Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

See main project page

Proof read by Maureen Saycell (March 2008)

Pembrokeshire section (Vol 3) - Pages 72 - 85

  • (Continued) ANTIOCH
  • HEBRON  (Llanglydwen, CMN parish) (with translation)
  • NEBO  (Cilmaenllwyd, CMN parish) (with translation)

Pages 72 - 85

72  

(Continued) ANTIOCH

.............capel newydd. Mae Antioch o'r dechreuad wedi bod mewn cysylltiad gweinidogaethol a Phenygroes, ac felly y mae yn parhau."

 

HEBRON

(Llanglydwen, CMN parish)

Yr ydym eisioes wedi crybwyll yn nglyn a hanes Glandwr, fod yr achos yma wedi ei ddechreu yn yr ymryson a gymerodd le yn nglyn a dewisiad Mr William Griffiths i fod yn gydweinidog a'i dad, ac a William Evan. Beth bynag a allasai fod yn cymhell y gwrthwynebiad yn meddyliau rhai yn ddirgelaidd, seilid ef ar afiachusrwydd barn Mr W. Griffiths ar rai pyngciau a ystyrient hwy yn bwysig, a sicr genym mai oddiar hyny y cyfodai gwrthwynebiad y rhan fwyaf. Er mwyn i'r darllenwyr gael cipdrem ar y pyngciau y dadleuid yn eu cylch, rhoddwn yma ddifyniadau o olygiadau Mr W. Evan, a Mr W. Griffiths ar y pyngciau mewn dadl.

Dyma ranau o'r gyffes a ddarllenwyd gan Mr W. Evan ar ddydd ei urddiad : -

" i. Yr wyf yn credu fod un Duw, yr hwn sydd dri o bersonau gwahanol, yn ogyfuwch mewn pob priodoledd, ac etto yn un mewn dwyfol hanfod.

ii. Yr wyf yn credu i'r Duw hwnw yn nhragwyddoldeb ragordeinio pob peth, drwg a da, ag a ddeuai i ben mewn amser, a hyny o'i wir ewyllys da ei hun - i'r dyben o'i ogoniant ei hun. Yr hyn a arfaethodd sydd fel y canlyn :-1. Iddo ordeinio creu pob peth. Dynolryw a grewyd, a'u gosod mewn cyflwr posibl i sefyll neu syrthio o'u perffeithrwydd cyntaf. 2. Fe ordeiniodd gadw nifer benodol, neu fe etholodd rai o'r llu creadigol hyn, nid ar ragwelediad eu cwymp, ond fel creaduriaid heb olygu ynddynt na drwg na da. 3. Fe ordeiniodd adael iddynt syrthio, a myned yn ddyledus i'w gyfraith, a heb allu i'w dalu. 4. Ordeiniodd hefyd osod Crist yn Bencynrychiolwr yr holl etholedigion, gan daro llaw mewn cyfamod o ras ar y telerau canlynol: - sef iddo gymeryd natur ddynol, ac yn lle a thros ei bobl dalu yr hadling eithaf oedd cyfiawnder yn ei ofyn ; a'r Tad yn eu rhoddi hwynt iddo o'r pentwr llygredig, gan addaw pob cynorthwyon angenrheidiol yn ei sefyllfa swyddol, ond fel Duw ac etifedd pob peth nid oedd raid iddo wrthynt. Yr wyf yn credal fod yr holl bethau hyn yn un weithred bur yn Nuw, ac iddo dderbyn gair y Mab yn ei sefyllfa o feichnydd, fel nad yw'r etholedig ryddach yn ngolwg y Tad yr awr y credo, na phan tarawyd y cyfamod, ond yn unig yn eu personau en hunain.

iii. Yr wyf yn credu fod holl ddynolryw yn sefyll mewn euogrwydd o'r pechod cyntaf, ar gyfrif y trosedd o'r cyfamod a wnaed a'r dyn cyntaf ; canys yn ei sefyllfa fel pencyfamodwr, fe gollodd bob daioni a ddaethai i'w had mewn ffordd gyfamodol, ac heb trwy gyfamod ni chawsant ddim ; gan hyny nid yw halogrwydd yn dyfod oddiwrth Adda fel pen naturiol neu wreiddiol - nid yw ef ddim ond peth a ataliodd Duw, a hyny yn gyfiawn, ar gyfrif trosedd o'r cyfamod, canys trwy y cyfamod y mae y ddelw i gael ei pharhau ar ei holl had. Mae y Bod Mawr fel cynaliwr ei greadigaeth yn rhoddi bod enaid, a hyny yn berffaith, ond heb yr addurn cyntaf o'r ddelw, ac mor gynted ag y byddo undeb yn cael ei wneyd rhwng enaid a chorph, y mae yn dyfod yn chargeable o drosedd ei ben cynrychiolwr, ac wedi, mewn ystyr gyfamodol, fforffetu'r ddelw, a than ei fod hebddi nis gall weithredu ond yr hyn sydd bechadurus. Fell mae holl ddynolryw yn gwbl agored i gyfiawnder dialeddol, ac yn druenus, heb allu byth ohonynt eu hunain ddyfod allan o hono.(iv. sydd am ymgnawdoliad Crist. v. Donio gweinidogion. Dim hynod.) vi. Yr wyf yn credu fod yr Ysbryd yn gweithredu yn effeithiol anorchfygol ar yr etholedigion, ac nid ar neb arall, gan eu gwneyd yn ewyllysgar i dderbyn Crist yn Iachawdwr cyflawn, a hyny trwy y gair" Caf yn ei lyfr ran o anerchiad i ddeiliaid argraffiadau trwy y gair:-1. Na ddiystyrwch hwynt, canys y mae ynddynt, er nad yw ynddynt mewn ffordd o achubol ras, etto y mae ynddynt yr hyn all fod yn rhagbarotoawl iddo. Nid ydynt gyffredinol ddigwyddiadau dynolryw, ond neillduol rybuddion rhagluniaeth. 2. Llafuriwch i gadw teimlad o honynt bob amser ar eich calon a'ch cydwybod. Ni ennillaist ddim trwy golli cymaint o honynt eisioes ; ac os ai yn y blaen mewn esgeulusdra o hyn, ni chei brofi y fath beth byth ond hyny, ond cei gydwybod wedi ei serio megis a haiarn poeth,"

73

Er cael rhyw awgrym o syniadau Mr W. Griffiths, cymerer y difyniad a ganlyn o anerchiad o'i eiddo at eglwys Glandwr, yr hwn sydd yn awr yn meddiant Mr Evans, Hebron.

" Nid oes arnaf ofn nas gallaf wneyd fy meddyliau yn ddigon adnabyddus trwy bregethu. Gellir meddwl i mi wneyd hyny pan yr ymdrechais ddangos yr angenrheidrwydd o ddeall yr efengyl cyn ei chredu. O'r hyn lleiaf, mi a wn mai nid oerllyd oedd y sel a amlygwyd yn erbyn fy naliadau i. Afreidiol fyddai trin y pwngc hwnw yn bresenol. Ond mi gaf osod ger eich bron rai pethau eraill nad wyf yn cytuno yn eu cylch a'r cyffredinolrwydd o'r brodyr. Nid wyf yn credu y dylid dyweyd fod y personau dwyfol yn wahanol oddiwrth eu gilydd. Yn mhellach, nid wyf yn credu ei bod yn iawn i son am y Tad fel y person cyntaf yn y Duwdod, a bod y Mab yn ail, a'r Ysbryd Glan yn drydydd person. Drachefn, nid wyf yn gweled yr un angenrheidrwydd i ni orphen ein gweddiau bob amser trwy briodoli gogoniant i Dad, Mab, ag Ysbryd Glan. Yn nesaf, nid wyf yn meddwl fod Iesu yn cael ei alw yn Fab Duw, yn benaf neu yn unig oherwydd ei fod o'r un natur a'r Tad. Yn mhellach, nid wyf yn myntumio fod yr Ysbryd yn preswylio yn bersonol yn y rhai sydd yn credu yr efengyl. Drachefn, nid wyf yn credu yn ngweithrediadau cyffredinol yr Ysbryd Glan. Yr wyf yn foddlon i amddiffyn y golygiadau sydd genyf ar y gwirionedd, ac yr wyf yn atolwg i chwi beidio cyfrif pob peth yn gyfeiliornus ar na chlywsoch o'r blaen."*

Parodd y dadleuon hyn gynwrf dirfawr yn yr ardal, a chariai pob ochr ei golygiadau i'r fath eithafion fel yr oedd yn anmhosibl iddynt fyw yn gytun yn yr un eglwys. Bu y ddwy blaid dros dymor yn addoli ar wahanol amserau yn addoldy Glandwr, ond o'r diwedd clowyd plaid William Evan allan, a buont ar ol hyny yn addoli dros amser yn y Drefach, Eglwysfair. Cafwyd tir i adeiladu capel ar dir Llwynwryf ar les o 99 mlynedd. Yr ymddiriedolwyr cyntaf oeddynt William Evan, y gweinidog; Walter Hughes, Ffynoniago ; Amaziah Owen, Ynysfach ; John Davies, Pencoed, a Josiah Hughes, Llwyncelyn. Adeiladwyd y capel yn yflwyddyn 1804. Nis gwyddom nifer yr aelodau a ymadawodd o Glandwr, ond y mae yn hawdd deall ei bod yn gangen gref, oblegid ar farwolaeth William Eyan, yn y flwyddyn 1818, yr oedd eu nifer yn 148. Wedi marwolaeth William Evan, cymerwyd gofal yr eglwys gau Mr John Evans, mewn cysylltiad a Phenygroes, a llafuriodd yma gyda derbyniad a llwyddiant mawr hyd ei farwolaeth yn 1849, a dilynwyd ef gan ei fab, Mr Simon Evans, yr hwn sydd yn parhau yn y weinidogaeth yma hyd yr awr hon, ac yn gymeradwy gan yr holl bobl. Yn 1824, helaethwyd y capel i'r ffurf y mae ynddo yn hresenol, ac y mae yn un o'r engreifftiau goreu a ellir gael pa fath oedd yr hen gapeli yn y dyddiau gynt. Trwy ddoethineb a phwyll Mr John Evans, a'i gyfeillgarwch a Mr W. Griffiths, iachawyd yn raddol y drwgdeimlad oedd rhwng y ddwy eglwys, a chytunwyd ganddynt cyn belled ag i'r naill beidio derbyn aelodau tramgwyddus y llall heb lythyrau cymeradwyaeth. Ond yr oedd yr hen bobl er hyny yn dal yn dyn dros eu golygiadau neillduol. Dywed Mr. S. Eyans, ei fod yn cofio clywed Sion, Bwlchysais, fel ei gelwid, un o henuriaid Glandwr, cyn yr ymadawiad, yn dyweyd fod yr etholedigion dan y cyfamod gras, a'r anetholedigion o dan y cyfamod gweithredoedd. Dywed hefyd am un arall o henuriaid Hebron, Thomas Lewis, y gwehydd, yr hwn a symudodd yma o Benygroes, pan mewn dadl frwd ar bechod Adda, a ddywedai, " Yr oeddwn i yno yn weithredol yn estyn fy llaw i gymeryd o'r ffrwyth. Teimlaf euogrwydd y funyd hon am y weithred." Mae y dadleuon anorphen hyn bellach er's llawer dydd

* Diwygiwr, 1861. Tudal. 310.

