Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees and John Thomas; published in 1871+.

These 9 chapel histories were extracted by Gareth Morgan from the CD published by Archive CD Books (Feb 2008)  - no translations

The main project page is on /big/wal/ChurchHistory/Indchapels#Glamorgan

Proof read by Gareth Hicks (Feb 2008)

 

MOUNTAIN ASH, (Saesonig)  (Llanwonno parish)

Proof read by Gareth Hicks (Feb 2008)

 

(Vol 2, p 401)

Teimlai amryw gyfeillion yn y lle hwn anghyfleustra o ddiffyg moddion gras yn yr iaith Saesonaeg. Wedi dyfodiad Mr. Daniel Jones, yr hwn a fuasai yn weinidog Saesonig ar Hirwaun, i'r lle i agor masnach, ymgynghorwyd ag ef; ac wedi cael benthyg y Longroom yn ddidal gan Mr. D. Davies Miskin, cynhaliwyd y gwasanaeth crefyddol yma gyntaf Mawrth 21ain, 1869. Yr oedd tua 60 yn bresenol. Ffurfiwyd yma eglwys Ebrill 4ydd, cynwysedig o un-ar-ddeg o aelodau, a chymerodd Mr. D. Jones eu gofal, ac yn fuan ychwanegwyd eraill atynt. Cyn pen mis cymerwyd y Workmen's Hall, ac ar y 30ain o Fai cynhaliwyd cyfarfod yn nglyn ag agoriad y lle, a dyna y tro cyntaf i'r ordinhad o Swper yr Arglwydd gael ei gweinyddu yn y lle. Cymerodd Mr. John Griffiths, yr hwn oedd yn bregethwr cynorthwyol parchus yn yr eglwys Gymraeg yn y lle, ran flaenllaw gyda'r achos o'i gychwyniad, ac y mae wedi bod o help mawr iddo. Sicrhawyd darn o dir at godi capel newydd, a rhoddwyd y sylfaen i lawr gan S. Morley, Ysw., A.S , Medi 17eg, 1869, ac areithiwyd ar yr achlysur gan H. Richard, Ysw., A.S., ac eraill. Costiodd yr adeilad 850p. Agorwyd y capel Awst 8fed a'r 9fed, 1870. Yn Ebrill y flwyddyn ganlynol, rhoddodd Mr. Jones ei weinidogaeth i fyny, ac ymunodd a'r Eglwys Sefydledig, ond bu farw yn fuan. Yn nechreu y flwyddyn 1872, rhoddwyd galwad i Mr. L. T. C. Machaine, ac y mae yn parhau i weinidogaethu yma.  Rhif yr aelodau ydyw 38, ac y mae y ddyled wedi ei thynu i lawr i 450p.  

Translation by Gareth Hicks (May 2009)

Several friends in this place had felt the inconvenience of the shortage of the means of grace in the English language. After the arrival of Mr Daniel Jones, who had been an English minister in Hirwaun, in the place to open a business, they conferred with him; and having been given the free loan of the Longroom by Mr D Davies, Miskin, held a religious service here for the first time on 21st March 1869. There were around 60 present. A church was formed here on 4th April, containing 11 members, and Mr D Jones took over their care, and soon added others to it. Before a month had passed they took over the Workmen's Hall, and on the 30th May held a meeting to open the place, and that was the first time the ordinance of the Lord's Supper was solemnised in the place. Mr John Griffiths, who was a respected assistant preacher in the Welsh church in the place, took a leading role in the cause from the start, and has been a great help to it. They secured a piece of land to build a new chapel, and the foundation stone was laid by Mr S Morley Esq, A.S, on Sept 17th 1869, and officiating on the occasion was H Richard Esq, A.S, and others. The building cost £850. The chapel opened on 8/9th August 1870. In April the following year, Mr Jones gave up the ministry, and departed for the Established Church, but died soon after. At the start of 1872 they gave a call to Mr L T C Machaine, who continues to minister here. The number of members is 38, and the debt has been reduced to £450.

 

BETHESDA, ABERNANT (Aberdare parish)

Proof read by Gareth Hicks (Feb 2008)

 

 (Vol 2, p 401)

Saif y capel hwn ar lechwedd y mynydd rhwng Merthyr ac Aberdar, ac o fewn milldir i'r lle diweddaf. Adeiladwyd yma gapel bychan, neu ysgoldy, yn y flwyddyn 1860. Maint y ty yw 40 troedfedd o hyd wrth 30 o led. Cynwysa 250 o eisteddleoedd, a'r draul a aeth i'w adeiladu oedd 260p. Agorwyd ef yn y flwyddyn 1861. Yn fuan wedi hyny corpholwyd yma eglwys Annibynol. Rhif yr aelodau pryd y corpholwyd hwy yn eglwys oedd 48, o ba rai yr oedd 36 wedi cael gollyngdod o Siloa, Aberdar, a'r gweddill o eglwysi eraill yn y gymydogaeth. Yn mhen ychydig amser wedi eu corpholiad, rhoddasant alwad i Mr. Thomas Pugh, gwr genedigol o Aberdar, ond a fuasai yn weinidog am un-mlynedd-ar-bymtheg yn America. Wedi iddo ef fod yn gweinidogaethu yma am oddeutu blwyddyn, gwnaeth ei feddwl i fyny i ddychwelyd i'r America. Oddiar ei ymadawiad ef hyd yn bresenol Mr. Price, Siloa, sydd yn gofalu yn benaf am y lle fel gweinidog. Y mae efe yn dyfod yma yn fisol i dori bara, ac ar y Sabbothau eraill ymddibynir ar bregethwyr cynorthwyol yr ardal. Mae yma bob math o foddion crefyddol yn cael eu cynal yn rheolaidd, a'r Ysgol Sabbothol yn dra llewyrchus. Defnyddir y capel ar ddyddiau gwaith fel ysgoldy Brutanaidd, ond cyn gynted ag yr adeiladir ysgoldy gan y Bwrdd Ysgol yn yr ardal, ca y capel ei adgyweirio a'i wneyd yn fwy cyfaddas fel ty addoliad. Enwau y diaconiaid presenol ydynt Daniel Thomas, William Williams, a William Moses, mab y diweddar Mr. Moses, Cefn-coed-y-cymar. Maent yn ddynion llafurus ac yn llenwi eu swydd yn deilwng.

Translation by Gareth Hicks (April 2009)

This chapel stands on the slope of the mountain between Merthyr and Aberdare, and within a mile of the latter place. They built here a small chapel, or school house, in 1860. The dimensions of the house are 40ft long by 30 ft wide. It included 250 pews,  and the building cost £260. It opened in 1861. Soon after that an Independent church was formed here. The number of members at the church's formation was 48, of which 36 had been released by Siloa, Aberdare, and the rest from other churches in the neighbourhood. A little time after they formed the church they gave a call to Mr Thomas Pugh, a man native to Aberdare, although he had been a minister for 16 years in America. After he'd been  ministering here for about a year, he decided to return to America. From his departure until the present, Mr Price, Siloa, has principally been caring for the place as minister. He comes here monthly to break bread, and on the other Sundays they rely on the assistant preachers of the area. All kinds of religious affairs are conducted here regularly, and the Sunday School is  flourishing greatly. The chapel was used during the working week as a British school, but as soon as the School Board bult a schoolhouse in the district, the chapel closed and was renovated to make it more suitable as a house of worship. The names of the current deacons are Daniel Thomas, William Williams, and William Moses,son of the late Mr. Moses, Cefn-coed-y-cymar. They are industrious men and fill their office worthily.

 

LIBANUS, LLANFABON

Proof read by Gareth Hicks (Feb 2008)

 

(Vol 2, p 400)

Wedi yr anghydfod rhwng Mr. Thomas, Llechwedd, ag eglwys y Groeswen, ymadawodd yr ychydig aelodau perthynol i'r Groeswen oedd yn yr ardal, a chymerasant ystafell mewn rhan o anedd-dy yn Tairheol. Buont yno hyd Nadolig, 1829, yn cynal cyfarfodydd gweddi, a chyfeillachau, ac ambell bregeth yn achlysurol yn yr wythnos, ac yn myned i'r Groeswen y Sabboth. Ar foreu y Nadolig crybwylledig, yn y plygain, bu rhyw gyffroad anghyffredin, a thrachefn yn yr hwyr; ond y Sabboth canlynol  y torodd allan pan oedd John Thomas, Caerphili, yn pregethu yn nhy Thomas Moses. Torodd un dyn ieuangc o'r enw Thomas Meyrick, allan yn gyhoeddus i waeddi a molianu, a meddianwyd eraill gan gyffelyb deimladau. Aeth yr ystafell yn rhy gyfyng ar unwaith. Cafwyd derbyniad at y Methodistiaid i gapel Mafon, ac yno y buwyd nes i'r brydles redeg i'r terfyn, ac i'r Methodistiaid a hwythau gael eu cau allan. Wedi bod am ychydig yn mragdy Melingaiach, ac yn Zoar fach, capel y Wesleyaid ar Graigberthlwyd, meddyliodd yr ychydig frodyr yn y lle am adeiladu capel at eu gwasanaeth eu hunain. Cafwyd darn o dir ar Graigberthlwyd gan John Lewis, Drefechan, a chodwyd arno gapel yn mesur 33 troedfedd wrth 19 troedfedd, a galwyd ef Libanus. Pregethwyd ynddo gyntaf ar y Sabboth olaf yn Gorphenaf, 1833, gan Mr. E. C. Jenkins, Salem, oddiar y geiriau, "Libanus, agor dy ddorau, fel yr yso y tan dy gedrwydd;" ac ar yr Iau a'r Gwener canlynol bu cyfarfod yr agoriad. Y Sabboth cyntaf wedi yr agoriad, gweinyddwyd y cymundeb cyntaf yn y lle i 45 o aelodau. Cydwasanaethai Mr. Hughes, Groeswen, a Mr. William Davies, yr hwn fuasai yn genhadwr gyda'r Wesleyaid yn Affrica. Y cyntaf a dderbyniwyd i gymundeb yn Libanus oedd un William Parry. Teimlodd yn ddwys o dan bregeth Mr. John Mathews, y pryd hwnw o Mynyddislwyn, yn awr o Gastellnedd, oddiar y geiriau, " A chwithau a fywhaodd efe pan oeddych feirw mewn camweddau a phechodau." Dysgodd ddarllen yn ei hen ddyddiau, a bu fyw nes bod yn 100 oed. Bu Mr. Jenkins, Salem, yn dyfod yma bob mis am flynyddau i gadw cymundeb; ond yn nechreu haf 1840, rhoddwyd galwad i Mr. Evan Davies, a fuasai yn weinidog yn yr Aber, sir Frycheiniog. Tynodd gweinidogaeth Mr. Davies sylw yr ardalwyr, cynyddodd y gynnulleidfa, ac ychwanegwyd llawer at rifedi yr eglwys, fel y gwelwyd yn angenrheidiol ad-drefnu y capel a rhoddi oriel ynddo, a chynaliwyd cyfarfod ar yr achlysur o'i ailagoriad yn Mai, 1842. Bu Mr. Davies yma yn barchus hyd ddiwedd y flwyddyn 1848, pryd y symudodd i Onllwyn. Wedi i Mr. Davies ymadael, rhoddwyd galwad i Mr. Joshua Thomas, Bethlehem, Llangadog, sir Gaerfyrddin, a dechreuodd ar ei weinidogaeth yn Gorphenaf, 1849, ac y mae Mr. Thomas yn parhau i lafurio yma hyd y dydd hwn. Yn y flwyddyn gyntaf wedi sefydliad Mr. Thomas, a'r flwyddyn ganlynol, bu yma ddiwygiad grymus; ac wedi hyny cafwyd ymweliad grasol yn y flwyddyn 1858, fel y barnwyd yn angenrheidiol cael capel newydd helaethach. Adeiladwyd y capel newydd ar le amlwg ychydig uwchlaw yr hen gapel. Mae yn mesur 37 troedfedd wrth 33 troedfedd. Pregethwyd ynddo gyntaf gan Mr. Thomas, y gweinidog, ar Sabboth, Mai 8fed, 1859, oddiar y geiriau, "A mi a anrhydeddaf dy, fy ngogoniant;" a chynaliwyd cyfarfodydd yr agoriad y Llun a'r Mawrth canlynol. Y cyntaf a dderbyniwyd yn Libanus newydd oedd John Brown, hen wr 70 oed. Bu llawer o hen ffyddloniaid yn nglyn a'r achos yma o'r dechreuad, ac yr oedd yr eglwys yn llawn o'r brwdfrydedd, am yr hwn yr oedd y Groeswen mor nodedig. Bu Mr. Hopkin Smith, Cwrtycelyn, yr hwn oedd yn ddiacon yn y Groeswen, yn teithio yma am flynyddoedd, er fod ganddo chwe' milldir o ffordd arw. Deuai atynt pan oeddynt yn cydaddoli a'r Methodistiaid yn nghapel Mafon, ac wedi hyny ar ol iddynt adeiladu Libanus, ac y mae coffa parchus am ei lafurus gariad gan yr ychydig o'r hen ffyddloniaid sydd yn aros.* Mae yr achos yn Libanus yn parhau i fyned rhagddo, a Mr. Thomas a'r eglwys mewn anwyldeb a'u gilydd. Ni chodwyd yma neb i bregethu y byddai crybwyll ei enw o un anrhydedd i Ymneillduaeth nac i grefydd.  #

*Y Drysorfa Gynnulleidfaol, Ionawr, 1851.

