Pembrokeshire
Contents
Proof read by Maureen Saycell (March 2008)
|
|
.............bu farw ei wraig ar ol bod yn dihoeni mewn gwaeledd am ddwy flynedd, a gadawyd yntau gydag wyth o blant bach, a'r hynaf o honynt heb fod ond ychydig dros ddeg oed. Ond nid ymollyngodd mewn un modd, ond ymaflodd o ddifrif yn ei waith, gan ymddiried yn ei Dduw. Gwelodd ddau o'i feibion yn parotoi i'r weinidogaeth, a gwelodd ei fab arall yn ddiacon defnyddiol yn yr eglwys yn Nhyddewi, a'i ferched mewn amgylchiadau bydol cysurus, yn aelodau crefyddol, yn wragedd i swyddogion eglwysig, a'r ieuengaf o honynt yn wraig i Mr. Simon Evans, Hebron, yr hwn sydd yn olynydd teilwng o'i dad-yn-nghyfraith yn ngweinidogaeth yr enwad yn sir Benfro. Dichon mai yn ei deulu, wedi y cwbl, y gwelid ef i fwyaf o fantais. Rhodiodd yn mherffeithrwydd ei galon o fewn ei dy. Yr oedd ei aelwyd yn ysgol, a phawb arni yn derbyn addysg, ac nid anghofir gan lawer o'r rhai a gawsant yr hyfrydwch o ymweled a Threliwyd, pan oedd ef yno, a'i blant o'i gylch, yr oriau hapus a dreulient ynghyd. Mae Mr Grifflths yn ei ysgrif yn adgofio un amgylchiad a ddigwyddodd pan oedd ef vn Machynlleth, nas gallwn ymatal heb ei gofnodi yma. Rhoddwn ef i lawr yn ngeiriau Mr Griffiths ei hun. "Yr oedd yn eglwys Machynlleth un hen wr tlawd ag oedd yn gyflawn ei ddawn mewn gweddi, a byddai yn aml yn cael ei alw i weddi yn y cyfarfodydd eglwysig. Yr oeddwn wedi sylwi arno pan. y byddai yn gweddio, drosof fi yn neillduol, gyda golwg ar hyn, ei fod yn helaeth iawn. Yr oeddwn i raddau yn anfoddlawn iddo, am fy mod yu ofni ei fod yn gwenieithio i mi. Yr oedd mab iddo yn gofalu am fy ngheffyl i'w lanhau a'i fwydo. Un hwyr Sabboth pan oeddwn yn myned i Aberhosan, ac oddiyno yn mhellach boreu dranoeth, dywedais wrth y bachgen na byddai raid iddo feddwl am y ceffyl, am nad oeddwn yn bwriadu dychwelyd y noswaith hono. Ond wedi hyny daeth angenrheidrwydd am i mi ddychwelyd, ac wedi rhoddi y ceffyl yn y ty, aethum yn union i hysbysu i'r bachgen ei fod yno. Yr oedd ei dad yn byw mewn heol gul, fach, yn troi o'r heol fawr. Pan aethum yn agos at y ty, deallais fod yr hen wr ar y weddi deuluaidd. Felly neseais mor ddistaw ag y gallwn at y drws. Clywais ef yn gweddio yn daer iawn dros ei deulu bob yn un ac un, yna am fendith ar waith y dydd hwnw, yna dros weinidogion y gair yn gyffredinol, ac yna droswyf finau yn neillduol. Ac os oedd yn helaeth. yn y cyfarfodydd eglwysig, yr oedd yn llawer mwy felly yn awr, ac yn ymddangos i mi yn ddifrifol iawn, a chyda theimlad dwys. Nis gallaswn lai na wylo wrth ei glywed, a'm calon yn ddirgel yn rhoi ei hamen gyda phob deisyfial. Gwyddwn nas gallasai fod ganddo un dychymyg fy mod i yn ei glywed. Dywedais yn fy meddwl - ' Gweddia faint fynot ti droswyf fi yn gyhoedd bellach, ni feddyliaf byth. dy fod yn gwenieithio i mi.' Yr oeddwn yn teimlo yn euog am fy mod wedi coleddu y meddwl hwnw am dano. Teimlais wedi hyny lawer o gysur a chalondid wrth feddwl ei fod ef, ac eraill o'r fath, yn gweddio yn ddifrifol felly drosof." Nis gwyddom pwy oedd y gwr tlawd duwiol hwnw, gan nad yw ei enw wedi ei adael i ni, ond y mae yn dda genym gael cofnodi y ffaith, a chyda hyny, yr ydym yn canu yn iach i'r hybarch Griffiths, Tyddewi.
(St David's parish)
Yr ydym eisioes wedi rhoddi hanes yr achos yma yn ei gyfnod cyntaf yn nglyn a Thyddewi. Rhodiad oedd y cyff gwreiddiol hyd nes yr ymwahanodd
31
yr achos yn ddwy gaingc yn Nhyddewi a Berea. Gelwir y rhan uchaf o blwyf Dewi y Cylchmawr, ac y mae Berea yn sefyll yn y Cylch hwnw. Yn Pwllcaerog, yn ymyl yma, fel y crybwyllasom eisioes, y pregethwyd y bregeth gyntaf gan yr Annibynwyr yn y plwyf, a thraddodwyd yno ganoedd o bregethau o bryd i bryd, a byddai pregethwyr wrth dynu eu cyhoeddiadau i fyned trwy y wlad i bregethu yn trefnu i fod yn Pwllcaerog, fel pe buasai yno gapel, ac ni wyddai llawer nes dyfod i'r lle nad felly yr ydoedd. Ar ol hyny bu pregethu ar gylch bob mis ar brydnawnau Sabboth mewn tri lle yn y gymydogaeth, sef Trefochlyd, Caerhys, a Pwllcaerog, a phregethid gan bregethwyr o wahanol enwadau, oblegid yr oedd ychydig Fethodistiaid a Bedyddwyr yn gystal ag Annibynwyr yn yr ardal. Yr oedd cyfarfodydd gweddi a chyfeillachau crefyddol yn cael eu cynal yn yr aneddau hyn yn achlysurol, ac yr oedd math o ysgol Sabbothol yn cael ei chynal yn Pwllcaerog. Cynygiodd Mr. Henry Perkins, Caerhys, dir iddynt at adeiladu ysgoldy bychan at gynal ysgol Sabbothol, a phregethu yn achlysurol, ac os gwelid angen, i gadw ysgol ddyddiol. Aelod gyda'r Methodistiaid oedd Henry Perkins, a bwriedid i'r lle i wasanaethu i'r tri enwad yn ddiwahaniaeth, ond gwrthododd y Bedyddwyr a'r Methodistiaid o herwydd ryw resymau ag uno, ac felly daeth y lle i feddiant yr Annibynwyr. Tynwyd gweithred ar y tir, ac adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1833, a galwyd ei enw Berea. Nid oedd un o'r enw yn Nghymru y pryd hwnw, ond y mae amryw erbyn hyn. Bu y lle mewn cysylltiad a Rhodiad, a'r aelodau yn cyrchu yno bob mis i'r cymundeb, ac wedi hyny bob tri mis hyd nes y corpholwyd yma eglwys Annibynol yn y flwyddyn 1849. Yr oedd y lle o'r dechreuad wedi bod o dan ofal Mr. Griffiths, a phan yr urddwyd Mr. J. Lloyd Jones yn Hydref, 1847, i fod yn gydweinidog ag ef, yr oedd y ddau i gydlafurio trwy yr holl gylch. Yn y flwyddyn 1849 helaethwyd y capel, oblegid fod cynydd y gynnulleidfa yn galw am hyny. Parhasant felly hyd ddiwedd y flwyddyn 1854, pan y teimlodd Mr. Griffiths fod yn rhaid iddo oherwydd gwendid a llesgedd henaint roddi y weinidogaeth i fyny, a chan nas gallasai Mr. Jones ofalu am yr holl faes fel o'r blaen, cyfyngodd ei lafur i Dyddewi yn unig. Bu yr eglwys yn Berea am flynyddoedd ar ol hyn heb sefydlu ar weinidog, ond dibynent ar gynorthwy gweinidogion y sir, ac eraill, hyd y flwyddyn 1860, pryd y cydunasant a'r eglwys yn Rehoboth i roddi galwad i Mr. Thomas Jenkins, M.A., myfyriwr o brif athrofa Glasgow, ac urddwyd ef Rhagfyr 20fed, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Ll. Jones, Penyclawdd; holwyd y gofyniadau arfefol gan Mr D. Bateman, Rhosycaerau ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr J. Davies, Glandwr; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr B. Rees, Llanelli, ac i'r eglwys gan Mr J. Lewis, Hen- llan. Bu Mr. Jenkins yma yn llafurio am fwy na thair blynedd, hyd nes y gwnaeth ei feddwl i fynny i ymfudo i Queensland, lle y mae etto. Wedi bod am dair blynedd drachefn heb weinidog, rhoddodd yr eglwys yma a'r eglwys yn Rehoboth alwad i Mr. David Johns, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Mai 8fed, 1867. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Proff. Morgan, Caerfyrddin; holwyd y gofyniadau gan Mr. D. Griffith, Falfield; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr S. Evans, Hebron; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr R. Morgan, Glynnedd, ac i'r eglwys gan Mr J. Davies, Glandwr. Mae Mr. Johns yn parhau i lafurio yma, ac y mae yr achos mewn agwedd lewyrchus. Sonir yn awr am adnewyddu y capel.
