Hide
Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru. (History of the Welsh Independent Churches)
hide
Hide
By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+) From the CD published by Archive CD Books
RADNORSHIRE section (Vol 2, pages 527 - 544)
The umbrella project for WALES is detailed on this Genuki page where there is a contents listing for each county/section and data on what has been extracted/translated already.
This is the complete Radnorshire section of Volume 2, in Welsh - any existing translations will be itemised on the above page.
This extraction is as it is in the book, chapel names and page numbers act as separators.
Footnotes remain at the bottom of pages
Extraction by Gareth Hicks (April 2008)
Proof read by Yvonne John (April 2008), and subsequent translations by Maureen Saycell
Chapels below;
|
|
|
Pages 527 - 544
527
MAESYRONEN
(Glasbury parish)
Mae y capel hwn yn sefyll ar lechwedd bryn uwchben parc a phalasdy Maesllwch, yn mhlwyf y Clâs, neu Glasbury, un o'r ardaloedd prydferthaf yn Nghymru. Mae yr achos Ymneillduol yma yn hen iawn. Gan fod yr enwogion Walter Cradock a Vavasor Powell wedi bod am flynyddau yn pregethu yn y path hwn, a bod Richard Powell, yr hwn oedd yn un o'r profwyr, neu farnwyr cymhwysderau gweinidogion, dan y ddeddf a basiwyd yn 1649, er taenu yr efengyl yn Nghymru, wedi hod am flynyddau yn weinidog plwyfydd Llanigon a'r Clâs, mae yn naturiol barnu fod crefydd efengydaidd wedi gwreiddio ac ymledu yn yr ardal hon er amser y Senedd Hir, a chyn hyny. Yr oedd amryw o'r teuluoedd parchusaf a mwyaf dylanwadol o Aberhonddu i'r Gelli yn Ymneillduwyr proffesedig yn amser y Werin-lywodraeth, a safasant yn ddisigl yn eu proffes wedi adferiad Siarl II. Yr oedd rhai o Ymneillduwyr y parthau hyn yn Fedyddwyr er y flwyddyn 1650. Nid yn mhell o'r ardal hon y ganwyd ac y magwyd John Myles, sylfaenydd enwad y Bedyddwyr yn Nghymru. Yn amser yr erledigaeth yr oedd y Bedyddwyr yn cydaddoli a'r Annibynwyr yn y gwahanol aneddau lle y cyfarfyddent yn ddirgel. Yn fuan wedi cael deddf goddefiad yn 1688, ymranodd y frawdoliaeth yn dair eglwys. Ymffurfiodd yr Annibynwyr yn y parthau hyn yn eglwysi yn Maesyronen a Thredustan, a'r Bedyddwyr yn Maesyberllan. " Eglwys Llanigon" y gelwid y
528
frawdoliaeth cyn iddynt ymranu, am mai yn mhlwyf Llanigon yr oedd prif fan ei chynnulliad. Yr oedd yn eglwys luosog a gwasgaredig iawn, yn cyrhaeddyd o Droedrhiwdalar i Ferthyr Tydfil, ac o'r Gelli, ar derfynau sir Henffordd, hyd Gefnarthen, yn sir Gaerfyrddin. Mae yn debyg mai Mr. Richard Powell oedd yn cael ei ystyried fel gweinidog oddiar ffurfiad yr eglwys, yr hyn a gymerodd le rywbryd yn amser y Senedd Hir, hyd amser ei farwolaeth yn 1668. Yr oedd yma amryw bregethwyr yn ei gynorthwyo megis Lewis Prytherch, Henry Williams, o Ferthyr, a rhai eraill. Mae yn ymddangos mai ar weinidogaeth y cynorthwywyr hyn y bu yr eglwys yn ymddibynu o amser marwolaeth Mr. Powell hyd nes iddynt roddi galwad i Mr. Henry Maurice yn 1672. Bu Mr. Maurice yn llafurio yn ddiwyd a llwyddianus iawn yn y cylch eang hwn hyd ei farwolaeth yn 1682. Dilynwyd ef yn y weinidogaeth yn holl ganghenau yr eglwys gan Mr. Rees Prytherch, Ystradwalter, ger Llanymddyfri, a bu yntau yn llafurus a llwyddianus iawn yn holl gylch eang y weinidogaeth hyd ei farwolaeth yn 1699. 1r ei farwolaeth ef dewisedd gwahanol ganghenau yr eglwys wasgaredig weinidogion iddynt eu hunain. Yr ydym yn barnu i gapel Maesyronen gael ei adeiladu tua y flwyddyn 1696, ond ni chafodd y weithred ei gwneyd cyn y flwyddyn 1714. Rhoddwyd y tir at adeiladu y capel yn rhodd i'r gynnulleidfa gan Lewis Lloyd, Ysw., o Faesllwch, yr hwn mae yn dra thebyg, oedd yn aelod o'r eglwys. Y gweinidog cyntaf yn Maesyronen, wedi iddi fyned yn eglwys ar ei phen ei hun, oedd Mr. David Price. Cafodd ei urddo yma tua y flwyddyn 1700, neu yn fuan ar ol hyny, a bu yn llenwi ei gylch yn effeithiol yma hyd derfyn ei oes yn 1742. Yn mhen tua thair blynedd wedi marwolaeth Mr. Price, rhoddwyd galwad i Mr. Lewis Rees, Llanbrynmair, a bu yma hyd 1748, pryd y dychwelodd i Lanbrynmair. Canlynwyd Mr. Rees gan Mr. James Davies, yr hwn fu yn weinidog yma o 1749 hyd 1759, neu o bosibl flwyddyn neu ddwy ar ol hyny. Nis gwyddom pa un ai symud oddiyma neu farw a wnaeth. Y nesaf y cawn ei enw fel gweinidog yma yw Walter Bevan. Yr oedd yma yn 1762. Mae ei hanes yn hollol anhysbys i ni. Dilynwyd ef yn 1767, gan William Llewellyn, yr hwn a fu yma hyd 1775, ac o bosibl flwyddyn neu ddwy ar ol hyny.* Y gweinidog nesaf oedd Mr. Thomas Bowen, myfyriwr o'r athrofa yn Abergavenny ; urddwyd ef yma yn 1781, ac yma y bu yn rhyfeddol o boblogaidd a llwyddianus, nid yn unig yn Maesyronen, ond trwy yr holl wlad o'r Gelli i Aberhonddu, ac o Lanfairmuallt i Grughowell. Er mawr alar a cholled i'r gynnulleidfa a'r wlad yn gyffredinol, gogwyddodd ei feddwl i symud i Faesyrhaf, Castellnedd, yn 1796. Yn fuan wedi ymadawiad Mr. Bowen, rhoddwyd galwad i Mr. David Jones, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef yma Mawrth 22ain, 1797, pryd yr oedd y gweinidogion canlynol yn wyddfodol, a'r rhan fwyaf o honynt yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth : - Simon Williams, Tredustan; E. Davies, Hanover; D. Thomas, Penmain; E. Jones, Pontypool ; T. Phillips, Neuaddlwyd ; James Price, Caebach ; Howell Powell, Casnewydd ; Evan Davies, Aberhonddu; Jonathan Powell, Rhaiadr; Evan Harris, Llanymddyfri, a W. James, Caerdydd. Parhaodd Mr. Jones yn ei gysylltiad gweinidogaethol a Maesyronen am agos i haner can' mlynedd. Yn ei amser ef y trowyd y gwasanaeth yn hollol i'r iaith Saesonaeg. Yr oedd amgylchiadau yr ardal yn galw am hyny gan fod ieuengctyd y
* Cofnodion y Bwrdd Henadurol.
529
gymydogaeth yn ddieithriad yn anwybodus o'r Gymraeg. Nid oes yn yr holl ardal yn bresenol ond ambell un o'r hen bobl henaf yn deall y Gymraeg.Yr oedd yr eglwys fechan yn Brechfa, Brycheiniog, dan ofal Mr. Jones, mewn cysylltiad a Maesyronen, trwy holl dymor ei weinidogaeth. Yn y flwyddyn 1846, o herwydd henaint a methiant, bu raid iddo roddi ei ofal gweinidogaethol i fyny. Yr oedd rhif y cymunwyr yn Maesyronen pan roddodd ef ofal y lle i fyny yn gant, ac yn ddeugain yn Mrechfa. Yn fuan wedi hyn, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Havard, gan yr eglwysi yn Maesyronen a Brechfa, a bu yn cael ei ystyried yn weinidog yn y ddau le ae yn Nhredustan, nes iddo gael ergyd o'r parlys yn 1861, yr hyn a'i gorfododd i ymddeol o'r weinidogaeth. Yu fuan wedi i Mr. Havard gael i analluogi, rhoddodd yr eglwys yn Maesyronen, mewn cysylltiad a'r eglwys yn y Gelli, alwad i Sais o'r enw M. A. Harvey. Bu ef yn gwasanaethu y ddwy eglwys hyd ddechreu y flwyddyn 1868, pryd y symudodd i Wlad yr Haf. Cyn ei ymadawiad ef yr oedd yr eglwys yn Maesyronen wedi dechreu adeiladu capel yn mhentref Glasbury, er mwyn cyfleusdra yr aelodau a'r gwrandawyr a breswylient yn y rhan boblog hono o'r ardal. Yn haf y flwyddyn 1868, rhoddodd y fam-eglwys yn Maesyronen, a'r gangen yn Glasbury, alwad i Mr. J. R. Lewis, o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma. Yn y flwyddyn 1871, derbyniodd Mr. Lewis alwad o Dorrington, sir Amwythig, a symudodd yno. Dilynwyd ef yn Maesyronen a Glasbury gan Mr. H. D. Shankland, gwr ieuangc genedigol o Lacharn, sir Gaerfyrddin. Derbyniodd ei addysg yn athrofa y Wesleyaid yn Richmond. Urddwyd ef yma yn nechreu y flwyddyn hon (1872). Mae llafur Mr. Shankland yn argoeli bod yn dderbyniol a llwyddianus yma.
Ychydig flynyddau yn ol darfu i Mr. DeWinton, perchenog presenol palasdy Maesllwch, wrthod i breswylwyr pentref Glasbury gael myned trwy ei barc ef i addoldy Maesyronen, yr hyn a'u gorfodai i gerdded tua milldir a haner yn fwy nag arfer er cyrhaedd eu haddoldy. Gan fod y ffordd trwy y parc yn cael ei defnyddio at fyned i'r capel er's mwy na chant a haner o flynyddau, penderfynodd y gynnulleidfa, er fod amryw o honynt yn denantiaid i Mr. DeWinton, na oddefent iddo eu gorthrymu heb fyny gwybod. a oedd ganddo hawl i hyny. Dechreuwyd ymgyfreithio, ond yn fuan gwelodd cyfreithiwr y boneddwr fod ei achos yn ddrwg, a chynygiodd fod y ddadl i gael ei phenderfynu gan gyflafareddwyr. Penderfyniad y cyfryw ydoedd fod y llwybr i gael ei agoryd fel cynt a bod Mr. DeWinton i dalu pob costau.
Yn y ddeunawfed ganrif yr oedd achos blodeuog mewn lle o'r enw MAESGWYN, tua thair milldir i'r gogledd o Faesyronen. Mae yn debyg mai cangen o Faesyronen oedd yr achos hwn yn wreiddiol, ond tua y flwyddyn 1715, yr oedd yma gynnulleidfa o tua thri chant o rif, a'r dysgedig a'r enwog Vavaser Griffiths yn weinidog iddi. Bu Mr. Griffiths yn weinidog i'r gynnulleidfa hon hyd ei farwolaeth yn 1741. Dilynwyd ef yn y weinidogaeth yma gan un o'i ysgolheigion o'r enw Thomas Morgan, yr hwn a fu yma hyd 1744, pryd y symudodd i Groesoswallt. Y gweinidog nesaf oedd Mr. David Lewis, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, yr hwn a fu yma am fwy na deugain mlynedd, ac yn ol tystiolaeth Edmund Jones, Pontypool, a bregethodd yr holl gynnulleidfa allan o'r capel. Gyda farwolaeth ef tua, diwedd y ganrif ddiweddaf, darfu yr achos yn y lle hwn yn hollol.
530
COFNODION BYWGRAPHYDDOL
Yn y cofnodion canlynol cynwysir gweinidogion Maesgwyn yn gystal a gweinidogion Maesyronen.