74  

wedi eu rhifo yn mysg y pethau a fu, er fod yn yr eglwys lawer o ymchwil am wybodaeth trwy gateceisio a chyfarfodydd esbonio, y rhai ydynt yn parhau yn boblogaidd yn yr ardal. Mae yr eglwys hon yn parhau gynal yn mlaen yr hen drefn o dair swydd, fel y gwnai y rhan fwyaf o'r hen eglwysi gynt - gweinidog, henuriaid, a diaconiaid. Mae cyfarfodydd sefydlog yr eglwys yn parhau yn eu poblogrwydd, ac y mae y gynnulleidfa wedi bod bob amser yn nodedig yn i sel o blaid yr achos Cenhadol. Yn mysg ffyddloniaid yr eglwys yma, crybwyllir am David Morris, y gof, yr hwn a fu yn henuriad llygadgraff yma, ac a wnaeth lawer o blaid cynal i fyny gynnulliadau yr eglwys, a meithrin haelioni yn yr aelodau. William Hughes, o'r Felin, hefyd oedd ddiacon gofalus, ac yn nghyfrif y rhai a'i hadwaenai oreu yn Israeliad yn wir. Fel cychwynwyr a chynghorwyr ffyddlonaf yr ysgol Sabbothol yn Hebron, y mae yn weddus crybwyll enwau William Evans, y crydd, a Rowland Howell, ac er nad oedd yr olaf ond gwrandawr, gwnaeth lawer o les gyda'r ysgol, a gweithredai fel ysgrifenydd iddi. Er nad oes dadleuon duwinyddol yn cynhyrfu yr eglwys yn awr, etto nid yw heb gael ei blino gan ddrygau a phechodau. Y mae y trindod drygau a flinent yr eglwys yn Rhufain wedi blino yr eglwys hon, fel eglwysi eraill y wlad o'i dechreuad - " cyfeddach a meddwdod, cydorwedd ac anlladrwydd, cynen a chenfigen," ond hyderwn, er hyny, ei bod yn graddol ymburo oddiwrth y drygau hyn.

Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon :

  • Benjamin Thomas. Derbyniwyd ef yn aelod gan Mr W. Evan ychydigamser cyn ei. farwolaeth, a bu yn pregethu dros lawer o flynyddoedd.
  • Rees Perkins. Mae yn awr yn weinidog yn Maenclochog.
  • Ezer Davies. Mab James Davies. Mae yn awr yn Troedyrhiw, Merthyr.
  • Simon Evans. Mab Mr Evans, y gweinidog. Addysgwyd ef yn athrofa Caerfyrddin, ac y mae yn awr yn weinidog yr eglwysi yn Hebron a Nebo.
  • John Morgan Evans. Mab arall i Mr Evans, y gweinidog. Addysgwyd ef yn athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef yn Nhrefgarn, ac y mae yn awr yn Ebenezer, Caerdydd.
  • Thomas Evans. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1852, ac y mae yn pregethu yn achlysurol, lle y gelwir am ei wasanaeth.
  • David Thomas. Addysgwyd of yn athrofa Aberhonddu, ac y mae yn awr yn Llangynidr, Brycheiniog.
  • John Lloyd Jones. Addysgwyd ef yn athrofa Caerfyrddin, ac y mae yn awr yn Nghapel Ivor, Dowlais.

Crybwyllir hefyd am Thomas Davies, Nant, a George Davies, Plas, ond nid oes genym unrhyw wybodaeth i'w roddi am danynt ond eu henwau, a bod eu gweddillion marwol yn gorwedd yn mynwent Hebron.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

WILLIAM EVAN. Ganwyd ef yn y Felin, Llanglydwen, sir Gaerfyrddin, tua'r flwyddyn 1749. Nid oedd ei dad yn proffesu crefydd, ac eglwys wraig oedd ei fam. Symudodd ei rieni i fyw i Drefedw, ac oddiyno Gatewen. Ychydig o addysg ddyddiol a gafodd yn blentyn. Rhoddwyd of dan ofal Evan Sion, Llaindelyn, Llanfyrnach. Yr oedd Evan Sion, heblaw dilyn ei alwedigaeth fel twcwr, yn dipyn o feddyg esgyrn a chlwyfau,

75

a daeth William Evan yn fedrus yn hyny fel yntau. Un diwrnod wrth weled ei fod yn gwrando yn gyson yn Glandwr, darfu i hen wr o'r enw Marc Evans ofyn iddo, " Will, beth yw dy feddwl am dy gyflwr, a dyfod at grefydd ?" Atebodd yntau, " Oni chaf wybod fod cyfnewidiad cyflwr wedi cymeryd lle, nid wyf yn meddwl dyfod byth." "Gwir ddywedaist," ebc Marc, " os arosi hyd hyny ni ddeui byth." Dilynodd y gair hwnw ei feddwl, a bu yn werthfawr iddo. Yn mhen amser ymunodd a'r eglwys yn Glandwr dan ofal Mr J. Griffiths. Yr oedd Mr Griffiths y pryd hwnw yn byw yn Nantsaeson, ac yn arfer cadw cyfarfodydd esbonio yn ei dy. Byddai cryn lawer o ddadleu yn y cyfarfodydd hyn. Yr oedd William Evan yn uchel-Galfiniad, a W. Griffiths, mab y gweinidog, yn Galfiniad cymhedrol, a David Phillip yn Arminiad. Dywedir fod David Phillip yn arfer dyweyd, " Y fi neu William Evan sydd yn iawn, nis gall William Grifflths fod yn iawn." Y David Phillip yma oedd un o brif gychwynwyr yr achos Sosinaidd yn Rhydyparc. Anogwyd William Evan i ddechreu pregethu, a bu am flynyddoedd yn cynorthwyo yr hen weinidog yn Nglandwr, Rhydyceisiaid, a Phenygroes, ac yn y flwyddyn 1798, neillduwyd ef i fod yn gydweinidog ag ef. Yr oedd o hyd yn parhau i ddilyn ei alwedigaeth, ac ar ol marwolaeth Evan Sion cafodd y gelfyddyd a'r meddianau i'w law ei hun. Priododd ag Elizabeth, merch David Zacharias, o Nantygelli, yn mhlwyf Eglwysfair. Nid ydym am ail gyfeirio at y rhan amlwg a gymerodd William Evan yn y dadleuon duwinyddol, a achlysurodd yma raniad eglwys Glandwr, a sefydliad yr achos yn Hebron, gan ein bod eisioes wedi cyfeirio yn helaeth at hyny. Er nad oedd W. Evan wedi cael manteision addysg, nid dyn anwybodus ydoedd, ond yr oedd wedi darllen a meddwl llawer, ac yr oedd yn hynod o benderfynol dros y golygiadau oedd ganddo. Yr oedd yn ddyn o ewyllys gref, ac o farn anhyblyg, ond bu yn nodedig o lafurus yn ei weinidogaeth. Yn ol y gofrestr o fedyddiadau a gedwid ganddo ef ei hun, bedyddiodd 556 o'i urddiad yn 1798 hyd ei farwolaeth yn 1818, a gweinyddwyd y bedydd olaf ganddo o fewn mis i'w farwolaeth. Derbyniodd hefyd i'r eglwys dan ei ofal lawer o aelodau newyddion, er nad oedd y cyffroadau dadleuol oedd yn ei dymor mewn un modd yn ffafriol i ddychweliad dynion at grefydd. Bu farw Hydref 19eg, 1818, yn 69 oed, ac y mae ei goffadwriaeth yn barchus etto yn y wlad lle y llafuriodd.

JOHN EVANS. Ganwyd ef Ebrill 14eg, 1788, yn agos i Nanthir, yn mhlwyf Llanfyrnach, yn sir Benfro. Bu ei fam farw pan nad oedd ef ond saith oed, ond oherwydd i'w dad ail-briodi ac i'w amgylchiadau bydol fyned yn isel, gorfu iddo ef a'i frawd Thomas, ei unig frawd o'i fam, droi allan i wasanaethu. Goddefodd y ddau yn yr adeg yma dlodi ac angen mawr, a buont yn grwydriaid digartref heb dy i aros ynddo. Adroddir fod Mr. Evans yn mhen blynyddoedd wedi myned i'r weinidogaeth, yn teithio gyda gweinidog arall yn nghymydogaeth Trefgarn. Wedi dyfod at fan neillduol, disgynodd Mr. Evans oddiar ei anifail, a cheisiai gan ei gyfaill ei arwain tra yr elai ef i gae cyfagos. Aeth ei gyfaill yn mlaen ychydig, ond wedi edrych yn ol gwelai Mr. Evans ar ei liniau yn gweddio yn y cae. Wedi ail esgyn ar gefn yr anifail, gofynai ei gyfaill y rheswm am hyn, pryd y dywedodd ei fod wedi treulio noson unwaith yn y cae "hwnw pan yn grwydryu amddifad digartref, ac oblegid hyny na gallasai byth fyned heibio y lle heb gymeryd o " phiol yr iachawdwriaeth a galw ar enw yr Arglwydd."

