Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

Montgomeryshire section (Vol 1) - Pages  374 - 387

See main project page

Proof read by Maureen Saycell (Sept 2008)

Chapels below;

  • (Continued)  TRALLWM  (Saesonaeg)
  • TRALLWM. (CYMREIG) (with translation)
  • GROESLWYD (with translation)

 


Pages 374 - 387

374

 (Continued)  TRALLWM  (Saesonaeg)

un cyfarfod eglwysig ag y derbyniwyd ymddiswyddiad (resignation) Mr Kerrison, rhoddwyd galwad i Mr J. Davies, y pryd hwnw o Groesoswallt. Yr oedd Mr Davies yn nodedig o gymeradwy a phoblogaidd fel pregethwr, ond symudwyd ef trwy farwolaeth yn Chwefror, 1851. Wedi hyn, bu un Mr T. Nash, o Lundain yma am tuag wyth mis ar brawf, ond methwyd cyduno i roddi galwad iddo. Yn Ionawr, 1853, rhoddwyd galwad i Mr J. B. Fletcher, MA., mab yr enwog Dr. Fletcher, o Lundain ; ond yn mis Medi, yr un flwyddyn, rhoddodd ei weinidogaeth i fyny. Yn Mawrth, 1855, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr F. C. Dowthwaite; cydsyniodd yntau a hi, a dechreuodd ei weinidogaeth yma ar y Sul cyntaf yn Mai, yn yr un flwyddyn. Yn y flwyddyn 1866, gorfodwyd Mr Dowthwaite, gan gystudd i roddi ei weinidogaeth i fyny. Awst 26ain, 1866, rhoddwyd galwad i Mr David Rowlands, BA., Llanbrynmair, a'r hon y cydsyniodd, a dechreuodd ei weinidogaeth y Sabboth cyntaf o Dachwedd. Bu Mr Rowlands yma yn dderbyniol, a'i lafur wedi ei goroni a gradd helaeth o lwyddiant; and y mae yn awr, wedi derbyn galwad oddiwrth yr eglwys Saesonaeg yn Nghaerfyrddin, ac wedi penderfynu myned yno.

Bychan a chydmarol wan yw yr achos hwn wedi parhau o'i gychwyniad hyd yn awr, er fod yma o bryd i bryd, amryw bersonau dylanwadol a gweithgar iawn wedi bod yn dal cysylltiad ag ef. Gwelir fod yma un-ar-ddeg o weinidogion wedi bod yn dilyn eu gilydd mewn tri ugain a deunaw o flynyddau, heblaw dau neu dri eraill fuont yma ar brawf. Anffawd dost i eglwys yw newid ei gweinidogion yn fynych iawn. Mae yr eglwys y digwyddo hyny iddi yn sicr o fod naill ai yn rhy fyrbwyll ac annoeth yn ei dewisiad o weinidogion, neu yn eglwys anghydfyddus ac annymunol i weinidogion i fyw gyda hi. Yr ydym yn ofni fod pob un o'r drygau hyn wedi bod yn nglyn a'r eglwys hon, i ryw fesur, trwy holl dymor ei bodolaeth. Er na fu yma erioed unrhyw derfysg cyhoedd a gwaradwyddus, yr ydym yn deall fod llawer o fan ymrysonau ac anghydwelediad wedi bod yn fynych yn achos nychdod iddi.

Fel y nodasom, bu yma o bryd i bryd, rai dynion rhagorol yn dal cysylltiad a'r achos. Mr Thomas Evans, oedd y prif offeryn i'w gychwyn, a bu ef yn brif offeryn iddo trwy ei oes, ac y mae ei blant ar ei ol wedi bod yn gynorthwywyr effeithiol iawn. Mae Meistri John Evans, Llundain, ac Edward Evans, Worcester, amryw weithiau, wedi cyfranu rhoddion tywysogaidd at ddwyn gwahanol dreuliau y lle. Yn Mawrth, 1868, y bu farw Mrs Jones, merch Mr Thomas Evans, yn 84 oed, ar ol bod yn aelod ffyddlon a defnyddiol lawn am 68 o flynyddau. Bu ei marwolaeth yn golled fawr i'r eglwys. Yn Tachwedd, 1869, dewiswyd Mr Parker, un o ddiaconiaid yr eglwys hon, yn faer y dref, ac fel Ymneillduwr egwyddorol a chyson, gwrthododd fyned yn ol yr arfer i eglwys y plwyf ar y Sul canlynol i'w etholiad, ond aeth fel y dylasai, i'w gapel ei hun. Cynhyrfodd hyny ddigofaint y Ficer a'r eglwyswyr mwyaf penboeth yn ofnadwy, ond nid oedd ganddynt ddim i'w wneyd ond chwyrnu

Yr unig un y gwyddom am dano a ddechreuodd bregethu yn yr eglwys hon, oedd Mr A. Wright. Anfonwyd ef i athrofa Hackney, yn Hydref, 1843, and nis gwyddom ddim yn ychwaneg o'i hanes.

Mae y capel yma wedi cael ei adgyweirio a'i brydferthu yn fawr yn ddiweddar, ac ysgoldy cyfleus wedi ei adeiladu yn ei ymyl. Dygwyd rhan fawr o'r draul o brynu y tir y mae yr ysgoldy arno, yn nghyda thraul adeiladaeth yr ysgoldy, ac adgyweiriad y capel, gan Mr Evans, Worcester.

375

TRALLWM (CYMREIG)

(Welshpool parish)

Dechreuwyd yr achos Cymreig mewn ystafell yn y rhan uchaf o'r dref, yn mis Mai, 1843. Mr R. D. Thomas, Penarth, fu y prif offeryn i gychwyn yr achos ; ac arno ef yn benaf yr oedd gofal yr eglwys am y blynyddoedd cyntaf wedi ei chorpholiad. Nid oedd nifer yr aelodau ar y dechreu ond ychydig, ond cyn pen dwy flynedd yr oeddynt wedi cynyddu i ddeg-ar-hugain, a'r ystafell lle y cyfarfyddent yn orlawn o wrandawyr bob Sabboth. Yn nechreu 1845, prynwyd hen gapel y Saeson am £275, am eu bod hwy yn codi capel newydd ; ac wrth gael cynyg arno am bris mor isel, ag ystyried ei faint, bernid y dylasid ei ddiogelu i'r enwad. Yn 1846, rhoddodd Mr Thomas, Penarth yr eglwys i fyny, oblegid fod maes ei lafur yn rhy eang; a rhoddwyd galwad i Mr Evan Thomas, o Lanrwst, yr hwn a urddwyd yma Rhagfyr 13eg, 1846. Ar yr achlysur, darluniwyd natur eglwys, a holwyd y gweinidog gan Mr R. D. Thomas, Penarth ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr T. Pierce, Liverpool; pregethodd Mr S. Roberts, Llanbrynmair, i'r gweinidog, a Mr J. Davies, Llanfair, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri R. Thomas, Croesoswallt , a H Kerrison, Trallwm. Bu Mr Thomas yma yn ddiwyd a llafurus hyd 1850 pryd y symudodd i gymeryd gofal yr eglwysi yn Main, Meifod, a Phontrobert. Yn fuan wedi ymadawiad Mr Thomas, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr Robert Hughes, yr hwn a fuasai yn fyfyriwr yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Ionawr 5ed, 1851. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr W. Roberts, Penybontfawr ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr T. Davies, Trallwm ; pregethodd Mr D. Morgan, Llanfyllin, i'r gweinidog, a Mr S. Roberts, Llanbrynmair, i'r eglwys. Bu Mr Hughes yma dairblynedd-ar-ddeg, ac adfywiodd yr achos yn fawr yn y tymhor hwnw. Cynyddodd y gynnulleidfa - lluosogodd yr eglwys - a thalwyd yr oll o ddyled y capel. Yn nechreu 1864, symudodd i Cendl, Sir Fynwy. Cyn diwedd y flwyddyn hono, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr John. Price, a fuasai yn fyfyriwr yn athrofa y Bala, ac urddwyd of Ionawr 24ain, 1865. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr D. M. Davies, Llanfyllin ; holwyd y gofyniadau, a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr H. James, Llansantffraid ; rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr M. D. Jones, Bala, a siars eglwys gan Mr R. Hughes, Cendl. Byr fu tymhor gweinidogaeth Mr Price, oblegid ymddangosodd arwyddion o'r darfodedigaeth ynddo yn fuan wedi ei ordeinio; a bu farw yn mhen naw mis, ar ddydd yr Arglwydd, Hydref 22ain, 1865. Mae yr achos er hyny wedi bod yn amddifad o weinidog, ond y mae golwg siriol ar yr eglwys a'r gynnulleidfa.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

JOHN PRICE. Ganwyd ef yn Merthyr-cynog, Sir Frycheiniog, yn mis Mai, 1842. Enwau ei rieni oeddynt Richard a Margaret Price. Bu ei fam farw o'i flaen. Nid oedd ei rieni ond isel yn y byd ; ond rhoddasant iddo yr addysg oreu a allasai eu hamgylchiadau ganiatau. Derbyniwyd ef yn aelod yn. Bethania, Merthyr-cynog, yn adeg y diwygiad yn 1859 ; ac wrth weled ei gymhwysderau anogwyd ef i arfer ei ddawn i bregethu ; a

