GENUKI Home page upPembrokeshire Contents Contents
 
 

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

Pembrokeshire section (Vol 3, pages 2 - 149)

The umbrella project for WALES is detailed  on this Genuki page where there is a contents listing for each county/section and data on what has been extracted/translated already.
This is the complete Pembrokeshire section of Volume 3, in Welsh -  any existing translations will be itemised on the above page.
This extraction is as it is in the book, chapel names and page numbers act as separators.
Pages are in groups of 14, each group will be on a separate page of Genuki.
Footnotes remain at the bottom of pages
Extraction by Gareth Hicks (March 2008)
 

This page below;

Proof reading by Maureen Saycell and Eleri Rowlands (March 2008)


Pages 2 - 15

Proof read by Eleri Rowlands (March 2008)

2

  CAPEL ALBANY, NEU Y GREEN, HWLFFORDD

(Haverfordwest, St Thomas parish)

Translation for this chapel on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist1.html

Yr eglwys a gyferfydd yn y lle hwn yw yr eglwys Ymneillduol hynaf yn sir Benfro. Cafodd ei chasglu a'u ffurfio yn eglwys trwy lafur Mr. Peregrine Phillips, un o'r gweinidogion anghydffurfiol. Wedi i Mr. Phillips gael ei fwrw allan o eglwysi Llangwm a Freystrop yn Awst 1662, rhentiodd dyddyn o'r enw Dredgman-hill, yn agos i Hwlffordd, dan Syr Herbert Perrot, yr hwn a fu yn noddwr caredig iddo yn yr holl erledigaethau yr aeth trwyddynt. Yn fuan ar ol ymsefydlu yn Dredgman-hill dechreuodd Mr. Phillips bregethu yn ei dy ei hun, ond cafodd ef a rhai o'i wrandawyr eu cymeryd i garchar am wneyd hyny. Mae yn ymddangos iddo fod yn pregethu yn ei dy ei hun, yn cael ei gynnorthwyo yn achlysurol gan Mr. John Luntley, yr hwn a droesid allan o Lanstadwell a Nolton, mor fynych ag y goddefai peryglon yr amseroedd iddo wneyd, trwy yr holl dymor blin o 1662 hyd 1689, pan y cafodd yr Ymneillduwyr nodded Deddf y Goddefiad. Yn mis Hydref 1667 cadwyd y cymundeb cyntaf y mae genym hanes am dano yn Dredgman-hill. Mae yn dra thebygol mai y pryd hwnw y ffurfiwyd yr eglwys. Pan ganiataodd Siarl II. ychydig o ryddid i'r Ymneillduwyr darfu i Mr. Phillips drwyddedu ei dy ei hun a thy Mr. Richard Meyler, yn nhref Hwlffordd, at bregethu ynddynt fel gweinidog Annibynol. Dyddiad y trwyddedau yw Ebrill 30ain, 1672. Ond ni pharhaodd y rhyddid hwn fawr gyda blwyddyn, a bu raid iddo ef a'r bobl a ymlynent wrtho weithio eu ffordd goreu y medrent trwy bob gwrthwynebiad ac erledigaeth. Yn 1687, rhoddodd Iago II. ryddid i'r Ymneillduwyr Protestanaidd, er mwyn iddo gael esgus dros roddi rhyddid i'r Pabyddion. Daliodd Mr. Phillips drachefn afael ar y fantais hono. Trwyddedodd ei dy ei hun a thy Mr. R. Meyler, cawsant bellach fesur o lonyddwch nes i Ddeddf Goddefiad ddyfod i rym yn 1689. Yna cymerasant dy ar y Green yn Hwlffordd, yr hwn a drowyd ganddynt yn gapel yn 1691, ac yn y fan hono y mae y gynnulleidfa yn addoli hyd y dydd hwn. Yn fuan wedi cael y capel yn barod, os nad cyn hyny, cafodd yr hen weinidog fyddlon a dyoddefus ei alw oddiwrth ei waith at ei wobr. Bu addoliad yn cael ei gadw yn wythnosol yn Dredgmanhill am flynyddau wedi marw Mr. Phillips, ac wedi agoriad y capel ar y Green. Yr oedd Mr. Constantine Phillips, mab yr hen weinidog, yn parhau i gyfaneddu yn annedd ei dad ac yn aelod ffyddlon a defnyddiol o'r eglwys. Yr oedd yr eglwys yn wasgaredig iawn yn amser Mr. Phillips, cyfaneddai rhai o'r aelodau yn Tenby, Penfro, Trefgarn, Lawrenny, a pharthau pellenig eraill. Bernir mai tua thriugain oedd rhif yr aelodau yn 1691 pan y bu Mr. Phillips farw.

Yn dra buan wedi marwolaeth Mr. Phillips dewiswyd Mr. Thomas Davies yn ganlyniedydd iddo. Dechreuodd Mr. Davies ei weinidogaeth yma cyn diwedd y flwyddyn 1691. Yn fuan wedi iddo ef ymsefydlu yma ffurflwyd canghenau o'r fam eglwys yn eglwysi yn Nhref Penfro, ac yn Nhrefgarn, a chan mai Mr. Davies oedd yn gweinidogaethu yn mhob un o honynt yr oedd ei lafur yn fawr, er fod ganddo rai pregethwyr yn mysg yr aelodau yn gynnorthwyo. Yn flwyddyn 1701 cafodd y capel ar y Green ei niweidio i'r fath raddau gan ystormydd fel y bu raid ei ailadeiladu yn y flwyddyn ganlynol. Bu Mr. Davies yn llafurio yma, mewn cysylltiad a Phenfro a Threfgarn, hyd ddechreu y flwyddyn 1720, pryd y cyfyngodd ei lafur i Benfro yn unig.

3

Wedi i ymadawiad Mr. Thomas Davies rhoddodd yr eglwys yn y Green alwad Mr. Evan Davies, myfyriwr o athrofa Dr. Ridgley, Llundain. Ar ol bod yn pregethu yma ar brawf am yn agos tair blynedd urddwyd ef Mehefin 5ed, 1723. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Meistri David Price, Maesyronen, Tbomas Perrot, Caerfyrddin, Thomas Davies, y gweinidog blaenorol, Phillip Pugh, Blaenpennal, Benjamin Lewis, a Mr. Watkins. Nid ydym yn gwybod dim o hanes y ddau ddiweddaf. Y flwyddyn ganlynol i urddiad Mr. Davies aed i'r draul o gan' gini i adgyweirio y capel. Bu Mr. Davies yn dra llwyddianus yma am dair-blynedd-ar-hugain, ond cwyna iddo gael ei ofidio yn fawr yma gan rai dynion anhywaith, ac mai o'u hachos hwy y gwnaeth ei feddwl i fyny i ymadael a'r lle. Yn 1741, wedi marwolaeth Mr. Vavasor Griffiths, dewisodd y Bwrdd Henadurol a'r Bwrdd Cynnulleidfaol Mr. Davies yn athraw yr Athrofa yn ei le. Mewn canlyniad i hyny symudwyd yr Athrofa o sir Faesyfed i Hwlffordd, a bu yno hyd 1743, pryd y derbyniodd Mr. Davies alwadau oddiwrth yr eglwysi yn Llanybri a'r Bwlchnewydd, ac y symudodd yno. Ar hyn symudwyd hi i Gaerfyrddin, ac unwyd hi a'r ysgol ramadegol a gedwid yno gan Mr. Samuel Thomas, gweinidog Heol-awst. Cafodd Mr. Thomas yn awr ei ddewis yn gyd-athraw a Mr. Davies. Canlyniedydd Mr. Davies yn y Green oedd Mr. Jenkin Jones, myfyriwr o athrofa Dr. Doddridge. Methodd yr eglwys gyduno i roddi galwad iddo, am fod amryw yn barnu ei fod yn gogwyddo yn ei farn at Ariaeth, ac nid oeddent yn cael ynddo y difrifoldeb hyny a ddysgwylient gael mewn gweinidog. Gan i fwyafrif yr eglwys fynu ei gael, ymneillduodd ei wrthwynebwyr a chymerasant ystafell at addoli ynddi hyd nes y gwelent eu ffordd yn agored iddynt i ddychwelyd i'r capel. Yr oeddynt yn barnu mai byr fuasai ei arosiad ef yn y lle; ac felly y bu. Bu farw yn mhen dwy flynedd, mewn canlyniad i ddamwain a'i cyfarfyddodd wrth hela. Wedi ei farwolaeth ef dychwelodd y rhai a ymadawsent ar ei ddyfodiad, yn ol i'r capel.