RICHARD POWELL. Mae lle ac amser ei enedigaeth ef yn anhysbys i ni. Nid oes un amheuaeth na ddarfu iddo dderbyn ei addysg naill ai yn Rhydychain neu Gaergrawnt. Mae yn debyg ei fod yn pregethu rai blynyddau cyn dechreuad y rhyfel cartrefol fed offeiriad plwyf Llanigon, ac yn amser y Werinlywodraeth cafodd ei wneyd yn weinidog plwyf Glasbury, pan drowyd Alexander Griffiths allan oddiyno am anfoesoldeb. Mae Alexander Griffiths, yr hwn oedd yn ddyn galluog iawn, er ei fod yn ddyn drygionus, wedi cyhoeddi amryw fân lyfrau i ddifrio ac enllibio Annghydffurfwyr ei oes, ac y mae Richard Powell yn cael ei ran o ddifriaeth ac enllib ganddo. Cyhudda ef o ddyweyd yn un o'i bregethau, mai gweddi bwdr yw gweddi yr Arglwydd, ac nad Duw yw creawdwr y byd. Cyhudda ef hefyd o dderbyn can' punt y flwyddyn o dal gan y llywodraeth fel gweinidog, mewn ychwanegiad at ddegymau plwyf Llanigon a thri o blwyfydd cymydogaethol eraill, ac o farchogaeth o flaen ei blwyfolion yn erbyn byddin Syr William Waller. Mae y ffaith fod Griffiths yn cymeryd cymaint o drafferth i ddyfeisio cynifer o enllibiau celwyddog i'w taflu ar enw da Mr. Powell, yn dangos ei fod yn ddyn o nod a dylanwad. Hefyd y mae y ffaith fod Mr. Powell wedi cael ei osod yn y weithred seneddol er taenu yr efengyl yn Nghymru, yn un o brofwyr cymhwysderau y gweinidogion a anfonid allan dan y ddeddf hono, yn dangos ei fod yn cael edrych arno fel dyn o safle uchel. Dywed Mr. Thomas Watkins, un o ynadon heddwch sir Frycheiniog, fod Mr. Powell yn bregethwr gonest, galluog, a ffyddlon. Bu y dyn da a llafurus hwn farw yn ei anedd yn Mhenywerneithin, yn sir Faesyfed, yn y flwyddyn 1658, ac felly cymerwyd ef i dangnefedd cyn i'r erledigaeth a ddilynodd adferiad Siarl II. dori allan.*
HENRY MAURICE. Gwelir hanes yr Ynysgau, Merthyr.
REES PRYTHERCH. Yn nglyn a hanes Cefnarthen y rhoddir ei fywgraphiad ef.
LEWIS PRYTHERCH. Rhoddir ei fywgraphiad yntau yn nglyn a hanes Tredustan.
DAVID PRICE. Nid oes genym braidd ddim o'i hanes ef. Yr ydym yn barnu mai yn yr athrofa yn Abergavenny, dan ofal Roger Griffiths, y derbyniodd ef ei addysg. Yn y Llwynllwyd, yn sir Frycheiniog, ond o fewn ychydig gyda dwy filldir i Faesyronen yr oedd yn cyfaneddu. Cafodd ei urddo, fel y nodasom, tua y flwyddyn 1700, a bu farw yn mis Awst, 1742. Yr ydym yn casglu oddiwrth ryw awgrymiadau mewn hen lawysgrifau fod Mr. Price yn weinidog o safle uchel, a'i fod yn ddyn mewn sefyllfa uwch na'r cyffredin o ran ei amgylchiadau bydol.
LEWIS REES Gwelir hanes eglwys Mynyddbach, Morganwg.
JAMES DAVIES. Dechreuodd ef ei weinidogaeth yn Maesyronen tua flwyddyn 1749, a bu yno hyd y flwyddyn 1759. Nis gwyddom un o ba le ydoedd, na pha le na pha bryd y bu farw. Yr oedd ei fab, Richard Davies, yn fyfyriwr yn athrofa Caerfyrddin o 1754 hyd 1758. Yr oedd ganddo fab arall o'r enw Rees Davies yn bregethwr.
* Rees's History of Nonconformity in Wales.
531
WALTER BEVAN. Nid ydym yn gwybod dim o'i hanes ef. Yr oedd yn weinidog yn Maesyronen yn 1762. Nis gwyddom pa faint cyn hyny y daeth yno, na pha cyhyd ar ol hyny y bu yno.
WILLIAM LLEWELLYN. Yr ydym yn barnu mai yr un yw efe a'r William Llewellyn a urddwyd yn y Cwmmawr, Morganwg, yn 1746. Yn 1762, yr ydym yn ei gael yn weinidog yn y Garn yn sir Faesyfed, ac yn Gwenddwr, sir Frycheiniog, o 1766 hyd 1773. Yr oedd yn Maesyronen o 1769 hyd 1775, ac o bosibl am rai blynyddau yn ddiweddarach. Gallasai fod yn gofalu am Faesyronen a Gwenddwr yr un amser gan nad yw y pellder rhyngddynt yn gyflawn ddeng milldir. Nis gwyddom un o ba le ydoedd na pha bryd y bu flaw.
THOMAS BOWEN. Gwelir hanes eglwys Maesyrhaf, Castellnedd.
DAVID JONES. Ganwyd ef mewn amaethdy o'r enw y Drefawr yn mhlwyf Llanfyrnach, sir Benfro. Yr oedd ei rieni yn ddynion crefyddol iawn, ac yn aelodau ffyddlon o'r eglwys yn Nhrelech. Dygasant eu plant i fyny yn ofn yr Arglwydd. Yr oedd David Jones dan argraffiadau crefyddol er pan yr oedd yn blentyn ieuangc. Wedi bod am dymor yn yr ysgol a gedwid gan Mr. Owen Davies, Trelech, gweinidog ei rieni, anfonwyd ef i ysgol enwog Mr. John Griffiths, Glandwr. Tra yr oedd yno ymunodd a'r eglwys yn Glandwr, ac yn fuan wedi hyny dechreuodd bregethu. Wedi bod am rai blynyddau yn yr ysgol yn Glandwr, derbyniwyd ef i athrofa Caerfyrddin yn y flwyddyn 1788. Wedi gorphen ei amser yn yr athrofa bu yn agos i flwyddyn ar brawf yn Nghaernarfon. Bu wedi hyny ar brawf yn Llangattwg, Crughowell, lle y cafodd alwad. Tua yr un amser cafodd alwad o Faesyronen, a dewisodd y lle hwnw yn hytrach na Llangattwg. Urddwyd ef yn Maesyronen, fel y nodasom, Mawrth 22ain, 1797. Parhaodd i lafurio yn y maes hwn hyd y flwyddyn 1846, pryd y bu ,raid iddo o herwydd gwendidau henaint roddi ei swydd i fyny. Bu farw Tachwedd 1 af, 1848, mewn oedran teg, a chladdwyd ef yn nghapel Maesyronen. Ar ddydd ei gladdedigaeth, pregethodd ei hen gyfaill Mr. Thomas Rees, o Huntington, oddiwrth Salm cxix. 174. Dywedir fod ei deimladau yn nefolaidd iawn yn ei gystudd, ac iddo ymadael a'r byd a'i lygaid yn gweled iachawdwriaeth yr Arglwydd.
Yr oedd David Jones yn ddyn hardd ac urddasol ei ymddangosiad cyn iddo ddechreu dadfeilio gan henaint. Perchid ef gan bawb o bob sefyllfa trwy holl gylch ei adnabyddiaeth. Yr oedd yn bregethwr da a synwyrol, ond dywedir mai prin y mynai gydnabod neb fel gweinidog rheolaidd heb ei fod wedi derbyn addysg athrofaol. Bu yr achos yn Maesyronen yn dra llewyrchus am flynyddau yn nhymor ei weinidogaeth ef, ond o herwydd ei fethiant i gyflawni dyledswyddau ei swydd yn ei flynyddau diweddaf, yr oedd y gynnulleidfa wedi lleihau yn fawr.
VAVASOR GRIFFITHS. Un genedigol o gymydogaeth Maesyronen, neu y Maesgwyn, oedd y gwr enwog hwn. Mae amser ei enedigaeth yn anhysbys i ni. Derbyniodd ei addysg yn athrofa enwog Mr. Samuel Jones, yn Tewkesbury. Urddwyd ef yn weinidog yr eglwys Annibynol yn y Maesgwyn, ryw bryd rhwng 1715 a 1725, a bu yn llafurio yma, ac mewn amrywiol leoedd eraill yn sir Faesyfed, hyd ei farwolaeth yn 1741. Yn 1733, ar farwolaeth Mr. Thomas Perrott, athraw yr athrofa yn Nghaerfyrddin, penodwyd Mr. Griffiths i fod yn athraw y sefydliad. Gwrthododd ef fyned i Gaerfyrddin, am y barnai y huasai yn well ar les y myfyrwyr i'r athrofa gael ei chadw yn y wlad, fel na buasent yn agored i brofedigaethau y dref.
532
Yn ngwyneb hyny penderfynodd y Bwrdd Henadurol a'r Bwrdd Cynnulleidfaol yn Llundain, i'r athrofa gael ei symud at yr athraw. Bu yn cael chadw am dymor yn Llwynllwyd, ty Mr. Price, gweinidog Maesyronen. Yn ystod y saith mlynedd y bu yr athrofa dan ofal Mr. Griffiths, bu yn cael ei chadw mewn tri neu bedwar o wahanol anedd-dai.
Yr oedd Mr. Vavasor Griffiths yn un o'r ysgolheigion goreu, ac yn un o'r dynion mwyaf duwiol yn ei oes: Ysgrifenai Edmund Jones, Pontypool, yn 1742, mai un o'r dynion goreu a adnabyddodd erioed oedd Mr. Griffiths, ac nad oedd yn disgwyl cyfarfod i well nes iddo fyned i'r nfoedd. Yr oedd yn athraw o radd uchel, ac yn llywodraethu y myfyrwyr gyda gofal a llymder. Dichon ei fod yn arfer mwy o lymder nag a wnelsai oni buasai fod tynerwch eithafol ei ragflaenor, Mr. Perrott, wedi bod yn achlysur i lawer o'r myfyrwyr ymollwng i gyfeiliornadau blin mewn barn a buchedd. Colled drom i'r athrofa ac i Gymru yn gyffredinol oedd marwolaeth y dyn anghydmarol hwn.*
THOMAS MORGAN. Nid ydym wedi gallu cael allan yn mha ardal y ganwyd ef. Derbyniodd ei addysg athrofaol yn yr athrofa dan ofal Mr. V. Griffiths, ac ar draul y Bwrdd Cynnulleidfaol. Ar farwolaeth ei athraw yn 1741, dewiswyd ef yn ganlyniedydd iddo fel gweinidog yr eglwys yn y Maesgwyn. Yn 1744, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Nghroesoswallt, a symudodd yno, ac yno y bu yn barchus a defnyddiol iawn hyd derfyn ei oes, yr hyn a gymerodd le yn fuan ar ol y flwyddyn 1770.
DAVID LEWIS. Y oedd ef yn enedigol o Abertawy. Cafodd ei addysgu yn athrofa Caerfyrddin. Dywed Thomas Morgan o Henllan, yr hwn oedd yn gydfyfyriwr ag ef, ei fod yn ddyn ieuangc difrifol, ac yn bregethwr da, ond fod gormod o'r meudwy ynddo. Urddwyd ef yn y Maesgwyn yn y flwyddyn 1745, ac yno y bu hyd ei farwolaeth, ond, fel y gwelsom, bu ei ddull meudwyaidd, neu anghyfeillgar o fyw yn foddion i ladd yr achos. Yr ydym yn barnu iddo fyw hyd yn agos i ddiwedd y ganrif ddiweddaf. Yr oedd yn fyw yn 1780, ac wrth bob tebygolrwydd am yn agos i ugain mlynedd ar ol hyny. Mae yn ffaith fod y dynion mwyaf diddefnydd yn gyffredin yn cael byw lawer yn hwy na'r dynion mwyaf defnyddiol. Un o bethau tywyll rhagluniaeth yw hyn.