376  

rhoddodd yr eglwys £5 iddo er ei gynorthwyo i gael addysg. Derbyniwyd ef i athrofa y Bala, yn Mawrth, 1863. Dywedai ei athraw Mr M. D. Jones, am dano : - " Yr oedd Mr Price yn berson hardd, yn fyfyriwr da, ac yn meddu galluoedd cryfion. Yr oedd yn ddyn ieuangc pur gyflawn, ac yn ymadroddwr cymeradwy. Yr oedd yn Sais gwych, ac yn goeth ei arferion ; yr oedd bob amser yn rhagori mewn coethineb. Ni chafwyd dim gofid gydag ef, ond yr oedd yn wastad i fyny a'r marc, ac yn wr ieuangc hollol barchus. Anogasom ef i ymadael oddiyma ar ol bod yn yr athrofa tua dwy flynedd, am yr ofnem ei iechyd. Ni chafodd amser i fod yn ysgolhaig, ond mewn pethau hanfodol ac ymarferol. Mae ef yn deilwng i gael ei ddal allan yn esiampl i ieuengctyd ein gwlad ; canys yr oedd efe yn ddyn ieuangc gwir ymdrechgar i gyrhaedd gwybodaeth, ac i ymragori yn mhob rhinwedd."* Ni chafodd ond tymhor byr yn y weinidogaeth, ond disgynodd i'r bedd heb golli ei goron, yn 23 oed ; a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys newydd Trallwm ; ac yr oedd y teimlad a amlygid, yn dangos ei fod yn ystod y tymhor byr y bu yn y lle, wedi ennill serch a chymeradwyaeth Cymry a Saeson.

Translation by Maureen Saycell (Jan 2011)

The Welsh cause was started in a room in the upper part of town in May 1843 by Mr R. D. Thomas, Penarth, and he was the main carer in the first years. There were few members initially but after 2 years there were 30 members with many listeners. In 1845 the old English chapel was bought for £275, they had built a new one. Mr Thomas, Penarth, left in 1846 and Mr Evan Thomas, Llanrwst was called. He was ordained December 13th, 1846. Those officiating were - Mr R. D. Thomas, Penarth, Mr T. Pierce, Liverpool, Mr S. Roberts, Llanbrynmair, Mr J. Davies, Llanfair. Sermons were given by Messrs R. Thomas, Oswestry and H Kerrison, Newtown. Mr Thomas stayed until 1850  when he moved to Main, Meifod, and Pontrobert. Soon after they called Mr Robert Hughes, student at Brecon, ordained January 5th, 1851. Those officiating were  Mr W. Roberts, Penybontfawr, Mr T. Davies, Welshpool, Mr D. Morgan, Llanfyllin and Mr S. Roberts, Llanbrynmair. Mr Hughes was here for 13 years and the cause strengthened in that time, the debt was also paid. He moved to Cendl in 1864. Next they called Mr John Price, student at Bala, ordained January 24th, 1865 - officiating were  - Mr D. M. Davies, Llanfyllin, Mr H. James, Llansantffraid, Mr M. D. Jones, Mr R. Hughes, Cendl. He was not here long, he contracted tuberculosis and died in 9 months on October 22nd, 1865.

BIOGRAPHICAL NOTE *

JOHN PRICE - Born  Merthyr-cynog, Breconshire, May, 1842 - parents were Richard and Margaret Price - Chapel contributed £5 towards his education - went to Bala College in March 1863 - well thought of at College - recommened to leave the area for a while to improve his health - he did not last long and died age 23 - buried in Welshpool.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

GROESLWYD

Translation available on /big/wal/MGY/Guilsfield/Hanes.html

"Mae y lle hwn tua milltir o Gygigfa, (Guilsfield), a thair milltir o dref y Trallwm. Nid yw yn mhell o fod tua haner y ffordd o'r Cloddiau-cochion i'r Pantmawr. Dechreuwyd pregethu yma, fel yr ymddengys, tua'r flwyddyn 1820, gan Mr George Ryan, gweinidog y Trallwm, yn Moelygarth, lle y preswyliai Mr Griffith Williams, yr hwn am lawer o flynyddoedd wedi hyny a fu yn brif atteg i'r achos yn y lle. Rhoddodd dir yn rhad i adeiladu capel arno, ac i fod dros byth yn feddiant i'r eglwys. Dyddiad y weithred yw Medi 17eg, 1823. Tynwyd hi allan gan Syr John Bickerton Williams, ac y mae enwau un-ar-hugain o ymddiriedolwyr wrthi ; ond y mae pob un o honynt wedi marw er ys blynyddau. Mae y lle wedi bod dan ofal gweinidogion Seisnig y Trallwm fynychaf, ond bu gweinidogion y Sarnau ar brydiau yn gofalu am y lle. Yn 1853, cymerodd Mr R. Hughes, Trallwm, ofal yr eglwys, a bu yn gweinidogaethu yma hyd ymadawiad i Cendl, a bu y lle dan ofal Mr J. Price, Trallwm, am yr ychydig fisoedd y bu efe byw ar ol ei ordeinio, er hyny ni bu yma un gweinidog sefydlog. Achos Saesonaeg sydd yma o'r dechreuad, a'r Annibynwyr a gafodd y cynyg cyntaf ar y gymydogaeth, ac oni buasai esgeulusdra mawr, gallasent fod wedi cymeryd meddiant llwyr o'r ardal. Nid oes dim yn eisiau etto, ond sel dduwiol yr hen Annibynwyr a fuont yn addoli yn y Cloddiau-cochion a'r Pantmawr er adennill y tir a gollwyd."  

 

BERRIEW

Cefnyfaenor y gelwir y lle hwn weithiau, ond Ebenezer ydyw enw y Capel, ac y mae yn mhlwyf Berriew. Pregethodd Mr John Roberts, Llanbrynmair; Mr James Davies, Aberhafesp ; a myfyrwyr y Drefnewydd wedi hyny, lawer yma, ond nis gallasom gael y manylion yn

* "Cofiant y Parch. John Price, gan D. M. D." Dysgedydd,1866. Tudal. 161.

377

mha le yma ; ac y mae yn ansicr a gorpholwyd yma eglwys cyn 1826. Rhoddwyd gweithred ar y tir i godi capel yma yn 1829, ac yr ydym yn cael enwau Meistri Samuel Roberts, Llanbrynmair ; a Samuel Bowen, Drefnewydd, yn mysg yr ymddiriedolwyr cyntaf.  Ar y 25ain o Fai, 1830, urddwyd Mr John Williams, myfyriwr o athrofa y Drefnewydd, yn weinidog yma. Traddodwyd y gynaraeth gan Mr J. Roberts, Llanbrynmair. Derbyniwyd cyffes ffydd y gweinidog gan Mr T. W. Jenkyn, Croesoswallt. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr G. Ryan, Trallwm. Anerchwyd y gweinidog gan Mr E. Davies, Drefnewydd, a'r gynnulleidfa gan Mr S. Bowen, Ceri. Nid ymddengys i Mr Williams fod yma yn hir, ac nid oes dim neillduol yn cael ei ddyweyd am sefyllfa yr achos yn yr yspaid y bu yma. Dilynwyd ef gan Mr Evan Davies, myfyriwr o'r athrofa yn y Drefnewydd, yr hwn a urddwyd yma Chwefror 13eg, 1839. Traddodwyd y gyn-araeth gan Mr S. Roberts, Llanbrynmair. Holwyd y gweinidog gan Mr T. Jones, Minsterley. Offrymwyd yr urdd-weddi gan Mr M. Davies, Ceri. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr T. Morgan, Trallwm, ac i'r eglwys gan Mr J. Davies, Llanfair. Disgynodd yr achos i agwedd isel yn ystod y tymhor y bu Mr Davies yma; ac er fod y capel mewn man cyfleus yn nghanol gwlad dda odiaeth, ychydig o'r ardalwyr a ddeuai wrando. Wedi ymadawiad Mr Davies, tua'r flwyddyn 1845, daeth Mr William Daniel yma, yr hwn a urddasid yn Ceri, a bu yma yn egniol am bedair blynedd ; a rhoddid pob help a ellid i'r lle gan Genhadaeth Gartrefol Maldwyn ; ond ni bu yma ond ychydig lwyddiant ; wedi hyny bu Mr Thomas Davies yma am flynyddoedd, nes y symudodd i Gaerdydd. Er's mwy nag ugain mlynedd bellach, y mae gofal y lle yn benaf ar Mr John Owen, Drefnewydd ; ond ar wahanol adegau bu Meistri J. Evans, a T. Adams, Drefnewydd, ac R. Hughes, Trallwm, yn cydofalu, a bu gweinidogaeth Mr Hughes, yn arbenig, yn dra derbyniol yma. Mae yma gryn nifer o amaethwyr cyfrifol yn barod i agor eu tai i lettya a chroesawi pregethwyr ; ond ychydig o honynt sydd wedi rhoddi eu hunain i'r Arglwydd. Mae y wlad oll yn hollol Seisnigaidd, ac yn yr iaith hono y dygir yr holl wasanaeth yn mlaen. Mae enw Mrs Longford, Keel, yn deilwng o'i gofnodi yn nglyn a hanes yr eglwys hon, ar gyfrif ei sel, a'i hymdrech, a'i charedigrwydd mewn cysylltiad a'r achos.

