GENUKI Home page upPembrokeshire Contents Contents
 
 

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

Pembrokeshire section (Vol 3)

  Pages 44 - 57

See main project page

Proof read by Maureen Saycell (March 2008)

 


44-57

44

(Continued) GLANDWR

................cynnulleidfa Glandwr yn addoli o 1708 hyd nes iddynt adeiladu y capel yn 1712. Un yr ystyrid yr eglwys hon a Rhydyceisiaid ar y cyntaf, a pharhaodd am flynyddau lawer dan yr un weinidogaeth a'r eglwys hono. Yr oedd Mr. Lewis Thomas, y gweinidog cyntaf yma, yn weinidog cynorth­wyol, fel yr ymddengys, yn Henllan, cyn yr ymraniad, ac wedi corpholi Rhydyceisiaid a Glandwr yn eglwys Annibynol, cafodd ef ei ddewis trwy ympryd a gweddi yn weinidog iddi. Parhaodd i weinidogaethu yn y ddau le, ac mewn rhai lleoedd ereill, lle yr oedd canghenau o'r eglwys ymgynnull, hyd ei farwolaeth yn 1745. Yr ail weinidog yma oedd Mr. John David. Deuddeg mlynedd y parhaodd tymor ei weinidogaeth ef. Bu farw yn y flwyddyn 1757. Dilynwyd ef gan MrJohn Griffiths, un o aelodau yr eglwys. Yr oedd Mr Griffiths wedi derbyn i addysg yn athrofa yr Annibynwyr yn Abergavenny, ac yr oedd efe yn un o'r myfyrwyr cyntaf a aeth i'r athrofa hono ar ei sefydliad yn 1755. Urddwyd ef yn Glandwr, Mehefin 20fed, 1759. Traddodwyd yr hyn a elwid " pregeth yr urddiad " gan Mr. John Davies, Trelech, oddiwrth Titus i. 9, a'r siars i'r gweinidog gan ei athraw, Mr. David Jardine, Abergavenny. Mae yn ymddangos fod eglwys Glandwr o'i dechreuad yn hynod am ei gwybod­aeth dduwinyddol, ac nid rhyfedd, gan mai mewn dadl ar byngciau dyfnion duwinyddiaeth y cafodd ei dechreuad. Yr oedd Mr. Lewis Thomas, y gweinidog cyntaf yn bregethwr a duwinydd galluog, ond o olygiadau uchel-Galfinaidd. Yr oedd yr eglwys hon a'i changhenau mor lluosog yn nhymor gweinidogaeth Mr. John David, fel y buwyd yn daerion yn cynyg galwad i Mr. Evan Williams, Cwmllynfell, yr hwn oedd yn fyfyriwr ar pryd yn athrofa Caerfyrddin, i ddyfod yma yn gyd-weinidog a Mr. David. Cafodd tua deugain o bersonau eu dychwelyd at yr Arglwydd trwy weinidogaeth Mr. Williams, yr hwn fu yn dyfod yma am flwyddyn neu ddwy yn fisol, os nad yn fynychach. Ond er fod yr eglwys yn lluosog ac yn enwog am ei gwybodaeth grefyddol yn amser y ddau weinidog cyntaf, yn nhymor Mr. Griffiths, y trydydd weinidog, y daeth y lle yn adnabyddus trwy holl Gymru, a llawer o Loegr, fel lle nodedig o enwog. Gyda bod Mr. Griffiths yn bregethwr enwog, ac yn ddyn o yspryd cyhoeddus, yr oedd hefyd yn ysgolfeistr diail Derbyniodd llawer o weinidogion ac offeiriaid Cymru eu haddysg yn ei ysgol, a thrwy hyny daeth yr enwau "Griffiths " a "Glandwr" yn enwau anwyl ac adnabyddus agos drwy holl Gymru yn hir cyn diwedd y ddeunawfed ganrif. Yr oedd cylch gweinidogaethol Mr. Griffiths yn eang iawn. Cangen o Landwr yw Capel Iwan, yn Sir Gaerfyrddin, a than ofal Mr. Griffiths y bu nes iddo ei rhoddi i fyny i Mr. Morgan Jones, un o'i ysgolheigion, ar ei sefydliad yn Nhrelech. Cangen arall o Landwr oedd Penygroes, yn Sir Benfro, yr hon hefyd fu dan ofal Mr. Griffiths dros y rhan fwyaf o'i oes weinidogaethol. Yr oedd Rhydyceisiaid hefyd er dechreuad yr achos, yn rhan o gylch gweinidogaethol Glandwr. Cedwid hefyd bregethu cyson yn Nantlleddfron, yn mhlwyf Clydau, ac mor bell a Llandudoch, gerllaw Aber­teifi. Ond bernir mai yn amser Mr. John David y pregethid yno, ac nad oes sicrwydd fod Mr. Griffiths wedi gallu ei gadw yn mlaen. Mae yn rhaid fod llafur y gweinidog yn ddirfawr pan yr oedd yr holl leoedd hyn, y rhai y mae y nesaf o honynt tua chwech milldir o Landwr, dan ei ofal. Yr oedd Mr. Griffiths yn gateceisiwr enwog iawn. Catecism byraf y gymanfa oedd y llyfr a ddefnyddid ganddo i egwyddori ei bobl mewn gwy­bodaeth grefyddol. Cadwai gyfarfodydd egwyddori yn gyson yn mhob un

45

o'r lleoedd oedd dan ei ofal, a thrwy ei fedr a'i lafur dibaid gwnaeth bobl ei ofal mor wybodus mewn duwinyddiaeth, os nad yn fwy felly, ag un­rhyw bobl yn y wlad.

Mae yn naturiol casglu nas gallasai yr holl yspryd ymchwilio ac esbonio a fagesid yn y bobl fod heb ryw fesur o ganlyniadau anhyfryd trwy achlysuro dadleuon a chroesfarnau. Tra y byddo y natur ddynol heb ei dwyn yn hollol dan ddylanwad ofn yr Arglwydd y mae yn sicr o droi y pethau goreu yn achlysuron drygau. Felly y bu yma rai blynyddau cyn diwedd y ganrif ddiweddaf, er fod Mr. Griffiths a chorph yr eglwys yn Glandwr yn Galfiniaid selog, cyfododd plaid yn eu plith i amddiffyn golygiadau Arminaidd. Un o'r enw David Phillip oedd blaenor y blaid hon. Ymadawsant o Landwr ac adeiladasant gapel a elwir Rhydyparc, yn mhlwyf Eglwys­fair a Churig. Aeth y rhan fwyaf o'r bobl hyn gydag amser yn Undodiaid, ond dychwelodd cynifer o honynt ag na theimlent ar eu calon o roddi cam o Arminiaeth i Undodiaeth, at eu hen gyfeillion Nglandwr. Er i'r Arminiaid ymadael nid oedd pethau yn gwbl dawel etto yn Nglandwr. Yr oedd yno rai yn dal yn dyn uchel-Galfiniaeth - Calfiniaeth o'r fath ag a ddysgid gan Dr. Gill, ac ereill yn dadleu yn lew dros Galfiniaeth o'r fath ag a ddysgid gan Andrew Fuller a Dr. Edward Williams. Edrychai y blaid uchel-Galfinaidd ar y Calfiniaid cymhedrol fel cyfeiliornwyr peryglus iawn, a digon tebygol eu bod hwythau yn edrych ar eu gwrthwynebwyr yn yr un goleu. Er nad yw dadleuon a phleidiau croesion yn ddymunol mewn eglwys, y maent yn llawer llai anymunol nag anwybodaeth a di­faterwch am wirioneddau crefydd. Mr. William Evans, yr hwn oedd yn bregethwr, ac wedi cael i urddo yn 1798 yn gynorthwywr Mr. John Griffiths, oedd blaenor y blaid uwch-Galfinaidd. Er y gwahaniaeth barn oedd rhyngddo ef a rhan fawr o'r eglwys, parhaodd pethau yn lled dawel yma hyd tua y flwyddyn 1799 neu 1800, pan y daeth Mr. William Griffiths, mab yr hen weinidog, adref o'r athrofa o Wrexham, ac yr amlygodd ei dad a'r rhan fwyaf o'r eglwys, ddymuniad am iddo gael ei urddo yn gynorthwywr yn holl gylch eang y weinidogaeth. Gwrthwynebodd Mr. William .Evans hyn yn benderfynol oherwydd fod Mr. William Griffiths yn rhy isel ei olygiadau fel Calfiniad. Cafodd Mr. Evans gryn nifer o aelodau i uno ag ef yn ei wrthwynebiad, a'r canlyniad fu iddynt ymneillduo o Landwr ac adeiladu Hebron, tua thri-chwarter milldir i'r gorllewin o gapel Glandwr. Nid ydym yn feddianol ar ddefnyddiau i roddi gerbron ein darllenwyr holl fanylion y ddadl a achosodd y rhwygiad anffodus hwn yn yr eglwys. Yn mhoethder y ddadl darfu i Mr. Thomas Thomas, o'r Fronwen, aelod o eglwys Glandwr, ysgrifenu at y Dr. Benjamin Davies, gynt athraw yr athrofa yn Abergayenny, a'r hwn a fagesid yn agos i ardal Glandwr, i ofyn ei farn ar rai o'r pyngciau mewn dadl, ac anfonodd y Dr. y llythyr canlynol mewn attebiad iddo : -

