Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

Extracted  by Gareth Hicks from the CD published by Archive CD Books (Dec 2007)  - with translation


 Felindre

  (Vol 3, p43)

 "Dechreuwyd pregethu yma gan Mr. Stephen Lloyd; ond yn y flwyddyn 1810 yr adeiladwyd y capel cyntaf yma. Ni fwriedid ef ond fel lle i bregethu yn achlysurol a chynal cyfarfodydd gweddi, ac arferai yr holl aelodau fyned i Brynberian i gymundeb. Parhaodd felly hyd yn agos i derfyn gweinidogaeth Mr. Henry George, pryd y barnwyd yn ddoeth i ffurfio yma eglwys Annibynol. Nid oedd yn lluosog ar ei chychwyniad, ac nis gallasai fod, gan y gwesgid ar ei therfynau o bob tu gan eglwysi ereill. Mewn cysylltiad gweinidogaethol a Brynberian y mae wedi bod o'r dechreuad, ac felly y mae yn awr o dan ofal Mr. Lewis. Yn y flwyddyn 1857 adeiladwyd yma gapel newydd hardd a chyfleus ar dir Syr Thomas Lloyd, Bronwydd. Costiodd 364p. 4s. 8c. Cafwyd yr holl gludiad yn rhad. Agorwyd ef Awst 11eg a'r 12fed, 1857 ; a chasglwyd cyn dydd yr agoriad mor dda fel nad oedd ond 36p. 6s. 5d. yn aros; ac yr oedd mwy na haner y swm hwnw wedi ei gasglu cyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad. Yr oedd yn eglur fod gan y bobl galon i weithio. Trowyd yr hen gapel yn ysgoldy, a chynelir ysgol Frytanaidd ynddo er's blynyddau. Mae yr achos yma yn myned rhagddo yn llwyddianus; ac y mae yr eglwys yn gref a dylanwadol yn yr ardal, er nad yn lluosog iawn. Megis y crybwyllasom yn hanes Brynberian, unodd y ddwy eglwys i adeiladu ty i'r gweinidog yn 1867; ac y mae fod y ty gerllaw y capel yma yn gyfleustra mawr i'r eglwys hon, gan ei bod felly yn cael presenoldeb y gweinidog yn ei holl gyfarfodydd.

Ni chyfodwyd yma ond un pregethwr, sef David Morgan Lewis, mab Mr. Lewis y gweinidog, yr hwn sydd newydd orphen ei amser fel efrydydd yn athrofa Caerfyrddin; ac y mae yn awr yn mhrif ysgol Caergrawnt "

Translation by Maureen Saycell (Jan 2008)

"Mr Stephen Lloyd began preaching here, but it was in 1810 that the first Chapel was built here. It was  intended only for occasional preaching and prayer meetings, and all the members would go to Brynberian for communion. This situation continued until near the end of Mr Henry George's ministry, when it was thought to be wise to set up an Independent Church here. The numbers were not high initially, they could not be, because it was squeezed on all sides by other churches. It has been in association with the ministry of Brynberian from the beginning, as it continues to this day under the care of Mr Lewis. In 1857 a handsome and convenient new chapel was built on the land of Sir Thomas Lloyd, Bronwydd. It cost £364/4s/8d. All the carriage was free. It was opened on August 11th and 12th, 1857, there was such a good collection before the opening day that only £36/6s/6d remained unpaid, and more than half of that had been collected by the end of the opening services. It was clear that the people had the heart to work. The old chapel was converted to a school, and a British school has been held there some years. The cause here has been very successful, and the church is strong and influential in the area although not high in numbers. As mentioned in the history of Brynberian the two churches joined together in 1867 to build a hose for the minister, and having the house near to the chapel is very convenient for this church as the minister was always available for every service.

There was only one minister raised by this church, who was David Morgan Lewis, the son of Mr Lewis the Minister. He has just finished his time as a student at Carmarthen college, he is now at Cambridge University."

 


  (