Translation by Maureen Saycell (Aug 2009)

This place is sometimes known as Cefnyfaenor, but the chapel is called Ebenezer and is within the parish of Berriew. Mr John Roberts, Llanbrynmair, Mr James Davies, Aberhafesp, both preached here, as well as many students from Newtown, but we have no details of the location. It is also uncertain as to whether the church was established here before 1826. The deed for the land to build the chapel is dated 1829, and we have the names of Messrs Samuel Roberts, Llanbrynmair and Samuel Bowen, Newtown, among the first trustees. On May 25th, 1830, Mr John Williams, a student at Newtown, was ordained here. The opening address was given by Mr S. Roberts, Llanbrynmair. The questions were asked by Mr T. Jones, Minsterley.  Mr M. Davies, Ceri, offered the ordination prayer. A sermon to the minister from Mr T. Morgan, Welshpool, and to the church from Mr J. Davies, Llanfair. The cause became very dispirited during Mr Davies' time here, and despite the chapel being in a convenient place, very few locals came to listen. After Mr Davies' departure, around 1845, Mr William Daniel arrived, he was ordained in Kerry and worked hard here for four years, backing was given by the Montgomeryshire Home Mission, but there was little success despite that. Mr Thomas Davieswas then here for quite some time, until he moved to Cardiff.   For more than 20 years Mr John Owen, Newtown, took care of this place, but at different times Messrs J. Evans, and T. Adams, Newtown, and R. Hughes, Welshpool, shared the ministry.   Mr Hughes was particurlarly acceptable. There are a number of responsible farmers ready to welcome and give shelter to preachers, but few of them have given themselves to God. The whole area is Anglicised and the services are all held in English. Mrs Longford, Keel, deserves a mention for her zeal, effort and kindness to the cause.

 

LLANIDLOES

Er fod yr Annibynwyr wedi pregethu llawer o bob tu i Lanidloes, yn Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed, er yn gynar yn yr eilfed ganrif ar bymtheg, etto, aeth yn agos i ugain mlynedd o'r ganrif bresenol heibio cyn i un ymdrech gael ei wneyd i sefydlu achos Annibynol yn y dref. O gylch flwyddyn 1816, cawn i wr a gwraig o'r enw Richard a Margaret Jones, y rhai oeddynt yn aelodau yn yr eglwys Annibynol yn Machynlleth, symud yma i fyw. Gan nad oedd achos gan eu henwad eu hunain yn y lle, cynygiodd Richard Jones a'i wraig eu hunain i'r Methodistiaid, ond nid amlygid parodrwydd mawr i'w derbyn ; ond anogid hwy i fyned at y Bedyddwyr. Yn eu profedigaeth, ymgynghorodd Richard Jones a Mr J. Roberts, Llanbrynmair, a Mr D. Morgan, Machynlleth, y rhai a'u cymhellodd i godi aches Annibynol yn y dref, ac er eu calonogi a addawasant ddyfod i'r dref i gynal cyfarfod pregethu er rhoddi cychwyniad i'r

 

378  

 

gwaith. Cafwyd addewid am fenthyg ystafell yn ngweithfa wlan Mr Edward Jenkins, yn Heol-y-dderwen, yn ngwasanaeth yr hwn yr oedd Richard Jones ; a byddent bob prydnhawn Sadwrn yn ei glanhau allan, fel y byddai yn gymwys erbyn y moddion y Sabboth. Un James Davies, myfyriwr o'r athrofa, a bregethodd gyntaf yn y lle ; Mr James Davies, Llanfaircaereinion wedi hyny, fel y gallwn dybied, oblegid yr oedd efe y pryd hwnw yn fyfyriwr yn yr athrofa yn Llanfyllin. Cadwyd cyfarfod pregethu yn y lle yn mis Gorphenaf, 1818, a phregethodd Meistri J. Roberts, Llanbrynmair ; D. Morgan, Machynlleth ; A. Shadrach, Talybont ; a D. Evans, Rhiadr ; ac o hyny allan cynhaliwyd moddion yn rheolaidd yma.

 

Yn nechreu y flwyddyn 1819, daeth Mr Samuel Williams, myfyriwr o athrofa Llanfyllin, yma i bregethu, ac i gadw ysgol ddyddiol. Yn fuan wedi dyfodiad Mr. Williams, aeth yr achos rhagddo yn siriol iawn, fel y gwelwyd fod eisiau lle helaethach i addoli ; ac yn mis Mai y flwyddyn hono, cymerwyd ystafell eangach yn Heol-yr-eglwys. Mr. D. Morgan, Machynlleth, a fyddai yn gofalu am dalu ardreth yr ystafell yn Heol-yr-eglwys, a gwnaed casgliad yn yr eglwys yn y Graig, Machynlleth, tuag at gael meinciau ynddi. Yr oedd nifer yr aelodau erbyn eu mynediad i'r ystafell newydd wedi cynyddu i naw ; a theimlent yn dra chalonog i fyned yn mlaen. Urddwyd Mr Williams Tachwedd 8fed, 1821, ac ar yr achlysur gweinyddodd Meistri J. Roberts, Llanbrynmair ; D. Morgan, Machynlleth ; J. Davies, Llanfair ; ac H. Hughes, Foel. Cafwyd benthyg yr hen Hall yn nghanol y dref i gynal cyfarfodydd yr urddiad. Aeth pethau rhagddynt yn llwyddianus, fel cyn pen pedair blynedd yr oedd yr eglwys fechan yn rhifo 55 o aelodau. Yn niwedd y flwyddyn 1822, penderfynodd yr eglwys brynu darn o dir yn Heol-yr-eglwys i godi capel arno, a lle claddu yn nglyn ag ef. Costiodd y tir £150, a dyddiad y pryniad ydyw Ionawr 2i1, 1823; ac fe wnaed y weithred rhwng Edward Powell, Perthi-eirin, yn mhlwyf Llanwnog, ac Elenor Evans, o dref Llanidloes, o un tu ; a John Roberts, David Morgan, a Samuel Williams, gweinidogion yr efengyl, o'r tu arall. Dechreuwyd ar y capel cyn hir, ac agorwyd ef Medi 30ain, a Hydref laf, 1824. Ar yr achlysur, pregethodd Meistri M. Ellis, Talybont ; D. Thomas, Penrhiwgaled ; T. Phillips, Neuaddlwyd;  J. Jones, Main ; J. Davies, Llanfair ; D. Morgan, Machynlleth ; W. Morris, Llanfyllin ; W. Hughes, Dinas ; J. Francis ; J. Roberts, Llan- brynmair ; J. Griffiths, Pentraeth; T. Evans, Rhiadr ; ac eraill. Bu Mr Williams yma yn llafurio yn ddiwyd am wyth mlynedd; and yr oedd y ddyled oedd ar y capel yn gwasgu yn drwm ar yr ychydig oedd yn perthyn i'r lle, a'r rhan fwyaf yn weiniaid. Symudodd Mr Williams i Gapel Isaac, yn Sir Gaerfyrddin, ac wedi treulio rhai blynyddoedd yno, ac yn Llanedi, ymfudodd i America ; ac y mae yn parhau i lafurio yn Bradford, Pennsylvania, gyda chymeradwyaeth mawr, er wedi ei ddal gan lesgedd henaint.

 

Yn y flwyddyn 1830, derbyniodd Mr John Jones, o'r Main, alwad i lafurio yma ; a chynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad Medi 29ain a'r 30ain, pryd y gweinyddodd Meistri H. Morgan, Sammah ; J. Williams, Dinas; D. Roberts, Meifod ; E. Davies, Drefnewydd; D. Morgan, Machynlleth ; J. Roberts, Llanbrynmair ; M. Ellis, Talybont ; W. Phillips, gweinidog i'r Bedyddwyr ; ac H. Gwalchmai, gweinidog i'r Methodistiaid Calfinaidd. Bu Mr Jones yma yn egniol am bum' mlynedd, nes y derbyniodd alwad, ac y symudodd i Penmain, Mynwy. Wedi ymadawiad Mr Jones,

379

rhoddodd yr eglwys alwad i Mr David Evans, myfyriwr o athrofa y Drefnewydd ; ac urddwyd of Hydref 8fed a'r 9fed, 1835. Traddodwyd y gyn-araeth gan Mr S. Roberts, Llanbrynmair. Holwyd y gofyniadau gan Mr J. Griffiths, Rhiadr. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr D. Williams, Llanwrtyd. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr E. Davies, Drefnewydd, ac i'r eglwys gan Mr D. Morgan, Machynlleth. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri . Davies, Ruabon ; H. Davies, Llangollen ; T. Evans, Llanwrthwl ; J. Davies, Bwlchyffridd ; T. Jones, Minsterley ; J. Breese, Caerfyrddin ; ac L. Lewis, Ebenezer.* Llafuriodd Mr Evans yma am bedair-blynedd-ar-ddeg, ac adfywiwyd yr achos yn fawr yn nhymor ei weinidogaeth. Symudodd oddiyma i Saron, Tredegar, Mynwy.

