Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

See main project page

Proof read by Maureen Saycell (May 2008)

Montgomeryshire section (Vol 1) - Pages 262 - 275

Chapels below;

  • (Continued)  LLANFYLLIN

Pages 262 -275

262

(Continued)  LLANFYLLIN

 

Memorial Stone

"This Protestant Chapel was rebuilt in the year of our Lord 1717. Being the 172nd year since the reformation, the 29th since the revolution, and the 4th year of the reign of King George. Uno avulso, non deficit alter."

Ni wnaed hyny gan y Llywodraeth oblegid na allasai y gynnulleidfa ei godi ei hun ; ond oblegid fod yn gyfiawn i'r Llywodraeth a oddefodd i'r werin ddireol ei dynu i lawr, i fyned i'r draul i'w ail adeiladu. Yn ol y cyfrif a gasglwyd gan Dr. John Evans yn 1715 o nifer a sefyllfa gymdeithasol cynnulleidfaoedd Cymru, yr oedd 110 yn gyffredin yn bresenol cydrhwng Llanfyllin a'r Pantmawr - o'r rhai yr oedd 10 yn foneddigion, 1 tirfeddianwr, 5 yn meddu pleidleisiau dros y sir, a 9 yn meddu pleidleisiau y bwrdeisdrefi. Llafuriodd Mr Jervice yma hyd 1743, pryd y rhoddodd angeu derfyn ar ei fywyd defnyddiol, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Llanfyllin.

Dilynwyd Mr Jervice gan wr ieuangc o'r enw Thomas Evans. Nis gwyddom ddim o'i hanes, na pha cyhyd y bu yma ; ond cyfarfu ag angeu mewn modd gofidus yn mlodeu ei ddyddiau. Fel yr oedd yn ceisio croesi yr afon Efyrnwy with fyned i neu ddyfod o'r Pantmawr, a'r afon ar y pryd yn genllif, profodd y dwfr yn rhy gryf iddo, cariwyd ef gan y llif, a boddodd ; ond cafwyd gafael ar ei gorff, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Meifod ; ond nid oes cymaint a chareg arw a "dwy lythyren" arni i ddynodi lle ei fedd.

Daeth Mr Jenkin Jenkins yma ar ol hyny. Nid ydym yn sicr pa bryd y daeth yma, ond yr oedd yma yn 1751, a bu yma o leiaf hyd 1759, oblegid yr ydym yn ei gael dros y blynyddau hyny yn derbyn o Drysorfa y Presbyteriaid fel gweinidog Llanfyllin. Ymadawodd i Gaerfyrddin, lle y dewiswyd ef yn athraw yr athrofa yno, a graddiwyd ef gan ryw ysgol teitl o D.D. Dilynwyd of gan Mr Benjamin Radcliffe. Yr oedd of yma yn 1762. Symudodd oddi yma i Congleton, yn sir Gaerloyw. Ar ei ol ef bu Mr Benjamin Rees yma. Yr oedd yma yn 1766, a symudodd i Leominster, yn Sir Henffordd. Wedi ymadawiad Mr Rees, daeth Mr James Evans yma, ond byr iawn fu yspaid ei arosiad yntau yma. Yr oedd yma yn 1769, ond ymadawodd, ac nis gwyddom i ba le. Cyfnod " tywyll du" oedd hi ar yr achos yn ystod tymor y pedwar gweinidog yma. Yr oeddynt ill pedwar yn Arminiaid neu yn Ariaid, os nad yn rhywbeth pellach ; ac yr oedd anadl eu gweinidogaeth wedi sychu i fyny bob gronyn o deimlad crefyddol yn yr eglwys ; ac yr oedd yr achos wedi disgyn mor isel am yspaid o amser ar ol ymadawiad yr olaf o'r pedwar fel nad agorid drws y capel ond unwaith yn y mis, pan y pregethai Mr Goronwy, o'r Bala, ar ei ffordd i'r Pantmawr. Yr oedd un o deulu y Pantmawr, o'r enw Mrs Sale, wedi gadael cymunrodd o £5 y flwyddyn i weinidog Llanfyllin am bregethu yno unwaith yn y mis ; ac yr oedd agor y drws oedfa yn un o amodau y cytundeb a phob tenant a gymerai y ffarm. Cafwyd llawer o garedigrwydd oddiar law y rhan fwyaf o'r tenantiaid; ond bu yno un John Wynn yn dal y lle am 20 mlynedd, ac nid oedd dim cydymdeimlad rhyngddo a'r efengyl, na rhwng neb o'i deulu. Nis gallasent atal yr addoliad, ond gwnaent bob peth yn eu gallu i daflu anhawsder i'w ffordd. Dygent yn mlaen orchwylion y ty pan y byddai y pregethwr wrthi yn pregethu. Clywid un yn nyddu yn un ystafell, ac eraill yn corddi mewn ystafell arall, fel mai gorchest fawr oedd i'r pregethwr

263

fyned yn mlaen, a chydag anhawsder p gellid ei glywed. Parhaodd y pregethu yn y Pantmawr' nes y codwyd capeli yn yr ardaloedd o'i gylch; ac y gwelwyd nad oedd un amcan ymarferol yn cael ei gyrhaedd o barhau y gwasanaeth yno yn hwy ; ac yn 1855' yn ages i derfyn gweinidogaeth Mr. D. Morgan, gwerthwyd y blwydd-dal am 80p.' a rhoddwyd y swm ar log i weinidog Llanfyllin.