# ydym yn ddyledus am ddefnyddiau y rhan fwyaf o banes Nelson a Libanus i ysgrif ar Ymneillduaeth yn Llanfabon, a ymddangosodd yn y Dittwiter, 1862, tit dal. 1616, gan D. Hughes, Cralgyberthlwyd.

Translation by Maureen Saycell (April 2009)

After a disagreement between Mr Thomas, Llechwedd, and the church at Groeswen, the few members belonging to Groeswen left and took a room at a house in Tairheol. They remained there until Christmas 1829, holding prayer meetings, socialising and an occasional sermon during the week then going to Groeswen on a Sunday. On that particular Christmas morning there was an unusual atmosphere and again that evening, but the following Sunday when John Thomas, Caerphilly was preaching at the home of Thomas Moses, that a young man named Thomas Meyrick began to shout and praise, and many others did the same. The room was suddenly to small so they were welcomed to the Methodist chapel at Mafon. They remained there until the lease ran out and the Methodists themselves were locked out. Having been for periods at the brewery in Melingaiach, little Zoar Wesleyan chapel and Craigberthlwyd some of them began to think of building their own chapel. A piece of land was aquired on Graigberthlwyd from John Lewis, Drefechan and a chapel was built on it, measuring 33 x 19 feet, and it was named Libanus. The first sermon was given by Mr E C Jenkins, Salem, on the last Sunday of July, 1833 from " Libanus, open thy doors, that the fire may shake your cedars", and on the Thursday and Friday following the opening services were held. The next Sunday the first Communion was celebrated with 45 members. Mr Hughes, Groeswen and Mr William Davies, an ex missionary in Africa, co-ministered. The first accepted to communion here was William Parry, who was influenced by Mr John Mathews then of Mynyddislwyn, he learned to read in his old age and survived to 100. Summer 1840 saw a call sent to Mr Evan Davies, who had been a minister at Aber, Breconshire. His ministry drew the attention of the people and the congregation increased, to a point where the chapel was rearranged and a gallery added. It was reopened in May, 1842. Mr Davies stayed here until 1848 when he moved to Onllwyn. Following his departure a call was sent to Mr Joshua Thomas, Bethlehem, Llangadog, Carmarthenshire. He began his ministry in July, 1849 and he remains here to this day.. The year following his settling here there was a strong revival and again in 1858 and it was judged that a larger chapel was needed. A new chapel was built just above the old one, in a prominient position, measuring 37 x 33 feet. The first sermon was given by the minister, Mr Thomas, on Sunday, May 8th, 1859. The opening services were held on the following Monday and Tuesday. The first to be confirmed here was John Brown, aged 70. There have been many notably faithful here. Mr Hopkin Smith, Cwrtycelyn was a deacon here for many years and is fondly remembered.* The cause at Libanus continues to flourish.#

*Y Drysorfa Gynnulleidfaol, January, 1851.

# we owe the following articles for the histories of Nelson and Libanus, Ymneillduaeth yn Llanfabon, from y Diwygiwr, 1862, page 1616, by D. Hughes, Craigyberthlwyd.

NELSON, LLANCAIACH (Llanfabon parish)

Proof read by Gareth Hicks (Feb 2008)

 

(Vol 2, p 398)

Dywedir fod William Evans, o Lancaiachfawr wedi myned i wrando i Benmain a'r ddydd urddiad Mr. David Thomas, yn y flwyddyn 1787, ac iddo dan weinidogaeth Mr. Griffith, o'r Fenni, a Mr. Gibbon, o Gapel Isaac,.deimlo mor ddwfn, nes penderfynu ceisio yr Arglwydd. Derbyniwyd ef yn aelod yn Mhenmain, ac wedi proffesu crefydd am 60 mlynedd bu farw Ionawr 6ed, 1848, yn 84 oed. Bu Mr. Thomas, Penmain yn cyrchu yn fisol i Lancaiach am flynyddau, a deuai Mr. Hughes, Groeswen, yma yn aml, ac eraill o weinidogion yr Annibynwyr. Yr oedd dwy chwaer grefyddol yn byw yn y Basin, cwr arall o'r ardal, y rhai oeddynt yn aelodau yn y Groeswen, sef Mary, gwraig Lewis Thomas, Abertaf a Chynon, a Catherine, gwraig William Lewis, ac yr oedd pregethu achlysurol yn nhai y chwiorydd hyn. O'r diwedd, ymgasglodd ychydig frodyr yn nghyd a phenderfynasant ardrethu ystafell yn ymyl ty fferm yn yr ardal o'r enw

Ynys Feurig. Yr oedd hyn tua'r flwyddyn 1820, ac yno y buont am ysbaid pum' mlynedd heb nemawr lewyrch arnynt, a'r diwedd fu, rhoddwyd y lle i fyny. O gylch yr amser yma ymwelwyd a'r ardal gan ystorom ddychrynllyd o fellt a tharanau; a tharawodd mellten yn erbyn amaethdy yn yr ardal o'r enw Llechweddlydan, fel y lladdwyd rhai o'r anifeiliaid, ond arbedwyd y dynion oll. Yr oedd Mr. Thomas Thomas, gwr y ty, er yn gyfrifol ei sefyllfa fydol, yn anystyriol ac annuwiol iawn, ond effeithiodd y digwyddiad arno er ei arafu a'i ddifrifoli, ac aeth i wrando i'r Groeswen, ac yn fuan derbyniwyd ef yn aeIod yno. Agorodd ei dy i dderbyn yr efengyl, a dechreuwyd cynal yno gyfarfodydd gweddio a chyfeillachau crefyddol, ac yn mysg eraill a gyrchent yno yr oedd Meistri Daniel Griffiths, Castellnedd, a Phillip Griffiths, Alltwen, yn tynu sylw mawr. Coffeir hyd y dydd hwn am ryw oedfa effeithiol a gafodd Mr. Griffiths AIltwen, yno yn 1828, ar ei ffordd i gymanfa y Groeswen. Cyn hir cododd ryw anghydfod rhwng Mr. Thomas, Llechwedd, ag eglwys y Groeswen, ac aeth oddiyno ac aelododd ei hun yn Zoar, Castellnedd gyda Mr. Daniel Griffiths, yr hwn oedd yn briod a nith iddo. Er fod gan Mr. Thomas lawer o dda y byd hwn, nid oedd ganddo ond ychydig o lywodraeth ar ei ysbryd, ac yr oedd ei sel yn llawer mwy na'i wybodaeth, a'i synied yn llawer uwch am fwynhad crefyddol nag am fywyd crefyddol. Wedi bod am dymor yn cyrchu i Gastellnedd, penderfynodd Mr. Thomas fyny eglwys yn ei dy, ac ar nos Lun y Pasg, 1830, daeth Mr. R. Howells, Baran, yno i ffurfio yr eglwys ac i weinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Dranoeth rhoddwyd i lawr gareg sylfaen capel newydd, yr hwn a alwyd yn Zoar. Gwnaed ef yn dy eang, a Zoar fawr y gelwid ef, ond ni chwblhawyd byth mo hono, ac nid oedd y gynnulleidfa ynddo ond dyrnaid fechan. Agorwyd ef Sabboth y Pasg, 1831, pryd y pregethodd Mr. D. Griffiths, Castellnedd, ac yn mis Mehefin, ar ol hyny, cynhaliwyd cyfarfod agoriadol mwy cyhoeddus. Yn fuan ar ol hyn, rhoddwyd galwad i Mr. Jonathan Jones, ac urddwyd ef y gauaf canlynol. Yn haf, 1832, aeth Mr. Jones, y gweinidog, a rhai o'r aelodau, yn anesmwyth o eisiau bod Mr. Thomas yn cyflwyno y capel drosodd i ymddiriedolwyr, i fod yn feddiant i'r enwad, ac oblegid ei fod yn gwrthod gwneyd hyny, ymadawodd Mr. Jones, a nifer o'r aelodau gydag ef, a chyn hir aethant i hen gapel Craigyfargod, fel y crybwyllasorm yn hanes yr eglwys hono. Glynodd ryw ychydig gyda Mr. Thomas yn Zoar, a daeth Mr. Joseph Harrison, Aberdar, i bregethu iddynt; ac wedi bod dros dymor yn eu cynorthwyo rhoddodd hwy i fyny. Rhoddwyd  galwad i Mr. Benjamin Lewis, mab Morgan Lewis, Cwmnedd, ac urddwyd ef Rhagfyr 22ain a'r 23ain, 1841. Ni bu yma ond dros ryw ddwy flynedd. Ar ei ol ef rhoddwyd galwad i Mr. James Evans, ac urddwyd ef yn weinidog yma ac yn Nghraigyfargod. Bu yma hyd y flwyddyn 1857. Wedi marw Mr. Thomas, Llechwedd, cododd ryw anghytundeb rhwng yr eglwys a'i etifedd, ac oblegid nad oedd y lle wedi ei drosglwyddo i ymddiriedolwyr, a'r pris a ofynid am dano yn fwy na'r hyn a dybiai yr eglwys oedd ei werth, ymadawsant o hono, a chymerasant ystafell dan ardreth yn mhentref Nelson, i aros lle gwell. Cymerasant cyn hir ddarn o dir yn y lle ac adeiladwyd capel arno, yr hwn a alwyd Penuel, ac agorwyd ef Mai 3ydd a'r 4ydd, 1858. Bu gofal y lle ar Mr. James Evans hyd y flwyddyn 1864, ac wedi ei ymadawiad, rhoddodd yr eglwys yma, a'r eglwys yn Nghraigyfargod, alwyd i Mr. R. Jones, myfyriwr o athrofa y Bala ac y mae yn parhau i lafurio yma. Ni bu yr achos erioed yn gryf, ond y mae yma nifer o frodyr ffyddlon ac ymdrechgar, ac ynddynt fawr ofal calon am achos yr Arglwydd.

Translation by Maureen Saycell (April 2009)

It is said that William Evans, Llancaiachfawr, had gone to Penmain to listen at the ordination services in 1787, and influenced by Mr Griffith, Abergavenny and Mr Gibbon of Capel Isaac was drawn to the Lord. He became a member at Penmain and having been a believer for 60 years died January 6th, 1848, age 64. Mr Thomas, Penmain, came to Llancaiach monthly as did Mr Hughes,Groeswen and other Independent ministers. They also preached at the homes of 2 religious sisters on the other side of the parish. Eventually some got together and leased a room in a farm named Ynys Feurig. This was around 1820 and for about 5 years they continued but then they gave up. About the same time a dreaful thunderstorm hit the area and a shaft of lightening hit a farmhouse named Llechweddlydan, some of the animals were killed, but all the humans survived. Mr Thomas Thomas, the occupier, although responsible in wordly matters, intolerant and ungodly otherwise, but this event made him stop and think and he began to listen at Groeswen, soon becoming a member there. He opened his house to religion and prayer meetings and society meetings were held there. Among those who attended there were Messrs Daniel Griffiths, Neath and Phillip Griffiths, Alltwen who drew considerable  attention. At some point a disagreement occurred between Mr Thomas and Groeswen, who enrolled himself as a member of Zoar, Neath with Mr Daniel Griffiths who was married to his niece. Although Mr Thomas had a great deal of goodness, he had little control on his spirit, more zeal than knowledge and his need for religious enjoyment more than a religious lifestyle. Having attended Neath for some time he decided to have a church in his house and on Easter monday 1830 Mr Howells, Baran, came to form a church there and celebrate communion. The next day the foundation stone was laid for the new chapel, named Zoar. A large  chapel was designed but it was never completed, and the congregation within was only small. It was opened on Easter Sunday 1831 when Mr Griffiths, Neath, preached, In June a more public opening took place. Shortly after that a call was sent to Mr Jonathan Jones who was ordained the following winter. During the summer of 1832 the minister and congregation became uneasy and wanted Mr Thomas to hand over the chapel to the trustees to be the property of the denomination. Due to his continued refusal Mr Jones and a number of members left for Craigyfargod, as previously  mentioned. A few remained in Zoar and Mr Joseph Harrison, Aberdare came to preach to them, but having supported them for a short term he left. A call was sent  to Mr Benjamin Lewis, son of Morgan Lewis, Cwmnedd, who was ordained December 22nd and 23rd, 1841. He was only here for 2 years, then a call was sent to Mr James Evans who was ordained here and Craig y Fargod. He was here until 1857. After the death of Mr Thomas, Llechwedd, some disagreement began between his heir and the church, and because the place had not been transferred to the trustees and the price was too high in the opinion of the church. They left and rented a room in Nelson temporarily and acquired a piece of land and a chapel named Penuel was built. The chapel was opened on May 3rd and 4th, 1858. The care was undertaken by Mr James Evans until 1864 and after his departure this church along with Craig y Fargod called Mr R Jones, a student at Bala, who remains here. The cause was never strong but there are a number of faithful brothers, and God is in their hearts.

