GENUKI Home page upPembrokeshire Contents Contents
 
 

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

  Pembrokeshire section (Vol 3)

  Pages 142 - 149

See main project page

Proof read by Maureen Saycell (March 2008)

 

 

 


Pages 142 - 149

142

(Continued)  TEMPLETON

............Llafuriodd Mr Griffiths yma ac yn Reynoldston - achos a gychwynwyd ganddo ef - gyda mesur helaeth o lwyddiant hyd ddechreu y flwyddyn hon, pryd y symudodd i Neyland. Ailadeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1839, a chafodd ei adgyweirio yn ddiweddar. Cynnulleidfa gymharol fechan sydd yma, ac nis gall fod yn amgen, gan nad yw poblogaeth yr ardal ond teueu, a bod addoldai wedi eu cyfodi yn y cymydogaethau cylchynol.

Nid ydym yn gwybod am neb a gyfodwyd yma i bregethu ond Mr William Thomas, Longstone, a dau o feibion Mr Williams, y gweinidog. Un o honynt hwy yw Mr Heber Williams, gweinidog presenol Longstone.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

THOMAS R. WILLIAMS. Ganwyd ef yn mhlwyf Llanina, yn Sir Aberteifi, yn y flwyddyn 1805. Efe oedd yr ieuengaf o feibion ei rieni. Derbyniodd ei addysg foreuol yn ysgol un Jeremiah Lloyd yn y Cainewydd. Pan yr oedd yno ennillodd iddo ei hun enw rhagorach na phob un o'r plant fel rhifyddwr. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Mhenrhiwgaled pan nad oedd ond ieuangc iawn. Yn fuan wedi ei dderbyn yn aelod aeth i athrofa y Neuaddlwyd, lle y bu am rai blynyddau, ac yno y dechreuodd bregethu. Yn y flwyddyn 1826, ymadawodd a'r Neuaddlwyd, ac ymsefydlodd yn Pembroke Dock, Sir Benfro, lle y bu am oddeutu pedair blynedd. Oherwydd rhyw amgylchiad anghysurus ymadawodd oddiyno, ac ymsefydlodd yn Templeton, lle y priododd ac y treuliodd weddill ei oes. Yn mhen rhai blynyddau wedi iddo fyned i fyw i Templeton, cafodd alwad gan yr eglwys yno, a bu yn weinidog iddi hyd derfyn ei oes. Bu yn ddefnyddiol iawn fel gweinidog yn Templeton, Longstone, a manau eraill, a chyda gweinidogaethu mewn tri neu bedwar o leoedd, cadwai ysgol ddyddiol ragorol iawn dros holl dymor ei arosiad yn y lle. Bu gofalu am yr ysgol ddyddiol yn ataliad iddo fyned oddicartref ar hyd ei oes, yr hyn yn benaf a'i hataliodd rhag cyrhaedd y cyhoeddusrwydd a allasai dyn o'i dalent ef gyrhaedd mewn amgylchiadau mwy manteisiol. Dechreuodd ei iechyd roddi i ffordd tua blwyddyn neu ychwaneg cyn ei farwolaeth, ac aeth agos yn hollol ddall ychydig amser cyn iddo farw. Bu farw Tachwedd 19eg, 1850, yn 45 mlwydd oed. Gadawodd weddw ac amryw blant yn amddifaid. Mab iddo ef yw Mr B. T. Williams, yr hwn sydd yn Ddadleuydd Cyfreithiol o gryn enwogrwydd.

Yr oedd Thomas R. Williams yn ddyn o alluoedd rhagorol, yn un cyfeillgar a hawddgar iawn, yn weithiwr difefl fel gweinidog yr efengyl ac athraw ysgol, ac mewn parch neillduol gan bobl ei ofal, ac yn holl eglwysi y cyfundeb y perthynai iddo.

