Hide
Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
hide
Hide
(History of the Welsh Independent Churches)
By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books
Proof read by Yvonne John (April 2008)
Carmarthenshire section (Vol 3) - Pages 561 - 574
Chapels below;
|
Pages 561 - 574
561
(Continued) TABOR, LLANWRDA
wythnos. Felly, gwelir mai cangen a eglwys Crugybar oedd eglwys Tabor yn wreiddiol. Dechreuwyd pregethu yn y capel newydd rhyw ran o bob Sabboth, a gweinyddid yr ordinhad o swper yr Arglwydd unwaith bob tri mis. Felly y parhaodd hyd farwolaeth Mr. Price yn y flwyddyn 1803. Ond pan urddwyd Mr. Daniel Jones, yn Crugybar yn y flwyddyn 1805, meddyliwyd y buasai yn well cael cymundeb yn Tabor bob mis; ac i'r dyben hyny, penderfynwyd fod cynifer ag oedd yn gyfleus o aelodau Crugybar ymgynnull Tabor o hyny allan. Yn mhlith y personau hyny yr oedd William Efan Rhydderch, a'i wraig ; John a Nansi Jones, Godre'rmynydd ; Dafydd Shon Edmunt ; Thomas Williams, Cwmllynfe, a'i wraig, yn nghyd ag amryw eraill. Dewiswyd William Efan Rhydderch, a Thomas Williams, Cwmllynfe, yn ddiaconiaid. Bu Mr. Daniel Jones yn gweinidogaethu yma hyd y flwyddyn 1823. Ychwanegwyd nifer luosog at yr eglwys yn ei amser ef. Ni fu un cysylltiad rhwng eglwys Tabor ac eglwys Crugybar wedi ymadawiad Mr. Jones. Y nesaf a fu yma yn gweinidogaethu ydoedd Mr. Lewis Powell, Capel Isaac y pryd hwnw, Caerdydd wedi hyny. Bu yr eglwys dan ei ofal ef am tua blwyddyn. Wedi ei ymadawiad ef bu yr eglwys dan ofal Mr. D. Jones, Gwynfe, am rai blynyddau, ac ychwanegwyd ugeiniau at yr eglwys yn ei amser ef, canys torodd diwygiad grymus allan yn 1828 a 1829. Wedi ymadawiad Mr. Jones yn 1831 cymerwyd gofal yr eglwys gan Mr. T. James, Abergorlech, a bu yma hyd ei farwolaeth yn 1844, ac y mae ei weddillion marwol yn gorwedd yn nghladdfa Tabor. Ail-adeiladwyd Tabor yn y flwyddyn 1842, ac aeth y draul yn nghylch 250p., yr hyn a dalwyd trwy roddion gwirfoddol yr eglwys a'r ardal. Rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Jones, Bryn, Llanelli, yr hwn a ymsefydlodd yma Awst 19eg, 1845, ac a barhaodd lafurio yma ac yn Hermon hyd Mehefin, 1850, pryd y symudodd i Treforis. Awst, 1851, ordeiniwyd Mr. John Jones, B.A., myfyriwr yn Athrofa Caerfyrddin, i fod yn weinidog yn Tabor a Hermon, ond yn Ionawr 30ain, 1859, efe a symudodd i Penybontarogwy, Morganwg. Ar yr 22ain o'r Mai canlynol derbyniwyd i'r eglwys hon trwy ddeheulaw cymdeithas ddeg-ar-hugain, ac ar y 19eg o'r mis canlynol - Mehefin, derbyniwyd naw-ar-hugain. Torodd y diwygiad allan dan weinidogaeth Mr. W. Jones, Pentretygwyn. Tachwedd 18fed, 1860, cymerwyd gofal yr eglwys hon gan Mr. E. A. Jones, Ynysgau, Merthyr, yr hwn a barhaodd ofalu am dani mewn cysylltiad âg eglwys Providence, Llangadog, hyd Ionawr, 1869, pan yr ymadawodd i Ddolgellau, sir Feirionydd. Ar ol ymadawiad Mr. Jones rhoddodd yr eglwys hon mewn cysylltiad âg eglwys Llangadog, alwad i Mr. John Hughes, Aber, Brycheiniog, ac ar y 24ain o Ebrill, 1870, dechreuodd yntau yma, lle y mae hyd yn bresenol yn llafurio gyda gradd o lwyddiant. Y mae mynwent Tabor yn lle dymunol i gladdu y meirw ; gorwedda ar lechwedd yn gwynebu y de-ddwyrain, ac yn ei mynwes y gorphwys yr hen bererinion ddechreuodd yr achos yn y lle, ac a fuont yn dawnsio mewn hwyl o flaen Arch Duw lawer gwaith. Y mae eu henwau yn perarogli trwy y cymydogaethau hyd y dydd heddyw.
Codwyd y personau canlynol bregethu yma.
- Efan Roderick, mab W. E. Rhydderch, yr hwn oedd un o ddiaconiaid cyntaf yr eglwys, fel y nodwyd genym. Dechreuodd Mr. E. Roderick bregethu yn 1814, a bu farw yn Awst, 1850. Yr oedd yn
562
......................ddyn cofus a gwir ddefnyddiol. Cyfrifid ef yn bregethwr call iawn, ond lled sychlyd oedd ei ddawn, a'i lais yn lled gras. Edrychid arno yn gymeriad gweithgar a gwresog gyda chrefydd, yn gystal a diwyd gyda phethau y bywyd presenol. Mae'r ddau weithgarwch fynychaf yn cydgyfarfod mewn dynion. Teithiodd lawr i bregethu yn gynorthwyol yn yr eglwysi cymydogaethol yn nghyd a chartref, ac nid oedd yn fwy parchus yn un man nag yno. Y peth nesaf i ddim o gydnabyddiaeth arianol a gafodd am bregethu. Yr ydym yn lled sicr fod gwasanaethu yr eglwysi yn golled i'w amgylchiadau, heblaw ychwanegu cryn lawer ar ei lafur. Saddler oedd wrth ei gelfyddyd. Yr oedd cyfansoddi pregethau yn ei orfodi i golli ei gysgu, a myned i'w dyweyd ar y Sabbothau yn achosi iddo golli ei amser gwaith, ond y mae yn awr yn medi gwobr ei lafur.
- Dafydd Jones, yr hwn yn fuan a drodd at y Bedyddwyr.
- Thomas Johns. Addysgwyd ef yn Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Ebenezer, Caernarfon, ac y mae yn awr yn Nghapel Als, Llanelli.
Dylid dyweyd fod Mr. Daniel Howells, Llanymddyfri, wedi parhau i ddyfod yn fisol i Tabor er's dros ddeugain o flynyddoedd, a Mr. W. Jones, Pentretygwyn, wedi parhau i ddyfod yma yn fisol er's tua deg-ar-hugain. o flynyddoedd. Buasai yn dda genym allu cyfeirio yn helaethach at rai o'r hen gymeriadau nodedig a fu yma, ond ni chaniata ein terfynau.
LLANGADOG
(Already proofed/translated) /big/wal/CMN/Llangadock/Hanes.html
563 "Dechreuwyd achos Annibynol Providence,Llangadog, er's tua haner can' mlynedd, trwy offerynoliaeth Mr. William Good, yr hwn oedd wrth ei alwedigaeth yn Dirfesurydd (Land Surveyor), ac yn bregethwr achlysurol. Yn gymaint a'i fod yn preswylio yn Llangadog, meddyliodd am ddechreu achos Annibynol yn y lle, yr hyn a wnaeth trwy ddechreu cynal cyfarfodydd mewn Bragdy perthynol i'r Plough Inn. Yn dra buan aeth y Bragdy yn rhy fychan, a chanfyddwyd yr angenrheidrwydd am le eangach i gynal y cyfarfodydd, a chafwyd hen Ysgubor yn y Backway. Yn y cyfamser ffurfiwyd yno eglwys o dri o aelodau gan y diweddar Mr. D. Davies, Sardis, yr hwn a barhaodd i ofalu am danynt am ychydig amser, yn cael ei gynorthwyo gan y diweddar Mr. Daniel Jones, Hermon y pryd hwnw, pryd y torodd diwygiad allan, ac y derbyniwyd tua thri-ugain i gymundeb yr eglwys fechan yn y lle. Gwnaed un o'r enw John Williams, gwehydd, yn ddiacon i'r eglwys tuag adeg ei ffurfiad, ac efe yn unig a wasanaethodd y swydd yn ystod y rhan fwyaf o'r amser y bu yr eglwys yn yr ysgubor. Ni bu Mr. Davies a Mr. Jones yn alluog i ofalu am yr eglwys yn yr ysgubor ond am amser byr, oblegid fod ganddynt ddigon o waith mewn lleoedd eraill; yn ngwyneb hyny cymerodd y diweddar Mr. W. Williams, Tabernacl, Llandilo, ei gofal, ac nid anghofir byth y gwaith a wnaed trwyddo ef yn y lle. Aeth yr ysgubor yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, fel y penderfynwyd ymofyn tir er adeiladu capel. Cafwyd addewid am dir yn agos i'r ysgubor lle yr addolid, a dechreuwyd cludo cerig at adeiladu, ond trwy ryw anffawd neu gilydd methwyd cael y lle, fel yr aeth holl drafferth cludo y cerig yn ofer. Teimlai yr eglwys yn lled ddigalon yn ngwyneb hyny, eithr gofalodd Duw am ei achos trwy osod yn nghalon hen foneddiges o'r enw Mrs. Elizabeth Jones, Glansawdde, Llangadog, i roddi tir at adeiladu y capel presenol, yr hwn, yn ddigon naturiol, oherwydd yr amgylchiadau a nodwyd, a elwir PROVIDENCE (Rhagluniaeth). Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1840, a chofir gyda theimladau tra gorfoleddus gan rai ydynt heddyw yn fyw am y cyfarfodydd gweddi effeithiol a gafwyd yn yr hen ysgubor i ofyn am wyneb yr Arglwydd gyda ei bobl yn y capel pan fyddai yn barod. Yn gymaint a bod gwaith gweinidogaethol Mr. Williams mewn lleoedd ereill yn gofyn ei holl amser, bu raid iddo yntau roddi yr eglwys yma i fyny. Rhoddwyd galwad yn ddioed i Mr. John Williams, Brownhill, a myfyriwr ar y pryd yn Athrofa Ffrwdyfal. Urddwyd ef Awst 6ed, 1841. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Egwlys gan Mr. D. Rees, Llanelli; holwyd y gofyniadu gan Mr. D. Jones, Gwynfe; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Williams, Llandilo; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. D. Davies, Pantteg; ac i'r eglwys gan Mr. D. Williams, Llanwrtyd. Bu Mr. Williams yma yn barchus a defnyddiol iawn hyd ddiwedd y flwyddyn 1851, pryd y symudodd i Gastell-newydd Emlyn. Yn mhen ychydig fisoedd wedi ei ymadawiad ef rhoddwyd galwad i ddyn ieuangc o'r enw John Bevan, aelod o Maesteg, Morganwg, ac urddwyd ef Awst 6ed, 1852, a llafuriodd yn y lle am naw mlynedd. Yn ganlynol i'w ymadawiad ef rhoddodd yr eglwys, yn 1861, alwad i Mr. E. A. Jones, Ynysgau, Merthyr, a llafuriodd yntau yn y lle yn dra diwyd a llwyddianus am yspaid wyth mlynedd, yna symudodd i Dolgellau, Merionydd. Yn mhen tua blwyddyn wedi ymadawiad Mr. Jones, sef ar yr 28ain o fis Chwefror, 1870, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Hughes, Aber, Brycheiniog, a dechreuodd yntau ei weinidogaeth yn y lle Ebrill 24ain, 1870, ac yma y mae yn bresenol. Saif y capel tua dau cant o latheni o dref Llangadog, ar ochr y ffordd i Gwynfe a'r Mynnydd Du. Nid oes un cyfnewidiad neillduol wedi cael ei wneyd ynddo er pan ei hadeiladwyd, gyda yr eithriad o fod pump o seti newydd wedi cael eu gwneyd ynddo er's tua blwyddyn, ond teimlir, yn ol arwyddion pethau yn bresenol, y bydd yn rhaid helaethu ychydig arno yn dra buan. Y mae chwyldroadau amser wedi effeithio yn fawr ar yr eglwys yn y Providence, megis ar eglwysi yn gyffredinol, oblegid nid oes ond wyth aelod o'i mewn yn bresenol ag oedd yn aelodau o honi pan yn y Backway, er hyny y mae yr achos wedi ac yn parhau i fyned rhagddo. Rhifa yr eglwys yn bresenol yn agos i wyth-ugain o aelodau, amryw o ba rai a dderbyniwyd yn ddiweddar. Nid ydym yn gwybod ond am ddau a godwyd yma i bregethu, sef David A. Griffith, yr hwn a addysgwyd yn Aberhonddu, ac sydd yn awr yn weinidog yn Nhroedrhiwdalar; a John Edwards, yr hwn hefyd a addysgwyd yn Aberhonddu, ac a urddwyd yn Blaenafon, sir Fynwy. "
BETHLEHEM
(Already proofed/translated) /big/wal/CMN/Llangadock/Hanes.html
564/566 "Mae y capel hwn mewn llanerch brydferth yn mhlwyf Llangadog. Amddifadrwydd yr ardal o freintiau crefyddol a dueddodd rai personau duwiol i gadw cyfarfodydd er dechreu achos yn y lle. Bu cyfarfodydd yn cael eu cynal mewn gwahanol fanau yn yr ardal, megis Bankyfedwen, Ysguborytwyn, a Phenyfforest; buwyd yn addoli yn y lle olaf am tuadwy flynedd cyn adeiladu y capel. Yn yr adeg hon daeth pregethwr i fyw i'r ardal o Drewyddel; ei enw oedd Daniel Morris, ei waith oedd rhwymo llyfrau. Dywed Mr. Williams, Troedrhiwdalar, mai pregethwr call iawn oedd, ond nad oedd yn ddoniol. Symudodd i'r America mewn teimlad siomedig am na chawsai wahoddiad i fod weinidog. Yn y flwyddyn 1800 adeiladwyd capel yn y fan lle saif yr un presenol. Y personau a fu yn mlaenllaw mewn dechreu achos ac adeiladu capel oeddyntWilliam Davies, Penybanc; John Jones Plasnewydd; a David Jones, Coedshon, aelodau yn hen eglwys barchus Gwynfe. Yr oedd Mr. John Jones, Plasnewydd, yn ymneillduwr egwyddorol ac yn grefyddwr gwresog a chydwybodol, a chafodd y pleser o weled llawer o'i blant yn rhodio yn ffyrdd yr Arglwydd, y rhai a fuont enwog yn eu dydd, megis David Jones, Coedshon, wedi hyny Beilillwyd; Mrs. Morgans, Llangadog; Mrs. Lewis, Pencrug; Mrs Rees, Brynchwith; a Mrs. Jones, Glantywi, &c. Gadawodd Mr. John Jones, Plasnewydd, yn ei ewyllys 2p. yn flynyddol at yr achos yn Bethlehem; a'i fab, Mr. David Jones, 1p. yn flynyddol. Y gweinidog cyntaf a fu yn Bethlehem oedd Mr. David Davies, Sardis, un o bregethwyr mwyaf poblogaidd Cymru yn ei ddydd. Cynyddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa yn fawr o dan ei weinidogaeth ddoniol ac effeithiol, fel yr aeth yr hen gapel yn rhy fach, ac ail-adeiladwyd ef yn 1834. Bu yn llafurio yma o ddechreu yr achos hyd ddydd ei farwolaeth Chwefror 2il, 1838, ac ni fu un anghydfod rhyngddo a'r eglwys drwy flynyddau maith ei weinidogaeth. Wedi marwolaeth Mr. Davis rhoddwyd galwad i Mr. David Williams Blaenllynant i fod yn olynydd iddo. Yr oedd ef yn bregethwr achlysurol yn Bethlehem yn amser Mr. Davies, a dangosodd yr eglwys a'r gynnulleidfa ddoethineb mawr yn eu dewisiad o hono. Urddwyd ef Hydref 31ain, 1838. Gweinyddwyd gan Meistri D. Rees, Llanelli; W. Davies, Llanymddyfri; D. Jones, Gwynfe; E. Jones, Crugybar; ac eraill. Byr iawn fu ei yrfa weinidogaethol, ond cafodd y maes yn addfed i'r cynhauaf, a bwriodd ei gryman i fewn a medodd yn llwyddianus. Mae ei enw mewn coffadwriaeth barchus yn y lle. Bu farw Medi 25ain, 1842. Yn mhen blwyddyn wedi claddu Mr. Williams rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Josuah Thomas, Adulam, Merthyr Tydfil, a chydsyniodd yntau i'w derbyn. Bu yma chwe' blynedd, ac yna ymadawodd i Saron, Aberaman. Wedi ymadawiad Mr. Thomas rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. David Jones, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Ionawr 31ain, 1851. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri W. Morgan, Caerfyrddin; D. Jones, Gwynfe; T. Roberts, Llanelli; E. Davies, Aberhonddu; D. Rees, Llanelli, ac eraill. Bu ef yn gweinidogaethu yma am tua naw mlynedd a haner, ac yn llwyddianus iawn yn ei weinidogaeth. Rhoddodd yr eglwys hon i fyny a chymerodd ofal Hermon, ac oddiyno symudodd i'r America. Mae yn Gomer, Ohio, yn weinidog parchus a llwyddianus. Wedi ymadawiad Mr. Jones rhoddwyd galwad i Mr. Jonathan Davies, myfyriwr of Athrofa Caerfyrddin, ond nid oedd ei alwad yn unfrydol; mewn canlyniad bu yn annedwydd iawn yn lle. Aeth i'r Eglwys Sefydledig, lle y mae eto. Wedi ymadawiad Mr. Jonathan Davies rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. William R. Davies, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Tachwedd 7fed, 1863. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. W. Roberts, Aberhonddu; holwyd y gofyniadau gan Mr. T. Davies, Llandilo; dyrchafwyd yr urdd-wedi gan Mr. D. Rees, Llanelli; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. T. Davies, Llanelli; ac i'r eglwys gan Mr. W. Morgan, Caerfyrddin. Mae Mr. Davies yn parhau i lafurio yma gyda graddau helaeth o lwyddiant. Yn1872 ail-agorwyd y capel wedi ei gyfnewid yn hollol i'r hyn oedd o'r blaen. Mae heddyw yn un o'r capeli harddaf a thlysaf yn y wlad. Dangosodd yr holl ardal ffyddlondeb a haelioni mawr yn adeiladiad y ty hwn. Yn adeg yr agoriad cyflwynodd Miss Eleanor Lewis, Dolgoy, lestri cymundeb hardd a thra gw rthfawr i'r eglwys. Mae'r ardal hon wedi gweled cyfnewidiadau mawr yn ystod y deng mlynedd diweddaf, drwy fod rhai yn myned i'r gweithfaoedd, rhai teuluoedd pwysig wedi symud i'r America, a rhai o'r dynion goreu wedi meirw, er hyny mae pethau yn myned yn mlaen yn ddymunol. Codwyd y personau canlynol i bregethu yma. David Davies, Penybanc, mab Mr. William Davies. Yr oedd yn Gristion enwog a phregethwr derbyniol. Bu farw Hydref 19eg, 1813, yn 35 oed. Ishmael Thomas. Teithiodd ef lawer. Dyn garw a gwyllt ei ffordd oedd, ond gadawai argraff ar feddwl pawb a'i hadwaenai ei fod yn grefyddwr gonest a chydwybodol. Claddwyd ef yn mynwent Bethlehem, paflwyddyn nis gwyddom. William Rees. Urddwyd ef yn Bethel. William C. Thomas. Cafodd dderbyniad i Athrofa Caerfyrddin, ac aethoddiyno i Athrofa Spring Hill, Birmingham. Gallem enwi llawer o ddynion rhagorol fu gyda'r achos yma, megis Hannah Jones, Tanyrallt; Robert Roberts, Glantywi; W. Thomas, Llwyndu; a Jacki Thomas, ac eraill. Y diaconiaid presenol ydynt Mr. Lewis, Dolgoy; Mr. Morgans, Pengeulan; a Mr. Jones, Glanbrainant. "
CROSS INN
(Llandybie parish)
