GENUKI Home page

Carmarthenshire Carmarthenshire Contents Contents

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

From the CD published by Archive CD Books

Carmarthenshire section (Vol 3)

 

  Pages 351 - 364

 

See main project page

Chapels below;


Pages 351 - 364

Proof read by Deric John  (March 2008)

351

(Continued) Henllan

Mae amryw eraill a fagwyd yma wedi myned i'r weinidogaeth, ond gan mai nid yma y dechreuasant bregethu nid ydym yn crybwyll eu henwau yma.

Heblaw y pregethwyr a godwyd o honi, y mae llawer o leygwyr o enwogrwydd wedi bod yn yr eglwys hon o bryd i bryd. Mr. John Palmer, mab yr hen weinidog Mr. Henry Palmer, oedd seren ddyaglaer yn ei oes. Gwr pwyllog, doeth, a mwynaidd. Yr oedd yn meddu adnabyddiaeth ddwfn o'r natur ddynol, ac oblegid hyny yn neillduol o fedrus i lywodraethu dynion. Yr oedd yn Henuriad yn yr eglwys, a bu ei arafwch o wasanaeth mawr ar lawer achlysur. Gwr o ysbryd bywiog a thanllyd oedd Mr. Richard Morgans, y gweinidog, a phan y gwelai Mr. John Palmer ef yn rhedeg yn uchel dywedai air yn ei bryd, yr hwn yn

352

wastad a lonyddai ei ysbryd. Bu farw Ionawr laf, 1800, yn 86 oed. David John, Lan, oedd ddyn o ddylanwad mawr yn yr eglwys ac yn wlad. Yr oedd uwchlaw y rhan fwyaf o amaethwyr y wlad yn ei amgylchiadau bydol. Yr oedd Mr. John yn cadw milgi neu ddau, ac ymhyfrydai mewn treulio ambell ddarn diwrnod gyda boneddigion y wlad i ymlid ar ol ysgyfarnogod, ond nid oedd hyny mewn un modd yn ei ddarostwng yn ngolwg yr eglwys. Ceir y rheswm am hyny yn yr hanesyn canlynol : -  Un boreu galwodd Mr. Beynon, Trewern, heibio iddo gyda'i filgwn, a chymhellai Mr. John i wneyd brys i ddyfod i hela. Yr oedd Mr. John ar y pryd ar foreufwyd, a dywedodd wrth Mr. Beynon nad oedd dim brys y dalient ddigon cyn y nos; ac ychwanegodd ei fod ef yn myned i'r Hall i " gadw dyledswydd" gyda'i deulu, a bod croesaw iddo yntau ddyfod os gwelai yn dda. Cydsyniodd y boneddwr, a chafodd ei foddhau yn fawr yn yr addoliad. Gwyddai yn dda pa le i dynu y llinell, ac ymgadwai yn wastad rhag pob eithafion. Cafodd fyw i oedran teg, a bu farw yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau. Martin Sinclair oedd yn enedigol o Scotland, a daeth i'r wlad hon fel siopwr teithiol. Yr oedd wedi cael addysg dda yn ieuangc, yn rhagori yn ei wybodaeth gyffredinol, ac yn nodedig am grefyddolder ei ysbryd. Bu farw Tachwedd 12fed, 1812, yn 81 oed. John Morgan, Forge, oedd wr ac y mae ei enw yn berarogl yn yr eglwys etto. Yr oedd yn nodedig am ei gydwybodolrwydd. Bu yn ddiacon ffyddlon yn yr eglwys hon am chwe' blynedd ar hugain. Dygodd deulu lluosog o blant i fynu, y rhai yn eu hoes a lanwasant gylchoedd pwysig o ddefnyddioldeb ; ac y mae eu plant a phlant eu plant yn glynu yn ffyddlon wrth Dduw eu tadau. Mab iddo ef oedd Mr. D. Morgan, Forge, am yr hwn y crybwyllasom eisioes ; a merched iddo ef oedd Mrs. Williams, Pantffynon ; Mrs. Lloyd, Henllan; Mrs. Evans, Hebron; a Mrs. Griffiths, Castellgarw, yr unig un o'r teulu sydd yn aros. Bu farw Mehefin 6ed, 1826, yn 73 oed. Henry Palmer, mab John Palmer, a wasanaethodd swydd diacon yn yr eglwys am naw mlynedd ar hugain, a bu farw Mehefin 29ain, 1829, yn 74 oed. Yr oedd yn nodedig o heddychol a thangnefeddus, ac os deallai fod anghydfod rhwng rhyw ddau frawd ni orphwysai nes eu heddychu, ac yr oedd ei ostyngeiddrwydd ai addfwynder yn ei gymhwyso yn nodedig at hyny. Yr oedd James Lewis, Rhydty'rdu, yn engraifft nodedig o'r dyn da a'r diacon da wedi cydgyfarfod. Nis gallasai oddef gweled ty Dduw yn syrthio i wallymgeledd, ac os gwelai fod rhywbeth yn eisiau ar ddrws neu ffenestr ni orphwysai nes ei adgyweirio. Uchel Galfiniad ydoedd o ran ei olygiadau duwinyddol, a llawer o ddadleu a fu rhyngddo ef ag Evan Williams, Penybac, ynghylch y " Llyfr Glas," fel y gelwid Galwad Difrifol, gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair. Yr oedd dwy blaid yn yr eglwys ar bynciau y llyfr hwnw, ond nid oedd dim culni ac annghariad rhyngddynt. Nid oedd gwell cyfeillion yn yr eglwys nag Evan Williams a James Lewis. Bu yr olaf farw Tachwedd 9fed, 1824, yn 63 oed. Phillip James, Llwyncelyn, a neillduwyd yn ddiacon flwyddyn 1807, a chyflawnodd ei swydd gyda ffyddlondeb a doethineb nes enill iddo ei hun radd dda. Dygodd i fynu deulu lluosog, ond torwyd ef ymaith ar ganol eu magu. Bu farw Awst 30ain, 1817, yn 51 oed:

Cyfododd tri o'i feibion i'r weinidogaeth, at y rhai yr ydym eisioes wedi cyfeirio. Cafodd yr eglwys hon golled fawr yn marwolaeth y diacon ffyddlon D. R. Scourfield, Cilpost, yr hyn a gymerodd le Mawrth 23ain 1860, yn 48 oed. Un gwrol, ffyddlon, a didderbyn wyneb ydoedd.