76  

Yr oedd rhyw argraffiadau crefyddol ar ei feddwl er yn ieuangc, ac ni adawodd yr Arglwydd iddo i ymollwng yn mhell i rysedd ac annuwioldeb ei oes, er iddo ffurfio cyfeillach ormodol a chyfoedion ysgafn a digrefydd. Cafodd gystudd trwm pan oedd tuag un-ar-bymtheg oed, yr hyn a'i harafodd i raddau yn ei ffyrdd drygionus, ond yr oedd yn un-ar-hugain oed cyn plygu i arddel Crist. Derbyniwyd ef yn aelod yn Mhenygroes, yn Mehefin, 1809. Yr oedd ar y pryd yn ngwasanaeth Mr John Evans, Pantyrhelygen, yr hwn oedd Ariad o ran ei olygiadau duwinyddol, ac aflonyddwyd meddwl Mr Evans gan y dadleuon yn nghylch Calfiniaeth ac Arminiaeth, ond daeth yn fuan i olygiadau clir a sefydlog ar yr athrawiaeth. Cyn hir wedi ei dderbyn yn aelod aeth i wasanaeth Mr Simon Evans, Dyffrynmawr, yr hwn a fu iddo yn noddwr caredig, a ffurfiwyd rhyngddynt gyfeillgarwch pur, nid fel gwas mwyach, ond fel brawd anwyl. Wedi bod yspaid blwyddyn a haner yn aelod, anogwyd ef i ddechreu pregethu, ac yn nechreu y flwyddyn 1813 aeth i Gaerfyrddin i dderbyn addysg dan ofal Mr Peters, lle y bu flwyddyn a haner yn parotoi i'r athrofa, ac yn nechreu Medi, 1814, dechreuodd ar ei efrydiau fel myfyriwr rheolaidd yn yr athrofa. Wedi treulio pedair blynedd yn yr athrofa, a gwneyd llawn cymaint o gynydd mewn dysgeidiaeth ag a allesid ddysgwyl i un o'i oedran a'i fanteision blaenorol ef wneyd, derbyniodd alwadau oddiwrth eglwysi Pencadair, Narberth, a Phenygroes ; ond gogwyddwyd ei feddwl i dderbyn gwahoddiad ei fam eglwys. Urddwyd ef yno, fel y gwelsom, Gorphenaf 23ain, 1818, a chyn pen tri mis daeth gofal Hebron arno hefyd. Llettyai yn y Dyffrynmawr, lle y buasai gynt yn gwasanaethu, ac am dymor byr bu yn cadw ysgol ddyddiol yn Mhenygroes. Ar y 19eg o Hydref, 1819, ymunodd mewnpriodas Miss Martha Morgan,Cilgynydd, a chafodd ynddi un o'r gwragedd goreu a ddisgynodd i ran gwr erioed. Pa ragoriaethau bynag oedd yn Mr. Evans yn bersonol, mae yn sicr genym iddo gael help mawr i'w dadblygiad gan y wraig weddol a roddodd yr Arglwydd iddo. Bu iddynt chwech o plant, pedwar mab a dwy ferch. Mae dau o'i feibion yn weinidogion parchus a chymeradwy yn yr enwad, sef Meistri S. Evans, Hebron, a J. M. Evans, Caerdydd ; ac y mae un o'i ferched yn wraig i Mr Joseph Morris, gweinidog Brunswick Chapel, Bristol. Yn y flwyddyn 1830 symudodd i Gaeraeron, yn agos i Hebron, ac yno y trigodd hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd. Mr Evans yn gymeriad mor nodedig, yn mhob ystyr, fel y teimlwn mae gorchwyl anhawdd ydyw gwneuthur cyfiawnder ag ef. Gan fod cofiant rhagorol iddo wedi ei gyhoeddi gan ei fab Mr. S. Evans, yn yr hwn hefyd y ceir pregethau angladdol iddo gan ei gyfeillion Mr J. Lewis, Henllan, a Mr J. Griffiths, Tyddewi, y rhai oeddynt yn hollol gydnabyddus ag ef, nis gallwn wneyd dim yn well na thynu allan ychydig ddifyniadau o'r cofiant, a dichon cyn y diwedd y bydd genym ryw bethau i'w hychwanegu oddiar ein hadnabyddiaeth bersonol o hono.

" Cymhellasid ef i'r weinidogaeth gan awydd i ogoneddu Duw a chariad at eneidiau dynion. Ymaflodd yn ei orchwyl gyda chydwybodolrwydd gwyliadwrus ac egni hunanymwadol. Sylwai yn fanwl ar droion rhagluniaeth, ac ymdrechai wneyd y defnydd goreu o bob amgylchiad. Bu yn llafurus iawn ysgolion Sabbothol. Cyfansoddodd Gatecismau ar Y Sabboth," Gweddi," ac "ar Berson a gwaith yr Ysbryd Glan." Rhagorai ar y rhan amlaf o'i frodyr mewn ymdrechion yn mhlaid yr achos cenhadol, a bu yn offeryn i ddwyn yr eglwysi dan ei ofal i gyfranu yn ffyddlon at

 77

yr achos hwn. Ymdrechodd ddwyn teuluoedd i gynal addoliad yn rheolaidd yn eu tai hwyr a bore, a bu yn gryn llwyddianus yn ei ymdrech. Daeth yn arferiad lled gyffredin i gynal addoliad teuluaidd yn amser y cynhauaf. Cymhellai benau teuluoedd i'w gadw i fyny yn yr amser hwnw, trwy ddarlunio esgeulusdod fel amlygiad o anniolchgarwch i Dduw, pan yn dderbynwyr neillduol oddiwrtho. Amcanodd gael yr holl aelodau yn ffyddlon i ddyfod i'r cyfarfodydd eglwysig. Dywedai y gellid dyfod yn rhwydd, trwy drefnu yn mlaen llaw ar gyfer y cyfarfod, fel ar gyfer y farchnad, &c. ; a'i ddywediad mynych oedd, fod cyfleusdra i fyned pan betrusid pa un a ddylid myned neu beidio. Trwy roddi llin ar lin, gwelodd ar y cyfan radd helaeth o ffyddlondeb yn mhobl ei ofal i gadw y cydgynnulliad eu hunain. Sylwai ar amgylchiadau profedigaethus fyddent yn debyg o gyfarfod a'i aelodau, megis ffeiriau, &c., a rhybuddiau yn ddifrifol a gonest y Sabboth cyn hyny. Nid oedd yn caru cymeriad y cwn mudion na fedrant gyfarth ; ond dysgai ar gyhoedd ac o dy i dy, gan ymdrechu bod yn lan oddiwrth waed pawb. Ymddiddanai lawer a phlant, a darfu i anwybodaeth plant, a'u gwaith yn dyweyd na chlywsent eu mamau yn gweddio na'u tadau ond anaml, ei orfodi i ffurfio barn is am ansawdd grefyddol amryw deuluoedd, lle yr oedd y rhieni yn aelodau eglwysig, nag a fedrai o'r blaen. Ymwelai yn fynych a'r cleifion corphorol ac ysbrydol. Ymddiddanai yn bersonol o gylch rhyw ddrwg chwedlau a glywsai, a chynghorai bobl ei ofal yn addfwyn a thyner, fel tad ei blant anwyl ganddo.

"Ni ymwelai a theulu heb adael arogl crefyddol ar ei ol. Nid oedd ei gyfrinach yn atal nac yn dileu argraffiadau y weinidogaeth. Yr un oedd ei ysbryd yn ei gyfrinachau personol. Anaml, os byth, yr ymwelai a'r digrefydd neu'r gwrthgiliwr, heb roddi iddynt gynghor pwysig a sobr. Yn hyn yr oedd yn gyffelyb i'r duwiol Mr Roberts, Llanbrynmair. Ei gynghorion personol ydynt heddyw yn cael eu trysori yn nghalonau canoedd.

"Yr oedd yn llawn cydymdeimlad a'r cystuddiol, y gofidus, a'r profedig; a mawr oedd ei fedrusrwydd i gymhwyso'r feddyginiaeth at y galon archolledig. Cydwybodol iawn oedd yn ei ymweliadau a'r cleifion. Cydweithiai yn ffyddlon a rhagluniaeth yn ngweinidogaeth cystudd. Gan ei fod mor adnabyddus a'r profedigaethau mwyaf parod i ymgynyg i'w aelodau, dangosai ddoethineb mawr yn y cynghorion a'r gocheliadau a roddai iddynt. Talai sylw neillduol i'r aelodau ieuaingc. Defnyddiai bob moddion tuag at wrteithio eu meddyliau a'u moesau. Ei eglwys ei hun oedd ei gartref. Er ei fod yn aml oddicartref, gartref oedd fynychaf. Teimlai yn annedwydd pe buasai yn hir oddiwrth ei bobl. Nid oedd fel rhai gweinidogion musgrell yn teimlo ei hun fwyaf gartref, pan oddicartref. Derbyniodd lawer o gysur a llawer o ofid oddiwrth y weinidogaeth. Nid oedd ei weinidogaeth yn ddilwyddiant, ond nid mor llwyddianus ac y gallesid disgwyl. Yr oedd yn dda o'r dechrau, ond gwellhaodd hyd y diwedd, yn ei brofiad fel cristion, a'i ysbryd fel pregethwr. Y dydd diweddaf o'i fywyd oedd y dydd goreu a welais erioed ar ei enaid. Teimlai awydd dirfawr i draddodi'r charge i eglwys Narberth ; ond bwriadai Duw lefaru ei hun, ac mewn modd sobr ac annisgwyliadwy gwnaeth bregeth o'r pregethwr.