32
Ni chodwyd yma yr un pregethwr, ond bu Mr William Evans, gwr ieuangc o gymydogaeth Llanboidy, yma yn cadw ysgol, ac yn pregethu yn achlysurol, yn fuan wedi codi y capel; ac ar ei ol ef bu Mr. Samuel Thomas yma am ysbaid cyn ei fynediad i athrofa Aberhonddu, a gwnaeth y ddau lawer o les yn y gymydogaeth. Yn mysg llawer a fu yma yn ddefnyddiol ar ol sefydliad yr achos yn Berea, crybwyllir yn barchus am enwau William Beynon, Treiago, yr hwn oedd yn nodedig ar gyfrif treiddgarwch a bywiogrwydd ei feddwl. Thomas Perkins, Pwllcaerog, a'i wraig, oeddynt yn nodedig am eu llettygarwch, ac fel Zacharias ac Elizabeth gynt, " ill dau yn gyfiawn, ac yn rhodio yn holl orchymynion a deddfau yr Arglwydd yn ddiargyhoedd." Mrs. Howells, Cwmwedig, a fu am dymor hir yn un o brif golofnau yr achos. Stephen Morris, Tremynydd, oedd wr crefyddol a rhinweddol, ac a wasanaethodd swydd diacon yn yr eglwys. Bu Mr a Mrs Thomas, Crug-glas, yn noddwyr caredig i'r achos yn Berea o'i gychwyniad, ac ar eu hol hwy bu eu mab, Thomas Thomas a'i wraig, hyd eu marwolaeth, yn gwir ofalu am achos yr Arglwydd yn y lle. Yr oedd Mr Thomas yn ddyn o alluoedd cryfion, ac wedi cael addysg dda, ac yn alluog iawn i drin materion gwladol ac eglwysig. Henry Reynolds oedd ddyn ieuangc talentog, a bu o wasanaeth mawr gyda'r canu a'r ysgol Sabbothol. Nid ydym yn cyfeirio at y byw, onide gallem enwi rhai sydd yn mhob ystyr yn deilwng o'r rhai sydd wedi blaenu, ac y mae crefydd yn aros yn y teuluoedd fu yma yn noddi yr achos ar ei gychwyniad. Mae yma dri henaf'gwr "o gryfder wedi cyrhaedd pedwar ugain" mlynedd, y rhai ydynt gadarn yn yr ysgrythyrau, yn afaelgar mewn gweddi, ac yn iraidd a gwresog eu hysbryd, sef John Reynolds, Gilbert Howell, a John Harris.* Y diaconiaid presenol ydynt Peter Perkins, David Perkins, "William Roach, Thomas John, a James Thomas, yr hwn hefyd sydd yn pregethu yn achlysurol.
(St Nicholas parish)
Saif y capel hwn tua dwy fìlldir i'r de-orllewin o dref Abergwaun. Mr. William Maurice, Trefgarn, fu yr offeryn i ddechreu yr achos yma. Yn ol yr hanes sydd genym, daeth Mr. Maurice i'r ardal hon i bregethu y waith gyntaf yn y flwyddyn 1720, sef y flwyddyn y dechreuodd ei lafur yn Nhrefgarn. Pregethodd ar ben carnedd o gerig yn yr awyr agored, yn agos i'r fan y mae y capel yn bresenol. Ei destyn oedd Actau xviii. 10, " Canys yr wyl fi gyda thi, ac ni esyd neb arnat, i wneuthur niwed i ti; oherwydd y mae i mi bobl lawer yn y ddinas hon." Ar ol hyn buwyd yn pregethu mewn anedd-dy yn yr ardal am oddeutu pedair blynedd. Yr oedd pregethu yr efengyl yn yr ardal hon y pryd hwnw yn beth hollol ddieithr i'r trigolion, ac am hyny ymdyrai lluaws i wrando o gywreinrwydd. Nid ydym wedi cad hanes í unrhyw erledigaeth gael ei chyfodi yma yn erbyn yr achos er ei gychwyniad. Yn y flwyddyn 1724, adeilad- wyd capel yma, ar ddarn o dir a roddesid ar les am 999 o flynyddau gan J. Perkins, Ysw., o Landridian. Yn llyfr eglwys y Green, Hwlffmdd, yr ydym yn cael i'r eglwys honno roddi clustog ac addurniadau y pulpud yn anrheg i'r achos newydd hwn. Mr. David Perkins dderbyniodd yr anrheg
* Llythyr Mr D. Johns.
