Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

See main project page

Proof read by Maureen Saycell (March 2008)

Pembrokeshire section (Vol 3) - Pages 100 - 113


Pages 100 - 113

100

(Continued)  TENBY

...............; M. Jones, Trelech ; W. Warr, Hwlffordd ; W. Warlow, Milford; I. Bulmer, Hwlffordd ; T. Harries, Penfro, a W. Thomas, Rosemarket. Mr B. Evans fu y gweinidog yma o 1818 hyd 1837. Dilynwyd ef gan Mr J. J. Braine, yr hwn a fu yma am ddwy flynedd. Y gweinidog nesaf yma oedd Mr David Roberts, o athrofa  Aberhonddu, ac aelod o'r eglwys yn Abergorlech, Sir Gaerfyrddin. Bu ef yma hyd 1845, pryd y rhoddodd ei swydd i fyny. Y mae oddiar y pryd hwnw, yn gwneyd rhyw wasanaeth fel ysgolfeistr neu gurad yn yr Eglwys Wladol. Ar ol bod am ddwy flynedd yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, yn 1847, rhoddwyd galwad i Mr Daniel Anthony, B.A., o athrofa Homerton, ac urddwyd ef yma yn y flwyddyn hono. Wedi llafurio yma, gyda mesur helaeth o lwyddiant, hyd 1853, symudodd i Frome ; a dilynwyd ef yn Tenby, yn yr un flwyddyn, gan Mr Eliezer Griffiths, o New College, mab y diweddar Mr. Griffiths, gweinidog Mynydd Seion, Casnewydd. Bu Mr. Griffiths, yma yn barchus am ddeuddeng mlynedd, ac yn 1865, symudodd i Awstralia. Yn fuan wedi hyny, dychwelodd Mr Anthony, o Frome, i faes blaenorol ei lafur, a bu yma drachefn am tua phum mlynedd ; yna symudodd Devizes, yn Sir Wilts, lle y mae yn bresenol. Yn ail dymhor ei weinidogaeth yn y lle, bu M. Anthony yn offerynol i adeiladu yma gapel ardderchog, yr hwn sydd yn mynd dan yr enw The Congregational Church. Mae yn un o'r capeli harddaf yn y dywysogaeth, ac ysgoldy eang, a gwahanol ystafelloedd eraill, yn nglyn ag ef. Y mae yr eglwys yn awr yn adeiladu ty i'r gweinidog. Erbyn y bydd y ty wedi ei orphen, bydd y gynnulleidfa gynyddol ac anturiaethus hon, wedi gosod allan dros chwe' mil o bunau mewn adeiladau perthynol i'r achos. Dilynwyd Mr Anthony, yn y weinidogaeth yma, yn 1871, gan Mr John Lewis, o Bangor, a chyn hyny o Galway, Iwerddon, ac efe yw y gweinidog presenol. Ni bu yr achos yma erioed mor llewyrchus a llwyddiannus ag y mae yn awr. Mae yma gynnulleidfa dda trwy y flwyddyn ; ond yn misoedd yr haf, pan y byddo dyeithriaid o bob parth o'r deyrnas yn dyfod i dreulio wythnosau yn y lle paradwysaidd hwn, y mae y lle yn orlawn. Mae amgylchiadau yr achos yma yn cael eu dwyn yn mlaen gan bwyllgor. Trysorydd yr eglwys yw Joseph Craven, Yswain, o Lundain a Tenby ; cadeirydd y pwyllgor yw H. Goward, Ysw., M.A.LL.B., a'r ysgrifenydd yw Mr J. T. Jones. Diaconiaid yr eglwys ydynt y Meistri John Phillips, William Adams, J. Rogers, B. Phillips, a W. Thomas. Nid ydym wedi gallu dyfod o hyd i enwau neb a gyfodwyd yma i bregethu, os cyfodwyd rhai. Yr oedd y capel cyntaf yma, o ran ei safle a'i wneuthuriad, yn anheilwng o'r lle, ac yn erbyn llwyddiant yr achos ; tra y mae y capel presenol, o ran ei safle a'i wneuthuriad, yn bobpeth y gellid dymuno iddo fod. Mae pob tebygolrwydd fod dyfodol llwyddianus iawn o flaen yr eglwys hon.

 

TYRHOS

(Cilgerran parish)

Mae y capel hwn yn mhlwyf Cilgeran, tua milldir o'r dref, a thua yr un pellder o lan y Teifi, a phedair milldir o Aberteifi. Rhos oedd y rhan hon o'r wlad y ganrif o'r blaen, a galwyd yr amaethdy cyntaf yn Tyrhos, ac ar yr enw hwn y galwyd yr addoldy. Yn 1786, dechreuwyd cadw ysgol Sabbothol yn yr ardal, yn Penyralltcadwgan, lle yr oedd Thomas Lewis, aelod gyda 'r Bedyddwyr, yn byw. Symudwyd hi oddiyno i'r Trip. Nid ydym yn gwybod paham, os nad oblegid methu cydweled am yr ordinhadau.

101

Yn y lle olaf, yr oedd gweddw Thomas Griffiths yn byw. Yr oedd hon yn nain i un o'r diaconiaid presenol, ac yma y buwyd hyd nes y caed trwydded ar Tyrhos Farm i bregethu. William John, un o'r Methodistiaid, oedd y brif golofn gyda'r ysgol Sabbothol y cyfnod hwn. Aeth William John i neithior yn yr ardal, a cheryddwyd ef yn chwerw am hyny gan frawdoliaeth. Wedi cael achos gyda'r Annibynwyr yn yr ardal, ymunodd gyda hwynt. Yn yr adegau hyn, daeth Mr M. Jones, Trelech, yma i bregethu, yn yr awyr agored, mewn cae gerllaw Penyralltcadwgan, lle yr oedd David Williams, a Martha ei wraig, yn byw yr adeg hono. Yr oedd David Williams yn aelod yn Trelech, a Martha Williams yn aelod yn Brynberian. Mae y lle hwn yn awr yn breswylfa berchenogol Asa I. Evans, Ysw., Cyfreithiwr yn Aberteifi, ac aelod gyda'r Bedyddwyr yn Blaenffos. Cofia Mr Evans, Tyhen, am y bregeth gyntaf gan Mr Jones, ac yr oedd y cae yn llawn o wrandawyr. Yn y ty ar ol y bregeth, bedyddiodd M. Jones dri o blant y mae un o honynt yn aelod yma yn bresenol. Dilynwyd Mr Jones gan Mr George, Brynberian, a Mr Phillips, Trewyddel, a buont yn pregethu yn achlysurol o 1800 hyd 1809. Yn 1810, ffurfiwyd eglwys mewn ty anedd o'r enw Tyrhos, yn cynwys 19 o aelodau o'r eglwysi cylchynol : - sef John Jones, David Luke, Margaret Luke, David Edwards, Mary Edwards, David Morris, David Williams, Martha Williams, Margaret Rees, Frances Rees, Martha Richards, Ann Rees, John Jenkins, Hannah Thomas, William Ladd, Elizabeth John, Ann Morgan, a Margaret Edward.* Gweinyddwyd yr ordinhadau yr rheolaidd iddynt gan Meistri Jones, Trelech ; George, Brynberian ; Griffiths, Glandwr ; Phillips, Trewyddel ; Davies, Abergwaun, a Harries, Rhodiad. Y cyntaf dderbyniwyd ar ol ffurfiad yr eglwys oedd William John, Rhiwgoi, yn 1811, am yr hwn y crybwyllasom eisioes. Bu y gwr hwn a John James, Trewaddon, yn ddiaconiaid am flynyddau, a hwy oeddynt y diaconiaid cyntaf, ac yr oeddynt yn ddynion da dichlynaidd. Un arall fu yn gymorth mawr i'r achos yn yr adeg hono oedd Thomas Thomas, Pantycymro, sef tad Mr J. Thomas, Taf-fechan. Yn y cyfnod o ffurfiad yr eglwys hyd 1836, yr oedd rhifedi y dysgyblion wedi cynyddu i 139. Yn 1814, cymerodd Mr Daniel Davies, Aberteifi, ofal yr eglwys fechan hon. Yn 1815, cafwyd darn o dir am swllt y flwyddyn gan Mr Benjamin Evans, Gorsfraith, yr hwn oedd berchen haner Tyrhos Farm. Yr oedd yn ddigon i godi capel a chladdu y meirw. Y cyntaf a gladdwyd oedd Esther, gwraig John Luke, Morfa, Rhagfyr 31ain, 1817, yn 26 oed. Bu cael capel a lle i gladdu yn dynfa pobl i wrando, fel y llanwyd y ty newydd hwnw yn fuan. Urddwyd William Miles, Werngoi, yn Aberteifi i fod yn gynorthwywr i Mr Davies yn ei gylch eang. Yr adeg hono yr oedd Aberteifi, Llechryd, Ty- rhos, a Llandudoch, yn yr un weinidogaeth, a than mai aelod o Tyrhos oedd William Miles, ac yn pregethu yno yn amlach nac un o'r lleoedd eraill, " Miles, Tyrhos," y gelwid ef.

Yn 1856, unodd Tyrhos a Llechryd, a rhoddwyd galwad i Mr Rees Morgan, o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Awst 12fed a'r 13eg, y flwyddyn hono. Gan fod y boblogaeth yn cynyddu, a'r achos yn myned rhagddo, aeth yr hen dy yn rhy fychan. Yn 1859, cafwyd darn ychwanegol o dir, ar werth gan Mr Simon John, Clyngwyn, nai i'r gwr a roddodd y tir cyntaf, ac wrth dalu i Mr John am y tir, rhoddodd yr arian oll yn ol.

*Llythyr Mr. J. M. Davies.