" Cydymdeimlai a holl fudiadau diwygiadol yr oes. Yr oedd yn Ymneillduwr egwyddorol a chyson - yn wrthwynebol i ymyriad y llywodraeth

78

a chrefydd mewn un dull. Pleidiai y mudiad addysgawl. Yn 1847, adeiladwyd ysgoldy prydferth yn ymyl Nebo, er cadw ysgol ddyddiol ynddo, ar yr egwyddor wirfoddol yn hollol. Yr oedd yn ohebydd achlysurol i'r misolion. Nid oedd ynddo awydd i ymddangos o flaen y cyhoedd. Rhagorai yn ei lafur cartrefol, er nad oedd yn esgeuluso cylchoedd mwy cyhoeddus. O ddechreu ei weinidogaeth teimlai sel danbaid yn erbyn pechodau brigog yr oes. Yn y flwyddyn 1824, pan fu y gymanfa yn Mhenygroes, cyfansoddodd lythyr ar y pechod o odineb. Tua'r flwyddyn 1837, dechreuodd y son am ddirwest gyrhaedd sir Benfro. Darllenodd yr ysgrifau a ymddangosent yn y Dysgedydd ar y pwngc. Ar ol meddwl ar y mater yn ddwys a defosiynol, ymunodd a'r Gymdeithas Ddirwestol yn mis Ebrill, 1838. Methodd ddylanwadu i ennill cydwithrediad cryno o blaid y mudiad hwn. Teimlai yn fynych yn ofidus a blin oherwydd hyny. Bu yn 1844 ar fin rhoddi ei weinidogaeth i fyny. Y pechod o anniweirdeb hefyd a barhaodd i boeni ei enaid cyfiawn. Yn nechreu y flwyddyn 1849, penderfynodd i beidio presenoli ei hun yn mhriodasau y rhai a wyddai oeddynt yn priodi yn anniwair. Oherwydd y pethau hyn, teimlai ei fod wedi llafurio yn ofer, a threulio ei nerth am ddim.

"Yr oedd ei gydymdeimlad a sefyllfa foesol ac ysbrydol y byd yn ddwfn a bywiog iawn. O'r ffynon hon y tarddai y rhan fwyaf o'i ofidiau a'i gysuron. Credwyf fod achos Duw yn nes at ei galon na'i achosion tymhorol ei hun. Pechod o bob math a gynhyrfai ei iddigedd-pechadur, ei dosturi. Ni ddiflanai ei eiddigedd a'i dosturi mewn dymuniadau da, ocheneidiau, a dagrau. Ymroddai yn egniol tuag at symud ymaith achos trueni'r byd. Ei ymdrechiadau cartrefol a chyhoeddus oeddynt amlygiadau digonol deimladau dwys. Edrychai ar feddwdod yn ei ganlyniadau tymhorol a thragwyddol. Ei galon a waedai wrth yr olygfa. Gwelai briodoldeb llwyr ymwrthodiad fel meddyginiaeth meddwdod. Nis goddefai ei gydwybod iddo ei gwrthod. Bwriodd y draul. Rhagwelai y gwawd, y dirmyg, a'r gwrthwynebiadau fuasai yn canlyn ei ymlyniad a'r gymdithas ddirwestol. Nid ymgynghorodd a chig a gwaed. Cymerodd yr ardystiad. Dyoddefodd y canlyniadau yn dawel. Ac ni chafodd dirwest bleidiwr mwy gwresog, ffyddlon, a chyson, trwy'r holl dywysogaeth. Nid llai egniol oedd ei ymdrechion yn erbyn anniweirdeb. Ac nid oes eisiau ond cyfeirio at ei lafur dros y Cymdeithasau Cenhadol, i brofi eangder ei gydymdeimlad a sefyllfa ysbrydol ei gyd-ddynion.

" Yr oedd ei feddwl o gyfansoddiad cadarn a gweithgar. Ei sylw oedd graffus, a'i ddeall oedd eglur a threiddgar. Un tra sefydlog yn ei benderfyniadau oedd. Wedi iddo ffurfio ei farn, nid gorchwyl hawdd oedd i'w nhewid. "Nid corsen yn cael i hysgwyd gan wynt" ydoedd, ond derwen ddwfnwreiddiog a feiddiai ruthriadau'r corwynt. Er ei fod yn gadarn a sefydlog yn ei fwriadau, ac yn rhagori yn ei wroldeb moesol, yr oedd ofn yn elfen gref yn ei gyfansoddiad naturiol. Ei wroldeb oedd effaith cyffroad a chydwybod, yn fwy na chynyrch greddf. Yn ei gysylltiad a materion cydwybod, egwyddorion moesol, a'r pethau a berthynant i iachawdwriaeth enaid, nid oedd dylanwad yr ofn naturiol yn ganfyddadwy. I'r gwrthwyneb, yr oedd ei wroldeb bob amser yn cyfateb i'r achlysur. Ond gwelid ei effeithiau yn eglur ar lawer o'i arferion a'i ymddygiadau. Oddiar y teimlad hwn, i raddau, y cyfodai ei ochelgarwch ymarferol, ei anmharodrwydd i roddi ei farn yn noeth ac eglur ar bethau cyffredin a dibwys, ei dawedogrwydd yn mhlith dyeithriaid, ei wyleidddra gormodol yn y

79

cynadleddau cyhoeddus, (ond ar y cyfryw amgylchiadau ag y buasai yr egwyddorion a'r pethau y teimlai yn ddwys drostynt yn destynau o ymddiddan), yn nghyd a'i duedd i gilio oddiwrth, yn hytrach nac ymwthio sefydliadau cyhoeddus.

" Yr oedd ei feddwl yn hynod weithgar i drefnu cynlluniau, ac yn frwdfrydig, doeth, a diflino yn eu dygiad i weithrediad. Er ei fod yn wrol a phenderfynol, yr oedd yn hawddgar a serchog.

" Yr oedd yn hynod o gymhwys o ran ei gymeriad moesol. Nid yn yr adeiladaeth a'r arferiadau allanol yn unig yr oedd ardderchogrwydd ei feddwl yn gynwysedig, ond llenwid ei ystafelloedd a'r dodrefn a'r addurniadau gwerthfawrocaf. Yr oedd ynddo y rhinweddau hyny ag sydd yn ennill serch y werin. Yr oedd yn hael ac hawddgar. Cyfranai yn helaeth yn ol ei amgylchiadau at achosion crefyddol a dyngarol. Er nad yw y rhinweddau hyn yn uchaf o ran eu gwerth moesol, etto, y maent yn hanfodol angenrheidiol i ddylanwad a llwyddiant gweinidog yr efengyl. Llwyddodd i gadw'r ffin yn rhagorol rhwng cynhildeb a chybydd-dod.

" Meddianai hefyd y rhinweddau hyny ag sydd yn ennill parch a chymeradwyaeth y cyffredin. Yr oedd ei gyfiawnder, ei onestrwydd, ei eirwiredd, a'i sobrwydd, yn ddifrycheulyd.

" Ond yr oedd ynddo ragoriaethau, y rhai, nas gallasai neb ond y doeth a'r ysbrydol eu cymeradwyo a'u gwerthfawrogi. Y rhinweddau hyny a gyfansoddent ei brif ragoriaeth. Ei sel danllyd dros sancteiddrwydd, ei eiddigedd tanbaid yn erbyn pechod, ei ymdrechiadau hunanymwadol i ddiwygio y byd oddiwrth ei bechodau ; y rhinweddau hyn nid oeddynt gymeradwy gan y rhagrithiol, y claiar, a'r "esmwyth arnynt yn Seion." Aflonyddent eu cydwybodau, dolurient eu teimladau, a chynhyrfent en tymherau. Priodolent ei sel i sarugrwydd, ei wroldeb cydwybodol i ystyfnigrwydd, ei hunanymwadiad i hunanoldeb, i gasineb at bechod i gasineb at bechadur. Pe buasai yn is yn ngolwg Duw, buasai yn uwch yn ngolwg y dosbarth gwaelaf o broffeswyr crefydd. Ni ddarfu iddo gael ei adnabod, yn neillduol, yn ystod ddiweddaf ei oes, gan y lluaws yn ei eglwysi a'i ardal ei hun. Gan fod mwg y teimladau llygredig hyny, ar brydiau, yn ymgymysgu a'r fflamau sanctaidd a esgynent o'i galon, edrychent ar yr hyn oedd dywyll a dynol ynddo, am na fedrent weled yr hyn oedd oleu a dwyfol. Ond y rhai ysbrydol a'i canfyddent, ag a lawenychent yn ei oleuni.

"Yr oedd ei gymhwysderau fel pregethwr hefyd yn eglur i bawb. Nid oedd ei bregethau yn cael eu haddurno a llawer o flodau dychymyg, nid oedd ynddynt ychwaith lawer o ymresymiadau cywrain. Nid ymofynai am ddrychfeddyliau dyfnion, na'r rhai a fyddent darawiadol oherwydd eu newydd-deb a'u dyeithrwch. Nid oedd wedi ei drefnu i fod yn areithiwr coeth, yn dduwinydd dwfn a dysgedig, yn ymresymwr cywrain, nac yn feirniad manwl. Ond cafodd ei gymhwyso i fod yn bregethwr da, sylweddol, poblogaidd, a defnyddiol. O ran defnyddiau yr oedd ei bregethau bob amser yn sylweddol, wedi eu myfyrio yn ddwys, a'u rhanu yn eglur a threfnus. Dangosai ddoethineb mawr yn ei ddetholiad o bethau cymhwys i archwaeth, sefyllfa, a chymeriad ei wrandawyr. lawn gyfranai air y bywyd. Ei olygiadau ar byngciau sylfaenol crefydd oeddynt Galfiniaeth gymhedrol. Gosodai bwys priodol arnynt, ond ni wnai eulunod o honynt. Cyffyrddai yn aml a'r cyfryw byngciau yn yr areithfa. Ond nis gellir briodol ei alw yn bregethwr athrawiaethol, ymarferol, nac efengylaidd.

80

Cydblethai athrawiaethau, dyledswyddau, a phrofiad, fynychaf, yn yr un bregeth, a rhedai ysbryd efengylaidd trwy'r cwbl. Anerchai y deall, y gydwybod, a'r galon ; ond y gydwybod yn benaf.