 

                                                                                                     READING, Rhag, 13eg, 1803.

ANWYL SYR,

        Buasai eich llythyr wedi cael ei ateb yn gynt oni buasai fy mod wedi bod dros gryn amser yn dra anhwylus, oherwydd effaith y tywydd oer ar fy hen afiechyd ; ond yn awr, trwy drugaredd, yr wyf lawer yn well. Yr wyf yn cydymdeimlo yn ddwys a Mr. Griffiths dan bwys ei brofedigaeth ddau ddyblyg, sef ei fod wedi cael ei analluogi gan afiechyd i barhau ei lafur yn y weinidogaeth, a bod yr eglwys yn yr hon y llafuriodd gyda'r fath lwyddiant anghyffredin am gynifer o flynyddau, wedi cael ei rhwygo yn bleidiau. Yr wyf fi yn hollol anadnabyddus o

46

bob un o'r gweinidogion trwy ymlyniad wrth ba rai y rhwygwyd yr eglwys ; ond os yw eich darluniad chwi o'r materion mewn dad1 yn gywir; yr wyf yn beiddio dweyd mai nid diffyg cydolygiadau yn gymaint a diffyg cariad Cristionogol yw yr achos o'r anghydfod. Pan y clywyf bersonau o alluoedd mor derfynol ag a berthyn i ddynion meidrol yn rhoddi barn benderfynol ar y fath byngciau gorddyfnion a'r rhesymau dros yr enwau Tad, Mab, ac Ysbryd Glan, yr wyf yn bared i ofyn, ' A elli di wrth chwilio gael gafael ar Dduw? ' O'm than fy hun, yr wyf fi yn wastad wedi bod yn rhy ystyriol hanwybodaeth ryfygu penderfynu dros neu yn erbyn yr athrawiaeth o Dragwyddol Genhedliad ; am yr wyf yn teimlo yn ddolurus pan y clywyf ddynion ieuainc yn rhoddi eu barn yn benderfynol o'r naill ochr neu y llall, gan fod y pwnc yn hollol uwchlaw amgyffrediad ein meddyliau bychain ni. Ar yr un pryd gall Mr. W. Evans fod yn sicr mai golygiad Ridgley, yr hwn hefyd a amddiffynid gan y diweddar Mr. Rhomaine, yw y golygiad sydd yn ffynu yr amser presenol yn mysg y cyffredinolrwydd o weinidogion Efengylaidd a mwyaf defnyddiol Lloegr.

Gyda golwg ar farwolaeth Crist mae yn amlwg mai ei diben blaenaf a mwyaf pwysig oedd gwneyd iawn am bechod. Fe ddywedir hefyd yn bendant ei bod wedi ei hamcanu i fod yn siampl o amynedd dan ddioddefiadau. Yr oedd yn ddi­ameu hefyd yn sel a thystiolaeth i'r gwirionedd dwyfol ; ond at adgyfodiad Crist yn hytrach nag at ei farwolaeth, yr appelia yr Apostolion fynychaf am brawf o wirionedd ei genadwri. Gyda golwg ar breswyliad yr Yspryd mewn Credinwyr nis gallaf fi ffurfio unrhyw ddrychfeddwl am yr hyn a olyga Mr. W. Evans wrth breswyliad personol, heblaw y berthynas neillduol a'r gwaith grasol, y rhai a addefir gan Mr. W. Griffiths. A all efe wahaniaethu rhwng ei breswyliad personol ac undeb y natur ddwyfol a'r natur ddynol yn Nghrist ? Onid preswyliad personol yw yr undeb hwnw ? Mae yn flin genyf weled sel yn cael ei wastraffu yn nghylch pethau nad ydym yn alluog i ffurfio un math o ddrychfeddwl dealladwy am danynt. Pe byddem yn brofiadol o effeithiau Dwyfol breswyliad yr Ysbryd bendigedig ynom, byddai genym y fath fesur o gariad, hynawsedd, goddefgarwch, gostyngeiddrwydd Cristionogol, ar nas goddefent i ni ymneillduo oddiwrth ein brodyr Cristionogol oherwydd achosion o'r fath ag a grybwyllir genych chwi.

Yr wyf wedi cymeryd yn ganiataol fod eich darluniad chwi o'r pethau y dadl­euir am danynt yn gywir, ac yn gydunol a hyny yr wyf wedi rhoddi i chwi fy marn arnynt. Pe byddai o fewn fy ngallu ymgymerwn yn ewyllysgar a thaith tuag yna mewn trefn i wneyd cynyg ar gymodi y pleidiau ; ond y mae hyny yn anmhosibl. Cofiwch fi at Mr. Griffiths, ei wraig, fab. Byddai yn dda genyf glywed oddiwrtho ef neu ei fab ; a llawen yn wir a fyddwn i glywed fod y rhwyg wedi ei feddyginiaethu. Cofiwch fi at eich ewythr Edwards, ac at deulu Canerw. Mae Mrs. Davies yn uno a mi mewn cofion attoch.

Eich cyfaill didwyll a'ch gwasanaethwr,

BENJAMIN DAVES.

 

Gellid casglu oddiwrth y llythyr hwn fod y pyngciau dyfnion o Faboliaeth dybenion ei farwolaeth, a natur preswyliad yr Ysbryd mewn Credinwyr, yn destynau y ddadl rhwng y pleidiau a flaenorid gan W. Evans a W. Griffiths. Mae yn ymddangos fod W. Evans, yr hwn nad oedd ond dyn anysgedig mewn cyferbyniad i W. Griffiths, yn dal dros ei olygiadau mewn yspryd pendant ac anffaeledig, ac yn y fath ddull ag a dueddai i beri wr ieuangc o ddysg, ffraethineb, a thalent W. Griffiths ddweyd geiriau cryfion a dirmygus am dano ef a'i blaid, yr hyn a wnelai y rhwyg yn waeth. Mae yn ddigon tebygol fod gormod o haerllugrwydd anwybodaeth yn cael ei amlygu o un tu, a geiriau o ddiystyrwch a dirmyg yn cael eu harfer o'r tu arall. Ni fu ymryson erioed yn mysg dynion heb fod rhyw fesur o fai o bob tu. Ond y mae y cwbl drosodd er's blynyddau lawer bellach, a phob un o'r pleidiau, fel yr hyderwn, yn y wlad lle " mae pawb o'r brodyr yn un heb neb yn tynu yn groes."