 

Y GROESWEN  (Eglwysilan parish)

Proof read by Gareth Hicks (Feb 2008)

 

(Vol 2, p 372 - 396)

Yr oedd plwyf Eglwysilan wedi bod yn artrefle Ymneillduaeth am genhedlaethau cyn dechreu yr achos yn y Groeswen. Yn 1669, yr oedd gwasanaeth crefyddol yn cael ei gadw yn anedd-dai Watkin John Thomas, Jenkin Thomas, a William Rees, saermaen, a'r Meistri Thomas Quarrell, a John Powell yn pregethu ynddynt; ac yn 1672, ar y 10fed o Awst, cyfododd William John, o blwyf Eglwysilan, a William Rowland, o blwyf Llanfabon, drwyddedau ar eu tai at bregethu ynddynt gan weinidogion yr Annibynwyr.* Y mae yn ymddangos mai parhad o'r achos yn yr anedd-dai hyn oedd yr eglwys Ymneillduol yn y Watford, ac y mae yn sicr fod llawer o Ymneillduwyr yn wasgaredig ar hyd plwyf Eglwysilan, a'r plwyfydd cymydogaethol, dan ofal gweinidogaethol Mr. David Williams, Pwllypant, yn y flwyddyn 1734, os nad cyn hyny. Yn 1738, a'r flwyddyn ganlynol, ysgrifenodd Mr. Williams amryw lythyrau at Mr. Howell Harries, Trefecca, yr hwn oedd yn awr yn dechreu ymgodi i sylw fel diwygiwr crefyddol, i'w wahodd i'w ardal ef i bregethu. Cydsyniodd Mr. Harries a'r cais; talodd ymweliadau mynych a'r ardal, a bu yn foddion i ennill llawer o eneidiau yma, ac i adfywio y rhai oeddynt yn proffesu crefydd cyn ei ymweliad a'r lle. Ond ni bu ei ymweliadau yn ddaioni hollol ddigymysg. Trwy ei ddylanwad ef, a'r offeiriaid Methodistaidd,

* The Lambeth MSS. and the State papers for the year 1672.

lefeiniwyd amryw o'r Ymneillduwyr a'r elfen Fethodistaidd ac Eglwysig, ac yn raddol trodd Mr. Williams a'r Ymneillduwyr mwyaf selog yn wrthwynebol iddynt, ac o ychydig i ychydig aethant yn ddwy blaid hollol wahanedig. Yn 1742, adeiladwyd capel bychan ar ben y Groeswen, ar  gwr cae a elwid y Waenfach, fel cangen o'r Watford, mae yn dra thebyg. Ond yn mhen ychydig amser aeth y bobl a gynnullent yno yn rhy Fethodistaidd i bobl y Watford a'u gweinidog allu cyd-dynu a hwy, ac felly buont am rai blynyddau yn ymgyfeillachu mwy a'r Methodistiaid nag a'r Annibynwyr, ond ni buont ar un adeg o'u hanes yn Fethodistiaid hollol, a chamgymeriad yw yr haeriad mai gan y Methodistiaid yr adeiladwyd capel y Groeswen, oblegid yr oedd wedi cael ei adeiladu cyn i'r Methodistiaid ymffurfio yn Gorph. Amseriad gweithred y capel yw Mehefin 2i1, 1742, ac enwau yr ymddiriedolwyr yw Thomas Price, (yr ynad Price o'r Watford mae yn debyg); William Morgan; ac Evan Thomas. Yn y weithred hon sicrheir y tir i'r gynnulleidfa am 999 o flynyddau, am un bybyren yn y flwyddyn., i'w thalu bob gwyl Fihangel. Y mae yn ymddangos fod yma gynnulleidfa dra lluosog a nodedig o wresog o'r dechreuad. Ffuriwyd yma gymdeithas eglwysig yn ol cynllun Mr. Howell Harries, a bu am dymor yn cael ei hystyried fel cymdeithas o Fethodistiaid, yn ol yr ystyr a roddid i'r gair Methodistiaid y pryd hwnw. Nid oedd cymdeithasau. Howell Harries ar y cyntaf yn cael eu hystyried yn perthyn i un enwad mwy na'r llall, ond gwnelid hwy i fyny o bersonau o bob enwad yn ddiwahaniaeth a broffesent ymlyniad wrth olygiadau efengylaidd. Yr ydym yn cael fod Edmund Jones, Pontypool; Henry Davies, Blaengwrach; David Williams, Pwllypant, a gweinidogion Ymneillduol eraill, yn talu ymweliadau gweinidogaethol a'r cymdeithasau hyn mewn gwahanol gymydogaethau, er addysgu a chadarnhau y dysgyblion ieuaingc yn y ffydd; ond yn lled fuan wedi i Rowlands, Llangeitho, ac offeiriaid eraill, ymuno a Harries, aeth y diwygiad crefyddol a flaenorid ganddo ef i wisgo gwedd fwy enwadol. Amcenid gwneyd y cymdeithasau crefyddol yn ganghenau o'r Eglwys Sefydledig, ac argymellid yr aelodau oll i fyned i'r Eglwysi Plwyfol i gymuno. Llwyddwyd i gael amryw o honynt i wneyd hyny, ond gwrthododd eraill, ac yn eu mysg y rhan fwyaf o aelodau y Groeswen. Ar ol bod yn cynal moddion crefyddol yn eu capel newydd am ychydig dros ddwy flynedd teimlai y frawdoliaeth awydd am gael gweinidogion urddedig i weinyddu yr ordinhadau iddynt. Yr oedd yn eu plith bump o bregethwyr, sef Thomas Price, yr ynad; William Edwards, Thomas Williams, John Belcher, ac Evan Thomas. Anfonodd y brodyr hyn y llythyr canlynol at Gymdeithasfa y Methodistiaid yn Nghaio, sir Gaerfyrddin;-

At yr anwyl frodyr yn gyffredinol, a'r gweinidogion yn neillduol, cynnulledig yn Nghaio, anfon anerch ..................................

(Letter not extracted

  • Thomas Price
  • William Edward
  • Thomas William
  • John Belcher
  • Evan Thomas

EGLWYSILAN, Mawrth 30 ain, 1745

Gwelir oddiwrth y llythyr uchod fod y brodyr, tra yn teimlo awydd am fod mewn rhyw fath o gysylltiad a'r Methodistiaid, yn benderfynol o gael gweinidogion urddedig yn eu plith eu hunain, ac nad oeddynt yn foddlon cydsynio a chynghor Harries a'r offeiriaid i fyned i'r llanau i gymuno. Gan na chaniatawyd eu cais iddynt gan y gymdeithasfa aethant yn mlaen yn eu ffordd eu hunain, ac urddasant weinidogion iddynt eu hunain. Y mae genym sicrwydd i ddau o'r pump uchod, a arwyddasant y llythyr i'r gymdeithasfa, gael eu hurddo, ac iddynt fod yn weinidogion sefydlog yn y Groeswen am lawer o flynyddau. Dichon i bob un o'r pump gael ei urddo yr un amser, ond nid ydym yn sicr o hyny; nid ydym ychwaith yn gwybod pa flwyddyn y cymerodd yr urddiad le, ond yr ydym yn dra sicr fod gweinidogion Ymneillduol wedi cymeryd rhan yn ngwasanaeth yr urddiad, oblegid yr oedd Thomas Williams a William Edwards yn cael eu cydnabod gan yr Ymneillduwyr fel gweinidogion urddedig, yr hyn ni chawsant pe gan y bobl yr urddesid hwy, fel yr urddwyd Morgan John Lewis yn y New Inn. Yr oedd rhif yr aelodau yn nghymdeithas y Groeswen yn 63 tua y flwyddyn 1743, ac y mae yn debyg iddynt luosogi yn fawr yn dra buan wedi hyny. Yr ydym yn barnu mai yn 1745, y darfu iddynt urddo eu gweinidogion, ond parhaodd y pregethwyr Methodistaidd i ymweled a'r lle yn lled gyson trwy holl dymor gweinidogaeth pob un o'r gweinidogion cyntaf, ac hyd ddechreuad tymor gweinidogaeth Mr. Hughes, er fod yr eglwys yn cael ei hystyried yn Ymneillduol ac Annibynol. Yr ydym yn cael ein gogwyddo i dybied i bob un o'r pump pregethwr a arwyddasant y llythyr at gymdeithasfa Caio gael eu hurddo yn weinidogion yma pan omeddodd y gymdeithasfa ganiatau eu cais iddynt, ond ymddengys i dri o honynt, sef John Belcher, Evan Thomas, a Thomas Price, naill a'i marw neu symud oddi yma yn lled fuan ar ol eu hurddiad. Bu Thomas Williams a William Edwards yn gweinidogaethu yma am flynyddau lawer. Parhaodd cysylltiad Mr. Edwards a'r eglwys, fel ei gweinidog, hyd ei farwolaeth yn 1789.

Mae yn ymddangos fod yn yr eglwys hon er dechreuad yr achos ddynion nodedig am eu sel grefyddol, eu llafur, ac yn enwedig am eu doniau mewn gweddi. Gwahoddid hwy i fanau agos a phell i gynal cyfarfodydd gweddio, a byddai rhyw ddylanwadau rhyfeddol yn cael eu teimlo yn y cyfarfodydd hyny braidd yn ddieithriad. Rhydd y llythyr canlynol, a ysgrifenwyd gan Mr. Edmund Jones, Pontypool, at Mr. Howell Harries, ryw ddrychfeddwl i'r darllenydd am ragoriaethau y brodyr o'r Groeswen fel gweddiwyr:-

" Tachwedd 19eg, 1772.

(Letter not extracted)

EDMUND JONES."

Un tro cyfarfu rhai o frodyr y Groeswen a siopwraig grefyddol o Ystradfellte mewn cymanfa yn Merthyr, a chymhellodd hwynt i ddyfod i'w thy hi i gadw cyfarfod gweddio. Addawsant fyned, a phenodwyd y diwrnod. Ar foreu y dydd penodedig cychwynodd y brodyr yn foreu iawn i'w taith bell trwy Aberdar a Phenderyn; ond erbyn eu bod yn Ystradfellte cawsant fod y siopwraig wedi anghofio y cwbl, ac wedi myned i Gaerodor i brynu nwyddau. Gwnaeth y brodyr dyeithr eu neges yn hysbys i rai o breswylwyr y pentref, ac yn fuan casglwyd yno nifer fawr o bobl. Disgynodd dylanwadau dwyfol yn helaeth ar y cyfarfod fel yr aeth yn folianu a neidio yno cyn gorphen; a chymaint oedd angerdd y teimladau nes yr anghofiodd rhai gymaint o bob pethau allanol fel y neidient ar yr heol wedi myned allan nes i rai o honynt neidio i'r afon. Chwech o frodyr o'r Groeswen oedd yn y cyfarfod hwn, ac yr ydym wedi cael enwau pedwar o'r chwech, sef Morgan Robert, Groeswen; William Davies, Maesmawr; Harri Smith, Pryntail, ac Edmund Williams, Rhydllech, Llanilltyd-y-fardre.

Tua y flwyddyn 1766 bu raid helaethu y capel am fod y gynnulleidfa wedi cynyddu yn ddirfawr. Nid ydym yn gwybod pa bryd y terfynodd tymor llafur Mr. Thomas Williams yma, fel un o weinidogion yr eglwys. Yr oedd yn fyw ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth mewn cyfarfod gweinidogion yn Rhydymardy, gerllaw Casllwchwr, yn Mehefin, 1761: Mae yn dra thebyg iddo farw yn mhen ychydig amser ar ol hyny, oblegid nid ydym yn cyfarfod a'i enw mewn unrhyw gofnodiad diweddarach. Wedi marwolaeth Mr. Thomas Williams mae yn ymddangos mai Mr William Edwards oedd yr unig weinidog yma hyd derfyn ei oes yn 1789. Dywedir fod Mr. Edwards yn bregethwr efengylaidd ac effeithiol iawn, a'i fod yn llym iawn yn erbyn pob arferiad pechadurus. Yr oedd yn weinidog da a dylanwadol. Yr oedd yr eglwys yn dra lluosog lawer o flynyddau cyn terfyniad ei weinidogaeth ef, ac o bosibl yr eglwys gyfoethocaf o ddoniau mwyaf enwog am wresogrwydd ei haddoliadau o un eglwys yn y Dywysogaeth, ac nid ydym i ryfeddu am hyny gan ei bod yn cael ei breintio ag ymweliadau mynych y pregethwyr galluocaf yn mysg yr Annibynwyr a'r Methodistiaid.