" Yn ei sylwadau ymarferol rhagorai ar nemawr o'i frodyr. Cyfodai hyn oddiar sylw manwl ar gymeriadau ac amgylchiadau dynion, yn nghyd a'i adnabyddiaeth ddwfn a helaeth o'r natur ddynol. Darllenai waith yr awduron goreu ar dduwinyddiaeth. Ond ei Fibl, mynwesau ac amgylchiadau dynion, oedd y prif gyfrolau a fyfyriai. Gan fod ei bregethau yn cael eu cymeryd o galonau ac amgylchiadau ei wrandawyr, nid rhyfedd eu bod yn myned yn ddwfn i'w calonau.

" Am ysbryd ei weinidogaeth nid oes angen ychwanegu at yr hyn a ddywedwyd. Nid oedd un gweinidog yn y dywysogaeth yn fwy ffyddlon a didderbynwyneb. Fel y dywedir am Baxter, mai pregethu i Cromwell, ac nid o flaen Cromwell ydoedd ; felly yntau, pregethai i'r bobl, ac nid o flaen y bobl. Nid tynu darlun cyffredinol o bechadur a wnai, a'i ddal ger bron ei wrandawyr, i ennill eu sylw a'u rhyfeddod, ond darluniai wahanol gyflyrau a chymeriadau, mor fanol ac mor gywir, fel yr oedd braidd pob un yn gorfod cyfaddef, "Myfi yw y gwr." Ond llawer gwrandawr a ddigiai wrth y darluniedydd yn fwy nac wrth y darlun.

" Cafodd ei fendithio a chymhwysderau allanol tra rhagorol. Ei olwg sobr a difrifol, ei lais cryf a pheraidd, a'i barabl rwydd ac araf, a adawent argraffiadau dymunol ar feddyliau'r gwrandawr. Llifai ei eiriau fel ffrydiau olew dros ei wefusau. Ymwisgai ei ddrychfeddyliau a'r geiriau mwyaf cymhwys heb un drafferth. Gellir meddwl fod y gair a'r drychfeddwl yn tarddu ar y foment o'i galon. Er ei fod yn gyflawn eiriawg, nid oedd yn aml eiriawg. Un gair at un drychfeddwl, a'r gair hwnw yn eithaf cymhwys. Ei archwaeth oedd bur a boneddigaidd, fel ei gymeriad. Nid wyf yn cofio i mi glywed gair na brawddeg isel yn dyfod oddiwrtho o'r areithfa erioed. Ei ystumiau hefyd oeddynt syml a phrydferth. Ymgadwai rhag unrhyw agwedd ac arferion chwithig ac anfoneddigaidd. Yr oedd pob peth yn ei ymddangosiad allanol yn tueddu i lenwi y meddwl a sobrwydd. Pan gawsai ei gynhyrfu yn iawn, llefarai gyda nerth mawr, ac ymddyrchafai i hyawdledd awdurdodol. Ei lais cryf peraidd - ei ddrychfeddyliau tanllyd  - llewyrch fflamllyd ei lygaid - y sobrwydd ofnadwy -a'r awdurdod oedd yn ei wynebpryd - a'n hadgofiai yn fywiog o'r daran, y fellten, a'r dymhestl."

Nid oes achos ychwanegu at y difyniadau uchod o bregeth Mr Lewis, Henllan, er cael golwg glir ar ei nodwedd a'i gymeriad; er hyny, nis gallwn ymatal heb roddi y difyniad a ganlyn o bregeth Mr Griffiths, Tyddewi, ar ei nodweddiad fel pregethwr, a'i ffyddlondeb fel gweinidog

"Nid rhyw fath o bregethau oedd ei eiddo ef; nid offrymu offrwm rhad oedd efe. Yr oedd ei bregethau yn costio iddo lawer o ddarllen, myfyrio, a gweddio. Ni chlywais bregeth erioed ganddo, er i mi ei wrandaw lawer o ugeiniau o weithiau, heb fod ol llafur meddwl arni. Ymdrechai yn ofalus i iawn ddeall ei destyn; ystyriai pa fodd y gallai ei wneyd yn eglur i eraill ; ac yna pa fodd y gallai ei gymhwyso er defnydd a lleshad ei wrandawyr. Nid oedd un amser yn pregethu yn dywyll - yn trafod pethau uwchlaw cyrhaedd y bobl, neu yn eu trio mewn modd aneglur, fel na byddai haner y gwrandawyr yn gallu gwybod pa un ai gwir neu anwir a ddywedai. Nid oedd o'r to arall yn haner chwareu a'i wrandawyr wrth bregethu - yn gogleisio eu teimladau, a'u difyru a rhyw ddychmygion, neu

81

bethau diwerth. I'r gwrthwyneb i hyn, yr oedd ei bregethau ef yn llawn o'r materion mwyaf pwysig ; a'r rhai hyny yn cael eu trin yn oleu ; a byddai yn y modd difrifolaf yn cymhell y cwbl i sylw y gwrandawyr, i gael eu defnyddio ganddynt. Yr oedd yn pregethu fel un am i'w bregethu ateb gwir ddyben pregethu - fel gwas ffyddlon am wneyd ei waith yn ddidwyll. Yr un modd, mae'n debyg, yr oedd gyda rhanau eraill o'i waith. Pan yn gweinyddu dysgyblaeth eglwysig, yn cynghori, neu geryddu ; onid oedd yn ffyddlon a gonest yn dangos y bai ac yn cymhell diwygiad oddiwrtho, fel un ag a fyddai yn awyddu am fod y ddysgyblaeth yn effeithiol er ateb ei gwir ddyben ? Yn ol pob peth a glywais, yr oedd yn hyn yn teilyngu y cymeriad gweinidog ffyddlon."

Mae ein difyniadau eisioes wedi bod yn helaeth, ond temtir ni i ychwanegu gan ein hawydd i adael ar gof a chadw ddarluniad mor gyllawn ag a allwn o un o'r dynion goreu a fu erioed yn ein henwad, a'r hwn na chafodd ond nifer fechan mewn cydmariaeth o'i gydoeswyr gyfle i'w adnabod. Ysgrifenasom er's tro yn ol  hadgofion am dano yn nglyn a'n hymweliad Hebron, gyda chyfaill, ar foreu Sabboth, yn niwedd y flwyddyn 1846. Cyhoeddwyd yr adgofion yn y Tyst a'r Dydd am Ionawr, 6ed, 1871, a than fod ei feibion yn ein sicrhau fod yr ysgrif hono yn adgyfodi eu tad o'u blaen yn llawn mor rymus a dim a ysgrifenwyd am dano, rhoddwn ef yma yn llawn. Gwelir fod yr arddull wedi ei chyfaddasu i golofnau newyddiadur, ond ni thybiwn yn briodol i gyfnewid dim arno.

" Yr oeddym ar foreu Sabboth yn Hebron, ac yr oedd yn foreu cymundeb, ac felly yr oedd Parch. John Evans gartref. Nid oes genyf amser yma i roddi i'r darllenydd ddesgrifiad o Mr Evans. 'Israeliad yn wir' ydoedd  - boneddwr cristionogol yn llawn ystyr yr ymadrodd. Dywedodd Mr Ebenezer Morris wrth Mr William Roberts, Amlwch, unwaith, pan oedd yr olaf ar daith trwy y Deheudir; "William Roberts," daswn i wedi marw heb glywed Robert Roberts o Glynnog, mi f'aswn wedi marw heb y syniad sydd gen' i am ogoniant gweinidogaeth yr efengyl.' Yr oedd hwnyna yn ddywediad cryf iawn gan un glywodd Rowlands, Llangeitho, a Dafydd Morris, (ei dad ei hun,) a'r to cyntaf o bregethwyr Methodistaidd ; ond yr oedd ar yr un pryd yn cyfleu y syniad fod rhyw odidowgrwydd annghydmarol yn noniau seraphaidd Robert Roberts, Clynnog. Yr wyf finau bron yn barod i ddyweyd na welais foneddwr cristionogol cyflawn, nes y gwelais Mr. Evans, Hebron, o leiaf, gallaf ddyweyd na chyfarfum a neb erioed ag yr oedd y boneddwr cristionogol, y pregethwr sylweddol ac efengylaidd, a'r cristion cydwybodol a duwiolfrydig, yn cyfarfod gyda mwy o gyfartaledd ynddo, nac ynddo ef ; ac ni bum erioed yn ei gyfeillach nad oeddwn yn teimlo yn well, ac yn syniad yn uwch am grefydd wrtb ei adael.

" Nis gallaf gofio y munyd yma o ba le yr oeddym yn d'od i Hebron, ond yr wyf yn cofio yn dda fod Mr. Evans yn ein derbyn yn garedig yn ymyl y capel, ac etto heb na rhodres na gweniaith. Yr oedd yno y boreu hwnw gynnulleidfa fawr o bobl hollol wledig yr olwg arnynt, a'r capel yn un o'r rhai symlaf a mwyaf diaddurn a welsom ar ein taith ; ond er hyny, yr oedd rhyw naws hyfryd yn yr holl wasanaeth. Pregethais i yn gyntaf oddiar y geiriau, Ac a roddes iddo enw, yr hwn sydd goruwch pob enw.' Pregeth eiriog, flodeuog, goeg-farddonol, - y fath ag a gyfansoddid gan ddosbarth o weinidogion ieuaingc yn y dyddiau hyny, ac a fawr gymeradwyid gan luaws o wrandawyr, y rhai a roddent uwch pris ar ymddangosiad

82  

nag ar sylwedd. Pregethodd fy nghyfaill ar 'Wrthgiliad.' Pregeth fanwl a rhagorol iawn, ond ei bod yn hallt ac ysgythrog, ac yn cael ei dyweyd gyda llymder a chyflymder mawr; ond ymddangosai y gynnulleidfa yn foddhaol iawn o'r dechreu diwedd. Eisteddai Mr. Evans dan y pulpud, a gwrandawai yn astud a hawddgar, fel, pa beth bynag a allasai ei farn bersonol ef am y pregethau fed, nad oedd dim yn ei wyneb na'i ymddangosiad a dueddai i daflu un dirmyg arnynt i feddwl neb arall. Aeth y pregethau a'r cymundeb heibio, ar yr hwn y llywyddai Mr. Evans ei hun ; ond gorfodai ni i ddyweyd y cwbl, fel na chlywsom ond ychydig ganddo ef ei hun.