Translation by Maureen Saycell (June 2009)
This chapel stands on the side of a hill above the mansion and parkland of Maesllwch, in the parish of Glasbury, one of the most attractive areas in Wales. The Independent cause here is very old, as the famous Walter Craddock and Vavasor Powell preached in this area. Richard Powell, one of those who tested the ability of prospective ministers, under the auspices of the Act 1649, to spread the gospel in Wales, was a minister at Llanigon and Glasbury, it is safe to assume that there was a religious base here from the time of the Long Parliament and perhaps earlier. There were many respected, influential families from Brecon to Gelli who were nonconformist at the time of the Commonweath and who remained true to their faith until the relief granted by Charles II. There were some Baptists among the nonconformists in this area since 1650, and it was close to here that John Myles, the founder of the Baptist movement in Wales was born and bred. During the time of the persecution Baptists and Independents worshipped together at the various secret meeting places. Soon after the Act of Toleration in 1688 the fraternity divided into 3 churches. The Independents formed Maesyronnen and Tredustan and the Baptists at Maesyberllan. Prior to the division the fraternity was known as "Llanigon Church" as their primary meeting place was at Llanigon. It was a numerous and scattered church reaching from Troedrhiwdalar to Merthyr Tydfil and Gelli to the borders of Herefordshire to Cefnarthen, Carmarthenshire. It is likely that Mr Richard Powell was considered the minister from the formation of the church, which occured at some point during the Long Parliament, until his death in 1668. There were many preachers supporting him, such as Lewis Prytherch and Henry Williams, Merthyr. It would appear that it was on this type of ministry that the church depended after the death of Mr Powell until a call was sent to Mr Henry Maurice in 1672. Mr Maurice was very industrious and successful here until his death in 1682, he was succeeded by Mr Rees Prytherch, Ystradwalter, near Llandovery, who was successful throughout the large area until his death in 1699. Following his death the scattered branches of this church each chose their own ministers. We judge that Maesyronnen was built around 1696, but the deed was not drawn up until 1714. Land to build on was given by Lewis Lloyd, Esq., Maesllwch, who was most likely a member of the church. The first minister was Mr David Price. He was ordained here in 1700 or soon after and remained until his death in 1742. About 3 years after his death a call was sent to Mr Lewis Rees, Llanbrynmair who stayed until 1748 when he returned there. He was followed by Mr James Davies who was here from 1749 to 1759 or a few years later, we do not know if he moved on or died. the next minister's name we have here is Walter Bevan in 1762, although there is no history. Willim Llewelyn arrived in 1767 and remained until 1775 or there about.* The next minister was Mr Thomas Bowen, a student from Abergavenny, he was ordained here in 1781 and he was oustandingly popular not only in Maesyronnen but throughout the area from Gelli to Brecon and Builth Wells to Crickhowell . Much to the disappointment of the whole area he decided to move to Maesyrhaf, Neath in 1796. Soon after his departure a call was sent to Mr David Jones, a student at Carmarthen. He was ordained on March 22nd 1797 and the following were present - Simon Williams, Tredustan; E. Davies, Hanover; D. Thomas, Penmain; E. Jones, Pontypool ; T. Phillips, Neuaddlwyd ; James Price, Caebach ; Howell Powell, Newport ; Evan Davies, Brecon; Jonathan Powell, Rhayader; Evan Harris, Llandovery, and W. James, Cardiff. Mr Jones continued ministerial connections with Maesyronnen for the best part of 50 years. During his time the services became totally English, which was needed as the young of the area had no knowledge of Welsh. There are but a few of the older generation who understand Welsh. The small church of Brechfa was also under his care along side Maesyronnen for the duration of his ministry. In 1846, due to age and debility, he was forced to give up his ministry. The members at Maesyronnen numbered a hundred, with 40 at Brechfa. Soon after this a call was sent to Mr Thomas Havard, by both churches and also took on Tredustan, until he had a stroke in 1861, which forced him to retire from the ministry. Soon after Maesyronnen and Brechfa called an Englishman named M A Harvey. He served the 2 churches until 1868 when he moved to Somerset. Before his departure Maesyronnen has just begun to build a new chapel in Glasbury, for the convenience of the members and listeners who resided in that populous area. In the summer of 1868, the mother church at Maesyronnen and the branch at Glasbury called Mr J R Lewis, a student at Brecon, who was ordained here. In 1871 Mr Lewis accepted a call from Dorrington, Shropshire.. He was succeeded by Mr H D Shankland, a young man from Laugharne, Carmarthenshire. He was educated at Richmond by the Wesleyans. He was ordained here in 1872. His work here gives every promise of success.
A few years ago Mr DeWinton, the current owner of the mansion of Maesllwch, refused to allow the locals to go through his parkland to worship at Maesyronnen, which meant an extra mile and a half to walk to the chapel. As the path through the park had been used for more than 150 years to go to the chapel the congregation decided, despite many of them being tenants of Mr DeWinton, that they would not tolerate his bullying tactics without knowing whether he had any right to do this. It was taken to Law and soon the gentleman's lawyer saw that he had no case and suggested that the case go to arbitration. The decision was that that the path should be opened as before and all the costs be borne by Mr De Winton.
In the eighteenth century there was a flourishing cause in a place named MAESGWYN, around 3 miles north of Maesyronnen. It is likely that it was originally a branch of Maesyronnen, but around 1715 there was a congregation of about 300 with the knowledgeable and famous Vavasor Griffiths as their minister. Mr Griffiths was minister here until his death in 1741. He was followed by one of his scholars named Thomas Morgan, who remained here until 1744 and then moved to Oswestry. The next minister was Mr David Lewis, a student at Carmarthen, who was here for 40 years, and according to the testimony of Edmund Jones, Pontypool, preached away the whole congregation out of the chapel. With his death, last century, the cause here ended.
BIOGRAPICAL NOTES +
Includes Maesgwyn and Maesyronnen
RICHARD POWELL - When and where born not known - ended his education either Oxford or Cambridge - vicar of Llanigon during the civil war, appointed minister of Glasbury after he dismissal of Alexander Griffiths for immorality - Richard Powell was a target of MrGriffiths' publications ridiculing the nonconformists of the time, accusing him of calling the Lord's Prayer rotten, that God did not create the earth and other misconduct. The fact that he actually did this gives an idea of the importance of Mr Powell - Mr Thomas Watkins, a Justice of the Peace in Breconshire, states that he was an able, honest and faithful minister - He died at his home in Penywerneithin, Radnorshire 1658.**
HENRY MAURICE - see Ynysgau, Merthyr.
REES PRYTHERCH - see Cefnarthen.
LEWIS PRYTHERCH - see Tredustan.
DAVID PRICE - We have little history - probably educated Abergavenny, with Roger Griffiths - lived Llwynllwyd, Breconshire, 2 miles from Maesyronnen - ordained 1700 - died August, 1742 - comfortable wordly circumstances
LEWIS REES - see Mynyddbach, Glamorgan.
JAMES DAVIES - began his ministry in Maesyronen around 1749 - left 1759 - no personal history - Richard Davies, son, student Carmarthen 1754 to 1758 - Rees Davies, another son, also a preacher.
WALTER BEVAN - no history - at Maesyronnen in 1762.
WILLIAM LLEWELLYN - beleived to be the same one as ordained at Cwmmawr, Glamorgan, 1746 - minister of Garn, Radnorshire, 1762 - at Gwenddwr, Breconshire, from 1766 to 1773 - Maesyronen from 1769 to 1775, possibly longer.
THOMAS BOWEN - see Maesyrhaf, Neath.
DAVID JONES - born Drefawr parish of Llanfyrnach, Pembrokeshire - educated by Mr Owen Davies, Trelech, parent's minister - then to Mr. John Griffiths, Glandwr - 1788 admitted to Carmarthen College - on completion a year trial in Caernarfonshire - trial at Llangattwg, Crickhowell, called there but accepted a call to Maesyronnen - ordained March 22nd, 1797 - remained until 1846, when old age forced him to leave - died November 1 st, 1848 - buried Maesyronnen.
VAVASOR GRIFFITHS - born in the area, date uknown - educated by Mr. Samuel Jones, in Tewkesbury - ordained Maesgwyn between 1715 and 1725 - worked in various areas of Radnorshire until his death in 1741 - in 1733, when Mr. Thomas Perrott, lecturer at Carmarthen College, died, Mr. Griffiths was appointed to replace him - refused to go to Carmarthen, elders agreed and moved the College to him. It was held at Llwynllwyd, home of Mr Price, minister at Maesyronen.Over the 7 years it was held at various houses.***
THOMAS MORGAN - no personal history - educated by Mr V Griffiths, sponsored by the Congregational Board - chosen to succeed Mr Griffiths when he died in 1741 - accepted a call from Oswestry in 1744 - died 1770.
DAVID LEWIS - born Swansea - educated Carmarthen - ordained Maesgwyn, 1745 - not an effective minister but emained there until his death.
*Notes of the Bwrdd Henadurol.
** Rees's History of Nonconformity in Wales.
***Thompson's MSS.
+Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.
GLASBURY
Mae y pentref prydferth hwn ar lan yr afon Wy, rhwng Talgarth a'r Gelli. Gan fod capel Maesyronen dros filldir o'r pentref, ac yn enwedig wedi i Mr. DeWinton, Maesllwch, fel y nodwyd yn hanes Maesyronen, wahardd i'r bobl fyned trwy y parc tua'r capel, fel yr arferent fyned gynt, yr oedd angen neillduol am addoldy yn y pentref. Trwy gallineb a diwydrwydd Mr. Richard Williams, pregethwr cynorthwyol yn Maesyronen, yr hwn a brynodd dy a gardd yn Glasbury, cafwyd yma dir cyfleus i adeiladu capel arno. Parodd adeiladiad y capel ddiflasdod nid bychan i eglwyswyr rhagfarnllyd yr ardal, a phe buasent yn gwybod dyben Richard Williams wrth brynu y ty, buasent yn sicr o roddi deg cymaint a'i werth am dano
*Thompson's MSS.
533
cyn y goddefasent iddo ef ei gael. Cynlluniwyd y capel gan Mr. Thomas, Glandwr, ac agorwyd ef Hydref 28ain, 1866, pryd y pregethwyd gan Dr. Thomas o Stockwell, ac eraill. Costiodd yr adeilad fil o bunau. Cyfranodd Samuel Morley. Ysw., tua chant a haner at y draul. Trwy ei haelioni ef, ac ymdrechion lleol, nid yw y ddyled sydd yn aros ar y lle yn drom. Wedi agoryd y capel sefydlwyd yma wasanaeth crefyddol cyson mewn cysylltiad a Maesyronen. Un eglwys yr ystyrir Maesyronen a Glasbury. Mae yma gynnulliad rhagorol, ac er fod y capel yn cynwys o dri i bedwar cant o eisteddleoedd, y mae eisioes wedi myned yn rhy fychan yn fynych i gynwys y gynnulleidfa. Yma yr urddwyd Mr. J. K. Lewis, Mehefin 23ain, 1868, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri Morris a Roberts, o athrofa Aberhonddu ; J. Stephens, Brychgoed ; D. P. Davies, Llanfairmuallt ; Dr. Rees, Abertawy, ac eraill. Yma drachefn yr urddwyd Mr. D. H. Shankland, y gweinidog presenol. Gweinyddwyd yn ei urddiad gan Meistri Morris, Aberhonddu ; Jones, Llacharn ; Evans, Talgarth ; Griffiths, Painscastle ; Jones, Huntington, a Jowett, y Gelli. Wedi adeiladu y capel hwn, nid oes nemawr o breswylwyr pentref Glasbury yn myned i Faesyronen, ond pan y byddo y cyfarfod cymundeb yn cael ei gynal yno. Mae hen gapel Maesyronen etto yn wasanaethgar i breswylwyr y wlad ar y tu gogleddol iddo, tra y mae capel Glasbury yn rhyfeddol o gyfleus i breswylwyr y dyffryn o bob tu i'r afon.
Translation by Maureen Saycell (June 2009)
This pretty village stands on he banks of the river Wye between Talgarth and Gelli. As Maesyronnen Chapel is over a mile from the village, especially after Mr DeWinton, Maesllwyd prohibited people from crossing the park on their way to chapel, as had been the custom, there was a need for a place of worship in the village. Mr Richard Williams, supporting minister at Maesyronnen, bought a house and garden in Glasbury, some convenient land was available to build a chapel on. The building of the chapel caused consternation among the church goers of the area, had they known Richard Williams' reason for buying the house they would willingly have given ten times the amount for it, rather than let him buy it. The chapel was designed by Mr Thomas, Glandwr and was opened on October 28th, 1866 when sermons were given by Dr Thomas, Stockwell and others.The building cost £1000. Samuel Morley, Esq., contributed about £150 towards the cost. Due to his generosity and the local effort the remaining debt is not high. Once the chapel was opened regular worship began in association with Maesyronnen. Glasbury and Maesyronnen are considered as one church. There is a good congregation, despite there being 400 seats here, it has become to small for the numbers attending. Mr J K Lewis was ordained here on June 23rd, 1868, the following officiated - Messrs Morris and Roberts, Brecon College ; J. Stephens, Brychgoed ; D. P. Davies, Builth Wells ; Dr. Rees, Swansea, and others. It was also here that the current minister, Mr. D. H. Shankland, was ordained. Messrs Morris, Brecon ; Jones, Laugharne ; Evans, Talgarth ; Griffiths, Painscastle ; Jones, Huntington, and Jowett, Gelli, officiated on this occasion. Since this chapel was built very few members of this community attend Maesyronnen, except for communion. Maesyronnen continues to serve the people to the North of it, while Glasbury is surprisingly convenient to those living in the valley to both sides of the river.
