Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

See main project page

Proof read by Maureen Saycell (March 2008)

Pembrokeshire section (Vol 3) - Pages 58 - 71

  • (Continued) SILOH
  • BETHESDA  (Llawhaden parish) (with translation)
  • LLANDYSILIO (Llandyslio parish)(with translation)
  • SOLFACH  (Whitchurch parish) (with translation)
  • PENYBONT, FORD  (Hayscastle parish) (with translation)
  • PENYGROES  (Whitechurch parish)(with translation)
  • ANTIOCH  (Llanfyrnach parish)(with translation)

 


58-71

58

(Continued)  SILOH

 

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

David Owen.

Ganwyd ef yn Ffoshering, gerllaw Aberteifi, yn y flwyddyn 1802. Derbyniwyd ef yn aelod yn ieuangc, a dechreuodd bregethu cyn hir, ac aeth i'r athrofa i'r Drefnewydd, lle yr arhosodd dros amser. Dychwelodd i Aberteifi, ac agorodd ysgol yno, a phregethai pa le bynag y gelwid am ei wasanaeth. Urddwyd ef a Mr William Miles yr un pryd i fod yn gynorthwywyr i Mr. Davies, Aberteifi, a golygid i Mr. Miles ofalu yn benaf am Tyrhos, a Mr. Owen am Llechryd. Yn y flwyddyn 1845, fel y crybwyllasom, symudodd i Siloh, a bu yno am chwe' blynedd, ac yna dychwelodd i Aberteifi, lle y treuliodd weddill ei oes. Bu farw Mehefin 28ain, 1854, yn 52 oed. Yr oedd Mr. Owen yn ddyn gwylaidd a hollol anymhongar. Cyfrifid ef yn gywir a didwyll fel cyfaill, ac yr oedd yn hollol ddiabsen am bawb. Er nad oedd yn hyawdl a doniol fel pregethwr, etto hoffid ef gan bawb a'i hadwaenai. Ni theithiodd ond ychydig. Eiddil oedd ei gorph ar y goreu, ac yr oedd un ochr iddo yn wan, yr hyn a'i hanalluogai i fyned lawer oddicartref, heblaw nad oedd tuedd ynddo at hyny. Bu o wasanaeth mawr fel ysgol-feistr, er mai prin ddigon a gafodd oddiwrth hyny i gynal ei deulu. Gadawodd weddw a dau blentyn amddifaid ar ei ol, ac y mae rhagluniaeth wedi gofalu am danynt fel na fu arnynt eisiau am ddim daioni."   

 

BETHESDA

(Llawhaden parish)

Saif Bethesda yn y rhan ddwyreiniol o blwyf Llanhaden, o fewn tair milldir i dref Narberth. Rhenir y plwyf gan afon Cleddai, ac ar yr ochr orllewinol y dechreua y rhan Seisnig o'r sir, tra y mae y bobl yn yr ochr ddwyreiniol i'r afon yn gyffredin yn siarad Cymraeg. Mae hyn yn an­fantais fawr i'r achos yn y lle, gan fod yn rhaid cynal yr holl wasanaeth yn y ddwy iaith. Mae hyn wedi bod o oes i oes yn rhai o'r eglwysi ar y cyffiniau rhwng y rhanau Cymreig a Seisnig o'r sir hon. Credwn mae Saesnaeg yn gyfangwbl fydd yr achos yn Bethesda gydag amser. Adeiladwyd y capel cyntaf yma yn y flwyddyn 1797. Yr oedd yr achos wedi ei ddechreu lawer o flynyddoedd cyn hyny. Yr hanes cyntaf a gawn yw fod cyfarfodydd yn cael eu cynal yn nhy Dafydd Morris, yr hwn oedd yn byw mewn amaethdy o'r enw Penllwyn, ac yn ymyl y lle hwn yr adeiladwyd y capel. Mae hen lyfr cofrestriad bedyddiadau yr eglwys, yn rhoi ar ddeall fod yr eglwys wedi ei ffurfio flynyddoedd cyn adeiladu y capel. Ond pa faint cyn hyny, a than bwy, ac o ba le y daeth yr aelodau cyntaf, a phwy oedd y pregethwr neu y pregethwyr cyntaf, nis gwyddom, ac yr ydym wedi methu cael allan. Cawn fod Mr. Henry George wedi ei neillduo yn gydweinidog a Mr. Stephen Lloyd, Brynberian, yn y flwyddyn 1790, ac enwir Bethesda fel un o'r eglwysi ag oedd yn faes eu llafur. Cawn yn hen lyfr y cofrestriad enwau amryw o'r rhai fu yn gweinyddu yr ordinhad o fedydd yma, cyn adeiladu y capel cyntaf, megis Griflith Griffiths, John Harries, a John Grifliths, (Glandwr, mae yn debyg). Ond Mr. Stephen Lloyd oedd a'r gofal am y weinidogaeth yn y tymor hwn, a Mr. Henry George yn cydweinidogaethu o'r flwyddyn 1790.

Codwyd y capel cyntaf, fel y nodwyd, yn 1797. Y flwyddyn y tiriodd y Ffrangcod yn Mhencaer, ac yr oedd y ddau amgylchiad yn anwahanedig

59

yn meddyliau yr hen bobl, oblegid y pryder oedd ynddynt rhag i'r gelyn ddinystrio yr hyn ag oeddynt hwy wedi ei adeiladu o'r capel newydd. Y mae hen les y ty cyntaf hwn ar gael, wedi ei ddyddio Ebrill, 1797, a their yr enwau canlynol fel ymddiriedolwyr : - Stephen Lloyd, Henry George, Lemuel Luke, Moat, Thomas James, Veynor, a David Llewellyn, Crinow. Felly sicrhaodd yr hen Ddafydd Morris, Penllwyn, ddarn o'i dyddyn adeiladu y capel arno, wedi i'r eglwys fod am flynyddoedd yn ei dy ef. Terfynodd cysylltiad Mr. Stephen Lloyd a Bethesda yn y flwyddyn 1800, a daeth gofal yr eglwys yn hollol ar Mr. Henry George, a pharhaodd ofalu am dani hyd y flwyddyn 1810. Felly, o'r pryd yr urddwyd of yn gydweinidog a Mr. Stephen Lloyd, parhaodd ei gysylltiad a Bethesda am y tymor hirfaith o haner can' mlynedd. Yr oedd yn yr hybarch Henry George lawer o neillduolion, ac y mae ei goffadwriaeth yn anwyl iawn yma hyd heddyw. Sonia yr hen bobl am dano yn awr fel "yr hen weinidog," heb eisiau ychwanegu enw nag arall. Efe oedd yr hen weinidog. Llafuriodd yn galed, ac yr oedd ei afael yn din yn Bethesda, a'i ofal yn fawr am dani. Gan mai dyma yr eglwys oedd yn nghwr eithaf ei esgobaeth, yr oedd yn gofyn hunan-ymwadiad mawr deithio trwy bob tywydd, haf a gaeaf, bymtheng milldir o ffordd dros fynyddoedd geirwon. Araf oedd yn ei symudiadau, yn neillduol yn ei flynyddoedd diweddaf; ac aml Sabboth y bu y bobl yn hir ddisgwyl am dano, ac yna yn cynal cyfarfod gweddi, ac weithiau pan yn myned allan, y byddai yr hen batriarch yn dyfod i'w cyfarfod, a hwythau yn ail istedd yn llawen wrando y genadwri a fyddai ganddo ef i'w thraddodi iddynt. Llawer gwaith y dy wedodd dan amgylchiadau fel hyn yn ei ddull ffraeth ei hun, " Wel, os wyf yn colli'r awr, yr wyf yn safe o'r diwrnod." Bu Mr. William Lewis, yr hwn a urddwyd yn Nhrefdraeth, yn gynorthwywr iddo am ychydig, ond byr fu ei dymor, a disgynodd yr holl ofal yn fuan ar Mr. George drachefn.

Yn y flwyddyn 1833, yn mhen tair-blynedd-ar-ddeg wedi marw Mr. Lewis, rhoddwyd galwad Mr. John Owen fod yn gydweinidog a Mr. George, ac urddwyd ef ddechreu Ionawr, 1831. Llafuriodd yn ddiwyd yn benaf yn Bethesda a Maenclochog hyd y flwyddyn 1842, pan wedi hir nychdod a gwendid y terfynodd ei yrfa ar y ddaear. Mae ei bregethau sylweddol a'i ddull difrifol yntau yn gofus gan lawer hyd y dydd hwn. Oblegid gwaeledd iechyd Mr. Owen, yr oedd Mr. Henry Davies, Narberth, yn cyflawni llawer o ddyledswyddau y weinidogaeth, megis claddu a bedyddio yn Bethesda, ddwy flynedd cyn marwolaeth Mr. Owen, ac ar ol ei farwolaeth ef daeth yr eglwys yn naturiol dan yr un weinidogaeth a Narberth. Torwyd felly y berthynas a'r weinidogaeth yn Brynberian ag oedd wedi parhau o leiaf am driugain mlynedd. Parhaodd yr eglwys dan ofal Mr. Davies hyd ei farwolaeth yn 1847, ac ychwanegwyd llawer at nifer yr aelodau yn ystod y tymor hwn.

Wedi marwolaeth Mr. Davies bu yr eglwys yma heb wenidog hyd y flwyddyn 1852, pryd yr unodd a'r eglwys yn Llandysilio roddi galwad Mr. David Griffith, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, mab Mr. S. Grifflth, Horeb), ac urddwyd of yma Chwefror 17eg a'r 18fed, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur pregethwyd gan Meistri W. Morgan, Caerfyrddin ; S. Thomas, Trefdraeth; D. Stephens, Llanfair ; W. Jones, Glynarthen; D. Phillips, Carfan; S. Griffith, Horeb, tad yr urddedig; D. Davies, Pantteg; H. Jones, Caerfyrddin; J. Morris, Narberth; S. Evans, Hebron; J. Lewis,

60

Henllan, ac eraill. Llafuriodd Mr. Griffith yma hyd y flwyddyn 1863, pan y symudodd i St. Florence, yn yr un Sir, ac y mae yn awr yn Falfield, Swydd Gaerloyw. Yn niwedd y flwyddyn ganlynol, rhoddwyd galwad i Mr. John R. Thomas, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Rhagfyr 21ain, 1864. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. M. Evans, Trefgarn ; holwyd y gofyniadau arferol gan Mr. D. Griffith, St. Florence, cynweinidog y lle ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. R. Griffith, Cefncoedcymmer ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Proff. Morgan, Caerfyrddin ; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. J. Lewis, Henllan. Ar ddiwedd yr oedfa cyflwynwyd anrheg o lyfrau gwerthfawr i Mr. Thomas gan D. Davies, Ysw., un o ddiaconiaid Zoar, Merthyr Tydfil, dros yr Ysgol Sabbothol yn Zoar, lle yr oedd y gweinidog ieuangc wedi ei fagu.

