Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees and John Thomas; volume 2, pages 178-9, published in 1872.

Extracted by Darris G Williams, there are no translations available currently.

Y GURNOS

Saif y capel hwn ar derfyn dwyreiniol plwyf Llanguwg, ac yn ymyl Gorsaf Ystalyfera, ar y Swansea Vale Railway. Yr oedd aelodau perthynol i Gwmllynfell, Godrerhos, a'r Alltwen yn preswylio yn yr ardal hon er's amryw oesau, ac yn arfer cynal cyfarfodydd gweddio o dy i dy. Pan ffurfiwyd eglwys yn y Pantteg ymunasant a'r achos yno, ond parhasant i gynal cyfarfodydd gweddio yn yr ardal fel o'r blaen, a "Changen y Gurnos" y gelwid hwy gan eglwys y Pantteg. Yn 1839, adeiladodd y Wesleyaid gapel bychan yma, ond ni fu fawr lewyrch ar eu hachos, ac yn 1856, hysbysodd y gynnadledd ei fod ar werth. Pan glywodd eglwys y Pantteg hyny, rhoddasant awdurdod i'w gweinidog, Mr. Griffiths, o'r Alltwen, i'w brynu, a phrynodd ef. Yn 1857, corpholwyd "Cangen y Gurnos" yn eglwys Annibynol. Bu Mr. Griffiths yn gofalu am yr eglwys ieuangc am rai misoedd nes gosod pob peth mewn trefn. Yna anogodd hwynt i edrych allan am weinidog iddynt eu hunain. Penderfynasant yn unfrydol i roddi galwad i'w hen gymydog Mr. Benjamin Thomas, gweinidog yr eglwys Gymreig yn Walker, ger Newcastle-on-Tyne. Cynaliwyd cyfarfod sefydliad Mr. Thomas yma Sul a Llun y Sulgwyn, 1858, pryd y cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Meistri Rees, Ystrad; Griffiths, Alltwen; Pryse, Cwmllynfell; Jones, Treforis; Davies, Treforis; Lewis, Ty'nycoed, ac eraill. Yn mhen blwyddyn ar ol sefydliad Mr. Thomas aeth y capel yn rhy fychan fel y bu raid gosod oriel ynddo. Erbyn 1864, yr oedd wedi myned drachefn yn rhy fychan fel y bu raid ei helaethu i'w faint presenol. Costiodd ei bryniad a'i helaethiad ddwywaith 76lp., ond nid oes yn awr ond ychydig iawn o'r ddyled yn aros arno. Mae yn addoldy hardd a nodedig o gyfleus, ac yn cynwys tua chwe' chant o eisteddleoedd, a chynnulleidfa dda ac eglwys wresog a gweithgar yn ymgynnull iddo.

Cyfodwyd dau i bregethu yn yr eglwys hon, sef E. G. Jones, gweinidog yr eglwys yn Nhreorci, Morganwg, a T. P. Evans, gweinidog yr eglwys Annibynol yn y Ceinewydd, sir Aberteifi. Er nad yw yr achos hwn ond ieuangc, mae nifer o'r hen frodyr ffyddlon a'i cychwynodd wedi gorphen eu gyrfa ddaearol; megis Dafydd Simmon, John Clee, William Bowen, ac amryw eraill y rhai y mae eu coffadwriaeth yn arogli yn beraidd yn yr ardal.*

*Llythyr Mr. Thomas

[Last Updated : 13 Feb 2005 - Gareth Hicks]