Wedi marwolaeth Mr. Edwards bu yr eglwys heb un gweinidog sefydlog am wyth mlynedd. Mr. Thomas Waters, Mynyddislwyn, yn benaf fu yn llanw lle gweinidog iddi am y tymor hwnw. Buwyd yn son am roddi galwad iddo ef, ac hefyd i Mr. Abraham Tibbott, ond methwyd cyduno ar y naill na'r llall. Yn y flwyddyn 1797, daeth Mr. Griffith Hughes, gwr ieuangc doniol iawn, yr hwn oedd yn aelod yn Nghrugybar, sir Gaerfyrddin, heibio ar ei daith. Ennillodd ei ddoniau poblogaidd ef sylw cyffredinol, a rhoddwyd iddo alwad wresog, heb neb ond ychydig bersonau o dueddiadau Methodistaidd yn groes iddo. Ymadawodd y cyfryw ac adeiladasant gapel bychan a alwyd Capel Ed, yn mhlwyf Bedwas, ond ni fu fawr llewyrch arno, tra yr aeth y Groeswen dan weinidogaeth danllyd a galluog Mr. Hughes, yn lluosocach ac enwocach nag y buasai ar un cyfnod o'i hanes. Bu yma bedwar o ddiwygiadau nerthol iawn yn nhymor gweinidogaeth Mr. Hughes, yn y blynyddoedd 1800, 1817, 1826, ac 1829. Ychwanegwyd amryw ugeiniau at yr eglwys yn mhob un o'r tri chyntaf, ac yn y diweddaf ychwanegwyd canoedd ati. O herwydd lluosogiad dirfawr yr eglwys yn 1829, bu raid tynu yr hen gapel i lawr ac adeiladu yr addoldy hardd a helaeth sydd yma yn bresenol. Cafodd hwn ei adeiladu yn 1830. Yr oedd y Groeswen yn mlynyddoedd cyntaf gweinidogaeth Mr. Hughes yn gyrchfan pobloedd o tua phymtheg o wahanol blwyfydd. Yr oedd yma dorfeydd dirfawr yn ymgynnull bob bore Sabboth, yn enwedig y Suliau cymundeb. Ar brydnawnau a hwyrau y Sabbothau byddai y gweinidog yn myned ar gylch i bregethu mewn gwahanol gyrau o'r ardal mewn anedd-dai, megis y Rhydru, Llanfabon, Bedwas, yr Eglwysnewydd, Glyntaf, &c. Gellir dweyd yn briodol mai y Groeswen yw mam y rhan fwyaf o'r eglwysi Annibynol a Methodistaidd o Lantrisant yn Morganwg i Fachen yn Mynwy, ac o'r Eglwysnewydd, gerllaw Caerdydd, hyd Fynwent y Crynwyr. Parhaodd Mr. Hughes i lafurio yn y cylch eang hwn, o'r flwyddyn 1797 hyd ei farwolaeth, yn 1839, gyda pharch a phoblogrwydd digyffelyb. Yr oedd ei boblogrwydd yn gwefreiddio yr holl wlad ar ddechreuad ei weinidogaeth, ac yr oedd hyd ddydd ei farwolaeth mor boblogaidd ag ar unrhyw adeg o'i fywyd cyhoeddus.

Wedi marwolaeth Mr. Hughes bu yr eglwys am oddeutu blwyddyn a haner yn byw ar weinidogaeth achlysurol. Yn nechreu y flwyddyn 1841 rhoddwyd galwad i Mr. Moses Rees, Pencadair, sir Gaerfyrddin. Bu Mr. Rees yn llafurio yma gyda mesur helaeth o lwyddiant am un-mlynedd-ar-bymtheg. Derbyniodd yn nhymor ei weinidogaeth amryw benau teuluoedd cyfrifol, ac ennillodd lawer o ieuengctyd yr ardal at y Gwaredwr. Yn ei amser ef yr adeiladwyd y capeli yn Glantaf, Cwmyraber, a Chaerphili. Er ei fod yn ddyn da, difrifol, ac awyddus am wneuthur daioni, cafodd gryn ofid oddiwrth rai personau anhywaeth, a dywedir na fu nemawr lewyrch ar ei wrthwynebwyr o'r pryd y cyfodasant yn ei erbyn hyd derfyn eu hoes. Y mae ef a hwythau er's blynyddau bellach wedi ymddangos ger bron gorsedd lle nad oes derbyn wyneb na gwyro barn. Mae coffadwriaeth Mr. Rees yn barchus yn yr ardal hyd y dydd hwn. Bu farw yn Awst, 1856.

Buwyd am flwyddyn ar ol ei farwolaeth ef cyn dewis canlyniedydd iddo. Yn haf y flwyddyn 1857 daeth Mr. William Caledfryn Williams ar ei daith heibio, a rhoddwyd galwad unfrydol iddo. Yr oedd ef wedi cael galwad yma o'r blaen yn 1840, ond gwrthododd gydsynio a hi y pryd hwnw; pa fodd bynag, atebodd yr alwad yn gadarnhaol y tro hwn. Dechreuodd ei weinidogaeth yn Ionawr, 1858. Yr amser hwn, o herwydd yspaid maith o farweidd-dra crefyddol, ac hefyd am fod y ddwy gangen yn Ebenezer, Glantaf, a Chaerphili wedi cael eu ffurfio yn eglwysi Annibynol, yr oedd nifer yr aelodau wedi myned yn fychan, a rhif y gwrandawyr yn ychydig. Tybiai llaweroedd fod yr hen eglwys, yr hon a welwyd yn ogoniant yr ardaloedd ac yn gyrchfan y llwythau, megis yn eistedd ei hunan, ac yn flin arni, ac yn wir gellid dyweyd am dani, "Yr oedd hi yn wylo yn hidl liw nos a'i dagrau ar ei gruddiau." Wedi dyfodiad Mr. Williams yma daeth gwedd newydd ar bethau, rhoddodd yr Arglwydd brawf amlwg o'i foddlonrwydd i'w ddyfodiad i'r lle. Gwelwyd afradloniaid yn dychwelyd yn ol i dy eu Tad, a gwiriwyd y geiriau hyny, " Pe gyrrid rhai o honoch hyd eithaf y nefoedd, eto mi a'u casglaf hwynt oddi-yno, ac a'u dygaf i'r lle a etholais i drigo o'm henw ynddo." Darfu i weinidogaeth danllyd Mr. Williams gyda dylanwad grasol yr Ysbryd Glan, beri fod gwedd newydd ar yr achos yn fuan. Cynyddodd rhif y gwrandawyr yn fawr, ac adferwyd hen deimladau gwresog yr eglwys nes y daeth fel aelwyd o dan yn y coed. Tua diwedd y flwyddyn 1858, ymwelodd yr Arglwydd mewn modd neillduol a'i bobl, a gwelwyd amryw yn ymofyn y ffordd tua Sion a'u hwynebau tuag yno. Ac o ddechreu y flwyddyn 1859 hyd ddiwedd 1861, derbyniwyd dros ddau cant o aelodau newyddion. Blwyddyn a hir gofir yw 1859. Yr un Sabboth, sef Hydref 16eg, cafodd un-a-deugain eu derbyn i gymundeb eglwysig. Nid anghofia ugeiniau oedd yno y Sabboth hwnw byth. Wrth edrych dros restr y rhai a dderbyniwyd yr ydym er ein galar yn canfod enwau amryw sydd wedi blino ar y ffordd, amryw eraill sydd wedi symud o'r ardal, ond yr ydym yn hyderu eu bod yn dal eu ffordd; ac y mae nifer hefyd wedi eu symud i wlad well, a da genym sylwi ar enwau rhai sydd yn dal yn ffyddlon hyd yn awr, a'u cynydd yn amlwg i bawb. Yn ystod gweinidogaeth Mr. Williams yr ail adeiladwyd capel y Nantgarw, yr helaethwyd capel Cwmyraber, y cyfodwyd ysgoldy Brytanaidd wrth y Groeswen, yr helaethwyd y fynwent, ac y prynwyd yr oll o'r fynwent yn nghyd a'r tir sydd dan y capel a'r ysgoldy, fel y mae y cwbl yn eiddo i'r gynnulleidfa am byth. Gwnaethpwyd esgynlawr newydd yn lle y pulpud, a sonir yn bresenol (1872) am gyfnewid y tufewn i'r capel fel ag i ateb arddull mwy destlus yr oes bresenol. Gweithiodd Mr. Williams yn ffyddlon tra fu yma. Meithrinodd ysbryd ymchwiliad yn yr ieuengctyd-gweithiodd ynddynt awydd am ddarllen, dysgodd y bobl i gyfranu at achosion crefyddol, gosododd fri ar yr eglwys, a chydnabyddid ei ddylanwad gan bawb, tlawd a chyfoethog, a phan y bu farw, (Mawrth 23ain, 1869) yr oedd galar cyffredinol ar ei ol, a thystiolaeth pawb ydoedd, fod tywysog a gwr mawr yn Israel wedi syrthio."*

Mae yr eglwys oddiar farwolaeth Mr. Williams hyd yn bresenol (Mai, 1872) heb un gweinidog sefydlog, ond yr ydym yn deall eu bod yn awr wedi rhoddi galwad i Mr. W. Nicholson, Treflys, Bethesda, sir Gaernarfon,

* Llythyr Mr Thomas, Ty'nywern i'r hwn yr ydym yn ddyledus am y rhan fwyaf o ddefnyddiau yr hanes hwn

 

ac y dechreua ei weinidogaeth yn fuan. Hyderwn fod oes hir a llwyddianus o'i flaen yma, ac y bydd yn mhob peth yn deilwng o'i ragflaenoriaid enwog.

Wrth ystyried lluosogrwydd yr eglwys hon a'i hynodrwydd am wresogrwydd a doniau ei haelodau, mae braidd yn rhyfedd na buasai wedi cyfodi mwy o bregethwyr, ac anfon allan i'r weinidogaeth rai o gewri y pulpud Cymreig. Heblaw y pump a gyfodwyd yma ar gychwyniad cyntaf yr achos, sef yr ynad Thomas Price, Thomas Williams, William Edwards, Evan Thomas, a John Belcher, nid ydym yn gwybod am neb ond y rhai canlynol a gyfodwyd yma :-

  • Walter Thomas. Bu yn weinidog yn Llanfaches, Llangynwyd, a rhai manau eraill. Gweler hanes y lleoedd hyny.
  • John Thomas, Nantgarw. Er mai yn Mhenybont y dechreuodd ef bregethu, etto gan mai yma y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes mae yn briodol ei grybwyll yn nglyn a hanes yr eglwys hon. Yr oedd John Thomas yn ddyn cryf o gorph a meddwl, ac yn bregethwr derbyniol iawn. Bu yn bregethwr cynorthwyol parchus a dylanwadol am ugeiniau o flynyddau. Cafodd ergyd o'r parlys yn y flwyddyn 1859, yr hyn a'i hanalluogodd i bregethu mwyach. Bu farw Mawrth 14eg, 1866, yn 77 mlwydd oed.
  • W. Waters, Caerphili. Yr oedd ef yn ddyn mwyn a boneddigaidd iawn ei ymddangosiad a'i ymddygiad. Tra byr oedd ei ddoniau fel pregethwr. Y mae wedi cael ei gasglu at ei dadau er's dros ddeng-mlynedd-ar-hugain.
  • John Robert. Yr oedd ef yn bregethwr lled gymeradwy. Ymunodd a'r Bedyddwyr yn niwedd ei oes.
  • John Thomas, Caerphili. Yr oedd yn ddyn addfwyn a dirodres lawn, ac yn bregethwr derbyniol rhyfeddol. Ymddyrysodd ei feddwl rai blynyddau cyn terfynu ei oes.
  • John Millward. Ni chafodd y gwr ieuangc hwn ond prin ddechreu pregethu cyn cael ei gymeryd yn gystuddiol o'r cystudd a fu yn angau iddo. Yr oedd pob argoel y buasai yn bregethwr melus a derbyniol iawn
  • Richard Millward. Cafodd yntau ei dori i lawr yn mlodau ei ddyddiau. Yr oedd yn un hynod selog gydag achos ei Arglwydd.
  • William Edwards. Un o blant diwygiad 1859 yw ef. Dechreuodd bregethu yn 1861. Wedi gorphen ei amser yn athrofa Aberhonddu, urddwyd ef yn weinidog yr hen eglwys yn Heolyfelin, Casnewydd, lle y mae yn llafurus a llwyddianus.
  • Evan Jenkins. Gwr ieuangc sydd newydd ddechreu pregethu. Dywedir ei fod yn ddyn ieuangc gobeithiol iawn.

Bu John Jenkins o'r Ddraenen, yn bregethwr yma am flynyddau lawer. Tua phedair-blynedd-ar-ddeg yn ol ymunodd a nifer o bobl a ymrwygasant o Tabor, Maesycwmwr, a chan nad oeddynt yn perthyn i un enwad crefyddol urddasant John Jenkins eu hunain yn weinidog arnynt. Bu ef yn pregethu iddynt nes iddynt roddi eu hunain i fyny i gorph y Methodistiaid ychydig amser yn ol.

Bu yn yr eglwys hon o oes i oes lawer o wyr a gwragedd enwog iawn am eu sel, eu gwresogrwydd, a'u rhagoriaethau crefyddol. Mae Williams, Pantycelyn, yn ei farwnad i Mrs. Grace Price, o'r Watford, wedi anfarwoli ei henw hi. Yn mysg y rhai a wasanaethasant swydd diaconiaid yn dda yma, gellir enwi Edward Dafydd, John Williams, o'r Ddraenen; John Williams, Dyffrynisaf; William Richard, Caerphili; William Lewis, Pontygwindy; Hopkin Smith, Cwrtycelyn; Evan Morgan, Glantaf; William Williams, Groeswen; William Thomas, Aberfawr, ac Isaac Williams, Baduchaf,  - dynion ag y mae eu coffadwriaeth yn fendigedig gan ganoedd hyd y dydd hwn.

