Hide
Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
hide
Hide
(History of the Welsh Independent Churches)
By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books See main project page
MERIONETHSHIRE (Vol 1)
Pages 442 - 455
Proof read by Maureen Saycell (May 2008)
Chapels below;
|
Pages 442 - 455
442
(Continued) Maentwrog
Roberts, Pentrefoelas ; R. E. Williams, Llanddeusant ; D. Griffith, ieuengaf, Bethel ; W. Edwards, Aberdare, ac E. Davies, Trawsfynydd. Ar ol adeiladu Gilgal, gwerthwyd yr hen gapel Glanywern.
Yn 1859, cafwyd tir yn ymyl capel Utica i wneyd mynwent, a chostiodd y lle £12, a sychu y lle, a chau o'i gwmpas £18, y cwbl yn £30. Llafuriodd Mr Jones yn ddiwyd iawn yn Maentwrog ac Utica, gyda chymeradwyaeth hyd ac eglwys am tuag wyth mlynedd, nes yr ymadawoddi gymeryd gofal eglwysi Carmel a Gwryd, Llangiwc, Morganwg, yn Mai, 1865. Bu yr eglwysi yn Maentwrog ac Utica yn agos i flwyddyn heb weinidog, yna rhoddasant alwad unfrydol i Mr John Williams, Llanelwy, a chydsyniodd yntau a'u cais, a dechreuodd ar ei weinidogaeth yn Mawrth, 1866. Bu yma yn ffyddlon ac ymdrechgar iawn am bedair blynedd. Yn Mai, 1870, ymadawodd am America, a chyrhaeddodd ef a'i wraig a phlentyn bychan tua dwy flwydd oed i New York yn llwyddianus, heb i ddim anghysurus eu cyfarfod hyd yno. Bu Mr Williams a'i deulu yn aros am ryw gymaint o amser yn nhy ei frawd, yr hwn sydd yn y weinidogaeth yn America er's cryn amser. Yr oedd Mr Williams wedi derbyn galwad unfrydol oddiwrth yr eglwys Gymreig yn Pomeroy. Yr oeddynt yn myned mewn bad pwrpasol ar hyd yr afon Ohio, a phan oeddynt wedi cyrhaedd pen eu taith, ac barod i fyned i'r lan, syrthiodd Mrs Williams ryw fodd dros ymyl y bad i ddwfr tros wyth llath o ddwfn, a than ei bod yn nos dywyll, methwyd a'i hachub, ac oni buasai i ryw un gael gafael yn Mr Williams cyn iddo allu rhuthro ar ei hol, wedi colli ei hunanfeddiant, mae yn debygol y buasai of a'i blentyn bychan - yr hwn oedd yn cysgu yn ei freichiau - wedi boddi gyda hi. Cafwyd gafael yn Mrs Williams yn mhen tuag awr wedi iddi syrthio, ond yr oedd yr enaid wedi cyrhaedd i'w gartref dedwydd ! Er ymadawiad Mr Williams, y mae yr eglwys heb weinidog.
Ni chyfodwyd yma ond un pregethwr, sef,
- Robert Edward Williams. Bu dan addysg yn athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn Llanddeusant, Mon. Bu Edward Williams, tad y dywededig R. E. Williams, yn bregethwr cynorthwyol parchus yn yr eglwys dros lawer o flynyddoedd. Daeth yma o Bwllheli yn y flwyddyn 1834, ac yr oedd wedi dechreu pregethu yno er's blynyddau. Yr oedd yn frawd i Mr Robert Williams, yr hwn a fuasai yn weinidog yn Rhesycae, ond a dorwyd i lawr gan angau yn mlodeu ei ddyddiau. Yr oedd Edward Williams yn gyfaill cywir, yn gristion didwyll, ac yn bregethwr cymeradwy. Llafuriodd yn galed fel pregethwr yn Maentwrog a'r amgylchoedd heb dderbyn ond ychydig o gydnabyddiaeth am ei wasanaeth. Os oes ryw sail i'r haeriad fod pregethwyr cynorthwyol yn disodli eu gweinidogion, yr oedd Edward Williams, pa fodd bynag, yn mhell o fod felly. Yn Mhwllheli ac yn Maentwrog profodd ei fod yn gyfaill trwyadl i'w weinidog, a chafodd gyfle yn enwedig yn y lle blaenaf, mewn adeg o anghydfod, ddangos o ba ysbryd yr ydoedd. Bu farw yn dangnefeddus Awst 29ain, 1845, yn 51 oed, a chladdwyd ef yn mynwent capel yr Annibynwyr Mhorthmadog.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
Crybwyllasom am Mr W. Jones, y gweinidog cyntaf a fu yn yr eglwys hen, yn nglyn a hanes Penystryd, ac y mae yr holl weinidogion eraill a fu yn gweini iddi, ond un, wedi cad " help gan Dduw, yn aros hyd yr awr hon," a'r un hwnw yn unig sydd genym i wneyd byr goffad am dano.
443
SAMUEL JONES. Ganwyd ef yn Dolyddelen, Gorphenaf 10fed, 1817. Yr oedd ei rieni John a Margaret Pritchard, yn bobl barchus a chrefyddol, ac y mae ei dad yn aros hyd yr awr hon, er mewn gwth o oedran, ac yn hen bregethwr cynorthwyol cymeradwy yn Llanberis. Dangosodd Samuel ogwyddiad yn ieuangc at fod yn bregethwr, a rhagfynegai pawb mai dyna a fyddai. Pan oedd o gylch tair-ar-ddeg oed, symudodd ei rieni o Dolyddelen i Lanberis, a dygodd hyny ef i gyffyrddiad a phrofedigaethau oeddynt hyd yma yn ddyeithr iddo. Yr oedd wedi arfer myned i'r gyfeillach gyda'i rieni er yn blentyn, ond ar ol myned i'r chwarel i weithio, ac ymgymysgu a bechgyn gwyllt o'i oed, gwelwyd ei fwynder yn ymadaw; ac er gofid dwys i'w dad a'i fam, gadawodd gyfeillach y saint, fel y caffai fwy o ryddid i " rodio yn ol helynt y byd hwn." Ond daliwyd ef yn fuan, gan yr Hwn a'i neillduasai o'r groth i fod yn llestr etholedig i'w wasanaeth - dychwelodd i'r gorlan o'r hon y crwydrasai - ac ar y Sabboth cyntaf o'r flwyddyn 1833, derbyniwyd ef yn gyflawn aelod o'r eglwys yn Jerusalem' Llanberis, gan ei frawd Mr. Richard Jones, yn awr o Lanidloes, yr hwn oedd yn digwydd bod yno y Sabboth hwnw. Wedi ymuno a'r eglwys, ymroddodd Samuel Jones i weithio a'i holl egni. Yr oedd yni a bywiogrwydd lonaid ei natur, fel nas gallasai fod yn segur a diffrwyth. Nid oedd dim pall ar ei lafur gyda'r Ysgol Sabbothol, nid yn unig yn y gangen i'r hon y perthynai, ond hefyd yn y cyfarfodydd chwechwythnosol a gynhelid y pryd hwnw yn nosbarth Caernarfon. Dechreuodd yn fuan ag arfer ei ddawn yn gyhoeddus i areithio yn y cyfarfodydd hyny, ac yn nghyfarfodydd y gymdeithas gymedroldeb, a'r gymdeithas Ddirwestol, yn ei ardal. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf yn ei gymydogaeth i arwyddo yr ardystiad dirwestol, a pharhaodd yn Ddirwestwr ffyddlon a phybyr hyd ei ddiwedd. Wrth weled ei ddoniau yn ymddadblygu, anogwyd ef i ddechreu pregethu, ac yu mis Mawrth' 1836, y traddododd ei bregeth gyntaf yn gyhoeddus. Nid oedd wedi cael ond ychydig fanteision addysg, ac yr oedd yn dyheu am fwy o wybodaeth i'w gymhwyso i'w waith. Penderfynodd gynilo cymaint o arian ag a slim. i'w gynorthwyo i gael addysg er ymbarotoi i fyned i ryw athrofa. Gadawodd Lanberis, Nadolig, 1837, a'i becyn ar ei ysgwydd, i fyned i Marton, Sir Amwythig, i'r ysgol, a dechreuodd ei efrydiau yno cyn diwedd mis Ionawr, ar ol hyny. Enillodd serch a pharch ei athraw a'i gydefrydwyr; a gwnaeth gynydd cyflym yn ngwahanol ganghenau gwybodaeth. Gwnaeth gais am dderbyniad i athrofa Aberhonddu yn 1840, ond bu yn aflwyddianus, nid am nad oedd i fyny a'r safon, ond oblegid rhyw amgylchiadau nad oedd a fynai efe a hwynt. Ond dichon mai felly yr oedd oreu, am fod ei Feistr Mawr yn gweled nad oedd ganddo ond tymor byr i weithio drosto. Bu am rai misoedd yn Sirhowy yn gwasanaethu yn lle ei frawd, a bu ei weinidogaeth yno yn nodedig o lwyddianus. Yr oedd ar y pryd hwnw yn llawn o dan diwygiad, fel y llosgai yn angerddol pa le bynag yr elai, ac yr oedd llaw yr Arglwydd gydag ef. Derbyniodd alwadau o amryw fanau i ymsefydlu yn weinidog, ac yr ydym yn cofio yn dda y petrusder mawr a deimlai yn ei feddwl, pa un ai i Bethel a'r eglwysi cysylltiedig, gerllaw Bala, ai i Maentwrog yr ai, ond trodd y glorian, oherwydd ryw resymau, o du y lle olaf, a dechreuodd ei weinidogaeth yno, mewn cysylltiad a Llan, Ffestiniog, yn niwedd y flwyddyn 1840. Urddwyd ef yr un pryd ag agoriad capel newydd Maentwrog, Mai 26ain, 1841, ac anaml y gwel-wyd gweinidog ieuangc yn dechreu ei weinidogaeth dan amgylchiadau
444
mwy ffafriol. Ymroddodd a'i holl egni i gyflawni ei weinidogaeth, ac ymosododd gyda phenderfyniad yn erbyn meddwdod a holl annuwioldeb yr ardal, a gwelodd ffrwyth buan ar ei lafur, ond ni ddiangodd rhag difenwad y rhai a genfigenant oblegid ei lwyddiant, ond bu ei Dduw yn amddiffyn iddo, fel " na chaed ynddo nac amryfusedd na bai," y gallasai ei gaseion gael gafael arno. Yr oedd yr achos yn Llan, Ffestiniog yn isel, a baich y ddyled yn ei lethu, a phenderfynodd Mr. Jones wneyd ymdrech i'w ryddhau oddiwrth y baich, ond costiodd hyny ei fywyd iddo. Yn Hydref, 1843, cymerodd daith trwy ranau o Siroedd Amwythig a Threfaldwyn i gasglu ato. Pan ar ei daith teimlai boen dyeithr yn ei ben, a chwanegai fel yr elai yn mlaen. Aeth i dreulio Sabboth at ei gyfaill Mr H. James, yn Llansantffraid, a phregethodd yno y boreu a'r hwyr, a dyna tro diweddaf y pregethodd. Dydd Llun aeth i Benybontfawr, a thranoeth teithiodd adref yr holl ffordd i Faentwrog, ac ymddangosai fel yn ymwybodol ei fod yn dyfod adref i farw. Yr oedd yn awyddus am gael pregethu i'w gyfeillion y Sabboth ar ol hyny, ond nis gallai ; yr oedd clefyd yr ymenydd (brain fever) wedi ei gymeryd, ac aeth i'w wely, ac ni chododd mwy o hono. Bu farw dydd Mercher, Rhagfyr 2il, 1843, yn 26 oed. Claddwyd ef yn mynwent capel yr Annibynwyr yn Mhorthmadog, y dydd Sadwrn canlynol, a dilynwyd ef i'w orweddle oer gan dorf fawr o bobl alarus, ac yn eu plith luaws o'i frodyr yn y weinidogaeth, y rhai a deimlent y parch dyfnaf iddo. Cyhoeddwyd cofiant rhagorol i Mr Jones, gan ei gyfaill hoff, Mr Ambrose, Porthmadog, o'r hwn y cymerasom brif ffeithiau y cofnodion uchod, ac ychwanegwn y difyniadau canlynol ar ei nodwedd. " Yr oedd ei gorph yn dal ac yn lluniaidd, ei wallt yn oleu, ei ruddiau yn wridog, ei lygaid yn siriol, ac eisteddai gwen serchus ac esmwyth ar ei enau. Yr oedd yn gyfaill trwyadl a ffyddlon. Nid aml y bu gan un mor ieuangc gynifer o gyfeillion mynwesol. Gwariai bunoedd bob blwyddyn am gludiad llythyrau i "gadw cariad." Gellir dywedyd am dano, fel y dywedwyd am Spencer, o Liverpool, ei fod yn, cario ei galon mewn llestr grisial, fel yr oedd yn hawdd i bawb ei gweled. Yr oedd yn byw yn nghymdeithas Duw, yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf.' Yr oedd yn argyhoeddedig o werth crefydd bersonol i lenwi y swydd sanctaidd. Yr oedd ei ymarweddiad difrycheulyd a' i ymddiddanion crefyddol, yn fwy defnyddiol na wasanaeth yn yr areithfa. Fel pregethwr, yr oedd yn dringo yn gyflym i enwogrwydd. Nid oedd dim hynod ynddo yn nechreu ei weinidogaeth. Cyfodai yn uwch uwch bob dydd mewn enwogrwydd, a rhyfeddai pawb wrth ganfod ei gynydd fel pregethwr. Pan gyfodai i gyfarch cynnulleidfa, ymddangosai yn wylaidd ac esmwyth, a chyhyrau ei wyneb fel pe buasent yn chwareu rhwng hyfrydwch a phoen, rhoddai benill byr i'w ganu, a darllenai ei destyn yn bwyllog. Byddai ei sylw cyntaf bob amser yn darawiadol, a rhedai fel mellten trwy dorf, yna ymddangosai fel pe buasai yn ymwybodol ei fod wedi dyfod hyd i wythien y teimlad. Dilynai ychydig sylwadau priodol fel arweiniad at athrawiaeth ei destyn. Byddai ei raniadau bob amser yn naturiol, o ganlyniad yn eglur ac esmwyth. Yna, mewn iaith ddestlus, canlynai drychfeddyliau mor gyflym a chenadon Job. Wedi hyny, troai ei holl rym ymaflyd yn nghydwybodau ei wrandawyr, daliai hwy yn ngwyneb yr athrawiaeth a eglurwyd, yna gwelid y deigryn yn dysgleirio ar ei amrant., chanoedd o rai tebyg yn llygaid bobl, a phan orphenai lefaru, gadawai wrandawyr bob amser mewn teimlad hyfryd wrth droed y groes."
