Pembrokeshire
Contents
Proof read by Maureen Saycell (March 2008)
|
|
58
David Owen.
Ganwyd ef yn Ffoshering, gerllaw Aberteifi, yn y flwyddyn 1802. Derbyniwyd ef yn aelod yn ieuangc, a dechreuodd bregethu cyn hir, ac aeth i'r athrofa i'r Drefnewydd, lle yr arhosodd dros amser. Dychwelodd i Aberteifi, ac agorodd ysgol yno, a phregethai pa le bynag y gelwid am ei wasanaeth. Urddwyd ef a Mr William Miles yr un pryd i fod yn gynorthwywyr i Mr. Davies, Aberteifi, a golygid i Mr. Miles ofalu yn benaf am Tyrhos, a Mr. Owen am Llechryd. Yn y flwyddyn 1845, fel y crybwyllasom, symudodd i Siloh, a bu yno am chwe' blynedd, ac yna dychwelodd i Aberteifi, lle y treuliodd weddill ei oes. Bu farw Mehefin 28ain, 1854, yn 52 oed. Yr oedd Mr. Owen yn ddyn gwylaidd a hollol anymhongar. Cyfrifid ef yn gywir a didwyll fel cyfaill, ac yr oedd yn hollol ddiabsen am bawb. Er nad oedd yn hyawdl a doniol fel pregethwr, etto hoffid ef gan bawb a'i hadwaenai. Ni theithiodd ond ychydig. Eiddil oedd ei gorph ar y goreu, ac yr oedd un ochr iddo yn wan, yr hyn a'i hanalluogai i fyned lawer oddicartref, heblaw nad oedd tuedd ynddo at hyny. Bu o wasanaeth mawr fel ysgol-feistr, er mai prin ddigon a gafodd oddiwrth hyny i gynal ei deulu. Gadawodd weddw a dau blentyn amddifaid ar ei ol, ac y mae rhagluniaeth wedi gofalu am danynt fel na fu arnynt eisiau am ddim daioni."
(Llawhaden parish)
Saif Bethesda yn y rhan ddwyreiniol o blwyf Llanhaden, o fewn tair milldir i dref Narberth. Rhenir y plwyf gan afon Cleddai, ac ar yr ochr orllewinol y dechreua y rhan Seisnig o'r sir, tra y mae y bobl yn yr ochr ddwyreiniol i'r afon yn gyffredin yn siarad Cymraeg. Mae hyn yn anfantais fawr i'r achos yn y lle, gan fod yn rhaid cynal yr holl wasanaeth yn y ddwy iaith. Mae hyn wedi bod o oes i oes yn rhai o'r eglwysi ar y cyffiniau rhwng y rhanau Cymreig a Seisnig o'r sir hon. Credwn mae Saesnaeg yn gyfangwbl fydd yr achos yn Bethesda gydag amser. Adeiladwyd y capel cyntaf yma yn y flwyddyn 1797. Yr oedd yr achos wedi ei ddechreu lawer o flynyddoedd cyn hyny. Yr hanes cyntaf a gawn yw fod cyfarfodydd yn cael eu cynal yn nhy Dafydd Morris, yr hwn oedd yn byw mewn amaethdy o'r enw Penllwyn, ac yn ymyl y lle hwn yr adeiladwyd y capel. Mae hen lyfr cofrestriad bedyddiadau yr eglwys, yn rhoi ar ddeall fod yr eglwys wedi ei ffurfio flynyddoedd cyn adeiladu y capel. Ond pa faint cyn hyny, a than bwy, ac o ba le y daeth yr aelodau cyntaf, a phwy oedd y pregethwr neu y pregethwyr cyntaf, nis gwyddom, ac yr ydym wedi methu cael allan. Cawn fod Mr. Henry George wedi ei neillduo yn gydweinidog a Mr. Stephen Lloyd, Brynberian, yn y flwyddyn 1790, ac enwir Bethesda fel un o'r eglwysi ag oedd yn faes eu llafur. Cawn yn hen lyfr y cofrestriad enwau amryw o'r rhai fu yn gweinyddu yr ordinhad o fedydd yma, cyn adeiladu y capel cyntaf, megis Griflith Griffiths, John Harries, a John Grifliths, (Glandwr, mae yn debyg). Ond Mr. Stephen Lloyd oedd a'r gofal am y weinidogaeth yn y tymor hwn, a Mr. Henry George yn cydweinidogaethu o'r flwyddyn 1790.
Codwyd y capel cyntaf, fel y nodwyd, yn 1797. Y flwyddyn y tiriodd y Ffrangcod yn Mhencaer, ac yr oedd y ddau amgylchiad yn anwahanedig
59
yn meddyliau yr hen bobl, oblegid y pryder oedd ynddynt rhag i'r gelyn ddinystrio yr hyn ag oeddynt hwy wedi ei adeiladu o'r capel newydd. Y mae hen les y ty cyntaf hwn ar gael, wedi ei ddyddio Ebrill, 1797, a their yr enwau canlynol fel ymddiriedolwyr : - Stephen Lloyd, Henry George, Lemuel Luke, Moat, Thomas James, Veynor, a David Llewellyn, Crinow. Felly sicrhaodd yr hen Ddafydd Morris, Penllwyn, ddarn o'i dyddyn adeiladu y capel arno, wedi i'r eglwys fod am flynyddoedd yn ei dy ef. Terfynodd cysylltiad Mr. Stephen Lloyd a Bethesda yn y flwyddyn 1800, a daeth gofal yr eglwys yn hollol ar Mr. Henry George, a pharhaodd ofalu am dani hyd y flwyddyn 1810. Felly, o'r pryd yr urddwyd of yn gydweinidog a Mr. Stephen Lloyd, parhaodd ei gysylltiad a Bethesda am y tymor hirfaith o haner can' mlynedd. Yr oedd yn yr hybarch Henry George lawer o neillduolion, ac y mae ei goffadwriaeth yn anwyl iawn yma hyd heddyw. Sonia yr hen bobl am dano yn awr fel "yr hen weinidog," heb eisiau ychwanegu enw nag arall. Efe oedd yr hen weinidog. Llafuriodd yn galed, ac yr oedd ei afael yn din yn Bethesda, a'i ofal yn fawr am dani. Gan mai dyma yr eglwys oedd yn nghwr eithaf ei esgobaeth, yr oedd yn gofyn hunan-ymwadiad mawr deithio trwy bob tywydd, haf a gaeaf, bymtheng milldir o ffordd dros fynyddoedd geirwon. Araf oedd yn ei symudiadau, yn neillduol yn ei flynyddoedd diweddaf; ac aml Sabboth y bu y bobl yn hir ddisgwyl am dano, ac yna yn cynal cyfarfod gweddi, ac weithiau pan yn myned allan, y byddai yr hen batriarch yn dyfod i'w cyfarfod, a hwythau yn ail istedd yn llawen wrando y genadwri a fyddai ganddo ef i'w thraddodi iddynt. Llawer gwaith y dy wedodd dan amgylchiadau fel hyn yn ei ddull ffraeth ei hun, " Wel, os wyf yn colli'r awr, yr wyf yn safe o'r diwrnod." Bu Mr. William Lewis, yr hwn a urddwyd yn Nhrefdraeth, yn gynorthwywr iddo am ychydig, ond byr fu ei dymor, a disgynodd yr holl ofal yn fuan ar Mr. George drachefn.