33
oddiwrth ddiaconiaid Hwlffordd. Dichon mai mab Mr. J. Perkins, yr hwn a roddodd y tir at adeiladu y capel, oedd Mr. David Perkins, a thebyg fod y tad a'r mab yn mysg yr aelodau cyntaf yma. Yn fuan ar ol adeiladu y capel, cafodd eglwys ei chorpholi ynddo. Chwech oedd rhif yr aelodau ar amser eu corpholiad - pum' dyn ac un ddynes. Yr oedd yn syndod mawr yn yr ardal fod gwraig yn cael ei derbyn yn aelod, fel pe na buasai ganddi hi enaid iw golli na'i gadw. Dywedir fod y ddynes dda hon unwaith yn myned o gyfarfod eglwysig, ac iddi gyfarfod a chymydog anystyriol, yr hwn a ofynodd iddi, " Mari, pa le buost ti heddyw?" Atebodd hithau,"Mewn cwrdd eglwys"."Nid wyf fi" ebe yntau"yn gallu dirnad beth allau fod gennych o hyd yn eich cwrdd eglwys" Hithau yn briodol a atebodd,"Nid yw yn perthyn i chwi wybod, ond gallaf sicrhau i chi nad oeddyno air o son am eich enw chwi." Hyfryd fyddai fod pob gwraig a merch grefyddol mor ddoeth a'r wraig hon, gan fod yn ofalus i beidio taflu y peth sydd "santaidd i'r cwn a'r gemau o flaen moch." Wedi i Mr. Maurice fod yn llafurio yma ac yn Nhrefgarn am oddeutu dwy-ar-bymtheg-ar-hugain o flynyddau, yn y flwyddyn 1757, urddwyd Mr. Morris Griffiths yn gydweinidog ag ef. Bu Mr. Griffiths yn llafurus a llwyddianus iawn yma hyd ei farwolaeth yn 1769. Wedi colli y gweinidog da hwn, bu raid i'r eglwysi yn Nhrefgarn a Rhosycaerau edrych allan am gynorthwywr arall i'w hen weinidog, yr hwn, erbyn hyn, oedd wedi myned yn oedranus iawn. Dewisasant Mr. John Richards, o athrofa Abergavenny, yr hwn, fel y nodwyd yn hanes Trefgarn, a gymeradwywyd i sylw yr eglwysi gan eu diweddar weinidog, Mr. Griffiths, pan yr oedd ar ei wely angau. Yn Rhosycaerau yr urddwyd Mr. Richards yn 1770, ond yr oedd yn cydweinidogaethu a'r hen weinidog yn Nhrefgarn hefyd, ac wedi marwolaeth Mr. Maurice yn 1778, syrthiodd gofal y ddwy eglwys yn gwbl arno ef. Adfywiodd yr achos yn fawr yma wedi sefydliad Mr. Richards, fel y bu raid helaethu yr addoldy y flwyddyn hono. Bu Mr. Richards yn llafurio yma gyda pharch a llwyddiant mawr, nes iddo yn 1795, benderfynu ymfudo i'r America. Ni bu gweinidog erioed yn fwy anwyl gan ei bobl, ac etto, yn hollol groes i farn, teimlad, a dymuniad ei gyfeillion, mynodd ymfudo. Yr oedd wedi meddwl yn gryf fod rhyw farn i ddyfod ar y wlad hon, ac y byddai i'r Ffrangcod ddyfod drosodd i'r wlad hon i'w difrodi, ac oblegid hyny nid oedd perswadio arno i beidio myned. Gwerthodd ei feddianau, a rhoddodd bedwar cant o bunau mewn ariandy, fel y caffai hwy yn New York, ond cyn iddo lanio yno, torodd yr ariandy, a chollodd yntau ei holl arian, a bernir i hyny effeithio mor ddwfn arno nes prysuro ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn mhen tair wythnos wedi iddo lanio yn America. " Dyn gwanaidd o gorph," medd Mr. Davies, Rhosycaerau, " oedd Mr. Richards, ond yr oedd yn gryf a gwresog ei ysbryd, a thanllyd ei ddoniau. Gwnaeth lawer o ddaioni. Ysgubodd ymaith lawer o hen arferion drwg o'r ardaloedd,diddymodd 'feingciau'r celwydd,' sef lleoedd ag y byddid yn arfer cyfarfod ar brydnawnau Sabbothau i adrodd chwedleuau a chaneuon. Treuliai ddiwrnodau yn ddirgel yn ei lyfrgell i wylo a gweddio dros Seion pan dan ei chlwyfau. Dymunwn fod yn fwy tebyg iddo." Ar ol ymadawiad Mr. Richards, dewisodd eglwys Rhosycaerau Mr. James Meyler, un o'i haelodau, yr hwn oedd ar y pryd yn fyfyriwr yn athrofa Gwrecsam, yn ganlyniedydd iddo. Urddwyd Mr. Meyler, Hydref 20fed, 1795. Traddodwyd ei siars ef gan ei athraw, Dr. Jenkin Lewis, oddiwrth
34
" Canys nid oes genyf neb o gyffelyb feddwl, yr hwn a wir ofala am y pethau a berthyn i chwi." Darfu i Mr. Meyler mewn modd effeithiol iawn wir ofalu am y pethau a berthynent i'r eglwys. Ymroddodd a'i holl egni i gyflawni ei weinidogaeth, a choronwyd ei lafur a llwyddiant mawr. Y flwyddyn gyntaf ar ol ei urddiad adeiladodd gapel yn Abergwaun, a bu hefyd yn llafurus iawn, mewn cysylltiad a Mr. Morgans, Henllan, a Mr. Jones, Trelech, i sefydlu achosion yn y parth Saesonig o'r sir, megis St. Florence, Lamphey, a Rosemarket. Bu hefyd am lawer o flynyddau yn gweinidogaethu yn Reyston, mewn cysylltiad a Rhosycaerau ac Abergwaun. Yn 1804, ail helaethwyd addoldy Rhosycaerau, yr hyn a ddengys nad oedd yr achos gartref yn dyoddef mewn un modd oblegid llafur Mr. Meyler i bregethu yr efengyl lle nid enwid Crist. Ond oherwydd ei fod yn gorfod rhoddi rhan helaeth o'i lafur i'r Saeson, barnodd ef a'r eglwysi y buasai yn ddoeth iddynt urddo Mr. William Davies, un o'r aelodau yn Rhosycaerau, yn gynorthwywr iddo.Yr oedd Mr. Davies wedi bod yn derbyn addysg dan ofal Mr. W. Griffiths, Glandwr, a Mr. T. Harries, Penfro. Urddwyd ef yn Abergwaun, yn gynorthwywr i Mr. Meyler, Tachwedd 6ed, 1806. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol, ac yn cymeryd rhan yn ngwasanaeth yr urddiad, Meistri M. Jones, Trelech; P. Morris, Ebenezer; H. George, Brynberian ; J. Davies, Bethlehem; T. Lloyd, Henllan; D. Jenkins, a T. Skeel, Trefgarn; W. Harries, Rhodiad, a D. Evans, Bangor, wedi hyny o'r Mynyddbach. Ar ol iddynt fod yn llafurio yn gysurus am agos ugain mlynedd yn Rhosycaerau, Abergwaun, a Reyston, &c., bu farw Mr. Meyler yn 1825. Yn ystod y tymor y buont yn cydweinidogaethu, buont yn offerynol i ddechreu achosion Saesonig yn "Wolfsdale, St. Ishmael, Ticr's-cross, a Little-haven, ac i dderbyn llawer o ugeiniau o aelodau i'r eglwysi yn Rhosycaerau ac Abergwaun. Yn y flwyddyn 1826, adeiladwyd yma addoldy newydd helaetha chyfleus. Wedi marwolaeth Mr. Meyler, bu raid i Mr. Davies roddigofal yr eglwysi Saesonig i fyny, a chyfyngu ei lafur i Rhosycaerau acAbergwaun. Yn y flwyddyn 1827, daeth Mr. David Bateman, gwrieuangc o Drewyddel, ond a fuasai dan addysg yn y Neuaddlwyd, yma i gadw ysgol, ac i gynorthwyo Mr. Davies yn y weinidogaeth. Yr oedd Rhosycaerau ac Abergwaun hyd yn hyn yn un eglwys, ond yn yr adeg yma ymwahanasant i fod yn eglwysi Annibynol, er dan yr un weinidogaeth- Ar ol cael cyflawn brawf ar ddoniau a chymhwysderau Mr. Bateman, rhoddwyd galwad iddo i fod yn gydweinidog a Mr. Davies, ac urddwyd ef Chwefror 26ain, 1840, pryd yr oedd y gweinidogion canlynol yn wyddfodol, ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth : - Meistri W. Dayies, Abergwaun; J. Griffiths, Tyddewi; T. Mortimer, Solfach; D. Dayies, Aberteifi; D. Davies, Zion's-hill; W Miles, Tyrhos; J. Davies, Glandwr; B. James, Llandilo, a B. Griffiths, Trefgarn. Mae Mr. Davies a Mr. Bateman wedi bod yn cydlafurio yma bellach, fel gweinidogion, er's mwy na deuddengmlynedd- ar-hugain, a'r Arglwydd wedi bendithio eu llafur mewn modd nodedig. Helaethwyd y cylch gweinidogaethol yn 1840, trwy adeiladu capelRehoboth, yn agos i Mathry. Adeiladwyd hefyd yr un flwyddyn gapel a elwirSalem, yn agos i Bencaer, lle y glaniodd y Ffrangcod yn 1797. Codwyd y capel bychan yma ar ystad W James, Ysw., Trenewydd, yr hwn oedd yn ddiacon ffyddlon yn Rhosycaerau. Mae yn addoldy prydferth gyda thy anedd, ac ystabl, a mynwent, yn nglyn ag ef, a'r cwbl wedi eu sicrhaui'r enwad am fil ond un o flynyddoedd. Costiodd 200p., ond talodd