Daeth W. Griffiths adref o'r athrofa tua y flwyddyn 1799, ond oherwydd yr ymryson, nid ymddengys iddo gael ei urddo cyn y flwyddyn 1803. Nis

47

gwyddom pa bryd yn y flwyddyn hono yr urddwyd ef, na phwy gymerodd ran yn ngwasanaeth yr urddiad. Yr oedd yr hen weinidog, Mr. John Griffiths, erbyn hyn rhwng tri-ugain a deg-a-phedwar-ugain oed, ac wedi myned yn dra methedig. Yr oedd Mr. W. Griffiths, oherwydd methiant ei dad, a'r holl ofal wedi disgyn arno, rai blynyddau cyn marw yr hen wr yn 1811. Parhaodd Mr. W. Griffiths i lafurio yn Nglandwr, a manau ereill, gyda pharch nodedig, hyd derfyn ei oes yn 1826, ond iddo fod ragor nag unwaith yn analluog i gyflawni ei waith oherwydd y clefyd blin a effeithiai ar feddwl.

Yn fuan wedi marwolaeth Mr. Griffiths, rhoddwyd galwad i Mr. John Davies, gwr ieuangc genedigol o blwyf Llanarth, yn Sir Aberteifi, a'r hwn oedd y pryd hwnw yn fyfyriwr yn athrofa y Drefnewydd. Ar ddiwedd ei efrydiaeth yn Medi, 1826, daeth i lawr yma erbyn y Sabboth cyntaf yn Hydref y flwyddyn hono. Yn y Mawrth canlynol, cafodd ei sefydlu yn fugail ar yr eglwys, ar ol chwe' mis o brawf. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan amryw o weinidogion siroedd Aberteifi, Caerfyrddin, a Phenfro, megis D. Thomas, Penrhiwgaled ; T. Griffiths, Hawen ; C. Morris, Narberth ; J. Griffiths, Tyddewi ; J. Phillips, Bethlehem ; H. George, Bryn­berian ; T. Skeel a D. Davies, Penybont ; W. Davies, Rhosycaerau ; ac ereill. Pregethodd Mr. Davies, Pantteg, ar ryddid yr eglwys, oddiwrth Actau iv. 19 ; gweddiodd Mr. Evans, Hebron, ar yr undeb ; yna pregeth­odd Mr. Lloyd, Henllan, siars i'r gweinidog, oddiwrth 2 Tim. ii. 15, a Mr Jones, Trelech, i'r eglwys, oddiwrth Exod. xvii. 12. Mae y gweinidogion oeddynt yn yr urddiad hwn wedi marw i gyd ond Mr. Davies, Rhosycaerau ; a'r eglwys a roes yr alwad hono, hyd at ryw dri neu bedwar yn Nglandwr, a rhyw dri yn Moriah. ar effithiau difaol amser. Arosodd Mr. Davies yma 37 o flynyddau, sef hyd Tachwedd, 1863, pan y rhoddes y gofal i fyny, ond gan barhau yn Moriah, cangen o'r eglwys yma, fel y cawn sylwi etto. Gwedi yr amser hwn bu yr eglwys dros dair blynedd heb weinidog. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1867, sefydlodd Mr. David Thomas, gwr ieuangc o athrofa y Bala, yn weinidog arni. Yn y flwyddyn 1871 derbyniodd Mr. Thomas alwad o eglwys Llanfaircaereinion, Maldwyn, ac ymadawodd o Landwr yn nechreu y flwyddyn hon, 1872. Y mae yr eglwys unwaith etto heb weinidog.*

Yr oedd tymor gweinidogaeth Mr. Davies yn Nglandwr yn dymor nodedig yn hanes grefyddol y deyrnas hon, ac ni bu ef, a'r eglwys dan ofal, yn ol o gymeryd eu rhan yn deg yn symudiadau pwysig yr oes. Yn y tymor hwn y dilewyd y Test Act, yn ol pa un y rhwymid pob un a ddaliai swydd dan y llywodraeth i gymuno yn yr eglwys Wladol. Yn yr un tymor y pasiwyd ysgrif y diwygiad, y rhyddfreiniwyd y Pabyddion, y sefydlwyd y drefn genhedlaethol o gofrestru genedigaethau a marwolaethau, y cafodd yr Ymneillduwyr ryddid i briodi yn eu haddoldai eu hunain, y dilewyd y dreth eglwys, &c. Mae yn wir nad oedd dylanwad yr eglwys hon a'i gweinidog ond bychan yn mhlaid y mesurau pwysig hyn ; ond pe buasai pawb yn gwneyd eu rhan mor ffyddlon a hwy, diau y buasai y breintiau hyn wedi eu cael yn gynt os nad yn gyflawnach hefyd.

 Yr oedd yr eglwys hon gynt, fel y nodasom, yn lluosog, a'i changhenau yn wasgaredig a phell iawn oddiwrth eu gilydd ; ond yn hir cyn i Mr. Davies ymsefydlu yma, yr oedd Capel Iwan, Penygroes, a Rhydyceisiaid

* Llythyr Mr. Davies, Moriah.

48

Wedi eu dadgysylltu oddiwrth weinidogaeth Glandwr, etto yr oedd y fam eglwys yn gref, lluosog, a dylanwadol. Gan fod llawer o'r aelodau a'r gwrandawyr yn cyfaneddu yn nghymydogaeth pentref Blaenywaen, yn Sir Gaerfyrddin, ac ysgol Sabhothol a chyfarfodydd esbonio, yn cael eu cynal yn gyson mewn anedd-dai yno ; yn 1828, penderfynwyd adeiladu addoldy at gyfleustra yr ardalwyr. Dyma ddechreuad Moriah, am yr hwn y cawn son etto. Yn y flwyddyn 1842, darfu i'r eglwys hon, gyda chynorthwy yr ardalwyr adeiladu ysgoldy Cefn y pant, yn mhlwyf Llanboidy. Yn misoedd yr haf, er's oesau, byddai pregethu hob pythefnos gan weinidogion Glandwr a Henllan, yn Ganerw, lle genedigaeth y Dr. Benjamin Davies, yr athraw, yn Abergavenny, ac wedi hyny yn Homerton. Allan yn yr awyr agored, gan amlaf, y byddid yn pregethu, yr hyn weithiau fyddai yn anghyfleus oherwydd y tywydd. Yr oedd y ty hefyd yn anghyfleus i gadw oedfaon ynddo. Felly penderfynwyd cyfodi yr ysgoldy hwn, at bregethu ynddo gan y ddwy eglwys, fel yn Canerw. Wedi ei godi disgynodd y gofal o bregethu ynddo ar Landwr yn unig. Mae ynddo oddiar yr adeiladwyd ef bregethu bythefnosol, ac weithiau yn amlach, ac ysgol Sabbothol a chyfarfod gweddi yn cael eu cynal yn rheolaidd ynddo.

Mae capel Glandwr wedi cael ei adeiladu a'i adgyweirio amryw weith­iau. Yn 1712, fel y nodwyd, yr adeiladwyd ef y waith gyntaf, ac yn ol carreg sydd yn y mur, cafodd ailadeiladu neu ei helaethu yn 1717. Adeiladwyd ef y drydedd waith yn agos yr un hyd a lled yn 1774, ac adeiladwyd ef yn ei ffurf bresenol yn 1836. Mae yn gapel cadarn, helaeth, a chyfleus, ac yn cael ei amgylchu gan fynwent eang, yn yr hon y gorwedda lluaws o feirw, ac yn eu plith saith o weinidogion, sef pedwar o weinidogion cyntaf yr eglwys hon - Lewis Thomas, John Dayid, John Griffiths, a W. Griffiths ; Thomas Davies, gweinidog y Green, Hwlffordd Gabriel Rees, gweinidog Bedyddwyr, yn Rhydwilym ; a Benjamin Griffiths, Trefgarn. Mae yn huno yma hefyd lawer o bregethwyr defnyddiol a phroffeswyr enwog yn eu dydd.

