GENUKI Home page upPembrokeshire Contents Contents
 
 

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

  Pembrokeshire section (Vol 3)

  Pages 86 - 99

See main project page

Proof read by Maureen Saycell (March 2008)

 

  • BRYN SEION  (Lampeter Velfrey parish)(with translation)
  • BETHEL  (Llanddewi Velfrey parish)(with translation)
  • GEDEON  (Dinas parish)(with translation)
  • TENBY (with translation)

 


Pages 86 - 99

86

(Continued) NEBO

............oedd un o sylfaenwyr yr achos ; ac yn un a fu yn ffyddlawn tuag at Dduw a'i dy. Mae cychwynwyr yr achos yma gan mwyaf wedi myned; ac o'r to cyntaf, nid oes yn aros ond Edward Davies, Pantyrodyn, yr hwn or dechreuad yr achos sydd wedi bod yn nodedig o ffyddlawn gyda'r ysgol Sabbothol ; a Mrs Griffiths, Castellgarw, yr hon a gyfrifir yn fam yn Israel ; ac er yn fethedig, y mae yn parhau yn olewydden werdd yn nhy yr Arglwydd.

Ni chodwyd yma ond un pregethwr, sef Jason Jenkins, yr hwn a addysgwyd yn athrofa Caerfyrddin, ac a fu am flynyddau yn Mhontypool, ond sydd yn awr yn Dursley, Swydd Gaerloyw.*

 

TREFDRAETH

(Newport parish)

Mae yn debygol fod gwasanaeth crefyddol lled gyson yn cael ei gynal yn y dref hon, gan eglwys Brynberian, oddiar ddechreuad y ddeunawfed ganrif, os nad cyn hyny. Yn ol yr ystadegau a gasglwyd gan y Dr. John Evans, yn 1715, yr ydym yn cael fod yma achos Ymneillduol dan yr un weinidogaeth a Brynberian a'r Drewen, yn y flwyddyn hono. Nid ydym wedi gallu dyfod o hyd i enwau neb o gychwynwyr yr achos na'r amgylchiadau dan ba rai y cychwynwyd ef. Mewn anedd-dai y byddid yn addoli yma cyn adeiladu y capel. Mewn ty hen wr nodedig am ei dduwioldeb, o'r enw Jacob, y buwyd yn addoli am y tair-blynedd-ar-ddeg diweddaf cyn ffurfiad yr eglwys yn gangen Annibynol. Bernir i hyny gymeryd lle yn y flwyddyn 1740. Nid ydym yn gwybod pa un ai yn y flwyddyn hono, neu cyn hyny, yr adeiladwyd y capel cyntaf. Y tebygolrwydd yw, mai yr un pryd yr agorwyd y capel ac y ffurfiwyd yr eglwys. Parhaodd yr achos hwn dan yr un weinidogaeth a Brynberian hyd y flwyddyn 1818, pryd y rhoddwyd galwad i Mr William Lewis, o athrofa Caerfyrddin, yr hwn a urddwyd yma Gorphenaf 22ain, yn y flwyddyn hono. Cymerwyd rhan yn ngwasanaeth yr urddiad gan y Meistri T. Jones, Saron ; D. Peter, Caerfyrddin; D. Davies, Pantteg ; J. Rowlands, Llanybri ; J. Griffiths, Tyddewi, ac H. George, Brynberian. Bwriedid i Mr Lewis gynorthwyo gyda Mr H: George, yn holl gylch ei weinidogaeth, ond i ofalu yn benaf am yr eglwys yn Nhrefdraeth. Bu sefydliad Mr Lewis yn y lle yn  adfywiad nodedig i'r achos. Cynyddodd y gynnulleidfa yn fawr, ac ychwanegwyd llawer at yr eglwys. Ond ni welodd Pen yr eglwys yn dda, roddi gwasanaeth y gweinidog gwerthfawr hwn ond am ychydig iawn o amser i'r eglwys ar y ddaear. Yn mhen ychydig gyda dwy flynedd wedi ei urddiad, gwaelodd ei iechyd, a bu farw yn mlodeu ei ddyddiau, yn Ebrill 1821. Yn mhen ychydig amser wedi marwolaeth Mr Lewis, rhoddwyd galwad i Mr Thomas Jones, myfyriwr o athrofa Llanfyllin. Urddwyd ef yma yn 1822, a bu yma hyd y flwyddyn 1836, pryd y symudodd i Tiers-cross a Rosemarket. Y mae er's llawer o flynyddau bellach, wedi cefnu ar Ymneillduaeth, ac yn offeiriad yn yr Eglwys Wladol. Bu yn adeg gythryblus a thymestlog ar yr eglwys hon o gylch diwedd gweinidogaeth Mr Jones, a chafodd yr eglwys glwyfau mor ddyfnion, fel y cymerwyd iddi rai blynyddoedd i gwbl iachau. Nid ydym am ail godi yr amgylchiadau ; ond daeth pob plaid i deimlo eu bod wedi myned yn mhell iawn o ysbryd yr efengyl yn eu gweithrediadau. Wedi ymadawiad Mr Jones, disgynodd gofal yr eglwys ar Mr H. George, a Mr J. Owens;  a bu y ddau yn cydweinidogaethu ynddi hyd

*Llythyr Mr S. Evans, Hebron.

87

farwolaeth y blaenaf, pryd y cyfyngodd yr olaf ei lafur i Maenclochog a Bethesda, ac y gadawyd Brynberian a Threfdraeth a'r Felindre i edrych allan am weinidogion iddynt eu hunain. Bu yr eglwys yma ar ol hyny., yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol hyd y flwyddyn 1843, pryd y rhoddwyd galwad i Mr Samuel Thomas, myfyriwr yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Awst 9fed. a'r 10fed, yn y flwyddyn hono. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn cymeryd rhan yn ngwasanaeth yr urddiad :- E. Dayies a Henry Griffiths, athrawon yr athrofa yn Aberhonddu ; D. Rees, Llanelli ; S. Griffiths, Horeb ; T. Luke, Abergwaun ; D. Davies, Aberteifi ; J. Thomas, Bwlchnewydd ; E Jacob, Abertawy ; W. Morgan, Caerfyrddin yn awr, y pryd hwnw o athrofa Hackney ; E. Jones, Crugybar, ac eraill. Bu Mr Thomas yn llafurus, parchus, a llwyddianus iawn yma am lawer o flynyddau. Yn y flwyddyn 1844, adeiladwyd y capel presenol yma, yr hwn sydd yn adeilad cadarn, helaeth, cyfleus, a hardd iawn. Costiodd o bedwar-cant-ar-ddeg i bymtheg cant o bunau, a thalwyd y cwbl mewn ychydig amser, heb fyned allan o'r ardal i gasglu atto. Hwn yw y trydydd capel yma. Yr ydym wedi methu cael allan amser adeiladiad y ddau flaenorol. Mae yma fynwent helaeth, ysgoldy a thy anedd, a'r tir oll yn feddiant i'r eglwys, wedi cael ei roddi yn anrheg iddi gan William Lloyd, Penyfeidir, un o'r hen aelodau ffyddlon a fu am flynyddau lawer yn un o brif golofnau yr achos yn y lle. Rhoddodd y gwr da hwn hefyd bum' cant o bunau yn ei ewyllys at gynal y weinidogaeth yn Nhrefdraeth a Gedeon ; ond oherwydd rhyw ddiffyg yn yr ewyllys, collwyd yr arian hyny. Wedi bod yn llafurio yma am fwy na deunaw mlynedd, gwnaeth Mr Samuel Thomas  feddwl i fyny i symud i Bethlehem, St. Clears, yn nechreu y flwyddyn 1861, er galar mawr i bobl Trefdraeth. Yn fuan wedi ymadawiad Mr Thomas, rhoddwyd galwad i Mr J. 0. Morris, o athrofa Aberhonddu, genedigol o ardal Glynarthen. Urddwyd ef yma Gorphenaf 30ain a'r 31ain, 1861, pryd y gweinyddwyd than y gweinidogion canlynol : - D. Jones, Aberteifi ; W. Thomas, Whitland ; W. Davies, Rhosycaerau ; J. M. Evans, Trefgarn ; H. Jones, Ffaldybrenhin ; W. Roberts a J. Morris, athrawon athrofa Aberhonddu ; W. Jones, Glynarthen ; D. Davies, Aberteifi ; J. Davies, Gedeon, ac eraill. Mae Mr Morris yn parhau i lenwi ei le yn dda yma hyd yn bresenol, ac yr ydym yn hyderu fod iddo flynyddau lawer etto o ddefnyddioldeb yn y lle. Mae yma achos cryf a chynnulleidfa fawr. Cangen o'r eglwys hon ydyw Gedeon. Yn amser Mr. Thomas Jones yr ymneillduodd oddiwrth y fam eglwys. Y mae capel bychan yn awr yn cael ei adeiladu gan yr eglwys, tua milldir o'r dref, mewn ardal lle byddid er's blynyddau yn arfer cynal moddion crefyddol mewn anedd-dai.

Cafodd y personau canlynol eu cyfodi i bregethu yn yr eglwys hon :

88

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

Er fod yr eglwys hon yn agos i ddau ganrif o oed, etto gan mai dan yr un weinidogaeth a Brynberian y bu hyd o fewn haner can mlynedd yn ol, mae bywgraffiadau ei gweinidogion cyntaf, wedi cael eu rhoddi yn nglyn a hanes y fam eglwys yn Brynberian ; a chan i Mr Samuel Thomas symud oddiyma cyn ei farwolaeth, yn nglyn a hanes Bethlehem y rhoddir ei fywgraffiad ef. Felly yr unig un y mae genym i roddi ei hanes yma yw