353

Dywedai Napoleon fawr am dano ei hun "fod ei law yn nglyn a'i ben," gan olygu mai nid cynt y buasai cynllun yu cyfodi yn ei ben nad oedd ei law yn barod i'w gario allan. Gellir dyweyd yr un peth am Scourfield, ni chymerai ei rwystro gan lwfrdra nac ofn i gyflawni ei ddyledswyddau fel diacon. Collwyd un o'r dynion ieuaingc mwyaf rhagorol yn marwolaeth John Lloyd, mab Mr. Lloyd y gweinidog. Blodeuyn dynoliaeth ydoedd ; ond gwywodd yn angau Rhagfyr 8fed, 1849, yn 26 oed. Mae adgofion parchus yn y wlad a'r eglwys am Mr. Williams, Henllan, a'i frawd, D. Williams, Pantyffynon. Neillduwyd y ddau yn ddiaconiaid yn y flwyddyn 1817. Bu farw Mr. Williams, Pantyffynon, yr hwn oedd ddyn gweithgar a defnyddiol, pan ddechreuwyd adeiladu yr addoldy y tro diweddaf. Ofnid nas gallesid myned a'r gwaith yn mlaen wedi ei golli, ond rhoddodd Mr. Williams, Henllan, ei ysgwydd dano yn egniol. Yr oedd ganddo ddylanwad mawr yn yr eglwys, ac yr oedd yn ireiddio yn ei ysbryd hyd ei ddiwedd. Bu farw Mai 7fed, 1857, yn 86 oed. Evan Gibbon oedd ddyn hynod o ddefnyddiol yn yr eglwys, ac yr oedd yn un o'r engreifftiau goru mai nid cyfoeth ond defnyddioldeb sydd yn gosod anrhydedd ar ddyn. Bu farw Medi 1af, 1869, yn 79 oed. Yn Gorphenaf yr un flwyddyn hefyd bu farw William Evans, Cilawen, yn 47 oed. Ei dad, John Evans, hefyd oedd ddyn o feddwl craffus, ac o ysbryd caredig a heddychlawn. Neillduwyd y tad a'r mab i fod yn ddiaconiaid yn yr eglwys. Gallasem enwi llawer eraill a fuont yn ddefnyddiol yn eu dydd, ond gan nas gallwn grybwyll am bawb rhaid i ni dynu llinell yn rhywle. Mae hiliogaeth llawer o'r rhai fu wyr enwog gynt yn glynu yn ffyddlon wrth Dduw a'i dy ; er fod yn ddrwg genym ychwanegu fod crefydd wedi ei bwrw allan o rai o'r tai y cysegrwyd eu haelwydydd gan weddiau a dagrau y tadau. Bu yma lawer o wragedd rhinweddol, y rhai yr erys eu coffadwriaeth yn berarogl ; ac y mae plant llawer ohonynt wedi codi i'w galw yn wynfydedig ; ac y mae yr achos yma trwy ei holl hanes yn llawn mor ddyledus i wragedd crefyddol a rhinweddol, ac ydyw i ddynion deallgar a llafurus. Parhaed yr amddiffyn ar yr hen eglwys barchus sydd wedi bod yn famaeth dyner i genhedlaeth ar ol cenhedlaeth o blant Duw; ac na choller ohoni yr ysbryd efengylaidd sydd wedi bod ynddi bellach am ddau cant o flynyddoedd.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

STEPHEN HUGHES. Mae yn llawn mor briodol i ni wneyd cofnodiad byr am y dyn rhinweddol hwn yn nglyn a'r eglwys hon ag yn un man arall. Mae ei enw yn gysylltiedig a'r rhan fwyaf o'r eglwysi hynaf yn y sir, ac a rhai eglwysi yn sir Forganwg. Ganwyd ef yn Nghaerfyrddin tua'r flwyddyn 1623, neu gall fod flwyddyn nu ddwy yn foreuach. Nid oes dim o hanes ei ddyddiau boreuol ar gael, ond dygwyd ef i fyny i'r offeiriadaeth, a phenodwyd ef i fywioliaeth Meidrym, heb fod yn nepell o Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1645. Gellir casglu oddiwrth gyfeiriad yn Nghanwyll y Cymry ei fod yn gwasanaethu eglwys Merthyr, gerllaw Caerfyrddin, mewn cysylltiad a Meidrym. Llafuriodd lawer hefyd i bregethu y tuallan (sic) i'r eglwysi plwyfol, yr oedd amryw gymdeithasau crefyddol wedi eu casglu trwy ei ymdrechion mor foreu a'r flwyddyn 1650. Ffrwyth ei lafur ef yn benaf oedd yr eglwysi ffurfiwyd yn Mhencadair, Capel Isaac,

354  

Pantteg, Llanedi, Caerfyrddin, Llanybri, Henllan, a Threlech, a bu yn gwylio dros y rhan fwyaf o honynt. Bydd genym ffeithiau dyddorol i'w cofnodi am dano yn nglyn a rhai o'r eglwysi uchod. Bwriwyd ef allan o fywioliaeth Meidrym gan Ddeddf Unffurfiaeth 1662, ac o hyny allan ymroddodd yn egniol i wasanaethu yr eglwysi a sefydlesid ganddo, ac ymestynodd derfynau ei lafur i siroedd eraill. Yn fuan wedi ei fwrw allan o fywioliaeth Midrym priododd wraig grefyddol o Abertawy, a symudodd yno i fyw ; a chan fod ganddi yehydig o dda y byd hwn, a'i bod yn ddiwyd a chynil, bu hyny o gynorthwy mawr iddo i gyflawni ei weinidogaeth. Cyrchai yn rbeolaidd i ymweled a phobl ei ofal er pelled ei ffordd oddiwrthynt, ac enillodd ei ymroddiad a'i lafur iddo y cyfenwad anrhydeddus o " Apostol sir Gaerfyrddin." Ymddengys mai ei brif ragoriaethau fel pregethwr oedd eglurdeb, difrifwch, a hynawsedd. Pregethai yn eglur a threfnus mewn iaith sathredig, a thrwy gydmariaethau syml; ac anaml  pregethai heb wylo, yr hyn hefyd a effeithiai yn ddwys ar ei wrandawyr. Ymarferol oedd nodwedd ei bregethau, ac er ei fod yn gwbl efengylaidd ei athrawiaeth, etto nid oedd mor uchel yn ei Galfiniaeth a rhai o'i gydoeswr. Dichon mai i'w foneddigiddrwydd a chymedroldeb ei olygiadau y gellir priodoli y ffafr a roddid iddo gan bob dosbarth, ac iddo ddiangc heb gyfarfod a chymaint o erlidiau a rhai o'i frodyr ; er na ddiangodd yntau heb weled gwaethaf rhai o genhedlaeth erlidgar y dyddiau hyny. Cyhoeddwyd dedfryd Eglwysig arno, a thraddodwyd  ef i gell afiach yn ngharchar Caerfyrddin, yr hyn a effeithiodd yn fawr ar ei iechyd; ond trefnodd Rhagluniaeth ymwared iddo mewn modd annisgwyliadwy. Nis gwyddom pa fodd, ac nid yw ond ofer i ni geisio dyfalu.

Yr oedd yn noddwr tyner a charedig i ddynion ieuaingc. Cafodd James Owens, Croesoswallt ; William Evans, Caerfyrddin; Daniel Phillips, Pwllheli; Owen Davies, Henllan ; David Penry, Llanedi, ac eraill, ef fel tad iddynt. Yn y flwyddyn y bu farw, urddwyd deuddeg o ddynion ieuaingc i'r weinidogaeth, y rhan fwyaf o ba rai a ddygwyd i fyny o dan ei ofal tadol.