102

Adeiladwyd capel mawr prydferth, un o'r goreuon yn y wlad, a thalwyd am dano wrth ei orphen, yr hyn yw trefn pobl y wlad yma yn gyffredin. Y mae yn iawn i ddyweyd gair yn y fan hon am Mrs Evans, Tyrhos, gweddw Mr Evans, brawd i'r gwr a roddodd y tir cyntaf at godi y capel cyntaf. Yr oedd yn un o'r rhai blaenaf yn y wlad gyda phob rhan o wasanaeth crefydd. Cadwai addoliad teuluaidd yn gyson, ac er nad oedd ond morwyn ganddi, byddai hi a'r forwyn yn darllen a gweddio bob yn ail, a gweddiai yn y capel os byddai prinder. Yr oedd ar y blaen gyda'r ysgol Sabbothol, ac mewn llettygarwch a haelfrydedd. Bu yn gymorth mawr i godi y capel presenol - rhoddai gan' punt ar y tro er talu am y gwaith, a mynodd ei gael yn rhydd cyn ei chladdu. Cododd gwraig dda arall yn ei lle, gan daflu ei holl galon i achos Mab Duw, sef Mrs Evans, Tyhen, ond y mae hithau wedi myned at ei gwobr yn gynar. Un arall fu, ac y sydd, a'i ben, a'i galon, a'i logell gyda'r achos ydyw Mr G. Evans, Ty- hen, brawd-yn-nghyfraith i'r olaf a enwyd, a pherchenog y lle. Mae yn awr yn agos i 80 mlwydd oed. Efe ddechreuodd gadw cyfrifon manwl yr ysgolion Sabbothol yn Nghymru. Aeth dau o'i lyfrau i Loegr, a thebyg mai hwy roddodd gychwyn i'r llyfrau argraffedig sydd i'w cael yn Lloegr a Chymru yn awr.

Yn y flwyddyn 1863, symudodd Mr Morgan i Glynnedd, ar ol bod yma yn ddefnyddiol a chymeradwy. Yn 1865, unodd Tyrhos a Llandudoch i roddi galwad i un Edwin Jones, ysgolfeistr o Lechryd, ac urddwyd ef Hydref 25ain a'r 26ain, 1865. Bu yma tua blwyddyn a haner, ac aeth oddiyma i Brynmawr, Mynwy. Yn niwedd y flwyddyn 1867, rhoddodd yr eglwys yma, mewn cysylltiad a'r eglwys yn Llandudoch, alwad i Mr John M. Davies, Maescwmwr, Mynwy. Yr oedd Mr Davies wedi llafurio yn Maescwmwr am bedair-blynedd-ar-ddeg, ac fel arwydd o barch iddo ar ei ymadawiad cyflwynwyd iddo yn anrheg 45 o gyfrolau o lyfrau gwerthfawr yn nghyd ag oriawr aur. Dechreuodd Mr Davies ei weinidogaeth yma yn nechreu y flwyddyn 1868, a bu cyfarfod ei sefydliad yn y ddau le Chwefror l leg a'r 12fed, y flwyddyn hono. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri Williams, Blaena ; Daniel, Cefncrib ; Evans, Hebron; Lewis, Brynberian ; Johns, Berea; Davies, Glynarthen ; Jones, Middlesboro; Davies, Aberteifi, a Dr. Davies, Ross. Y mae gwedd ddymunol ar yr achos yn y lle hwn. Diaconiaid presenol ydynt : - G. Evans, Tyhen ; D. Thomas, Ffynonaugleision, a T. Griffiths, Rhiwgoi.

Cyfodwyd pedwar yma i bregethu :

  • John Williams. Yr oedd mewn cryn oed pan y dechreuodd, ond yr oedd yn ddyn da a duwiol. Pregethodd un Sabboth yn y mis tra galledd.
  • William Miles. Urddwyd ef yn weinidog, a bu yma am flynyddau.
  • Samuel Simon Davies, Wernddofn. Aeth i Loegr, ond nis gwyddom ddim o'i hanes.
  • David Johns. Addysgwyd ef yn athrofa Caerfyrddin, ac y mae yn awr yn Berea, Penfro.

COFNODIAD. BYWGRAPHYDDOL.

WILLIAM MILES. Ganwyd ef yn Mhenywern, yn mhlwyf Clydau, yn Sir Benfro, yn y flwyddyn 1795. Ymunodd yn foreu a'r eglwys yn Tyrhos, ac yno y dechreuodd bregethu. Priododd a merch Ffynonaugleision,

103

ac aeth i fyw i Werngoi. Yr oedd yn ddyn cyfeillgar a charedig, ac yn bregethwr bywiog, a phregethodd lawer trwy yr holl wlad am flynyddoedd cyn cael ei urddo. Neillduwyd ef a Mr David Owen i holl waith y weinidogaeth yr un pryd yn Aberteifi, i fod yn gynorthwywyr i Mr Daniel Davies, Aberteifi, yn ei gylch eang, ac oblegid fod Mr Miles yn byw yn nes i Tyrhos, ac yn aelod yn flaenorol yno, ystyrid ef yn dal cysylltiad mwy neillduol a'r eglwys yno. Darfu ei gysylltiad a Tyrhos, a symudodd i fyw at ei fab i St. Clears, ac yno y treuliodd ddiwedd ei oes, ac yn pregethu yn achlysurol hyd ei farwolaeth yn y flwyddyn 1864.

Translation by Maureen Saycell (Jan 2009)

This  chapel is in the parish of Cilgerran, about a mile from the town and the same from the banks of the Teifi, four miles from the Cardigan itself. This area of land was marsh a century ago and the first farm here was named Tyrhos, and this was the name given to the first chapel. In 1786 a Sunday school was started in the area at Penyralltcadwgan, where Thomas Lewis, a Baptist, lived. It was moved from there to Trip, we do not know the reasons but it may have been theological differences.

At Trip lived the widow of Thomas Griffiths. She was the grandmother of one of the current deacons, the school remained here until Tyrhos farm was licensed for preaching. William John, a Methodist, the main stay of the Sunday School at this time, he went to a wedding feast and was castigated by the brotherhood. When the Independents began a cause in the area he joined with them. It was around this time that Mr M Jones began to preach here in the open air near Penyralltcadwgan, where David Williams and his wife Martha lived. David was a member at Trelech and Martha at Brynberian. This place is currently owned by Asa I Evans, esq, a lawyer in Cardigan and a member with the Baptists at Blaenffos. Mr Evans Tyhen recalls the first sermon given by Mr Jones to a field full of people. After the sermon he baptised three children in the house, one of them currently a member here. Mr Jones was followed by Mr George, Brynberian and Mr Phillips, Trewyddel, who preached here occasionally between 1800 and1809. In 1810 a church was formed in a house named Tyrhos, composed of 19 members of the surrounding chapels:- John Jones, David Luke, Margaret Luke, David Edwards, Mary Edwards, David Morris, David Williams, Martha Williams, Margaret Rees, Frances Rees, Martha Richards, Ann Rees, John Jenkins, Hannah Thomas, William Ladd, Elizabeth John, Ann Morgan, and Margaret Edward.* The sacraments were celebrated regularly by Messrs Jones, Trelech ; George, Brynberian ; Griffiths, Glandwr ; Phillips, Trewyddel ; Davies, Abergwaun, and Harries, Rhodiad. The first to be confirmed here was William John, Rhiwgoi, in 1811, who we have already mentioned. Both he and John James, Trewaddon were the first and long serving deacons, they were good and honest men. Another who was a supporter of the cause at this time was Thomas Thomas of Pantycymro, the father of Mr J Thomas,Taf-fechan. From the formation of the church to 1836 the number of disciples had increased to 139. In 1814 Mr Daniel Davies, Cardigan took on the care of this small church. In 1815 a piece of land was aquired for 1/= a year from Mr Benjamin Evans, Gorsfaith, who owned half of Tyrhos Farm. It was enough to build a chapel and a burial ground. The first to be buried here was Esther, wife of John Luke, Morfa on December 31st, 1817 aged 26. Having a chapel and a burial ground helped to draw people in to listen and the new building was soon filled. William Miles, Werngoi was ordained in Cardigan as helper to Mr Davies in his large parish. At that time Cardigan, Llechryd, Tyrhos and Llandudoch were under the same ministry and as Mr Miles was a member of Tyrhos and preached there most frequently he became known as Miles, Tyrhos.

In 1856, Tyrhos and Llechryd united to send a call to Mr Rees Morgan, Brecon College, who was ordained  August 12th and 13th of that year. As the population increased the cause also increased, the old house became too small. In 1859 a piece of land was sold to them by Mr Simon John, Clyngwyn, nephew of the man that gave them land originally, and as they paid him for the land, Mr John returned it all to them. A large chapel was built, one of the best in the land and it was paid for on completion, as is  customary in this country. Here we should mention Mrs Evans, Tyrhos, widow of Mr Evans, brother of the man who first gave them land. He was one of the best in the service of religion in the land. She held family services regularly, despite the fact that there was only her and a maid, they would read and pray alternately and she would pray in the chapel if there was a need. She led the way with the Sunday school, hospitality and generosity. She was a great support in the building of the current chapel, donating £100 at a time to pay for the work, and determined to clear it before she died. Another good woman rose to replace her who threw her whole heart into the service of the son of God, she was Mrs Evans, Tyhen but she was called to her reward early. Another one who was and is head, heart and pocket behind the cause is Mr G Evans, Tyhen, brother in law of the former and owner of the place. He is nearing 80 years of age. He was the one who began to keep detailed records of the Sunday schools in Wales. Two of his books went to England, and it seems likely that they were the start of the printed books now available in England and Wales.

In 1863 Mr Morgan moved to Glyn Neath, after being very useful and commendable here. In 1865 Tyrhos and Llandudoch united to call Edwin Jones, a schoolmaster from Llechryd, who was ordained on October 25th and 26th, 1865. He was here for about a year and a half, then left for Brynmawr, Monmouthshire. At the end of 1867 this chapel with Llandudoch called Mr John M Davies, Maescwmwr, Monmouthshire. Mr Davies had been there for fourteen years and as a mark of respect  he was presented with 45 volumes of valuable books as well as a gold watch. Mr Davies began his ministry in 1868, and his induction services were held ar both chapels on February 11th and 12th of that year.The following officiated:- Messrs  Williams, Blaena ; Daniel, Cefncrib ; Evans, Hebron; Lewis, Brynberian ; Johns, Berea; Davies, Glynarthen ; Jones, Middlesboro; Davies, Aberteifi, and Dr. Davies, Ross. The cause is in good shape. The current deacons are :- G. Evans, Tyhen ; D. Thomas, Ffynonaugleision, and T. Griffiths, Rhiwgoi.

