Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

From the CD published by Archive CD Books

See main project page

Proof read by Maureen Saycell (March 2008)

Carmarthenshire section (Vol 3) - Pages 421 - 434

Chapels below;

  • (Continued) CASTELLNEWYDD-EMLYN  (Cenarth parish)
  • PENCADAIR  (Llanfihangel-ar-arth parish) (with translation)

 


Pages 421 - 434

421

(Continued) CASTELLNEWYDD-EMLYN  (Cenarth parish)

 See previous page for partial translation

  • Thomas Rees. Ymfudodd ef i America.
  • Lewis Williams, M.A. Bu farw yn 1858, ar derfyn ei efrydiaeth yn Mhrif Ysgol Glasgow.
  • William Emlyn Jones. Addysgwyd ef yn Athrofa Aberhonddu, ac y mae yn awr yn Nhreforis.
  • William Cranog Davies. Dygwyd ef i fynu yn Athrofa Aberhonddu, ac y mae yn awr yn Llantrisant.
  • John Rees. Bu yn efrydydd yn Athrofa y Bala, ac y mae yn awr yn Nghwmllynfell.
  • Hywel Thomas. Mae yn awr yn fyfyriwr yn Athrofa Caerfyrddin.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

JOHN WILLIAMS. Ganwyd ef yn Ffrwdwen, plwyf Llandilofawr, Mai, 1819. Yr oedd ei rieni yn bobl grefyddol, ai dad yn ddiacon yn hen eglwys Capel Isaac. Pan nad oedd ef ond ieuanc symudodd ei rieni i Brown Hill, yn mhlwyf Llansadwrn, un o'r ffermydd mwyaf yn Nyffryn Towy. Cadwasant eu syniadau boreuol am grefydd gymdeithasol er newid eu hardal ; ac nid aethant yn rhy fydol, nac yn rhy goeg-falch i gael ambell oedfa yn achlysurol yn Brown Hill, fel yr arferent yn Ffrwdwen. Cyrchai yr holl deulu i addoli i Ebenezer, Llansadwrn, ac yno, ar Sabboth y Pasg, 1837, y derbyniwyd Mr John Williams yn aelod gan Mr Williams, Llandilo.  Dangosodd yn fuan arwyddion gobeithiol. Yr oedd ei ddawn gweddi yn nodedig ; a chymhellid ef gan ei weinidog i bregethu. Nid oedd ei rieni yn a wyddus i hyny, nid oblegid eu bod am gael ei wasanaeth ar y fferm, ond ofnai y tad nad oedd dim dawn ganddo, ac arferai ddyweyd yn ei ddull syml ei hun, nad oedd dim yn waelach na phregethwr gwael. Ond yr oedd y tad yn ofni lle nid oedd ofn, wrth ofni nad oedd dim dawn gan y bachgen, oblegyd ni bu erioed neb a mwy o ddawn ganddo. Rhedai ei ddawn yn ffrwd ddiatal. Dechreuodd bregethu yn ngwanwyn 1839, a chyrhaeddodd yn fuan boblogrwydd mawr yn ei wlad fel pregethwr ieuangc. Aeth i Athrofa Ffrwdyfal, a bu yno am rai blynyddoedd, a gwnaeth yn fawr o'i amser ac o'i fanteision am y tymor y bu yno. Pan yr oedd yno daethom ni gyntaf i gydnabyddiaeth ag ef. Arferai ei gydefrydwyr edrych i fynu ato mewn mwy nag un ystyr ; ac anaml y gwelsom ddyn ieuangc mwy gwylaidd a chrefyddol nag ydoedd yn yr adeg hono. Cafodd alwad o Siloa, Llanelli, ac ar yr un adeg cafodd alwad o Langadog, a Sardis, a Myddfai ; ac oherwydd agosrwydd y lleoedd olaf i'w gartref, a dylanwad barn a chyngor ei weinidog, Mr Williams, Llandilo ; gogwyddwyd ef atynt, ac urddwyd ef yn Llangadog, Awst y 5ed, 1841, a chynaliwyd cyfarfodydd hefyd yn nghlyn a'r urddiad yn Sardis a Myddfai. Llettyai yn Brown Hill gyda'i rieni, ac ni chychwynodd gweinidog ieuangc erioed yn fwy addawol. Teithiodd lawer i gyfarfodydd pregethu gyda'i gyfaill Mr Williams, Llandilo, yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth ; ac anaml y cyrhaeddodd yr un dyn ieuangc y fath boblogrwydd a chyhoeddusrwydd mewn amser mor fyr ag a gyrhaeddodd ef. Ymaflodd yn ei waith o ddifrif, a gwelodd yn fuan yn maes eang ei weinidogaeth, ffrwyth i'w lafur. Ni welsom neb yn fwy llwyr ymroddgar i'w waith nag ydoedd yn y tymor hwnw ; ac yr oedd yn amlwg ei fod wedi cyfranogi yn helaeth o ysbryd diwygiadol y gweinidog effro Mr Williams, Llandilo, o dan nawdd yr hwn y dygasid ef i fynu. Yr oedd cymhwysderau pregethu

422

anarferol ynddo. Dyn bychan, crwn, crasgoch, glandeg ydoedd ; ac yn yr adeg hono yn nodedig o gryno a glanwaith. Nid oedd dim yn hyf yn ei ymddangosiad, ond yr oedd yn serchog ac enillgar yr olwg arno. Siaradai yn gyflym iawn gyda llais cryf, ond yn tueddu braidd at fod yn gras, ond fel y poethai byddai yn lliniaru, ac yn tyneru nes dod yn dra effeithiol. Nid oedd nerth mawr yn ei feddyliau, na'i gyfansoddiad, na'i draddodiad ; ond yr oedd cyflawnder ei ddawn, a chyfanrwydd ei gyfansoddiad, a thlysni ei feddyliau yn peri ei fod yn aml yn cario pob peth o'i flaen. Clywsom rai pregethau ganddo nad anghofiwn hwy yn fuan, yn enwedig ei bregeth Ddirwestol yn Nghyfarfod Castellnedd, Calan, 1843 ; a phregeth y Plant yn urddiad Mr Davies, yn Llanelli, Brycheiniog, a'i bregeth ar Gyfraith y Fam, yn Nghymanfa Gibeon yn nechreu Haf, 1850. Yr oedd ganddo fedr nodedig i ymdrin materion ymarferol yn enwedig a phethau yn nglyn a rhieni a phlant. Clywsom of lawer gwaith mewn blynyddau diweddarach, ac er i fod mewn rhai pethau yn gryfach, etto nid oedd ynddo y tlysni a'r perffeithrwydd hwnw oedd mor amlwg yn ei nodweddu yn y deng mlynedd cyntaf o'i weinidogaeth .Ni bu ei gysylltiad a'r wasg yn ddim help iddo fel pregethwr ; ac nid efe yw yr unig un y gwyddom am dano a ddrygwyd fel pregethwr wedi dechreu darlithio. Ond yr oedd er hyny trwy ei oes yn bregethwr o'r fath fwyaf poblogaidd ; ac yn sicr yn un o'r dynion mwyaf doniol a fagodd ein cenedl erioed. Yr oedd ei egluriadau prydferth, ei ddarluniadau barddonol, ei ergydion hapus, a'i draddodiad llifeiriol yn ei wneyd yn gyfryw fel pregethwr ag yr hoffai pawb wrando arno. Wedi treulio deng mlynedd yn barchus yn Llangadog, derbyniodd alwad o Castellnewydd-Emlyn, a symudodd yno yn niwedd y flwyddyn 1851. Bu yno am ddeunaw mlynedd yn weithgar a diflino. Yr oedd yn un o'r rhai mwyaf caredig a pharod i wneyd cymwynas i bwy bynag a ddeuai ar i ofyn, ac yn gyfaill ffyddlawn ac yn noddwr tyner i ddynion ieuaingc. Yr oedd yni lonaid gorff a'i enaid, ac ni wybu erioed beth oedd diogi. Yr oedd wedi ei dori allan at bregethu, a phe cyfyngasai ei sylw yn llwyr i'r pulpud a'r weinidogaeth, y mae yn sicr genym yr arbedasai iddo ei hun lawer o ofidiau. Er mai fel pregethwr y rhagorai etto yr oedd ynddo lawer o fedrusrwydd fel llenor. Cyhoeddodd gofiant i Mr Williams, Llandilo, yr hwn yn sicr sydd yn un o'r bywgraphiadau goreu yn yr iaith Gymraeg ; ac ysgrifenodd lawer o bryd i bryd i'r Diwygiwr, ac y mae y cwbl a ysgrifenodd yn ystwyth a darllenadwy. Efe a gychwynodd y Byd Cymreig, newyddiadur wythnosol, ac yr oedd i holl gyfrifoldeb arno am y pum, mlynedd y bu yn dyfod allan, a pharodd iddo lawer o lafur, a phryder, a cholled. Gorweithiodd ei natur wrth fyw yn rhy gyflym, a thrwy ryw helbulon dirwynodd ei hun i drallod yn ei amgylchiadau bydol ; ac y mae yn rug genym orfod ychwanegu nad ydoedd am y deng mlynedd diweddaf o'i oes mor wyliadwrus a gochelgar ag yr ydoedd yn y deng mlynedd cyntaf o weinidogaeth. Ffufriasom gydnabyddiaeth a chyfeillgarwch a'n gilydd pan nad oeddym ond ieuangc, ac y mae genym adgofion cynes am adegau a dreuliasom yn ddedwydd ynghyd; ac nis gallwn yn awr ysgrifenu y grybwyllion hyn am dano heb hiraeth, a thristwch, a galar. Ni chafodd ond byr gystudd, ond yr oedd hwnw yn chwerw, a phan y cafodd hamdden galwodd ei blant oll at ei wely a chydganodd gyda hwy un o'r hen emynau melus a arferent ganu ar yr aelwyd. Bu farw Tachwedd 9fed, 1869, yn 59 oed ; a chladdwyd ef mewn llanerch dawel yn mynwent

423

Capel Iwan, lle yr oedd ei wraig wedi ei rhoddi i orwedd chwe' blynedd o'i flaen. Boed heddwch i'w lwch ; a " Thad yr amddifad '* a ofalo am ei blant sydd wedi eu gadael heb dad na mam i wylio drostynt.