Yn 1849, rhoddwyd galwad i Mr David Jenkins, gwr ieuangc o Lanwrthwl, ond a fu am yspaid dan addysg yn Huntington; ac urddwyd ef Gorphenaf 10fed a'r 11eg, yn yr un flwyddyn. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr S. Roberts, Llanbrynmair. Holwyd y gofyniadau gan Mr H. Morgan, Sammah. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr J. Williams, Aberhosan. Pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr T. Evans, Llanwrthwl, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr D. Evans, Tredegar, cyn-weinidog yr eglwys. Pregethwyd hefyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan Meistri H. D. Pughe, Drefnewydd; E. Williams, Dinas ; D. Davies, Rhiadr ; W. Daniel, Berriew ; E. Jones, Abersoch ; J. Owen, Drefnewydd ; a J. Jones, Carno. # Yr oedd Mr Jenkins yn barchus a chymeradwy fel pregethwr yma, dros amryw flynyddau, a'r achos yn lle yn llewyrchus ; ond darfu ei gysylltiad a'r eglwys, ac ymfudodd i'r America tua'r flwyddyn 1855. Ymsefydlodd yno yn weinidog yn Newark a Granville, Ohio, lle y llafuriodd gyda derbyniad mawr, nes y rhoddodd angau derfyn ar ei ddefnyddioldeb yn nghanol ei ddyddiau.

Wedi ymadawiad Mr Jenkins, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr Henry Rees, gynt o Pentraeth, Mon, ond yn awr o Penuel, Sir Fflint. Daeth yma yn 1854, ac arhosodd yma tua thair blynedd. Yn 1859, rhoddwyd galwad i Mr Henry Lewis, yr hwn oedd yn weinidog yn Blaenycoed, Sir Gaerfyrddin ; a bu yma am yn agos i bum' mlynedd. Yr oedd Mr Lewis yn boblogaidd iawn fel pregethwr, a phe buasai ei gallineb yn gyfartal i'w ddoniau, gallasai fod yn ddefnyddiol yn unrhyw fan. Mae wedi gadael yr enwad er's blynyddau bellach, ac, fel y deallwn, wedi uno a'r Bedyddwyr.

Ionawr 15fed, 1865, dechreuodd Mr Richard Jones, Manchester, ei weinidogaeth yma, ac y mae yn parhau hyd yr awr hon. Mae capel bychan yn perthyn i Lanidloes, a elwir Glynbrochan, yr hwn a agorwyd ddydd Nadolig 1855, yn yr hwn y cedwir ysgol yn rheolaidd, a phregethu yn achlysurol; ond nid oes un eglwys wedi ei chorpholi yma. Nid yw gynulleidfa ond bechan, ac nis gellir disgwyl cynydd mawr, gan nad oes ond ychydig o bobl yn byw yn y cwm. Fel y crybwyllasom, bu y ddyled drom oedd ar gapel y dref yn faith anhawdd ei ddwyn am flynyddau ; ond y mae y cyfeillion yma newydd dalu y ddimai olaf o'r ddyled oedd yn aros ar gapel y dref, a chapel Glynbrochan, ac y maent yn ystod y chwech neu y saith mlynedd diweddaf wedi talu dros £400 ## Bu Richard Jones a'i wraig, y rhai a gychwynasant yr achos yma, yn nodedig o ffyddlon.

* Dysgedydd, 1835. Tudal. 880. # Dysgedydd, 1849. Tudal. 283.    ## Llythyr Mr R. Jones.

380

Gwasanaethodd ef swydd diacon yn yr eglwys, ac ennillodd iddo ei hun radd dda. Mae yr hen wraig yn aros etto yn yr eglwys, ac o fewn ychydig flwyddi i 100 oed. Yr oedd Mrs Jenkins yn un o'r rhai cyntaf a unodd a'r achos yn ei wendid ; a chyn hir, derhyniwyd hefyd Mr Edward Jenkins, ei phriod, yr hwn ar y dechreu a roddodd ystafell o'i weithfa wlan iddynt at gynal gwasanaeth.

Codwyd yma bedwar i bregethu :-

  • Mathew Lewis. Yr hwn a urddwyd yn weinidog yn Salem, Machynlleth, ac a fu wedi hyny yn Mangor a Threffynon; and sydd erbyn hyn wedi marw.
  • Benjamin Jones. Yr hwn a ymfudodd i America, ac a fu farw yno.
  • David Davies. Urddwyd ef yn y Sarnau, Sir Drefaldwyn, ac y mac etto yn yr ardal, ac yn pregethu yn achlysurol, er nad oes gofal gweinidogaethol arno.
  • Benjamin Owens. Bu yn athrofa y Bala, ac am yspaid ar ol hyny cadw ysgol yn y Morfa-bychan, gerllaw Porthmadog.

Translation by Maureen Saycell (Jan 2010)

Although the Independents preached to either side of Llanidloes, in both Montgomeryshire and Radnorshire, since the early part of the 17th century, there was no effort for some 20 years to establish a cause there. Around 1816 husband and wife Richard and Margaret Jones, who were members at Machynlleth, moved here to live. Since there was no cause here they attempted to join the Methodists, but they were not keen to accept them and suggested that they should go to the Baptists. They consulted with Mr J Roberts, Llanbrynmair and Mr D Morgan, Machynlleth about their problem, they were encouraged to raise a cause themselves and the ministers promised to give sermons in the town to start things moving. A room was promised them in a wool factory owned by Mr Edward Jenkins, Heol y Dderwen, for whom Richard Jones worked, every Saturday they cleaned it out ready for the service on Sunday. The first preacher was James Davies, a student at the College, later of Llanfaircareinion we beleive as he was a student at Llanfyllin at that time. A service of sermons was held here in July 1818 when the following took part - Messrs J. Roberts, Llanbrynmair ; D. Morgan, Machynlleth ; A. Shadrach, Talybont ; and D. Evans, Rhayader. After this regular services were held here.

Early in 1819 Mr Samuel Williams, a student at Llanfyllin, came to preach and keep school here. Soon after his arrival the cause improved and the need for somewhere larger to worship became apparent and in May a larger room was taken in Heol yr Eglwys. It was Mr D Morgan, Machynlleth that took care of  the lease and a collection was made at Graig, Machynlleth, to buy benches to be used there. Members had increased to 9 since moving to this room, and they were encouraged to continue. Mr Williams was ordained November 8th, 1821.The following took part - Messrs J. Roberts, Llanbrynmair ; D. Morgan, Machynlleth ; J. Davies, Llanfair ; and H. Hughes, Foel. The Old Hall in the town centre was borrowed for the ordination services. They continued successfully, in 4 years there were 55 members. Towards the end of 1822 they decided to buy land in Heol yr Eglwys to build a small chapel and have a small burial ground. The land cost £150 , date of purchase January 2nd, 1823, the Deed was between Edward Powell, Perthi-eirin, Llanwnog Parish, and Elenor Evans, Llanidloes on one side and John Roberts, David Morgan and Samuel Wiliams, Ministers of Religion, on the other. The Chapel was duly built and opened on September 30th and October 1st, 1824. The following took part - Messrs M. Ellis, Talybont ; D. Thomas, Penrhiwgaled ; T. Phillips, Neuaddlwyd;  J. Jones, Main ; J. Davies, Llanfair ; D. Morgan, Machynlleth ; W. Morris, Llanfyllin ; W. Hughes, Dinas ; J. Francis ; J. Roberts, Llanbrynmair ; J. Griffiths, Pentraeth; T. Evans, Rhayader, and others. Mr Williams was here for 8 years, but the debt was heavy on the few members, mostly servants. Mr Wiliams moved to Capel Isaac, Carmarthenshire, then Llanedi and eventually emigrated to America, where he continues to serve in Bradford, Pennsylvania.

In 1830 Mr John Jones, Main, accepted a call here and he was settled here September 29th and 30th when the following officiated - Messrs H. Morgan, Sammah ; J. Williams, Dinas; D. Roberts, Meifod ; E. Davies, Newtown; D. Morgan, Machynlleth ; J. Roberts, Llanbrynmair ; M. Ellis, Talybont ; W. Phillips, Baptist minister ; and H. Gwalchmai, Calvinistic Methodist minister. Mr Jones worked energetically here for five years when he accepted a call and moved to Penmain, Monmouth. After his departure the church sent a call to Mr David Evans, a student at Newtown and he was ordained on October 8th and 9th, 1835. The opening address was given by Mr S. Roberts, Llanbrynmair. The questions asked by Mr J. Griffiths, Rhayader. Mr D. Williams, Llanwrtyd, offered the ordination prayer. A sermon to the minister from Mr E. Davies, Newtown, and to the church from  Mr D. Morgan, Machynlleth. Also contributing Messrs Davies, Ruabon ; H. Davies, Llangollen ; T. Evans, Llanwrthwl ; J. Davies, Bwlchyffridd ; T. Jones, Minsterley ; J. Breese, Carmarthen ; and L. Lewis, Ebenezer.*  Mr Evans worked here for 14 years and revived the cause considerably. He moved to Saron, Tredegar, Monmouth.