Wedi marwolaeth Mr. Jenkin Jones, rhoddwyd galwad i Mr. John Hughes, o athrofa  Caerfyrddin, i ddyfod yma ar brawf. Dechreuodd bregethu yma Medi 14eg, 1745, ac ar ol bod ar brawf am ddwy flynedd rhoddwyd galwad unfrydol iddo, ac urddwyd ef Medi 23ain, 1747. Traddodwyd yr hyn a elwid " pregeth yr urddiad" gan Mr. David Williams, Caerdydd; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Samuel Thomas, Caerfyrddin a phreg- ethodd Mr. George Palmer, Abertawy, ar ddyledswydd y gweinidog. Yr oedd y gweinidogion canlynol hefyd yn bresenol, a rhai o honynt yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth: - William Maurice, Trefgarn; Samuel Jones, Capel Seion; David Thomas, Castellnedd; David Evans, Drewen; David Grifflths, Llechryd ; David Lloyd, Brynberian; Thomas Morgan, Henllan, a William Llewelyn, Cwmmawr. Rhif yr aelodau a arwyddasant alwad Mr. Hughes oedd deunaw-a-deugain. Parhaodd ef i weinidogaethu yma hyd Gorphenaf 10fed, 1775, pryd y rhoddodd ofal yr eglwys fyny. Yr ydym yn hollol anhysbys o achos ei ymadawiad. Mae llyfr yr eglwys yn dangos iddo dderbyn dros chwechugain o aelodau yma yn ystod y deng-mlynedd-ar-hugain y bu yn y lle, ac mai yn raddol, yn ol y cyfartaledd o dri neu bedwar yn y flwyddyn, dros ysbaid yr holl flynyddau hyn, y bu y cynydd. Yn y flwyddyn 1777, rhoddwyd galwad i Mr. Benjamin Evans, Llanuwchllyn, a'r hon y cydsyniodd; ond ni bu ei arosiad ef yma ond byr. Derbyniodd alwad oddiwrth eglwys y Drewen, sir Aberteifi, a symudodd yno Mehefin 24ain, 1779. Wedi ymadawiad Mr. B. Evans, rhoddwyd

4

galwad i Mr. Thomas Davies, o Hanover, sir Fynwy, a dechreuodd ef ei weinidogaeth yma Medi 17eg, 1780. Yn mhen rhyw ysbaid wedi ei sefydliad, cyfododd rhyw ymrysonau yn yr eglwys, yr hyn a barodd flinder nid bychan i feddwl y gweinidog duwiol, ac yn mis Ebrill, 1788, rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny. Nid oes genym unrhyw wybodaeth am natur nac achosion yr ymryson. Y cwbl a ddywedir wrthym ydyw, mai "rhyw amgylchiadau amheus" a achosodd yr anghydfod, yr hwn a derfynodd yn ymadawiad y gweinidog rhagorol hwn.

Wedi ymadawiad Mr. Thomas Davies, rhoddwyd galwad i Mr. John Evans, o athrofa Croesoswallt, i ddyfod yma ar brawf. Efe a ddechreuodd bregethu yma Mai 11 eg, 1788, ac wedi ei gadw ar brawf hyd Mehefin 5ed, 1789, rhoddwyd galwad iddo. Rhif yr aelodau y pryd hwnw oedd triugain a chwech, ond gwrthododd pedwar o honynt arwyddo yr alwad, o herwydd nad oedd Mr. Evans yn ddigon Calfinaidd ei olygiadau yn ol eu barn hwy. Ymddengys fod y pedwar hyn yn bobl lled gyfoethog, oblegid dywedir iddynt ar ol ymadael a'r Green, roddi cymorth i'r Bedyddwyr i adeiladu capel. Cymerodd urddiad Mr. Evans le Gorphenaf 22ain, 1789. Traddodwyd pregeth yr urddiad gan Mr. John Griffiths, Glandwr; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Richard Morgan, Henllan, a thraddodwyd y bregeth ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. B. Evans, Drewen. Yr oedd Meistri John Richards, Trefgarn, a Stephen Lloyd, Brynberian, hefyd yn wyddfodol ar yr achlysur. Parhaodd Mr. Evans i lafurio yma hyd derfyn ei oes yn 1808. Mae yn ymddangos ei fod yn barchus gan y bobl, ac i fesur yn llwyddianus. Gan nad yw ef, fel y gweinidogion o'i flaen, wedi cofnodi enwau y Thai a dderbyniwyd ganddo, nis gallwn ddyweyd eu nifer. Wedi marwolaeth Mr. Evans, bu yma un ar brawf, yr hwn oedd yn credu athrawiaeth adferiad, ond gwrthododd yr eglwys roddi galwad iddo. Nid ydym wedi gallu cael ei enw. Bu Mr. Josiah Hill yma hefyd ar brawf, ond nid ymsefydlodd yma fel gweinidog.

Y gweinidog nesaf yma oedd Mr. John Bulmer, o athrofa Rotherham. Cymerodd ei urddiad le Ebrill 28ain, 1813. Dechreuwyd y gwasanaeth gan Mr. Harries, Penfro; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. Peter, Caerfyrddin; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Lloyd, Henllan ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. Warlow, Milford, ac yn yr hwyr pregethwyd ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. Peter, Caerfyrddin. Yr oedd Mr. Griffiths, Glandwr ; Mr. Evans, St. Florence, a Mr. Griffiths, Tyddewi, hefyd yn wyddfodol, ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth. Bu Mr. Bulmer yn weinidog yma am saith-mlynedd-ar-hugain, ac yr oedd yn barchus iawn gan ei gynnulleidfa a thrigolion y dref a'r ardal yn gyffredinol. Yn y flwyddyn 1840 rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny, a symudodd i Loegr. Wedi ymadawiad Mr. Bulmer, rhoddwyd galwad i Mr. W. W. Fletcher, mab Dr. Fletcher, o Lundain. Urddwyd ef Gorphenaf 14eg, 1841. Cafodd y capel ei ailadeiladu yn yr adeg yma, ac agorwyd ef Mawrth 18fed, 1841. Arhosodd Mr. Fletcher yma tua thair blynedd. Yn y flwyddyn 1845, rhoddwyd galwad i Mr. James Williams, Keyston, yr hwn a gymerodd ofal y Green mewn cysylltiad a Keyston. Cynaliwyd cyfarfod sefydliad Mr. Williams yma Medi 2i1, 1845. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. Griffiths, Tyddewi ; gweddiwyd am fendith ar yr undeb gan Mr. Warlow, Milford ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. Rees, Llanelli, ac i'r eglwys gan Mr. Caleb Morris. Bu ef yma yn barchus iawn hyd derfyn ei oes yn 1870. Yr oedd ei iechyd yn wael

5

iawn am yr un-mlynedd-ar-bymtheg olaf o'i fywyd, yr hyn a'i hanalluogodd i fod o gymaint o wasanaeth i'r achos ag a allasai dyn o'i dalent a'i sirioldeb ef fod pe buasai yn ddyn iach.