Mae yn naturiol casglu i eglwys mor nodedig am gwybodaeth dduwinyddol, gyfodi llawer o'i haelodau i'r weinidogaeth o bryd i bryd ; ond yr ydym yn ofni y bydd raid i ni, o ddiffyg gwybodaeth am danynt, adael enwau amryw o honynt mewn ebargofiant. Heblaw y pedwar gweinidog cyntaf yma, yr ydym yn gwybod am y personau canlynol iddynt gael eu cyfodi i bregethu yma :

 

49

 

50

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

LEWIS THOMAS. Ychydig iawn o'i hanes ef sydd genym. Mae yn ym­ddangos ei fod yn aelod ac yn bregethwr, os nad yn weinidog cynorthwyol, yn Henllan, mor foreu a'r flwyddyn 1706. Pan dorodd yr ymryson am athrawiaeth a dysgyblaeth allan yno, yr oedd ef yn un o flaenoriaid y blaid Annibynol ac uchel-Galfinaidd. Wedi iddynt ymneillduo o Henllan, ac ymsefydlu yn achosion yn Rhydyceisiaid a Glandwr, cafodd ef ei ddewis yn weinidog y cynnulleidfaoedd hyny. Yr oedd yn cyfaneddu mewn lle a elwir Bwlchysais, yn mhlwyf Llanfyrnach. Bu farw, fel y nodwyd, yn y flwyddyn 1745, a chladdwyd ef wrth gapel Glandwr. Yn ol tystiolaeth Mathias Maurice, yn yr hanes a gyhoeddwyd ganddo ar yr ymryson yn Henllan, yr oedd Lewis Thomas yn bregethwr efengylaidd iawn, ac arddeliad neillduol ar ei weinidogaeth. Casglodd, a chadwodd yn nghyd, gynnulleidfaoedd lluosog yn Nglandwr a Rhydyceisiaid, am yn agos ddeugain mlynedd, yr hyn a brawf ei fod yn ddyn yn meddu galluoedd adeiladu dynion mewn pethau ysprydol.

JOHN DAVIES. Y cwbl a wyddom am dano of ydyw, iddo yn y flwyddyn 1745 ddilyn Lewis Thomas yn y weinidogaeth yn Nglandwr, Rhydyceisiaid, a'r canghenau perthynol iddynt, ac iddo farw yn 1757. Mewn lle a elwir Cilast, yn mhlwyf Manordeifi, yr oedd yn cyfaneddu.

JOHN GRIFFITHS. Ganwyd y gweinidog enwog a defnyddiol hwn mewn amaethdy o'r enw Castellgarw, yn mhlwyf Llanglydwen, yn Sir Gaer­fyrddin, yn y flwyddyn 1731. Efe oedd y trydydd o blant ei rieni. Nid ydym yn gwybod pwy oedd ei athraw cyntaf. Pan yn llangc lled ieuangc anfonwyd ef i'r ysgol Hwlffordd. Un o'r enw Tasker, offeiriad yn yr Eglwys Wladol, oedd athraw yr ysgol hono. Bwriadai ei dad ei ddwyn yntau i fyny i fod yn offeiriad. Wedi bod yn ysgol Mr. Tasker am ryw dalm o amser, dychwelodd adref ac agorodd ysgol ei hun yn Nglandwr. Tua yr amser hwnw rhoddodd fyny bob meddwl am fyned yn offeiriad. Ymaelododd yn yr eglwys Annibynol yn Nglandwr, ac yn fuan wedi hyny cafodd anogaeth gan yr eglwys i ddechreu pregethu. Hydref 7fed, 1754, derbyniwyd ef yn fyfyriwr i athrofa Caerfyrddin, ar draul y Bwrdd Cynnulleidfaol. Wedi iddo fod yno am ychydig gyda blwyddyn, tynodd y Bwrdd Cynnulleidfaol eu cynorthwy yn ol oddiwrth athrofa Caerfyrddin, oherwydd fod Mr. Samuel Thomas, un o'r athrawon, yn cael ei ddrwg­dybio o fod yn dal golygiadau Ariaidd, a gosodasant i fyny athrofa arall yn Abergavenny, dan ofal Mr. David Jardine. Symudodd pedwar o'r myfyrwyr o Gaerfyrddin i Abergavenny, i'r athrofa newydd, ac yn eu plith Mr. John Griffiths. Ar derfyniad ei efrydiaeth yn yr athrofa, dychwelodd adref, a chafodd alwad gan ei fam-eglwys yn Nglandwr, lle yr urddwyd ef, fel y gwelsom, Mehefin 20fed, 1759. Yn mhen rhyw gymaint o amser wedi iddo ddechreu ei weinidogaeth yn Nglandwr, ymunodd mewn priodas a Dinah, merch Mr. Dyfnallt, neu Devonald, o'r Graig, yn mhlwyf Llanfyrnach, yr unig ffermwr yn y plwyf, fel y tybir, oedd y pryd hwnw yn Ymneillduwr proffesedig. Yr oedd Mr. Dyfnallt yn berchen dwy fferm a dwy ferch, a rhoddodd fferm i bob un o honynt. Fferm Glandwr a ddaeth i ran Mrs. Griffiths. Bu Mr. a Mrs. Griffiths am ryw faint o amser ar ol iddynt briodi yn byw yn Nantsaison, ar dir Graig, and wedi hyny symudasant i Landwr, eu fferm eu hunain, ac yno

51

y buont hyd derfyn eu hoes. Yr oedd Mrs. Griffiths yn wraig ragorol iawn am ei synwyr a'i gras. Bu hi fyw am rai blynyddau ar ol ei phriod.

Bu Mr. Giifliths yn cyflawni ei weinidogaeth yn effeithiol yn Nglandwr, Rhydyceisiaid, a'r canghenau, hyd nes i'r parlys a hen ddyddiau ei anallu­ogi. Cafodd ergyd ysgafn o'r parlys tua y flwyddyn 1803, ac o hyny allan ni bu yn alluog i a neyd nemawr yn gyhoeddus hyd derfyn ei oes. Bu farw Tachwedd 7fed, 1811, yn 80ain mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Glandwr.

Dywedir mai dyn bychan o gorpholaeth ydoedd, a phen hynod o fawr a dau lygad hynod o dreiddiol. Yr oedd yn nodedig am ei ffraethineb. Gwnelai sylwadau byrion, cryno, cryfion, a phwrpasol, ar unrhyw fater fuasai dan sylw. Fel pregethwr yr oedd ei weinidogaeth yn fwy cyfaddas borthi y deall a gwybodaeth nag i gyffroi y teimladau ; a thyna oedd nodwedd gweinidogaeth y rhan fwyaf o bregethwyr Ymneillduol ei oes ef. Cyfrifid ef yn dduwinydd cryf a galluog iawn. Calfiniaeth led uchel oedd ei gredo, ond dichon nad oedd yn gwbl mor uchel a rhai o'i gydoeswyr.

Crybwyllasom yn barod fod Mr. Griffiths yn un nodedig o fedrus fel Cateceisiwr. Yr oedd cateceisio yn cael ei ystyried yn rhan hanfodol o waith gweinidog yn ei oes ef. Yr oedd pob gweinidog yn yr oes hono, raddau mwy neu lai, yn gateceisiwr lled dda; ond ymddengys fod J. Griffiths yn rhagori ar y rhan fwyaf, os nad pob un o honynt. Llwyddodd i wneyd cyfarfodydd esbonio neu gateceisio yn sefydliad enwog yn Nglandwr a'r holl eglwysi cymydogaethol.