WILLIAM LEWIS. Ganwyd ef yn agos i Gaerfyrddin, mewn lle o'r enw Bola Haul, yn y flwyddyn 1791. Yr oedd ei rieni yn isel yn eu hamgylchiadau bydol, ac felly ni chafodd nemawr o fanteision addysg yn ei febyd. Ymunodd yn dra ieuangc a'r eglwys yn Heol Awst, Caerfyrddin. Yn mhen rhai blynyddau, cafodd ei anog gan yr eglwys i ddechreu pregethu. Gan mai bachgen tlawd ydoedd, nid oedd ganddo fodd i gynal ei hun yn yr ysgol. Ond bu ei weinidog, Mr Peter, mor garedig a rhoddi ei addysg yn rhad iddo, nes ei fod yn gymwys i gael ei dderbyn i'r athrofa. Wedi gorphen ei amser yno, derbyniodd alwad i fod yn gynorthwywr i Mr Henry George, yn Brynberian, Trefdraeth, &c., ac urddwyd ef, fel y gwelsom, yn Nhrefdraeth yn 1818. Bu ei weinidogaeth yn nodedig o dderbyniol a llwyddianus am y tymhor byr a gafodd. Yn niwedd flwyddyn 1820 gwaelodd ei iechyd, a dychwelodd i'w ardal enedigol i orphwyso ac i wellhau, fel y gobeithiai. Ond yn lle dyfod yn well myned yn waelach waelach a wnaeth. Bu farw, Ebrill 11eg, 1821, yn ddeg-ar-hugain oed. Claddwyd ef yn mynwent addoldy Heol Awst, Gaerfyrddin. Parodd ei farwolaeth alar dwys i bawb o'i gydnabod, ac yn enwedigol bobl ei ofal. Effeithiodd yn fendithiol iawn ar amryw o'i wrandawyr, fel y darfu i lawer o honynt mewn canlyniad, ymuno a'r eglwysi yn Nhrefdraeth, Brynberian, y Felindre, Maenclochog, a Bethesda. Fel dyn, yr oedd William Lewis yn un nodedig o siriol, gwylaidd a llawn o hawddgarwch. Yr oedd pawb a'i hadwaenai yn ei anwylo. Yr oedd yn gristion pur a llawn o rinweddau crefyddol. Mae ei enw fel dyn crefyddol yn perarogli yn yr ardaloedd y bu yn llafurio ynddynt, hyd y dydd heddyw. Fel pregethwr, yr oedd yn nodedig o efengylaidd, toddedig, ac effeithiol. Cyrchai torfeydd i'w wrandaw i bob lle, ac anfynych y gallai neb crefyddol na digrefydd ei wrandaw heb deimlo grym ei genadwri, yr hon a draddodid ganddo mewn dull mor dyner, swynol, a phwrpasol. Er na fu tymhor ei lafur ond byr iawn, cafodd y fraint o fod yn offeryn yn y tymhor byr hwnw i wneuthur daioni tragywyddol i ddegau. Canwyll yn llosgi ydoedd, a chafodd lluaws achos i lawenychu yn ei oleuni, ond llosgodd allan yn fuan iawn.

Translation by Maureen Saycell (Jan 2009)

It is likely that there have been religious services held in this town on a fairly regular basis, by Brynberian Church, since the beginning of the eighteenth century, if not sooner. According to statistics gathered by Dr John Evans, in 1715, we see that there was an Independent cause here under the same ministry as Brynberian and Drewen. We have no record of the founders or how it was started. It was in private houses that worship took place before a chapel was built. For the last 13 years before a church was formed they worshipped at the home of Jacob, a man known for his godliness. This is thought to have taken place in 1740. We do not know if the chapel was built then or earlier, the likelihood is that the church was formed and the chapel opened at the same time. The ministry stayed with Brynberian until 1818, when a call was sent to Mr William Lewis, Carmarthen College, who was ordained on July 22nd of that year. Those officiating were Messrs T. Jones, Saron ; D. Peter, Carmarthen; D. Davies, Pantteg ; J. Rowlands, Llanybri ; J. Griffiths, St. David's, and H. George, Brynberian. It was intended for Mr Lewis to help Mr George with all his pastoral work, but mainly to care for the church in Trefdraeth. Mr Lewis's arrival rejuvenated the cause, the congregation increased and many added to the church. The great leader only saw fit to grant this valuable minister a short time on this earth, and just 2 years after his ordination he became ill and died in April 1821. A short time after this a call was sent to Mr Thomas Jones, Llanfyllin College. He was ordained here in 1822 and remained here until 1836, when he moved to Tier's Cross and Rosemarket. He turned his back on nonconformism a long time ago and is now a vicar with the established church There were disturbed and stormy times towards the end of Mr Jones' ministry, and some deep wounds were inflicted to the church that it took some years to heal. We do not want to open old wounds, but the factions realised that they had gone well beyond the spirit of the scriptures in their deeds. After Mr Jones departure the care of the church fell to Mr H George and Mr J Owens. they shared the ministry until the death of the former, when the latter restricted his ministry to Maenclochog and Bethesda. Brynberian, Trefdraeth and Felindre were left to find their own ministers. After that this church was dependent on occasional ministry until 1843 when a call  was sent to Mr Samuel Thomas, a student at Brecon College, and he was ordained here on August 9th and 10th of that year. Those who took part in the ordination services were Messrs  E. Davies and Henry Griffiths, lecturers at Brecon College ; D. Rees, Llanelli ; S. Griffiths, Horeb ; T. Luke, Fishguard ; D. Davies, Cardigan ; J. Thomas, Bwlchnewydd ; E Jacob, Swansea ; W. Morgan, now Carmarthen, then Hackney College ; E. Jones, Crugybar,and others.  Mr Thomas was successful, respected and industrious here for many years. In 1844 the curent chapel was built which is strong, large, convenient and attractive building. It cost 1400 to 1500, this cost was cleared in a short time and without going outside the area to collect. . This is the third chapel here, we have failed to find when the first two were built. There is a large cemetery, schoolhouse and dwelling house, all on land owned by the church, a gift from William Lloyd, Penyfeidr, one of the old faithful members who had been a mainstay of the cause. This good man also left 500 in his will to maintain the ministry at Trefdraeth and Gedeon, but an unfortunate loophole in the will lost this money for the churches. After labouring here for more than 18 years Mr Thomas decided to move to Bethlehem, St Clears, early in 1861, much to the sorrow of the people of Trefdraeth. Soon after Mr Thomas departure a call was sent to Mr J O Morris, Brecon College, originally from Glynarthen area. He was ordained here July 30th and 31st, 1861 when the following ministers took part :- D. Jones, Aberteifi ; W. Thomas, Whitland ; W. Davies, Rhosycaerau ; J. M. Evans, Trefgarn ; H. Jones, Ffaldybrenhin ; W. Roberts and J. Morris, lecturers at Brecon College ; W. Jones, Glynarthen ; D. Davies,Cardigan ; J. Davies, Gedeon, and others.Mr Morris remains here and we hope for many years to come. There is a strong cause and a large congregation here, Gedeon is a branch of this church. It was during Mr Thomas' time that it left the mother church. there is a small chapel being built by the church about a mile outside the town, where worship has been held in dwelling houses for many years.

The following were raised to preach here:

BIOGRAPHICAL NOTES*

Although this church is 200 years old, until 50 years ago it was a branch of Brynberian and histories of the early ministers are given there, Mr Thomas moved away so his history is with Bethlehem. Therefore there is only more history to give here.

WILLIAM LEWIS - born Bola Haul, near Carmarthen, 1791 - joined Heol Awst, Carmarthen at a young age - too poor to get educated, Mr Peter did this free until he was ready to go to College - after college called to Brynberian, Trefdraeth to assist Mr H George - ordained Trefdraeth, 1818 - became ill in 1820, deteriorated and died April 11th, 1821 aged 30 - buried Heol Awst, Carmarthen

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

Y TABERNACL, PENFRO

(Pembroke, St Mary parish)

Yn hanes y Green, Hwlffordd, nodasom i Mr. Thomas Davies, yn fuan ar ol ei sefydliad yno yn 1691, ffurfio cangen o'r fam eglwys yn eglwys annibynol yn nhref Penfro. Adeiladodd yma gapel, a pharhaodd i weinidogaethu yn Hwlffordd, Penfro, a Threfgarn, cangen arall o'r fam eglwys yn Hwlffordd, hyd y flwyddyn 1720, pryd y rhoddodd ei ofal yn Hwlffordd a Threfgarn i fyny, ac y cyfyngodd ei lafur i Penfro yn unig. Bu yn

89

llafurio yno hyd ei farwolaeth yn nechreu y flwyddyn 1723. Wedi marwolaeth Mr Thomas Davies, bu yr achos yn Penfro dan ofal Mr Evan Davies, mewn cysylltiad a Hwlffordd, hyd ei symudiad i Lanybri a'r Bwlchnewydd yn 1743. Mae yn ymddangos i'r achos gael ei esgeuluso yn Mhenfro gan weinidogion Hwlffordd ar ol y flwyddyn 1743, ac iddo wanhau yn raddol nes llwyr ddarfod elm diwedd y ganrif ddiweddaf. Cafodd yr achos sydd yn bresenol yn Mhenfro ei gychwyn tua y flwyddyn 1800, trwy offerynoliaeth Mr Richard Morgan, Henllan, a Mr Morgan Jones, Trelech. Tua yr amser hwnw, byddai y ddau weinidog llafurus hyn, yn talu ymweliadau mynych a'r parth Saesonig o Sir Benfro, ac yn pregethu yn mhob man ag y cawsent dderbyniad. Trwy eu llafur hwy cafodd o leiaf bedair o eglwysi bychain eu ffurfio tua'r un amser, ac un o'r cyfryw yw yr eglwys sydd yn awr yn ymgynnull yn y Tabernacl, Penfro. Mewn anedd-dy, yn mhlwyf Newton Manorbier, y corpholwyd yr eglwys. O ddeg i ddeuddeg o bersonau oedd rhif yr aelodau ar y dechreu. Cynorthwyid Meistriaid Morgan a Jones yn lled fynych, gan Mr Meyler, Rhosycaerau, a Mr W. Griffiths, Glandwr, ac yn enwedigol, gan Mr Arnold Davies, am yr hwn y cawn son etto yn hanes Rosemarket. Ar ol bod yn ymgynnull am ryw yspaid o amser yn yr anedd-dy rhag-grybwylledig, symudwyd y babell i Lamphey, pentref cyfagos. Wedi symudiad yr achos i'r lle hwn, daeth Mr Thomas Davies i gadw ysgol yn Mhenfro, a byddai ar y Sabbothau yn pregethu yn lled gyson i'r gynnulleidfa fechan yn Lamphey. Tua y flwyddyn 1802 yr ymsefydlodd Mr Harries yn Mhenfro, ac y mae yn ymddangos iddo gael ei urddo yn weinidog yr eglwys fechan yn Lamphey y flwyddyn hono neu y flwyddyn ganlynol. Yr ydym, ar ol llawer o ymchwiliad, wedi methu dyfod o hyd i hanes ei urddiad mewn llawysgrif nac argraff. Yn mhen ychydig amser wedi i Mr Harries ymsefydlu yn eu plith, teimlai y frawdoliaeth fechan fod Lamphey yn lle anghyfaddas iddynt i gynal eu gwasanaeth ynddo ar lawer o gyfrifon, ac yn neillduol wrth weled mai o dref Penfro, ac o bentrefydd cymydogaethol, y denai y gynnulleidfa agos oll yno, ac nad oedd fawr o breswylwyr Lamphey yn perthyn i'r achos fel aelodau a gwrandawyr. Wedi hir edrych allan am le yn y dref i adeiladu capel, llwyddodd Mr Thomas Luke, gweinidog y Tabernacl, Hwlffordd, i gael darn o dir cyfleus yn y dref ar les o 99 o flynyddau, am swllt o ardreth, gan Syr John Owen, y pryd hwnw yr aelod seneddol dros Penfro. Adeiladwyd y capel, ac agorwyd ef Gorphenaf 9fed, 1812, pryd y traddodwyd pregethau gan Mr D. Peter, Caerfyrddin ; Mr W. Thorpe, Caerodor, a Mr Davies, gweinidog y Bedyddwyr yn Hwlffordd. Dygwyd yn mlaen ranau defosiynol y gwasanaeth gan Mr Luke, Hwlffordd, a Mr Stone, o Milford. Wedi cael addoldy cyfleus, casglodd Mr Harries gynnulleidfa barchus a lluosog iddo, a pharhaodd i weinidogaethu ynddo hyd derfyn ei oes yn 1845. Yn ystod ei weinidogaeth, derbyniodd dros bum cant o aelodau i'r eglwys. Pan symudwyd dockyard y llywodraeth o Milford i Pembroke Dock, bu raid cyfodi achos yno, yr hyn a leihaodd gryn lawer ar y gynnulleidfa yn Mhenfro. Wedi marwolaeth Mr. Harries, bu yr eglwys am rai blynyddau yn anffodus yn ei gweinidogion. Cafodd dri ar ol eu gilydd o fradychwyr Ymneillduaeth. O 1816 hyd 1848 bu Mr Henry J. Davies, o Frynbiga, Mynwy, yma. Aeth at yr Eglwys Wladol, ac y mae yn awr yn berson plwyfydd Llansawel a Chaio, Sir Gaerfyrddin. O 1848 hyd 1851 bu un W. C. Fisher yma, yr hwn hefyd a aeth yn offeiriad. Yn