Oddiar farwolaeth Mr. Williams hyd yr haf diweddaf, bu yr eglwys yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol. Mehefin 27ain, 1872, urddwyd Mr. William J. Evans, o athrofa Aberhonddu, yma. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Lewis, Tenby; holwyd y gweinidog ieuangc gan ei frawd, Mr. E. Evans, Caernarfon ; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. C. Guion, Milford ; pregethwyd i'r gweinidog gan Proff. Morris, athraw Duwinyddol athrofa Aberhonddu, ac i'r eglwys gan Mr. J. Davies, Glandwr, a dybenwyd trwy weddi gan Dr. Thomas Davies, athraw athrofa y Bedyddwyr yn Hwlffordd. Mae golwg obeithiol iawn ar y lle yn awr, ac arwyddion y bydd gweinidogaeth Mr. Evans yn dderbyniol a llwyddianus yma. Yr oedd amryw deuluoedd tra chyfrifol a dylanwadol yn perthyn i'r achos hwn ar ei gychwyniad, megis y Cadben Longman, o High Freystrop; Hugh Harries, Ysw, Crug-glas; William Meylett, Ysw., Bryn, gerllaw Penfro; Meistri Samuel Smith o Sympston; Samuel Ferrior, Pennar; Richard Meyler, Hwlffordd, a llawer eraill. Mae hiliogaeth rhai o'r personau hyn yn awr yn mysg boneddigion cyfoethocaf sir Benfro, ond y maent er's rhai cenedlaethau bellach wedi ymwrthod ag egwyddorion Ymneillduol eu henafiaid duwiol, ac wedi myned yn Eglwyswyr penboeth. Nid ydym yn deall i'r gynnulleidfa ar un adeg o'i hanes fod yn nodedig am ei lluosogrwydd, ond y mae personau o gryn nod fel gwladwyr wedi bod yn perthyn iddi o oes i oes. Yr ydym yr casglu oddiwrth ryw awgrymiadau a gawn mewn hen gofnodion, na fu nemawr o dymor yn hanes yr achos heb fod rhyw ddynion lled anhywaith ac ymrysongar yn perthyn iddo. Dynion o'r fath fu yr achos o ymadawiad Mr. Thomas Davies, Mr. Evan Davies, a Mr. Thomas Davies yr ail, a'r lle. Yr ydym yn hyderu nad oes yma yn awr, ac na fydd byth mwyach, ddynion o gyffelyb ysbryd yn perthyn i'r lle. Mae yn ddiau y buasai yr achos lawer yn gryfach nag ydyw, ac y mae yn dra thebygol y buasai rhai o hiliogaeth yr hen aelodau enwog, sydd wedi ymadael o'r lle, yn glynu wrtho, pe buasai pethau yn cael eu dwyn yn mlaen yn fwy tangnefeddus yn yr oesau a aethant heibio. Mae yn ddigon tebygol i lawer o aelodau yr eglwys hon gael eu cyfodi i bregethu o bryd i bryd, ond nid ydym ni wedi gallu dyfod o hyd i enwau neb o honynt ond y rhai canlynol :

6

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

JOHN LUNTLEY. Nid ydym yn gwybod dim o hanes bore ei oes ef. Ryw amser yn nhymor y Werinlywodraeth cafodd ei osod gan yr awdurdodau yn weinidog plwyfol Llanstadwell a Nolton. Trowyd ef allan o'r lleoedd hyn gan Ddeddf Unffurfiaeth yn 1662. O'r pryd hwnw hyd derfyn ei oes bu yn pregethu fel cynorthwywr i Mr. Peregrine Phillips yn Dredgman-hill, Hwlffordd, a phob lle a agorid iddo yn yr ardaloedd hyn. Dywedir ei fod yn bregethwr derbyniol iawn. Bu farw yn y flwyddyn 1672.

PEREGRINE PHILLIPS. Ganwyd ef yn Amroth, yn sir Benfro, yn y flwyddyn 1623. Yr oedd ei dad yn vicer y plwyf hwnw. Dywedir ei fod yn ddyn duwiol iawn, yn buritan selog, ac iddo fod yn ddyoddefydd am wrthod darllen y " Llyfr Chwareuyddiaethau." Derbyniodd Mr. Phillips ei addysg foreuol mewn ysgol ramadegol yn Hwlffordd. Bu wedi hyny am dymor yn yr ysgol yn Brampton Bryan, dan ofal caplan Syr Robert Harley, ac am ryw gymaint o amser yn ysgol y Dr. William Thomas, wedi hyny Esgob Tyddewi. O ysgol y Dr. Thomas yr aeth i brif athrofa Rhydychain, lle y bu nes iddo orfod ymadael o herwydd y rhyfel a dorodd allan yn 1642. Wedi ymadael o Rhydychain bu am dymor yn gwasanaethu fel curad i'w ewythr, Dr. Collins, yn Nghydweli, sir Gaerfyrddin. Symudodd oddiyno i Langwm, yn sir Benfro. Gan ei fod yn cael ei gyfrif y pregethwr galluocaf yn y sir, cafodd ei ddyrchafu trwy ddylanwad Syr Hugh Owen, Syr Roger Lort, a Syr John Meyrick, i fod yn weinidog plwyfydd St. Mary,

7

Penfro, Monktown, a manau eraill. Pregethai unwaith bob Sabboth yn mhob un o'r eglwysi hyn, a gwnaeth ddaioni dirfawr i'r plwyfolion. Pan wrthryfelodd rhai o foneddigion Cymru yn erbyn y llywodraeth, cymerasant feddiant o gastell Penfro. Ar ddyfodiad milwyr Cromwell i lawr i ddarostwng y gwrthryfel, ac i warchae y castell, bu Mr. Phillips a'i deulu mewn enbydrwydd mawr gan fod eu hanedd mor agos i'r castell, fel y byddai y peleni ar adeg y rhyfel yn disgyn o gylch eu ty. Byddai y peleni yn fynych yn disgyn ar y cae yn ymyl y forwyn pan yn godro, ac weithiau byddent yn dyfod i'r ardd ac i'r ty. Ond fe fu yr Arglwydd yn dirion o'i was a'i deulu fel na chafodd un o honynt eu niweidio. Bu Mr Phillips yn pregethu i'r Arglwydd Cromwell a swyddogion ei fyddin pan yr oeddynt yn Mhenfro, a rhoddodd foddlonrwydd neillduol iddynt. Unwaith pan yr oedd llynges yn myned allan o Milford i'r Iwerddon, bu ef, ar gais Cromwell, yn pregethu ar fwrdd un o'r llongau cyn iddynt hwylio. Bu yn nodedig o ddefnyddiol a llafurus yn nhymor y werin-lywodraeth, yn pregethu yn Saesoneg a Chymraeg ar hyd a lled sir Benfro, a chyrau o'r siroedd. cymydogaethol. Gelwid arno yn aml i bregethu gerbron y barnwyr, yn Hwlffordd, Aberteifi, a Chaerfyrddin. Wedi ei droi allan o'r eglwysi ar adferiad Siarl II., symudodd, fel y crybwyllasom eisioes, i dyddyndy o'r enw Dredgman-hill, yn agos i Hwlffordd, ac yno y treuliodd weddill ei oes. Bu yn ddyoddefydd mawr yn achos ei grefydd. Cafodd ei garcharu ddwy neu dair gwaith am bregethu, a'r waith ddiweddaf, ar ol bod yn y carchar am ddau fis, cymerwyd ef yn glaf o dwymyn, ac felly cafodd, ar orchymyn y meddyg, ei ollwng allan. Y fath oedd parch ei feistr tir, Syr Herbert Perrot, iddo, fel pan glywodd am ei gystudd yr anfonodd ei gerbyd at ddrws y carchar i'w gludo i'w balas ef. Bu yn gorwedd yno yn beryglus o glaf am rai wythnosau. Yn y cyfamser yr oedd yr eglwys yn cynal cyfarfodydd gweddio yn ei achos agos bob dydd. Heblaw ei garcharu yspeiliwyd ef amryw weithiau o'i anifiliaid a'i feddianau eraill er talu y dirwyon a osodid arno am bregethu. Unwaith anfonodd y siryf geisbwliaid i gymeryd ei wartheg. Gwnaeth y weithred hono fwy o niwed i'r erlidiwr nag i'r erlidiedig. Dywedir i'r siryf pan yr oedd ar ei wely angau anfon am Mr. Phillips i ofyn ei faddeuant am iddo gymeryd ei anifiliaid, yr hyn a ganiataodd Mr. Phillips gyda phob parodrwydd. Wedi i'r ystorm dawelu, i Ddeddf y Goddefiad ddyfod i rym, ac i Mr. Phillips a'i bobl gael capel i addoli ynddo yn nhref Hwlffordd, heb ofn i neb eu drygu na'u dirwyo mwyach, gwelodd yr Arglwydd yn dda alw ei was ffyddlon i'w orphwysfa, ac anfon gweinidog arall i fyned i mewn i'w lafur. Trwyddedwyd y capel newydd at bregethu ynddo Ionawr 17eg, 1691, a bu farw Mr. Phillips, Medi 17eg yn yr un flwyddyn, yn yr wythfed flwyddyn a thriugain o'i oed. Pregethodd ddwy waith y Sabboth diweddaf y bu fyw. Claddwyd ef yn barchus yn eglwys Haroldston, yn agos i'r pulpud. Bu ei weddw Mrs. Esther Phillips, fyw hyd Mai 26ain, 1706. Er nad oedd Peregrine Phillips yn ddyn eithafol yn ei olygiadau a'i dymer, ond yn nodedig am ei gymedroldeb a'i fwyneidd-dra, etto yr oedd yn benderfynol a hollol ddiysgog yn mhlaid ei egwyddorion. Cafodd ei orfodi unwaith i fyned i ddadl, gyhoeddus fel y tybiwn, ag un Dr. Reynolds, offeiriad, yn Nghaerfyrddin, o berthynas i ddefodau a dysgyblaeth yr Eglwys Wladol, a thro arall bu mewn dadl a'i hen athraw Dr. W. Thomas, Esgob Tyddewi. Cyhoeddodd yr Esgob adroddiad unochrog o'r ddadl hono heb gydsyniad Mr. Phillips.

