Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

Proof read by Maureen Saycell (March 2008)

See main project page

Pembrokeshire section (Vol 3) - Pages 16 - 29

  • (Continued)  Trefgarn Owain  (Brawdy parish)
  • TYDDEWI  (Rhodiad chapel - St David's parish) (with translation)

Pages 16 - 29

16

(Continued)  Trefgarn Owain  (Brawdy parish)

...........nemawr gyda'r weinidogaeth pan ddechreuodd Mr. Evans ar ei lafur, ac felly syrthiodd y rhan fwyaf o'r gwaith arno ef. Yn y flwyddyn 1856, gosododd Mr. Evans i fyny wasanaeth crefyddol rheolaidd yn Nolton, lle ar lan y mor tua chwe' milldir o Drefgarn, ac ardal hollol Saesnigaidd. Yn 1857, dechreuwyd adeiladu capel yno yn benaf trwy lafur Mr. D. Banton, Nolton, a Mr. J. Thomas, Llethr. Rhoddodd eglwys Trefgarn tua thriugain punt at draul yr adeiladaeth. Wedi agor y capel corpholwyd ynddo eglwys o bymtheg o aelodau ; sef wyth o Drefgarn, a'r gweddill o Reyston, a manau eraill. Parhaodd Mr. Evans i wasanaethu y lle hwn yn rhad nes oedd yr eglwys yn 70 o aelodau, a'r ddyled wedi ei thalu. Yn fuan wedi urddiad Mr. Evans, dewisodd eglwys Trefgarn ddeuddeg o'r aelodau i fod yn ddiaconiaid trwy bleidlais ddirgel, ac aeth y cwbl drosodd yn dangnefeddus. Yn y flwyddyn 1862, bu farw yr hen weinidog, Mr. Griffiths, yn hen ac yn llawn o ddyddiau a pharch gan fyd ac eglwys. Yr oedd Mr. Evans wedi cael ei ofidio yn fawr er's cryn amser trwy ddeall fod teimladau anngharedig rhwng rhai o'r aelodau a'u gilydd, ac wedi arfer pob moddion er ceisio symud y drwg-deimlad, ond yn aflwyddianus, digalonodd gymaint fel y rhoddodd y weinidogaeth i fyny. nid oedd wedi edrych am, na derbyn galwad o un lle arall, cyn rhoddi ei ofal yn Nhrefgarn i fyny. Cyn gynted ag y deallwyd ei fod yn symudol, cafodd alwad unfrydol o Ebenezer, Caerdydd, lle y mae yn bresenol. Rhoddodd ei weinidogaeth i fyny yn Nhrefgarn yn 1866, a dechreuodd ei waith yn Nghaerdydd yn nechreu 1867. Wedi ymadawiad Mr. Eyans, rhoddodd eglwys Trefgarn alwad i Mr. D. L. Jenkins, o athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef yma Gorphenaf laf, 1868. Ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri H. Davies, Bethania; D. Henry, Penygroes; J. Davies, Glandwr; W. Morgan, Caerfyrddin, ac eraill. Yn ystod gweinidogaeth Mr. Jenkins adeiladwyd capel newydd tlws yn Penycwm, a chliriwyd y ddyled cyn diwedd 1871. Yn niwedd y flwyddyn 1871, derbyniodd Mr. Jenkins alwad oddiwrth yr eglwys Saesonig yn Splotlands, Caerdydd, a symudodd yno. Mae eglwys Trefgarn oddiar ei ymadawiad ef heb un gweinidog sefydlog ynddi. Mae yr achos yma yn bresenol mewn sefyllfa lewyrchus, a chynnulleidfaoedd lluosog yn cyfarfod yn y fam-eglwys a'i changhenau. Bu yma lawer o bobl nodedig mewn crefydd o oes i oes, ac y mae eu henwau yn berarogl yn yr ardal hyd heddyw; ac y mae yma rai o hiliogaeth y gwyr enwog hyny yn dwyn eu henwau, ac yn etifeddu eu hysbryd. Bu yr eglwys yma yn faes dadleuon brwd yn y dyddiau gynt yn nghylch y System Newydd; a chrybwylla Mr. J. Morgan Evans, i un o'r hen aelodau, Thomas Watts, taid y gantores enwog Miss Watts, ddyweyd wrtho ef ar ol iddo bregethu yn lled gymhelliadol, " Pe pregethech chwi y bregeth yna yma ddeugain mlynedd yn ol, tynid chwi lowr o'r pwlpud." Yr oedd teulu o'r enw y Siarliaid, y rhai a gyfrifent eu hunain yn warcheidwaid yr athrawiaeth, a thost fuont wrth lawer pregethwr ieuangc wedi iddo ddyfod i lawr o'r pulpud. Profent ef a chwestiynau caled, a mynych y byddent yn dadleu hyd doriad gwawr y boreu. Mae yn ddiameu i lawer o bregethwyr gyfodi yn yr eglwys henafol hon nad ydym ni wedi gallu dyfod o hyd i'w henwau. Y rhai canlynol yw yr unig rai y gwyddom ni amdanynt: -