35
Mr. James y cwbl, a, rhoddodd lOOp. hefyd at adeiladu Rhosycaerau, a 150p. at gapel Abergwaun. Bu farw y boneddwr haelionus hwn Chwefror 3ydd, 1845, yn 85 oed, ac y mae ei hiliogaeth ar ei ol yn gynorthwyol iawn i'r achos. Nid oes eglwys wedi ei ffurfio yn Salem, ond y mae yma gymundeb yn achlysurol, ac ysgol Sabbothol yn rheolaidd, a phregeth neu gyfarfod gweddi bob nos Sabboth. Mae Mr. Davies etto yn fyw, ond ei fod er's blynyddau bellach yn analluog oherwydd methiant i gyflawni unrhyw wasanaeth cyhoeddus. Mae wedi ei urddo er's triugain- a-chwech o flynyddau. Efe yn awr yw y gweinidog hynaf yn Nghymru ond Mr. Williams, Troedrhiwdalar. Y mae ei feddwl etto yn parhau yn fywiog a siriol, ond fod ei gorph wedi llesgau yn fawr. Dymunwn iddo lawer o fwynhad o gysuron yr efengyl a bregethodd mor llwyddianus am gynifer o flynyddoedd, nes y gwelo ei Feistr nefol yn dda i'w alw i mewn i lawenydd ei Arglwydd. Mae eglwys Rhosycaerau yn awr mor lluosog a llewyrchus ag erioed, er fod y canghenau yn Abergwaun a Rehoboth yn eglwysi lluosog. Heblaw capel bychan Salem, adeiladwyd addoldy bychan, yn y flwyddyn 1865, o fewn dwy filldir i'r deheu o Rhosycaerau, ac agorwyd ef Mawrth 27ain a'r 28ain, 1866. Cynhelir yma ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd gweddio, a phregethu mor aml ag y gellir. Gelwir ef Pantteg. Yn y flwyddyn 1868, cymerwyd ty bychan yn mhentref Tregeddylan, ychydig i'r gorllewin o Rhosycaerau, at gynal ysgol Sabbothol a phregethu achlysurol. Yn y flwyddyn 1807, y sefydlwyd yr ysgol Sabbothol gyntaf yn Rhosycaerau. Gwrthwynebid ei sefydliad gan rai, ac yr oedd amryw eraill fel Meroz, yn gwrthod ei chefnogi. Ond er y cwbl llwyddo a wnaeth ac ychwanegu cryfder, fel y mae yn bresenol yn amrywiol o ganghenau llewyrchus, yn cynwys canoedd rhwng athrawon ac ysgolheigion. Heblaw y gweinidogion, Mr. Meyler a Mr. Davies, cyfodwyd y rhai canlynol i bregethu yn yr eglwys hon : -
Azariah Shadrach. Bu ef yn ngwasanaeth Mr. Richards, ac yn yr adeg hono y dechreuodd bregethu.
Thomas Davies, yn awr o Wellington, sir Amwythig. Mab Mr. Davies, y gweinidog, yw efe.
H. Mathias, gweinidog yr eglwys Saesonig yn Wolfsdale.
William Thomas, gynt o Landysilio, yn awr o America. Mae llawer o ddynion rhagorol am eu duwioldeb a'u defnyddioldeb wedi bod yn perthyn i'r achos hwn o bryd i bryd, ond gan nad ydym ni yn feddianol ar eu hanes, nis gallwn gofnodi eu henwau yma. Mae eu henwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd, yr hyn sydd yn anfeidrol fwy braint nag iddynt gael eu cofnodi mewn un llyfr ar y ddaear.
Gan ein bod wedi rhoddi hanes gweinidogion cyntaf yr eglwys hon yn nglyn a hanes Trefgarn, nid oes genym ond un gweinidog i roddi hanes ei fywyd yma.
JAMES MEYLER. Ganwyd ef mewn lle a elwir Penysgwarn, yn mhlwyf Llanwnda, yn y flwyddyn 1761. Yr oedd ei rieni yn ddynion cyfrifol a chyfoethog. Cafodd addysg dda yn moreu ei oes. Wedi gorphen ei amser yn yr ysgolion, bu am dymor yn ysgrifenydd mewn swyddfa cyfreithiwr.
36
Ond gan fod gogwyddiad ei feddwl at y weinidogaeth, rhoddodd y lle hwnw i fyny, ac aeth i'r athrofa i Wrecsam i ddarparu at weinidogaeth y cysegr. Ar orpheniad ei amser yno, derbyniodd alwad oddiwrth ei fam eglwys yn Rhosycaerau, ac urddwyd ef yno, fel y nodwyd, yn y flwyddyn 1795. Bu yn llafurus a llwyddianus iawn yn y weinidogaeth yn mysg y Cymru a'r Saeson am ddeng-mlynedd-ar-hugain. Ar un o'i deithiau cafodd ergyd o'r parlys, yr hyn a'i hanalluogodd i bregethu am weddill ei oes. Ei destyn diweddaf yn Rhosycaerau, y Sabboth cyn iddo gael ei barlysio, oedd Deut. xiii. 4. " Ar ol yr Arglwydd eich Duw yr ewch, ac efe a ofnwch, a'i orchymynion ef a gedwch, ac ar ei lais ef y gwrandewch, ac ef a wasanaethwch, ac wrtho ef y glynwch." Bu wedi hyny yn dihoeni am ddwy flynedd. Bu farw yn 64 oed, yn y flwyddyn 1825. Yr oedd Mr. Meyler o ran ei berson yn hardd a boneddigaidd yr olwg arno. O ran ei feddwl yr oedd yn gryf, yn graff, a threiddgar, a braidd yn anorchfygol mewn dadl. Yr oedd yn gyfaill ffyddlon, ac yn dal yn wastad yn ddidroi o blaid y rhai y barnai en bod yn cael cam gan fyd neu eglwys. Bu y wybodaeth o'r gyfraith wladol y daethai i feddiant o honi yn y blynyddau a dreuliodd yn swyddfa y cyfreithiwr, o wasanaeth mawr iddo ef a'r cyhoedd yn nhymor ei weinidogaeth. Cafodd amryw achlysuron i ddefnyddio y wybodaeth hono er amddiflyn yr Ymneillduwyr yn wyneb ymosodiadau Eglwyswyr erlidgar arnynt. Mae ei goffadwriaeth yn Rhosycaerau ac Abergwaun, a thrwy sir Benfro yn gyffredinol, yn barchus iawn i'r dydd hwn, a'i rinweddau personol, a'i lafur gweinidogaethol etto ar gof a chadw. Yr oedd ef yn gyfeillgar iawn a Mr. Henry Davies, gweinidog y Bedyddwyr yn Llangloffan, er fod y gwr da hwnw, rai prydiau, yn cymeryd ei arwain gan ei sel enwadol i dderbyn i'w eglwys bersonau fuasai Mr. Meyler wedi gorfod eu diarddel am anfoesoldeb neu derfysg. Yn fynych pan fuasai dyn neu ddynes yn cael eu diarddel o Rhosycaerau un mis, buasent yn cael eu trochi a'u derbyn yn Llangloffan y mis canlynol. Byddai Mr. Davies yn dyfod yn achlysurol i Rhosycaerau i wrandaw Mr. Meyler, pan na fuasai galwad iddo i bregethu ei hun. Digwyddodd ei fod yno un boreu Sabboth pan yr oedd galwad ar Mr. Meyler i ddiarddel rhyw droseddwr. "Wrth gyhoeddi y dyn yn ddiarddeledig dywedodd, "Nid wyf fì heddyw yn traddodi y dyn hwn i satan, yn ol y gorchymyn apostolaidd, ond mi a'i traddodaf i Mr. Davies, Llangloffan, canys y mae efe yn sicr o'i dderbyn un o'r dyddiau nesaf.*
(Fishguard)
Yr oedd Mr. Richards wedi bod yn pregethu llawer yma mewn tai anedd, ond ni wnaed un cynyg at sefydlu achos yma hyd ar ol urddiad Mr. Meyler. Cafodd le at adeiladu capel yn mhen uchaf heol Wallis. gan Capt. Thomas, tad Mrs. Lloyd, Towyn, Meirionydd, yr hwn yn nghyd a'i wraig oeddynt yn aelodau cyfrifol yn Rhosycaerau. Llwyddodd yr achos yma yn raddol, ac ystyrid Rhosycaerau ac Abergwaun yn un eglwys, a chedwid cymundeb yn y ddau le bob yn ail fis. Yn y flwyddyn 1806, rhoddwyd galwad i Mr. William Davies, aelod o'r eglwys, i gydlafurio a
*Yr ydym yn ddyledus am y rhan fwyaf o'r ffeithiau uchod i ysgrif gan Mr Davies Rhosycaerau, yn y Diwygiwr am 1854, ac i lythyr Mr. Bateman.