 

COFNODION BYWGRAPHYDDOL. (Not extracted in full)

Gwelsom yn barod fod yma bump o bregethwyr yn y flwyddyn 1745. Nid ydym yn sicr na chafodd y pump eu hurddo yma yn gydweinidogion, ond yr ydym yn gwybod i sicrwydd i ddau o honynt gael eu hurddo, sef Thomas Williams a William Edwards. Gan nad ydym yn sicr am urddiad y tri eraill, nis gallem, gyda phriodoldeb, osod eu bywgraphiadau yn mysg y gweinidogion, pe byddai genym ryw hanes i'w roddi am danynt, ond nid oes genym ond y peth nesaf i ddim. Y cwbl a wyddom am Evan Thomas ydyw, ei fod yn bregethwr, a bod ei enw fel ymddiriedolwr yn ngweithred y capal. Yr oedd Thomas Price yn foneddwr, yn ustus yr heddwch, ac yn berchenog plasdy y Watford. Ar ran o'i dir ef yr adeiladwyd capel y Watford. Y mae yn debyg mai gwraig i'w fab ef oedd y Grace Price, yr hon y cafodd Williams, Pantycelyn, farwnad iddi. Yr oedd John Belcher yn ysgolfeistr, ac yn bregethwr tra galluog a phoblogaidd. Nis gwyddom pa le na pha bryd y bu farw.

THOMAS WILLIAMS. Ychydig o'i hanes ef fydd genym. Mae lle ac amser ei enedigaeth a'i farwolaeth yn anhysbys i ni. Yr oedd yn bregethwr yn 1742. ...................

WILLIAM EDWARDS. Ganwyd ef yn y Tycanol, yn agos i'r Groeswen, yn y flwyddyn 1719. ..................

GRIFFITH HUGHES. Ganwyd ef yn Mhenywaun, yn agos i'r Caledfwlch, yn mhlwyf Llandilo, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1775. ..................

MOSES REES. Ganwyd ef yn nghymydogaeth Llanarth, yn sir Aberteifi, yn y flwyddyn 1796. ..................

WILLIAM WILLIAMS, (Caledfryn). Ganwyd ef yn Ninbych, Chwefror 6ed, 1801. .................

 

Translation by Gareth Hicks (April 2009)

The parish of Eglwysilan had been home to  Dissenters for generations before the cause in Groeswen began. In 1669  religious services were held in the dwelling houses of Watkin John Thomas, Jenkin Thomas, and William Rees, stone masons, and Messrs Thomas Quarrell, and John Powell preached in them; and in 1672, on the 10th August, William John, from Eglwysilan parish, and William Rowland, from Llanfabon parish, obtained licences on their houses for preaching by Independent ministers. *  It appears that the continuation of the cause in the dwelling houses was the Independent church in Watford, and it is certain that many Dissenters were scattered around Eglwysilan parish, and neighbouring parishes, under the care of the ministry of Mr David Williams, Pwllypant, in the year 1734, if not before. In 1738, and the following year, Mr Williams wrote some letters to Mr Howell Harries, Trefecca, who was by now coming to the fore as a religious reformer, to invite him to his district to preach. Mr Harries agreed to the request; he paid frequent visits to the area, and was the means to win over many souls here, and stimulated those who professed to religion before his visits to the place. But his visits weren't completely for the good. Through his influence, and the Methodist ministers, some of the Dissenters were persuaded to the Methodist *

*The Lambeth MSS. and the State papers for the year 1672.

and Established Church causes, and gradually turned Mr Williams and the more ardent Dissenters against them, and little by little they became two completely separate entities. In 1742, they built a small chapel on top of the Groeswen, on the corner of a field called Waenfach, as a branch of Watford, it is very likely. But after a while the people who convened there became too Methodistic for the Watford people and their minister to get on with them, and thus they were for some years friendlier with the Methodists than the Independents, but weren't at any time in their history wholly Methodist, and the allegation  is a mistake that it was the Methodists that built Groeswen, because it had been built before the Methodists formed their church.  The date of the deed of the chapel is June 21st 1742, and the names of the trustees are Thomas Price, (the magistrate from Watford it seems); William Morgan; and Evan Thomas. This deed secured the land for the congregation for 999 years, for one pepperecorn rent a year, payable every Michaelmas. It appears that there was here a very numerous and notably warm congregation from the start. They formed here a church fellowship following the design of Mr Howell Harries, and for a time dealt with their deliberations as a society of Methodists, according to Methodistic leanings of the time. The societies of Mr Howell Harries at the time didn't at first receive their ideas according to one connection more than the other, but from those people of every persuasion that professed adherance to evangelical views. We gather that Edmund Jones, Pontypool; Henry Davies, Blaengwrach; David Williams, Pwllypant, and other Dissenting ministers, paid ministerial visits to these societies in different neighbourhoods, albeit educating and fortifying the young disciples in the faith; but soon after Rowlands, Llangeitho, and other ministers, joined with Harries, the religious revival that preceded it came to wear a more sectarian complexion. Designed to make the religious societies branches of the Established Church, and to encourage the whole membership to go to the Established Church to commune. They succeeded in getting some of them to do that, but others refused, and amongst them most of the membeship of Groeswen. Having been holding religious matters in their new chapel for a little over 2 years the brotherhood felt a desire to have an ordinated minister to preach the ordinance to them. There were in their midst 5 preachers, namely Thomas Price, the magistrate; William Edwards, Thomas Williams, John Belcher, and Evan Thomas. These brothers sent the following letter to the Methodist Association in Caio, Carmarthenshire;

At yr anwyl frodyr yn gyffredinol, a'r gweinidogion yn neillduol, cynnulledig yn Nghaio, anfon anerch ..................................

(To the dear brothers in general, and the ministers in particular, gathered in Caio, is despatched this address....)

(Letter not extracted

  • Thomas Price
  • William Edward
  • Thomas William
  • John Belcher
  • Evan Thomas

EGLWYSILAN, March 30th, 1745

It will be seen from the above letter that the brothers, whilst wanting to be in some sort of contact with the Methodists, were determined to have an ordained minister of their own, and didn'tgo along with the advice of Harries and ministers to go to the churches to commune. As they didn't receive consent to their plea to the Association, they went ahead in their own way, and inaugurated their own minister. We are sure that 2 of the above 5, who signed the letter to the association, were ordained, and were installed ministers at Groeswen  for many years. Perhaps all of the 5 were ordained at the same time, but we are unsure of that; neither are we sure what year the ordination took place, but we are quite sure that Dissenting ministers had taken part in the ordination ceremonies, because Thomas Williams and Wuilliam Edwards were recognised by the Dissenters as ordained ministers, this we have from the people who ordained them, such as the ordination of Morgan John Lewis in the New Inn. The number of members in the Groeswen society was 63 towards the end of 1743, and it is likely they increased rapidly very soon after that. We think that it was in 1745 that they ordained their ministers, but the Methodist ministers continued to frequent the place fairly regularly throughout the whole period of the ministries of each one of the first ministers, and until the start of Mr Hughes's ministry, even though the church received its deliberations as Dissenting and Independent. We are leaning towards assuming that each one of the 5 preachers who signed the letter to the Caio Association were inaugurated as ministers here when the Association declined to agree their request, but it appears that 3 of them, namely John Belcher, Evan Thomas, and Thomas Price, either died or moved from here soon after their inauguration. Thomas Williams and William Edwards were ministers here for many years.  Mr Edwards's connection with this church, as a minister, continued until his death in 1789.

It appears that in this church from the beginning of the cause were some men noted for their religious enthusiasm, and work, and especially for their flair for preaching. They were invited to places far and near to hold prayer meetings, and almost invariably a wonderful influence was felt in those meetings.  The following letter, written by Mr Edmund Jones, Pontypool, to Mr Howell Harries, will give the reader some idea of the excellence of the Groeswen brothers as preachers;-

" November 19th, 1772.

(Letter not extracted)

EDMUND JONES."

One time the brothers from Groeswen met a religious saleswoman from Ystradfellte in an Assembly in Merthyr, and  she urged them to come to her house to hold a prayer meeting. They agreed to go, and set a day. On the morning of the appointed day, the brothers started out early on their long journey through Aberdare and Penderyn; but when they got to Ystradfellte found that the saleswoman had forgotten the whole thing, and had gone to Bristol to buy merchandise. The unfamiliar brothers made their business known to some of the inhabitants of the village, and soon collected together a large number of people. A great divine influence descended on the meeting so there was much praising and jumping about before it finished; and such was the intensity of  feeling that some forgot all outside things as they jumped on the road after going away and  some of them even jumped in the river. Six brothers from Groeswen were at this meeting, and we have the names of 4 of them, namely Morgan Robert, Groeswen; William Davies, Maesmawr; Harri Smith, Pryntail, and Edmund Williams, Rhydllech, Llanilltyd-y-fardre.

Around 1766 it was necessary to enlarge the chapel because the congregation had increased greatly. We don't know when the period of Mr Thomas Williams's labour here ended, as one of the ministers of the church. He was alive and taking part in the service at a meeting of ministers in Rhydymardy, near Loughor, in June 1761: It is very likely that he died a short while after that, because his name isn't noted in any later records. After the death of Mr Thomas Williams it seems that Mr William Edwards was the only minister here until the end of his life in 1789. It is said that Mr Edwards was a very evangelical and effective preacher, and was very stern against any sinful habit. He was a good and influential minister. The church was very numerous for many years before the end of his ministry, and possibly the church was more enriched with the most distinguished talents for warmth and divine worship than any other church in the Principality, and we don't wonder at that as it has been printed and often repeated by the most brilliamt preachers among the Independents and Methodists.

After Mr Edwards died the church was without an established minister for 8 years. Mr Thomas Waters, Mynyddislwyn, mainly filled the role of minister here over that period. There was talk of giving a him a call, and also to Mr Abraham Tibbott, but they failed to agree between one and the other. In 1797, Mr Griffith Hughes, a very personable young man, who was a member at Crugybar, Carmarthenshire, came by whilst on a journey. His popular characteristics gained him general notice, and he was given  a cordial welcome, with none but a few people with Methodistic leanings against him. They departed and built a small chapel  called Capel Ed, in Bedwas parish, but there wasn't much shine about it, whilst Groeswen became under the fiery and brilliant ministry of Mr Hughes, as numerous and distinguished as at any time in its history. There were here 4  very powerful revivals in the time of Mr Hughes, in 1800, 1817, 1826 and 1829.  Scores were added to the church in each one of the first 3, and in the last hundreds were added to it. Because of the great numbers in the church in 1829, it was necessary to pull down the old chapel and build the beautiful and roomy temple that is here now. This was built in 1830.  Groeswen, in the early years of Mr Hughes's ministry, was the destination for folk from about 15 different parishes. There ws a large crowd congregated here every Sunday morning, and especially the communion Sundays. On Sunday afternoon, and later, the minister went around and about to preach in  dwelling houses in different parts of the district, such as Rhydru, Llanfabon, Bedwas, the Newchurch, Glyntaf, &c. One can correctly say that Groeswen is the mother church of most of the Independent and Methodist churches from Llantrisant in Glamorgan to Machen in Monmouthshire, and from Newchurch, near Cardiff, to Quakers' Yard. Mr Hughes continued to labour in this large district, from 1797 until his death in 1839, with respect and unparalleled popularity. His popularity excited the whole country from the start of his ministry, and he was until  the day he died as popular as at any time in his public life.

After Mr Hughes died the church made do with occasional ministers for about 18 months. At the start of 1841 they called Mr Moses Rees, Pencadair, Carmarthenshire. Mr Rees laboured here with a large degree of success for 16 years.  During the time of his ministry he admitted several important reputable families, and gained many youngsters of the district to the redeemer. In his time the chapels were built at Glantaf, Cwmyraber, and Caerphilli. Although he was a good man, serious, and eager to do good, he had considerable grief from some obstinate people, and it is said that there wasn't much shine to his ministry from the time they rose against him until the end of his days. He and they have for many years past shown before 'gorsedd lle? 'that there is no guile or change of opinion.  The memory of Mr Hughes is respectful in the area these days. He died in August 1856.

They went for a year after his death before chosing his successor. In the summer of 1857 Mr William Caledfryn Williams came by on a journey, and they gave him an unanimous call. He had been called here before in 1840, but he didn't accept then, however, he answered the call positively this time. He began his ministry in January 1858. At this time, because of the lengthy interval of religious stagnation, and also as the 2 branches of Ebenezer, Glantaf, and Caerphilli had been formed as Independent churches, the number of members had become small, with few listeners.

Lines not translated (Read as - Mr Williams's arrival changed things for the better)
"Tybiai llaweroedd fod yr hen eglwys, yr hon a welwyd yn ogoniant yr ardaloedd ac yn gyrchfan y llwythau, megis yn eistedd ei hunan, ac yn flin arni, ac yn wir gellid dyweyd am dani, "Yr oedd hi yn wylo yn hidl liw nos a'i dagrau ar ei gruddiau." Wedi dyfodiad Mr. Williams yma daeth gwedd newydd ar bethau, rhoddodd yr Arglwydd brawf amlwg o'i foddlonrwydd i'w ddyfodiad i'r lle. Gwelwyd afradloniaid yn dychwelyd yn ol i dy eu Tad, a gwiriwyd y geiriau hyny, " Pe gyrrid rhai o honoch hyd eithaf y nefoedd, eto mi a'u casglaf hwynt oddi-yno, ac a'u dygaf i'r lle a etholais i drigo o'm henw ynddo." Darfu i weinidogaeth danllyd Mr. Williams gyda dylanwad grasol yr Ysbryd Glan, beri fod gwedd newydd ar yr achos yn fuan. Cynyddodd rhif y gwrandawyr yn fawr, ac adferwyd hen deimladau gwresog yr eglwys nes y daeth fel aelwyd o dan yn y coed. Tua diwedd y flwyddyn 1858, ymwelodd yr Arglwydd mewn modd neillduol a'i bobl, a gwelwyd amryw yn ymofyn y ffordd tua Sion a'u hwynebau tuag yno."