Fel ysgolfeistr hefyd yr oedd yn nodedig o enwog. Bu yn cadw ysgol dros holl dymor ei weinidogaeth. Cafodd amryw offeiriaid eu haddysg yn ei ysgol, ac nid oes nemawr o bregethwyr Annibynol yn Nghymru o 1760 hyd 1800 nad oeddynt wedi bod dros rywfaint o amser yn ysgol enwog Glandwr. Aeth llawer o'i ysgol ef i'r athrofau, ac amryw ereill, megys Jones, Trelech ; Jones, yr Aber, &c., i'r weinidogaeth o ysgol Glandwr, heb fod mewn un ysgol arall. Yr hybarch William Davies, Rhosycaerau, yw yr unig un o'r gweinidogion a addysgwyd yn ei ysgol, sydd yn awr yn fyw. Yr oedd yn nodedig o fedrus i wneyd i'w ysgolheigion ddysgu ei gwersi. Arferai ddweyd wrthynt, I will make you men or mice ; hyny yw, mi a'ch gwnaf yn ddynion nu yn llygod.'

Yr oedd ei wybodaeth gyffredinol yn helaeth iawn. Yr oedd wedi myfyrio physigwriaeth yn fanwl iawn, ac yr oedd ganddo gasgliad o lyfrau meddygol goreu yr oes hono. Bu ei gynghorion meddygol o wasanaeth dirfawr i'w gymydogion.

Gwnaeth ychydig ddefnydd o'r argraphwasg er addysg ei gydwladwyr. Cyhoeddodd argraphiad neu ddau o Gatecism byraf y Gymanfa, ac argraffiad diwygiedig o gyfieithiad Mathias Maurice o waith Dr. John Owen a elwir " Byr hyfforddiad yn addoliad Duw, a dysgyblaeth eglwysi y Testa­ment Newydd." Cyfieithodd hefyd lyfr o'r enw " Ystafell Gyfaill, nu gyfarwyddyd i ddynion difrifol yn y ddyledswydd bwysig o hunan­ymholiad, i'r dyben i'w osod i fyny yn nirgel ystafell y cristion, mewn trefn i'w adgofio a'i gynorthwyo yn y gwaith." Cyhoeddodd y llyfryn hwn yn y flwyddyn 1791. Cyfansoddodd a chyhoeddodd farwnad i Mr. Morris Griffiths, Trefgarn, cynwysedig o unar-ddeg o benillion ar y mesur " Gwel yr Adeilad." Nid ydym yn gwybod iddo gyhoeddi dim heblaw y pethau hyn.

52

WILLIAM GRIFFITHS.   Mab Mr. John Griffiths oedd ef. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1777, neu fel yr arferai ef ddweyd yn ei ddull digrif, "yn mlwyddyn y tair caib." Cafodd y manteision goreu a allasai plentyn rhieni crefyddol a dysgedig gael, a than ei fod yn rhagori ar y cyffredin yn ngrym a bywiogrwydd ei alluoedd meddyliol, daeth yn gymeriad nodedig yn foreu iawn yn ei fywyd. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig gan ei dad pan nad oedd and ieuangc iawn, a phan yr oedd tuag un-ar-bymtheg oed dechreuodd bregethu. Mewn cyfarfod eglwysig a gynal­iwyd yn Nglandwr, Mehefin 14eg, 1794, arwyddwyd deiseb at y Bwrdd Cynnulleidfaol ofyn am dderbyniad i  William Griffiths, mab ein gweinidog teilwng,  i'r athrofa yn Ngwrecsam. Yr ail ddydd o Chwefror, 1795, dechreuodd ei efrydiaeth yn yr athrofa, a gwnaeth ddefnydd rhagorol o'i amser tra y bu yno. Tynodd serch ei athraw, Dr. Jenkin Lewis, ei gydfyfyrwyr, a phawb y daethai i adnabyddiaeth o honont yn Ngwrecsam a'r gymydogaeth, ac yr oedd pawb yn hiraethu wrth feddwl ymadael fig ef pan yr ymadawodd o'r athrofa.

Pan y dychwelodd adref, bu yn cynorthwyo ei dad oedranus yn yr ysgol a'r weinidogaeth ; ond pan yr aed i son am ei urddo yn gyd-weinidog  a'i dad a William Evan, cyfodwyd gwrthwynebiad ffyrnig dan yr esgus fod yn afiachus ei farn. Yr oedd ei holl afiechyd yn gynwysedig mewn dal golygiadau o'r fath ag a ddelir yn y dyddiau hyn gan yn agos pob gweinidog Calfinaidd yn Nghymru. Gan fod ei brif wrthwynebydd, W. Evan yn Galfiniad o'r radd uwchaf, sef yn uwch-gwympiedydd (supra-lapsarian,) yr oedd fod W. Griffiths yn methu dyfod yn nes yn mlaen na Chalfiniaeth gymhedrol yn ddigon o sail iddo ef i wrthod dal cymundeb eglwysig fig, ef. Y fath yspryd y goddef dynion i'w tybiau am bethau sydd uwchlaw amgyffrediad dyn eu harwain iddo! Canlyniad gwrth­wynebiad W. Evan a'i blaid i urddiad W. Griffiths fu rhwygiad yr eglwys. Wedi i'r blaid wrthwynebol fyned allan urddwyd Mr. Griffiths yn gydweinidog a'i dad. Fel y nodasom yn barod, yr ydym yn barnu mai yn y flwyddyn 1803 y cymerodd ei urddiad le. Bu y rhwygiad an­hapus hwn yn ddolur calon iddo ef a'i dad oedranus, ac i bob gyfeillion crefydd yn yr ardal. Ond yn dra buan wedi ei urddiad, cyfododd y gweinidog ieuangc gymaint o enwogrwydd fel dyn a phregethwr, fel y cafodd ei gyfeillion ddigon i wneyd fyny am yr holl ofidiau yr aethant trwyddynt. Yn mhen ychydig flynyddau ar ol ei urddiad, darfu i glefyd cyfansoddiadol effeithio ar ei synwyr nes iddo fyned yn hollol orphwyllog. Rhoddwyd ef dan ofal meddyg a ystyrid yn fedrus i feddyginiaethu gwall­gofiaid, ac yn mhen amser adferwyd ef i'w iechyd arferol. Priododd wedi hyny a chafodd ddau o blant. Ar ol mwynhau iechyd da am nifer o flynyddau, cymerwyd ef yn orphwyllog drachefn yn niwedd y fiwyddyn 1824, ac ar y 9fed o Ionawr, 1825, bu farw er galar dirfawr i bobl ei ofal a cholled gyffredinol eglwysi Cymru. Claddwyd ef yn mynwent Glandwr yn ngwydd tyrfa ddirfawr o alarwyr.

O ran corph yr oedd William Griffiths yn fwy na'r cyffredin ac yn anarferol o dew yn ei flynyddau diweddaf. Yr oedd yn ddyn lluniaidd a hardd, ac o ymddangosiad mawreddog a boneddigaidd ; ond yr oedd sirioldeb a diniweidrwydd ei wedd yn peri nad oedd dim yn ei ymddangosiad gadw neb draw oddiwrtho ond yn hytrach i dynu pawb atto.