37
Mr. Meyler, trwy holl gylch y weinidogaeth, ac urddwyd ef yn nghapel heol y Wallis, Tachwedd 6ed, y flwyddyn hono. Cydlafuriasant yn heddychol a llwyddianus am yn agos i ugain mlynedd, hyd nes y daeth bywyd defnyddiol Mr. Meyler i derfyniad Rhagfyr 25ain, 1825. Cyfyngodd Mr. Davies ar ol hyn ei weinidogaeth i'w gylch Cymreig, gan adael y canghenau Saesonig, yn y rhai y llafuriasai yn hir. Ymwahanodd yr eglwys yn yr adeg yma oddiwrth y fam-eglwys yn Rhosycaerau i fod yn eglwys Annibynol, a chedwid cymundeb yn rheolaidd bob mis yn y ddau le, ond eu bod yn parhau o dan yr un weinidogaeth. "Wedi urddo Mr. Bateman yn Chwefror, 1840, i gydlafurio a Mr. Davies, aeth yr achos rhagddo gyda llwyddiant cynyddol. Teimlid fod y capel mewn cwr o'r dref nad oedd yn fanteisiol, a'r ffordd ato yn anghyfleus, heblaw ei fod yn rhy fychan i'r gynnulleidfa. Yn y flwyddyn 1844, prynwyd darn o dir mewn man cyfleus, ac adeiladwyd ar ran o hono gapel helaeth a hardd, a thy cyfleus yn nglyn ag ef, ac y mae y gweddill o'r tir yn lle claddu. Costiodd y cwbl 800p., a thalwyd yr holl ddyled ddydd yr agoriad, yr hyn a gymerodd le Mai 6ed a'r 7fed, 1845. Mae yn ddyledus i ni grybwyll yn y fan yma i'r hen weinidog hybarch Mr. Luke, gynt o Taunton, a'i wraig, y rhai a ddaethant i dreulio prydnawn eu bywyd yn Goodwick, gerllaw Abergwaun, fod o gynorthwy mawr gyda'r addoldy newydd, yr hwn a elwir y Tabernacl. Talasant am y tir, a chyfranasant lawer at yr adeilad. Byddai Mr. Luke yn pregethu yma yn Saesonaeg bob pythefnos hyd ei ddiwedd, ac y mae efe a Mrs. Luke yn gorwedd yn mynweat y capel. Ar y 5ed o Dachwedd, 1856, bu cyfarfod jubili yr hybarch weinidog, Mr. Davies, ar ben yr haner canfed flwyddyn o'i weinidogaeth. Cynrychiolid y rhanau Cymreig a Seisonig o'r sir yn y cyfarfod, a chyflwynwyd anrhegion oddiwrthynt i Mr. Davies, yn gystal ag oddiwrth bobl ei ofal yn ei gylch gartrefol. Yr oedd y cyfarfod drwyddo yn un nodedig o effeithiol. Cyhoeddwyd adroddiad helaeth yn y Diwygiwr am Rhagfyr y flwyddyn hono. Parhaodd Mr. Davies i ofalu am yr eglwysi hyd y Sabboth olaf o'r flwyddyn 1863, pryd y teimlodd ei fod dan angenrheidrwydd i roddi i fyny ei ofal gweinidogaethol. Teimlai yr eglwysi y bu yn eu gwasanaethu cyhyd dristwch mawr oblegid hyny, er eu bod yn gweled nas gallasai barhau yn hwy yn ei swydd. Rhoddodd Mr. Bateman oblegid hyny ofal Abergwaun i fyny, gan nas gallasai wasanaethu yr holl gylch, a chyfyngodd ei lafur i Rhosycaerau a'r canghenau. Yn y flwyddyn 1864, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. Lewis Jones, yr hwn a fuasai yn weinidog yr eglwys Gymreig yn Nghroesoswallt, a chynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad yma Awst 2il a'r 3ydd, y flwyddyn hono. Bu Mr. Jones yma am yn agos i saith mlynedd, ond nid llwyddianus iawn a fu yn ei weinidogaeth. Darfu ei gysylltiad a'r eglwys yma, ac aeth i'r Eglwys Sefydledig.Cyn diwedd y flwyddyn 1871, rhoddwyd galwad i Mr. John Davies, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Mehefin 25ain, 1872. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Davies, Glandwr; holwyd y gofyniadau gan Mr. I. Williams, Trelech; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. E. Lewis, Brynberian; pregethwyd i'r gweinidog, gan ei athraw y Proff. Morris, o Aberhonddu ; ac i'r eglwys gan Mr. S. Evans, Hebron. Mae yr achos yma wedi adnewyddu yn fawr, a rhai degau wedi eu derbyn yn ystod y misoedd diweddaf, fel y mae golwg dra addawol ar yr eglwys ar gychwyniad gweinidogaetb. Mr. Davies.
38
Nid ydym yn cael i'r un pregethwr godi yn yr eglwys hon ond Mr. William Griffiths, Llanharan; ond y mae yma lawer o ddynion gweithgar a defnyddiol wedi bod ynddi o bryd i bryd, ac y mae amryw felly ynddi yn bresenol.