The following four were raised to preach here: **

  • JOHN WILLIAMS - he was elderly when he began but preached once a month while he could.
  • WILLIAM MILES - he was ordained here and served for years.
  • SAMUEL SIMON DAVIES - Wernddofn - went to England - no history.
  • DAVID JOHNS - educated in Carmarthen College - now in Berea, Pembrokeshire.

 

BIOGRAPHICAL NOTES**

WILLIAM MILES - born Penywern, Clydeu parish, Pembrokeshire, 1795 - married daughter of Ffynonaugleision - lived at Werngoi - retired to his son at St Clears - Died 1864.

*Letter Mr. J. M. Davies.

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated

 

LLANDUDOCH

(St Dogmaels parish)

(This chapel already translated  /big/wal/PEM/StDogmaels/Hanes.html)

"Saif y dref hon ar lan Teifi, tua milldir yn nes i'r mor nag Aberteifi. Y mae yn un o'r lleoedd prydferthaf, glanaf, ac iachaf, yn Nghymru. Wrth fyned o Aberteifi i'r lle yn nechreu yr haf, y mae yr olwg arno yn swynol ; y tai yn wynion, a'r coed-ffrwythau yn eu llawn flodau ar hyd godreuon tri o fryniau. Y mae y rhan luosocaf o'r trefwyr yn berchenogion eu tai eu hunain, a llawer o honynt a'u llongau, a'u cychod pysgota eu hunain; felly capteiniaid, morwyr, a physgodwyr yw y rhan luosocaf o'r bobl. Dechreuwyd yr achos Annibynol yma gan aelodau o Aberteifl, Trewen, a Threwyddel. Cyfarfodydd gweddio o dy i dy oedd y peth cyntaf, a fu yma. Wedi i'r rhai hyn ddyfod yn dipyn o allu ar foesau y bobl, a chael derbyniad gan y trigolion, cryf haodd dwylaw a meddwl y dysgyblion. Ceisiwyd gan Mr. Phillips; Trewyddel, ddyfod yma i bregethu. Cofia yr hen bobl am dano yn pregethu y tro cyntaf, mewn hen dy oedd yn cael ei gadw at bwyso pysgod. Yr oedd hyn yn foreu yn y ganrif yma. Wedi hyn dechreuwyd cadw ysgol Sabbothol mewn lle a elwir Penyrallt, lle yr oedd John Davies yn byw; dyn da a chymwynasgar iawn, ond ni arddelodd grefydd hyd ei fedd. Y mae Mrs. Davies, ei weddw, yn fyw, ac yn 90 mlwydd oed, a'i chalon a'i llaw mor gynes a hael gyda'r achos ag erioed. Y mae hi a'i merch yn aelodau, a'r ddau fab yn ddiaconiaid yn yr eglwys hon. Cymerodd Mr. Davies, Aberteifi, y lle hwn dan ei nawdd. Yn 1826, prynwyd hen dy at godi capel, ac yn 1828, adeiladwyd ef, a galwyd ef Capel Degwel, oddiwrth enw Saesoneg mae y lle yn debyg. Ryw amser rhwng 1835 ac 1840 ffurfiwyd eglwys yma. Cyn hyny i Aberteifi yr ai y rhan luosocaf i gymundeb, a rhai i Drewen a Threwyddel. Diaconiaid cyntaf yr eglwys hon oedd :-David Williams, dilledydd, aelod gwreiddiol o Aberteifi, a David James, Ysguborwen, amaethwr, aelod gwreiddiol o Drewen. Aeth D. James i'r Eglwys Wladol, yn herwydd rhyw ymrafael, cyn diwedd ei oes; bu farw yn gymharol ieuangc, yr oedd yn ddyn da iawn ; ond arosodd Mrs. James gyda'r Annibynwyr hyd ei bedd. Claddwyd hi yn 1871. Yr oedd hi yn un o'r ffyddloniaid. Y mae eu plant yma hyd y dydd hwn, ac un o honynt yn ddiacon. A'r hyn sydd yn rhyfedd, aeth holl deulu David Williams i'r Eglwys Wladol ar ol ei gladdu ef. Yr oedd yntau yn Israeliad yn wir. Y diaconiaid nesaf oedd :- David Owen, Clogmaker, a Thomas Jones, Tyhir. Yr oeddynt yn ddynion da a defnyddiol, ond mae y ddau wedi huno yn yr angau. Rhaid i ni ddyweyd gair yn y fan hon am un arall a daflodd ei holl galon i achos Mab Duw yn y lle hwn, sef Mrs Davies, Sailor's - home; trwy lythyr y daeth hi yma o Aberteifi. Yr oedd ty ei rhieni yn gartref pregethwyr, ac felly

104

ei thy hithau. Bu farw yn 1870.

"Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth."

Mae ei phlant oll gyda chrefydd, ac yn llawn caredigrwydd fel eu rhieni. Y mae ei phriod yn fyw, ac yn ddiacon yn yr eglwys.

Yn y flwyddyn 1864, rhoddodd Mr. Davies, Aberteifi, ofal yr eglwys hon i fyny, ac yn 1865, unodd Capel Degwel a Tyrhos i roddi galwad i Mr. Edwin Jones, ysgolfeistr yn Llechryd, ac urddwyd of Hydref 25ain a'r 26ain, 1865. Yn 1867, aeth oddiyma i Rehoboth, Brynmawr, Mynwy. Yn niwedd y flwyddyn hono, rhoddwyd galwad i Mr. J. M. Davies, Maesycwmwr, a dechreuodd ei weinidogaeth yr ail Sabboth yn 1868, ac ar yr 11 eg a'r 12fed o Chwefror, bu ei sefydliad yn y ddau le.

Codwyd dau yma i bregethu :-

  • David Owen, y diacon. Yr oedd yn ddyn da, doniol, a defnyddiol iawn. Aeth i America yn 1870. Yr oedd tua 60 mlwydd oed pan aeth yno. Cafodd alwad oddiwrth ddwy eglwys, ond bu farw cyn ei ordeinio.
  • Joseph Jones. Brawd i Meistri Jones, Cillenin, a Jones, Pentretygwyn. Aeth i Merthyr i fyw, ac yno y mae yn awr yn Ynysgau.

Diaconiaid presenol ydynt : -

Capt. John Davies, James James, David Davies, John Davies, a Thomas Selby."

 

  NARBERTH

Adeiladwyd y capel cyntaf yma yn y flwyddyn 1817. Nid ydym wedi cael allan, er chwilio, a oedd yma foddion gras yn rhyw ffurf yn flaenorol i hyny yn cael ei gynal. Ymddengys fod amryw o aelodau Henllan er yn foreu yn byw yn y dref a'r amgylchoedd; ond nid ydym yn cael fod cynyg wedi ei wneyd i sefydlu achos yma hyd y flwyddyn a nodwyd uchod. Yn y flwyddyn 1818, rhoddwyd galwad i Mr W. H. Lewis, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Tachwedd 8fed. Ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri D. Davies, Pantteg; W. Jones, Rhydybont; J. Phillips, Bethlehem ; H. George, Brynberian; J. Bulmer, Hwlffordd; W. Warlow, Milford; W. Griffiths, Glandwr; B. Evans, St. Florence; D. Peter, Caerfyrddin ; J. Lloyd, Henllan ; T. Jones, Saron, a T. Harries, Penfro. Yn nglyn a hanes yr urddiad yn yr Evangelical .Magazine, am 1819, to dal. 114, ceir y sylw a ganlyn: - "Mae llaw rhagluniaeth wedi bod yn amlwg yn adeiladiad y capel, yn ffurfiad yr eglwys, ac yn sefydliad y gweinidog. Mae y gobeithion dymunol am lwyddiant, a'r ysbryd bywiog sydd wedi ei amlygu gan un person unigol, yr hwn yn haelfrydig sydd wedi ymgymeryd ar hyn o bryd a dwyn treuliau yr adeiladaeth, yn gyfryw ag sydd yn cymeradwyo yr achos i sylw y cyhoedd yn mha le bynag gofynir am eu cynorthwy." Nid ydym wedi cael enw y gwr haelionus hwnw, nac ychwaith enwau neb o gychwynwyr yr achos. Tueddir ni i  feddwl fod urddiad Mr Lewis ac agoriad y capel, yr hwn a alwyd y Tabernacl, wedi cymeryd lle yr un pryd. Ni bu tymor Mr Lewis yma ond byr, ac nid oes genym ddim ddyweyd am sefyllfa yr achos yma yn ei amser. Symudodd i Loegr. Un genedigol o Gaerfyrddin ydoedd, a chyhoeddodd fywgraphiad Seisnig i Mr Peter, Caerfyrddin. Nid ydym yn gwybod fod dim arall yn ei fywyd yn werth ei gofnodi. Yr ydym eisioes wedi crybwyll am dano yn nglyn a hanes Brynbiga, Sir Fynwy. Yn niwedd y flwyddyn 1822, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr Caleb Morris, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Ebrill 2ail,