Yn y flwyddyn 1833, yn mhen tair-blynedd-ar-ddeg wedi marw Mr. Lewis, rhoddwyd galwad Mr. John Owen fod yn gydweinidog a Mr. George, ac urddwyd ef ddechreu Ionawr, 1831. Llafuriodd yn ddiwyd yn benaf yn Bethesda a Maenclochog hyd y flwyddyn 1842, pan wedi hir nychdod a gwendid y terfynodd ei yrfa ar y ddaear. Mae ei bregethau sylweddol a'i ddull difrifol yntau yn gofus gan lawer hyd y dydd hwn. Oblegid gwaeledd iechyd Mr. Owen, yr oedd Mr. Henry Davies, Narberth, yn cyflawni llawer o ddyledswyddau y weinidogaeth, megis claddu a bedyddio yn Bethesda, ddwy flynedd cyn marwolaeth Mr. Owen, ac ar ol ei farwolaeth ef daeth yr eglwys yn naturiol dan yr un weinidogaeth a Narberth. Torwyd felly y berthynas a'r weinidogaeth yn Brynberian ag oedd wedi parhau o leiaf am driugain mlynedd. Parhaodd yr eglwys dan ofal Mr. Davies hyd ei farwolaeth yn 1847, ac ychwanegwyd llawer at nifer yr aelodau yn ystod y tymor hwn.
Wedi marwolaeth Mr. Davies bu yr eglwys yma heb wenidog hyd y flwyddyn 1852, pryd yr unodd a'r eglwys yn Llandysilio roddi galwad Mr. David Griffith, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, mab Mr. S. Grifflth, Horeb), ac urddwyd of yma Chwefror 17eg a'r 18fed, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur pregethwyd gan Meistri W. Morgan, Caerfyrddin ; S. Thomas, Trefdraeth; D. Stephens, Llanfair ; W. Jones, Glynarthen; D. Phillips, Carfan; S. Griffith, Horeb, tad yr urddedig; D. Davies, Pantteg; H. Jones, Caerfyrddin; J. Morris, Narberth; S. Evans, Hebron; J. Lewis,
60
Henllan, ac eraill. Llafuriodd Mr. Griffith yma hyd y flwyddyn 1863, pan y symudodd i St. Florence, yn yr un Sir, ac y mae yn awr yn Falfield, Swydd Gaerloyw. Yn niwedd y flwyddyn ganlynol, rhoddwyd galwad i Mr. John R. Thomas, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Rhagfyr 21ain, 1864. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. M. Evans, Trefgarn ; holwyd y gofyniadau arferol gan Mr. D. Griffith, St. Florence, cynweinidog y lle ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. R. Griffith, Cefncoedcymmer ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Proff. Morgan, Caerfyrddin ; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. J. Lewis, Henllan. Ar ddiwedd yr oedfa cyflwynwyd anrheg o lyfrau gwerthfawr i Mr. Thomas gan D. Davies, Ysw., un o ddiaconiaid Zoar, Merthyr Tydfil, dros yr Ysgol Sabbothol yn Zoar, lle yr oedd y gweinidog ieuangc wedi ei fagu.
Mae Mr. Thomas yn parhau i lafurio yma gyda chymeradwyaeth a mesur helaeth o lwyddiant. Yn y flwyddyn 1848, ailadeiladwyd y capel, a gwnaed ef yn dy hardd, yn mesur 34 troedfedd wrth 27 troedfedd, ac aeth y draul yn 200p., ac agorwyd y capel Mehefin 25ain a'r 26ain, 1849, a llai na 25p. oedd o ddyled yn aros erbyn diwedd dydd yr agoriad. Erbyn y flwyddyd 1871, yr oedd yr eglwys yn teimlo y dylasai gael capel rhagorach, ac wedi cael y cynlluniau, gwelwyd y byddai y draul yn 375p., ac ofnai rhai yr anturiaeth, ond er mwyn rhoddi calon yn yr eglwys i weithio dywedai Mr. W. James, Talybont, un o ddiaconiaid yr eglwys, y rhoddai efe y drydydd ran o'r oll a gyfrenid gan yr eglwys. Symbylodd hyny bawb i weithio, ac ar ddiwedd oedfa boreu cyfarfod yr agoriad yr oedd mwy na digon o arian wedi dyfod i law. Agorwyd y capel Rhagfyr 26ain a'r 27aid, 1871.
Mae amryw bersonau wedi bod yn nglyn a'r eglwys hon, y rhai y mae eu coffadwriaeth yn berarogl yn yr ardal ar gyfrif eu llafurus gariad. Heblaw teulu y Morrisiaid yn Penllwyn, y rhai a fuont yn noddwyr tyner i'r achos yma am flynyddau, coffeir y rhai canlynol : - Morris Evans, Parcyrhos ; Owen Williams, Masiwn ; William Lloyd, Maencoch; John Williams, Castell, a James Morris, Glanrhyd, y rhai hyn fu yn gwasanaethu swydd diaconiaid yn yr oes gyntaf yn banes yr eglwys, ac ar eu hol hwy y bu David Lewis, Robertston, gwr ffyddlon a defnyddiol. Gwnaeth ef lawer o blaid cyfodi ysgol Sabbothol yn y lle, a bu y prif offeryn i gadw bywyd yn yr ysgol am flynyddoedd. Yr oedd yn arfer cymell pawb a gyfarfyddai ar y ffordd i ddyfod i'r ysgol. Thomas James, Robertston, oedd hefyd yn wr ffyddlon, ac yn neillduol am ei brofiad addfed, a'r hen Ddafydd Jenkins, er yn anllythrenog, oedd yn afaelgar ac effeithiol iawn mewd gweddi.