CAEBACH
(Diserth parish)
Yr oedd Ymneillduaeth wedi gwreiddio ac ymdaenu yn yr ardal hon er dyddiau yr Annghydffurfwyr. Fel y nodwyd yn y rhagarweiniad i hanes y sir, yr oedd achos yn y Garn, yn mhlwyf Disserth yn y flwyddyn 1715, ac yn ddiameu lawer o flynyddoedd cyn hyny. Yn y flwyddyn hono ymsefydlodd Mr. Christoducius Lewis, o Gapel Seion, sir Gaerfyrddin, yn weinidog yma, ac yma y bu hyd ei farwolaeth yn 1759, neu y flwyddyn ganlynol. Yn nhymor ei weinidogaeth ef yn y Garn yr adeiladwyd capel yn y Caebach, yn mhlwyf Cefnllys, tua thair milldir i'r gogledd o'r Garn. Ar draul Mr. Thomas Jones, gwr genedigol o'r ardal hon, ond a fuasai yn weinidog yn Titbury, yn sir Gaerloew, am ddeng-mlynedd-ar-hugain, yr adeiladwyd y capel cyntaf yma. Nid ydym wedi cael allan pa flwyddyn yr adeiladwyd ef, ond yr ydym yn barnu iddo gael ei adeiladu yn fuan ar ol 1715. Yr oedd Mr. Jones, y gwr a ddygodd draul yr adeiladaeth, yn fab i Mr. David Jones, Trefonen Hall, yn y sir hon. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1675, a threuliodd ei holl fywyd cyhoeddus yn weinidog yn sir Gaerloew. Mae yn ymddangos ei fod yn ddyn lled gyfoethog. Yr ydym yn barnu mai Mr. C. Lewis oedd y gweinidog cyntaf yn y Caebach, mewn cysylltiad a'r Garn. Yn 1752, yr ydym yn cael un John Evans yn weinidog yma, ac yn 1755, cymerodd Mr. Simon Williams ofal y lle hwn, mewn cysylltiad a Rhaiadr. Yn fuan wedi symudiad Mr. Williams i Dredustan, rhoddwyd galwad gan yr eglwysi yn y Caebach a Rhaiadr i Mr. John Thomas, myfyriwr o athrofa Abergavenny, ac urddwyd ef Ebrill 23ain, 1767, pan y gweinyddwyd gan Meistri Edmund Jones, Pontypool; Isaac Price, Llanwrtyd, a Richard Tibbott, Llanbrynmair, Bu Mr. Thomas yn rhyfeddol o lwyddianus yma am rai blynyddau. Yr ydym yn cael y cof-
534
nodion canlynol ganddo yn hanes ei fywyd, a ysgrifenwyd ganddo ef ei hun: - " Daeth yr Arglwydd i lawr mewn modd anghyffredin yn y Caebach trwy weinidogaeth y gair oddeutu y flwyddyn 1769, yn debyg i ddydd y Pentecost, yn ein cyfarfodydd neillduol a chyhoedd, yn enwedig ar gyfranu yr ordinhad, nes y byddai amryw yn tori allan mewn llef wedi eu dwysbigo, ac eraill yn bendithio yr Arglwydd, canu a gweddio, a llefaru bob un with ei gymydog, a phobl y byd yn synu, ac yn ffaelu ymadael ambell waith trwy y dydd Sabboth, nes y buaswn i wedi dychwelyd yn fy ol ar ol pregethu yn Rhaiadr, a thrafaelu oddeutu ugain milldir yn mlaen ac yn ol. Cynwrf a ymdaenodd trwy'r cymydogaethau, ac ychwanegwyd llawer at yr eglwys. Neillduais bedwar yn eglwys y Caebach i fod yn ddiaconiaid a henuriaid, a thri o wyr iuaingc hefyd, trwy gydsyniad yr eglwys, i arfer eu doniau yn gyhoeddus yn yr eglwys flodeuog hon. A pharhaodd pethau fel hyn yma dros y blynyddoedd 1770, 1771, a 1772, nes oedd y son am lwyddiant y Caebach, gerllaw ffynonau Llandrindod, trwy holl Gymru." Tua y flwyddyn 1778, darfu cysylltiad Mr. Thomas a'r eglwys hon fel ei gweinidog, a dilynwyd ef yma yn 1779, gan Mr. James Price, yr hwn a fu yma hyd ei farwolaeth, yn haf y flwyddyn 1804. Tuag amser marwolaeth Mr. Price, cafodd y capel ei ailadeiladu. gweinidog nesaf yma oedd Mr. David Powell, myfyriwr o athrofa Gwrecsam. Bu Mr. Powell yn gweinidogaethu yma am tua dwy-flynedd-ar-bymtheg. Rhoddodd ei ofal i fyny yn 1821. Wedi ei ymadawiad ef dewiswyd Mr. Richard Lewis, un o aelodau yr eglwys, i fod yn weinidog. Bu yntau yn llafurio yma gyda diwydrwydd a mesur o lwyddiant am bedair blynedd. Bu farw yn 1825. Wedi ei farwolaeth ef bu yn amser lled helbulus yma. Mynai Middleton Jones, Ysw., ymddiriedolwr yn ngweithred y capel a'r tir perthynol iddo, wthio un John Davies, o gymydogaeth Rhaiadr, ar yr eglwys yn erbyn ei hewyllys. Y canlyniad fu i'r rhan fwyaf o'r bobl fyned allan o'r capel, gan adael gweinidog yr ymddiriedolwr yno agos heb neb gydag ef. Wedi iddynt fyned allan buont yn addoli mewn amaethdai yn y gymydogaeth. Yn fuan dewisasant Mr. Daniel Williams o Lanfairmuallt, yn weinidog iddynt, ac urddwyd ef gan Mr. Lewis, Tredustan, ac eraill, mewn amaethdy yn mhlwyf Disserth. Tua phen blwyddyn wedi hyn bu farw Mr. Middleton Jones, ac yna cafodd Mr. Williams a'r eglwys y capel yn ol at eu gwasanaeth. Bu Mr. Williams yn weinidog yma hyd y flwyddyn 1844, pryd y gorfodwyd ef gan waeledd ei iechyd i roddi ei swydd i fyny. Rai blynyddau cyn hyn yr oedd Mr. David Price, aelod o'r eglwys, yn cynorthwyo yma yn y weinidogaeth, a phan roddodd Mr. Williams y lle i fyny, urddwyd Mr. Price yn ganlyniedydd iddo. Cymerodd ei urddiad le Mehefin 13eg, 1844. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Meistri T. Havord, Tredustan; R. Thomas, Rhaiadr; D. Jones, Maesyronen; D. Williams, y cynweinidog ; D. Griffiths, Gelli, a J. Jones, Minsterley. Yn y flwyddyn 1867, teimlai Mr. Price nad oedd ei alluoedd a'i iechyd yn ei alluogi i gyflawni ei weinidogaeth yn deilwng mewn lle oedd yn awr wedi dyfod yn bwysig iawn ar gyfrif ei agosrwydd i ffynonau Llandrindod, ac felly rhoddodd ei ofal i fyny, fel y gallasai yr eglwys edrych allan am un cymhwysach i'r cylch. Yn y flwyddyn 1868, rhoddwyd galwad i Mr. Kilsby Jones, ac efe yw y gweinidog yma yn bresenol. Gan fod capel y Caebach tua milldir o ganol y boblogaeth, a bod lluaws o dai yn cael eu hadeiladu yn agos i'r ffynonau, cymerodd Mr. Jones dir at adeiladu capel yn nghanol y tai newyddion. Gosodwyd ei garreg sylfaen yn 1869,
535
gan y diweddar Mr. H. O. Wills, Caerodor, a chafodd ei orphen a'i agor yn 1871. Mae hwn yn addoldy hardd o werth tua 1500p. Cyfranodd Mr. S. Morley tua 200p. at y draul. Mae yma gynnulleidfa luosog iawn yn yr haf, ac y mae y lle yn hynod o gyfleus a gwasanaethgar i'r ymwelwyr.
Yr oedd Jonesiaid, Pencerrig, teulu cyfoethog a dylanwadol iawn, yn noddwyr selog i'r achos hwn yn y ganrif ddiweddaf, ac y mae rhai cenedlaethau o'r teulu wedi cael eu claddu yma. Gadawodd Mrs. Jones, Penycerrig, yr hon a fu farw yn 1789, fferm fechan o werth tuag ugain punt y flwyddyn yn waddol i'r achos yma. - Ar ei marwolaeth hi collodd Ymneillduaeth ei gafael yn y teulu hwn.
Mae yn sicr i lawer gael eu codi o bryd i bryd i bregethu yn yr eglwys hon, ond nis gwyddom enwau neb o honynt ond Mr. Richard Lewis a Mr. David Price, y rhai fuont yn weinidogion yma, a Mr. Daniel Davies, yr hwn fu am ddwy-flynedd-a-deugain yn weinidog yn Wollerton, sir Amwythig.
Er mai yn nghapel newydd LLANDRINDOD y mae y gwasanaeth yn cael ei gynal yn awr, etto y mae cyfarfodydd gweddio a phregethu achlysurol yn yr hen gapel. Christ-church yw yr enw wrth ba un y mae Mr. Kilsby Jones yn dewis i'r capel newydd gael ei adnabod, ac yr ydym yn gobeithio y bydd y lle yn deilwng o'r enw tra y byddo yma gareg ar gareg.
COFNODION BYWGRAPHYDDOL
CHRISTODUCIUS LEWIS. Yr oedd ef yn enedigol o blwyf Cynwil, sir Gaerfyrddin. Addysgwyd ef yn athrofa Caerfyrddin dan Mr. W. Evans. Cafodd ei urddo yn Nghapel Seion, Llanddarog, tua y flwyddyn 1712, pan ffurfiwyd yr eglwys yno. Yn 1715, symudodd i sir Faesyfed, lle y bu hyd ei farwolaeth, tua y flwyddyn 1760. Nid ydym yn gwybod dim yn ychwaneg o'i hanes.
JOHN EVANS. Nid ydym yn gwybod dim am dano ef ond ei fod yma yn y flwyddyn 1752.
SIMON WILLIAMS. Yn nglyn a hanes Tredustan y rhoddwn gymaint ag a wyddom am dano ef.
JOHN THOMAS. Cafodd y gwr hynod hwn ei eni yn mhlwyf Myddfau, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1730, o rieni tlodion a hollol ddigrefydd. Cyn gynted ag y daeth yn alluog, anfonwyd ef i wasanaethu amaethwyr. Er fod wedi ei fagu mewn teulu digrefydd, fe weithiwyd ynddo trwy ryw foddion deimladau crefyddol pan nad oedd ond plentyn ieuangc iawn. Pan yr oedd ef yn llangc ieuangc yr oedd y diwygiad Methodistaidd yn cynhyrfu y wlad o gwr i gwr. Cafodd yntau y fraint o wrandaw amryw o'r prif bregethwyr, ac ennillwyd ef i wneyd proffes o grefydd pan yr oedd tua phymtheg oed. Yr oedd cyn hyn, heb nemawr neu ddim manteision addysg, wedi dysgu darllen ac ysgrifenu ychydig. Pan yr oedd newydd uno a'r gymdeithas grefyddol, aeth i Landdowror, a chaniataodd Mr. Griffith Jones iddo gael dyfod yn was iddo ef. Bu yno nes yr oedd yn ddeunaw mlwydd oed. Aeth oddiyno i Drefecca, lle y bu am agos i ddwy flynedd yn yr ysgol. Ar ei ymadawiad o Drefecca, aeth i gadw ysgol yn mhlwyf Llanigan, sir Frycheiniog, a thra yno dechreuodd arfer ei ddoniau yn gyhoeddus fel pregethwr. Traddododd ei bregeth gyhoeddus gyntaf yn y
536
Cantref, gerllaw Aberhonddu, yn Ionawr, 1750. O hyn allan pregethu a chadw ysgol mewn gwahanol ranau o Ddeheubarth Cymru y bu, megis y Groeswen, Morganwg ; Llansadwrn, sir Gaerfyrddin, ac yn agos i Drefdraeth, sir Benfro, &c., hyd y flwyddyn 1761, pryd y derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Annibynol yn Rhydymardy, Morganwg, gan Mr. W. Evans, Cwmllynfell, a chyn diwedd y flwyddyn hono, derbyniwyd ef i'r athrofa yn Abergavenny, lle y bu dros bedair blynedd. Wedi gorphen ei amser yno bu ar fedr ymsefydlu fel gwinidog yn y Brychgoed a Thy'nycoed, ond gwrthodai rhai personau o ddylanwad yn yr eglwysi hyny arwyddo ei alwad, ac felly nid aeth yno. Yn fuan wedi hyny, cafodd alwad oddiwrth yr eglwysi yn Rhaiadr a'r Caebach, ac urddwyd ef yno, fel y gwelsom, yn 1767. Rhoddodd ofal yr eglwysi i fyny tua y flwyddyn 1778, ond bu yn byw, ac yn pregethu mewn gwahanol fanau yn sir Faesyfed, am tuag un-mlynedd-ar-bymtheg ar ol hyny. Yn y flwyddyn 1794, symudodd i Langathen, sir Gaerfyrddin, ac oddiyno i Abergwyli. Yn Nghaerfyrddin yr oedd yn byw yn niwedd ei oes, ac yno y bu farw tua y flwyddyn 1811. Cyhoeddwyd hanes ei fywyd, wedi ei ysgrifenu ganddo ef ei hun, yn y flwyddyn 1810, dan yr enw Rhad Ras, neu lyfr profiad, mewn byr hanes am ddaioni yr Arglwydd tuag at ei wael wasanaethwr, John Thomas (awdwr Caniadau Seion), o'i febyd hyd yma. Mae hwn yn llyfr rhyfedd iawn, ac yn werth ei ddarllen. Yn ol yr adroddiad a gynwysa y llyfr hwn, bu John Thomas yn un o'r pregethwyr mwyaf llafurus ac arddeledig yn ei oes. Nid oes nemawr o ardal yn Nghymru na bu ynddi lawer o weithiau, a bu rai gweithiau yn pregethu yn nghapeli Whitefield yn Llundain, ac yn amryw o gapeli yr Arglwyddes Huntington yn Kent ac Essex, &c. Yn ol ei adroddiad ef yr oedd rhyw effeithiau anghyffredin yn dilyn ei weinidogaeth pa le bynag yr elai. Er y dichon ei fod yn dderbyniol a llwyddianus iawn fel pregethwr teithiol, nid ydym yn tybied ei fod yn feddianol ar gymwysder i fod yn winidog sefydlog. Yr ydym yn casglu oddiwrth ei ysgrifeniadau ei fod, er yn ddiameu yn ddyn duwiol iawn, yn lled blentynaidd yn ei ffordd, ac yn amddifad o fedr i beri i ddynion edrych i fyny ato fel dyn o bwys a dylanwad. Heblaw hanes ei fywyd, a'r llyfr hymnau a elwir Caniadau Seion, cyhoeddodd amryw farwnadau, a chyfieithodd rai man lyfrau o'r iaith Saesoneg. Mae ei hanes yn un o'r enghreifftiau rhyfeddaf o waith yr Arglwydd yn cyfodi un o ddyfnder tlodi ac anfanteision i sefyllfa o gryn nod a defnyddioldeb.