105

1823. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Bulmer, Hwlffordd, yr hwn hefyd a ofynodd y gofyniadau arferol dyrchafwyd yr urdd-weddi gan M. W. Warlow o Milford ; pregethwyd ar ddyledswydd y gwinidog gan M. D. Peter, Caerfyrddin, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan M. M Jones, Trelech. Cynyddodd yr achos yn gyflym wedi sefydliad Mr Morris yma, a thynodd ei ddoniau anghydmarol sylw y dref a'r holl wlad oddiamgylch. Ond llai na phedair blynedd yr arhosodd yma, oblegid yn y flwyddyn 1827, symudodd i Fetter Lane, Llundain. Cyn diwedd y flwyddyn hono, rhoddwyd galwad i Mr Henry Davies, yr hwn a urddasid ychydig cyn hyny yn Tiers Cross a Rosemarket, a dechreuodd ar ei weinidogaeth yma yn nechreu y flwyddyn 1828. Llafuriodd Mr Davies yma gyda derbyniad a pharch hyd ei farwolaeth ddisymwth yn Tachwedd 1847. Nid oedd yn meddu ar alluoedd meddyliol cryfion, a doniau poblogaidd ei ragflaenydd, etto parhaodd yr achos i fyned rhagddo dros holl ysbaid ei weinidogaeth. Wedi bod am dymor heb weinidog, rhoddwyd galwad i Mr Joseph Morris, myfyriwr o athrofa Coward, Llundain, ac urddwyd ef Hydref 3ydd, 1849. Bu Mr Morris yma yn dderbyniol a llwyddianus am yn agos i bymtheng mlynedd. Yn ei amser ef yr adeiladwyd yr addoldy helaeth a chyfleus sydd yma yn bresenol, yr hwn a agorwyd Hydref 4ydd a'r 5ed, 1859. Pregethwyd ar yr achlysur gan Meistri J. M. Evans, Trefgarn ; E. Lewis, Brynberian ; Caleb Morris, cynweinidog yr eglwys ; T. Davies, Llandilo ; R. Perkins, Maenclochog ; T. G. Stamper, Hwlffordd ; Henry Richard, yn awr yr aelod seneddol dros Ferthyr Tydfil, a W. Morris, Bryngwran, tad Mr Joseph Morris, gweinidog y lle. Casglwyd 220p. ar ddiwrnod yr agoriad, fel yr oedd y capel yn rhydd o ddyled cyn diwedd dydd ei agoriad. Wedi cyflawni ei weinidogaeth yma yn ffyddlon, yn 1864, derbyniodd Mr Morris alwad o Gapel Brunswick, Bristol, a symudodd yno, lle y mae etto yn dderbyniol a chymeradwy. Yn y flwyddyn 1865, rhoddwyd galwad i Mr John Morlais Jones, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Gorphenaf 4ydd, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur traddodwyd araeth ar natur eglwys gan Proff. Roberts, o Aberhonddu; holwyd y gofyniadau arferol gan Mr T. Dayies, Llanelli; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr J. Morris, Bristol; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr T. Jones, Llundain, ewythr yr urddedig, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr D. Rees, Llanelli. Llafuriodd Mr Jones yma yn ddiwyd am dair blynedd, nes y derbyniodd alwad o Lewisham, ac y symudodd yno. Rhoddwyd galwad ar ol hyn i Mr. D. Evans, Blaenafan, a chynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad Gorphenaf 4ydd, 1869, ac y mae Mr Evans yn parhau i lafurio yma. Gwelir fod tri o'r gweinidogion a urddwyd yma wedi ymgodi i gylchoedd eang a phwysig ar eu symudiad oddiyma, yr hyn a ddengys fod yr eglwys yn meddu craffder i weled dynion ieuaingc o gymhwysderau arbenig i'r weinidogaeth. Nid oes genym ddefnyddiau i wneyd cyfeiriad at y gwahanol bersonau a fu yn yr eglwys, na'r amgylchiadau neillduol yr aeth trwyddynt. Bu yma nifer fawr o bregethwyr yn derbyn addysg dan ofal Mr H. Davies, ond ofnwn nas gallwn gael rhestr gyflawn o'r rhai a godwyd i bregethu yma. Anfonwyd i ni y rhestr a ganlyn :

  • George Palmer Davies. Mab Mr Henry Davies, y gweinidog. Addysgwyd ef yn Homerton, Llundain, dan ofal Dr. Pye Smith ; ac y mae yn awr er's llawer o flynyddoedd yn oruchwyliwr i'r Fibl Gymdeithas yn Frankfort.

106  

  • J. G. Hughes. Dygwyd ef i fyny yn athrofa Airedale, ac y mae yn awr yn Maldon, Essex.
  • William Edward Morris. Y mae ef yn frawd i Mr. Joseph Morris, y gweinidog. Bu yn genhadwr yn India, ac y mae yn awr yn Market Harborough.
  • Maurice Phillips, yr hwn sydd yn awr yn genhadwr yn Tripatoor, India.
  • W. M. Howell, yr hwn sydd yn weinidog yn Frampton, Cotterell, Swydd Caerloyw.
  • J. Thomas. Cenhadwr yn Shanghai, China. Dichon fod eraill, ond dyma yr oll y cyrhaeddodd eu henwau hyd atom ni.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

CALEB MORRIS. Ganwyd ef mewn lle a elwir Parcyd, wrth odreu Moel Trigarn, yn mhlwyf Eglwyswen, Sir Benfro, Awst 5ed, 1800. Yr oedd ei rieni yn gysurus arnynt o ran eu hamgylchiadau bydol, ac oblegid hyny rhoddwyd iddo well addysg nag a roddwyd i'r rhan fwyaf o'i gyfoedion. Nid oedd ei ardal enedigol ond isel mewn gwybodaeth a moesau ar gychwyniad ei yrfa ef. Ychydig oedd o duedd mewn rhieni at roddi addysg i'w plant, ac nid oedd cyfleusderau yn gyrhaeddadwy rhai a fuasai yn dymuno gwneyd hyny.. Dan gosodd gwrthrych y cofnodion hyn duedd yn foreu at ddarllen, a myfyrio, a chasglu gwybodaeth, ac ni bu ond ychydig amser cyn diysbyddu yr holl lyfrau oedd o fewn ei gyrhaedd. Darllenodd Daith y Pererin pan nad oedd ond ieuangc, ac yr oedd gan lyfr o'r fath nodwedd swyn neillduol i'w feddwl effro a bywiog ef. Cafodd hefyd lawer o flas ar Esboniad Burkitt, ac o ddiffyg llyfrau eraill darllenodd y rhai hyn lawer gwaith. Wedi iddo fyned trwy yr ysgolion cyffredin yn ei ardal enedigol, anfonwyd ef i ysgol ramadegol barchus yn Aberteifi, yr hon a gedwid gan offeiriad, ond oblegid i'w athraw farw cyn hir symudwyd ef i ysgol gyffelyb yn Hwlffordd, Bwriad i rieni oedd ei ddwyn fyny yn y gyfraith, ac ymddengys fod gogwyddiad ynddo yntau at hyny, ond dyryswyd eu holl gynlluniau trwy i'r Arglwydd osod ei law arno, a dangos ei fod yn neillduedig ganddo o'r groth i'w wasanaethu yn efengyl ei Fab. Teimlodd argraffiadau dwysion ar i feddwl, y rhai a gynyrchwyd yn benaf trwy ymddiddanion crefyddol dyn duwiol a gydlettyai ag ef yn Hwlffordd. O hyny allan rhoddodd heibio bob meddwl am fyned yn gyfreithiwr, a dychwelodd adref i dy ei rieni, a derbyniwyd ef yn aelod cyflawn o'r eglwys yn Mhenygroes pan nad oedd ond pedair-ar-ddeg oed. Dangosodd yn fuan ei fod wedi dyfod i eglwys Dduw nid i fod yn segur, ond fod ynddo gymhwysder at waith, a chalon i weithio. Ymaflodd o ddifrif yn holl ddyledswyddau crefydd, ac er mwyn ychwanegu cyfleusderau addysg, sefydlodd gyfarfod i weddio ac egwyddori yn y Maesgwyn, lle y parha y bobl i gyfarfod er addysg ac adeiladaeth. Daeth ei gynydd yn fuan yn eglur i bawb, ac yr oedd eangder ei wybodaeth, gwresawgrwydd ei ysbryd, hylithrwydd ei ddawn, a dwysder ei deimladau yn argyhoeddi pawb ei fod yn llestr etholedig gan Dduw i wasanaeth yr efengyl. Darllen a myfyrio oedd ei brif hyfrydwch, a llawer gwaith y gwelwyd ef yn myned i  fynwent Penygroes yn nyfnder y nos i ddal cymdeithas a'r Arglwydd. Anogwyd ef gan ei weinidog, Mr. W. Evan, a chan yr eglwys i ddechreu pregethu, ac yr oedd yn amlwg arno y cynyg cyntaf a wnaeth mai nid un cyffredin a fyddai. Aeth i'r ysgol i Aberteifi er mwyn parotoi i fyned i'r

107

athrofa, ac yn y flwyddyn 1818, derbyniwyd ef i'r athrofa yn Nghaerfyrddin. Treuliodd yma bedair blynedd gan wneyd y defnydd goreu o'i amser, ac yr oedd yn barchus gan ei athraw, ac yn anwyl gan ei holl gydfyfyrwyr. Derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Narberth, ac urddwyd ef yno yn Ebrill, 1823. Yn ddioed wedi ei sefydliad yno, tynodd sylw y dref a'r wlad oddiamgylch, ac ymgasglai tyrfaoedd lluosog i wrando arno. Cyrhaeddodd y son am dano yn mhell, a thynai gynnulleidfaoedd mawrion ar i ol i ba le bynag yr elai. Yn 1827, derbyniodd alwad oddi wrth eglwys a chynnulleidfa Fetter Lane, Llundain, i fod yn gydweinidog a'r hybarch George Burder, a chydsyniodd a'r gwahoddiad. Bu yn cydlafurio a Mr. Burder hyd farwolaeth y gwr da hwnw, yna disgynodd y gofal yn gwbl arno ef. Yr oedd yn ymdeimlo yn ddwys a'r gofal a'r cyfrifoldeb oedd arno fel gweinidog eglwys barchus yn nghanol dinas Llundain, a mawr fyddai ei bryder i ddarparu yn deilwng ar gyfer y pulpud, ac y mae yn sicr i hyny effeithio yn fawr ar ei iechyd yn y dyfodol. Ond nid arbedodd ei hun, ac yn fuan ymgododd i restr flaenaf pregethwyr y brif ddinas. Yr oedd eglwys Fetter Lane cyn ei fynediad ef yno yn sefyll yn uchel ar gyfrif i pharchusrwydd, ei dealldwriaeth, a'i llafur crefyddol. Er fod yn y brif ddinas gynnulleidfaoedd lluosocach na hi, etto nid oedd yno yr un yn fwy cyfrifol. Tua phum, cant oedd rhifedi arferol y gynnulleidfa, o ba rai yr oedd tua thri chant yn aelodau, a phe buasai y capel yn ddigon i gynwys ychwaneg buasai y gynnulleidfa yn llawer lluosocach, ac arferid dyweyd, nad oedd yr un gynnulleidfa o'i maint yn Llundain a'i dylanwad yn fwy er daioni, nac yn barotach i bob gweithred dda. Yr oedd felly cyn sefydliad Mr. Morris yn eu plith, ac ni leihaodd ei defnyddioldeh ar ol ei sefydliad, cyhyd ag y parhaodd ei iechyd. Am yr wyth mlynedd cyntaf wedi ei sefydliad, yr oedd beunydd yn ymddyrchafu yn ei barch a'i boblogrwydd, a chyrchai dynion o bob dosbarth a gradd i wrando arno, ac yn eu plith luaws o'r dynion mwyaf dysgedig a meddylgar, er na chydsynient ag ef yn ei holl olygiadau. Byddai yn aml yn ystod y blynyddau hyny yn methu ymddangos yn ei bulpud y Sabboth. Yr oedd yn dyoddef oddiwrth wendid oedd ynddo yn gyfansoddiadol, ac oddiwrth yr hwn y bu ei fam yn dyoddef o'i flaen. Dichon y gallasai gyda dysgyblaeth foreuol briodol, a dylanwad gwraig a chyfrifoldeb teulu, gael symbylu o hono, ond ni chafodd y naill na'r hall, ond pawb i weini arno a chwyno iddo, aeth o'r diwedd yn hollol dan lywodraeth y gwaseidd dra meddyliol hwnw a'i hanghymwysai yn hollol at waith y pulpud. Yr oedd meddwl y buasai raid iddo bregethu yn ei lethu yn lan, ac effeithiai hyny ar ei holl ymysgaroedd Bu yn glaf iawn am dymor hir yn y flwyddyn 1835, a threuliodd y rhan fwyaf o'r flwyddyn hono yn ei ardal enedigol. Dychwelodd yn ol wedi derbyn adgyfnerthiad mawr, er nad wedi cwbl adferu. Ofnai ei gyfeillion, ac ofnai ef ei huuan yn y blynyddoedd hyny, fod ei dymor ar ben, a choffeir gan y rhai a arferent ei wrando yn yr adeg hono, fod y cyfeiriadau cynil a wnai at hyny yn ei weddiau yn mysg y pethau tyneraf a wrandawsant erioed. Ond er iddo gael ei adfer, etto yr oedd y mynych doriadau oedd ar ei weinidogaeth weithiau am fisoedd yn olynol, yn effeithio yn fawr ar ei gynnulleidfa. Yr oedd ansicrwydd hollol hyd yn nod boreu Sabboth pa un a bregethai ai peidio; a llawer gwaith y gwelwyd dynion yn troi ymaith o ddrws y capel wedi deall nad oedd ef yn pregethu. Gwelwyd ef lawer gwaith rhwng chwech a saith o'r gloch ar foreu Sabboth - ac yn amlach na hyny gwelid rhywun arall drosto yn