Fel ysgolhaig dichon nad oedd neb o'i gydoeswyr yn Nghymru yn ogyfuwch ag ef. Yr oedd yn nodedig am arfer iaith ddiwallau, ac nid

53

oedd dim a barai fwy o ddolur iddo na chlywed dynion mewn cyfeillach, ac yn enwedig yn y pwlpud, yn arfer ymadroddion anmhriodol. Dywedai un wrthym flynyddau yn ol, ei bod hi yn llangces ieuangc yn cyd- farchogaeth ag ef o ardal Henllan i ardal Glandwr, ac wedi iddynt -ddyfod i olwg dyffryn tlws Llanfyrnach, dywedodd " dyma gymydogaeth boblog­aidd Mr. Griffiths." "Cymydogaeth boblogaidd " ebe yntau, ." sydd ymadrodd disynwyr. Cymydogaeth boblog, pregethwr poblogaidd." Yr oedd yn nodedig am goethder ei chwaeth a chywirdeb ei olygiadau am bob peth bychan a mawr. Yr oedd yn brydydd campus. Cyfieithodd rai o benillion goreu Williams, Pantycelyn, o'r Gymraeg i'r Saesonaeg gyda'r fath dlysni, fel y maent yn llawn cystal, os nad yn well, yn y cyfieithiad nag y maent yn y gwreiddiol. Gresyn nad ymgymerai rhywun cymwys at y gorchwyl o gasglu pob peth a ysgrifenwyd ganddo mewn barddoniaeth a rhyddiaeth a'u cyhoeddi yn llyfryn.

Fel pregethwr, er nad oedd yn ystyr priodol yr ymadrodd yn ddoniol, yr oedd yn rhyfeddol o boblogaidd, ar gyfrif ei sylwadau tarawiadol, eglur, a ffraeth, a'i esboniadau digyffelyb ar ymadroddion ac athrawiaethau yr ysgrythyrau. Nid ystyrid unrhyw gyfarfod gweinidogion yn llawn heb ei fod ef ynddo, ac yr oedd pawb, ffol a chall, yn medru gwerthfawr­ogi ei bregethau a'i holl ymddiddanion. Nid oedd neb yn ei ddydd yn fwy ffyddlawn nag ef i deithio yn agos a phell i gymanfaoedd, urddiadau, agoriad capelau, &c., ac nid oedd neb yr oedd yn well gan bawb ei weled yn y fath gyfarfodydd.

Fel cyfaill yr oedd yn nodedig am ei ffyddlondeb a'i ddidwylledd. Talp o natur dda ydoedd. Ni fynai ar un cyfrif wneyd niwed i deimlad, cymeriad, nac amgylchiadau neb. Yn ei ymddiddanion cyffredin yr oedd yn ffraeth a difyr tiros ben, ond yr oedd hyd yn oed yn ei ffraetheiriau a'i ddigrifwch, fel yn ei bethau difrifolaf, ddefnyddiau i wellhau calonau a goleuo penau dynion. Dywedai unwaith wrth un o bregethwyr mwyaf poblogaidd Cymru, "A wyddoch chwi beth sydd yn eich gwneyd chwi yn fwy poblogaidd pregethwr na mi? " " Na wn i " oedd yr atteb. " Wel," meddai " dim ond eich dull o seinio yr O. Y mae eich O chwi yn hir ac yn fawr a'm O inau yn fechan ac yn fer. Dyna i gyd yw y gwahaniaeth." Ryw dro wedi bod yn ei lyfrgell yn edrych dros ei lawysgrifau, cafodd fod y llygod wedi bwyta darnau o'i bregethau. Aeth allan i'r gegin at ei fain a dywedodd, " Mam, mae y llygod yn sicr o farw tma bob un." " Beth sydd yn peri i ti feddwl hyny ? " attebai ei fam. " O, " ebai yntau, " maent wedi bwyta fy mhregethau i yn y cwpwrdd yna, ac y mae William Evan yn dweyd eu bod yn llawn gwenwyn, gan hyny y maent yn sicr o ladd y llygod." Un bore Sabboth yn Nglandwr, cafodd ef a'r gynnulleidfa brofedigaeth anhawdd i gadw eu difrifoldeb yn yr addoliad. Yr oedd dyn gwan ei synwyrau yn y gymydogaeth o'r enw Owen. Un gwanwyn pan y deallodd Owen mai Sul y blodu oedd y Sul canlynol, aeth allan i'r meusydd i gasglu llygaid y dydd, brialli, a phob blodau y gallasai ddyfod o hyd iddynt, a gwisgodd hwynt yn rhesau ar ei grys. Boreu y Sabboth gwisgodd y crys bloduog ar ei ddillad ereill, a phan yr oedd Mr. Griffiths ar weddi, aeth i mewn i'r capel a dechreuodd gerdded yn ol ac yn mlaen yno, nes cyffroi yr holl gynnulleidfa. Safodd Mr. Grifflths ar ganol gweddio a dywedodd, " Bydd yn esmwyth Owen." rhai hyny edrychodd Owen i fyny at y pwlpud a dywedodd, " Gwae rhai esmwyth arnynt yn Seion." Mae yn hawddach dychymygu na desgrifio teimladau

54

ac agwedd y pregethwr a'r bobl yn wyneb y fath brofedigaeth. Byddai Mr. Griffiths yn myned yn fisol i Lwynyrhwrdd, ac yr oedd mewn parch mawr yno. Ar un adeg yr oedd ychydig o ddadl wedi cyfodi yn y gynnulleidfa o berthynas i ganu a'r pedwar llais. Dadhalai rhai dros hyny a rhai yn erbyn. Er mwyn terfynu y ddadl, penderfynodd y ddwy blaid i gwympo i farn Mr. Griffiths, Glandwr, ar y pwngc pan y deuai ef yno. Pan ddaeth yno gosodwyd yr achos yn ddifrifol o'i flaen a dymunwyd cael ei farn arno. Attebodd yntau, heb gymeryd llawer o amser i ystyried, " Nid pedwar llais sydd genych chwi yn Llwynyrhwrdd, ond y mae yma bedwar-llais-ar-hugain, heblaw llais Edward, Blaencneifa."

Yr oedd cydgyfarfyddiad dedwydd yn William Griffiths, Glandwr, o alluoedd naturiol grymus, dysg ddwfn, chwaeth goethedig, duwioldeb didwyll a syml, mwyneidd-dra tymer, a sirioldeb difyr. Nid yn fuan yr anghofir enwau a llafur cariad ei dad enwog ac yntau yn yr ardal y buont yn byw ynddi.*

 

MAENCLOCHOG

Dechreuwyd pregethu yn yr ardal hon gan Mr. Stephen Lloyd, Bryn­berian, ac adeiladwyd y capel yma y flwyddyn yr urddwyd Mr. Henry George yn gydweinidog a Mr. Lloyd, sef y flwyddyn 1790. Yn mysg cychwynwyr yr achos yma coffeir enwau Lefi Evans, o'r Lletty, a Thomas John, Temper, y rhai oeddynt hefyd yn bregethwyr cynorthwyol; Stephen Rowland, New Inn, tad Mr. James Rowland o Henley, a Mr. William Price, tad Mr. H. Price, gweinidog y Bedyddwyr yn Rhydwylim. Llwyddodd yr achos yma yn fawr, a chasglwyd cynnulleidfa luosog yn y lle trwy lafur Mr. George a'i gynorthwywyr, ac wedi iddo ymroddi yn egniol am 44 o flynyddoedd trwy y cylch eang, dewiswyd Mr. John Owen, o Tref­draeth, i fod yn gydweinidog ag ef, ac urddwyd ef Ionawr 15fed, 1834. Er mantais i eglwysi Maenclochog a Bethesda, daeth Mr. Owen i fyw gymydogaeth yma; ac wedi marwolaeth Mr. George, rhoddodd i fyny ofal yr eglwysi yr ochr arall i'r mynydd, gan gyfyngu ei lafur i'r eglwysi hyn. Nid oedd ei iechyd ond gwanaidd ar y goreu, a bu farw yn niwedd y flwyddyn 1842. Ar ol hyn bu yr eglwys hon yn dibynu ar gynorthwy gweinidogion cymydogaethol hyd ddiwedd haf y flwyddyn 1844, pryd y daeth Mr. Robert Thomas heibio, yr hwn oedd ar y pryd yn fyfyriwr yn Rhydybont, dan ofal Mr. John Jones, ond a adnabyddid yn well fel " Jones, Llangollen." Hoffwyd Mr. Thomas yn fawr gan lawer iawn yn yr eglwys, ond yr oedd yma eraill yn anghytuno a hyny, ac aeth teimladau ar y pryd yn uchel a chyffrous iawn. Glynodd y mwyafrif wrth Mr. Thomas, a phenderfynasant ei urddo, yr hyn a gymerodd le Medi 19eg, 1844. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Stephens, Llanfair ; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Thomas, Bwlchnewydd ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. S. Thomas, Trefdraeth ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Jones, Rhydybont, ac i'r eglwys gan Mr. J. Thomas. Ymneillduodd y rhai a anghydwelent, a dechreuasant achos mewn lle arall gerllaw, ac er i hyny fod yn llawer o ysigdod i'r achos, a pheri llawer ddrwg-deimlad ar y pryd, etto daliodd yr eglwys yn yr hen gapel ei thir