In 1849 a call was sent to Mr David Jenkins, Llanwrthwl, being educated at Huntington. He was ordained July 10th and 11th the same year.  Mr S. Roberts, Llanbrynmair, gave a sermon on the nature of a church. Questions were asked by Mr H. Morgan, Sammah. The ordination prayer offered by Mr J. Williams, Aberhosan.  Mr T. Evans, Llanwrthwl, preached on the duties of a minister and a sermon on the duties of a church from Mr D. Evans, Tredegar, previous minister. Sermons were also given by Messrs H. D. Pughe, Newtown; E. Williams, Dinas ; D. Davies, Rhayader ; W. Daniel, Berriew ; E. Jones, Abersoch ; J. Owen, Newtown ; and J. Jones, Carno. # He was respected and accepted as the minister here for many years, with a flourishing cause, but he ended his connection with the church and emigrated to America around 1855. He settled as minister of Newark and Granville, Ohio, where he served until he died in middle age.

Next called was Mr Henry Rees, formerly Pentraeth, Anglesey, now Penuel, Flintshire. He was here from 1854 for 3 years. 1859  Mr Henry Lewis, Blaenycoed, Carmarthenshire who was here for 5 years. Left for the Baptists.

January 15th, 1865, Mr Richard Jones, Manchester began his ministry and he remains here. There is a small chapel attached to Llanidloes named Glynbrochan, opened Christmas day 1855, where there is held a regular school and occasional preaching but no church formed there. As previously stated the debt on the chapel in town was heavy, the friends here have just cleared all debts amounting to over £400 over the last 6 to 7 years ##. Richard Jones and his wife, who started the cause here, were remarkably faithful. He served as Deacon, earning great respect. The old lady remains here, almost 100 years of age. Mrs Jenkins was one of the first to join this cause and her husband Mr Edward Jenkins who first gave a room for their use.

Four were raised to preach here**:-

  • MATHEW LEWIS -  ordained Salem, Machynlleth, later Bangor and Treffynon; now deceased.
  • BENJAMIN JONES - emigrated to America, died there.
  • DAVID DAVIES -  ordained Sarnau, Montgomeryshire, no ministry but preaches occasionally.
  • BENJAMIN OWENS -  went to Bala College, kept school for a while at Morfa-bychan, Porthmadog.

* Dysgedydd, 1835. Tudal. 880.

# Dysgedydd, 1849. Tudal. 283.    

## Llythyr Mr R. Jones.

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

GLYNHAFREN

(Llanidloes parish)

Saif y capel hwn o fawn tair milldir i Lanidloes. Adeiladwyd ef yn 1828, ac agorwyd ef yn Hydref, 1829, pryd y pregethodd Meistri J. Roberts, Llanbrynmair ; S. Bowen, Drefnewydd, a J. Davies, Llanfair. Corpholwyd yma eglwys yn fuan, yr hon a fu dan ofal gweinidogion Llanidloes yn olynol hyd 1867, pan y rhoddwyd galwad i Mr Richard O. Evans, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef yma, Mehefin 27ain a'r 28ain. Ar yr achlysur, pregethodd Mr H. James, Llansantffraid, i'r gweinidog, a Mr H. Morgan, Sammah, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri D. M. Jenkins, Drefnewydd ; J. Lewis, Corwen, a W. Roberts, Liverpool. Bu Mr Evans yma yn llafurus hyd ddechreu y flwyddyn hon (1871), pryd derbyniodd alwad i fod yn gydweinidog a Mr H. Morgan, yn Sammah a Cemmaes Road, ac y symudodd yno. Nid yw yr eglwys ond bechan, and y mae yma nifer o bobl ffyddlon a diwyd gydag achos yr Arglwydd.

Translation by Maureen Saycell (Jan 2010)

This chapel stands within 3 miles of Llanidloes. Constructed 1828, opened October, 1829, when sermons were given by Messrs J. Roberts, Llanbrynmair ; S. Bowen, Newtown, and J. Davies, Llanfair. A church was established soon after, under the care of the ministers of Llanidloes until 1867 when a call was sent to Mr Richard O Evans, a student at Bala. He was ordained on July 27th and 28th. On the occasion Mr H. James, Llansantffraid, preached to the minister and Mr H. Morgan, Sammah, to the church.Sermons were also given by Messrs D. M. Jenkins, Newtown ; J. Lewis, Corwen, and W. Roberts, Liverpool. Mr Evans worked hard here until 1871 when he accepted a call to be co-minister with Mr H Morgan, Sammah and Cemmaes Road, and moved here. This is only a small church but there are some industrious and faithful people here.

 

PENYCOED

(Trefeglwys parish)

Mae y lle hwn yn mhlwyf Trefeglwys. Pregethwyd lawer yn y plwyf hwn gan yr Ymneillduwyr gynt ; ac yr oedd yma lawer o aelodau eglwys Sir Drefaldwyn, fel ei gelwid, yn byw, ond pan yr ymffurfiodd yr eglwys hono yn wahanol ganghenau, ni chorpholwyd yma eglwys Annibynol. Dechreuwyd pregethu drachefn yn yr ardal yn y flwyddyn 1835, gan Mr J. Davies, Bwlchyffridd, mewn lle a elwir Talygarth ; ac wedi hyny, yn Felinhenser; ac o'r diwedd cafodd yr achos gartref yn Closybank. Ysgol Sabbothol a sefydlwyd yma i ddechreu, yn benaf trwy lafur Mr David: Roberts, Trewythenfawr, y pryd hwnw. Perthynai yr aelodau cyntaf Lanwnog, ond Mr D. Evans, y pryd hwnw o Lanidloes, oedd a'r llaw benaf yn ffurfiad yr eglwys, ac efe a'i corpholodd yn Awst, 1838, ac o dan ei ofal ef y bu hyd nes yr ymadawodd o Lanidloes i Dredegar ; a bu o dan ofal olynwyr yn y weinidogaeth yn Llanidloes, hyd ddyfodiad Mr R. Jones i

381

Lanidloes, yn 1865, yr hwn a deimlai nas gallasai gymeryd ei gofal. Bu Mr J. Davies, Llanwnog (Bwlchyffridd gynt), yn gofalu am y lle ar un adeg, ac y mae yn ffyddlon iddo bob amser. Yn awr ar Mr R. Ellis, Carno, y mae y gofal yn benaf. Ffurfiwyd cangen o'r eglwys yma yn Cefnbarach, dwy filldir yn nes i Carno na Closybank ; ond oblegid i'r rhan fwyaf o brif gynhalwyr y gangen hono ymadael a'r wlad, penderfynwyd uno y ddau achos, a chodi capel yn y lle mwyaf cyfleus a ellid gael holl aelodau. Bu yr eglwys yn hir heb dy yn eiddo iddi ei hun i addoli ynddo ; ond yn 1862, cafwyd tir gan Mr Swancott, Llanidloes; a chyflwynwyd ef i John Jenkins, Llanidloes ; David Roberts, Ddraenenddu ; Thomas Mills, Penycoed ; ac Edward Roberts, Carno, (Coedpoeth yn awr,) fel ymddiriedolwyr. Agorwyd y capel yn Awst, 1863, pryd y gweinyddodd Meistri D. Evans, Penarth ; E. Roberts, Carno; W. Roberts, Penybont, ac R. Evans, Llanfair. Bu yr ardalwyr yn ffyddlon i gario y defnyddiau ato, ac i dalu am dano, ac y mae y ddyled oll wedi ei thalu. Bu yr achos yn llawer cryfach 28 mlynedd yn ol nac ydyw yn bresenol. Symudodd llawer o'r ardal, ac yr oedd yn anfantais fawr nad oedd yma le cyfleus i addoli ; ond cofir gyda hyfrydwch gan lawer am gyfarfodydd gwlithog gafwyd yn yr hen dy yn Closybank. Nifer yr aelodau yn bresenol ydyw ugain.

Translation by Maureen Saycell (Dec 2010)

This place is in Trefeglwys Parish. There was a considerable amount of preaching here by the Indepedents, with many members of the Montgomeryshire Church as it was known. When Independent churches were formed, subsequently, none was formed here. Preaching began again in 1835 with Mr J Davies, Bwlchffridd, in a place named Talgarth - then at Felinhenser until a home was found at Closybank. Mr David Roberts, Trewythenfawr, established a Sunday School. The first members were at Llanwnog, except Mr D Evans then of Llanidloes, who led the effort to establish a church and formed it in August 1838. He took care of them until he moved to Tredegar. In 1865 Mr R Jones came to Llanidloes and felt unable to take on the care, this was undertaken by Mr J Davies, Llanwnog (formerly Bwlchyffridd). Now Mr R Ellis, Carno ministers to them. A branch was formed at Cefnbarach, 2 miles closer to Carno, but a large number of the faithful emigrated and it was decided to unite the 2 causes and build a chapel in the most convenient location for them all. They were homeless for a long time but in 1862 land was acquired from Mr Swancott, Llanidloes. The trustees were John Jenkins, Llanidloes ; David Roberts, Ddraenenddu ; Thomas Mills, Penycoed and Edward Roberts, Carno, (Coedpoeth now). The chapel was opened in August 1863 when the following officiated - Messrs D. Evans, Penarth ; E. Roberts, Carno; W. Roberts, Penybont and R. Evans, Llanfair. The members were diligent and the debt is all paid. The cause was far stronger 28 years ago but many moved away and there are 20 members now.

