Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

 

Extracted  by Gareth Hicks from the CD published by Archive CD Books (Jan 2008) - with translation


Aberedw

(Vol 2, p 543)

" Mae y lle hwn yn cael i enw oddiwrth ymarllwysiad yr afonig Edw i'r Wy, tua phedair milldir islaw Llanfairmuallt. Dechreuwyd yr achos yn y 1le yma gan yr un personau ag a ddechreuodd yr achos yn Llanbadarnygareg. Tua yr un amser y dechreuwyd y ddau, a than yr un weinidogaeth y maent wedi bod o'u dechreuad hyd yn bresenol. Mewn anedd-dy y buwyd yn cadw y gwasanaeth yma o ddechreuad yr achos hyd o fewn blwyddyn yn ol. Yn y flwyddyn 1870, rhoddodd Mr. Thomas Thomas o'r Crown, Llanfairmuallt, ddarn o ardd a brynasai ef yma yn ddiweddar at adeiladu capel. Cynaliwyd yma gyfarfod ar yr achlysur o osod y gareg sylfaen. Mr. T. Thomas a gyflawnodd y ddefod o osod y gareg, ac anerchwyd y gwrandawyr ar yr achlysur gan Meistri Kilsby Jones, H. Jones, Caerfyrddin ; Dr. Rees, Abertawy; D. P. Davies, Llanfairmuallt, ac eraill. Mae y capel yn awr wedi cael ei orphen a'i agor, ac y mae yn addoldy bychan nodedig o dlws a chyfleus. Mae yma ac yn Llanbadarn leoedd gobeithiol iawn am achosion siriol pe gellid taro wrth weinidog cymhwys, ond byddai raid i'r neb a ddeuai yma fyw am rai blynyddau heb ymddibynu nemawr am ei gynaliaeth ar y bobl. Gyda bendith gellid cyfodi yma eglwysi cryfion yn raddol."

Translation by Maureen Saycell (Feb 2008)

 "This place gets it's name from the confluence of the smaller river Edw and the Wye, around four miles below Builth Wells. The cause was raised here by the same people as Llanbadarnygareg. The two were started around the same time, and have both been under the same ministry from the beginning. From the start services were held in a dwelling house, until a year ago. In 1870, Mr Thomas Thomas of the Crown, Builth Wells gave a part of a garden he had recently bought to build a chapel. A meeting was held on the occasion of laying the foundation stone. Mr T. Thomas ceremonially laid the stone and the people were addressed by Messrs Kilsby Jones, H. Jones, Carmarthen; Dr. Rees, Swansea; D. P. Davies, Builth Wells, and others. The chapel is now complete and is open, it is a very convenient and pretty house of worship. Both here and Llanbadarnygareg hold the promise of being cheerful causes if only a suitable minister could be found, but whoever comes here would need to be able to live independently of the support of the people for some years. The two churches could become very strong in time and with some grace."