108  

cerdded heolydd Llundain i chwilio am ryw un i bregethu yn ei le, yr hwn a orfodid i edrych yn ngwyneb anfoddog i gynnulleidfa siomedig,  a gwelsom ef hyd yn nod yn disgyn o'r pulpud ar ol dechreu yr oedfa, ac yn anfon rhyw bregethwr i fyny i gyflawni y gwasanaeth yn i le, ac yntau yn dychwelyd i'w dy. O'r diwedd rhoddodd i fyny ofal yr eglwys yn Fetter Lane, at yr hon y teimlai yr anwyldeb mwyaf. Bu am ychydig yn gofalu am yr achos newydd oedd wedi ei gychwyn yn Eccleston Square, ond profodd hyny hefyd yn ormod i'w natur, fel y bu raid iddo roddi i fyny yn fuan. Ond y fath oedd ymlyniad nifer o'i bobl wrtho fel y cyrchent ato i'w "dyardrethol ei hun" i eistedd wrth ei draed ac i wrando ei eiriau ; ond torodd ei iechyd i fyny i'r fath raddau fel nas gallasai barhau y rhai hyny, a'r diwedd fu iddo ddyehwelyd i'w ardal enedigol, lle y treuliodd y than fwyaf o'r deuddeng mlynedd olaf o'i oes. Pregethai yn achlysurol ar ol ei ddychweliad i'w wlad, a pha bryd bynag y llwyddid i'w gael i'r pulpud, ac iddo anghofio ei afiechyd a'i bruddglwyfder, pregethai gyda nerth a dylanwad anarferol ; ac yr oedd ei weddiau yn yr adeg hono ar agoriad capeli, neu mewn urddiadau, mor nodedig ag yn unrhyw gyfnod yn ei fywyd. Cyrchai yn lled reolaidd i'r cyfarfodydd yn Mhenygroes, ac yn y cyfarfodydd gweddio a gynhelid ar nos Sabboth, os ceid ganddo ddarllen penod a dechreu ei hesbonio, cymerai i fyny agos yr holl amser, a gwledd i'r rhai fyddent bresenol oedd ei glywed. Yn haf 1865, aeth er mwyn ei iechyd i Gwbert, yn agos i Aberteifi, ac wedi mwynhau ei hun yno am dymor, cymerwyd ef yn glaf gan y dyfrglwyf, a dilynwyd hwnw gan clefyd melyn, fel yr analluogwyd ef i ddychwelyd adref ; a bu farw yno Gorphenaf 26ain, 1865, yn 65 oed. cymerwyd ei gorph oddiyno i'w gladdu yn mynwent Penygroes, lle yr oedd ei rieni wedi eu rhoddi i orphwys o'i flaen, a cherllaw y fan yr oedd yntau er's mwy na haner can mlynedd cyn hyny wedi rhoddi ei hunan i'r Arglwydd ac i'w bobl. Gweinyddwyd yn ngwasanaeth y claddedigaeth gan ei hoff gyfeillion Meistri E. Lewis, Brynberian; S. Evans, Hebron; D. Davies, Aberteifi, a J. Davies, Glandwr, ac yr oedd yno dorf luosog o'i gyfeillion a'i edmygwyr yn dystion o'r olygfa bruddaidd o roddi gweddillion marwol y " tywysog a'r gwr mawr," Caleb Morris, yn y bedd.

Gan fod Mr. Morris yn un o'r dynion enwocaf a fagodd ein cenedl ni, ac iddo gyrhaedd pohlogrwydd a dylanwad mawr yn ei oes. Y mae yn ddiau genym yr esgusoda ein darllenwyr ni am wneyd rhai crybwylliadau pellach am dano.

O ran y dyn oddiallan, yr oedd. Mr. Morris yn gydnerth a lluniaidd, a holl ranau ei gorph mewn cyfartaledd nodedig. Yr oedd yn lletach na'r cyffredin yn ei ysgwyddau, ac er nad oedd ond o daldra canolig, etto cyfrifasid ef yn yr olwg arno yn wr cadarn nerthol. Er nad oedd yn gyflym yn ei symudiadau, etto yr oedd hoewder yn ei holl ysgogiadau. Yr oedd ei wyneb yn llawn, ac yn grwn yn hytrach na hirgrwn, a holl linellau ei wynebpryd yn rheolaidd a boddhaus, ac yn fynegiant amlwg o garedigrwydd ei natur, er ar yr un pryd nid anhawdd oedd darllen ynddo ei dueddfryd at bruddglwyfder. Yr oedd ganddo lygaid duon, cyflym, a threiddiol, a phan y taflai dan iddynt, goleuant ei holl wynebpryd gan ei wisgo a rhyw ddysglaerdeb a osodai urddas a mawredigrwydd arno. Nid yn hawdd y gallasai llygaid ddisgyn ar gorph harddach na'r eiddo ef; ac yr oedd yn gwybod yn dda fod awdwr natur wedi ei gynysgaeddu a " daearol " oedd yn gwneyd llawer iawn drosto,

109

Yr oedd yn ddyn o alluoedd meddyliol cryf a galluog. Yr oedd felly yn naturiol. Mae yn wir i addysg, a diwylliant, a chymdeithasiad a meddyliau eraill, ac ymdroi mewn cylchoedd deallgar a gwrtithiedig, wneyd llawer i ddadblygu ei dalentau, ond yr oedd ef yn naturiol yn un o wir feibion athrylith. Dangosodd hyny yn foreu, fel yr edrychid arno gan ei gydnabod yn ddyn yn mysg bechgyn. Cydgyfarfyddai dwy elfen ynddo y rhai a welir yn foreu, ac a welir fynychaf gyda'u gilydd, yn y dynion y mae rhagluniaeth wedi eu rhagolygu i fod yn dywysogion y natur ddynol, hyny ydyw, y gallu i weled pethau fel y maent, a rhoddi portread llawn a manwl o honynt, a'r gallu i elfenu y pethau sydd, a mynu allan y rheswm paham y mae pethau fel y maent. Y cyntaf ydyw y bardd, a'r olaf ydyw yr athronydd. Er nad oedd Mr Morris yn fardd yn yr ystyr y deallir yr ymadrodd yn gyffredin, etto yr oedd barddoniaeth fyw yn ei holl natur, a llifai allan yn ei holl ymddiddanion. Dechreuodd y ddawn farddonol ddangos ei hun ynddo yn ei ffurf gyffredin, pan gyfansoddodd farwnad ar ol ei hen weinidog, Mr William Evan, ond buan y collodd y ffurf hono arni, ond yr oedd ynddo trwy ei oes mewn ffurf uwch; y ffurf a gymer agos bob amser mewn unigolion ac mewn cenedl fel y maent yn ymddyrchafu mewn gwareiddiad a diwylliant. Yr ydym yn cofio yn dda mai yn nhy perthynas iddo yn nghymydogaeth Penygroes y gwelsom ef gyntaf erioed. Yn haf 1843, yr oeddym yn myned gyda Mr Rees, Llanelli, i urddiadau Meistri E. Lewis yn Brynberian, ac S. Thomas yn Nhrefdraeth ; ac oblegid fod hen gydnabyddiaeth rhwng Mr Rees ac yntau, ar ol deall ei fod yno, trodd i edrych am dano. Yr oedd Mr Morris yn y ty, newydd ddychwelyd o ymweled a pherthynas agos iddo, yr hwn oedd yn glaf, ac yn agos i angau. Nid oedd y perthynas hwnw yn proffesu crefydd, ac yr oedd yn hawdd deall fod hyny yn gorphwys yn ddwfn ar feddwl Mr Morris; ond yr oedd ar ol ymddiddan ag ef wedi cael boddlonrwydd mawr ynddo ; ac meddai, "Yr 'ych ch'i yn Nghymru, Mr Rees, yn rhoi gormod o bwys ar broffesu, nes y mae llawer yn meddwl fod hyny yn ddigon o grefydd." "Rych ch'ithe' yn Lloegr," ebe Mr Rees, "yn rhoi rhy fach o bwys ar broffesu, nes y mae eich pobl wedi myn'd i gredu nad yw proffes yn ddim." Ac aeth y ddau i dipyn o ddadl ddiniwed, pa un o'r ddau eithafion oedd y mwyaf peryglus ; ac yn nglyn a rhywbeth a ddywedodd, cyfeiriodd Mr Morris at ryw ffynon fechan loyw a welodd y boreu hwnw, gyda'r ffrwd risialaidd a lifai allan o honi, a'r berw gleision a dyfai ar ei glanau; ac wrth ei darlunio, gollyngodd allan y fath ffrydlif o ymadroddion bywiog a barddonol, nes y tybiem ar y pryd ein bod yn gweled y cwbl yn bresenol o flaen ein llygaid. Yr oedd ei siarad oll yn farddoniaeth fyw. Mae yn wir mae yr elfen athronyddol oedd yr amlycaf o lawer yn ei feddwl, ond nid oblegid mai hono oedd y gryfaf ynddo yn naturiol, ond am mai hono a ddiwylliodd fwyaf, ac am mai hono a gymeradwyid gryfaf gan ei ddeall a'i farn ; ond yr oedd yr elfen farddonol yn dyfod i'r golwg ynddo yn barhaus, a hyny oedd yn rhoddi swyn a hyfrydwch ar bob peth a ddywedai. Duai yr awydd oedd ynddo i chwilio pob peth i'w hachosion, ac i fynu y rheswm am y cwbl, i'r golwg yn aml iawn yn ei ymddiddanion ac yn ei bregethau. Cyfansoddai ei bregethau mewn ffurf resymiadol, ac yr oedd yn hawdd deall ei fod wedi talu sylw mawr i bob peth a ddywedai, gan lumo ei ymadroddion yn y dull egluraf a chryfaf, gyda detholiad o'r geiriau goreu i'w amcan. Un cyfanwaith oedd pob pregeth iddo, ac yr oedd. yn rhaid ddilyn yn fanwl, a thalu sylw astud i bob rhan cyn gallesid eu gwerthfawrogi.  