 

TABERNACL, HWLFFORDD

(Haverfordwest, St Martin parish)

Translation for this chapel on  /big/wal/PEM/Hist2.html

Bu yr enwog George Whitefield yn pregethu rai gweithiau yn y dref hon, ac yma, fel agos yn mhob man arall yr ymwelai ag ef, bu ei weinidogaeth yn foddion i ddychwelyd amryw eneidiau at yr Arglwydd. Gan nad oedd y weinidogaeth yn yr eglwysi plwyfol nac yn hen gapel Ymneillduol y Green, yn ddigon tanllyd ac efengylaidd i daro archwaeth dysgyblion Whitefield, gosodasant achos i fyny iddynt eu hunain yn nhy un Mr Wheeler, yn City Road, yn agos i'r fan y saif y Tabernacl yn bresenol. Wedi bod yma yn addoli am rai blynyddau, ac yn cael gweinidogaeth

143

achlysurol pregethwyr Ymneillduol, a rhai o'r offeiriaid Methodistaidd, adeiladasant y Tabernacl yn y flwyddyn 1774. Yr ymddiriedolwyr yn y weithred gyntaf oeddynt, Benjamin Jones, John Roberts, James Morgan, William Higgon, Francis Noot, Peter Williams, John Thomas, William Edwards, a William Hurlow. Mae yn amlwg mai eglwys Annibynol oedd hon o'r dechreuad, er fod yr offeiriaid a'r pregethwyr Methodistaidd yn pregethu ac yn gweini yr ordinhadau yma yn achlysurol, canys yr ydym yn cael darbodaeth yn ngweithred y capel fod y gweinidog bob amser i gael ei ddewis gan fwyafrif yr aelodau. Ar weinidogaeth achlysurol y bu yr eglwys yn ymddibynu o ddechreuad yr achos hyd y flwyddyn 1800. Byddai yr enwogion Rowland Hill a Mathew Wilks yn ei gwasanaethu fynychaf bob blwyddyn am bedwar Sabboth yr un. Bu Mr Nathaniel Rowlands, mab Mr Daniel Rowlands, Llangeitho, yn dyfod yma yn fynych am rai blynyddau i weinyddu yr ordinhadau, a bu ef yn achlysur o rwygiad yn yr eglwys. A ganlyn yw hanes y rhwygiad :-Byddai Captain T. Joss, cyfaill mawr i Whitefield, a phregethwr nodedig o boblogaidd ac arddeledig, yn dyfod yma am bump neu chwe' Sabboth bob blwyddyn i bregethu, a phan ddeallodd Mr Rowlands ei fod yn gweinyddu bedydd a Swper yr Arglwydd, ac yntau heb fod dan urddau esgobol, dylanwadodd ar nifer o'r eglwys i sefyll yn erbyn hyny. Cymerodd Rowland Hill blaid Captain Joss yn erbyn Rowlands. Y canlyniad fu i'r eglwys ymranu. Aeth lleiafrif lled luosog allan gyda Mr Rowlands. Y blaid hono ddechreuodd achos y Methodistiaid Calfinaidd yn Hwlffordd. Yn 1800, rhoddwyd galwad i Mr William Warlow i ddyfod yma yn weinidog sefydlog, a dechruodd ei weinidogaeth yn Chwefror, 1801. Bu yma yn llafurus a llwyddianus iawn hyd ddiwedd 1806, neu ddechreu 1807, pryd y rhoddodd y lle i fyny, ac yr ymgymerodd a chyfodi achos yn Milford. Yn 1811, rhoddwyd galwad i Mr Thomas Luke, o athrofa Gosport, ac urddwyd ef yma Awst 29ain, yn y flwyddyn hono. Dechreuwyd gwasanaeth yr urddiad trwy weddi gan Mr T. Harries, Penfro; pregethwyd ar natur eglwys gan Mr Stone, yr hwn hefyd a dderbyniodd y gyffes ffydd ; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr W. Griffiths, Glandwr ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr W. Warlow, Milford, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr James Phillips, Clapham. Ni bu arosiad Mr Luke yma ond pedair blynedd. Yn nechreu y fiwyddyn 1815, symudodd i Heol-y-castell, Abertawy. Wedi ei ymadawiad ef bu yr eglwys hyd 1820 yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol. Gweinidogion poblogaidd Lloegr a newidient eu gilydd yma fynychaf, yn enwedig yn misoedd yr haf. O 1820 hyd 1824, bu Mr Daniel Warr yn weinidog sefydlog, yma. Wedi ei ymadawiad ef buwyd drachefn yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol am yr ysbaid maith o saith-mlynedd-ar-hugain. Yn 1851, rboddwyd galwad i Mr T. G. Stamper, o Uxbridge, yr hwn fu yn llafurio yma gyda pharch mawr hyd 1862, pryd y symudodd i Odiham. Y gweinidog nesaf yma oedd Mr H. C. Long, myfyriwr yn yr Athrofa Orllewinol. Urddwyd ef yma yn 1864, ac ymadawodd yn 1872. Mae yr eglwys unwaith etto yn amddifad o weinidog.