Ond dichon er y cwbl mai yn ei lafur llenyddol y rhagorodd yn benaf. Bu yn ymdrechgar nid yn unig mewn cynghori, rhybuddio, pregethu, a chasglu eglwysi, ond cyhoeddodd luaws mawr o lyfrau Cymraeg, rhai yn wreiddiol, a rhai yn gyfieithiadau. Cyhoeddodd ddau argraphiad o Gan- iadau " Hen Ficar Llanymddyfri," sef Canwyll y Cymry. Nid yw yn gwbl hysbys pwy gyhoeddodd yr argraphiad cyntaf o hono. Bernir gan lawer mai Stephen Hughes a'i cyhoeddodd gyntaf ; ond tueddir ni i feddwl, oddiwrth awgrym a roddir gan Mr. Hughes yn Rhagymadrodd ei argraphiad ef o hono, yn y flwyddyn 1671, yr hwn sydd yn awr ger ein bron, mai un Evan Pugh, o Landingat, a'i cyhoeddodd gyntaf. Dyma eiriau Mr. Hughes ei hunan, - ' Da y gwnai y sawl sydd a llyfr penaf yr awdwr (ag a gollwyd, fel y tybir, yn amser y rhyfel yn sir Frycheiniog), neu ddim pethau ereill o'i waith, i'w rhoddi hwynt i'r neb a fyddai ofalus i osod  fath ganwyll mewn canwyllbren i oleuo yr holl wlad, fel y darfu i Mr. Evan Pugh, o Landingat, wneuthur, o ba herwydd mae nid yn unig myfi, ond holl Gymru, yn rhwymedig iddo.' Cyhoeddwyd yr argraphiad cyntaf o Ganwyll y Cymry' yn 1646. Meddwl yr ydym mai fel hyn yr oedd y wynebddalen : - ' Canwyll y Cymry, &c. Gan Rhys Pritchard, Ficer Llan Amddyfrwys (sic) yn Neheubarth.' Llyfr wythblyg ydoedd. Tebyg mai argraphiadau Stephen Hughes oedd 'Y drydedd ran o waith Mr. Rees

355

Prichard, gynt Ficer Llanymddyfri, yn sir Gaerfyrddin, gyda Llythyr at Plwyfolion Llanddyfri (sic), Llanfair a'r Brin, a Llanedi, yn sir Gaerfyrddin, a Llythyr at y Cymru a ddarllenant y llyfr hwn, ynghyd ag ymholiad beunyddiol Esgob Usher, a'r llall o waith S. Bernard.' 8 plyg. Llundain; neu 'Canwyll y Cymru - yn bedair rhan,' 8 plyg. Llundain. 1672, a 'Canwyll y Cymru,' &c. Llundain. 1681. Yn yr un flwyddyn hefyd y cyhoeddwyd 'Adroddiad cywir o'r pethau penaf ar a wnaeth ac a ddywedodd Yspryd aflan yn Mascon yn Burgundy, &c. Gan Francis Peraud. Wedi ei gyfieithu yn Gymraeg gan Stephen Hughes o Abertawe.' 8 plyg. Llundain. Nid oes odid Ganwyll, oddieithr yr un a oleuodd Duw ei hun, wedi bod mor wasanaethgar i oleuo y genedl a Chanwyll y Ficer.' Llewyrchodd braidd yn mbob teulu drwy Gymru. Cyneuwyd hi yn nos dywyll anwybodaeth, pan oedd y fagddu goelgrefyddol yn gorchuddio y wlad ; ymddangosodd fel 'seren forau' wedi hir nos oer a thywyll, gan ragarwyddo fod y dydd gerllaw ; a rhodiodd llawer yn ei goleuni yn llwybrau gorchymynion a deddfau yr Arglwydd. Yr 'Hen Ficer' oleuodd y ganwyll; gosodedd Stephen Hughes hi mewn canwyllbren ddwywaith o leiaf, fel y goleuodd holl Gymru. Yn Rhagymadrodd y cyhoeddiad y cyfeiriasom ato a wnaeth Stephen Hughes yn y flwyddyn 1671, y mae yn anerch y darllenydd yn syml, dirodres, a chymhwysiadol. Gesyd i lawr yr athrawiaethau cynwysedig yn y llyfr, y dyledswyddau angenrheidiol i'w cyflawni, yn nghyd a chyfarwyddiadau pa fodd i'w ddarllen er derbyn lleshad. Ymddengys i ni yn gwbl 'iachus yn y ffydd.' A dilynir y Rhagymadrodd a chynghor i'r Llyfr gan Stephen Hughes, mewn pedwar ugain a saith o benillion ar yr un mesur a chaniadau yr 'Hen Ficer;' ac y mae wedi cyfranogi i fesur helaeth o'i ysbryd a'i awen, a gallwn ei olygu yn brydydd medrus o urdd yr Hen Ficer.' Bydd enw y ddau yn cael eu trosglwyddo gyda eu gilydd i oesau dyfodol, a darllenir hwy yn ngoleu Canwyll y Cymry.' Synwyd ni yn fawr, ychydig amser yn ol, wrth ddarllen  ysgrif ar yr Hen Ficer,' pan na chawsom grybwylliad am wasanaeth Stephen Hughes yn ngoleuad y Ganwyll, oblegid cynwysa ei argraphiadau ef ddiwygiadau neillduol ynddo ; cywirodd lawer o ymadroddion, a gwnaeth y llyfr yn eglurach a chyfaddasach i ddeall ac amgyffredion y genedl yn yr oes dywyll  hono. Heblaw hyny, cyhoeddodd 'Galwad i'r Annychwledig,' gan Baxter; 'Yn awr neu Byth,' gan yr un, wedi i gyfieithu gan Richard Jones o Ddinbech; 'Traethawd ar Droedigaeth,' gan Joseph Alleine ; 'Eglurhad ar Weddi yr Arglwydd,' gan Perkins, o gyfieithad R. Holland ; 'Y Llwybr Hyffordd i'r Nefoedd ;' 'Llyfr yr ymarfer i Dduwioldeb,' gan Lewis Baily, Esgob Bangor. Mr. Robert LIwyd, Ficer y Waun, a gyfieithodd y Llwybr Hyffordd,' a Rowland Fychan, o Gaergai, yn agos i'r Bala, a gyfieithodd Llyfr yr ymarfer i dduwioldeb ;' (gwel Gwyliedydd, Cyf. IV. tudal. 247.) Nid yw yn debyg iddo gyfieithu yr un o'r  llyfrau uchod ei hunan ; ond cyhoeddodd hwynt oll, gyda llawer yn ychwaneg. Yr oedd yr holl lyfrau a gyhoeddodd o duedd i egwyddori a moesoli y genedl, a rhai o honynt yn dra chynhyrfus a chymhwysiadol at feddyliau a chydwybodau pechaduraid anystyriol.

