin o Hwlffordd. Tregethin y gelwir ef gan y Cymry. Saeson oll yw trigolion y gymydogaeth hon. Mae rhywbeth yn hynod o darawiadol yn hanes dechreuad yr achos yma. Un boreu Sabboth, tua y flwyddyn 1787, cyfododd Mr Stephen Lloyd, Brynberian, yn foreu iawn, a cherddodd yr holl ffordd o Frynberian i Keyston - tua phum'-milldir-ar-hugain - a phregethodd ar yr heol yn nghanol y pentref. Gwnaeth ymddangosiad dyn dyeithr yno ar y fath neges hynod, gyffro yn mysg y trigolion. Daeth yno gynnulleidfa dda yn nghyd, a rhoddasant wrandawiad astud i'r bregeth. Ar y diwedd trodd pob un i'w ffordd gan adael y pregethwr ar yr heol heb neb yn cynyg bwyd na diod iddo. Wedi i bawb droi ymaith, cerddodd yn araf i lawr i waelod y pentref, a throdd at ddrws yno gan guro. Daeth gwraig y ty i'r drws. Ei henw oedd Mrs Lewis. Nid oedd nnrhyw adnabyddiaeth rhwng Mr Lloyd a hi. Pan agorodd y drws, gofynodd iddi, "A ydych chwi yn caru Iesu Grist, ac am fyned i'r nefoedd " Yr wyf yn gobeithio fy mod," ebe hithau. " Wel, ' ebe yntau, " os ydych yn caru Iesu Grist, dylech barchu ei was. Daethum heddyw bob cam ar fy nhraed o Frynberian i'w bregethu Ef yn y lle hwn, ac y mae arnaf chwant bwyd." Ar hyny gwahoddodd y wraig ef i'r ty, a chafodd dderbyniad caredig a phob ymgeledd. Cyn pen y flwyddyn yr oedd mab y ty hwnw, Mr James Lewis, ac amryw eraill o drigolion y pentref, wedi eu derbyn yn aelodau eglwysig. Nid ydym yn gwybod un ai rhyw gynhyrfiad yn ei feddwl ef ei hun, neu falle cael ei anog gan rywun i fyned yno i bregethu a gafodd Mr Lloyd, ond nid oes un sail i amheu cywirdeb yr hanes gan ein bod wedi ei gael o enau yr hybarch William Davies, Rhosycaerau, yr hwn fu am tuag ugain mlynedd yn weinidog yn Keyston. Aeth Mr Lloyd yno yr ail a'r drydedd waith, ac yn raddol ennillodd yno ddigon o ddysgyblion i ffurfio eglwys ac i adeiladu capel yn y lle. Bu yr achos o'i gychwyniad hyd tua y flwyddyn 1797 dim ofal Mr Lloyd a'i gynorthwywr, Mr Henry George. Yn y flwyddyn hono rhoddwyd galwad i Mr Joseph Davies, o athrofa Gwrecsam, ond tro anfodus iawn i'r achos oedd ei ddyfodiad yma. Bu yma rhwng wyth a naw mlynedd heb dderbyn cymaint ag un aelod i'r eglwys. Myned wanach, wanach yr oedd yr achos bob blwyddyn dan ei ofal. O'r diwedd, profwyd ef yn euog o anfoesoldeb, a chafodd ei ddiarddel. Yr oedd yr achos y pryd hwn mewn agwedd isel iawn. Un boreu Sabboth, aeth Mr William Davies, Rhosycaerau, yno, yr hwn oedd y pryd hwnw yn fyfyriwr yn ysgol Mr Thomas Harries, Penfro. Ar ddiwedd yr oedfa, daeth gwrthgiliwr cellweirus yn mlaen ato, a gofynodd iddo, " A ydych chwi, y gwr ieuangc, yn adnabod Mr Meyler, Rhosycaerau ?" "Ydwyf yn dda," ebe Mr Davies, "yn ei eglwys ef yr wyf fi yn aelod." "Wel," ebe y gwrthgiliwr, " ceisiwch ganddo drosof fi i ddyfod yma i bregethu mewn angladd." "Angladd pwy," ebe Mr. Davies. "Angladd yr achos yn Keyston," atebai y gwrthgiliwr, " canys y mae wedi marw er's amser bellach." Aeth Mr Meyler yno yn fuan, a phregethodd yn rymus oddiar y geiriau, "Ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth uffern nis gorchfygant hi." Ie,"meddai yn ei bregeth, " ar y graig y mae yr eglwys wedi cael ei hadeiladu, ac nid ar un gwrthgiliwr gwawdlyd." Yn lle claddu yr achos, bu ymweliad Mr Meyler a'r lle yn gychwyniad  

129

adfywiad grymus yma. Yr oedd hyn tua y flwyddyn 1806, pryd yr urddwyd Mr Davies yn gynorthwywr i Mr Meyler yn Rhosycaerau. Ymgymerodd Mr Meyler a Mr Davies a gofal yr achos yn Keyston, a buont yn cydweinidogaethu yma hyd farwolaeth Mr Meyler yn 1825. Yn nhymor eu gweinidogaeth, cynyddodd yr eglwys o ddeuddeg o aelodau i gant ac ugain. Wedi marwolaeth Mr Meyler bu raid i Mr. Davies roddi i ofal yn Keyston fyny, gan fod ei gylch gweinidogaethol bellach yn rhy fawr iddo ef ei hun allu llenwi y cwbl. Yn y flwyddyn 1828, rhoddwyd galwad i Mr James Williams, o athrofa Caerfyrddin, a mab yr hybarch David Williams, Troedrhiwdalar. Bu Mr Williams yn llafurio yma gyda pharch mawr hyd y flwyddyn 1845, pan yr ymgymerodd a gofal eglwys y Green, Hwlffordd, mewn cysylltiad a Keyston. Parhaodd ef yn enw o weinidog yma hyd ei farwolaeth yn 1870, ond wedi iddo symud i Hwlffordd, ac yn enwedig wedi i'w iechyd waelu yn mlynyddoedd diweddaf i oes, ni chafodd y lle hwn ond y peth nesaf i ddim o'i wasanaeth. Nid oes yma un gweinidog wedi ymsefydlu ar ol marwolaeth Mr Williams. Mae yma faes eang ac addawus i weinidog ymroddgar.

Cafodd y personau canlynol eu cyfodi i bregethu yn yr eglwys hon :

 

LITTLE HAVEN

(Talbenny parish)

Translation for this chapel on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist1.html

 

Dechreuwyd yr achos yn y lle hwn tua y flwyddyn 1800, neu yn fuan ar ol hyny, gan Mr James Meyler, Rhosycaerau, a bu of a'i gydweinidog, Mr Davies, yn gweinidogaethu yma am flynyddau. Ar y Sabbothau na byddent hwy yn gallu bod yma, deuai pregethwyr cynorthwyol o'r Tabernacl,

* Llythyr Mr. Bateman, Rhosycaerau.

130

Hwlffordd, i lenwi eu lle. Yn y flwyddyn 1824, rhoddodd. gweinidogion Rhosycaerau y lle i fyny, a chymerwyd ei ofal yn benaf gan Mr David Phillips, o Wolfsdale. Bu y gwr da hwnw yn llafurio yma, ac mewn lleoedd eraill yn y gymydogaeth hyd y flwyddyn 1836. O'r flwyddyn hono hyd 1845, bu y lle hwn, yn nghyd a St. Ismael a Dale dan ofal Mr James Williams mewn cysylltiad a Keyston, ond fod cyfundeb y Sir yn cynal Cenhadwr Cartrefol fel cynorthwywr iddo. Nid ydym ni wedi cael enw y cenhadwr hwnw. Pan roddodd Mr Williams ofal y lle i fyny yn 1845, urddwyd Mr Theophilus James yn weinidog, ac efe yw y gweinidog hyd yn bresenol. Nid yw cyfundeb y sir yn cyfranu dim at gynal y weinidogaeth yma oddiar urddiad Mr James, fel y gwnelent cyn hyny. Deg-a-deugain yw rhif yr aelodau yma, ond mae y gwrandawyr yn rhifo dros gant, a'r ysgol Sabbothol tua chant a haner.