(Mathry parish)
Mae y capel hwn yn sefyll tua haner y ffordd o Dyddewi i Abergwaun. Cangen o Rhosycaerau ydyw, a Meistri W. Davies a D. Bateman a lafuriodd yma yn benaf yn sefydliad yr achos. Oherwydd y pellder o Rhosycaerau, dechreuwyd cynal cyfarfodydd gweddi ac ysgol Sabbotliol mewn tai yn yr ardal, a cheid pregeth yn achlysurol. Aeth y cynnulliadau yn fuan yn rhy luosog i'r tai eu cynwys, a chafwyd gwasanaeth ystordy yn Abercastell, lle y buwyd yn addoli am ysbaid blwyddyn. Meddyliwyd am gael capel, a chafwyd tir gan Mr. Bateman, Rhoslawryfach, am bris isel i fod byth at wasanaeth yr enwad. Adeiladwyd y capel, ac agorwyd ef Ebrill 13eg a'r 14eg, 1841. Ffurfiwyd yma eglwys Gorphenaf 9fed, yr un flwyddyn. Yr oedd gweinidogion Rhosycaerau, a Mr. Griffiths, Tyddewi, yn bresenol ar y pryd, ac ymunodd 25 o bersonau i ddechreu yr achos. Bu y lle dan ofal gweinidogion Rhosycaerau hyd nes y gorfodwyd hwy oblegid pellder ffordd i roddi yr eglwys i fyny. Rhoddwyd galwad i Mr. Samuel Evans i fod yn weinidog yma. Yr oedd Mr. Evans yma yn flaenorol yn cadw ysgol ddyddiol, ac yn pregethu yn fynych, ac urddwyd ef Hydref laf, 1845 Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Griffiths, Tyddewi; holwyd y gofyniadau gan Mr. H. Davies, Narberth ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Davies, Abergwaun ; pregethodd Mr. E. Rees, Penmain, ar ddyledswydd y gweinidog, a Mr. D. Davies, Zion's-hill, ar ddyledswydd yr eglwys. Llafuriodd Mr. Evans yma am fwy na phum' mlynedd. pryd y rhoddodd ofal yr eglwys i fyny, ac y mae yn awr yn byw yn Goodwick, gerllaw Abergwaun, ac yn pregethu yn gyson. Wedi ymadawiad Mr. Evans, y mae yr eglwys hon 'wedi bod o dan yr un weinidogaeth a Berea, dan ofal Mr. Jenkins a Mr. Johns. Mae yr achos yma wedi cynhyddu yn fawr yn y blynyddau diweddaf. Yn haf 1871, adnewyddwyd y capel, a chynaliwyd cyfarfod ei ailagoriad yn mis Hydref, yn nglyn a chyfarfod chwarterol y cyfundeb, ac yr oedd holl ddyled yr adgyweiriad wedi ei thalu. Ni chodwyd yma neb i bregethu. Coffeir yma am Cunnick, Prothero, a John Francis, fel y tri Amenwr. Gan nad ydyw y sir yn nodedig am eu gwresawgrwydd, yr oedd eu dagrau breision, a'u hamenau cynes hwy yn tynu sylw. Diaconiaid presenol yr eglwys ydynt, Thomas Francis, R. Phillips, a J. Harries.*
(Nevern parish)
Saif y capel bwn yn mhlwyf Nanhyfer, neu Nefern, tua ch-we' milldir i'r de-ddwyrain o Drefdraeth. Mae yn ymddangos fod amryw o aelodau yr eglwys a gyferfydd yn awr yn Llechryd, yn byw yn yr ardal hon yn nheyrnasiad Siarl II. a Iago II., a'u bod yn cynal moddion crefyddol yma mewn anedd-dai trwy holl dymor yr erledigaeth. Gan fod y ffordd
* Llythyr Mr. D. Johns.
39
yn bell iddynt fyned i gymundeb i'r man y cyfarfyddai y fam-eglwys, penderfynnsant, wedi cael nodded Deddf y Goddefiad, i adeiladu addoldy yn eu hardal eu hunain. Yn y flwyddyn 1690, yr adeiladwyd capel Brynberian, ar y fan y saif y capel presenol. Y personau mwyaf blaenllaw gyda'r gorchwyl o adeiladu oeddynt, George Lloyd, Machongle; Richard Evan, Pontyplwyf; William Owen, y Frongoch, a Thomas John Hugh, o blwyf Nefern, ac Evan Morris, Cilcam, o blwyf Eglwyswen. Capel lled fychan ydoedd yr un cyntaf yma, ond yr oedd yn ddigon mawr i ateb i'r gynnulleidfa y pryd hwnw. Mr. Thomas Beynon, ac ar ei ol ef, Mr. Dayid Sais, gweinidogion Llechryd, a ofalent am yr achos hwn hyd farwolaeth Mr. Sais, yn 1741. Wedi hyny dewisodd eglwys Brynberian weinidog iddi ei hun. Disgynodd ei dewisiad ar un o'i haelodau ei hun, sef Mr. David Lloyd, yr hwn oedd wedi bod yn pregethu yma fel cynorthwywr er's naw mlynedd. Urddwyd of Mehefin 23ain, 1743. Parhaodd i lafurio yma ac yn y ganghen yn Trefdraeth hyd derfyn ei oes yn 1764. Wedi marwolaeth Mr. David Lloyd, bu ei frawd, Mr Thomas Lloyd, gweinidog Trewyddel, yn gwasanaethu yr achos yn Brynberian, mewn cysylltiad a Threwyddel, hyd y flwyddyu 1770, pryd yr urddwyd Mr. Stephen Lloyd, mab Mr. David Lloyd. Yr oedd Mr. S. Lloyd yn weinidog rhyfeddol o weithgar a llwyddianus. Yn ei amser ef ffurfiwyd canghenau o'r fam-eglwys yn y Felindre, Maenclochog, a Bethesda, gerllaw Narberth. Bu ef hefyd yn foddion i ddechreu yr achos yn Reyston, yn mysg y Saeson. Oherwydd cynydd y gynnulleidfa, bu raid helaethu capel Brynberian yn fuan ar ol urddiad Mr. S. Lloyd. Gan fod cylch y weinidogaeth wedi helaethu yn ddirfawr, penderfynwyd dewis Mr. Henry George, un o'r aelodau, i fod yn weinidog cynorthwyol i Mr. S. Lloyd. Urddwyd ef yn y flwyddyn 1790. Yn mhen rhai blynyddau wedi urddo Mr. George, rhoddwyd ergyd ofnadwy i'r achos trwy i Mr. Lloyd, yn ei henaint, ac yn nghanol ei enwogrwydd a'i ddefnyddioldcb, syrthio i bechod gyda dynes o'r gymydogaeth. Wedi i'r son annymunol ddechreu myned allan, ni fynai neb ei gredu nes iddo ef ei hun ei gyfaddef. Gan ei fod trwy ei oes hyd y pryd hwn wedi arwain bywyd difrycheulyd, ac wedi bod yn un o'r gweinidogion mwyaf llafurus a defnyddiol yn ei oes, cafodd pawb eu taro a syndod ac a braw. Yr oedd lle rhyfedd yn Brynberian ar y dydd y diarddelwyd ef. Nid oedd yno nemawr neb heb fod eu teimaladau wedi eu briwio i'r graddau mwyaf. Ni wnaeth y troseddwr unrhyw gynygiad i gelu ei f'ai, na chyfiawnhau ei hun, ond plygai i'r llwch, a gruddfanai mewn chwerwder enaid. Ni welwyd dyn erioed yn fwy drylliog ac edifeiriol. Ond pan yr aeth i ofyn y ffafr o gael ei adferu i gymundcb yr eglwys, safodd deuddeg o bersonau yn benderfynol yn erbyn ei dderbyn, er nad oedd sail gan neb i ameu didwylledd ei edifeirwch Trwy wrthwynebiad y deuddeg hyny, cafbdd yr hen wr calon-ddrylliog ei gadw o gymundeb yr eglwys tra fu byw. Bu farw yn 1801. Yr oedd byd ac eglwys yn edrych arno fel dyn da wedi cael ei oddiweddyd gan brofedigaeth, ac yn ystyried ymddygiad ei wrthwynebwyr tuag ato yn greulondeb angchristionogol. Dywedir i ryw arwyddion o wg yr Arglwydd ddilyn y deuddcg dyn hyny hyd eu bedd. Wedi diarddeliad Mr. S. Lloyd, bu gofal y fam-eglwys yn Brynberian, a'r canghennau yn Trefdraeth, y Felindre, Maenclochog, a Bethesda, ar Mr. Henry George yn unig hyd 1817, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. W. Lewis, o athrofa Caerfyrddin, i gymeryd gofal y gangen yn Trefdraeth, ac i