Mae Mr. Thomas yn parhau i lafurio yma gyda chymeradwyaeth a mesur helaeth o lwyddiant. Yn y flwyddyn 1848, ailadeiladwyd y capel, a gwnaed ef yn dy hardd, yn mesur 34 troedfedd wrth 27 troedfedd, ac aeth y draul yn 200p., ac agorwyd y capel Mehefin 25ain a'r 26ain, 1849, a llai na 25p. oedd o ddyled yn aros erbyn diwedd dydd yr agoriad. Erbyn y flwyddyd 1871, yr oedd yr eglwys yn teimlo y dylasai gael capel rhagorach, ac wedi cael y cynlluniau, gwelwyd y byddai y draul yn 375p., ac ofnai rhai yr anturiaeth, ond er mwyn rhoddi calon yn yr eglwys i weithio dywedai Mr. W. James, Talybont, un o ddiaconiaid yr eglwys, y rhoddai efe y drydydd ran o'r oll a gyfrenid gan yr eglwys. Symbylodd hyny bawb i weithio, ac ar ddiwedd oedfa boreu cyfarfod yr agoriad yr oedd mwy na digon o arian wedi dyfod i law. Agorwyd y capel Rhagfyr 26ain a'r 27aid, 1871.

Mae amryw bersonau wedi bod yn nglyn a'r eglwys hon, y rhai y mae eu coffadwriaeth yn berarogl yn yr ardal ar gyfrif eu llafurus gariad. Heblaw teulu y Morrisiaid yn Penllwyn, y rhai a fuont yn noddwyr tyner i'r achos yma am flynyddau, coffeir y rhai canlynol : - Morris Evans, Parcyrhos ; Owen Williams, Masiwn ; William Lloyd, Maencoch; John Williams, Castell, a James Morris, Glanrhyd, y rhai hyn fu yn gwasanaethu swydd diaconiaid yn yr oes gyntaf yn banes yr eglwys, ac ar eu hol hwy y bu David Lewis, Robertston, gwr ffyddlon a defnyddiol. Gwnaeth ef lawer o blaid cyfodi ysgol Sabbothol yn y lle, a bu y prif offeryn i gadw bywyd yn yr ysgol am flynyddoedd. Yr oedd yn arfer cymell pawb a gyfarfyddai ar y ffordd i ddyfod i'r ysgol. Thomas James, Robertston, oedd hefyd yn wr ffyddlon, ac yn neillduol am ei brofiad addfed, a'r hen Ddafydd Jenkins, er yn anllythrenog, oedd yn afaelgar ac effeithiol iawn mewd gweddi.

Yd fuan ar of ailadeiladu y capel yn 1848, bu yma helynt yn nghylch les y capel a'r fynwent, a hawl yr eglwys i gladdu yn y lle. Ar ddydd agoriad y capel hwn y claddwyd y cyntaf. Yr oedd yr hen deulu duwiol a'u holafiaid wedi ymadael o Penllwyn. Yr oedd y perchenog wedi adeiladu palasdy, a dyfod i fyw i'r lle hun. Y llywodraethwr oedd yma yn awr ni adwaenai mo Joseph. Yr oedd gan y boneddwr rhyw Ysgotyn o oruchwyliwr, yr hwn pan welodd gapel newydd a mynwent newydd yn ymyl ty newydd ei feistr, a dyngai y gwnai ef aredig sylfeini y capel newydd fyny a gorchuddio gwyneb y bedd. Arweiniwyd y boneddwr i feddwl fod y capel wedi ei adeiladu yn unig trwy ganiatad yr amaethwr oedd yn byw yn y lle o'i flaen. Aed i chwilio am y les, ond nid oedd neb

61

yn gwybod pa le i'w chael. Yr oedd yr hen deuluoedd yn Penllwyn, Veynor, a Glanrhyd, naill a'i wedi marw, neu wedi ymadael o'r lle, ond gofalodd yr Arglwydd am eraill i noddi ei achos. Yn y flwyddyn 1820, daeth Mr a Mrs. Thomas i fyw i Talybont. Un o'r Bedyddwyr oedd Mr Thomas, ond un o hen deuluoedd parchusaf Henllan oedd Mrs Thomas. Nid hir y bu yr eglwys yn Bethesda cyn deall fod yn Talybont gryfder newydd i'r achos, ac er mai Bedyddiwr oedd Mr. Simon Thomas o farn, daeth yn fuan i deimlo dros yr achos yn Bethesda fel canwyll ei lygad. Yr oedd ef yn glaf iawn pan ddaeth yr helynt yn nghylch yr hawl i gladdu yn y fynwent ; ond gwyddai fod hawl gan yr eglwys i'r tir, ac er mwyn profi yr hawl, a thawelu meddyliau y bobl, gorchymynodd Mrs Thomas ei gladdu ef yn Bethesda, a phrynu darn o dir helaethu y fynwent, beth bynag a gostiai. Claddwyd ef yn fuan, ac ni chlywyd son am aredig y lle i fyny mwy. Ni orphwysodd Mrs Thomas nes cael gafael yn yr hen les, ac aeth at y boneddwr ei hun i ddangos hawl yr eglwys yn y lle. Ymddangosai yntau yn foddhaol iawn pan gafodd y prawf hwn.* Dengys hyn mor ofalus y dylid bod o bob gweithredoedd ag sydd yn sicrhau eiddo eglwysig. Drwy ymdrech Mrs Thomas a'i nhai, Mr W. James, sydd yn bresenol yn Talybont, fe lwyddwyd i helaethu tir y fynwent, a chael les newydd am 999 o flynyddoedd, am geiniog y flwyddyn, fel y mae yn awr yn helaeth, hardd, a chyfleus. Bu farw Mrs Thomas yn mis Mawrth, 1863. Nid a ei haelioni a'i charedigrwydd hi yn anghof yn fuan. Gwyr pawb o genhadon Crist fu yn Bethesda, yn yr haner can mlynedd diweddaf, am ei llettygarwch a'i charedigrwydd dirodres. Y mae ei dylanwad yn aros, a Thalybont, fel cynt, yn lletty i'r fforddolion oll. Rhifedi presenol yr eglwys yw 150.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yma: -

  • Richard Morris. Bu yn cadw ysgol yn hir yn y capel, ac aeth yn genhadwr cartrefol i waelod y sir.
  • Thomas Evans, Castellconnin. Aeth ef at y Bedyddwyr.
  • Howel Davies. Daeth yma oddiwrth y Methodistiaid. Dechreuodd bregethu yma, ac y mae yn awr yn weinidog yr eglwys Seisnig yn Tredegar, Mynwy.

Y diaconiaid presenol ydynt, Meistri W. James, Talybont; James Phillips, Thomas Williams, Thomas Phillips, a Jonah James.

Translation by Eleri Rowlands (Jan 2009)

Bethesda stands in the eastern part of the parish of Llanhaden, within three miles of the town of Narberth.  The parish is divided by the river Cleddau. On the western side the English part of the county begins, while the people on the eastern side of the river usually speak Welsh.  This is a great disadvantage for the cause in the place, as every service has to be held in both languages.  This has happened from generation to generation in some of the churches of the vicinity between the Welsh and English parts of this county.  We believe that the cause in Bethesda will be completely English in time.  The first chapel was built here in the year 1797.  The cause was started here many years prior to this. The first history we have is that services were held in the house of Dafydd Morris, who lived in a farmhouse by the name of Penllwyn, and it was near here the chapel was built.  The old register of baptisms for the church gives us to believe that a church was formed years before the building of the chapel.  But how long before that, and by whom, and where the first members came from, and who the first minister or ministers were, we do not know, and we have failed to discover.  We do know that Mr Henry George had been chosen as a co-minister along with Mr Stephen Lloyd, Brynberian, in the year 1790, and Bethesda was named as one of the churches in their field of labour.  We see in the old register the names of several who ministered the ordination of baptism here, before the first chapel was built. They were  Griffith Griffiths, John Harries, and John Griffiths, (Glandwr, it appears).  But Mr Stephen Lloyd had the care of the ministry at this time, and Mr Henry George as co-minister from the year 1790.

The first chapel was built, as has been noted, in 1797.  The year the French landed in Pencaer, and the two events were inseparable  

59

in the minds of the old people, because of their anxiety that the enemy would destroy all they had already built of the new chapel.  The lease of this first house is available, dated April 1797, and the following names are trustees:-   Stephen Lloyd, Henry George, Lemuel Luke, Moat, Thomas James, Veynor, and David Llewellyn, Crinow.  So Dafydd Morris, Penllwyn,  ensured a part of his farm for building a chapel, since the church had been for some years in his house.  Mr Stephen Lloyd ended his connection with Bethesda in the year 1800, and so the care of  the church was wholly in Mr Henry George' hands,  and he continued to care for it until the year 1810.  So, from the time he was ordained as a co-minister with Mr Stephen Lloyd, he maintained his connection with Bethesda for fifty years.  The venerable Henry George had many notable characteristics, and he is dearly remembered here till today.  The old people referred to him as "the old minister", never having to mention another name.   He was the old minister.  He worked hard, and his hold on Bethesda was tight, and he cared greatly for it.   Since this was the church in the furthest corner of his bishopric, it took great self-denial to travel through every kind of weather, summer and winter, for fifteen miles across rough mountains.  His movements were slow, especially in his latter years; and many Sundays the people would wait for him for a long time, and then would hold a prayer meeting, and sometimes as they left, the old patriarch would be coming to meet them, and they would re-sit happily to listen to the teachings he had to offer to them.  Many times under these circumstances he would say, "Well, if I have missed the hour, I am sure of the day."  Mr William Lewis, who was ordained in Trefdraeth, was an assistant to him for a short while, but his time here was short, and the whole care soon fell on Mr George again.

In the year 1833, thirteen years after the death of Mr Lewis, a call was sent to Mr John Owen to be a joint minister with Mr George, and he was ordained at the beginning of January, 1831.  He laboured diligently mainly in Bethesda and Maenclochog till 1842, when after a long time of feebleness and weakness his career on earth ended.  His substantial sermons and his earnest manner is memorable for many people until this day.  As a result of Mr Owen's ill health, Mr Henry Davies, Narberth,  completed many of the ministerial duties, such as burial and christenings in Bethesda, for two years before the death of Mr Owen, and after his death the church naturally came under the the same ministry as Narberth.  So the relationship with the ministry in Brynberian, which had lasted for at least sixty years, was broken.  The church stayed under the care of Mr Davies until his death in 1847, and many were added to the membership during this time.