 

ST. ISMAEL

Translation for this chapel on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist1.html

 

Trwy lafur Mr David Phillips, o Wolfsdale, y dechreuwyd yr achos yn y lle hwn yn y fiwyddyn 1828, a than yr un weinidogaeth a Little- haven y mae wedi bod o'r dechreuad hyd yn awr. Cynnullidfa fechan sydd yma, ac nis gall fod yn amgen gan nad yw holl drigolion y plwyf ond 469. Tua thri ugain yw rhif yr aelodau, a'r gwrandawyr oddeutu yr un nifer.

 

DALE

Translation for this chapel on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist1.html

 

Yn y flwyddyn 1838 y dechreuwyd yr achos yma trwy ymdrechion dyn da iawn o'r enw James Palmer, yr hwn a ofalai am oleudy St. Anne, ar y mynediad i mewn i angorfa Milford. Nid ydym wedi cael lle i ddeall gan ein hysbysydd fod James Palmer yn bregethwr, ond dywed wrthym ei fod yn gristion rhagorol iawn. Mae y lle hwn, yr un fath a St. Ismael, wedi bod o'r dechreuad dan yr un weinidogaeth a Little Haven. Tuag ugain yw rhif yr aelodau yma, y gwrandawyr oddeutu tri ugain, a'r ysgol Sabbothol tua thri-ugain-a-deg. Mae y tri lle hyn - Little Hayen, St. Ismael, a Dale ar derfyn gorllewinol y rhan Saesonig o Sir Benfro. Mae yn mhob un o'r lleoedd hyn bersonau selog a gwresog iawn fel crefyddwyr, ond nid oes neb wedi cyfodi i bregethu ynddynt.*

 

NOLTON

Translation for this chapel on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist1.html

Yr ydym yn hanes eglwys Trefgarn wedi cyfeirio at ddechreuad yr achos yn y lle hwn, ond gan fod yma eglwys Annibynol dylid ei grybwyll ar ei ben ei hun. Yn y flwyddyn 1856, dechreuodd Mr John Morgan Evans, Trefgarn, bregethu yn yr ardal hon, ac yn y flwyddyn ganlynol ffurfiwyd yma eglwys o bymtheg o aelodau, ac adeiladwyd capel. Mr Evans, Mr John Thomas, Llethr, a Mr D. Banton, Nolton, gymerodd flaenoriaeth gydag adeiladaeth y capel. Rhoddodd eglwys Trefgarn tua thri ugain punt at y draul. Wedi i'r eglwys gynyddu i tua thri-ugain-a-deg o aelodau, rhoddodd Mr Evans ei gofal i fyny. Nid ydym yn deall fod un gweinidog sefydlog wedi bod yma oddiar pan y rhoddodd Mr Evans

* Llythyr Mr Theophilus James.

131

y lle i fyny. Ardal Saesonig hollol yw hon. Er nas gellir disgwyl y bydd yma byth gynnulleidfa luosog iawn mewn ardal gymharol deneu ei phoblogaeth, etto gall achos bychan llewyrchus fod yma gyda bendith yr Arglwydd, ac felly y mae yn argoeli bod.

 

ROSEMARKET

Translation for this chapel on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist1.html

 

Ffrwyth ymweliadau achlysurol Meistri R. Morgan, Henllan; M. Jones, Trelech, a J. Meyler, Rhosycaerau, a'r rhan Saesonig o Sir Benfro, yw yr achos hwn yn ei ddechreuad. Casglwyd yma gynnulleidfa a ffurfiwyd eglwys yn y lle tua y flwyddyn 1801. Yn 1803, ymsefydlodd Mr Arnold Davies yma fel gweinidog. Yr oedd ef ddwy neu dair blynedd cyn hyny wedi bod yn llafurio fel pregethwr teithiol yn mysg Saeson Sir Benfro. Parhaodd y gweinidog da hwn i lafurio yma, ac yn yr ardaloedd cylchynol, gyda llwyddiant anghyffredin hyd derfyn ei oes yn 1814. Y gweinidog nesaf yma oedd Mr David Thomas, o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef i fod yn weinidog yma, ac i'r eglwys oedd newydd gael ei ffurfio yn Tier's Cross, Ebrill 17eg, 1816. Dechreuwyd gwasanaeth yr urddiad trwy weddi gan Mr J. Bulmer, Hwlffordd ; pregethwyd ar natur eglwys gan Mr Dayid Davies, Pantteg ; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr J. Meyler, Rhosycaerau; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr Warlow, Milford; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr D. Peter, Caerfyrddin, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr W. Harries, Abergavenny. Pregethwyd yn y prydnawn a'r hwyr blaenorol gan Meistri Price, Llanedi; Rowlands, Llanybri, ac eraill. Bu Mr Thomas yn llafurus a defnyddiol iawn yma am saith mlynedd. Yn niwedd 1823, symudodd i Wotton-under-edge, Sir Gaerloew, lle y bu hyd derfyn ei oes. Y trydydd gweinidog yma oedd Mr Henry Davies, o athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef yma Hydref 7fed, 1824. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr D. L. Jones, Capel Seion;  holwyd y gofyniadau gan Mr J. Bulmer, Hwlffordd ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr W. Warlow, Milford ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr D. Peter, Caerfyrddin, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr D. Davies, Pantteg. Bu Mr Davies yma hyd ddechreu y flwyddyn 1828, pryd y symudodd i Narberth. Mae yn ymddangos na fu yma un gweinidog sefydlog wedi ymadawiad Mr Davies nes i Mr Thomas Jones, o Drefdraeth, ymsefydlu yma tua'r flwyddyn 1836. Ymadawodd a'r lle yn fuan ar ol y flwyddyn 1844, ac ymunodd a'r Eglwys Wladol. Tachwedd 10fed, 1847, urddwyd Mr Evan Thomas, o athrofa Caerfyrddin, yma, ac efe yw y gweinidog hyd yn bresenol.

Buasai yn dda genym allu rhoddi mwy o fanylion am helynt yr achos yma, ond gan i'r sawl a allasai, ac a ddylasai roddi yr hysbysiaeth angenrheidiol i ni, omedd gwneyd hyny, nid oes genym ond boddloni ar gymaint o ffeithiau a allasom gasglu heb gynorthwy neb sydd yn dal cysylltiad a'r achos hwn yn bresenol. Rhif yr aelodau yma yn nechreu y fiwyddyn 1861, oedd 53. Nis gwyddom pa un ai mwy ai llai ydynt yn bresenol.