Translation by Eleri Rowlands (3/2021)
This is one of the most beautiful areas in North Wales, and all the views around are pleasing to the eye. The Most High and the beautiful united here to make it the perfect land. But we are dealing with the history of non-conformism here; since the influence that religion has left on the countryside is her most beautiful feature. There was a lady by the name of Mrs Lloyd, who lived in Cefnfaes, Maentwrog, who used to live in London when she was young, and used to listen to the gospel with the Independents. She wasn’t accepted into membership while in London, nor for years after leaving there; but she liked the principles and church order of the Independents more than any other denomination. Within a while after she married Mr Lloyd, from Cefnfaes, she was accepted as a full member in Penystryd, in 1793. She usually frequented Penystryd, at least once a month, through all weathers for years, and the youngest son of John Lloyd, Esquire, from Cefnfaes, or as he was usually called, "Llwyd the Solicitor," when he was a young man, used to go there along with his mother. Mr Lloyd was an Independent in opinion, but spent his life a as an unbeliever. Mrs Lloyd encouraged Mr W. Jones, Penystryd, to give an occasional sermon in Penyglanau, a farm building on the inheritance, near to Cefnfaes, within about a mile and a half of Maentwrog village. Mr Jones and others went there to preach for years, when no Independent member lived in the area apart from Mrs Lloyd. One Sabbath morning, when Mr Jones, was preaching in Penyglanau, he announced at the end of the service, that a special fellowship would be held at two o’clock that afternoon in Llwyn, a nearby farmhouse. Several came to that meeting, apart from Mrs. Lloyd. These were David Richard, and Catherine his wife, William Williams, (Gwilym Twrog), and Anne his wife, and John Lloyd, and Grace his wife. Four of these six stayed with the Independents faithfully for the rest of their lives, but Gwilym Twrog, and his wife left and joined the Baptists in Ramoth. Mr Jones, and others continued preaching fairly regularly in Penyglanau; and within about a year after the above special fellowship, that is in 1798, William Williams, Cwmhwyson, (Williams, from the Wern, after this), and Richard Roberts, Penystryd, came to Coedytwyn, another smallholding on the Cefnfaes inheritance, in order to hold a fellowship meeting, andMargaret Lloyd, Pantyclegar, was added to the other seven, to bring them up to the same number as the Arch family. Another one came to that fellowship and William Williams asked her what was on her mind. She was startled and said, "You wait, the littlecorgi; what is it to you what is on my mind. Do you know what is on your own mind? You are too young to question an old woman like me," and she left
440
in a very aggrieved fashion. The eight that were mentioned in Penystryd were accepted as members, and they attended regularly, at least once a month, for about ten years. At the beginning of Spring in 1809, Mr W. Jones, of Penglanau Chapel, established a church when John and Elizabeth Humphreys, (later from Nantymarch) were made members; Robert and Margaret Roberts, Blacksmith; Thomas and Gwen Humphreys; Mrs Davies, Maentwrog Inn; and Margaret Owen, Tanybwlch, were added to the other eight. Owen Evans, Tanydduallt was supposed to be accepted at the same time, but that was delayed for a month, because he had taken a baby to be christened in a country church. The old people considered such detail. Owen Evans, and others of the members of the church in Penyglanau, were faithful, bright religious people; and their names are perfume to this day. At the beginning of June, a preaching meeting was held in Penyglanau, by Dr.Lewis, from Llanuwchllyn; Messrs W. Hughes, from Dinas; R. Williams, from Rhesycae; I. Griffiths, Caernarfon; and A. Shadrach, from Talybont. They had started preaching and keeping a school in Tyuchaf, (Penlan) Maentwrog, along with Penyglanau, about two years before this. At the end of 1809, and the beginning of 1810, Glanywern was built, at the side of the road from Trawsfynydd to Maentwrog, in the area between Penyglanauand Penlan, in order to unify the two schools and the two congregations. The venture cost the sum of £46 even before a spade was put into the ground, even though it was in a most inconvenient place and was costly to build; but that amount was what was paid for the place. A while after building the chapel, Mrs Lloyd tried to arrange for seating to be placed in it, which was owned by Cefnfaes, but that was opposed, as it could have done harm to the cause in future. The old lady was offended, and she left and joined the Calvinist Methodists, and she was welcomed readily. Glanywern chapel was a poor and common one, yet, many souls were brought to a knowledge that they were sinners, and that God, in Christ, accepts sinners. Mr W. Jones worked diligently to collect money towards it, and he succeeded in his task, except for twenty pounds, which was due to Mr W. Evans, from Llenyrch, and who promised to replenish pound by pound if that was needed. Mr Jones laboured faithfully in the Maentwrog area for twenty-five years, and he lived in this community for the last twenty five years of his life, in a smallholding called Tyddyndewyn. At the beginning of summer in 1820, he was struck by paralysis, in the lecture centre, in Towyn, Meirionethshire, and he died gloriously, in Tyddyndewyn, on 31st of the following October, in his 60th year, and he was buried in the cemetery in Trawsfynydd, with many of his friends and family. In May, 1822, this church, along with Penystryd, gave a unanimous call to Mr Edward Davies, from Rosylan, Caernarfonshire, to take over the ministerial care, and he agreed, a he continued coming to Maentwrogthree times a month for nearly nineteen years, and that mainly on foot, so that he wasn’t intruding on friends who would have had to care for his animal. He had seven miles and sometimes more to travel on the Sabbath, when coming and going in one day; and he would preach three times every Sabbath, besides administering the ordination frequently. During the time of his ministry, the remaining twenty pounds of the chapel debt was paid. The church did not show much increase and didn’t for some time but the same number continued to attend.
441
There was union and fellowship in the church; and there was never as much closeness between a minister and his church.
In 1839, and the following years, a dawn broke over the cause in Maentwrog, and many were added to the church and some were greatly hopeful that this was to keep. Most of them were young people. During this new period, the church became hard working andtwo young, lively men were chosen to be deacons, so that the cause had a new look. The old chapel had by now, started decaying, and was uncomfortable as a place of worship, besides being in a really inconvenient place. In 1840, with the support and effort of Mr a Mrs Lloyd, Tanybwlch Hotel, a spot was found on which to build a new chapel near the village, and it was called Gilgal. It is a beautiful, convenient chapel, which has been finished finely, and cost £424/ 0/ 3, and even better has been paid for. The church and the community recognises the generosity and faithfulness of Mr and Mrs Lloyd and the family to this day with this building, and their constant kindness towards religion. Mrs Lloyd was the sort of lady you would not often meet, and everyone in her service or who stayed in her house will respectfully remember her. When the building started on Gilgal, and the church was increasing in number and activities, they noted a need of more skills than it could have through Mr Davies’ ministry; he, therefore, gave up his ministry, and encouraged them to ask for their own minister, and he referred them to Mr Samuel Jones, who was, at that time, in the school at Marton. Mr Jonesaccepted the call, and on the 27th of December, 1840, he started his ministry in the old chapel, along with Saron, Ffestiniog; but his ordination was delayed until the new chapel was opened in May, 1841. In his ordination, Mr C. Jones, Dolgellau, preached on the nature of the church; the questions were asked by Mr H. Morgan, Sammah; Mr R. P. Griffiths, Pwllheli, prayed; Mr M. Jones, Llanuwchllyn, preached on the duty of the minister, and Mr E. Davies, Trawsfynydd, preached on the duty of the church. Mr Jones laboured with effort during his short time there, as if he knew that he would have little time in the vineyard. From his care of Saron, Ffestiniog, he went to Shropshire to collect towards the church, when he was struck by a mental illness, but he arrived home in a great deal of pain, and he died providentially after a short but very difficult time, on November 1st, 1843. The church had no minister for about two years after the death of Mr Jones, but in 1844, a unanimous call was sent to Mr Evan Evans from Barmouth, and he agreed. Mr Evans settled here at the beginning of November that year. He laboured faithfully with a great deal of diligence and much praise for about eight and a half years. In May, 1853, he left to take care of the congregational church in Llangollen. In the November after this, the church gave a unanimous call to Mr Owen Evans, Berea, Anglesey. He started on his ministerial labour at the beginning of January, 1854. He diligently worked as an evangelist to great praise. He left in March, 1857, to care for the Welsh Independent Church that met in Fetter Lane, London. After this a unanimous call was given to Mr John Jones, Cemaes, Anglesey, and he started on his work here on October 4th, 1857. The following ministers gathered on this day in Maentwrog to acknowledge the union. They were Messrs W. Ambrose, Porthmadog; S. Jones, Penmorfa; W.Roberts, Pentrefoelas; R. E. Williams, Llanddeusant; D. Griffith, the younger, Bethel; W. Edwards, Aberdare, and E. Davies, Trawsfynydd. After Gilgal was built, the old chapel of Glanywern was sold.