" Ar ol yr oedfa, aethom i dy heb fod yn mhell i gael tamaid o giniaw. Yno yr oedd 'y mis,' ac yr oedd yn dygwydd bod yn gyfleus i ni. Nid wyf yn cofio enw ty, nac enw y teulu oedd yn byw ynddo ; ond yr oedd ar y llaw dde ar y ffordd i Nebo, ac y mae rhyw argraff ar fy meddwl fod yno bistyll neu afon fechan gerllaw iddo. Daeth Mr. Evans gyda ni yno, a rhoddwyd ni ein tri mewn ystafell yn y pen uchaf i gael bwyd, a'r wraig yn dyfod i fyny yn awr ac ilwaith er gweled a oedd arnom eisieu dim. Wedi eistedd wrth y bwrdd a dechreu bwyta, dywedodd Mr. Evans yn araf a phwysleisiol, Wel, frodyr bach, rwy'n ddiolchgar iawn i chi' am dd'od heibo, fydd yn dda gen' i yn wastad wel'd brodyr yn d'od. Diolch i ch'i am dd'od ar y Sabboth hefyd, - cafodd mwy o'r bobl y fraint o'ch clywed na phe buasech ch'i yma ar yr wythnos ; ac 'rych ch'i wedi arbed tipyn arna' inau hefyd. 'Rwyn gobeithio y gwnaiff each ymweliad ch'i les - ge's i bleser mawr wrth ich gwrando, ac 'ro'wn i yn meddwl ar y bobl eu bod hwythau yn mwynhau hefyd.' Yna ymbwyllai am funyd heb ddyweyd yr un gair, ac nid oedd yr un o honom ninau yn dyweyd dim, oblegid yr oeddym yn deall fod rhagor i dd'od, ac nad oedd y ganmoliaeth yn ddim ond rhagymadrodd i rywbeth oedd i ganlyn. Rhywbeth rhyfedd iawn yw y pregethu yma, onide ? ac ond i ni gael bod gydag e' o ddifri', 'da y llafur ddim yn ofer. Mae gan bob un ei ddull a'i ddawn, onid oes ? 'Doedd yr apostolion i gyd ddim yr un ddull, a oedda' nhw ? ond yr oedd eu heisieu i gyd. Geiriau rhyfedd mae Paul yn ddyweyd wrth y Corinthiaid, - " A myfi pan ddaethum atoch, frodyr, a ddaethum, nid yn ol godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegu i chwi dystiolaeth Duw." Mae'n debyg y gallasai Paul dd'od felly, on'd all'sai fe ? 'Roedd e' yn ddyn dysgedig ; ond fe beidiodd yn fwriadol, rhag ofn y mae yn debyg y buasai hyny yn cymylu rhwng y bobl a Christ. Dangos Crist oedd ganddo fe, onide ? ac nid dangos beth fedra' fe neyd.' Sathrai fy nghyfaill fy nhroed o dan y bwrdd, gan roddi ar ddeall i mi mai gwers i mi oedd honno ond ni buasai raid iddo sathru fy nhroed - yr oeddwn er's meityn wedi cymhwys y cwbl ataf fy hun. Ond ni chymerai Mr. Evans arno fod dim perthynas rhwng dim a ddywedai ag un o honom ni ; ond siaradai y cwbl yn esmwyth a thawel fel un yn siarad yn gyffredinol, ac heb unrhyw feiriad personol. Bu distawrwydd am funyd, ond gyda hyny ail ddechreuai. Peth mawr iawn, onide, yw bod yn ysbryd yr efengyl wrth ei phregethu ? 'Fyddai yn meddwl yn aml y bydd ysbryd y pregethwr yn cario mwy o ddylanwad ar y bobl na'i eiriau. 'Fum i yn gofidio lawer gwaith na allaswn i fod mewd gwell ysbryd wrth bregethu. Yn hyny, onide, yr oedd y Gwaredwr yn nodedig, fel yn mhob peth arall o ran hyny ? - " tywalltwyd gras ar ei wefusau." 'Fydda FE yn dyweyd yn llym iawn weithiau, ond yr oedd tynerwch ei ysbryd yn lliniaru llymder ei eiriau. Mae perygl

83

i bobl feddwl, on'd 'does, ein bod ni yn ddig wrthy' nhw, ac i'n pregethau fethu gwneyd y peth ddymunem ni, oblegid nad ydym yn yr ysbryd iawn? O ! y mae y gwaith yn fawr, a 'doedd dim rhyfedd i Paul ofyn, "A phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn."' Sethrwn inau droed fy nghyfaill erbyn hyn, oblegid yr oedd y cwpan wedi dyfod ato yntau hefyd, ac yr oedd yn teimlo hyny. Erbyn hyny yr oedd y ciniaw drosodd, ac yr oedd yn llawn bryd i ni gychwyn. Wel, meddai Mr. Evans, `rhaid i chwi fyn'd, 'fasa'n dda gen' i ddo'd gyda ch'i i Nebo, ond anaml y bydda' i'n cael cyfle i fod yn yr ysgol, a chan fod cyfle heddyw, yr wyf yn meddwl mai fy nyledswydd yw myn'd iddi. 'Ddaethwn i'ch gwrando i Landwr heno, ond 'rwy' wedi addaw pregethu tipyn i ryw wraig glaf ar ochr y mynydd yna ; ond os ca'i mhen yn rhydd, mi dd'of etto.' Ac erbyn hyny yr oedd yr anifeiliaid yn ein disgwyl ; ac wedi canu yn iach i Mr. Evans, a diolch iddo am ei sirioldeb, ac i deulu y ty am eu caredigrwydd, ymaith a ni tua Nebo, ac nid anghofiaf yn fuan ei olwg batriarchaidd ar y ffordd yn edrych arnom yn cychwyn.

" Cyn ein bod ddeg llath oddiwrth y ty, Wel dyna hen greadur ofnadwy,' meddai fy nghyfaill, a glywsoch chwi erioed y fath beth ? tori i'r asgwrn bob tro, a hyny heb gymeryd arno fod dim a fynae dim oedd e' yn ei 'weyd ni - a wonderful old gentleman, Sir.' Ac nid aeth ei eiriau o'n cof a llawer a siaradwyd am dano, ac am ei ymadroddion doeth, o hyny hyd ddiwedd ein taith. Yr wyf ganwaith wrth adgofio wedi meddwl fod yn anmhosibl fod beirniadaeth gywirach am bregethau y boreu hwnw nag eiddo Mr Evans, er heb gymeryd arno feirniadu o gwbl ; a dygwyddodd  bod ninau yn ddigon craff i ddeall am bwy yr oedd efe yn llefaru heb iddo ddyweyd hyny. Yr wyf yn sicr i'w eiriau wneyd lles dirfawr i mi, oblegid collais o'r dydd hwnw allan bob hoffder o eiriau chwyddedig, a gam enwir yn farddonol, a gwnaethym fy ngoreu i ymryddhau oddiwrthynt, gan wybod nad rhaid i wirioneddau yr efengyl wrth odidowgrwydd ymadrodd."

Buasai yn hawdd i ni ychwanegu llawer ar neillduolion cymeriad Mr Evans, oddiar ein hadnabyddiaeth bersonol ohono; ond y mae y difyniadau uchod yn cynwys elfeniad mor deg a chyflawn o'i nodwedd, fel y mae hyny yn hollol ddiangenrhaid. Ond er ei holl ragoriaethau, dirwynodd ei oes i ben yn gynt nag yr oedd neb yn disgwyl, a daliwyd ef gan angau ar fyr rybudd. Y Sabboth olaf yn Medi, 1849, pregethodd yn Hebron a Nebo gyda llewyrch ac arddeliad neillduol, oddiar Ezekiel xi. 19, 20 ; a bu y bregeth yn destyn ymddiddan mewn cyfarfodydd ar ol yr oedfeuon, a theimlai ei hunan, fel y dengys y nodiad olaf a ysgrifenodd yn ei ddyddlyfr, lawer o gysur oddiwrth wasanaeth y Sabboth hwnw. Y boreu Mercher canlynol, Hydref 3ydd, cychwynodd oddicartref i urddiad Mr Joseph Morris, yn weinidog yn Narberth, ac yr oedd i bregethu ar yr achlysur ar ddyledswydd yr eglwys. Parotodd bregeth at yr amgylchiad, ac yr oedd yn dra awyddus am ei thraddodi yr hyn oedd yn wahanol i'w deimlad cyffredin wrth  i gyfarfodydd cyhoeddus. Yr oedd ganddo ddeuddeng milldir o ffordd o'i dy i Narberth, ac wedi cyrhaedd y gwesty lle yr arferai ddisgyn, tua haner awr wedi naw, cwynai oherwydd y boen a deimlai yn ei ddwyfron. Galwyd yn ddioed am gymhorth meddyg, ac arweiniwyd ef i'r gwely ; ac am ychydig ymddangosai y boen yn lliniaru ac yntau yn adfywio, ond yn fuan dychwelodd y poenau yn fwy angerddol, a chyn un-ar-ddeg o'r gloch, yr oedd ei ysbryd wedi ehedeg ' at Dduw yr hwn a'i

84     

rhoes ef." Yr oedd ei fab, Mr Simon Evans, ar y pryd, yn pregethu ar natur eglwys, ar newydd cyntaf a glywodd ar ol disgyn o'r pwlpud oedd, fod ei dad yn glaf iawn, a chyn cyrhaedd hyd ato, cafodd y newydd mwy galarus ei fod wedi marw. Ymledodd y newydd pruddaidd trwy y dref a'r wlad, a chyfarfod i'w gofio gan lawer fydd cyfarfod difrifol urddiad Mr Morris a marwolaeth Mr Evans. Cymerwyd ei gorph y dydd Gwener canlynol i Gaeraeron ; a'r dydd Sadwrn, Hydref 6ed, 1849, claddwyd ef yn mynwent Hebron, yn yr un bedd a'i anwyl wraig, ac ar yr achlysur pregethwyd gan ei hen gyfeillion, Mr Griffiths, Tyddewi, a Mr Davies, Aberteifi. Ymadawodd y dorf alarus oddiwrth y bedd a phawb yn teimlo yn sicr eu bod wedi gweled claddu un o'r gweinidogion goreu a aeth i'r ddaear erioed ; a phob cydwybod yn tystio fod John Evans " yn lan oddiwrth waed pawb oll."

