GENUKI Home page
Radnorshire Radnorshire Contents Contents

 

  Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

RADNORSHIRE section (Vol 2, pages 527 - 544)

The umbrella project for WALES is detailed  on this Genuki page where there is a contents listing for each county/section and data on what has been extracted/translated already.
This is the complete Radnorshire section of Volume 2, in Welsh -  any existing translations will be itemised on the above page.
This extraction is as it is in the book, chapel names and page numbers act as separators.
Footnotes remain at the bottom of pages
Extraction by Gareth Hicks (April 2008)

Proof read by Yvonne John (April 2008)

Chapels below;

 


Pages 527 - 544

527

MAESYRONEN

(Glasbury parish)

Mae y capel hwn yn sefyll ar lechwedd bryn uwchben parc a phalasdy Maesllwch, yn mhlwyf y Clâs, neu Glasbury, un o'r ardaloedd prydferthaf yn Nghymru. Mae yr achos Ymneillduol yma yn hen iawn. Gan fod yr enwogion Walter Cradock a Vavasor Powell wedi bod am flynyddau yn pregethu yn y path hwn, a bod Richard Powell, yr hwn oedd yn un o'r profwyr, neu farnwyr cymhwysderau gweinidogion, dan y ddeddf a basiwyd yn 1649, er taenu yr efengyl yn Nghymru, wedi hod am flynyddau yn weinidog plwyfydd Llanigon a'r Clâs, mae yn naturiol barnu fod crefydd efengydaidd wedi gwreiddio ac ymledu yn yr ardal hon er amser y Senedd Hir, a chyn hyny. Yr oedd amryw o'r teuluoedd parchusaf a mwyaf dylanwadol o Aberhonddu i'r Gelli yn Ymneillduwyr proffesedig yn amser y Werin-lywodraeth, a safasant yn ddisigl yn eu proffes wedi adferiad Siarl II. Yr oedd rhai o Ymneillduwyr y parthau hyn yn Fedyddwyr er y flwyddyn 1650. Nid yn mhell o'r ardal hon y ganwyd ac y magwyd John Myles, sylfaenydd enwad y Bedyddwyr yn Nghymru. Yn amser yr erledigaeth yr oedd y Bedyddwyr yn cydaddoli a'r Annibynwyr yn y gwahanol aneddau lle y cyfarfyddent yn ddirgel. Yn fuan wedi cael deddf goddefiad yn 1688, ymranodd y frawdoliaeth yn dair eglwys. Ymffurfiodd yr Annibynwyr yn y parthau hyn yn eglwysi yn Maesyronen a Thredustan, a'r Bedyddwyr yn Maesyberllan. " Eglwys Llanigon" y gelwid y

528

frawdoliaeth cyn iddynt ymranu, am mai yn mhlwyf Llanigon yr oedd prif fan ei chynnulliad. Yr oedd yn eglwys luosog a gwasgaredig iawn, yn cyrhaeddyd o Droedrhiwdalar i Ferthyr Tydfil, ac o'r Gelli, ar derfynau sir Henffordd, hyd Gefnarthen, yn sir Gaerfyrddin. Mae yn debyg mai Mr. Richard Powell oedd yn cael ei ystyried fel gweinidog oddiar ffurfiad yr eglwys, yr hyn a gymerodd le rywbryd yn amser y Senedd Hir, hyd amser ei farwolaeth yn 1668. Yr oedd yma amryw bregethwyr yn ei gynorthwyo megis Lewis Prytherch, Henry Williams, o Ferthyr, a rhai eraill. Mae yn ymddangos mai ar weinidogaeth y cynorthwywyr hyn y bu yr eglwys yn ymddibynu o amser marwolaeth Mr. Powell hyd nes iddynt roddi galwad i Mr. Henry Maurice yn 1672. Bu Mr. Maurice yn llafurio yn ddiwyd a llwyddianus iawn yn y cylch eang hwn hyd ei farwolaeth yn 1682. Dilynwyd ef yn y weinidogaeth yn holl ganghenau yr eglwys gan Mr. Rees Prytherch, Ystradwalter, ger Llanymddyfri, a bu yntau yn llafurus a llwyddianus iawn yn holl gylch eang y weinidogaeth hyd ei farwolaeth yn 1699. 1r ei farwolaeth ef dewisedd gwahanol ganghenau yr eglwys wasgaredig weinidogion iddynt eu hunain. Yr ydym yn barnu i gapel Maesyronen gael ei adeiladu tua y flwyddyn 1696, ond ni chafodd y weithred ei gwneyd cyn y flwyddyn 1714. Rhoddwyd y tir at adeiladu y capel yn rhodd i'r gynnulleidfa gan Lewis Lloyd, Ysw., o Faesllwch, yr hwn mae yn dra thebyg, oedd yn aelod o'r eglwys. Y gweinidog cyntaf yn Maesyronen, wedi iddi fyned yn eglwys ar ei phen ei hun, oedd Mr. David Price. Cafodd ei urddo yma tua y flwyddyn 1700, neu yn fuan ar ol hyny, a bu yn llenwi ei gylch yn effeithiol yma hyd derfyn ei oes yn 1742. Yn mhen tua thair blynedd wedi marwolaeth Mr. Price, rhoddwyd galwad i Mr. Lewis Rees, Llanbrynmair, a bu yma hyd 1748, pryd y dychwelodd i Lanbrynmair. Canlynwyd Mr. Rees gan Mr. James Davies, yr hwn fu yn weinidog yma o 1749 hyd 1759, neu o bosibl flwyddyn neu ddwy ar ol hyny. Nis gwyddom pa un ai symud oddiyma neu farw a wnaeth. Y nesaf y cawn ei enw fel gweinidog yma yw Walter Bevan. Yr oedd yma yn 1762. Mae ei hanes yn hollol anhysbys i ni. Dilynwyd ef yn 1767, gan William Llewellyn, yr hwn a fu yma hyd 1775, ac o bosibl flwyddyn neu ddwy ar ol hyny.* Y gweinidog nesaf oedd Mr. Thomas Bowen, myfyriwr o'r athrofa yn Abergavenny ; urddwyd ef yma yn 1781, ac yma y bu yn rhyfeddol o boblogaidd a llwyddianus, nid yn unig yn Maesyronen, ond trwy yr holl wlad o'r Gelli i Aberhonddu, ac o Lanfairmuallt i Grughowell. Er mawr alar a cholled i'r gynnulleidfa a'r wlad yn gyffredinol, gogwyddodd ei feddwl i symud i Faesyrhaf, Castellnedd, yn 1796. Yn fuan wedi ymadawiad Mr. Bowen, rhoddwyd galwad i Mr. David Jones, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef yma Mawrth 22ain, 1797, pryd yr oedd y gweinidogion canlynol yn wyddfodol, a'r rhan fwyaf o honynt yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth : - Simon Williams, Tredustan; E. Davies, Hanover; D. Thomas, Penmain; E. Jones, Pontypool ; T. Phillips, Neuaddlwyd ; James Price, Caebach ; Howell Powell, Casnewydd ; Evan Davies, Aberhonddu; Jonathan Powell, Rhaiadr; Evan Harris, Llanymddyfri, a W. James, Caerdydd. Parhaodd Mr. Jones yn ei gysylltiad gweinidogaethol a Maesyronen am agos i haner can' mlynedd. Yn ei amser ef y trowyd y gwasanaeth yn hollol i'r iaith Saesonaeg. Yr oedd amgylchiadau yr ardal yn galw am hyny gan fod ieuengctyd y

* Cofnodion y Bwrdd Henadurol.

529

gymydogaeth yn ddieithriad yn anwybodus o'r Gymraeg. Nid oes yn yr holl ardal yn bresenol ond ambell un o'r hen bobl henaf yn deall y Gymraeg.Yr oedd yr eglwys fechan yn Brechfa, Brycheiniog, dan ofal Mr. Jones, mewn cysylltiad a Maesyronen, trwy holl dymor ei weinidogaeth. Yn y flwyddyn 1846, o herwydd henaint a methiant, bu raid iddo roddi ei ofal gweinidogaethol i fyny. Yr oedd rhif y cymunwyr yn Maesyronen pan roddodd ef ofal y lle i fyny yn gant, ac yn ddeugain yn Mrechfa. Yn fuan wedi hyn, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Havard, gan yr eglwysi yn Maesyronen a Brechfa, a bu yn cael ei ystyried yn weinidog yn y ddau le ae yn Nhredustan, nes iddo gael ergyd o'r parlys yn 1861, yr hyn a'i gorfododd i ymddeol o'r weinidogaeth. Yu fuan wedi i Mr. Havard gael i analluogi, rhoddodd yr eglwys yn Maesyronen, mewn cysylltiad a'r eglwys yn y Gelli, alwad i Sais o'r enw M. A. Harvey. Bu ef yn gwasanaethu y ddwy eglwys hyd ddechreu y flwyddyn 1868, pryd y symudodd i Wlad yr Haf. Cyn ei ymadawiad ef yr oedd yr eglwys yn Maesyronen wedi dechreu adeiladu capel yn mhentref Glasbury, er mwyn cyfleusdra yr aelodau a'r gwrandawyr a breswylient yn y rhan boblog hono o'r ardal. Yn haf y flwyddyn 1868, rhoddodd y fam-eglwys yn Maesyronen, a'r gangen yn Glasbury, alwad i Mr. J. R. Lewis, o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma. Yn y flwyddyn 1871, derbyniodd Mr. Lewis alwad o Dorrington, sir Amwythig, a symudodd yno. Dilynwyd ef yn Maesyronen a Glasbury gan Mr. H. D. Shankland, gwr ieuangc genedigol o Lacharn, sir Gaerfyrddin. Derbyniodd ei addysg yn athrofa y Wesleyaid yn Richmond. Urddwyd ef yma yn nechreu y flwyddyn hon (1872). Mae llafur Mr. Shankland yn argoeli bod yn dderbyniol a llwyddianus yma.