JAMES PRICE. Y cwbl a wyddom am dano ef yw iddo gael ei urddo yn y Caebach tua y flwyddyn 1779. Ei fod yn ddyn parchus a defnyddiol, ac iddo farw yn haf y flwyddyn 1804.
DAVID POWELL. Yr oedd yn enedigol o blwyf Llanafanfawr, sir Frycheiniog. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nhroedrhiwdalar, ac yno y dechreuodd bregethu. Bu yn fyfyriwr yn athrofa Gwrecsam, ac ar orpheniad ei amser yno, urddwyd ef yn y Caebach, tua y flwyddyn 1804, lle y bu yn llafurio hyd y flwyddyn 1821. Yna rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny, ond parhaodd i bregethu yn achlysurol hyd derfyn ei oes. Bu farw Medi 2il, 1850. Yr oedd pawb a'i hadwaenai yn ei barchu ac yn ei gyfrif yn ddyn gwir dda.
DANIEL WILLIAMS. Yn Llanfairmuallt yr oedd ef yn byw. Oriedydd (Watchmaker) ydoedd wrth ei alwedigaeth. Yr oedd yn ddyn da a pharchus. Bu farw yn y flwyddyn 1854, a chladdwyd ef yn mynwent capel yr Annibynwyr yn Llanfairmuallt.
Translation by Maureen Saycell (July 2009)
Independence had put down roots and spread in this area since the days of nonconformism. In the introduction we mentioned that there was a cause in Garn, Disserth Parish, in 1715, and undoubtedly long before that. That year Mr Christoducius Lewis, Seion Chapel, Carmarthenshire settled as Minister here and stayed here until his death in 1759 or the year after. During his ministry Caebach Chapel was built in the parish of Cefnllys, about 3 miles north of Garn Chapel. The first Chapel was built at the expense of Mr Thomas Jones, originally from this area, but then a minister at Titbury, Gloucestershire for 30 years. We do not have an exact date, but it is reckoned to have been around 1715. Mr Jones, the benefactor, was the son of Mr David Jones, Trefonen Hall in this County. He was born in 1675 and spent all his public life as a minister in Gloucestershire. It would appear that he was a wealthy man. We judge Mr Lewis to have been the first minister in Caebach, associated with Garn. In 1752 we have a John Evans as the minister here and , in 1755, we have Mr Simon Williams sharing the care here with Rhayader. Soon after Mr Williams moved to Tredustan, the churches at Caebach and Rhayader sent a call to Mr John Thomas, a student at Abergavenny, and he was ordained on April 23rd, 1767 when the following officiated - Messrs Edmund Jones, Pontypool; Isaac Price, Llanwrtyd, and Richard Tibbott, Llanbrynmair. Mr Thomas was successful here for some years. The following is taken from his own biographical notes " The Lord descended in a spectacular way in Caebach through the mistering of the Word in 1769, similar to the day of the Pentecost, particurlarly when communion was celebrated, so that many were crying out, praising the Lord ...... I appointed 4 in Caebach to become Deacons and Elders, as well as 3 younger men to share their talent in this flourishing church. Matters continued in this way during 1770, 1771 and 1772 and the success of this church, near Llandrindod, was the talk through the whole of Wales." Around 1778 Mr Thomas' ministry here ended and he was followed in 1779 by Mr James Price, he remained here until his death in the summer of 1804. It was about this time that the Chapel was rebuilt. The next minister was Mr David Powell, a student at Wrexham. Mr Powell was here for about 17 years, giving up his ministry in 1821. Following his departure Mr Richard Lewis, a member of the church, was chosen to be the minister. He was industrious and with a measure of success here for 4 years, he died in 1825. After his death there was a period of unrest when Middleton Jones, esq., a trustee of the chapel and the attached land, attempted to force a certain John Davies, from the Rhayader area, on the church against their wishes. This resulted in the departure of most of the members, leaving just the trustee and the minister. After leaving they worshipped in surrounding farms, soon they chose Mr Daniel Williams, Builth Wells, to be their minister and he was ordained in a farmhouse in Disserth Parish by Mr Lewis, Tredustan and others. About a year later Mr Middleton Jones died and Mr Williams and the church reclaimed the chapel for their use. Mr Williams was minister here until 1844 when deteriorating health forced him to resign his post. For some years before this Mr David Price, a member of the church, had been a supporting preacher here, and was ordained as Mr Williams successor. The ordination took place on June 13th, 1844, those officiating were - Messrs T. Havord, Tredustan; R. Thomas, Rhayader; D. Jones, Maesyronen; D. Williams, the previous minister; D. Griffiths, Gelli, and J. Jones, Minsterley. In 1867 Mr Price felt he was unable to continue, because of his lack of ability and poor health, in a place that was becoming increasingly important due to the proximity of the wells at Llandrindod, gave up his ministry in order to allow the church to seek a suitable candidate for the area. In 1868 a call was sent to Mr Kilsby Jones, he is the current minister. As Caebach was about a mile from the centre of population, with large numbers of houses being built near to the wells, Mr Jones acquired some land in the midst of the new houses. The foundation stone was laid in 1869 by Mr H O Wills, Bristol. It was completed and opened in 1871. It is a handsome chapel valued abou £1500. Mr S Morley contributed around £200 towards the cost. There is a large congregation during the summer as the situation is very convenient for the visitors.
The Jones' of Pencerrig, a rich and influential family, were regular benefactors to this cause last century. Some of them are buried here. Mrs Jones, Pencerrig, who died in 1789, willed a small farm which was valued at about £20 annually to the cause. Following her death the family was lost to Independence.
Certainly many were raised to preach here from time to time but the only names we have are Mr Richard Lewis and Mr David Price, both were ministers here, and Mr Daniel Davies who was a minister at Wollerton, Shropshire, for 42 years.
Although the services are now held at the new chapel in Llandrindod, occasional services and prayer meetings are still held in the old chapel. Christchurch is the name chosen by Mr Kilsby Jones, we hope that it will jstify the name while it continues to stand stone upon stone.
BIOGRAPHICAL NOTES*
CHRISTODUCIUS LEWIS - Born Cynwil, Carmarthenshire - educated Carmarthen with Mr. W. Evans - ordained Seion, Llanddarog, 1712 - In 1715 moved to Radnorshire, remained there till he died in 1760.
JOHN EVANS - we only know that he was here in 1752.
SIMON WILLIAMS - see Tredustan
JOHN THOMAS - Born Myddfai Parish, Carmarthenshire in 1730 - Parents poor, sent to work on a farm - was a youth when the Methodist revival was sweeping the country - had learned to read and write before this - employed as a servant by Griffith Jones, Llanddowror, remained there until he was18 - then 2 years school at Trefecca - moved to Llanigan, Breconshire to keep school there. Began to preach at this time - First sermon given at Cantref, near Brecon, January 1750 - then kept schools and preached at various locations accross South Wales until 1761 when he was accepted as a member at the Independent Chapel Rhydymardy, Glamorgan by Mr W. Evans, Cwmllynfell - accepted to Abergavenny College before the end of that year, where he spent the next 4 years - almost settled as minister in Brychgoed and Ty'nycoed, but there were objections and he did not go there - soon called to Rhayader and Caebach, ordained 1767 - He gave up his ministry around 1778, continued preaching for another 16 years - moved to Llangathen, Carmarthenshire, then Abergwili - His biography tells of his preaching throughout Wales, also Whitefield, London and many of Lady Huntington's chapels in Kent and Essex - succesful travelling preacher but not suited to settling as a minister. - He died in Carmarthen about 1811.
JAMES PRICE - ordained Caebach around 1779 - died summer of 1804.
DAVID POWELL - born Llanafanfawr, Breconshire - confirmed Troedrhiwdalar, began preaching there - student at Wrexham - ordained Caebach, about 1804, stayed until 1821 when he gave up his ministry - preached occasionally until his death on September 2nd, 1850.
DANIEL WILLIAMS - Watchmaker living in Builth Wells - died 1854, buried in the Independent cemetery there.
*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.
537
RHAIADRGWY
(Rhayader parish)
Mae yr achos Annibynol yn y lle hwn yn hen iawn, ond nid oes genym wybodaeth sicr trwy lafur pwy y dechreuwyd ef. Yr ydym yn barnu mai Mr. John Hanmer, yr hwn oedd yn enedigol o'r sir hon, ac a fu am flynyddau, yn amser y werinlywodraeth, yn bregethwr teithiol llafurus iawn yn siroedd Maesyfed ac Aberteifi, fu yr offeryn i'w ddechreu. Y gweinidog cyntaf y mae genym hanes am dano yma yw Mr. Thomas Walters. Ymsefydlodd ef yma tua y flwyddyn 1692, ac yma y bu am yr ysbaid maith o driugain mlynedd. Bu farw mewn oedran teg yn 1752, mewn lle a elwid y Neuadd, yr hwn le a fuasai gynt yn garchardy, ac y buwyd yn addoli am flynyddau cyn adeiladu y capel. Yn y flwyddyn 1721, yr adeiladwyd y capel, ar ddarn o dir a brynwyd i'r perwyl gan Mr. Walters, y gweinidog. Medi 15fed, 1753, urddwyd Mr. Simon Williams yma, a bu yn llafurio yn y lle hwn, mewn cysylltiad a'r Caebach, hyd y flwyddyn 1765, pryd y symudodd i Dredustan, Brycheiniog. Yn y flwyddyn 1766, daeth Mr. John Thomas, o athrofa Abergavenny yma, a chafodd ei urddo, fel y nodwyd yn hanes y Caebach, yn Ebrill, 1767. Rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny yma ac yn y Caebach tua y flwyddyn 1778. Wedi hyn bu Mr. Thomas Bowen yn gofalu am y lle hwn, mewn cysylltiad a Maesyronen, am o bedair i bum' mlynedd. Yn ei amser ef adgyweiriwyd a helaethwyd y capel. Y gweinidog nesaf yma oedd Mr. David Davies, aelod o'r eglwys yn Llanwrtyd. Urddwyd ef yma tua y flwyddyn 1787. Yn 1790, symudodd i Langattwg, Crughowell, a dilynwyd ef yn y Rhaiadr, yr un flwyddyn, gan Mr. Jonathan Powell. Bu yma lwyddiant mawr dan weinidogaeth Mr. Powell am rai blynyddau, ond cyn terfyniad amser yma cyfododd dadl yn yr eglwys am athrawiaeth y Drindod. Yr oedd yma rai yn gogwyddo at Sabeliaeth, a mynai Mr. Powell eu diarddel, ond gan na chydunai yr eglwys a hyny, rhoddodd y lle i fyny yn 1798, a symudodd i Rosymeirch, Mon. Y gweinidog nesaf yma oedd Mr. Daniel Evans. Urddwyd ef yn y flwyddyn 1800, a bu yma yn barchus, ac i fesur helaeth yn llwyddianus, hyd ei farwolaeth yn Ebrill, 1834. Wedi marwolaeth Mr. Evans, bu yr eglwys yn awyddus iawn am gael yr enwog Mr. Williams o'r Wern, yn weinidog iddi, a theimlai Mr. Williams fesur o ogwyddiad i ddyfod yma, ond ni chaniataodd rhagluniaeth i hyny fod. Yn 1835, rhoddwyd galwad i Mr. John Griffiths, gweinidog yr eglwys Gymreig yn Manchester, a bu yma am yn agos i dair blynedd. Yn y flwyddyn 1836, tynwyd yr hen gapel i lawr, ac adeiladwyd yr un presenol. Yn niwedd y flwyddyn 1837, symudodd Mr. Griffiths i Fynydd Buckeley, yn sir Flint, lle y mae hyd yn bresenol. Yn 1839, rhoddwyd galwad i Mr. Robert Thomas, Glandwr, Abertawy, a'r hon y cydsyniodd. Bu dyfodiad Mr. Thomas i'r lle yn fendith neillduol i'r achos. Torodd diwygiad grymus allan yma yn mhen ychydig gyda blwyddyn wedi ei sefydliad yn y lle. Derbyniodd tua chant o aelodau i'r eglwys yn y flwyddyn 1841, a bu yma gynydd graddol trwy holl dymor ei weinidogaeth. Er galar mawr i bobl ei ofal a'r gymydogaeth yn gyffredinol, gwnaeth ei feddwl i fyny i symud i Hanover, sir Fynwy, yn 1848. Y gweinidog nesaf yma oedd Mr. David M. Davies, o Langefni, Mon. Daeth Mr. Davies yma yn 1849, ac ym-
538
adawodd i Gerrig-cadarn, lle y mae yn bresenol, yn mhen y deunaw mis. Yr oedd pethau yn lled annymunol yma yn ei amser ef, o herwydd bod yr hen bobl am gael mwy o Gymraeg yn y gwasanaeth, a'r bobl ieuaingc am fwy o Saesonaeg. Wedi ymadawiad Mr. Davies, rhoddwyd galwad i Mr. Rees Gwesyn Jones, o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Tachwedd 30ain, 1851. Gweinyddwyd yn yr urddiad gan Meistri D. Williams, Troedrhiwdalar; J. Stephens, Brychgoed; H. Griffiths, athraw yn athrofa Aberhonddu ; T. Evans, Llanarthwl, ac eraill. Bu Mr. Jones yma hyd y flwyddyn 1857, pryd y symudodd i Benybont-ar-ogwy. Ar of ei ymadawiad ef bu yr eglwys am oddeutu tair blynedd dan ofal Mr. Kilsby Jones. Yn y flwyddyn 1862, rhoddwyd galwad i Mr. H. Kerrison, Sais hollol anwybodus o'r Gymraeg. Bu ef yma am tua phedair blynedd. Gwanychodd yr achos yn fawr yn y tymor hwn. Ar ei ymadawiad ef, cymerwyd gofal y lle drachefn gan Mr. Kilsby Jones, yr hwn erbyn hyn oedd wedi dychwelyd o Lundain i Lanwrtyd. Ail-lanwyd y capel gan Mr. Jones yn ddioed, ond rhoddodd ofal y lle i fyny yn mhen naw mis. Yn 1868, rhoddwyd galwad i Mr. Samuel Prosser, o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Mehefin 29ain, yn y flwyddyn hono. Gweinyddwyd yn yr urddiad gan Meistri Morris a Roberts, athrawon athrofa Aberhonddu ; J. Stephens, Brychgoed ; Dr. Rees, Abertawy, ac eraill. Mae gweinidogaeth Mr. Prosser yn dderbyniol iawn yma, a mesur o lwyddiant ar ei lafur. Mae yr achos hwn wedi dyoddef yn fawr yn y pum'-mlynedd-ar-hugain diweddaf, o herwydd newidiad iaith y gwasanaeth. Yr oedd yma hyd yn ddiweddar amryw hen bobl yn llawn o darn Cymreig, ac yr oedd dwyn y gwasanaeth crefyddol yn mlaen yn yr iaith Saesonig fel dwfr oer i'w hysbrydoedd tanllyd hwy. Pa fodd bynag, y Saesoneg sydd wedi ennill y dydd, fel nad oes yma yn awr nemawr i air o Gymraeg yn cael ei ddefnyddio yn y pulpud.