And from the start of 1859 until the end of 1861 he admitted over 200 new members. 1859 will be long remembered. The one Sunday, namely 16th October, 41 people were admitted to the church communion. The scores who were there that Sunday will never be forgotten. Whilst looking at the list of those were were admitted we are saddened to see the names of some of got tired on the way, and others who have left the area, but we are confident will stay on the path; and a number of others also have moved on to a better place, and it is good to notice the names of those who have kept their faith even now, and their progress is clear to everyone. In the period of Mr Williams's ministry they rebuilt the chapel at Nantgarw, extended the chapel at Cwmyraber, established a British school beside Groeswen, enlarged the graveyard, and purchased all of the land of the graveyard and beneath the chapel and schoolhouse, so that the whole belongs to the congregation for ever. They put in a new rostrum in  place of the pulpit, and are talking at present (1872) of converting the interior so that it is more in keeping with the present day style. Mr Williams worked  faithfully whilst here. He nurtured a spirit of enquiry in the young - he created in them a desire to read, taught the people to contribute to religious causes, he brought distinction to the church, and his influence was recognised by everyone, rich and poor, and when he died (23rd March 1869) there was universal grief after him, and the testimony of all was that the prince of the gentry in Israel had fallen. *

*Mr Thomas of Ty'nywern's  letter, to whom we are indebted for most of the material in this history

The church since the death of Mr Williams to the present time (May 1872) is without a settled minister, but we understand that they have now given a call to Mr W Nicholson, Treflys, Bethesda, Caernarfonshire, and he will commence his ministry soon. We would think that there is a long and successful life ahead of him here, and that he will be in all things worthy of his distinguished predecessor.

Whilst dwelling on the numbers of this church and its membership's remarkable cordiality and talent,  it is almost odd that it hasn't raised more preachers, and sent off to the ministry some of  gewri? (the shouters)  of the Welsh pulpit. Apart from the 5 recorded here from the early beginnings of the cause, namely the magistrate Thomas Price, Thomas Williams, William Edwards, Evan Thomas, and John Belcher, we know of no one but the following who were raised here;*

  • Walter Thomas. Minister at Llanfaches, Llangynwyd and other places, see their histories.
  • John Thomas, Nantgarw. Began to preach in Penybont but spent most of his life here, was an assistant preacher,  died  in 1866 aged 77
  • W. Waters, Caerphili. Has been dead for over 30 years
  • John Robert. Went to the Baptists at the end of his days
  • John Thomas, Caerphili.
  • John Millward.
  • Richard Millward.
  • William Edwards. Began to preach in 1861, went to Brecon College, ordained at Heolyfelin, Newport where he remains
  • Evan Jenkins.

John Jenkins from Draenen preached here for many years. About 14 years ago he joined with with a number of people and separated from Tabor, Maesycwmwr, and whilst not belonging to a single religious denomination, ordained John Jenkins himself as their minister. He preached to them until he gave it up and joined the Methodists some time ago.

There were in this church from time to time a number of men and wives who were renowned for their religious fervour and excellence. Williams, Pantycelyn, in his elegy to Mrs Grace Price, from Watford, immortalised her name. Among those who served well as deacons here, we can name Edward Dafydd, John Williams, from Draenen; John Williams, Dyffrynisaf; William Richard, Caerphili; William Lewis, Pontygwindy; Hopkin Smith, Cwrtycelyn; Evan Morgan, Glantaf; William Williams, Groeswen; William Thomas, Aberfawr, and Isaac Williams, Baduchaf, - men whose memory is blessed by hundreds until this day.

Biographical Notes (Not extracted in full) *

We have already seen that there were 5 preachers here in 1745. We are not certain that all 5 were ordained here as ministers, but we do know for sure that 2 of them were ordained, namely Thomas Williams and William Edwards. As we are not sure about the ordination of the other 3, we can't, properly, include their biographies amongst the ministers, even if we had some history to give about them, but  we have next to nothing but the following. All we know of Evan Thomas is that he was a preacher, and his name is in the deeds of the chapel as trustee. Thomas Price was a gentleman, a justice of the peace, and owned a mansion in Watford. It was on part of his land that Watford chapel is built. It seems that Grace Price was the wife of his son, the subject of Williams, Pantycelyn's elegy. John Belcher was a schoolmaster, and a very popular and capable preacher. We don't know when or where he died.

THOMAS WILLIAMS. We have little of his history. Where and when he was born and died is unknown to us, he was a preacher in 1742.......

WILLIAM EDWARDS. Born in Tycanol, near to Groeswen in 1719........

GRIFFITH HUGHES. Born in Penywaun, near to Caledfwlch, Llandilo, Carmarthenshire in 1775.............

MOSES REES. Born in the neighbourhood of Llanarth, Cardiganshire in 1796.............

WILLIAM WILLIAMS, (Caledfryn). Born in Denbigh on Feb 6th 1801

*Not fully translated

 

EBENEZER, RHYDRI.

Proof read by Gareth Hicks (Feb 2008)

 

(Vol 2, p 397)

Tua y flwyddyn 1766, dechreuodd adfywiad grymus ar grefydd gymeryd lle ar lanau yr afon Rhymni, o Fachen i fyny hyd Bont-yr-ystrad, dan weinidogaeth danllyd Mr. Roger Rogers, gweinidog Heolyfelin, Casnewydd, a Mr. William Edwards, Groeswen. Parhaodd y llwyddiant yma am flynyddau. Yn 1772, dywedai Mr. Edmund Jones, Pontypool, mewn llythyr at Mr. Howell Harries, Trefecca, fod yr holl wlad o Forge, Machen, hyd Bont-yr-ystrad, ac oddiamgylch Caerphili, fel tir Beulah. Yn rhyw fodd neu gilydd gwywodd yr achos yma drachefn tua diwedd y ganrif ddiweddaf, fel nad oedd ond nifer fechan o broffeswyr crefydd i'w cael yn yr holl fro yn nechreuad y ganrif bresenol. Yn amser y llwyddiant yr oedd cangen flodeuog o eglwys Heolyfelin yn cynal moddion cyson yn yr Ysguborfach, yn mhlwyf Machen. Byddai Morgan Evans, o'r Llwyngwyn, yn mhlwyf y Rhydri, yn arfer mynychu y cyfarfodydd a gynelid yn yr Ysguborfach, a byddai yn fynych yn cael pregethwyr i ddyfod i bregethu i'w dy ef. Tua 1794, darfu i'r hen gristion ffyddlon Dafydd William Dafydd, yn nghyda dwy chwaer seraphaidd o'r enwau Margaret Edmunds a Margaret Gibbon, gymeryd anedd-dy yn mhlwyf y Rhydri, yn agos i'r fan y saif y capel yn bresenol, at gynal moddion crefyddol yn rheolaidd yno. Aelodau yn y Groeswen oedd D. W. Dafydd a Margaret Edmunds, ac aelod yn Heolyfelin oedd Margaret Gibbon. Wedi i Mr. G. Hughes ymsefydlu yn y Groeswen yn 1797, llwyddodd y ffyddloniaid hyn i gael ganddo ddyfod i roddi un bregeth yn y mis yn y Rhydri. Byddent hefyd yn cael pregethwyr eraill i ymweled a hwynt yn achlysurol. Er nad oeddynt ond tri o rif cadwent gyfarfodydd gweddio a chyfeillachau crefyddol yn rheolaidd bob wythnos. Buont am fwy nag ugain mlynedd yn cynal moddion yn rheolaidd heb gael dim ychwanegiad at eu rhif. Gwnelent gasgliad unwaith yn y flwyddyn at dalu rhent y ty, a byddai y gwrandawyr yn siriol yn eu cynorthwyo. Pan na byddai ganddynt bregethwr, gweddiai yr hen frawd D. W. Dafydd dair gwaith yn ystod y cyfarfod a chenid penillion rhwng y gweddiau gan y ddwy hen chwaer ac yntau. Wrth weled nad oedd dim llwyddiant ar eu llafur, anogai William Lewis, Pontygwindy, ac eraill o brif ddynion y Groeswen, hwynt i roddi y lle i fyny, ond ni fynent wneyd hyny ar un cyfrif. Yr oedd ganddynt ffydd ddiysgog y buasai yr Arglwydd yn ymweled a hwynt yn ei amser da ei hun, ac ni siomwyd eu disgwyliadau. Ar ol yr hirnos faith torodd y wawr. Daeth pump o'r newydd i'r gyfeillach, sef Dafydd Morgan, George Lewis, James Jones, Rowland Jones, a Thomas Harri Jenkin. Ar ol eu holi, eu haddysgu, a'u profi am rai wythnosau, aed a hwy un boreu Sabboth cymundeb i'r Groeswen i gael eu derbyn yn aelodau cyflawn. Yr oedd golwg dywysogaidd a dedwydd y boreu hwnw ar yr hen bererin Dafydd William Dafydd yn arwain y pump dysgybl ieuangc tua'r Groeswen, ac yr oedd yno deimladau nefolaidd yn mhawb wrth ganfod fod gwaith ffydd a llafur cariad yr hen frawd a'r ddwy hen chwaer o'r Rhydri wedi dechreu dwyn ffrwyth toreithiog. Dafydd Morgan yw yr unig un o'r pump hyn sydd yn fyw yn bresenol, ac y mae yn gryf a heinyf er ei fod dros bedwar ugain oed. Yn mhen ychydig amser ar ol hyn lluosogodd y gynnulleidfa, fel y daeth galwad am adeiladu capel. Cafwyd darn cyfleus o dir, ac adeiladwyd arno addoldy tlws a chyfaddas. Agorwyd y capel newydd Gorphenaf 30ain a'r 31ain, 1821. Trefn y moddion oedd fel y canlyn :-Prydnawn dydd Llun dechreuwyd y gwasanaeth trwy weddi gan Mr. D. Jones, Llanharan, a pregethodd Meistri T. Davies, Abertawy, ac R. Morris, Tredegar, oddiwrth Gen. xxviii. 17, a Zech. viii. 23. Boreu dydd Mawrth, gweddiodd Mr. W. Beynon, Llangynwyd, a phregethodd Meistri D. Lewis, Aber; Jenkin Lewis, Casnewydd, ac E. Jones, Pontypool, oddiwrth Esaiah 1vii. 15; loan xviii. 38, ac Exod. xx 24. Yn y prydnawn, gweddiodd Mr. T. Davies, Cymar, a phregethodd Meistri James Williams, Ty'nycoed, a W. Jones, Penybont, oddiwrth Salm. cxliv. 3, ac Esaiah liv.10. Yn yr hwyr, gweddiodd Mr. Joseph Harrison, Aberdar, a phregethodd Meistri D. Jones, Llanharan, a D. Evans, Mynyddbach, oddiwrth Luc xix. 41, 42, a Gen. xix. 17. Casglwyd dros haner traul yr adeiladaeth cyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad. Pan gafwyd y ty newydd yn barod daeth yno gynnulleidfa luosog, ac ychwanegwyd niferi at yr eglwys fechan, er llawenydd mawr i holl gyfeillion y Gwaredwr, ond yn neillduol i'r tri phererin ffyddlon a fuasent yma am gynifer o flynyddau yn cadw y ty yn y nos. Unwaith y bu Dafydd William Dafydd mewn cymundeb yn y capel newydd cyn ei symud i gymanfa a chynnulleidfa y rhai cyntafanedig. Bu yr eglwys hon dan ofal gweinidogaethol Mr. Hughes, Groeswen, cyhyd ag y gallodd ddyfod yma. Wedi iddo fyned yn fethedig, anogodd bobl y Rhydri i edrych allan am weinidog iddynt eu hunain. Yn y flwyddyn 1838, rhoddasant alwad unfrydol i Mr. John Jones, mab Mr. Methusalem Jones, Merthyr, ac erddwyd ef yma yn Ebrill y flwyddyn hono. Parhaodd Mr. Jones i lafurio yma gyda mesur helaeth o lwyddiant a pharch cyffredinol hyd y flwyddyn 1867, pryd y rhoddodd ei ofal i fyny, ac y cyfyngodd ei lafur i Bethlehem, Pentyrch, a Thongwynlas  -  lleoedd a fuasent dan ei ofal am lawer o flynyddau mewn cysylltiad a'r Rhydri. Dilynwyd Mr. Jones yn y Rhydri gan Mr. T. L. Jones, Machen, ac efe yw y gweinidog yma yn bresenol Ni bu yr eglwys hon yn lluosog iawn ar un cyfnod o'i hanes, ac nis gall fod, gan nad yw poblogaeth yr ardal ond cymharol deneu, ond y mae bob amser wedi bod yn nodedig am ei gwresogrwydd a'i hundeb. Cafodd ei bendithio amryw weithiau a diwygiadau tanllyd iawn. Dafydd Morgan, a grybwyllwyd yn barod, yw yr unig bregethwr a gyfodwyd yma. Bu ef am flynyddau lawer yn ddefnyddiol fel pregethwr cynorthwyol.