Ychydig flynyddau yn ol darfu i Mr. DeWinton, perchenog presenol palasdy Maesllwch, wrthod i breswylwyr pentref Glasbury gael myned trwy ei barc ef i addoldy Maesyronen, yr hyn a'u gorfodai i gerdded tua milldir a haner yn fwy nag arfer er cyrhaedd eu haddoldy. Gan fod y ffordd trwy y parc yn cael ei defnyddio at fyned i'r capel er's mwy na chant a haner o flynyddau, penderfynodd y gynnulleidfa, er fod amryw o honynt yn denantiaid i Mr. DeWinton, na oddefent iddo eu gorthrymu heb fyny gwybod. a oedd ganddo hawl i hyny. Dechreuwyd ymgyfreithio, ond yn fuan gwelodd cyfreithiwr y boneddwr fod ei achos yn ddrwg, a chynygiodd fod y ddadl i gael ei phenderfynu gan gyflafareddwyr. Penderfyniad y cyfryw ydoedd fod y llwybr i gael ei agoryd fel cynt a bod Mr. DeWinton i dalu pob costau.

Yn y ddeunawfed ganrif yr oedd achos blodeuog mewn lle o'r enw MAESGWYN, tua thair milldir i'r gogledd o Faesyronen. Mae yn debyg mai cangen o Faesyronen oedd yr achos hwn yn wreiddiol, ond tua y flwyddyn 1715, yr oedd yma gynnulleidfa o tua thri chant o rif, a'r dysgedig a'r enwog Vavaser Griffiths yn weinidog iddi. Bu Mr. Griffiths yn weinidog i'r gynnulleidfa hon hyd ei farwolaeth yn 1741. Dilynwyd ef yn y weinidogaeth yma gan un o'i ysgolheigion o'r enw Thomas Morgan, yr hwn a fu yma hyd 1744, pryd y symudodd i Groesoswallt. Y gweinidog nesaf oedd Mr. David Lewis, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, yr hwn a fu yma am fwy na deugain mlynedd, ac yn ol tystiolaeth Edmund Jones, Pontypool, a bregethodd yr holl gynnulleidfa allan o'r capel. Gyda  farwolaeth ef tua, diwedd y ganrif ddiweddaf, darfu yr achos yn y lle hwn yn hollol.

530

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

Yn y cofnodion canlynol cynwysir gweinidogion Maesgwyn yn gystal a gweinidogion Maesyronen.

RICHARD POWELL. Mae lle ac amser ei enedigaeth ef yn anhysbys i ni. Nid oes un amheuaeth na ddarfu iddo dderbyn ei addysg naill ai yn Rhydychain neu Gaergrawnt. Mae yn debyg ei fod yn pregethu rai blynyddau cyn dechreuad y rhyfel cartrefol fed offeiriad plwyf Llanigon, ac yn amser y Werinlywodraeth cafodd ei wneyd yn weinidog plwyf Glasbury, pan drowyd Alexander Griffiths allan oddiyno am anfoesoldeb. Mae Alexander Griffiths, yr hwn oedd yn ddyn galluog iawn, er ei fod yn ddyn drygionus, wedi cyhoeddi amryw fân lyfrau i ddifrio ac enllibio Annghydffurfwyr ei oes, ac y mae Richard Powell yn cael ei ran o ddifriaeth ac enllib ganddo. Cyhudda ef o ddyweyd yn un o'i bregethau, mai gweddi bwdr yw gweddi yr Arglwydd, ac nad Duw yw creawdwr y byd. Cyhudda ef hefyd o dderbyn can' punt y flwyddyn o dal gan y llywodraeth fel gweinidog, mewn ychwanegiad at ddegymau plwyf Llanigon a thri o blwyfydd cymydogaethol eraill, ac o farchogaeth o flaen ei blwyfolion yn erbyn byddin Syr William Waller. Mae y ffaith fod Griffiths yn cymeryd cymaint o drafferth i ddyfeisio cynifer o enllibiau celwyddog i'w taflu ar enw da Mr. Powell, yn dangos ei fod yn ddyn o nod a dylanwad. Hefyd y mae y ffaith fod Mr. Powell wedi cael ei osod yn y weithred seneddol er taenu yr efengyl yn Nghymru, yn un o brofwyr cymhwysderau y gweinidogion a anfonid allan dan y ddeddf hono, yn dangos ei fod yn cael edrych arno fel dyn o safle uchel. Dywed Mr. Thomas Watkins, un o ynadon heddwch sir Frycheiniog, fod Mr. Powell yn bregethwr gonest, galluog, a ffyddlon. Bu y dyn da a llafurus hwn farw yn ei anedd yn Mhenywerneithin, yn sir Faesyfed, yn y flwyddyn 1658, ac felly cymerwyd ef i dangnefedd cyn i'r erledigaeth a ddilynodd adferiad Siarl II. dori allan.*

HENRY MAURICE. Gwelir hanes yr Ynysgau, Merthyr.

REES PRYTHERCH. Yn nglyn a hanes Cefnarthen y rhoddir ei fywgraphiad ef.

LEWIS PRYTHERCH. Rhoddir ei fywgraphiad yntau yn nglyn a hanes Tredustan.

DAVID PRICE. Nid oes genym braidd ddim o'i hanes ef. Yr ydym yn barnu mai yn yr athrofa yn Abergavenny, dan ofal Roger Griffiths, y derbyniodd ef ei addysg. Yn y Llwynllwyd, yn sir Frycheiniog, ond o fewn ychydig gyda dwy filldir i Faesyronen yr oedd yn cyfaneddu. Cafodd ei urddo, fel y nodasom, tua y flwyddyn 1700, a bu farw yn mis Awst, 1742. Yr ydym yn casglu oddiwrth ryw awgrymiadau mewn hen lawysgrifau fod Mr. Price yn weinidog o safle uchel, a'i fod yn ddyn mewn sefyllfa uwch na'r cyffredin o ran ei amgylchiadau bydol.

LEWIS REES Gwelir hanes eglwys Mynyddbach, Morganwg.

JAMES DAVIES. Dechreuodd ef ei weinidogaeth yn Maesyronen tua flwyddyn 1749, a bu yno hyd y flwyddyn 1759. Nis gwyddom un o ba le ydoedd, na pha le na pha bryd y bu farw. Yr oedd ei fab, Richard Davies, yn fyfyriwr yn athrofa Caerfyrddin o 1754 hyd 1758. Yr oedd ganddo fab arall o'r enw Rees Davies yn bregethwr.

* Rees's History of Nonconformity in Wales.

531

WALTER BEVAN. Nid ydym yn gwybod dim o'i hanes ef. Yr oedd yn weinidog yn Maesyronen yn 1762. Nis gwyddom pa faint cyn hyny y daeth yno, na pha cyhyd ar ol hyny y bu yno.

WILLIAM LLEWELLYN. Yr ydym yn barnu mai yr un yw efe a'r William Llewellyn a urddwyd yn y Cwmmawr, Morganwg, yn 1746. Yn 1762, yr ydym yn ei gael yn weinidog yn y Garn yn sir Faesyfed, ac yn Gwenddwr, sir Frycheiniog, o 1766 hyd 1773. Yr oedd yn Maesyronen o 1769 hyd 1775, ac o bosibl am rai blynyddau yn ddiweddarach. Gallasai fod yn gofalu am Faesyronen a Gwenddwr yr un amser gan nad yw y pellder rhyngddynt yn gyflawn ddeng milldir. Nis gwyddom un o ba le ydoedd na pha bryd y bu flaw.

THOMAS BOWEN. Gwelir hanes eglwys Maesyrhaf, Castellnedd.

DAVID JONES. Ganwyd ef mewn amaethdy o'r enw y Drefawr yn mhlwyf Llanfyrnach, sir Benfro. Yr oedd ei rieni yn ddynion crefyddol iawn, ac yn aelodau ffyddlon o'r eglwys yn Nhrelech. Dygasant eu plant i fyny yn ofn yr Arglwydd. Yr oedd David Jones dan argraffiadau crefyddol er pan yr oedd yn blentyn ieuangc. Wedi bod am dymor yn yr ysgol a gedwid gan Mr. Owen Davies, Trelech, gweinidog ei rieni, anfonwyd ef i ysgol enwog Mr. John Griffiths, Glandwr. Tra yr oedd yno ymunodd a'r eglwys yn Glandwr, ac yn fuan wedi hyny dechreuodd bregethu. Wedi bod am rai blynyddau yn yr ysgol yn Glandwr, derbyniwyd ef i athrofa Caerfyrddin yn y flwyddyn 1788. Wedi gorphen ei amser yn yr athrofa bu yn agos i flwyddyn ar brawf yn Nghaernarfon. Bu wedi hyny ar brawf yn Llangattwg, Crughowell, lle y cafodd alwad. Tua yr un amser cafodd alwad o Faesyronen, a dewisodd y lle hwnw yn hytrach na Llangattwg. Urddwyd ef yn Maesyronen, fel y nodasom, Mawrth 22ain, 1797. Parhaodd i lafurio yn y maes hwn hyd y flwyddyn 1846, pryd y bu ,raid iddo o herwydd gwendidau henaint roddi ei swydd i fyny. Bu farw Tachwedd 1 af, 1848, mewn oedran teg, a chladdwyd ef yn nghapel Maesyronen. Ar ddydd ei gladdedigaeth, pregethodd ei hen gyfaill Mr. Thomas Rees, o Huntington, oddiwrth Salm cxix. 174. Dywedir fod ei deimladau yn nefolaidd iawn yn ei gystudd, ac iddo ymadael a'r byd a'i lygaid yn gweled iachawdwriaeth yr Arglwydd.