Yn nechreu y flwyddyn 1780, daeth Mr John Griffith, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, yma'i a derbyniodd alwad gan yr eglwys fechan adfeiliedig yn y lle. Urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth Gorph. 5ed, 1780. Yr oedd amryw o weinidogiun enwog o Gymru a Lloegr yn bresenol ar yr achlysur, ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth ; megis, Meistriaid R. Gentleman, Athraw yr Athrofa yn Nghaerfyrddin , S. Lucas, Amwythig ; Edward Williams (Dr. Williams wedi hyny), o Groesoswallt ; R. Tibbott, o Lanbrynmair ; A. Tibbott, o Sir Fon ; T. Davies, o Lanuwchllyn ; ag eraill. Ni bu Mr Griffith yma ond dwy flynedd ; ond yn yr ysbaid byr hwnw bu yn hynod o lafurus a llwyddianus yn ngwaith yr Arglwydd. Bu yn offeryn i adfywio yr achos yn y lle, ac i helaethu terfynau teyrnas y Gwaredwr trwy y wlad oddiamgylch. Ymdyrai lluoedd i wrando arno yn y meusydd ac ar y mynyddoedd, a phrofodd ei weinidogaeth dan arddeliad yr Ysbryd Glan yn allu Duw er iachawdwriaeth llawer o eneidiau. Yr oedd rhywbeth nodedig o fawreddog ac awdurdodol yn ei edrychiad ; yr oedd yn ddyn corphol, glandeg, ei lais yn nodedig o beraidd, a'i gyfarchiad yn ddengar a serchiadol. Medrai ganu nes lliniaru ei erlidwyr yn yr adeg fwyaf cyffrous ar eu cynddaredd, ac yn aml y dywedent pan y dechreuai weddio " rhagor o'ch canu os gwelwch yn dda wr dyithr, a dim o'ch gweddio na'ch pregethu." Bu lawer gwaith mewn perygl am ei einioes, ond yr oedd llaw yr Arglwydd gydag ef fel y bu ei lwyddiant yn fawr. Yn 1782, derbyniodd alwad o Caernarfon, ac er gofid i'w gyfeillion a cholled i Sir Drefaldwyn, cydsyniodd a'r gwahoddiad. Nid yw yn gwbl sicr pa bryd y symudwyd y cymundeb o'r Pantmawr i Lanfyllin, ond y mae yn debygol mai o gylch yr adeg yma pan y ffurfiwyd eglwysi Annibynol yn y Trallwm a'r Sarnau.

Yn ystod y tair blynedd dilynol gwasanaethid yr eglwys yn Llanfyllin fynychaf gan fyfyrwyr yr Athrofa oedd erbyn hyn yn Nghroesoswallt dan arolygiaeth Dr. Edward Williams. Ar un nos Sadwrn yr oedd un o honynt i bregethu mewn ty a elwid Pont'radyn. Clywodd y dorf am yr oedfa, a cheisiasant aflonyddu ar yr addolwyr trwy daflu ceryg trwy y drws a dryllio y ffenestri. Yn ffodus, fodd bynag, digwyddodd fod person y plwyf ac un o'r enw Evans yn marchogaeth tua'r fan, a phan glywsant y swn brysiasant i'r lle. Cyrhaeddodd y blaenaf y ty ychydig o flaen yr olaf, a than dybied mai efe oedd y pregethwr ymosododd yr erlidwyr; gwylltiodd y ceffyl a syrthiodd ef a'i farchogwr i'r afon, lle y gwaeddai am drugaredd. Adnabyddwyd ei lais, a ffoisant oll. Daliodd un o honynt, a mynodd wybod ganddo beth oedd yr achos o'r holl gynhwrf ; ac wedi deall, yn lle ei geryddu neu ei gospi, dygodd wr Pont'radyn o flaen yr ynadon. Gofynasant iddo beth oedd y cyfarfod a gynhaliwyd yn ei dy ? Attebai' " Mai nid cyfarfod i werthu diod neu wirod oedd -  nac ychwaith cyfarfod i chwareu cardiau, neu gyfarfod chwareu am arum (gambling), onide ni buasech yn codi gwarant i'm dwyn o'ch blaen ; canys cedwir y cyfryw gyfarfodydd yn y dref a'r gymydogaeth bob wythnos, heb ymholiad gan un o honoch paham eu cynhelir." Methasant

264

chodi achos yn ei erbyn, a chywilyddiwyd hwy gan ei atteb parod, fel y rhoddasant ei ryddid iddo.