In 1859, a piece of land was obtained near to Utica chapel to use to make a cemetery, which cost £12, while drying it out and enclosing it cost £18. The whole lot was £30. Mr Jones laboured diligently in Maentwrog and Utica, with praise for about eight years, until he left to take care of the churches of Carmel and Gwryd, Llangiwc, Glamorgan, in May, 1865. The churches in Maentwrog and Utica spent almost a year without a minister, then they gave a unanimous call to Mr John Williams, St. Asaph, and he agreed with the call, and he started on his ministry in March 1866. He stayed here faithfully and very diligently for four years. In May, 1870, he left for America, and he and his wife and two-year old child arrived in New York successfully, without mishap. Mr Williams and his family stayed with his brother, who has been in ministry in America for quite some time. Mr Williams had accepted a unanimous call from the Welsh church in Pomeroy. They were travelling in a riverboat along the river Ohio, and when they reached their destination, and were about to disembark, somehow Mrs Williams fell over the side of the boat into water that was over eight yards deep, and as a result of the darkness they failed to save her, and if someone hadn’t grabbed hold of Mr Williams before he could rush after her, after he lost his self-control, it is quite likely that he and his little child –who was asleep in his arms – would have drowned with her. Mrs Williams was found about an hour after she fell, but her soul had reached its blessed home! Since Mr Williams left, the church has been without a minister.
Just one minister was raised here, he is,
• Robert Edward Williams. He was educated in the college in Bala, and he was ordained in Llanddeusant, Anglesey. Edward Williams, the father of the late R. E. Williams, was a respected lay preacher in the church for many years. He came here from Pwllheli in 1834, and had been preaching here for some years. He was a brother to Mr Robert Williams, who was a minister in Rhesycae, but who was struck by death in the flower of his years. Edward Williams was a true friend, and a sincere, and praiseworthy preacher. He laboured diligently as a minister in Maentwrog and the area but did not receive much recompense for his service. If there is any foundation for the assertion that a lay preacher undermines ministers, Edward Williams, was far from one of those in any way. In Pwllheli and in Maentwrog he proved that he was a true friend to his minister. He had an opportunity in the former place, during a period of dispute, to show what spirit he had. He died peacefully on August 29th, 1845, at the age of 51, and he was buried in the cemetery of the Independent Chapel in Porthmadog.
BIOGRAPHICAL NOTES
We mentioned Mr W. Jones, the first minister of the old church, in the history of Penystryd, and of all the other ministers that served her, only one had received God’s support which lasts till now, and that is the only one to whom we have to write a short memorial.
443
SAMUEL JONES. He was born in Dolyddelen, on July 10th, 1817. His parents John andMargaret Pritchard, were respected, religious people, and his father still lives, although at a good age, and is a praiseworthy, old lay preacher in Llanberis. Samuel showed a leaning towards preaching at a young age, and everyone foretold the fact. When he was around thirteen years old, his parents moved from Dolyddelen to Llanberis, and that brought him in contact with experiences that had hitherto strange to him. He used to go to fellowship meetings with his parents since he was a child, but after going to the quarry to work, and mixing with wild boys of his age, his gentleness left him; and despite his mother and father’s worry, he left the fellowship of the saints, as he had more freedom to "walk according to the course of this world." But he was soon caught, by He who had selected him from the womb to be a chosen vessel for His service – he returned to the fold from whence he wandered – and on the first Sabbath of the year 1833, he was accepted as a full member of the church in Jerusalem Llanberis, by his brother, Mr. Richard Jones, now in Llanidloes, who happened to be there that Sunday. After he joined the church, Samuel Jones dedicated himself to working with all his energy. His energy and liveliness was part of his nature. He could not be idle. There was no end on his labour with the Sunday School, not only for the branch to which he belonged but also in the six weekly meetings that were held at that time in the Caernarfon class. He started immediately, using his gift publicly in order to speak in those meetings, and in the moderation meetings and the temperance meetings in his area. He was one of the first in his community to sign the temperance certificate, and he continued as a faithful member of the temperance movement for the rest of his life. People noticed his gifts developing, and he was encouraged to start preaching, and inMarch, 1836, he gave his first public sermon. His education had been sparse, and he longed for more knowledge in order to qualify for his work. He decided to save as much money as he could in order to secure an education to prepare to enter a college. He left Llanberis, at Christmas, 1837, with his pack on his back, to go to Marton, Shropshire, to the school, and started his studies there before the end of the following January. He earned the love and respect of his teacher and his fellow students; and he made good progress in the different branches of knowledge. He applied to Brecon college in 1840, but he was unsuccessful, not because he wasn’t up to the standard, but because of some circumstances which were unrelated to him. But possibly it was for the best, as his Great Master saw that he had just a short time to work. He spent some months in Sirhowyserving in his brother’s stead, and his ministry there was notably successful. He was, at that time, full of the effect of the revival, so that he burned with a passion wherever he went, and the hand of the Lord was with him. He accepted a call to several places to settle as a minister, and we well remember his nervous demeanour, whether he went to Bethel and the associated churches near Bala, or to Maentwrog, but the tables turned, for some reason, on the side of the latter place, and his ministry started there, along with Llan, Ffestiniog, at the end of 1840. He was ordained at the same time as the opening of the new chapel in Maentwrog, May 26th, 1841. It is unusual to see a young minister starting his ministry under more favourable
444
circumstances. He dedicated all his energy to fulfilling his ministry, and he attacked, with determination, alcoholism and all the ungodliness in the area, and very soon his efforts flourished, but he fled from the defamation of those who were jealous of his success, but God was his support, as Daniel 6 said "they could find none occasion nor fault," that his detractors could get a grip on. The cause in LLan, Ffestiniog was weak, and the burden of the debt was overwhelming, and Mr. Jones decided to make an effort to release them from the burden, but it cost him his life. In October 1843, he made a journey through parts of Shropshire and Montgomeryshire to collect towards his task. When he was on his way, he felt a strange pain in his head, which increased as he continued. He went to spend the Sabbath with his friend, Mr H. James, in Llansantffraid, and he preached there in the morning and the afternoon, and that was the last time he preached. On the Monday he went to Bridgend, and the next day he travelled all the way home to Maentwrog, and appeared to know that he was coming home to die. He was eager to preach to his friends the following Sunday, but he couldn’t; brain fever had taken him, and he took to his bed, and didn’t get up again. He died on Wednesday, December 2nd, 1843, at the age of 26. He was buried in the churchyard of Porthmadog Independent Church, the following Saturday, and he was followed to his resting place by a great crowd of mourners, and amongst them a multitude of brothers in the ministry, who had the utmost respect for him. An excellent memorial was published to Mr Jones, by his good friend, Mr Ambrose, Porthmadog, from which we took the main facts of the above notes, and we add the following quotes as they were shown. "his body was tall and shapely, his hair was fair, his cheeks were rosy, his eyes gentle, and a friendly smile sat comfortably on his mouth. He was a complete and faithful friend. It isn’t often that such a young man has as many intimate friends. He spent pounds every year in sending letters in order to "keep the love." It could be said about him, as was said about Spencer, from Liverpool, that he carried his heart in a crystal bowl, as it was easy for all to see it. He lived in the company of God, and lived in the mystery of the Most High. He was convinced of the value of a personal religion to fulfil a holy office. His humble demeanour and his religious musings, were more useful than a service in the lecture hall. As a preacher, he was rapidly climbing to renown. He did not possess any remarkable features at the beginning of his ministry. He became more and more famous every day, and everybody was surprised to watch his progress as a minister. When he arose to greet the congregation, he appeared to be humble and calm, with the muscles of his face seeming to play between delight and pain, he announced a short verse to be sung, and he would read his text carefully. His first observation would always be striking, and he would run like lightning through the crowd, then he would appear to be aware that he had reached the end of the emotional vein. This would be followed with appropriate points as guidance for the teaching of his text. The sections of his sermons would always be natural, and be clear and smooth. Then, in neat language, ideas would follow as quickly as Job’s missionaries. After that, he would turn his whole power to seize his listeners’ consciences, and they would be caught in the face of the doctrine that was clarified, then the tear would be seen sparkling on his eyelash, with hundreds of similar ones in the people’s eyes, and when he finished speaking, he always left the listeners with a pleasant feeling at the foot of the cross."
445
UTICA
(Maentwrog parish)
Mae y lle hwn o fewn dwy filldir i Faentwrog, ar y ffordd i Drawsfynydd. Rhoddwyd tir i adeiladu y capel gan William Jones, yr hwn a fuasai am flynyddoedd yn America, ac yn aelod yn Utica, a galwodd y lle yma ar enw hwnw, oblegid y llwyddiant bydol a'r daioni crefyddol a fwynhaodd yno. Adeiladwyd y capel yn 1843, yn nhymor byr gweinidogaeth. Mr Samuel Jones, ac y mae y lle o'r dechreuad wedi bod dan yr un weinidogaeth a Maentwrog. Nid yw yr achos yn gryf yma, ond teimlid ar ol symud capel Maentwrog i'r pentref, fod yn angenrheidiol cael lle o addoliad er cyfleustra i bobl yr ochr uchaf, y rhai a arferent ddyfod i'r hen gapel. Mae mynwent helaeth yn nglyn a chapel Utica, a llawer wedi eu claddu ynddi. Trwy offerynoliaeth William Jones, yr hwn a roddodd dir i adeiladu, yn benaf y cychwynwyd yr achos yma, a bu trwy ei oes yn gefn mawr iddo. Yr oedd yn ddyn rhagorol - ffyddlon yn holl wasanaeth ty yr Arglwydd, a pharod i bob gweithred dda fel gwladwr a chrefyddwr.
Translation by Maureen Saycell (April 2011)
This is within a 2 miles of Maentwrog on the road to Trawsfynydd. Land to build was given by William Jones, who had been in America for many years in Utica, and named the chapel by that name because of the worldly success and religious comfort he enjoyed there. The chapel was built in 1843, during the short ministry of Mr Samuel Jones, and has always been under the ministry of Maentwrog. The cause is not strong here, but it was felt that after the chapel was moved into Maentwrog that there needed to be a place convenient for the upper side, that used to use the old chapel. There is a large cemetery with Utica, containing many burials. William Jones was instrumental in building this chapel and he supported it throughout his life. He was a great man in all aspects.