90  

1852 urddwyd Mr John Cunnick, o athrofa Aberhonddu. Bu ef yn llafurio yma gyda mesur o gymeradwyaeth hyd 1857, pryd y symudodd i Aberdar. Y mae yntau er's blynyddau bellach, yn offeiriad yn yr Eglwys Wladol. Nid ydym yn gwyhod am ddim nodedig a gymerodd le yma o 1845 hyd 1857 ond adeiladiad capel bychan yn mhlwyf Monkton, at gadw ysgol Sabbothol a phregethu achlysurol.

Yn 1858 rhoddwyd galwad i Mr B. Byron Williams, Castellnedd. Bu ef yma yn barchus a llwyddianus hyd 1863, pryd y symudodd i Chichester, lle y mae yn bresenol. Yn mis Mawrth, 1863, dechreuodd Mr David Salmon, o Trowbridge, Swydd Wilts, ei weinidogaeth yma, ac efe yw y gweinidog presenol. Mae Mr Salmon wedi bod, ac yn parhau yn nodedig o lwyddianus yma. Gan fod yr hen gapel wedi myned yn ddadfeiliedig ac yn rhy fychan i gynal y gynnulleidfa, prynwyd darn o dir cyfleus at adeiladu capel newydd arno. Awst 9fed, 1867, cynhaliwyd yma gyfarfod pryd y gosodwyd i lawr gareg sylfaen yr adeilad newydd, gan Samuel Morley, Ysw., A. S. Ar ol myned trwy y ddefod o osod y gareg sylfaen, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus dan lywyddiad y diweddar Mr H. O. Wills, Caerodor, pryd yr areithiodd Mr S. Morley, Dr. Rees, Abertawy ; S. Thomas, St. Clears ; J. Morlais Jones, Narberth ; E. L. Shadrach, Pembroke Dock ; J. Griffiths, St. Florence, ac eraill. Cynllunydd yr adeilad oedd Mr Thomas, Glandwr, Abertawy ; a'r draul oedd 2560p., a chynwys yr hyn a dalwyd am y tir. Mae y capel hwn yn un o'r rhai harddaf yn y Sir, ac yn cynwys 600 o eisteddleoedd, ysgoldy helaeth odditano, ac amryw ystafelloedd cyfleus at wasanaeth y gynnulleidfa a'r ysgol Sabbothol. Rhoddodd Mr S. Morley ddau cant ei hunan at y gwaith. Cafwyd can' punt hefyd gan Syr Titus Salt, a symiau mawrion gan amryw foneddigIon eraill o Loegr. Mae y ddyled erbyn hyn agos, os nad wedi ei lwyr dalu. Bu Mr Salmon, y gweinidog, a Mr William Trewent, y diacon henaf yn yr eglwys, yn nodedig o lafurus gyda chyfodiad y capel ac i gasglu ato. Ni bu erioed olwg mor llewyrchus ar yr achos hwn ag yn bresenol. Cafodd amryw eu cyfodi i bregethu yn yr eglwys hon o bryd i bryd, fel y dengys y rhestr ganlynol: -

91

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

THOMAS DAVIES. Ganwyd ef yn ardal Llanybri, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1666. Yn dra ieuangc derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Annibynol yn y lle hwnw, gan yr enwog Stephen Hughes, sylfaenydd yr achos yn y lle. Derbyniodd ei addysg athrofaol yn yr ysgol enwog a gedwid gan Mr John Woodhouse, Sherifhales, Sir Amwythig. Yn fuan ar ol dyfod o'r athrofa, derbyniodd alwad i fod yn ganlyniedydd i Mr Peregrine Phillips, yn Hwlffordd a'r canghenau perthynol i'r eglwys yno. Dechreuodd ei weinidogaeth yn y cylch pwysig hwn yn y flwyddyn 1691, a pharhaodd i gyflawni dyledswyddau ei swydd yn effeithiol hyd y flwyddyn 1720, pryd y gorfodwyd ef gan sefyllfa wanaidd ei iechyd i roddi Hwlffordd a Threfgarn i fyny, a chyfyngu ei wasanaeth i Penfro yn unig. Yr oedd helaethrwydd ei lafur fel gweinidog tair cynnulleidfa bell oddiwrth eu gilydd, a gofal ysgol ddyddiol, yr hon a gadwai trwy agos holl yspaid ei fywyd cyhoeddus, wedi effeithio cymaint ar ei iechyd fel y nychodd yn raddol ac y bu farw yr 20fed o Chwefror, 1723, yn y ddwyfed-flwyddyn-ar-bymtheg-a-deugain o'i oed. Y Sabboth ar ol ei farwolaeth, traddododd Mr Evan Davies, ei ganlyniedydd yn Hwlffordd, ei bregeth angladdol yn Mhenfro oddiwrth Heb. xiii. 7, 8. ; a'r Sabboth canlynol traddododd yr un bregeth yn Hwlffordd.

Yr oedd Thomas Davies, yn ol tystiolaeth Mr. Evan Davies, yn cael ei gyfrif yn ddyn nodedig am ei dduwioldeb, ei ddefnyddioldeb, a'i boblogrwydd fel pregethwr. Er fod ei dduwioldeb uwchlaw amheuaeth, a'i barch yn fawr gan bawb o'i gydnabod, dywedir iddo gael llawer o'i flino yn niwedd ei oes gan berthynasau ei ail wraig. Nid oes un dyn da wedi gallu myned trwy y byd hwn heb orfod yfed cwpaneidiau chwerwon, er fod cwpanau rhai yn cynwys mwy o chwerwder na'r eiddo eraill.

THOMAS HARRIES. Yr oedd ef yn fab i Mr William Harries, gweinidog yr eglwysi yn Rhodiad, Tyddewi, a Solfach ; a'i fam yn ferch i Mr William Maurice, Trefgarn. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1782. Cyn ei fod yn gyflawn un-ar-bymtheg oed, derbyniwyd ef i'r athrofa yn Ngwrecsam, dan arolygiaeth y Dr. Jenkin Lewis. Dyddiad ei dderbyniad i'r sefydliad hwnw yw Ionawr 8fed, 1798. Yn mhen dwy flynedd ar ei ol of derbyniwyd ei frawd William yno hefyd, ond bu y gwr ieuangc gobeithiol hwnw

92

farw cyn gorphen amser ei efrydiaeth. Ar derfyniad ei amser yn yr athrofa, aeth Mr Harries i Benfro i gadw ysgol. Yn fuan wedi iddo ymsefydlu yno, cafodd alwad i fod yn weinidog i'r eglwys fechan oedd newydd gael ei ffurfio yn y gymydogaeth, ac urddwyd ef yno, fel y tybiwn, yn 1802, neu y flwyddyn ganlynol. Parhaodd i gyflawni ei weinidogaeth yma, gyda derbyniad a llwyddiant nodedig hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Tachwedd 4ydd, 1845, yn 63 oed.

Yr oedd Thomas Harries yn ysgolhaig rhagorol, yn ddyn hynod o grefyddol a boneddigaidd, ac yn bregethwr chwaethus a synwyrol ; ond gan nad oedd ei lais ond gwanaidd, a'i alluoedd corphorol ond cymharol eiddil, nid oedd ganddo y nerth a'r bywiogrwydd hwnw a'i gwnelai yn boblogaidd gyda'r werin anwybodus. Yr oedd yn nodedig o barchus a dylanwadol yn Mhenfro a'r cylchoedd gan wreng a bonheddig, Eglwyswyr ac Ymneillduwyr ; a theimlai pawb yn alarus ar ei ol pan y bu farw. Gwnaeth ei ran yn ei oes gyda phob sefydliad cyhoeddus, megis Cymdeithas y Biblau, y Cymdeithasau Cenhadol Tramor a Chartrefol, &c. Bu yn llafurus iawn i sefydlu yr achos yn Pembroke Dock, er fod hyny yn milwrio yn erbyn lliosawgrwydd ei gynnulleidfa ef yn Mhenfro. Mewn gair, yr oedd yn Thomas Harries gydgyfarfyddiad dedwydd o'r cristion, y boneddwr, a'r gweinidog defnyddiol. Cyfododd Ymneillduaeth i sylw a pharch yn nhref Penfro a'r holl wlad oddiamgylch.