"Bu o wasanaeth pwysig i'w genedl, mewn cysylltiad a'r dyngarol a'r rhinweddol Thomas Gouge, i ddwyn allan ddau argraffiad o'r Bibl. Mae y gwr rhagorol hwn yn deilwng o goffa bendigaid gan y Cymry. Dygwyd ef i fyny yn Rhydychain ; bu yn weinidog yn Llundain am bedair blynedd

356

ar hugain. Dywedir nad oedd ganddo ond 200p. y flwyddyn wadi marwolaeth ei wraig, a rhoddai 100p. allan o hyny bob blwyddyn at weithredoedd o gariad ac elusen. Cyfyngodd ei garedigrwydd dros y deng mlynedd diweddaf o'i oes yn hollol i Gymru. Teithiai drwy y wlad ei hun pan rhwng tri ugain a thri ugain a deg oed, er dosbarthu yr arian rhwng gweinidogion llafurus oedd mewn trallod ac angen. Sefydlodd yn nhrefydd Cymru o dri i bedwar cant o ysgolion i addysgu plant i ddarllen, ac ymrwymodd i dalu am ddysgeidiaeth cant ei hunan. Efe fu y prif offeryn i ffurfio cymdeithas o foneddigion haelfrydig yn Lloegr, i'r dyben i gyfrann tuag at argraphu a gwasgaru llyfrau crefyddol i Gymru. Rhoddwyd y flwyddyn 1675, 30 o Feiblau, a 140 o Destamentau Cymreig, yr oll oedd i'w cael yn Llundain a Chymru ar werth. Stephen Hughes oedd un o brif gynghorwyr y gymdeithas yn Nghymru, fel cyfaill ffyddlon  Mr. Gouge, gyda golwg ar ddosbarthu yr arian yn mysg y personau cymhwysaf i'r gwaith, a mwyaf angenus eu hamgylchiadau. A dygodd Mr. Hughes a Mr. Gouge mewn cysylltiad a gilydd, allan o'r wasg ddau argraphiad o'r Beibl Cymraeg, a diwygiodd lawer o wallau oedd yn y tri argraphiad blaenorol. Mae ei orgraph ar attaliadau yn gywirach nag un o'i flaenafiaid. Gwelodd ddau argraphiad o hono allan, y rhai a gynwysent yn nghylch dunaw mil o gopiau. Rhaid fod llafur y dynion hyn wedi bod yn fawn dros ben ; oblegid cyn eu hawser hwy, nid oedd ond ychydig o'r bobl a allasent ddarllen. Yr oeddynt yn Ninefeaid mewn gwybodaeth, heb wybod rhagor rhwng eu llaw ddeau a'u llaw aswy mewn ystyr grefyddol. Rhoddai yr Hen Ficer' ddarlun o'u hanwybodaeth yr oes flaenorol, -

'Pob merch tincer gyda'r Saeson,
Fedr ddarllen llyfrau mawrion;
Ni wyr merched llawer squier
Gyda ninau ddarllen pader.

Gw'radwydd tost sydd i'r Brytaniaid,
Eu bod mewn crefydd mor ddyeithriaid ;
Ac na wyr y ganfed ddarllen
Llyfr Duw yn eu hiaith eu hunain.'

Gwnaeth Stephen Hughes ei ran i gael hyn oddiamgylch. Ymroddodd i waith ei oes ; 'treuliodd ac ymdreuliodd' yn ngwasanaeth ei wlad, ei genedl, ei grefydd, a'i Dduw. Ei fwyd a'i ddiod oedd gwneuthur ewyllus ei Arglwydd ;' ac nid anghofiwyd ei ' lafurus gariad,' oblegid ni bu lafur yn ofer yn yr Arglwydd.' Y mae ol ei law, ac ol llaw Duw drwyddo, ar Gymru hyd heddyw. Y tadau a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i'w llafur hwynt.''*

Effeithiodd ei lafur caled nes anmharu ei iechyd, a byrhau ei ddyddiau. Amlygai ddymuniad cryf am i'r Arglwydd gadw ei synwyrau rhag ddyrysu yn ngwyneb angau, fel na ddiferai yr un gair anheilwng o grefydd dros ei wefusau. Dywedai yn aml " Arglwydd cadw ni yn ngwasgfa marwolaeth, ac na fydded i ni gael ein gadael i ni ein hunain i'th ddianrhydeddu di yn ein mynudau olaf.' Cafodd ei waredu rhag yr hyn a ofnodd. Yr oedd ei synwyrau ganddo yn berffaith. Cafodd hamdden i drefnu ei dy, a chynghori swyddogion yr eglwysi dan ei ofal, ac wedi eu gorchymyn hwy a'i deulu i ras Duw, hunodd yn yr Iesu rywbryd  yn y flwyddyn 1688, yn 65 oed. Cleddwyd ef yn mynwent eglwys Ifan (neu Ioan), Abertawy, ond nid oes cymaint a "chareg arw a dwy lythyren" arno

*Adolygydd, Cyf. I. tudal. 427. " Stephen Hughes a'i amserau."

357

i'w gweled i ddynodi y fan, and y mae ei lwch dan warcheidwaeth ddwyfol hyd y boreu y cyfyd yn anllygredig, i ddysgleirio fel yr haul byth ac yn dragywydd.

DAVID LEWIS, o Gynwil, fel ei gelwid. Nid oes genym sicrwydd am amser ei ddyfodiad yma nac am adeg ei farwolaeth. Daeth yma rywbryd wedi y flwyddyn 1691, a bu farw cyn y flwyddyn 1705. Efe oedd y gweinidog yn 1697 pan adeiladwyd y capel cyntaf. Fel hyn yr ysgrifena Mr. Mathias Maurice am dano tua'r flwyddyn 1726. " Y mae yn awr uwchlaw ugain mlynedd er y galwodd Duw i ogoniant ei wasanaethwr anwyl, Mr. Dafydd Lewis, o Gynwil. Gwr o ysbryd araf a gwerthfawr, yr hwn dan lawer o ddysg a duwioldeb, mewn modd cyson a bregethai gariad tragywyddol a Gras anfeidrol Duw i'r holl etholedig ; cyflawnider Crist ar eu rhan, cyfiawnder Crist yn gyfrifedig iddynt, yn nghyd a gwaith effeithiol yr Ysbryd Glan arnynt i bob duwioldeb a dyddanwch. Ei athrawiaeth a ddefnynai fel gwlaw, a'i ymadrodd fel gwlith ; a derbyniodd ein heneidiau rai dyferiod trwy ras. O'm rhan fy hun, yn neillduol ei bregeth ar y perl gwerthfawr yn y Tynewydd, yn Henllan, a'i bregeth ar Col. ii. 7, yn y Pal, y mae fy enaid trwy drugaredd yn eu profi yn bresenol. Pan y galwodd Duw ef i'r nefoedd gwan a gwael oeddwn ; wylais yn chwerw dost, a thybiais dan arswyd ddarfod am achos Crist yn Nghymru. Mor ynfyd oeddwn ac heb wybod. Etto, ar ol ychydig amser, gwnaeth Crist i mi ac amryw eraill wybod mai efe sydd yn byw byth, a gallu ganddo i gwbl iachau. Mewn tiriondeb torodd i mewn ar ein tywyllwch yn fwy fwy trwy ei Ysbryd, ac ymdaenodd goleuni efengylaidd mewn mesur trwy ein heneidiau pan ddechreuodd Duw mewn modd neillduol arddel gweinidogaeth Lewis Thomas er ein cynydd."