After the death of Mr Davies the church here was without a minister until the year 1852, when, along with the church in Llandysilio they sent out a call to Mr David Griffiths, a student from Carmarthen college, (the son of Mr S. Griffith, Horeb), and he was ordained on February 17th and 18th of that year.   On that occasion  Messrs W. Morgan, Carmarthen; S. Thomas, Trefdraeth; D. Stephens, Llanfair; W. Jones, Glynarthen; D. Phillips, Carfan; S. Griffith, Horeb, the father of the ordained; D. Davies, Pantteg; H. Jones, Carmarthen; J. Morris, Narberth; S. Evans, Hebron; J. Lewis,

60

Henllan, and others preached.  Mr. Griffith laboured here until the year 1863, when he moved to St. Florence, in the same county, and he is now in Falfield,  Gloucestershire.  At the end of the next year,  Mr. John R. Thomas, a student from Carmarthen college, received a call, and he was ordained on December 21st, 1864.  On that occasion Mr. J. M. Evans, Trefgarn, preached on the nature of the church; Mr. D. Griffith, St. Florence, the former minister of the place, asked the usual questions; the ordination prayer was given by Mr. R. Griffith, Cefncoedcymmer;  Proff. Morgan, Carmarthen preached on the duty of the minister; and Mr. J. Lewis, Henllan preached on the duty of the church. At the end of the service a gift of valuable books was presented to Mr. Thomas by D. Davies, Esq., one of the deacons of Zoar, Merthyr Tydfil, on behalf of the Sunday School in Zoar, where the young minister was brought up.

Mr. Thomas continues to labour here with distinction and a good deal of success.   In the year 1848, the chapel was rebuilt. It became a fine house, measuring 34 feet by 27 feet, at the expense of £200.  The chapel opened on June 25th and 26th, 1849, and the debt was less than £25 by the end of the opening day.  By the year 1871, the church felt that they should have a better chapel, and having received the plans, it was seen that the expense would be £375, some feared the adventure, but Mr W. James, Talybont, one of the deacons of the church, in order to put heart into the church to work,  said he would donate one third of anything the church could raise.  This stimulated people to work, and at the end of the morning service to open the chapel more than enough money had come to hand.  The chapel was opened on December 26th and 27th, 1871.

Many people have been connected to this church, whose memory is a lovely aroma in the area on account of their loving labour.  Besides the Morris family of Penllwyn,  who were among the gentle patrons of the cause for years,  we remember the following:-Morris Evans, Parcyrhos; Owen Williams, Masiwn; William Lloyd, Maencoch; John Williams, Castell, and James Morris, Glanrhyd, who served as deacons in the first years of the church history, and after them David Lewis, Robertston, a faithful and useful man.  He did much to foster the Sunday School in this place, and he was the instrument which kept the school alive for years.  He used to persuade everyone he met on the roadside to come to the school.  Thomas James, Robertston, was also a faithful man, and was noted for having had mature experiences, and Dafydd Jenkins, even though illiterate, was tenacious and effective in prayer.

Soon after building the chapel in 1848, there was a fuss about the lease on the chapel and the graveyard, and the right the church had to bury in that place. The first was buried on the opening day of the chapel.  The original godly family and their descendants had left  Penllwyn.  The new owner had built a mansion, and came to live there himself.  The governor that was here did not know Joseph.  The gentleman had an overseer who was Scottish, who, when he saw a new chapel and graveyard had been built near to his master's new house, he swore he would plough up the foundations of the new chapel and cover the grave.  The gentleman had been led to believe that the chapel had been built by permission from the farmer who lived in the place before him.  A search was made for the lease, but no-one

61

knew where to look.  The old families in Penllwyn, Vaynor and Glanrhyd, had either died or left the place, but the Lord took care that there were others to protect the cause.  In the year 1820, Mr and Mrs Thomas came to live in Talybont.  Mr Thomas was a Baptist, but Mrs Thomas was from one of Henllan's most respected families.  The church in Bethesda was not long in realising that in Talybont there was a new strength for the cause, and even though Mr Simon Thomas was a Baptist through and through, he soon came to believe that the cause in Bethesda was the centre of his eye.  He was very ill when the fuss about the right to bury in the graveyard came about; but he knew that the church had a right to the land, and in order to prove the right, and quiet the people's minds, Mrs Thomas ordered that he be buried in Bethesda and bought a piece of land to extend the graveyard whatever it cost.  He was buried quickly, and no mention was made about ploughing the place up any more.  Mrs Thomas did not rest until she had the old lease and she went to the gentleman herself to show him the right the church had to be in the place. He appeared quite satisfied when he saw this proof.*  This shows how careful one should be of all documents that show church possessions.  Through the efforts of Mrs Thomas and her nephew, Mr W. James, who is now in Talybont,  they were successful in extending the graveyard, and obtaining a new lease for 999 years, for one penny a year, so that it is now extensive, fine and convenient.  Mrs Thomas died in March, 1863.  Her generosity and kindness will not be forgotten for a long time.  All of Christ's missionaries in Bethesda in the last fifty years know of her hospitality and her unassuming kindness.  Her influence lasts, and Talybont, as before, is a lodging place to all travellers.  The number in the church at present is 150.

The following people were raised to preach here: -

  • Richard Morris. He ran the school here in the chapel for a long time, and he went as a home missionary to the south of the county.
  • Thomas Evans, Castellconnin.  He went to the Baptists.
  • Howel Davies.  He came here from the Methodists. He started preaching here, and he is now the minister of the English church in Tredegar, Monmouthshire.

The present deacons are,   Messers W. James, Talybont; James Phillips, Thomas Williams, Thomas Phillips, and Jonah James.

 

LLANDYSILIO

(Llandyslio parish (On CMN pages of Genuki)

Pentref bychan yw Llandysilio, ar ochr y brif-ffordd o Narberth Aberteifi, saif o fewn milldir a haner i orsaf Narberth Road. Adeiladwyd y capel cyntaf yma yn y flwyddyn 1826. Mae y les wedi ei dyddio Rhagfyr 6ed, 1825, a cheir yr enwau canlynol fel ymddiriedolwyr : - David John, Tycoch ; William Evans, Glynderwen ; Richard Owen, Brynman ; Thomas Edwards, Penfeidr; David Evan, Mountain; Phillip Adam, Llandysilio, a Michael Williams, pregethwr cynorthwyol, ac yn aelod o Glandwr ; o'r lleill, yr oedd tri yn aelodau o Henllan, dau o Bethesda, a dau o Llandilo. Dyma y bobl fu fwyaf blaenllaw i adeiladu y capel cyntaf, ac i ffurfio eglwys y lle. Yr oedd cyfarfodydd yn cael eu cynal yn y

 * Llythyr Mr. J. R. Thomas.

62

pentref am fwy nag ugain mlynedd cyn hyn. Yr oedd cyfarfodydd cwestiynau mewn bri mawr yn y wlad y pryd hwnw, ac yr oedd pobl y gymydogaeth yn myned i Henllan a Bethesda, a manau eraill yn y boreu, ac yn cadw ysgol yn y pentref yn y prydnawn, a chwrdd cwestiynau yn yr hwyr. Byddent yn cael ambell bregeth hefyd gan Meistri J. Lloyd, Henllan, a Henry George. Yr oeddynt yn cael gwasanaeth hen elusendy yn y pentref, yn rhad, i gynal cyfarfodydd, ac efallai fod hyn yn cyfrif paham y bu iddynt fod cyhyd cyn adeiladu capel yn y lle. Yr oeddynt yn yr arferiad o ddysgu penodau a myned i'w hadrodd i wahanol gapeli, ac hefyd i ffermdai, yn enwedig i dy Mr W. Evans, Glynderwen, a enwyd uchod. Yr oedd y gwaith yn awr dan nawdd Mr J. Lloyd, Henllan, a pharhaodd felly ar ol adeiladu y capel am rhai blynyddau. Tua diwedd y flwyddyn 1832, daeth Mr William Thomas o Rhosycaerau, ar ymweliad i'r lle, a chafodd alwad gan yr eglwys i ddyfod yma yn weinidog. Urddwyd ef ddechreu y flwyddyn ganlynol. Cymerwyd rhan yn yr urddiad gan Meistri Davies, Abergwaun ; Bateman, Rhosycaerau ; Davies, Aber­teifi ; George, Brynberian ; Lloyd, Henllan, ac eraill. Bu ef yn llafurio yma am tuag un-mlynedd-ar-ddeg, pryd y rhoddodd ofal yr eglwys fyny, ac yr aeth cyn hir i America. Ni bu nemawr llewyrch ar yr achos hyd yma, a bu hyn yn gymhelliad i enwad arall weithio a chymeryd meddiant o'r gymydogaeth. Bu yr eglwys heb weinidog drachefn hyd 1852, pryd yr unodd a'r eglwys yn Bethesda i roddi galwad i Mr. D. Griffith, o athrofa Caerfyrddin. Y mae y ddwy eglwys yn parhau mewn undeb, ac o dan yr un weinidogaeth. Ailadeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1859, ac agorwyd ef yn 1860. Yr oedd Meistri J. Williams, Castellnewyddemlyn ; S. Griffith, Horeb ; E. Jones, Ynysgau, Merthyr, (Castellnewydd yn awr), yng nghyd a gweinidogion y sir, yn pregethu ar yr achlysur. Yr oedd mawr angen am y capel newydd cyn ei gael. Mae yr achos yma o'r dechreuad wedi dyoddef anfanteision i fod yn llwyddianus. Gwanaidd oedd trwy y blynyddau, ac ni wnaed yr ymdrechion gofynol i'w gryfhau. Gwrthododd yr hen bobl dda oedd yn cychwyn y gwaith gymeryd dim mwy o dir yn y les nag y safai y capel arno, er eu bod yn cael cynyg ar ddigon am bris rhesymol i wneyd mynwent. Anfantais fawr yn y wlad yw bod heb le claddu yn nglyn a'r capel. Bu hyn yn achos i lawer o deuluoedd i beidio ymuno a'r achos yn y lle. Ystyrient eu cartref crefyddol yn Henllan, Bethesda, a manau eraill, ond eu bod, er mwyn cyfleustra, yn myned i Llandysilio. Y mae y teimlad hwn wedi ei lwyr symud bellach. Bu yn adeg go dywyll ar yr eglwys fechan yn adeg ymadawiad Mr. Griffith, yn 1863. Yr oedd amryw o'r rhai ffyddlonaf wedi myned i'r America, ac ar ol ei ymadawiad ef aeth eraill drachefn, fel yr oedd yr achos yn wanaidd iawn. Ond gofalodd Duw am ei eiddo, daeth amryw deuluoedd duwiol a defnyddiol lenwi lle y rhai a ymadawsant. Yn 1864, rhoddwyd galwad i Mr. J. R. Thomas i fod yn weinidog yma ac yn Bethesda. Adfywiodd yr achos ynfawr. Dechreuwyd ymysgwyd gael tir ychwanegol, a llwyddwyd yn mhen dwy flynedd i'w gael, drwy ymdrechion Mr. G. Evans, Trefelen, yn benaf. Talodd ef ei hun 32p. am dano. Trwy gydymdrech yr eglwys, adeiladwyd ty anedd, a chyfleusterau eraill at wasanaeth y lle. Yn y flwyddyn ganlynol adgyweiriwyd y capel, fel y mae yn awr mor brydferth ag un addoldy yn y wlad. Sabboth, Awst 28ain, 1870, cynaliwyd cyfarfod ailagoriad, pryd y pregethwyd gan Meistri D. Bateman, Rhosycaerau ; E. Lewis, Brynberian, a D. Evans, Narberth.