Yn 1851, cafodd y capel ei adgyweirio a'i brydferthu yn fawr, ac eleni (1873), yr ydys yn bwriadu ei wneyd agos oll yn newydd. Mae yn addoldy helaeth a chyfleus iawn, er ei fod wedi ei adeiladu bellach er's cant ond un o flynyddau ond gan ei fod mor hen, y mae galwad yn awr am ei ailadeiladu a'i wneyd yn fwy cyfaddas a theilwng o'r oes a'r lle.

144

Cyfodwyd yma o bryd i bryd lawer o bregethwyr cynorthwyol, y rhai nad ydym ni yn alluog i'w henwi o ddiffyg hysbysiaeth. Aeth y personau canlynol a ddechreuasant bregethu yma oll i'r weinidogaeth, ond nid ydym ni yn alluog i roddi un hysbysiaeth pellach am danynt na'u henwau :David Evans, William Morgan, Thomas Davies, Thomas James, a Howell Davies.

Mae eglwys a chynnulleidfa y Tabernacl wedi bod ers can' mlynedd yn lluosog, cyfoethog, a dylanwadol iawn. Byddai llawer o deuluoedd parchusaf y dref a'r gymydogaeth yn arfer addoli yma o genhedlaeth i genhedlaeth, a gweinidogion enwocaf Lloegr yn dyfod yma am fis neu ychwaneg bob blwyddyn ar yr, adegau nad oedd gweinidog sefydlog yma. Nid ydym yn deall fod llewyrch neillduol wedi bod ar wenidogaeth sefydlog neb yma oddieithr Mr Warlow. Yr oedd y gynnulleidfa er y dechreuad wedi arfer newid doniau agos bob mis, ac yn fynych yn cael clywed y doniau mwyaf poblogaidd yn y deyrnas, ac felly anafwyd harchwaeth i eistedd yn gyson dan yr un weinidogaeth. Peth anhawdd iawn yw cymodi cynnulleidfa fyddo wedi arfer gwrandaw gwahanol ddoniau a gweinidogaeth sefydlog, yn enwedig cynnulleidfa fel hon oedd yn ddigon galluog i sicrhau gwasanaeth achlysurol y doniau mwyaf poblogaidd yn yr holl deyrnas.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

WILLIAM WARLOW. Gweler hanes Milford.

THOMAS LUKE. Gweler hanes Heol-y-castell, Abertawy.

DANIEL WARR. Yr ydym yn analluog i roddi unrhyw hanes am dano ef, amgen nag iddo fod yn weinidog yma o 1820 hyd 1824, ac iddo yn amser ei weinidogaeth yma draddodi cyfres o ddarlithiau tra doniol a galluog ar "Daith y Pererin," y rhai a gyhoeddwyd yn gyfrol wythplyg.

THOMAS GILDEROY STAMPER. Ganwyd ef yn Chichester, Mawrth 31ain, 1800. Yr oedd er yn blentyn yn ddeiliad argraffiadau crefyddol. Cafodd ei freintio a rhieni duwiol iawn. Pan yn un-flwydd-ar-bymtheg oed derbyniwyd ef yn aelod eglwysig gan Mr John Hunt, gweinidog yr Annibynwyr yn Chichester, a phan yr oedd yn bedair-ar-bymtheg oed cafodd i dderbyn yn fyfyriwr i athrofa Dr. Bogue yn Gosport. Yn 1823, cafodd alwad o Reading i fod yn gynorthwywr i Mr A. Jack. Bu yno ychydig dros ddwy flynedd. Oddiyno symudodd i Uxbridge, lle yr urddwyd ef Ebrill 4ydd, 1826. Bu yno hyd 1851, pryd y symudodd i Hwlffordd. Parhaodd lafurio yn Hwlffordd hyd wanwyn 1862, pan y gorfodwyd ef gan waeledd ei iechyd i roddi ei ofal gweinidogaethol i fyny. Yr amser yr ymadawodd o Hwlffordd, cafodd wahoddiad i dreulio ychydig Sabbothau yn Odiham. Perswadiodd y bobl yno ef i ymsefydlu yn eu plith.. Gan nad oedd y lle ond bychan, barnodd, er gwaeled ei iechyd, y gallasai fod o ryw wasanaeth yno, ac felly cydsyniodd a'r cais. Parhaodd i bregethu yno o Mehefin, 1862, hyd Mehefin, 1863. Bu farw wedi ychydig ddyddiau o gystudd trwm Gorphenaf 1 af, 1863.