8

Cafodd Mr. Phillips lawer o brofion amlwg o gyfryngiadau rhagluniaeth yn ei blaid. Ychydig cyn ei farwolaeth, yr oedd yn marchogaeth tuag adref ar un noson dywyll yn agos i Freystrop, dros le yn mha un yr oedd amryw hen byllau glo. Syrthiodd yr anifail ac yntau i un o'r pyllau hyny, yr hwn oedd yn ddwfn iawn ac agos yn llawn o ddwfr, gan fod coed croesion o fewn chwe' troedfedd i enau y pwll, cadwyd hwy rhag myned i lawr i'r dwfr dwfn. Yn fuan wedi iddo syrthio i'r man peryglus hwnw digwyddodd fod hen wraig fyddar a'i hwyr yn myned heibio. Clywodd y plentyn waeddi, a gwnaeth i'r hen wraig fyned at y man. Yr hon, wedi deall pwy oedd yno, a'r perygl yr oedd ynddo, a aeth i dy Cadben Longman, ac a'i hysbysodd o'r peth. Casglwyd dynion yno yn ddioed, a thrwy lawer o drafferth tynwyd Mr. Phillips a'i anifail o'u sefyllfa beryglus.

Er mai yn nhymor yr erledigaeth boeth, y bu ef yn cyflawni ei weinidogaeth, yr ydym yn cael iddo dderbyn i gymundeb driugain a saith o aelodau, y rhai agos oll a fuant fyw ar ei ol ef. I'w lafur ef yn benaf y mae cyfodiad yr eglwysi Annibynol yn sir Benfro i'w briodoli.

THOMAS DAVIES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1666 yn ardal Llanybri, sir Gaerfyrddin. Yn yr eglwys Annibynol yn Llanybri, dan ofal Mr. Stephen Hughes y dechreuodd grefydda a phregethu. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Mr. John Woodhouse, yn Sheriffhales, sir Amwythig. Ar orpheniad ei amser yno, dychwelodd i'w ardal enedigol, lle y bu am dymor yn cadw ysgol, ac ar farwolaeth Mr. Peregrine Phillips, derbyniodd alwad i fyned yn ganlyniedydd iddo. Dechreuodd ef ei weinidogaeth yno yn niwedd y flwyddyn 1691, a pharhaodd i weinidogaethu yn Hwlffordd, Trefgarn, a Phenfro hyd ddechreu y flwyddyn 1720, pryd y cyfyngodd ei lafur i Penfro, ac ar ei gymeradwyaeth ef rhoddodd yr eglwys yn Hwlffordd alwad i Mr. Evan Davies, a'r eglwys yn Trefgarn i Mr. William Maurice. Wedi bywyd o lafur a llwyddiant helaeth, bu y gweinidog da hwn farw Chwefror 20fed, 1724, yn 57 oed. Y Sabboth ar ol ei gladdedigaeth pregethwyd ei bregeth angladdol yn Penfro, oddiwrth Heb. xiii, 7, 8, gan Mr. Evan Davies, Hwlffordd, a'r Sabboth canlynol traddododd yr un bregeth yn y Green. Dywed Mr: E. Davies am dano fel y canlyn: "Bu farw ar ol bywyd o ddefnyddioldeb mawr fel gweinidog ac ysgolfeistr. Yr oedd yn enwog am ei sel dros grefydd bur, ac am ei ddull adeiladol o bregethu. Efe a ddaliodd hyd y diwedd y cymeriad o fod yn. dduweinydd cadarn, yn areithiwr hyawdl, ac yn Gristion didwyll. Ar ol ei ail briodas cafodd lawer o ofid, yn enwedig yn mysg perthynasau ei wraig, yr hyn a fu yn rhwystr iddo yn ei waith a'i lwyddiant."

EVAN DAVIES. Yn nglyn a hanes Llanybri y rhoddir ei gofiant ef, gan mai dyna y lle diweddaf y bu yn gweinidogaethu ynddo yn Nghymru.

JENKIN JONES. Yr oll a wyddom am dano ef ydyw, iddo gael ei addysg yn yr athrofa yn Northampton, dan Dr. Doddridge, iddo ddyfod i Hwlffordd yn niwedd y flwyddyn 1743, iddo fod yn achlysur o rwygiad yr eglwys yno o herwydd ei fod yn cael ei ddrwgdybio o ddal golygiadau Ariaidd, ac nad oedd yn ddyn difrifol ei ysbryd, ei fod yn hoff o ddilyn arferion crachfoneddigion yr ardal trwy fyned allan i'r maes i hela, ac iddo unwaith wrth hela gael ei frathu yn ei lygad gan ddraen, yr hyn a achosodd ei farwolaeth yn ngwanwyn y flwyddyn 1745.

JOHN HUGHES.  Ganwyd ef yn Llanelli, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1720. Yn yr eglwys Annibynol yno y dechreuodd ei fywyd fel proffeswr crefydd a phregethwr. Mae yn debyg mai yn ysgol Mr. Samuel Jones,

9

Capel Seion, y derbyniodd ei addysg ragbarotoawl. Aeth oddiyno i athrofa Caerfyrddin. Dechreuodd ei lafur gweinidogaethol yn Hwlffordd, Medi 14eg, 1745. Ar ol bod yno ddwy flynedd ar brawf, cafodd ei urddo, fel y nodwyd, Medi 23ain, 1747. Llanwodd ei gylch yn effeithiol a llwyddianus am ddeng-mlynedd-ar-hugain. Yn fuan wedi ei urddiad, ymunodd mewn priodas ag Elizabeth, merch Francis Meyler, Ysw., meddyg, ac un o ddiaconiaid yr eglwys. Yn nhymor ei weinidogaeth derbyniodd Mr. Hughes rhwng cant a chwechugain o aelodau i'r eglwys, a bedyddiodd 166 o blant yr aelodau. Yr oedd am rai blynyddau wedi bod yn cael ei flino gan y clefyd blin hwnw y clefri poethion (scurvy), ac o'r diwedd aeth mor flin fel y bu raid iddo roddi ei ofal gweinidogaethol i fyny. Er mwyn bod yn agosach at feddygon galluog, symudodd ef a'i briod i Gaerodor yn y flwyddyn 1775, a bu farw yno Medi 31ain, 1777. Claddwyd ef yn mynwent yr Ymneillduwyr, yn agos i Brunswick Square, yn Nghaerodor. Bu ei weddw fyw fwy na dwy-flynedd-a-deugain ar ei ol ef. Yr oedd hi hyd derfyn ei hoes yn aelod parchus o'r eglwys Annibynol yn Bridge-street, Caerodor. Yn ei hewyllys gadawodd ddau gant o bunau i'r eglwys yn y Green, Hwlffordd, i'r dyben i'w llog blynyddol gael ei roddi at gyflog y gweinidog. Mae y darlleniad canlynol ar feddfaen Mr Hughes : - " Er coffadwriaeth am y Parch. John Hughes, gweinidog yr efengyl yn Hwlffordd. Efe a fu farw yn y ddinas hon Mai 31ain, 1777, yn .55 mlwydd oed. Bu ei fywyd yn gysegredig i ogoniant Duw a daioni penaf dynion. Llafuriodd yn y weinidogaeth gyda diwydrwydd a llwyddiant am ddeng-mlynedd-ar-hugain, a phan y gorfodwyd ef gan gystudd i roddi i fyny ei weinidogaeth, parhaodd i ganmol crefydd trwy ei ymostyngiad a'i sirioldeb dan gystudd hir a phoenus, a thrwy y tawelwch a'r gwroldeb gyda pha rai y dynesai at angau.