DAVID JOHN OWEN. Mab y Bryn, Abernant, ydoedd, a brawd hynaf yr enwog James Owen, Croesoswallt. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1641. Nid ydym yn gwybod dim am ei hanes boreuol. Yr oedd yn byw yn Pwllhwyaid, ac yn gweinidogaethu i'r eglwys yn Henllan o'i sefydliad yno hyd Hydref 7fed, 1710, pryd y bu farw yn 59 oed. Yn ei dymor ef y bu y ddadl hirfaith yn eglwys Henllan, yr hon a derfynodd yn ymadawiad nifer o'r aelodau i ddechreu yr achos yn Rhydyceisiaid. Yr oedd Mr. Owen yn rhy ryddfrydol yn ol barn rhan o'r eglwys ar drefn yr efengyl, ac yn coledd golygiadau o duedd Arminaidd ; ac y mae yn eglur ei fod yn gogwyddo at Henaduriaeth yn ei syniadau ar ffurflywodraeth eglwysig. Gellir casglu oddiwrth y bregeth a draddododd yn cyhoeddi barnau dychrynllyd uwchben ei wrthwynebwyr yn y ddadl, ar eu diarddeliad, ei fod yn ddyn o ysbryd gwrol a thanllyd, ac yn tueddu at fod yn eithafol. Yr oedd yn nghanol ei ddyddiau pan urddwyd ef, os na bu yn gweinidogaethu yn rhywle cyn dyfod i Henllan, am yr hyn nid oes genym ddim sicrwydd.

JEREMIAH OWEN. Mab oedd of i Mr. D. J. Owen, Pwllhwyaid. Mae ei ddyddiau boreuol yn hollol anhysbys i ni. Yr oedd gyda'i ewythr, Mr. James Owen, dan addysg yn y blynyddoedd 1704 a 1705. Dewiswyd ef yn olynydd i'w dad yn Henllan, yn y flwyddyn 1710, yr hyn a barodd ail ymraniad. Bu yno hyd yn agos i'r flwyddyn 1715. Yr oedd yn ddyn dysgedig a thalentog, ac yn un o ysgrifenwyr mwyaf clasurol Cymru. Cyfrifid ef gan Dr. William Owen Pughe yn awdurdod uchel, a rhydd lawer o ddifyniadau o'i ysgrifeniadau yn ei eiriadur. Tymor cymylog a niwlog fu ei dymor yn Henllan, ac y mae yn eglur ei fod wedi syrthio i

358

ryw ddirywiad mawr, er nas gallwn gael allan beth oedd ei bechod. Yn y flwyddyn 1732 cyhoeddodd amddiffyniad i eglwys Henllan mewn atebiad i'r hyn a gyhoeddasai Mr. Mathias Maurice. Mae yn cymeryd plaid eglwys Henllan yn ngwyneb y cyhuddiad a ddygid yn ei herbyn, ei bod yn esgeulus yn ei dysgyblaeth; ac er gwrthbrofi hyny y mae yn cyfeirio at ei hanes ei hun. Rhoddwn yma yn llawn, yn ei eiriau ef ei hun ei adroddiad o hanes ei ddirywiad a'i gwymp.

(Not extracted)

359

Mae ein darllenwyr yn awr mewn cystal cyfle a ninau i ddyfalu beth oedd ei bechod, er fod yn anhawdd gwneyd hyny allan i sicrwydd. Nid

360

oes genym ond ychydig wybodaeth am dano ar ol hyn. Yn y flwyddyn 1718 yr oedd yn Llundain yn ysgolfeistr, ac, yn bregethwr achlysurol. Yr oedd yn Petworth a Mackham Sussex, o'r flwyddyn 1721 hyd 1726, ac yn Barnet o'r flwyddyn 1826 (sic 1726?)hyd 1832 (sic 1732?), ac yn Princes Risborough, Bucks), o'r flwyddyn 1733 hyd, 1744; ac yna yr ydym  colli golwg arno. Nid yr un ydoedd a Mr, Owen o Rochdale, fel y dywedir yn History of Nonconformity, tudal. 324. Josiah Owen oedd Mr. Owen o Rochdale, ac yr oedd yn llawer ieuengach dyn na Jeremiah Owen. Yr oedd Josiah Owen yn fyfyriwr yn Athrofa Caerfyrddin, o dan Mr. Perrot, yn, y blynyddoedd o 1725 hyd 1730. Sefydlodd yn Bridgnorth, sir,Amwythig, yn 1733, a bu yno hyd tua 1739, pryd y symudodd i Rochdale, ac yr ydym yn ei gael yno hyd y flwyddyn 1751, pryd y collwn ein golwg arno. * Bernir mai un o'r un teulu ydoedd ond ei fod yn perthyn i gangen ieuengach o hono. Gresyn mawr i'r fath gwmwl orchuddio dyn o dalentau dysglaer Jeremiah Owen; ac iddo dreulio gweddill ei oes mewn dinodedd cymharol, a'i ddiwedd i ni wedi ei amgau mewn tywyllwch.

JOHN PUGHE. Nid oes genym ddim i'w ychwanegu at yr hyn a ysgrifenasom eisioes yn hanes yr eglwys.

HENRY PALMER: Ganwyd ef yn y flwyddyn 1672, mewn amaethdy a elwir Llwyndrysni. Yr oedd yn aelod gwreiddiol yn Henllan cyn yr ymraniad yn 1705. Cymerai ran arbenig yn y ddadl, ac aeth allan gyda'r blaid Annibynol a Chalfinaidd i ddechreu yr achos yn Rhydyceisiaid; ac yno gwnaed ef yn henuriad. Yr oedd yn ddyn hynaws a boneddigaidd, ac enillodd yn fuan serch ei gyfeillion yn Henllan fel y cyfanwyd y rhwyg a wnaed trwy yr ymraniad. Cafodd Mr. Palmer alwad gan ei fameglwys, ac urddwyd ef yn Henllan yn y flwyddyn 1721. Nid ydym yn cael ei fod yn boblogaidd fel pregethwr, ond yr oedd, yn nodedig o barchus trwy yr holl wlad. Dywedai un o'i hen aelodau with rywun a ganmolai Mr.Howell Harries, yr hwn oedd yn myned trwy y wlad ac yn tynu torfeydd mawr ar ei ol, "fod ganddo well dawn ymadrodd na Mr. Palmer, ond os cydmerir y synwyr sydd yn y pregethau fod mwy o synwyr mewn un bregeth i Mr. Palmer nac mewn llawer o rai Mr. Howell Harries. . Bu farw Rhagfyr 12fed, 1742, yn 63 oed.