Translation by Maureen Saycell (Jan 2009)

In the history of the Green, Haverfordwest, we noted that Mr Thomas Davies, soon after he settled there in 1691, formed a branch of the mother church into an Independent church in the town of Pembroke. He built a chapel here, and continued to minister to Haverfordwest, Pembroke and Trefdraeth, another branch of Haverfordwet, until 1720, when he gave up the care of Haverfordwest and Trefdraeth and confined himself to Pembroke only. He continued to work there until he died in 1723. After he died Pembroke was in the care of Mr Evan Davies, Haverfordwest until he moved to Llanybri and Bwlchnewydd in 1743. It appears that the cause in Pembroke was neglected by the Haverfordwest ministers after 1743, and it then weakened and died completely by the end of the last century. The current cause was started in Pembroke about 1800, through the efforts of Mr Richard Morgan, Henllan and Mr Morgan Jones, Trelech. Around that time these two industrious ministers paid frequent visits to the English parts of Pembrokeshire, and would preach wherever they could. Through their efforts at least 4 small churches were formed around the same time, one of which now congregates at Tabernacl, Pembroke. It was in a dwelling house in the parish of Newton Manorbier that the church was formed. There were 10 or 12 original members. Messrs Morgan and Jones were frequently supported by  Mr Meyler, Rhosycaerau, Mr W Griffiths, Glandwr and especially Mr Arnold Davies whom we shall speak of again with Rosemarket. Having met for some period of time in the aforesaid dwelling house they moved to Lamphey, a nearby village. Soon after this move Mr Thomas Davies came to keep a school in Pembroke and he preached frequently to the small congregation at Lamphey. In 1802 Mr Harries settled in Pembroke, and it appears that he was ordained at Lamphey either that year or next, but despite searching we have no records. Shortly after Mr Harries settled here the congregation began to feel that Lamphey was not the best place for them to hold their services for many reasons, and especially seeing that most of the congregation came from Pembroke town and the neighbouring villages, and few of the residents of Lamphey were members or listeners. After a long search Mr Thomas Luke, Tabernacl's minister, managed to find a convenient piece of land in the town on a lease of  99 years, for a rent of 1/-, from Sir John Owen, the M P for Pembroke at that time. The chapel was built and opened on July 9th, 1812, when sermons were given by Mr D. Peter, Carmarthen ; Mr W. Thorpe, Bristol, and Mr Davies, Baptist minister in Haverfordwest. The devotional part of the service was conducted by Mr Luke, Haverfordwest, and Mr Stone, Milford. Having got a convenient chapel, Mr Harries gathered a respectable congregation and continued to minister to the end of his life in 1845. During his ministry he confirmed over 500 new members to the church. When the Royal Dockyard moved from Milford to Pembrock Dock, a cause had to be raised there which lessened the congregation in Pembroke considerably. After the death of Mr Harries the church was unfortunate in it's ministers. Three consecutive who betrayed non-conformism. From 1816 to 1848 Mr Henry Davies, Brynbiga, Monmouth was here, he went to the established church and is now Parson of Llansawel and Caio, Carmarthen. From 1848 to 1851 one W C Fisher was here, he also became a vicar. In 1852 Mr John Cunnick was ordained, from Brecon College. He worked here with some success until 1857 when he moved to Aberdare. He has also been a vicar for some years. We do not know of any significant events that took place between 1845 and1857 other than building a small chapel in the parish of Monkton, to hold  a Sunday school  and occasional preaching.

In 1858 a call was sent to Mr B Byron Williams, Neath. He was here with respect and success until 1863, when he moved to Chichester, where he remains. In March 1863 Mr David Salmon came here from Trowbridge, Wiltshire, began his ministry here and is the current minister. Mr Salmon has been and continues to be very successful here. As the old chapel needed restoring and was too small to hold the congregation, a convenient piece of land was purchased to build a new chapel. The foundation stone was laid on August 9th, 1867, by Samuel Morley Esq, M P. After the ceremony, a public service was held lead by Mr H O Wills, Bristol when the following took part  Mr S. Morley, Dr. Rees, Swansea ; S. Thomas, St. Clears ; J. Morlais Jones, Narberth ; E. L. Shadrach, Pembroke Dock ; J. Griffiths, St. Florence, and others. The designer of the building was Mr Thomas, Glandwr, Swansea, the total cost , including the land, was 2560. This chapel is one of the most attractive in the county, it contains 600 seats and a large schoolhouse underneath, with many useful rooms for the use of the congregation and sunday school. Mr S Morley gave two hundred pounds towards the fund. 100 from Sir Titus Salt, and many other large donations from individuals in England. The debt is now almost or has been cleared. Mr Salmon, the minister,and Mr William Trewent, the senior deacon of the church were very industrious with the building and collecting funds. This cause has never been in such good shape, Many were raised to preach here:-

BIOGRAPHICAL NOTES *

THOMAS DAVIES - born Llanybri, Carmarthenshire, 1666 - educated by Mr John Woodhouse, Sherifhales, Shropshire - soon after starting in college was called to follow Mr Peregrine Phillips, Haverfordwest and branches - fulfilled this work from 1691 to 1720 - strain of 3 chapels and a day school took it's toll - died February 20th, 1723, age 57

THOMAS HARRIES - son of Mr William Harries, Rhodiad, St David's and Solva - mother was a daughter of Mr William Maurice, Trefgarn - born 1782 - Wrexhan College age 16 - after College kept school in Pembroke - called to a new small church, ordained about 1802 - died there on November  14th, 1845 age 63.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

ZION'S HILL

(Spittal parish)

Mae y lle hwn yn mhlwyf Spital. Dechreuwyd pregethu yma yn y flwyddyn 1822, gan Mr Skeel, Penybont, mewn ty anedd o'r enw Golden Hill, lle y preswyliai un William Evans, aelod yn Mhenybont. Cadwyd cyfarfodydd yma yn rheolaidd bob mis am ysbaid blwyddyn ; ac yn haf 1823, penderfynwyd gan Mr Skeel, a'r cyfeillion yn Mhenybont, adeiladu yma gapel. Cafwyd tir gan Mr. Higgan, Frosghall, ar les o gant ond un o flynyddau, am yr ardreth o bunt y flwyddyn. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr Mehefin 25ain, 1823, ac agorwyd y capel Hydref 16eg, yr un fiwyddyn. Galwyd ef Zion's Hill. Pregethwyd ar yr achlysur Meistri H. George, Brynberian, oddiar 1 Bren. vi. 7 ; W. Griffiths, Glandwr, oddiar Matt. vii. 24, a D. Warr, Hwlffordd, oddiar Eph. ii. 20.* Os cymer y darllenydd y drafferth i droi at y testynau efe a wel fod priodoldeb neillduol ynddynt i'r amgylchiad. Dygwyd yr holl draul trwy ymdrechion Mr Skeel yn casglu gyda chyfeillion, a'i roddion personol ef ei hun. Un o'i brif gynorthwywyr yn y gorchwyl oedd Mr Davies, Castellwilia. Ar y cyntaf o Fai, 1825, ffurfiwyd yma eglwys o nifer o aelodau a ollyngwyd i'r perwyl o Benybont, a derbyniwyd o newydd saith o aelodau eraill. Yr oedd Mr Daniel Davies erbyn hyn wedi dychwelyd i'r wlad, ac yn cydlafurio a Mr Skeel yma ac yn Mhenybont. Yn yr un flwyddyn ag y ffurfiwyd eglwys yma, prynwyd y tir o dan y capel, a'r tir cysylltiedig, i fod yn gladdfa, gan Mr Skeel, yr hwn a'i trosglwyddodd yn ddidraul i ymddiriedolwyr i fod yn eiddo i'r eglwys. Yn y flwyddyn 1826, rhoddwyd oriel yn y capel ar draul yr eglwys. Bu y ddau weinidog yn cydlafurio yma hyd farwolaeth Mr Skeel, Hydref 6ed, 1836, Pa disgynodd y gofal yn gwbl ar Mr Davies. Yn y flwyddyn 1841, adeiladwyd

* Ysgrif o eiddo y diweddar Mr. Davies, Zion's Hill.

93

 y capel yma yn ei ffurf bresenol, ac agorwyd of Mehefin 2il a'r 3ydd, 1842. Llafuriodd Mr Davies yma yn ddiwyd a ffyddlon hyd derfyn ei oes, a bu farw Medi 25ain, 1859, yn 67 oed. Ar ol bod heb weinidog am yn agos i ddwy flynedd, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr Thomas Lodwick, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Awst 2il, 1861. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr W. Roberts, athraw ieithyddol Aberhonddu ; holwyd y gofyniadau gan Mr C. Guion, Milford ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr Caleb Morris; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr J. Morris, athraw duwinyddol Aberhonddu, ac i'r eglwys gan Mr E. Lewis, Brynberian. Bu Mr Lodwick yma yn ddefnyddiol a chymeradwy am ddeng mlynedd, a bu farw Awst 16eg, 1871, yn 34 oed. Cyn diwedd y flwyddyn hono, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr William James, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Ionawr 24ain, 1872. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr W. Morgan, athraw duwinyddol athrofa Caerfyrddin ; holwyd y gofyniadau gan Mr C. Guion, Milford ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr D. Salmon, Penfro, yr hwn hefyd a bregethodd i'r eglwys, a phregethwyd i'r gweinidog gan Mr J. Davies, Glandwr. Mae yr eglwys yma ar y terfyn rhwng y Cymry a'r Saeson, ac y mae y gwasanaeth yn cael ei gario ymlaen yn y ddwy iaith yma, er cychwyniad yr achos, ond y mae y Saesneg yn ennill tir yn feunyddiol, a chyda y to presenol o'r hen bobl y mae yn debyg y bydd y gwasanaeth Cymraeg yn darfod. Nid ydym yn cael ond un pregethwr a gododd i bregethu yn yr eglwys hon, sef James Llewellyn, yr hwn sydd yn awr yn weinidog yn Havant.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

THOMAS SKEEL. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1758, yn mhlwyf Castellhaidd. Yr oedd ei rieni yn amaethwyr cyfrifol, a chafodd yntau fanteision addysg dda yn ieuangc. Cyrchai gyda'i rieni i gapel Trefgarn i addoli, as wedi teimlo argraffiadau dwysion ar ei feddwl, ymunodd a'r eglwys yno. Yn mhen amser, cymhellwyd ef i bregethu ; ac yn 1795, megis y crybwyllasom yn hanes Trefgarn, urddwyd ef yn weinidog yno. Llafuriodd yno gyda derbyniad a chymeradwyaeth hyd 1821, pryd y cyfyngodd ei lafur i Penybont, yr achos a sefydlesid yn benaf trwy ei ymdrechion ef. Llafuriodd yma ac yn Zion's Hill, yn ddiwyd, tra y daliodd ei nerth. Priododd a Miss Ann Thomas, merch i Mr Samson Thomas, yr hwn oedd yn bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ; a chafodd ynddi rodd gan yr Arglwydd. Yr oeddynt yn byw yn Tynewydd, heb fod yn mhell o'r ffordd rhwng Penybont a Threfgarn ; ac y mae yr hen bregethwyr sydd etto yn fyw, ac a deithiasant y ffordd hono yn y dyddiau gynt, yn cofio yn dda am eu caredigrwydd a'u llettygarwch. Yr oedd yn y Tynewydd groesaw mawr i bawb a ddeuai heibio ; ac wedi marwolaeth Mr Skeel, nid oedd y croesaw yn ddim llai. Bu Mr Skeel yn ddiwyd a ffyddlon yn ol ei allu a'i dalentau ; ac yr oedd ei fod mewn amgylchiadau bydol mor gysurus, yn help mawr i'w bwysigrwydd a'i ddylanwad. Cymerodd y rhan fwyaf o'r cyfrifoldeb yn nglyn ag adeiladu Penybont a Zion's Hill ; ac yn y lle olaf, prynodd dir claddu, a throsglwyddodd ef i fod byth yn eiddo i'r eglwys. Bu farw, Hydref 6ed, 1836, yn 78 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Hay's Castle ; ac y mae maen hardd er coffadwriaeth am dano yn nghapel Zion's Hill.