 

DREFNEWYDD (SAESONAEG)

(Newtown parish)

Mae yn eglur fod pregethu wedi bod yn y dref hon er amserau Vavasor Powell a Henry Williams, o'r Ysgafell; ond nis gallwn ddilyn yr achos yma er hyny hyd yn awr gydag un cysondeb. Mae ger ein bron yn awr gofnodion y Trysorfwrdd Presbyteraidd, yn cynwys enwau nifer o weinidogion oedd yma yn y ganrif ddiweddaf, y rhai a dderbyniasant gymhorth gan yBwrdd. Yn y flwyddyn 1712, cawn fod an Mr Perkins yma. Am ddwy flynedd yn 1721 a 1722, cawn un Mr Benjamin Lewis yma.O hyny hyd 1729, un Mr David Richards oedd yma. Cawn un Mr Thomas Hopkins yma o 1729 hyd 1740. Yn y flwyddyn ganlynol yr oedd un Mr David Jones yma. Yn 1744 a 1745, yr oedd M. Josuah Howell yma; a Mr Noah Jones am y flwyddyn ganlynol; a Mr Jos Baker yma yn 1748.O'r flwyddyn 1751 hyd 1766, cawn un Mr David Lewis yma ; ac o 1769 hyd 1773, un Mr Benjamin Evans ; ac am y flwyddyn ganlynol, un Mr Thomas Rees, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin ; ac un Mr David Lewis, o 1778 hyd 1780. Nis gwyddom ai yr un oedd y David Lewis, a enwyd olaf, a'r David Lewis oedd yma o 1751 hyd 1766. Nis gallwn sicrhau fod yr holl bersonau a enwyd uchod yn gweini eglwys yn y Drefnewydd. Dichon fod rhai o honynt yn cael eu cysylltu a'r Drefnewydd, am mai yma yr oedd y llythyrdy agosaf atynt. Nid yw y rhestr uchod ychwaith yn profi pa cyhyd y bu neb ohonynt yma; ond yn unig eu bod y blynyddau a nodir yn derbyn arian o Drysorfa y Presbyteriaid.

Dywedir i un Mr Williams, a'i deulu, o gymydogaeth Abertawy, y rhai oeddynt Annibynwyr, symud i'r dref yn nechreu ganrif ddiweddaf. yr oedd yma ysgol ragorol ar y pryd, gan un Mr Moone, yn y fan lle y mae y Bowling Green yn bresenol, ac er mwyn addysg ei fab, yr hwn a ddaeth wedi hyny yn weinidog, y symudodd Mr Williams yma.* Mae

* Llythyr Mr J. P. Jones.

382  

cwpan arian, cwpan cymundeb, yn awr yn meddiant Mr Lewis Lewis, un o aelodau yr eglwys, ac arni y cofargraff a ganlyn, yr hon a roddwyd, meddir, gan ferch i'r dywededig Mr Williams.

" The gift of Mrs. Hannah Williams, to the Church of Protestant Dissenters in Newtown, Montgomeryshire, 1734."

Mae y cwpan pa fodd bynag, yn brawf sicr fod eglwys Ymneillduol yma yn yr adeg hono. Yn hanes bywyd Mr John Richards, Ty'nyfawnog, yr hwn a ysgrifenwyd gan Mr R. D. Thomas (Iorthryn Gwynedd), Penarth, ac a gyhoeddwyd yn y Cenhadwr Americanaidd, am Ionawr, 1852, cawn y crybwylliad a ganlyn, gyda golwg ar achos y Drefnewydd.

" Yr oedd gan yr Annibynwyr gapel bychan, ac achos Cymreig yn Drefnewydd, y pryd hwnw. Yr oedd yr hen gapel yn agos Bear's Head, ger Neuadd y dref. Nis gwyddom beth a ddigwyddodd iddo; nid oes hanes manwl am dano yn awr. Enw y gweinidog oedd Mr Lewis, gwr canol oed ; yr oedd yn ysgolor rhagorol, ac yn cadw ysgol ddyddiol yn oruwchystafell y Neuadd. Pregethwr hynod oedd - nis gallai bregethu na gweddio heb gynorthwy ysgrifen a llyfrau, arferai ddarllen ei bregethau yn dra sychlyd i'w gynnulleidfa, ac yr oedd "Gweddiau cyffredin yr Eglwys Wladol" mewn parch mawr ganddo. Yr oedd yn gyfeillgar a boneddigaidd yn ei ymddygiad, ond oblegid ei fyrbwylldra a'i hoffder o'r diodydd meddwol, collodd ei le, a lladdodd ei ddefnyddioldeb! Bu David Richards yn swyddog yn yr eglwys hono am flynyddau ; and nid oedd ganddynt gyfeillach grefyddol, nac Ysgol Sabbothol, na chyfarfodydd gweddio."

Mae yn debyg i Mr Thomas dderbyn yr hysbysiaeth uchod gan Mr John Richards, Ty'nyfawnog, yr hwn hefyd a'i cafodd gan ei dad, Mr David Richards, Ty'nyfawnog - Sarnau wedi hyny - ac y gellir ymddibynu ar ei gywirdeb. Y mae yn sicr genym mai y Mr Lewis, at ba un y cyfeirir, oedd y David Lewis oedd yn derbyn arian o'r Trysorfwrdd Presbyteraidd o'r flwyddyn 1751 hyd 1766, oblegid yn y flwyddyn 1766 y symudodd Mr David Richards o'r Drefnewydd i Lanfaircaereinion. Tueddir ni i feddwl mai yr un David Lewis ydyw hwn, ag a geir drachefn yn derbyn cymhorth o'r Trysorfwrdd yn 1778 hyd 1780 ; ac mai ar lawr y bu dan gerydd am y " pechod oedd barod i'w amgylchu," yn y cyfwng rhwng 1766 a 1778 ; ac ymddengys i'r achos lwyr ddarfod am dano yr adeg yma, oblegid nid ydym yn cael gair mwy o'i hanes, hyd nes yr ailgychwynwyd ef yn mhen deugain mlynedd agos.

Yn ol yr hysbysiaeth a dderbyniasom o'r Drefnewydd, yn y lle y mae y Crown Shop, yr arferent addoli ; ond y mae hwnw yn ymyl y Bear's Head. Wedi i'r hen achos fyned i lawr yn y lle, cymerodd y Bedyddwyr feddiant o hono; a chawsant ganiatad gan y bwrdd yn Llundain, (y Bwrdd Presbyteraidd, mae'n debyg,) i symud y pulpud a'r meinciau ohono ; a'r hen bulpud oedd yn y Crown Shop, oedd yn nghapel y Bedyddwyr hyd flwyddyn ddiweddaf.*

Yr oedd un Hugh Jones, yr hwn a fagesid yn y Diosg, Llanbrynmair, yn byw yn Drefnewydd, ac wrth ei alwedigaeth yn wneuthurwr gwlaneni. Yr oedd y gwr hwn yn aelod ac yn ddiacon yn Bwlchyffridd, ac yn ddyn synwyrol a chrefyddol iawn. Cyn y flwyddyn 1818, rhoddodd Mr James Davies, Aberhafesp, ofal Penarth i fyny, a daeth i'r Drefnewydd i gadw

*Llythyr Mr J. P. Jones.