Yn 1784, dewisodd yr eglwys yn unfrydol Mr Jenkin Lewis, myfyriwr yn Athrofa Croesoswallt, yn fugail arnynt ; a neillduwyd ef i'r weinidogaeth ar y Sulgwyn, 1785. Nid oedd dim yn amgylchiadau allanol yr eglwys a'r gymydogaeth yn gymhelliad i Mr Lewis ymsefydlu yn plith. Nid oedd ond deg o aelodau yn perthyn iddi, a darfu i bump o'r deg yn fuan droi eu cefnau ac ymadael, ac fel yr ydym eisioes wedi dangos yr oedd gan drigolion y dref a'r ardal y gelyniaeth mwyaf i'r efengyl. Teimlodd Mr Lewis yn dra buan wedi cymeryd gofal yr eglwys, fod trigolion y dref a'r wlad oddiamgylch, ac eithrio ryw ychydig nifer, yn elynion penderfynol yn erbyn yr efengyl a'r rhai a'i cyhoeddai. Amlygodd un John Hughes a'i wraig, y rhai oeddynt yn byw oddeutu milldir o'r dref, eu hawydd i gael eu derbyn yn aelodau yn ei gapel, a thalodd Mr Lewis ymweliad a hwynt un prydnawn er cael cyfle i ymddyddan a hwy. Gwelwyd ef gan yr erlidwyr ffyrnig, a dilynasant ef. Amgylchynasant y ty, torasant i mewn iddo, triniasant y teulu yn y modd mwyaf cywilyddus, llusgasant y gweinidog parchus allan wrth wallt ei ben gan ei guro a'i droedio yn y modd creulonaf, a thebyg y buasent yn ei ladd cyn i'r gymydogaeth gael ei rhybuddio, oni buasai i flaenor y gad gael ei dyneru yn dra sydyn, ac mewn munud gorfyddodd y lleill i ymattal oddiwrth y gwaith erchyll. Fel hyn yr arbedwyd bywyd y dyn da hwn, ond nid heb glwyfau peryglus.

Barnodd Mr Lewis a'r ychydig grefyddwyr ei bod yn llawn bryd bellach cael amddiffyniad y gyfraith i ddyogelu ei fywyd ei hun a'i rhag ymosodiadau cyffelyb rhagllaw. Appeliodd gan hyny am gymorth oddiwrth y gymdeithas a ffurfiasid yn Llundain, i amddiffyn rhyddid a hawliau yr Ymneillduwyr. Cymerodd y gymdeithas y mater mewn llaw, a bu raid i'r erlidwyr ymddangos er bron Llys yr Ynadon. Eglurwyd y gyfraith iddynt, a dangoswyd eu bod trwy dorri i mewn i dy John Hughes, a'r niwed a wnaethant i'r nail a'r llall, yn agored i gosp lem oddiwrth y gyfraith. Yr oedd eu harswyd erbyn hyn yn annesgrifiadwy. Tosturiodd Mr Lewis wrthynt, a dymunodd ar i'r Llys beidio rhoddi y gyfraith mewn grym, gan y byddai ef a'i gyfeillion yn foddlawn i'w rhyddhau os cydsynient i arwyddo cyffes ysgrifenedig o'u hedifeirwch am eu trosedd. Gwnaethant hyny gyda'r parodrwydd mwyaf. Dyma sylwedd yr hyn a arwyddasant :-

" Yr ydym ni, y rhai y mae ein henwau isod, gyda galar chwerw cyffesu mewn llys agored ein trosodd yn erbyn John Hughes ac Elizabeth ei wraig, ac yn erbyn y Parchedig Jenkin Lewis ; ac am y niwed a dderbyniasant oddiar ein dwylaw, yn ddifrifol yn erbyn eu maddeuant. Dymunem hefyd amlygu ein diolchgarwch iddynt hwy, ac i'r Gymdeithas er Amddiflyn Rhyddid a Hawliau yr Ymneillduwyr, am arfer eu dylanwad er attal gweinyddiad llymaf y gyfraith yn ein herbyn am ein trosedd, ac yr ydym yn ymrwymo i ymddwyn yn heddychol a chyfeillgar tuag attynt o hyn allan. Arwyddwyd Medi 22ain, 1787."

Trwy yr amgylchiad yma argyhoeddwyd pobl anwybodus y dref  a'r amgylchoedd fod gan yr Ymneillduwyr nid yn unig hawl foesol i addoli, ond fod cyfraith y  wlad o'u plaid, ac na faidd neb ymosod arnynt heb osod ei hun trwy hyny yn agored i gosp cyfraith y tir. Ennillodd Mr Lewis a'i gyfeillion trwy yr ymddygiad hynaws, boneddigaidd, ac annialgar yma