RHYDYMAIN
(Llanfachreth parish)
O Lanuwchllyn y seiniodd gair yr Arglwydd i'r ardal hon, a Mr Abraham Tibbot oedd y pregethwr cyntaf a ymwelodd a'r ardal. Nid yw dyddiad ei ymweliad cyntaf wedi ei gofnodi, ac nid yw enwau y personau hyny a agorodd eu tai i dderbyn yr efengyl wedi eu trosglwyddo i ni. Mae yn amlwg y byddai amryw o'r gymydogaeth hon yn arfer cyrchu i Lanuwchllyn, yn mhell cyn dechreu pregethu yma, ond ar ol dechreu pregethu ennillwyd dysgyblion newydd yma, fel y gwelwyd yn angenrheidiol codi capel, er cael yma foddion crefyddol yn rheolaidd. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1788, a ffurfiwyd yr aelodau perthynol i Lanuwchllyn oedd yn yr ardal yn eglwys, a gweinyddid iddynt gan Mr Tibbot, hyd ei ymadawiad a Llanuwchllyn, ac wedi hyny gan ei olynydd, Dr. George Lewis. Yn Hydref, 1802, dewiswyd Mr Hugh Pugh, yn weinidog i'r eglwys hon, a'r eglwys oedd erbyn hyn wedi ei ffurfio yn y Brithdir, a bu yma yn ddefnyddiol a llwyddianus iawn, a'i weinidogaeth yn gymeradwy gan yr holl wlad. Ond byr fu ei dymor, canys yn mhen saith mlynedd i adeg ei ordeiniad, " machludodd ei haul a hi yn ddydd," a bu farw Hydref 28ain, 1809, yn 29 oedd. Dilynwyd ef yn ei faes eang gan Mr Cadwaladr Jones, o'r Deildre, Llanuwchllyn, yr hwn a urddwyd yn Nolgellau, Iau Dyrchafael, 1811. Llafuriodd Mr Jones yma gyda diwydrwydd, a chysondeb, a llwyddiant graddol am wyth-mlynedd-ar-hugain, nes y teimlodd fod cylch ei weinidogaeth yn rhy eang iddo, ac anogodd yr eglwys yma a'r eglwys yn y Brithdir i edrych allan am weinidog iddynt eu hunain, ond trefnodd ar yr un pryd, i'w olynydd yn y lleoedd hyn newid ag ef un Sabboth o bob mis, fel yr oedd datodiad yr hen gysylltiad yn esmwyth o'r ddau tu.* Rhoddodd yr eglwys alwad i Mr Hugh James, o Ddinasmawddwy, ond a fuasai am yspaid dan addysg yn Marton, Sir Amwythig, ac urddwyd ef yn Rhydymain, Hydref 30ain a'r 31ain, 1839. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Roberts, Llanbrynmair; holwyd y gofyniadau gan Mr E. Davies, Trawsfynydd; gweddiwyd
* Ysgrif y diweddar Mr C. Jones.
446
am fendith ar yr undeb gan Mr H. Lloyd, Towyn ; pregethodd Mr M. Jones, Bala, i'r gweinidog, a Mr C. Jones, Dolgellau, i'r eglwysi. Pregethwyd hefyd gan Meistri E. Evans, Abermaw ; D. Price, Penybont; W. Roberts, Pennal ; J. Parry, Machynlleth ; H. Morgan, Sammah ; E. Griffith, Llanegryn ; T. Griffith, Rhydlydan, a J. Williams, Aberhosan.* Bu Mr James yma dair blynedd, a chyfrif yr amser y bu yma cyn ei urddo, ac yr oedd yr adeg y bu yma yn adeg lewyrchus ar grefydd. Triugain ac wyth oedd rhifedi yr aelodau ar ddyfodiad Mr James yma, a derbyniwyd ganddo driugain a naw, yn y tair blynedd y bu yma. Tynodd amryw ohonynt yn ol yn fuan, ond er hyny gadawodd yr eglwys agos yn ddau cymaint ag y cafodd hi. Yr oedd gwres a brwdfrydedd yn amryw o blant y diwygiad yn Rhydymain y pryd hwnw, nas gallesid meddwl dan amgylchiadau cyffredin fod pobl Sir Feirionydd yn alluog iddo. Yn Mai, 1843, symudodd Mr James i Lansantffraid, Sir Drefaldwyn, lle y mae yn parhau i lafurio hyd y dydd hwn. Yn mhen amser wedi ymadawiad Mr James, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr John Davies, yr hwn a urddasid ychydig flynyddoedd cyn hyny yn Ceidio, Sir Gaernarfon, ond gan nad oedd yr eglwys yn unol yn ei gylch, ac nad oedd yr eglwys yn y Brithdir yn cyduno i roddi galwad iddo, ni bu yma ond ychydig. Ymadawodd a'r enwad, ac unodd a'r Methodistiaid Calfinaidd, a bu yn pregethu yn eu plith. Ymfudodd i America yn 1855, a bu farw yno, gan adael teulu lluosog ar ei ol. Aelod gwreiddiol o'r Drewen, Sir Aberteifi ydoedd, a bu am ychydig yn athrofa Neuaddlwyd. Yr oedd yn ddyn da, ond nad oedd dim yn nodedig yn ei alluoedd meddyliol na'i ddawn fel pregethwr. Gwelodd gryn dipyn o galedfyd, ac nid oedd digon o yni yn ei natur i ymladd ystormydd bywyd.
Yn nechreu y flwyddyn 1847, derbyniodd Mr Robert Ellis, Rhoslan, alwad gan yr eglwys hon a'r eglwysi yn y Brithdir a Llanfachreth, a chynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad yn mis Ebrill y flwyddyn hono, ac y mae yn parhau yma yn ddefnyddiol a pharchus, a'r achos dan ei ofal yn ennill tir ac yn casglu nerth. Yn y flwyddyn 1868, gan fod y capel wedi myned yn hen, ac yn rhy fychan, heblaw ei fod yn anghyfaddas i'r oes, penderfynwyd codi capel newydd hardd, ac ymroddodd yr eglwys a'r ardal o ddifrif i wneyd hyny. Agorwyd ef y flwyddyn ganlynol, ac erbyn mis Medi, 1870, yr oedd yr holl ddyled wedi ei thalu, er ei fod yn werth £700. Mae llawer o hen bobl dda wedi bod yn nglyn a'r achos, y rhai y mae eu henwau yn werth eu cadw mewn coffadwriaeth. Robert Thomas, Penybont, oedd ddyn ffyddlon a synwyrol - gwasanaethodd swydd diacon yn dda ; ymfudodd ef i America. Coffeir gyda pharch am Hugh Robert a Dafydd Robert, Cefnybraich - hen gymeriad rhyfedd oedd Dafydd Robert blinodd lawer ar ei feddwl ei hun ac ar feddyliau eraill, yn nghylch pechod Adda, ac yr oedd cadwedigaeth y Paganiaid, yn bwngc a barodd iddo lawer o boen. Gadawodd £100 yn ewyllys at yr achos yn Rhydymain, llog y rhai sydd i fyned i gynorthwyo y weinidogaeth, heblaw symiau llai a adawodd at achosion eraill. Robert Edwards, Rhydymain, (tad Mr Roberts, Coedpoeth,) oedd ddyn deallus a doniol. Arferai ddweyd am gyfeillion Rhydymain, nad oedd gwell crefyddwyr na hwy pe buasai modd cario achos crefydd yn mlaen heb arian. Am y bobl gynt y mae yn debyg y dywedai hyny, ac nid am y bobl sydd yma yn bresenol.
* Dysgedydd, 1889. Tudal. 380.
447
Yn yr eglwys yma codwyd i bregethu :-
- Richard Owen, Brithfryniau. Pregethwr cynorthwyol a fu efe dros ei holl fywyd.
- Edward Roberts. Dechreuodd bregethu yn nhymor gweinidogaeth Mr James. Bu yn athrofa y Bala, ac efe oedd y cyntaf a urddwyd oddiyno. Mae yn awr yn Coedpoeth.
- Robert Edwards. Brawd i Edward Roberts. Bu yn athrofau y Bala ac Aberhonddu. Urddwyd ef yn Llanymddyfri, a bu farw yn mlodeu ei ddyddiau. Ceir ei hanes yn nglyn a Llanymddyfri.
Translation by Maureen Saycell (April 2011)
It was from Llanuwchllyn that God's word first came to this area, the first preacher was Mr Abraham Tibbot. No precise dates are known or who opened their doors to him. It is obvious that many from here attended Llanuwchllyn but many more new converts were won when preaching began here, and building a chapel was essential despite regular worship being held here. The chapel was built in 1788, a church was established and Mr Tibbot ministered to them until he left Llanuwchllyn, followed by Dr George Lewis. In October 1802 Mr Hugh Pugh was chosen as minister here and for Brithdir. His success here was short, he died 7 years later on October 28th, 1809, aged 29. He was followed by Mr Cadwalader Jones, Deildre, Llanuwchllyn who had been ordained at Dolgellau, Ascension Thursday, 1811. He worked here, with some success, for 28 years when he found the work too much and encouraged both churches to find a new minister. He also arranged to continue for one Sunday a month to smooth the changeover.* The church called Mr Hugh James, Dinasmawddwy, educated Shrewsbury, ordained in Rhydymain October 30th, 1839. The following officiated Mr J. Roberts, Llanbrynmair, Mr E. Davies, Trawsfynydd, Mr H. Lloyd, Towyn, Mr M. Jones, Bala, Mr C. Jones, Dolgellau. Sermons were also given by Messrs E. Evans, Barmouth, D. Price, Penybont, W. Roberts, Pennal, J. Parry, Machynlleth, H. Morgan, Sammah, E. Griffith, Llanegryn, T. Griffith, Rhydlydan and J. Williams, Aberhosan.** Mr James stayed for 3 years, a good time for religion. There were 68 on his arrival and he confirmed another 69 during his ministry. Many left quite soon afterwards but he left a church nearly twice as large as when he arrived. There was great zeal among the children of the revival here that was surprising. In May 1843 Mr James moved to Llansanffraid, Montgomeryshire, where he remains. Next called was Mr John Davies, ordained Ceidio, Caernarvonshire. It was not an united call, Brithdir did not want him, his stay was short. He went to the Calvinistic Methodists, eventually to America and died there leaving a large family. He was originally from Drewen, Cardiganshire - educated at Neuaddlwyd for a time.
In 1847 Mr Robert Ellis, Rhoslan, accepted a call from here as well as Brithdir and Llanfachreth. He took up the ministry in April of that year and remains here. In 1868 a new chapel was constructed, opened in 1870 with the full £700 paid by September. The following people should be remembered for their service to this cause - Robert Thomas, Penybont, deacon, went to America. Hugh Robert a Dafydd Robert, Cefnybraich - left £100 in his will with the interest to support the ministry at Rhydymain. Robert Edwards, Rhydymain, (father of Mr Roberts, Coedpoeth).
The following were raised to preach here:-
- RICHARD OWEN, Brithfryniau - supporting minister all his life.
- EDWARD ROBERTS - began preaching with Mr James - educated Bala - now in Coedpoeth.
- ROBERT EDWARDS - brother of Edward Roberts - educated at Bala and Brecon - ordained Llandovery - died young (see history).
* Ysgrif y diweddar Mr C. Jones.