Mae y capel hwn ar derfyn deheuol plwyf Llandebie, mewn pentref, bychan gynt, ond sydd yn awr yn cynyddu yn gyflym, fel y bydd yn fuan yn dref o gryn boblogaeth. Yr oedd aelodau perthynol i Lanedi, Gellionen, a Chwmllynfell yn cyfaneddu yn yr ardal hon er's canrifoedd bellach, a byddai gwinidogion yr eglwysi hyny yn pregethu yn achlysurol yn eu tai. Ond ni bu yma bregethu rheolaidd nes i Mr. Evan Davies ymsefydlu yn Llanedi, a Mr. John Davies yn yr Alltwen. Deuent hwy i'r ardal i bregethu yn nhai eu haelodau yn fynych iawn, ac yn 1782 adeiladasant gapel yma, a chafodd eglwys ffurffio ynddo tuag amser ei agoriad. Gan fod meusydd eu llafur hwy mor eang, anogasant yr eglwys ieuanc hon i roddi ei hun dan ofal Mr. John Davies, Llansamlet, ac felly y bu. Bu Mr. Davies yn dyfod yma o Lansamlet ddau Sabboth o bob mis am flynyddau lawer, er boddlonrwydd ac adeiladaeth neillduol i'r eglwys a'r gynnulleidfa. Pan yn dechreu teimlo pwys henaint a methiant yn dyfod wasgu arno anogodd yr eglwys i edrych allan am gynnorthwywr iddo. Rhoddasant alwad Mr. Rees Powell, Tachloian, gerllaw Capel Isaac, ac urddwyd ef yma yn y flwyddyn 1811. Bu undeb a chydweithrediad hyfryd rhwng y ddau weinidog hyd farwolaeth Mr. Davies yn 1821. O hyny allan syrthiodd yr holl ofal ar Mr. Powell ei hun. Er nad oedd ef ond cyffredin iawn o ran ei alluoedd fel pregethwr, parhaodd yma yn parchus, poblogaidd, a defnyddiol am wyth mlynedd a deugain. Gan fod Mr. Powell yn cyfaneddu dros ddeng milldir o Cross Inn, a bod llesgedd henaint wedi oddiweddyd, rhoddodd ofal yr eglwys fyny yn 1859. Yna rhoddwyd galwad i Mr. John Davies, yr hwn a gymerodd ofal y lle mewn cysylltiad a Chwmaman, ac y mae efe yn parhau yma hyd yn bresenol yn ddefnyddiol a pharchus. Cafodd y capel hwn ei ailadeiladu a'i helaethu yn 1836, ac yn 1865 adeiladwyd ef drydedd waith, pryd y cafodd ei helaethu yn fawr. Ei faint yn bresenol yw 56 troedfedd wrth 40, ac oriel eang oddiamgylch iddo. Nid oes mewn nemawr i ardal wledig yn y Dywysogaeth harddach addoldy. Costiodd yr adeiladaeth dros fil o bunau, er i'r ardalwyr roddi cludiad y defnyddiau yn rhad, ond y mae y ffyrling ddiweddaf o'r ddyled wedi ei thalu er's amser bellach, a'r eisteddleoedd oll yn rhydd a didal i'r gynnulleidfa. Mae yma eglwys gref a thangnefeddus, a chynnulleidfa luosog iawn.
Cafodd y personau canlynol eu cyfodi i bregethu yn yr eglwys hon.
- John Davies, Cerrig Amman. Y mae ef wedi marw er's blynyddau.
- Thomas Jenkins. Gweler ei hanes ef yn nglyn a Phenygroes.
- William Jones. Symudodd oddiyma i Bethania, Llanon. Bu yno am flynyddau yn bregethwr cynorthwyol parchus. Y mae wedi marw er rhai blynyddoedd bellach.
- Jacob Jenkins. Brawd Mr. T. Jenkins, Penygroes. Y mae efe eto fyw ac yn barchus yn mhob man y mae yn adnabyddus.
- Phillip Evans. Yr oedd ef yn bregethwr cynorthwyol poblogaidd lawn. Cafodd ei ddiwedd mewn gwaith glo tua dugain mlynedd yn ol.
- Jonah Morgan. Gweinidog yr eglwys yn y Cwmbach, Aberdar.
- David Morgan. Gweinidog yr eglwys yn Llanedi.
567
- Lot Lake. Gweinidog y Cymry yn Youngstown, America.
- John Thomas. Myfyriwr yn Nghaerfyrddin.
- Rees Rees. Myfyriwr yn Aberhonddu.
- Evan Richards. Myfyriwr yn Aberhonddu.
- David Bowen. Pregethwr cynorthwyol yn ei fam eglwys.
COFNODION BYWGRAPHYDDOL
JOHN DAVIES. Ganwyd yn Gwernllwynchwith, yn mhlwyf Llansamlet, yn y flwyddyn 1740. Yr oedd ei rieni yn bobl gyfrifol o ran eu hamgylchiadau bydol, ac o gymeriad moesol da, ond nis gwyddom pa un a oeddynt yn grefyddol ai nad oeddynt. Cafodd ef fanteision addysg gwell na'r cyffredin o'i gyfoedion, a daeth yn ysgolhaig da. Pan yr oedd rhwng deunaw ac ugain mlwydd oed derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn y Mynydd bach, gan Mr. Lewis Rees. Yn mhen ychydig flynyddau ar ol ei dderbyn yn aelod anogwyd ef i ddechreu pregethu. Bu am lawer o flynyddoedd yn bregethwr cynorthwyol derbyniol iawn yn y Mynydd bach a'r eglwysi cymydogaethol. Pan y corffolwyd eglwys yn Cross Inn, tua flwyddyn 1782, cafodd Mr. Davies alwad i ddyfod yn weinidog iddi. Urddwyd ef yno tua yr un amser ag y corffolwyd yr eglwys. Bu yn teithio yno ddau Sabboth yn y mis, ac weithiau yn fynychach, am yn agos deugain mlynedd. Pan ddaeth Mr. Davies, Llangeler, yn weinidog i'r Mynydd bach yn lle yr hybarch Lewis Rees, yr oedd rhai o'r aelodau yn anfoddlon am na buasid yn dewis Mr. Davies, Llansamlet, yn weinidog yno, ac ymneillduasant o gymundeb yr eglwys, gan osod achos newydd i fyny yn Nhreforis. Rhoddodd Mr. Davies, Llansamlet, ei wasanaeth iddynt fel gweinidog, a bu yn eu gwasanaethu am ddau Sabboth o'r mis hyd derfyn ei oes. Pregethwyr y Methodistiaid fyddai fynychaf ar y ddau Sabboth arall yn pregethu iddynt, ac wedi marw Mr. Davies rhoddodd y gynnulleidfa ei hun i fyny i gyfundeb y Methodistiaid. Dyna ddechreuad achos y Methodistiaid yn Nhreforis.
Pan yn ddeg ar hugain oed priododd Mr. Davies â Mary, merch yr hybarch Lewis Rees, o'r Mynydd bach, o'r hon y cafodd dri o blant. Yn ei dy ef, yn ymyl eglwys Llansamlet, y treuliodd Mr. Rees ei flynyddoedd olaf, ac yno y bu farw. Bu Mr. Davies farw Rhagfyr 13eg, 1821, yn 81 oed, a chladdwyd ef yn mynwent eglwys blwyfol Llansamlet.
Yr oedd John Davies, Llansamlet, yn ddyn gwybodus ac yn ddarllenwr mawr iawn. Daeth yn ddiweddar i feddiant ysgrifenydd y llinellau hyn dros chwech cant o gyfrolau o'i lyfrau, ac y mae y nodau a'r sylwadau a ysgrifenodd ar ymyl dail y rhan fwyaf o honynt yn dangos ei fod wedi eu darllen yn graffus ac ystyriol iawn. Er helaethed wybodaeth nid oedd yn bregethwr poblogaidd, ond yr oedd yn un adeiladol iawn i bob gwrandawr ystyriol. Clywsom hen bobl yn adrodd llawer o'i ddywediadau miniog a synwyrol. Yr oedd yn ddyn haelionus iawn. Gan ei fod o ran ei amgylchiadau bydol yn gymharol gyfoethog, byddai yn rhanu y cyflog a dderbyniai fel gweinidog, ac ychwaneg hefyd, rhwng tlodion gynnulleidfaoedd. Perchid ef gan bawb o'i gydnabod fel dyn da a chrefyddol.
REES POWELL. Ganwyd ef yn agos i Gefnarthen, yn y flwyddyn 1782. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Mhentretygwyn, gan y doniol Evan Harries, pan yr oedd yn bymtheg oed. Dechreuodd bregethu cyn ei fod
568
yn ugain oed. Bu am ychydig amser yn yr Ysgol Ramadegol a gadwai Mr. Peter yn nglyn a'r athrofa yn Nghaerfyrddin. Pan yr oedd tua saith ar hugain oed priododd â dynes ieuanc mewn amgylchiadau cysurus yn ardal Capel Isaac, ac yno y bu yn cyfaneddu hyd derfyn ei oes. Yn 1811 urddwyd ef yn Cross Inn, a bu yno yn barchus a llwyddianus iawn hyd 1859, pryd y gorfodwyd ef gan lesgedd a henaint i roddi ei ofal gweinidogaethol i fyny. Bu Gwernogle hefyd, mewn cysylltiad â Cross Inn, dau ei ofal ef am yn agos deugain mlynedd. Er nad oedd, fel y nodasom, ond pregethwr cyffredin iawn o ran ei alluoedd, ni bu nemawr yn ei oes ef o fwy o wasanaeth i achos crefydd, os ystyrir helaethu terfynau yr achos, cadw y capeli yn llawn o wrandawyr, ac enill canoedd wneyd proffes o grefydd yn wasanaeth i'r achos. Parhaodd ei gynnulleidfaoedd yn Cross Inn a Gwernogle yn gryfion a chynyddol trwy holl dymor ei weinidogaeth. Efe hefyd fu y prif offeryn i ddechreu yr achosion yn Mhenygroes, y Tabernacl a Phenybanc, Llandilo. Bu ei weinidogaeth yn ddiau yn foddion achubiaeth i ganoedd. Dywedai y diweddar David Morris, Capel yr Hendre, pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, iddo ef gael ei droedigaeth dan bregeth o eiddo Mr. Powell dan yr amgylchiadau canlynol : - Yr oedd amryw ddynion ieuainc wedi cyduno i gyfarfod yn mhentref Cross Inn un nos Sabboth i weled David Morris ac un arall yn ymladd. Aethant i'r capel cyn myned i'r lle penodedig i ymladd. Testyn Mr. Powell y nos hono ydoedd " Y nos hon y gofynant dy enaid oddiwrthyt." Tarawodd y testyn a'r bregeth feddwl David Morris mor rymus fel yr aeth adref o'r oedfa dan ruddfan a gweddio yn lle myned i'r cae i ymladd.