265

o'r eiddynt barch mawr yn y dref; a rhoddwyd trwyddo ergyd marwol i erledigaeth gyhoeddus. Bu Mr Lewis yn ymroddgar a llafurus i gyflawni y weinidogaeth. Yn ei amser ef y sefydlwyd Cyfarfod y Pasg yma, yr hwn sydd wedi ei barhau yn ddifwlch hyd yma. Ymddengys yr arferid cynal gwylmabsant neu ffair gwagedd yma er cyn cof ar adeg y Pasg ; ac yr oedd yr annuwioldeb a'r llygredigaeth oedd yn nglyn a hwy yn cyffroi ysbryd Mr Lewis ; a phenderfynodd y mynai gyfarfod pregethu yn Nghapel Pendref, er gwrthweithio dylanwad y cynnulliadau pechadurus hyny. Nis gallwn gael allan i sicrwydd pa bryd y cynhaliwyd cyfarfod cyntaf ar y Pasg yma; ond yr ydym yn sicr ei fod yn cael ei gynal yn 1796, oblegid yn y flwyddyn hono y daeth Ann Thomas, Dolwar, i'r dref yn ferch ieuangc 16eg neu 17eg oed gyda bwriad fel y lluaws o'i chyfoedion i gael rhan o ddifyrwch yr uchelwyl lygredig. Trwy ryw foddion arweiniwyd hi i'r capel lle yr oedd y cyfarfod yn cael ei gynal, a Mr Benjamin Jones, Pwllheli, yn pregethu, a bu yr oedfa hono yn foddion ei dychweliad at yr Arglwydd. Bwriadodd unwaith ymuno a'r achos Annibynol yn Llanfyllin, ond wedi deall fod gan y Methodistiaid Calfinaidd addoliad a phregethiad ffyddlawn o'r efengyl yn Mhontrobert yn ymyl ei chartref penderfynodd fwrw ei choelbren yn eu plith. Daeth Ann Thomas ar ol hyny yn adnabyddus fel Ann Griffiths yr Emynwraig enwog ; a chenir rhai o'i hymnau cyhyd ag y pery, yr iaith Gymraeg. Bu Mr Jenkin Lewis farw wedi " ymdrechu ymdrech deg," Tach. 25ain, 1805.

Ar ol marwolaeth Mr Lewis bu yr eglwys yma am rai blynyddau heb weinidog ; ond o'r diwedd rhoddasant alwad i Mr David Roberts, myfyriwr o'r Athrofa yn Ngwrecsam ; ac urddwyd ef Mawrth y Pasg, 1810. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Griffith, Machynlleth ; Lewis, Gwrecsam ; W. Hughes, Dinas ; J. Roberts, Llanbrynmair ; J. Davies, Aberhafesp ; D. Davies, Trallwm ; W. Jones, Trawsfynydd ; D. Morgan, Talybont ; C. Jones, Llanuwchllyn ; J. Davies, Llundain ; ac eraill. Bu yn llafurio yma am bum mlynedd, ac yna symudodd i Fangor yn 1815, ac oddiyno symudodd i Ddinbych lle y daw ei hanes etto dan ein sylw.

Yn 1815, rhoddodd yr eglwys alwad i Dr. George Lewis i fod yn weinidog, a chydsyniodd a'r cais, a symudwyd yr Athrofa ar yr hon yr oedd yn athraw yn Ngwrecsam gydag ef i Lanfyllin. Llafuriodd yma gyda chymeradwyaeth mawr am fwy na chwe blynedd ; a bu ef a'r myfyrwyr dan ei ofal o wasanaeth mawr i'r achos yn y dref a'r wlad oddiamgylch. Symudwyd yr Athrofa i'r Drefnewydd yn 1821, ac ymadawodd Dr. Lewis yr un pryd i fod yn athraw ynddi, ac i gymeryd gofal yr eglwys yn y lle.

Ar ol i Dr. Lewis benderfynu symud i'r Drefnewydd, rhoddodd yr eglwys Llanfyllin alwad i Mr William Morris, yr hwn oedd yn fyfyriwr yn yr Athrofa, i fod yn weinidog iddynt. Urddwyd ef yn nechreu Ionawr 1822 ; ac fel hyn y ceir hanes yr urddiad yn y Dysgedydd am Chwefror 1822, tudal. 57 :-

" Ionawr 2il, 1822, urddwyd y Parch. W. Morris (yn ddiweddar myfyriwr n yr Athrofa gynt yn Llanfyllin, ond yn bresenol yn y Drefnewydd), i waith y weinidogaeth yn mhlith yr Anymddibynwyr yn Llanfyllin, Sir Drefaldwyn,. Cyfarfu yr eglwys yn gryno y diwrnod o'r blaen am 10 yn y boreu, i ymbil am fendith Duw ar y gwaith pwysfawr oedd i gymeryd

266

lle. Am 6 o'r gloch prydnawn, dechreuwyd yr addoliad trwy ddarllen mawl, a gweddi gan Mr. J. Watkins, o Lanfair ; a phregethodd y Parchn. H. Williams, Llanelli, a W. Hughes, Dinas, oddiwrth Salm lxxxyi. 5; Eph. v. 11 ; a dibenwyd trwy fawl a gweddi. Am 10, diwrnod y cyfarfod, dechreuwyd trwy ddarllen, mawl, a gweddi gan y Parch. J. Davies, Llanfair ; yna traddodwyd y gyn-araeth gan y Parch. M. Jones, Llanuwchllyn ; derbyniwyd cyffes ffydd y gweinidog ieuangc gan y Parch. W. Hughes, Dinas; offrym.wyd yr urdd-weddi gan y Parch. H. Williams, Llanelli ; a phregethodd y Parchedig D. Morgans, Machynlleth, ar ddyledswydd y gweinidog, oddiwrth 2 Cor. ii. 16 ; a'r Parch. J. Roberts, Llanbrynmair, ar ddyledswydd yr eglwys, oddiwrth Rhuf. xvi. 3, a dybenwyd trwy fawl a gweddi.