110

 Yr oedd tuedd ddamcaniaethol cryf ynddo, a gwelid hyny weithiau yn ei bregethau ; er mai ychydig a ymyrai yn ei weinidogaeth a chwestiynau dyrus a dadleugar. Gallasai y duedd ddamcaniaethol yma oedd mor gryf ynddo i arwain i diroedd gwylltion amheuaeth, oni buasai ei fod dan lywodraeth teimladau crefyddol dwysion, ac yn ymdeimlo yn angerddol a phwysigrwydd gweinidogaeth yr efengyl fel cenadwri am fywyd pechadur. Yn i ymddiddanion personol a'i gyfeillion yr oedd yn fwy rhydd i ddatgan yr amheuon oedd yn codi yn i feddwl, ac i awgrymu rhyw ddamcaniaethau oedd ganddo, y rhai nad oeddynt yn cytuno a'r hyn a ystyrir yn athrawiaeth iachus. Nid ydym yn meddwl ei fod wedi colli ei ffydd yn hen wirioneddau yr efengyl; ond yr oedd eangder i feddwl a rhyddfrydigrwydd ei ysbryd yn pen nad oedd yn eu dal mor gaeth a'r cyffredinolrwydd o'r rhai a gyfrifir yn uniongred, ac yn neillduol nad oedd am roddi barn galed ar y rhai a synient yn wahanol iddo. Dichon er hyny ddarfod i'w waith yn awgrymu y golygiadau a gynygient eu hunain iddo, i ddynion ieuaingc, heb angder ei feddwl a helaethrwydd i wybodaeth ef, ac heb ei brofiad dwfn o ddylanwad crefydd bur ac ysbrydol, beri i rai o honynt gilio i dir mor bell oddiwrth wirioneddau pendant a diamheuol y Bibl, fel yr ydym yn sicr y buasai yn ddrwg iawn ganddo fod dim a awgrymodd yn gynil wedi bod mewn un modd yn achlysur i'w harwain i'r fath eithafion. Ynddo ef yr oedd hyny yn codi, mewn rhan fawr, oddiar ymchwil meddwl pur a chrefyddol, yn awyddus am wybod mwy am Dduw a'i lywodraeth, fel y gallasai synio yn uwch am dano, ac ymostwng yn llwyrach iddo; ond i feddyliau gwanach a llai crefyddol, yr oedd y damcaniaethau hyny yn cymeradwyo eu hunain yn benaf ar gyfrif eu newydd-deb. Dichon, ar yr un pryd, yr ychwanegasai lawer at ei gysur personol, yn gystal ag ar ei ddylanwad ar eraill, pe gallasai orphwys yn fwy tawel ar wirioneddau syml y Bibl, heb flino ei feddwl gyda thyb-osodiadau ar y rhai y mae yn anmhosibl cyrhaedd gwybodaeth. i sicrwydd,

Yr ydym eisioes wedi cyfeirio at gyflawnder a chyfoethogrwydd ei ymddiddanion. Nid oedd byth ball arno mewn cymdeithas, ac yr oedd ei gyfeillach yn wastad o duedd adeiladol. Nid oedd dim a fynai a man chwedlaua, ac yr oedd siarad ysgafn a digrifol yn llawn mor annerbyniol ganddo. Yr oedd ei ymadroddion bob amser yn " dda i adeiladu yn fuddiol, fel y paro ras i'r gwrandawyr." Bu am flynyddau yn arfer dyfod dros y Bwrdd Cynnulleidfaol i arholiadau athrofa Aberhonddu, ac nid anghofir tra y byddont byw gan y myfyrwyr oedd yno ar y pryd, ei ymddiddanion adeiladol a chrefyddol, a'r symbyliad a roddai iddynt i fod yn fwy egniol a diwyd i barotoi ar gyfer dyledswyddau pwysig y weinidogaeth oedd o'u blaen. Nid dysgu a gorchymyn yn swyddogol y byddai, ond yr oedd ganddo ryw allu nodedig i dynu pawb ato, a pheri iddynt deimlo mai ymddiddanion cyfeillgar oedd y cwbl, ac nid siars un yn honi uwchafiaeth arnynt. Yr unig anfantais a deimlai rhai yn i gyfeillach ydoedd, ei fad yn gorfaelu yr holl siarad iddo ei hun, fel nad oedd le iddynt hwy roddi gair i mewn ; ond i'r rhai a allasai fod yn hapus ar fod yn wrandawyr yn unig, yr oedd yn anmhosibl cad cyfeillach hyfrytach a mwy adeiladol na'r eiddo ef.

Daliodd ei gysylltiad a Chymru trwy holl flynyddoedd ei arosiad yn y brif-ddinas, ac ni welwyd dim arwydd arno erioed ei fod am wadu ei wlad, nac yn cywilyddio o'i genedl. Ac yn ei dymhor ef, nid oedd y Cymry yn adnabyddus yn Llundain, oddigerth gydag ychydig eithriadau, ond fel

111

casglwyr at gapeli dyledog, neu fel derbynwyr o'r trysorfeydd cynorthwyol, ac oblegid hyny. yr oedd y Saeson yn barod i edrych i lawr arnom. Cafodd ei gydwladwyr, yn Mr Morris y pryd hwnw, un a gydymdeimlai yn galonog a hwy yn eu holl amgylchiadau. Byddai yn barod i gymeradwyo achosion capeli dan feichiau o ddyled, ac nid eu cymeradwyo yn unig, ond eu cynorthwyo hefyd ; a gwyr llawer sydd etto yn fyw fod ei air a'i enw yn cyrhaedd yn mhell. Ni bu un Cymro erioed yn y weinidogaeth yn y brif-ddinas yn sefyll yn uwch nag ef yn yr ystyr hono; os bu yr un, yn wir, yn gyfartal iddo. Yn amgylchiadau symudiad yr athrofa o'r Drefnewydd i Aberhonddu, a phan y bygythiai rheolwyr y Bwrdd Cynnulleidfaol dynu eu cynorthwy yn ol, oddigerth cael gan eglwysi Cymru gymeryd rhan yn nghynaliaeth y sefydliad, bu ef nid yn unig yn gynghorwr doeth, ond hefyd yn ddadleuwr ffyddlon gyda rheolwyr y Bwrdd ar ran i enwad yn Nghymru. Nid oedd i bellder o Gymru - ac yn y dyddiau hyny ystyrid Llundain yn llawer pellach nag y gwnir yn ein dyddiau ni - mewn un modd yn oeri ei sel dros e genedl yn ol y cnawd. Ac nid yn unig yr oedd yn cadw i deimlad Cymreig, ond yr oedd hefyd yn cadw yr iaith Gymraeg yn bur a dilwgr, a phregethai ynddi yn syml a dirodres pa hryd bynag y deuai i'w wlad, os byddai ei iechyd a'i amgylchiadau yn caniatau.