  • Hugh Harries, Ysw. Yr ydym eisioes wedi rhoddi a wyddom o'i hanes ef.

17

  • Thomas Maurice. Rhoddir ei hanes ef ynglyn a Laeharn, lle y bu ddiweddaf yn gweinidogaethu. Ebenezer Skeel. Gweler hanes yr eglwys yn Abergavenny.
  • William Harries. Rhoddasom ei hanes yntau yn nglyn a hanes yr eglwys yn Abergavenny.
  • William Warlow. Gweler hanes Milford.
  • William Harries, Solfach. Daw ei hanes yn nglyn a'r eglwys hono.
  • Daniel Jenkins. Rhoddir ei hanes ef isod yn mysg y gweinidogion.
  • Thomas Skeel. Rhoddir ei hanes ef yn nglyn a Phenybont.
  • Daniel Davies. Gweler hanes yr eglwys yn Zion's-hill.
  • David Griffiths. Mab Mr. B. Griffîths, y gweinidog, oedd ef. Addysgwyd ef yn athrofa Highbnry. Bu am ddeng mlynedd yn weinidog yn Tean, swydd Stafford. Symudodd oddiyno i Lichfield, lle y bu yn nodedig o barchus a defnyddiol am ddwy flynedd.Bu farw yno ar ol ychydig ddyddiau o gystudd Hydref 13eg, 1848, yn 34 oed. Yr oedd yn weinidog ieuangc rhyfeddol o addawol a galluog.
  • Dr. Thomas Nicholas, gynt athraw yr athrofa yn Nghaerfyrddin.
  • James Evans. Yr hwn a adwaenid dan yr enw " Y bachgen dall." Ganwyd ef mewn lle a elwir Treserfach, yn mhlwyf Brideth, Mehefin 28ain, 1814. Cafodd addysg dda pan yn blentyn, ond collodd ei olygon yn raddol, ond etto yn hollol ddiboen. Dechreuodd pan oedd tua 13 oed, ac erbyn ei fod tua 14 oed, nid oedd yn gweled dim. Gwnaed prawf ar bob meddygon hyd y gellid ond yn gwbl ofer. Ymddadblygodd ei alluoedd yn foreu, ac anogwyd ef i ddechreu pregethu pan nad oedd ond 16 oed. Bu ar daith trwy y Gogledd, a bu yn Liverpool yn ymgynghori a'r meddygon yn y sefydliad llygeidyddol (Eye Institution}, ond ni chafodd fawr calondid. Teithiodd gryn lawer ar hyd y wlad i bregethu, ac yr oedd yn dra pharchus a chymeradwy gan bawb. Yr oedd yn ddyn ieuangc rhyfeddol o dalentog, ac yn bregethwr grymus. Er ei fod yn ddall, cyfansoddodd lawer o ysgrifau i'r misolion, ac ennillodd rai gwobrwyon mewn eisteddfodau. Cyfansoddodd a chyhoeddodd lyfr a elwir Y Cristion Dyddorgar. Bn farw Mehefin 5ed, 1842, cyn ei fod yn llawn wythmlwydd- ar-hugain oed.
  • Jonas E. Evans. Brawd James Evans. Ganwyd ef Gorphenaf 14eg, 1820. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nhrefgarn cyn ei fod yn un-ar-bymtheg oed. Yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu aeth i ysgol Mr. H. Davies, Narberth, ac oddiyno yn lonawr, 1844, i athrofa Newport Pagnal. Urddwyd ef yn Lofthouse, sir Gaerefrog yn 1848. Priododd yno i deulu parchus, ac ymddangosai pob peth yn dymhorol ac yn ysbrydol yn obeithiol iawn iddo; ond cyn iddo gael nerth i lafurio yn ngwinllan ei Arglwydd gyflawn chwe' mlynedd, ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, fel y bu raid iddo yn 1854 roddi ei ofal gweinidogaethol i fyny. Bu farw Mai 8fed, 1856.
  • D. W. Evans, Stansfield, yn swydd Suffolk, a B. W. Evans, Yelvertoft, swydd Northampton, ydynt frodyr i James a Jonas Evans, ac yn weinidogion parchus a defnyddiol. , Deallwn fod amryw bregethwyr cynorthwyol tra pharchus a defnyddiol wedi cyfodi yma o bryd i bryd, ond gan nad ydym yn gwybod eu henwau nis gallwn eu crybwyll.