Yr oedd David Jones yn ddyn hardd ac urddasol ei ymddangosiad cyn iddo ddechreu dadfeilio gan henaint. Perchid ef gan bawb o bob sefyllfa trwy holl gylch ei adnabyddiaeth. Yr oedd yn bregethwr da a synwyrol, ond dywedir mai prin y mynai gydnabod neb fel gweinidog rheolaidd heb ei fod wedi derbyn addysg athrofaol. Bu yr achos yn Maesyronen yn dra llewyrchus am flynyddau yn nhymor ei weinidogaeth ef, ond o herwydd ei fethiant i gyflawni dyledswyddau ei swydd yn ei flynyddau diweddaf, yr oedd y gynnulleidfa wedi lleihau yn fawr.

VAVASOR GRIFFITHS. Un genedigol o gymydogaeth Maesyronen, neu y Maesgwyn, oedd y gwr enwog hwn. Mae amser ei enedigaeth yn anhysbys i ni. Derbyniodd ei addysg yn athrofa enwog Mr. Samuel Jones, yn Tewkesbury. Urddwyd ef yn weinidog yr eglwys Annibynol yn y Maesgwyn, ryw bryd rhwng 1715 a 1725, a bu yn llafurio yma, ac mewn amrywiol leoedd eraill yn sir Faesyfed, hyd ei farwolaeth yn 1741. Yn 1733, ar farwolaeth Mr. Thomas Perrott, athraw yr athrofa yn Nghaerfyrddin, penodwyd Mr. Griffiths i fod yn athraw y sefydliad. Gwrthododd ef fyned i Gaerfyrddin, am y barnai y huasai yn well ar les y myfyrwyr i'r athrofa gael ei chadw yn y wlad, fel na buasent yn agored i brofedigaethau y dref.

532  

Yn ngwyneb hyny penderfynodd y Bwrdd Henadurol a'r Bwrdd Cynnulleidfaol yn Llundain, i'r athrofa gael ei symud at yr athraw. Bu yn cael  chadw am dymor yn Llwynllwyd, ty Mr. Price, gweinidog Maesyronen. Yn ystod y saith mlynedd y bu yr athrofa dan ofal Mr. Griffiths, bu yn cael ei chadw mewn tri neu bedwar o wahanol anedd-dai.

Yr oedd Mr. Vavasor Griffiths yn un o'r ysgolheigion goreu, ac yn un o'r dynion mwyaf duwiol yn ei oes: Ysgrifenai Edmund Jones, Pontypool, yn 1742, mai un o'r dynion goreu a adnabyddodd  erioed oedd Mr. Griffiths, ac nad oedd yn disgwyl cyfarfod i well nes iddo fyned i'r nfoedd. Yr oedd yn athraw o radd uchel, ac yn llywodraethu y myfyrwyr gyda gofal a llymder. Dichon ei fod yn arfer mwy o lymder nag a wnelsai oni buasai fod tynerwch eithafol ei ragflaenor, Mr. Perrott, wedi bod yn achlysur i lawer o'r myfyrwyr ymollwng i gyfeiliornadau blin mewn barn a buchedd. Colled drom i'r athrofa ac i Gymru yn gyffredinol oedd marwolaeth y dyn anghydmarol hwn.*

THOMAS MORGAN. Nid ydym wedi gallu cael allan yn mha ardal y ganwyd ef. Derbyniodd ei addysg athrofaol yn yr athrofa dan ofal Mr. V. Griffiths, ac ar draul y Bwrdd Cynnulleidfaol. Ar farwolaeth ei athraw yn 1741, dewiswyd ef yn ganlyniedydd iddo fel gweinidog yr eglwys yn y Maesgwyn. Yn 1744, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Nghroesoswallt, a symudodd yno, ac yno y bu yn barchus a defnyddiol iawn hyd derfyn ei oes, yr hyn a gymerodd le yn fuan ar ol y flwyddyn 1770.

DAVID LEWIS. Y oedd ef yn enedigol o Abertawy. Cafodd ei addysgu yn athrofa Caerfyrddin. Dywed Thomas Morgan o Henllan, yr hwn oedd yn gydfyfyriwr ag ef, ei fod yn ddyn ieuangc difrifol, ac yn bregethwr da, ond fod gormod o'r meudwy ynddo. Urddwyd ef yn y Maesgwyn yn y flwyddyn 1745, ac yno y bu hyd ei farwolaeth, ond, fel y gwelsom, bu ei ddull meudwyaidd, neu anghyfeillgar o fyw yn foddion i ladd yr achos. Yr ydym yn barnu iddo fyw hyd yn agos i ddiwedd y ganrif ddiweddaf. Yr oedd yn fyw yn 1780, ac wrth bob tebygolrwydd am yn agos i ugain mlynedd ar ol hyny. Mae yn ffaith fod y dynion mwyaf diddefnydd yn gyffredin yn cael byw lawer yn hwy na'r dynion mwyaf defnyddiol. Un o bethau tywyll rhagluniaeth yw hyn.

  

GLASBURY

Mae y pentref prydferth hwn ar lan yr afon Wy, rhwng Talgarth a'r Gelli. Gan fod capel Maesyronen dros filldir o'r pentref, ac yn enwedig wedi i Mr. DeWinton, Maesllwch, fel y nodwyd yn hanes Maesyronen, wahardd i'r bobl fyned trwy y parc tua'r capel, fel yr arferent fyned gynt, yr oedd angen neillduol am addoldy yn y pentref. Trwy gallineb a diwydrwydd Mr. Richard Williams, pregethwr cynorthwyol yn Maesyronen, yr hwn a brynodd dý a gardd yn Glasbury, cafwyd yma dir cyfleus i adeiladu capel arno. Parodd adeiladiad y capel ddiflasdod nid bychan i eglwyswyr rhagfarnllyd yr ardal, a phe buasent yn gwybod dyben Richard Williams wrth brynu y ty, buasent yn sicr o roddi deg cymaint a'i werth am dano

*Thompson's MSS.

533

cyn y goddefasent iddo ef ei gael. Cynlluniwyd y capel gan Mr. Thomas, Glandwr, ac agorwyd ef Hydref 28ain, 1866, pryd y pregethwyd gan Dr. Thomas o Stockwell, ac eraill. Costiodd yr adeilad fil o bunau. Cyfranodd Samuel Morley. Ysw., tua chant a haner at y draul. Trwy ei haelioni ef, ac ymdrechion lleol, nid yw y ddyled sydd yn aros ar y lle yn drom. Wedi agoryd y capel sefydlwyd yma wasanaeth crefyddol cyson mewn cysylltiad a Maesyronen. Un eglwys yr ystyrir Maesyronen a Glasbury. Mae yma gynnulliad rhagorol, ac er fod y capel yn cynwys o dri i bedwar cant o eisteddleoedd, y mae eisioes wedi myned yn rhy fychan yn fynych i gynwys y gynnulleidfa. Yma yr urddwyd Mr. J. K. Lewis, Mehefin 23ain, 1868, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri Morris a Roberts, o athrofa Aberhonddu ; J. Stephens, Brychgoed ; D. P. Davies, Llanfairmuallt ; Dr. Rees, Abertawy, ac eraill. Yma drachefn yr urddwyd Mr. D. H. Shankland, y gweinidog presenol. Gweinyddwyd yn ei urddiad gan Meistri Morris, Aberhonddu ; Jones, Llacharn ; Evans, Talgarth ; Griffiths, Painscastle ; Jones, Huntington, a Jowett, y Gelli. Wedi adeiladu y capel hwn, nid oes nemawr o breswylwyr pentref Glasbury yn myned i Faesyronen, ond pan y byddo y cyfarfod cymundeb yn cael ei gynal yno. Mae hen gapel Maesyronen etto yn wasanaethgar i breswylwyr y wlad ar y tu gogleddol iddo, tra y mae capel Glasbury yn rhyfeddol o gyfleus i breswylwyr y dyffryn o bob tu i'r afon.

  

CAEBACH

(Diserth parish)

Yr oedd Ymneillduaeth wedi gwreiddio ac ymdaenu yn yr ardal hon er dyddiau yr Annghydffurfwyr. Fel y nodwyd yn y rhagarweiniad i hanes y sir, yr oedd achos yn y Garn, yn mhlwyf Disserth yn y flwyddyn 1715, ac yn ddiameu lawer o flynyddoedd cyn hyny. Yn y flwyddyn hono ymsefydlodd Mr. Christoducius Lewis, o Gapel Seion, sir Gaerfyrddin, yn weinidog yma, ac yma y bu hyd ei farwolaeth yn 1759, neu y flwyddyn ganlynol. Yn nhymor ei weinidogaeth ef yn y Garn yr adeiladwyd capel yn y Caebach, yn mhlwyf Cefnllys, tua thair milldir i'r gogledd o'r Garn. Ar draul Mr. Thomas Jones, gwr genedigol o'r ardal hon, ond a fuasai yn weinidog yn Titbury, yn sir Gaerloew, am ddeng-mlynedd-ar-hugain, yr adeiladwyd y capel cyntaf yma. Nid ydym wedi cael allan pa flwyddyn yr adeiladwyd ef, ond yr ydym yn barnu iddo gael ei adeiladu yn fuan ar ol 1715. Yr oedd Mr. Jones, y gwr a ddygodd draul yr adeiladaeth, yn fab i Mr. David Jones, Trefonen Hall, yn y sir hon. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1675, a threuliodd ei holl fywyd cyhoeddus yn weinidog yn sir Gaerloew. Mae yn ymddangos ei fod yn ddyn lled gyfoethog. Yr ydym yn barnu mai Mr. C. Lewis oedd y gweinidog cyntaf yn y Caebach, mewn cysylltiad a'r Garn. Yn 1752, yr ydym yn cael un John Evans yn weinidog yma, ac yn 1755, cymerodd Mr. Simon Williams ofal y lle hwn, mewn cysylltiad a Rhaiadr. Yn fuan wedi symudiad Mr. Williams i Dredustan, rhoddwyd galwad gan yr eglwysi yn y Caebach a Rhaiadr i Mr. John Thomas, myfyriwr o athrofa Abergavenny, ac urddwyd ef Ebrill 23ain, 1767, pan y gweinyddwyd gan Meistri Edmund Jones, Pontypool; Isaac Price, Llanwrtyd, a Richard Tibbott, Llanbrynmair, Bu Mr. Thomas yn rhyfeddol o lwyddianus yma am rai blynyddau. Yr ydym yn cael y cof-