Bu Mr. Powell farw Medi 15fed, 1865, yn 84 oed. Pregethwyd yn ol ei ddymuniad yn ei angladd gan Dr. Rees, Abertawy, ac areithiwyd wrth y bedd gan Mr. Davies, Cwmaman. I'w synwyr cyffredin, ei hawddgarwch, a phereidd-dra ei lais yn fwy nag i'w alluoedd meddyliol yr oedd Mr. Powell yn ddyledus am ei boblogrwydd. Aeth tri o'i feibion weinidogaeth, fel y nodwyd yn hanes Capel Isaac.
Translation by Garerth Hicks (Nov 2008)
This chapel is at the southern end of Llandybie parish, in a village, small to start with, but which is now growing quickly, so that it will soon be a populous town. There were members connected to Llanedi, Gellionen and Cwmllynfell inhabiting this area from past centuries, and ministers from those churches occasionally preached in their houses. But there was no regular preaching here until Mr Evan Davies was installed in Llanedi, and Mr John Davies in Alltwen. They came to the district to preach in the members' houses quite regularly, and in 1782 a chapel was built here, and a church was formed there by the time it opened. Since the 'end-product' (meusydd?) of their labours was so capacious, this young church was exhorted to put itself under the care of Mr John Davies, Llansamlet, and so it did. Mr Davies came here from Llansamlet on two Sundays each month for many years, notwithstanding the willingness and that the building was special to the church and congregation. When he began to feel the weight of age and infirmity pressing on him, he encouraged the church to look elsewhere for its succour. They gave a call to Mr Rees Powell, Tachloian, near Capel Isaac, and he was ordained here in 1811. There was solidarity and co-operation between the two ministers until Mr Davies died in 1821. From then on the whole care fell on Mr Powell alone. Although he was but an ordinary man in his role as a minister, he continued here reverently, popularly and helpfully, for 48 years. As Mr Powell lived over 10 miles from Cross Inn, and the infirmity of old age had overtaken him, he gave up the care of the church in 1859. They then gave a call to Mr John Davies, who took over the the place together with Cwmaman, and he continues here to the present day reverently and helpfully. This chaple was rebuilt and extended in 1836, and in 1865 it was rebuilt for the third time, when it as greatly extended. Its present size is 56 feet by 40, with a spacious gallery within it. There is hardly a more beautiful temple in a rural area of the principality. The rebuilding cost over a thousand pounds, despite the residents carrying the materials for nothing, but the last farthing of the debt has been settled for some time, and all the occupation is free of debt to the congregation. There is here a strong and peaceful church with a very large congregation.
The following were raised to preach in this church;
- John Davies, Cerrig Aman. He has been dead for years.
- Thomas Jenkins. See his history on connection with Penygroes
- William Jones. Moved from here to Bethania, Llanon. Died some years back
- Jacob Jenkins. Brother of T Jenkins, Penygroes.
- Phillip Evans. Died in coal mine (accident) about 40 years ago
- Jonah Morgan. Minister at Cwmbach, Aberdare
- David Morgan. Minister at Llanedi
- Lot Lake. Welsh minister at Youngstown, America
- John Thomas. Student at Carmarthen
- Rees Rees. Student at Brecon
- Evan Richards. Student at Brecon
- David Bowen. Assistant preacher in his mother church
Biographical Notes *
JOHN DAVIES. Born in Gwernllwynchwith in Llansamlet parish in 1740 ... admitted at Mynyddbach, also assistant preacher there ... ordained at Cross Inn in 1782 ... Married Mary, daughter of the venerable Lewis Rees, Mynydd bach ... three children ... Died in 1821 aged 81 ... buried at Llansamlet parish church ... known as John Davies, Llansamlet
REES POWELL. Born near Cefnarthen in 1782 ... admitted at Pentretygwyn ... went to the Grammar School run by Mr Peter linked to Carmarthen College ... ordained at Cross Inn in 1811 where he ministered until 1859 when he gave it up due to old age ... died in 1865, aged 84 ... 3 of his sons became ministers as noted under Capel Isaac
*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated
GWYNFE
(Llangadog parish)
Gwynfe y gelwir y rhandir uchaf o blwyf Llangadog. Mae yn lle diarffordd, ar lechwedd y Mynydd Du, lle y mae cloddfeydd calch. Yr oedd lle gynt yn dra neillduedig, y fath ag a ddewisasid i addoli mewn adeg erledigaethus. Mae adeg dechreuad yr achos yn anhysbys, ond bernir yn gyffredin ei fod mor foreu a dyddiau yr Annghydffurfwyr. Bu yr achos yn ei gyfnodau cyntaf mewn cysylltiad â Chwmllynfell, ac o dan yr un weinidogaeth, ac felly yr ydoedd hyd derfyn gweinidogaeth Llewelyn Bevan a Roger Howell, o gylch y flwyddyn 1742. Bu Edmund Jones, Pontypool, yn dyfod yma yn fisol o'r flwyddyn 1731 hyd 1739. Nid oes genym sicrwydd am amser adeiladiad y capel cyntaf yma, ond dywedir fod y capel presenol y trydydd os nad y pedwerydd capel yn y lle.
Dywedir fod boneddwr o'r enw Mathew John, yn byw yn Maesadda, yn berchen ar amryw ffermydd yn yr ardal, ac yn ddyn crefyddol iawn. Cafodd lês ar ysmotyn o dir yn ymyl y brif heol yr amser hwnw, ac adeiladodd gapel arno ar ei draul ei hun, ond rhoddodd dau neu dri o weithwyr eu llafur am ddim, y rhai oeddynt hefyd o'r un golygiadau crefyddol a'r
569
boneddwr. Pan fu yr hen foneddwr farw gwaddolodd yn ei ewyllys yr achos yn Gwynfe trwy osod symiau penodol o arian yn flynyddol i'w talu oddiar dair o'r ffermydd a berchenogid ganddo, sef Maesadda, Fforch-y-ddwynant, a Gellicaerau. Lluosogodd ei etifeddion fel y codwyd mortgage ar yr ystâd. Yn mhen blynyddoedd, ac wedi i'r etifeddion gael y gweithredoedd oll i'w dwylaw, gwerthasant y tiroedd. Prynwyd Gellicaerau gan John Rees, y cyntaf, o'r Brynchwith, a bu ef yn talu 2p. y flwyddyn oddiar Gellicaerau at yr achos yn Gwynfe hyd ei fedd. Ond ni chafwyd dim oddiwrth y tiroedd eraill wedi iddynt gael eu gwerthu. Yr oedd un o hiliogaeth yr hen Fathew John yn byw yn yr ardal hon er's llai na deugain mlynedd yn ol, ac yr oedd yn aelod yn Gwynfe, ac yn gymeriad pur hynod, fel y mae llawer o chwedlau ffraeth a difyr yn cael eu hadrodd am dani. Adeiladwyd y capel cyntaf o ddefnyddiau cyffredin iawn, yn ymyl Tanerdy (tanhouse) Pantytymawr, ac yr oedd beudy wrth un talcen iddo. Yr helaethiad cyntaf a wnaed ar y capel hwnw oedd ei estyn nes yr oedd yn gorchuddio dros hen safle y beudy Tô gwellt, llawr pridd, a meingciau rhyddion oedd nodweddion y capel hwnw. Yn y flwyddyn 1773, pan aeth hwnw yn rhy fychan ac adfeiliedig, adeiladwyd un arall ar yr un ysmotyn, ac oherwydd fod hwnw yn wychach a helaethach na'r un o'r blaen, gysodwyd cryn hyder ynddo y buasai yn parhau am oesau lawer. Wrth adnewyddu y lês y tro hwn, gosodwyd adran ynddi i orfodi yr ymddiriedolwyr i adeiladu ystabl hefyd ar y llecyn i fod o wasanaeth i'r rhai a farchogent i'r lle i addoli. Gan fod peth o'r muriau newyddion y waith hon wedi eu hadeiladu yn rhy agos i hen byllau y Tanerdy ni bu y capel yn hir iawn cyn dechreu adfeilio. Yn y cyfnod yma bu Mr. Evan Griffiths, Capel Seion, yn weinidog achlysurol yma. Mae ger ein bron yn awr lythyr dyddiedig Rhagfyr 31ain, 1770, a anfonwyd gan eglwys Gwynfe at Reolwyr y Bwrdd Presbyteraidd, i ddiolch iddynt am eu caredigrwydd yn anfon rhodd iddynt trwy law "Mr. Evan Griffiths, eu gweinidog achlysurol," a dywedant y bydd hyn yn eu galluogi i gael rhyw rai i bregethu iddynt ar y Sabbothau eraill. Nis gwyddom pa cyhyd wedi y flwyddyn 1774 y bu Mr. Griffiths yn cyrchu yma. Yr oedd William Gibbon yn dyfod yma yn 1784, a Thomas Coslet yn 1789. Rhoddwyd galwad i Mr. Peter Jenkins, o'r Brychgoed, a bu ef yma yn ddiwyd hyd ei farwolaeth. Nid oedd rhifedi yr aelodau ar sefydliad Mr. Jenkins ond prin ugain, ond yr oedd rhai o honynt yn gryfion eu hamgylchiadau bydol, ac wedi cyfranu yn dda at dalu dyled y capel, ond yr oedd eto gryn swm yn aros. Mewn cyfarfod parotoad ar brydnawn Sadwrn, gofynodd Mr. Jenkins a allasai efe obeithio y cawsai y ddyled ei thalu heb fod yn faith? Yna cyfranwyd yn galonog gan amryw, ond yr oedd mwy na deugain punt yn eisiau drachefn cyn talu yr oll. Ar hyn cododd John Rees, Brynchwith, a thaflodd ddugain gini i'r bwrdd, a chliriwyd ef yn y fan. Wedi marwolaeth Mr. Jenkins bu Mr. Jenkin Morgan, Pentretygwyn, yn dyfod yma yn fisol hyd nes y rhoddwyd galwad i Mr. David Jones, Pantarfon. Urddwyd ef yma Gorphenaf 2il, 1822. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri D. Jenkins, Brychgoed; G. Griffith, Ebenezer ; D. Jones, Crugybar ; J. Williams, Ffestiniog; T. Griffiths, Hawen ; L. Powell, Capel Isaac ; J. Morgan, Pentretygwyn ; D. Williams, Llanwrtyd; a J. Rowlands, Llanybri. Yr oedd nifer yr aelodau o dan ddeugain pan sefydlodd Mr. Jones yma, ond gwelodd lwyddiant mawr ar ei weinidog-