*Yr ydym wedi casglu defnyddiau yr hanes uchod o wahanol fanau, ond yr ydym yn ddyledus yn benaf i lythyr cynwysfawr a gawsom oddiwrth Mr. Davies, diweddar weinidog Glandwr, yn nghyd a'i ysgrif ar John Griffiths yn y Diwygiwr am 1815.

55

yn dda, ac yr oedd' Mr. Thomas yn nodedig o barchus gan bobl ei ofal. Llafuriodd yma am chwe' blynedd, hyd nes y derbyniodd alwad o Pen­rhiwgaled a Pisgah, ac y symudodd yno.

Cyn diwedd 1851, rhoddwyd galwad i Mr. Rees Perkins, yr hwn oedd yn bregethwr cynorthwyol perthynol i Hebron, ac a fuasai yn fyfyriwr dan ofal Mr. Davies, Rhydyceisiaid, ac urddwyd ef Ionawr 27ain, 1852. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. I. Dayies, Glandwr; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Lewis, Brynberian ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. B. James, Llandilo ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. S. Evans, Penygroes, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. G. Rees, Abergwaun. Mae Mr. Perkins yn parhau i lafurio yma, a'r achos yn myned rhagddo yn gysurus. Yn y blynyddoedd 1858 ac 1859, ad­newyddwyd yr hen gapel, a rhoddwyd pen newydd arno. Pen dwbl oedd arno o'r blaen, ond gwnaed pen sengl arno, a thowyd ef a'r llechi goreu. Aeth y draul, heb gyfrif y cludiad, yn fwy na 113p., ac ailagorwyd ef Mai 17eg a'r 18fed, 1859. Yn y flwyddyn 1870, gwnaed adnewyddiad draehefn ar y capel trwy ei ad-drefnu yn hollol oddimewn, trwy draul o fwy na 200p., ac y mae yn awr yn un o'r capeli mwyaf cyfleus yn y sir. Ad-agorwyd ef Hydref eg a'r 12fed, 1870. Mae yma eglwys lled luosog, a Rawer o bobl mewn amgylchiadau bydol cysurus, ac ysgol Sabbothol flodeuog, a chanu soniarus, i'r rhai y cyrcha lluaws o ieuengctyd yr ardal. Bu yma ddwy gymanfa, y gyntaf a gynaliwyd Mehefin 2il a'r 3ydd, 1819, a'r hall a gynaliwyd Mehefin 6ed a'r 7fed, 1865, a choffcir am danynt gyda hyfrydwch mawr. Mae yma amryw deuluoedd wedi bod yn nodd­wyr caredig i'r achos, a da genym ddeall fod hiliogaeth y teuluoedd hyny yn glynu wrth grefydd eu tadau.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:-

56

 

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

JOHN OWEN. Ganwyd ef yn Nhrefdraeth, sir Benfro, Awst 12fed, 1801. Yr oedd ei rieni, William a Mary Owen, yn bobl nodedig am u crefydd. Chwaer oedd ei fam i'r hyglod Mr. Griffiths, o Hawen. Yr ydym eisioes wedi rhoddi hanes bywyd ei ddau frawd, sef Meistri D. E. Owen, Cendl, a B. Owen, Zoar, Merthyr, yn nglyn a'r eglwysi i'r rhai y buont yn gweinidogaethu. John Owen oedd yr hynaf o'r meibion. Pan yn fachgen bu yn gweithio gwaith saer, a bu am dymor ar y mor, ac ar y fordaith ddiweddaf y bu allan, cafodd dywydd mor ystormus fel na feddyl­iodd am fyned i'r mor mwy. Cafodd gweinidogaeth gyffrous Mr. William Lewis, Trefdraeth, argraff ddwys iawn ar ei feddwl, ond nid ymunodd a'r eglwys hyd ar ol marwolaeth Mr. Lewis, a'r newydd am ei farwolaeth a ddygodd ei bregethau difrifol i'w gof. Yn Heolyfelin, Casnewydd, derbyniwyd ef yn aelod, i'r lle yr oedd wedi myned gyda'i dad i weithio. Cyfarfu ei dad a'i angau mewn modd sydyn, ac ar ol hyny, dychwelodd y mab at ei fam weddw a galarus, a'r plant eraill, i Drefdraeth. Bu yn dilyn ei gelfyddyd yno am dymor, ac yn mhen amser, anogwyd ef i arfer ei ddawn i bregethu, a bu dros rai blynyddoedd yn pregethu yn gynorth- wyol trwy yr eglwysi cymydogaethol. Derbyniodd alwad gan yr eglwysi yn Brynberian, Felindre, Maenclochog, a Bethesda, i gydweinidogaethu a Mr. Henry George, ac urddwyd ef Ionawr 15fed, 1834. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Davies, Glandwr ; holwyd y gof- yniadau arferol gan Mr. J. Evans, Penygroes ; dyrchafwyd yr urdd-weddi. gan Mr. H. George ; pregethwyd i'r gweinidog gan ei ewythr Mr. T. Griffiths, Hawen, ac i'r eglwysi gan Mr. D. Davies, Aberteifi.* Er mwyn cyfleusdra i'r eglwysi yn Maenclochog a Bethesda, symudodd lettya 1 Lysyfran, lle y cafodd garedigrwydd mawr gan deulu Mr. J. Bowen, ac yn mhen ychydig amser cododd d9 cyfleus iddo ei hun gerllaw yno. Nid oedd ond gwanaidd ei iechyd ar y goreu, ac yn arbenig yr oedd er y flwyddyn 1826, pan y torodd un o rydweliau ei waed, yn agored waed­doriad, ac yr oedd eangder maes ei lafur, a theithio dros fynyddoedd uchel ar bob tywydd yn rhwym o fod yn ormod treth ar ei natur wan. Yn flwyddyn 1836, wedi ymadawiad Mr. Thomas Jones, cymerodd Mr. George an yntau yn nghyd ofal Trefdraeth, at y pedair eglwys oedd ganddynt o'r

* Yr Efengylydd, 1834. Tu dal. 122.

57

blaen, a bu y pum, lle o dan eu gofal hyd farwolaeth Mr. George. Wedi hyny rhoddodd Mr. Owen i fyny ofal Brynberian, Trefdraeth, a'r Felindre, ond parhaodd hyd y diwedd yn weinidog yn Maenclochog a Bethesda, er nad oedd am y ddwy flynedd olaf yn gallu eu gwasanaethu ond anaml. Yr oedd Mr. Owen yn bregethwr derbyniol a chymeradwy ; ennillgar lawn yn ei ddull, ac efengylaidd ei ysbryd. Nid oedd yr hyn a ystyrid yn bregethwr mawr, ond yr oedd yn wastad yn ddefnyddrol, ac yn wastad yn ei fins. Dyoddefodd boenau dirfawr ar brydiau yn ei gystudd diweddaf, ond yr oedd ei brofiad crefyddol yn addfedu fel yr oedd awr ei ymddatodiad yn nesau. Bu farw Rhagfyr 22ain, 1842, yn 41 oed, a chladdwyd ef gyda'i fam a'i frawd, Mr. D. E. Owen, yn mynwent Ebenezer, Trefdraeth, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri H. Davies, Narberth, a D. Davies, Aberteifi.