Dyn mwyn a boneddigaidd iawn oedd Mr Stamper. Er nad oedd, ystyr gyffredin yr ymadrodd, yn bregethwr poblogaidd, yr oedd yn bregethwr effeithiol iawn, gan ei fod yn traddodi gwirioneddau pur yr efengyl mewn teimlad tyner a nefolaidd.

145

ALBION SQUARE, PEMBROKE DOCK

 (Pembroke, St Mary parish)

Translation for this chapel on  /big/wal/PEM/Hist2.html

Lle bychan o boblogaeth oedd Pater, neu Pembroke Dock, fel y gelwir ef yn awr, nes i'r llywodraeth agor y Royal Dock Yards yma, tua y flwyddyn 1821. O'r pryd hwnw cynyddodd y lle yn gyflym fel y mae er's blynyddau bellach yn cynwys poblogaeth o fwy na deng mil o bobl. Yr oedd amryw o aelodau yr eglwys Annibynol yn Penfro yn byw yma, a than fod ganddynt tua dwy filldir o ffordd i gerdded yno, teimlant awydd am gael addoldy yn eu cymydogaeth eu hunain. Yn 1823, penderfynasant edrych allan am dir i adeiladu capel, ac o'r diwedd llwyddasant i'w gael. Adeiladwyd y capel, ac agorwyd ef Ebrill 16eg, 1824. Ni chafodd eglwys ei ffurfio yma y pryd hwnw, ond byddai y gweinidogion cymydogaethol yn pregethu ar gylch yma bob Sabboth. Ionawr 19eg, 1825, rhoddodd Mr Harries, Penfro, ollyngdod i gynifer o aelodau ei eglwys ag a breswylient yn yr ardal hon, a chorpholodd hwynt yn eglwys Annibynol. Dewiswyd William Williams, Phillip James, a James Hancock yn ddiaconiaid. Bu yr eglwys ieuangc dan ofal Mr Harries am oddeutu blwyddyn ar ol ei chorpholiad. Dydd Gwener y Groglith, 1826, urddwyd Mr Thomas R. Williams yn weinidog yma, a bu yma hyd Ionawr 3ydd, 1830, pryd y symudodd i Templeton. Dilynwyd ef gan Mr W. Lewis, o athrofa Caerfyrddin, Chwefror 12fed, 1830, a rhoddodd ei ofal i fyny yn 1834. Ebrill 17eg, 1835, urddwyd Mr John Josiah Braine yma. Bu ef yma hyd fis Medi 1837, pryd y rhoddodd y lle i fyny, ac y symudodd i gymeryd gofal yr eglwys yn Tenby. O'r pryd hwnw hyd 1839, bu yr eglwys yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol. Yn y flwyddyn hono, urddwyd Mr Thomas Jones yma, ac yn Medi, 1842, rhoddodd ei ofal i fyny oherwydd gwaeledd ei iechyd. Ni ddywed ein hysbysydd wrthym o ba le y daeth Mr Jones yma nac i ba le yr aeth oddiyma. Chwefror 3ydd, 1843, ymsefydlodd Mr Josephus Williams yma, a pharhaodd ei gysylltiad gweinidogaethol ef a'r lle hyd nos Sabboth, Hydref 27ain, 1850, pryd y darfu iddo ef, a chryn nifer o'r aelodau, oherwydd anghydwelediad a'r lleill, ymadael a gosod i fyny achos arall yn y dref. Yr ydym ni, hyd yn hyn, yn gwbl anhysbys o natur ac amgylchiadau yr ymraniad hwn, ac felly nis gallwn roddi un hysbysiaeth pellach yn ei gylch. Wedi ymadawiad Mr Williams bu yr eglwys yn byw ar weinidogaeth achlysurol hyd Mai 5ed, 1853, pryd yr ymsefydlodd Mr C. J. Evans yma. Yn America yr oedd Mr Evans wedi bod yn derbyn ei addysg athrofaol. Mehefin 2il, 1856, rhoddodd ef ei ofal gweinidogaethol i fyny, ac aeth i dalu ymweliad a Phalestina. Chwefror laf, 1857, dechreuodd Mr E. L. Shadrach ei weinidogaeth yma, a pharhaodd i lafurio yma hyd derfyn ei oes yn 1869. Yn Ebrill, 1870, dechreuodd Dr. Thomas Davies o Ross, Sir Henffordd, ei weinidogaeth yma, ac efe yw y gweinidog yn bresenol. Gwelwn fod yma wyth o weinidogion wedi dilyn eu gilydd mewn ysbaid o chwe'-mlynedd-a-deugain ' " a'r casgliad naturiol ydym yn dynu oddiwrth y symudiadau mynych hyn ydyw, naill ai fod yr eglwys yn camymddwyn tuag at ei gweinidogion, neu ei bod wedi bod yn hynod o anffodus yn ei dewisiad o weinidogion, gan na fu ond un o'r wyth farw yma. Hyderwn fod tymor maith o ddefnyddioldeb o flaen ein cyfaill Dr. Davies yma. Cafodd y