Yd fuan ar of ailadeiladu y capel yn 1848, bu yma helynt yn nghylch les y capel a'r fynwent, a hawl yr eglwys i gladdu yn y lle. Ar ddydd agoriad y capel hwn y claddwyd y cyntaf. Yr oedd yr hen deulu duwiol a'u holafiaid wedi ymadael o Penllwyn. Yr oedd y perchenog wedi adeiladu palasdy, a dyfod i fyw i'r lle hun. Y llywodraethwr oedd yma yn awr ni adwaenai mo Joseph. Yr oedd gan y boneddwr rhyw Ysgotyn o oruchwyliwr, yr hwn pan welodd gapel newydd a mynwent newydd yn ymyl ty newydd ei feistr, a dyngai y gwnai ef aredig sylfeini y capel newydd fyny a gorchuddio gwyneb y bedd. Arweiniwyd y boneddwr i feddwl fod y capel wedi ei adeiladu yn unig trwy ganiatad yr amaethwr oedd yn byw yn y lle o'i flaen. Aed i chwilio am y les, ond nid oedd neb
61
yn gwybod pa le i'w chael. Yr oedd yr hen deuluoedd yn Penllwyn, Veynor, a Glanrhyd, naill a'i wedi marw, neu wedi ymadael o'r lle, ond gofalodd yr Arglwydd am eraill i noddi ei achos. Yn y flwyddyn 1820, daeth Mr a Mrs. Thomas i fyw i Talybont. Un o'r Bedyddwyr oedd Mr Thomas, ond un o hen deuluoedd parchusaf Henllan oedd Mrs Thomas. Nid hir y bu yr eglwys yn Bethesda cyn deall fod yn Talybont gryfder newydd i'r achos, ac er mai Bedyddiwr oedd Mr. Simon Thomas o farn, daeth yn fuan i deimlo dros yr achos yn Bethesda fel canwyll ei lygad. Yr oedd ef yn glaf iawn pan ddaeth yr helynt yn nghylch yr hawl i gladdu yn y fynwent ; ond gwyddai fod hawl gan yr eglwys i'r tir, ac er mwyn profi yr hawl, a thawelu meddyliau y bobl, gorchymynodd Mrs Thomas ei gladdu ef yn Bethesda, a phrynu darn o dir helaethu y fynwent, beth bynag a gostiai. Claddwyd ef yn fuan, ac ni chlywyd son am aredig y lle i fyny mwy. Ni orphwysodd Mrs Thomas nes cael gafael yn yr hen les, ac aeth at y boneddwr ei hun i ddangos hawl yr eglwys yn y lle. Ymddangosai yntau yn foddhaol iawn pan gafodd y prawf hwn.* Dengys hyn mor ofalus y dylid bod o bob gweithredoedd ag sydd yn sicrhau eiddo eglwysig. Drwy ymdrech Mrs Thomas a'i nhai, Mr W. James, sydd yn bresenol yn Talybont, fe lwyddwyd i helaethu tir y fynwent, a chael les newydd am 999 o flynyddoedd, am geiniog y flwyddyn, fel y mae yn awr yn helaeth, hardd, a chyfleus. Bu farw Mrs Thomas yn mis Mawrth, 1863. Nid a ei haelioni a'i charedigrwydd hi yn anghof yn fuan. Gwyr pawb o genhadon Crist fu yn Bethesda, yn yr haner can mlynedd diweddaf, am ei llettygarwch a'i charedigrwydd dirodres. Y mae ei dylanwad yn aros, a Thalybont, fel cynt, yn lletty i'r fforddolion oll. Rhifedi presenol yr eglwys yw 150.
Codwyd y personau canlynol i bregethu yma: -
Y diaconiaid presenol ydynt, Meistri W. James, Talybont; James Phillips, Thomas Williams, Thomas Phillips, a Jonah James.
(Llandyslio parish (On CMN pages of Genuki)
Pentref bychan yw Llandysilio, ar ochr y brif-ffordd o Narberth Aberteifi, saif o fewn milldir a haner i orsaf Narberth Road. Adeiladwyd y capel cyntaf yma yn y flwyddyn 1826. Mae y les wedi ei dyddio Rhagfyr 6ed, 1825, a cheir yr enwau canlynol fel ymddiriedolwyr : - David John, Tycoch ; William Evans, Glynderwen ; Richard Owen, Brynman ; Thomas Edwards, Penfeidr; David Evan, Mountain; Phillip Adam, Llandysilio, a Michael Williams, pregethwr cynorthwyol, ac yn aelod o Glandwr ; o'r lleill, yr oedd tri yn aelodau o Henllan, dau o Bethesda, a dau o Llandilo. Dyma y bobl fu fwyaf blaenllaw i adeiladu y capel cyntaf, ac i ffurfio eglwys y lle. Yr oedd cyfarfodydd yn cael eu cynal yn y
* Llythyr Mr. J. R. Thomas.
62
pentref am fwy nag ugain mlynedd cyn hyn. Yr oedd cyfarfodydd cwestiynau mewn bri mawr yn y wlad y pryd hwnw, ac yr oedd pobl y gymydogaeth yn myned i Henllan a Bethesda, a manau eraill yn y boreu, ac yn cadw ysgol yn y pentref yn y prydnawn, a chwrdd cwestiynau yn yr hwyr. Byddent yn cael ambell bregeth hefyd gan Meistri J. Lloyd, Henllan, a Henry George. Yr oeddynt yn cael gwasanaeth hen elusendy yn y pentref, yn rhad, i gynal cyfarfodydd, ac efallai fod hyn yn cyfrif paham y bu iddynt fod cyhyd cyn adeiladu capel yn y lle. Yr oeddynt yn yr arferiad o ddysgu penodau a myned i'w hadrodd i wahanol gapeli, ac hefyd i ffermdai, yn enwedig i dy Mr W. Evans, Glynderwen, a enwyd uchod. Yr oedd y gwaith yn awr dan nawdd Mr J. Lloyd, Henllan, a pharhaodd felly ar ol adeiladu y capel am rhai blynyddau. Tua diwedd y flwyddyn 1832, daeth Mr William Thomas o Rhosycaerau, ar ymweliad i'r lle, a chafodd alwad gan yr eglwys i ddyfod yma yn weinidog. Urddwyd ef ddechreu y flwyddyn ganlynol. Cymerwyd rhan yn yr urddiad gan Meistri Davies, Abergwaun ; Bateman, Rhosycaerau ; Davies, Aberteifi ; George, Brynberian ; Lloyd, Henllan, ac eraill. Bu ef yn llafurio yma am tuag un-mlynedd-ar-ddeg, pryd y rhoddodd ofal yr eglwys fyny, ac yr aeth cyn hir i America. Ni bu nemawr llewyrch ar yr achos hyd yma, a bu hyn yn gymhelliad i enwad arall weithio a chymeryd meddiant o'r gymydogaeth. Bu yr eglwys heb weinidog drachefn hyd 1852, pryd yr unodd a'r eglwys yn Bethesda i roddi galwad i Mr. D. Griffith, o athrofa Caerfyrddin. Y mae y ddwy eglwys yn parhau mewn undeb, ac o dan yr un weinidogaeth. Ailadeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1859, ac agorwyd ef yn 1860. Yr oedd Meistri J. Williams, Castellnewyddemlyn ; S. Griffith, Horeb ; E. Jones, Ynysgau, Merthyr, (Castellnewydd yn awr), yng nghyd a gweinidogion y sir, yn pregethu ar yr achlysur. Yr oedd mawr angen am y capel newydd cyn ei gael. Mae yr achos yma o'r dechreuad wedi dyoddef anfanteision i fod yn llwyddianus. Gwanaidd oedd trwy y blynyddau, ac ni wnaed yr ymdrechion gofynol i'w gryfhau. Gwrthododd yr hen bobl dda oedd yn cychwyn y gwaith gymeryd dim mwy o dir yn y les nag y safai y capel arno, er eu bod yn cael cynyg ar ddigon am bris rhesymol i wneyd mynwent. Anfantais fawr yn y wlad yw bod heb le claddu yn nglyn a'r capel. Bu hyn yn achos i lawer o deuluoedd i beidio ymuno a'r achos yn y lle. Ystyrient eu cartref crefyddol yn Henllan, Bethesda, a manau eraill, ond eu bod, er mwyn cyfleustra, yn myned i Llandysilio. Y mae y teimlad hwn wedi ei lwyr symud bellach. Bu yn adeg go dywyll ar yr eglwys fechan yn adeg ymadawiad Mr. Griffith, yn 1863. Yr oedd amryw o'r rhai ffyddlonaf wedi myned i'r America, ac ar ol ei ymadawiad ef aeth eraill drachefn, fel yr oedd yr achos yn wanaidd iawn. Ond gofalodd Duw am ei eiddo, daeth amryw deuluoedd duwiol a defnyddiol lenwi lle y rhai a ymadawsant. Yn 1864, rhoddwyd galwad i Mr. J. R. Thomas i fod yn weinidog yma ac yn Bethesda. Adfywiodd yr achos ynfawr. Dechreuwyd ymysgwyd gael tir ychwanegol, a llwyddwyd yn mhen dwy flynedd i'w gael, drwy ymdrechion Mr. G. Evans, Trefelen, yn benaf. Talodd ef ei hun 32p. am dano. Trwy gydymdrech yr eglwys, adeiladwyd ty anedd, a chyfleusterau eraill at wasanaeth y lle. Yn y flwyddyn ganlynol adgyweiriwyd y capel, fel y mae yn awr mor brydferth ag un addoldy yn y wlad. Sabboth, Awst 28ain, 1870, cynaliwyd cyfarfod ailagoriad, pryd y pregethwyd gan Meistri D. Bateman, Rhosycaerau ; E. Lewis, Brynberian, a D. Evans, Narberth.