63

Erbyn diwedd y cyfarfodydd hyn, cafwyd fod tua 12p. yn weddill ar ol talu pob treuliau, yr hyn oedd dros 250p. ; ac ni esgeuluswyd y galwadau cyffredin tra yn gwneyd y pethau eithriadol hyn. Mae yr eglwys bellach mewn gwedd lewyrchus ac addawol iawn, ac y mae sail dda i ddisgwyl y bydd yma achos cryf yn y dyfodol. Cafodd rhai nerth i ddal yn ffyddlon yn yr adeg dywyllaf ar yr achos, a chawsant fyw i weled amser gwell. Bu yr hen Stephen Lewis, Big, yn ffyddlon iawn am flynyddoedd. Byddai ef yn wastad yn holl gynlluniau yr eglwys, a gwnaeth lawer yn ei hen ddyddiau gyda'r ysgol Sabbothol, ac i hyfforddi y bobl ieuaingc. Y mae bellach wedi gorphen ei waith, ac yn mwynhau ei wobr. Y mae Mr. Evans, Trefelen, yn aros etto ; mab yw ef i'r hen W. Evans, Glynderwen, un o gychwynwyr yr achos. Hyfrydwch ei enaid yntau yw gweled llewyrch ar y gwaith ag y bu y teulu yn ei noddi mor ffyddlon am lawer o flynyddau. Rhif presenol yr eglwys yw 145 o aelodau.

Y diaconiaid presenol ydynt, Griffith Evans, Trefelen; John Williams, Llandre ; David Marsden, Rhydhir ; Simon Williams, Llandysilio, a Thomas Beynon, Rhydwen.*

Translation by Maureen Saycell (Feb 2009)

Llandysilio is a small village on the route from Narberth to Cardigan, within a mile and a half of Narberth Road Station. The first chapel here was built in 1826. The lease was dated December 6th, 1825 and the following names are on it : - David John, Tycoch ; William Evans, Glynderwen ; Richard Owen, Brynman ; Thomas Edwards, Penfeidr; David Evan, Mountain; Phillip Adam, Llandysilio, a Michael Williams, occasional preacher and member of Glandwr, of the others 3 were members of Henllan, 2 at Bethesda, and 2 at Llandilo. These were the leaders in building the chapel and establishing the church here. Services were held in the village for more than 20 years before this. Questions meetings were very popular at this time and the locals would go to Henllan and Bethesda in the mornings, school in the village in the afternoon then questions meeting in the evening. Occasionally sermons would be given by Messrs J Lloyd, Henllan and Henry George. They had the use of the old charity house in the village, free ,to hold services, which may explain why they were so long building a chapel here. They were in the habit of learning chapters by heart then going to neighboring chapels and houses to recite them, particularly the home of Mr W Evans, Glynderwen, named above. The work was now in the care of Mr J Lloyd, Henllan, and continued so after the chapel was built for some years. Around  the end of 1832, Mr William Thomas visited here and was given a call to become minister here. He was ordained the following year. Those officiating were Messrs Davies, Fishguard ; Bateman, Rhosycaerau ; Davies, Cardigan; George, Brynberian ; Lloyd, Henllan, and others. He laboured here for about 11 years, when he gave up the care and went to America soon after. There was little success here and this led to another denomination breaking into the area and taking over. The church was without a minister again until 1852 when it joined with Bethesda to call Mr D Griffith, from Carmarthen College. The two churches remain united under the same ministry. The chapel was rebuilt in 1859 and was opened in 1860. Those who preached on the occasion were Messrs J. Williams, Newcastle-emlyn; S. Griffith, Horeb ; E. Jones, Ynysgau, Merthyr, (Newcastle-emlyn), and many other preachers in the County. There had long been a need for a new chapel, and this cause has suffered many hardships to experience success. It has been weak all along and there has been no specific effort made to improve it. The old people who founded the cause refused to add any land for burial, the lack of burial ground in the country is a big disadvantage. This was the reason that many did not join this church, they considered their religious home to be Henllan or Bethesda, despite attending here for convenience. This situation has now gone. This church went through a very dark time after the departure of Mr Griffiths, in 1863. Many of the most faithful left for America before this, more went afterwards. God took care of his own and many useful and faithful families came to replace them. In 1864 a call was sent to Mr J R Thomas to become the minister here and Bethesda. The cause was revived considerably. Additional land was eventually aquired, mainly through the efforts of Mr G Evans, Trefelen. He paid the £32 from his own pocket. With the combined efforts of the church a dwelling house and other conveniences were built. The following year the chapel was restored, and it is now among the most handsome in the land.The re-opening service was held on Sunday August 27th,1870 when the following took part :- Messrs D. Bateman, Rhosycaerau ; E. Lewis, Brynberian, a D. Evans, Narberth. By the end of these meetings they found themselves with an excess of £12 after paying all the costs of more than £250, the daily issues were not neglected whilst these great works were going on. The church is now in good order and looking promising, and appears to have a good foundation for a strong cause in the future. Some found the strength to hold on during the darkest hours, and saw the light at the end. Stephen Lewis, Big, was faithful for many years. He has now completed his labours and is enjoying the rewards. Mr Evans, Trefelen, remains here he is the son of the old W Evans, Glynderwen, one of the founders. It is a cause of great joy to him to see the success, and the family have been supporting the cause for many years. The current membership is 145.

The current deacons are :- Griffith Evans, Trefelen; John Williams, Llandre ; David Marsden, Rhydhir ; Simon Williams, Llandysilio, and Thomas Beynon, Rhydwen.*

 * Letter Mr. J. R. Thomas.

 

SOLFACH

(Whitchurch parish)

Dechreuwyd yr achos yma yn niwedd y ganrif ddiweddaf. Y moddion crefyddol cyntaf yma oedd cyfarfod gweddi, yr hwn a gynaliwyd yn nhy Mrs Cadben Lewis, nain Mr B. B. Williams, yn awr o Chicester. Yn fuan wedi hyny daeth Meistri W. Harries, Rhodiad, a T. Skeel, Trefgarn, yma i bregethu yn achlysurol, a chyn hir daethant yma yn rheolaidd bob mis. Ystyrid y lle ar y dechreu cydrhwng Trefgarn a Rhodiad, a deuai aelodau o'r ddau le yma, ond daeth y lle yn fuan i gael ei gyfrif yn nglyn a'r Rhodiad, a than ofal Mr W. Harries. Adeiladwyd yma gapel yn y flwyddyn 1798. Talwyd holl draul codiad y capel trwy i Mr. Harries gymeryd taith i Loegr gasglu, a dychwelyd gyda digon o arian i dalu yr holl ddyled. Nid amcenid sefydlu eglwys yma ar y pryd, er y cynelid yma wasanaeth crefyddol yn rheolaidd, etto yn Rhodiad y cynhelid y cyfarfodydd eglwysig, ac yno y cyrchai yr holl aelodau i gymundeb. Yn flwyddyn 1814, ymsefydlodd Mr. James Griffiths yn yr ardal, a dewiswyd ef yn gydweinidog a Mr. Harries, a bu y ddau yn cydlafurio hyd 1823, pan y cymerodd anghydwelediad le ar achos o ddysgyblaeth. Yr oedd ddau weinidog yn wahanol eu barn ar y mater, a'r eglwys yn rhanedig lawn ei golygiadau. Yr oedd y gwahaniaeth barn oedd rhwng y ddau weinidog ar yr hyn a elwid yn "system newydd," wedi achosi peth drwg­deimlad, ond y cweryl yma yn nghylch y ddysgyblaeth a ddygodd bethau i bwynt. Terfysgwyd yr holl eglwys ar y pryd, a'r diwedd fu i nifer o'r eglwys ymneillduo ac ymffurfio yn eglwys Annibynol yn Solfach. Gwnaed hyn yn mis Rhagfyr, 1823, a rhoddwyd galwad i Mr. W. Harries i fod yn weinidog, gan adael Rhodiad yn gwbl dan ofal Mr. J. Griffiths. Rhodd­wyd galwad i Mr. Thomas Mortimer, yr hwn oedd er's blynyddoedd yn bregethwr cynorthwyol cymeradwy yn Rhodiad, ond yn awr a symudasai gyda'r gangen i Solfach, fod yn gydweinidog a Mr. Harries, ac urddwyd ef Mai 20fed, 1824. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri Ll. Rees, Trewyddel ; T. Skeel, Penybont ; W. Harries, Rhodiad; M. Jones, Trelech;

* Llythyr Mr. J. R. Thomas.

64

J. Evans, Penygroes; H. George, Brynberian; D. Thomas, Wotton­under-edge, a W. Davies, Abergwaun.* Bu y ddau weinidog yn cydlafurio yn gysurus, a chyda gradd o lwyddiant hyd Rhagfyr 17eg, 1830, pryd y bu Mr Harries farw, yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau, ac yna disgynodd yr holl ofal ar Mr Mortimer. Nid oedd ond deunaw o aelodau yn y lle pan urddwyd Mr Mortimer, ond cynyddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa fel y bu raid rhoddi adran newydd wrth yr hen gapel, a chyn hir bu raid ei ailadeiladu fel y mae yn awr, ac erbyn y flwyddyn 1849, yr oedd nifer yr aelodau yn 250.

Erbyn hyn yr oedd iechyd Mr Mortimer yn gwaelu, ac anogodd yr eglwys i edrych allan am wr ieuangc i'w bugeilio, ac y gwnai yntau ei oreu i'w gynorthwyo tra y gallai. Rhoddwyd galwad i Mr John D. Jones, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn weinidog yma Awst laf a'r 2il, 1849. Tua thair blynedd yr arhosodd Mr. Jones, ac yr oedd nifer yr aelodau pan yr ymadawodd yn llawer llai na phan y daeth yma, a'r gwrandawyr gan mwyaf wedi cefnu. Enciliodd o rengoedd Ymneillduaeth am gysgod yr Eglwys Sefydledig. Wedi ei ymadawiad ef cymerodd Mr John Griffiths, Trefgarn, yr hwn oedd wedi ymryddhau oddiwrth y weinidogaeth yn Nhrefgarn, ofal yr eglwys yma, ac er na chydnabyddwyd ef yn ffurfiol yn weinidog iddi, etto bu am fwy na phedair blynedd yn bwrw golwg drosti. Bu y tymor hwnw yn dymor lled lewyrchus ar yr eglwys. Ychwanegwyd at ei rhif, ac adgyweiriwyd y capel trwy draul o 200p., ac yr oedd y cwbl wedi eu talu cyn cyfarfod yr agoriad, Chwefror 17eg a'r 18fed, 1856. Cyn hir symudodd Mr Griffiths i gymeryd gofal yr eglwys yn Llanymddyfri; a rhoddwyd galwad i Mr John Gwyn Jones, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Mehefin l6eg a'r 17eg, 1858. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr D. M. Davies, Wern ; holwyd y gofyniadau gan Mr D. Evans, Trewyddel ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr W. Davies, Abergwaun ; pregethwyd ar ddyled­swydd y gweinidog gan Mr J. Davies, Glandwr ; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr T. E. Evans, Rhos. Llai na blwyddyn yr arhosodd Mr. Jones yma, canys symudodd i Lacharn, Sir Gaerfyrddin, ac yn yr adeg yma bu farw yr hen weinidog Mr Mortimer, yn 71 oed.