 

PENCADAIR

(Llanfihangel-ar-arth parish)

Mae hanes yr eglwys hon yn myned yn ol i ddyddiau boreuaf Ymneillduaeth yn ein gwlad. Mae yn sicr fod gan Mr Stephen Hughes, Meidrym, nifer o ddysgyblion yma at y rhai y cyrchai tua'r flwyddyn 1650, ac y mae yn bosibl ei fod yn arfer dyfod yma rai blynyddoedd cyn hyny. Cyfarfyddent yn gyntaf yn anedd-dy Llynddwfr, ac wedi hyny pan ddaeth yn adeg erledigaeth ymgynnullent er mwyn diogelwch yn ogof Cwmhwplin, ac mewn lle cysgodol yn yr ogof a elwir Cwmclud. Cymerasom unwaith yr hyfrydwch o ymweled a'r fan. Wedi gadael Llynddwr ar y chwith, a chroesi dros afon Dolgran, ac esgyn ryw ddau can, llath o'r afon, y mae Cwmhwplin. Wedi myned ychydig uwchlaw y ty y mae y cwm yn ymagor yn ddau yn debyg i'r llythyren Y. Yn y cwm ar y new dde y mae y creigiau mwvaf, ond rhaid dilyn y cwm ar y Ilaw chwith am ryw ddau can' llath, nes dod at dro byr, swta, ar y dde, ac yno y mae Cwmclud, neu Ogof Cwmhwplin. Nid agen mewn craig fel ogofau yn gyffredin ydyw, ond cysgod craig ; ac yr oedd ddau can' mlynedd yn ol wahanol  iawn i'r hyn ydyw yn awr, heblaw fod y llwybrau a arweiniai iddi yn llawer mwy anhygyrch. Nis gallesid gweled y lle nes dyfod i'r fan. Dywedir yr arferai dynion ddyfod at eu gilydd i addoli yma o ugain milldir o bellder; a bu y fangre gysegredig iddynt yn "dy Dduw a phorth i'r nefoedd.'* Byddai Mr. Stephen Hughes yn dyfod at ei braidd yma yr holl ffordd o Abertawy. Digwyddodd ei fod yn dyfod yma ar un dydd Llun Pasg trwy Lanegwad, ac wedi dyfod yn agos i Bantyblawd luaws o ddynion yn dawnsio. Galwodd ar eu blaenor a dywedodd

"Deuwch gyda mi dros y mynydd, a chewch amgen camp o lawer. Gadawodd y  dyn y cwmni a dilynodd y pregethwr bob cam, ac erbyn cyrhaedd cysgod y graig synodd yn fawr i weled cynifer wedi dyfod yn nghyd i'r fath le; a chyn y cyfarfod oedd goleuni dwyfol wedi tywynu ar ei enaid. Ymwasgodd a'r dysgyblion yn y lle, a theithiodd yn rheolaidd hyd tuag yno o hyny allan. Mae yn debyg mai yma yr arferent gyfarfod hyd derfyn oes Mr Hughes; ac mai ar ol cael cysgod o dan Ddeddf Goddefiad yr adeiladwyd y capel cyntaf. Crybwyllir am enwau Owen Davies a John  James oeddynt yn bregethwyr cynorthwyol yma i Mr Hughes, ond efe a fyddai yn gweini yr ordinhadau. Yn y flwyddyn 1688, sef y flwyddyn y bu farw Mr Hughes, urddwyd Mr William Evans yn weinidog yma,a'r un flwyddyn urddwyd Owen Davies a enwyd uchod yn Henllan, a John James yn Llanybri. Bu Mr Evans yma hyd ddechreu. y ddeunawfed ganrif, pryd y symudodd i Gaerfyrddin; ac wedi bod rai blynyddoedd heb weinidog urddwyd Mr James Lewis o Ddinascerdin, yn mhlwyf Llandysul, yn 1706. Bu Mr. Lewis yma yn llafurio yn ddiwyd am y flynyddau, a bu farw Mai 3 lain, 1747, yn 73 oed. Yr oedd Mr Lewis, o Flaencerdin wedi ei urddo chwe' blynedd cyn marwolaeth yr hen weinidog i fod yn gynorthwywr iddo, a bu yma yn llafurio am bum' -mlynedd-ar-hugain, a bu farw Ionawr 21ain, 1766, yn 56 oed. Ar  hyn urddwyd Mr Lewis Lewis, o'r Ddolwen, yn mhlwyf Llanfihangel -

424  

ar-arth, ond nid ymddengys iddo fod yma ond dros dymor byr. Dilynwyd ef gan Mr William Perkins, yr hwn a ddaeth yma o Ddinbych, ac yr oedd yma yn y blynyddoedd o 1772 hyd 1775, ac fe allai am ryw gymaint o amser yn mhellach. Yr oedd yn wr golygus o ran ei person, o feddwl cryf a gwrol, ac yn ddoniol a phoblogaidd fel pregethwr ; a gallasai o ran ei dalentau fod yn weinidog defnyddiol a llwyddianus. Ond cafwyd allan yn fuan ei fod yn ddyn o fywyd llygredig, ac yn ymroi i anghymedroldeb, yr hyn a andwyai i ddylanwad, ac a waradwyddai grefydd yn y wlad. Wedi i'r eglwys ymwrthod ag ef glynodd nifer o'r bobl wrtho, ac adeiladasant gapel yn ymyl y New Inn, o fewn dwy filldir i Bencadair, yr hwn a alwyd Salem. Yn mhen amser llwyddodd Mr Perkins a'i blaid i gael meddiant o'r capel gan fod y weithred gan Mr Lewis, Cwmhuar, yr hwn oedd yn un o'i gefnogwyr; a chan ei bod wedi ei gwneyd yn ol trefn yr Henaduriaethwyr rhoddai hawl i'r gweinidog ar y capel. Aeth yr eglwys ar ol ei throi allan o'r capel i addoli i Cwmhwplin, yr hwn a drwyddedwyd ganddi i'r perwyl ; ond ni bu Mr Perkins yn hir cyn myned yn rhy ddrwg gan y blaid a adawyd yn y capel i'w oddef, ac wedi iddi i fwrw ymaith dychwelodd yr eglwys yn ol i'w thy. Yn mhen amser ar ol hyn rhoddwyd galwad i Mr Benjamin Jones, myfyriwr yn Athrofa Abergavenny, ac urddwyd ef Mai 25ain, 1779. Ar yr achlysur gweinyddwyd gan Mistri L. Rees, Mynyddbach ; J. Griffith, Glandwr; T. Davies, Pantteg; I. Tibbot, Esgairdawe ; S. Lloyd, Brynberian ; Phillip Maurice, ac amryw eraill. Dechreuodd Mr Jones ei weinidogaeth yma yn llewyrchus iawn, ac yr oedd yr achos yn myned rhagddo yn obeithiol, a disgwyliai gael eistedd yn hir i fwynhau ei weinidogaeth. Yr oedd wedi cymeryd les ar fferm y Bwlchog, a'r eglwys wedi adeiladu ty iddo arno. Ond yn mhen tair blynedd, pan oedd Mr. Jones yn Pantycreuddyn (Horeb yn awr) un Sabboth, ac wedi dyfod i lawr o'r pulpud ar ol pregethu at y bwrdd i weini y cymundeb, estynwyd llythyr iddo, ac wedi ei ddarllen aeth allan. Wrth ei weled yn hir heb ddychwelyd aeth un o'r diaconiaid i edrych am dano, ac er ei syndod gwelai ef ar ei anifail yn myned tuag adref. Darfu cysylltiad Mr Jones a'r eglwysi yma ar hyny, ac yn mhen amser ymsefydlodd yn Rhosymeirch, Mon, an aeth wedi hyny lle y treuliodd weddill ei oes. Yn fuan wedi ymadawiad Mr Jones rhoddwyd darn o dir gan Mr Jenkin Davies, Maesycrigian, ar lan y Tyweli, at adeiladu capel newydd, ac agorwyd ef yn y flwyddyn 1785; ac ar yr un adeg sefydlwyd Mr Jonathan Jones, Rhydybont, yn weinidog yma. Bu yn gofalu am yr eglwys hyd y flwyddyn 1818, a darfu ei gy- sylltiad a'r eglwys hon yr un pryd ag y darfu ei gysylltiad a Rhydybont. Yr oedd £40. wedi eu gadael gan Mr William Thomas, Brynbuwchswynog, yn ei ewyllys i'r eglwys, a chasglodd yr eglwys £26. at hyny, a phrynwyd Ffynonfair, tyddyn bychan yn ymyl y capel, ac yn y flwyddyn 1789 yr ysgrifenwyd gweithred arno. Wedi bod am fwy na chwe' blynedd heb weinidog rhoddodd yr eglwys alwad i Mr Moses Rees, yr hwn a urddasid yn weinidog yn Nhalybont rai blynyddoedd cyn hyny, ac a fuasai yno am ychydig fisoedd. Cynhaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad. yma Chwefror 10fed, 1825. Bu yma am un-flynedd-ar-bymtheg, a gwnaed yma lawer o waith yn ystod y blynyddoedd hyny. Yn y flwyddyn 1827 adeiladwyd yr addoldy eang a chyfleus presenol, yr hwn sydd o wneuthuriad cadarn, ac oriel ar dair rhan o hono. Adeiladwyd hefyd ysgoldy gerllaw iddo, a chodwyd ty i'r gweinidog ar dir Ffynonfair, ar y fan lle y safai yr hen

425

addoldy cyntaf, a thalwyd yr holl draul gan yr eglwys a'r ardal, yr hyn oedd, heb gyfrif y cludiad, yn fwy na £600, a rhoddwyd gan yr eglwys yn yr un amser £50 i drysorfa gyffredinol yr undeb er talu dyledion addoldai. Cymerwyd darn bychan o dir at gladdu gyda'r addoldy presenol, ond yr oedd cryn wrthwynebiad gan lawer i gladdu eu meirw ynddo. Merch fechan i Mr Rees oedd y gyntaf a gladdwyd yn y lle, ac aeth yn agos i ddwy flynedd heibio cyn i neb arall gael ei gladdu yn y fan. Oherwydd rhyw amgylchiadau aeth pethau yn anghysurus hollol rhwng Mr Rees a'r eglwys yn mlynyddoedd olaf ei weinidogaeth; ac yn 1840 derbyniodd alwad o'r Groeswen, sir Forganwg, a symudodd yno. Ar ol ei ymadawiad bu yr eglwys am fwy na phedair blynedd yn ymddibynu ar gynorthwy gweinidogion cymydogaethol, hyd nes y rhoddwyd galwad i Mr John Owen, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd of yma Awst 14eg, 1845. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr S. Evans, Penygroes; holwyd y gofyniadau gan Mr D. Davies, Pantteg; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr S. Griffiths, Horeb; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr J. Griffith, Tyddewi; ac i'r eglwys gan Mr D. Davies, Aberteifi. Parhaodd cysylltiad Mr Owen a'r eglwys yma hyd y flwyddyn 1868 yn hollol gysurus, ond yn yr adeg yma cododd ystorm, a barnwyd mai gwell oedd iddo roddi i fyny ei gysylltiad a hwy, yr hyn a wnaeth heb dwrf na therfysg. Yn Hydref y flwyddyn ganlynol, priododd ac ymfudodd i America ac ymsefydlodd yn Waterville, ond bu farw y flwyddyn ganlynol yn Johnstown, pan ar ei daith trwy ran o Pennsylfania. Yn niwedd y fiwyddyn 1871, rhoddwyd galwad i Mr Richard Pugh Jones, Llanegryn,* yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma y Sabboth cyntaf yn Ionawr 1872, ac y mae yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad. Yr oedd yr amgylchiadau o dan ba rai yr ymadawodd y pum gweinidog diweddaf a ymadawsant o'r eglwys yma yn mhell o fod yn gysurus, ac er nad ydym yn dyweyd fod cyhuddiadau o anfoesoldeb wedi eu profi yn erbyn yr oll o honynt, etto, a dyweyd y lleiaf, yr oedd llawer o annoethineb ac anwyliadwriaeth yn nglyn a'r hyn a achosodd  hymadawiad; nc nis gall y fath bethau ddigwydd heb fod yn ysigdod mawr i'r achos. Mae yr achos yma yn gryf a dylanwadol er y cwbl, ac ar ol treigliad mwy na dau cant o flynyddoedd y mae yr eglwys yn glynu wrth yr un ffurflywodraeth eglwysig, a'r un golygiadau efengylaidd, ag y glynai eu hynafiaid erlidiedig wrthynt pan y cyfarfyddent yn ddirgelaidd yn nghysgod craig Cwmhwplin. Cynhaliwyd yma gyfarfod Dau-can'-mlwyddol, Mehefin 25ain a'r 26ain, 1850, er adgofio cychwyniad yr achos; a chafwyd yma gyfarfodydd rhagorol ; ond ychwanegasai yn fawr at ddyddordeb yr amgylchiad pe cynaliesid y cyfarfod ar y llecyn yr arferai y tadau gyfarfod.