94

DANIEL DAVIES. Ganwyd ef yn Castellwilia, yn y flwyddyn 1791. Derbyniodd addysg gyffredinol dda yn ysgolion goreu ei wlad pan oedd yn ieuangc, a hyfforddwyd ef yn foreu mewn crefydd gan rieni duwiol. Pan yn ddeunaw oed, derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Nhrefgarn, a chyn hir ar ol hyny, dechreuodd bregethu. Wedi pregethu am ychydig yn Nhrefgarn, a'r wlad oddiamgylch, yn enwedig yn y gororau Saesnig o'r Sir, aeth i'r ysgol i Abergavenny, gyda bwriad i barotoi at y weinidogaeth, neu i fyned i ryw athrofa ; ond yn mhen amser, dychwelodd adref i lafurio fel o'r blaen. Penderfynodd yr eglwys ei urddo i gydlafurio a Meistri T. Skeel a B. Griffith, a chyflawnwyd y gwasanaeth Tachwedd 4ydd, 1819. Yn mhen o gylch dwy flynedd, derbyniodd alwad i fod yn gaplan i'r Arglwyddes Barham, ac i weini yn ei chapelau yn Browyr, sir Forganwg, a bu yn ei gwasanaethu hyd ei marwolaeth. Bu ar ol hyny, ar fwriad myned yn weinidog i eglwys yn Winslow, Swydd Buckingham ; ond ar daer gais ei ewythr, Mr Skeel, dychwelodd i'w wlad, i gydlafurio ag ef yn Mhenybont, a'r achos newydd oedd ar gael ei gychwyn yn mhlwyf Spital. Yn 1824 y dychwelodd i Sir Benfro, ac arosodd yno hyd ddydd ei farwolaeth. Wedi priodi, aeth i fyw i Hook, a chan ei fod yn ddyn bywiog a gweithgar, ac mewn amgylchiadau bydol cysurus, ennillodd ddylanwad mawr ar y wlad. Yr oedd cyflwr y bobl ar y gororau yn isel a difoes pan y sefydlodd Mr Davies yn eu plith ; ac yr oedd llawer o hen arferion a chwareuon yn aros, rhai oeddynt wedi eu hen gladdu yn rhanau Cymreig y wlad. Gan fod Mr Davies yn meddu ysbryd gwrol a diofn, ymroddodd yn egniol yn erbyn y drygau hyn, a llwyddodd i'w darostwng. Pregethodd lawer trwy yr holl wlad oddiamgylch, a thrwy ei offerynoliaeth ef y cychwynwyd yr achos yn Crundale, a pharhaodd tra y gallodd i ofalu am y lle. Yr oedd yr un mor barod yn y Gymraeg ac yn y Saesoneg, ac yr oedd i fod mor effro ac egniol yn ei weinidogaeth, yn peri ei fod yn dra derbyniol gan luaws y gwrandawyr. Er fod llymder a sarugrwydd yn ymddangos yn ei wyneb, etto gwyr y rhai oeddynt fwyaf cydnabyddus ag ef, mai dyn caredig ydoedd, ac yn nodedig o ffyddlawn i bob adduned ac ymrwymiad a wnai. Gan ei fod yn meddu ar lawer o dda y byd hwn, yr oedd yn droi mewn cylchoedd na cheid Ymneillduwyr yn gyffredin yn troi ynddynt ; a gwnaed ef yn ynad heddwch yn ei wlad, a chydnabyddid gan bawb fod yn uniawn a chywir yn ei holl weithrediadau. Yn mis Hydref, 1854, cafodd ergyd o'r parlys pan ar ganol dwyn yn mlaen yr addoliad teuluaidd gartref, ac er i hyny ei amharu i raddau, etto parhaodd tra y gallodd gyflawni ei ddyledswyddau gweinidogaethol ; ond cyn diwedd y flwyddyn 1857, bu raid iddo roddi y cwbl i fyny. Bu fyw am ddwy flynedd ar ol hyny, ond yn gyfyngedig gan mwyaf i'w dy ; ond dyoddefodd y cwbl yn dawel ac yn amyneddgar, a bu farw, Medi 24ain, 1859, yn 67 oed, ac yr oedd ei ymddiried yn yr Arglwydd yn dal yn ddiysgog. Un o'i eiriau diwedda ydoedd, "Yr ydwyf ar sylfaen gadarn. Y mae pob peth yn dda."

THOMAS LODWICK. Ganwyd ef mewn lle a elwir Penlantafarn, heb fod yn mhell o Penygroes, Sir Benfro. Pan nad oedd ef ond plentyn, symudodd ei rieni i Benycae, Sir Fynwy, ac ymunasant a'r eglwys yn Saron, ac yno y derbyniwyd ef yn aelod, pan yn un-ar-ddeg oed. Dechreuodd weithio pan nad oedd ond wyth oed, ac effeithiodd caledwaith yr haiarn-weithfa arno nes yr ofnid un adeg am ei iechyd. Anogodd yr eglwys ef i ddechreu pregethu, ac aeth i Aberhonddu at ei gar Mr. Caleb Guion, i barotoi i fyned i'r athrofa. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn y flwyddyn 1857, ac ar derfyniad

95

ei amser yno, yn 1861, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Zion's Hill, Sir Benfro, ac urddwyd ef yno, fel y crybwyllasom yn hanes yr eglwys. Llafuriodd yma gyda derbyniad a llwyddiant am ddeng mlynedd. Yr oedd fod yr eglwys ar derfyn y Cymry a'r Saeson yn ei osod dan yr angenrheidrwydd o bregethu yn y ddwy iaith, yr hyn a wnai gyda rhwyddineb. Rhagorai yn fawr fel gweinidog doeth, tyner, a gofalus ; ac yr oedd ieuengctyd yr eglwys yn arbenig yn wrthddrychau ei sylw. Yr oedd pobl ei ofal yn anwyl ganddo, ac yr oedd yntau yn ddwfn yn eu serchiadau hwythau. Ni chafodd ond cystudd byr, ond yr oedd hwnw yn chwerw ; etto dyoddefodd ef yn amyneddgar, a bu farw, Awst 16eg, 1871, yn 34 oed. Yr oedd yn bregethwr syml, difrifol, ac efengylaidd - yn gyfaill ffyddlon a dihoced - yn Ymneillduwr cyson a sefydlog, ac etto yn foneddigaidd a didramgwydd yn ei amddiffyniad o'i egwyddorion. Fel cristion, yn ol tystiolaeth y rhai a'i hawaenent oreu, yr oedd yn " Israeliad yn wir."

Translation by Maureen Saycell (Jan 2009)

This place is in the parish of Spittal. Preaching began here in 1822, by Mr Skeel, Penybont, in a house named Golden Hill, the home of William Evans, a member at Penybont. Regular monthly meetings were held here for a year, and in the summer of 1823 Mr Skeel and the friends in Penybont decided to build a chapel. Land was aquired from Mr Higgan, Frogshall, on a lease of 99 years for a rent of one pound per year. The foundation stone was laid June 25th,1823 and the chapel was opened on October 16th of that year. It was named Zion's Hill. Sermons were given on the occasion by  Messrs H. George, Brynberian, from 1 Kings. vi. 7; W. Griffiths, Glandwr,from Matt. vii. 24, and D. Warr, Haverfordwest , from Eph. ii. 20.*  If the reader takes the trouble, he will see there was a particular significance to the occasion. All of the cost was cleared through the efforts of Mr Skeel and his associates, along with his own personal gifts. One of the main supporters was Mr Davies, Castellwilia. On the first of May, 1825, a church was formed here from members released from Penybont for that purpose, and 7 new members. Mr Daniel Davies had by now returned to the country and was working alongside Mr Skeel at Penybont. In the same year the land below the chapel and some connected land was bought by Mr Skeel to be a cemetery, he transferred the land to the church leaseholders free of charge. In 1826 a gallery was added at the expense of the chapel. Both ministers worked together here until the death of Mr Skeel, October 6th, 1836, when all care became the responsibility of Mr Davies. In 1841 the chapel was built in its current form and opened on June 2nd and 3rd, 1842. Mr Davies served here faithfully until his death on September 25th, 1859, age 67. After being without a minister for 2 years, the church gave a call to Mr Thomas Lodwick, a student at Brecon College, and he was ordained August 2nd, 1861. On the occasion the sermon on the nature of a church was given by Mr W. Roberts, language teacher at Brecon. The questions were asked by Mr C. Guion, Milford ; the ordination prayer was offered by Mr Caleb Morris; a sermon to the minister was given by Mr J. Morris, lecturer in Divinity at Brecon College, and to the church by Mr E. Lewis, Brynberian. Mr Lodwick remained here for 10 years, he died August 16th, 1871, age 34. Before the end of the year the church called Mr William James, a student at Carmarthen College, he was ordained January 24th, 1872. On the occasion a sermon on the nature of a church was given by Mr W. Morgan, Lecturer in Divinity at Carmarthen College, questions were asked by Mr C. Guion, Milford ; the ordination prayer offered  by   Mr D. Salmon, Pembroke, who also preached to the church, and a sermon to the minister was given by Mr J. Davies, Glandwr.

This church is on the borderline of the English and the Welsh speakers so services were conducted in both languages from the beginning, but English is gaining ground daily, and with the current older generation the Welsh services are likely to die out. We know of only one who was raised to preach here, JAMES LLEWELYN, who is now a minister in Havant.

BIOGRAPHICAL  NOTES **

THOMAS SKEEL - born 1758, Castellhaidd Parish - parents  farmers - ordained Trefgarn 1795 - Penybont only after 1821 - married Miss Ann Thomas, daughter of Mr Samson Thomas, Methodist preacher - lived Tynewydd, between Trefgarn and Penybont - died October 6th, 1836, age 78 - buried Hay's Castle - memorial at Zion's Hill.

DANIEL DAVIES - born Castellwilia, 1791 - became a member of Trefgarn at 18 - began to preach - to school at Abergavenny to prepare - returned to preach locally after a while - ordained to help Messrs T Skeel and B Griffith, November 4th 1819 - in 2 years called to be chaplain to Lady Barham, caring for chapels on Gower, Glamorganshire, until her death - intended to go to Buckinghamshire but persuaded to return to Penybont and new cause at Zion's Hill in 1824 - married and moved to Hook - helped start Crundale - became a Justice of the Peace - had a stroke at home October, 1854 - forced into retirment in 1857 - died September 24th, 1859, age 67.