"Hefyd, er coffadwriaeth am Elizaheth Hughes, gweddw y Parch. John Hughes, yr hon a ymadawodd a'r byd hwn Awst 12fed, 1817, yn 95 oed. Cafodd ei bywyd hirfaith ei gysegru mewn modd nodedig i Dduw, a'i lenwi a gweithredoedd da. Bu farw mewn tangnefedd."

Nid ydym yn feddianol ar ddefnyddiau i roddi desgrifiad o Mr. Hughes o ran ei berson, a'i nodwedd fel pregethwr. Mae yn ymddangos ei fod yn ddyn cydwybodol iawn, ac na wnelai ddim a farnai yn afreolaidd er boddloni neb. Dywedir i wraig unwaith yn ei chystudd ddeisyf arno roddi y cymun iddi yn ei gwely. Gwrthododd yntau am ei fod yn barnu mai ordinhad i'w gweinyddu yn yr eglwys pan fyddai wedi "dyfod yn nghyd i'r un lle," (1 Cor. xi. 20), ac nid i bersonau unigol, ydoedd. Gwellhaodd y wraig, ond digiodd gymaint wrth Mr. Hughes fel yr ymadawodd a'i gynnulleidfa ef ac yr ymunodd a'r Methodistiaid.

BENJAMIN EVANS. Yn nglyn a hanes y Drewen, lle y bu yn gweinidogaethu am ddwy-flynedd-a-deugain wedi ymadael o Hwlffordd, y mae lle priodol ei gofiant ef.

THOMAS DAVIES. Ganwyd ef yn mhlwyf Llanfynach, yn sir Benfro. Yr ydym wedi methu cael allan amser ei enedigaeth. Yr oedd ei dad a'i fam yn aelodau ffyddlon o'r eglwys yn Nglandwr, a'i dad John Davies, yn ddiacon. Derbyniwyd yntau i gymundeb pan yn dair-ar-ddeg oed. Bu yn ysgol Mr. Griffiths, Glandwr, agos o'i febyd, nes iddo ddyfod i'w faintioli. Yn mhen rhai blynyddau wedi ei dderbyn yn aelod eglwysig, anogwyd ef i ddechreu pregethu, a bu ei weinidog yn daer am iddo fyned i'r athrofa

10

i Abergavenny, ond y fath oedd ei wylder fel y bu am gryn amser yn gomedd myned. Wedi ymadael o ysgol Mr. Griffiths, bu am ryw faint o amser yn cadw ysgol yn Mhenygroes, sir Benfro. Oddi yno yr aeth i'r athrofa i Abergavenny yn y flwyddyn 1772. Mae yn ymddangos mai ar ei draul ei hun y bu yno, oblegid nid yw ei enw yn mysg y myfyrwyr a dderbynient gymorth oddiwrth y Bwrdd Cynnulleidfaol. Ar orpheniad ei amser yn yr athrofa, cafodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Hanover, ac urddwyd ef yno Mai 23ain, 1776. Yr oedd pan yn yr athrofa wedi cael ei ddewis yn athraw cynnorthwyol, a pharhaodd yn y swydd hono nes iddo ymadael o Hanover. Yn 1780, symudodd i Hwlffordd, lle y bu hyd 1788, pryd y symudodd i'w ardal enedigol. Bwriadai dreulio gweddill ei oes fel efengylwr neu bregethwr teithiol, ond darfu am ei holl amcanion ef trwy i un o'i waed-lestri dori yn hollol annisgwyliadwy wrth bregethu. Bu fyw am ychydig ddyddiau ar ol hyny, ond bu farw Gorphenaf 25ain, 1788, pryd nas gallasai fod ond rhy brin ddeugain mlwydd oed. Yr oedd Mr. Jones, Trelech, yn ddyn ieuangc yn eistedd wrth ei wely pan y bu farw. Y geiriau diweddaf a ddaethant o'i enau oeddynt: - "Caniata o Arglwydd dy gymorth i'th wasanaethwr tlawd yn yr ymdrech ddiweddaf."

Yr oedd Mr. Davies, yn ol tystiolaeth y rhai a'i hadwaenai, yn ddyn rhyfeddol o ostyngedig a gwylaidd, yn bregethwr efengylaidd a melus, ac yn gristion o'r radd uchaf. Nid oeddem yn hysbys o'i hanes pan yn ysgrifenu hanes eglwys Hanover.

JOHN EVANS. Nid ydym wedi gallu cael allan le ei enedigaeth ef. Cafodd ei dderbyn yn fyfyriwr i athrofa Croesoswallt yn Medi, 1784. Mae ei athraw, Dr. Edward Williams, yn ei adroddiadau blynyddol o sefyllfa yr athrofa, yn ei ganmol fel myfyriwr diwyd a galluog. Dechreuodd bregethu ar brawf yn Hwlffordd Mai 11 eg, 1788, ac urddwyd ef, fel y nodwyd eisioes, Gorphenaf 22ain, 1789. Yn mhen tua phedair blynedd wedi ei ddyfodiad i Hwlffordd, ymunodd mewn priodas a Mrs. Anne Meylett, gweddw Morgan Meylett, Ysw., o Lawrenny. Cyfododd ei briodas ef i sefyllfa fydol uchel a dylanwadol, ond bernid na fu o un lles i'w ddylanwad a'i ddefnyddioldeb fel gweinidog, trwy iddo gael ei arwain i lawer o ymdrafodaeth a phethau bydol, ac i gymdeithas boneddigion a dynion o arferion ac ysbryd croes i ddifrifoldeb a sobrwydd crefyddol. Cyhuddid ef gan rai o fod yn fwy ysgafn ac annifrifol nag y gweddai i weinidog yr efengyl, a dywedir iddo mewn hunan-amddiffyniad draddodi pregeth i ddangos y dylai proffeswyr crefydd fod yn siriol a llawen, oddiwrth y geiriau, "Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd." Ond nid ymddengys fod neb yn ei feio am fod yn llawen mewn modd ysbrydol, eithr am lawenydd bydol a chellweirus. Yr oedd ef hefyd yn cael ei ddrwg-dybio o fod yn gogwyddo at olygiadau Ariaidd, ond dywedir na chafwyd dim yn ei bregethau i roddi sail i'r cyfryw ddrwg-dybiaeth, ac mai ei waith yn pregethu unwaith yn nghapel yr Undodiaid yn Lewin's Mead, Caerodor, yn nghyd a'i gymeradwyaeth o gasgliad o Hymnau gan Dr. Abraham Rees at wasanaeth ei gynnulleidfa, a barodd iddo gael ei gyhuddo o afiechyd mewn barn. Mae ei ganlyniedydd, Mr. Bulmer, yn coleddu barn ffafriol am dano, ac yn dyweyd fod amryw ddynion duwiol iawn wedi dyweyd wrtho ef, mai trwy weinidogaeth Mr. Evans y cawsant eu dychwelyd at yr Arglwydd. Mae yn ymddangos ei fod yn bregethwr galluog iawn, a bod ganddo ddawn digyffelyb mewn gweddi. Dywedai Mr. Skeel, Trefgarn, wrth Mr. Bulmer, iddo unwaith wrandaw Mr. Evans yn pregethu mewn

11

urddiad yn Keyston, oddiwrth y geiriau, "Yr wyf yn mawrhau fy swydd," ac nad oedd un llygad sych yn y gynnulleidfa. Dywedir hefyd iddo draddodi pregeth yn Heol Awst, Caerfyrddin, ar ddyledswydd y deiliaid tuag at y llywodraeth, gyda grym a dylanwad nodedig. Yr amser hwnw yr oedd boneddigion Toriaidd y wlad yn gyffredin, a'r offeiriaid wrth gwrs, yn cyhuddo yr Ymneillduwyr o fod yn bleidwyr i'r chwildroad yn Ffraingc, ac yn elynion i'r llywodraeth. Dyben Mr. Peter wrth wahodd Mr. Evans i Gaerfyrddin i bregethu ar y pwngc hwn oedd, gwrthbrofi y cyhuddiad enllibus hwnw. Daeth yno dorf fawr i wrandaw, ac yn eu plith amryw wyr mawr. Rhoddodd ei bregeth foddlonrwydd cyffredinol, a gosododd daw ar yr enllib. Bu Mr. Evans farw yn gymharol ieuangc, yn mis Hydref, 1808. Mab iddo ef yw y Counsellor Evans, yr hwn sydd yn dra adnabyddus fel cyfreithiwr enwog.