Wedi bod am rai blynyddoedd yn ymddibynu ar weinidogaeth gynorth­wyol, a'r achos yn myned rhagddo yn siriol, rhoddwyd galwad Mr Thomas Lewis, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Gorphenaf 5ed, 1863. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Proff. Morgan, Caerfyrddin ; holwyd y gofyniadau arferol gan Mr J. Lewis, Henllan ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan yr hybarch W. Davies, Abergwaun ; pre­gethwyd i'r gweinidog gan Mr I. Williams, Trelech, ac i'r eglwys gan Mr S. Evans, Hebron. Yr oedd yn bresenol ar y pryd un-ar-bymtheg o weinidogion heblaw y rhai a enwyd uchod ; a chymerodd y rhan fwyaf o honynt ran yn y cyfarfodydd cysylltiedig a'r urddiad. Bu Mr. Lewis yma yn llafurio am yn agos i naw mlynedd, hyd nes y derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwysi yn Llanybri a Smyrna, ac y symudodd yno yn mis Mawrth, 1872.

Mae yma lawer o deuluoedd cyfrifol a pharchus wedi bod yn nglyn a'r achos yma o bryd i bryd, ac felly y mae yn awr, a'r eglwys yn cael ei theimlo yn ddylanwadol yn y gymydogaeth. Ni chyfodwyd yma ond un

* Evangelical, 1824. Tudal. 405.

65

pregethwr, sef Benjamin B. Williams, yr hwn a addysgwyd yn athrofa Aberhonddu, ac y mae yn awr yn weinidog Chichester.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

WILLIAM HARRIES. Ganwyd ef mewn lle a elwir Treysgaw, yn agos i Drefgarn, Tachwedd 17eg, 1749. Dechreuodd deimlo argraffiadau crefyddol ar ei feddwl yn fore, a bu mewn pryder dwfn am ei gyflwr ; ond cafodd ymwared wrth ddarllen llyfr o waith Bunyan ar y cyfamodau. Rhwymwyd ef yn egwyddorwas ddysgu bod yn saer, mewn pentref bychan a elwir y Ffrogol. Yr oedd yn y pentref hwnw hen wr crefyddol o Fedyddiwr yn byw, yr hwn a ddylanwadodd yn fawr ar William Harries er ei siglo yn ei olygiadau ar Fedydd. Yr oedd y ddau yn gyfeillion mawr. Arferai fyned gyda'r hen wr i gapel y Bedyddwyr yn Pendergast, Hwlffordd, bob boreu Sabboth ; ac elai yr hen wr bob prydnawn Sabboth i gapel y Green. Parodd yr anesmwythder yn nghylch bedydd drallod mawr i'w feddwl. Ysgrifenodd at weinidog Trefgarn am eglur­had ar y mater, ac wedi i hwnw ddeall mai ymofynydd didwyll am y gwirionedd ydoedd, cymerodd drafferth i'w ddysgu a'i hyfforddi, a rhoddi iddo lyfrau i'w darllen ar y pwngc, nes ei gadarnhau yn hollol ; a daeth ar ol hyny yn ddihareb yn ei wlad fel dadleuydd galluog dros fedydd babanod. Pan o gylch ugain oed derbyniwyd ef yn gyhoeddus yn aelod o'r eglwys yn Nhrefgarn, ac anogwyd ef yn fuan i arfer ei ddawn i bregethu. Byddai ar ol hyn yn myned yn gyson i rywle neu gilydd bregethu, ac yr oedd yn dra derbyniol yn mha le bynag yr elai. Gwedi ymadawiad Mr J. Richards i America, urddwyd Mr Harries yn weinidog yn Rhodiad, Hydref 21ain, 1795. Yr oedd y tymor yma yn dymor o gyffroad ac anesmwythder mawr yn wladwriaethol ; a pharodd tiriad y Ffrangcod yn Mhencaer i'r Ymneillduwyr gael eu drwgliwio a'u gwarthruddo yn fawr. Cyhuddid hwy o fod yn elynion i'r llywodraeth, ac mai rhyw gydfwriad a hwy a ddygodd y Ffrangcod drosodd, a phob cabl-eiriau o'r fath a allasai gelyniaeth eu caseion eu dyfeisio. Parodd hyn i rai lwfrhau, a rhoddwyd i fyny am dymor y cyfarfodydd a gynhelid mown anedd-dai, ac yr oedd rhai mor ddigalon fel yr ofnent agor eu drysau i'r Ymneillduwyr. Teimlwyd hyn yn neillduol yn amgylchoedd Tyddewi, lle yr oedd yr Eglwys Gadeiriol, a'r holl swyddogion a berthynent iddi, yn gwneyd eu goreu i greu rhagfarn yn meddyliau poblach anwybodus. Cafodd Mr. Harries yr anfantais yma ar gychwyniad ei weinidogaeth, ond penderfynodd ar ol ychydig ymbwyll fyned yn mlaen, a gwelodd yn fuan arddeliad ar ei lafur. Yr oedd mwy o wres a thanbeidrwydd ynddo nag oedd mewn llawer o'i gyfoedion a'i gydoeswyr, ac ar adegau yn nechreuad ei weinidogaeth, treuliwyd gan yr eglwys yn Rhodiad nosweithiau cyfain weddio a chlodfori yr Arglwydd. Trwy ei lafur ef y dechreuwyd yr achos yn Sol­fach ; ac yn y flwyddyn 1823 ymneillduodd ef gyda nifer o'r aelodau o Rhodiad ac ymffurfiasant yn eglwys Annibynol yn Solfach ; a bu yn weinidog iddynt hyd derfyn ei oes. Wedi claddu ei wraig, aeth i fyw at ei ferch, Mrs Morris, mewn fferm o'r enw Dydwell, yn mhlwyf Camrose, an er fod ganddo naw milldir o ffordd, teithiai i Solfach dri Sabboth o bob mis am bum mlynedd, a hyny fynychaf ar ei draed, a byddai yn wastad yn

66

brydlawn erbyn deg o'r gloch. Symudodd at i fab, Mr John Harries, i Solfach, lle y treuliodd y pedair blynedd olaf o'i oes ; ac yn ystod y blynyddoedd hyny gwnai ei oreu, yn ol ei oedran, i gyflawui ei weinidogaeth. Ymwelai a theuluoedd yr eglwys, a chymerai sylw neillduol o'r bobl ieuaingc, ac yr oedd yn arfer cyfarfod yr ieuengctyd yn Solfach am wyth o'r gloch bob boreu Sabboth i'w hegwyddori mewn gwybodaeth ysgrythyrol a duwinyddol. Yr oedd yn amlwg arno yn ei flynyddoedd diweddaf ei fod yn addfedu yn gyflym i'r nefoedd, ac yn ei gystudd dangosodd yn eglur ei fod yn mwynhau yn helaeth o ddiddanwch yr Efengyl. Bu farw, Rhagfyr 17eg, 1831, yn 81ain oed, wedi treulio mwy na haner can mlynedd i bregethu yr efengyl. Pregethwyd ar ddydd ei gladdedigaeth yn nghapel Solfach gan ei hen gyfaill Mr Skeel, a dygwyd ei gorph i fynwent Tregroes, lle y gorphwys hyd foreu yr adgyfodiad cyffredinol.

THOMAS MORTIMER Ganwyd ef yn Nhrewellwell, yn mhlwyf Dewi, Medi laf, 1788. Yr oedd ei fam yn ferch i Mr W. Maurice, gweinidog Trefgarn, ac yr oedd ei rieni mewn amgylchiadau bydol cysurus. Cafodd addysg gyffredinol dda pan yn ieuangc, mewn ysgol ramadegol yn Nhy­ddewi, ac nid esgeuluswyd ei addysg grefyddol ; a phan yr oedd yn 20ain oed derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Rhodiad gan Mr Harries. Anogwyd ef ymhen amser ddechreu pregethu, ac wedi ffurfio eglwys Annibynol yn Solfach, urddwyd ef yn gydweinidog a Mr Harries, ac wedi marwolaeth Mr Harries disgynodd yr holl ofal arno. Yr oedd Mr Mortimer yn ddyn cryf, yn gorphorol a meddyliol, ac yn taflu ei holl galon i bob peth yr ymaflai ynddo. Gan ei fod mewn amgylchiadau bydol cysurus, ac yn dirfeddianwr cyfrifol, edrychid i fyny ato gan ei gymydogion, ac yr oedd yn wr o gyngor iddynt ar bob amgylchiad pwysig. Yr oedd wybodaeth gyffredinol, a'i barodrwydd bob amser i gynorthwyo y rhai a elai ar ei ofyn yn ei wneyd yn ddyn gwerthfawr yn yr ardal. Yr oedd yn ddyn penderfynol a diysgog yn ei olygiadau ar byngciau gwladol a chrefyddol, a safai yn wastad dros yr hyn a gredai oedd yn iawn, Beth bynag fyddai y canlyniadau. Er ei fod wedi i ddwyn i fyny yn y plwyf lle yr oedd gorsedd eglwysyddiaeth yn y sir, etto yr oedd ef yn Ymneillduwr cydwybodol a didroi yn ol, ac yn wastad yn gyson yn ymlynu wrth ei egwyddorion, fel yr oedd yn hawdd i bawb wybod pa le i'w gael. Yr oedd o dymer naturiol fywiog a chyffrous; ond yr oedd yn nodedig o ffyddlon a didwyll i'w gyfeillion, ac yr oedd ei dy yn gartref cysurus i bawb a elai heibio. Cydnabyddid ef gan bawb a'i hadwaenai yn gristion trwyadl, ac yr oedd bob amser yn barod i roddi ei gefnogaeth i bob achos da. Fel pregethwr yr oedd yn fywiog a gwresog, er nad oedd yr hyn a gyfrifid gan rai yn bregethwr mawr a dwfn ; etto yr oedd ei bregethau yn cynwys mer yr efengyl, ac yn cael eu traddodi gydag egni a difrifoldeb. Yn moreu a chanol ei oes cymerodd ran fawr yn y dadleuon duwinyddol oedd yn cyffroi y wlad; ac yr oedd ei gydymdeimlad gyda'r hen bobl ofalus y rhai a ofnent fod rhyw rai o'u brodyr yn gwyro oddiwrth y ffydd ; ond yn ei flynyddoedd diweddaf yr oedd ei olygiadau wedi eu cymedroli i fesur mawr, a'i weinidogaeth yn dwyn gwedd nodedig o ymarferol a chymhelliadol. Cymerai ddyddordeb mawr yn mhobl ei ofal, ac yn addysg y genedl ieuangc, ac nid oedd dim yn ormod ganddo ei wneyd drostynt, a chafodd weled yn y llwyddiant a fu ar ei ymdrechion na fu ei lafur yn ofer. Tarawyd ef gan ergyd o'r parlys ryw ddwy flynedd cyn ei farwolaeth, yr hyn a'i hanalluogodd i gyflawni ei ddyledswyddau fel cynt ; ond amlygodd