 

TIER'S CROSS

(Steynton parish)

Translation for this chapel on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist1.html

Trwy lafur y duwiol a'r llafurus Arnold Davies, gweinidog Rosemarket, y dechreuwyd yr achos yn y lle hwn. Yr oeddid wedi dechreu adeiladu y capel yma cyn iddo ef farw, ac agorwyd ef yn Mehefin, 1815, yn mhen

132  

naw mis wedi marwolaeth y sylfaenydd. Yn Ebrill, 1816, ymsefydlodd Mr David Thomas yn weinidog yma, mewn cysylltiad a Rosemarket. Dan yr un weinidogaeth a Rosemarket y mae yr eglwys hon wedi bod o'r dechreu hyd yn bresenol. Yr oedd yr aelodau yma yn 60 o rif yn 1861, y gwrandawyr yn 91, a'r ysgol Sabbothol yn 100. Nid oes genym ychwaneg o hysbysiaeth i'w roddi am y lle.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

ARNOLD DAVIES. Ganwyd ef yn mhlwyf Castellblaidd, Sir Benfro, yn y flwyddyn 1772. Pobl isel eu hamgylchiadau bydol oedd ei rieni, a than i'w dad farw pan yr oedd ef yn ieuangc iawn, ni chafodd unrhyw fanteision addysg yn moreu ei oes. Bu raid i'w fam weddw ei anfon i wasanaethu at amaethwr o'r gymydogaeth, pryd nad oedd ond plentyn ieuangc iawn. Gan ei fod yn fachgen meddylgar a thalentog, casglodd fwy o wybodaeth na nemawr o'i gyfoedion er ei holl anfanteision. Yn y ddeunawfed flwyddyn o'i oed, ymunodd ag eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Woodstock. Yr oedd cyn hyny wedi dysgu darllen ac ysgrifenu, a gwnaeth ei hun yn nodedig o gyfarwydd a'r ysgrythyrau, ac o lyfrau crefyddol eraill. Wedi parhau i wasanaethu amaethwyr nes yr oedd yn ddwy-flwydd-ar-hugain oed, ymgymerodd a'r gwaith o fod yn ysgolfeistr yn y Spital, yn agos i Hwlffordd. Wedi bod yno am flwyddyn, cymeradwyodd offeiriad y plwyf ef i sylw Mr Williams, person Begelly, yr hwn oedd offeiriad duwiol ac efengylaidd iawn. Dan nawdd y gwr da hwnw agorodd ysgol yn Templeton. Pan yr oedd yno, anogodd Mr Williams ef i arfer ei ddoniau fel cynghorwr yn y cyfarfodydd gweddio a gynhelid yn ei blwyf ef. Daeth trwy hyny yn fuan yn bregethwr effeithiol a phoblogaidd iawn. Wedi yfed yn helaeth o ysbryd pregethu yr efengyl, gwnaeth ei feddwl i fyny i roddi heibio gadw ysgol, ac ymgyflwyno yn hollol i'r gwaith o bregethu. Yr oedd hyn tua y flwyddyn 1800. Yr amser hwnw daeth i adnabyddiaeth a'r Meistri R. Morgan, Henllan, ac M. Jones, Trelech, y rhai a ymwelent a'r parth Saesonig o'r Sir yn lled fynych, fel y nodasom amryw weithiau yn barod. Cymerodd Morgan a Jones y gwr ieuangc dan eu nodded, a phenodasant ef yn fath o genhadwr neu bregethwr teithiol yn mysg y Saeson. Mewn trefn iddo allu yn rheolaidd weinyddu bedydd a Swper yr Arglwydd, pa le bynag y buasai galwad am hyny, cafodd ei urddo yn Manorbier, Newton, yn 1802, ond nid gyda'r bwriad i fod yn fwy sefydlog fel gweinidog yno nag mewn manau eraill. Wedi bod yn bregethwr teithiol am dair blynedd, a gwneyd llawer o ddaioni, barnodd ef a'i gyfeillion y buasai yn fwy defnyddiol wrth ymsefydlu fel gweinidog eglwys neillduol, ac felly ymsefydlodd yn Rosemarket yn 1803. Ond byddai yn lled aml wedi hyny yn ymweled ag agos pob cymydogaeth o'r rhan Saesonig o Sir Benfro. Bu hefyd rai gweithiau yn pregethu i Saeson Browyr, Morganwg, dan nawdd Mr D. Davies, Abertawy, ac yn y flwyddyn 1811, bu am dri mis yn pregethu i'r gynnulleidfa Gymreig yn Heol Guildford, Llundain. Wedi llafurio yn ddiwyd a llwyddianus iawn yn ei gylch gweinidogaethol ei hun, ac mewn llawer o fanau eraill, dan lawer o anfanteision, oherwydd cyfyngder ei amgylchiadau a gwaeledd parhaus ei iechyd, bu y gweinidog defnyddiol hwn farw Hydref 25ain, 1814, yn 42 oed. Gadawodd weddw a dau blentyn yn amddifaid, a lluaws o gyfeillion crefyddol

133

mewn galar dwys ar ei ol. Traddodwyd ei bregeth angladdol oddiar Job xxx. 23, gan Mr James Meyler, Rhosycaerau. Yr oedd Arnold Davies yn ddyn hynod am ei dduwioldeb, yn bregethwr rhyfeddol o efengylaidd a thoddedig, ac yn mhob ystyr yn weinidog da i Iesu Grist*

DAVID THOMAS LODWICK. Ganwyd ef yn mhlwyf Llanedi, Sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1793. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Llanedi yn ieuangc iawn, a dechreuodd bregethu yn fuan wedi hyny. Yn y flwyddyn 1812, pan yr oedd yn bedair-ar-bymtheg oed, derbyniwyd ef yn fyfyriwr i athrofa Caerfyrddin, ac ar derfyniad ei amser yno, yn 1816, urddwyd ef yn weinidog yn Rosemarket a Tier's Cross. Bu ei wasanaeth yn y lleoedd hyn am saith mlynedd yn nodedig o lwyddianus a derbyniol. Yn mis Tachwedd, 1823, symudodd i Wotton-under-edge, lle y treuliodd weddill ei oes. Am lawer o flynyddau bu yn rhyfeddol o boblogaidd yno. Ond oherwydd iddo yn y flwyddyn 1839 ddyfod allan fel gwrthwynebwr penderfynol iawn i'r cynwrf Siartaidd, collodd ei boblogrwydd i raddau mawr yn y dref a'r gymydogaeth, gan fod y Siartiaid yn lluosog ac yn ddylanwadol iawn yn yr ardal. Cyn hyny yr oedd capel Mr Thomas yn wastad yn orlawn, ond o hyny allan ni bu ei gynnulleidfa ond cymharol fechan. Dichon mai doethineb i weinidogion yr efengyl, hyd y byddo modd, fyddai cadw allan o ymrysonau gwladyddol a masnachol y werin. Bu Mr Thomas farw Mawrth 28ain, 1861, yn 68 oed. Yr oedd yn ddyn da iawn, ac yn bregethwr efengylaidd a galluog. Yr oedd yn gefnder i'r diweddar Mr G. Griffiths, Casnewydd.