570
aeth. Bu yma ddiwygiadau grymus, fel y cynyddodd yr eglwys i fod ar un adeg yn 500 o aelodau. Yn y flwyddyn 1827 adeiladwyd y capel presenol, yr hwn sydd yn dy cadarn a gwasanaethgar ; ond y mae amryw ad-drefniadau wedi eu gwneyd ynddo ar ol hyny. Parhaodd Mr. Jones i weinidogaethu yma hyd Ebrill 25ain, 1859, pan y symudodd oddiwrth ei waith at ei wobr. Yn niwedd y flwyddyn hono rhoddodd Gwynfe a Chapel Maen alwad i Mr. William Thomas, myfyriwr yn Athrofa Caerfyrddin, a chafodd ei urddo yma yn nechreu mis Mawrth, 1860. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri C. Evans, Voel ; J. Griffiths, Llanymddyfri ; I. Williams, Trelech ; T. Jones, Gwernogle ; E. Jones, Crugybar ; D. Jones, Bethlehem ; T. Davies, Llandilo ; D. C. Jones, Abergwyli ; Proffesor Morgan, Caerfyrddin; J. Davies, Glandwr; a John Jones (T.C.), Llanddeusant. Mae yr achos wedi myned yn mlaen yn llewyrchus iawn yn ystod gweinidogaeth y gweinidog presenol ; ac er na chafwyd diwygiadau mawrion a grymus iawn, eto derbyniwyd yma gynifer a 12, 14, ac 16 yr un cymundeb amryw weithiau. Yn y flwyddyn 1861 ymunodd Gwynfe a Chapel Maen i adeiladu ysgoldy oddeutu haner y ffordd rhwng y ddau gapel, a thalwyd yr oll am dano cyn hir. Adnewyddwyd Gwynfe yn y flwyddyn 1862, a chliriwyd y draul ar unwaith. Yn mis Mehefin, 1867, pan oedd y fynwent wedi myned yn rhy gyfyng i gladdu ynddi, prynodd yr eglwys dri cotdy a thair gardd a berthynai iddynt, gan Dr. J. L. Prichard, Merthyr, a thalwyd am danynt ar unwaith, fel y mae yma yn awr ddernyn helaeth o dir, yr hwn yn nghyd a'r capel sydd yn rhyddfeddiant i'r eglwys dros byth. Mae yr achos yn ei holl ranau yn ymddangos yn iachus a llewyrchus.
Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.
- Thomas Coslet. Yn 1789 rhoddodd ef esboniad Mathew Henry yn anrheg i weinidog yr eglwys hon, yr argraffiad a gyhoeddwyd yn 1721. Dywedir iddo fod yn weinidog yn Llandyfan.
- David Evans, Cwmwysg. Daw ei hanes yn nglyn a'r eglwys yno.
- David Griffith. Y Cenhadwr yn Madagascar. Cawn gyfeirio ato yn hanes y Gelli.
- Samuel Howells. Ymfudodd i America, ac ymsefydlodd yn Park River.
- Daniel Howells. Mae yn bregethwr cynorthwyol parchus yn Llanymddyfri.
- David Williams. Mae ei hanes ef yn nglyn â Bethlehem, lle yr urddwyd ef.
- Joseph Jones. Urddwyd ef yn Bristol, ac ymadawodd at y Bedyddwyr
- John M. Bowen. Mae yn weinidog yn Penydaran, Merthyr Tydfil.
- John Thomas. Addysgwyd ef yn Aberhonddu, ac y mae yn awr yn y Wern, sir Ddinbych.
- David Morgans. Mae yn weinidog yn awr yn Ystradfellte, sir Frycheiniog.
Aelodau o Gwynfe a aeth i ddechreu yr achos yn Bethlehem, lle erbyn hyn y mae achos cryf a blodeuog. Bu y teuluoedd canlynol yn gefnogwyr ffyddlon i'r achos yn Gwynfe. David Walters, Ysw., a Mrs. Walters, Penrhiw; hefyd David eu mab, a'i wraig, a merch eu mab a'i phriod, sef y diweddar Mr. David Lewis, Penrhiw. Bu ef yn byw yn Penrhiw am wyth-mlynedd-a-thriugain, ei dad-ynghyfraith am haner can' mlynedd, a thad hwnw cyn hyny am oddeutu haner can' mlynedd; felly y mae y
571
teulu hwn yn ymgeleddwyr yr achos yn Gwynfe er's dros gant a thriugain mlynedd yn ddidor. Teulu arall ydyw Brynchwith, y tri John Rees yn olynol ; y maent hwy wedi bod yn gefnogwyr gwresog i'r achos am gan' mlynedd yn olynol. Hefyd y Jonsiaid, Llwynwenol gynt ; Jones, Ynystoddeb ; a Jones, y Beili, Gwynfe, hefyd sydd wedi rhoddi cynorthwyon mawrion ar adegau pwysig. Shon Thomas Dafydd, o'r Gelli, a ddechreuodd yr Ysgol Sabbothol gyntaf oll yma, a bu Michael Thomas ac amryw ereill yn ddynion gweithgar a llafurus gyda'r achos. Cyfrifid yr eglwys gynt yn wybodus a deallgar, ac nid ydyw eto wedi colli ei nodweddiad yn hyny, er fod yr hen dô gan mwyaf oll wedi eu casglu at eu tadau.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
DAVID JONES. Ganwyd ef mewn lle a elwir Pantyblawd, heb fod yn mhell o Gapel Isaac, lle yr oedd ei rieni yn aelodau crefyddol parchus. Yr oedd yn orwyr i Thomas William, awdwr yr " Oes-Lyfr,'* ac un o hen weinidogion Capel Isaac. Gan fod ei rieni mewn amgylchiadau bydol cysurus cafodd Mr. Jones addysg dda yn fachgen, a gwnaeth ddefnydd rhagorol o'i fanteision. Meistrolodd elfenau cyntaf dysgeidiaeth, a dangosodd pan yn ieuangc hoffder mawr at bob cangen o wybodaeth fuddiol. Yr oedd ganddo wybodaeth gyffredinol eang, ac mewn amaethyddiaeth a thriniaeth anifeiliaid a'u meddyginiaeth yr oedd yn fedrus iawn. Ymhyfrydai yn fawr yn ei ieuengctyd mewn hela a saethu, ac yr oedd ganddo trwy ei oes hoffder mawr yn hyny. Yr oedd wedi priodi ac ymsefydlu yn Pantarfon, ei dir ei hun, cyn dyfod at grefydd, er ei fod bob amser yn ddyn moesol ac yn wrandawr cyson. Derbyniwyd ef yn aelod yn Capel Isaac, gan Mr. L. Powell, wedi hyny o Gaerdydd, tua'r flwyddyn 1816, ac yn mhen llai na dwy flynedd anogwyd ef i ddechreu pregethu, ac wedi pregethu llawer yn Nghapel Isaac, Abergorlech, Tabor, a Gwynfe, ac yn achlysurol mewn manau eraill, derbyniodd alwad o Gwynfe, ac urddwyd ef yno Gorphenaf 3ydd, 1822. Yr oedd pellder ei ffordd oddiwrth bobl ei ofal yn anfantais iddo, ond er hyny ymroddodd i gyflawni ei weinidogaeth, a chyrchai i Gwynfe yn rheolaidd ddau Sabboth o bob mis. Byddai yn parotoi ei bregethau yn ofalus, ac yn eu hysgrifenu yn fanwl, a pharhaodd i wneyd felly trwy ei oes. Digwyddodd ei fod unwaith yn gynar yn ei oes weinidogaethol yn pregethu yn Beili, Gwynfe, ar un prydnawn Sabboth, ac yr oedd ganddo bregeth yr hon a barotoisai yn fanwl, ond yn anffodus aeth yn hollol o'i gof, ac nid oedd ganddo ond ceisio ymlwybro yn mlaen gan dynu at yr Amen mor fuan ag y gallai, ac ni wyddai yn iawn pa beth a ddywedasai. Parodd yr amgylchiad dristwch mawr i'w feddwl, ac aeth tuag adref gan benderfynu rhoddi ei weinidogaeth i fyny. Pan ddychwelodd adref yr oedd Bidi (Bridget) fel yr arferai alw Mrs. Jones, yn siriol fel arferol, ond deallodd, fel gwraig graffus, fod rhywbeth allan o le, a gofynodd pa beth oedd yn bod. Adroddodd yntau yr helynt, ac ychwanegodd, " Nid âf i bulpud byth mwyach ; aeth yn ormod o'r dydd cyn i mi ddechreu, gwell i mi ei gadael na phoeni eraill hefyd.'* "Na, na," ebe hithau, "peidiwch a thori eich calon ar unwaith, treiwch hi dipyn eto;" ac felly y bu. Ymroddodd ei oreu i barotoi erbyn y tro nesaf yr oedd i fyned i Gwynfe ; a dydd Sadwrn wrth fyned pwy a gyfarfu ag ef ond Michael Thomas, un o oraclau Gwynfe, a'r gair cyntaf
572
a ddywedodd wrtho oedd, "Wel chi gwnaethoch hi yn y Beili y prydnawn Sabboth." " Beth ?" ebe Mr. Jones y ddychrynedig iawn. " Beth!" ebe Michael, " chi argyhoedd'soch beth wmredd yno, y maent yn dyfod i'r gyfeillach wrth y degau."" Wel, wel," ebe Mr. Jones, "pan wyf wan yna yr wyf gadarn."Daeth deffrodd mawr trwy yr holl wlad, a rhoddodd yr amgylchiad fywyd newydd yn ei weinidogaeth. Bu am dymhorau yn gwasanaethu Crugybar, Tabor, a Siloam, a bu Capel Isaac dan ei ofal am flynyddau, hyd nes y blinwyd ei ysbryd gan ryw gymeriad anhywaeth oedd yn y lle; a bu Salem dan ei ofal mewn cysylltiad â Gwynfe o'r flwyddyn 1828 hyd ei farwolaeth. Yr oedd Mr. Jones yn mhob ystyr yn ddyn synwyrol a deallgar ; yn ddarllenwr manwl o fewn ei gylch, a chanddo gôf rhagorol. Pregethai yn gryf a sylweddol, gyda llawer o egni, bywiogrwydd, a nerth, er heb lawer o dynerwch ac ystwythder yn ei ddawn ; ac yr oedd bob amser gyda hanfod yr efengyl. Dyoddefodd oddiwrth ddolur poenus tua'r flwyddyn 1838, yr hwn a'i hanalluogodd am dymor hir i gyflawni ei weinidogaeth, ond estynwyd iddo ugain mlynedd ar of hyny. Bu farw Ebrill 25ain, 1859, yn 71 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Capel Isaac, yn ymyl llawer o'r hen dadau a'i croesawodd yn siriol i eglwys Dduw er's mwy na deugain mlynedd cyn hyny.