" Am 2, dechreuwyd trwy ddarllen, mawl, a gweddi gan y Parch. E. Davies, Cytiau ; a phregethodd y Parch. M. Jones, Llanuwchllyn, a'r Parch. H. Williams, Llanelli, oddiwrth Ioan xii. 13, a Salm lxxxvi. 10, a dibenwyd trwy fawl a gweddi.

" Am 6, dechreuwyd trwy ddarllen, mawl, a gweddi gan Mr M. Ellis (cydfyfyriwr a'r urddedig) ; a phregethodd y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair, a'r Parch. D. Morgans, Machynlleth, oddiwrth Job xxv. 4, Act. xv. 9, a dibenwyd trwy fawl a gweddi. Ni welwyd cyfarfod mwy cysurus yn Llanfyllin erioed o'r blaen, arwyddion helaeth o'i foddlonrwydd ar y gwaith, a chanoedd yn cael lle i ddyweyd wrth ymadael mai da oedd iddynt fod yno, a llawer o le i gredu fod gan Ben Mawr yr eglwys law neillduol yn anfon Mr Morris i lafurio yn Llanfyllin a'i chymydogaeth, drwy fod adfywiad mawr ar yr achos goreu, megis bywyd o feirw."

Bu Mr Morris yma am ddwy flynedd ar bymtheg yn llafurio fel gweinidog, ac yn boblogaidd iawn fel pregethwr trwy yr holl wlad. Yn ystod ei weinidogaeth ef y codwyd y capel presenol, and ei fod er hyny wedi ei adnewyddu a'i ad-drefnu. Dechreuwyd tynu yr hen i lawr Ebrill 13eg, 1829, ac agorwyd y newydd Hydref 13eg a'r 14eg, yn yr un flwyddyn. Pregethwyd y nos gyntaf gan M. Jones, Farteg, a J. Williams, Dinas. Dranoeth, am 10, E. Davies, Drefnewydd, a S. Roberts, Llanbrynmair. Am 2, T. W. Jenkins, Croesoswallt (yn Saesneg), a W. Williams, Wern. Am 6, H. Morgan, Samah ; T. Jones, Llangollen; ac I. Pergrine, Domgay. Yn 1830, codwyd hefyd gapel bychan a elwir Soar, yn mhlwyf Meifod, yr hwn sydd yn parhau mewn cysylltiad a Llanfyllin, a chynhelir ysgol Sabbothol a phregethu ynddo yn rheolaidd. Derbyniodd. Mr Morris alwad o Glandwr, ger Abertawy, a symudodd yno yn nechreu haf 1839.

Derbyniodd Mr David Morgan, oedd y pryd hwnw yn Manchester, alwad oddi yma yr Hydref cyntaf wedi ymadawiad Mr Morris, a dechreuodd ei weinidogaeth yn mis Tachwedd 1839. O gylch yr amser yma, sicrhawyd capel bychan a elwir Siloh at wasanaeth yr eglwys, yr hwn oedd wedi ei godi ychydig cyn hyny ; ac y mae moddion rheolaidd yn cael eu cynal ynddo fel yn Soar, er nad oes eglwysi wedi eu corphori yn y naill na'r llall. Llafuriodd Mr Morgan a'i holl egni yn ystod y.blynyddoedd y bu yma; ond gan fod ei iechyd yn adfeilio, cydunodd ef a'r eglwys yn nechreu 1855 i roddi galwad i Mr Price Howell - yr hwn oedd ddwy flynedd cyn hyny wedi ei urddo yn Amana, Sir Gaernarfon - i fod yn gyd-weinidog ag ef. Parhaodd yr undeb am oddeutu dwy flynedd, pan y symudodd Mr Howell i gymeryd gofal yr eglwys yn Mhwllheli. Yn fuan ar ol hyny,

267

teimlodd Mr Morgan nas gallasai sefyll yn hwy o flaen arch yr Arglwydd, a rhoddodd ofal bugeiliol yr eglwys i fyny yn mis Hydref 1857, er iddo fyw wyth mis ar ol hyny.

Wedi bod am fwy na blwyddyn heb weinidog, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr David Milton Davies, yr hwn oedd yn weinidog yn y Wern a Phenycae, Sir Aberteifi. Dechreuodd ei weinidogaeth yma y Sabboth cyntaf yn Rhagfyr 1858, a pharhaodd i lafurio yma gyda derbyniad a chymeradwyaeth mawr nes y rhoddodd angeu derfyn ar ei fywyd defnyddiol Mehefin 7fed, 1869 ; ac er hyny hyd yn hyn, y mae yr eglwys wedi bod yn amddifad o weinidog.