383

ysgol, a chyda'r bwriad i wneyd cynyg ar all gychwyn yr achos yma, a llettyai gyda Mr Hugh Jones, yn nhy yr hwn y dechreuodd bregethu ar nosweithiau o'r wythnos, a deuai cynifer i wrando ag a allai y ty gynwys. Wedi gwneyd y prawf yn nhy Mr H. Jones, a gweled fod yr aches yn cael. ffafr yn ngolwg y trigolion ; cymerwyd ysgoldy y tu cefn i'r Eagles, yn gwynebu ar y Tannerdy ; ac i'r hon yr elid i fewn ar hyd grisiau cerrig oddiallan.* Cedwid ysgol ddyddiol yn yr ystafell gan wr o'r Deheudir, ond cytunodd Mr Davies ag ef i gael ei gwasanaeth ar y Sabbath, ac ar nosweithiau o'r wythnos. yr oedd hyn yn y flwyddyn 1818. Yn yr ystafell hon yr ymunodd Mr Hugh Jones, yn awr o Gaerfyrddin, a'r achos, ond yn Bwlchyffridd y derbyniwyd ef yn aelod gan Mr James Davies, Aberhafesp, oblegid nad oedd etto eglwys wedi ei chorpholi yn y Drefnewydd. Cedwid yma Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddio, a chyfeillachau crefyddol, yn gystal a phregethu; a dygid yr holl wasanaeth yn mlaen yn Gymraeg. Tua'r flwyddyn 1820, ymfudodd Mr James Davies i America, ac yn fuan wedi hyny penderfynwyd adeiladu yma gapel newydd; ac yn y flwyddyn ganlynol penderfynwyd svmud yr athrofa yma o Lanfyllin; a rhoddwyd galwad i Dr. G. Lewis i fod yn weinidog i'r eglwys yn Bwlchyffridd, ac i'r gangen yn y Drefnewydd ; ac i'w fab-ynghyfraith Mr Edward Davies, i fod yn gydweinidog ag ac yr oedd Mr Davies eisioes wedi ei ddewis gan y Bwrdd Cynnulleidfaol i fod yn athraw cynorthwyol. Daeth Dr. Lewis. a Mr Davies, a'r myfyrwyr i'r dref yn Medi, 1821 ; ac ar yr 22ain a'r 23ain o Ionawr, 1822, agorwyd capel newydd, pryd y pregethwyd gan Meistri W. Hughes, Dinasmawddwy; D. Francis, Ludlow ; W. Morris, Llanfyllin ; J. Lewis, Casnewydd; T. Weaver, Amwythig ; J. Breese, Liverpool ; a J. Whitridge, Croesoswallt. Dechreuwyd yr oedfaeon gan Mr W. Davies, y myfyriwr hynaf yn yr athrofa, Mr Jones, gweinidog i'r Bedyddwyr, Mr I. Williams, un o bregethwyr y Methodistiaid, a Mr Jones, gweinidog i'r Wesleyaid ; a thranoeth i agoriad y capel yr urddwyd Mr E. Davies, yn Bwlchyffridd, fel yr hysbysasom yn hanes yr eglwys hono. Cedwid y gwasanaeth yn Gymraeg un ran o'r dydd, ac yn Saesonaeg y rhan arall, ond nid rhyw gydfod mawr oedd rhwng y ddwy iaith. Gan y Gymraeg yr oedd yr afael gyntaf, oblegid yn achos Cymraeg y cychwynwyd ef ; ond Saesonaeg oedd iaith y lluaws yn y dref. Pregethai Dr. Lewis yma unwaith bob Sabboth ; a phregethai Mr Davies, neu un o'r myfyrwyr, y rhan arall o'r dydd, ac yr oedd golwg lewyrchus ar yr achos. Ond er siomedigaeth a galar dirfawr, bu farw Dr. Lewis, Mehefin 5ed, 1822, ar of un-niwrnod-ar-bymtheg o gystudd trwm ; a disgynodd gofal yr achos yn gwbl ar Mr Davies, a chyda chynorthwy y myfyrwyr - ac yr oedd rhai o honynt yn boblogaidd iawn fel pregethwyr - gallodd gyflawni ei ddyledswyddau yn ei faes eang, a daeth yr achos yn ei flaen yn llwyddianus, fel yr oedd yn un o'r achosion mwyaf addawus yn y dref. Ond ysigwyd yr achos yn hollol yn yr etholiad cyntaf wedi pasio Mesur y Diwygiad Seneddol, trwy waith Mr Davies, yr athraw a'r gweinidog, yn pleidleisio dros Meistri Chales Wynn a David Pugh, y Ceidwadwyr. Cynhyrfodd hyn bleidwyr Mr Lyons a Syr John Edwards, ymwylltio yn erwin yn ei erbyn, ac oedd rhai o'i bobl of ei hun yn mysg y rhai mwyaf digofus. yr ydym yn mhell o gymeradwyo y dull a gymerasant i amlygu eu hanghymeradwyaeth o'r ymddygiad. Mae bwrw

* Llythyr Mr H. Jones, Heol Awst, Caerfyrddin.

384

llaid, a thori ffenestri yn anheilwng o achos rhyddfrydiaeth; ond yn nghyffroad mawr y dyddiau hyny, prin y gallaswn ddisgwyl i bethau fod yn amgenach; oblegid y mae yn anhawdd meddwl am ddim mwy gwrthun na gweled gweinidog Ymneillduol, a phrif athraw athrofa Annibynol, yn pleidleisio gyda Thoriaid ; ac yr oedd gwneyd hyny yn y Drefnewydd, lle yr oedd teimlad gwerinol y bobl mor gryf, yn fwy gwrthun fyth. Pa fodd bynag effeithiodd hyn yn fawr ar yr eglwys a'r gynnulleidfa. Ciliodd llawer enwadau eraill. Bu mwy na dau ddwsin o'r aelodau yn cerdded bob Sabboth i Ceri, bedair milldir, a pharasant i fyned hyd nes i Mr Davies ymadael a'r lle ; ac erbyn iddynt ddychwelyd, yr oedd plant a theuluoedd rhai o honynt wedi sefydlu gydag enwadau eraill, fel na ddaeth yr achos byth ar ol hyny i fod y peth y buasai yn flaenorol. Yn 1838, penderfynwyd symud yr athrofa o'r Drefnewydd i Aberhonddu ; a rhoddodd Mr Davies ofal yr eglwys i fyny y flwyddyn hono, ac ymadawodd gyda'r athrofa. Teimlid hiraeth gan y rhan fwyaf ar ei ol, oblegid yr oedd iddo barch cyffredinol fel boneddwr hynaws a christionogol ; ac yr oedd y rhai a anghytunent fwyaf a'i olygiadau gwladyddol, yn cydnabod ei fod yn y cwbl yn cario allan ei argyhoeddiadau cydwybodol ; ac os oedd yn llai o ryddfrydwr na llawer, yr oedd yn fwy o foneddwr na'r rhan fwyaf.

Wedi bod am ddwy flynedd heb weinidog, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr Aaron Francis, myfyriwr o athrofa Hackney, Llundain ; ac urddwyd ef Mehefin 26ain, 1840. Traddodwyd araeth ar natur eglwys gan Mr Roberts, Llanbrynmair ; holwyd y gofyniadau, a dyrchafwyd yr urdd- weddi gan Mr J. Pearce, Wrecsam ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr T. Morgan, Trallwm, ac i'r eglwys gan Mr. Bowen, Maccelesfield. Cymerwyd hefyd ran yn y gwasanaeth gan Meistri J. Davies, Glandwr ; M. Evans, Sarnau ; T. Jones, Minsterley; J. Davies, Llanfair; M. Davies, Ceri ; J. Davies, Bwlchyffridd ; R. Davies, Blackburn ; R. Hughes, ac E. Jones, Marton. Adfywiodd yr achos yn fawr wedi dyfodiad Mr Francis, ac yr oedd yr holl wasanaeth erbyn hyn, yn cael ei ddwyn yn mlaen yn yr iaith Saasonaeg. Bu Mr. Francis yma hyd y flwyddyn 1843, pryd y derbyniodd alwad o Ruthin, ac y symudodd yno. Bu Mr Cyrus Hudson yma am ychydig yn 1844. Efe a fu y prif offeryn i sefydlu Ysgol Frytanaidd yma. Yn Mehefin, 1845, derbyniodd Mr John Peter Jones, alwad gan yr eglwys, a bu yma hyd 1846. Symudodd i Marton a Forden, ac y mae yn awr yn Bromyard, Sir Henffordd. Wedi ei ymadawiad ef, bu Mr John Owen, Bwlchyffridd, am ysbaid yn gofalu am yr achos yn y lle.Yn nechreu y flwyddyn 1851, rhoddwyd galwad i Mr John Evans, B.A., aelod o'r eglwys, and a fuasai yn fyfyriwr yn athrofa Plymouth. Dechreuodd ei weinidogaeth Mawrth 20fed, 1851, a bu yma am ychydig flynyddoedd, yna symudodd i Stockport. Dilynwyd ef gan Mr Charles Henry Derby, B.A , myfyriwr o athrofa St. John's Wood, Llundain. Dechreuodd ei weinidogaeth yn mis Tachwedd, 1854 ; ac urddwyd ef Gorphenaf 4ydd, 1855. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri S. Roberts, Llanbrynmair ; J. Davies, Albany, Llundain ; Dr. R. Halley, Manchester, ac eraill. Bu Mr Derby yma hyd Chwefror, 1861. Yn Mehefin, 1861, rhoddwyd galwad i Mr T. Adams, o Manchester, a bu yma hyd y Sabboth olaf yn 1865. Mae yn awr yn Daventry. Bu yr eglwys wedi hyny dros amryw flynyddau heb weinidog, ond yn nechreu 1870, rhoddwyd galwad i Mr John Pyle Jones, o Lanfaches, Sir Fynwy ; a chynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad Mehefin 22ain, o'r un flwyddyn. Gweinyddwyd ar yr

385

achlysur gan Meistri J. Morris, Athraw Duwinyddol athrofa Aberhonddu; H. Oliver, B.A., Casnewydd; D. Rowlands, B.A., Trallwm; D. M. Jenkins, Drefnewydd ; R. Lumley, Bwlchyffridd ; O. Evans, Llanbrynmair ; R. Jones, Llanidloes ; J. Jones, Machynlleth, ac eraill ; ac y mae Mr Jones yma yn parhau i lafurio.

Mae yr achos yma, fel y gwelir, wedi myned drwy gyfnewidiadau dirfawr ; a rhwng y mynych symudiadau a'r ystormydd a'i cyfarfyddodd, mae yn rhyfedd iawn ei fod gystal ei olwg ag mae. Ofnir fod Annibyniaeth wedi colli ei hadeg yn y Drefnewydd, ac nas gall heb rywbeth hollol allan o'r ffordd gyffredin, adfeddianu y tir y mae wedi ei golli.