534

nodion canlynol ganddo yn hanes ei fywyd, a ysgrifenwyd ganddo ef ei hun: - " Daeth yr Arglwydd i lawr mewn modd anghyffredin yn y Caebach trwy weinidogaeth y gair oddeutu y flwyddyn 1769, yn debyg i ddydd y Pentecost, yn ein cyfarfodydd neillduol a chyhoedd, yn enwedig ar gyfranu yr ordinhad, nes y byddai amryw yn tori allan mewn llef wedi eu dwysbigo, ac eraill yn bendithio yr Arglwydd, canu a gweddio, a llefaru bob un with ei gymydog, a phobl y byd yn synu, ac yn ffaelu ymadael ambell waith trwy y dydd Sabboth, nes y buaswn i wedi dychwelyd yn fy ol ar ol pregethu yn Rhaiadr, a thrafaelu oddeutu ugain milldir yn mlaen ac yn ol. Cynwrf a ymdaenodd trwy'r cymydogaethau, ac ychwanegwyd llawer at yr eglwys. Neillduais bedwar yn eglwys y Caebach i fod yn ddiaconiaid a henuriaid, a thri o wyr iuaingc hefyd, trwy gydsyniad yr eglwys, i arfer eu doniau yn gyhoeddus yn yr eglwys flodeuog hon. A pharhaodd pethau fel hyn yma dros y blynyddoedd 1770, 1771, a 1772, nes oedd y son am lwyddiant y Caebach, gerllaw ffynonau Llandrindod, trwy holl Gymru." Tua y flwyddyn 1778, darfu cysylltiad Mr. Thomas a'r eglwys hon fel ei gweinidog, a dilynwyd ef yma yn 1779, gan Mr. James Price, yr hwn a fu yma hyd ei farwolaeth, yn haf y flwyddyn 1804. Tuag amser marwolaeth Mr. Price, cafodd y capel ei ailadeiladu. gweinidog nesaf yma oedd Mr. David Powell, myfyriwr o athrofa Gwrecsam. Bu Mr. Powell yn gweinidogaethu yma am tua dwy-flynedd-ar-bymtheg. Rhoddodd ei ofal i fyny yn 1821. Wedi ei ymadawiad ef dewiswyd Mr. Richard Lewis, un o aelodau yr eglwys, i fod yn weinidog. Bu yntau yn llafurio yma gyda diwydrwydd a mesur o lwyddiant am bedair blynedd. Bu farw yn 1825. Wedi ei farwolaeth ef bu yn amser lled helbulus yma. Mynai Middleton Jones, Ysw., ymddiriedolwr yn ngweithred y capel a'r tir perthynol iddo, wthio un John Davies, o gymydogaeth Rhaiadr, ar yr eglwys yn erbyn ei hewyllys. Y canlyniad fu i'r rhan fwyaf o'r bobl fyned allan o'r capel, gan adael gweinidog yr ymddiriedolwr yno agos heb neb gydag ef. Wedi iddynt fyned allan buont yn addoli mewn amaethdai yn y gymydogaeth. Yn fuan dewisasant Mr. Daniel Williams o Lanfairmuallt, yn weinidog iddynt, ac urddwyd ef gan Mr. Lewis, Tredustan, ac eraill, mewn amaethdy yn mhlwyf Disserth. Tua phen blwyddyn wedi hyn bu farw Mr. Middleton Jones, ac yna cafodd Mr. Williams a'r eglwys y capel yn ol at eu gwasanaeth. Bu Mr. Williams yn weinidog yma hyd y flwyddyn 1844, pryd y gorfodwyd ef gan waeledd ei iechyd i roddi ei swydd i fyny. Rai blynyddau cyn hyn yr oedd Mr. David Price, aelod o'r eglwys, yn cynorthwyo yma yn y weinidogaeth, a phan roddodd Mr. Williams y lle i fyny, urddwyd Mr. Price yn ganlyniedydd iddo. Cymerodd ei urddiad le Mehefin 13eg, 1844. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Meistri T. Havord, Tredustan; R. Thomas, Rhaiadr; D. Jones, Maesyronen; D. Williams, y cynweinidog ; D. Griffiths, Gelli, a J. Jones, Minsterley. Yn y flwyddyn 1867, teimlai Mr. Price nad oedd ei alluoedd a'i iechyd yn ei alluogi i gyflawni ei weinidogaeth yn deilwng mewn lle oedd yn awr wedi dyfod yn bwysig iawn ar gyfrif ei agosrwydd i ffynonau Llandrindod, ac felly rhoddodd ei ofal i fyny, fel y gallasai yr eglwys edrych allan am un cymhwysach i'r cylch. Yn y flwyddyn 1868, rhoddwyd galwad i Mr. Kilsby Jones, ac efe yw y gweinidog yma yn bresenol. Gan fod capel y Caebach tua milldir o ganol y boblogaeth, a bod lluaws o dai yn cael eu hadeiladu yn agos i'r ffynonau, cymerodd Mr. Jones dir at adeiladu capel yn nghanol y tai newyddion. Gosodwyd ei garreg sylfaen yn 1869,

535

gan y diweddar Mr. H. O. Wills, Caerodor, a chafodd ei orphen a'i agor yn 1871. Mae hwn yn addoldy hardd o werth tua 1500p. Cyfranodd Mr. S. Morley tua 200p. at y draul. Mae yma gynnulleidfa luosog iawn yn yr haf, ac y mae y lle yn hynod o gyfleus a gwasanaethgar i'r ymwelwyr.

Yr oedd Jonesiaid, Pencerrig, teulu cyfoethog a dylanwadol iawn, yn noddwyr selog i'r achos hwn yn y ganrif ddiweddaf, ac y mae rhai cenedlaethau o'r teulu wedi cael eu claddu yma. Gadawodd Mrs. Jones, Penycerrig, yr hon a fu farw yn 1789, fferm fechan o werth tuag ugain punt y flwyddyn yn waddol i'r achos yma. - Ar ei marwolaeth hi collodd Ymneillduaeth ei gafael yn y teulu hwn.

Mae yn sicr i lawer gael eu codi o bryd i bryd i bregethu yn yr eglwys hon, ond nis gwyddom enwau neb o honynt ond Mr. Richard Lewis a Mr. David Price, y rhai fuont yn weinidogion yma, a Mr. Daniel Davies, yr hwn fu am ddwy-flynedd-a-deugain yn weinidog yn Wollerton, sir Amwythig.

Er mai yn nghapel newydd LLANDRINDOD y mae y gwasanaeth yn cael ei gynal yn awr, etto y mae cyfarfodydd gweddio a phregethu achlysurol yn yr hen gapel. Christ-church yw yr enw wrth ba un y mae Mr. Kilsby Jones yn dewis i'r capel newydd gael ei adnabod, ac yr ydym yn gobeithio y bydd y lle yn deilwng o'r enw tra y byddo yma gareg ar gareg.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

CHRISTODUCIUS LEWIS. Yr oedd ef yn enedigol o blwyf Cynwil, sir Gaerfyrddin. Addysgwyd ef yn athrofa Caerfyrddin dan Mr. W. Evans. Cafodd ei urddo yn Nghapel Seion, Llanddarog, tua y flwyddyn 1712, pan ffurfiwyd yr eglwys yno. Yn 1715, symudodd i sir Faesyfed, lle y bu hyd ei farwolaeth, tua y flwyddyn 1760. Nid ydym yn gwybod dim yn ychwaneg o'i hanes.

JOHN EVANS. Nid ydym yn gwybod dim am dano ef ond ei fod yma yn y flwyddyn 1752.

SIMON WILLIAMS. Yn nglyn a hanes Tredustan y rhoddwn gymaint ag a wyddom am dano ef.

JOHN THOMAS. Cafodd y gwr hynod hwn ei eni yn mhlwyf Myddfau, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1730, o rieni tlodion a hollol ddigrefydd. Cyn gynted ag y daeth yn alluog, anfonwyd ef i wasanaethu amaethwyr. Er  fod wedi ei fagu mewn teulu digrefydd, fe weithiwyd ynddo trwy ryw foddion deimladau crefyddol pan nad oedd ond plentyn ieuangc iawn. Pan yr oedd ef yn llangc ieuangc yr oedd y diwygiad Methodistaidd yn cynhyrfu y wlad o gwr i gwr. Cafodd yntau y fraint o wrandaw amryw o'r prif bregethwyr, ac ennillwyd ef i wneyd proffes o grefydd pan yr oedd tua phymtheg oed. Yr oedd cyn hyn, heb nemawr neu ddim manteision addysg, wedi dysgu darllen ac ysgrifenu ychydig. Pan yr oedd newydd uno a'r gymdeithas grefyddol, aeth i Landdowror, a chaniataodd Mr. Griffith Jones iddo gael dyfod yn was iddo ef. Bu yno nes yr oedd yn ddeunaw mlwydd oed. Aeth oddiyno i Drefecca, lle y bu am agos i ddwy flynedd yn yr ysgol. Ar ei ymadawiad o Drefecca, aeth i gadw ysgol yn mhlwyf Llanigan, sir Frycheiniog, a thra yno dechreuodd arfer ei ddoniau yn gyhoeddus fel pregethwr. Traddododd ei bregeth gyhoeddus gyntaf yn y