Ond er yr holl ragoriaethau a berthynai iddo yn ei gysylltiadau personol ac anghyhoedd, etto yn ei gymeriad gweinidogaethol yr ennillodd iddo ei hun enw a phoblogrwydd. Yr oedd pob peth a wnai yn y pulpud yn dilwng ac urddasol. Darllenai yr ysgrythyrau yn eglur a phwysleisiol, gan " osod allan y synwyr fel y deallent wrth ddarllen." Yr oedd ei glywed ef yn darllen yn well na chlywed llawer yn esbonio. Yr oedd yn hawdd deall wrth wrando arno, i fod wedi talu sylw manwl i ystyr y geiriau, ac wedi myned i mewn i'w hysbryd. Eglurai yr hyn a ddarllenai wrth fyned yn mlaen ; a dywedir y byddai yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth yn Llundain, yn talu llawn cymaint o sylw i'r benod a ddarllenai a'r eglurhad arni, ag a wnai i'w bregeth. Nid sylwadau byrion, arwynebol, a wnai wrth ddarllen, ond amcanai ddyfod o hyd i wir ystyr y ddosran dan sylw, a chael gafael yn y gwirionedd neillduol a fyddai yn gorwedd ynddi; ac yna dangosai fel y byddai yr holl adran yn arweddu ar hwnw. Nid oedd yn bosibl lai na thimlo wrth e glywed yn esbonio, ei fod yn " ysgrifenydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd, ac yn dwyn allan o'i drysor bethau newydd a hen." Yn i weddiau yr oedd bob amser yn myned ei hunan, ac yn llwyddo i gymeryd y gynnulleidfa gydag ef, yn uniongyrchol i bresenoldeb Duw. Anaml y clywsom neb yn gweddio ag a barai i ni deimlo fod cymaint o addolgarwch o gylch ei gyflawniad. Yr oedd ei weddiau ar achosion cyhoeddus yn nodedig felly. Nid anghofiwn byth y weddi ddwys a offrymodd ar achlysur urddiad Mr Lewis, yn Brynberian. Rhaid i ni ddyweyd mai dyna y weddi urddiadol agosaf i ddyfod i fyny a'r syniad sydd genym o'r hyn a ddylai gweddi fod, o'r holl weddiau urddiadol a glywsom erioed. Nid oedd yno ddim twrf na thrwst - dim ffrydio giriau, nac plurais at fod yn ddoniol - dim o'r hyn a ystyrir gan lawer yn angenrheidiol i wneyd gweddi yn boblogaidd; ond ymddangosai i ni, fel archoffeiriad yn Tuned at Ddnw dros y gynnulleidfa, ac yn cyflwyno y gweinidog a'r eglwys iddo. Teimlem ar ol iddo derfynu os urddwyd neb erioed yn rheolaidd, fod Mr. Lewis wedi e urddo felly y boreu hwnw, a sicrhawyd ni gan y rhai oedd wedi cad mwy o fantais i'w adnabod  

112  

nag a gawsom ni, nad oedd y weddi hono yn eithriad i'w gyflawniadau cyffredin ar gyffelyb amgylchiadau.. Clywsom un a wrandawodd lawer arno yn Fetter Lane, yn dyweyd ei fod wedi teimlo lawer gwaith ar ol gorphen y weddi ar ddechreu yr oedfa, y buasai yn dda ganddo pe buasai yn gollwng y gynnulleidfa ar hyny.. Yr oedd darlleniad y benod wedi bod mor hapus, a'r esboniad arni mor gyflawn, a'r weddi mor ddifrifddwys, fel y byddai arno ofn mai disgyn a wnai yn y bregeth ; ond ar ol clywed y bregeth hyddai yn teimlo bob amser yn ddiolchgar na wnaed yn ol ddymuniad cyntaf. Y bregeth yn y diwedd fyddai coron yr holl wasanaeth. Dechreuai ei bregeth mewn llais isel, ond yn hyglyw dorf oll, gan siarad yn hytrach yn bruddaidd, mewn ton leddf gyda goslef gwynfanus. Pwysai fynychaf ar y pulpud, gan gadw ei lygaid yn sefydlog ar ei wrandawyr ; ac mor sicr a bod ei lygaid ef arnynt hwy, mynai eu llygaid hwythau arno yntau. Daliai ei afael ynddynt yn ddiollwng, ac fel yr oedd ganddo ef ddylanwad ar ei wrandawyr, yr oedd hefyd gan fynegiant llygaid ei wrandawyr ddylanwad grymus arno yntau. Ni chynygiai gyffroi ei wrandawyr trwy ei ysgogiadau corphorol, ond yn hytrach cadwai hwy rhag hyny, fel pe buasai yn ofni i gyffroadau o'r fathdynu eu sylw oddiwrth y gwirionedd a osodai o'u blaen, a pheri iddo golli i afael ynddynt. Amneidiai a'i law dde, ac estynai ei fraich allan yn achlysurol, a hyny fyddai agos ei holl ysgogiadau corphorol am y rhan gyntaf o'i bregeth. Egluro ac ymresymu ygwirionedd oedd ei ddull cyffredin ; ac er y byddai yn hawdd gwybod ei fod yn dra chydnabyddus yn yr ysgrythyrau, etto and oedd ei bregethau yn cael eu nodweddu gan ddifyniadau helaeth o honynt. Byddai ganddo yn achlysurol eglurhadau a chydmariaethau ; ac weithiau, ond yn anaml iawn, adroddai ryw hanesyn tarawiadol, a pha bryd bynag y gwnai hyny, yr oedd yn wastad yn fyr, i'r pwynt, ac yn cael ddyweyd yn dra effeithiol. Fel y byddai yn myned yn mlaen i ysbryd bwngc, troai i'r dde ac yna i'r aswy, a chyn hir, safai yn syth yn y pulpud ; ac yn yr adeg hono byddai golwg urddasol a thywysogaidd arno. Ciliai yn ol ryw droedfedd yn y pulpud, estynai ei ddwy fraich allan fel haner cylch, fflamiau ei lygaid duon treiddiol, dysgleiriai ei wynebpryd gan danbeidrwydd ei ysbryd, ac am ychydig eiliadau ffrydiai oddiwrtho ymadroddion grymus ac effeithiol, ond ymgadwai rhag rhwygo yr argae a gollwng y llifeiriant allan. Yr ymataliad hwnw ynddo a'i cadwodd rhag ymgodi i ddosbarth hlaenaf areithwyr ei oes. Pe gadawsai i'r gronfa angherddol oedd o'i fewn ruthro allan yn ddiatal, ac ar yr un pryd gadw meddiant perffaith oedd ganddo arno ei hun, buasai yn ddiameu yn un o'r pregethwyr mwyaf hyawdl ac anorchfygol a fagodd ein cenedl erioed. Ond daeth ei yrfa i'r terfyn, ac oblegid yr anhwyldeb corphorol a meddyliol oddiwrth y rhai y dyoddefodd, terfynodd ei ddefnyddioldeb cyhoeddus yn mhell cyn terfyniad ei oes. Bu farw heb fab i ddwyn ei enw, heb gyfrol i o'i waith drosglwyddo ei goffadwriaeth, ac heb eglwys i fod yn gofgolofn o'i lafur ; ond y mae yn byw yn serchiadau miloedd yn Nghymru a Lloegr, a'i enw yn barchus gan ganoedd na welsant ei wyneb yn ol y cnawd; a throsglwyddir gan lawer o dadau i'w plant, a chan eu plant i'w plant hwythau, yr enw anwyl - CALEB MORRIS.

HENRY DAVIES. Ganwyd ef yn mhlwyf Llanegwad, yn sir Gaerfyrddin, yn y fiwyddyn 1797. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Pantteg pan nad oedd ond ieuangc ; ac ar gais y gweinidog a'r eglwys yno dechreuodd bregethu cyn ei fod yn ugain oed. Derbyniwyd ef yn fyfyriwr

113

athrofa yn Nghaerfyrddin yn haf 1820, ac wedi treulio ei amser yno, a gwneyd mesur helaeth o gynydd mewn dysgeidiaeth, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwysi yn Rosemarket a Tier's Cross, Sir Benfro. Urddwyd ef yno Hydref 7fed, 1824, ac wedi llafurio yno am fwy na thair blynedd, derbyniodd alwad o'r Tabernacl, Narberth, i fod yn olynydd i Mr Caleb Morris. Llafuriodd Mr Davies gyda derbyniad a chymeradwyaeth yn Narberth am yn agos i bedair-blynedd-ar-bymtheg. Yr oedd yn ddyn hynaws a chyfeillgar, ac er nad oedd yn nodedig o boblogaidd fel pregethwr, etto yr oedd bob amser yn dderbyniol gan bob dosbarth o wrandawyr. Pregethai yn fyr a syml, ac yr oedd mor rhwydd yn y ddwy iaith a'u gilydd, yr hyn oedd yn wir angenrhidiol, gan ei fod yn pregethu yn Cymraeg a Saesonaeg bob Sabboth. Am flynyddoedd olaf ei oes, yr oedd yn gofalu am Bethesda mews cysylltiad a Narberth. Cadwodd drwy ei oes ysgol ramadegol, ac addysgwyd ganddo luaws mawr o fechgyn y wlad ar gyfer gwahanol alwedigaethau bywyd ; ac o bryd i bryd bu llawer o bregethwyr ieuaingc dan ei ofal yn parotoi i'r athrofeydd ; ac aeth llawer o'i ysgol yn uniongyrchol i'r weinidogaeth. Mae ei goffadwriaeth yn barchus ac anwyl gan y rhai a fu dan ei ofal; ac er nad ystyrient ef yn loyw a dysglaer fel ysgolhaig, yr oedd yn fedrus iawn i'w cymhwyso i fyned trwy y pethau hyny oedd yn angenrheidiol i'w gwybod er pasio yn llwyddianus trwy yr arholiadau. Yr oedd trwy ei oes wedi mwynhau iechyd da, ond daliwyd ef gan angau yn ddisymwth Tachwedd 4ydd, 1847, yn 50 oed.