 

LONGSTONE

(Ludchurch parish)

Translation for this chapel on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist1.html

Dechreuwyd yr achos yn y lle hwn trwy lafur y diweddar Mr. T. R. Williams, Templeton. Yn y flwyddyn 1848 yr adeiladwyd y capel cyntaf yma, ac yn 1850 bu farw Mr. Williams, y gweinidog cyntaf. Wedi ei farwolaeth ef bu yr eglwys hon, a'r eglwysi eraill a fuasent dan ei ofal gweinidogaethol am rai blynyddau, yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol. Yn y flwyddyn 1854, urddwyd Mr. William Thomas, yr hwn a ddygasid i fyny dan weinidogaeth Mr. Williams, i fod yn ganlyniedydd iddo yn Longstone. Bu ef yn llafurio yma gyda mesur helaeth o lwyddiant hyd derfyn ei oes pi 1869. Yn y flwyddyn 1862, ailadeiladwyd y capel. Yn 1871, urddwyd Mr. Heber Williams, mab y gweinidog cyntaf, a myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac efe yw y gweinidog yma yn bresenol. Mae yr achos mewn agwedd dra llewyrchus, a seiliau da i obeithio am gynydd a llwyddiant ychwauegol yma.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

WILLIAM THOMAS. Ganwyd ef mewn amaethdy a elwir Bedford, yn agos i Narberth, Tachwedd 7fed, 1807. Yr oedd yn ddeiliad argraffiadau crefyddol o'i febyd, a dyfnhawyd yr argraffladau hyny pan yr oedd tua deuddeng mlwydd oed gan farwolaeth ei dad, a marwolaeth brawd iddo yn fuan ar ol hyny. Bu am rai blynyddau yn moreu ei oes dan weinidogaeth alluog Mr Caleb Morris yn Narberth, trwy yr hyn y dygwyd ef i deimlo pwys crefydd i'r fath raddau fel y penderfynodd wneyd proffes gyhoeddus

*Evangelical Magazine, am 1816.

134

o honi. Wedi ychydig o oediad, ymunodd a'r eglwys yn Templeton dan weinidogaeth Mr T. R. Williams. Yn y flwyddyn 1835, anogwyd ef gan ei weinidog a'r eglwys i arfer ei ddoniau fel pregethwr. Bu o wasanaeth mawr am flynyddau fel cynorthwywr i Mr Williams yn Templeton, a'r lleoedd eraill oedd dan ei ofal. Yn 1854, yn mheu pedair blynedd ar ol marwolaeth Mr Williams, dewisodd yr eglwys yn Longstone ef yn weinidog, a bu yn llafurio yma, ac mewn lleoedd eraill, gyda pharch a llwyddiant mawr hyd ei farwolaeth. Traddododd ei bregeth olaf Gorphenaf Ileg, 1869, oddiwrth y geiriau, " Nid oes i ni yma ddinas barhaus," a bu farw yn mhen naw diwrnod ar ol hyny, mewn llawn hyder ffydd. Claddwyd ef wrth gapel Longstone, a gweinyddwyd yn yr angladd gan Meistri J. Davies, Glandwr ; I. Lewis. Henllan, ac eraill.

Ni chafodd William Thomas ei freintio ag addysg at y weinidogaeth, ond gan ei fod yn ddyn o alluoedd naturiol cryfion, yn fyfyriwr diwyd, yn ddyn llawn o synwyr cyffredin, ac yn ddyn o dduwioldeb amlwg, bu o fwy gwasanaeth fel gweinidog na llawer o wyr mwy dysgedig.

 

MIDDLEHILL

(Freystrop parish)

Translation for this chapel on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist1.html

Dywedir fod cyfarfodydd gweddio yn cael eu cynal yn yr ardal hon gan aelodau perthynol i eglwys y Green, Hwlffordd, er y flwyddyn 1778. Yn nhy Mary Morgans, yr hon a gadwai fferm Middlehill, y cynhelid y cyfarfodydd hyn. Tua 1813, neu y flwyddyn ganlynol, cymhellwyd Mr John Bulmer, gan un o aelodau ei eglwys, yr hwn oedd yn byw yn Freystropcross, yn yr ardal hon, i ddyfod i'w dy ef i bregethu. Gan fod y ty hwnw yn nes i Rosemarket nag i Hwlffordd, darfu i Mr Bulmer, ar un o'i ymweliadau a Mr Arnold Davies, ei gymhell ef i fyned i'r ty hwnw i bregethu mor fynych ag y medrai, ac addawai yntau gydweithredu ag ef. Un boreu aethant ill dau i weled y

ty y gwahoddid hwy i ddyfod i bregethu iddo, ac wedi ei weled barnent ei fod yn rhy fychan ac anghyfleus i gynal cyfarfodydd ynddo gydag unrhyw gyfleusdra a chysur. Wrth fyned allan o'r ty, gwelent amaethdy mawr o fewn ychydig, a phenderfynasant fyned yno, er nad oedd un o honynt yn adnabod y preswylwyr, i ofyn a agorent eu ty i bregethu ynddo. Pan aethant i mewn, cawsant mai gwraig weddw, yr hon a fuasai flynyddau cyn hyny yn aelod gyda'r Wesleyaid, oedd yn byw yno. Yr oedd y ddynes hon, dan drallodau teuluol ac amgylchiadau helbulus, wedi ymollwng a gadael crefydd er's blynyddau. Pan ddechreuodd y ddau weinidog ymddiddan a hi, teimlodd yn ddwys, ac amlygodd y parodrwydd mwyaf i agoryd ei thy iddynt i bregethu ynddo. Mr. Davies a draddododd y bregeth gyntaf yno i gynnulleidfa luosog. Ond ni chafodd y gwr da hwnw bregethu yno ond unwaith. Cymerwyd ef yn glaf yn fuan wedi hyny clefyd y bu farw o hono. Bu dyfodiad yr efengyl i'r ty hwn yn fendith dragywyddol i'r wraig weddw ac amryw o'i hiliogaeth. Yn mhen tua dwy flynedd wedi dechreu pregethu yma bu gwraig y ty farw mewn mwynhad cyflawn o gysuron crefydd. Wedi ei marwolaeth hi, cadwyd y ty yn agored i'r efengyl gan ei mab-yn-nghyfraith, Mr William Davies, a'i briod. Derbyniwyd hwy ill dau yn aelodau eglwysig yn Rosemarket gan Mr David Thomas, ac wedi ffurfio eglwys yn Middlehill, bu William Davies yn ddiacon defnyddiol ynddi hyd derfyn ei oes. Parhawyd bregethu yn y ty hwn nes yr adeiladwyd capel Middlehill. Yr

135

ydym wedi methu cael allan pa flwyddyn yr adeiladwyd y capel ac y ffurfiwyd yma eglwys, ond yr ydym yn lled sicr mai tua y flwyddyn 1820, y cymerodd hyny le. Yr oedd yr eglwys ar i ffurfiad yn cael ei gwneyd i fyny o aelodau o Rosemarket, y Green, a'r Tabernacl, Hwlffordd. Y personau mwyaf blaenllaw yma gydag adeiladaeth y capel oeddynt, John Morgan, un o hiliogaeth y wraig y cynhelid cyfarfodydd gweddio yn ei thy, yn 1778; William Davies, yr hwn a grybwyllwyd yn barod; George Whitlow, a William Canton. Y gwenidog sefydlog cyntaf yma oedd Mr Nathaniel Harries. Mae yn debyg iddo ef ymsefydlu yma yn 1825, ond ni chafodd i urddo cyn y flwyddyn 1830. Bu ei wenidogaeth yn rhyfeddol o lwyddianus yma. Yn 1841, cafodd y capel ei ailadeiladu a'i helaethu yn fawr, ac yn y flwyddyn ganlynol adeiladwyd capel i gangen o'r fam- eglwys yn Westhook. Bu Mr Harries farw yn 1857. Ar amser ei farwolaeth yr oedd rhif yr aelodau yn bedwarugain, y gwrandawyr yn ddau-gant-a-deg-ar-hugain, a'r ysgol Sabbothol yn ddau gant. Yn 1859, urddwyd Mr William Edwards, o athrofa Caerfyrddin, yma. Bu ef yn llafurio yn y lle hwn a Westhook hyd 1865, pryd y symudodd i Mere, yn Swydd Wilts. Mae yn awr yn Kilsby,Swydd Northampton. Yn Mawrth, 1866, urddwyd Mr Howell Davies yma, ac ymadawodd oddiyma i Tredegar yn Awst, 1871, ac y mae yn awr newydd symud oddiyno i Silverwell, gerllaw Wigan. Oddiar ei ymadawiad ef nid yw yr eglwysi yn Middlehill a Westhook wedi cael gweinidog sefydlog.