40
gynorthwyo Mr. George yn y canghenau eraill. Urddwyd ef yn 1818, ond bu farw yn 1821, ac felly syrthiodd y gofal oll ar Mr. George drachefn, ond i bobl Trefdraeth, yn 1822, ddewis gweinidog iddynt eu hunain. Yn 1833, cafodd Mr. John Owens ei urddo yn gynorthwywr i Mr. George yn Brynberian, y Felindre, Maenclochog, a Bethesda, a buont yn cydlafurio hyd farwolaeth Mr. George yn 1840 ; yna, oherwydd gwaeledd ei iechyd, cyfyngodd Mr. Owens ei lafur i Maenclochog a Bethesda. Wedi marwolaeth Mr. George, bu yr eglwysi yn Brynberian a'r Felindre am yn agos i dair blynedd yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol. Yr oedd capel Brynberian wedi cael ei ailadeiladu yn y flwyddyn 1808, yn fath o adeilad ddyblyg, tebyg i hen eglwys blwyfol. Yn 1843, tynwyd yr hen gapel i lawr, ac adeiladwyd yr un presenol. Awst 9fed, 1843, urddwyd Mr. Evan Lewis, o athrofa Aberhonddu, yn weinidog yma. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Rees, Llanelli; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Davies, Glandwr; dyrchâfwyd yr urdd-weddi gan Mr. Caleb Morris; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. E. Davies, athraw ieithyddol athrofa Aberhonddu, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. E. Jones, Crygybar.* Mae Mr. Lewis yn parhau i lafurio yma, a'i fwa yn gryf trwy rymus Dduw Jacob, hyd y dydd hwn. Yn Brynberian y cynaliwyd y gymanfa gyntaf fu gan yr Annibynwyr yn Nghymru yn y flwyddyn 1778, pryd y pregethodd Mr. Lewis Rees, oddiwrth Ioan xxi. 15 - 18, a Mr. Rees Harries, Pwllheli, oddiwrth Ioan xii. 26. Bu yma gymanfa drachefn yn 1807, pryd y pregethodd Dr. G. Lewis, Mr D. Williams, Llanwrtyd; Mr. D. Jones, Crugybar, ac eraill. Ac yn 1840, cynaliwyd y drydedd gymanfa yma. Mae yr eglwys hon trwy holl ysbaid ei hanes wedi bod yn enwog o dangnefeddus. Calfiniaeth iachus oedd yr athrawiaeth a bregethid iddi ym mhob oes. Dywedir fod rhyw faint o wahaniaeth barn rhwng Mr. David Lloyd, a'i frawd, Mr. Thomas Lloyd, am berson Crist, ond nid ydym yn gwybod digon o'r manylion i allu dyweyd pa beth oedd y gwahaniaeth rhyngddynt. Eglwys Annibynol, yn ystyr fanylaf y gair, fu yr eglwys hon yn mhob cyfnod o'i hanes. Ni bu yma un mesur o ogwyddiad at Henaduriaeth, fel y bu yn rhai o hen eglwysi Ymneillduol Cymru. Yr oedd rhai o'r hen Annibynwyr mwyaf selog gynt yn dal nad oedd yn rheolaidd iddynt ddewis un yn weinidog heb ei fod yn aelod o'r eglwys fyddai yn ei ddewis, ac elai rhai mor bell a dal, nad oedd neb yn weinidog mewn un man, ond yn y lle oedd wedi eu dewis - ei fod yn ddiurddau yn mhob lle arall y digwyddasai iddo fyned iddo. Clywsom flynyddau yn ol i'r eglwys hon fod fwy na dwy flynedd heb gymundeb, am nad ystyriai ei bod yn rheolaidd i weinidog un eglwys arall weinyddu yr ordinhad iddi. Nis gallwn sicrhau gwirionedd hyn, ond clywsom hen bobl er's agos ddeugain mlynedd yn ol yn ei adrodd fel gwirionedd. Ei haelodau ei hun fu ei gweinidogion, fel y gwelsom, am agos i gan' mlynedd, sef o 1744 hyd 1840. Yn y flwyddyn 1839, codwyd ysgoldy yn Pontcynon, lle y cynhelir moddion crefyddol yn rheolaidd, er nad oes eglwys wedi ei ffurfio yn y lle. Yn y flwyddyn 1867, unodd eglwysi Brynberian a'r Felindre i adeiladu ty i'r gweinidog, gerllaw Felindre. Cafwyd tir gan Syr T. D. Lloyd, Bronwydd. Mae yn dy cyfleus iawn, ac y mae yr holl ddyled wedi ei thalu.
*Diwygiwr, 1843. Tu dal. 285.
41
Mae yr eglwys hon o bryd i bryd wedi cyfodi llawer o bregethwyr. Heblaw y tri Lloyd ac H. George, y rhai fuont yn weinidogion yma, gellir enwi y rhai canlynol, ac o bosibl, amryw eraill pe byddem yn gwybod eu henwau: -
THOMAS BEYNON. Nid oes genym nemawr o hanes i'w roddi am dano ef, amgen na'i fod wedi derbyn addysg reolaidd i'r weinidogaeth, yn dra thebyg yn athrofa Mr. Samuel Jones, Brynllwarch. Urddwyd ef, ac amryw
42
eraill o weinidogion, yn y flwyddyn 1688, pan yr oedd gwawr rhyddid crefyddol ar dori. Tebygol ei fod yn pregethu lawer o flynyddoedd cyn hyny, canys yr ydym yn cael yn nghofnodion y Bwrdd Cynnulleidfaol fod ei fab ef yn cael ei gynal gan y Bwrdd fel myfyriwr yn athrofa Brynllwarch yn 1696. Mae yn rhaid gan hyny fod Mr. Beynon yn ddyn canol oed y pryd hwnw. Bu llaw ganddo yn nghyhoeddiad rhai llyfrau Cymreig. Yr oedd yn byw mewn lle a elwid Rhydlogyn, gerllaw Aberteifi. Bu farw yn Mehefin, 1729.
DAVID SAIS. Gweler hanes Llechryd.
DAVID LLOYD. Yr oedd ef yn fab i George Lloyd, Machongle, un o adeiladwyr y capel cyntaf yn Brynberian. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1703. Dechreuodd bregethu yn ei fam-eglwys yn y flwyddyn 1734, ac urddwyd ef yn Mehefin, 1743. Bu farw yn driugain ac un mlwydd oed, Ionawr 13eg, 1764. Calfiniad cadarn ydoedd o ran ei farn. Cyfrifìd ef yn ddyn da a defnyddiol iawn. Mae yn flin na byddai genym ddeinyddiau i roddi ychwaneg o fanylion o hanes gweinidog mor ragorol.
THOMAS LLOYD. Gweler hanes Trewyddel.