63
Erbyn diwedd y cyfarfodydd hyn, cafwyd fod tua 12p. yn weddill ar ol talu pob treuliau, yr hyn oedd dros 250p. ; ac ni esgeuluswyd y galwadau cyffredin tra yn gwneyd y pethau eithriadol hyn. Mae yr eglwys bellach mewn gwedd lewyrchus ac addawol iawn, ac y mae sail dda i ddisgwyl y bydd yma achos cryf yn y dyfodol. Cafodd rhai nerth i ddal yn ffyddlon yn yr adeg dywyllaf ar yr achos, a chawsant fyw i weled amser gwell. Bu yr hen Stephen Lewis, Big, yn ffyddlon iawn am flynyddoedd. Byddai ef yn wastad yn holl gynlluniau yr eglwys, a gwnaeth lawer yn ei hen ddyddiau gyda'r ysgol Sabbothol, ac i hyfforddi y bobl ieuaingc. Y mae bellach wedi gorphen ei waith, ac yn mwynhau ei wobr. Y mae Mr. Evans, Trefelen, yn aros etto ; mab yw ef i'r hen W. Evans, Glynderwen, un o gychwynwyr yr achos. Hyfrydwch ei enaid yntau yw gweled llewyrch ar y gwaith ag y bu y teulu yn ei noddi mor ffyddlon am lawer o flynyddau. Rhif presenol yr eglwys yw 145 o aelodau.
Y diaconiaid presenol ydynt, Griffith Evans, Trefelen; John Williams, Llandre ; David Marsden, Rhydhir ; Simon Williams, Llandysilio, a Thomas Beynon, Rhydwen.*
(Whitchurch parish)
Dechreuwyd yr achos yma yn niwedd y ganrif ddiweddaf. Y moddion crefyddol cyntaf yma oedd cyfarfod gweddi, yr hwn a gynaliwyd yn nhy Mrs Cadben Lewis, nain Mr B. B. Williams, yn awr o Chicester. Yn fuan wedi hyny daeth Meistri W. Harries, Rhodiad, a T. Skeel, Trefgarn, yma i bregethu yn achlysurol, a chyn hir daethant yma yn rheolaidd bob mis. Ystyrid y lle ar y dechreu cydrhwng Trefgarn a Rhodiad, a deuai aelodau o'r ddau le yma, ond daeth y lle yn fuan i gael ei gyfrif yn nglyn a'r Rhodiad, a than ofal Mr W. Harries. Adeiladwyd yma gapel yn y flwyddyn 1798. Talwyd holl draul codiad y capel trwy i Mr. Harries gymeryd taith i Loegr gasglu, a dychwelyd gyda digon o arian i dalu yr holl ddyled. Nid amcenid sefydlu eglwys yma ar y pryd, er y cynelid yma wasanaeth crefyddol yn rheolaidd, etto yn Rhodiad y cynhelid y cyfarfodydd eglwysig, ac yno y cyrchai yr holl aelodau i gymundeb. Yn flwyddyn 1814, ymsefydlodd Mr. James Griffiths yn yr ardal, a dewiswyd ef yn gydweinidog a Mr. Harries, a bu y ddau yn cydlafurio hyd 1823, pan y cymerodd anghydwelediad le ar achos o ddysgyblaeth. Yr oedd ddau weinidog yn wahanol eu barn ar y mater, a'r eglwys yn rhanedig lawn ei golygiadau. Yr oedd y gwahaniaeth barn oedd rhwng y ddau weinidog ar yr hyn a elwid yn "system newydd," wedi achosi peth drwgdeimlad, ond y cweryl yma yn nghylch y ddysgyblaeth a ddygodd bethau i bwynt. Terfysgwyd yr holl eglwys ar y pryd, a'r diwedd fu i nifer o'r eglwys ymneillduo ac ymffurfio yn eglwys Annibynol yn Solfach. Gwnaed hyn yn mis Rhagfyr, 1823, a rhoddwyd galwad i Mr. W. Harries i fod yn weinidog, gan adael Rhodiad yn gwbl dan ofal Mr. J. Griffiths. Rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Mortimer, yr hwn oedd er's blynyddoedd yn bregethwr cynorthwyol cymeradwy yn Rhodiad, ond yn awr a symudasai gyda'r gangen i Solfach, fod yn gydweinidog a Mr. Harries, ac urddwyd ef Mai 20fed, 1824. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri Ll. Rees, Trewyddel ; T. Skeel, Penybont ; W. Harries, Rhodiad; M. Jones, Trelech;
* Llythyr Mr. J. R. Thomas.
64
J. Evans, Penygroes; H. George, Brynberian; D. Thomas, Wottonunder-edge, a W. Davies, Abergwaun.* Bu y ddau weinidog yn cydlafurio yn gysurus, a chyda gradd o lwyddiant hyd Rhagfyr 17eg, 1830, pryd y bu Mr Harries farw, yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau, ac yna disgynodd yr holl ofal ar Mr Mortimer. Nid oedd ond deunaw o aelodau yn y lle pan urddwyd Mr Mortimer, ond cynyddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa fel y bu raid rhoddi adran newydd wrth yr hen gapel, a chyn hir bu raid ei ailadeiladu fel y mae yn awr, ac erbyn y flwyddyn 1849, yr oedd nifer yr aelodau yn 250.
Erbyn hyn yr oedd iechyd Mr Mortimer yn gwaelu, ac anogodd yr eglwys i edrych allan am wr ieuangc i'w bugeilio, ac y gwnai yntau ei oreu i'w gynorthwyo tra y gallai. Rhoddwyd galwad i Mr John D. Jones, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn weinidog yma Awst laf a'r 2il, 1849. Tua thair blynedd yr arhosodd Mr. Jones, ac yr oedd nifer yr aelodau pan yr ymadawodd yn llawer llai na phan y daeth yma, a'r gwrandawyr gan mwyaf wedi cefnu. Enciliodd o rengoedd Ymneillduaeth am gysgod yr Eglwys Sefydledig. Wedi ei ymadawiad ef cymerodd Mr John Griffiths, Trefgarn, yr hwn oedd wedi ymryddhau oddiwrth y weinidogaeth yn Nhrefgarn, ofal yr eglwys yma, ac er na chydnabyddwyd ef yn ffurfiol yn weinidog iddi, etto bu am fwy na phedair blynedd yn bwrw golwg drosti. Bu y tymor hwnw yn dymor lled lewyrchus ar yr eglwys. Ychwanegwyd at ei rhif, ac adgyweiriwyd y capel trwy draul o 200p., ac yr oedd y cwbl wedi eu talu cyn cyfarfod yr agoriad, Chwefror 17eg a'r 18fed, 1856. Cyn hir symudodd Mr Griffiths i gymeryd gofal yr eglwys yn Llanymddyfri; a rhoddwyd galwad i Mr John Gwyn Jones, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Mehefin l6eg a'r 17eg, 1858. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr D. M. Davies, Wern ; holwyd y gofyniadau gan Mr D. Evans, Trewyddel ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr W. Davies, Abergwaun ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr J. Davies, Glandwr ; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr T. E. Evans, Rhos. Llai na blwyddyn yr arhosodd Mr. Jones yma, canys symudodd i Lacharn, Sir Gaerfyrddin, ac yn yr adeg yma bu farw yr hen weinidog Mr Mortimer, yn 71 oed.