146

capel cyntaf, fel y nodasom, ei adeiladu yn y flwyddyn 1823. Yn 1841, cafodd ei adgyweirio a'i helaethu, ac erbyn 1862 yr oedd wedi myned yn ddadfeiliedig, ac yn llawer rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa felly bu raid edrych allan am dir i adeiladu capel newydd. Llwyddwyd i brynu darn cyfleus o dir am 561p., yn agos i'r hen gapel. Tynwyd cynllun y capel newydd gan R. Sutton, Ysw., o Nottingham, a gosodwyd i lawr ei gareg sylfaen Mehefin 20fed, 1865, gan Mrs Jenkins, gwraig D. Jenkins, Ysw., Llundain. Gorphenwyd y gwaith, ac agorwyd y capel Mehefin 28ain, 1867. Yr oedd y draul yn 4462p., ond wrth ystyried ei fod yn un o'r addoldai mwyaf a harddaf yn y Dywysogaeth, a bod ysgoldy eang odditano, ac amryw ystafelloedd cyfleus yn perthyn iddo, y mae yn un o'r capeli rhataf a welsom erioed. Cynwysa eisteddleoedd i fwy na deuddeg cant o bersonau. Y mae yma gynnulleidfa luosog iawn yn gwrandaw bob Sabboth, ysgol Sabbothol ragorol iawn, a phob peth perthynol i'r achos yn gwisgo agwedd hynod o ddymunol a gobeithiol. Os bu pethau gynt i fesur yn annymunol yma, y mae cyfnewidiad hyfryd er gwell wedi cymeryd lle.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