Mae rhai wedi cyfodi yma i bregethu, ond yr ydym ni wedi methu cael eu henwau. Yn nhy y wraig weddw, lle y dechreuwyd yr achos, y traddododd Mr George Rogers, o Harmerhill,Sir Amwythig ; Mr James Rowlands, o Hanley-on-Thames, a Mr William Thomas, o Stone, yn sir Stafford, eu pregethau cyntaf ; ond yn y Green, Hwlffordd, yr oedd y ddau flaenaf yn aelodau ar y pryd, ac yn Rosemarket yr oedd yr olaf yn aelod.

 

WESTHOOK

  (Llangwm parish)

Translation for this chapel on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist1.html

Fel y nodwyd, cangen o Middlehill yw yr eglwys hon. Yn 1842 yr adeiladwyd y capel yma. Thomas Davies a Joseph Phillips, dau o aelodau Middlehill, fu yn offerynol i'w adeiladu. Yr oedd Mr. Harries, gweinidog y fam-eglwys, yn pregethu yma bob Sabboth er pan yr adeiladwyd y capel, ond ni chorpholwyd yma eglwys cyn mis Ebrill, 1857, ac yn mhen mis wedi gweinyddiad y cymundeb cyntaf yma, bu farw y gweinidog ffyddlon, Mr Harries. Tua deg-ar-hugain oedd rhif yr aelodau ar ffurfiad yr eglwys, ond. yr oedd. y gwrandawyr a'r ysgol Sabbothol yn rhifo tua chant a thri ugain. Dan yr un weinidogaeth a Middlehill y mae yr achos hwn wedi bod o'r dechreuad. Hyderwn yr anfona yr Arglwydd etto fugail wrth fodd ei galon i'r ddwy ddeadell fechan hyn.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

NATHANIEL HARRIES. Ganwyd y dyn rhagorol hwn o rieni tlodion yn Llanhaden, gerllaw Narberth, yn y flwyddyn 1796. Cafodd ei ddychwelyd at. yr Arglwydd yn ieuangc trwy weinidogaeth Mr Thomas Brigstoke, vicer plwyf Llanhaden, yr hwn oedd yn offeiriad duwiol ac efengylaidd.

136

Wrth ei weled yn ddyn ieuangc talentog ac awyddus am wybodaeth, rhoddodd mab y ficer gymaint o addysg iddo ag a'i cymhwysodd i gael ei ddewis yn athraw ysgol y plwyf. Bu yn llafurus iawn yn cadw yr ysgol hono am oddeutu wyth mlynedd. Yn y blynyddoedd hyny arferai fyned o dy i dy yn y plwyf i gynal cyfarfodydd gweddio, ac i gynghori ei gymydogion. Trwy hyny daeth yn raddol yn alluog i bregethu yn effeithiol iawn. Tua 1822, symudodd i ardal Tier's Cross, ac yno ymunodd a'r Annibynwyr. Fel y nodasom, dechreuodd ei lafur fel gweinidog yn Middlehill yn 1825, ac yno y bu yn weithiwr difefl hyd derfyn ei oes. Bu farw, ar ol cystudd byr, Mai 16eg, 1857, yn 61 oed.

O ran corph yr oedd Nathaniel Harries yn led dal, ac o ymddangosiad neillduol o urddasol a mawreddog. Er ei fod yn ddyn gwylaidd a gostyngedig iawn, yr oedd yn nodedig am ei wroldeb, a'i benderfynolrwydd. Yr oedd o feddwl galluog a chraffus, as yn bregethwr eglur, ymarferol, a buddiol iawn. Gwerthfawrogid ei weinidogaeth gan y glowyr a'r amaethwyr a wnelent i fyny ei gynnulleidfaoedd ; a phe buasai yn gwneyd ei feddwl i fyny i edrych am le gwell, buasai ei alluoedd fel pregethwr yn sicr o dynu sylw cynnulleidfaoedd llawer lluosocach a chyfoethocach na 'r rhai y treuliodd ei oes i lafurio yn eu mysg. Ni dderbyniodd ond cyflog bychan iawn trwy ei oes, ac felly bu raid iddo lafurio trwy ei holl fywyd cyhoeddus mewn llawer o dlodi, a'r anfanteision cysylltiedig a hyny. Ond y fath oedd ei serch at bobl ei ofal a'i ymlyniad wrthynt fel na fynai feddwl am eu gadael er gwellhau ei amgylchiadau bydol. Os na chafodd ond tal bychan am ei lafur yma, mae yn ddiau ei fod yn awr mewn mwynhad o wobrwy ogoneddus. Cymeradwyaeth ei Dduw, ac nid canmoliaeth dynion, oedd yr hyn yr amcanai am dano, ac y mae yn sicr iddo ei gyrhaedd.

 

NEBO

(Cosheston parish)

Translation for this chapel on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist1.html

Capel bychan yw hwn ychydig filldiroedd o dref Penfro. Dechreuwyd yr achos yma trwy lafur Mr Richard Morris, Cenhadwr Cartrefol, a lafuriai yn y parth Saesonig o'r Sir dan nawdd y cyfundeb Saesonig. Adeiladwyd y capel yn 1832. Math o orsaf genhadol yr ystyrid y lle am flynyddau ar ol adeiladu y capel. Yn 1858, y ffurfiwyd eglwys yma. Dan ofal gweinidogion yr eglwys yn Mhenfro y mae yr achos bychan hwn wedi bod o'r dechreuad. Tuag ugain yw rhif yr aelodau. Mae rhif yr ysgol Sabbothol o haner cant i driugain. Ardal deneu ei phoblogaeth yw yr ardal hon, nc felly nis gellir disgwyl y bydd yma byth gynnulleidfa luosog iawn. Mae un neu ddau bregethwr wedi cyfodi yma, ond nid ydym ni wedi cael eu henwau *

 

WOLFSDALE

(Camrose parish)

Translation for this chapel on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist1.html

Mae y lle hwn yn agos ar y terfynau rhwng y Cymry a'r Saeson, ond yn yr iaith Saesonig yn unig y dygir y gwasanaeth crefyddol yn mlaen yma. Tua y flwyddyn 1810, dechreuodd Meistri J. Meyler a W. Davies, Rhosycaerau, ddyfod i bregethu yn achlysurol i'r ardal hon. Wedi gweled fod awydd yn yr ardalwyr am wrandaw yr efengyl, parhasant i ddyfod

* Llythyr W. Trewent, Ysw.