Wedi bod am rai blynyddoedd yn ymddibynu ar weinidogaeth gynorthwyol, a'r achos yn myned rhagddo yn siriol, rhoddwyd galwad Mr Thomas Lewis, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Gorphenaf 5ed, 1863. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Proff. Morgan, Caerfyrddin ; holwyd y gofyniadau arferol gan Mr J. Lewis, Henllan ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan yr hybarch W. Davies, Abergwaun ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr I. Williams, Trelech, ac i'r eglwys gan Mr S. Evans, Hebron. Yr oedd yn bresenol ar y pryd un-ar-bymtheg o weinidogion heblaw y rhai a enwyd uchod ; a chymerodd y rhan fwyaf o honynt ran yn y cyfarfodydd cysylltiedig a'r urddiad. Bu Mr. Lewis yma yn llafurio am yn agos i naw mlynedd, hyd nes y derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwysi yn Llanybri a Smyrna, ac y symudodd yno yn mis Mawrth, 1872.
Mae yma lawer o deuluoedd cyfrifol a pharchus wedi bod yn nglyn a'r achos yma o bryd i bryd, ac felly y mae yn awr, a'r eglwys yn cael ei theimlo yn ddylanwadol yn y gymydogaeth. Ni chyfodwyd yma ond un
* Evangelical, 1824. Tudal. 405.
65
pregethwr, sef Benjamin B. Williams, yr hwn a addysgwyd yn athrofa Aberhonddu, ac y mae yn awr yn weinidog Chichester.
WILLIAM HARRIES. Ganwyd ef mewn lle a elwir Treysgaw, yn agos i Drefgarn, Tachwedd 17eg, 1749. Dechreuodd deimlo argraffiadau crefyddol ar ei feddwl yn fore, a bu mewn pryder dwfn am ei gyflwr ; ond cafodd ymwared wrth ddarllen llyfr o waith Bunyan ar y cyfamodau. Rhwymwyd ef yn egwyddorwas ddysgu bod yn saer, mewn pentref bychan a elwir y Ffrogol. Yr oedd yn y pentref hwnw hen wr crefyddol o Fedyddiwr yn byw, yr hwn a ddylanwadodd yn fawr ar William Harries er ei siglo yn ei olygiadau ar Fedydd. Yr oedd y ddau yn gyfeillion mawr. Arferai fyned gyda'r hen wr i gapel y Bedyddwyr yn Pendergast, Hwlffordd, bob boreu Sabboth ; ac elai yr hen wr bob prydnawn Sabboth i gapel y Green. Parodd yr anesmwythder yn nghylch bedydd drallod mawr i'w feddwl. Ysgrifenodd at weinidog Trefgarn am eglurhad ar y mater, ac wedi i hwnw ddeall mai ymofynydd didwyll am y gwirionedd ydoedd, cymerodd drafferth i'w ddysgu a'i hyfforddi, a rhoddi iddo lyfrau i'w darllen ar y pwngc, nes ei gadarnhau yn hollol ; a daeth ar ol hyny yn ddihareb yn ei wlad fel dadleuydd galluog dros fedydd babanod. Pan o gylch ugain oed derbyniwyd ef yn gyhoeddus yn aelod o'r eglwys yn Nhrefgarn, ac anogwyd ef yn fuan i arfer ei ddawn i bregethu. Byddai ar ol hyn yn myned yn gyson i rywle neu gilydd bregethu, ac yr oedd yn dra derbyniol yn mha le bynag yr elai. Gwedi ymadawiad Mr J. Richards i America, urddwyd Mr Harries yn weinidog yn Rhodiad, Hydref 21ain, 1795. Yr oedd y tymor yma yn dymor o gyffroad ac anesmwythder mawr yn wladwriaethol ; a pharodd tiriad y Ffrangcod yn Mhencaer i'r Ymneillduwyr gael eu drwgliwio a'u gwarthruddo yn fawr. Cyhuddid hwy o fod yn elynion i'r llywodraeth, ac mai rhyw gydfwriad a hwy a ddygodd y Ffrangcod drosodd, a phob cabl-eiriau o'r fath a allasai gelyniaeth eu caseion eu dyfeisio. Parodd hyn i rai lwfrhau, a rhoddwyd i fyny am dymor y cyfarfodydd a gynhelid mown anedd-dai, ac yr oedd rhai mor ddigalon fel yr ofnent agor eu drysau i'r Ymneillduwyr. Teimlwyd hyn yn neillduol yn amgylchoedd Tyddewi, lle yr oedd yr Eglwys Gadeiriol, a'r holl swyddogion a berthynent iddi, yn gwneyd eu goreu i greu rhagfarn yn meddyliau poblach anwybodus. Cafodd Mr. Harries yr anfantais yma ar gychwyniad ei weinidogaeth, ond penderfynodd ar ol ychydig ymbwyll fyned yn mlaen, a gwelodd yn fuan arddeliad ar ei lafur. Yr oedd mwy o wres a thanbeidrwydd ynddo nag oedd mewn llawer o'i gyfoedion a'i gydoeswyr, ac ar adegau yn nechreuad ei weinidogaeth, treuliwyd gan yr eglwys yn Rhodiad nosweithiau cyfain weddio a chlodfori yr Arglwydd. Trwy ei lafur ef y dechreuwyd yr achos yn Solfach ; ac yn y flwyddyn 1823 ymneillduodd ef gyda nifer o'r aelodau o Rhodiad ac ymffurfiasant yn eglwys Annibynol yn Solfach ; a bu yn weinidog iddynt hyd derfyn ei oes. Wedi claddu ei wraig, aeth i fyw at ei ferch, Mrs Morris, mewn fferm o'r enw Dydwell, yn mhlwyf Camrose, an er fod ganddo naw milldir o ffordd, teithiai i Solfach dri Sabboth o bob mis am bum mlynedd, a hyny fynychaf ar ei draed, a byddai yn wastad yn
66
brydlawn erbyn deg o'r gloch. Symudodd at i fab, Mr John Harries, i Solfach, lle y treuliodd y pedair blynedd olaf o'i oes ; ac yn ystod y blynyddoedd hyny gwnai ei oreu, yn ol ei oedran, i gyflawui ei weinidogaeth. Ymwelai a theuluoedd yr eglwys, a chymerai sylw neillduol o'r bobl ieuaingc, ac yr oedd yn arfer cyfarfod yr ieuengctyd yn Solfach am wyth o'r gloch bob boreu Sabboth i'w hegwyddori mewn gwybodaeth ysgrythyrol a duwinyddol. Yr oedd yn amlwg arno yn ei flynyddoedd diweddaf ei fod yn addfedu yn gyflym i'r nefoedd, ac yn ei gystudd dangosodd yn eglur ei fod yn mwynhau yn helaeth o ddiddanwch yr Efengyl. Bu farw, Rhagfyr 17eg, 1831, yn 81ain oed, wedi treulio mwy na haner can mlynedd i bregethu yr efengyl. Pregethwyd ar ddydd ei gladdedigaeth yn nghapel Solfach gan ei hen gyfaill Mr Skeel, a dygwyd ei gorph i fynwent Tregroes, lle y gorphwys hyd foreu yr adgyfodiad cyffredinol.