Mae yma lawer o gymeriadau nodedig wedi bod o oes i oes, ac y tyrid yr eglwys ar un cyfnod yn hynod am ei gwybodaeth dduwinyddol, a gwelsom yma rai oeddynt yn fedrus fel dadleuwyr. Anfonwyd i ni y rhestr a ganlyn o swyddogion yr eglwys hon o bryd i bryd, ac er nad ydym yn meddwl ei bod yn berffaith, etto y mae yn dda genym ei chyhoeddi fel y mae. Thomas Davies, Gorwydd; David Jones, James Rees, Glandyweli ; John Jones, Glynadda ; John Phillips, Scythlyn; John Evans, Cwmgwern (efe oedd tad yr efengylwr hyawdl John Evans, Llwynffortyn); William

  * Yn hanes urddiad Mr. Jones yn Llanegryn, Cyf 1, tudal. 500, gwneir camgymeriad trwy osod ei enw yn Robert P. Jones, yn lle Richard P. Jones.

426  

Lloyd, Dolmaen; David Samuel, Llethrneuadd ;David Rees, Cefnybedd; Daniel Davies, Glyncoch ; Lewis Jones, Glynadda ;John Daniel, Llwyndywallter ; David John, David Phillips, Cwmgof ; John Griffiths, Wythen; Daniel Francis, Gwndwn; Daniel Beynon, Lan ; Ebenezer Jones, Pencadair; Thomas Daniel, Pencadair ; William John, Langlynadda ; Thomas Jones, David Evans, Penygraig; Jenkin Davies, Blaenbella ; Enoch Jones Powell, David Phillips, Blaencyfre ; Daniel Davies, Maesyfelin; Evan Williams, Clawddcoch ; Evan Evans, Bryngwyne; David Beynon, Lan; David Griffith, Pantporthmon ; Thomas Bowen, Glandyweli ; John Phillips, Scythlyn; John Eyans, Gwarcoed; William Phillips, Glynmelyn; John Jones, Pantglas ; David Franis, Gwndwn; David Evans, Rhiwlwyd, ac Evan Evans, Glyncoch. Buasai yn dda genym roddi rhyw grybwylliad pellach am danynt, yn gystal ag am eraill, y rhai y mae yn sicr genym a fu o ddefnydd i'r eglwys mewn gwahanol gyfnodau.

Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.

  • William Thomas, Brynbuwchswynog. Bu yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys yn hir, a gadawodd £40 yn ei ewyllys iddi.
  • Morris Williams. Bu yn y weinidogaeth yn Tynycoed.
  • Thomas Davies. Daw dan sylw yn hanes Pantteg.
  • John Davies. Yr ydym wedi rhoddi i hanes ef yn nglyn a'r Alltwen.
  • John Griffith. Gweler ei hanes ef yn nglyn a Chaernarfon.
  • Jonathan Jones. Daw ei hanes ef dan ein sylw yn nglyn a Throedyrhiw, sir Aberteifi.
  • David Davies. Mae i hanes ef yn helaeth mewn cysylltiad ag Ebenezer, Abertawy.
  • John Evans. Treuliodd ei oes yn Hwlffordd, fel y gwelir yn hanes yr eglwys yno.
  • Evan Davies. Ceir ei hanes ef pan ddeuwn at yr Aber, sir Frycheiniog.
  • Thomas Phillips, D.D., Neuaddlwyd, ac yn nglyn a'r eglwys yno y daw ei hanes.
  • John Lloyd. Gweler hanes Henllan.
  • David Phillips, Blaengyfre. Yr oedd yn frawd i Dr. Phillips, Neuaddlwyd. Bu o wasanaeth mawr i'r eglwys dros ei dymor fel pregethwr cynorthwyol a swyddog gweithgar. Bu farw Mehefin laf, 1819.
  • Thomas Daniel. Ganwyd ef yn 1770, a bu farw Chwefror 14eg, 1819. Dilledydd ydoedd wrth ei alwedigaeth. Efe fu y prif offeryn i sefydlu yr Ysgol Sabbothol yma 70 mlynedd yn ol. Cyfansoddodd holwyddoregau at ei gwasanaeth. Yr oedd yn athrawiaethwr cryf - yn Annibynwr selog -ac yn Gristion egwyddorol. Pregethodd lawer trwy yr eglwysi cylchynol, ond ni bu erioed yn deithiwr mawr. Cafodd alwadau gan amryw eglwysi, ond nid oedd tuedd ynddo i ymgyflwyno i'r weinidogaeth yn llwyr. Bu ef a David Phillips o help mawr i'r eglwys hon pan nad allasai Mr Jones, Rhydybont, roddi iddi ond rhan o'i weinidogaeth.
  • David Lewis Jones. Bu yn weinidog yn Capel Sion, ac yn Athraw yr Athrofa yn Nghaerfyrddin.
  • Methusalem Davies. Bu yn weinidog mewn amryw fanau, ac yn ddiweddaf yn Penywaun, Mynwy, ond oddiyno aeth at y Bedyddwyr
  • David Edwards, Nantyboncath ; John Jones (Mac Ebrill), D. Davies: Cwmdafydd; William John, Langlynadda, a Thomas R. Jones, ond nid oes genym ddim i'w ychwanegu am danynt.

 

427

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

JAMES LEWIS. Ganwyd ef mewn lle a elwir Dinas Cerdin, yn mhlwyf Llandysul, yn sir Aberteifi, yn y flwyddyn 1674. Dywedir ei fod yn disgyn o hen deulu anrhydeddus. Tebygol mai yn Mhencadair y derbyniwyd ef yn aelod, ac y dechreuodd bregethu, ac urddwyd ef yn weinidog i'r eglwys yno, a'r eglwys yn Pantycreuddyn, yn y flwyddyn 1706. Yr oedd wedi derbyn addysg dda yn rhywle, er nas gwyddom yn mha le. Yr oedd yn wr cadarn nerthol yn yr Ysgrythyrau, ac yn hollol uniongred yn ei olygiadau. Bu dadl frwd rhyngddo a Mr Jenkyn Jones, Llwynrhydowen, ar y pyngciau mewn dadl rhwng Calfiniaid ac Arminiaid; ac yr oedd yn eglur ei fod yn deall y pyngciau mewn dadl a'r dylanwad a adewir gan y ddwy athrawiaeth. Bu farw Mai 31ain, 1747, yn 73 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llanllawddog. Mae yr hyn a ganlyn yn Saesneg ar ei gareg fedd:-" O dan y gareg hon y gorwedd corff y Parch. James Lewis, o'r plwyf hwn. Gweinidog ffyddlon gair Duw, a'i ordinhadau, a phorthwr diwyd a chyson i braidd yn Mhencadair. Ganwyd ef yn Ninas Cerdin, Sir Aberteifi, o rieni duwiol ac elusengar. Yr oedd yn addfwyn a gostyngedig tuag at Dduw a dyn ; ac yn awr ar ol llafur caled y mae (fel y gobeithiwn) yn mwynhau coron o ogoniant anfarwol trwy eiriolaeth ein Hiachawdwr Iesu Grist.

JOHN LEWIS; o Flaencerdin, yn mhlwyf Llandysul. Mae yn debyg mai yn Mhencadair y derbyniwyd ef yn aelod, ac y dechreuodd bregethu. Nid oes genym nemawr wybodaeth am dano, ond dywedir ei fod yn ddyn da ac yn weinidog gweithgar. Llafuriodd yma am bum'-mlynedd-ar-hugain, a bu farw Ionawr 21ain, 1766, yn 56 oed.

LEWIS LEWIS. Nid oes genym ddim o'i hanes rhagor nag y gelwid ef yn Lewis Lewis, Ddolwen. Nid ymddengys iddo fod yma ond dros ychydig amser.

Daw i'n ffordd i gyfeirio at y gweinidogion eraill a fu yma mewn cysylltiad ag eglwysi eraill, yn nglyn a'r rhai yr oeddynt ar derfyn eu gyrfa.

Translation by Maureen Saycell (March 2009)

The story of this church goes back to the earliest days of nonconformism in this country. Certainly Mr Stephen Hughes of Meidrym had a number of followers whom he visited around 1650, and possibly earlier. They first met in a house named Llynddwfr, and during the time of persecution they met in reasonable security in Cwmhwlpin cave and also in the more sheltered Cwmclud cave. We once visited, after leaving Llynddwr on the left and crossing the Dolgran river then ascending 200 yards is Cwmhilpin. Then a little above the house the valley splits in two resembling the letter Y. The right hand side has the largest rocks, but you follow to the left for about 200 yards, around a sharp bend and there is Cwmclud, or Cwmhilpin cave. It does not go into the rock but is more of a shelter, 200 years ago it was very different to now, beside the fact that the paths leading to it are not as well defined. The spot was not visible until you arrived there. It is said that people came here to worship from 20 miles around, the place became sacred to them as " a house of God and a gateway to heaven". Mr Hughes came here all the way from Swansea one Easter Monday he was on his way here via Llanegwad, when close to Pantyclawdd, he came accrossa large number of people dancing. He hailed their leader and said,