18

COFNODION BYWGRAPHYDDOI.

Yr ydym eisioes yn hanes y Green, Hwlffordd, wedi rhoddi cofiant am Meistri P. Phillips a T. Davies, dau weinidog cyntaf yr eglwys hon.

WILLIAM MAURICE. Gan fod y gweinidog hwn yn ddyn mor enwog a defnyddiol yn ei ddydd, ac iddo adael y fath deulu lluosog ar ei ol a bod amryw o'i blant a'i wyrion yn weinidogion a gwragedd gweinidogion, yr ydym yn synu na buasai rhai o honynt yn ysgrifenu ei hanes. Nid oes genym ond y peth nesaf i ddim o hanes boreu ei oes. Dywed yr hybarch W. T. Davies, Rhosycaerau, mai un genedigol o Ogledd Cymru ydoedd, ond dywed y diweddar Mr. Griffiths, Tyddewi, mai yn sir Gaerfyrddin y ganwyd ef. Yr ydym yn barnu mai Mr. Griffiths sydd yn iawn gyda golwg ar le ei enedigaeth, ond yr ydym wedi methu cael allan yn mha ran o sir Gaerfyrddin y ganwyd ef. Nis gwyddom ychwaith yn mha le y derbyniodd ei addysg. Os yn athrofa Caerfyrddin yr addysgwyd ef mae yn rhaid mai ar ei draul ei hun y bu yno, oblegid y mae genym enw pob myfyriwr a addysgwyd yno ar draul y Byrddau Henadurol a Chynnulleidfaol, ac nid yw enw William Maurice yn eu mysg. Yr ydym yn barnu iddo ymsefydlu yn Nhrefgarn tua'r flwyddyn 1720, er na chafodd ei urddo cyn Mehefin, 1725. Yn mhen ychydig amser wedi iddo ymsefydlu yn sir Benfro, ymunodd mewn priodas a Miss Perkins, merch Mr. David Perkins, un o sylfaenwyr yr achos yn Rhosycaerau. Cafodd un-ar-ddeg o blant o'i wraig gyntaf, un o ba rai oedd Mr. Thomas Maurice, yr hwn a fu yn weinidog yn Lacharn. Priododd yr ail waith ag un o aelodau y Bedyddwyr yn Llangloffan. Cafodd un-ar-ddeg o blant ohono drachefn. Priododd un o'i ferched a Mr. John Richards, Trefgarn, fel y nodasom eisioes. Priododd un arall a Mr. William Harries, gweinidog Rhodiad, ac un arall a Mr. Mortimer, Trewellwell. Hi oedd mam y diweddar Mr. T. Mortimer, gweinidog Solfach. Arferai Mr. Maurice ddyweyd, mai swn plant oedd y miwsig hyfrytaf yn ei glustiau. Gan iddo gael dau-ar-hugain o blant mae yn debyg iddo gael digon o'r miwsig a hoffai. Bu y gwr da hwn farw mewn henaint teg yn bedwar-ugain-a-phump oed, Hydref 16eg, 1778, a chladd- wyd ef yn medd ei ail wraig yn mynwent Llanrhian, yn agos i Dyddcwi. Yr oedd William Maurice yn ddyn da, yn weinidog llafurus, ac yn bregethwr poblogaidd. Yr oedd y rhan fwyaf, os nad yr oll o'i deulu lluosog, yn grefyddol, ac y mae degau o'i ddisgynyddion hyd y dydd hwn yn grefyddwyr da ac yn Ymneillduwyr selog, ond y mae rhai o honynt hefyd wedi gwyro oddiwrth egwyddorion eu hynafiaid a myned yn Eglwyswyr penboeth.