THOMAS MORGAN. Ganwyd ef yn Dyffryn uchaf, gerllaw Groeswen, yn mhlwyf Eglwys Elian, sir Forganwg, Ionawr 7fed, 1720. Arferai er yn blentyn gyrchu i gapel Watford. Dychwelwyd ef at yr Arglwydd trwy weinidogaeth rymus Howell Harries, yn 1738, ac ymunodd a'r eglwys yn Watford. Nis gwyddom pa bryd y dechreuodd bregethu ond y mae nodiad yn ei ddyddlyfr ei fod yn pregethu yn Marshfield, sir Fynwy, Mehefin 3ydd, 1741. Aeth i'r ysgol at Mr, Samuel Tones i Pentwyn, yn mhlwyf Llanon, ac wedi bod yno un-mis-ar-bymtheg aeth i ysgol ramadegol Mr. Samuel Thomas, Caerfyrddin, yn Ionawr, 1743, ac yn Hydref yr un flwyddyn derbyniwyd ef i'r athrofa. Cyrhaeddodd raddau helaeth o boblogrwydd fel pregethwr pan yn fyfyriwr, a chafodd alwadau taerion o wahanol fanau, ond tueddwyd ef i fyned i Henllan, ac urddwyd ef yno fel y gwelsom, Mehefin 25ain, 1746, a bu ei weinidogaeth yno ac yn yr holl wlad oddiamgylch yn dra llwyddianus. Wedi treulio, pedair-blynedd-ar-ddeg yn Henllan, symudodd i Delph yn Yorkshire, oblegid fod ei amgylchiadau bydol yn ei orfodi i adael Cymru. Cyfarfyddodd yno a gofid mor anhawdd i'w ddyoddef ag amgylchiadau gwasgedig. Yr oedd dadl-

* Llythyr W D Jeremy, Ysw., Bar-gyfreithiwr, Llundain.

361

euon duwinyddol yn terfysgu yr eglwys. Yr oedd rhai yno yn Antinomiaid penrhydd ac eraill, yn Arminiaid os nad yn Ariaid penboeth; a'r rhan. fwyaf o honynt yn llygredig eu hymarweddiad. Ychydig gyda thair blynedd yr arhosodd yno. Symudodd i Morley, ac yno y bu hyd derfyn, ei oes; a diweddodd ei dymor yn hapus yn mysg pobl ei ofal. Cafodd ei daro gan ergyd o'r parlys yn 1795, yr hyn a'i gorfododd i roddi i fyny ei weinidogaeth, a bu farw Gorphenaf 2ai1 1799, yn agos i bedwar ugain mlwydd oed. Dywedir ei fod yn ddyn hardd, o ymddangosiad boneddigaidd, ei lais yn soniarus, a'i bregethau, yn eglur a tharawiadol. Yr oedd yn ddwfn iawn yn serchiadau pobl ei ofal. Dywedai Mr. Lloyd, Henllan, fod rhai hen bobl yn yr eglwys ar ei sefydliad yno, oedd yno yn amser Mr. T. Morgan' a bod eu serch mor gryf ato fel nas gallent grybwyll ei enw heb dori i wylo ; ond gadawyd iddo er hyny ymadael o eisiau darparu: yn briodol ar gyfer ei gynaliaeth. Cyhoeddwyd dwy ysgrif ar ei fywyd a'i amserau yn y Beirniaid, Cyf. II. tudal. 313' a Cyf. III. tudal. 241; lle y ceir difyniadau helaeth o'i ddyddlyfr, y rhai a roddant olwg ar nodwedd y dyddiau hyny.

LEWIS PHILLIPS. Kilrhyd, neu Penbontbren, fel y gelwir y lle yn awr. Yr oedd mewn amgylchiadau bydol cysurus, a bu yn pregethu am ddeng-mlynedd-ar-hugain. Urddwyd ef yn weinidog cynorthwyol yn Henllan, Awst 3ydd, 1748, a rhoddai ei holl lafur a'i wasanaeth yn rhad. Efe a roddodd dir y capel a'r fynwent, a gadawodd hefyd Bwlchmelyn i weinidog Henllan o oes i oes. Ychydig a wyddom am dano fel pregethwr yn ychwaneg na'i fod yn selog a llafurus, a'i galon yn llawn awydd am wneyd daioni. Bu farw Hydref 27ain, 1768, yn 68 oed.

JOHN POWELL. Fel hyn y dywed Edmund Jones, Pontypool amdano yn Hanes Plwyf Aberystruth, "John Powell a aned yn mhlwyf Llanelli, yn sir Frycheiniog, mewn tafarndy yn Nhroedyrhiw ; ac wedi tyfu yn llanc daeth i weithio gwaith Crydd i Gwmebwfawr. Pan yn gwrando pregeth ar ' 'Gicaion Jonah,' gan Edmund Jones, ymwelodd yr Arglwydd a'i enaid, a dychwelwyd ef o'i ffyrdd pechadurus at Dduw a'i waith. Rhoddwyd galwad iddo bregethu, a phregethodd am beth amser yn Ebenezer a lleoedd eraill yn y gymydogaeth. Fel yr oedd yn sychedig am fwy, o wybodaeth a manteision addysg, efe a aeth i Athrofa Caerfyrddin. Wedi iddo orphen ei amser yno aeth ryw gymaint o amser i orllewin Lloegr, a dychwelodd oddiyno i gymeryd gofal fugeiliol yr eglwys luosog yn Henllan' sir Gaerfyrddin, lle y gorphenodd ei yrfa ar y ddaear. Bu efe byw bywyd difrycheulyd. Yr oedd yn ddyn doeth a gonest, ac o feddwl treiddiol i bethau - yn brydweddol a hardd o ran presenoldeb ei gorff, ac Yn bregethwr da a rhagorol yn ei ddyddiau diweddaf. Dywedodd y Parch. Lewis Rees' o'r Mynyddbach, wrthyf am dano, na bu arno erioed fwy o gywilydd o hono ei hun fel pregethwr na phan yn gwrando ar y Parch. John Powell yn pregethu ; "a phawb sydd yn adnabyddus o dalentau Mr. Rees fel pregethwr nid allant lai na meddwl yn uchel am ragoroldeb Mr. Powell yn wyneb y dystiolaeth uchod." Y lle yn ngorllewin Lloegr y bu ynddo oedd Wiveliscombe' yn ngwlad yr haf. Aeth i Athrofa Caerfyrddin Tachwedd 7fed; 1748, ac y mae yn debyg iddo ymadael yn 1752. Yr ydym yn tybied, iddo fod am beth amser yn Nghapel Isaac fel y cawn ddangos pan ddeuwn at hanes yr eglwys hono. Nis gwyddom pa hyd y bu yno, na pha hyd y bu yn ngwlad yr haf. Y cwbl a ddywedir

362

yn llyfr eglwys Wiveliscombe ydyw, " mai y Parch. Mr. Lawson, a'r Parch. Mr. Powell oedd y gweinidogion o 1737 hyd 1760." Dechreuodd yn Henllan, Gorphenaf 9ed, 1761. Pum mlynedd y llafuriodd yno, ond yn y tymor byr hwnw bu ei weinidogaeth yn hynod o lwyddianus. Yr oedd ganddo ryw ddawn rhyfedd i enill serchiadau y bobl. Dywedai yr hen wr da, Martin Sinclair, fod ei gariad mor fawr at Mr. Powell, pan dderbyniwyd ef yn aelod yn Henllan, fel nas gwyddai pa un ai Iesu Grist ai y gweinidog a garai fwyaf. Ar ol tymor byr ond llwyddianus bu farw Gorphenaf 24ain, 1766, yn 46 oed ; a phregethodd Mr. Griffith' Gibidiog, yn ei angladd.