" Come with me over the hill and you will have far better rewards. The man left his companions and followed the minister, when they reached theshelter of the rock, he was surprised to see the numbers of people there, and the heavenly light had touched his soul before the service. He followed that light and attended regularly. It appears that this was where they met until the end of Mr Hughes' life , the first chapel was built after The Act of Tolerance. Owen Davies and John James were mentioned as supporting ministers but Mr Hughes always officiated at the sacraments. In 1688, the year of Mr Hughes death, Mr William Evans was ordained as minister here and Owen Davies was ordained in Henllan, John James in Llanybri. Mr Evans was here until the beginning of the eighteenth century when he moved to Carmarthen and after being without a minister Mr James Lewis, Dinascerdin, Llandyssul in 1706. Mr Lewis was industrious here for many years, he died May 31st, 1747, age 73. Mr Lewis, Blaencerdin, had been ordained 6 years previously as a supporter to the old minister and continued here for 25 years, he died January 21st, 1766, age 56. Then Mr Lewis Lewis, Dolwen, Llanfihangel ar arth, but it appears that he was only here a short time. He was succeeded by Mr William Perkins, Denbigh and was here from 1772 to 1775, maybe longer. He was popular initially but was soon found to have an immoral life style, after the church had turned him away some clung to him and built a chapel at New Inn near Pencadair which was named Salem. In time Mr Perkins and his supporters managed to take possession of the chapel, mainly because the lease was in the hands of Mr Lewis, Cwmhuar, one of his supporters, and because of the way it was set up the minister had control of the chapel. The church then went to Cwmhwlpin to worship, licenced for the purpose. It was not long before the behaviour of Mr Perkins became too bad for those left in the chapel to tolerate, once they had thrown him out the church soon returned home. Some time later a call was sent to Mr Benjamin Jones, a student at Abergavenny, , who was ordained on May 25th, 1779. On the occasion Messrs L. Rees, Mynyddbach ; J. Griffith, Glandwr; T. Davies, Pantteg; I. Tibbot, Esgairdawe ; S. Lloyd, Brynberian ; Phillip Maurice, and many others. Mr Jones began his ministry with enthusiasm, the cause flourished and he was set to continue for a long time. He had taken a lease on Bwlchog farm, the church had built a house there for him. Three years on when he was at Pantycreuddyn someone handed him a letter, after reading it he went outside. Thinking he was a long time  someone went out and saw him riding away on his horse. His connection with these churches ceased then. He later went to Rhosymeirch, Anglesey, where he spent the rest of his life. Soon after this a small piece of land was given by Mr Jenkin Davies, Maesycrigian, on the banks of the Tyweli, to build a new chapel which was opened in 1785, at the same time Mr Jonathan Jones, Rhydybont was settled here as minister. He took care of of this church until 1818 when he broke his connection here and at Rhydybont. Mr William Thomas, Brynbuwchswynog, had bequeathed £40 to the church, who collected another £26 and bought Ffynnonfair, a smallholding near the chapel and deeds were drawn up in 1789. Having been without a minister for 6 years they called Mr Moses Rees, who had been ordained in Talybont some years before. His induction services were held on February 10th, 1825. He was here for 17 years and much was achieved during that time. In 1827 the present chapel was built, which has a gallery and is very pleasant. A schoolhouse was built as well as a house for the minister on the land of Ffynnonfair, where the first chapel stood, the full cost of £600 was paid within the area, they also donated £50 to the union to clear debts of other chapels. A small piece of land had been taken with the current chapel but there was some objections to burials there. Mr Rees'  little daughter was the first to be buried there and it was 2 years before ayone else was interred. Things became uncomfortable between Mr Rees  and the church in the latter years of his ministry and he accepted a call from Groeswen, Glamorgan, in 1840, and moved there. Following his departure the  the church was four years dependent on occasional ministry then a call went out to Mr John Owen, a student at Brecon College, who was ordained on August 14th, 1845. On the occasion a sermon on the nature of a church was given by Mr S. Evans, Penygroes; The questions asked by Mr D. Davies, Pantteg; the ordination prayer was offered  by Mr S. Griffiths, Horeb; Mr J. Griffith, Tyddewi, preached to the minister; and to the church from Mr D. Davies, Cardigan. His association with this church came to an end in 1868, when some storm blew up and it was decided that it would be better if he left. The following autumn he married and emigrated to America, settling in Waterville but died the following year in Johnstown, while on a journey through Pennsylvania. At the end of 1871 a call was sent to Mr Richard Pugh Jones, Llanegryn* who began his ministry on the first Sunday of January 1872 and he continues to labour here successfully.

The circumstances in which the last 5 ministers left was rather uncomfortable, we cannot say that there was proof of immorality against them all but there was a great lack of wisdom and insight associated with  their departure, these things cause considerable unease within the cause. Nevertheless this cause is strong and influential and after the passing of more than 200 years the church continues with the same form of governance within the church. They celebrated the bicentenial on June 25th and 26th, 1850, and there were some momentous services, although it would have been more interesting had they been held where the fathers once worshipped.

The following is a list of some significant members of this church over time :-

Thomas DAVIES, Gorwydd; David JONES, James REES, Glantyweli ; John JONES, Glynadda ; John PHILLIPS, Scythlyn; John EVANS, Cwmgwern ; William LLOYD, Dolmaen; David SAMUEL, Llethrneuadd ;David REES, Cefnybedd; Daniel DAVIES, Glyncoch ; Lewis JONES, Glynadda ;John DANIEL, Llwyndywallter ; David JOHN, David PHILLIPS, Cwmgof ; John GRIFFITHS, Wythen; Daniel FRANCIS, Gwndwn; Daniel BEYNON, Lan ; Ebenezer JONES, Pencadair; Thomas DANIEL, Pencadair ; William JOHN, Langlynadda ; Thomas JONES, David EVANS, Penygraig; Jenkin DAVIES, Blaenbella ; Enoch JONES POWELL, David PHILLIPS, Blaencyfre ; Daniel DAVIES, Maesyfelin; Evan WILLIAMS, Clawddcoch ; Evan EVANS, Bryngwyne; David BEYNON, Lan; David GRIFFITH, Pantporthmon ; Thomas BOWEN, Glandyweli ; John PHILLIPS, Scythlyn; John EVANS, Gwarcoed; William PHILLIPS, Glynmelyn; John JONES, Pantglas ; David FRANCIS, Gwndwn; David EVANS, Rhiwlwyd, ac Evan EVANS, Glyncoch.

The following were raised to preach here :-

  • WILLIAM THOMAS - Brynbuwchswynog. Was a supporting preacher here, and bequeathed £40 to the church.
  • MORRIS WILLIAMS -  minister at Tynycoed.
  • THOMAS DAVIES -  See Pantteg.
  • JOHN DAVIES - See Alltwen.
  • JOHN GRIFFITH -  See Caernarfon.
  • JONATHAN JONES -  SeeTroedyrhiw, Cardiganshire.
  • DAVID DAVIES -  SeeEbenezer, Swansea.
  • JOHN EVANS - See Haverfordwest.
  • EVAN DAVIES - See Aber, Breconshire.
  • THOMAS PHILLIPS,D.D. - See Neuaddlwyd.
  • JOHN LLOYD - See Henllan.
  • DAVID PHILLIPS - Blaengyfre. Brother of Dr. Phillips, Neuaddlwyd. Was a supporting preacher and official. Died June 1st, 1819.
  • THOMAS DANIEL  - Born 1770, died February 14th, 1819.Draper by trade. He set up Sunday Schools here 70 years ago.
  • DAVID LEWIS JONES - Minister at Seion Chapel, Lecturer at Carmarthen College.
  • METHUSALEM DAVIES - Minister at several places,last at Penywaun, Monmouth, then went to the Baptists.

David EDWARDS, Nantyboncath ; John JONES (Mac Ebrill), D. DAVIES: Cwmdafydd; William JOHN, Langlynadda, a Thomas R.JONES, - we have no history of them.

BIOGRAPHICAL NOTES **

JAMES LEWIS - Born 1674, Dinas Cerdin, Llandyssul - ordained Pencadair and Pantycreuddyn, 1706 - Died May 31st, 1747, age 73. - buried Llanllawddog.

JOHN LEWIS - Born Blaencerdin - little history - served 25 years here - died January 21st, 1766, age 56.

* In the report of Mr. Jones, Llanegryn, ordination Vol 1, page 500, the name Robert P. Jones was used incorrectly instead of Richard P. Jones.

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

TROEDRHIW-ALLT-WALIS

(Llanfihangel-ar-arth parish)

Yr oedd amryw o aelodau Pencadair yn byw yn mhlwyf Llanllawddog, a rhan isaf plwyf Llanfihangel-ar-arth, a rhai yn mhlwyf Llanpumsaint, ac er mwyn cyfleustra y rhai hyny, yn gystal ag er mwyn eangu terfynau yr achos, dechreuwyd pregethu yn Glynadda o gylch y flwyddyn 1784. Pregethid hefyd yn achlysurol yn mhentref Troedrhiw tua'r un adeg. Y prif offeryn yn nghychwyniad yr achos oedd Lewis Jones, Glynadda. Wedi pregethu mewn gwahanol dai dros lawer o flynyddoedd cymerwyd les ar dy yn Nhroedyrhiw, yn y flwyddyn 1806, ac ymffurfiodd yr aelodau oedd yn yr ardal yn perthyn i Bencadair yn eglwys ynddo. Yn 1819 helaethwyd y ty, a gwnaethpwyd ef yn fwy cyfleus at addoli. Yn 1832 codwyd y capel presenol ar dir Lewis Morris, Ysw., ac y mae mynwent helaeth yn nglyn ac ef. Talwyd yr holl draul gan yr ardalwyr ar y pryd. Mae y lle o'r dechreuad wedi bod o dan yr un weinidogaeth a Phencadair, ac y mae yn awr. Mae yma lawer o bersonau gwybodus a dylanwadol wedi bod yn nglyn a'r achos, ac y mae llawer o olafiaid y sylfaenwyr yn glynu yn ffyddlon wrtho. Coffeir yn barchus am yr Hen Shon

428  

Corn, fel ei gelwid, ac Ophi, Cwmcreigiau, y rhai oeddynt hynod mewn duwioldeb, ac y mae eu henwau yn berarogl yn yr ardal; ac nid a caredigrwydd teulu Glynadda yn anghof.

Codwyd y personau a ganlyn i bregethu yma.

  • Evan Jones.  Urddwyd ef yn Ffynonbedr, lle y mae etto.
  • David Evans. Urddwyd ef yn Nhrewyddel, ac y mae yn awr yn Salem, gerllaw Llandilo.
  • Lewis James. Addysgwyd ef yn Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yn Carfan, lle yr erys etto.
  • Evan Jones. Mae yn weinidog yn rhywle yn Lloegr.

Translation by Gareth Hicks (Dec 2008)

There were several Pencadair members living in Llanllawddog parish, and the lower part of Llanfihangel-ar-arth parish, and some in Llanpumsaint parish, and in order to convenience these, as well as expanding the cause's boundaries, they started preaching in Glynadda around 1784. They also preached on occasion in the village of Troedrhiw about the same time. The main instigator for starting the cause was Lewis Jones, Glynadda. Having preached in different houses over many years they took a lease on a house in Troedyrhiw, in the year 1806, and the members of Pencadair who were in the area formed a church there. In 1819 they enlarged the house, and made it more suitable for worship. In 1832 they raised the present chapel on Lewis Morris Esq's  land, and there is a large cemetery with it. The residents of the AREA at the time paid the whole cost. The place from the start has been under the same minister as Pencadair, and  still is. There are here several knowledgable and influential people who have been linked to the cause, and there are several original founders remaining loyal to it. With respect is remembered Old Shon Corn, as he was called, and Ophi Cwmcreigiau, who were notable for their godliness, their names are fragrant in the area, and nor is the benevolence of the Glynadda family forgotten.

The following people were raised to preach here;

  • Evan Jones. He was ordained in Ffynonbedr, where he still is
  • David Evans. Ordained in Trewyddel, now in Salem, near Llandilo
  • Lewis James. Educated at Carmarthen College, ordained in Carfan, where he still is
  • Evan Jones. He is a minister somewhere in England

 

HERMON, CYNWIL

(Conwil Elfed parish)

Dechreuwyd yr achos yma mewn lle a elwir Nantgronwy, amaethdy heb fod yn mhell o'r fan y saif y capel presenol. Nid oes genym sicrwydd am ddyddiad yr achos yn Nantgronwy, ond y mae yn eglur ei fod er yn gynar yn y ganrif ddiweddaf. Yr ydym yn cael fod Penlon a Nantgronwy mewn cysylltiad a'u gilydd, a bod Mr Thomas Jones, Glanffrwd, yn gweinyddu i'r ddwy gangen, a pharhaodd y ddwy mewn cysylltiad a'u gilydd o dan ofal yr un gweinidogion hyd farwolaeth Mr J. Bowen. Dywedir nad oedd yma ond saith o aelodau pan gymerodd Mr Bowen ofal yr achos yn 1795, ond cynyddodd yn gyflym, ac yn 1799, penderfynwyd cael capel i'r gynnulleidfa i addoli ynddo. Cafwyd tir gan Mr Llewelyn Lewis, Pantyrhaidd. Galwyd ef Hermon. Prif gynorthwywyr Mr Bowen yn y gwaith oedd John Evans, Glanrhyd ; John James, Nantgronwy ; Thomas Jones, Penyrallthafan ; Dafydd Morgan, Llwyncynwil, a Dafydd Jones, saermaen. Yr oeddynt oll yn ddynion o gymeriad rhagorol. Yn y flwyddyn 1826, ail-adeiladwyd y capel i'w ffurf bresenol. Oherwydd methiant a gwendid rhoddodd Mr Bowen yr eglwys i fyny 1829, ac unodd Hermon a Bwlchnewydd i roddi galwad i Mr Owen Owens, yr hwn a fuasai yn fyfyriwr yn Athrofa Neuaddlwyd, ac urddwyd ef yn Bwlchnewydd yn Chwefror 1830. Bu yma yn ddiwyd a ffyddlon am naw mlynedd. Yn mhen amser wedi iddo roddi yr eglwys i fyny rhoddwyd galwad i Mr Evan Evans, aelod o Saron, ac urddwyd ef Hydref 8fed, 1840. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Mistri T. Jones, Saron ; E. Rees, Brynsion ; D. Evans, Castellnedd (brawd yr urddedig); S. Grifflths, Horeb ; T. Rees, Maenygroes, ac eraill. Mae Mr Evans yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad a pharch. Rhifa yr eglwys dros ddau cant o aelodau, ac y mae yma Ysgol Sabbothol flodeuog. Bu yma lawer o aelodau ffyddlon yn nglyn a'r eglwys heblaw y rhai a enwyd. Cafodd yr achos achles nodedig wedi dyfodiad Mr a Mrs. Phillips i Cadwgan, a bu eu ty yn gartref clud i'r gweinidogion a ddelent heibio.