MORRIS GRIFFITHS. Ganwyd ef yn mhlwyf Llangybi, yn sir Gaernarfon, yn y flwyddyn 1721. Cafodd ei eni a'i fagu mewn ardal lle yr oedd Ymneilldiaeth wedi gwreiddio er's oesau, a digon tebyg iddo yntau o'i febyd gael ei ddwyn i fyny mewn gwybodaeth grefyddol. Cafodd y fraint o fyned yn lled ieuangc i fyw i deulu y duwiol a'r dioddefus William Pritchard, o Glasfrynfawr. Pan orfodwyd William Pritchard, gan erledigaeth, i symud o sir Gaernarfon i Fon, aeth Morris Griffiths gydag ef. Ryw amser, naill ai cyn neu wedi symud i Fon, dechreuodd arfer ei ddawn fel cynghorwr. Cynhyrfodd hyny ffyrnigrwydd yr erlidwyr yn ei erbyn. Pan yr oedd unwaith ar giniaw gyda y teulu, wedi i Mr. Pritchard symud i Blas Penmynydd, Mon, daeth y pressgang i'r ty i ddal Morris, y gwas, i'w

19

gymeryd i'r fyddin. Gofynodd Mrs. Pritchard iddynt am adael iddo fyned i'r llofft i roddi ei esgidiau am ei draed, fel y buasai yn hawddach iddo gerdded. Caniatawyd hyny iddo. Wedi myned i'r llofft, diangodd allan trwy y ffenestr, ac felly collodd yr erlidwyr eu hysglyfaeth y tro hwnw. Bob yn ychydig aeth i fyned oddiamgylch y wlad i bregethu, fel y gwnelai Jenkin Morgan, a llawer eraill. Ún tro yr oedd i bregethu yn Llanrwst, ac wedi dechreu y gwasanaeth, torodd yr erlidwyr i'r ty gyda bwriad i ddal ac anmharchu y pregethwr. Ar y pryd, diffoddodd gwr y ty y canwyllau, a llwyddodd i guddio a chloi y pregethwr mewn cist fel y methasant ddyfod o hyd iddo. Ar ol bod yn pregethu cryn lawer yma ac acw yn y Gogledd, aeth ar gymeradwyaeth Mr. Lewis Rees yn fyfyriwr i athrofa Caerfyrddin. Derbyniwyd ef yno Mehefin 4ydd, 1750, ar draul y Bwrdd Cynnulleidfaol. Wedi gorphen ei amser yn yr athrofa, ymsefydlodd yn weinidog yn Nhrefgarn a Rhosycaerau. Urddwyd ef, fel y nodasom, Medi 29ain, 1757. Testyn Mr. Lewis Rees yn yr urddiad ydoedd, 2 Bren. ii. 9., a thestyn Mr Evan Davies, athraw yr urddedig, oedd 1 Tim. iv. 16. Wedi llafurio yn ddiwyd a llwyddianus yn y weinidogaeth am rai blynyddau, gwaelodd ei iechyd ac aeth wanach, wanach, fel y bu farw Hydref 17eg, 1769, yn 48 mlwydd oed. Yn y Garnachenlwyd, yn mhlwyf Mathry, yr oedd yn cyfaneddu yn ei flynyddau diweddaf. Bu farw yn orfoleddus iawn. Claddwyd ef yn fynwent eglwys Mathry. Bu ei weddw fyw hyd Ebrill 22ain, 1807. Claddwyd hi yn medd ei phriod. Yr oedd Morris Griffiths yn ddyn gwerthfawr, a hollol ymroddedig i'w waith. Mae yn ymddangos iddo ddyoddef ei ran o erledigaeth yn moreu ei oes, ac na fu yn rhydd oddiwrth ofidiau tra y bu fyw, ond cadwodd oi gymeriad crefyddol yn loew a'i fwa yn gryf yn ngwasanaeth ei Arglwydd. " Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn, ond yr Arglwydd a'i gwared ef oddiwrthynt oll."