536  

Cantref, gerllaw Aberhonddu, yn Ionawr, 1750. O hyn allan pregethu a chadw ysgol mewn gwahanol ranau o Ddeheubarth Cymru y bu, megis y Groeswen, Morganwg ; Llansadwrn, sir Gaerfyrddin, ac yn agos i Drefdraeth, sir Benfro, &c., hyd y flwyddyn 1761, pryd y derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Annibynol yn Rhydymardy, Morganwg, gan Mr. W. Evans, Cwmllynfell, a chyn diwedd y flwyddyn hono, derbyniwyd ef i'r athrofa yn Abergavenny, lle y bu dros bedair blynedd. Wedi gorphen ei amser yno bu ar fedr ymsefydlu fel gwinidog yn y Brychgoed a Thy'nycoed, ond gwrthodai rhai personau o ddylanwad yn yr eglwysi hyny arwyddo ei alwad, ac felly nid aeth yno. Yn fuan wedi hyny, cafodd alwad oddiwrth yr eglwysi yn Rhaiadr a'r Caebach, ac urddwyd ef yno, fel y gwelsom, yn 1767. Rhoddodd ofal yr eglwysi i fyny tua y flwyddyn 1778, ond bu yn byw, ac yn pregethu mewn gwahanol fanau yn sir Faesyfed, am tuag un-mlynedd-ar-bymtheg ar ol hyny. Yn y flwyddyn 1794, symudodd i Langathen, sir Gaerfyrddin, ac oddiyno i Abergwyli. Yn Nghaerfyrddin yr oedd yn byw yn niwedd ei oes, ac yno y bu farw tua y flwyddyn 1811. Cyhoeddwyd hanes ei fywyd, wedi ei ysgrifenu ganddo ef ei hun, yn y flwyddyn 1810, dan yr enw Rhad Ras, neu lyfr profiad, mewn byr hanes am ddaioni yr Arglwydd tuag at ei wael wasanaethwr, John Thomas (awdwr Caniadau Seion), o'i febyd hyd yma. Mae hwn yn llyfr rhyfedd iawn, ac yn werth ei ddarllen. Yn ol yr adroddiad a gynwysa y llyfr hwn, bu John Thomas yn un o'r pregethwyr mwyaf llafurus ac arddeledig yn ei oes. Nid oes nemawr o ardal yn Nghymru na bu ynddi lawer o weithiau, a bu rai gweithiau yn pregethu yn nghapeli Whitefield yn Llundain, ac yn amryw o gapeli yr Arglwyddes Huntington yn Kent ac Essex, &c. Yn ol ei adroddiad ef yr oedd rhyw effeithiau anghyffredin yn dilyn ei weinidogaeth pa le bynag yr elai. Er y dichon ei fod yn dderbyniol a llwyddianus iawn fel pregethwr teithiol, nid ydym yn tybied ei fod yn feddianol ar gymwysder i fod yn winidog sefydlog. Yr ydym yn casglu oddiwrth ei ysgrifeniadau ei fod, er yn ddiameu yn ddyn duwiol iawn, yn lled blentynaidd yn ei ffordd, ac yn amddifad o fedr i beri i ddynion edrych i fyny ato fel dyn o bwys a dylanwad. Heblaw hanes ei fywyd, a'r llyfr hymnau a elwir Caniadau Seion, cyhoeddodd amryw farwnadau, a chyfieithodd rai man lyfrau o'r iaith Saesoneg. Mae ei hanes yn un o'r enghreifftiau rhyfeddaf o waith yr Arglwydd yn cyfodi un o ddyfnder tlodi ac anfanteision i sefyllfa o gryn nod a defnyddioldeb.

JAMES PRICE. Y cwbl a wyddom am dano ef yw iddo gael ei urddo yn y Caebach tua y flwyddyn 1779. Ei fod yn ddyn parchus a defnyddiol, ac iddo farw yn haf y flwyddyn 1804.

DAVID POWELL. Yr oedd yn enedigol o blwyf Llanafanfawr, sir Frycheiniog. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nhroedrhiwdalar, ac yno y dechreuodd bregethu. Bu yn fyfyriwr yn athrofa Gwrecsam, ac ar orpheniad ei amser yno, urddwyd ef yn y Caebach, tua y flwyddyn 1804, lle y bu yn llafurio hyd y flwyddyn 1821. Yna rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny, ond parhaodd i bregethu yn achlysurol hyd derfyn ei oes. Bu farw Medi 2il, 1850. Yr oedd pawb a'i hadwaenai yn ei barchu ac yn ei gyfrif yn ddyn gwir dda.

DANIEL WILLIAMS. Yn Llanfairmuallt yr oedd ef yn byw. Oriedydd (Watchmaker) ydoedd wrth ei alwedigaeth. Yr oedd yn ddyn da a pharchus. Bu farw yn y flwyddyn 1854, a chladdwyd ef yn mynwent capel yr Annibynwyr yn Llanfairmuallt.  

537

RHAIADRGWY

(Rhayader parish)

Mae yr achos Annibynol yn y lle hwn yn hen iawn, ond nid oes genym wybodaeth sicr trwy lafur pwy y dechreuwyd ef. Yr ydym yn barnu mai Mr. John Hanmer, yr hwn oedd yn enedigol o'r sir hon, ac a fu am flynyddau, yn amser y werinlywodraeth, yn bregethwr teithiol llafurus iawn yn siroedd Maesyfed ac Aberteifi, fu yr offeryn i'w ddechreu. Y gweinidog cyntaf y mae genym hanes am dano yma yw Mr. Thomas Walters. Ymsefydlodd ef yma tua y flwyddyn 1692, ac yma y bu am yr ysbaid maith o driugain mlynedd. Bu farw mewn oedran teg yn 1752, mewn lle a elwid y Neuadd, yr hwn le a fuasai gynt yn garchardy, ac y buwyd yn addoli am flynyddau cyn adeiladu y capel. Yn y flwyddyn 1721, yr adeiladwyd y capel, ar ddarn o dir a brynwyd i'r perwyl gan Mr. Walters, y gweinidog. Medi 15fed, 1753, urddwyd Mr. Simon Williams yma, a bu yn llafurio yn y lle hwn, mewn cysylltiad a'r Caebach, hyd y flwyddyn 1765, pryd y symudodd i Dredustan, Brycheiniog. Yn y flwyddyn 1766, daeth Mr. John Thomas, o athrofa Abergavenny yma, a chafodd ei urddo, fel y nodwyd yn hanes y Caebach, yn Ebrill, 1767. Rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny yma ac yn y Caebach tua y flwyddyn 1778. Wedi hyn bu Mr. Thomas Bowen yn gofalu am y lle hwn, mewn cysylltiad a Maesyronen, am o bedair i bum' mlynedd. Yn ei amser ef adgyweiriwyd a helaethwyd y capel. Y gweinidog nesaf yma oedd Mr. David Davies, aelod o'r eglwys yn Llanwrtyd. Urddwyd ef yma tua y flwyddyn 1787. Yn 1790, symudodd i Langattwg, Crughowell, a dilynwyd ef yn y Rhaiadr, yr un flwyddyn, gan Mr. Jonathan Powell. Bu yma lwyddiant mawr dan weinidogaeth Mr. Powell am rai blynyddau, ond cyn terfyniad  amser yma cyfododd dadl yn yr eglwys am athrawiaeth y Drindod. Yr oedd yma rai yn gogwyddo at Sabeliaeth, a mynai Mr. Powell eu diarddel, ond gan na chydunai yr eglwys a hyny, rhoddodd y lle i fyny yn 1798, a symudodd i Rosymeirch, Mon. Y gweinidog nesaf yma oedd Mr. Daniel Evans. Urddwyd ef yn y flwyddyn 1800, a bu yma yn barchus, ac i fesur helaeth yn llwyddianus, hyd ei farwolaeth yn Ebrill, 1834. Wedi marwolaeth Mr. Evans, bu yr eglwys yn awyddus iawn am gael yr enwog Mr. Williams o'r Wern, yn weinidog iddi, a theimlai Mr. Williams fesur o ogwyddiad i ddyfod yma, ond ni chaniataodd rhagluniaeth i hyny fod. Yn 1835, rhoddwyd galwad i Mr. John Griffiths, gweinidog yr eglwys Gymreig yn Manchester, a bu yma am yn agos i dair blynedd. Yn y flwyddyn 1836, tynwyd yr hen gapel i lawr, ac adeiladwyd yr un presenol. Yn niwedd y flwyddyn 1837, symudodd Mr. Griffiths i Fynydd Buckeley, yn sir Flint, lle y mae hyd yn bresenol. Yn 1839, rhoddwyd galwad i Mr. Robert Thomas, Glandwr, Abertawy, a'r hon y cydsyniodd. Bu dyfodiad Mr. Thomas i'r lle yn fendith neillduol i'r achos. Torodd diwygiad grymus allan yma yn mhen ychydig gyda blwyddyn wedi ei sefydliad yn y lle. Derbyniodd tua chant o aelodau i'r eglwys yn y flwyddyn 1841, a bu yma gynydd graddol trwy holl dymor ei weinidogaeth. Er galar mawr i bobl ei ofal a'r gymydogaeth yn gyffredinol, gwnaeth ei feddwl i fyny i symud i Hanover, sir Fynwy, yn 1848. Y gweinidog nesaf yma oedd Mr. David M. Davies, o Langefni, Mon. Daeth Mr. Davies yma yn 1849, ac ym-