JOHN BULMER. Ganwyd ef yn sir Gaerefrog, yn y flwyddyn 1784. Cafodd ei dueddu yn ieuangc i ymuno a chrefydd. Bu yn fyfyriwr yn athrofa Rotherham, dan yr enwog Dr. Ed ward Williams. Yn y flwyddyn 1812, daeth ar brawf i Hwlffordd, ac urddwyd of yno yn 1813. Bu yno yn llafurus iawn hyd y flwyddyn 1840, pryd y symudodd i Rugeley, yn sir Stafford, lle y bu am bum, neu chwe' mlynedd. Symudodd oddiyno i Gaerodor, lle y bu am rai blynyddau, ond heb ofal eglwysig. Wedi hyny bu am ychydig amser yn weinidog cynorthwyol yn Newbury, yn Berkshire. Oddiyno symudodd i gymeryd gofal dwy eglwys fechan yn Longrove a Buxton, yn agos i Ross, yn sir Henffordd, lle y terfynodd ei yrfa Tachwedd 26ain, 1857, yn 74 mlwydd oed.

Nid oedd Mr. Bulmer yn bregethwr galluog, ond yr oedd yn ddyn da ac efengylaidd ei olygiadau. Ysgrifenodd gyfrol o gofiant i Mr. Evans, Drewen, a pheth dirfawr o erthyglau bywgraphyddol a hanesyddol i'r cyhoeddiadau Saesonig. Ychydig cyn ei ymadawiad o Hwlffordd, yr oedd wedi cychwyn cyhoeddiad misol, dan yr enw The Pembrokeshire Congregational. Magazine. Pe buasai pob gweinidog yn gwneyd ei ran mor dda i gasglu a chofnodi llafur a hanes y tadau, ni buasai fawr drafferth i gael defnyddiau at hanes yr eglwysi. Bu y dyn da hwn farw fel y bu fyw - mewn cymundeb agos a'r Arglwydd.

JAMES WILLIAMS, oedd fab hynaf yr hybarch David Williams, Troedrhiwdalar. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1806. Cafodd ei dderbyn yn aelod eglwysig yn Nhroedrhiwdalar pan yn blentyn ieuangc. Anfonwyd ef i Athrofa y Neuaddlwyd, lle y bu am rai blynyddau yn cael ei barotoi ar gyfer myned i athrofa Caerfyrddin. Pan yr oedd yn y Neuaddlwyd aeth allan unwaith mewn cwch i'r mor, a dau o'i gydysgolheigion gydag ef, yn nghyda merch ieuangc o'r ardal. Dymchwelodd y cwch, a boddodd ei ddau gyfaill a'r ddynes ieuangc, ond yn rhagluniaethol achubwyd ei fywyd ef. Aeth o'r Neuaddlwyd i athrofa Caerfyrddin, ac ar derfyniad ei amser yno derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Keyston, yn sir Benfro, lle yr urddwyd ef yn mis Tachwedd, 1828. Yn y flwyddyn 1845 derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn y Green, Hwlffordd, a bu yn gwasanaethu y ddwy eglwys, cyn belled ag y caniataodd ei iechyd iddo, hyd derfyn er oes. Ni chafodd nemawr fwynhad o iechyd am yr un-mlynedd-ar-bymtheg olaf o'i fywyd. Bu farw dydd Mawrth, Hydref 4ydd, 1870, yn driugain-a-phedair oed, ac yn yr eilfed-flwyddyn-a-deugain o'i weinidogaeth. Claddwyd ef wrth gapel y Green.

12

Yr oedd James Williams, fel ei dad patriarchaidd, yn ddiarhebol am ei garedigrwydd. Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol ac yn bregethwr galluog. *

  

TREFGARN OWAIN

(Brawdy parish)

Translation for this chapel on http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/Hist1.html

Dywed rhai mai llygriad o'r gair Trefwgan Owain yw y gair Trefgarn, ac i'r enw Trefwgan Owain gael ei roddi i'r lle oblegid mai gwr o'r enw Wgan Owain oedd ei berchenog a'i breswylydd yr amser gynt. Ond nid ag ystyr yr enw y mae a fynom ni, eithr a hanes yr achos Annibynol yn y lle. Yn mhlwyf Brideth, tuag wyth milldir i'r gogledd-orllewin o dref Hwlffordd, y mae capel Trefgarn. Nid yw yn hysbys pa bryd y dechreuwyd yr achos yma. Mae yn lled sicr fod Mr. Peregrine Phillips yn pregethu yn lled fynych yn y parthau hyn yn amser y werinlywodraeth, a dywedir hefyd fod Mr. Stephen Hughes, Meidrym, wedi bod yma rai gweithiau. Yr oedd traddodiad yn yr ardal flynyddau yn ol i Mr. Hughes ddyfod yma a phregethu yn eglwys Brideth trwy ganiatad y Gwarcheidwad eglwysig, sef un Price, o Dreicert, yr hwn oedd ar y pryd wedi syrthio allan ag offeiriad y plwyf, ac o ddirmyg arno a adawodd i'r Ymneillduwr bregethu yn ei eglwys. Dywedir hefyd fod Price a'r offeiriad wedi cymodi a'u gilydd erbyn i Mr. Hughes ymweled a'r ardal drachefn, ac i'r eglwys gael ei chau yn ei erbyn. Os oes rhyw bwys i'w osod ar y traddodiad hwn, mai yn rhaid mai ar ol 1662 y talodd Mr. Hughes yr ymweliadau hyn a'r ardal, oblegid cyn hyny yr oedd ef, a phob pregethwr rheolaidd arall, at eu rhyddid i bregethu yn mhob eglwys blwyfol. Yn lled fuan wedi 1662, ffurfiodd Mr. Peregrine Phillips eglwys yn ei dy ei hun yn Dredgman-hill, yn agos i Hwlffordd, ac yr oedd rhai o'i aelodau yn byw yn ardal Trefgarn. Gydag amser cafodd yr aelodau a breswylient yn yr ardal hon eu ffurfio yn gangen o'r fam eglwys. Pa bryd y cymerodd hyn le nis gwyddom. Rhif yr aelodau perthynol i gangen Trefgarn tuag amser marwolaeth Mr. Phillips, yn 1691, oedd deuddeg-ar-hugain; yn mysg y rhai yr ydym yn cael enwau Hugh Harries, Ysw., Crug-glas, a'i wraig; David Skeel, Isaac Banner, James a David Hicks, George a Thomas Gilbert, &c. Mae yr enwau oll i'w gweled yn hen lyfr eglwys y Green, Hwlffordd. Mewn anedd-dy yn Eveston, tua milldir o Brideth, y buwyd yn addoli am rai blynyddau, ac oddeutu y flwyddyn 1686, adeiladwyd addoldy bychan yn agos i Drefgarn, ar dir Mr. Hugh Harries, a bernir mai Mr. Harries ei hun yn benaf, os nad yn hollol, a ddygodd draul yr adeiladaeth. Dywedir yn bendant yn llyfr eglwys y Green iddo ef adeiladu capel ar ei dir ei hun yn Nhrefgarn. Ni byddai yn anmhriodol i ni, cyn myned yn mhellach, roddi cymaint o hanes ag sydd genym am y gwr da hwn. Yr oedd yn foneddwr o ran cyfoeth, ac yn foneddwr mewn ystyr llawer uwch, trwy ei fod wedi ei brydferthu a gras. Derbyniwyd ef i gymundeb eglwysig yn Dredgman-hill, Mawrth 4ydd, 1668, a dewiswyd ef yr ddiacon Mawrth 3ydd, 1672. Cafodd ei garcharu yn Hwlffordd yr un amser a'i weinidog, Mr Phillips, o herwydd ei ymneillduaeth, ond nis gallodd dim ei siglo oddiwrth ei egwyddorion. Anogwyd ef i bregethu, a bu yn bregethwr cymeradwy a defnyddiol iawn

*Yr ydym yn ddyledus am y rhan fwyaf o ddefnyddiau yr hanes blaenorol i hen lyfrau eglwys y Green, y rhai yn garedig a anfonwyd i ni gan Mr. Evans, y gweinidog presenol. Gwnaethom hefyd ddefnydd helaeth o'r hyn a ysgrifenwyd gan Mr. Bulmer.