STEPHEN LLOYD. Mab Mr. David Lloyd a nai Mr. Thomas Lloyd, oedd ef. Ganwyd ef yn 1744, ac urddwyd ef, fel y nodwyd, yn 1770. Wedi bywyd o lafur a defnyddioldeb mawr, machludodd ei haul dan gwmwl. Ond er ei lithriad blin, y farn gyffredinol am dano ydoedd, ei fod yn ddyn duwiol. Rhyw ddwy neu dair blynedd y bu fyw ar ol ei gwymp. Bu farw yn mis Hydref, 1801, yn ddwy-ar-bymtheg-a-deugain oed. Yr oedd yn ysgolhaig da, ond nid ydym yn gwybod yn mha le yr addysgwyd ef. Yn y Llystyn, yn mhlwyf Nefern, yr oedd yn cyfaneddu. Yr oedd yntau, fel ei dad, yn Galfìniad diysgog.
HENRY GEORGE. Mab John George, o blwyf Nefern, oedd ef. Ganwyd ef yn mis Mai, 1763. Pan yr oedd yn ugain mlwydd oed derbyniwyd ef yn aelod o eglwys Brynberian. Yr oedd yn ddyn ieuangc o alluoedd rhagorach na'r cyffredin. Wrth weled ei ddiwydrwydd crefyddol a'i gynydd mewn doniau a gwybodaeth, anogwyd ef gan yr eglwys i ddechreu pregethu yn mhen tua dwy flynedd ar ol iddo gael ei dderbyn yn aelod. Wedi cael pum' mlynedd o brawf o'i ddoniau fel pregethwr, rhoddwyd galwad iddo i ddyfod yn gydweinidog a Mr. S. Lloyd, yr hwn oedd yn awr a chwech o eglwysi dan ei ofal Urddwyd ef yn 1790. Y gweinidogion a gymerasant ran yn ngwasanaeth yr urddiad oeddynt S. Lloyd, Brynberian; J. Griffiths, Glandwr; J. Richards, Trefgarn, a B. Evans, Drewen. Parhaodd Mr. George i lafurio yn ei gylch eang am haner cant o flynyddau, ac er fod ganddo dros bymtheg milldir rhwng rhai o'i eglwysi a'u gilydd, a mynyddoedd meithion i'w croesi, ni oddefodd i wynt na gwlaw, oerni na gwres i'w gadw un amser rhag myned at ei gyhoeddiadau. Er na ddarfu iddo ef, fel ei ragflaenor, Mr. Lloyd, blanu un achos newydd, bu yn ffyddlon a diwyd iawn yn dyfrhau yr hyn a blanwyd gan eraill. Wrth ddychwelyd adref yn mis Chwefror, 1840, o Bontcynon, tarawyd ef gan boen dirfawr yn ei ddanedd, yr hwn yn fuan a ymdaenodd dros ei holl gorph nes ei wneyd yn ddideimlad. Cadwyd ef gan ragluniaeth rhag syrthio, ac aeth yr anifail ag ef yn ddiogel adref. "Wedi ei gymeryd oddiar gefn yr anifail, a'i roddi yn ei wely, adfywiodd ychydig, a than driniaeth feddygol, coleddid gobaith am ei adferiad i'w iechyd arferol, ond yn dra annisgwyliadwy, dydd Gwener, Chwefror 14eg, 1840, bu farw heb roddi ond dwy ochenaid wrth anadlu ei ysbryd allan o'r babell bridd.
43
Yr oedd Henry George yn ddyn anghyffredin o fawr o ran corph, nid yn gyffredin y gwelsom ei gymaint, chwaethach ei fwy. Yr oedd tua chwe' troedfedd a thair neu bedair modfedd o daldra, a'i esgyrn a'i gnawd yn llawn a chedyrn, yn cyfateb i'w daldra. Ond er ei fod mor anarferol o fawr, yr oedd o'i goryn i'w droed yn hynod o luniaidd a phrydferth. Fel pregethwr yr oedd yn synwyrol a buddiol i'w wrandaw, heb ddim yn nodedig yn ei ddoniau na'i bethau i dynu sylw. Pregethwr buddiol o'r radd ganol ydoedd, uwchlaw y dosbarth mwyaf dinod, ac islaw y rhai enwocaf. Yr oedd pobl ei ofal yn ei barchu yn fawr ac yn coleddu barn uchel am dano. Mae yn rhaid fod rhyw ragoriaethau yn perthyn iddo tuhwnt i'r cyffredin cyn y gallasai barhau yn ei ardal enedigol i fod yn gymeradwy am haner can mlynedd. Bu yn briod ddwywaith. o'i wraig gyntaf cafodd bedwar o feibion a phedair o ferched. Ni bu iddo blant o'i ail wraig. Yr un fath a'i ragflaenaflaid, yr oedd ef o ran ei syniadau yn uchel- Galfinaidd.
(Bayvil parish)
Dechreuwyd pregethu yma gan Mr. Stephen Lloyd; ond yn y flwyddyn 1810 yr adeiladwyd y capel cyntaf yma. ni fwriedid ef ond fel lle i bregethu yn achlysurol a chynal cyfarfodydd gweddi, ac arferai yr holl aelodau fyned i Brynberian i gymundeb. Parhaodd felly hyd yn agos i derfyn gweinidogaeth Mr. Henry George, pryd y barnwyd yn ddoeth i ffurfio yma eglwys Annibynol. Nid oedd yn lluosog ar ei chychwyniad, ac nis gallasai fod, gan y gwesgid ar ei therfynau o bob tu gan eglwysi ereill. Mewn cysylltiad gweinidogaethol a Brynberian y mae wedi bod o'r dechreuad, ac felly y mae yn awr o dan ofal Mr. Lewis. Yn y flwyddyn 1857 adeiladwyd yma gapel newydd hardd a chyfleus ar dir Syr Thomas Lloyd, Bronwydd. Costiodd 361p. 4s. 8c. Cafwyd yr holl gludiad yn rhad. Agorwyd ef Awst lleg a'r 12fed, 1857 ; a chasglwyd cyn dydd yr agoriad mor dda fel nad oedd ond 36p. 6s. 5d. yn aros; ac yr oedd mwy na haner y swm hwnw wedi ei gasglu cyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad. Yr oedd yn eglur fod gan y bobl galon i weithio. Trowyd yr hen gapel yn ysgoldy, a chynelir ysgol Frytanaidd ynddo er's blynyddau. Mae yr achos yma yn myned rhagddo yn llwyddianus; ac y mae yr eglwys yn gref a dylanwadol yn yr ardal, er nad yn lluosog iawn. Megis y crybwyllasom yn hanes Brynberian, unodd y ddwy eglwys i adeiladu ty i'r gweinidog yn 1867; ac y mae fod y ty gerllaw y capel yma yn gyfleustra mawr i'r eglwys hon, gan ei bod felly yn cael presenoldeb y gweinidog yn ei holl gyfarfodydd. Ni chyfodwyd yma ond un pregethwr, sef David Morgan Lewis, mab Mr. Lewis y gweinidog, yr hwn sydd newydd orphen ei amser fel efrydydd yn athrofa Caerfyrddin; ac y mae yn awr yn mhrif ysgol Caergrawnt
(Llanfyrnach parish)
Dechreuwyd yr achos yn y lle hwn ac yn Rhydyceisiaid tua y flwyddyn 1708, gan bobl a ymneillduasant o Henllan, oherwydd anghydwelediad mewn barn a'r eglwys hono, ar rai pyngciau athrawiaethol a ffurflywodraeth eglwysig. Pan ddelom at hanes Henllan a Rhydyceisiaid cawn achlysur i roddi hanes manwl o'r anghydfod hwn. Yn Aberclwyn y bu ......................
( Gareth Hicks - 27 March 2008)
Find help, report problems, and contribute information.
| Note: The information provided by GENUKI must not be used for commercial purposes, and all specific restrictions concerning usage, copyright notices, etc., that are to be found on individual information pages within GENUKI must be strictly adhered to. Violation of these rules could gravely harm the cooperation that GENUKI is obtaining from many information providers, and hence threaten its whole future. |