Translation by Maureen Saycell (May 2009)

Around 1776 a strong revival began in the Rhymney Valley under the fiery ministry of Mr Roger Rogers at Heolyfelin, Newport and Mr William Edwards, Groeswen. The success lasted for some years. In 1772  Mr Edmund Jones, Pontypool, in a letter to Mr Howell Harries, Trefeca, likened the whole area of Forge, Machen, Bont yr Ystrad and the vicinity of Caerphilly to the land of Beulah. Somehow the cause faded at the end of last century so that there were few who were religious at the start of this one. In the good times the flourishing church at Heolyfelin regularly held services at Ysguborfach, Machen Parish. Morgan Evans, Llwyngwyn, in the parish of Rudry, attended services at Ysguborwen and also regularly had preachers coming to his home. Around 1794 the faithful old christian Dafydd William Dafydd, along with Margaret Edmunds and Margaret Gibbon, rented a house in Rudry, near where the current chapel stands, to hold regular services in, they were members of Groeswen and Heolyfelin. When Mr G Hughes settled at Groeswen in 1797, he was persuaded to preach regularly at Rhydri once a month, they also had other ministers visiting occasionally. Despite there being only 3 members, they held regular socials and prayer meetings weekly. They continued for more than 20 years without adding to their numbers. They made an annual collection to pay the rent of the house which was supported willingly by the listeners. If there was no minister the old man would pray 3 times during the meeting and all three sang verses in between. Seeing their lack of success William Lewis , Pontygwindy, and other leading figures at Groeswen urged them to give up the cause, but they refused at all costs. They had every faith that God would  bring their reward in his own time, they were not disappointed. Dawn came with 5 new members - Dafydd Morgan, George Lewis, James Jones, Rowland Jones, and Thomas Harri Jenkin. after questioning, educating and testing, they were taken to Groeswen on Communion Sunday to be confirmed full members. Dafydd William Dafydd had a princely look about him as he led the 5 to Groeswen, the heavenly feeling of joy was evident that the faith of those 3 had been rewarded. Only Dafydd Morgan survives, over 80 years of age. Soon the congregation increased and the need for a chapel discussed. A piece of land was acquired and a smart appropriate chapel built on it. The chapel was opened July 30th and 31st, 1821. The order of service was as follows - Messrs D. Jones, Llanharan, T. Davies, Swansea, and R. Morris, Tredegar, officiated on Monday afternoon. Tuesday morning Messrs W. Beynon, Llangynwyd, D. Lewis, Aber; Jenkin Lewis, Newport, and E. Jones, Pontypool. In the afternoon Messrs T. Davies, Cymar, James Williams, Ty'nycoed, and W. Jones, Penybont. The evening Messrs Joseph Harrison, Aberdare, D. Jones, Llanharan, and D. Evans, Mynyddbach, officiated. Over half the cost of building had been collected before the end of the opening services. When the new chapel was ready the numbers grew, and many were added to the small church much to the joy of the Lord's supporters, but in particular to the 3 who had kept their faith in the dark days. Dafydd William Dafydd only went to one communion in the new house before he died. Mr Hughes, Groeswen, ministered here as long as he was able, and encouraged the church to find themselves a minister. In 1838 an united call was sent to Mr John Jones, son Mr Methusalah Jones, Merthyr, and he was ordained in April of that year. He remained here successfully until 1867 when he confined his labour to Bethlehem, Pentyrch, and Tongwynlas. He  was succeeded by Mr T L Jones, Machen, who is the current minister. Because of the nature of the area the church will never be large, but is noted for its unity and and warmth. There have been several powerful revivals blessing this church.

DAFYDD MORGAN - is the only preacher to be raised here, he was an useful supporting preacher.

 

HIRWAUN, (SAESONIG) (Aberdare parish)

Proof read by Gareth Hicks (Feb 2008)

 

(Vol 2, p 370)

Yn y flwyddyn 1864, darfu i D. E. Williams, Ysw.; Mr. W. Williams,ac eraill o aelodau yr eglwys yn Nebo, gyda chydsyniad siriolaf eu gweinidog, Mr. W. Williams, gymeryd ystafell at gynal gwasanaeth crefyddol yn yr iaith Saesonig, a ffurfiwyd hwy yn eglwys Annibynol Chwefror 21ain, yn y flwyddyn rag-grybwylledig. Wedi bod am rai misoedd yn addoli yn yr ystafell hon, bu raid iddynt ei rhoddi i fyny gan fod galwad am dani at wasanaeth arall. Yna cymerasant ystafell arall yn agos i'r London Warehouse. Yr oedd rhif yr aelodau erbyn hyn yn ddeuddeg. Gan fod rhai o honynt yn ddynion cyfoethog, a phob un o honynt yn weithgar a haelionus yn ol ei allu, dygent dreuliau yr achos yn ddidrafferth, a pharhausant hefyd, mewn ychwanegiad at hyny, i gyfranu at gynal y weinidogaeth yn Nebo nes iddynt gael gweinidog iddynt eu hunain. Aeth yr ystafell yn ymyl y London Warehouse yn rhy fechan i gynwys y gwrandawyr ar ol iddynt fod yno tua deuddeg mis. Wedi hyny cawsant y British Schoolroom at eu gwasanaeth, ac yno y buont yn addoli nes cael y capel yn barod. Yn 1866, rhoddwyd galwad i Mr. Daniel Jones, o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Mehefin 28ain. Gweinyddwyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan y Proffeswr Morris, o athrofa Aberhonddu; Dr. Rees, Abertawy; Mr. J. Davies, Caerdydd, a Mr. D. Jones, B.A., Merthyr. Gan nad oedd y capel newydd yn barod, cynaliwyd y cyfarfodydd yn Nebo. Rhagfyr 16eg, yn yr un flwyddyn, agorwyd y capel newydd, pryd y pregethodd Dr. Rees, Abertawy, a Mr. Ll. D. Bevan, LL.B., Llundain. Cynaliwyd rhes o gyfarfodydd agoriadol ar ol hyn, yn y diweddaf o ba rai y pregethodd Proffeswr Morris, a Mr. D. Jones, B.A. Mae y capel a'r ysgoldy cysylltiedig ag ef yn adeiladau ardderchog, o gynlluniad Mr. Thomas, Glandwr. Cynwysa y capel dri chant o eisteddleoedd. Traul yr adeiladaeth oedd 1200p. Casgiwyd 573p. o'r swm hwn erbyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad. Rhoddodd Mr. Daniel Jones ei ofal gweinidogaethol i fyny yma Hydref 10fed, 1868. Er y pryd hwnw nid oes yma un gweinidog sefydlog wedi bod, ond yr ydym yn deall fod Mr. Joseph Joseph, o athrofa Aberhonddu, yn debyg o ymsefydlu yma yn mhen ychydig fisoedd. Mae yma olwg obeithiol iawn ar yr achos; yr aelodau tua deugain o rif, a'r gwrandawyr yn lluosog.

Yn 1870, gan fod 630p. o ddyled yn aros ar y capel, penderfynodd y frawdoliaeth wneyd un ymdrech egniol i dalu y cwbl ar un waith. Mr. D. E. Williams, yn gydweddol a'i haelioni arferol, a addawodd 300p. at y 150p. oedd wedi gyfranu o'r blaen, ac addawodd Mr. W. Williams 200p. at yr 50p. oedd yntau wedi ei gyfranu yn flaenorol. Ymrwymodd pump o frodyr eraill, sef Meistri E. J. Evans, D. J. Davies, J. E. George, E. Watkins, ac S. Picton, i gasglu y 150p. gweddill, ac felly talwyd y cwbl, fel y mae y lle yn awr yn ddiddyled. Mae yr eglwys ieuangc hon mor rhagorol am ei gweithgarwch a'i haelioni ag un eglwys yn y Dywysogaeth. Yr ydym yn gweled yn hanes yr achos hwn y fath fraint yw cael ychydig bersonau gweithgar, eang eu meddyliau, a llawn o sel dros achos yr Arglwydd, i gymeryd rhan flaenllaw gyda yr achos. Os ca Mr. Joseph ar ei feddwl i ymsefydlu yma, yr ydym yn dra hyderus y bydd ef yn fendith i'r lle, a'r bobl yn gysur mawr iddo yntau. Mae pob tebygolrwydd y bydd i'r boblogaeth gynyddu yma yn fuan, ac y bydd y lle yn un nodedig o bwysig.

Translation by Gareth Hicks (April 2009)

In 1864, D.E. Williams Esq; Mr W Williams, and others ceased to be members of the church at Nebo, and with the happy consent of their minister, Mr W Williams, took a room to hold religious services in the English language. and they formed an Independent church on the 21st October, of the year already mentioned. After worshipping for some months in this room, they had to give it up as it was needed for some other purpose. They took another room near to the London Warehouse. The number of members by this time was 12. As some of them were men of affluence, and all of them were industrious and generous according to their abilities, carried the cost of the cause without difficulty, and also persisted in adding to that, by contributing towards the support of the ministry at Nebo until they had their own minister. The room at the side of the London Warehouse became too small to include the listeners after they had been in it for about 12 months. After that they obtained the British Schoolroom for their services, and there they worshipped until the chapel was ready. In 1866 they gave a call to Mr Daniel Jones, from Brecon College, and he was ordained on June 28th. Officiating at the induction service were Professor Morris, from Brecon College; Dr. Rees, Swansea; Mr. J. Davies, Cardiff and Mr. D. Jones, B.A., Merthyr. As the new chapel was not ready, they held the ceremony at Nebo. On December 16th in the same year the new chapel was opened, when Dr. Rees, Swansea, and Mr. Ll. D. Bevan, LL.B., London, preached. They held a series of opening meetings after this, in the last one amongst those who preached were Professor Morris, and Mr. D. Jones, B.A.  The chapel and adjoining schoolhouse are excellent buildings, to the design of Mr. Thomas, Glandwr. The chapel contained 300 pews. The building cost was £1200. They had collected £573 of this amount by the end of the opening meetings. Mr Daniel Jones gave up his ministerial care here on 10th October 1868. Since that time there hasn't been  a fixed minister here, but we understand that Mr Joseph Joseph, from Brecon College, is likely to be installed here within a few months. There is a very hopeful look about the cause, there are about 40 members, with numerous listeners.

In 1870, as £630 of debt remained on the chapel, the brothers decided to make one full-blooded endeavour to pay off the whole lot at once. Mr D E Williams, consistent with his usual generosity, pledged £300 to the £150 he'd previously contributed, and Mr W Williams pledged £200 to the £50 he'd also contributed previously. Five of the brothers, namely Messrs E. J. Evans, D. J. Davies, J. E. George, E. Watkins, and S. Picton, agreed to collect the remaining £150, and thus paid off the total, so that the place is now debt free. This young church is as first rate in its activities and generosity as any in the Principality. We can see in the history of this cause the benefit of having some industrious people, with expansive minds, full of gusto for the Lord's cause, taking a leading role with a cause. If Mr Joseph has in mind to come here, we are very confident he will be a blessing for this place, and the people will warm to him too. There is every probability that the population here will quickly grow, and the place will be remarkably important.

 

BODRINGALLT (Ystradyfodwg parish)

Proof read by Gareth Hicks (Feb 2008)

 

(Vol 2, p 351)

Dechreuwyd yr achos hwn yn y flwyddyn 1855, mewn ty coed perthynol i waith Gelligaled, yr hwn a fenthyciwyd i'r perwyl trwy garedigrwydd C. Bailey, Ysw. Cyn hyn nid oedd gan yr Annibynwyr un achos yn Nghwmyrhondda o'r Cymar i fyny. Rhyw ddau achos Ymneillduol fu yn y Cwm hwn am ugeiniau o flynyddau-eglwys y Cymar yn y rhan isaf o hono, ag eglwys y Bedyddwyr yn Ynysfach, yn y rhan uchaf, felly yr oedd godreu y Cwm yn Annibynwyr, a'r rhan uchaf yn Fedyddwyr. Ond pan agorwyd gwaith glo Gelligaled, yn y parth uchaf o'r Cwm, daeth yno rai Annibynwyr i weithio, a phenderfynasant yn fuan gychwyn acheo Annibynol yn yr ardal. Y mwyaf blaenllaw yn nghychwyniad yr achos hwn oedd un John Morgan, yr hwn a ddaeth yma o'r Efailisaf. Nid oedd y dyn hwn wedi cael manteision boreuol, ond er hyny yr oedd trwy ei ymdrech a'i ddyfalbarhad wedi dyfod yn ysgolhaig da, ac yn feddianol ar wybodaeth eang. Yr oedd yn ddyn o gymeriad pur ac yn meddu penderfyniad diysgog. Ei orchwyl yma oedd pwyso glo wrth waith Gelligaled, a thrwy ei offerynoliaeth ef yn benaf y cafwyd yr adeilad i gychwyn yr achos ynddo. Un o'r gweinidogion cyntaf a bregethodd yma oedd Mr. I. Davies, Taihirion. Corpholwyd yr eglwys yn y flwyddyn 1856 gan Meistri D. Stephens, Glantaf, ac H. Oliver, B.A., Pontypridd. Wedi bod am dymor yn yr adeilad coed, symudwyd i dy anedd o eiddo Mr. T. Lloyd, Maesteg, yr hwn oedd ar ddyfod trosodd i'r ardal hon i fyw. Wrth weled fod y gweithfeydd yn dechreu ymagor a dyeithriaid lawer yn debyg o ddyfod i'r lle, penderfynwyd adeiladu capel Bodringallt. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr yn y flwyddyn 1861; ond yn fuan ar ol hyn safodd y gwaith am wyth mis. Ond er fod yr ardal wedi ei gwaghau bron yn llwyr o'i thrigolion, glynodd yr eglwys fechan wrth ei hanturiaeth, ac agorwyd y capel, yr hwn a eistedda 450, yn mis Mai, 1862. Pregethwyd yn yr agoriad gan Meistri H. Oliver, B.A., Pontypridd; H. Puntan, Cymer, a D. A. Jones, Treherbert.