THOMAS MORTIMER Ganwyd ef yn Nhrewellwell, yn mhlwyf Dewi, Medi laf, 1788. Yr oedd ei fam yn ferch i Mr W. Maurice, gweinidog Trefgarn, ac yr oedd ei rieni mewn amgylchiadau bydol cysurus. Cafodd addysg gyffredinol dda pan yn ieuangc, mewn ysgol ramadegol yn Nhyddewi, ac nid esgeuluswyd ei addysg grefyddol ; a phan yr oedd yn 20ain oed derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Rhodiad gan Mr Harries. Anogwyd ef ymhen amser ddechreu pregethu, ac wedi ffurfio eglwys Annibynol yn Solfach, urddwyd ef yn gydweinidog a Mr Harries, ac wedi marwolaeth Mr Harries disgynodd yr holl ofal arno. Yr oedd Mr Mortimer yn ddyn cryf, yn gorphorol a meddyliol, ac yn taflu ei holl galon i bob peth yr ymaflai ynddo. Gan ei fod mewn amgylchiadau bydol cysurus, ac yn dirfeddianwr cyfrifol, edrychid i fyny ato gan ei gymydogion, ac yr oedd yn wr o gyngor iddynt ar bob amgylchiad pwysig. Yr oedd wybodaeth gyffredinol, a'i barodrwydd bob amser i gynorthwyo y rhai a elai ar ei ofyn yn ei wneyd yn ddyn gwerthfawr yn yr ardal. Yr oedd yn ddyn penderfynol a diysgog yn ei olygiadau ar byngciau gwladol a chrefyddol, a safai yn wastad dros yr hyn a gredai oedd yn iawn, Beth bynag fyddai y canlyniadau. Er ei fod wedi i ddwyn i fyny yn y plwyf lle yr oedd gorsedd eglwysyddiaeth yn y sir, etto yr oedd ef yn Ymneillduwr cydwybodol a didroi yn ol, ac yn wastad yn gyson yn ymlynu wrth ei egwyddorion, fel yr oedd yn hawdd i bawb wybod pa le i'w gael. Yr oedd o dymer naturiol fywiog a chyffrous; ond yr oedd yn nodedig o ffyddlon a didwyll i'w gyfeillion, ac yr oedd ei dy yn gartref cysurus i bawb a elai heibio. Cydnabyddid ef gan bawb a'i hadwaenai yn gristion trwyadl, ac yr oedd bob amser yn barod i roddi ei gefnogaeth i bob achos da. Fel pregethwr yr oedd yn fywiog a gwresog, er nad oedd yr hyn a gyfrifid gan rai yn bregethwr mawr a dwfn ; etto yr oedd ei bregethau yn cynwys mer yr efengyl, ac yn cael eu traddodi gydag egni a difrifoldeb. Yn moreu a chanol ei oes cymerodd ran fawr yn y dadleuon duwinyddol oedd yn cyffroi y wlad; ac yr oedd ei gydymdeimlad gyda'r hen bobl ofalus y rhai a ofnent fod rhyw rai o'u brodyr yn gwyro oddiwrth y ffydd ; ond yn ei flynyddoedd diweddaf yr oedd ei olygiadau wedi eu cymedroli i fesur mawr, a'i weinidogaeth yn dwyn gwedd nodedig o ymarferol a chymhelliadol. Cymerai ddyddordeb mawr yn mhobl ei ofal, ac yn addysg y genedl ieuangc, ac nid oedd dim yn ormod ganddo ei wneyd drostynt, a chafodd weled yn y llwyddiant a fu ar ei ymdrechion na fu ei lafur yn ofer. Tarawyd ef gan ergyd o'r parlys ryw ddwy flynedd cyn ei farwolaeth, yr hyn a'i hanalluogodd i gyflawni ei ddyledswyddau fel cynt ; ond amlygodd
67
yn ei gystudd a'i waeledd, fod ei enaid yn mwynhau o gysuron yr efengyl a bregethasai gyda'r fath flas yn ei fywyd. Bu farw, Gorphenaf 16eg, 1859, yn 71ain oed, a chladdwyd ef yn barchus yn mynwent Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Gadawodd weddw ac amddifaid ar ei ol; a merch iddo ef ydyw Mrs Lewis, gwraig Mr T. Lewis, Solfach gynt, ond yn awr o Lanybri, gerllaw Caerfyrddin. Mae crefydd wedi bod yn y teulu yn awr er's cenhedlaethau, ac arhosed yn yr achau o oes i oes.*
(Hayscastle parish)
Cangen o Trefgarn ydyw yr eglwys a gyferfydd yn y lle yma. Bu pregethu gan y Methodistiaid Calfinaidd yn yr ardal am flynyddau, a meddyliasant unwaith am godi capel yn y fan lle y saif capel Penybont, ond oherwydd rhyw amgylchiadau rhoddwyd y meddwl hwnw i fyny ganddynt. Yn y flwyddyn 1797 dechreuwyd pregethu gan weinidogion Trefgarn mewn ty fferm o eiddo Sarah Williams, Ford, yn mhlwyf Castellhaidd, ac o hyny allan pregethwyd yma yn fisol, yn benaf gan Mr T. Skeel. Yn y flwyddyn 1807 cafodd Mr Skeel les ar ddarn o dir gan J. Knox, Ysw, ar ran o fferm Mr W. Bowen, Ford, ac adeiladwyd capel bychan arno. Y prif bersonau heblaw Mr Skeel a gymerasant ran yn adeiladiad y capel oeddynt Mr James Williams, Ford ; Mr Davies, Castellwilia; Mr Joseph Morse a Mr John Maddocks, Broadmoor. Mewn cysylltiad a chodiad y capel digwyddodd amgylchiad hynod iawn. Yn y flwyddyn hono yr oedd clefyd trwm yn y wlad, a bu ugeiniau trwy y cylch yma farw o hono, ac yn eu plith yr holl seiri meini a weithient wrth y capel. Yr oedd anhawsder mawr erbyn hyn i gael neb i