** Dysgedydd, 1889. Tudal. 380.
BRITHDIR
(Dolgellau parish)
Nid oes dim yn agweddion allanol y llanerch hon o'r ddaear i osod arbenigrwydd arni, mwy na lluaws o lanerchau eraill yn ein gwlad. Nid oes yma dir ffrwythlawn, na daear gynyrchiol. Mae yn wir fod y mynyddau ban, ysgythrog, a welir o gylch y fan yn ymddangos yn fawreddog, pan yn gwisgo eu niwl goronau, a'r ffrydiau grisialaidd a fwrlymant i fyny o'r ddaear, ac a ddisgynant dros y creigiau, yn bur ac iachusol, a'r awelon balmaidd a wyntyllir gan y llwyni a'r coedwigoedd gwyrddlas yn adloniant i ysbryd y preswylwyr, ac yn sirioldeb calon i ymwelwyr achlysurol, etto nis gallasai y pethau hyn oll roddi i'r llecyn dinod yma o Feirionydd yr hynodrwydd y mae wedi ei gyrhaedd. Crefydd y lle sydd wedi gosod arbenigrwydd arno, ac y mae enw y Brithdir yn anfarwol yn nglyn a'r enwogion a gyfododd o hono. Dechreuwyd pregethu yn y lle cyn hir ar ol dechreu yn Rhydymain ; a Mr Abraham Tibbot, a'i gynorthwywyr yn. Llanuwchllyn, Robert Roberts, Tyddynyfelin; Rowland Roberts, Penrhiwdwrch ; John Jones, Afonfechan, a John Lewis, Hafodyrhaidd, oedd y rhai a ymwelent a'r lle yn mlynyddoedd cyntaf yr achos. Pregethid mewn ty annedd yn ymyl y fan lle y safai hen gapel y Brithdir, ac yn aml gorfodid pregethu y to allan i'r drws, gan na chynwysai y ty y rhai a ddeuant yn nghyd. Derbyniwyd ychydig bersonau oddiyma yn aelodau yn Rhydymain, ond yn fuan wedi sefydliad Dr. G. Lewis yn Llanuwchllyn, corpholwyd yr aelodau oedd yn y lle yn eglwys. Nid oeddynt ond wyth o bersonau, a dyma eu henwau - Sion Ellis, Mary Pugh, Perthillwydion, (mam H. Pugh, o'r Brithdir, wedi hyny,) Robert Roberts, o'r Henblas ; Sion Jones, o'r Gorwys; Sion Risiart Wmffre, a gwragedd y tri a enwyd olaf. Robert Roberts, o'r Henblas, oedd yr unig un o honynt a allasai ddarllen ychydig, ac arno ef yn benaf yn ymddibynid pan na byddai pregethwr yn digwydd bod. Yn y flwyddyn 1795, derbyniwyd Hugh Pugh, mab Perthillwydion, yn fachgen ieuangc un-ar-bymtheg oed, yn aelod o'r eglwys gan Dr. Lewis, a theimlai y frawdoliaeth fechan yn y lle fod ei gael yn ennill anmhrisiadwy iddynt, ac felly y profodd. Yn y flwyddyn 1800, adeiladwyd yma gapel, a mawr y llawenydd a deimlid wrth gael pabell i'r arch i drigo ynddi. Gan fod yn anmhosibl i Dr. Lewis weini i'r eglwys yn y Brithdir a Rhydymain ond yn anaml, oblegid eangder maes ei lafur, anogodd hwy i roddi galwad i Mr Hugh Pugh, Perthillwydion, yr hwn oedd wedi treulio blwyddyn yn fyfyriwr yn yr athrofa yn Ngwrecsam. Rhoddodd yr eglwysi alwad iddo, cydsyniodd yntau, ac urddwyd ef yma yn mis Hydref, 1802, a bu yma yn weithiwr difefl, hyd nes y gostyngwyd ei nerth ar y ffordd, ac y byrhawyd ei ddyddiau, a dis-
448
gynodd i'w fedd yn 30 oed. Yn mhen blwyddyn wedi marwolaeth Mr Pugh, rhoddwyd galwad i Mr Cadwaladr Jones, yr hwn a fuasai yn fyfyriwr yn yr athrofa yn Ngwrecsam, ac urddwyd ef yn Nolgellau, Mai 23ain, 1811, a bu gofal yr eglwys yma arno am wyth-mlynedd-ar-hugain, a pharhaodd i bregethu yn fisol yn y lle hyd ddiwedd ei oes. Dechreuodd Mr Hugh James ei weinidogaeth yma yn Mai, 1839, ac urddwyd ef yn Rhydymain, Hydref 30ain a'r 3lain, y flwyddyn hono, a bu yma yn ddefnyddiol hyd fis Mai, 1842, pan y symudodd i gymeryd gofal yr eglwysi yn Llansantffraid, Penygroes, a Llansilin. Yn ystod y tair blynedd y bu Mr James yma, derbyniodd driugain a dau o aelodau, a gadawodd yr eglwys a gafodd yn driugain a chwech, rhifedi yn ugain a chant. Nid oedd ond ychydig o'r gwrandawyr cyson, nad oeddynt y pryd hwnw wedi eu derbyn yn aelodau. Wedi ymadawiad Mr James, bu yr eglwys yma am rai blynyddau heb weinidog gan na chydsyniodd a'r eglwys yn Rhydymain, yn ei dewisiad o Mr John Davies, Ceidio. Yn nechreu y flwyddyn 1847, unodd yr eglwys hon a'r eglwysi yn Rhydymain a Llanfachreth, i roddi galwad i Mr Robert Ellis, Rhoslan; a chynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad yma, Ebrill 12fed, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur, gweinyddwyd gan Meistri J. Jones, Abermaw ; H. Lloyd, Towyn ; C. Jones, Dolgellau ; E. Davies, Trawsfynydd ; M. Jones, Bala ; H. Ellis, Llangwm , J. H. Hughes, Llangollen ; E. Griflith, Llanegryn, ac eraill; ac y mae Mr Ellis yn parhau yma yn y weinidogaeth. Adgyweiriwyd a helaethwyd y capel ar ol ei adeiladu y tro cyntaf, ond yn y flwyddyu 1860, penderfynwyd codi capel newydd ychydig oddiwrth yr hen gapel, a thaflodd yr ardalwyr eu holl galon i'r gwaith, fel y codwyd capel cryf, cadarn; a gwasanaethgar, gydag ysgoldy o'r to cefn iddo, ac y mae claddfa eang wrtho, a gweddillion lluaws o rai anwyl eisioes wedi eu rhoddi i orwedd ynddi. Mae achos cryf a llewyrchus yn y Brithdir, a'r maes gan mwyaf wedi ei feddianu gan yr eglwys yn y lle. Yr oedd yn y Brithdir lawer o hen bobl dda, a hyderwn fod y rhai sydd yno yn awr, yn deilwng o'u henafiaid. Sion Dafydd, cedd yn nodedig am ei ffyddlondeb. Bu Thomas Richard yn ddiacon yma am flynyddau, a chafodd fyw i oedran teg. William Richard, am yr hwn y crybwylla Ieuan Gwynedd, yn hanes wylnos ei fam, na chlywodd ei gyffelyb fel gweddiwr. Hugh Jones, Tynant, oedd gristion didwyll, a diacon ffyddlon - efe oedd y cyntaf gladdwyd yn mynwent y capel newydd. Evan Price, hynaf, Bronalchen, oedd yn ddyn call a thirion iawn ; ac yr oedd yma eraill mae yn ddiau o gyffelyb feddwl, er na chyrhaeddodd eu henwau hyd atom ni. Arferai Richard Jones, Llwyngwril ddweyd, mai mewn profiad y rhagorai hen bobl dda y Brithdir. - " Pwnc yn Rhydymain, profiad yn Brithdir, a meindiwch yr amser yn Nolgellau," oedd ei ddynodiad ef o neillduolion y tri lle.
Codwyd i bregethu pi yr eglwys hen: -
- Hugh Pugh. Cawn achlysur i sylwi arno ef etto.
- Richard Roberts, Henblas. Bydd genym air am dano yn nglyn a'r Cutiau, gan mai yno y terfynodd ei oes.
- Griffith Ellis, Maesyrhelma. Yr oedd yn un o bregethwyr yr eglwys yn ei chychwyniad, a bu farw yn mlodeu ei ddyddiau.
- Edward Roberts. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Nghwmafon, Morganwg, yn 1844, ac yno y mae etto.
- Evan Price, Bronalchen. Bu yn bregethwr ieuangc cymeradwy yn yr eglwys am flynyddoedd. Yr oedd yn wr ieuangc tra rhagorol - o ddeall
449
- ....................... cryf, yn fardd gwych, ac yn gerddor deallus. Ymgododd i barch ac ymddiried, ac yr oedd yn oruchwyliwr i foneddwr yn ei ardal. Ond ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a bu farw yn mlodeu ei ddyddiau. Rhoddodd Charles Edwards, Ysw., Dolserau, y boneddwr yr oedd yn oruchwyliwr iddo, gofadail ar ei fedd yn mynwent y Brithdir.
- Robert Ellis. Mab Mr. Ellis, y gweinidog. Bu am dymor dan addysg yn Manchester, ac urddwyd ef yn Carno.
- John E. Jones. Mae ef yn awr yn yr eglwys yn bregethwr cynorthwyol cymeradwy.
Yn yr eglwys yma y dygwyd Evan Jones (Ieuan Gwynedd) i fyny, ac y derbyniwyd ef yn aelod, ond fel y crybwyllasom, fwy nag unwaith, aelod yn Sardis, Llanwddyn, ydoedd, pan ddechreuodd bregethu. Mae maen caffadwriaeth iddo ar fur capel y Brithdir, ac nid yw Tycroes, lle y treuliodd flynyddoedd ei febyd, yn nepell oddiyma.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
HUGH PUGH. Ganwyd ef Tachwedd 22ain, 1779, yn Tynant-bach, Brithdrr. Yr oedd ei rieni Robert a Mary Pugh, yn bobl barchus a chyfrifol, ac yn well arnynt yn y byd na'r rhan fwyaf o'u cymydogion. Yr oedd pan anwyd ef yn eiddilach na phlant yn gyffredin, fel yr ofnid am ei einioes beunydd, ond cryfhaodd yn raddol, er na ddaeth byth yn gryf. Derbyniodd addysg gyffredinol dda, pan yn fachgen yn Nolgellau, ae wedi hyny yn Sir Amwythig, fel y daeth yn lled hyddysg yn yr iaith Saesonaeg, ac yn gyfarwydd yn elfenau gwybodaeth gyffredin. Yr oedd er yn fachgen yn nodedig ar gyfrif ei diriondeb a'i hynawsedd, fel yr ennillai ei dymer serchus iddo air da gan bawb. Symudodd ei rieni Perthillwydion, ac yn nglyn a'r lle hwnw yr oedd eu henwau yn fwyaf adnabyddus. Yr oedd ei fam yn aelod yn y gangen oedd wedi ei ffurfio yn Rhydymain, os nad oedd yn wir yn un o'r rhai a arferai gyrchu i Lanuwchllyn i gymundeb. Byddai Hugh Pugh yn arfer myned gyda'i fam i Rhydymain i'r gyfeillach, ond bu yn hir yn cloffi rhwng dau feddwl cyn rhoddi ei hun yn gyflawn i'r Arglwydd. Ofnid unwaith yr ymollyngai gyda'i gyfoedion gwyllt, ac un tro gwelwyd arwyddion ei fod wedi aros yn rhy hir yn y dafarn. Parodd yr amgylchiad dristwch mawr i'w fam, ac er nad oedd ei dad yn proffesu crefydd, yr oedd arno ofn mawr rhag i'w hoff fab droi allan yn oferddyn penrydd. Ond rhagflaenodd yr Arglwydd ef, a thrwy ddylanwad pregeth gyffrous o eiddo rhyw wr dyeithr oedd yn myned trwy y wlad, dygwyd ef i benderfynu rhoddi ei hun i'r Arglwydd, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod gan Dr. Lewis, pan nad oedd ond un-ar-bymtheg oed. Cyn pen dwy flynedd, anogwyd ef gan y cyfeillion i ddechreu pregethu, a dymunent arno ddarllen penod, a dywedyd ychydig oddiwrth ryw ranau o honi, yn y cyfeillachau a'r cyfarfodydd gweddio. Ni wyddai ei dad, gan nad oedd yn aelod, ddim am y peth, a rhyw noswaith wedi myned i'r cyfarfod yn yr hen lofft yn y Brithdir, beth a welai er ei syndod, ond Huwcyn (chwedl yntau,) yn codi i fyny, ac yn darllen penod ac yn esbonio ychydig arni. Tarawyd yr hen wr a syndod, ac a theimladau digofus, ac ni wyddai pa la yr ai, na pha beth a wnai. Plygai ei ben mewn cywilydd yn y gongl, a dywedai fod yn mron cnoi ei fysedd, a'i fod yn meddwl ei fod yn teimlo ei wallt yn sefyll ar ei ben, ac nad oedd yn teimlo ei ddillad am dano. Bu ar fedr llithro allan
450
yn ddistaw, ond aros yno fel ar ddrain hyd y diwedd a ddarfu iddo. Ond wedi cael y diwedd, allan ag ef, ac adref ar ffrwst, ac yn orlawn o ddigllonedd at y bachgen am ei ryfyg, ac erbyn cyrhaedd y ty, ebe efe wrth ei wraig, yr hon oedd gartref yn gwarchod, " Wel, Mari, Mari, welist ti 'riod ffasiwn beth, naddo yn fy myw - wyddwn i ddim lle 'roeddwn i, 'roeddwn i bron a myn'd o nghroen." "Wel, yn enw dyn, Robert bach, beth sydd yn bod ?" ebe ei wraig mewn braw, rhag fod rhyw anffawd wedi digwydd. " Beth sy'n bod yn wir ? ond y bachgen Huwcyn yna yn mynd i ddarllen penod ac i ,sponio yn y cyfarfod gweddi heno- welis i 'riod ffasiwn beth - hogyn drwg fel yna yn rhyfygu myn'd wrth ben Bibl Duw ;" ac erbyn hyn dyma Hugh druan i'r ty, heb wybod fawr beth oedd yn ei aros. Ond nid cynt yr oedd i fewn nag y dechreucdd ei dad arno mewn llais cryf ac ysbryd cyffrous - "Wel Huwcyn, yr ydw i yn dy roi di dan dy rybudd, na wnei di ddim peth fel yna etto-ti yn cymryd gair Duw i'w drin fel yna." Ond ni ddywedodd Hugh ddim, ond cilio o'r neilldu, ac ni ddywedodd ei fam ddim, a daeth y tad bob yn dipyn i gymodi a'r peth, ac i allu gwrando ei fab heb deimlo fod achos iddo guddio ei ben rhwng ei liniau. Ymgododd Mr Pugh yn fuan i boblogrwydd fel pregethwr, fel yr aeth son am dano ef trwy yr holl wlad oddiamgylch. Yr oedd cymeriad ei deulu mor barchus yn yr ardal-ei ddull yntau o bregethu mor hynod o ddengar-ei lais mor beraidd - ei ysbryd mor danbaid - a'i olwg ieuengaidd yn ychwanegol at hyny, yn ei wneyd yn nodedig o dderbyniol a phoblogaidd. Pan oedd tuag ugain oed, aeth i'r athrofa yn Ngwrecsam, ac arosodd yno flwyddyn. Teimlai yn awyddus i dreulio yr amser rheolaidd yno, ond oblegid rhyw amgylchiadau perswadiwyd ef ddychwelyd gartref, a chymeryd gofal yr eglwysi ffurfiedig yn Rhydymain a'r Brithdir. Cydsyniodd a hyny, ac urddwyd ef yn y lle olaf a nodwyd yn Hydref, 1802. Urddwyd ef yn y Brithdir oblegid ei gysylltiad blaenorol a'r lle hwnw, er mai Rhydymain oedd yr achos hynaf. Yr oedd capel wedi ei godi yno er y flwyddyn 1788, ac agorwyd ef y flwyddyn ganlynol, o fewn wythnos i agoriad capel Penystryd. # Yn fuan
* Ysgrif M. R. Ellis, Brithdir.