Bychan oedd yr eglwys am dymor ar ol yr agoriad, ond gweithiodd yn galed i dalu y ddyled, a chliriwyd y 620p. a gostiodd yr adeilad mewn pum' mlynedd. Yr oeddynt yn benderfynol o fyny gorphen talu am y capel cyn y buasai gweinidog yn dyfod i gymeryd eu gofal, a thrwy ymdrech Meistri Elias James, J. Rees, ac eraill, cawsant yr hyfrydwch o allu cynal eu jubili, yn nglyn ag urddiad Mr. Lewis Probert, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, yn Gorphenaf, 1867. Cymerodd amryw weinidogion ran yn y cyfarfodydd hyn, ond dygwyd yn mlaen y gwaith neillduol o urddo trwy i Proff. Roberts, Aberhonddu, draddodi pregeth ar natur eglwys; Mr. E. Watkins, Llangatwg, i ofyn y gofyniadau; Mr. D. Richards, Caerphili, i offrymu yr urdd-weddi; Mr. J. Davies, Caerdydd, i gynghori y gweinidog, a Mr. H. Oliver, B.A., Casnewydd, i roddi siars i'r eglwys. Bu yr eglwys hon a Siloh, Pentre, o dan ofal Mr. Probert, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. T. Lloyd, hyd y flwyddyn 1872. Ond ar farwolaeth Mr. Lloyd yn niwedd y flwyddyn 1871, teimlai nad allai wneyd cyfiawnder wrth gadw y ddau achos mewn ardal newydd, lle yr oedd y gwahanol enwadau ar ei heithaf i ennill tir, ac felly rhoddodd i fyny ofal Bodringallt, gan gymeryd at Siloh, Pentre.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL (Not extracted fully)

THOMAS LLOYD. Er nad oedd Mr. Lloyd yn weinidog yn Bodringallt, etto gan mai yma yr oedd yn aelod ar adeg ei farwolaeth, dyma y lle mwyaf priodol i ni wneyd byr grybwylliad am dano, yn enwedig gan ein bod eisoes wedi cofnodi hanes yr eglwys fu yn uniongyrchol o dan ei ofal. Yr oedd Mr. Lloyd yn enedigol o sir Aberteifi, ond symudodd pan yn ieuangc i Nantyglo, a bu am flynyddau mewn masnachdy yno, ac yn aelod yn Rheoboth, ac yno y dechreuodd bregethu. .......................

Translation by Steve Stephenson (Oct 2008)

This cause started in the year 1855 in a wooden building belonging to the Gelligaled works, lent for the purpose through the kindness of C Bailey Esq. Before this the Independents did not have a cause in Cwmrhondda from Cymar up. Some two non-conformist causes had been in the this valley for scores of years - Cymar church in the lower part of it and the Baptist church in Ynysfach in the upper part, therefore the bottom of the valley was Independent and the upper part was Baptist. But when the coal working opened in Gelligaled, in the upper part of the valley, some Independents came here to work and they quickly decided to start an independent cause in the area. Foremost in starting  this cause was one John Morgan who came here from Efailisaf. This man hadn't had early advantages, but despite this, through his efforts and perseverance, he had become a good scholar, possessing wide knowledge. He was a man of pure character and possessed steadfast determination. His occupation here was to weigh coal for the Gelligaled workings, and he was chiefly instrumental in getting a building to start the cause here. One of the first ministers who preached here was Mr I Davies (Taihirion). The church was incorporated here in the year 1856 by Messrs. D Stephens (Glantaf) and H Oliver BA (Pontypridd). After being in the wooden building for a time it moved to the dwelling house of Mr T Lloyd, Maesteg who had come into this area to live. Seeing that the workings are starting to open and a lot of incomers were likely to come to the area it was decided to build Bodringallt chapel. The foundation stone was laid in the year 1861, but  soon after that the work proceeded for eight months. But even though the area was nearly completely empty of inhabitants the little church stuck to its venture and opened the chapel, which seats 450, in May 1862. The opening service was preached by Messrs. H Oliver BA (Ponypridd), H Puntan (Cymer) and DA Jones (Treherbert).

The church was only small for a time after the opening, but it worked hard to pay the debt, and £620, the cost of the building, was cleared in five years. They had decided to finish paying for the chapel before a minister would be called to look after them, and through the effort of Messrs. Elias James, J Rees and others they had the delight of being able to celebrate their jubilee together with the ordination of Mr Lewis Probert, a student of Brecon college, in July 1867. Several ministers took part in this meeting, but first the special work of ordination was done by Prof. Roberts of Brecon, The sermon on the nature of the church was given by Mr E Watkins (Llangatog), asking the questions was Mr D Richards (Caerphilly), offering the ordination prayer was Mr J Davies (Cardiff), advising the minister to take charge of the church was Mr H Oliver BA (Casnewydd). This church and Siloh, Pentre were under the care of Mr Probert, being assisted by Mr T Lloyd until the year 1872. But on the death of Mr Lloyd at the end of 1871 he felt that he wasn't able to fully cary out he work by keeping the two causes in a new area, where there were different denominations doing their utmost to get land, and so he gave up the care of Bodringallt by concentrating on Siloh, Pentre.

Biographical notes (not extracted fully)

THOMAS LLOYD.  Even though Mr T Lloyd was not a minister in Bodringallt he was a member here at the time of his death and this is the place most suitable for us to give a short praise of him, especially since we have recorded the history of the church which was directly under his charge. Mr Lloyd came from Cardiganshire but moved when he was young to Nantyglo, and was for years in a shop there, and a member of Rheoboth where he began preaching...................................

 

SILOH, YSTRAD   (Ystradyfodwg parish)

Proof read by Gareth Hicks (Feb 2008)

(Vol 2, p 351)

Cychwynwyd yr achos yn y lle hwn yn y flwyddyn 1867, gan Mr. L. Probert, Bodringallt. Achlysur cychwyniad yr eglwys hon oe ld ?  y cynydd cyflym a gymerasai le yn mhoblogaeth yr ardal. Yr oedd gormod o ffordd rhwng Bodringallt a Threorci, i ddisgwyl i drigolion y gymydogaeth hon i fyned i'r naill na'r llall o'r lleoedd hyny; felly, gan fod amryw o'i haelodau yn byw yma, penderfynodd eglwys Bodringallt i ddechreu Ysgol Sabbothol yn y lle. Mae eglwys Bodringallt i'w chanmol yn fawr am yr ymdrech a ddangosodd i blanu achosion, fel yr oedd y boblogaeth yn cynyddu, yn Nghwmyrhondda. Hi oedd a'r llaw flaenaf yn sefydliad yr eglwysi yn Treorci a Thonypandy, a gwnaed hyny yn y lle olaf yn ngwyneb gwrthwynebiad cryf; ond cafwyd cefnogaeth y cyfarfod chwarterol i ddechreu eglwys Tonypandy, ac erbyn hyn y mae yno achos blodeuog. Ni chyfarfyddodd eglwys Bodringallt a mwy o anhawsderau wrth ddechreu eglwys Siloh nag a allesid yn naturiol eu cyfarfod wrth gychwyn achos mewn ardal lle yr oedd yr holl drigolion newydd symud, ac yn symud o wahanol barthau yno. Y prif anhawsder a deimlid oedd cael adeilad y gallesid cynal cyfarfodydd ynddo, ond symudwyd hwn ar unwaith trwy i D. Treherne, Ysw., roddi yn garedig fenthyg ysgubor yn ddidal i'r perwyl, yn nghyd a llwyddo i gael digon o lyfrau at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol yn rhad, oddiwrth Mrs. G. Llewellyn, Baglan Hall. Yn mis Gorphenaf, o'r flwyddyn a nodwyd, dechreuwyd cynal yr Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd wythnosol yn yr ysgubor, a dechreuodd Mr. Probert bregethu yma yn mis Medi, yr un flwyddyn. Pregethid yma bob nos Sabboth o'r amser hwn hyd ddechreu Awst, 1868, pan gorpholwyd yr aelodau a breswylient yn y lle yn eglwys. Ar yr achysur o gorphori yr eglwys, pregethodd Mr. W. I. Morris, Pontypridd, a Mr. E. Gurnos Jones, Treorci, a darllenwyd yr enwau, a gweinyddwyd y cymundeb iddynt gan Mr. Probert, yr hwn a gymerodd eu gofal. Cyn gynted ag y corpholwyd yr eglwys penderfynwyd adeiladu capel ar dyddyn y Pentre, a chafwyd tir at ei adeiladu yn rhad gan y perchenog G. Llewellyn, Ysw., Baglan  Hall. Agorwyd y capel, yn yr hwn yr eistedda chwe' chant, yn Gorphenaf, 1869, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Davies, Caerdydd; R. Morgan, Glynnedd; W. Rees, Maesteg; J. Davies, Taihirion, a J. Morgan, Cwmbach. Yn ystod y tair blynedd ag y mae yr eglwys wedi bod yn y capel newydd, y maent wedi cydweithio yn ardderchog, fel y mae haner y ddyled wedi ei thalu, a'r achos yn mhob ystyr wedi llwyddo tuhwnt i ddisgwyliadau y rhai mwyaf brwdfrydig o'i gychwynwyr. Cynorthwyid y gweinidog i bregethu yn y capel hwn o'r dechreu hyd y flwyddyn 1872, gan Mr. T. Lloyd, Bodringallt-yr adeg hon teimlai yr eglwys ei bod yn ddigon cryf i gynal gweinidog ei hunan, a rhoddodd Mr. Probert ofal Bodringallt i fyny, gan gyfynom ei lafur gweinidogaethol i'r Pentre yn unig. Mae yr eglwys mewn sefyllfa mor lewyrchus yn bresenol, fel y gellir dywedyd, " fod y gwaith yn myned rhagddo ar frys, a'i fod yn llwyddo yn eu dwylaw hwynt."

Translation by Steve Stephenson (Oct 2008)

The cause in this place started in the year 1867 by Mr L Probert, Bodringallt.The opportunity of starting this church was the rapid increase in the population of the area. It was too far between Bodringallt and Treorci to expect the inhabitants of this neighbourhood to go to one or the other of these places; therefore, because some of the members  lived  here, Bodringallt church decided to start a Sunday School in the place.Bodringallt Church is to be greatly praised for the effort that it  showed in planting causes, as the population was increasing in Cwm Rhondda. It was in the forefront of establishing churches in Treorci and Tonypandy, and did this in the latter place in the face of strong opposition; but it had the support of the quarterly meeting to begin Tonypandy church, and since then the cause there is flourishing. Bodringallt church did not meet with so much difficulty in starting Siloh church which wouldn't usually  meet by starting a cause in an area where all the inhabitants had just moved in, and moved in from different areas.  The main difficulty it was felt was to have a building in which it was able to begin holding meetings, but this moved on immediately through D Treherne Esq. who very kindly lent a barn without rent for the purpose, and  they succeeded in getting sufficient books for the Sunday School services for free from Mrs G Llewellyn, Baglan Hall. In July 1867 the Sunday School started to hold weekly meetings in the barn, and Mr Probert began preaching here in August 1867. Preaching took place here every Sunday evening from this time until the beginning of August 1868 when the resident members in the place were incorporated into a church. On the occasion of the  establishment Mr W I Morris (Pontypridd) and Mr E Gurnos Jones  (Treorci)  preached and read the names, and communion was presented to them by Mr Probert, the one who had accepted their charge. As soon as the church was established it was decided to build a chapel on Pentre Farm and the land was given cheaply by the owner G Llewellyn Esq., Bagaln Hall. The chapel, which could seat 600, was opened in July 1869 when sermons were given on the occasion by Messrs. J  Davies (Caerdydd), R Morgan (Glynnedd), W Rees (Maesteg), J Davies (Taihirion) and  J Morgan (Cwmbach). During the three years the church has been in the new chapel, where they have worked together splendidly, half of the debt has been paid and the cause, in every way, has succeeded beyond expectations of the most enthusiastic of those who started it. The ministry was aided from the start up to the year 1872 by Mr T Lloyd (Bodringallt)  and he now felt that the church was sufficiently strong to have a minister of its own. Mr Probert gave up the care of Bodringallt by confining his ministry to Pentre alone. The church is in  a situation so promising at present that it could be said " that the work is progressing rapidly, and that it is succeeding in their hands".