fyned yn mlaen adeilad, nid yn gymaint oherwydd prinder crefftwyr ag oblegid ofn y clefyd. Dan yr amgylchiadau, dymunodd Mr Skeel ar Mr Williams, Ford, i dreio cael rhywun i fyned yn mlaen a capel, ac y rhoddai efe ddeg swllt i bwy bynag a'i cymerai yn ychwanegol at gyflawn dal am wneyd y gwaith. Cafodd Mr Williams gan hen wr o'r gymydogaeth gymeryd y gwaith, ac aeth adref yn llawen gan ddweyd wrth ei wraig ei fod wedi ei gymeryd, a'i fod wedi cael rhodd o ddeg swllt yn ychwanegol at ei dal am hyny. Ond cynhyrfodd yr hen wraig i'r fath raddau rhag ofn iddo gael y clefyd os elai i weithio i'r capel, fel y gorfododd ef i roddi y deg swllt yn ol yn ddioed, a rhoddi i fyny y meddwl am weithio yn y fath le. Ac felly y bu, ond cyn pen pythefnos bu yr hen wr farw o'r clefyd, er heb fyned i'r capel i weithio. Llwyddwyd, pa fodd bynag, i orphen y capel, a thrwy gydymdrech yr ardalwyr a chyfeillion Trefgarn, talwyd yr holl draul. Ar achlysur agoriad y capel, pregethodd Meistri W. Griffith, Glandwr, a J. Davies, Bethlehem. Ffurfiwyd yma eglwys o aelodau gwreiddiol o Trefgarn yn fuan wedi codi y capel, a pharhaodd y lle yma mewn cysylltiad a Threfgarn hyd y flwyddyn 1821 , pryd y cyfyngodd Mr Griffiths ei lafur i Trefgarn ac y cymerodd Mr Skeel ofal yr eglwys hon. Cynaliwyd yma gyfarfod, Tachwedd 6ed, i gydnabod annibyniaeth yr eglwys, ac yr oedd Meistri J. Meyler, Rhosycaerau, a W. Davies, Abergwaun, yma ar yr achlysur. Rhifai yr eglwys ar y pryd 52ain o aelodau. Ar sefydliad yr eglwys, dewiswyd John Maddocks, Broadmoor; William Bowen, Ford; John Maddocks, Creffty, yn
* Cafwyd defnyddiau yr hanes uchod gan mwyaf o lythyrau Mr Lewis, Llanybri yn awr, Mr T. M. Rees. Carnwchwr, a chofiant Mr. Harries yn y Diwygiwr am Awst a Medi 1836, yr hwn a ysgrifenwyd gan Mr. Mortimer.
68
henuriaid ; James Williams, Ford; Joseph Morse, Trewma; a Mr Skeel Castle Hill, yn ddiaconiaid. Yr oedd y dynion hyn yn wyr rhagorol yn mysg y brodyr yn eu dydd. Mae enw Mr Maddocks, Broadmoor, yn uchel yn y gymydogaeth hyd y dydd hwn fel dyn duwiol, ac yn gwir ofalu am bobl ieuaingc y gynnulleidfa yn enwedig, ac yn selog ryfeddol dros ddechreu pob moddion yn amserol. Bu William Bowen yn flaenor y canu am flynyddau. Nid oedd yn sicr iawn o'r don bob amser, ond gwnai gynyg teg drachefn a thrachefn, ac os methai yn lan, troai ei wyneb at y pregethwr, a than wenu yn siriol arno, dywedai " gair bath arall os gwelwch chwi yn dda Syr." Coffeir am John Maddocks, Creffty, fel gwr nodedig am ei dduwioldeb. Mae llawer o weinidogion yn awr yn fyw sydd yn cofio yn dda am Mr Williams, Ford; gan mai yn ei dy ef y llettyent. Yr oedd yn ddyn o synwyr naturiol cryf, yn dra chywir yn ei farn, ac yn nodedig am ei garedigrwydd. Cyfrifid Mr Morse, Trewma, a Mr Skeel, Castle Hill, yn ddynion caredig, haelionus, a ffyddlon yn holl wasanaeth y ty ; ac y mae lluaws o'u perthynasau yn aros yma ac wedi etifeddu eu rhinweddau.
Yn y flwyddyn 1824, dychwelodd Mr D. Davies i'r ardal, a dewiswyd ef i gydlafurio a Mr Skeel yma ac yn y gangen yn Zion's Hill. Yn y flwyddyn 1831 ailadeiladwyd y capel a gwnaed ef yn helaethach. Pregethwyd yn ei agoriad gan Meistri H. Evans, Penbre; J. Evans, Penygroes, a Caleb Morris, Llundain. Yr oedd yr eglwys erbyn hyn wedi cynyddu i gant o nifer. Cydlafuriodd y ddau weinidog yn unol hyd farwolaeth Mr Skeel, yr hyn a gymerodd le, Hydref 6ed, 1836, yn 78ain oed, a daeth yr holl ofal o hyny allan ar Mr Davies, a pharhaodd i wylio drosti hyd y flwyddyn 1851, pryd y teimlodd fod y gwaith yn ormod iddo, ac y rhoddodd yr eglwys yma i fyny gan gyfyngu ei weinidogaeth i Zion's Hill yn unig. Cyn diwedd y flwyddyn hono, rhoddodd yr eglwys yma alwad iMr Dan Jones, yr hwn a fuasai yn derbyn ei addysg dan ofal Dr. George Rees, Abergwaun, ac urddwyd ef yma, Ionawr 28ain, 1852. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr E. Lewis, Brynberian ; holwyd y gofyniadau gan Mr J. Griffiths, Trefgarn ; dyrchafwyd yr urddweddi gan Dr. Rees, Abergwaun ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr S. Thomas, Trefdraeth, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr D.Davies, Aberteifi. Mae Mr Jones yn parhau i lafurio yma, ac y mae yr achos mewn agwedd lewyrchus.
Codwyd yma ddau i bregethu.