O.Y. Yn mysg y pregethwyr a godasant yn Hebron, darllener John Lloyd James, ac nid Jones. Yma hefyd y dechreuodd James Morris bregethu, yr hwn a addysgwyd yn athrofa Aberhonddu, ac a urddwyd yn Ynysgau, Merthyr ; ond yr hwn sydd er's blynyddau bellach, wedi encilio i'r Eglwys Sefydledig. Mae Thomas Thomas, Bwlchsais, wedi ei godi gan yr eglwys i bregethu, ac y mae yn awr yn yr ysgol yn parotoi at y weinidogaeth.

Dichon y dylasem grybwyll hefyd, mai mab i Mr John Evans, Hebron, ydyw Mr David Evans, yr hwn a wnaeth y cynyg cyntaf yn Nghymru sefydlu newyddiadur Saesonig i wasanaethu Ymneillduaeth. Cychwynwyd y Principality yn Hwlffordd. Symudwyd ef oddiyno i Gaerdydd, ond o ddiffyg cefnogaeth, ni bu yr anturiaeth yn llwyddianus mewn ystyr arianol; ond gwnaeth y papur yn ei dymhor wasanaeth pwysig.

Yn hanes Hebron, tudalen 73, ceir Llwynwryf yn lle Llwynymynydd, am y lle y cafwyd tir i adeiladu capel ; ac yn nechreu hanes Mr Evans, Hebron, tudalen 75, ceir Nanthir yn lle Nantygeifr, am y lle y ganwyd ef.

 

Translation by Maureen Saycell (Jan 2009)

We have already mentioned in the history of Glandwr, that this cause was started in the arguments that took place when Mr William Griffiths was chosen to be a minister alongside his father and William Evan. Whatever caused the objection privately it was based on  Mr W Griffiths  unhealthy opinions on certain matters that concerned them. For the benefit of readers we offer quotations, on the subjects that caused the arguments, from both Mr Evan and Mr Griffiths.

These are part of the confession of faith read by Mr Evan at his ordination :-

"i - I believe there is one God, who is three separate entities, of equal importance, but as one in divine essence.

ii - I believe that God has preordained everything, good and bad, in its time, of his will - for his own glory. His intentions as follows :- 1, he ordained all creation. Mankind created to stand or fall from their initial perfection --- *

iii - I believe that all mankind stands guilty since the original sin on a covenant made with the first man ---*"

---* There is a complex theology expounded here in a verbose fashion.

To give some inkling of Mr Griffiths' ideas, the following is a quotation from an address he gave to the church at Glandwr, which is now in the possession of Mr Evans, Hebron.

"I have no doubt that I will be able to explain my thoughts in sermons. It could be said that I have done this when I tried to explain the need to understand the scriptures before believing them---** "

---** the quote continues in this vein, going through single items justifying his views.

These arguments have caused considerable unease in the area, the two sides taking their views to extremes so that agreement was impossible within the church. The two factions worshipped at different times at Glandwr, eventually William Evan's faction were locked out and for a time they worshipped at Drefach , Eglwysfair. Land was aquired to build at Llwynwryf, on a lease of 99 years. Those named on the lease were  William Evan, minister; Walter Hughes, Ffynoniago ; Amaziah Owen, Ynysfach ; John Davies, Pencoed, and Josiah Hughes, Llwyncelyn. The chapel was built in 1804. We do not know how many left Glandwr, but it can be seen that they were a strong branch because at the death of William Evan in 1818, they numbered 148. After the death of William Evan, Mr John Evans , in association with Penygroes, took on the ministry with great success until his death in 1849. He was succeeded by his son Mr Simon Evans who continues here very acceptably.

In 1824 the chapel was extended to its current state, and it is one of the best examples of what chapels were like in the old days. With the patience and wisdom of Mr John Evans, and his friendship with Mr W Griffiths, the unpleasantness between the two churches was gradually resolved with a proviso that neither would accept the others members unless they had letters of recommendation. Nonetheless the old people held onto their individual views. Mr S Evans said that he remembered Sion, Bwlchysais, as he was called, one of the elders from Glandwr, before the separation, that the chosen were under a covenant of grace and those not chosen under covenant of deeds. He also said of another of the elders of Hebron, Thomas Lewis, weaver, who moved here from Penygroes, when in the midst of a heated argument on the sin of Adam, said " I was in essence there with my hand reaching for the fruit. I feel the guilt for the deed at this very moment" These arguments have been consigned to history a long time ago, although within the church there is much research through chatecism and explanatory meetings, which continue to be popular in the area. This church continues the old order with three offices, as most churches used to - Minister, elders and deacons. The services in the church remained popular, and the congregation strongly supported the Missions. Among the faithful in this church David Morris, blacksmith was mentioned, who was a sharp eyed elder here, who contributed greatly to maintaining the numbers in church and nurturing generosity in the members. William Hughes, The Mill, a caring deacon, and in the estimation of those who knew him, a true Israelite. As the founders and faithful counsellors of the Sunday School at Hebron, we should mention the names of William Evans, shoemaker, and Rowland Howell, the latter a listener only, worked hard with the school and was its secretary. Although there are no huge theological arguments disturbing the church now, it has not been without its troubles and sins. The trinity of sins that troubled the church in Rome have equally troubled this church as well as other churches in the country from the beginning - " carousing and drunkeness, wanton sexual behaviour, argument and jealousy," we hope, despite this, that we are gradually cleansing from these sins.

The following were raised to preach in this church :-

  • BENJAMIN THOMAS -  confirmed by Mr W. Evan shortly before his death, preached for many years.
  • REES PERKINS - now the minister of  Maenclochog.
  • EZER DAVIES - son of James Davies. Now at Troedyrhiw, Merthyr.
  • SIMON EVANS - son of Mr Evans, the minister. Educated at Carmarthen College, now minister of  Hebron and Nebo.
  • JOHN MORGAN EVANS - another son of Mr Evans, the minister. Educated Carmarthen College, ordained Trefgarn, now at Ebenezer, Cardiff.
  • THOMAS EVANS - began preaching 1852, occasional preacher where needed.
  • DAVID THOMAS - educated Brecon College, now at Llangynidr, Breconshire.
  • JOHN LLOYD #JONES - educated at Carmarthen College, now at Capel Ivor, Dowlais.

# P.S Those raised to preach - read JOHN LLOYD JAMES not Jones

Also mentioned are THOMAS DAVIES, Nant, and GEORGE DAVIES, Plas, we have no details of them, only that their earthly remains lie in Hebron cemetery.

BIOGRAPHICAL NOTES*

WILLIAM EVAN - born Felin, Llanglydwen, Carmarthenshire, around 1749 - father not religious, mother churchwoman - little education - sent to Evan Sion, Llaindelyn, Llanfyrnach, "twcwr" and a bone and injury doctor, which William Evan also learned - became a member of Glandwr - occasional preacher supporting the minister, ordained as co-minister in 1798 - continued his calling and when Evan Sion died he became his own master - married Elizabeth, daughter of David Zacharias, Nantygelli, Eglwysfair - he recorded christening 556 between 1798 and his death in 1818 - died October 19th,1818 aged 69.

JOHN EVANS - born April 14th, 1788 near Nanthir, Llanfyrnach, Pembrokeshire - mother died when 7 - father remarried -John and brother Thomas sent into service, ended up homeless - confimed at Penygroes, June 1809 while working for Mr John Evans, Pantyrhelygen - moved to work for Mr Simon Evans, Dyffrynmawr who became a friend and sponsor - Carmarthen College 1813 with Mr Peters to prepare, then 4 years full time - calls from Pencadair, Narberth and Penygroes - ordained at his mother church July 23rd, 1818 - married Miss Martha Morgan, Cilgynydd October 19th, 1819 - 4 sons, 2 daughters - 2 sons ministers (see above), daughter married to Joseph Morris, Brunswick Chapel, Bristol - died October 3rd 1849 - buried Hebron.

JAMES MORRIS started here, Brecon College, ordained Ynysgau, Merthyr - left for established church.

THOMAS THOMAS Bwlchsais, now preparing for ministry.

First attempt to publish an English language news sheet for Independents -Principality, started in Haverfordwest then moved to Cardiff  - by David Evans, son of John Evans, Hebron. Not a financial success but served its purpose.

History of Hebron for Llwynwryf read Llwynymyndd - Nanthir read Nantygeifr.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

NEBO

(Cilmaenllwyd, CMN parish)

Mae Nebo yn mhlwyf Cilmaenllwyd, yn sir Gaerfyrddin, ond y mae bob amser wedi bod mewn cysylltiad cyfundebol a Sir Benfro. Arferid pregethu am un Sabboth o bob mis am flynyddau yn Pantycaws, gan weinidog Glandwr, neu ryw un yn ei le ; ac ar Sabboth arall o bob mis arferid pregethu yn Pantyrodyn, gan weinidog Hebron, neu rywun drosto. Ffrwyth y llafur hwnw o dy i dy, mewn pregethu ac egwyddori, yw yr eglwys sydd yma yn awr. Mr William Griffiths, Castellgarw, oedd un o'r prif offerynau mewn cysylltiad a Mr Evans, Hebron, i adeiladu y capel. Cafwyd y tir at adeiladu y capel, a'r fynwent, a'r ysgoldy, gan Mr Daniel John, Rhos; ac erbyn hyn y mae efe, a'i wraig, a'u mab Benjamin, yn gorwedd yn y fynwent. Adeiladwyd y capel cyntaf yn y flwyddyn 1836, ond ni chorpholwyd eglwys ynddo hyd y flwyddyn 1840. Ffurfiwyd eglwys ynddo gan Mr Evans, o aelodau Hebron yn benaf, a bu y lle dan ei ofal hyd ddydd ei farwolaeth ; ac y mae yn parhau etto mewn cysylltiad a Hebron. Cynyddodd yr achos yma yn gyflym, fel y daeth yma eglwys gref a lluosog. Aeth yr hen gapel yn rhy fychan, ac adeiladwyd yma gapel hardd, yn mesur 34 troedfedd wrth 40 troedfedd, an agorwyd ef Hydref 14eg a'r 15fed, 1861. Aeth yr holl draul yn 530p. heb gyfrif cludiad y defnyddiau - yr hyn a dalwyd agos oll cyn diwedd dydd yr agoriad.