Translaton by Maureen Saycell (Feb 2009)

Preaching began here with Mr Stephen Lloyd, Brynberian and in 1790 a chapel was built and Mr Henry George was ordained as co-minister with Mr Lloyd. Among those who founded the cause here were Lefi Evans, Lletty, and Thomas John, Temper, both were occasional preachers; Stephen Rowland, New Inn, father of Mr. James Rowland, Henley, and Mr. William Price, father of Mr. H. Price, Baptist minister at Rhydwylim.

The cause here was very successful, a large congregation was gathered thanks to the efforts of Mr George and his supporters and after 44 years of service Mr John Owen, Trefdraeth, was appointed to be his co-minister and ordained on January 15th, 1834. For the convenience of the residents of Maenclochog and Bethesda, Mr Owen came to live in this area, after Mr George's death he gave up the churches over the hill, and concentrated on these two. His health was not good and he died in 1842. Following that the church relied on the support of neighbouring ministers until the end of summer 1844 when Mr Robert Thomas came by, at the time he was a student at Rhydybont with Mr John Jones, better known as "Jones Llangollen". Many in the church took a liking to Mr Thomas, but some disagreed and feelings ran high. The majority stuck with Mr Thomas and decided to ordain him on September 19th, 1844. On the occasion a sermon on the nature of a church was given by Mr. D. Stephens, Llanfair ; questions were asked by Mr. J. Thomas, Bwlchnewydd ; the ordination prayer was offered by Mr. S. Thomas, Trefdraeth ; a sermon to the minister was given by Mr. J. Jones, Rhydybont, and to the church by Mr. J. Thomas. Those who disagreed withdrew and began a cause nearby, but despite a shaking the old church held its own.

*We have gathered the information above from various sourced, but in the main we are grateful to an informative letter from Mr Davies, previous minister at Glandwr, along with an article by John Griffiths in Y Diwygiwr, 1815. Mr Thomas was well respected here and remained for 6 years then accepted a call from Penrhiwgaled and Pisgah.

Before the end of 1851 a call was sent to Mr Rees Perkins, an occasional preacher at Hebron, who had studied with Mr Davies, Rhydyceisiaid, he was ordained on January 27th, 1852. On the occasion a sermon on the nature of a church was given by Mr. I. Davies, Glandwr; questions were asked by Mr. E. Lewis, Brynberian ; the ordination prayer was offered by Mr. B. James, Llandilo ; a sermon on the duty of a minister by Mr. S. Evans, Penygroes, the duty of a church from Mr. G. Rees, Fishguard. Mr Perkins remains here and the cause continues to be healthy. During 1858/9 the old chapel was restored and a new roof, with best quality slates put on. The cost came to £113 without carriage, it was reopened on May 17th and 18th, 1859. In 1870 more work was done, rearranging all the interior at a cost of £200 and it is now one of the most comfortable chapels in the County. It was reopened October 11th and 12th, 1870. There is a fairly large church here with many of the members in comfortable wordly conditions, a large Sunday School with tuneful singing, to which many of the local youth go. There have been 2 festivals here, one on June 2nd and 3rd, 1819 and the second June 6th and 7th, 1865, both have good memories. Many families have been kind supporters of the cause, and their descendants continue in the beliefs of their fathers.

The following were raised to preach here :-

BIOGRAPHICAL NOTES**

JOHN OWEN - Born Trefdraeth, Pembrokeshire, August 12th, 1801 - parents William and Mary Owen - mothers brother was Mr Griffiths, Hawen - brothers Mr D E Owen, Kendal and Mr B Owen, Zoar, Merthyr - spent some time as a carpenter, and at sea - father died suddenly - family returned to Trefdraeth - called Brynberian, Felindre, Maenclochog, and Bethesda - ordained January 15th, 1834, officiating  Mr. J. Davies, Glandwr ;  Mr. J. Evans, Penygroes; Mr. H. George; Mr. T. Griffiths, Hawen; Mr. D. Davies, Cardigan.* - Died December 22nd, 1842, age 41 - buried Ebenezer, Trefdraeth.

* Yr Efengylydd, 1834. page122.

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

SILOH

(Henry's Moat parish)

(This chapel already translated http://www.genuki.org.uk/big/wal/PEM/HenrysMoat/Hanes.html )

"Bu pregethu yn achlysurol yn yr ardal yma yn Blaenywern, wedi i Mr. a Mrs. Edwards symud o gymydogaeth Brynberian yma i fyw. Adeiladwyd. y capel presenol yn y flwyddyn 1842, ac agorwyd ef Tachwedd 15fed a'r 16eg, y flwyddyn hono. Mr. Stephen Edwards, Blaenywern a'i deulu, oedd. a'r llaw flaenaf yn ei adeiladiad, ac yn mysg yr aelodau cyntaf yma yr oedd Thomas Roblin, y gof ; William George, Wern ; Lefi George, Danlon;; James Thomas, Bigws, ac Elizabeth Morris, Pantycagal. Cafwyd cefnogaeth y gweinidogion cylchynol, er nad oedd y lle pan y codwyd y capel dan ofal unrhyw weinidog neillduol. Yn y flwyddyn 1845, derbyniodd Mr. David Owen, Aberteifi, alwad i fod yn weinidog yma, a symudodd i'r lle, a bu yma yn barchus am ysbaid chwe' blynedd, and gan nad oedd yr eglwys yn alluog i'w gynal, dychwelodd i Aberteifi i gadw ysgol, fel cynt, lle y treuliodd weddill ei oes. Well sefydliad Mr. R. Perkins, yn Maenclochog, cymerodd ef ofal yr eglwys yma, ac y mae yn parhau yn weinidog yma, a'r achos mewn gwedd addawus. Yn amser Mr. Perkins, rhoddwyd oriel yn y capel, fel y mae yn gapel digon cyfleus at angen yr ardal. Rhoddodd Mr. S. Edwards, Blaenywern, 100p. mewn ymddiriedaeth, llog y rhai sydd i fynedd i weinidog Siloh. Bu farw Rhagfyr 26ain, 1858, ac yr oedd ei holl blant wedi marw o'i flaen. Yn y flwyddyn 1862, adeiladodd Mrs. Edwards dy gerllaw Siloh, yr hwn a elwir Green Park, fel y gallai fod yn ymyl y capel, ac fel y gallai lettya y pregethwyr a ddeuai heibio, a rhoddodd y ty mewn gwcithred i fod ar ei hol at wasanaeth gweinidog Siloh, a thua phythefnos cyn marw rhoddodd 17p. i dalu am lechi at doi y capel. Yr oedd yn barod ei llaw i gynorthwyo pob achos a ddeuai ar ei gofyn. Bu farw Medi 3ydd, 1872, yn 84 oed, gan adael ei holl eiddo i'w hunig wyr, mab Mr. Jenkins, Pentre-estyll, ger Abertawy, gyda dymuniad arno eu defnyddio i wasanaethu Duw, ac i ddwyn yn mlaen ei achos ef yn y byd. Y mae yr eglwys yma er nad yw yn Iluosog, yn cynwys nifer o bersonau darllengar a meddylgar, ac yn dra awyddus i wybod yr ysgrythyr lan ac y mae yma fesur helaethach  o deimlad crefyddol nag a geir mewn llawer man.

...................

CONTINUED

 


Return to top

( Gareth Hicks - 4 Feb 2009)

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright © GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI

Valid HTML 4.01 Transitional