"Nid yw yr eglwys Ymneillduol yn. Mhendref wedi bod un amser yn lluosog ei haelodau - rhyw 150 i 170 ; ond y mae wedi bod yn perthyn iddi ddynion lled gyfrifol a da eu hamgylchiadau. Ac er nad ydyw wedi bod mor ymdrechgar i ledaenu egwyddorion crefydd Crist trwy y wlad oddi amgylch ag yr oedd ei hamgylchiadau a'i chyfleusderau yn caniatau, etto nid yw wedi bod yn gwbl ddilafur a difudd yn hyn ; canys y mae yn eglur mai trwyddi hi y seiniodd Gair y Gwirionedd, ac y sefydlwyd achosion Penybontfawr, Llanrhaiadr, Llansantffraid, Main, Penllys, a manau eraill. Ond y mae yr un mor amlwg ei bod wedi gadael tir lawer o amgylch dref heb ei feddianu, pan yr oedd ganddi gyfleusdra i wneyd hyny, ond daeth eraill ac a'i meddianasant.

" Y mae diffyg wedi bod mewn cydweithio a'r weinidogaeth gyhoeddus i gadw cyfarfodydd i weddio a sefydlu ysgolion Sabbothol yn y wlad oddi amgylch. Pa beth bynag a all dawn y gweinidog fod, a'i boblogrwydd yn traddodi ei bregethau, oni bydd yr aelodau yn ymdrechgar i sefydlu moddion eraill i gydweithio a'r weinidogaeth, nis gall fod yn hir yn llwyddianus!

" Ond er nad yw yr eglwys o ran rhifedi ond ychydig mewn cydmariaeth lawer o eglwysi eraill, etto y mae wedi bod yn lled lafurus a haelionus gyda phethau amgylchiadol crefydd gartref. Gwelir iddi dynu i lawr ei hen addoldy, ac adeiladu un llawer mwy yn ei le, a thalu am dano ei hun, oddieithr un £20 a dderbyniodd oddiwrth yr Undeb Cynnulleidfaol yn Nghymru tuag at dalu dyledion addoldai. Yn y flwyddyn 1840, prynodd ddarn o dir o amgylch y capel yn lle beddrod - yn fynwent i gladdu meirw. Costiodd hyn fwy na chwe chant o bunau, yr hyn oedd yn swm go fawr yn yr amser gynt. Yn 1847, talodd £60 eraill o ddyled oedd ar gapel bychan Soar ; ac y mae wedi bod mor ffyddlon ag unrhyw eglwys mewn cynorthwyo eglwysi eraill i dalu eu dyledion. Y mae hefyd wedi bod yn haelionus tuag at gynal gwyr ieuaingc yn ein Hathrofeydd. Y mae yn ddigon eglur yn amgylchiadau yr eglwys hon, fel eraill, mai y rhai mwyaf haelionus tuag at achos Crist ydyw y rhai mwyaf llwyddianus yn eu hamgylchiadau bydol, fel y dywed Ysgrythyr - ' Yr enaid hael a frasheir ; a'r hwn a ddyfrhao a ddyfrheir yntau hefyd.' Rhyw un a wasgar ei dda, ac fe a chwanegir iddo ; a rhyw un arall a arbed fwy nag a weddai, ac a syrth i dylodi.,

" Yn mlynyddoedd 1844-5, cyfarfu yr eglwys hon ag amgylchiad pur gymylog a thywyll, trwy farwolaeth dros ugain o'r aelodau, a llawer o honynt yn brif, golofnau yr achos yn y lle. Collwyd tri o ddiaconiaid yn lled agos o ran amser i'w gilydd - ein hen gyfaill Mr Griffith Evans, a Mr J. Jones, Tanner, ei fab-yn-nghyfraith ; ac yn lled fuan ar eu hol, ein cyfaill ieuangc Mr Robert Evans, yr hwn a fu farw yn y 30 mlwydd

268  

o'i oedran. Dylai hyn gael lle dwys ar feddwl yr eglwys, fel y dywed yr apostol : 1 Cor. xi. 30, 31.

" Y mae ychydig gymunroddion wedi eu gadael gan wahanol bersonau tuag at gynhaliaeth gweinidog yn y lle. Ni ddylai hyn mewn un modd fod yn achlysur i'r eglwys leihau ei hymdrechion haelionus ei hun nghynaliaeth y weinidogaeth. Y mae y cymunroddion hyn yn £220, gyda dwy bunt a deg swllt yn flynyddol yn dyfod yn of ewyllys un Mrs Roberts, o Wrecsam." *