13

am lawer o flynyddau, ond oherwydd ei feddyliau isel am dano ei hun, gwrthododd ar bob cyfrif gymeryd ei urddo. Yn Trefgarn yn benaf y byddai yn pregethu fel cynorthwywr i'r gweinidog. Bu fyw nes yr oedd tua phedwar-ugain-a-deg oed, a bu farw mewn tangnefedd Mawrth 3ydd, 1725, a phregethwyd ei bregeth angladdol gan Mr. William Maurice, yr hwn oedd ar y pryd newydd ddechreu ei weinidogaeth yn Nhrefgarn. Hiliogaeth y gwr da hwn yw yr Harriesiaid o Drefacwn.

Bu yr eglwys yn Nhrefgarn dan yr un weinidogaeth a Hwlffordd a Phenfro hyd nes i Mr. Thomas Davies gyfyngu ei lafur i Benfro yn unig. Yna dewiswyd Mr. Evan Davies yn Hwlffordd, a Mr. William Maurice yn Nhrefgarn. Yn Mehefin yn y flwyddyn 1725, yr urddwyd Mr. Maurice, ond barnwn iddo fod yn pregethu yma dair neu bedair blynedd cyn cael ei urddo, fel y bu Mr. E. Davies yn Hwlffordd. Dechreuodd Mr. Maurice ei fywyd gweinidogaethol yn y cylch eang hwn gyda bywiogrwydd a sel neillduol, a pharhaodd yn llafurus a ffyddlon nes i henaint a methiant ei luddias. Casglodd a chorpholodd gangen o eglwys Trefgarn yn Rhos-ycaerau yn y flwyddyn 1724, sef tua blwyddyn cyn iddo gael ei urddo. Yn mhen amryw flynyddau wedi marwolaeth Mr. Hugh Harries bu raid i'r eglwys yn Nhrefgarn ymadael o'i chapel. Nid yw yn gwbl sicr pa beth a achosodd hyn, ond bernir mai am nad oedd y lÍs yn darbod ffordd i fyned iddo, a bod perchenog y tir yn gomedd caniatau mynedfa ato. Yn y flwyddyn 1743 y bu hyn. Ond erbyn fod un drws yn cau fe agorodd rhagluniaeth ddrws arall. Yr oedd un o'r aelodau o'r enw Ellen Bury Perrot a chanddi chwaer yn cadw ty boneddwr o'r enw Thomas Jones, Ysw., Brideth, a thrwy hono llwyddwyd i gael gan y gwr hwnw i roddi tir cyfleus at adeiladu capel newydd arno, o fewn can' llath i'r gorllewin i'r hen gapel. Rhoddwyd lÍs ar y tir am 99 o flynyddau, am haner coron y flwyddyn. Yr ymddiriedolwyr oeddynt David Perkins, o blwyf St. Nicholas; William Williams, o blwyf Llanwnda, a George Watts, o blwyf Llandeloy. Dyddiad y weithred yw Gorphenaf 6ed, 1743. Cafodd yr addoldy newydd ei adeiladu yn ddioed ar ol tynu y weithred. Ei faint oedd 48 troedfedd wrth 15 troedfedd, a'i uchder oedd naw troedfedd. Y rhai mwyaf gweithgar gydag adeiladaeth y capel, heblaw yr ymddiriedolwyr, oeddynt Meistri Evan Griffiths, Treicert; Daniel Davies, Caswilia; Rees Davies, Tynewydd, a William Harries, Trenicol. Yn mhen tuag wyth-mlynedd-ar-hugain ar ol hyn, o herwydd cynydd y gynnulleidfa, bu raid helaethu y ty. Ni estynwyd dim arno, ond ychwanegwyd pedair-troedfedd-ar-ddeg at ei led, a gwnaed ei nen yn ddyblyg, yn ol ffurf rhai o'r hen eglwysi plwyfol. Ar ei agoriad, ar ol yr helaethiad, pregethodd Mr. Maurice, y gweinidog, oddiar y geiriau, "Os yr Arglwydd nid adeilada y ty, yn ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho." Yr oedd Meistri Henry Skeel, Castellhaidd, a David Moore, Trehywel, yn nghyd a chynifer ag oedd yn fyw o'r rhai a enwyd yn flaenorol, yn flaenllaw gyda y gwaith yn awr.

Wedi i Mr. William Maurice fod yn llafurio yn ddiwyd yn Nhrefgarn, Rhosycaerau, a'r ardaloedd o gwmpas am bedair-ar-ddeg-ar-hugain o flynyddau, ac yn gweled cylch ei lafur yn eangu, a'i nerth yntau yn lleihau, anogodd yr eglwysi dan ei ofal i edrych allan am gynorthwywr iddo. Yn y flwyddyn 1756 rhoddasant alwad i Mr. Morris Griffiths, o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yma Medi 29ain, 1757, pryd y pregethodd Meistri Lewis Rees, ac Evan Davies, Caerfyrddin. Yr oedd Mr. Griffiths yn ddyn llawn o sel a gweithgarwch, a bu ei lafur dan fendith neillduol yn yr

14

ardaloedd hyn, ond er ei holl ddefnyddioldeb, gwelodd ei Arglwydd yn dda ostwng ei nerth ar y ffordd, a pheri i'w haul fachludo tra yr oedd hi etto yn ddydd, rai blynyddau o flaen yr hen weinidog. Gorphenodd ei yrfa ddefnyddiol yn 1769. Yn wyneb hyn bu raid edrych allan drachefn am gynorthwywr i'r hen weinidog. Syrthiodd y dewisiad ar Mr. John Richards, myfyriwr o athrofa Abergavenny, yr hwn yr oedd Mr. Morris Griffiths wedi gymeradwyo i sylw yr eglwysi ar ei wely angau. Yn Rhosycaerau yr urddwyd Mr. Richards, ac i'r gangen hono yn benaf y bwriedid iddo roddi ei wasanaeth, ond bu yntau, fel ei ragflaenydd Mr. Griffiths, yn gwasanaethu yn yr holl gylch yn ddiwahaniaeth. Urddwyd ef yn 1770. Yn mhen ychydig amser wedi iddo ymsefydlu yma, priododd ag un o ferched yr hen weinidog, Mr. Maurice. Wedi marwolaeth yr hen weinidog, yn 1778, syrthiodd gofal yr eglwysi oll ar Mr. Richards. Bu ei lafur yn llwyddianus iawn. Casglodd a chorpholodd eglwys yn Rhodiad, yn mhlwyf Tyddewi, a bu Trefgarn, Rhosycaerau, a Rhodiad dan ei ofal bugeiliol ef nes iddo ymadael o'r wlad. Ar ol llafurio yma gyda pharch a llwyddiant rhyfeddol am bum'-mlynedd-ar-hugain, er mawr ofid i bobl ei ofal, a'r wlad yn gyffredinol, gwnaeth ei feddwl i fyny i ymfudo i'r America. Cynaliwyd cyfarfod ar yr achlysur o'i ymadawiad yn Nhrefgarn, yn mis Mawrth, 1795. Daeth torf ddirfawr yn nghyd, a phregethodd yntau ei bregeth ymadawol oddiar Actau xx. 38. " Gan ofidio yn benaf am y gair a ddywedasai efe, na chant weled ei wyneb ef mwy. A hwy a'i hebryngasant ef i'r llong." Dywedir fod pawb yno wedi teimlo i'r fath raddau fel nad oedd neb yn medru peidio wylo. Yn fuan wedi hyn hwyliodd ef a'i deulu tua'r Unol Daleithiau, ac yn mhen tair wythnos wedi tirio yno bu farw, a chladdwyd ef yn Elizabeth Town.