JOHN RICHARDS. Un genedigol o sir Gaerfyrddin oedd of, ond nis gwyddom o ba le yno, Derbyniwyd ef yn fyfyriwr i Abergavenny, Mai 8fed, 1767. Ar orpheniad ei amser yno, cafodd alwad i fyned yn ganlyniedydd i Mr. Morris Griffiths. Urddwyd ef yn y flwyddyn 1770. Dywedir i Mr. Grifflths ei glywed yn gweddio mewn cyfarfod gweinidogion ac iddo adael argraff mor dda ar ei feddwl, fel y darfu iddo ar ei wely angau ddymuno ar bobl ei ofal roddi galwad iddo i ddyfod yn ganlyniedydd iddo ef. Yr ydym yn barod wedi rhoddi cymaiat ag sydd genym o hanes ei weinidogaeth yn Nhrefgarn a Rhosycaerau, ei ymfudiad i'r America, a'i farwolaeth yno, fel nad oes genym ddim i'w ychwanegu yma.

DANIEL JENKINS. Ganwyd ef yn agos i Drefgarn yn y flwyddyn 1750. Yr oedd ei rieni yn aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Woodstock, ond gan fod ganddynt tua deuddeg milldir o ffordd i fyned yno, nís gallent fyned a'u plant gyda hwy, ac felly ymunodd y rhai hyny agos oll a'r enwad Annibynol yn Nhrefgarn. Gosodwyd Daniel yn ieuangc i ddysgu galwedigaeth crydd, a bu am flynyddau lawer yn dilyn yr alwedigaeth hono. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Nhrefgarn yn ieuangc, ac yn gymaint a'i fod yn rhagori ar y cyffredin yn ei wybodaeth a'i ddoniau, anogwyd ef i bregethu. Bu am lawer o flynyddau yn bregethwr cynorthwyol parchus yn ei fam-eglwys a'r eglwysi cymydogaethol. Ar ymadawiad Mr. John Richards i'r America yn 1795, cafodd ef, a'r tri brawd eraill a enwyd yn barod, eu hurddo yn gydweinidogion i'r eglwysi yn Nhref

20

garn, Rhosycaerau, a Rhodiad. Yr oedd Mr. Jenkins yn ei flynyddau diweddaf yn cael ei flino a'i analluogi yn fawr gan ddiffyg anadl. Bu farw lonawr 18fed, 1811, yn 61 oed. pregethodd Mr. B. Griffiths ei bregeth angladdol oddiwrth Heb. xüi. 7. Yr oedd Mr. Daniel Jenkins yn cael ei gyfrif yn ddyn da a galluog iawn yn yr ysgrythyrau, ac yn bregethwr adeiladol a derbyniol iawn. Yr oedd yn Galfiniad diysgog o ran ei farn.

