Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees and John Thomas; published in 1871+.

This chapel history was extracted by Gareth Hicks from the CD published by Archive CD Books (Feb 2008)  
Proof-reading & translation by Mary Jane Stephenson  (Feb 2008)

Saron, Treos

Return to top

(Vol 2, p 225-226)

225

"Dechreuwyd yr achos yma yn y flwyddyn 1831 gan Mr. W. Griffiths, Llanharan, yn benaf ; ac yn mysg yr aelodau gwreiddiol yr oedd David Jones, gwehydd, a Benjamin Lewis, aelodau o Lanharan, a Morgan Williams, Tycendy, a Margaret ei wraig, a David Owen ac Elizabeth Leyshon, Treoes, aelodau o Benybont. Ffurfiwyd yr eglwys gan Mr. Griffiths mewn hen ysgubor yn mhentref Treoes, a chyn hir prynwyd yr hen adeilad hono, gyda gardd oedd yn nglyn ag ef, gan David Jones, Lewis Jenkins, a David Owen oddiar Edward Mordicai, Treoes, am 30p., er mwyn adeiladu capel arno pan ddeuai amser cyfaddas. Sefydlwyd yma Ysgol Sabbothol a phob moddion yn rheolaidd, a daeth yr achos rhagddo yn dra llwyddianus. Yn y flwyddyn 1841, adeiladwyd yma gapel newydd yn mesur 40 troedfedd wrth 34 troedfedd, gwerth 240p. ac agorwyd ef yn nglyn a chyfarfod chwarterol y cyfundeb a gynaliwyd yma Chwefror 16eg a'r 17eg, 1842 ; * ac yr oedd haner dyled y capel wedi ei thalu cyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad. Ennillodd yr achos yma ffafr yn ngolwg yr ardalwyr, ac wedi y diwygiad grymus a gafwyd yn y flwyddyn 1859, a'r flwyddyn 1860, aeth y capel yn rhy fychan fel y gwelwyd yn angenrheidiol rhoddi oriel ynddo, yr hon gyda rhyw adrefniadau eraill a gostiodd gan' punt. Ailagorwyd ef Medi 17eg a'r 18fed, 1861#   Bu y lle mewn cysylltiad a Llanharan hyd farwolaeth Mr. Griffiths, ac ar ol hyny penderfynodd yr eglwys fynu gweinidog iddi ei hun, a rhoddwyd galwad i Mr. Rees Saron Jones, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Hydref 14eg a'r 15fed, 1868. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Davies, Caerdydd; holwyd gofyniadau gan Mr. J. B. Jones, B.A., Penybont; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. I. Evans, Maendy; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Williams, Castellnewydd, ac i'r eglwys gan Mr. M. Morgan, Bethesda. ##   Llafuriodd Mr. Jones yma gyda derbyniad

* Diwygiwr, 1842. Tu dal. 124. # Diwygiwr, 1861. Tu dal. 344.  ##Tyst, Hydref 23ain, 1868

226

hyd ddiwedd y liwyddyn 1871, pryd yr ymfudodd i'r America. Ni chodwyd yma ond un pregethwr, sef Thomas Thomas, yr hwn wedi derbyn ei addysg yn athrofa Aberhonddu, a aeth allan yn genhadwr i Affrica, ond y mae yn awr yn y wlad hon.

Mae capel bychan wedi ei godi gan eglwys Treoes yn Llangrallo. Cafwyd y tir i adeiladu yn rhad, i fod byth yn eiddo yr eglwys, gan Mr. John Thomas, Llangrallo, yr hwn sydd yn aelod yn Nhreoes. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr gan Mr. M. Morgan, Bethesda, Medi 21 ain, 1870; ac agorwyd y capel Mehefin 26ain a'r 27ain, 1871, ac ar yr achlysur pregethwyd gan Meistri J. Davies, Caerdydd ; J. Evans, Maendy ; M. Morgan, Bethesda ; J. Davies, Taihirion ;         J. Thomas, Tresimwn ; J. M.Evans, Caerdydd ; D. E. Jones, M.A., Sirhowy; J. Edwards, Pontygof; W. C. Davies, Llantrisant, ac eraill. Costiodd yr adeilad oddeutu 120p., heb gyfrif y cludiad, yr hyn a roddwyd gan yr ardalwyr yn rhad. Cynhelir yma Ysgol Sabbothol yn rheolaidd, a phregethir ynddo yn lled gyson er nad oes ynddo eglwys wedi ei ffurfio."

Translation by Mary Jane Stephenson (Feb 2008)

This cause was started in the year of 1831 chiefly by Mr. W. Griffiths, Llanharan; and among the original members were David Jones, weaver and Benjamin Lewis, members from Llanharan, and Morgan Williams, Tycendy, and his wife Margaret, and David Owen and Elizabeth Leyshon, Treoes, members from Bridgend. The church was formed by Mr Griffiths in an old barn in the village of Treoes, and before long that old building was purchased with a garden included, by David Jones, Lewis Jenkins and David Owen from Edward Mordicai, Treoes, for 30 pounds, in order to build a chapel on it at the appropriate time. A Sunday school was established here in a regular  pattern and the results from it came to be extremely successful. In the year 1841, a new chapel was built here measuring 40 feet by 34 feet, worth 240 pounds and it was opened with a quarterly meeting of the circuit that was held here on February 16th and 17th 1842; and half of the chapel's debt was paid before the conclusion of the opening meetings.The cause won favour in the eyes of the local people, and after the powerful revival that happened in 1859 and 1860, the chapel became too small so that it was necessary to put a gallery in it, which with some other restorations cost a hundred pounds. It was re-opened on September 17th and 18th 1861. The place was joined to Llanharan until the death of Mr Griffiths, and after that the church wished to appoint its own minister, and a call was given to Mr. Rees Saron Jones, a student of Brecon college, and he was ordained on October 14th and 15th 1868. On that occasion Mr. J. Davies, Cardiff,  preached on the nature of the church, questions were examined by Mr. J.B. Jones, B.A., Bridgend; the ordination prayer was raised by Mr. I. Evans, Maendy; Mr. J. Williams, Newcastle, preached to the minister and Mr. M. Morgan, Bethesda, to the church. Mr Jones laboured here with approbation until the end of 1871, when he emigrated to America. Only one preacher arose from here, Thomas Thomas, who received his education in Brecon college and he went to Africa as a missionary, but now he is living in this country.

A small chapel has been raised by the Treoes church in Coychurch. They were given the land to build for free, to belong forever to the church, by Mr. John Thomas, Coychurch, who was a member at Treoes. The foundation stone was laid by Mr. M. Morgan, Bethesda, on September 21st 1870; and the chapel was opened on June 26th and 27th 1871,and on that occasion there was preaching by Messrs. J. Davies, Cardiff; J. Evans, Maendy; M. Morgan, Bethesda; J. Davies, Taihirion; J. Thomas, Bonvilston; J.M. Evans, Cardiff; D.E. Jones M.A.,Sirhowy; J. Edwards, Pontygof; W.C. Davies, Llantrisant, and others. The building cost around 120 pounds without counting conveyance, which was given by the local people for free. A Sunday School was held here regularly, and preaching took place in it fairly frequently even though a church has not been formed in it.

 

[Last Updated : 23 Feb 2008 - Gareth Hicks]