Codwyd y rhai canlynol i bregethu yn nglyn a'r eglwys hon.

  • Jonathan Jones. Mae yn awr yn New York, America.
  • Henry Davies, Penrhiwgwiail. Addysgwyd ef yn Athrofa Blackburn, ac urddwyd ef yn Brynbiga, ond enciliodd i'r Eglwys Sefydledig, ac y mae yn awr yn Vicar Caio, yn Sir Gaerfyrddin.
  • James Edwards. Addysgwyd ef yn Athrofa Aberhonddu, ac y mae yn awr yn Mhontygof, Sir Fynwy.

Daw hanes y gweinidogion a fu yma yn llafurio yn nglyn a'r eglwysi eraill a fu dan eu gofal.

Translation by Gareth Hicks (Oct 2008)

The cause here was started in a place called Nantgronwy, a farm house not far from the site of the present chapel. We don't have definite information about the cause in the period whilst at Nantgronwy, but it was apparently  early in the last century. We have discovered that Penlon and Nantgronwy were connected, and that Mr Thomas Jones, Glanffrwd, preached to both branches, and they continued together under the care of the same minister until the death of Mr J Bowen. It is said that there were only 7 members here when Mr Bowen took over the cause in 1795, but it expanded quickly, and in 1799, they decided to have a chapel for the congregation to worship in. They obtained land from Mr Llewelyn Lewis, Pantyrhaidd. They called it Hermon. Mr Bowen's main supporters in this work were John Evans, Glanrhyd; John James, Nantgronwy; Thomas Jones, Penyrallthafan; Dafydd Morgan, Llwyncynwil; and Dafydd Jones, mason. They were all men of excellent character. In 1826, they re-built the chapel in its present form. Because of illness Mr Bowen gave up the chapel in 1829, and Hermon and Bwlchnewydd united to give a call to Mr Owen Owens, who had been a student at Neuaddlwyd College, and he was ordained in Bwlchnewydd in February 1830. He was diligent and faithful here for 9 years. A while after he had given up the church they gave a call to Mr Evan Evans, a member from Saron, and he was ordained on 8th Oct 1840. Officating at the ceremony were Messrs T Jones, Saron; E Rees, Brynseion; D Evans, Castellnedd (brother of the ordainee); S Griffiths, Horeb; T Rees, Maenygroes, and others. Mr Evans continues to labour here with acceptance and respect. The number in the church is over 200  members, and there is here a flourishing Sunday school. There are here in the church many faithful members apart from those who have been christened. The cause received a considerable fillip after the arrival of Mr & Mrs Phillips in Cadwgan, and their house is a cosy home for the ministers who come past.

The following were raised to preach in this church;

  • Jonathan Jones ... He is now in New York, America
  • Henry Davies, Penrhiwgiail  ... He was educated in Blackburn College, and ordained in Brynbiga, but he left for the Established Church, and is now the Caio Vicar  in Carmarthenshire.
  • James Edwards ... He was educated in Brecon College, and is now in Pontygof, Monmouthshire.

There are  biographical notes for the ministers who laboured here amongst (the histories of) the other churches  they cared for.

429

SOAR, PENBOYR

Adeiladwyd capel bychan yma yn y flwyddyn 1836, fel cangen o Saron. Ni fwriadid ef ar y cyntaf ond i gadw ysgol a phregethu yn achlysurol ; ond wrth weled fod yr achos yma yn myned rhagddo, a chynnulleidfa luosog yn ymgasglu, penderfynwyd ffurfio eglwys yma a chafwyd y cymundeb cyntaf Mai 13eg, 1838. Gweinyddai Mr Jones, Saron, ar yr achlysur. James Beynon, hen ddiacon parchus yn Saron, ac Evan Beynon, ei fab, a William Jones, oeddynt y diaconiaid cyntaf yma. Yn Hydref 1840, cymerodd Mr Evan Evans ofal yr eglwys yn nglyn a Hermon, ac y mae yn parhau i ofalu am dani etto. Yn 1859, ail-adeiladwyd y capel, ac y mae yma gynnulleidfa dda bob Sabboth, ac eglwys yn rhifo 140 a aelodau.

Codwyd yma un pregethwr, sef David Davies, yr hwn wedi treulio ei dymor yn Athrofa Aberhonddu a urddwyd yn Risca, lle y mae etto.

Translation by Gareth Hicks (Jan 2009)

They built a small chapel here in 1836, as a branch of Saron. It was not intended at first to do other than to keep a school and preach occasionally; but as they saw the cause  going forward, and a numerous congregation gathering, they decided to form a church  and held the first communion on 13th May 1838. On the occasion Mr Jones, Saron, preached.  The first deacons here were James Beynon, an old respected deacon at Saron, and Evan Beynon, his son, and William Jones. In Oct 1840 Mr Evan Evans took over care of the church together with Hermon, and he continues to do so. In 1859 they rebuilt the chapel, and there is here a good congregation every Sunday, and the church numbers 140 members.

One preacher was raised here, namely David Davies, who did his time at Brecon College, and was ordained at Risca, where he still is

 

HEOL AWST, CAERFYRDDIN

Mae llawer o dywyllwch yn nglyn a'r achos hynafol hwn yn ei ddechreuad ac yn mlynyddoedd cyntaf ei hanes. Dywedir fod yma gynnulleidfa fechan yn cyfarfod mor foreu a dyddiau gweriniaeth Oliver Cromwell, ond nid oedd ond bychan a dilewyrch, ac ymddibynai am gynorthwy eglwysi eraill, yn benaf o Sir Fynwy. Nid oes un crybwylliad am yr achos yma am rai blynyddau ar ol hyny, a thybir iddo ddiflanu yn llwyr, ac mai gan Mr Stephen Hughes yr ail gychwynwyd ef pan y cafwyd mesur o dawelwch ar ol tymor erledigaethus dyddiau Charles yr Ail. Cyfarfyddant yn Heol Prior, ac yr oedd yno hen dy yn nghof rhai sydd yn fyw at yr hwn y cyfeirid fel " yr hen dy cwrdd." Bu y lle dan ofal Mr Hughes mewn cysylltiad a lluaws o fanau eraill hyd ei farwolaeth, yn 1688. Nid oes genym ddim gwybodaeth am yr achos yma, na phwy a weinyddai i'r eglwys am y deuddeg neu y pymtheg mlynedd canlynol ; ond yn nechreu y ddeunawfed ganrif symudodd Mr William Evans, Pencadair, i'r dref i gymeryd gofal yr eglwys ac i osod i fyny athrofa er addysgu dynion ieuaingc i'r weinidogaeth. Daeth Mr Evans i'r dref yn 1703, a bu yn athraw yr athrofa hyd 1718, ac y mae yn debyg mae dyna flwyddyn y bu farw, fel y gadawyd yr eglwys a'r athrofa yn amddifaid yr un pryd. Yn yr un flwyddyn daeth Mr Thomas Perrot yma, a bu yma hyd i farwolaeth, yn 1733. Yn ystod ei weinidogaeth ef y symudwyd yr achos o Heol Prior i Heol Awst. Cafwyd tir i adeiladu gan Mr John Corrie, sidan-werthwr ( Mercer), yn nhref Caerfyrddin. Dyddiad y weithred ydyw Mai 12fed, 1725. Yr ymddiriedolwyr oeddynt Thomas Bowen, Llannewydd, boneddwr ; Thomas Maurice, Llanstephan, boneddwr; James Johnston, ieuaf, Caerfyrddin, sidan-werthydd; William Rowlands, Caerfyrddin, sidan-werthydd, a William Williams, Caerfyrddin, dilledydd. Mae yn debyg i'r capel cyntaf yn Heol Awst gael ei godi yn yr adeg yma. Wedi marwolaeth Mr Perrot, rhoddwyd. galwad i Mr Samuel Thomas i fod yn weinidog i'r eglwys yma ond y mae yn debyg fod wedi bod yn weinidog yn rhywle cyn hyny, oblegid yn 1734 y dechreuodd yma, ond yr oedd wedi gadael yr athrofa ddeng mlynedd cyn hyny. Yr oedd yn un o'r myfyrwyr cyntaf a fu dan ofal Mr Perrot. Bu Mr Thomas

430

yma hyd ei farwolaeth yn 1766, a dilynwyd ef gan Dr. Jenkin Jenkins, yr hwn oedd yn flaenorol yn gwasanaethu fel cyd-athraw a Mr Thomas yn yr athrofa. Ymadawodd oddiyma i Lundain yn 1779. Dilynwyd ef gan Mr Robert Gentleman, yr hwn oedd yn weinidog yn yr Amwythig, a bu yma hyd 1784, pryd y symudodd i Kidderminster i fod yn weinidog i'r eglwys yno, a bu farw yn 1785. Yn y flwyddyn 1781, yn nhymor gweinidogaeth Mr Gentleman, gwnaed yma weithred newydd, ac ymddiriedolwyr newyddion. Mae yn debyg i ymddiriedolwyr gael eu gwneyd o'r blaen ar ol y rhai cyntaf a wnaed yn 1725, oblegid cyfeirir yn y weithred a wnaed yn 1781 at Jenkin Jenkins, gweinidog yr efengyl, fel un o'r ymddiriedolwyr, yr hwn oedd erbyn hyn wedi marw. Nid oedd ei enw ef yn y weithred gyntaf, ac nid yw y weithred a'i gwnaeth ef yn ymddiriedolwr ar gael. Mae y weithred a wnaed yn 1725 a gweithred 1781 yn awr ar gael mewn safe yn Heol Awst. Y gyntaf wedi ei hysgrifenu ar bapyr a'r olaf ar groen. Yn yr olaf yr ydym yn cael John Ross, argraffydd yn Nghaerfyrddin, yn cael i wneyd yn ymddiriedolwr. Ceir ei enw yn aml ar hen lyfrau Cymreig, a chreodd gyfnod newydd yn Nghymru mewn argraffu yn gywir, yn hardd, ac yn rhad. Yr oedd yr eglwys trwy yr holl flynyddau yn ymddibynu ar yr athrofa am ei gweinidogion, ac yn derbyn yn weinidog y neb a benodid yn athraw yr athrofa beth bynag fyddai ei gymhwysderau a'i olygiadau duwinyddol ; a chan fod rhai o honynt wedi dirywio yn fawr oddiwrth yr hyn a ystyrir yn uniongred, yr oedd yn yr eglwys - er nad oedd ond ychydig mewn nifer - bob cymysgedd mewn barn. Pan wnaed cyfrif  o rifedi  cynnulleidfaoedd y sir yn 17 I 4, nid oedd cynnulleidfa Caerfyrddin yn rhifo ond 200, pan y mae rhai o gynnulleidfaoedd gwledig y sir yn cael eu rhoddi i lawr yn 750.