ELIACIM L. SHADRACH. Yr oedd yn fab i'r adnabyddus Azariah Shadrach. Ganwyd ef yn Nhalybont, Sir Aberteifi, yn y flwyddyn 1805, pan yr oedd ei dad yn weinidog yn y lle hwnw. Cafodd bob manteision addysg ag oedd i'w cael yn y gymydogaeth pan yn blentyn, a phan nad oedd ond llangc ieuangc iawn, anfonwyd ef i athrofa y Neuaddlwyd. Pan yr oedd yno y dechreuodd bregethu. Wedi bod yno am rai blynyddau, aeth i athrofa Rotherham. Ar orpheniad ei amser yno, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn nghapel Ebenezer, Doncaster, Sir Gaerefrog, ac urddwyd ef yno Awst 19eg, 1829. Traddodwyd y siars iddo ef gan ei athraw, Dr. James Bennett. Ni bu ef yno yn hir. Daeth adref gyda bwriad i ymsefydlu yn gydweinidog a'i dad yn Aberystwyth. Bu yno am bedair blynedd, ac yn y flwyddyn 1835, symudodd i Dursley, Sir Gaerloew, lle yr arosodd hyd y flwyddyn 1857, pan y symudodd i Pembroke Dock. Dilynwyd ei lafur yn y maes hwn a llwyddiant anghyffredin. Aeth yr hen gapel yn rhy fychan i gynwys y torfeydd a ymdyrent i'w wrandaw, a'r canlyniad fu adeiladu y capel helaeth presenol. Ni chafodd ef gyflawn ddwy flynedd flynedd o fywyd i bregethu yn y capel newydd. Bu farw Ebrill 8fed, 1869, yn 64 mlwydd oed. Pregethwyd yn ei angladd gan Meistri D. Anthony, B.A., Tenby, a D. Salmon, Penfro. Treuliodd ei holl fywyd heb briodi, ac felly, ni adawodd na gwraig na phlant i alaru ar ei ol.

Yr oedd Mr Shadrach yn ddyn hynaws a boneddigaidd ; yn feddianol ar alluoedd rhagorach na 'r cyffredin ; yn ysgolhaig rhagorol, ac wedi ei gymhwyso gau natur, addysg, a Bras i fod yn ddyn defnyddiol. Etto, nid ydym yn barnu iddo gyrhaeddyd y defryddioldeb a'r enwogrwydd hyny ag y gallesid disgwyl i ddyn o'i allu a'i fanteision ef eu cyrhaedd. Treuliodd y ddwy flynedd-ar-hugain oreu o'i oes mewn lle cymharol ddinod a dibwys yn Sir Gaerloew, pan y dylasai fod mewn cylch llawer pwysicach a mwy cyhoeddus, lle y cawsai ei holl alluoedd eu tynu allan i weithio ar eu heithaf. Yr oedd yn ddyn da, ac yn y deuddeng mlynedd olaf o'i oes bu yn ddefnyddiol iawn, ond nid mor ddefnyddiol ag y dylasai fod cyn hyny.

147

MEYRICK STREET, PEMBROKE DOCK

 (Pembroke, St Mary parish)

Translation for this chapel on  /big/wal/PEM/Hist2.html

Dechreuodd yr achos hwn yn ymneillduad Mr Josephus Williams, y gweinidog, a thua haner cant o'r aelodau, o'r hen gapel. Fel y nodasom yn hanes yr achos yn Albion Square, cymerodd yr ymraniad hwn le Hydref 27ain, 1850. Bu Mr Williams a'r gynnulleidfa newydd yn addoli yn y Neuadd Ddirwestol nes yr adeiladwyd y capel. Gosodwyd careg sylfaen y capel newydd gan Mr W. F. Mowat, o Lundain, brawd-yn-nghyfraith Mr Williams y gweinidog, Chwefror 12fed, 1851, ac yn mis Rhagfyr yr un flwyddyn agorwyd ef. Traddodwyd pregethau ar yr agoriad gan y Meistri D. Rees, Llanelli, a J. Davies, Capel Albany, Llundain. Mae y capel yn adeilad hardd, a chymharol fawr ; ond trwy i lawer o'r defnyddiau gael eu rhoddi am bris isel, ac i amryw grefftwyr wneyd llawer o'r gwaith yn ddidal, nid oedd y draul dros saith cant o bunau. Yn Mai 1864, gorfodwyd Mr Williams gan waeledd ei iechyd i roddi ei ofal gweinidogaethol i fyny. Ar ei ymneillduad o'r weinidogaeth, anrhegwyd ef gan yr eglwys a'r gynnulleidfa, a llestri arian gwerthfawr, fel amlygiad o'u parch iddo. Yr oedd yr eglwys wedi cynyddu i fwy na chant o rif cyn i Mr Williams roddi ei gofal i fyny. Y mae efe etto yn byw yma, ond yn rhy wanaidd ei iechyd i allu pregethu. Mae yn sefyll yn uchel iawn yn ngolwg pawb o bob enwad yn y dref a'r gymydogaeth. Yn fuan wedi i Mr Williams roddi ei ofal gweinidogaethol i fyny, rhoddwyd galwad i Mr J. C. Ramsay, yr hwn a fuasai yn pregethu gyda'r Primitive Methodists, ac urddwyd ef yma cyn diwedd y flwyddyn 1864. Daeth Mr Ramsay yn boblogaidd iawn fel pregethwr yma, ond cyn pen llawer o amser wedi ei urddiad, cyfododd rhyw deimladau anhyfryd yn yr eglwys fel y barnodd ef mai doeth fuasai iddo ymadael, ac felly y gwnaeth yn y flwyddyn 1866. Bu yr ysbryd annymunol a gyfododd ynddi yn mron a chwalu yr eglwys yn llwyr. Buwyd heb weinidog yma am ddwy flynedd wedi ymadawiad Mr Ramsay, Dechreuodd Mr C. Goward, y gweinidog presenol, ei weinidogaeth yma yn Ionawr 1868, ac y mae yn hyfryd meddwl fod heddwch a chydgordiad hyfryd wedi eu hadferu yma. Yn y tair blynedd diweddaf, mae yr eglwys a'r gynnulleidfa ar gynydd parhaus. Yn y flwyddyn 1871, cafodd y capel ei adgyweirio a'i brydferthu. Ar orpheniad y gwaith, cynaliwyd cyfarfod agoriad, pryd y traddodwyd dwy bregeth i gynnulleidfaoedd lluosog gan Mr Thomas Jones, Abertawy. Mae pobpeth yn ymddangos yn hyfryd a gobeithiol iawn yma yn bresenol.