BENJAMIN GRIFFITHS. Ganwyd ef yn Clungwyn, yn mhlwyf Meidryn, Sir Gaerfyrddin, Gorphenaf 16eg, 1778. Yr oedd ei rieni yn bobl grefyddol iawn, yn aelodau yn Bethlehem, St. Clears, a'i dad yn ddiacon yno. Mae yn ddiameu iddo ef fod dan argraffiadau crefyddol o'i febyd, ond ni ddarfu iddo wneyd proffes gyhoeddus o grefydd cyn y flwyddyn 1801, pryd yr oedd yn dair-ar-hugain oed. Ymunodd a'r eglwys yn Bethlehem yn y flwyddyn hono. Trwy offerynoliaeth ei ewythr, Mr. Thomas, Llwynbychan, yr hwn oedd yn ddiacon a phregethwr parchus yn Bethlehem, y dygwyd ef i benderfyniad i roddi ei hun yn gyhoeddus i'r Arglwydd a'i bobl. Yn mhen taír blynedd ar ol ei dderbyn yn aelod, ar anogaeth yr eglwys, dechreuodd arfer ei ddoniau fel pregethwr. Bu am bum' mlynedd yn pregethu yn achlysurol yn ei fam-eglwys ac yn yr eglwysi cymydogaethol, ac yn dilyn ei alwedigaeth fel masnachydd. Yn 1809, fel y gwelsom, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Nhrefgarn, ac urddwyd ef yno. Bu yn llafurus iawn ac yn nodedig o lwyddianus. Byddai yn fynych yn mlynyddau cyntaf tymor ei weinidogaeth yn pregethu dair, ac yn aml bedair gwaith y Sabboth. Derbyniodd yn ystod ei weinidogaeth 600 o aelodau, a bedyddiodd tua 800 o blant. Ar ben yr haner canfed flwyddyn o'i weinidogaeth, rhoddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa anrheg o haner can' punt iddo fel arwydd o barch tuag ato. Yn fuan ar ol hyny cafodd ergyd ysgafn o'r parlys, yr hyn a'i hanalluogodd i wneyd nemawr yn gyhoeddus o hyny allan hyd derfyn ei oes. Bu farw Mehefin I7eg, 1862, yn 84 oed, ac yn y drydedd-flwyddyn-ar-ddeg-a-deugain o'i weinidogaeth yn Nhrefgarn. Claddwyd ef yn meddrod y teulu wrth gapel Glandwr, pryd y pregethodd Mr. John Davies oddiwrth 2 Tim. iv. 6, a'r Sabboth canlynol, pregethodd Mr. J. M. Evans, yn Nhrefgarn, oddiwrth 2 Petr i. 15. Nid oedd Benjamin Griffiths mor ddysgedig a galluog ei feddwl, nac mor gyhoeddus ei ysbryd a'i frawd enwog James Griffiths, Tyddewi; ond nid oedd yntau heb ei ragoriaethau. Yr oedd yn fwy poblogaidd a derbyniol fel pregethwr gyda'r lluaws na'i frawd galluocach. Fel pregethwr yr oedd yn eglur, blasus, pwrpasol, a byr. Trwy hyny gallodd gadw cynnulleidfaoedd lluosog i'w wrandaw yn foddhaol am haner can' mlynedd. Yr oedd hefyd yn ddyn o synwyr cyffredin cryf, ac yn nodedig o fedrus i lywodraethu dynion. Cyfyngodd ei lafur am ei oes i'w gylch gweinidogaethol ei hun, a gwnaeth ei ôl yn ei ardal, er ei fod yn anadnabyddus agos yn mhob man arall.

 

TYDDEWI

(Rhodiad chapel - St David's parish)

Translation available, see /big/wal/PEM/Hist2.html

Arferai Mr. John Richards, gweinidog Trefgarn, bregethu yn fisol ar brydnawnau Sabboth mewu lle a elwid Carnachenlwyd, yn mhlwyf Mathry.

* Yr ydym wedi catglu defnyddiau yr banes uchod o luaws o wahanol fiynonellau; ond yr ydym yn rhwymedig yn benaf i ysgrif o eiddo y diweddar Mr. Griffiths, Tyddewi.