137

yma yn fisol. Y canlyniad fu i amryw gael eu hennill i wneyd proffes o grefydd, a chawsant eu derbyn yn aelodau yn Keyston. Yn 1826, cafwyd tir at adeiladu capel yma gan John Reynish, Ysw., ar les o fil ond un o flynyddau. Yn 1827, ffurfiwyd yma eglwys. Wedi urddo Mr James Williams yn Keyston yn 1828, cymerodd ef ofal yr eglwys ieuangc hon, mewn cysylltiad a'r fam-eglwys yn Keyston. Bu y lle dan ofal Mr Williams am rai blynyddau, ac wedi iddo ef roddi y gofal i fyny, bu Mr Davies, Rhosycaerau, yn dyfod yma yn fisol i weini yr ordinhadau hyd nes i'r gweinidog presenol gael ei urddo yma. Ebrill laf, 1839, urddwyd Mr Henry Mathias, yr hwn oedd wedi bod yn fyfyriwr am bedair blynedd yn ysgol Mr Davies, Narberth, yn weinidog sefydlog yma. Yr oedd trefn gwasanaeth yr urddiad fel y canlyn :  - Traddododd Mr J. Griffiths, Tyddewi, bregeth ar natur eglwys; derbyniodd Mr Davies, Narbertb, y gyffes ffydd; gweddiodd Mr J. Bulmer, Hwlffordd, yr urdd-weddi; pregethodd Mr W. Davies, Rhosycaerau, ar ddyledswydd y gweinidog, a Mr D. Davies, Zion's Hill, ar ddyledswydd yr eglwys. Rhif yr aelodau pan ddechreuodd Mr Mathias ei weinidogaeth yma oedd rhwng triugain a thriugain-a-deg, ond erbyn 1861, yr oeddynt wedi lluosogi i gant ac ugain, ac yr ydym yn barnu eu bod yn gynifer a hyny, os nad yn ychwaneg, yn bresenol. Mae Mr Mathias yn parhau i lafurio yma hyd etto gyda chymeradwyaeth a mesur helaeth o lwyddiant.

 

CRUNDALE

(Rudbaxton parish)

Translation for this chapel on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist1.html

Trwy ymdrechion a dylanwad Mr Daniel Davies, Zion's Hill, y dechreuwyd yr achos yn yr ardal hon. Ebrill 13eg, 1838, agorwyd yma gapel bychan, ond nodedig o hardd a chyfleus. Pregethwyd yn nghyfarfodydd yr agoriad gan Meistri Davies, Glandwr ; Griffiths, Tyddewi ; Griffiths, Carm, Sir Gaerloew; Williams, Keyston, a Davies, Rhosycaerau. Mae yr eglwys hon oddiar ei ffurfiad, cyn belled ag y gwyddom ni, wedi bod dan ofal gwinidogaetbol Mr Henry Mathias, mewn cysylltiad a Wolfsdale. Mae yma achos bychan siriol. Rhifa yr eglwys gant neu ychwaneg o aelodau, ac y mae y gwrandawyr a'r ysgol Sabbothol tua yr un nifer. Mae y lle hwn, yr un fath ag Wolfsdale, ar y terfynau rhwng y Cymry a'r Saeson, ond yn yr iaith Saesonig yn unig y cyflawnir y gwasanaeth crefyddol yma. Os cyfodwyd rhai i bregethu yma, ac yn Wolfsdale, nid ydym ni wedi gallu dyfod o hyd i'w henwau.

 

MILFORD

(Steynton parish)

Translation for this chapel on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist1.html

Yn nechreu y ganrif bresenol darfu i'r llywodraeth osod i fyny yma un o'r Royal dock yards, a'r canlyniad fu i le nad oedd yn flaenorol ond pentref bychan iawn, gynyddu mewn tair nu bedair blynedd i fod yn dref o gryn faintioli. Yn y flwyddyn 1806, daeth Mr William Warlow, yr hwn oedd y pryd hwnw yn weinidog yn y Tabernacl, Hwlffordd, i bregethu yn achlysurol yma mewn anedd-dai. Yr oedd rhai aelodau eglwysig o Hwlffordd a manau eraill wedi dyfod i fyny i'r lle, a chan nad oedd yma un lle addoliad gan unrhyw unwad, cydymgynghorasant a Mr Warlow nghylch adeiladu capel. Gan i Mr Warlow yn nechreu 1807 roddi ei ofal gweinidogaethol yn Hwlffordd i fyny, galluogwyd ef i roddi ei holl

138

wasanaeth i Milford. Cafodd dir gan un Mrs Waldegrave at adeiladu capel, a gosodwyd i lawr gareg sylfaen yr addoldy newydd, yr hwn a alwyd y Tabernacl, gan Mr Warlow yn Mehefin 1807. Gorphenwyd yr adeilad ac agorwyd ef Ebrill 17eg, 1808, pryd y pregethwyd gan Mr Bickerdike, o Woolwich ; Mr Peter, Caerfyrddin ; Mr George, Brynberian, a Mr Griffiths, Glandwr. Yr oedd y capel, er ei fod yn lled fawr, yn rhy fychan i gynwys y cynnulleidfaoedd y diwrnod hwnw. Yn fuan wedi agoriad y capel corpholwyd yma eglwys o wyth o aelodau. Yn mhen ychydig amser, lluosogodd y praidd bychan i ugeiniau, ac yn y diwedd i ganoedd o rif. Gan fod Mr Warlow mewn amgylchiadau bydol cysurus, gwasanaethodd yr eglwys ieuangc am dair-blynedd-a-haner heb dderbyn cyflog, mewn trefn i alluogi y bobl i dalu dyled y capel. Daeth yr achos yn fuan yn gryf iawn, ac yn rhyfeddol o lewyrchus. Ymunodd y rhan fwyaf o arolygwyr y Royal dock yard a'r eglwys, a bu un o honynt yn offerynol i osod i fyny un o'r ysgolion Sabbothol effeithiolaf yn y dywysogaeth yma. Parhaodd Mr. Warlow i lafurio yma gyda pharch, dylanwad, a llwyddiant anghyffredin hyd nes i lesgedd henaint ei analluogi. Yn y flwyddyn 1845, edrychwyd allan am gynorthwywr iddo. Rhoddwyd galwad i Mr Thomas Lloyd, o athrofa Aberhonddu, a dechruodd ef ei weinidogaeth yma yn niwedd y flwyddyn hono. Yn nechreu 1846 urddwyd ef yma. Erhyn hyn yr oedd yr hen weinidog ffyddlon wedi cael ei alw oddiwrth ei waith at ei wobr. Parhaodd Mr Lloyd i lafurio yma yn dderbyniol a thra llwyddianus hyd ddechreu y flwyddyn 1857, pryd y symudodd i Ebbley, yn Sir Gaerloew. Cyn ei ymadawiad, cynhaliwyd yma gyfarfod, pryd yr anrhegwyd ef a chwech-arhugain o gyfrolau o lyfrau gwerthfawr, fel amlygiad o barch iddo. Yn yr anerchiad a draddododd Mr Garret, un o ddiaconiaid yr eglwys, wrth gyflwyno yr anrheg iddo, amlygai alar yr eglwys, a'r gynnulleidfa, a'r dref yn gyffredinol, oherwydd colli o'u mysg weinidog mor barchus a gweithgar, yr hwn a fuasai yn myned i mewn ac allan o'u blaen am fwy nag un-flynedd-ar-ddeg. Yn ddioed ar ol ymadawiad Mr Lloyd, rhoddwyd galwad i Mr E. F. Woodman, o Bethnal Green, Llundain. Wedi bod yma am oddeutu dwy flynedd, barnodd y boneddwr hwn fod diogelach a brasach porfa ar fusydd yr Eglwys Wladol, ac felly cefnodd ar Ymneillduaeth yn 1859. Nid oes dim a fynom ni a'i hanes yn mhellach. Yn 1860, rhoddwyd galwad i Mr Caleb Guion, gweinidog yr eglwys yn y Plough,  Aberhonddu, ac efe yw y gweinidog yma er y flwyddyn hono. Yr oedd yma achos cryf a llewyrchus o'r cychwyniad. Yn y flwyddyn 1861, rhif yr aelodau oedd tua dau cant, a'r gwrandawyr yn rhywbeth tua yr un rhifedi. Nid ydym yn gwybod pa un ai mwy ai llai ydyntyn awr. Yr ydym yn deall i amryw o aelodau yr eglwys hon gyfodi i bregethu o bryd i bryd, ond nid ydym ni wedi cael enwau neb o honynt. Y capel a adeiladwyd yma yn 1808 yw yr un presenol, ond ei fod wedi cael ei adgyweirio fwy nag unwaith er hyny.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