Translation by Gareth Hicks (Dec 2008)
Gwynfe is what they call the higher part of Llangadog parish. It is a remote place, on the slopes of the Black Mountain, a place where there are lime pits. The place was previously quite secluded, the sort that one would wish to worship in at times of persecution. The period that the cause began in is unknown, but it is commonly judged to be as early as the days of the Nonconformists. In its first records the cause is connected to Cwmllynfell, and under the same minister, and so it was until the close of the ministeries of Llewelyn Bevan and Roger Howell, around the year 1742. Edmund Jones, Pontypool, came here monthly from 1731 until 1739. We can't be sure when the first chapel was built here, but it is said that the present chapel is the third if not the fourth chapel in the place.
It is said that a gentleman of the name Mathew John, living in Maesadda, was the owner of several farms in the area, and a very religious man. He obtained a lease on a strip of land at the side of the main road of the time, and he built a chapel on it at his own cost, although 2 or 3 workers gave their labour for nothing, those who were of the same religious persuasion as the gentleman. When the old gentleman died he endowed the cause in Gwynfe in his will with set fixed amounts of money per annum to be paid out of 3 of the farms he owned, namely Maesadda, Fforch-y-ddwynant, and Gellicaerau. His heirs multiplied and a mortgage was raised on the estate. After some years, when they had all the deeds in their hands, they sold the land. Gellicaerau was bought by John Rees, the first, of Brynchwith, and he paid £2 per annum to the cause at Gwynfe until his grave. But they had nothing from the other land after they had been sold. One of the offspring of the old Mathew John lived in this area up to less than 40 years ago, and he was a member at Gwynfe, and a notably genuine character, as that there are many witty and jolly stories told about him. They built the first chapel from very ordinary materials, at the side of Tanerdy (tanhouse) Pantytymawr, and there was a cowhouse at one end of it. The first improvement they made to that chapel was to extend it until it covered the old footings of the cowhouse. A straw roof, earth floor, and loose benches were features of that chapel. In 1773, when the latter became to small and dilapidated, they built another on the same spot, and because this one was more lovely and capacious than the one before, they placed considerable reliance on it and it lasted for a long time. In renewing the lease on that occasion, a clause was put in to it to oblige the trustees to build a stable on the spot as well to to be of service to those who rode to the place to worship. As part of the new walls of that building had been built too close to the old pits of the Tanhouse, the chapel wasn't long in starting to deteriorate. In this period Mr Evan Griffiths, Capel Seion, was an occasional minister here. There is before us at present a letter dated December 31st 1770, it was sent by Gwynfe church to the Governor of the Presbyterian Board, to thank him for their kindness in sending a donation to them through the hand of "Mr Evan Griffiths, their occasional minister", and said that this would enable them to get someone to preach to them on the other Sundays. We don't know how long after 1774 Mr Griffiths came here. William Gibbon was coming here in 1784, and Thomas Coslet in 1789. They gave a call to Mr Peter Jenkins, from Brychgoed, and he was here diligently until his death. The number of members when Mr Jenkins was installed was barely 20, but some of these were powerful in their secular circumstances, and have contributed well towards repaying the chapel's debt, but there was still a considerable sum remaining. In a preparation meeting on a Saturday afternoon, Mr Jenkins asked if he could hope that the debt could be paid ere too long ? Then several contributed wholeheartedly, but there was a further £40 needed before the total was paid. At this John Rees, Brynchwith, stood up and threw 40 guineas on the table, and cleared it on the spot. After Mr Jenkins died, Mr Jenkin Morgan, Pentretygwyn, cam here monthly until they called Mr David Jones, Pantarfon. He was ordained here on July 2nd 1822. Officiating on the occasion were Messrs D. Jenkins, Brychgoed; G. Griffith, Ebenezer ; D. Jones, Crugybar ; J. Williams, Ffestiniog; T. Griffiths, Hawen ; L. Powell, Capel Isaac ; J. Morgan, Pentretygwyn ; D. Williams, Llanwrtyd; and J. Rowlands, Llanybri. The number of members was under 40 when Mr Jones was installed here, but they made great headway under his ministry. There were powerful revivals here, so that the church increased to 500 members at one time. In 1827, they built the presernt chapel, which is a solid and serviceable house; but some changes were made to it after that. Mr Jones continued his ministry here until 25 April 1859, when he moved from his work to his reward.(Died ?). At the end of that year Gwynfe and Capel Maen gave a call to Mr William Thomas, a student at Carmarthen College, and he was ordained here at the start of March, 1860. Officiating at the occasion were Messrs C. Evans, Voel ; J. Griffiths, Llandovery ; I. Williams, Trelech ; T. Jones, Gwernogle ; E. Jones, Crugybar ; D. Jones, Bethlehem ; T. Davies, Llandilo ; D. C. Jones, Abergwyli ; Proffesor Morgan, Carmarthen; J. Davies, Glandwr; and John Jones (T.C.), Llanddeusant. The cause has move on very successfully during the ministry of the current minister; and although they didn't have great and mighty revivals, they admitted as many as 12, 14 and 16 at the same communion sometimes. In 1861 Gwynfe and Capel Maen decided to build a school house about half way between the two chapels, and soon paid for it all. They renovated Gwynfe in 1862, and cleared the cost immediately. In June 1867, when the graveyard had become too full to bury in, they bought 3 cottages and 4 gardens belonging to them, from Dr J L Pritchard, Merthyr, and paid for them at once, so that there is now here an ample plot of land, which is all available with the chapel for the church to use for ever. The cause shows in every way that it is healthy and flourishing.
The following people were raised to preach in this church;
- Thomas Coslet. ... said to have been a minister at Llandyfan
- David Evans, Cwmwysg. ... see that church for his history
- David Griffith. ... missionary in Madagascar ... see history of Gelli .
- Samuel Howells. ... moved to America, settled in Park River
- Daniel Howells. ... assistant preacher at Llandovery
- David Williams. ... see history of Bethlehem.
- Joseph Jones. ... ordained at Bristol, moved to the Baptists
- John M. Bowen. ... minister at Penydaran, Merthyr Tydfil.
- John Thomas. ... educated Brecon ... now in the Wern, Denbighshire
- David Morgans. ... now minister at Ystradfellte, Breconshire
It was members from Gwynfe who went to start a cause in Bethlehem, a place by now with a strong and flourishing cause. The following families were faithful supporters of the cause in Gwynfe. David Walters, Esq, and Mrs Walters, Penrhiw; also David their son, and his wife, and their son's daughter, and her husband, namely the late Mr David Lewis, Penrhiw. He lived at Penrhiw for 68 years, and his father in law for 50 years, and the latter's father before that for about 50 years; so this family has continuously supported the cause in Gwynfe for over 160 years. Another family is Brynchwith, the 3 John Reeses in succession; they have been warm supporters of the cause for a hundred years in succession. Also the Joneses, former;y Llwynwenol; Jones, Ynystoddeb; and Jones, the Beili, Gwynfe, they also gave strong support at important times. Shon Thomas Dafydd, from Gelli, he began the first Sunday School here, and Michael Thomas and several others were active and industrious with the cause. The early cause was reputed to be knowledgable and understanding, and it has yet to lose its character as such, although the old generation have on the whole joined their fathers.