Bu yma ar rai adegau ddynion nodedig mewn crefydd - " cadarn yn yr Ysgrythyrau " - nas gallesid yn fuan eu syflyd oddiwrth y ffydd, na'u cael i droi oddiwrth yr hyn a ystyrient hwy yn wirionedd. Cyfrifid yr eglwys yn uchel Galfinaidd yn yr adeg yr oedd dadleuon duwinyddol yn cynhyrfu y wlad ; ond nid oedd ei syniadau uchel am ras yn atalfa iddi flaenori mewn gweithredoedd da. Nis gallasom gael rhestr gyflawn o'r dynion nodedig a fu yn perthyn i'r eglwys hon o bryd i bryd ; ond crybwyllir gyda pharch am enwau y personau a ganlyn fel rhai rhagorol yn mysg y brodyr a fu yn perthyn i'r eglwys yn y ganrif bresenol -Robert Chidlaw, a fu yn proffesu crefydd - yma am fwy na 60 mlynedd, ac a ennillodd iddo ei hun radd dda'i er nad oedd ond dyn cyffredin ei amgylchiadau. Yr hen Edward Pryce, yr hwn a elwid " Yr Orddfawr," am yr arferai bob amser siarad yn gryf a phenderfynol dros ddysgyblaeth. Symudodd of i America. Elijah Morris oedd ddyn o ddeall cryf, ac yn athraw goleuedig yn yr ysgol Sabbothol. William Dodd oedd yn hen gymeriad gwreiddiol, ac a fu am oes hir yn un o golofnau yr achos. Evan Hughes y Gof oedd yn wr da a ffyddlon ; a gadawodd gymunrodd o £20 at y weinidogaeth yn y lle. John Daniel, John Owen, o'r Cwm, wedi hyny o'r Tanhouse, a John Richards, Patent Maker, ydynt enwau sydd wedi disgyn i lawr hyd atom gyda pherarogl. Griffith Evans oedd wr haelionus, selog, a chrefyddol iawn. Er ei fod uwchlaw y cyffredin o ran ei amgylchiadau, cyfrifai ei hun yn wastad y llai na'r lleiaf. Robert Evans, ei fab, oedd wr ieuangc addawus iawn, ond a symudwyd gan angeu yn mlodeu ei ddyddiau. John Jones, Tanner, mab-yn-nghyfraith. y dywededig Griffith Evans, oedd ddyn o feddwl penderfynol, ac wedi ei wreiddio yn ddwfn yn ngwirioneddau yr efengyl. Richard Tibbott a'i deulu a fu am dymor maith yn swcr mawr i'r achos yma. Mab oedd efe i'r hyglod Richard Tibbott, gweinidog Llanbrynmair. " Gwr defosiynol yn ofni Duw yn nghyd a'i holl dy" oedd Mr Tibbott. Cristion cywir a heddychlon. Gwelodd ei ferched rhinweddol yn gwywo i'r bedd o flaen ei lygaid ; ac nid oes iddo neb wedi  ei adael ar ol i ddwyn ei cnw.

Bu llawer o wragedd rhagorol yn perthyn i'r eglwys hon-gwragedd a gymerent ran gyhoeddus gyda chrefydd, ac y bu eu dylanwad a'u gwasanaeth o gynorthwy mawr i achos y Gwaredwr. Mrs M. A. Tibbott, gwraig gyntaf Mr Richard Tibbott, oedd un a gymerodd lawer o boen er mwyn crefydd , ac yr oedd ei chalon yn gynes gyda'r achos yn ei holl ranau. Arferai y gwragedd yma gynal cyfarfodydd gweddio yn gyhoeddus, ac yr oedd rhai o honynt yn meddu ar ddoniau nodedig. Crybwyllir yn arbenig am Mrs Foulkes, Tanner, a'i chwiorydd - y Misses Price, Mrs Jenkin Lewis, Betty Daniel, a Betty Pritchard, Eva Judith, Betty Jones, Mrs Tibbott (ail wraig Mr R. Tibbott), Gwen Evans, ac amryw eraill ;

*Llyfr Eglwys Llanfyllin. Ysgrifenwyd gan Mr. D Morgan.

269

ac mewn cyfnod diweddarach, yr oedd Mrs Jones, Tanhouse, yn nodedig fel un o " heddychol ffyddloniaid Israel." Mae enwau rhai rhagorol y ddaear yn werth eu cadw mewn coffadwriaeth. Gosododd Paul ar gof a chadw yn ei lythyrau en wau y gwragedd sanctaidd a fu o wasanaeth iddo of i yn achos yr efengyl ; ac y mae llawer eglwys yn Nghymru yn ddyledus i "lafurus gariad " gwragedd rhinweddol, fel offerynau am yr olwg lwyddianus sydd arnynt.

Cyfodwyd yma o bryd i bryd bryn nifer o bregethwyr , ac er nad oes genym restr gyflawn o honynt, yr ydym yn sicr fod y rhai canlynol wedi codi oddi yma :-