THOMAS LODWICK - born Penlantafarn, Penygroes, Pembrokeshire - moved to Monmouthshire when very young - at 11 years became a member of Saron - worked at an Iron Works - went to Mr Caleb Guion at Brecon to prepare for college - College from 1857 to 1861 - called to Zion's Hill and ordained - died August 16th, 1871, age 34

*from the writings of Mr. Davies, Zion's Hill.

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated

 

CARFAN

(Lampeter Velfrey parish)

Mae y capel hwn yn mhlwyf Llanbedr. Canghen yw yr eglwys hon o eglwys henafol Henllan. Yr oedd pregethu achlysurol gan weinidogion Henllan yn yr ardal er's oesau, ond tua y flwyddyn 1797, sefydlwyd yma bregethu rheolaidd mewn amaethdy o'r enw Glanrhyd, ac yn y flwyddyn 1804, adeiladwyd y capel. Cafwyd les ar y tir at  adeiladu gan Mr John Thomas, Llwyngwyddil, am gan' mlynedd. Enwau yr ymddiriedolwyr ydynt :  - David John, Lan; Henry Palmer, Llwyndrysi; John Phillips, Cefnyfarchen ; John Morgan, Forge ; Theophilus Morgan, Gof ; James Lewis, John Morris, Gwyndy, a Joshua Phillips. Bu yr achos o'r dechreuad hyd y flwyddyn 1847 dan ofal gweinidogion Henllan. Yn y flwyddyn hono, urddwyd Mr Dayid Phillips, o athrofa Aberhonddu, yn weinidog i'r eglwys hon, mewn cysylltiad a Soar, canghen arall o Henllan. Bu Mr Phillips, yn llafurus a pharchus iawn yma hyd ei farwolaeth yn 1853. Dilynwyd ef yma gan Mr John Davies, o athrofa Aberhonddu, yr hwn a urddwyd yn y flwyddyn 1854. Yn nhymor gweinidogaeth Mr Davies, helaethodd yr achos ei derfynau. Adeiladwyd capel Bryn Seion a chorpholwyd yno eglwys. Bu Mr Davies yn llafurio yn ddiwyd yn y maes hwn hyd y flwyddyn 1859, pryd y symudodd i Gapel Seion, Abertawy. Yn y flwyddyn 1860, urddwyd Mr Lewis James, y gweinidog presenol yma, ac y mae yn llenwi ei le yn effeithiol yma ac yn Bryn Seion, fel gweinidog, ac yn yr ardal fel gwladwr o ddylanwad a gwasanaeth neillduol. Yr ydym yn hyderu fod blynyddoedd lawer o ddefnyddioldeb o'i flaen.

Mae amryw o aelodau yr eglwys hon wedi cyfodi i bregetbu o bryd i bryd. Aelod gwreiddiol o'r eglwys hon oedd yr enwog Nun Morgan Henry o Lundain, ac yr ydym yn barnu mai yma y dechreuodd bregethu. Bu Mr T. W. Davids, Colchester, hefyd yn moreu ei oes yn byw am rai blynyddau yn yr ardal hon, ond nid ydym yn sicr mai yma y dechreuodd ef bregethu. Yma y dechreuodd Mr Job Jones, Aberafan, ei fywyd cyhoeddus. Gweler ei hanes ef yn nglyn a hanes y Wern, Aberafan. Mae David Francis yn aelod yma, ac yn bregethwr cynorthwyol parchus a defnyddiol iawn ; ac y mae Samuel Thomas, gwr ieuangc gobeithiol, wedi dechreu pregethu yma yn ddiweddar. Y mae yn derbyn addysg dan ofal Mr Jones, Lacharn, i'w barotoi i fyned i'r athrofa.

96

Nid ydym yn gwybod am ddim nodedig yn hanes yr achos hwn o'i ddechreuad hyd yn bresenol, sydd yn galw am gofnodiad, heblaw y ffeithiau uchod. Bu rhai o aelodau y gynnulleidfa hon yn ddyoddefwyr oherwydd pleidleisio yn ol eu cydwybod yn etholiad bythgofus y flwyddyn 1868.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

DAVID PHILLIPS. Oherwydd esgeulusdod ei gyfeillion i gofnodi ei hanes yn amser ei farwolaeth, yr ydym yn analluog i roddi bywgraphiad teilwng o'r gweinidog ieuangc a rhagorol hwn. Ganwyd ef yn Nhyddewi, ond nid yw blwyddyn ei enedigaeth yn hysbys i ni. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Nhyddewi gan Mr James Griffiths, pan yr oedd yn dra ieuangc. Yn mhen rhyw amser wedi hyny, symudodd i Nantyglo, Mynwy, ac ymaelododd yn Rehoboth, Brynmawr, lle y dechreuodd bregethu. Tua y flwyddyn 1843, derbyniwyd ef yn fyfyriwr i athrofa Aberhonddu. Ar derfyniad ei amser yno, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwysi yn Carfan a Soar, Whitland, lle yr urddwyd ef yn 1847. Ymroddodd a'i holl egni i gyflawni gwaith ei weinidogaeth, ond cyn iddo gael ond ychydig flynyddau i lafurio yn y gwaith yr oedd ei holl galon ynddo, cymerwyd ef yn glaf o'r darfodedigaeth, ac wedi hir nychdod, bu farw yn y flwyddyn 1853. O ran corph yr oedd David Phillips yn dalach na'r cyffredin - tua chwe' troedfedd o daldra. Yr oedd mwyneidd-dra, diniweidrwydd, a difrifoldeb yn amlwg yn ei wynebpryd. Yr oedd yn ddyn ieuangc defosiynol a duwiol iawn. Credai fod sicrwydd gobaith yn gyrhaeddadwy i bob credadyn, ac mai dyledswydd pob proffeswr yw mynu sicrwydd am ddiogelwch ei gyflwr. Cyhoeddodd bregeth ar y mater hwn ychydig amser cyn ei farwolaeth. Yr oedd yn bregethwr da a sylweddol, er nad oedd yn rhagori ar y cyffredin yn ei ddoniau.

Translation by Maureen Saycell (Jan 2009)

This chapel is in the parish of Lampeter Velfrey. It is a branch of the old church at Henllan. Occasional preaching by the ministers from Henllan took place for a long time, but about 1797 regular preaching began in a farm named Glanrhyd and in 1804 a chapel was built. A lease was taken on some land for 100 years, from Mr John Thomas, Llwyngwyddil. Those named on the lease were :  - David John, Lan; Henry Palmer, Llwyndrysi; John Phillips, Cefnyfarchen ; John Morgan, Forge ; Theophilus Morgan, Blacksmith; James Lewis, John Morris, Gwyndy, a Joshua Phillips. From the beginning until 1847, the cause was under the care of Henllan. In that year Mr David Phillips, from Brecon College, was ordained here along with Soar, another branch of Henllan. Mr Phillips served here faithfully until his death in 1853. He was succeeded by Mr John Davies, Brecon College, who was ordained in 1854. During Mr Davies' time here the cause expanded its area. A chapel was built named Bryn Seion and a church formed in it. Mr Davies worked in this field until 1859, when he moved to Seion Chapel, Swansea. In 1860, the current minister Mr Lewis James was ordained and continues to work effectively both here and at Bryn Seion, and in the area he is influential and gives exceptional quality of care. We hope he has many more years ahead of him.

Many members of this church have stood to preach over time. Nun Henry Morgan, London, was originally a member here, and probably began to preach here. Mr T W Davies, Colchester, spent his early years here, although we do not know he began to preach here. The following also began their careers here - Mr Job Jones, Wern, Aberafan, Mr David Francis, and latterly Samuel Thomas, preparing with Mr Jones, Laugharne for College.

We do not know of any notable occurrences  here, although some members suffered because they voted with their conscience in the memorable election of 1868.

BIOGRAPHICAL NOTES *

DAVID PHILLIPS - Little personal record of him - born St David's and attended there - moved to Nantyglo, Monmouth and joined Rehoboth, Brynmawr - Brecon College 1843 - ordained Carfan and Soar, Whitland 1847 - tuberculosis - died 1853.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated

 

BRYN SEION

(Lampeter Velfrey parish)

(This chapel already translated   http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/LampeterVelfrey/Hanes.html  )

Mae y capel hwn yn mhlwyf Llanbedr-y-felffre, ac 'o fewn ychydig gyda dwy filldir o dref Narberth. Adeiladwyd ef ar dir a roddwyd i'r perwyl gan Mr. David Morgan, Cilrhew, yr hwn yn nghyd a'i blant sydd wedi bod yn noddwyr selog a haelionus i'r achos. Un bychan yw y capel, ond y mae yn ddigon mawr i ateb i boblogaeth yr ardal. Mae ysgoldy cyfleus yn ei ymyl, lle y cedwir ysgol ddyddiol. Yr ymddiriedolwyr yn y weithred ydynt : - Daniel Morgan, James Davies, Henry James, David Morgan, John Morgan, Daniel Harries, W. Nicholas, Theophilus Morgan, John Morgan, a W. Davies. Canghen o Carfan yw yr eglwys hon, a gweinidogion Carfan sydd wedi bod yn gofalu am dani o'r dechreu hyd yn awr.

Er nad oes yma eglwys a chynnulleidfa luosog, nid ydym yn gwybod am un eglwys fwy siriol, haelionus, a gweithgar mewn unrhyw barth o Cymru. Yr ydym yn hyderu y disgyna deubarth ysbryd y bobl sydd yma yn bresenol ar eu holynwyr o oes i oes. Mae pobl Brynseion, gyda bod yn ddynion bywiog, haelionus, a gweithgar gyda chrefydd, yn Ymneillduwyr dianwadal, ac nid yw bygythion na gwenau boneddigion ac offeiriaid y gymydogaeth yn siglo dim arnynt.