WILLIAM WARLOW Mab Charles a Martha Warlow, o blwyf Camroes, yn agos i Hwlffordd, oedd y dyn gwerthfawr hwn. Yr oedd ei rieni yn bobl dduwiol iawn, ac yn aelodau o'r eglwys Annibynol yn Nhrefgarn. Ganwyd ef Ionawr 19eg, 1765. Pan yn bedair blwydd oed, cymerwyd ef oddiwrth ei rieni gan fodryb iddo yn agos i dref Hwlffordd, ac yno yr

139

arosodd nes iddo ddyfod i oedran gwr. Pan yn ddeuddeng mlwydd oed, bu ei fywyd mewn perygl mawr oddiwrth dwymyn. Gweithiodd ei gystudd ystyriaeth o bwys crefydd i'w feddwl, ond wedi iddo wellhau, anghofiodd ei addunedau i'r Arglwydd, ac ymollyngodd i ysgafnder fel ei gyfoedion. Gan nad oedd ei ewythr a'i fodryb, na neb o'r teulu, yn grefyddol, nid oedd ganddo neb yno i'w arwain i ffyrdd yr Arglwydd. Byddai ei fam dduwiol bob tro y gwelai ef, yn rhoddi iddo gynghorion difrifol, rhai a effeithient i raddau ar ei feddwl. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1781, aeth i'r Tabernacl, Hwlffordd, i wrandaw Mr Rowland Hill, a chafodd pregethau y gwr enwog hwnw, argraff ddwys ar ei feddwl, ond nid digon dwys i'w arwain i ymgyflwyno yn hollol i wasanaeth yr Arglwydd. Dilynwyd Mr Hill yn y Tabernacl, gan Mr Mathew Wilks, a than un o'i bregethau ef gweithiodd Ysbryd yr Arglwydd mor effeithiol ar ei feddwl nes effeithio cyfnewidiad gwirioneddol ynddo. Yn fuan wedi hyny, derbyniwyd ef i gymundeb eglwysig yn y Tabernacl. Yn y flwyddyn 1782, aeth i Gaerodor i'r dyben o ddysgu crefft, ac yn benaf er mwyn cael mwy o ragorfreintiau crefyddol nag a allasai gael yn ei ardal ei hun. Yno ymaelododd yn y Tabernacl, a daeth yn fuan i sylw yr hen aelodau fel gwr ieuangc duwiol iawn. Ar gais y swyddogion, ymwelai a'r cleifion, ac wrth ddarllen, gweddio, a chynghori y cyfryw, daeth yn ymadroddwr rhwydd ac yn weddiwr cyhoeddus doniol. Arweiniodd hyny ei gyfeillion i'w anog i arfer ei ddoniau fel pregetbwr. Traddododd amryw anerchiadau sylfaenedig ar destynau o'r ysgrythyr mewn gwahanol fanau o gylch Caerodor, ond yn 1791, pan ar ymweliad a'i gyfeillion yn Sir Benfro, y pregethodd yn gyhoeddus gyntaf, yn Nhrefgarn, Keyston, a rhai manau eraill. Dychwelodd drachefn i Gaerodor, ac yn 1792, anogwyd ef gan ei dad yn yr efengyl, Mr Mathew Wilks, i adael ei alwedigaeth fydol ac ymgyflwyno i waith y weinidogaeth. Ar gymeradwyaeth Mr Wilks, derbyniwyd ef yn fyfyriwr i athrofa Hoxton. Wedi bod yno am yn agos i ddwy flynedd, aeth yn ngwyliau haf y flwyddyn 1794 i bregethu am fis i Win- canton yn Ngwlad yr haf. Yr oedd yno hen gynnulleidfa o Ymneillduwyr, ond wedi cael ei phregethu oll ond ugain o bersonau allan o'r capel gan hen weinidog o syniadau Ariaidd. Cyn i fis Mr Warlow ddarfod yno, yr oedd y gynnulleidfa wedi lluosogi o ugain i dri chant. Ar gais taer y bob!, addawodd fyned yno drachefn yn ngwyliau y Nadolig. Aeth yn ol ei addewid, ac ni adawsant iddo mwyach ddychwelyd i'r athrofa. Dechreuodd ei weinidogaeth sefydlog yn Wincanton yn Ionawr 1875, ond ni chafodd ei urddo cyn Mai 10fed, 1796. Yr oedd ychydig amser cyn ei urddiad wedi priodi a Mary, merch iuengaf Mr Richard Adams, o Herbranstone, yn Sir Benfro. Wedi llafurio yn Wincanton a'r cylchoedd gyda chymeradwyaeth a llwyddiant anghyffredin am chwe' mlynedd, gorfodwyd ef gan sefyllfa wanaidd ei iechyd i ddychwelyd i'w ardal enedigol. Felly ymadawodd o Wincanton yn 1801. Ar ei ddychweliad i Sir Benfro, cafodd alwad oddiwrth gynnulleidfa y Tabernacl, Hwlffordd, a bu yn gweinidogaethu yn llwyddianus a derbyniol iawn i'r gynnulleidfa luosog hono hyd ddiwedd y flwyddyn 1806. O'r pryd hwnw hyd derfyn ei oes, Milford a freintiwyd a'i lafur gwerthfawr. Wedi i Mr Lloyd ddyfod i Milford, aeth Mr Warlow i dalu ymweliad a'i ferch yn Ramsgate, ac ar ol bod yno ychydig wythnosau, bu farw, Ionawr 21ain, 1846, yn bedwar-ugain-ac-un oed. Bu farw fel y bu fyw, dan wenau digwmwl yr Arglwydd. Merch iddo ef oedd gwraig Mr Nun Morgan Harry.

140

Yr oedd William Warlow yn un o'r dynion duwiolaf, ac yn un o'r gweinidogion mwyaf llafurus a llwyddianus yn ei oes. Nid yn ei ddysg a rhagoriaeth ei alluoedd yr oedd cuddiad ei gryfder, ond yn nhon efengylaidd ei weinidogaeth, purdeb ei fywyd, angerdd ei dduwioldeb, ei dymer gyfeillgar, ei synwyr cyffredin, a'i weithgarwch diatal. Nis gall un dyn y byddo y pethau hyn wedi cydgyfarfod ynddo, lai na bod yn llwyddianus.