  • Robert Owen. Urddwyd of yn Llanengan, yn Sir Caernarfon. Bu yno dros amryw flynyddoedd. Symudodd i Cwmbychan, Morganwg. Ymollyngodd yn ei arferion, a darfu i gysylltiad a'r weinidogaeth ; ac y mae wedi ei gladdu er's yn agos i 20 mlynedd.
  • Robert Jones, a Charles Jones. Dau frawd a fuont am flynyddau lawer yn bregethwyr cynorthwyol yn y dref a'r amgylchoedd. Yr oeddynt mewn sefyllfaoedd bydol cysurus, ac felly yn gallu rhoddi eu gwasanaeth yn rhad i eglwysi bychain yr ardaloedd cylchynol. Bu llaw ganddynt yn sefydliad amryw o eglwysi y rhan yma o Sir Drefaldwyn, fel y cawn achlysur i sylwi etto pan y deuwn at yr eglwysi hyny. Bu Mr Robert Jones farw lawer o flynyddoedd o flaen Mr Charles Jones ; a symudodd olaf i Langynog yn ei flynyddoedd diweddaf. Brawd iddynt hwy oedd Mr David Jones, Llansantffraid, am yr hwn y bydd genym lawer i'w ddyweyd pan ddeuwn at yr eglwys hono ; a chwaer iddynt hwy oedd Mrs Tibbott, gwraig gyntaf Mr Richard Tibhott ; a da genym ddeall fod crefydd yn aros yn yr achau.
  • John Morris. Urddwyd of yn weinidog yn y Main. Daw ef dan ein sylw yn nglyn a'r eglwys yno.
  • Thomas Richards. Symudodd of i Benybontfawr, lle y treuliodd ei oes yn bregethwr cynorthwyol parchus a derbyniol gan yr holl eglwysi. Bydd genym air am dano yn hanes Penybontfawr.
  • Edward Evans. Mab Mr Griffith Evans, un o hen ddiaconiaid r eglwys. Bu yn astudiwr yn yr Athrofa pan yn Llanfyllin, a symudodd gyda hi i'r Drefnewydd. Yno y derbyniwyd of yn aelod, yr olaf a dderbyniwyd gan Dr. Lewis. Bu dan addysg yn Wem, dan ofal Mr Edwards ; yn NghroesOswallt, dan ofal Dr. T. W. Jenkins, a phan yno y dechreuodd bregethu. Bu yn Athrofa Homerton, ac wedi hyny yn Mhrifysgol Glasgow ; ond dychwelodd i Lanfyllin at ei deulu, gan ymgymeryd a masnach ei dad, ac yma y mae yn aros hyd yr awr hon.
  • Ellis Hughes. Er mai un o Ddinas Mawddwy ydyw, a mab i'r hen weinidog parchus W. Hughes, etto yma y dechreuodd bregethu yn niwedd 1829, neu ddechreu 1830. Wedi hod dan addysg yn y Neuaddlwyd a'r Drefnewydd, urddwyd of yn Nhreffynon ; ac y mae yn awr yn Mhenmain.
  • Jeremiah Jones. Urddwyd ef yn Abergele, a bu farw yn gymharol ieuangc. Gweler ei hanes yno.
  • Owen Evans. Yr hwn sydd yn weinidog yn Llanbrynmair, a ddechreuodd bregethu yn 1846, pan yn 16 oed. Gobeithio fod yr amser yn mhell pan y gelwir ar neb ysgrifenu bywgraphiad iddo.
  • David Evans. Brawd dywededig Owen Evans. Addysgwyd ef yn Athrofa y Bala. Urddwyd yn Rhosymedre; ac y maeyn awr yn yr Abermaw.

270  

  • Thomas Evans. Brawd arall o'r un teulu. Addysgwyd yntau yn Athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn Bettwsycoed, lle y mae yn awr-
  • Cadwaladr R. Jones. Mab i'r hybarch C. Jones, Dolgellau. Dechreuodd ef bregethu yr un pryd a Thomas Evans; ac y mae yn aros yn Llanfyllin i wasanaethu yr eglwys fel diacon a phregethwr ; ac y mae ei enw yn adnabyddus trwy ein henwad fel an parod i bob gweithred dda.
  • William Jones. Dechreuodd ef bregethu yr un pryd a'r ddau a enwyd ddiweddaf. Symudodd i America, lle y mae yn bresenol.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL  *(Not fully extracted)

AMBROSE MOSTYN.  Bu y gwr da hwn yn llafurio i'r eglwys hon ar ei chychwyniad cyntaf ; ond gan iddo fod ar ol hyny yn gweinyddu eglwys yn Ngwrecsam gadawn ei hanes ef hyd hyny.

JOHN EVANS. Gweler ei hanes yntau yn nglyn a'r eglwys yn Ngwrecsam lle y terfynodd ei weinidogaeth.

*JAMES OWEN. Ganwyd Mr. Owen yn y Bryn, yn mhlwyf Abernant, ger Caerfyrddin ar y laf o Dachwedd, 1654. ........................................

271 / 272  / 273 /274

*WILLIAM JERVICE. Nid oes genym ddim i'w ychwanegu am dano at yr hyn a ddywedasom eisioes. .......................

THOMAS EVANS. Yr ydym wedi dyweyd y cwbl a wyddom o'i hanes yntau. Boddodd yn ddyn ieuangc yn afon Efyrnwy, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Meifod.

*JENKIN JENKINS, D.D. Nis gwyddom yn mha le na pha bryd y ganwyd ef. Yn Athrofa y Llwynllwyd yr addysgwyd ef, .....................

*JENKIN LEWIS. Ganwyd of yn agos i Gastellnedd, yn y flwyddyn 1749. ..................

275

CONTINUED

 

 

(Gareth Hicks - 13 May 2008)