538

adawodd i Gerrig-cadarn, lle y mae yn bresenol, yn mhen y deunaw mis. Yr oedd pethau yn lled annymunol yma yn ei amser ef, o herwydd bod yr hen bobl am gael mwy o Gymraeg yn y gwasanaeth, a'r bobl ieuaingc am fwy o Saesonaeg. Wedi ymadawiad Mr. Davies, rhoddwyd galwad i Mr. Rees Gwesyn Jones, o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Tachwedd 30ain, 1851. Gweinyddwyd yn yr urddiad gan Meistri D. Williams, Troedrhiwdalar; J. Stephens, Brychgoed; H. Griffiths, athraw yn athrofa Aberhonddu ; T. Evans, Llanarthwl, ac eraill. Bu Mr. Jones yma hyd y flwyddyn 1857, pryd y symudodd i Benybont-ar-ogwy. Ar of ei ymadawiad ef bu yr eglwys am oddeutu tair blynedd dan ofal Mr. Kilsby Jones. Yn y flwyddyn 1862, rhoddwyd galwad i Mr. H. Kerrison, Sais hollol anwybodus o'r Gymraeg. Bu ef yma am tua phedair blynedd. Gwanychodd yr achos yn fawr yn y tymor hwn. Ar ei ymadawiad ef, cymerwyd gofal y lle drachefn gan Mr. Kilsby Jones, yr hwn erbyn hyn oedd wedi dychwelyd o Lundain i Lanwrtyd. Ail-lanwyd y capel gan Mr. Jones yn ddioed, ond rhoddodd ofal y lle i fyny yn mhen naw mis. Yn 1868, rhoddwyd galwad i Mr. Samuel Prosser, o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Mehefin 29ain, yn y flwyddyn hono. Gweinyddwyd yn yr urddiad gan Meistri Morris a Roberts, athrawon athrofa Aberhonddu ; J. Stephens, Brychgoed ; Dr. Rees, Abertawy, ac eraill. Mae gweinidogaeth Mr. Prosser yn dderbyniol iawn yma, a mesur o lwyddiant ar ei lafur. Mae yr achos hwn wedi dyoddef yn fawr yn y pum'-mlynedd-ar-hugain diweddaf, o herwydd newidiad iaith y gwasanaeth. Yr oedd yma hyd yn ddiweddar amryw hen bobl yn llawn o darn Cymreig, ac yr oedd dwyn y gwasanaeth crefyddol yn mlaen yn yr iaith Saesonig fel dwfr oer i'w hysbrydoedd tanllyd hwy. Pa fodd bynag, y Saesoneg sydd wedi ennill y dydd, fel nad oes yma yn awr nemawr i air o Gymraeg yn cael ei ddefnyddio yn y pulpud.

Mae yn dra thebyg i lawer o bryd i bryd gael eu cyfodi i bregethu yma, ond nid ydym ni yn hysbys o enwau neb o honynt ond Mr. Thomas Evans, mab Mr. Daniel Evans, y gweinidog. Daw ei hanes ef dan sylw etto yn nglyn a Charmel a Llanwrthwl.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

Rhoddir hanes y gweinidogion a symudasant oddiyma yn nglyn a'r eglwysi y terfynasant eu hoes ynddynt.

THOMAS WALTERS. Yr oedd ef yn enedigol o ardal y Cilgwyn, yn sir Aberteifi. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1664. Gan fod ei dad yn dirfeddianwr helaeth, cafodd y manteision addysg rhagoraf. Yn athrofa Mr. Samuel Jones, Brynllwarch, y gorphenodd ei addysg.* Ymsefydlodd yn Rhaiadr, fel y nodasom, tua y flwyddyn 1692, a bu yno hyd derfyn ei oes. Bu farw Hydref 25ain, 1752, yn 88 oed, a chladdwyd ef yn mynwent eglwys Cwmdauddwr, Rhaiadr, lle y mae ei gareg fedd i'w gweled etto. Yr oedd Mr. Walters yn ddyn o gyfoeth mawr. Gadawodd ei eiddo i'w ferch, yr hon oedd ei unig blentyn. Y mae rhai o brif foneddigion y parthau hyn yn disgyn oddiwrthi hi, ond y mae ei hiliogaeth wedi llwyr-

*Walter Wilson's MSS.

539

ymwrthod ag egwyddorion Ymneillduol eu hynafiaid er's besau bellach. Nid ydym yn gwybod dim am nodwedd Mr. Walters fel pregethwr, ond yr oedd yn ddyn o ddylanwad mawr ar gyfrif ei gyfoeth a'i ragoriaeth fel ysgolhaig.

DANIEL EVANS. Ganwyd ef yn ardal Crugybar, sir Gaerfyrddin, yn flwyddyn 1771. Yn eglwys Crugybar y dechreuodd broffesu a phregethu. Dechreuodd bregethu yr un amser a Mr. Hughes, Croeswen. Priododd yn lled ieuangc, a chyn dechreu pregethu, yr hyn fu yn rhwystr iddo gael addysg rhagbarotoawl i'r weinidogaeth. Yn mhen ychydig wedi iddo ddechreu pregethu, symudodd i ardal y Brychgoed, lle y bu am rai blynyddau yn bregethwr cynorthwyol derbyniol iawn. Yn 1799, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Rhaiadr, ac urddwyd ef yno yn nechreu y flwyddyn 1800. Llanwodd ei gylch yn ffyddlon ac effeithiol am bedair-ar-ddeg-ar-hugain o flynyddau. Wrth bregethu yn Llanidloes ar nos Sabboth cymerwyd ef yn glaf. Trwy drafferth y dygwyd ef adref i Rhaiadr, lle y bu farw, ar ol ychydig ddyddiau o gystudd, Ebrill 3ydd, 1834, yn 63 mlwydd oed. Claddwyd ef wrth ei gapel yn Rhaiadr. Nid oedd Daniel Evans yn ysgolhaig nac yn ddyn o alluoedd nodedig, ond bu yn ddefnyddiol iawn yn ei oes. Yr oedd yn bregethwr eglur a derbyniol, a gwnaeth lawer mwy o ddaioni yn ei ddydd na llawer o rai rhagorach eu doniau, eu dysg, a'u galluoedd. Dichon i'w anwybodaeth o'r iaith Saesonig fod yn fesur o anfantais i'r achos, yn enwedig yn mlynyddoedd olaf ei weinidogaeth. Uchel-Galfiniad ydoedd o ran ei farn ; a chan  fod wedi dechreu ei fywyd crefyddol a chyhoeddus yn eglwys wresog Crugybar, a than weinidogaeth danllyd Isaac Price, mae yn naturiol casglu ei fod yn un nodedig o dwym yn ei gyflawniadau crefyddol, ac felly yr oedd.

  

CARMEL

(Nantmel parish)

Mae y capel hwn yn mhlwyf Nantmel, tua phum' milldir i'r deddwyrain o Rhaiadr. Trwy lafur Mr. Thomas Evans y casglwyd cynnulleidfa ac yr adeiladwyd capel yma, yn 1829. Wedi cael y capel yn barod, urddwyd Mr. Evans yn weinidog yma. Cymerodd ei urddiad le Mehefin 8fed, 1831. Yr oedd trefn y gwasanaeth fel y canlyn :- Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. Richard Lloyd, Llanbadarnygareg ; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. J. Davies, Glandwr; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. D. Williams, Caebach; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Williams, Troedrhiwdalar; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. T. Lewis, Llanfairmuallt, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. W. Lewis, Tredustan. Parhaodd Mr. Evans i lafurio yma ac yn Llanwrthwl hyd derfyn ei oes yn 1869. Achos bychan sydd yma, ac nis gall lai na bod felly, gan nad yw yr ardal ond cymharol deneu ei phoblogaeth. Cyfodwyd yma ddau i bregethu, ond yr ydym wedi methu dyfod o hyd i'w henwau. Wedi marwodaeth Mr. Evans, rhoddodd yr eglwys hon, a'r eglwys yn Llanwrthwl, alwad i Mr. J. W. Jones, o Bontypridd, ac urddwyd ef Chwefror 24ain, 1870. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Meistri D. Williams, Troedrhiwdalar ; J. Stephens, Brychgoed ; W. I. Morris, Pontypridd, ac eraill. Yn Llanwrthwl y cynaliwyd y cyfarfod urddo. Mae Mr. Jones yn parhau i lafurio yma, a dywedir fod golwg obeithiol ar yr achos yn y ddau le.

540

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

THOMAS EVANS. Unig blentyn Mr. Daniel Evans, Rhaiadr, oedd efe. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1795. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig gan ei dad pan yr oedd yn dra ieuangc. Nid ydym wedi cael allan pa oed ydoedd pan y dechreuodd bregethu. Darfu iddo yntau, fel ei dad, briodi yn ieuangc iawn, trwy yr hyn y gosododd ei hun dan anfantais i gael yr addysg a allasai gael. Bu am ychydig amser yn yr ysgol ramadegol a gedwid mewn cysylltiad a'r athrofa yn y Drefnewydd. Yr ydym yn tybied mai wedi iddo gladdu ei wraig gyntaf y bu yno. Urddwyd ef, fel y nodasom, yn y capel a adeiladwyd trwy ei lafur ef ei hun, yn 1831. Llafuriodd yn ddiwyd yno, yn Llanwrthwl, cynnulleidfa arall a gasglwyd ganddo, ac agos trwy holl sir Faesyfed, nes i'w iechyd roddi i ffordd. Dyoddefodd boenau mawr oddiwrth y gymalwst a chlefydau eraill am y chwe' mis olaf o'i fywyd. Bu farw Chwefror 21ain, 1869, a chladdwyd ef wrth gapel Llanwrthwl. Gweinyddwyd ar ei gladdedigaeth gan Mr. Williams, Troedrhiwdalar ; Mr. Price, Caebach, ac eraill. Bu yn briod dair gwaith, a chafodd naw neu ddeg o blant o'i ddwy wraig gyntaf, ond ni chafodd un o'r drydydd. Wrth amaethu y gallodd fagu ei deulu lluosog, gan nad oedd yr hyn a dderbyniai oddiwrth yr eglwysi bychain oedd dan ei ofal ond ychydig iawn.