Nid oes genym restr o'r rhai godwyd i bregethu yma, and gwyddom mai yma y codwyd y personau canlynol :-

  • Hugh Jones. Dechreuodd bregethu yn fuan wedi corpholiad yr eglwys. Addysgwyd ef yn y Drefnewvdd. Urddwyd ef yn Saron, Tredegar ; ac y mae yn awr yn Heol Awst, Caerfyrddin.
  • John Evans. yr hwn, fel y crybwyllasom, a fu yn weinidog yr eglwys hon wedi hyny.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL (Not fully extracted)

GEORGE LEWIS, D.D. Mae ychydig ddyryswch gyda golwg ar amser a lle genedigaeth y gwr enwog hwn. Dywed Mr David Peter, Caerfyrddin, mai yn y Fantais, yn mhlwyf Trelech, y ganwyd ef, yn 1760; and dywed Mr Edward Davies, mab ynghyfraith Dr. Lewis, mai mewn lle a elwir y Coed, o fewn pum' milldir i Gaerfyrddin y ganwyd ef, yn y flwyddyn 1763, .......................

Translation by Maureen Saycell (Jan 2011)

It is clear that there has been preaching here since the days of Vavasor Powell and Henry Williams, Ysgafell, but there is no traceable cause here since then. The records of the Presbyterian Treasury show the following ministers had support from them in the last century - 1712, Mr Perkins. 1721 and 1722,  Mr Benjamin Lewis. From then until 1729, Mr David Richards was here. From 1729 to 1740, Mr Thomas Hopkins. The following year a Mr David Jones was here. In 1744 and 1745, M. Josuah Howell and Mr Noah Jones the following year, Mr Jos Baker in 1748. Between 1751 and 1766, Mr David Lewis. 1769 to 1773, Mr Benjamin Evans and the following year Mr Thomas Rees, a student from Carmarthen. Mr David Lewis, from 1778 to 1780. We don't know if this David Lewis is the same one that was here from 1751 to 1766. We cannot be sure that these ministers were caring for a church here only that they were associated with Newtown. Possibly this was simply the nearest Post Office to them and the list simply shows that they were in receipt of funds.

It is said that a Mr Williams and his family moved here from Swansea at the beginning of the last century, they were Independents. He had moved here because there was an excellent school here, run by a Mr Moone, where the Bowling Green currently stands, for his son's education. The son later became a minister.* There is an inscribed Communion Cup in the keeping of Mr Lewis Lewis supposed to have been donated by Mr Williams' daughter -

" The gift of Mrs. Hannah Williams, to the Church of Protestant Dissenters in Newtown, Montgomeryshire, 1734."

The cup proves that there was a nonconformist church here at that time. From  a biography of Mr John Richards, Ty'nfawnog, written by Mr R D Thomas (Iorthryn Gwynedd), Penarth, published January 1852 in the Cenhadwr Americanaidd (American Missionary) the following mention of the cause in Newtown.

" The Independents had  a small chapel and a Welsh cause in Newtown at that time, the old Chapel was near the Bear's Head,  near the Town Hall. We don't know what became of it. The minister was Mr Lewis, an excellent scholar who kept a school above the Hall. He was an odd preacher - he could not preach or pray without a script, he would read his sermons in a very boring fashion and greatly favoured "Gweddiau cyffredin yr Eglwys Wladol"  (Common Prayer Book of the Established Church). He lost his position through drink. David Richards  was an official there for many years but they had no Socials, Sunday School or Prayer Meetings ."  It appears that Mr Thomas was given the above information by Mr John Richards, Ty'nyfawnog via Mr David Richards and is therefore reliable. We believe that this Mr Lewis was the one in receipt of monies twice from the Presbyterian Treasury and that in the intervening period he was an outcast because of his drink problem.

We understand that they used to worship where the Crown Shop stands, near the Bear's head. When the old cause collapsed the Baptists took possession, they later had permission to move the pulpit and benches from the Board in London (presumably the Presbyterian Board), these remained in use by them until last year.**

A weaver named Hugh Jones, brought up at Diosg, Llanbrynmair, lived in Newtown. He was a member and Deacon at Bwlchyffridd. Prior to 1818 Mr James Davies, Aberhafesp, gave up the care of Penarth and moved to keep School in Newtown and try to revive the cause here. He lodged with Hugh Jones and began preaching in his house on week nights, after this successful trial a schoolroom was obtained behind the Eagles, facing the Tanhouse, accessed by exterior stone steps.*** The school was run by a southerner and Mr Davies came to an agreement to hold services on weeknights and Sundays also in 1818. It was here that Mr Hugh Jones, Carmarthen now, joined the cause, but was confirmed at Bwlchyffridd by Mr Davies, Aberhafesp, as the church had not yet been embodied in Newtown. Sunday School, prayer meetings and socials were held here all through the medium of Welsh. Around 1820 Mr James Davies emigrated to America, soon after this it was decided to build a new chapel, next year the College was moved here from Llanfyllin. Dr G Lewis was called as minister to Bwlchyffridd and the branch in Newtown and his son in law Mr Edward Davies to be joint minister, he was already an approved tutor. Dr. Lewis, Mr Davies and the students moved to the town in September, 1821 and on January 22nd and 23rd 1822, the new chapel was opened, sermons were given by Messrs W. Hughes, Dinasmawddwy; D. Francis, Ludlow ; W. Morris, Llanfyllin ; J. Lewis, Newport; T. Weaver, Shrewsbury ; J. Breese, Liverpool and J. Whitridge, Oswestry. Also taking part were Mr W. Davies, senior student, Mr Jones, Baptist minister, Mr I. Williams, Methodist minister and Mr Jones, Wesleyan minister. The next day Mr E. Davies was ordained at Bwlchyffridd. Welsh services were held one part of the day and English the other, but without much cooperation. Welsh was the initial language but most of the population spoke English. Dr Lewis preached once every Sunday and Mr Davies, or one of the students, the other part of the day. Dr Lewis sadly died on June 5th, 1822 and the complete care fell on Mr Davies but with the help of the students he maintained his ministry and the cause was successful. The result of Mr Davies' vote for the conservatives Messrs Charles Wynn and David Pugh badly upset the supporters of Mr Lyons and Sir John Edwards, some of his own people were among the most vehement. We do not agree with the way they dealt with this, throwing mud and breaking windows is not worthy of the liberal cause. In these stirring days it was not surprising, the thought of a nonconformist minister and Principal of an Independent College supporting the Tories in Newtown was unthinkable. It had a dire effect on the church and the congregation, many left to other denominations or went to Kerry four miles away. They did not retun until Mr Davies had departed, by then their children had gone to other denominations and the cause did not fully recover. In 1838 the College moved to Brecon and Mr Davies gave up his ministry.

After 2 years without a minister Mr Aaron Francis, a student at Hackney, London, was called. He was ordained on June 26th, 1840 - the following officiated Mr Roberts, Llanbrynmair, Mr J. Pearce, Wrexham, Mr T. Morgan, Welshpool,  Mr. Bowen, Maccelesfield. Also taking part were Messrs J. Davies, Glandwr ; M. Evans, Sarnau ; T. Jones, Minsterley; J. Davies, Llanfair; M. Davies, Kerry ; J. Davies, Bwlchyffridd ; R. Davies, Blackburn ; R. Hughes and E. Jones, Marton. The cause revived under his ministry, all services now being held through the medium of English, he left for Rhuthyn in 1843. Mr Cyrus Hudson was here for a short time in 1844, he was responsible for establishing the Brittanic School here. In June 1845 Mr John Peter Jones was called, stayed until 1846  - moving to Marton and Forden, now in Bromyard, Herefordshire. Mr John Owen, Bwlchyffridd, ministered here for a short time. Early 1851 Mr John Evans, B.A.,was called, a member who had been studying at Plymouth. He began his ministry March 20th, 1851, stayed a few years then moved to Stockport. Next Mr Charles Henry Derby, B.A , student at St. John's Wood, London. Began his ministry in November, 1854  - ordained July 4th, 1855. Officiating were Messrs S. Roberts, Llanbrynmair ; J. Davies, Albany, London ; Dr. R. Halley, Manchester, and others. Mr Derby stayed until February, 1861. June, 1861, Mr T. Adams, Manchester, was called and stayed until the last Sunday of 1865, now in Daventry. No minister until early 1870, when Mr John Pyle Jones,  Llanfaches, Monmouthshire was called. His induction was held June 22nd those officiating were Messrs J. Morris, Lecturer in Divinity at Brecon College; H. Oliver, B.A., Newport; D. Rowlands, B.A., Welshpool; D. M. Jenkins, Newtown ; R. Lumley, Bwlchyffridd ; O. Evans, Llanbrynmair ; R. Jones, Llanidloes ; J. Jones, Machynlleth, and others, he remains here.

The following are the only ones known to have been raised to preach here -

  • HUGH JONES -  Began preaching as soon as the church was established - educated Newtown - ordained Saron, Tredegar - now at Heol Awst, Carmarthen
  • JOHN EVANS - later a minister here.

BIOGRAPHICAL NOTES **** (Not fully extracted)

GEORGE LEWIS, D.D - some confusion where he was born - Mr David Peter, Carmarthen, states Fantais, Trelech, 1760 - Mr Edward Davies, son-in-law states Coed, 5 miles from Carmarhen, 1763.....................

EDWARD DAVIES - born Ashton, Shropshire, 11 am, March 13th, 1796 - parents Edward and Margaret Davies............  

* Letter Mr J. P. Jones.

** Letter Mr J. P. Jones.

*** letter Mr H. Jones, Heol Awst, Caerfyrddin.

****Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

CONTINUED

 

(Gareth Hicks - 9 Jan 2011)