67

yn ei gystudd a'i waeledd, fod ei enaid yn mwynhau o gysuron yr efengyl a bregethasai gyda'r fath flas yn ei fywyd. Bu farw, Gorphenaf 16eg, 1859, yn 71ain oed, a chladdwyd ef yn barchus yn mynwent Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Gadawodd weddw ac amddifaid ar ei ol; a merch iddo ef ydyw Mrs Lewis, gwraig Mr T. Lewis, Solfach gynt, ond yn awr o Lanybri, gerllaw Caerfyrddin. Mae crefydd wedi bod yn y teulu yn awr er's cenhedlaethau, ac arhosed yn yr achau o oes i oes.*

Translation by Maureen Saycell (Feb 2009)

A cause was srarted here at the end of the last century. The first religious service here was a prayer meeting, at the home of Mrs Captain Lewis, Grandmother of Mr B B Williams, now of Chichester. Shortly after this Messrs W Harries, Rhodiad and T Skeel, Trefgarn came here occasionally then on a regular basis every month. Initially the place was equally divided between Trefgarn and Rhodiad, members from both places came here, soon though the place took it's account to Rhodiad and the care of Mr W Harries. The chapel was built in 1798. The cost was paid by Mr Harries taking a journey into England to collect, he returned with enough money to clear the debt. It was not intended at the time to hold regular services here yet, and church meetings were held in Rhodiad, and members also went there to communion. In 1814 Mr James Griffiths settled in the area and was chosen as co-minister with Mr Harries, the 2 worked together until 1823, when a disgreement arose concerning discipline. The 2 ministers held different opinions on the matter and the church was also divided. The difference opinion was over the so called "new system" had caused some bad feeling but the final straw was the matter of discipline. The whole church was stirred up and the result was that many withdrew and formed an independent church at Solva. This happened in December, 1823, and a call sent to Mr Harries to become their minister, leaving Rhodiad under the sole care of Mr J Griffiths. A call was sent to Mr Thomas Mortimer who had been an excellent occasional preacher at Rhodiad for many years, now moved to Solva, to co-minister with Mr Harries, he was ordained on May 20th,1824. The following officiated :- Messrs  Ll. Rees, Trewyddel ; T. Skeel, Penybont ; W. Harries, Rhodiad; M. Jones, Trelech; J. Evans, Penygroes; H. George, Brynberian; D. Thomas, Wotton­under-edge, and W. Davies, Fishguard.* The 2 worked together happily and with a degree of success until the death of Mr Harries on December 17th, 1830, then the full ministry fell on Mr Mortimer. There were only 18 members when Mr Mortimer was ordained but the congregation increased until an extension had to be added to the old chapel, and soon it was rebuilt in its present form. In 1849 there were 250 members.

Mr Mortimer's health was breaking by now and he encouraged the church to look for a young man to care for them, while he would do his best to support him while he could. A call was sent to Mr John D Jones, a student at Brecon College, and he was ordained on August 1st and 2nd, 1849. Mr Jones stayed for about 3 years and the number of members had declined during his tenure, with most of the listeners gone. He went to the established church. Following his departure Mr John Griffiths, Trefgarn, who had left his ministry there, took on the care here, although he was never acknowledged as minister here, he kept an eye over them for 4 years. That was a prosperous period for the church. The numbers increased and the chapel was restored for the sum of £200 and it was all paid before the opening service on February 17th and 18th, 1856. Before long Mr Griffiths moved to Llandovery and a call was sent to Mr John Gwyn Jones, a student at Brecon College, who was ordained on June 16th and 17th, 1858. A sermon on the nature of the church by Mr D M Davies, Wern ; questions were asked by Mr D. Evans, Trewyddel ; the ordination prayer was offered by Mr W. Davies, Fishguard ; a sermon on the duties of a minister by Mr J. Davies, Glandwr ; the duties of a church from Mr T. E. Evans, Rhos.  Mr. Jones only stayed for a year then moved to Laugharne, Carmarthenshire. It was at this time that Mr Mortimer died, aged 71.  

After many years relying on occasional ministry, the cause continued happily, then a call was sent to Mr Thomas Lewis, a student at Carmarthen College, who was ordained July 5th, 1863. On the occasion a sermon on the nature of a church was given by Proff. Morgan, Carmarthen; the usual questions by Mr J. Lewis, Henllan; the ordination prayer offered by the venerable W. Davies, Abergwaun; a sermon to the preacher by Mr I. Williams, Trelech, to the church by Mr S. Evans, Hebron. There were 15 other ministers present and taking part in the services, beside those named above. Mr Lewis remained for 9 years until he accepted a call to Llanybri and Smyrna, and moved there in March, 1872.

There have been many responsible and respected families associated here, and the church influential in the community. There was only one raised to preach here, Benjamin B Williams who was educated at Brecon and is now in Chichester.

BIOGRAPHICAL NOTES **

WILLIAM HARRIES - born November 17th, 1749 at Treysgaw, near Trefgarn - apprentice carpenter - confirmed age 20  then began to preach -ordained Rhodiad October 21st, 1795, after Mr J Richards left for America - the French landing supposedly linked with nonconformist help caused major problems - after losing his wife moved to Camrose with his daughter, the back to Solva with his son for the last 4 years of his life - Died December 17th, 1831, aged 81 - buried Tregroes.

THOMAS MORTIMER - Born  Trewellwell, Dewisland, September 1st, 1788 - good early education - confirmed around 20 years of age - strong physically and mentally - had a stroke 2 years before he died - Died July 16th, 1859, aged 71 - buried St Davids' Cathedral.

* Letter Mr. J. R. Thomas.

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

  PENYBONT, FORD

(Hayscastle parish)

Cangen o Trefgarn ydyw yr eglwys a gyferfydd yn y lle yma. Bu pregethu gan y Methodistiaid Calfinaidd yn yr ardal am flynyddau, a meddyliasant unwaith am godi capel yn y fan lle y saif capel Penybont, ond oherwydd rhyw amgylchiadau rhoddwyd y meddwl hwnw i fyny ganddynt. Yn y flwyddyn 1797 dechreuwyd pregethu gan weinidogion Trefgarn mewn ty fferm o eiddo Sarah Williams, Ford, yn mhlwyf Castellhaidd, ac o hyny allan pregethwyd yma yn fisol, yn benaf gan Mr T. Skeel. Yn y flwyddyn 1807 cafodd Mr Skeel les ar ddarn o dir gan J. Knox, Ysw, ar ran o fferm Mr W. Bowen, Ford, ac adeiladwyd capel bychan arno. Y prif bersonau heblaw Mr Skeel a gymerasant ran yn adeiladiad y capel oeddynt Mr James Williams, Ford ; Mr Davies, Castellwilia; Mr Joseph Morse a Mr John Maddocks, Broadmoor. Mewn cysylltiad a chodiad y capel digwyddodd amgylchiad hynod iawn. Yn y flwyddyn hono yr oedd clefyd trwm yn y wlad, a bu ugeiniau trwy y cylch yma farw o hono, ac yn eu plith yr holl seiri meini a weithient wrth y capel. Yr oedd anhawsder mawr erbyn hyn i gael neb i fyned yn mlaen adeilad, nid yn gymaint oherwydd prinder crefftwyr ag oblegid ofn y clefyd. Dan yr amgylchiadau, dymunodd Mr Skeel ar Mr Williams, Ford, i dreio cael rhywun i fyned yn mlaen a capel, ac y rhoddai efe ddeg swllt i bwy bynag a'i cymerai yn ychwanegol at gyflawn dal am wneyd y gwaith. Cafodd Mr Williams gan hen wr o'r gymydogaeth gymeryd y gwaith, ac aeth adref yn llawen gan ddweyd wrth ei wraig ei fod wedi ei gymeryd, a'i fod wedi cael rhodd o ddeg swllt yn ychwanegol at ei dal am hyny. Ond cynhyrfodd yr hen wraig i'r fath raddau rhag ofn iddo gael y clefyd os elai i weithio i'r capel, fel y gorfododd ef i roddi y deg swllt yn ol yn ddioed, a rhoddi i fyny y meddwl am weithio yn y fath le. Ac felly y bu, ond cyn pen pythefnos bu yr hen wr farw o'r clefyd, er heb fyned i'r capel i weithio. Llwyddwyd, pa fodd bynag, i orphen y capel, a thrwy gydymdrech yr ardalwyr a chyfeillion Trefgarn, talwyd yr holl draul. Ar achlysur agoriad y capel, pregethodd Meistri W. Griffith, Glandwr, a J. Davies, Bethlehem. Ffurfiwyd yma eglwys o aelodau gwreiddiol o Trefgarn yn fuan wedi codi y capel, a pharhaodd y lle yma mewn cysylltiad a Threfgarn hyd y flwyddyn 1821 , pryd y cyfyngodd Mr Griffiths ei lafur i Trefgarn ac y cymerodd Mr Skeel ofal yr eglwys hon. Cynaliwyd yma gyfarfod, Tachwedd 6ed, i gydnabod annibyniaeth yr eglwys, ac yr oedd Meistri J. Meyler, Rhos­ycaerau, a W. Davies, Abergwaun, yma ar yr achlysur. Rhifai yr eglwys ar y pryd 52ain o aelodau. Ar sefydliad yr eglwys, dewiswyd John Maddocks, Broadmoor; William Bowen, Ford; John Maddocks, Creffty, yn

* Cafwyd defnyddiau yr hanes uchod gan mwyaf o lythyrau Mr Lewis, Llanybri yn awr, Mr T. M. Rees. Carnwchwr, a chofiant Mr. Harries yn y Diwygiwr am Awst a Medi 1836, yr hwn a ysgrifenwyd gan Mr. Mortimer.