21

Ar un prydnawn Sabboth, o gylch y flwyddyn 1782, aeth un William Perkins, Pwllcaerog, yn mysg eraill, yno i wrando. Gwrandawr a chymunwr yn yr Eglwys Sefydledig oedd Mr. Perkins, ond yr oedd yn ddyn meddylgar ac o feddwl rhydd ac agored; ac efe a hoffodd Mr. Richards yn fawr, ac yn mhen y mis aeth i'r un lle eilwaith i wrando arno. Y tro hwnw ceisiodd gan Mr. Richards ddyfod i gymydogaeth Tyddewi i ryw le. Atebodd yntau ei fod yn gwbl barod os gellid cael drws agored iddo. Dywedodd Mr. Perkins y byddai ei ddrws ef yn agored hyd nes y ceid lle mwy cyfleus. Pregethodd Mr. Richards ar ol hyn amryw weithiau yn Mhwllcaerog, ac aeth wedi hyny i le a elwir Llaethdy, yn agos i Benmaen, (St. David's Head). Bu hefyd amryw weithiau yn pregethu yn Nhyddewi, yn nhy un William Pugh, a phregethodd rai troiau yn yr awyr agored o flaen drws tafarndy a elwid y Lion. Yr oedd egwyddorion Ymneillduaeth yn ddyeithr iawn i bobl Tyddewi yr amser hwnw. Nid oedd yno yr un capel Ymneillduol yn y lle, er fod y Methodistiaid yn pregethu yn achlysurol yma er's mwy na deugain mlynedd, etto yn mhen rhy w ddwy flynedd wedi i'r Annibynwyr ddechreu pregethu y codwyd eu capel. Wedi i Mr. Richards, ac eraill, fod yn pregethu yn y ddinas a'r amgylchoedd am ysbaid dwy flynedd, ac i amryw aelodau o'r ardal gael eu derbyn yn Trefgarn, meddyliwyd am gael capel, a gwnaed cais am dir yn Nhyddewi, ond yr oedd y gwrthwynebiad i Ymneillduaeth yn y ddinas Esgobol yn rhy gryf iddynt, a methasant yn eu hamcan er pob ymdrech. Llwyddwyd i gael llain fechan o dir o fewn milldir i Dyddewi, ar y ffordd i Abergwaun, gan Mr. William Meyler, Tremyni, neu Tremynydd. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1784. Galwyd ef Rhodiad y Brenin, neu "rhodfeydd y brenhin," a Rhodiad y gelwir ef hyd y dydd hwn. Mae traddodiad yn dyweyd, fod yr hen broffwyd, Mr. Edmund Jones, Pontypool, yn cerdded o Dyddewi rhyngddo ac Abergwaun, ac iddo aros ar gyfer y lle, a dyweyd wrth y rnai a gyd-deithiai ag ef, "Bydd y cwrdd gan y Dissenters yn y fan yma." Nid oedd yno, ar y pryd, yr un ty wedi ei godi, oblegid ar ol codi y capel y codwyd yr ychydig daí sydd gerllaw.* Corpholwyd yma eglwys yn ddioed wedi codi y capel, cynwysedig o ugain o aelodau, y rhai oeddynt, gan mwyaf, yn perthyn i Drefgarn. Parhaodd Mr. Richards i lafurio yma mewn cysylltiad a Threfgarn hyd y flwyddyn 1795, pryd yr ymfudodd i America. Disgynodd gofal yr eglwys yn Rhodiad ar ol hyn yn benaf ar Mr. William Harries, un o'r pregethwyr cynorthwyol oedd yn perthyn i'r eglwys yn Nhrefgarn, a'r hwn yn flaenorol oedd wedi bod o fwyaf o help i Mr. Richards gyda'r ganghen yn Rhodiad. Urddwyd ef Hydref 21ain 1795. Er y bwriedid, fel y dywedasom yn hanes Trefgarn, i'r pedwar gweinidog a urddwyd i lafurio ar gylch trwy yr holl faes, ond buan iawn y cyfyngodd pob un at ei faes priodol ei hun. yn yr adeg yma yr ydym yn cael fod William Perkins, Samuel Dayid, a Thomas Howell, yn henuriaid llywodraethol yn yr eglwys yn Rhodiad, a George Cunnick, Gilbert Howell, William Howell, a Richard Howell yn ddiaconiaid. Yn fuan wedi ei urddiad, dechreuodd Mr. Harries bregethu gyda gradd o gysondeb yn Solfach, ac yn y flwyddyn 1798, adeiladwyd yno gapel bychan, ac ystyrid y lle yn gangen o Rhodiad, er fod gweinidogion ac aelodau Trefgarn hefyd yn cynorthwyo i'w adeiladu. Bu Mr. Harries yn dra diwyd, ac i fesur yn llwyddianus, yn maes ei lafur. Yn y

* Ysgrif y diweddar Mr. Griffiths, Tyddewi.