Mae yn dra thebyg i lawer o bryd i bryd gael eu cyfodi i bregethu yma, ond nid ydym ni yn hysbys o enwau neb o honynt ond Mr. Thomas Evans, mab Mr. Daniel Evans, y gweinidog. Daw ei hanes ef dan sylw etto yn nglyn a Charmel a Llanwrthwl.
COFNODION BYWGRAPHYDDOL
Rhoddir hanes y gweinidogion a symudasant oddiyma yn nglyn a'r eglwysi y terfynasant eu hoes ynddynt.
THOMAS WALTERS. Yr oedd ef yn enedigol o ardal y Cilgwyn, yn sir Aberteifi. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1664. Gan fod ei dad yn dirfeddianwr helaeth, cafodd y manteision addysg rhagoraf. Yn athrofa Mr. Samuel Jones, Brynllwarch, y gorphenodd ei addysg.* Ymsefydlodd yn Rhaiadr, fel y nodasom, tua y flwyddyn 1692, a bu yno hyd derfyn ei oes. Bu farw Hydref 25ain, 1752, yn 88 oed, a chladdwyd ef yn mynwent eglwys Cwmdauddwr, Rhaiadr, lle y mae ei gareg fedd i'w gweled etto. Yr oedd Mr. Walters yn ddyn o gyfoeth mawr. Gadawodd ei eiddo i'w ferch, yr hon oedd ei unig blentyn. Y mae rhai o brif foneddigion y parthau hyn yn disgyn oddiwrthi hi, ond y mae ei hiliogaeth wedi llwyr-
*Walter Wilson's MSS.
539
ymwrthod ag egwyddorion Ymneillduol eu hynafiaid er's besau bellach. Nid ydym yn gwybod dim am nodwedd Mr. Walters fel pregethwr, ond yr oedd yn ddyn o ddylanwad mawr ar gyfrif ei gyfoeth a'i ragoriaeth fel ysgolhaig.
DANIEL EVANS. Ganwyd ef yn ardal Crugybar, sir Gaerfyrddin, yn flwyddyn 1771. Yn eglwys Crugybar y dechreuodd broffesu a phregethu. Dechreuodd bregethu yr un amser a Mr. Hughes, Croeswen. Priododd yn lled ieuangc, a chyn dechreu pregethu, yr hyn fu yn rhwystr iddo gael addysg rhagbarotoawl i'r weinidogaeth. Yn mhen ychydig wedi iddo ddechreu pregethu, symudodd i ardal y Brychgoed, lle y bu am rai blynyddau yn bregethwr cynorthwyol derbyniol iawn. Yn 1799, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Rhaiadr, ac urddwyd ef yno yn nechreu y flwyddyn 1800. Llanwodd ei gylch yn ffyddlon ac effeithiol am bedair-ar-ddeg-ar-hugain o flynyddau. Wrth bregethu yn Llanidloes ar nos Sabboth cymerwyd ef yn glaf. Trwy drafferth y dygwyd ef adref i Rhaiadr, lle y bu farw, ar ol ychydig ddyddiau o gystudd, Ebrill 3ydd, 1834, yn 63 mlwydd oed. Claddwyd ef wrth ei gapel yn Rhaiadr. Nid oedd Daniel Evans yn ysgolhaig nac yn ddyn o alluoedd nodedig, ond bu yn ddefnyddiol iawn yn ei oes. Yr oedd yn bregethwr eglur a derbyniol, a gwnaeth lawer mwy o ddaioni yn ei ddydd na llawer o rai rhagorach eu doniau, eu dysg, a'u galluoedd. Dichon i'w anwybodaeth o'r iaith Saesonig fod yn fesur o anfantais i'r achos, yn enwedig yn mlynyddoedd olaf ei weinidogaeth. Uchel-Galfiniad ydoedd o ran ei farn ; a chan fod wedi dechreu ei fywyd crefyddol a chyhoeddus yn eglwys wresog Crugybar, a than weinidogaeth danllyd Isaac Price, mae yn naturiol casglu ei fod yn un nodedig o dwym yn ei gyflawniadau crefyddol, ac felly yr oedd.
Translation by Maureen Saycell (July 2009)
The Independent cause here is very old although the exact date is not known. We believe it was started by Mr John Hanmer, originally from this area, who was a successful travelling preacher during the Commonwealth in both Cardiganshire and Radnorshire. The first recorded minister here was Mr Thomas Walters, he settled here about 1692 and remained for a remarkable 60 years. He died in old age in 1752, in a place named Neuadd, which had in the past been a prison, where worship took place before the chapel was built. The chapel was built in 1721 on a piece of land aquired for the purpose by the minister, Mr Walters. On September 15th, 1753 Mr Simon Williams was ordained here and worked here along with Caebach until he moved to Tredustan, Brecon, in 1765. In 1766 Mr John Thomas, from Abergavenny College was ordained here as noted with Caebach, in April 1767. He gave up his ministry here and Caebach in 1778. Following that Mr Thomas Bowen took care of this chapel along with Maesyronnen for 4 or 5 years. The chapel was repaired and extended during his time. The next minister was Mr David Davies, a member at Llanwrtyd, he was ordained here around 1787. He moved to Llanattwg, Crickhowell in 1790 and succeded in Rhayader, in the same year, by Mr Jonathan Powell. Mr Powell's ministry here was very successful for some years but toward the end an argument arose regarding the teachings of The Trinity. Some were inclining to Sabelinism and Mr Powell wanted to disown them but the church disagreed, he left in 1798 and moved to Rhosymeirch, Anglesey. The next minister was Mr Daniel Evans. He was ordained in 1800 and worked with some success here until his death in April 1834. After his death the church was very keen to have the well known Mr Williams, Wern, as minister, and he also felt some desire in that direction but providence did not allow this to happen. In 1835 a call was sent to Mr John Griffiths, minister of the Welsh Church in Manchester who was here for about 3 years. In 1836 the old chapel was demolished and the current one was built. At the end of 1837 Mr Griffiths moved to Buckley Mountain, Flintshire, where he remains. In 1839 a call was sent to Mr Robert Thomas, Glandwr, Swansea, who accepted. His arrival was a blessing to this cause. A strong revival arrived around a year after he settled here. He confirmed 300 members into the church in 1841, and there was a gradual increase throughout his ministry. To the great sorrow of those in his care and the whole area, he decided to move to Hanover, Monmouthshire, in 1848. The next minister was Mr David M Davies, from Llangefni, Anglesey. Mr Davies came here in 1849 and left for Cerrig Cadarn 18 months later, where he is currently. Matters were a little uneasy during his time with the older people wanting more use of the Welsh language, the younger generation wanting more English, in the services. After his departure a call was sent to Mr Rees Gwesyn Jones, Brecon College, and he was ordained on November 30th, 1851. The following officiated at the services - Messrs D. Williams, Troedrhiwdalar; J. Stephens, Brychgoed; H. Griffiths, teacher at Brecon College ; T. Evans, Llanarthwl, and others. Mr Jones moved from here to Bridgend in 1857. Mr Kilsby Jones took care of the chapel for the next 3 years or so. In 1862 a call was snt to Mr H Kerrison, a monoglot Englishman. He was here for about 4 years and during this period the cause weakened considerably. On his departure Mr Kilsby Jones took charge again, having returned from London to Llanwrtyd. The chapel was soon refilled by Mr Jones but he gave up the care in 9 months. In 1868 a call was sent to Mr Samuel Prosser, Brecon College, who was ordained here on June 9th the same year. The following officiated - Messrs Morris and Roberts, teachers at Brecon College ; J. Stephens, Brychgoed ; Dr. Rees, Swansea, and others. Mr Prosser's ministry has been acceptable and with a measure of success. This cause has suffered greatly in the last 25 years because of the change in the language of worship. Until recently there were many old people here who were so full of feeling for the Welsh language that having the services held in English was like pouring icy water on their fiery spirits. However English has won through and there is scarcely a Welsh word uttered in the pulpit.
It is likely that there are many who have been raised to preach here but we only have one name, Mr Thomas Evans, son of the minister Mr Daniel Evans, his biography is with Carmel and Llanwrthwl.
BIOGRAPHICAL NOTES *
The biographical notes of those who left here are given with the churches where they ended their service.
THOMAS WALTERS - Born Cilgwyn, Cardiganshire in 1664 - parents were landowners, he ended his education with Mr. Samuel Jones, Brynllwarch** - Died October 25th, 1752, age 88 - buried Cwmdauddwr, Rhayader.
DANIEL EVANS - Born Crugybar, Carmarthenshire, 1771 - married young, proved to be a problem when he was preparing for the ministry - moved to Brychgoed, where he spent some time as a supportong preacher - in 1799, accepted a call from Rhayader - ordained there in 1800 - ministered well for 34 years - taken ill while preaching at Llanidloes on a Sunday night was taken ill - died soon after on the 3rd April, 1834, age 63 - buried in Rhayader.
*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.
**Walter Wilson's MSS.
CARMEL
(Nantmel parish)
Mae y capel hwn yn mhlwyf Nantmel, tua phum' milldir i'r deddwyrain o Rhaiadr. Trwy lafur Mr. Thomas Evans y casglwyd cynnulleidfa ac yr adeiladwyd capel yma, yn 1829. Wedi cael y capel yn barod, urddwyd Mr. Evans yn weinidog yma. Cymerodd ei urddiad le Mehefin 8fed, 1831. Yr oedd trefn y gwasanaeth fel y canlyn :- Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. Richard Lloyd, Llanbadarnygareg ; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. J. Davies, Glandwr; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. D. Williams, Caebach; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Williams, Troedrhiwdalar; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. T. Lewis, Llanfairmuallt, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. W. Lewis, Tredustan. Parhaodd Mr. Evans i lafurio yma ac yn Llanwrthwl hyd derfyn ei oes yn 1869. Achos bychan sydd yma, ac nis gall lai na bod felly, gan nad yw yr ardal ond cymharol deneu ei phoblogaeth. Cyfodwyd yma ddau i bregethu, ond yr ydym wedi methu dyfod o hyd i'w henwau. Wedi marwodaeth Mr. Evans, rhoddodd yr eglwys hon, a'r eglwys yn Llanwrthwl, alwad i Mr. J. W. Jones, o Bontypridd, ac urddwyd ef Chwefror 24ain, 1870. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Meistri D. Williams, Troedrhiwdalar ; J. Stephens, Brychgoed ; W. I. Morris, Pontypridd, ac eraill. Yn Llanwrthwl y cynaliwyd y cyfarfod urddo. Mae Mr. Jones yn parhau i lafurio yma, a dywedir fod golwg obeithiol ar yr achos yn y ddau le.