 

LANTEGUE

(Crunwear parish)

Translation for this chapel on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist1.html

Enw plwyf yw Lantegue. Yr oedd pregethu gan yr Annibynwyr yn achlysurol yn y plwyf hwn er's llawer o flynyddau, ac yr oedd saith neu wyth o'r trigolion yn aelodau yn Sardis a Charfan. Byddai gweinidogion yr eglwysi hyny yn dyfod yma ar brydiau i bregethu yn nhai eu haelodau, ac yr oedd amryw bregethwyr cynorthwyol, megis Mr Wariott Edwards, Glandwr, ac eraill, yn aml iawn yn cynal oedfaon yma. Pan ymsefydlodd Mr J. C. Davies, yn awr o Newton, gerllaw Abertawy, yn weinidog yn Ngharfan, cafodd wasanaeth ysgoldy a adiladesid gan y plwyfolion at gadw ysgol ddyddiol a chyfarfodydd plwyfol, at gynal moddion crefyddol bob Sabboth. Byddai ef, neu ryw bregethwr cynorthwyol, yn dyfod yma i bregethu am ddau o'r gloch bob prydnhawn Sabboth. Yn niwedd y flwyddyn 1854, cynhaliwyd yma gyfarfod er corpholi eglwys. Gweinyddodd Mr Davies a Mr Lewis, Henllan, ar yr achlysur. Rhif yr aelodau ar gorpholiad yr eglwys oedd deg. Aelodau gwreiddiol o Sardis a Charfan oeddynt oll. Bu Mr Davies yn gweinidogaethu yma hyd 1859, pryd y symudodd i Abertawy. Wedi ei ymadawiad ef, y mae y lle hwn wedi bod dan ofal Mr. D. Mathias, mewn cysylltiad a Sardis a Saundersfoot, hyd yn bresenol. Yn ddiweddar, y mae Mr. Heber Williams, o Longstone, wedi ymgymeryd a rhan o'r weinidogaeth yma nc yn Amroth gyda Mr. Mathias.

Yn yr ysgoldy y mae y gynnulleidfa hon yn parhau i addoli hyd yn bresenol. Mae yr aelodau yn rhifo yn awr o ugain i ddeg-ar-hugain. Y personau fuont yn fwyaf cynorthwyol i Mr Davies ar gychwyniad yr achos, oeddynt Thomas Phillips, a'i fab ; Daniel Thomas, a'i wraig, a William Raymond, a'i wraig.

 

AMROTH

Translation for this chapel on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist1.html

Y plwyf nesaf at Lantegue yw Amroth, ond yn nes i'r mor. Yr oedd yr Annibynwyr yn pregethu yn achlysurol yn y plwyf hwn mewn gwahanol anedd-dai er's llawer o amser. Sonir am Mr Wariott Edwards fel un a bregethodd lawer yma pan yr oedd yn cadw ysgol yn yr ardal. Gan fod nifer o aelodau eglwys Sardis yn byw yma, penderfynodd Mr. Mathias a hwythau i wneyd ymdrech i adeiladu capel yn y lle. Cafodd y capel ei adeiladu yn 1869, a chafwyd cyfran o'r pum, mil punau a addawsai Mr S. Morley, A.S., at adeiladu capeli Saesonig yn Nghymru, at draul adeiladaeth y capel hwn. Mae yn addoldy hardd, ac eglwys fechan wedi cael ei ffurfio ynddo. Mae Meistri Mathias, Sardis, a Williams, Longstone, yn gydweinidogion yma.

*** With ysgrifenu hanes Sardis, anghofiasom grybwyll mai yma yr urddwyd Mr. John Evans, B.A., yn 1856, fel canlyniedydd i Mr. W. Thomas. Wedi symudiad Mr. Evans i Gastellnedd yn 1859 yr ymgymerodd Mr. Mathias a'r weinidogaeth yn Sardis mewn cysylltiad a Saundersfoot.

141

HOREB

(Martletwy parish)

Translation for this chapel on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist1.html

Mae y lle hwn o fewn ychydig filldir oedd i Hwlffordd. Trwy lafur y diwyd, y defnyddiol, a'r duwiol David Phillips, o Wolfsdale, yr hwn a grybwyllwyd genym amryw weithiau yn barod, y casglwyd cynnulleidfa ac y dechreuwyd achos yn yr ardal hon. . Ffurfiwyd yma eglwys mewn ty anedd yn y flwyddyn 1826, gan Mr. Henry George, Brynberian, ac efe fu yn dyfod yma am rai blynyddau yn fisol i weinyddu yr ordinhadau. David Phillips fyddai yn pregethu yma fynychaf ar y Sabbothau eraill. Wedi i Mr. George roddi gofal y lle i fyny, bu Mr. W. Thomas, Sardis, yn dyfod yma am ryw ysbaid. Yn fuan wcdi i Mr T. R. Williams ymsefydlu yn Templeton, cymerodd ef yr achos bychan hwn dan ei ofal, a gwasanaethodd ef yn ffyddlon hyd derfyn ei oes lafurus yn 1850. Mewn anedd-dy buwyd yn addoli yma hyd 1843. Yn y flwyddyn hono llwyddodd Mr Williams i gael darn o dir gan Mr Phillips, Picton Castle, offeiriad rhydd- frydig, ac adeiladodd yma gapel bychan tlws. Wedi rnarwolaeth Mr Williams bu yr eglwys hon heb weinidog sefydlog nes i Mr Jason Jenkins gael ei urddo yn St. Florence. Y pryd hwnw cymerodd of ofal Horeb, mewn cysylltiad a St. Florence, a than ei ofal ef y bu nes iddo yn 1861 symud i Bontypool. Yn mis Chwefror, 1862, dechreuodd MrWilliam Davies, o athrofa Caerfyrddin, ei weinidogaeth yma, ac efe yw y gweinidog hyd yn bresenol. Y mae Horeb a Carew, Newton, dan ofal Mr. Davies. Mae yn dda genym gael ar ddeall fod golwg obeithiol ar yr achos yn y ddau le. Ac ystyried mai ardal fechan ei phoblogaeth yw yr ardal hon, y mae achos cymharol gryf yn Horeb. Mae yr aelodau o haner cant i driugain o rif, a'r ysgol Sabbothol tua chant. Nid ydym wedi cael hysbysrwydd fod neb wedi ei gyfodi i bregethu yn yr eglwys hon, na bod dim nodedig wedi cymeryd lle yn hanes yr achos yma. I peth mwyaf nodedrg ydyw y ffaith a grybwyllasom eisioes. mai offeiriad o'r Eglwys Sefydledig ddarfu roddi tir at adeiladu y capel. Ychydig iawn o enghreifftiau cyffelyb a geir yn hanes Ymneillduaeth yn Nghymru.

 

TEMPLETON

(Narberth parish)

Translation for this chapel on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist1.html

William Benjamin Evans, St. Florence, yn cael ei gynorthwyo gan Mr William Thomas, Sardis, ac eraill, fu yn foddion i ddechreu yr achos yn lle hwn. Yn 1818, yr adeiladwyd y capel yma, ac agorwyd ef Mawrth 30ain, 1819, pryd y pregethodd Meistri B. Evans, St. Florence; David Thomas, Tier's Cross, ac eraill. Bu yr eglwys dan weinidogaeth unol Mr Evans, St. Florence, a Mr Thomas, Sardis, hyd y flwyddyn 1830, pryd y daeth Mr Thomas R. Williams, Pembroke Dock, yma. Du Mr Williams yma yn ddefnyddiol iawn fel gweinidog ac ysgolfeistr hyd ei farwolaeth yn 1850. Wedi ei farwolaeth ef bu yr eglwys am ychydig flynyddau dan of al Mr Joseph Morris, mewn cysylltiad a Narberth, ac wedi iddo ef roddi ei gofal i fyny, be Mr Jason Jenkins yn gweinidogaethu yma, mewn cysylltiad a St. Florence, hpl. y flwyddyn 1861. Yn y flwyddyn hono, rhoddodd ef ofal y lle i fyny, ac urddwyd Mr Thomas Jones, o athrofa

Caerfyrddin, yma, ond ni bu ei arosiad ef dros flwyddyn yn y lle. Wedi iddo ef ymadael buwyd yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol hyd 1865, pryd yr urddwyd Mr Evan Griffiths, o athrofa y Bala yma. Llafur- ................................

CONTINUED

 


Return to top

( Gareth Hicks - 24 Jan 2009)

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI

Valid HTML 4.01 Transitional