Hide

Ystalyfera Nicknames

hide
Hide

   Llys Enwau Ystalyfera

 

Contributed by Roy Davies, January 2004

Roedd Ystalyfera llawer dydd
Yn enwog am lys enwi,
Tric i adnabod pwy oedd pwy,
Er mwyn osgoi cymysgu.
Ac felly dyma nifer fach
O enwau dewisiedig
Ond er mwyn popeth byddwch gall
Ne fydd ' ma le cythrelig.

Yng nghyntaf dynion enwid gynt
Ar ol rhiw wraig o ' r teulu
Phil Mari Wil, Tom Betysi Fach,
Phil Hester, Dai Bach Sali ,
Dic Modryb Mari, Wil Mari Fran,
Twm Sara, Harri Phoebe,
George Mari Ann a John Mari George,
Bili Shwnet a Dai Gwenni.

O ' r wlad daeth rhai ac enwid hwynt
Gan bawb i gofio hynnu
Dafydd y Gwas a Twm Bach Jag,
Wil Sefn a Bil Cydweli,
Wil Llandybie, John Bach y Wlad,
Dai Kent a Twm Llanylltid,
John Porth yr Rhyd , a Jac Saint Clears,
Aberlash a Dic Brynhyfryd.

Fe enwid rhai ar ol eu tai,
Na John a George Ty Copyn,
' Na Moc Ty Cwrdd a Jac To Cawn
Dai Shanti a Twm Starfin
'Na Dai Ben Steps a George Sginon
Dai Jones Ca ' r Drain a Wil Pen Fol,
A Dafydd Lewis Station.

Yn ol eu gorchwyl enwid rhai:
John Cart a Ianto Tilwr,
Dai Bach Referee a John Bwyd Ffowls,
Joe Check a Wili Spaddwr,
Jack Bisnes Pawb a Wil Shon Cwar,
Wil Fish a Tomi Cobler,
Dai Caws a Menyn, Wil John Chips,
Twm Tip a Dai Sam Boler

Teuluoedd cyfan hefyd sydd
A ' u enwau : Dyna ' r Jackies ,
Y Poms, Y Parlwrs,Twm Dai Sams,
Y Drils, Y Cones, a ' r Samis,
Y Moc Yr Eidons, a ' r Bob Mans,
Y Posts a ' r Jim Dick Bennies,
Y Cachi Boilers, Bwtwns, Bo's,
Y Gyt a' r TwIl Tyn Ponies

A beth am rhai o 'r gwragedd sydd
A' u enwau ar y rhestr,
'Na Beti Slwt a Fly Dai Rock,
A Harriet Cefen Lleter,
Jane Pys a Mari Jane Don't Care,
A Martha Coese Wiad,
Ann Dal a Mari Jane Cream Slice,
A Betsi Gole Liad.

Rhyw nodwedd oedd rhyw air bach hoff ,
A roedd i rhai yn arwydd ,
' Na Defi John Mynyfarni ,
A Shoni Gwas yr Arglwydd ,
John Wilber Annwyl , a Twm Jubes ,
Wil Drefles a Jim Cwrlyn,
John Pwr Ffelo,Twm Shoni Oi,
Dai Snowt a Shoni Clepryn.

Rhai gwadlyd hefyd a rhai hurt,
John Be a Mocyn Bwtwr,
Twm Cefen Tost, Dai Sten a Chorc,
Dai Baw a Lenni Papwr,
John Rhys y Celwdd, Ned Babwn,
A' r hen Ddai Dafis Bolgi ,
Dai Rip and Tear a Twm Wasgod Bert,
Twm Sledge a Johnny Sleepy.

Wel dyma ' r cwpwl olaf ' nawr ,
Fe ddont i ben yn union,
Wil Bach, John Bother a Jim Jim,
Y Wach a Gwilym Canon,
Wil Shifigw, Topper Brown,
Jim Bo a Williams Allau,
Rhys Cwrcyn Carcus a Twm Pwnch,
Dai Cwt a Shoni Satan.