# Wedi i hanes Rhydymain fyned i'r wasg, derbyniasom air oddiwrth gyfaill Yn wedyd fod nifer o ddynion o sir Fflint, wedl dyfod yn fwnwyr i'r gymydogaeth, tua chanol y ganrlf ddiweddaf, a bod un o honynt yn aelod ac yn bregethwr perthynol i Newmarket, ac mai efe a bregethodd yno gyntaf, ac iddo ddyoddef erledigasth dost o herwydd hyny, ac mai rhyw deiliwr yno oedd yr erlidiwr gwaethaf. Yr oedd gwraig o enw Ellinor Davies, yn byw ar y pryd yn Hafodwyn, ac yn aelod yn Llanuwchllyn. Nid oedd hi yn yr oedfa, oblegid fod gormod o ddwfr yn yr afon, ond yr oedd yn gallu gweled y driniaeth oedd y pregethwr yn ei gael, ac wedi marcio y teiliwr allan fel un o'r rhai ffyrnicaf yn ei erbyn. Yn fuan ar ol hyn, digwyddodd i'r teiliwr fyned i Hafodwyn i ofyn ychydig laeth, ac nid oedd neb ond y wraig yn y ty ar y pryd. Gwahoddodd ef mewn yn garedig, ac wedi ei gael i fewn clodd y drws, a gafalodd mewn ffon gref, a dywedodd, " Wel, yr hen was a wyt ti yn cofio fel yr oeddit ti yn rhedeg ac yn lluchio y pregethwr ? Mi dalaf i ti heddyw am hyn, mi dy wnaf di, na redi di byth mwy ar ol yr un pregethwr." Dychrynodd y teiliwr trwy ei galon - canys yr oedd Ellinor Davies yn wraig rymus - ac addawodd os ca'i bardwn y tro hwnw, heb y fath beth byth mwyach. Ar yr amod hon, cafodd ddiangc y tro hwnw, heb fyned o dan ddysgyblaeth y pestwn. Nid yw ein hysbysydd yn gwybod fod yma neb y pryd yn proffesu crefydd ; ac ni wnaed cynyg ar bregethu yno hyd nes y daeth Mr A. Tibbot i'r wlad. Yr oedd y bobl ar ei ddyfodiad cyntaf, wedi parotoi i'w erlid yntau, ond dychrynodd rhai pan welsant ei fod yn " wr cadarn nerthol," a theimlodd eraill nerth ei weinidogaeth, fel nad oedd awydd arnynt i godi llaw yn ei erbyn. Dylasem grybwyll hefyd, fod ysgoldy perthynol i Rydymain, yr hwn a elwir Soar, wedi ei godi yn agos i Ddrwsynant, a chynhelir Ysgol Sabbothol ynddo yn rheolaidd, a phregethir ynddo yn achlysurol.
451
wedi ei urddo cafodd yr hyfrydwch mawr o dderbyn ei dad a'i unig chwaer i'r eglwys trwy ddeheulaw cymdeithas, ac mor effeithiol oedd yr olygfa, pan y gwelwyd ef yn estyn ei law dros y bwrdd i'w dad, fel y llwyr orchfygwyd pawb yn y lle, a methodd yntau ei hun a dyweyd yr un gair ond ymollwng i gydwylo dagrau llawenydd. Pregethodd y Sabboth hwnw ar y geiriau, "Ond myfi, mi a'm tylwyth, a wasanaethwn yr Arglwydd." Ni chyfyngodd ei lafur i'r Brithdir a Rhydymain yn unig, ond ymdrechai i helaethu terfynau yr achos. Dechreuodd bregethu yn Nolgellau, a phrynodd hen gapel i'r Methodistiaid Calfinaidd at wasanaeth yr enwad. Pregethodd yn Llanelltyd, a sefydlodd achos yno, ac ymwelai yn aml a'r Ganllwyd. Eangodd gylch ei lafur i'r Cutiau, a gwelodd yno ffrwyth i'w lafur, a byddai yn pregethu yn achlysurol yn Abermaw a'r Dyffryn, ac ymestynai ei lafur cyn belled a Llwyngwril, Llanegryn, a Thowyn. Wrth ysgrifenu at gyfaill iddo oedd yn fyfyriwr yn yr athrofa yn Ngwrecsam, dywed, " Yr wyf yn wastad yn bur llawn o waith, ac yr wyf yn gobeithio y byddaf felly tra y byddaf yn y byd, oblegid digonedd o waith yw fy nghysur penaf. Yr ydwyf yn pregethu dair gwaith hob Sabboth, a thair neu bedair gwaith yr wythnos heblaw hyny, mewn gwahanol fanau. Wrth hyn, chwi a welwch nad oes genyf ond ychydig o amser er difyrwch. Yr wyf yn cael hyfrydwch mawr wrth fyfyrio, ac yn gyffredin yn cael fy nghynorthwyo i bregethu yn gyhoeddus, gyda boddlonrwydd i fy meddwl fy hun, ac mor belled ag yr wyf yn deall i'r bobl, er i mi weled amser pan yr oedd mwy o arwyddion fod y gwirionedd yn effeithio er eu hiechydwriaeth." * Mae pob peth sydd wedi eu mynegi i ni am dano yn dangos yn eglur ei fod wedi ei gynysgaeddu a galluoedd dealldwriaethol, a chymwysderau gweinidogaethol pell uwchlaw y rhan fwyaf o'i gydoeswyr. Er fod ei edrychiad yn wylaidd, etto yr oedd gwroldeb neillduol ynddo. Yr oedd uwchlaw ofn dyn yn y pethau a dybiai yn rhwymedigaethau arno i Dduw. Ni phetrusai fynegi eu diffygion i ddynion yn eu gwynebau pan y credai eu bod i'w beio, ond gwnai hyny gyda'r fath dynerwch, fel yr argyhoeddid pawb mai am ei fod yn eu caru yr oedd yn eu ceryddu. Ond pan yn nghanol ei boblogrwydd a'i lwyddiant, a phawb yn meddwl nad oedd ond dechreu ymagor i oes o ddefnyddioldeb, nodwyd ef gan angau i ollwng ei saeth arno. Yr oedd yr haf diweddaf y bu byw wedi bod yn dymor o lafur neillduol iddo. Bu yn Llundain am rai wythnosau, a dychwelodd tua chanol mis Awst. Yr oedd yn Nhreffynon yn y gymanfa yn mis Medi yn pregethu gyda'i fywiogrwydd arferol. Yn mhen pythefnos wedi hyny, yr oedd yn Liverpool yn y cyfarfod blynyddol, yr hwn a gynhelid y pryd hwnw yn mis Hydref, ac ar ddydd Iau y 18fed dychwelodd adref. Bu mewn cyfeillach yn y Brithdir nos Wener, a chanai yn beraidd gyda'i frodyr. Nos Sadwrn ymddangosai yn fwy pruddaidd nag arferol, a dywedai wrth ei wraig, fod rhyw argraff ar ei feddwl na byddai yn hir gyda hwy, ac mai ei unig bryder oedd wrth feddwl ei gadael hi a'r plant yn amddifaid. Pregethodd y Sabboth yn Rhydymain, a dychwelodd adref fel arferol. Ond dechreuodd gwyno ddydd Mawrth, ac ni allai godi o'r gwely, yr oedd wedi meddwl pregethu ddydd Mercher, oblegid yr oedd Jubili teyrnasiad Sior III. am haner can' mlynedd, ond nis gallasai godi o'i wely, ac erbyn dydd Iau, gwelwyd ei fod dan y clefyd coch (scarlet fever), a chyn dydd boreu Sadwrn, yr oedd ei
* Dysgedydd, 1824. Tudal. 357.
452
ysbryd wedi ei ollwng o'r corph a ddirdynwyd gan y clefyd, i'r wlad lle "na ddywed y preswylwyr claf ydwyf." Dydd Mawrth canlynol, dygwyd gorph i'w gladdu mewn bedd newydd yn mynwent Dolgellau, gan dyrfa fawr o alarwyr dwys, y rhai a deimlant fod cymylau a thywyllwch o amgylch yr oruchwyliaeth ddygodd "Pugh o'r Brithdir" i'w fedd, cyn ei fod yn lawn ddeng-mlwydd-ar-hugain oed.