Y Sabboth cyntaf ar ol ymadawiad Mr. Richards, pregethodd Mr. Stephen Lloyd, Brynberian, yn Nhrefgarn, oddiar Mat. ix. 36, "A phan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd wrthynt am eu bod wedi blino, a'u gwasgaru fel defaid heb ganddynt fugail" Yn fuan wedi hyny, yn unol a chyngor ymadawol Mr. Richards, cydsyniodd yr eglwysi yn Nhrefgarn, Rhosycaerau, a Rhodiad i roddi galwad i bedwar o frodyr oeddynt yn aelodau yn eu plith, ac wedi bod am lawer o flynyddau yn pregethu iddynt fel cynorthwywyr, sef Daniel Jenkins, Thomas Skeel, James Meyler, a William Harries. Urddwyd y pedwar Hydref 20fed, 21ain a'r 22ain, 1795. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn wyddfodol ar yr achlysur, ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth:  - J. Griffiths, Glandwr; T. Davies, Pantteg; B. Evans, Drewen; S. Lloyd, Brynberian; John Thomas, Llangathen, gynt Raiadrgwy; Jenkin Lewis, Gwrecsam;  J. Evans, Hwlffordd; P. Maurice, Ebenezer; M. Jones, Trelech, a J. Phillips, Trewyddel. Y cynllun bwriadedig oedd fod i Mistri D. Jenkins a T. Skeel i gymeryd gofal neillduol yr eglwys yn Nhrefgarn; Mr. J. Meyler i ofalu yn benaf yn Rhosyeaerau, a Mr. W. Harries yn Rhodiad, gyda dealldwriaeth fod yr holl eglwysi i fwynhau yn gyfartal o ddoniau gweinidogaethol y pedwar. Ond ni thalwyd sylw i'r rhan olaf o'r cynllun ond dros ychydig amser. Yn fuan cyfyngodd pob un o honynt ei lafur agos yn hollol i'r bobl oedd yn fwyaf neillduol dan ei ofal. Yn mhen rhyw gymaint o amser ar ol hyn, adeiladwyd addoldy yn Solfach, yr hwn a fwriedid i fod fel cangen o Drefgarn a Rhodiad, ond wedi hyny cydunwyd iddo fod mewn cysylltiad a Rhodiad yn unig. Yn fuau drachefn adeiladodd pobl Trefgarn addoldy yn Mhenybont, yr hwn a adnabyddir yn awr fel y FORD.

15

Yn Mai, 1809, rhoddodd eglwys Trefgarn, yn cynwys yr aelodau a addolent yn nghapel Penybont, alwad unfrydol i Mr. Benjamin Griffiths, Llanboidy, sir Gaerfyrddin, i ddyfod i gydweinidogaethu a'r Meistri Jenkins a Skeel. Urddwyd Mr. Griffiths Tachwedd 9fed, 1809. pryd yr oedd y gweinidogion canlynol yn wyddfodol: - W. Harries, Rhodiad; T. Phillips, D.D., Neuaddlwyd; J. Davies, Bethlehem; B. Evans, St. Florence; M. Jones, Trelech; H. George, Brynberian; J. Meyler, Rhosycaerau; J. Lloyd, Henllan; W. Griffiths, Glandwr; T. Griffiths, Hawen, a W. Davies, Rhosycaerau. Bu farw Mr. Daniel Jenkins, un o'r gweinidogion, yn mhen ychydig gyda blwyddyn wedi urddiad Mr. Griffiths, ond parhaodd Mr. Skeel i gyd-lafurio ag ef hyd 1821, pryd y darfu iddo ef, mewn cysylltiad a'i nai, Mr. Daniel Davies, gyfyngu ei lafur i'r canghenau yn Mhenybont a Zion's-hill, gan adael Trefgarn i Mr. Griffiths ei hun. Bu Mr. Griffiths yn rhyfeddol o lwyddianus yma. Rhif yr aelodau pan yr urddwyd ef oedd 138, ond o'r pryd hwnw hyd y fiwyddyn 1845, rhoddwyd deheulaw cymdeithas i 564 o aelodau newyddion. Yn y flwyddyn 1826, trowyd anedd-dy a elwid Penycwm yn lle at addoli a chadw ysgol Sabbothol. Agorwyd y capel bychan hwn Mehefin 14eg, 1826, pryd y pregethodd Meistri J. Roberts, Llanbrynmair, a Caleb Morris, y pryd hwnw o Narberth. Mr. a Mrs. Thomas, o'r Llethr, fu a'r llaw flaenaf yn adeiladiad capel Penycwm. Yn 1833, tynwyd hen gapel Trefgarn i lawr ac adeiladwyd yr addoldy presenol. Yr oedd gan y bobl y pryd hwnw y fath galon i weithio fel y talwyd holl draul yr adeiladaeth erbyn dydd yr agoriad. Pregethwyd ar yr agoriad gan Meistri J. Bulmer, Hwlffordd; D. Rees, Llanelli; D. Davies, Aberteifi; J. Davies, Glandwr, ac eraill. Adeiladwyd addoldy bychan arall, a elwir Paran, gan eglwys Trefgarn, at gynal ysgol Sabbothol a phregethu achlysurol. Cafwyd y tir at ei adeiladu gan Mr. Hicks, Trefmaenhir, ar les o 999 o flynyddoedd. Agorwyd ef yn mis Hydref, 1843, pryd y pregethodd Meistri Williams, St. Clears; Lewis, Henllan, a Hughes, Trelech.

Yn y flwyddyn 1845, gan fod cylch y weinidogaeth wedi myned yn fawr iawn, a Mr. Griffiths yn dechreu teimlo pwys henaint, rhoddwyd galwad i Mr. John Griffiths, o athrofa Aberhonddu, i ddyfod yn gyd-weinidog ag ef. Urddwyd Mr. Griffiths yma Hydref 15fed, 1845, pryd y cymerodd y rhan fwyaf o'r gweinidogion canlynol ran yn y gwasanaeth: - D. Williams, Troedrhiwdalar; D. Rees, Llanelli; J. Davies, Glandwr; W. Davies, a D. Bateman, Rhosycaerau; T. Mortimer, Solfach; D. Davies, Zion's-hill; J. Evans, Hebron; S. Evans, Penygroes; J. Griffiths, Tyddewi; W. Williams, Llandilo; J. Lewis, Henllan; S. Thomas, Trefdraeth; E. Lewis, Brynberian; J. Williams, Hwlffordd, a B. James, Llandilo. Bu Mr. J. Griffiths yma yn cyd-lafurio a'r henafgwr Mr. B. Griffiths yn gysurus a thra llwyddianus hyd y flwyddyn 1853, pryd, o herwydd cystuddiau marwolaethau yn ei deulu, y penderfynodd roddi ei swydd i fyny. Bu yr achos drachefn dan ofal Mr. B. Griffiths yn unig hyd 1855, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. John Morgan Evans, o athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef Awst 2lain a'r 22ain, pryd yr oedd yn bresenol o gylch deg-ar-hugain o weinidogion. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Morgan, Caerfyrddin; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Griffiths, Tyddewi; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. S. Griffiths, Horeb ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Davies, Glandwr, ac i'r eglwys gan Mr. H. Jones, Caerfyrddin. Yr oedd Mr. Griffiths wedi heneiddio a myned yn lled analluog i wneyd ................

 CONTINUED


Return to top

( Gareth Hicks - 7 April 2008)

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright © GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI

Valid HTML 4.01 Transitional