 

LLWYNYRHWRDD

(Clydey parish)

Translation for this chapel on  /big/wal/PEM/Hist2.html

Mae yr addoldy hwn yn cael ei enw oddiwrth y fferm ar ran o ba un y mae wedi cael ei adeiladu. Saif ar lechwedd dan y mynydd yn mlaen dyffryn Llanfyrnach. Gan Mr Morgan Jones, Trelech, y dechreuwyd yr achos yn y lle hwn. Mae yn debygol fod rhai o aelodau Trelech a Glandwr yn byw yn yr ardal er's oesau cyn adeiladu capel a ffurfio eglwys yma. Mr Jones, y gweinidog,  roddodd dir at adeiladu y capel. Dyddiad y les yw Ionawr laf, 1806, a darboda fod y lle yn eiddo i'r Annibynwyr a gredent athrawiaeth y Drindod a phum pwnc Calfiniaeth, am 999 o flynyddau, neu o Medi 29ain, 1805, hyd ag y byddo dwfr yn y Taf, sef yr afon sydd yn rhedeg trwy ddyffryn Llanfyrnach, am yr ardreth o swllt yn

148

y flwyddyn. Enwau yr ymddiriedolwyr ydynt John Jones, Ysw., Trefawr, Llanfyrnach; John David, Ffosfantach - tad Mr D. Davies, gynt o Colwyn ; Edward Thomas, Blaencneifa ; William Lewis, Llandre, a Thomas Griffiths, Mochwaen. Arwyddwyd y les yn ngwydd Thomas Morris, Llandre, a John Jones, Blaiddbwll. Y personau hyn, yn nghyd ag amryw eraill, fuont yn cydweithredu a Mr Jones, y gweinidog, yn nghychwyniad a dygiad yr achos yn mlaen. Mr Jones fu y gweinidog yma o'r dechreuad hyd ei farwolaeth. Yr oedd ei fab, Mr Evan Jones, wedi ei urddo yn gynorthwywr iddo rai blynyddau cyn ei farwolaeth, a bu yr eglwys hon, a'r eglwysi eraill, dan ei ofal ef yn unig wedi marwolaeth ei dad nes iddo symud i Loegr tua y fiwyddyn 1837. Wedi ymadawiad Mr E. Jones, rhoddodd yr eglwys hon ei hun dan ofal Mr Edward Rees, mewn cysylltiad a Brynseion, a bu dan ei weinidogaeth ef nes iddo yn 1843 symud Benmain, Mynwy. Wedi hyny, buwyd am dair blynedd yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol. Yn 1846, unodd yr eglwys hon ag eglwys Capel Iwan mewn galwad i Mr William Jenkins, ac urddwyd ef yn weinidog i'r ddwy eglwys yn mis Mehefin yn y flwyddyn hono. Ni bu arosiad Mr Jenkins yma ond pedair blynedd ; ond cafodd ef a'r eglwysi dan ei ofal eu bendithio yn rhyfeddol a gwenau yr Arglwydd. Bu yma ddiwygiad nodedig o danllyd ac effeithiol, a derbyniwyd canoedd i bob un o'r ddwy eglwys. Yn 1850, symudodd Mr Jenkins i Brynmawr, Nantyglo, i fod yn weinidog i'w fam eglwys. Am ychydig amser wedi ymadawiad Mr Jenkins, bu Mr Jones, Ffynonbedr, yn dyfod yma yn fisol. Pan ymsefydlodd Mr Isaac Williams yn