Yn y flwyddyn 1792, rhoddwyd galwad i Mr David Peter, a fuasai yn fyfyriwr yn yr athrofa pan oedd yn Abertawy dan ofal Mr Solomon Harries, ac urddwyd ef yn weinidog i'r eglwys Mehefin 8fed, 1792. Traddodwyd y bregeth urddiadol gan Mr E. Davies, Llanedi. Holwyd y gofyniadau gan Mr W. Howell, Abertawy. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr J. Griffith, Abergavenny, yn Saesneg, a chan Mr D. Davies, Llwynrhydowen, yn Gymraeg. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr B. Evans, Drewen.Nid oedd nifer yr aelodau yma ar sefydliad Mr Peter ond tua deugain, ac am y rhai hyny dywedai na fedrai ef na neb arall wybod beth oedd eu barn ar athrawiaethau yr efengyl, ac nid oedd ganddynt un synied clir am drefn a dysgyblaeth eglwysig. Yr oedd yma ychydig ddynion o olygiadau efengylaidd ar drefn cadw pechadur, ac eraill yn Ariaid a Sociniaid proffesedig, ond Arminiaid deddfol oedd y rhan fwyaf. Trwy ddoethineb a phwyll, a symledd duwiol, llwyddodd Mr Peter yn raddol i newid ton yr eglwys, a daeth yr achos rhagddo yn nodedig. Yn y flwyddyn 1795, symudwyd yr athrofa i Gaerfyrddin o dan ei ofal, a chafodd help a chynorthwy y myfyrwyr a ddeuai yma o bryd i bryd, ac yn eu plith yr oedd rhai pregethwyr tra galluog. Pregethai Mr Peter ei hun yn y boreu yn Gymraeg, ac yn y prydnhawn yn Saesneg, ac yn yr hwyr pregethai y myfyrwyr ar gylch, ond byddai Mr. Peter yno bob amser yn gwrando arnynt. Yn y boreu y byddai, y gynnulleidfa luosocaf, hono a ystyrid yr oedfa bwysicaf. Helaethwyd y capel yn 1802, ac mor gyflym yr oedd y gynnulleidfa yn cynyddu fel yr aeth hwnw yn rhy gyfyng cyn hir, ac yn y  flwyddyn 1826 adeiladwyd yr addoldy eang a hardd presenol, yr hwn sydd yn un o'r rhai helaethaf yn Nghymru, ac yn mhob ystyr yn un

431

o'r rhai mwyaf cysurus i bregethu a gwrando ynddo. Aeth holl draul adeiladiad y capel yn £2590/ 5/ 5. Agorwyd ef Ebrill 5ed, 1827, ac erbyn Ebrill 15fed, 1831, yr oedd yr holl ddyled wedi ei thalu. Daeth y gynnulleidfa yn lluosog a chyfoethog, a'r eglwys yn rhifo mwy na chwe' chant o aelodau. Ystyrid eglwys Heol Awst yn nyddiau Mr Peter yr eglwys fwyaf pendefigol yn yr enwad. Yr oedd yn gwbl annibynol ar bob eglwys arall, ond carid ei llywodraeth fewnol yn mlaen agos yn gwbl gan y gweinidog a'r diaconiaid, ond gwneid hyny yn y fath fodd fel nad oedd neb o'r aelodau yn teimlo eu bod hwy yn cael eu hyspeilio o'u hawliau teg a chyfreithlawn. Dichon y dylasai eglwys o'r fath rifedi a chyfoeth fod wedi eangu ei therfynau yn fwy, ac yn arbenig dylasai fod achos Seisnig wedi ei gychwyn pan yr oedd pob peth yn amgylchiadau yr eglwys a'r dref yn fwyaf ffafriol i wneyd hyny. Ond wedi y cwbl gwnaeth Mr. Peter waith mawr yn ei oes, os cydmerir sefyllfa yr achos ar ei sefydliad yma, ac agwedd yr achos yn adeg ei farwolaeth.

Gan fod nerth ac iechyd Mr Peter yn gwanhau ar ol mwy na deugain mlynedd o lafur didor, meddyliwyd am gael cydlafurwr ag ef dros weddill ei oes, ac olynydd iddo. Gwnaeth ef a'r eglwys gais am gael Mr Griffith, Caergybi, yr hwn oedd y pryd hwnw yn mlodeu ei ddyddiau ; ond yr oedd ei afael mor gref wrth faes cyntaf ei lafur fel y methodd y demtasiwn a'i orchfygu er cryfed ydoedd. Yn niwedd y flwyddyn 1834, rhoddwyd galwad i Mr John Breese, Liverpool, hwn y cydsyniodd, a dechreuodd ei weinidogaeth yma y Sabboth cyntaf yn Ionawr, 1835. Gwaelodd Mr Peter yn fuan ar ol sefydliad Mr Breese yma, a bu farw Mai 4ydd, 1837, yn 72 oed. Bu Mr Breese yma yn boblogaidd dros rai blynyddau, er fod nodwedd ei weinidogaeth yn dra gwahanol i eiddo ei ragflaenydd. Gwaelodd ei iechyd cyn diwedd y flwyddyn 1841, er iddo fod yn alluog i bregethu ychydig dros fisoedd cyntaf y flwyddyn ganlynol, ond yr oedd yn amlwg arno fod ei gyfansoddiad yn ymollwng. Bu farw Awst 8fed,1841, yn 52 oed. Am y ddwy flynedd ganlynol bu yr eglwys yn ymddibynu ar gynorthwy gweinidogion dyeithr hyd ddiwedd haf 1841, pryd y rhoddwyd galwad i Mr Hugh Jones, Tredegar, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn Ionawr, 1845. Yr oedd lleiafrif bychan yn yr eglwys yn annghytuno a'r lluaws yn yr eglwys yn eu dewisiad o Mr Jones, a phenderfynasant ar ei ddyfodiad ymneillduo a chychwyn achos arall yn y dref ; a chan fod mwyafrif gweinidogion y Sir, oherwydd rhyw resymau, yn cydymdeimlo a lleiafrif yr eglwys, addawsant eu cynorthwy iddynt mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Salem, gerllaw Llandilo, Rhagfyr 11eg, 1844; ac ar y Sabboth cyn fod Mr Jones yn dechreu ei weinidogaeth yn Heol Awst yr oedd dau o weinidogion y Sir yn pregethu yn y Lancasterian School-room. Parodd hyn deimladau blin a chwerw yn y dref, ac yn mysg gweinidogion ac eglwysi y Sir ; ac yr oedd y teimladau drwg yn ymledu Siroedd eraill. Nid oedd neb yn amheu nad oedd angen achos arall yn Nghaerfyrddin, ond yr oedd llawer yn amheus o'r priodoldeb o'i gychwyn dan yr amgylchiadau y gwnaed ; ac yn enwedig ystyrient fod gwaith gweinidogion y Sir yn addaw cynorthwyo nifer o aelodau Heol Awst pan yr ymddeolent o'r eglwys hono, yn anfrawdol ac afreolaidd a dyweyd y lleiaf, a gwyddom fod rhai o'r gweinidogion oedd yn nghyfarfod Salem pan y daethant i oedran aeddfetach yn barnu y gallesid cael llwybr mwy rheolaidd a chyfansoddiadol i weithredu. Nid ydym am ddyweyd dim yn nglyn a'r amgylchiad blin yma na ddisgwylir i haneswyr teg ac anmhleidiol

432  

ei ddyweyd ; ac yr oedd yn ddigwyddiad rhy bwysig yn hanes yr eglwys i fyned heibio iddo yn ddisylw. Mae yn dda genym ychwanegu i'r teimladau anghysurus rhwng Mr Jones a gweinidogion y Sir gael eu hiachau yn fuan ; a bod y ddau achos yn y dref ers llawer o flynyddoedd ar y telerau goreu. Bu Mr Jones yma yn dderbyniol a phoblegaidd am lawer o flynyddoedd, ond dyoddefodd yr achos ychydig, yn mlynyddoedd olaf ei oes gan nad oedd yn alluog i gyflawni ei weinidogaeth fel cynt. Bu farw Mawrth 5ed, 1872, yn 72 oed, ac y mae yr eglwys er hyny yn amddifad o weinidog.

Mae llawer o bobl ragorol wedi bod yn nglyn a'r achos yma o bryd bryd, ond gan nad oes genym ond enwau ychydig o honynt gwell i ni beidio crybwyll y cyfryw, rhag y digwydd i ni adael allan eraill llawer mwy teilwng. Mae enwau Meistri Evans, printer; W. G. Thomas, J. Lewis, Cilwaunydd, a W. Thomas (Gwilym Mai), yn cael eu coffau fel rhai a fu o lawer o help i'r achos yma yn nghorff y genhedlaeth bresenol. Yr oedd John Corrie, yr hwn a roddodd dir at adeiladu y capel, yn wr nodedig gyda'r achos. Bu farw Rhagfyr 10fed, 1731, yn 47 oed, a chladdwyd ef o dan ei seat yn y capel. Gwelir careg er coffadwriaeth am dano ef a rhai o'i deulu ar fur gorllewinol y capel.

Mae yn ddiau i lawer o bregethwyr gyfodi o'r eglwys hon o bryd i bryd, ond nid oes genym ond rhestr anmherffaith iawn o honynt. Aeth llawer o honynt i Loegr, a chollwyd eu henwau felly o bob cofnodion Cymreig.

Codwyd y rhai a ganlyn oddiyma.