Translation by Maureen Saycell (June 2011)
There is nothing more outstanding about this area than any other in our country. There is no fertile land. True the mountains are majestic, the streams clear falling over the rocks and the scenery inspiring for locals and visitors, but this does not equal the greatness achieved by this insignificant part of Meirioneth. It is religion that has made it great, many well known people have been nurtured here. Preaching began soon after Rhydymain, Mr Abraham Tibbot, and his supporters from Llanuwchllyn, Robert Roberts, Tyddynyfelin, Rowland Roberts, Penrhiwdwrch, John Jones, Afonfechan, and John Lewis, Hafodyrhaidd, were the ones who came in the early years. Preaching took place in a house near the old chapel at Brithdir, often outside as there was no room. Some people from here became members at Rhydymain but soon after Dr G Lewis was settled at Llanuwchllyn the members were formed into a church here. There were only eight - Sion Ellis, Mary Pugh, Perthillwydion, (mother of H. Pugh, later Brithdir,) Robert Roberts, Henblas, Sion Jones, Gorwys, Sion Risiart Wmffre, and the wives of the last three. Robert Roberts, Henblas was the only one that could read a little, he was the mainstay when there was no preacher. In 1795 Hugh Pugh, aged 16, son of Perthillwydion, was accepted as a member by Dr Lewis, he proved to be as priceless as the small brotherhood hoped. A chapel was built in 1800, to much rejoicing. As Dr lewis was not able to minister to Brithdir and Rhydymain because of the size of the area, he encouraged them to send a call to Hugh Pugh, Perthillwydion, who had completed a year at Wrexham College. He accepted and was ordained in October 1802. He remained here until his untimely death at the age of 30. Within a year they called Mr Cadwalader Jones, a student at Wrexham, and he was ordained at Dolgellau on May 23rd, 1811. He continued to preach monthly for 28 years.Mr Hugh James began his ministry here in May 1830 and was ordained at Rhydymain on October 30th and 31st of that year. He stayed until May 1842 when he moved to Llansanffraid, Penygroes and Llansilin. During the 3 years he confirmed 62 new members and left the church with 120 members, they were 66 when he arrived. There were few regular listeners who had not become members by then. There was no minister for some time after that as they did not unite with Rhydymain in choosing Mr John Davies, Ceidio.
At the beginning of 1847, this church along with Rhydymain and Llanfachreth, called Mr Robert Ellis, Rhoslan, he was settled here on April 12th.The following officiated Messrs J. Jones, Barmouth, H. Lloyd, Towyn, C. Jones, Dolgellau, E. Davies, Trawsfynydd, M. Jones, Bala, H. Ellis, Llangwm , J. H. Hughes, Llangollen, E. Griffith, Llanegryn, and others; he remains the minister here. The old chapel had been renovated and extended but in 1860 it was decided to build a new chapel a short distance away. A strong, servicable chapel, with a schoolhouse behind and a large cemetery, was built. There is a flourishing cause at Brithdir, caring for most of the area. The following deserve mentioning - Sion Dafydd, Thomas Richard, William Richard, Hugh Jones, Tynant, Evan Price, senior, Bronalchen.
Those raised to preach here were:-
- HUGH PUGH- See biographical notes.
- RICHARD ROBERTS, Henblas - See Cutiau, where he died.
- GRIFFITH ELLIS, Maesyrhelma - One of the early preachers, died young.
- EDWARD ROBERTS - educated Brecon, ordained Cwmavon, Glamorganshire, 1844 where he remains.
- EVAN PRICE, Bronalchen - preached here for some years. An excellent young man, good understanding, poet and musician. Died young, Charles Edwards, esq., Dolserau, his employer erected a stone on his grave here.
- ROBERT ELLIS - Son of Mr. Ellis, minister. Educated Manchester, ordained Carno.
- JOHN E JONES - Now a supporting preacher.
- EVAN JONES (Ieuan Gwynedd) was brought up here and confirmed,but was a member of Sardis, Llanwddyn, when he began to preach. There is a memorial on the wall of the Chapel, his childhood home, Tycroes, is near by.
BIOGRAPHICAL NOTES *
HUGH PUGH - Born November 22nd, 1779, in Tynant-bach, Brithdir - parents Robert a Mary Pugh - general education in Dolgellau, then Shrewsbury, where he learned to speak English - confirmed by Dr. Lewis, aged 16 - His mother was a member, father not - discovered his son's talent when he went to listen at Brithdir, he was not happy but came to terms eventually - ordained Brithdir in October 1892. Brithdir - next to Rhydymain is a schoolhouse, named Soar, where Sunday School and occasional preaching is conducted. After settling here he confirmed his father and sister as members. He extended his preaching to Dolgellau,where he acquired the Calvinistic Methodist chapel for the cause, Llanelltyd, Ganllwyd, Cutiau, Barmouth, Dyffryn, Llwyngwril, Llanegryn, and Towyn. In a letter to a friend in Wrexham he stated he was always busy, satisfied and he hoped successful despite the fact that there was not as much evidence of souls being saved** - he died of scarlet fever - buried in Dolgellau before his 30th birthday.
** Dysgedydd, 1824. Tudal. 357.
* Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.
DOLGELLAU
Already translated etc, see /big/wal/MER/Dolgellau/Hanes.html
452/455
" Yr oedd Dolgellau yn un o'r gorsafoedd yn y rhai y pregethai yr enwog Hugh Owen, o Fronyclydwr, yn ei ymweliadau tri-misol, ac ymddengys fod ganddo yma gynnulleidfa fechan wedi ei chasglu, ac adnabyddid y lle y cyfarfyddent, fel y " Ty cyfarfod." Pa beth a ddaeth o'r " ychydig enwau " ar ol marwolaeth Mr. Owen, nis gallasem wybod, er gwneyd pob ymchwil, ond y mae yn eglur i'r Annibynwyr roddi i fyny bregethu yn y dref am gan' mlynedd. Pregethid llawer gan eu gweinidogion yn amgylchoedd y dref, a dichon i ambell un yn achlysurol bregethu yn y dref; ond ni wnaed un cynyg i ail gychwyn yr achos yma, hyd nes yr ymsefydlodd Mr. Hugh Pugh yn weinidog yn y Brithdir. Yr oedd y gwr ieuangc llafurus hwn mor llawn o ysbryd ei waith, fel y torai allan ar y ddeheu ar aswy i bregethu yr efengyl. Dechreuodd bregethu a chadw cymundeb yn Llanelltyd, cyn dechreu yn Nolgellau, ac elai amryw o'r dref yno i wrando, a derbyniwyd rhai o honynt yn aelodau ; ond wedi corpholi yr eglwys yn y dref, a chael capel cyfleus, deuai yr aelodau o Lanelltyd i Ddolgellau i gymundeb, ac ystyrient eu hunain yn rhan o'r eglwys yma. Dechreuodd Mr. Pugh bregethu yn Mhen-bryn-glas, Dolgellau, a chyn hir " derbyniwyd yn y Brithdir o gymydogaeth Dolgellau, fel ffrwyth llafur Mr. Pugh, cyn bod un eglwys ffurfiedig yn y dref ei hun gan yr Annibynwyr, John Evans, Talywaun, a'i wraig ; Evan Dafydd, Gellidwylan, a'i wraig; Ann Jones, Pantypiod; William Vincent, Morris Dafydd (Meurig Ebrill), Evan Owen, Gyllestra ; Catherine Thomas, Dolrisglog ; John Mills, Hafod-dywyll, a'i wraig ; Morris Evan, o'r Gilfachwydd; Elizabeth Ellis, John Lewis Owen, ac amryw eraill. Yn Ebrill, 1808, prynodd Mr. Pugh, addoldy y Trefnyddion Calfinaidd yn Nolgellau, yn nghyd a'r tai perthynol iddo am 500p., a phregethwyd yn y capel gan y ddwy blaid, hyd nes y daeth capel newydd y Trefnyddion yn gymwys iddynt i addoli ynddo. Unwaith cyn ymadawiad y Trefnyddion, gweinyddwyd Swper yr Arglwydd i gynifer o'r Annibynwyr a allwyd gael yn nghyd o Rydymain, Brithdir, Llanelltyd, a'r Cutiau, pryd yr eglurodd Mr. Pugh sylfaeni Ymneillduaeth, y dull Ysgrythyrol o ymarfer yr ordinhad o Swper yr Arglwydd, a dybenion sefydliad yr ordinhad, ac amryw o bethau pwysig eraill. Bu ei sylwadau yn achlysur i roddi tramgwydd i rai o'r Trefnyddion, ond rhoddasant foddlonrwydd mawr i lawer eraill.*" Evan Jones, tad Ieuan Gwynedd, oedd y cyntaf a dderbyniwyd o'r newydd gan Mr. Pugh yn Nolgellau. Tynodd doniau ennillgar ac ysbryd gwrol Mr. Pugh sylw y dref, a deuai cynnulleidfa dda i'w wrando, a daeth amryw o'r gwrandawyr i geisio yr Arglwydd gyda'i bobl. Ymroddodd Mr. Pugh i dalu y ddyled oedd yn faich trwm ar ysgwyddau gweiniad. Bu yn Llundain yn
* Cofiant Mr. Cadwaladr Jones. Tu dal; 11 a 12.
casglu, ond ni bu mor lwyddianus ag y disgwyliai. Ychydig uwchlaw 60p. a gasglodd. Ond yn nghanol ei lwyddiant a'i ddefnyddioldeb, tarawyd ef yn glaf gan y clefyd coch, a bu farw ar fyr rybudd, Hydref 28ain, 1809, er mawr alar i'r eglwysi bychain oedd dan ei ofal a cholled i ogledd Cymru yn gyffredinol.
Yr oedd sefyllfa yr achos yma ar y pryd, y fath fel y teimlid fod angen gweinidog yn ddioed. Yr oedd y wlad eang o Ddrwsynant i'r Abermaw, ac o Fwlchyroerddrws i'r Ganllwyd, darn o wlad oedd yn ddeunaw milldir o hyd, a deuddeg o led, heb neb i gymeryd gofal y praidd bychain oedd yn wasgaredig ar hyd-ddo. Heblaw hyny, yr oedd yr holl gapeli trwy y cylch, ond Rhydymain, dan faich trwm o ddyled. Yr oedd 230p. ar gapel y Brithdir a'r ty newydd a adeiladwyd wrtho i Mr. Pugh, a'i briod. Yr oedd 20p. ar Lanelltyd; 160p. yn aros ar gapel y Cutiau, ac yn agos i 500p. ar gapel Dolgellau. Cawsant gydymdeimlad a chynorthwy effeithiol gan amryw weinidogion. Aeth Mr. W. Hughes, Dinasmawddwy, i'r Deheudir, a chasglodd dros 100p. Casglodd Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, 20p. yn yr Amwythig, ac aeth Mr. W. Williams, Wern, i amryw leoedd yn y Gogledd, a chasglodd 40p., a bu yr help amserol yma yn ymwared mawr i'r achos.* Ond er yr holl gynorthwy a roddid iddynt, teimlai yr eglwysi amddifadrwydd mawr o eisiau gweinidog, ond teimlant ar yr un pryd, mai nid gorchwyl hawdd oedd cael olynydd teilwng o Mr. Pugh. Tueddid rhai i roddi galwad i Mr. David Morgan, Talybont, (Machynlleth, wedi hyny); ond gogwyddai eraill yn ffafr rhoddi galwad i Mr. Cadwaladr Jones, myfyriwr ar y pryd, yn athrofa Gwrecsam. Daeth yr eglwysi benderfyniad i roddi y ddau ger bron, ac i'r lleiafrif roddi i fyny i'r mwyafrif. Dywedir mai etholiad tyn a fu, ac mai un yn ychwaneg gafwyd dros Mr. Jones, na thros Mr. Morgan, ac mai un rheswm mawr dros Mr. Jones ydoedd, fod ei lais yn debyg iawn i eiddo Mr. Pugh. Ni bu un gronyn o ddrwgdeimlad rhwng Mr. Morgan a Mr. Jones, o herwydd yr amgylchiad, ac yr oedd y rhai a bleidiasant dros Mr. Morgan pan welsant eu bod wedi colli, mor selog a neb dros Mr. Jones. Derbyniodd yr alwad cyn diwedd haf 1810, ond cafodd gan yr eglwysi foddloni iddo aros yn yr athrofa hyd ddiwedd y flwyddyn hono. Brithdir oedd eisteddle y weinidogaeth yn nyddiau Mr. Pugh, ond ar sefydliad Mr. Jones, symudwyd eisteddle y weinidogaeth i Ddolgellau. Yma yn awr yr oedd yr eglwys luosocaf, er nad oedd ond pedwar-ar-bymtheg-ar-hugain o rifedi, a hyny yn cynwys yr aelodau a ddeuai o Lanelltyd, Ganllwyd, ac Islaw'rdre. Nid oedd ond pedwar-ar-ddeg-ar-hugain yn y Brithdir ; tri-ar-hugain yn Rhydymain, a dau-ar-bymtheg yn y Cutiau, yn gwneyd cyfanswm aelodau yr esgobaeth ar ddyfodiad Mr. Jones yma yn nechreu y flwyddyn 1811, yn gant-a-thri-ar-ddeg. Urddwyd ef yma Medi 23ain, 1811, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri G. Lewis, Llanuwchllyn; B. Jones, Pwllheli ; J. Roberts, Llanbrynmair ; J. Griffith, Machynlleth ; W. Hughes, Dinas; W. Jones, Trawsfynydd; J. Lewis, Bala; D. Roberts, Llanfyllin ; J. Davies, Aberhafesp ; W. Williams, Wern, a J. Powell, Rhosymeirch. Yr oedd Mr. Jones pan urddwyd ef, yn ddyn ieuangc hoyw, gwisgi, wyth-ar-hugain oed, ac er ei fod yn araf a phwyllog, yr oedd yn llawn o ysbryd ei waith. Cynyddodd yr achos yn y dref yn fawr trwy ei lafur, a gwnaed llawer o adgyweiriadau ar y capel, a thalwyd rhan fawr o'r ddyled oedd
*Ysgrif y diweddar Mr. Cadwaladr Jones.