97

BETHEL

(Llanddewi Velfrey parish)

Dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn mhlwyf Llanddewi gan Theophilus Morgan, pregethwr cynorthwyol yn Henllan, tua'r flwyddyn 1795 neu 1796. Achlysurwyd y cyfarfod cyntaf fel y canlyn : - Yr oedd hen wraig yn byw yn Llanddewi, o'r enw Sarah Lloyd, yr hon oedd yn aelod yn Henllan. Yr oedd wedi myned yn rhy fethedig i fyned mor bell a Henllan, ond yr oedd yn alluog i fyned i le o'r enw Hendrefach. Felly daeth Theophilus Morgan i dy Griffith William, Hendrefach, i bregethu er mwyn yr hen chwaer uchod yn yr adeg grybwylledig. Cafwyd cymaint o flas yn y cyfarfod hwnw fel y penderfynodd yr ardalwyr i gael cyfarfodydd yn achlysurol yn Hendrefach o hyny allan, er mwyn Sarah Lloyd ac eraill a fuasai yn cymeryd dyddordeb mewn manteision crefyddol. Parhaodd Theophilus Morgan i bregethu yn achlysurol yno am dair blynedd, hyd farwolaeth yr hen wraig grefyddol, ond ni bu yno bregethu am rai blynyddoedd ar ol hyny. Yr oedd dyn o'r enw Joshua Phillips yn byw mewn lle o'r enw Castell-dwy-groes, tyddyndy bychan rhwng Bethel a Narberth. Yr oedd ef yn un o swyddogion Henllan. Cafodd ef ei analluogi i fyned i Henllan gan ergyd o'r parlys. Mewn canlyniad i hyn, penderfynodd cyfeillion Henllan i gynal cyfarfodydd pregethu yn achlysurol yno er mwyn y brawd methedig. Pregethwyd yno gan John David, Carfan ; Evan Williams, Penback ; Lewis Roberts, Llanboidy ; John Thomas, Carfan ; Theophilus Morgan, Henllan, ac yn achlysurol gan Mr John Lloyd, gweinidog Henllan, yn nghyd ag amryw ddyeithriaid eraill. Ar ol cynal cyfarfodydd am ryw amser yn nhy Joshua Phillips, dechreuodd rhai yn yr ardal deimlo angen ysgol hyfforddiadol. Yr oedd poblogrwydd ysgol gateceisio Henllan yn fawr, a chynyrchodd hyny awydd cryf am sefydliad cyffelyb yn mhlwyf Llanddewi. John Phillips, wyr i Joshua Phillips a enwyd, oedd yn blaenori yn nghylch cael ysgol gateceisio. Llwyddodd i'w chael, a chynaliwyd hi o dy i dy yn y gymydogaeth, o'r flwyddyn 1821 hyd 1824. Yr oedd mor boblogaidd fel nad oedd y tai yn ddigon eang i'w chynal, oherwydd hyny buwyd dan yr angenrheidrwydd o gynal ei chyfarfodydd lawer gwaith mewn ydlanau ac ar y meusydd. Cynaliwyd y cyfarfodydd hyn yn ydlanau y Gwyndy a Chastell-dwy-groes, ac yn aml ar feusydd Castell-dwy-groes ac ar fuarth Hendrefach, a'r athraw yn ei lawn hwyliau ar ben y gareg-farch. Cysegrwyd y manau uchod gan gyfarfodydd yr ysgol hyfforddiadol a phresenoldeb Duw ynddynt. Erbyn y flwyddyn 1824, yr oedd yr Annibynwyr wedi lluosogi cymaint fel y teimlwyd angen ty at eu gwasanaeth, ac aed i ymofyn lle i adeiladu ysgoldy gan John Thomas, Ysw., Gwyndy, yr hyn a ganiatawyd yn ddibetrus ganddo. Meddyliwyd unwaith ei adeiladu yr ochr nesaf i Whitland o'r Gwyndy, ond gan fod yr ardalwyr oeddynt yn byw rhwng Gwyndy a Narberth yn anfoddlon i'w adeiladu yn y man hwnw, caniataodd y boneddwr haelionus le i'w adeiladu yr ochr nesaf at Narberth i'r Gwyndy. Benjamin Phillips a Griffith William oedd yn blaenori fwyaf yn nghylch ei gael. Adeiladwyd yr ysgoldy yn y flwyddyn 1824. Cedwid yr ysgol bob prydnawn Sabboth am dri o'r gloch, bob yn ail a phregethu. Cododd awydd yn mhen blynyddoedd ar ol adeiladu yr ysgoldy i gael cymundeb, a llwyddwyd i'w gael bob dau fis. Gweinyddwyd y cymundeb cyntaf

98

yma gan Mr Lloyd, Henllan. Wedi hyny caniatawyd cymundeb bob mis. Ar ol hyn cynyddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa gymaint fel yr aeth yr hen dy yn rhy fychan. Adeiladwyd y capel presenol yn y flwyddyn 1849. Rhoddodd Thomas Thomas, Ysw., mab y J. Thomas a grybwyllwyd yn barod, les am fil ond un o flynyddoedd am geiniog y flwyddyn, a digon o le i gladdu yn ol yr angen.

Yr oedd yr achos yma mewn cysylltiad gweinidogaethol a Henllan o'r dechreuad, ac felly y parhaodd hyd y flwyddyn 1854, pryd y gorfodwyd Mr Lewis, Henllan, oherwydd eangder maes ei lafur i roddi y gofal i fyny. Cyn diwedd y flwyddyn ganlynol, unodd yr eglwys hon a'r eglwys yn Soar, Hendygwyn, i roddi galwad i Mr William Thomas, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, yr hwn a urddwyd Rhagfyr 24ain a'r 25ain, y flwyddyn hono, ac y mae yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad a chymeradwyaeth hyd y dydd hwn. Bu yma adfywiad grymus yn y flwyddyn 1856, pryd yr ychwanegwyd rhai ugeiniau o aelodau gweithgar at yr eglwys. Cafodd yr eglwys yma lawer o golledion o bryd i bryd trwy symudiadau a marwolaethau ; ond ni theimlwyd mwy trwy ymadawiad neb na thrwy ymadawiad Mr Thomas Thomas, o'r Gwyndy. Yr oedd ei dy yn gartref i'r achos, ac efe a'i wraig, yr hon sydd ferch i'r diweddar Mr Lloyd, Henllan, yn gwir ofalu am dano. Yr oedd bywiogrwydd ac egni Mr. Thomas yn rhoddi bywyd yn mhawb o'i gwmpas; ac yr oedd ganddo allu i gael gan eraill i gydweithio. Symudasant o'r Gwyndy, hen gartrefle y teulu, i le heb fod yn nepell o Gydweli, ac ymunodd a'r eglwys, yn Capel Sul ; ond yn y flwyddyn 1872, gostyngwyd i nerth ar y ffordds a thorwyd ef i lawr yn nghanol i ddyddiau.

Ni chyfodwyd yma neb i bregethu, ond y mae yma yn awr ddyn ieuangc o'r enw David Rees, Pentroidyn, ar ddechreu pregethu.

Translation by Maureen Saycell (Jan 2009)

Preaching for the Independents was started by Theophilus Morgan, a supporting preacher at Henllan, in 1795 or 1796. Sarah Lloyd an elderly member of Henllan lived in Llanddewi, she was no longer able to get to Henllan. However she could get to Hendrefach, the home of Griffith William and Theophilus Morgan preached there for her. This was the first service here, and it was so successful that it was decided to hold occasional services at Hendrefach for her convenience and that of the others in the area who may be interested. These services continued for 3 years, until the old lady died, and preaching continued for some years after that. A man named Joshua Phillips lived at Castell-dwy-groes, a smallholding between Bethel and Narberth. He was an official at Henllan, but because of a stroke he was no longer able to get there, and the friends at Henllan held occasional services there for him. Sermons were given by John David, Carfan ; Evan Williams, Penback ; Lewis Roberts, Llanboidy ; John Thomas, Carfan ; Theophilus Morgan, Henllan, and occasionally Mr John Lloyd, minister of Henllan, as well as many others. After holding these services for some time a need was felt for some instruction in the area. The catechism school at Henllan was very popular, and this fired the enthusiasm in the parish of Llanddewi. The leader in the effort to set this up was John Phillips, nephew of Joshua Phillips. Their efforts succeeded and the school was held from house to house from 1821 to 1824. It became so popular that many a time it was held in granaries or in the fields. These services were held in the granaries at Gwyndy and Castell-dwy-groes, the fields of Castell-dwy-groes and the yard at Hendrefach with the teacher in full flow on the mounting block. The above places were consecrated by the meetings of the school and the presence of God in them. By 1824 the Independents felt the need for a house of worship, they went to ask John Thomas,esq, Gwyndy for some land to build, which he granted willingly. It was thought to build on the Whitland side of Gwyndy, but after some discussion the Narberth side was agreed on. Benjamin Phillips and Griffith William led the quest to get this, and the schoolhouse was built in 1824. School was held every other Sunday with preaching. A few years after building the school a desire was felt to hold communion, it was granted every 2 months. The first communion was celebrated by Mr Lloyd, Henllan, after that it was celebrated every month. There was an increase in the church and the congregation so that the old house became too small. The current chapel was built in 1849. Thomas Thomas, Esq., son of the aforementioned J Thomas, granted them a lease for 999 years for a penny per year, and sufficient space for burials as needed.

This cause was associated with Henllan's ministry from the start and continued so until 1854, when Mr Lewis, Henllan was forced to give up the care because of his large parish. Before the end of the following year they joined with Soar, Hendygwyn, to call Mr William Thomas, student at Brecon College, and ordained here December 24th and 25th of that year, and he remains here acceptably and industriously to this day. There was a strong revival here in 1856, when large numbers of useful members were added to the church. There were losses here over the years through death and social movement, none was felt more keenly than that of Mr Thomas Thomas, Gwyndy. His house was a home to the cause, and he and his wife, a daughter of the late Mr Lloyd, Henllan, truly cared for it.  Mr Thomas's lively attitude and energy inspired everyone around him, and he had the ability to get people to work together. They moved from Gwyndy, the old family home, to a place near Kidwelly and joined Capel Sul, but in 1872 he died in middle age.

No one has been raised here to preach, but a young man named David Rees, Pentroidyn, has started to preach.