85

 Mae yma ysgoldy dyddiol cyfleus yn eiddo yr eglwys, lle y cedwir ysgol yn rheolaidd ; ac y mae ysgoldy i gynal ysgol Sabbothol a phregethu yn achlysurol, wedi ei godi cydrhwng yr eglwys hon ac eglwys Henllan, mewn lle a elwir CWM-MILES. Cynhelid ysgol Sabbothol er's blynyddau, mewn ystafell a lysenwyd, y Twlc; a dichon nad annyddorol fydd gan ein darllenwyr gael yr adroddiad canlynol am ysgoldy y Twlc allan o'r Llyfrau Gleision, a gyhoeddwyd yn 1847, tudalen 243. Fel hyn y dywed un o'r dirprwywyr : - " Ar y ffordd ymwelais ag ysgoldy y Twlc, cangen o'r capel Annibynol yn Henllan, ac o fewn undeb ysgolion Sabbothol Narberth. Cedwir llyfrau yr ysgol hon gyda'r rheoleiddiwch rhyfeddaf. Rhoddir yr enwau i lawr yn ol yr oedran, y rhyw, a'r aelodaeth eglwysig, a thynir canolrif at y blewyn. Yr olaf oedd 73 9/13. Nid yw ond bwthyn pridd, trwsgl a dilun, gyda tho gwellt a llawr pridd llaith, ar yr hwn y gwelais, ar fy ymweliad, olion pattens dirif. Y mae pedwar o dyllau bychain wedi eu tori yn afreolaidd, a'u gwydro mewn rhan, i ateb dyben ffenestri. Yr eisteddfeingciau ydynt wedi eu naddu yn drwsgl, mor annghelfydd ag y gallant fod, ac heb fod yn gryfion. Helaethir y lle i eistedd drwy osod plangciau ar draws y meingciau, fel y llifiesid hwy o'r goeden. Ywyneb-fesur yw ugain troedfedd wrth ddeuddeg, ac y mae y muriau o dan chwe' troedfedd o uchder, a'r nen yn agored hyd y to. Nid yw y trawstiau croesion yn fwy na phum' troedfedd a haner o'r llawr, a bu agos i mi daro fy mhen yn erbyn un o honynt wrth fesur yr ystafell, yr hon oedd mor dywyll. Er mwyn gwell cadwraeth dodasid y bwrdd a'i draed i fyny, ar ddau o'r trawstiau hyn. Nid oedd ynddi un lle tan. Y meingciau, y plangciau, a'r bwrdd oeddynt yr unig ddodrefn. Nid oedd yno ond 240 o droedfeddi ysgwar i 73 o blant, yr hyn ni adawsai lawn dair troedfedd a haner i bob un. Cynygiasid benthyg yr ysgoldy plwyfol i'r ysgol hon gan y Parch. Bowen Jones, ond gwrthodwyd y cynyg. Pan gynhelid ysgol Mrs. Bevan yma, dewisai amryw gadw eu plant gartref yn hollol yn hytrach na'u danfon, er nas gorfodid hwy i fyned i'r Eglwys ar y Sabboth, nac i adrodd y Catecism. Yr oedd ysgol y Twlc yn myned yn awr ac eilwaith i'r Eglwys i gael ei chateceisio, yr hyn a wneid yn benaf mewn ffordd o arddangosiad."

Dyna engraifft o sel ymneillduol ein tadau, yn gystal ag o'r anfanteision o dan ba rai y llafurient i gyfranu a derbyn addysg. Nid oedd ysgoldy Twlc, ond un o lawer o fythod cyffelyb, yn y rhai y bu ein tadau yn dysgu y rhai nis medrant. Mae yn debyg fod y dirprwywr wedi bod mor ofalus i ddarlunio yr ystafell, er mwyn gwneyd gwawd o ymneillduaeth ; ond yr ydym ni yn ymogoneddu fod y fath fywyd yn ein hegwyddorion nes gweithio eu ffordd i gyhoeddusrwydd, er gwaethaf dinodedd a thlodi y lleoedd a'r amgylchiadau o dan ba rai y cychwynwyd ein hachosion. Bu yr ysgol yn cael ei chynal yn rheolaidd yn y Twlc hyd y flwyddyn 1858, pan y cytunodd aelodau Henllan a Nebo, i godi ysgoldy i fod yn feddiant cyd rhwng y ddwy eglwys ; ac y mae yma ysgol Sabbothol flodeuog, a phregethu, a moddion eraill yn rheolaidd, a digon tebyg, gydag amser, y ffurfir yma eglwys Annibynol. Mae yr achos yn Nebo yn gryf a dylanwadol yn yr ardal, a'r eglwys yn rhifo tua 214 o aelodau. Megis y crybwyllasom eisioes, yr oedd Mr W. Grifflths, Castellgarw, yn un o gychwynwyr yr achos yma, ac yn un o'i brif gynhalwyr hyd derfyn ei oes. Gwasanaethodd swydd diacon yn dda, nes ennill hyder ac ymddiried yr holl eglwys. Bu farw ar fyr rybydd, yn nechreu Chwefror, 1859. Mae ei hiliogaeth yn glynu yn ffyddlawn wrth Dduw eu tad. Daniel Phillips, Sarnau, hefyd, .................

 

Translation by Maureen Saycell (Jan 2009)

Nebo is in the parish of Cilmaenllwyd, Carmarthenshire, but it has always been closely associated with the Pembrokeshire Union. In the past the minister of Glandwr, or someone else, used to preach once a month at Pantycaws. On another Sunday preaching took place at Pantyrodyn by the old minister of Hebron, or someone in his place. The fruits of those preaching and teaching from house to house is the church that stands here now. Mr William Griffiths, Castellgarw, was one of the main movers along with Mr Evans, Hebron, to build a chapel. Land was aquired to build a chapel, a cemetery and schoolhouse from Mr Daniel John, Rhos, by now he and his wife and their son Benjamin, are buried in the cemetery. The first chapel was built in 1836, but a church was not formed here until 1840. The church was formed by Mr Evans, mainly from members of Hebron, and the place continued under his care until his death, and it continues in association with Hebron. The cause increased quickly, so the church became  numerous and strong. The old chapel became too small and a handsome chapel measuring 34 feet x 40 feet, was built here, and it was opened October 14th and 15th, 1861. The full cost came to £530, not counting the cost of carriage of materials - it was almost cleared by the end of the opening.

There is a convenient daily school here, where school is held regurlarly, and there is a schoolroom built equally distant from this church and Henllan where there is a Sunday school and occasional preaching, in a place named CWM-MILES. A sunday school had been held in a rented room, at The Twlc, and no doubt it would not be uninteresting for our readers to see the following report on the school at Twlc, in the Blue Books Page 243, published in 1847. "Along the way I visited Twlc Schoolhouse, a branch of the Independent Chapel at Henllan, and within the Sunday Schools Union of Narberth. The Books for this school are kept in a remarkably systematic way. The names are entered  according to age, sex and church membership, and an average calculated precisely. The last was 73 9/13. It is a earthen cottage, not attractive and untidy with a thatched roof and a damp earth floor on which I could see numerous marks. Four small holes have been made randomly and partially glazed to serve as windows. The seats are roughly hewn, and poorly made. Seating is expanded by laying planks across the benches, that look as if they have just been cut from the tree, the surface measurement is 20 feet x 12, with the walls barely 6 foot high and the space open to the roof. The cross beams are about 5 foot 6 inches from the floor, I almost hit my head on one whilst measuring, because it was so dark. For storage the table was put, feet up, on the crossbeams. There was no fireplace. The benches, planks and table was the only furniture. There is only 240 square feet for 73 children, allowing less than three and a half feet each. An offer to use the parish school from Rev. Bowen Jones had been made and refused. When Mrs Bevan's school was held here, many chose to keep their children at home completely, although they were not forced to go to Church on Sunday or recite the Catechism. Twlc School went to the Church to be Catechised, this was mainly for show."

This is a good example of the determination and the difficulties they experienced in order to give and to gain an education. Twlc School was one of many cottages in which our forefathers taught those without means. It is likely the deputy painted such a detailed picture of the room in order to mock the Independents, but we are proud that our principles were strong enough to work their way to publicity, despite poverty and the circumstances in which our causes were started. The school was held regurlarly in the Twlc until 1858, when the members of Henllan and Nebo agreed to jointly build a school, and it has a successful Sunday School, sermons and regular services, and it is likely that there will eventually be an Independent Church formed here.

The cause in Nebo is strong and influential in the area. with about 214 members. As we noted earlier Mr Griffiths, Castellgarw, was one of the founders and continues to support it through his life. He served as a deacon, gaining support throughout the church. He died suddenly at the beginning of February, 1859. His descendants continue to follow God. Also Daniel Phillips, Sarnau, another founder of the cause, and one who was faithful to God and to his house. Most of the founders have now gone, the only one remaining is Edward Davies, Pantrodyn, who has been very faithful to the school from the beginning.

Only one was raised to to preach - JASON JENKINS, educated at Carmarthen College and was at Pontypool for years but is now in Dursley, Gloucestershire.

 

CONTINUED

 


( Gareth Hicks - 17 Jan 2009)