68

henuriaid ; James Williams, Ford; Joseph Morse, Trewma; a Mr Skeel Castle Hill, yn ddiaconiaid. Yr oedd y dynion hyn yn wyr rhagorol yn mysg y brodyr yn eu dydd. Mae enw Mr Maddocks, Broadmoor, yn uchel yn y gymydogaeth hyd y dydd hwn fel dyn duwiol, ac yn gwir ofalu am bobl ieuaingc y gynnulleidfa yn enwedig, ac yn selog ryfeddol dros ddechreu pob moddion yn amserol. Bu William Bowen yn flaenor y canu am flynyddau. Nid oedd yn sicr iawn o'r don bob amser, ond gwnai gynyg teg drachefn a thrachefn, ac os methai yn lan, troai ei wyneb at y pregethwr, a than wenu yn siriol arno, dywedai " gair bath arall os gwelwch chwi yn dda Syr." Coffeir am John Maddocks, Creffty, fel gwr nodedig am ei dduwioldeb. Mae llawer o weinidogion yn awr yn fyw sydd yn cofio yn dda am Mr Williams, Ford; gan mai yn ei dy ef y llettyent. Yr oedd yn ddyn o synwyr naturiol cryf, yn dra chywir yn ei farn, ac yn nodedig am ei garedigrwydd. Cyfrifid Mr Morse, Trewma, a Mr Skeel, Castle Hill, yn ddynion caredig, haelionus, a ffyddlon yn holl wasanaeth y ty ; ac y mae lluaws o'u perthynasau yn aros yma ac wedi etifeddu eu rhinweddau.

Yn y flwyddyn 1824, dychwelodd Mr D. Davies i'r ardal, a dewiswyd ef i gydlafurio a Mr Skeel yma ac yn y gangen yn Zion's Hill. Yn y flwyddyn 1831 ailadeiladwyd y capel a gwnaed ef yn helaethach. Pregethwyd yn ei agoriad gan Meistri H. Evans, Penbre; J. Evans, Penygroes, a Caleb Morris, Llundain. Yr oedd yr eglwys erbyn hyn wedi cynyddu i gant o nifer. Cydlafuriodd y ddau weinidog yn unol hyd farwolaeth Mr Skeel, yr hyn a gymerodd le, Hydref 6ed, 1836, yn 78ain oed, a daeth yr holl ofal o hyny allan ar Mr Davies, a pharhaodd i wylio drosti hyd y flwyddyn 1851, pryd y teimlodd fod y gwaith yn ormod iddo, ac y rhoddodd yr eglwys yma i fyny gan gyfyngu ei weinidogaeth i Zion's Hill yn unig. Cyn diwedd y flwyddyn hono, rhoddodd yr eglwys yma alwad iMr Dan Jones, yr hwn a fuasai yn derbyn ei addysg dan ofal Dr. George Rees, Abergwaun, ac urddwyd ef yma, Ionawr 28ain, 1852. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr E. Lewis, Brynberian ; holwyd y gofyniadau gan Mr J. Griffiths, Trefgarn ; dyrchafwyd yr urdd­weddi gan Dr. Rees, Abergwaun ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr S. Thomas, Trefdraeth, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr D.Davies, Aberteifi. Mae Mr Jones yn parhau i lafurio yma, ac y mae yr achos mewn agwedd lewyrchus.

Codwyd yma ddau i bregethu.

  • Henry P. Bowen. Ganwyd ef Awst 3ydd, 1822, yn y Ford. Derbyniwyd ef yn aelod yn ieuangc, a dechreuodd bregethu tua y flwyddyn 1842. Yn y flwyddyn 1844 aeth i'r ysgol yn Narberth, dan ofal Mr Davies, ac wedi treulio dwy flynedd yno derbyniwyd ef i athrofa Airedale, ac wedi gorphen ei dymor yno, derbyniodd alwad o Middlesboro-on-Tees, ac urddwyd ef yno, Hydref 14eg, 1851. Wedi llafurio yno dros saith mlynedd, symudodd i Brentwood, Essex, lle y llafuriodd gyda derbyniad mawr am un-mlynedd-ar-ddeg. Yr oedd yn weinidog tra llafurus, a thaflai ei holl galon i'r gwaith ; ond gwaelodd ei iechyd, ac wedi bod yn dihoeni am ddeunaw mis, bu farw Medi 10fed, 1870, a chladdwyd ef yn hen gladdfa Brentwood.
  • William Price. Addysgwyd ef yn Bristol, ac urddwyd ef yn Llanfaches yn haf 1871.

Translation by Maureen Saycell (Feb 2009)

This church is a branch of Trefgarn. There had been  preaching by the Calvinistic Methodists here for many years and they had thought to build a chapel on the site of the current one at Penybont, but for some reason it was never done. In 1797 preaching began by the preachers of Trefgarn in Sarah Williams farm, Ford in the parish of Castellhaidd. From then on monthly sermons were given, mainly by Mr Skeel. In 1807 Mr Skeel acquired a lease on a piece of land from J Knox, Esq., on part of farm run by Mr W Bowen, Ford, and a small chapel was built on it. Those at the forefront with Mr Skeel were Mr James Williams, Ford ; Mr Davies, Castellwilia; Mr Joseph Morse and Mr John Maddocks, Broadmoor. At the same time as the chapel was built a strange thing happened. That year there was a sickness that swept through the countryside and many died because of it, among them were the masons working on the chapel. There was a problem getting anyone to go on with the building, not because of a shortage of craftsmen but from fear of illness. Under the circumstances Mr Skeel and Mr Williams decided to give an extra 10/- on top of the agreed price in order to get someone to do the work. An elderly man from the village agreed to take on the work, but when he told his wife she got so worried that he would become ill that he went to hand back the 10/-, But within 2 weeks the old man was dead from the illness, despite the fact he did not work on the chapel. However the chapel was completed and the debt paid through the joint efforts of the locals and the friends of Trefgarn. At the opening of the chapel sermons were given by Messrs W. Griffith, Glandwr, and J. Davies, Bethlehem. A church was formed here mainly from members of Trefgarn, it remained in association with Trefgarn until 1821 when Mr Griffiths confined his work to Trefgarn and Mr Skeel took charge here. A meeting was held here to recognise the independence of this church attended by Messrs Meyler, Rhosycaerau, and W. Davies, Fishguard. There were 52 members. On the foundation of the church John Maddocks, Broadmoor; William Bowen, Ford; John Maddocks, Creffty,were chosen as elders and James Williams, Ford; Joseph Morse, Trewma; and Mr Skeel Castle Hill, as deacons. these were excellent men of their day. Mr Maddock is still well respected especially for his work with the youth, and the promptness of every service. William Bowen was the leader of singing for years, not always certain of the tune, but tried hard, if all else failed turned to the preacher. John Madocks, Creffty known for his godliness. Mr Williams, Ford was known to many preachers for his hospitality and kindness. Mr Skeel, Castle Hill and Mr Morse,Trewma were kind, generous and faithful, and many of their descendants have inherited these traits.

In 1824 Mr D Davies returned to the area and was chosen to co-minister with Mr Skeel here and Zion's Hill. In 1831 the chapel was rebuilt and extended. Sermons were given by Messrs H. Evans, Penbre; J. Evans, Penygroes, and Caleb Morris, London, at the opening service. The church had grown to 100. The two ministers worked together until the death of Mr Skeel on October 6th, 1836, aged 78. Then all the care fell on Mr Davies, he carried on until 1851 when he confined his work to Zion's Hill. That same year the church called Mr Dan Jones, who was being educated by Dr George Rees, Fishguard. He was ordained here January 28th, 1852. On the occasion a sermon on the nature of a church was given by Mr E. Lewis, Brynberian; the questions were asked by Mr J. Griffiths, Trefgarn; Dr. Rees, Fishguard offered the ordination prayer; a sermon on the duties of a minister Mr S. Thomas, Trefdraeth, and the duties of a church by Mr D.Davies, Cardigan. Mr Jones continues here and the cause looks in good shape.

The two following were raised to preach here:-

  • HENRY P BOWEN - Born August 3rd, 1822, in Ford. Confirmed young, began preaching 1842, in 1844 went to school at Narberth with Mr Davies, 2 years later  to Airedale College, then called to Middlesboro-on-Tees, ordained there on October 14th,1851. After 7 years moved to Brentwood, Essex, where he served for 11 years. He threw himself into his ministry, but his health deteriorated and after 18 months he died on September 10th, 1870, buried in the old cemetery in Brentwood.
  • WILLIAM PRICE -  educated Bristol, ordained Llanfaches summer 1871.

69

PENYGROES

(Whitechurch parish)

This chapel already translated    /big/wal/PEM/Whitechurch/Hanes.html

"Dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn yr ardal yma mewn lle a elwir Cilcam, yn mhlwyf Eglwyswen. Yr oedd David Evans, Dyffrynmawr, yn aelod o'r eglwys yn Llechryd, ac yn pregethu yn achlysurol, a'i wraig yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Capel-newydd; ond ni wnaed cynyg ar sefydlu achos yn y lle hyd y flwyddyn 1765, pryd yr ymgymerodd Mr. J. Griffiths, Glandwr, a nifer o'r aelodau â hyny. Buwyd dros rai blynyddoedd yn addoli yn Cilcam cyn adeiladu y capel, ac nis gwyddom pa flwyddyn y gwnaed hyny, na phwy oedd y personau mwyaf blaenllaw gyda'r gorchwyl. Mewn ysgrif o eiddo Mr. J. Evans, Hebron, yr hon sydd yn awr ger ein bron, dywedir, nad oedd nifer yr aelodau yma ond ychydig ar y dechreu, a thros rai blynyddoedd ni weinyddid yr ordinhad o swper yr Arglwydd iddynt ond unwaith bob tri mis, ac y disgwylid hwy i fod y ddau gymundeb arall yn Nglandwr. Bu y gofal yn hollol ar Mr. Griffiths, Glandwr, hyd y flwyddyn 1798, pryd yr urddwyd Mr. William Evan yn gynorthwywr iddo, a glynodd yr eglwys hon wrth Mr. William Evan pan yr aeth yn ymraniad yn Nglandwr, ac efe fu ei hunig weinidog hyd y flwyddyn 1818, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. John Evans, aelod o'r eglwys, ond a fuasai yn fyfyriwr yn athrofa Caerfyrddin, i fod yn weinidog yma. Urddwyd Mr. Evans, Gorphenaf 23ain, 1818, ac ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri J. Meyler, Rhosycaerau, D. Davies, Pantteg; D. Peter, Caerfyrddin; M. Jones, Trelech; a W. Evan yr hen weinidog. Yn mhen tri mis wedi urddo Mr. Evans, bu farw Mr. W. Evan, ac felly daeth gofal Hebron arno hefyd. Ymroddodd Mr. Evans yn egniol i gyflawni ei weinidogaeth, ond aeth rhai blynyddau heibio cyn y gwelodd nemawr o lwyddiant. Rhoddwn y dyfyniad canlynol o'i gofiant, yr hwn y mae yn sicr genym a ddarllenir gyda dyddordeb :-