 

GEDEON

(Dinas parish)

Saif yr addoldy bychan hwn, ar ochr y brif-ffordd o Drefdraeth i Aberwaun, tua dwy filldir a haner o'r blaenaf a phedair o'r olaf. Adeiladwyd ef yn 1830 gan Mr T. Jones, Ebenezer, Trefdraeth. Yr oedd amrai o frodyr a chwiorydd ffyddlon yn byw yn y gymydogaeth hon, y rhai oeddynt yn aelodau parchus yn Trefdraeth; megis Benjamin Williams, a'i wraig ; Evan Rees, Garn ; Daniel Evans, a'i wraig ; John Phillips, a'i wraig ; William Parry, a'i wraig ; Mrs Harries, Wernddu, yn nghyd ag eraill pa rai fuant yn cynal cyfarfodydd gweddi o dy i dy, am tua deunaw o flynyddau. O'r diwedd meddyliwyd, trefnwyd, a phenderfynwyd adeiladu capel. Cafwyd y tir at adeiladu, a mynwent helaeth, ar les o 199 o flynyddau, am swllt yn y flwyddyn, gan y boneddwr caredig Thomas James, Ysw., Caerleon, ger Abergwaun. Yr oedd gan y cyfeillion galon i weithio, a gwnaeth yr amaethwyr yn y gymydogaeth ofalu yn ffyddlon am y cludiad ; yn enwedig Mr Harries, Wernddu, a Mr Lloyd, Penyfeidir. Yn fuan wedi i agoriad, daeth yno gynnulleidfa gyson, ffyddlon, a boddhaol. Bu Gedeon am rai blynyddau mewn cysylltiad a Threfdraeth, hyd ymadawiad Mr Jones. i Tiers Cross, ger Milford, yn 1837. Wedi hyny urddwyd Mr G. Rees, D.D., Abergwaun,  fod yn weinidog yn y lle, a bu yno yn eu gwasanaethu yn rhad am tua phum' mlynedd. Yna rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny, i gael mwy o amser, a thalu mwy o

99

sylw, i'r ysgol oedd dan ei ofal yn Abergwaun, trwy yr hon y gwnaeth lawer iawn o les a daioni. Ar ei ol ef, rhoddodd yr eglwys alwad unfrydol i Mr John Davies, brawd parchus, o Drefdraeth, ac urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth Ebrill 19eg, 1843. Yn ystod tymhor ei weinidogaeth ef, ychwanegwyd llawer at yr eglwys, gwnaed gwelliantau ar y capel, a helaethwyd y gladdfa; ond nid ydyw yr eglwys etto wedi lluosogi cymaint a phe buasai mewn llawer cymydogaeth, gan fod cynifer o'r aelodau yn forwyr, ac eraill yn symud yn barhaus i weithfaoedd Morganwg a Mynwy. Ymwelodd y Gymanfa Dair Sirol a Gedeon yn 1855 ; ac er fod y lle yn fychan, yr oedd yma gymanfa fawr ar amrai ystyriaethau; tua 60 o weinidogion ; rhai miloedd o veranda wyr ; a gwisgwyd y cenhadon a nerth o'r uchelder - a bu yr ymweliad yn fendith amserol a thragwyddol. Yn ddiweddar, rhoddodd Mr Davies ei ofal gweinidogaethol i fyny, er ei fod etto yn pregethu yn aml, parchus, a chymeradwy yno. Ychydig flynyddau yn ol, rhoddodd Miss Jane Harries, Wernddu, 100p. yn ei hewyllys at Gedeon, llog pa rai sydd i gael eu defnyddio at gynorthwyo y weinidogaeth yn y lle. Yn Gedeon y dechreuodd Mr J. Thomas, Bryn, Llanelli, bregethu, yn 1836, ac y mae efe yn adnabyddus i'r holl eglwysi.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

GEORGE REES, D.D. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1795, yn agos i Brynberian, Sir Benfro. Nid oedd amgylchiadau bydol ei rieni ond isel, ond yr oeddynt yn ofni yr Arglwydd, a dysgwyd yntau o'i febyd yn llwybrau crefydd. Yn y flwyddyn 1813, derbyniwyd ef yn aelod yn Brynberian, ac yn fuan ar ol hyny dechreuodd bregethu. Bu yn yr athrofa yn Nghaerfyrddin, y pryd hwnw o dan ofal Mr D. Peter, ac wedi treulio rhai blynyddoedd yno, aeth i'r rhan Seisnig o sir Benfro, lle y bu yn cadw ysgol ac yn pregethu yn achlysurol. Symudodd oddiyno i Abergwaun, lle yr agorodd ysgol, yr hon a gadwodd yn effeithiol am dair-blynedd-ar-ddeg-ar-hugain. Bu o wasanaeth arbenig i addysgu morwyr ieuaingc, a bu llawer o bregethwyr dan ei ofal o bryd i bryd, yn parotoi i'r athrofeydd, ac aeth rhai o'r ysgol yn uniongyrchol i'r weinidogaeth. Cyfrifid ef yn ysgolhaig rhagorol, yn enwedig mewn Hebraeg a Groeg. Urddwyd ef yn weinidog yn Gedeon, fel y gwelsom, a bu gofal yr eglwys arno dros rai blynyddoedd. Nid oedd yn nodedig fel pregethwr, ond yr oedd o gymeriad diargyhoedd. Derbyniodd i ditl o un o urdd-ysgolion America. Cafodd ergyd o'r parlys, yr hyn a'i cyfyngodd i'w wely am y pum, mlynedd olaf o'i fywyd ; ond dyoddefodd y cwbl yn hollol dawel i ewyllys ei Arglwydd. Bu farw, Awst 31ain, 1870, a chladdwyd ef, yn mhen pedwar diwrnod ar ol hyny, yn mynwent Brynberian.

Translation by Maureen Saycell (Jan 2009)

This small chapel stands on the main road between Trefdraeth and Fishguard, two and a half miles from the former and four from the latter. It was built in 1830 by Mr  T Jones, Ebenezer, Trefdraeth. Many of the faithful brothers and sisters lived in this area, but were members in Trefdraeth like :- Benjamin Williams, and his wife ; Evan Rees, Garn ; Daniel Evans,  and his wife ; John Phillips,  and his wife ; William Parry,  and his wife; Mrs Harries, Wernddu as well as many others who held prayer meetings from house to house for about 20 years. Eventually the idea of having and building a chapel was made. Land was aquired for building and a large cemetery on a lease of 199 years, for 1/- a year rent, from a kind gentleman named Thomas James, Esq.,Caerleon, Fishguard. The friends had the heart to work and the farmers among them saw to all the carriage, particularly Mr Harries, Wernddu and Mr Lloyd, Penfeidr. Soon after it opened a regular, satisfactory congregation gathered. Gedeon was associated with Trefdraeth until Mr Jones moved to Tier's Cross near Milford, in 1837. Mr G Rees, D.D. Fishguard was ordained here after that, he stayed for five years, working without pay. The he gave up ministerial care so that he could pay more attention to the school he kept in Fishguard, through which he did a great deal of good. Next the church sent an united call to Mr John Davies, Trefdraeth, who was ordained April 19th,1843. During his time many were added to the church, improvements were made to the chapel and the cemetery extended, but the church did not grow as it would have in other areas. Many members were sailors and also many moved to Glamorgan and Monmouth to the mines. The Three Counties Festival visited Gedeon in 1855, and despite the fact that the place was small, for many reasons it was a large gathering, some 60 ministers, some thousands of listeners, and the missionaries were dressed in zeal from above with a timely and everlasting blessing. Recently Mr Davies gave up his ministerial care, although he still preaches frequently, welcomed and respected. A few years ago Miss Jane Harries, Wernddu, left 100 in her will, the interest from this is used to support the ministry here. It was at Gedeon that Mr J Thomas, Bryn, Llanelli began to preach in 1836, who is well known in the churches.

BIOGRAPHICAL NOTES*

GEORGE REES, D D - born 1795 near Brynberian, Pembrokeshire - confirmed 1813 Brynberian - Carmarthen College, then kept school and preached occasionally in the English area - moved to Fishguard, opened a school which he kept for 33 years - considered an exceptional scholar especially in Greek and Hebrew - Degree from American College - spent the last 5 years of his life in bed after a stroke - Died August 31st, 1870, buried Brynberian.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

TENBY

Dechreuwyd yr achos yn y dref hon trwy osod i fyny bregethu wythnosol mewn ty anedd yma, gan Mr B. Evans, St. Florence, yn y flwyddyn 1818. Yr oedd pregethu achlysurol wedi bod yma flynyddau lawer cyn hyny, gan y Meistriaid Morgans, Henllan ; Jones, Trelech, ac eraill. Yn y flwyddyn 1822, agorwyd yma gapel cyfleus o werth 500p. Cynaliwyd cyfarfodydd yr agoriad Mai 15fed, yn y flwyddyn hono. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Meistriaid D. Peter, Caerfyrddin ; J. Lloyd, Henllan ............................

Translation by Gareth Hicks (Jan 2009)

The cause began in this town through the setting up of  weekly preaching in dwelling houses here, by Mr B Evans, St Florence, in 1818. There had been occasional preaching for many years before that, by Messrs Morgans, Henllan ; Jones, Trelech, and others. In 1822 they opened here a convenient chapel costing 500. The opening ceremony was held on 15th May in that year. Taking part in the service were Messrs D. Peter, Caerfyrddin ; J. Lloyd, Henllan; M. Jones, Trelech ; W. Warr, Hwlffordd ; W. Warlow, Milford; I. Bulmer, Hwlffordd ; T. Harries, Penfro, and W. Thomas, Rosemarket. Mr B. Evans was the minister here from 1818 to 1837.  He was followed by Mr J J Braine, who was here for 2 years. The next minister here was Mr David Roberts, from Brecon College, and a member at the church at Abergorlech, Carmarthenshire. He was here until 1845, when he gave up his ministry. He was off at the time doing some service as a schoolmaster or curate in the National Church. After being for 2 years reliant on occasional ministers, in 1847 they gave a call to Mr Daniel Anthony, BA, from Homerton College, and he was ordained here in that year. After labouring here, with a good measure of success, until 1853, he moved to Frome; and was followed in Tenby, in the same year, by Mr Eliezer Griffiths, from New College, son of the late Mr Griffiths, minister at Mynydd Seion, Newport. Mr Griffiths was here respectably for 12 years, and in 1865, he moved to Australia. Soon after that, Mr Anthony, from Frome, returned to his former fields of endeavour, and he was here again for almost 5 years, then moved to Devizes, in Wiltshire, where he is now. In his second term as minister in the place, Mr Anthony was instrumental in building here a superb chapel, which goes by the name The Congregational Church. It is one of the most beautiful chapels in the principality, with a large schoolhouse, and other different rooms, with it. The church is now building a house for the minister. By the time the house is finished, this progressive and adventurous congregation, will have spent over 6000 on building works related to the cause. Mr Anthony was followed here as minister, in 1871, by Mr John Lewis, from Bangor, formerly of Galway, Ireland, and he is the present minister. This cause has never been as flourishing and successful as it is now. There is a good congregation all year round; but in the summer months, when strangers from all parts of the kingdom come here to spend a week in this place of paradise, the place is heaving. The affairs of this cause are being conducted by a committee. The treasurer of the church is Joseph Craven, Esq.,  from London and Tenby; the chairman of the committee is H Goward Esq, MA., LL.B., and the secretary is Mr J T Jones. The deacons are Messrs John Phillips, William Adams, J. Rogers, B. Phillips, and W. Thomas. We haven't been able to find the names of anyone who was raised to preach here, if there were any. The first chapel here, on account of its position and construction, was unworthy of the place, and against the success of the cause; whilst the present chapel, on account of its position and construction, is everything one could wish it to be. There is every likelihood of a very successful future ahead of this cause.

 

CONTINUED

 


Return to top

( Gareth Hicks - 25 Jan 2009))

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI

Valid HTML 4.01 Transitional