arno. Bu Mr. Jones yn y De a'r Gogledd yn casglu, ac yn Liverpool, a'r Amwythig, a Llundain. Casglodd yn Llundain yn unig 132p. 4s. 2c. Yn mhen blynyddoedd gwelwyd yn angenrheidiol adnewyddu a helaethu capel, ac aeth y draul yn nglyn a hyny yn 448p. Daeth yr achos yma yn gryf a dylanwadol - Ysgol Sabbothol luosog a gweithgar, ac yr oedd nifer o ddynion yn yr eglwys, oeddynt yn nodedig ar gyfrif eu gwybodaeth Ysgrythyrol a duwinyddol. Graddol oedd ei chynydd, ond yr oedd yn sicr ; ac am y rhai a ychwanegid at yr eglwys, yr oeddynt yn gyffredin yn gyfryw ag a allent roddi rheswm am y gobaith oedd ganddynt. Cafodd Mr. Jones oes hir i'w dysgu, ac yr oedd yn meddu cymhwysderau arbenig i ddysgu y rhai oedd dan ei ofal yn mhyngciau athrawiaethol yr efengyl, yn gystal ag yn egwyddorion, trefn, a llywodraeth eglwysig. Cyfrifid yr eglwys yn nhymor gweinidogaeth Mr. Jones, yn un o'r rhai mwyaf goleuedig a deallgar, ac yr oedd yn nodedig am ei heddychlonrwydd.
Wedi llafurio yn ddyfal yn y weinidogaeth am chwe'-blynedd-a-deugain, dechreuodd deimlo fod cymdeithion henaint gydag ef, a meddyliodd y buasai cystal iddo ymddeol o'i ofalon gweinidogaethol, fel y gallai yr eglwys yn y dref gael rhyw un ieuengach i fwrw golwg trosti. Yn nechreu y flwyddyn 1858, cydunodd ef a'r eglwys i roddi galwad i Mr. Thomas Davies, myfyriwr o athrofa Aberhonddu ; ac urddwyd ef Gorphenaf 21ain a'r 22ain, o'r flwyddyn hono. Ar yr achlysur, gweinyddwyd gan Meistri J. Williams, Castellnewydd ; J. M. Davies, Maescwmwr ; J. Jones, Machynlleth ; W. Griffith, Caergybi ; J. Roberts, Llundain ; W. Roberts, Aberhonddu; N. Stephens, Sirhowy, a W. Rees, Liverpool. Rhoddodd yr hen weinidog adroddiad effeithiol o'i adolygiad ar saith-mlynedd-a-deugain o weinidogaeth yn y lle, ac ymddiosgai o'i ofalon gyda'r dymuniadau goreu i'w olynydd. Bu Mr. Davies yn weithgar a defnyddiol am y tymor byr y bu yma. Bendithiwyd yr eglwys ag adfywiad grymus, ac ychwanegwyd llawer at yr eglwys, yn enwedig o bobl ieuaingc. Nid arosodd Mr. Davies yma ond ychydig gyda phedair blynedd, canys symudodd i gymeryd gofal yr eglwys Saesonaeg, yn Painswick, swydd Gaerloyw. Bu yr eglwys yma dros rai blynyddau heb weinidog, ond daliai yr achos ei dir er pob peth, a daethpwyd i benderfyniad i adiladu capel newydd mewn man mwy cyfleus o'r dref, a chodwyd capel rhagorol, yr hwn yn nghyd a'r tir ar yr hwn y saif, a gostiodd 2800p. Agorwyd ef Mehefin 4ydd a'r 5ed, 1868. Derbyniodd Mr. Evan A. Jones, Llangadog, alwad gan yr eglwys yma yn Ionawr, 1868, ond oblegid cystudd ag angau yn ei deulu, bu am naw mis heb ei hateb yn gadarnhaol, ond o'r diwedd cydsyniodd a'r gwahoddiad, symudodd yma yn Ionawr, 1869, ac y mae er ei sefydliad yn hapus a defnyddiol yma. Mae dyled y capel newydd trwy haelioni y cyfeillion yn y lle, a'r swm a gafwyd am yr hen gapel, wedi ei dynu i lawr i 700p., ac yn ol fel yr ymddengys pethau yn awr, nid y pedair blynedd nesaf heibio heb weled y ddyled oll wedi ei thalu. Mae yr achos yma ar y cyfan, mewn gwedd iachusol, a holl gylchoedd cyhoeddus crefydd, o leiaf, yn eu llenwi yn lled ddifwlch. Cafwyd yma dipyn o drafferth yn nglyn a gwerthiad yr hen gapel, oblegid fod yr hen weithred yn gwahardd . werthu i un pwrpas, ond i fod yn gapel i'r Annibynwyr, a'r rhai hyny yn fedyddwyr babanod. Nid yn unig gofynai fod yr arian a geid am dano i fyned i'r un amcan ag oedd gan y rhai a'u hadeiladodd, yr hyn a gyfrifa llawer yn deg a rhesymol ; ond nid oedd yn ol y weithred i gael ei werthu i ddim ond i fod yn gapel, nac yn gapel i neb ond yr Annibynwyr. Trwy apelio at .y Charity Commissioners, cafwyd cenad i'w werthu, ar yr amod fod yr arian a geid am dano i fyned i dalu am y capel newydd, ac yr oedd pawb yn foddlawn i hyny, oblegid er mwyn cael yr arian i dalu am y capel newydd y gwerthid ef. Nid ystyrid yn gyflawn i'r arian a geid am dano i fyned at ddim ond rhywbeth cydnaws a golygiadau y rhai a aeth i'r draul i'w adeiladu a thalu am dano.
Mae yma lawer o hen bobl ddeallgar a chrefyddol wedi bod yn nglyn a'r achos. Evan James, y cylchwr, oedd yn hen grefyddwr nodedig. Cyfrifid ef yn gristion tawel, didwyll, ac yn gadarn yn yr Ysgrythyrau. Meurig Ebrill, oedd un o aelodau cyntaf yr eglwys yma, ac a fu fyw i oedran teg. Yr oedd yn ddyn deallus, ac yn fardd rhagorol. Henry Miles, oedd wr da a ffyddlon, a gair da iddo gan y rhai a'i hadwaenai oreu. Lewis Pugh, a fu yma am flynyddau lawer yn gefn mawr i'r achos, ac yr oedd mewn amgylchiadau bydol y gallasai wneyd llawer drosto. Bu ef a Mrs. Pugh yn groesawgar a llettygar i'r achos am flynyddau lawer. Mrs. Anwyl hefyd, oedd un o'r gwragedd y cofir am dani gyda hiraeth gan y rhai a ymwelent a'r lle gynt. Nid oes o'r to cyntaf yn aros yma ond Evan Jones, Ty'rcapel, ac y mae yntau yn llesg a methiedig ; ond y mae hiliogaeth rhai o'r rhai fu yn wyr enwog yma gynt, yn aros etto, ac yn dilyn llwybrau eu tadau.
Codwyd amryw bregethwyr yn yr eglwys hon, ac o'r cyfryw yr ydym yn sicr o'r rhai canlynol
- Owen Owens. Urddwyd ef yn Rhosycae, lle y treuliodd ei oes, a daw ei hanes yno dan ein sylw.
- Evan Evans. Urddwyd ef yn Abermaw, ac y mae yn awr yn Llangollen. Mae ei enw yn ddigon hysbys yn eglwysi yr enwad yn Nghymru.
- Thomas Davies. Nid fel pregethwr yn gymaint yr hynododd ei hun, ag fel apostol yr Ysgol Sabbothol. Ganwyd ef Ebrill 15fed, 1777, yn Green, Castellmoch, plwyf Llanrhaiadr-yn-mochnant. Treuliodd lawer o flynyddoedd boreu ei oes yn Lloegr, a chan ei fod yn meddu athrylith gelfyddydol gref yn naturiol, rhoddodd gweled tipyn o'r byd fantais iddi i ymddadblygu. Gwnaeth a'i law ei hun rai peirianau tra chywrain, a daeth i Ddolgellau i ddechreu, gyda bwriad o osod un o'r dyfeision cywrain mewn ymarferiad, ond aflwyddianus fu yn ei gynygion, a bu raid iddo dalu costau y methiant. Ond pan yma y dygwyd ef i adnabod ei gyflwr fel pechadur, a hyny trwy weinidogaeth Mr. Pugh, o'r Brithdir, a derbyniwyd ef yn aelod o'r gangen a ymgyfarfyddai yn ol fel y byddai cyfleustra yn y Cutiau a Llanelltyd. Yr oedd yn ddyn o wybodaeth eang ac o feddwl grymus, a chyflwynodd agos ei holl lafur i wasanaeth yr Ysgol Sabbothol. Credai ef y gallesid gwneyd y sefydliad gwerthfawr hwnw yn llawer mwy effeithiol er cyrhaedd yr amcanion mewn golwg, a gwnaeth ei oreu yn mhob ffordd a farnai ef yn gyfaddas er cael hyny oddiamgylch. Cyhoeddodd Hyfforddwr ymarferol yr Ysgol Sul. Argraffodd werth 100p. o'r llyfr, a hysbysodd y buasai y cwbl a geid oddiwrtho yn cael ei roddi i drysorfa y Gymdeithas genhadol. Aeth ar daith trwy holl Gymru i gymell ei lyfr, ac i roddi engreifftiau o'r dull a gymerad: wyai efe i sylw yr ysgolion. Gosodai bawb i ddarllen o atalnod i atalnod, a gwnai hyny yn y teuluoedd lle y llettyai, ac yn yr Ysgolion Sabbothol. Effeithiodd ei ymweliad er daioni mewn llawer o fanau. Cauai ei lygaid, wrth wrando y dosbarthiadau yn darllen, ond yr oedd ei glustiau yn agored fel na ddiangai yr un camgymeriad a wneid heb ei ...........