Biographical Notes*
DAVID JONES. ... born in Pantyblawd, near Capel Isaac ... member there around 1816 ... preached in Capel Isaac, Abergorlech, Tabor and Gwynfe ... ordained at Gwynfe in 1822 ... had Salem and Gwynfe under his care until he died in 1859, aged 71 ... buried at Capel Isaac,
*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated
CAPEL MAEN
(Llangadog parish)
Cangen o Gwynfe ydyw Capel Maen. Aelodau o Gwynfe gan mwyaf oedd yn byw yn y gymydogaeth er's blynyddoedd lawer, ac arferai y pregethwr a fuasai yn pregethu yn Gwynfe boreu Sabboth fyned i bregethu yn yr hwyr i ryw amaethdy yn y gymydogaeth lle y mae Capel Maen yn awr. Yr oedd yma Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd wythnosol hefyd yn cael eu cadw yn yr amaethdai yn rheolaidd. Yn y flwyddyn 1852 adeiladwyd Capel Maen, ac agorwyd ef yn mis Mai, 1853. Ffurfiwyd eglwys yma Ionawr 8fed, 1854, gan Mr. David Jones, Gwynfe. Nifer yr aelodau a ymadawsant o Gwynfe ffurfio yr eglwys yn Capel Maen oedd 119. Ac yr oedd dau yn cael eu derbyn yn aelodau yma o'r newydd, sef y diweddar Morgan Morgans, Ddyfadfaisaf, a William Davies, ei was, felly rhifedi aelodau Capel Maen y cymundeb cyntaf yma oedd 121. Y diaconiaid cyntaf yn Capel Maen oeddynt Lewis Lewis, Llwynbrain ; Morgan Thomas, Ddyfadfauchaf; Henry Morgans, Treglai ; a Thomas Richards, Penrhiwmeilwch, o'r rhai nid oes ar dir y byw ond Mr. Lewis, Llwynbrain, yn unig. Yn niwedd y flwyddyn 1866 rhif yr eglwys yma oedd 125. Bu Mr. Jones yn gweinidogaethu yma mewn cysylltiad â Gwynfe a Salem hyd ei farwolaeth, ac yn gymeradwy iawn gan fyd ac eglwys. Yn y flwyddyn 1860 urddwyd Mr. William Thomas yn weinidog yma mewn cysylltiad â Gwynfe, ac erbyn diwedd y flwyddyn 1861 yr oedd rhifedi aelodau Capel Maen wedi cynyddu i 182. Yn y flwyddyn 1861 ymunodd Capel Maen a Gwynfe i adeiladu yr ysgoldy Brytanaidd, a bu yr ardal yma yn ymdrechgar iawn gyda'r gwaith hwnw. Yn 1864 helaethwyd ac adnewyddwyd Capel Maen, fel y gwnaed ef yn gapel cyfleus a phrydferth iawn, aed i'r draul o dros 300p., ac y mae pob ceiniog o'r ddyled wedi ei thalu er's blynyddoedd. Y mae claddfa brydferth wrth y capel ar yr un lês a'r capel. Mae yn perthyn i'r eglwys ddynion ieuaingc gweithgar iawn gyda'r canu cynnulleidfaol, yr Ysgol Sabbothol, y dos-
573
barth Beiblaidd, a holl gyfarfodydd yr eglwys. Meibion ydynt yn dyfod yn lle y tadau. Mae yr achos yn myned rhagddo yn gysurus, ond y mae poblogaeth yr ardal yn lleihau yn barhaus. Achosir hyn gan y pethau canlynol : - Yr amaethwyr yn defnyddio peirianau i wneyd y gwaith a arferid i wneyd gan ddynion - uno tiroedd a ffermydd bychain at ffermydd mawrion - troi y tir llafur yn dir porfa'i a'r galwad mawr sydd am a'r cyflogau uchel sydd i weithwyr yn y gweithfaoedd glô a haiarn, yn nghyd a'r lleihad sydd wedi cymeryd lle mewn gweithwyr yn y gwaith calch cyfagos. Mae achau y ffyddloniaid i achos crefydd wedi eu cadw yn gyfan am lawer oes, ac y mae Annghydffurfiaeth wedi cymeryd a chadw meddiant o'r holl wlad. Mae wyth o Ysgolion Sabbothol yn perthyn i Capel Maen a Gwynfe, mewn gwedd lewyrchus.
O.Y. - Cafodd alw Capel Maen, am fod maen mawr yn nghongl y cae lle y cafodd ei adeiladu, ac wrth hollti y maen hwnw cafwyd llawer o geryg adeiladu y capel.*
Translation by Gareth Hicks (Dec 2008)
Capel Maen is a branch of Gwynfe. It was largely members of Gwynfe who lived in the neighbourhood for many years, and it was customary for the preacher who preached in Gwynfe on Sunday mornings to go to preach later in a dwelling place where Capel Maen is now. There was here a Sunday School and weekly meetings held regularly in the dwelling houses. In 1852, they built Capel Maen, and it opened in May 1853. A church was formed here on January 8th 1854, by Mr David Jones, Gwynfe. The number of members who left Gwynfe to form the church in Capel Maen was 119. And two new members were admitted here, namely the late Morgan Morgans, Ddyfadfaisaf, and William Davies, his servant, thus the number of members of Capel Maen at the first communion was 121. The first deacons at Capel Maen were Lewis Lewis, Llwynbrain; Morgan Thomas, Ddyfadfauchaf; Henry Morgans, Treglai; and Thomas Richards, Penrhiwmeilwch, of these only Mr Lewis Lewis, Llwynbrain. is still on this earth. At the end of 1866 the number of members here was 125. Mr Jones ministered here together with Gwynfe and Salem until he died, and did so creditably according to the church et al. In 1860 Mr William Thomas was ordained as minister here together with Gwynfe, and by the end of 1861 the membership at Capel Maen had risen to 182. In 1861 Capel Maen and Gwynfe decided to build a British School, and the area here was vigourous in that work. In 1864 they enlarged and renovated Capel Maen, thus making it a very convenient and beautiful chapel, the cost came to over £300, and every penny of the debt has been repaid for years. There is a lovely graveyard by the chapel, on the same lease as the chapel. There belong to the church some young men very active in congregational singing, the Sunday School, the Bible class, and all the church's activities. They are sons coming in the fathers' places. The cause moves forward comfortably, but the populatioon of the area is continually decreasing. This is caused by the following things; - the farmers using machinery to do the work usually done by men - merging the land of small farms with bigger ones - turning the corn fields into grazing fields and the great attraction of the high wages of the coal and iron works, together with the decrease that has taken place in the neighbouring lime works. The generational links of the religious faithful has held together for a long time, and Anti-Nonconformity has taken over possession of the whole country. There are 8 Sunday Schools connected to Capel Maen and Gwynfe, in a flourishing state.
O.Y .- Capel Maen was so called because of a large stone in the corner of the field where it was built, and through splitting that stone they got a lot of the stones to build the chapel.*
*We are mainly indebted to Mr W Thomas, Gwynfe, for the histories of Gwynfe and Capel Maen
SALEM
(Llandeilofawr parish)
Mae'r capel hwn yn sefyll tua thair milldir i'r gogledd o Llandilofawr. Cangen ydyw o Capel Isaac. Sefydlwyd yr achos yma tua'r flwyddyn 1816, trwy offerynoliaeth Mr. L. Powell, Mynyddbach, fel ei gelwid y pryd hwnw, yn nghyd ag ychydig gyfeillion o Capel Isaac, y rhai oedd yn byw yn yr ardal. Yr ydoedd ardal Salem yn hynod o lygredig yr amser hwnw. Arferai yr ardalwyr ymgasglu yn nghyd ar brydnawn Sabbothau i le a elwid Bank-y-bwl, lle y byddid arferol a dwyn yn mlaen bob math o chwareuon llygredig. Ac er rhoddi i lawr yr arferiadau ffôl ac ynfyd hyny, dechreuwyd cynal yma wasanaeth crefyddol. Y cyntaf a fu yn pregethu yma oedd Mr. Daniel Jones, Crugybar. Danfonodd ei gyhoeddiad i'r ardal, mentrodd i faes y chwareu, a safodd i fyny dan yr hen dderwen, a chyhoeddodd Grist yn ddigonol geidwad i'r chwareuwyr. Wedi hyny prynwyd y darn tir adnabyddid wrth yr enw Bank-y-bwl, gan Arglwydd Robert Seymour, Taliaris, yr hwn ai rhoddodd ar brydles i Mr. L. Powell am chwe' cheiniog y flwyddyn, i godi capel arno. Yn flwyddyn 1817 adeiladwyd yma addoldy bychan, di-addurn iawn, a thô gwellt arno. Ond yr oedd yn dda iawn cael y fath hwnw yr amser hyny. Galwyd ef Salem, Taliaris. Wedi i Mr. Lewis Powell symud o Gapel Isaac i Gaerdydd bu Mr. Theophilus Davies, Cana, yn dyfod yma am yspaid, a choffeid gan rai o'r hen bobl gyda theimladau cynes am dano. Yn y flwyddyn 1829 cymerodd Mr. D. Jones, Pantarfon, ofal Salem. Wedi dyfodiad Mr. Jones yma cynyddodd gynulleidfa, ac ychwanegwyd llawer iawn at rif yr eglwys. Yn y flwyddyn 1830 ail-adeiladwyd yr addoldy yn eangach ddwy waith na'r ty o'r blaen, ac aeth y draul yn ganoedd o bunau, er fod yr ardalwyr yn cario y defnyddiau am ddim. Wedi marwolaeth Mr. Jones, yn Ebrill, 1859, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. David M. Evans, Trewyddel, sir Benfro, i gymeryd ei gofal. Ac yn Mawrth, 1860, efe a ymsefydlodd yn eu plith, ac yn fuan aeth yr ail gapel yn llawer rhy fychan, ac yn y flwyddyn 1862 adeiladwyd y ty presenol; ei faintioli yw 42 troedfedd wrth 34. Traul yr addoldy presenol, heblaw cario defnyddiau, ydoedd 350p., a thalwyd
*Yr ydym yn ddyledus yn benaf i Mr. W. Thomas, Gwynfe, am hanes Gwynfe a Chapel Maen.
574
yr oll mewn tair blynedd a haner. Ymwelodd yr Arglwydd â'r eglwys yma ag adfywiad grymus yn nhymor gweinidogaeth Mr. Evans, pryd yr ychwanegwyd llawer ati. Rhifedi yr aelodau yn awr ydyw 220.
Codwyd yma ddau bregethwr, sef Henry Puntan, yr hwn a fu am lawer o flynyddau yn weinidog yn y Cymer, a David Caeronwy Harries, yr hwn sydd yn awr yn fyfyriwr yn Athrofa y Bala.