  • William Gillespie.  Yr oedd yn enedigol o'r dref hon. Llafuriodd am ddwy-flynedd-ar-bymtheg yn Hatherleigh, yn Swydd Devon. Dychwelodd adref a bu farw Rhagfyr 12fed, 1743, yn 40 oed. Claddwyd ef yn mynwent Heol Awst, a gwelir careg yn mur dwyreiniol y fynwent, ac argraff arni er coffadwriaeth am dano.
  • William Jones. Mae ef yn awr yn weinidog yn Heolycastell, Abertawy.
  • William Lewis. Gwelir ei hanes yn nglyn ag eglwys Trefdraeth.
  • W. H. Lewis. Urddwyd ef yn Narberth. Ysgrifenodd hanes bywyd. Mr Peter. Ychydig o wasanaeth a wnaeth i'r efengyl, a bu farw blynyddau yn ol heb fod mewn cysylltiad ag unrhyw enwad.
  • Thomas Williams. Enciliodd ef i'r Eglwys
  • Henry Rees. Mae yn awr yn Penuel, Hope, Sir Flint.
  • John Morris. Addysgwyd ef yn Athrofa Blackburn, ac mae nawr er's ugain mlynedd yn Athraw duwinyddol yn Athrofa Aberhonddu.
  • Jonathan Davies. Bu yn Athrofa y Drefnewydd, ac ymadawodd at y Bedyddwyr, ond ni buont hwythau yn hir cyn ymwrthod ag ef.
  • John Lewis. Dygwyd ef i fyny yn Athrofa Airdale, ac y mae yn awr yn Tenby, Sir Benfro.
  • Thomas Joseph. Ganwyd ef yn Llanybri, Mai 6ed, 1816. Pan yn bymtheg oed derhyniwyd ef yn aelod yn Heol Awst, chyn hir dechreuodd bregethu. Derbyniwyd ef i Athrofa Caerfyrddin, a thra yno daeth i deimlo mor ddwys dros gyflwr y byd Paganaidd fel y penderfynodd fyned allan yn genhadwr. Derbyniwyd ef gan y cyfarwyddwyr, ac urddwyd ef yn Nghaerfyrddin, Medi 21ain, 1837. Cychwynodd allan Ebrill11eg, 1838, ar fwrdd y Camden, gyda'r anfarwol John Williams. Arosodd Mr Joseph am dymor yn Sydney yn dysgu iaith Tahiti dan ofal Mr Crook, ac yna aeth i'w faes penodedig. Arosodd yn Tahiti hyd ymosodiad dinystriol

 

433

  •  .................y Ffrancod ar yr ynys, yna dychwelodd i Loegr, ac wedi hod yn ngwasanaeth y gymdeithas am dymor, gan nad oedd sefyllfa ei iechyd yn caniatau iddo ddychwelyd i faes ei lafur, sefydlodd fel gweinidog Upminster, Essex, ac wedi hyny yn Arundel, yn Sussex. Cyflawnodd ei weinidogaeth tra daliodd ei nerth, ond dyoddefodd aml a blin gystuddiau, a bu farw Ebrill 3ydd, 1863, yn 47 oed.
  • Thomas Thomas. Ganwyd ef yn agos i Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1820. Derbyniwyd ef yn aelod yn Heol Awst pan yn ddeuddeg oed. Cymerodd meddyg yn Nghaerfyrddin, yr hwn a elwid ei ewythr, at ei noddi; a chan mai Undodwr oedd mynai ei ddwyn i fyny yn yr un gredo ag yntau, ond ni fynai y bachgen wyro i'r ffordd hono. Derbyniwyd ef Athrofa Homerton, Llundain, dan ofal Dr. Pye Smith. Ar derfyniad ei amser yno urddwyd ef yn Wellingborough, lle y llafuriodd am dair-blynedd-ar-ddeg. Yn Hydref, 1858, derbyniodd alwad o Bethnal Green, Llundain ;ac aeth yno yn Ebrill y flwyddyn ganlynol. Bu yno yn dra llwyddianus am yspaid dwy flynedd. Chwanegwyd 200 at yr eglwys. Ond bu farw yn nghanol ei ddefnyddioldeb Mawrth 13eg, 1861, yn llawn deugain mlynedd oed. Dyn bychan o gorffolaeth ydoedd, o dymer hynaws a llednais, o ysbryd crefyddol, ac o ddawn cynes a bywiog. Ei ragoriaeth mawr oedd ei fod yn argyhoeddi pawb ei fod yn ddyn gwir dda.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

WILLIAM EVANS. Nid ydym yn gwybod amser na lle ei enedigaeth. Dygwyd ef i fyny yn Athrofa Ystradwalter, dan ofal Mr Rees Prytherch. Urddwyd ef yn Mhencadair, yn y flwyddyn 1688. Bu yno yn Ilafurus am bymtheng mlynedd. Tua'r flwyddyn 1703, ymudodd i Gaerfyrddin i gymeryd gofal yr eglwys yno, ac i osod i fyny athrofa. Yr oedd yn ddyn tra dysgedig ; ac wedi marwolaeth Mr Rees Prytherch, a Mr Samuel Jones, Brynllywarch, teimlid fod angen sefydliad o'r fath. Bu yn athraw yr athrofa am bymtheng mlynedd, a dygwyd nifer fawr o wyr ieuaingc i fyny  dan ei ofal. Efe a fu prif offeryn i sefydlu yr achos yn Capel Seion, Llanddarog, ac yn ei amser ef y codwyd y capel yno. Bu farw tua'r flwyddyn 1718.

 THOMAS PERROT. Dywedir ei fod yn enedigol o Lanybri. Bu dan addysg Mr Griffith yn Abergavenny, a Mr James Owen yn yr Amwythig. Urddwyd ef yn Knutsford, Sir Amwythig, Awst 6ed, 1708. Ni bu yno yn hir, canys symudodd i New Market, Sir Flint, a bu yno hyd y flwyddyn 1718, pryd y symudodd i fod yn ddilynydd i Mr W. Evans yn yr athrofa ac yn yr eglwys yn Nghaerfyrddin. Bu dros gant a haner o fyfyrwyr ymneillduol dan ei ofal yn Nghaerfyrddin yn ystod ei arosiad yno, heblaw y nifer mawr oedd yn parotoi i'r weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig. Yr oedd yn ddyn hynaws a chrefyddol, ond yn wan a llac yn ei lywodraeth ar y myfyrwyr, fel y dywedir i lawer o honynt cyn diwedd ei dymor fyned yn llygredig eu buchedd, yn gystal ag yn wyredig eu barn. Bu farw Rhagfyr 26ain, 1733, a theimlai yr eglwys a'i r myfyrwyr dan ei ofal hiraeth mawr ar ei ol.

SAMUEL THOMAS. Ni wyddom ddim am dano yn ychwaneg nag iddo ddyfod yma yn 1734, ac iddo fod yma yn weinidog ac athraw hyd ei farwolaeth nad  yn 1766. Yr oedd yn Ariad os nad yn rhywbeth pellach yn ei

434

olygiadau, ac yn ei amser ef y tynodd y Bwrdd Cynulleidfaol eu cynorthwy oddiwrth yr athrofa'i ac y penderfynasant sefydlu athrofa uniongred yn Abergavenny. Claddwyd Mr Thomas yn mynwent capel Heol Awst, lle y gweinidogaethai.

DAVID PETER. Ganwyd ef yn Aberystwyth, Awst 5ed, 1765. Yr oedd ei dad yn enedigol o Landudoch, gerllaw Aberteifi, a'i fam o Fachynlleth. Nid oedd ei rieni ond pobl isel eu hamgylchiadau, ond eu bod yn ddiwyd, a gonest, a chrefyddol, ac yn aelodau o'r Eglwys Sefydledig. Yn 1772, pan nad oedd ef ond plentyn, symudodd ei dad i'r Ceinewydd i weithio ei gelfyddyd fel saer llongau. Derbyniodd yr addysg oreu a allai ysgolion ei gymydogaeth i roddi iddo, a phan yn fachgen, yr oedd awydd mawr ynddo i fyned i'r mor,ond gan fod  rieni yn wrthwynebol i hyny, rhoddodd i fyny y meddwl am hyny. Awyddai ei dad am ei ddwyn fyny i weinidogaeth yr Eglwys Sefydledig, ac er mwyn hyny rhoddai bob cefnogaeth iddo i ddilyn ei lyfrau. Bu dan addysg Mr D. Davies, Castellhywel, ac wedi ffurfio cydnabyddiaeth a rhai o'r Ymneillduwyr, a gwrando Mr B, Evans, Drewen, yn pregethu, penderfynodd ymuno a'r Annibynwyr, ac yn mis Mawrth, 1783, derbyniwyd ef yn aelod yn Mhenrhiwgaled. Nid amlygodd ei dad unrhyw anfoddlonrwydd i'r cyfnewidiad ond rhoddodd iddo gyflawn ryddid i ddilyn argyhoeddiadau i gydwybod. Dechreuodd bregethu yn fuan, ac yn fuan aeth i Athrofa Caerfyrddin dan ofal Mr R. Gentleman, ar ei draul i hun, ac yn 1786, derbyniwyd ef ar draul y Bwrdd Presbyteraidd, wedi symudiad yr athrofa i Abertawy. An y flwyddyn 1789, dewiswyd ef yn athraw cynorthwyol yn yr athrofa, a bu yn y swydd hyd 1792, pryd y derbyniodd alwad o Heol Awst, ac yr urddwyd ef yno. Yn y flwyddyn 1795, symudwyd yr athrofa i Gaerfyrddin, a gosodwyd ef yn brif athraw arni, a bu yn y swydd am ddeugain mlynedd. Rhoddodd hyny ddylanwad mawr iddo yn y dref, a bu o lawer o help iddo yn y weinidogaeth, ac ymddygodd yntau yn mhob modd yn deilwng o'i sefyllfa. Yr oedd yn Mr Peter gydgyfarfyddiad o wahanol ragoriaethau a'i gwnai yn un o'r gweinidogion mwyaf defnyddiol a llwyddianus yn ei oes. Nid oedd yn meddu athrylith a doniau hyawdl y fath ag a'i gwnelai yn bregethwr poblogaidd, ac nid oedd tlysni celfyddydol yn ei bregethau y fath ag a swynai i wrandawyr, na tharawiadau cyffrous i'w brawychu a'u dychrynu ; ond yr oeddynt yn meddu y fath symledd ac eglurdeb, fel nad oedd yn bosibl i neb a wnai y sylw lleiaf, beidio eu deall. Yr oedd ei agwedd yn syml a phrydferth - ei iaith yn bur a dirodres - ei lais yn gryf a pheraidd - a'i ysbryd yn llawn sobrwydd a difrifoldeb.Yr oedd ei olygiadau ar athrawiaethau y Beibl yn wir efengylaidd ; ac er mai anaml y rhoddai wedd byngciol i'w bregethau, etto, cyfranogent yn helaeth o'r egwyddorion hyny, er mai mewn gwedd ymarferol yr ymdriniai a hwy fynychaf. Bu trwy ei oes yn ddyn diwyd a llafurus ; a gellir priodoli  lwyddiant yn fwy i'w ffyddlondeb a'i ddyfalbarhad nac i ddysglaerdeb ei dalentau naturiol. Yr oedd rhyw fawredd yn ei bresenoldeb a hawliai iddo barch pawb y deuai i gyffyrddiad ag ef. Yn mysg ei frodyr byddai yn siriol a chyfeillgar, ac yr oedd bob amser yn unplyg a didwyll. Llwyddodd yn fawr fei gweinidog, ac yr oedd ei ddylanwad bron yn ddiderfyn dros bawb yn yr eglwys.