RICHARD MORGANS. Ganwyd ef yn Ystradisaf, yn mhlwyf Ystradgynlais, yn sir Frycheiniog, yn y flwyddyn 1743. Yr oedd ei rieni yn bobl grefyddol, ac yn aelodau yn Nghwmllynfell. Collodd ei dad pan yn naw oed, ond ni chiliodd argraffiadau crefyddol yn llwyr oddiar ei feddwl, a phan yn ddeunaw oed derbyniwyd ef yn aelod yn Tynycoed. Anogwyd ef i ddechru pregethu, ac wedi bod am ychydig dan addysg Mr. Simmons yn Nghastellnedd, derbyniwyd ef i Athrofa Abergavenny yn y flwyddyn 1765. Bu yn fyfyriwr caled, ac wedi gorphen ei dymor yno, derbyniodd alwad o Henllan, lle yr urddwyd ef Medi 28ain, 1769. Parhaodd yn astudiwr diflino wedi gadael yr athrofa ; ac yn enwedig cadwai i fyny ei wybodaeth o'r pethau hyny oedd yn fwyaf angenrheidiol i'w weinidogaeth. Pregethai yn effro a thanllyd, ac yr oedd ei bregethau bob amser yn efengylaidd. Fel pawb o'r rhai a lwyddodd i gasglu yn nghyd gynnulleidfaoedd lluosog pregethai yn wastad yn fyr ; ac yr oedd ireiddiwch mawr ar ei holl gyflawniadau. Cyrhaeddai cylch ei weinidogaeth o Landilo i Bethlehem, ac o Lanboidy i Carfan, ond llafuriodd lawer y tuallan (sic) i gylch uniongyrchol ei weinidogaeth. Fel yr ydym eisioes wedi cael achlysur i sylwi yn nglyn ag amryw eglwysi y rhan Seisnig o sir Benfro, estynodd Mr. Morgan, gyda'i gyfaill ieuangc Mr. Jones, Trelech, derfynau ei lafur yno, ac y mae yno amryw eglwysi blagurog a gasglwyd fel ffrwyth eu hymdrechion. Yr oedd yn ddyn o ysbryd gwrol a thanllyd, penderfynol iawn am ei ffordd, ac unwaith y cymerai yn erbyn neu dros unrhyw beth, neu unrhyw un, anhawdd oedd ei droi yn ol. Yr oedd ynddo lawer o graffder i adnabod cymeriadau, ond ymddiriedai ormod farn ei hun, a chariai ei frwdfrydedd ef yn aml i eithafion. Buasai sydynrwydd a'i fyrbwylldra wedi arwain yr eglwys i wrthdarawiadau anhapus lawer gwaith oni buasai fod ganddo swyddogion pwyllog a gochelgar. John Palmer, Llwyndrysni' oedd un o'r rhai goreu i ddiffodd tan ymryson pan welai ef yn dechreu cyneu, ac i liniaru ysbryd cyffrous Mr. Morgan heb roddi tramgwydd iddo. Coffeir yn neillduol am un tro pan oedd Mr. Morgan ar ei uchelfanau yn tynu ei gynlluniau ac yn ffurfio penderfyniadau gyda golwg ar "bobl Maenclochog," y rhai oedd wedi  torri allan mewn rhyw anghydfod o Landilo. Teimlai llawer yn yr eglwys fod Mr. Morgan yn cario pethau yn rhy bell, ond gwyddent hefyd nad gwiw oedd ei wrthwynebu yn uniongyrchol. Yr oedd Mr. John Palmer yn adwaen yn dda, a gwyddai pe gallasai gael darn o adnod y buasai yn sicr o'i ostegu. Cyfododd i fyny yn araf, a gofynodd yn bwysleisiol, " Mr. Morgan, onid oes rhyw air yn rhywle yn y Bibl yn dyweyd, 'Eu nerth hwynt yw aros yn llonydd " Safodd Mr. Morgan am funyd yn syn fel heb wybod pa beth i'w ddyweyd, o'r diwedd atebodd, " Oes y mae John Palmer," ac eisteddodd i lawr, ac ni chlywyd son an y mater hwnw

363

drachefn. Yr oedd llawer iawn o onglau iddo, a rhai o honynt yn llymion iawn ; ond yr oedd yn ddyn gwir dda, ac mewn llawer o bethau yn wir fawr, a gwnaeth ddaioni anghyffredin yn ei oes dros Dduw a'i dı. Nid oedd ei iechyd yn gryf ar y goreu, a gwelodd aml a blin gystuddiau, yr hyn a gyfodai yn benaf o anhwyldeb yn yr arenau. Nis gallasai sefyll ar ei draed i bregethu yn ei flynyddoedd olaf, ac am y naw mis diweddaf y bu byw yr oedd yn analluog i fyned allan o'i dy, ac yn y cyfamser dyoddefodd boenau mawrion, ond yr oedd ei ymddiried yn yr Arglwydd yn dal yn ddisigl. Un o'i eiriau diweddaf wrth gyfaill ychydig cyn ymadael oedd, " Yr wyf fi yn myned at fy Nhad i a'th Dad dithau, a'm Duw i a'th Dduw dithau." Bu farw Chwefror 1Ofed, 1805, yn 62 oed. Bu yn briod ag un Sarah Morgan, merch ieuangc dra rhinweddol. Rhoddir y ganmoliaeth uchaf iddi fel " mam yn Israel" gan Meistri M. Phillips, Rotherham, a J. Richards, Camden Town, y rhai a'i hadwaenent yn dda, ac a dderbyniodd dynerwch mawr oddiar ei llaw. Bu iddynt un ferch, yr hon a briododd ag Evan Williams, Penybanc, yr hwn, fel y crybwyllasom, oedd yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys ; ac yr oedd y ferch yn meddu ar lawer o ragoriaethau ei rhieni.