Nhrelech, yn Mehefin 1851, ymgymerodd hefyd a gofal Llwynyrhwrdd, a bu y ddwy eglwys dan ei ofal ef hyd 1872, pryd y symudodd i Pantteg, Sir Gaerfyrddin. Oddiar ymadawiad Mr Williams, y mae yr eglwys hon wedi bod heb un gweinidog sefydlog. Mewn cysylltiad ag eglwysi eraill y mae yr eglwys yn y lle hwn wedi bod yn ei gweinidogaeth o ddechruad yr achos hyd yn bresenol, ond bwriada o hyn allan fynu gweinidog iddi ei hun, ac y mae yn ddigon galluog i'w gynal, a'r ardal yn ddigon eang i roddi gwaith cyflawn i weinidog. Swyddogion yr eglwys yn bresenol ydynt Samuel Davies, Pantymaen, Henuriad llywodraethol; a John Jones, Llwynyrhwrdd, mab Mr Jones, Trelech, y gweinidog cyntaf; Thomas Owen, Rhydygarth ; Thomas Thomas, Llwyncelyn, a John Sandbrook, Dolpwll, diaconiaid. Rhif yr aelodau yn awr yw 355. Mae ysgol Sabbothol. gref yn y capel, a changen luosog o ysgol yn Nhascefncriboer, lle y bwriedir yn fuan adeiladu ty at gadw ysgol a moddion crefyddol eraill. Mae hefyd ddau gyfarfod gweddio yn cael eu cynal yn wythnosol gan aelodau yr eglwys hon yn mhlwyf Llanfyrnach. Bu y Gymanfa Dair Sirol yma yn y flwyddyn 1852.

Yn y flwyddyn 1805 yr adeiladwyd y capel cyntaf yma ; ailadeiladwyd ef yn 1817, ac yn 1846 adeiladwyd ef y drydedd waith. Bwriedir y flwyddyn hon (1873) ei adeiladu y bedwaredd waith. Yn y flwyddyn 1860, adeiladwyd ysgoldy cyfleus a helaeth yn ymyl y capel. Mae yma fynwent helaeth, yr hon sydd i gael ei helaethu eleni etto. Yn mysg lluaws meirw sydd yn gorphwys yma, y mae y ddau weinidog cyntaf, sef Mr Morgan Jones, a'i fab, Mr Evan Jones.

Mae yr eglwys hon, fel y fam eglwys yn Nhrelech, wedi bod yn dra enwog am gyfodi pregethwyr. Yma y cyfodwyd y rhai canlynol : -

149

Aelodau gwreiddiol o'r eglwys hon hefyd yw Meistri John Davies, Zoar, Aberdar, a Thomas Phillips, Horeb,Sir Aberteifi, ond mewn eglwysi eraill y dechreuasant hwy bregethu.

Mae yr eglwys hon o'i dechreuad wedi bod yn hynod am ei heddychlondeb, ac wedi cael ei bendithio yn rhyfeddol ag adfywiadau crefyddol grymus iawn. Pe deuai yma weinidog da a gweithgar, heb ofal un eglwys arall arno, gallai blanu dwy neu dair o ganghenau mewn gwahanol gyrau pellenig o'r ardal, heb wanychu dim ar y fam eglwys.

 

  END OF PEMBROKESHIRE


Return to top

( Gareth Hicks - 24 Jan 2009)

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI

Valid HTML 4.01 Transitional

Hosted by Mythic Beasts Ltd.