69
(Whitechurch parish)
"Dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn yr ardal yma mewn lle a elwir Cilcam, yn mhlwyf Eglwyswen. Yr oedd David Evans, Dyffrynmawr, yn aelod o'r eglwys yn Llechryd, ac yn pregethu yn achlysurol, a'i wraig yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Capel-newydd; ond ni wnaed cynyg ar sefydlu achos yn y lle hyd y flwyddyn 1765, pryd yr ymgymerodd Mr. J. Griffiths, Glandwr, a nifer o'r aelodau â hyny. Buwyd dros rai blynyddoedd yn addoli yn Cilcam cyn adeiladu y capel, ac nis gwyddom pa flwyddyn y gwnaed hyny, na phwy oedd y personau mwyaf blaenllaw gyda'r gorchwyl. Mewn ysgrif o eiddo Mr. J. Evans, Hebron, yr hon sydd yn awr ger ein bron, dywedir, nad oedd nifer yr aelodau yma ond ychydig ar y dechreu, a thros rai blynyddoedd ni weinyddid yr ordinhad o swper yr Arglwydd iddynt ond unwaith bob tri mis, ac y disgwylid hwy i fod y ddau gymundeb arall yn Nglandwr. Bu y gofal yn hollol ar Mr. Griffiths, Glandwr, hyd y flwyddyn 1798, pryd yr urddwyd Mr. William Evan yn gynorthwywr iddo, a glynodd yr eglwys hon wrth Mr. William Evan pan yr aeth yn ymraniad yn Nglandwr, ac efe fu ei hunig weinidog hyd y flwyddyn 1818, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. John Evans, aelod o'r eglwys, ond a fuasai yn fyfyriwr yn athrofa Caerfyrddin, i fod yn weinidog yma. Urddwyd Mr. Evans, Gorphenaf 23ain, 1818, ac ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri J. Meyler, Rhosycaerau, D. Davies, Pantteg; D. Peter, Caerfyrddin; M. Jones, Trelech; a W. Evan yr hen weinidog. Yn mhen tri mis wedi urddo Mr. Evans, bu farw Mr. W. Evan, ac felly daeth gofal Hebron arno hefyd. Ymroddodd Mr. Evans yn egniol i gyflawni ei weinidogaeth, ond aeth rhai blynyddau heibio cyn y gwelodd nemawr o lwyddiant. Rhoddwn y dyfyniad canlynol o'i gofiant, yr hwn y mae yn sicr genym a ddarllenir gyda dyddordeb :-
"Wedi i mi lafurio am amryw flynyddau yn Mhenygroes, nid oeddwn yn gweled fawr o arwyddion llwyddiant. Yr oedd y gynnulleidfa yn lluosog iawn o ddynion ieuaingc. Meddyliais y gallaswn wneyd daioni trwy wneyd pregeth bwrpasol iddynt. Cyfansoddais y bregeth oreu y medrwn. Cyfodais yn foreu iawn y Sabboth canlynol i barotoi ar gyfer gwaith y dydd, ac yr oeddwn yn meddwl fod genyf bregeth dda iawn, a fy mod inau mewn yspryd priodol iawn i'w thraddodi, ac y gwnaethwn waith mawr y dydd hwnw. Pan ddaeth amser yr addoliad, aethum yn llawen tua'r addoldy. Dechreuais yn y drefn arferol; ond wedi profi afrwyddineb mawr mewn gweddi, dywedais ynof fy hun, "Os oedd y weddi yn afrwydd y mae genyf bregeth dda." Yna cymerais fy nhestyn, dechreuais bregethu, ond yn hynod o afrwydd, caled, a sych, ac yn dra anfoddhaol i mi fy hun. Cefais y cyfarfod mwyaf caled a gefais braidd erioed; ac wrth fyned, ac wedi myned adref, yr oeddwn mewn gofid parhaus oblegyd y fath gyfarfod. Yr oeddwn yn ystyried fod cyfleustra i wneyd daioni wedi ei golli, ac mai peth ofer fyddai i mi gynyg gwneyd pregeth i'r ieuengctyd drachefn. Yr wythnos ganlynol yr oeddwn yn teimlo yn anesmwyth iawn. Y nos Wener ganlynol aethym i'r gyfeillach yn isel iawn fy meddwl. Daeth dau yn mlaen yn y gyfeillach hono. Gofynais iddynt pa faint o amser oedd er pan yr oeddynt wedi meddwl am grefydd. Attebasant "Eu bod wedi meddwl dyfod at grefydd er's tro, ond mai pregeth y Sabboth diweddaf a ddarfu eu dwyn i benderfyniad yn awr." Yr oeddwn wedi synu, ac yn methu a dweyd yr un gair gan fy mod wedi cael y fath siomedigaeth, oherwydd fy mod yn credu fod llafur y Sabboth hwnw wedi myned yn gwbl ofer. Ond mewn canlyniad i'r cyfarfod hwnw derbyniwyd lluaws yn Mhenygroes am amryw flynyddau, ac ar eu derbyniad tystient mai y bregeth hono oedd wedi effeithio arnynt."
Y fath engraifft eglur nad yw llafur gonest a chydwybodol yn myned
70
heibio yn ofer. Erbyn y flwyddyn 1828 yr oedd yr achos wedi myned rhagddo fel y bu raid ailadeiladu a helaethu y capel. Symudodd Mr. Evans i ardal Hebron i fyw, yr hyn a fu yn radd o golled i'r achos ond parhaodd i gyrchu yma yn rheolaidd i gyflawni ei weinidogaeth hyd ddiwedd y flwyddyn 1843 pan y rhoddodd ofal yr eglwys i fyny, ac y dewiswyd ei fab Mr. Simon Evans, yr hwn a fuasai yn efrydydd yn athrofa Caerfyrddin, i fod yn olynydd iddo. Urddwyd Mr. S. Evans, Ionawr, 24ain, 1844. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Griffiths, Tyddewi; holwyd y gofyniadau arferol gan Mr. H. Davies, Narberth; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Evans, Hebron, tad yr urddedig; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. D. Davies, Pantteg, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. Joseph Evans, Capel Sion. Parhaodd Mr. Evans i ofalu yn ffyddlon am yr eglwys am ddeuddeng mlynedd, hyd nes ar ol marwolaeth ei dad y symudodd i gymeryd gofal yr eglwysi yn Hebron a Nebo. Yn y flwyddyn 1854, cododd yr eglwys dy i'w gweinidog, ar dir Mr. Caleb Evans, Tygwyn, yr hyn sydd yn ychwanegiad gwerthfawr at gyfleusterau gweinidog mewn lle fel hyn. Cyn diwedd y flwyddyn 1856 rhoddwyd galwad i Mr. David Jones, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Chwefror 4ydd, 1857. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Davies, Pantteg; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Davies, Glandwr; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. S. Evans, Hebron; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. S. Griffiths, Horeb; ac i'r eglwys gan Mr. H Jones, Caerfyrddin. Bu Mr. Jones yma hyd Hydref 3ydd, 1868, pryd y darfu ei gysylltiad â'r weinidogaeth yma. Yn Hydref 1869 cydnabyddwyd Mr. John R. Williams, yr hwn a urddasid yn Bettwsgwerfilgoch, yn weinidog yr eglwys yma, a bu yma hyd Chwefror,1872, ac y mae yr eglwys er hyny heb sefydlu ar weinidog. Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon :-
71
(Llanfyrnach parish)
"Cynhelid ysgol Sabbothol gan aelodau Penygroes yn Bwlchyclawdd, ac ar ol hyny yn y Fronlwyd. Rhoddodd Mr. T. Thomas, Fronlwyd, dir at adeiladu addoldy, a mynwent yn ei ymyl. Agorwyd ef Mawrth 27ain, 1846. Ni fwriadwyd ef ar y cyntaf ond i gynal ysgol Sabbothol a phregethu yn achlysurol ynddo; ond yn y flwyddyn 1858, yn ystod gweinidogaeth Mr. D. Jones, ffurilwyd yma eglwys. Mae cychwynwyr yr achos yma, agos oll erbyn hyn, wedi eu symud ymaith ; ac y mae y ddau frawd ffyddlon John James a Thomas James yn gorwedd yn y fynwent gerllaw. Simon James hefyd, yr hwn oedd yn fawr ei sel gydag adeiladaeth y capel, a symudodd i ardal Llechryd, ac a fu farw yno. Mae David Morris hefyd, yr hwn a fu am flynyddau yn arwain y canu, wedi ei gymeryd ymaith. Mae yr eglwys fechan yma mewn tymor byr wedi dyoddef colledion mawr. Mae rhagolygon yr eglwys yma yn fwy addawol nag y buont. Mae gorsaf ar reilffordd Dyffryn Taf, yr hon sydd yn cychwyn o Whitland, i fod yn ymyl y capel yma, ac y mae yr eglwys yn y lle yn paratoi at adeiladu ......................
( Gareth Hicks - 27 March 2008)
Find help, report problems, and contribute information.
| Copyright © GENUKI and Contributors 1996
to date |