540
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
THOMAS EVANS. Unig blentyn Mr. Daniel Evans, Rhaiadr, oedd efe. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1795. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig gan ei dad pan yr oedd yn dra ieuangc. Nid ydym wedi cael allan pa oed ydoedd pan y dechreuodd bregethu. Darfu iddo yntau, fel ei dad, briodi yn ieuangc iawn, trwy yr hyn y gosododd ei hun dan anfantais i gael yr addysg a allasai gael. Bu am ychydig amser yn yr ysgol ramadegol a gedwid mewn cysylltiad a'r athrofa yn y Drefnewydd. Yr ydym yn tybied mai wedi iddo gladdu ei wraig gyntaf y bu yno. Urddwyd ef, fel y nodasom, yn y capel a adeiladwyd trwy ei lafur ef ei hun, yn 1831. Llafuriodd yn ddiwyd yno, yn Llanwrthwl, cynnulleidfa arall a gasglwyd ganddo, ac agos trwy holl sir Faesyfed, nes i'w iechyd roddi i ffordd. Dyoddefodd boenau mawr oddiwrth y gymalwst a chlefydau eraill am y chwe' mis olaf o'i fywyd. Bu farw Chwefror 21ain, 1869, a chladdwyd ef wrth gapel Llanwrthwl. Gweinyddwyd ar ei gladdedigaeth gan Mr. Williams, Troedrhiwdalar ; Mr. Price, Caebach, ac eraill. Bu yn briod dair gwaith, a chafodd naw neu ddeg o blant o'i ddwy wraig gyntaf, ond ni chafodd un o'r drydydd. Wrth amaethu y gallodd fagu ei deulu lluosog, gan nad oedd yr hyn a dderbyniai oddiwrth yr eglwysi bychain oedd dan ei ofal ond ychydig iawn.
Yr oedd Thomas Evans yn ddyn hynaws a siriol, ac yn hollol ddiymhongar. Perchid ac anwylid ef gan bawb o'i gydnabod. Nid oedd ei alluoedd a'i ddoniau fel pregethwr yn helaeth, ond yr oedd yn bregethwr defnyddiol a derbyniol. Er fod llawer o'i amser yn cael ei gymeryd i fyny o angenrheidrwydd gun ei ofalon tymhorol, ni ddarfu i nemawr o weinidog, yn ei oes, deithio mwy nag ef ; ond yr oedd ei lafur yn gyfyngedig agos yn hollod i siroedd Maesyfed a Brycheiniog. Pregethai yn y ddwy iaith, y naill fel y llall, ond Cymreigaidd iawn oedd ei barabliad o'r iaith Saesonig.
Translation by Maureen Saycell (July 2009)
This chapel is in the parish of Nantmel about 5 miles south-east of Rhayader. It was through the work of Mr Thomas Evans that a congregation was gathered and the chapel built in 1829. Once the chapel was ready Mr Evans was ordained on June 8th, 1831. The order of service was as follows - Opening with prayer from Mr. Richard Lloyd, Llanbadarnygareg ; the opening address was given by Mr. J. Davies, Glandwr; cofession of faith accepted by Mr. D. Williams, Caebach; the ordination prayer offered by Mr. D. Williams, Troedrhiwdalar; a sermon on the duty of a minister by Mr. T. Lewis, Builth Wells, and on the duty of the church from Mr. W. Lewis, Tredustan. Mr. Evans continued his labours here and Llanwrthwl until his death in 1869. There is only a small cause here, as can be expected, with only a scattered population. Two were raised here to preach but we do not have their names. Following Mr Evans' death, this church along with Llanwrthwl, sent a call to Mr J W Jones, Pontypridd, who was ordained on February 24th, 1870. The following took part in the service - Messrs D. Williams, Troedrhiwdalar ; J. Stephens, Brychgoed ; W. I. Morris, Pontypridd, and others. The ordination took place in Llanwrthwl. Mr. Jones continues to work here and the outlook appears to be good.
BIOGRAPHICAL NOTES*
THOMAS EVANS - Born 1795 - only child of Mr. Daniel Evans, Rhayader - married young like his father, this limited his education - spent some time at the Grammar School associated with Newtown College - probably after his first wife died - ordained as noted 1831 - worked until his health failed - married 3 times, 9 or 10 children from the first two only - died February 21st, 1869 - buried Llanwrthwl - supported his family through agriculture as his income from the chapels was meagre - his mastery of English limited.
*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.
GORE
(Old Radnor parish)
(Already translated etc /big/wal/RAD/OldRadnor/Hanes.html )
" Mae y lle hwn yn mhlwyf Old Radnor, ac yn agos i derfynau sir Henffordd. Yr ydym yn cael fod Ymneillduaeth wedi gosod ei thraed i lawr yma yn foreu iawn. Cafodd Mr. John Weaver ei droi allan o eglwys New Radnorgan Ddeddf Unffurfiaeth yn 1662. Mae yn ddigon tebygol mai ffrwyth ei lafur ef yw yr achos yn Gore. Darfu iddo ffurfio eglwys yma yn fuan wedi cael ei fwrw allan o'r Eglwys blwyfol, ond ni bu yn hir cyn symud i Henffordd, lle y treuliodd ei oes yn weinidog Ymneillduol. Bu fares yn bedwar ugain oed yn 1712. Merch iddo ef oedd gwraig yr enwog a'r dysgedig Samuel Jones, athraw yr athrofa yn Tewkesbury. Yn 1672, yr ydym yn cael Maurice a Richard Griffiths yn cyfodi trwyddedau bregethu yn Bigeldy, yn yr ardal hon. Trwyddedodd Owen Morgan, o Bigeldy, ei dy hefyd yr un amser at bregethu ynddo. Nid oes genym un wybodaeth am Richard Griffiths, ond y mae enw Maurice Griffiths i'w ganfod yn fynych mewn hen lyfrau a gyhoeddwyd yn amser y werin-lywodraeth. Yr oedd yn gyfaill neillduol i Vavasor Powell, a chan fod ei enw yn cael ei grybwyll mor fynych, yr ydym yn casglu ei fod yn ddyn o gryn bwys a dylanwad. Yr oedd yn fyw yn 1675. Nid ydym yn hysbys hanes yn mhellach. Mae hanes yr achos yn Gore o 1672 hyd 1720,
541
pryd yr adeiladwyd y capel cyntaf yno, yn hollol anhysbys i ni, ac o'r pryd hwnw yn mlaen hyd 1742, nid ydym yn gwybod dim o'i helynt. Yn y flwyddyn 1742, yr oedd yma un James Beaumont yn pregethu. Mae yn ymddangos ei fod yn ddyn gwresog a phoblogaidd. Bu am rai blynyddau yn cydweithredu a'r Methodistiaid Calfinaidd. Dywedir mae cael ei daro a chareg gan erlidiwr pan yr oedd yn pregethu yn yr awyr agored fu yr achos o'i farwolaeth. Nis gwyddom pa bryd na pha le y cymerodd hyn le. Mae Mr. William Jones, gweinidog presenol Gore, yn un o hiliogaeth Beaumont. Wedi marwolaeth Mr. Beaumont bu un o'r enw Williams yma am rai blynyddau, ond nid oes genym ddim o'i hanes. Yr oedd yr achos yma wedi dadfeilio ac ar farw pan y daeth y diweddar Mr. Thomas Rees i Huntington yn 1802. Yr oedd y capel yn ddadfeiliedig, y ffenestri yn dyllog, a'r les wedi rhedeg allan. Trwy ymdrech Mr. Rees, cafwyd les newydd, ac adgyweiriwyd y capel. Casglwyd yma gynnulleidfa dda yn mhen ychydig amser, a pharhaodd Mr. Rees i lafurio yma hyd y flwyddyn 1849, pryd y gorfodwyd ef gan henaint a methiant i roddi y lle i fyny. Yr oedd yr achos wedi dechreu gwywo yma rai blynyddau cyn hyn, o herwydd fod y gweinidog yn byw rai milldiroedd o'r ardal yn analluog o herwydd henaint i fod o fawr gwasanaeth fel gweinidog. Yn fuan wedi i Mr. Rees roddi y gofal i fyny, rhoddwyd galwad i Mr. W. Jones, y gweinidog presenol, ac urddwyd ef yma yn niwedd 1819. Aelod o eglwys Mr. Rees yn Huntington oedd Mr. Jones. Pedwar-ar-ddeg oedd rhif yr aelodau yn Gore pan ddechreuodd ef ei weinidogaeth yma, and y maent er's rhai blynyddau bellach tua chant o rif. Mae Mr. Jones yn ddiweddar wedi cymeryd ystafell gyfleus at bregethu yn Kington, a bwriada ddechreu achos yno."
HUNTINGTON
(Herefordshire)
Mae y pentref hwn yn sir Henffordd, ond gan mai i gyfundeb sir Faesyfed y perthyna yr eglwys oddiar gychwyniad yr achos, a bod y rhan fwyaf o'r bobl yn byw yn Maesyfed, y mae yn briodol i ni roddi ei hanes yma. Fe gafodd yr achos hwn ei ddechreuad dan yr amgylchiadau canlynol : - Tua chanol y ganrif ddiweddaf, aeth bachgen tlawd o'r pentref hwn i Lundain i edrych am ryw waith er ennill ei fywiolaeth. Daeth yn mlaen yno, nes iddo ddyfod yn fasnachydd glo, ac erbyn ei fod yn hen wr yr oedd wedi casglu cyfoeth dirfawr. Enw y gwr oedd Edward Gough. Yr oedd yn ddyn crefyddol iawn, ac yn Ymneillduwr selog. Penderfynodd yn ei henaint osod i fyny ysgol yn ei bentref enedigol i blant tlodion. Adeiladodd yma ysgoldy cyfleus, a gwaddolodd yr ysgol. Gwnaed yn amod yn y weithred, fod yn rhaid i'r ysgodfeistr fod yn Ymneillduwr ac hefyd yn bregethwr, os na ellid caul neb arall i bregethu yn yr ysgoldy ar y Sabbothau. Yn 1802, penodwyd Mr. Thomas Rees, o athrofa Caerfyrddin, i fod yn ysgolfeistr yma. Yn fuan wedi iddo ymsefydlu yn y lle, heblaw cyfodi yr achos yn Gore o farw i fyw, casglodd gynnulleidfa a ffurfiodd eglwys Annibynol yn yr ysgoldy yn Huntington. Parhaodd Mr. Rees i wasanaethu yma hyd derfyn ei oes yn 1858. Bu Mr. Henry Rees yn weinidog yma am dair blynedd wedi marwolaeth ei dad, a symudodd oddiyma i Hythe, yn Kent lle y mae etto. Yn Hydref, 1861, cymerodd Mr. W. Jones ofal yr eglwys hon mewn cysylltiad a Gore, ac efe yw y gweinidog yma hyd yn bresenol.
542
Codwyd y rhai canlynol i bregethu yn Gore ac yn Huntington: -
- Henry Rees, mab yr hen weinidog.
- William Jones, y gweinidog presenol.
- W. Watkins. Yr hwn a ymfudodd i America, ac a fu farw yno.
- John Bounds. Eu farw yn ddiweddar.
- William Bayliss. Bu farw yn y flwyddyn 1832, yn 29 oed.
- E. Watkins. Bu farw yn 1859, yn 45 oed.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
THOMAS REES. Ganwyd ef yn mhlwyf Meline, yn sir Benfro, yn 1774. Ymunodd a'r eglwys yn Brynberian yn ieuangc iawn, a phan yr oedd yn ddwy-ar-bymtheg oed dechreuodd bregethu. Derbyniwyd ef yn fyfyriwr i athrofa Caerfyrddin yn y flwyddyn 1796, a bu yno am chwe' blynedd. Mehefin 13eg, 1802, dechreuodd ar ei waith fel ysgolfeistr a phregethwr yn Huntington. Yn fuan wedi hyny cafodd i urddo. Yr oedd tri-ar-ddeg o weinidogion yn ei urddiad. Heblaw cadw yr ysgol a phregethu yn Gore a Huntington bob Sabboth, pregethodd lawer yn y pentrefydd oddiamgylch, a bu lawer gwaith mewn perygl o'i fywyd oddiwrth erlidwyr wrth wneyd hyny. Gollyngwyd ergyd o wn ato unwaith wrth bregethu yn Eardisley, ond fe ddiogelodd yr Arglwydd ei fywyd. Parhaodd i bregethu hyd o fewn mis i'w farwolaeth. Bu farw yn ddedwydd iawn, Mai 14eg, 1858, a chladdwyd ef yn y fynwent gysylltiedig a'r capel a adeiladwyd ganddo yn ymyl yr ysgoldy yn Huntington. Yr oedd yn bregethwr chwaethus a synwyrol, ond nid oedd grym a bywiogrwydd mawr ynddo. Cyfrifid ef yn ddyn da iawn a hollol ymroddgar i wasanaeth ei Arglwydd.
Translation by Maureen Saycell (July 2009)
This village is in Herefordshire but has belonged to the Radnorshire Union from the beginning, despite the fact that most members do not live here. The cause was started as follows - About the middle of the last century a poor boy left for London to try and find a way to earn a living. He did well and, in time, became a coal merchant and despite being an old man by then had amassed a considerable fortune. His name was Edward Gough, a religious man and a faithful Independent. In old age he decided to build a school in his native village for the poor children. The school was duly built and formed, a condition of the agreement was that the schoolmaster was to be of the Independent denomination and must be a preacher, if no one could be found to preach in the Schoolroom on Sundays. In 1802 Mr Thomas Rees, Carmarthen College, was appointed as Schoolmaster. Within a short time he had resurrected the cause at Gore but also gathered a a congregation , forming an Independent Church in the schoolroom at Huntington. Mr Rees continued his ministry here until his death in 1858. Mr Henry Rees succeeded his father for 3 years, he then moved to Hythe in Kent, where he remains. The current minister, Mr W Jones, came into post in 1861 both here and in Gore. He remains here.
The following were raised to preach here -
- HENRY REES - son of the minister.
- WILLIAM JONES - current minister.