Yr oedd Thomas Evans yn ddyn hynaws a siriol, ac yn hollol ddiymhongar. Perchid ac anwylid ef gan bawb o'i gydnabod. Nid oedd ei alluoedd a'i ddoniau fel pregethwr yn helaeth, ond yr oedd yn bregethwr defnyddiol a derbyniol. Er fod llawer o'i amser yn cael ei gymeryd i fyny o angenrheidrwydd gun ei ofalon tymhorol, ni ddarfu i nemawr o weinidog, yn ei oes, deithio mwy nag ef ; ond yr oedd ei lafur yn gyfyngedig agos yn hollod i siroedd Maesyfed a Brycheiniog. Pregethai yn y ddwy iaith, y naill fel y llall, ond Cymreigaidd iawn oedd ei barabliad o'r iaith Saesonig.

  

GORE

(Old Radnor parish)

(Already translated etc http://www.genuki.org.uk/big/wal/RAD/OldRadnor/Hanes.html )

" Mae y lle hwn yn mhlwyf Old Radnor, ac yn agos i derfynau sir Henffordd. Yr ydym yn cael fod Ymneillduaeth wedi gosod ei thraed i lawr yma yn foreu iawn. Cafodd Mr. John Weaver ei droi allan o eglwys New Radnorgan Ddeddf Unffurfiaeth yn 1662. Mae yn ddigon tebygol mai ffrwyth ei lafur ef yw yr achos yn Gore. Darfu iddo ffurfio eglwys yma yn fuan wedi cael ei fwrw allan o'r Eglwys blwyfol, ond ni bu yn hir cyn symud i Henffordd, lle y treuliodd ei oes yn weinidog Ymneillduol. Bu fares yn bedwar ugain oed yn 1712. Merch iddo ef oedd gwraig yr enwog a'r dysgedig Samuel Jones, athraw yr athrofa yn Tewkesbury. Yn 1672, yr ydym yn cael Maurice a Richard Griffiths yn cyfodi trwyddedau bregethu yn Bigeldy, yn yr ardal hon. Trwyddedodd Owen Morgan, o Bigeldy, ei dy hefyd yr un amser at bregethu ynddo. Nid oes genym un wybodaeth am Richard Griffiths, ond y mae enw Maurice Griffiths i'w ganfod yn fynych mewn hen lyfrau a gyhoeddwyd yn amser y werin-lywodraeth. Yr oedd yn gyfaill neillduol i Vavasor Powell, a chan fod ei enw yn cael ei grybwyll mor fynych, yr ydym yn casglu ei fod yn ddyn o gryn bwys a dylanwad. Yr oedd yn fyw yn 1675. Nid ydym yn hysbys hanes yn mhellach. Mae hanes yr achos yn Gore o 1672 hyd 1720,

541

pryd yr adeiladwyd y capel cyntaf yno, yn hollol anhysbys i ni, ac o'r pryd hwnw yn mlaen hyd 1742, nid ydym yn gwybod dim o'i helynt. Yn y flwyddyn 1742, yr oedd yma un James Beaumont yn pregethu. Mae yn ymddangos ei fod yn ddyn gwresog a phoblogaidd. Bu am rai blynyddau yn cydweithredu a'r Methodistiaid Calfinaidd. Dywedir mae cael ei daro a chareg gan erlidiwr pan yr oedd yn pregethu yn yr awyr agored fu yr achos o'i farwolaeth. Nis gwyddom pa bryd na pha le y cymerodd hyn le. Mae Mr. William Jones, gweinidog presenol Gore, yn un o hiliogaeth Beaumont. Wedi marwolaeth Mr. Beaumont bu un o'r enw Williams yma am rai blynyddau, ond nid oes genym ddim o'i hanes. Yr oedd yr achos yma wedi dadfeilio ac ar farw pan y daeth y diweddar Mr. Thomas Rees i Huntington yn 1802. Yr oedd y capel yn ddadfeiliedig, y ffenestri yn dyllog, a'r les wedi rhedeg allan. Trwy ymdrech Mr. Rees, cafwyd les newydd, ac adgyweiriwyd y capel. Casglwyd yma gynnulleidfa dda yn mhen ychydig amser, a pharhaodd Mr. Rees i lafurio yma hyd y flwyddyn 1849, pryd y gorfodwyd ef gan henaint a methiant i roddi y lle i fyny. Yr oedd yr achos wedi dechreu gwywo yma rai blynyddau cyn hyn, o herwydd fod y gweinidog yn byw rai milldiroedd o'r ardal yn analluog o herwydd henaint i fod o fawr gwasanaeth fel gweinidog. Yn fuan wedi i Mr. Rees roddi y gofal i fyny, rhoddwyd galwad i Mr. W. Jones, y gweinidog presenol, ac urddwyd ef yma yn niwedd 1819. Aelod o eglwys Mr. Rees yn Huntington oedd Mr. Jones. Pedwar-ar-ddeg oedd rhif yr aelodau yn Gore pan ddechreuodd ef ei weinidogaeth yma, and y maent er's rhai blynyddau bellach tua chant o rif. Mae Mr. Jones yn ddiweddar wedi cymeryd ystafell gyfleus at bregethu yn Kington, a bwriada ddechreu achos yno."

 

HUNTINGTON

(Herefordshire)

Mae y pentref hwn yn sir Henffordd, ond gan mai i gyfundeb sir Faesyfed y perthyna yr eglwys oddiar gychwyniad yr achos, a bod y rhan fwyaf o'r bobl yn byw yn Maesyfed, y mae yn briodol i ni roddi ei hanes yma. Fe gafodd yr achos hwn ei ddechreuad dan yr amgylchiadau canlynol : - Tua chanol y ganrif ddiweddaf, aeth bachgen tlawd o'r pentref hwn i Lundain i edrych am ryw waith er ennill ei fywiolaeth. Daeth yn mlaen yno, nes iddo ddyfod yn fasnachydd glo, ac erbyn ei fod yn hen wr yr oedd wedi casglu cyfoeth dirfawr. Enw y gwr oedd Edward Gough. Yr oedd yn ddyn crefyddol iawn, ac yn Ymneillduwr selog. Penderfynodd yn ei henaint osod i fyny ysgol yn ei bentref enedigol i blant tlodion.  Adeiladodd yma ysgoldy cyfleus, a gwaddolodd yr ysgol. Gwnaed yn amod yn y weithred, fod yn rhaid i'r ysgodfeistr fod yn Ymneillduwr ac hefyd yn bregethwr, os na ellid caul neb arall i bregethu yn yr ysgoldy ar y Sabbothau. Yn 1802, penodwyd Mr. Thomas Rees, o athrofa Caerfyrddin, i fod yn ysgolfeistr yma. Yn fuan wedi iddo ymsefydlu yn y lle,  heblaw cyfodi yr achos yn Gore o farw i fyw, casglodd gynnulleidfa a ffurfiodd eglwys Annibynol yn yr ysgoldy yn Huntington. Parhaodd Mr. Rees i wasanaethu yma hyd derfyn ei oes yn 1858. Bu Mr. Henry Rees yn weinidog yma am dair blynedd wedi marwolaeth ei dad, a symudodd oddiyma i Hythe, yn Kent lle y mae etto. Yn Hydref, 1861, cymerodd Mr. W. Jones ofal yr eglwys hon mewn cysylltiad a Gore, ac efe yw y gweinidog yma hyd yn bresenol.

542  

Codwyd y rhai canlynol i bregethu yn Gore ac yn Huntington: -   

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

THOMAS REES. Ganwyd ef yn mhlwyf Meline, yn sir Benfro, yn 1774. Ymunodd a'r eglwys yn Brynberian yn ieuangc iawn, a phan yr oedd yn ddwy-ar-bymtheg oed dechreuodd bregethu. Derbyniwyd ef yn fyfyriwr i athrofa Caerfyrddin yn y flwyddyn 1796, a bu yno am chwe' blynedd. Mehefin 13eg, 1802, dechreuodd ar ei waith fel ysgolfeistr a phregethwr yn Huntington. Yn fuan wedi hyny cafodd i urddo. Yr oedd tri-ar-ddeg o weinidogion yn ei urddiad. Heblaw cadw yr ysgol a phregethu yn Gore a Huntington bob Sabboth, pregethodd lawer yn y pentrefydd oddiamgylch, a bu lawer gwaith mewn perygl o'i fywyd oddiwrth erlidwyr wrth wneyd hyny. Gollyngwyd ergyd o wn ato unwaith wrth bregethu yn Eardisley, ond fe ddiogelodd yr Arglwydd ei fywyd. Parhaodd i bregethu hyd o fewn mis i'w farwolaeth. Bu farw yn ddedwydd iawn, Mai 14eg, 1858, a chladdwyd ef yn y fynwent gysylltiedig a'r capel a adeiladwyd ganddo yn ymyl yr ysgoldy yn Huntington. Yr oedd yn bregethwr chwaethus a synwyrol, ond nid oedd grym a bywiogrwydd mawr ynddo. Cyfrifid ef yn ddyn da iawn a hollol ymroddgar i wasanaeth ei Arglwydd.