Prif waith llenyddol ei oes yw "Hanes Crefydd yn Nghymru," ac yn sicr y mae yn dangos ol llafur mawr ; ac y mae ynddo gronfa o wybodaeth sydd yn anmhrisiadwy. Dichon na roddir iddo le uchel fel cyfan ....................... (Con't)

Translation by Gareth Hicks (Feb 2009)

There's much darkness surrounding the start of this ancient cause and its early years. It is said that there was a small congregation meeting here as early as the commonwealth of Oliver Cromwell, but it was but tiny and not flourishing, and  reliant on the assistance of other churches, mainly from Monmouthshire. There is not onemention of the cause here for some years afterwards, and it is assumed to have vanished completely, and had a second beginning with Mr Stephen Hughes when they had a spell of calmness after the period of persecution in the days of Charles II. They met in Heol Prior, and there was there an old house recalled by some who are alive as being referred to as "the old meeting house". The place was under the care of Mr Hughes in connection with many other places until he died in 1688. We have no information  on this cause, nor who ministered to the church over the following 12/15 years; but at the start of the C18th Mr William Evans, Pencadair, moved to the town to take over care of the church and to establish there a college for teaching young men destined for the ministry. Mr Evans came to the town in 1703, and was a teacher in the college until 1718, and it is likely that that was the year he died, thus leaving the church and college leaderless at the same time. In the same year Mr Thomas Perrot came here, and was here until he died in 1733. In the time of his ministry the cause moved from Heol Prior to Heol Awst. They obtained land to build from Mr John Corrie, a silk merchant (Mercer), in Carmarthen town. The date of the deed is 12th May 1725. The trustees were Thomas Bowen, Llannewydd, gentleman ; Thomas Maurice, Llanstephan, gentleman; James Johnston, junior, Carmarthen, silk merchant;; William Rowlands, Carmarthen, silk merchant; and William Williams, Carmarthen, draper. It looks as if the first chapel in Heol Awst was raised during this period. After Mr Perrot died, they gave a call to Mr Samuel Thomas to be their minister but it seems he had been a minister elsewhere before that, because he started here in 1734, although he'd left college 10 years before that. He was one of the first students that had been under Mr Perrot's care. Mr Thomas was here until he died in 1766, and he was followed by Dr Jenkin Jenkins, who had previously served as co-teacher with Mr Thomas in the college. He left here for London in 1779.  He was followed by Mr Robert Gentleman, who had been a minister in Shrewsbury, and was here until 1784, when he moved to Kidderminster to be minister to the church there, and he died in 1785. In 1781, during the period of Mr Gentleman's ministry, a new deed was created, with new trustees. It appears that trustees had been previously appointed after the original ones of 1725, because it is noted in the 1781 deed that Jenkin Jenkins, minister to the evangel, was one of the trustees, and he had since died. His name wasn't on the first deed, and the deed appointing him a trustee isn't to be had. The deeds of 1725 and 1781 are now kept in a safe in Heol Awst.  The first one is written on paper, the latter on hide. In the latter we have John Ross, printer in Carmarthen, being made a trustee. His name is often seen on old Welsh books, he created a new era in Wales with printing that was accurate, beautiful and inexpensive. The church was over the whole period reliant on the college for its ministers, and accepted as minister no one appointed a teacher at the college whatever their qualifications and theological views; and as some of them had lapsed greatly from what was considered as orthodox, there was in the church - albeit it wasn't other than a few in number - all shades of opinion. When they did a count of the numbers in the congregations of the county in 1714, the Carmarthen congregations numbered only 200, when some of the rural congregations of the county were put down as 750.

In 1792 they gave a call to Mr David Peter, who was a student in the college when he was in Swansea under the care of Mr Solomon Harries, and ordained him as minister to the church on 8th June 1792. The ordination sermon was delivered by Mr E Davies, Llanedi. Questions were asked by Mr W Howell, Swansea. Ordination prayer given by Mr J Griffith, Abergavenny, in English, and by Mr D Davies, Llwynrhydowen, in Welsh. The sermon to the minister by Mr B Evans, Drewen. The number of members here at the induction of Mr Peter was only about 40, and as to those I would say that neither he or anyone else knew what was their opinion on the doctrines of the gospel, and they didn't have one clear thought on procedure and ecclesiastical teachings. There were here a few men with evangelical views on the system of keeping a sinner, and others were professed Arian or Sociniaid (Unitarians?), but most were formal Arminians. Through wisdom and prudence, and simple devoutness, Mr Peter gradually succeeded in changing the tone of the church, and the cause moved forward markedly. In 1795, the college moved to Carmarthen under his care, and he had the help and assistance of the students who came here from time to time, and in their midst were some very capable preachers. Mr Peters preached himself in the morning in Welsh, and in the afternoon in English, and in the evening the students preached in turn, but Mr Peters was there at all times listening to them. In the mornings were the largest congregations, that was thought the most important service. They enlarged the chapel in 1802, and the congregation expanded so quickly that this soon became too crowded, and in 1826 they built the present expansive and beautiful building, one of the largest in Wales, and in every way one of the most comfortable to preach and listen in. The total cost of building the chapel was £2590/5/5. It opened 5th April 1827, and by 15th April 1831 the whole debt had been paid. The congregation expanded and prospered, and the church numbered more than six hundred members. In the days of Mr Peter Capel Awst was considered  the most aristocratic (creme de la creme ?) in the connection. It was totally independent of any other church, but carried on its internal governance almost wholly with the minister and deacons, but saying that  in a manner that none of the members felt that they were being deprived of their fair and just rights. Perhaps a church of such numbers and riches should have expanded its boundaries more, and especially should have started an English cause when all the circumstances of the church and town were at their most favourable to do so. But for all that Mr Peter did  good works  in his lifetime, if you take the state of the cause when he was installed here, and the attitude of the cause at his death.

As Mr Peter's  health and strength weakened after more than 40 years of continuous toil, they thought of getting a co-minister for him for the remainder of his time, and a successor for him. He and the church tried to get Mr Griffith, Llangybi, who was at the time at his peak; but his attachment was so strong for his first field of labour that the temptation was resisted despite its appeal. At the end of 1834, they gave a call to Mr John Breese, Liverpool, which he accepted, and he started his ministry here on the first Sunday in January 1835. Mr Peter quickly deteriorated after the settling in of Mr Breese,  and died on 4th May 1837, aged 72.  Mr Breese was popular here over several years, despite that the characteristics of his ministry were very different from that of his predecessor. His health worsened before the end of 1841, although he was able to preach a little over the first months of the following year, although it was apparent to him that his constitution was failing. He died on 8th August 1841, aged 52. For the following 2 years the church was reliant on outside ministers until the end of summer 1841, when they called Mr Hugh Jones, Tredegar, who began his ministry here in January 1845. There was a small minority in the church who didn't agree with the majority in the choice of Mr Jones, and they decided on his arrival to depart and start another cause in the town; and as most of the ministers in the county, for some reason, sympathised with the minority of the church, they pledged their support to them in a meeting of friends at Salem, near Llandilo, on 11th December 1844; and on the Sunday before Mr Jones was to start his ministry at Heol Awst, two of the county's ministers preached in the Lancastrian School-room. These querulous and bitter feelings persisted in the town, and among the ministers and churches of the county; and the bad feeling  spread to other counties. No one disputed that there was no need for another cause in Carmarthen, but there were many who were dubious about starting one under these circumstances; and especially considering that the role of the ministers of the county in promising help a number of members of Heol Awst when they departed from that church, was contentious and irregular to say the least, and we know that some of the ministers at the Salem meeting when they came to a more mature age considered one could have  a more regular and  constitutional path to execute it. We are not saying anything about the distressing situation here other than to wait for a fair and impartial historian to have his say; and it was too important an event in the history of the church to pass unnoticed. It is nice to add that the uncomfortable feeling between Mr Jones and the county's ministers was soon healed; and that the two causes in the town have been on the best of terms for many years. Mr Jones was acceptable and popular here for many years, but the cause suffered somewhat, during the last years of his life he wasn't able to fullfil his ministry as before. He died on 5th March 1872, aged 72, and since then the church is without a minister.

There have been many excellent people connected to the cause here from time to time, but as we could only name a few of them it's best we don't, lest we leave out more deserving people. The names of Messrs Evans, printer; W. G. Thomas, J. Lewis, Cilwaunydd, and W. Thomas (Gwilym Mai) are remembered in the body of the present generation as some who were of great help to the cause here. John Corrie, who gave the land for building the chapel on, was a remarkable man with the cause. He died on 10th December 1731, aged 47, and is buried beneath his seat in the chapel. A stone in his memory and some of his family can be seen on the western wall of the chapel.

Doubtless, many ministers were raised from this church from time to time, but we only have an incomplete list of them. Many of them went to England, and there names are thus lost from Welsh records.

The following were raised here.*

  • William Gillespie.  ... born here ...laboured 17 years in Hatherleigh, Devon ... came home and died in 1743,aged 40 ...  buried in Heol Awst graveyard
  • William Jones. now minister at Heolycastell, Swansea
  • William Lewis. ... see Trefdraeth
  • W. H. Lewis. ... ordained at Narberth ... wrote Mr Peter's biography ... died years ago
  • Thomas Williams.... went to the Established Church
  • Henry Rees. ... now at Penuel, Hope, Flintshire.
  • John Morris. ... educated at Blackburn College .. has for 20 years been a theological professor at Brecon College
  • Jonathan Davies. ... was at Newtown College ... went to the Baptists ... but soon left them
  • John Lewis. ... went off to Airdale College ... now in Tenby, Pembrokeshire
  • Thomas Joseph. ... born in Llanybri, 1816 ... member at Heol Awst aged 15 ... went to Carmarthen College ... whilst there became interested in Patagonia and decided to become a missionary ... ordained in Carmarthen in 1837... left on the Camden with the immortal John Williams ... stayed a while in Sydney learning Taihiti  .. . stayed on Taihiti ... then returned to England   ... suffered poor health ... minister at Upminster, Essex, then Arundel, Sussex ... died 1863, aged 47
  • Thomas Thomas. ... born near Carmarthen in 1820 ... member at Heol Awst aged 12 ... went to Homerton College, London ... ordained at Wellingborough where he laboured for 13 years ... then to Bethnal Green, London in 1858 ... died in 1861

Biographical Notes*

WILLIAM EVANS.  ... not known where/when he was born ... was at Ystradwalter College .. ordained at Pencadair in 1688 ... there for 15 years ... about 1703 moved to Carmarthen to take over the church there and set up a college ... was a professor there for 15 years ... mainstay in establishing cause at Salem, Llanddarog ... died c 1718

THOMAS PERROT. ... said to come from Llanybri ... taught by Mr Griffith at Abergavenny and Mr James Owen in Shrewsbury .. ordained at Knutsford in 1708 ... then at Newmarket, Flintshire ... moved in 1718 to follow Mr W Evans to the church and college at Carmarthen ... died in 1733 SAMUEL THOMAS ... came here in 1734 as minister and teacher ... died in 1766, buried at Heol Awst

DAVID PETER ... born in Aberystwyth in 1765 ... his father from Llandudoch, near Cardigan and mother from Machynlleth ... parents members of Established Church ... educated under care of Mr D Davies, Castellhywel... converted to the Independents in 1783 ... member at Penrhiwgaled ... went to Carmarthen College ... and to Swansea when college moved there ... became an assistant teacher at the college in 1789 ... in 1792 ordained at Heol Awst ... in 1795 the college moved to Carmarthen and he became principal teacher there ... which he did for 40 years... wrote Hanes Crefydd yn Nghymru ... married twice... first wife widow of a Mr Lewis ... married for 25 years, she died in 1820 ... married Miss Nott in c 1822, she also died a few years before him ... no children ... died in 1837, aged 72, buried at Heol Awst JOHN BREESE ... born in Llanbrynmair parish in 1789 ... member at Llanbrynmair when aged 21 ... educated in Shropshire and Llanfyllin College ... ordained minister at Edmund St, Liverpool in 1817, then the new chapel at Tabernacl, Great Crosshall St... moved to Heol Awst in 1835 ... died in 1842 aged 52, buried in Heol Awst

HUGH JONES ... born in Cemmes parish, Montgomeryshire,  in 1800 ... parents Calvinistic Methodists ... member at Bwlchyffridd ... went to Newtown College ... ordained at Saron, Tredegar in 1827  ... moved to Carmarthen in 1845 in difficult circumstances (see above history) ... he died in 1872, aged 72, buried at Penygraig (and his funeral was one of the most numerous seen in Carmarthen in living memory)

*These biographical notes have not been fully translated

CONTINUED


Return to top