Translation by Maureen Saycell (Jan 2009)

The first chapel was built here in 1817. We do not know if there was any form of worship in the area prior to that. It appears that many members of Henllan lived in the town and the surrounding area, but no record of any attempt to establish a cause. In 1818 a call was sent to Mr W H Lewis, a student at Carmarthen College, who was ordained on November 8th. Those officiating were Messrs D. Davies, Pantteg; W. Jones, Rhydybont; J. Phillips, Bethlehem ; H. George, Brynberian; J. Bulmer, Haverfordwest; W. Warlow, Milford; W. Griffiths, Glandwr; B. Evans, St. Florence; D. Peter, Carmarthen; J. Lloyd, Henllan ; T. Jones, Saron, and T. Harries, Pembroke. In the report of his ordination in Evangelical Magazine 1819, page 114 the following statement is made " The hand of providence is visible in the building of the chapel, forming the church and the ordination of the minister. There is a great optimism for success, and a lively spirit exhibited by one person who has singlehandedly taken on the responsibility for the cost of building as well as publicising the cause wherever he can gain support". We do not have the name of this person or any of those who established the cause. We believe that Mr Lewis' ordination and the opening of the chapel, named Tabernacl, took place at the same time. Mr Lewis' time here was short and there is no record of how the cause fared at that time. He moved to England and later published an English Biography of Mr Peter, Carmarthen. We have no further history worth noting, we have already mentioned him with Brynbiga, Monmouthshire. Towards the end of 1822 the church called Mr Caleb Morris, a student at Carmarthen College, who was ordained on April 2nd, 1823.  On the occasion Mr J. Bulmer, Haverfordwest, preached on the nature of a church and asked the usual questions, the ordination prayer was offered by Mr. W. Warlow of Milford ; a sermon on the duty of a minister was given by M. D. Peter, Carmarthen, and M. M Jones, Trelech, on the duty of a church. The congregation increased quickly after Mr Morris settled here and his singular talent caught the attention of the town and the surrounding area. He was here for only 4 years and moved to Fetter Lane, London in 1827.  Before the end of that year a call was sent to Mr Henry Davies who had recently been ordained at Tiers Cross and Rosemarket, his ministry began in 1828 and continued with respect until his sudden death in 1847. He did not have the intellectual quality or the charisma of his predecessor but the cause continued strongly throughout his time. Having been without a minister for some time a call was sent to Mr Joseph Morris, a student at Coward College, London, who was ordained October 3rd, 1849. Mr Morris remained here successfully for 15 years, and it was during this time that the current large and comfortable chapel was built. It was opened October 4th and 5th, 1859, those officiating :- Messrs J. M. Evans, Trefgarn ; E. Lewis, Brynberian ; Caleb Morris, a previous minister; T. Davies, Llandilo ; R. Perkins, Maenclochog ; T. G. Stamper, Haverfordwest ; Henry Richard, now M P for Merthyr Tydful, and W. Morris, Bryngwran, father of Mr Joseph Morris, the current minister. £220 was collected on the opening day and the chapel was debt free by the end of the day. Having been a faithful servant here Mr Morris accepted a call from Brunswick Chapel in Bristol in 1864. and remains there. In 1865 a call was sent to Mr John Morlais Jones, a student at Brecon College, who was ordained on July 4th that year. On the occasion a sermon on the nature of a church was given by Proff. Roberts, Brecon; Questions were asked by Mr T. Davies, Llanelli; the ordination prayer offered by  Mr J. Morris, Bristol;  Mr T. Jones, London,the uncle of the ordinant, gave a sermon on the duties of a minister, and on the duties of a church by Mr D. Rees, Llanelli. Mr Jones worked here for 3 years when he received a call from Lewisham, which he accepted. After this a call was sent to Mr Evans, Blaenafan, his induction took place on July 4th, 1869, he continues to serve here. As can be seen from the fact that 3 of the previous ministers went on to greater things this church had a good eye for young men of potential in their future ministry. We have no specific history of the people who have been exceptional in their devotion to this church, or of specific deeds. Many preachers received tuition here under Mr H Davies, but we have only these few listed :-

  • GEORGE PALMER DAVIES - son of Mr Henry Davies, minister - educated Homerton, London, with Dr. Pye Smith  - overseer with the Bibl Society in Franfort.
  • J G HUGHES - educated at Airedale - now in Maldon, Essex.
  • WILLIAM EDWARD MORRIS - brother of Mr. Joseph Morris, minister -was a missionary in India - now at Market Harborough.
  • MAURICE PHILLIPS -  now a missionary at Tripatoor, India.
  • W M HOWELLS -  minister at Frampton, Cotterell, Glouscester.
  • J THOMAS -  missionary in Shanghai, China.

BIOGRAPHICAL NOTES*

CALEB MORRIS - born Parcyd, Eglwyswen, Pembrokeshire on August 5th, 1800 - parents wealthy enough to afford good education, not commonly available at the time - sent to a Grammar School near Cardigan , then moved to Haverfordwest - originally intended to study Law but was touched by religion - his knowledge and evangelism were well known - Carmarthen College 1818 - ordained Narberth April 1823 - called Fetter Lane, London in 1827, joint ministry with the venerable George Burder - his sermons brought him to the premier list of preachers in London - congregation around 500 - 300 of whom were members - he drew many more from a cross section of the community - pressure affected his health - his mental state rendered him unfit to enter the pulpit - his condition wa severe during 1835 and he spent most of the year in his home parish - good recovery but continual lapses, sometimes months at a time, made his ministerial duty to the congregation difficult - uncertainty lessened the numbers attending - left Fetter Lane, took on Eccleston Square but that was also too much for him - eventually his health forced him to return home for the last 12 years of his life - continued to preach occasionally when he could control his depression - spent time in Gwbert, improved but then developed Dropsy and Jaundice - died in Gwbert July 26th 1865 age 65 years - buried at Penygroes - ministers officiating at a very large and very sad funeral were Messrs E. Lewis, Brynberian; S. Evans, Hebron; D. Davies, Aberteifi, and J. Davies, Glandwr.

HENRY DAVIES - born Llanegwad, Carmarthenshire, 1797 - Carmarthen College 1820 - ordained Tiers Cross and Rosemarket October 7th, 1824 - then to Narberth for 15 years - preached in English and Welsh - took on Bethesda for the last years of his life - kept a Grammar School throughout his life - educated many ministers as well as other professions - good health all his life, died suddenly November 4th, 1847, aged 50 years.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

LLANDILO

Y plwyf nesaf at Faenclochog yw Llandilo. Y mae achos Annibynol wedi cael ei sefydlu yma er dechreuad y ddeunawfed ganrif, os nad cyn hyny. Cangen o eglwys Henllan, Sir Gaerfyrddin, yr ystyrid eglwys Llandilo o'r cychwyniad hyd ddechreuad tymhor gweinidogaeth Mr Benjamin James, y gweinidog presenol ; a gweinidogion Henllan oedd y gweinidogion hyd nes i Mr Lloyd, oherwydd llesgedd, orfod rhoddi gofal y lle i fyny. Mae yn debygol, mai mewn anedd-dai y cedwid yr addoliad yma, cyn adeiladu y capel ; ond yn absenoldeb cofnodion ysgrifenedig, nis gellir dyfod o hyd i enwau un o'r anedd-dai hyny yn awr. Yn y flwyddyn 1714 yr adeiladwyd y capel cyntaf yma. Yr oedd hwnw yn sefyll ar ael bryn tua thri-chwarter milldir yn uwch i fyny na'r capel presenol. Mae yno fynwent, a lluaws o feddau, yn dangos hyd etto y fan yr arferai tadau gynt ymgynnull i addoli yr Arglwydd. Tua y flwyddyn 1786, pan yr oedd y capel wedi myned yn ddadfeiliedig iawn, barnwyd yn angenrheidiol adeiladu capel newydd. Gan fod y than luosocaf o'r aelodau yn byw yn Maenclochog, a rhai yn nes i lawr, yr oeddynt am adeiladu y capel newydd yn Maenclochog, fel y buasai yn fwy yn nghanol y boblogaeth. Ymddengys i hyny gael ei ganiatau unwaith, ac felly dechreuwyd adeiladu yn Maenclochog. Wedi cyfodi y muriau yn lled uchel, dywedodd Mr R. Morgans, Henllan, mewn cyfarfod eglwysig yn hen gapel Llandilo, nad oeddynt i fyned yn mlaen a'r capel yn Maenclochog, ond fod yn rhaid iddo gael ei adeiladu yn mhlwyf Llandilo. Dadleuai amryw eu bod eisioes wedi myned i ormod o draul gyda'r muriau i adael y gwaith heb ei orphen, end gan fod Mr. Morgans yn ddyn lled boeth ei dymer a phenderfynol, ni roddai i fyny, ac felly ymranodd yr eglwys, ac aeth y rhan luosocaf allan, gan ymffurfio yn eglwys Annibynol yn Maenclochog. Dyma ddechreuad ....................

Translation by Maureen Saycell (Jan 2009)

This is the next parish to Maenclochog. There has been an Independent cause here since the start of the Nineteenth Century, if not earlier. It is as a branch of Henllan, Carmarthenshire, that Llandilo has always been considered from the start until the current minister, Mr Benjamin James, took over, and it was always the ministers from Henllan, until Mr Lloyd gave up the care due to his health. It is likely that worship was held in houses until the chapel was built, but there are no written records. The first chapel was built in 1714. This stood on the top of the hill about 3/4 of a mile above the current chapel. There is still a cemetery there with many graves, witness to where the forefathers worshipped. Around 1786 it was decided that a new chapel was essential as the old one was falling to pieces. As most of the members lived in Maenclochog, and some further away, they wanted to build the chapel in Maenclochog, as it was more central. This appears to have been agreed and building started. With the walls to a fair height Mr R Morgans stated, at a church meeting in the old chapel, that the building must stop in Maenclochog and the chapel must be built in Llandilo Parish. Many argued that the expense already incurred was too high for the building to be abandoned. Mr Morgan would not give up and this resulted in a split within the church. The majority left to form a church at the old chapel in Maenclochog. William David, Broadmoor and Thomas Francis, an occasional preacher, were the leaders of the faction that moved from Llandilo to Maenclochog. These people followed every quarterly meeting for 4 years trying to gain admittance to the union, Mr Morgans, Henllan objected each time. Eventually at a meeting in Glandwr, someone stated that the people of Maenclochog had come to ask for admission and asked " What are we to do with them?". Mr Griffiths, Glandwr replied "What do you do with a bastard other than rear it?" So they were admitted. Later they appointed Mr Stephen Lloyd, Brynberian as their minister and they remained in the care of Brynberian until the death of Mr John Owen, This was not known to us when writing the history of Maenclochog.* (see addendum to Maenclochog for a partial explanation)

Although the majority of the church left in the split, those left with Mr Morgans had to shoulder the cost of building a new chapel as the old one was too dangerous to worship in safely. As the old chapel was in a sparsely populated area it was decided to build lower down near the Parish church. Worship continued there for 50 to 60 years. The current chapel is attractive and convenient, with a large cemetery encircling it, and is the third chapel for this old church, although it is called Llandilo it actually stands on the boundary of Llangolman parish.

After Mr Lloyd, Henllan, gave up the care here, Mr Benjamin James, from Neuaddlwyd College, was chosen and ordained in 1837. He is the current minister. The congregation is small, as it would be in a small sparsely populated area, but none the less, strong. We do not know of anyone raised to preach here beside Thomas Francis, who left for Maenclochog. Undoubtedly there must have been others since 1714.

* Letter Mr. Abednego Jenkins.

 

CONTINUED


( Gareth Hicks - 9 Jan 2009)