- W WATKINS - emigrated to America, died there.
- JOHN BOUNDS - Died recently.
- WILLIAM BAYLISS - Died 1832, age 29.
- E WATKINS - Died 1859, age 45.
BIOGRAPHICAL NOTES*
THOMAS REES - Born 1774, Meline, Pembrokeshire - Joined Brynberian young - began to preach at at 17 - accepted Carmarthen College 1796 - there for 6 years - became schoolmaster at Huntington - ordained soon after, 13 ministers attended - As well as teaching and preaching at Gore and Huntington he preached, at some personal risk, in the surrounding area - He was shot at when preaching at Eardisley - died peacefully on May 14th, 1858.
*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.
LLANBADARN Y GAREG
(Already translated etc /big/wal/RAD/LlanbadarnGarreg/Hanes.html )
Mr. Richard Lewis, pan yr oedd yn bregethwr cynorthwyol yn y Caebach, a ddechreuodd yr achos yn y lle hwn. Bu yn teithio yma am flynyddau i bregethu, a thua y flwyddyn 1817, cafodd yma ddigon o broffeswyr crefydd i'w ffurfio yn eglwys. Wedi ei ffurfio bu yr eglwys fechan yn ymddibynu ar weinidogion y sir i weinyddu yr ordinhad iddi dros amryw flynyddau, gan ei bod yn rhy wan i gynal gweinidog ei hun. Y cyntaf a urddwyd yma oedd Mr. Richard Lloyd. Cymerodd ei urddiad le oddeutu y flwyddyn 1828. Bu ef yn gwasanaethu yr achos hwn yn ffyddlon am tua deuddeng mlynedd. Wedi iddo ddechreu yr achosion yn Hermon a Painscastle, rhoddodd Llanbadarn ac Aberedw i fyny a chyfyngodd ei lafur, am weddill ei oes, i'r ddau achos newydd. Y gweinidog nesaf yma oedd Mr. Evan Evans. Bu ef yma am ddeg neu ddeuddeng mlynedd, ac wedi ei ymadawiad ef, urddwyd Mr. D. Williams, yn awr o Fangor, yma, a bu yma nes y symudodd yno. Ar ei ol ef urddwyd Mr. Richard W. Lloyd yma yn 1854. Tua phedair blynedd y bu ef yma, yna symudodd sir Amwythig, le y mae yn bresenol. Ar ymadawiad Mr. Lloyd, daeth Mr. Evan Evans, yr hen weinidog yn ol, a bu yma drachefn am rai blynyddau. Dilynwyd ef gan Mr. Evan Harries, yr hwn a fu yma am ychydig gyda blwyddyn. Yn nechreu y flwyddyn hon daeth Mr. J. T. Pattison, yr hwn a ddychwelodd yn ddiweddar o Canada, yma ar brawf i weled a hoffa y lle, ac os gwel y bydd argoel iddo wneyd daioni yma, bwriada aros gan fod ganddo fodd i fyw heb ymddibynu ar gyfraniadau y bobl. Ni bu fawr lewyrch ar yr achos hwn oddiar ymadawiad Mr. Lloyd, y gweinidog cyntaf. Yr oedd yma olwg obeithiol ar bethau yn ei amser ef.
543
ABEREDW
(Already translated etc /big/wal/RAD/Aberedw/Hanes.html)
Mae y lle hwn yn cael i enw oddiwrth ymarllwysiad yr afonig Edw i'r Wy, tua phedair milldir islaw Llanfairmuallt. Dechreuwyd yr achos yn y 1le yma gan yr un personau ag a ddechreuodd yr achos yn Llanbadarnygareg. Tua yr un amser y dechreuwyd y ddau, a than yr un weinidogaeth y maent wedi bod o'u dechreuad hyd yn bresenol. Mewn anedd-dy y buwyd yn cadw y gwasanaeth yma o ddechreuad yr achos hyd o fewn blwyddyn yn ol. Yn y flwyddyn 1870, rhoddodd Mr. Thomas Thomas o'r Crown, Llanfairmuallt, ddarn o ardd a brynasai ef yma yn ddiweddar at adeiladu capel. Cynaliwyd yma gyfarfod ar yr achlysur o osod y gareg sylfaen. Mr. T. Thomas a gyflawnodd y ddefod o osod y gareg, ac anerchwyd y gwrandawyr ar yr achlysur gan Meistri Kilsby Jones, H. Jones, Caerfyrddin ; Dr. Rees, Abertawy; D. P. Davies, Llanfairmuallt, ac eraill. Mae y capel yn awr wedi cael ei orphen a'i agor, ac y mae yn addoldy bychan nodedig o dlws a chyfleus. Mae yma ac yn Llanbadarn leoedd gobeithiol iawn am achosion siriol pe gellid taro wrth weinidog cymhwys, ond byddai raid i'r neb a ddeuai yma fyw am rai blynyddau heb ymddibynu nemawr am ei gynaliaeth ar y bobl. Gyda bendith gellid cyfodi yma eglwysi cryfion yn raddol.
HERMON A PAINSCASTLE
(Llanbedr Painscastle parish)
Tua 1834, daeth Mr. Richard Lloyd, gweinidog Llanbadarnygareg, i fyw i Glanyrafon - fferm fawr yn mhlwyf Llanbedr. Yr amser hwnw nid oedd un addoldy Annibynol, nac un math o wasanaeth gan yr Ymneillduwyr o un enwad, ond cynnulleidfa fychan o'r Primitive Methodists, yn yr holl wlad o Faesyronen i Lanbadarnygareg-pellder o fwy na deuddeng milldir. Wrth weled amddifadrwydd ei gymydogion o'r efengyl dechreuodd Mr. Lloyd bregethu yn ei dŷ ei hun. Coronwyd ei lafur yn fuan a llwyddiant anghyffredin. Aeth Glanyrafon yn rhy fychan o lawer i gynwys y torfeydd a ddeuent yn nghyd i wrandaw y gair fel y bu raid rhanu y gynnulleidfa yn ddwy mewn gwahanol gyrau o'r ardal. Yn fuan cafwyd digon o ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig i ffurfio dwy eglwys - un yn Portway a'r llall yn Painscastle. Mewn anedd-dai yr addolai y cynnulleidfaoedd hyn dros rai blynyddau ar ol ffurfio yr eglwysi. Tra yr oedd Mr. Lloyd yn nghanol i lafur a'i lwyddiant, galwodd yr Arglwydd ef ato ei hun yn ngrym ei ddyddiau, er galar a cholled ddirfawr i'r holl wlad, yn ol golwg dyn ar bethau. Bu farw yn 1845. Yn mhen dwy flynedd wedi marwolaeth Mr. Lloyd, rhoddodd yr eglwysi ieuaingc alwad i Mr. Henry Jones, o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma yn 1847. Yn 1849, adeiladwyd capel Hermon, ac yn mhen ychydig flynyddau wedi hyny aeth capel y Primitive Methodists yn Painscastle yn wag, a phrynodd yr Annibynwyr ef. Wedi bod yma am ddwy flynedd, derbyniodd Mr. Jones alwad i sir Gaerloew, a symudodd yno yn Rhagfyr, 1849. O'r pryd hwnw hyd y flwyddyn 1852, bu Mr. W. Jones, Gore, yn dyfod yma bob mis i dori bara, a Mr. John Griffiths, Portway, aelod o un o'r eglwysi, a bregethai yn y ddau le ar y tri Sabboth arall. Yn 1852, penderfynwyd urddo Mr. Griffiths yn weinidog, ac efe yw y gweinidog yma hyd y dydd hwn. Mae Mr. Griffiths yn amaethwr cyfrifol yn byw ar ei dir ei hun. Mae yn ddyn bywiog, llawn o sel a gweithgarwch, a'r holl wlad yn edrych
544
i fyny ato fel oracl mewn pob peth gwladol a chrefyddol. Ar ei draul ef yn benaf yr adeiladwyd capel Hermon. Nis gallesid cael gwell dyn i ateb y cylch hwn nag ef, ond y mae perygl iddo anghymwyso y lle ar gyfer ei ganlyniedydd, trwy ei fod yn rhoddi ei wasanaeth yn rhad i'r eglwysi. Cynnulleidfaoedd bychain sydd yn y ddau le hyn, ac nis gallant byth fod yn lluosog, gan nad yw poblogaeth y wlad ond teneu.
Yr unig bregethwyr a godwyd yma yw Mr. Griffiths, y gweinidog, a Mr. Thomas Williams, amaethwr parchus. Y mae ef yn pregethu yma fynychaf bob Sabboth fel cynorthwywr i'r gweinidog.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
RICHARD LLOYD. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1804, yn y Fron yn mhlwyf Gwenddwr, sir Frycheiniog. Yr oedd ei rieni mewn amgylchiadau bydol cysurus iawn. Pan yn llengcyn ieuangc anfonwyd ef a dau o'i frodyr i'r ysgol i Aberhonddu, i'r dyben o'u dwyn i fyny i fod yn offeiriaid yn yr Eglwys Sefydledig. Cydsyniodd ei ddau frawd a dymuniad eu rhieni, ac aethant yn offeiriaid, ond gwrthododd ef a dewisodd yn hytrach fod yn amaethwr ac yn bregethwr Ymneillduol. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Gwenddwr, ac yno y dechreuodd bregethu. Yn fuan cyfododd i sylw neillduol fel pregethwr. Gan ei fod yn fwy o feistr ar y Saesoneg na'r Gymraeg cyfyngodd ei lafur fel pregethwr gan mwyaf i sir Faesyfed o gychwyniad i fywyd cyhoeddus. Tua y flwyddyn 1828, neu yn fuan wedi hyny, urddwyd yn Llanbadarnygareg, a bu yn ffyddlon yn gwasanaethu yr achos yno ac yn Aberedw, nes iddo gychwyn yr achos yn Glanyrafon, yr hwn sydd yn awr yn ddwy eglwys yn Hermon a Painscastle. Wedi cychwyn y lleoedd hyn cyfyngodd ei lafur iddynt hwy yn benaf hyd derfyn ei oes. Bu y dyn da a defnyddiol hwn farw ar ol ychydig fisoedd o gystudd, Tachwedd 27ain, 1845, yn 41 mlynedd oed. Claddwyd ef wrth gapel Maesyronen.
Nid oes genym ddim i'w ychwanegu mewn ffordd o adolygiad ar hanes y sir hon, rhagor yr hyn a roisom yn yr arweiniad i mewn, ac yn nglyn a hanes y gwahanol eglwysi. Gwelir nad yw crefydd efengylaidd wedi cael ond ychydig ddylanwad ar y boblogaeth. Dichon fod sefyllfa drawsnewidiol y sir o'r Gymraeg i'r Saesonaeg wedi gwneyd mwy na dim arall er atal ei hefengyleiddiad, ac nid oes genym ond gobeithio a gweddio fod dyfodol llawer dysgleiriach yn ei haros.
Translation by Maureen Saycell (August 2009)
Around 1834 Mr Richard Lloyd, minister of Llanbadarnygareg, moved into Glanyrafon - a large farm in the parish of Llanbedr. At that time there was no Independent Chapel, or any nonconformist services, other than a small congregation of Primitive Methodists, anywhere in the area between Maesyronnen and Llanbadarnygareg - a distance of more than 12 miles. Seeing the state of his neighbours he began to preach in his own home. His effort was soon crowned with uncommon success. Glanyrafon became too small to hold the large numbers gathering to listen to the Word, soon the congregation was split in two at different ends of the area. There were soon enough wanting to become members that two churches were formed - one in Painscastle and the other in Portway. The members worshipped in various houses for many years after the churches were formed. Whilst Mr Lloyd was amid his labour and success, the Lord called him to himself in the midst of his days, much to the grief and loss to the whole country. He died in 1845. Two years later the 2 churches sent a call to Mr Henry Jones, Brecon College, who was ordained here in 1847. Hermon Chapel was built in 1849 then a few years later the Primitive Methodist Chapel in Painscastle became vacant and was purchased by the Independents. After serving here for 2 years Mr Jones accepted a call to Gloucestershire and moved there in December 1849. After that Mr W Jones, Gore, came on a monthly basis to celebrate communion, until 1852, with Mr John Griffiths, a member at one of the churches filling in between at both churches. In 1852 it was decided to ordain Mr Griffiths, he remains the minister here. He was a responsible farmer living on his own land. He is a lively man, full of zeal and action, with all the people looking up to him. It was mainly at his expense that Hermon Chapel was built. There could not be a man more suited to the area than him, but he may be creating problems for his successor as he does not accept payment for his services. The congregation is not large but the area is thinly populated.
The only preachers raised here are Mr Griffiths, the minister and Mr Thomas Williams, a respected farmer, who preaches as a supporting preacher to the minister most Sundays.
BIOGRAPHICAL NOTES *
RICHARD LLOYD - born 1804, at Fron, Gwenddwr, Breconshire - Parents comfortably off, sent him and 2 brothers to school at Brecon , intended to be ministers in the established church - both brothers became vicars but he decided to be a farmer and preacher for the Independents - Better with English so spent his public life to Radnorshire - ordained Llanbadarnygareg about 1828, served there and Aberedw until then - remained here until his death after a few months of illness on November 27th, 1845, age 41 - buried in Maesyronnen.
*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.
End of Radnorshire
(Gareth Hicks 2 August 2009)