 

LLANBADARN Y GAREG

(Already translated etc http://www.genuki.org.uk/big/wal/RAD/LlanbadarnGarreg/Hanes.html )

Mr. Richard Lewis, pan yr oedd yn bregethwr cynorthwyol yn y Caebach, a ddechreuodd yr achos yn y lle hwn. Bu yn teithio yma am flynyddau i bregethu, a thua y flwyddyn 1817, cafodd yma ddigon o broffeswyr crefydd i'w ffurfio yn eglwys. Wedi ei ffurfio bu yr eglwys fechan yn ymddibynu ar weinidogion y sir i weinyddu yr ordinhad iddi dros amryw flynyddau, gan ei bod yn rhy wan i gynal gweinidog ei hun. Y cyntaf a urddwyd yma oedd Mr. Richard Lloyd. Cymerodd ei urddiad le oddeutu y flwyddyn 1828. Bu ef yn gwasanaethu yr achos hwn yn ffyddlon am tua deuddeng mlynedd. Wedi iddo ddechreu yr achosion yn Hermon a Painscastle, rhoddodd Llanbadarn ac Aberedw i fyny a chyfyngodd ei lafur, am weddill ei oes, i'r ddau achos newydd. Y gweinidog nesaf yma oedd Mr. Evan Evans. Bu ef yma am ddeg neu ddeuddeng mlynedd, ac wedi ei ymadawiad ef, urddwyd Mr. D. Williams, yn awr o Fangor, yma, a bu yma nes y symudodd yno. Ar ei ol ef urddwyd Mr. Richard W. Lloyd yma yn 1854. Tua phedair blynedd y bu ef yma, yna symudodd sir Amwythig, le y mae yn bresenol. Ar ymadawiad Mr. Lloyd, daeth Mr. Evan Evans, yr hen weinidog yn ol, a bu yma drachefn am rai blynyddau. Dilynwyd ef gan Mr. Evan Harries, yr hwn a fu yma am ychydig gyda blwyddyn. Yn nechreu y flwyddyn hon daeth Mr. J. T. Pattison, yr hwn a ddychwelodd yn ddiweddar o Canada, yma ar brawf i weled a hoffa y lle, ac os gwel y bydd argoel iddo wneyd daioni yma, bwriada aros gan fod ganddo fodd i fyw heb ymddibynu ar gyfraniadau y bobl. Ni  bu fawr lewyrch ar yr achos hwn oddiar ymadawiad Mr. Lloyd, y gweinidog cyntaf. Yr oedd yma olwg obeithiol ar bethau yn ei amser ef.

543

ABEREDW

(Already translated etc  http://www.genuki.org.uk/big/wal/RAD/Aberedw/Hanes.html)

Mae y lle hwn yn cael i enw oddiwrth ymarllwysiad yr afonig Edw i'r Wy, tua phedair milldir islaw Llanfairmuallt. Dechreuwyd yr achos yn y 1le yma gan yr un personau ag a ddechreuodd yr achos yn Llanbadarnygareg. Tua yr un amser y dechreuwyd y ddau, a than yr un weinidogaeth y maent wedi bod o'u dechreuad hyd yn bresenol. Mewn anedd-dy y buwyd yn cadw y gwasanaeth yma o ddechreuad yr achos hyd o fewn blwyddyn yn ol. Yn y flwyddyn 1870, rhoddodd Mr. Thomas Thomas o'r Crown, Llanfairmuallt, ddarn o ardd a brynasai ef yma yn ddiweddar at adeiladu capel. Cynaliwyd yma gyfarfod ar yr achlysur o osod y gareg sylfaen. Mr. T. Thomas a gyflawnodd y ddefod o osod y gareg, ac anerchwyd y gwrandawyr ar yr achlysur gan Meistri Kilsby Jones, H. Jones, Caerfyrddin ; Dr. Rees, Abertawy; D. P. Davies, Llanfairmuallt, ac eraill. Mae y capel yn awr wedi cael ei orphen a'i agor, ac y mae yn addoldy bychan nodedig o dlws a chyfleus. Mae yma ac yn Llanbadarn leoedd gobeithiol iawn am achosion siriol pe gellid taro wrth weinidog cymhwys, ond byddai raid i'r neb a ddeuai yma fyw am rai blynyddau heb ymddibynu nemawr am ei gynaliaeth ar y bobl. Gyda bendith gellid cyfodi yma eglwysi cryfion yn raddol.

 

HERMON A PAINSCASTLE

(Llanbedr Painscastle parish)

Tua 1834, daeth Mr. Richard Lloyd, gweinidog Llanbadarnygareg, i fyw i Glanyrafon - fferm fawr yn mhlwyf Llanbedr. Yr amser hwnw nid oedd un addoldy Annibynol, nac un math o wasanaeth gan yr Ymneillduwyr o un enwad, ond cynnulleidfa fychan o'r Primitive Methodists, yn yr holl wlad o Faesyronen i Lanbadarnygareg-pellder o fwy na deuddeng milldir. Wrth weled amddifadrwydd ei gymydogion o'r efengyl dechreuodd Mr. Lloyd bregethu yn ei dý ei hun. Coronwyd ei lafur yn fuan a llwyddiant anghyffredin. Aeth Glanyrafon yn rhy fychan o lawer i gynwys y torfeydd a ddeuent yn nghyd i wrandaw y gair fel y bu raid rhanu y gynnulleidfa yn ddwy mewn gwahanol gyrau o'r ardal. Yn fuan cafwyd digon o ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig i ffurfio dwy eglwys - un yn Portway a'r llall yn Painscastle. Mewn anedd-dai yr addolai y cynnulleidfaoedd hyn dros rai blynyddau ar ol ffurfio yr eglwysi. Tra yr oedd Mr. Lloyd yn nghanol i lafur a'i lwyddiant, galwodd yr Arglwydd ef ato ei hun yn ngrym ei ddyddiau, er galar a cholled ddirfawr i'r holl wlad, yn ol golwg dyn ar bethau. Bu farw yn 1845. Yn mhen dwy flynedd wedi marwolaeth Mr. Lloyd, rhoddodd yr eglwysi ieuaingc alwad i Mr. Henry Jones, o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma yn 1847. Yn 1849, adeiladwyd capel Hermon, ac yn mhen ychydig flynyddau wedi hyny aeth capel y Primitive Methodists yn Painscastle yn wag, a phrynodd yr Annibynwyr ef. Wedi bod yma am ddwy flynedd, derbyniodd Mr. Jones alwad i sir Gaerloew, a symudodd yno yn Rhagfyr, 1849. O'r pryd hwnw hyd y flwyddyn 1852, bu Mr. W. Jones, Gore, yn dyfod yma bob mis i dori bara, a Mr. John Griffiths, Portway, aelod o un o'r eglwysi, a bregethai yn y ddau le ar y tri Sabboth arall. Yn 1852, penderfynwyd urddo Mr. Griffiths yn weinidog, ac efe yw y gweinidog yma hyd y dydd hwn. Mae Mr. Griffiths yn amaethwr cyfrifol yn byw ar ei dir ei hun. Mae yn ddyn bywiog, llawn o sel a gweithgarwch, a'r holl wlad yn edrych

544

i fyny ato fel oracl mewn pob peth gwladol a chrefyddol. Ar ei draul ef yn benaf yr adeiladwyd capel Hermon. Nis gallesid cael gwell dyn i ateb y cylch hwn nag ef, ond y mae perygl iddo anghymwyso y lle ar gyfer ei ganlyniedydd, trwy ei fod yn rhoddi ei wasanaeth yn rhad i'r eglwysi. Cynnulleidfaoedd bychain sydd yn y ddau le hyn, ac nis gallant byth fod yn lluosog, gan nad yw poblogaeth y wlad ond teneu.

Yr unig bregethwyr a godwyd yma yw Mr. Griffiths, y gweinidog, a Mr. Thomas Williams, amaethwr parchus. Y mae ef yn pregethu yma fynychaf bob Sabboth fel cynorthwywr i'r gweinidog.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

RICHARD LLOYD. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1804, yn y Fron yn mhlwyf Gwenddwr, sir Frycheiniog. Yr oedd ei rieni mewn amgylchiadau bydol cysurus iawn. Pan yn llengcyn ieuangc anfonwyd ef a dau o'i frodyr i'r ysgol i Aberhonddu, i'r dyben o'u dwyn i fyny i fod yn offeiriaid yn yr Eglwys Sefydledig. Cydsyniodd ei ddau frawd a dymuniad eu rhieni, ac aethant yn offeiriaid, ond gwrthododd ef a dewisodd yn hytrach fod yn amaethwr ac yn bregethwr Ymneillduol. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Gwenddwr, ac yno y dechreuodd bregethu. Yn fuan cyfododd i sylw neillduol fel pregethwr. Gan ei fod yn fwy o feistr ar y Saesoneg na'r Gymraeg cyfyngodd ei lafur fel pregethwr gan mwyaf i sir Faesyfed o gychwyniad i fywyd cyhoeddus. Tua y flwyddyn 1828, neu yn fuan wedi hyny, urddwyd  yn Llanbadarnygareg, a bu yn ffyddlon yn gwasanaethu yr achos yno ac yn Aberedw, nes iddo gychwyn yr achos yn Glanyrafon, yr hwn sydd yn awr yn ddwy eglwys yn Hermon a Painscastle. Wedi cychwyn y lleoedd hyn cyfyngodd ei lafur iddynt hwy yn benaf hyd derfyn ei oes. Bu y dyn da a defnyddiol hwn farw ar ol ychydig fisoedd o gystudd, Tachwedd 27ain, 1845, yn 41 mlynedd oed. Claddwyd ef wrth gapel Maesyronen.

Nid oes genym ddim i'w ychwanegu mewn ffordd o adolygiad ar hanes y sir hon, rhagor yr hyn a roisom yn yr arweiniad i mewn, ac yn nglyn a hanes y gwahanol eglwysi. Gwelir nad yw crefydd efengylaidd wedi cael ond ychydig ddylanwad ar y boblogaeth. Dichon fod sefyllfa drawsnewidiol y sir o'r Gymraeg i'r Saesonaeg wedi gwneyd mwy na dim arall er atal ei hefengyleiddiad, ac nid oes genym ond gobeithio a gweddio fod dyfodol llawer dysgleiriach yn ei haros.

End of Radnorshire


Return to top

(Gareth Hicks  18 May 2008)

Valid HTML 4.0!

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Note: The information provided by GENUKI must not be used for commercial purposes, and all specific restrictions concerning usage, copyright notices, etc., that are to be found on individual information pages within GENUKI must be strictly adhered to. Violation of these rules could gravely harm the cooperation that GENUKI is obtaining from many information providers, and hence threaten its whole future. GENUKI is a registered trademark.