"Wedi i mi lafurio am amryw flynyddau yn Mhenygroes, nid oeddwn yn gweled fawr o arwyddion llwyddiant. Yr oedd y gynnulleidfa yn lluosog iawn o ddynion ieuaingc. Meddyliais y gallaswn wneyd daioni trwy wneyd pregeth bwrpasol iddynt. Cyfansoddais y bregeth oreu y medrwn. Cyfodais yn foreu iawn y Sabboth canlynol i barotoi ar gyfer gwaith y dydd, ac yr oeddwn yn meddwl fod genyf bregeth dda iawn, a fy mod inau mewn yspryd priodol iawn i'w thraddodi, ac y gwnaethwn waith mawr y dydd hwnw. Pan ddaeth amser yr addoliad, aethum yn llawen tua'r addoldy. Dechreuais yn y drefn arferol; ond wedi profi afrwyddineb mawr mewn gweddi, dywedais ynof fy hun, "Os oedd y weddi yn afrwydd y mae genyf bregeth dda." Yna cymerais fy nhestyn, dechreuais bregethu, ond yn hynod o afrwydd, caled, a sych, ac yn dra anfoddhaol i mi fy hun. Cefais y cyfarfod mwyaf caled a gefais braidd erioed; ac wrth fyned, ac wedi myned adref, yr oeddwn mewn gofid parhaus oblegyd y fath gyfarfod. Yr oeddwn yn ystyried fod cyfleustra i wneyd daioni wedi ei golli, ac mai peth ofer fyddai i mi gynyg gwneyd pregeth i'r ieuengctyd drachefn. Yr wythnos ganlynol yr oeddwn yn teimlo yn anesmwyth iawn. Y nos Wener ganlynol aethym i'r gyfeillach yn isel iawn fy meddwl. Daeth dau yn mlaen yn y gyfeillach hono. Gofynais iddynt pa faint o amser oedd er pan yr oeddynt wedi meddwl am grefydd. Attebasant "Eu bod wedi meddwl dyfod at grefydd er's tro, ond mai pregeth y Sabboth diweddaf a ddarfu eu dwyn i benderfyniad yn awr." Yr oeddwn wedi synu, ac yn methu a dweyd yr un gair gan fy mod wedi cael y fath siomedigaeth, oherwydd fy mod yn credu fod llafur y Sabboth hwnw wedi myned yn gwbl ofer. Ond mewn canlyniad i'r cyfarfod hwnw derbyniwyd lluaws yn Mhenygroes am amryw flynyddau, ac ar eu derbyniad tystient mai y bregeth hono oedd wedi effeithio arnynt."

Y fath engraifft eglur nad yw llafur gonest a chydwybodol yn myned

70

heibio yn ofer. Erbyn y flwyddyn 1828 yr oedd yr achos wedi myned rhagddo fel y bu raid ailadeiladu a helaethu y capel. Symudodd Mr. Evans i ardal Hebron i fyw, yr hyn a fu yn radd o golled i'r achos ond parhaodd i gyrchu yma yn rheolaidd i gyflawni ei weinidogaeth hyd ddiwedd y flwyddyn 1843 pan y rhoddodd ofal yr eglwys i fyny, ac y dewiswyd ei fab Mr. Simon Evans, yr hwn a fuasai yn efrydydd yn athrofa Caerfyrddin, i fod yn olynydd iddo. Urddwyd Mr. S. Evans, Ionawr, 24ain, 1844. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Griffiths, Tyddewi; holwyd y gofyniadau arferol gan Mr. H. Davies, Narberth; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Evans, Hebron, tad yr urddedig; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. D. Davies, Pantteg, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. Joseph Evans, Capel Sion. Parhaodd Mr. Evans i ofalu yn ffyddlon am yr eglwys am ddeuddeng mlynedd, hyd nes ar ol marwolaeth ei dad y symudodd i gymeryd gofal yr eglwysi yn Hebron a Nebo. Yn y flwyddyn 1854, cododd yr eglwys dy i'w gweinidog, ar dir Mr. Caleb Evans, Tygwyn, yr hyn sydd yn ychwanegiad gwerthfawr at gyfleusterau gweinidog mewn lle fel hyn. Cyn diwedd y flwyddyn 1856 rhoddwyd galwad i Mr. David Jones, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Chwefror 4ydd, 1857. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Davies, Pantteg; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Davies, Glandwr; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. S. Evans, Hebron; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. S. Griffiths, Horeb; ac i'r eglwys gan Mr. H Jones, Caerfyrddin. Bu Mr. Jones yma hyd Hydref 3ydd, 1868, pryd y darfu ei gysylltiad â'r weinidogaeth yma. Yn Hydref 1869 cydnabyddwyd Mr. John R. Williams, yr hwn a urddasid yn Bettwsgwerfilgoch, yn weinidog yr eglwys yma, a bu yma hyd Chwefror,1872, ac y mae yr eglwys er hyny heb sefydlu ar weinidog. Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon :-

  • Simon Evans, Dyffrynmawr. Mab ydoedd ef i David Evans, Dyffrynmawr, aelod o'r eglwys yn Llechryd. Ymunodd a'r eglwys yn Glandwr pan oedd tuag ugain oed, ac yn mhen tua chwe blynedd cymhellwyd ef gan yr eglwys a'r gweinidog i bregethu, a pharhaodd i bregethu yn mha le bynag y byddai galw amdano hyd derfyn ei oes. Ni bu erioed yn teithio y wlad, ond yr oedd bob amser yn barod os gwelai fod bwlch ac eisieu ei lanw. Yr oedd yn ddyn o deimladau brwd a chyffrous, yr hyn a barai iddo ddweyd weithiau yn llymach nag y dymunasai; ond yr oedd yn ddidwyll a dihoced, ac yn nodedig o awyddus am sicrhau heddwch ac unoliaeth yr eglwys. O ran ei olygiadau duwinyddol, yr oedd yn Galfiniad cryf, a theimlai eiddigedd mawr dros anrhydedd penarglwyddiaethol ras. Ni chafodd ond cystudd byr, ond yr oedd hwnw yn chwerw; etto dyoddefodd ef yn amyneddgar, a bu farw mewn tawelwch, Awst 31ain, 1839, yn 74ain oed.
  • Thomas Picton. Symudodd i'r America, lle y treuliodd oes hir, ond nid oes genym ychwaneg o'i hanes.
  • John Evans. Urddwyd ef, fel y gwelsom, yn weinidog yr eglwys hon. Daw ei hanes yn nglyn â Hebron.
  • Caleb Morris. Addysgwyd ef yn athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef yn Narberth, ac oddiyno symudodd i Lundain, lle y cyrhaeddodd enwogrwydd mawr. Daw ei hanes ef ynglyn â Narberth, yr unig le yn Nghymru lle y bu yn gweinidogaethu.
  • William Thomas. Urddwyd ef yn Clydach, a gwelir crybwylliad am dano yn nglyn â Chapel Seion, Glais.

71

 

  • Stephen Davies. Bu dan addysg yn y Drefnewydd. Urddwyd ef yn Ruabon. Symudodd oddiyno i'r Rhyl, ac ymadawodd at yBedyddwyr.
  • Caleb Evans, Tygwyn. Bu yn bregethwr cynorthwyol cymeradwy yn yr eglwys am flynyddau lawer ; ac yr oedd yn golofn gref o dan yr achos yn Mhenygroes. Bu farw yn 1856.
  • Lefi Evans. Yr oedd ef yn frawd i Mr. Caleb Evans, Tygwyn. Meibion oeddynt i Benjamin a Margaret Evans, Treficert, yn mhlwyf Nefern. Treuliodd Lefi Evans tua thair blynedd yn y Neuaddlwyd. Aeth oddiyno i athrofa Rotherham, lle yr arosodd tua deuddeng mis, ac y terfynodd ei yrfa ddaearol, Tachwedd 14 eg, 1833, yn 25ain oed. Enillai barch pawb a'i hadwaenai. Yr oedd yn meddu corph lluniaidd cadarn, cyneddfau cryfion, deall treiddgar, serchiadau gwresog, doniau hyawdl, a ffyddlondeb diysgog yn ngwaith yr Arglwydd. Nid oedd ei gystudd ond o fyr barhad, ond yr oedd yn boenus a chwerw. Achosodd ei farwolaeth annisgwyliadwy, mor bell o'i wlad, deimladau cyffrous yn mysg ei berthynasau a'i gydnabod. Pregethodd Mr. J. Evans bregeth angladdol iddo yn Mhenygroes, yr hon a gyhoeddwyd yn y Dysgedydd am Mawrth, 1834, gyda'r byr grybwyllion uchod am dano.
  • John James. Mab Blaenywaun ydoedd. Yr oedd yn athrofa Caerfyrddin yn parotoi ar gyfer y weinidogaeth, ond bu farw yn mlodeu ei ddyddiau. Buasai yn dda genym pe buasai ein cofnodion am dano yn helaethach.
  • Caleb Guion. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn y Plough yn y dref hono. Mae yn awr yn Milford.
  • Thomas Williams. Yr oedd yn ysgolfeistr yma yn y flwyddyn 1844. Mae yn awr yn Aberdar.
  • John Davies. Dygwyd ef i fyny yn athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef yn Pontygof, ac y mae yn awr yn Zoar, Aberdar.
  • Simon Evans. Mae yn awr yn bregethwr cynorthwyol yn Llechryd. Mae rhai Undodiaid yn ardal Penygroes, ac y maent yn arfer gwrando yma; ond nid ydynt yn cynyg gwthio eu golygiadau ar ereill, ac nid ydynt wedi gwneyd un cynyg i gychwyn achos Undodaidd yn yr ardal."

 

ANTIOCH

(Llanfyrnach parish)

This chapel already  translated  /big/wal/PEM/Llanfyrnach/Hanes.html

"Cynhelid ysgol Sabbothol gan aelodau Penygroes yn Bwlchyclawdd, ac ar ol hyny yn y Fronlwyd. Rhoddodd Mr. T. Thomas, Fronlwyd, dir at adeiladu addoldy, a mynwent yn ei ymyl. Agorwyd ef Mawrth 27ain, 1846. Ni fwriadwyd ef ar y cyntaf ond i gynal ysgol Sabbothol a phregethu yn achlysurol ynddo; ond yn y flwyddyn 1858, yn ystod gweinidogaeth Mr. D. Jones, ffurilwyd yma eglwys. Mae cychwynwyr yr achos yma, agos oll erbyn hyn, wedi eu symud ymaith ; ac y mae y ddau frawd ffyddlon John James a Thomas James yn gorwedd yn y fynwent gerllaw. Simon James hefyd, yr hwn oedd yn fawr ei sel gydag adeiladaeth y capel, a symudodd i ardal Llechryd, ac a fu farw yno. Mae David Morris hefyd, yr hwn a fu am flynyddau yn arwain y canu, wedi ei gymeryd ymaith. Mae yr eglwys fechan yma mewn tymor byr wedi dyoddef colledion mawr. Mae rhagolygon yr eglwys yma yn fwy addawol nag y buont. Mae gorsaf ar reilffordd Dyffryn Taf, yr hon sydd yn cychwyn o Whitland, i fod yn ymyl y capel yma, ac y mae yr eglwys yn y lle yn paratoi at adeiladu ......................

 

CONTINUED

 


(