Translation by Gareth Hicks (Nov 2008)
This chapel is situated about 3 miles to the north of Llandilofawr. It is a branch of Capel Isaac. The cause was established here in about 1816, through the efforts of Mr L Powell, Mynyddbach, as he was then called, together with some friends from Capel Isaac, those that lived in the area. The area around Salem was remarkably immoral at this time. The residents used to all gather on Sunday afternoons at a place called Bank-y-bwl, and it was customary to carry on all manner of corrupt games. And since giving up these silly and foolish habits, started to hold religious services. The first to preach here was Mr Daniel Jones, Crugybar. He delivered his proclamation to the district, ventured to the playing field, and stayed there under the old oak, and promulgated Christ as the valiant saviour to the players. After that they bought the piece of land known by the name Bank-y-bwl, from Lord Robert Seymour, Taliaris, which was given on a lease to Mr L Powell for 6 pence a year, to build a chapel on. In 1817 they built here a small place of worship, quite plain, with a thatch roof. But it was a good thing to have at that time. They called it Salem, Taliaris. After Mr Lewis Powell moved from Capel Isaac to Cardiff Mr Theophilus Davies, Cana, came here for a while, and he is remembered fondly by some of the old people. In 1829 Mr D Jones, Pontarfon, took over Salem. After Mr Jones came the congregation increased, and contributed greatly to the size of the church. In 1830 they rebuilt the place twice as big as before, and the cost was hundreds of pounds, despite the residents carrying the material for nothing. After Mr Jones died, in April 1859, the church gave a call to Mr David M Evans, Trewyddel, Pembrokeshire, to look after them. And in March 1860, he was installed in their midst, and soon the second chapel became too small, and in 1862 they built the present place; its size is 42 feet by 34. The cost of the present chapel, without carrying materials, was £350, and it was all repaid within three and a half years. The Lord visited this church with a powerful revival in the time of Mr Evans, when there was a great expansion (in membership). The membership now is 220. Two preachers were raised here, namely Henry Puntan, who was for several years minister at Cymer, and David Caeronwy Harries, who is now a student at Bala College.
HERMON
(Llandeilofawr parish)
Saif y capel uchod ar fryn bychan a elwir Cefnglasfryn, tua phedair milldir o Landilo, uwchlaw dyffryn Towy. Dechreuwyd pregethu yma mewn anedd-dai yn Cwmcowlyd a Chefnglasfryn, tua'r flwyddyn 1808, gan Mr. Daniel Jones, Crugybar. Yn 1810 cymerodd dý gwag, a elwid Tyisaf, am 2p y flwyddyn o ardreth, er pregethu ynddo ; a'r Sabboth cyntaf yr agorwyd ef daeth yn nghyd dyrfa luosocach nag a gynwysai y tý, fel y bu raid myned allan a phregethu oddiar y gareg-farch. Dechreuwyd gan Mr. Benjamin Williams, Capel Isaac ; a phregethwyd gan Meistri R. Powell, Cross Inn, oddiar Heb. iii. 2 ; a D. Jones, Crugybar, oddiar Esaiah x. 3. Cadwyd cyfeillach grefyddol yn y lle, a daeth amryw o'r ardalwyr i geisio yr Arglwydd. Yr oedd yn yr ardal yn flaenorol amryw oeddynt yn aelodau mewn eglwysi eraill, a phenderfynwyd ffurfio eglwys yn y lle. Corffolwyd hi yn Mehefin, 1811, a chadwyd y cymundeb cyntaf yn ysgubor Tyisaf. Dyma enwau yr aelodau cyntaf - William Jones, Porth, Abermarlais, a Margaret ei wraig; Thomas a Mary Thomas, Cwmcowlyd ; Daniel Jacob, Croesfaen, a'i fam ; Ann Parry, Tynewydd, Caledfwlch ; Richard ac Anne Rees, Penywaun; Jane a Mary Lewis, Caledfwlch; Margaret Griffiths, Cefnglasfryn ; Anne Thomas, Troedyrhiw, (mam Mr. D. Thomas, Troedyrhiw, Merthyr); a Mary Griffiths, Cwmdu. Ymofynwyd yn ddioed am le i godi capel, a chafwyd darn o ardd ar Gefnglasfryn gan Mr. Evans, Ffosddu, yr hon a brynwyd am 12p 10s., a chostiodd gweithred y cofrestriad 20p. ond ceiniog ; ac aeth traul y capel yn 300p , er i'r ardalwyr fod yn garedig iawn mewn cludo defnyddiau ato. Galwyd ef Hermon, ac agorwyd Gorphenaf 21ain, 1813, ac yr oedd yr holl weinidogion oedd gan yr enwad yn y sir ar y pryd yn bresenol ar yr achlysur. Casglwyd 20p. ar yr agoriad, yr hyn y pryd hwnw a ystyrid yn swm mawr. Bu gofal yr eglwys ar Mr. Jones dros lawer o flynyddau, ond yn 1825 cymerodd Mr. Benjamin Griffiths, Abergorlech, ei gofal, a bu yma yn barchus hyd farwolaeth yn Gorphenaf 11eg, 1827, yn 24 oed, a chladdwyd ef yn mynwent y capel hwn. Cyn pen dwy flynedd wedi ei farwolaeth cymerodd Mr. Thomas James ofal yr eglwys yn nglyn ag Abergorlech. Parhaodd yr eglwys y fyned rhagddi, ac yn y diwygiad a gafwyd yn 1834 ychwanegwyd cant at rifedi yr eglwys, a'r flwyddyn ganlynol helaethwyd y capel trwy draul o 70p. Bu gofal yr eglwys ar Mr. James hyd ei farwolaeth, Chwefror 27ain, 1854 (1845?). Y flwyddyn ganlynol rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Jones, Bryn, Llanelli, a chynhaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad yma yn Mehefin, 1845. Y flwyddyn hono ail-adeiladwyd y capel, ac agorwyd ef Hydref 17eg a'r 18fed. Bu Mr. Jones yma yn llwyddianus hyd y flwyddyn 1850, pryd y symudodd i Libanus, Treforis. Y flwyddyn ganlynol rhoddwyd galwad i Mr. John Bowen Jones, B.A., myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Awst
Translation by Gareth Hicks (Nov 2008)
This chapel stands on a small hill called Cefnglasfryn, about 4 miles from Llandilo, in the upper part of the Towy valley. Preaching by Mr Daniel Jones, Crugybar, began here in dwelling houses in Cwmcowlyd and Cefnglasfryn, in about 1808. In 1810 he took an empty house, called Tyisaf, for 2 pence a year rent, to preach in; on the first Sunday it opened there came a numerous crowd that couldn't be contained in the house; so that it was necessary to go outside and preach off the mounting block. They began with Mr Benjamin Williams, Capel Isaac; with preaching by Messrs R Powell, Cross Inn, from Heb. iii. 2; and D Jones, Crugybar, from r Esaiah x. 3. They had a devout fellowship in the place, and several of the residents came to seek the Lord. There were in the district some leaders who were members of other churches in the area, and the decided to form a church in the place. It was established in June, 1811, and they held the first communion in the barn at Tyisaf. Here are the names of the first members; William Jones, Porth, Abermarlais, and Margaret his wife; Thomas and Mary Thomas, Cwmcowlyd ; Daniel Jacob, Croesfaen, and his mother ; Ann Parry, Tynewydd, Caledfwlch ; Richard and Anne Rees, Penywaun; Jane and Mary Lewis, Caledfwlch; Margaret Griffiths, Cefnglasfryn ; Anne Thomas, Troedyrhiw, (mother of Mr. D. Thomas, Troedyrhiw, Merthyr); and Mary Griffiths, Cwmdu. The searched forthwith for a place to raise a chapel, and had a piece of a garden on Cefnglasfryn from Mr Evans, Ffosddu, which they bought for £12.10s., and the deed of registration cost £20, less a penny; and the cost of the chapel was £300, despite the residents being very obliging in transporting the material for it. They called it Hermon, and it opened on 21st July, 1813, and all the ministers of they county who were in the connection at the time were there on that occasion. They collected £20 at the opening, at the time a large sum. The care of the church was on Mr Jones for many years, but in 1825 Mr Benjamin Griffiths, Abergorlech, took over, and was here reverently until his death on 11th July 1827, aged 24, and he was buried in this chapel's graveyard. Before two years passed after he died Mr Thomas James took over care of the church together with Abergorlech. The church continued to go forward, and during the revival of 1834 they put on 100 towards the membership of the church, and in the following year they enlarged the chapel at a cost of £70. The care of the church was with Mr James until he died, on 27th February 1854 (1845?). In the following year they gave a call to Mr Thomas Jones, Bryn, Llanelli, and held his installation meeting here in June 1845. In that year they re-built the chapel, and it opened on 17th & 18th October. Mr Jones was here successfully until 1850, when he moved to Libanus, Morriston. The following year they gave a call to Mr John Bowen Jones, B.A, a student at Carmarthen College, and he was ordained on 7th Aug 1851. On the occasion Mr T Davies, Llandilo, preached on the Nature of a Church; questions asked by Mr E Jones, Crugybar; the ordination prayer given by Mr S Griffiths, Horeb; Mr D Davies, Pantteg preached on the duties of a minister; and Mr H Jones, Carmarthen, preached on the responsibilities of a church. Mr Jones laboured here diligently and reverently until 1859, when he moved Penybontarogwy. In the following year Mr David Jones, Bethlehem, took over care of the church, and he was here helpfully until 1860, when he moved to America. In 1868, they renovated the chapel at a cost of £500, and the debt has been fully repaid. They gave a call to Mr David M George, a student at Brecon College, and he was ordained on 6th September, 1871. On the occasion Professor Roberts, Brecon, preached on the Nature of a Church; questions asked by Professor Morris, Brecon; the ordination prayer given by Mr E Jones, Crugybar; Mr E Lewis, Brynberian preached to the minister; and Mr J B Jones, B.A., Penybontarogwy preached to the church. Mr George continues to labour here, and the cause is in a flourishing state. There have been many other faithful connected with this church apart from those named, and there are nevertheless those of like spirit who stayed in the church.
The following were raised in this church to preach;
- David Thomas. Ordained in Troedyrhiw, Merthyr, and already mentioned in that church's history
- J Stephen Davies. He was for a time in Brecon College, but deserted for the Established Church
- A J Francis. He is now preparing to go to College
Biographical Notes *
THOMAS JAMES. Born in Trelech parish near end of last century ... member at Capel y Graig ... went to Carmarthen College ... ordained at Abergorlech in 1828 ... stayed there until 1834 when he gave the church there up ... looked after Hermon and Tabor until he died , in 1841, buried at Tabor
**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.
CONTINUED
[Gareth Hicks 21 Dec 2008]