JOHN LLOYD. Ganwyd ef yn Dolmaen, gerllaw Pencadair, yn Sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1777. Yr oedd ei rieni yn bobl grefyddol, a dysgwyd yntau o'i febyd i ofni yr Arglwydd. Gan fod ei dad yn amaethwr cyfrifol, ac mewn amgylchiadau bydol cysurus, ac yn gwybod gwerth dysgeidiaeth rhoddwyd iddo well addysg foreuol nag a roddid yn gyffredin hyd yn nod (sic) i feibion amaethwyr y dyddiau hyny. Ymunodd â'r eglwys yn Mhencadair pan yn un ar bymtheg oed, ac yn fuan gwelodd yr eglwys ei gymhwysder ac anogodd ef i ddechreu pregethu. Pan yn ugain oed derbyniwyd ef i'r Atbrofa yn Nghaerfyrddin, ac ar orpheniad ei dymor yno cydsyniodd â galwad eglwys Horeb, Sir Aberteifi. Yr oedd hefyd wedi derbyn galwad o Gapel y Graig, Machynlleth, ond dewisodd yn hytrach ymsefydlu yn Horeb. Urddwyd ef yno Tachwedd 2il, 1802. Bu yno yn dderbyniol a llwyddianus am dair blynedd, ac yn niwedd y flwyddyn 1805 derbyniodd alwad o Henllan a symudodd yno ; a threuhodd pum mlynedd a deugain yn y lle yn anarferol o dderbyniol. Yn fuan wedi ei sefydliad yno priododd â Miss Morgan, Forge, merch ieuangc rinweddol oedd yn aelod yn yr eglwys ; a buont yn cydfyw yn hapus am lawer o flynyddoedd, a dygasant eu plant i fynu yn ofn yr Arglwydd, a rhoddasant hwythau brawf ar ol eu magu eu bod yn rhodio yn ffyrdd eu rhieni duwiol. Analluogwyd Mr. Lloyd lawer o flynyddoedd oyn ei farwolaeth i deithio fel cynt trwy ei gylch eang, oblegid ei fod trwy y crydcymalau wedi colli grym ei aelodau ; ond yr oedd ei iechyd yn dda, ac nid oedd byth ball ar ei ymadrodd. Marchogai ar ei anifail ar gyfrwy menyw o'i dı i'r capel, ac yna carid ef gan un o'r aelodau oddiar ei anifail naill ai i'r pulpud neu i'r gadair dan y pulpud, a gwnai ei holl gyflawniadau crefyddol o'i eistedd. Teithiodd yn y pum' mlynedd ar hugain cyntaf o'i oes weinidogaeíhol gryn lawer i gyfarfodydd a chymanfaoedd ei wlad, ond am fwy nag ugain mlynedd olaf ei oes cyfyngodd ei lafur yn hollol i'w faes cartrefol; ac o'r diwedd aeth myned i'r canghenau cysylltiedig a Henllan yn ormod iddo. Y tro olaf y bu oddi cartref mewn cyfarfod oedd yn y flwyddyn 1847 yn urddiad ei nai, Mr. W. Morgan, yn Union Street, Caerfyrddin; ac yr oedd y siars a draddododd i'r gweinidog ar y pryd yn un o'r rhai llawnaf o synwyr cyffredin a

364  

chynghorion doeth a wrandawsom erioed; a dywedai bob peth gyda serch a naturioldeb tad yn cynghori ei fab anwyl ganddo. Dichon mai anaml y bu gweinidog a chynifer o ragoriaethau yn cydgyfarfod ynddo, a hwyrach mai yn nghyfanrwydd ei gymeriad yr oedd ei hynodrwydd. Os nad oedd yn or-ddysglaer mewn rhyw un dalent nid oedd yn wan mewn dim. Yr oedd ei esgeiriau oll yn o gyhyd. Nid oedd amheuaeth yn meddwl neb am ei dduwioldeb; er na byddai un amser yn gwneyd honiadau uchel, nac yn gwisgo ffug-ymddangosiad, yr oedd argyhoeddiad o ddidwylledd ei grefydd yn meddwl pawb ai hadwaenai. Yr oedd yn meddu ar ddeall cyflym, a bu trwy ei oes yn fyfyriwr dyfal. Ymofynai yn rhydd a diragfarn am y gwirionedd ; ac yr oedd yn hollol alluog i ddirnad, a barnu y pethau a ymgynygient i'w feddwl; ac i wahaniaethu y pethau sydd a gwahaniaeth rhyngddynt. Yr oedd yr eglwys yn Henllan pan yr ymsefydlodd yno yn uchel Galfiniaid gan mwyaf, fel yr addysgasid hwy gan ei ragflaenydd Mr. Morgan ; ac er fod Mr. Lloyd yn llawer mwy cymhedrol ei olygiadau, etto traethai hwy mor ochelgar fel na roddai dramgwydd i neb; ac yn raddol daeth y rhan fwyaf o'r eglwys i goleddu yr un syniadau, a hyny heb derfysg nac ymryson. Yr oedd wedi astudio golygiadau duwinyddol Andrew Fuller a Dr. Williams, ac yn eu deall gystal a neb yn Nghymru yn ei oes, er na ddaeth ei enw yn gyhoeddus yn nglyn a'r dadleuon arnynt.

Ymarferol oedd nodwedd gyffredin ei weinidogaeth, ond seiliai y cwbl ar wirioneddau mawrion yr Efengyl. Nid amcanodd erioed at "odidawgrwydd ymadrodd a doethineb dynol; "  ac nid oedd y floedd uchel, na'r daran gyffrous yn ei weinidogaeth ; ond yr oedd ei ysbryd yn llawn gwres, a thraddodai ei bregethau pur a sylweddol gyda bywiogrwydd a thynerwch. Yr oedd yn dderbyniol gan bob dosbarth o wrandawyr. Medrai y dosbarth mwyaf anwybodus ei fwynhau, a byddai y dynion callaf yn ei gynnulleidfa yn teimlo ei fod yn eu cwbl diwallu. Dywedai y diweddar Mr. W. Griffith, Glandwr, unwaith yn ei ddul (sic) ffraeth ei hun mewn cwmni lle yr oedd Mr. Lloyd a Mr. Dayies, Bethlehem, ac yntau yn bresenol, " Pregethwr i ddynion call ydw i - pregethwr i ddynion dwl ych chi Dayies; end am danoch chi Lloyd, rych chi yn bregethwr i bawb." "Beth bynag am gywirdeb dywediad y gwr ffraethbert a diniwed a dysgedig o Landwr, am dano ei hun ai gyfaill o Bethlehem, y mae pawb yn barod i selio ei dystiolaeth am Mr. Lloyd fel gwirionedd. Yr oedd rhyw beth ynddo oedd yn boddhau pawb yn mhob peth a wnai. Fel hyn yr ysgrifena ei gydlafurwr yn Henllan yn mlynyddoedd olaf ei fywyd am dano, ac nid oes neb y rhoddwn fwy o bwys ar ei air, " Pa un bynag yn yr areithfa, y gyfeillach' y cyfarfod esbonio, mewn angladd, ar gymundeb, ar dderbyniad aelodau, ai ar ymweliad a chlaf, yr oedd hwnw ag oedd yn rhoddi boddlonrwydd yn ddieithriad. Nid wyf yn  gallu galw i gof am neb a welais, nac y clywais am dano, oedd yn gyffelyb iddo yn hyn. Yr oedd yn hollol naturiol, ac yr oedd rhyw beth yn brydferth iawn yn ei natur. Rhoddai foddlonrwydd i'r bobl, ac yr wyf credu am dano y gellir dyweyd ei fod yn rhyngu bodd yr Arglwydd. Ond er ei fod yn rhoddi boddlonrwydd mawr i'w wrandawyr, nid boddloni dynion oedd ei brif amcan. Cyfeiriai at nod oedd uwch. Dywedai wrthyf un diwrnod 'Nid amcenais erioed am addurniadau yn fy mhregethau, ond fy ymdrech oedd pregethu y gwirionedd yn eglur ac yn gyflawn.' Dyna lle yr oedd cuddiad ei gryfder. Yr oedd ganddo wir ddylanwad ar y

  CONTINUED


Return to top

[Gareth Hicks 24 March 2008]

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright © GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI

Valid HTML 4.01 Transitional


Hosted by Mythic Beasts Ltd.