22

flwyddyn 1811, daeth Mr. James Griffiths, Machynlleth, trwy gysylltiadau priodasol, i aros y rhan fwyaf o'i amser yn y gymydogaeth, a phan y byddai yma gwnai ei oreu i gynorthwyo Mr. Harries yn y weinidogaeth. Ond yn 1814, daeth Mr. Griffiths i drigianu yn arhosol yn yr ardal, a rhoddwyd galwad iddo i fod yn gydweinidog a Mr. Harries yn Rhodiad a Solfach, yr hon a ystyrid yn un eglwys er fod ganddi ddaü gapel. Yn mis Tachwedd, y flwyddyn hono, cynhaliwyd cyfarfod gweinidogion yn Rhodiad i gydnabod y berthynas oedd yn cael ei ffurfio rhwng Mr. Griffiths a'r eglwys, ac yn absenoldeb yr hen weinidog, yr hwn a luddiwyd i fod yn bresenol gan afiechyd, gweddiwyd y weddi briodol i'r achlysur gan Mr. Richard Howells, un o ddiaconiaid yr eglwys, yr hwn hefyd oedd yn bregethwr cynorthwyol parchus. Siriolodd yr achos yn fawr wedi sefydliad Mr. Griffiths yn y lle, a thaflwyd ysbryd newydd i lawer o'r aelodau. Byddid yn pregethu yn achlysurol yn Nhyddewi, ar ol codi y capel yn Rhodiad, mewn ty anedd yno, ond barnai Mr. Griffiths y dylesid cael lle mwy cyfleus at addoli. Gan fod ganddo dir yno yr hwn, a ddaeth yn eiddo iddo trwy ei briodas, cynygiodd le i'r eglwys i adeiladu capel. Derbyniwyd y cynygiad, ac adeiladwyd y capel yn 1815. Galwyd ef Ebenezer. Bu pregethu rheolaidd yma ar ol hyn, er mai eglwys Rhodiad y cyfrifid yr eglwys. O gylch yr adeg yma, bu yr eglwys mewn cryn helbul oblegid yr ofnent golli eu hawl yn y capel. Ymddengys fod William Meyler, gan yr hwn y cawsid y tir at godi y capel, wedi gosod y tyddyn o ba un yr ydoedd y llain ar ba un y codwyd ef yn rhan, ar  lês i un Henry Tegan, felly yr oedd yn ofynol i Tegan. roddi y llain hono yn ol i Meyler cyn y gallasai Meyler roddi  lês arni i ymddiriedolwyr y capel. Ac felly y gwnaed. Ond yn mhen amser wedi marw Meyler a Tegan, deallwyd fod y  lês a roddasai Tegan i Meyler wedi myned ar goll, ac oblegid hyny yr oedd y  lês a roddaswyd gan Meyler i'r ymddiriedolwyr yn ddirym. 0 dan yr amgylchiadau yma, honodd William Tegan, mab Henry Tegan, ei hawl i'r tir, a'r capel, a'r tai oedd erbyn hyn wedi eu hadeiladu ar y tir. Parodd hyn lawer o drallod a blinder, ac nid oedd yr un o'r ymddiriedolwyr yn meddu digon o wroldeb i amddiffyn hawliau yr eglwys. Yr oedd William Tegan ar y pryd yn y carchar am ddyled, ac aeth Mr. Griffiths ato yno, a chafodd ganddo am 25p. i drosglwyddo ei hawl, ac arwyddo hyny yng ngwydd tystion, ac o hyny allan nid oedd unrhyw berygl i'r eglwys golli ei hawl ynddo. Yn y blynyddoedd dilynol nid ymddengys fod Mr. Griffiths a'r hen weinidog yn cyd-dynu yn dda, ac yr oedd teimladau yr eglwys yn cael eu rhanu, er fod pob ymddangosiad o heddwch. Yr oedd gwahaniaeth mawr yn ngolygiadau duwinyddol y ddau. Un o'r hen ysgol uchel-Galfinaidd oedd Mr. Harries, ac am Mr. Griffiths, yr oedd ef yn adnabyddus fel un o brif bleidwyr yr hyn a elwid y " System newydd," a gwarthruddid ef fel heretic gan lawer na wyddent pa bethau yr oeddynt yn ddywedyd, nac am ba bethau yr oeddynt yn taeru. Er nas gallesid cael dim yn bendant yn erbyn pregethau Mr. Griffiths, etto yr oedd yno amryw a deimlant fod tôn gyffredin ei weinidogaeth yn rhoddi sain anhynod. Daeth achos o ddysgyblaeth hefyd ger bron yr eglwys, yr hyn a ddygodd y teimladau oeddynt er's blynyddoedd yn crynhoi i addfedrwydd; ac yn y 1823, ymneillduodd nifer o'r aelodau, a ffurfiasant eu hunain yn eglwys yn Solfach, a dewisasant yr hybarch Mr. Harries i fod yn weinidog iddynt. Yr oedd Mr. Thomas Mortimer wedi dechreu pregethu rai blynyddoedd cyn corpholiad yr eglwys yn Solfach, ond ar ei ffurfiad aeth ef yno gyda'i

23

hen weinidog, a chyn hir, dewiswyd ef yn gydweinidog ag ef, fel y cawn achlysur  í­ sylwi etto. Parodd yr ymraniad fesur o ddrwg-deimlad ar y pryd, ac yr oedd teimladau gweinidogion yn rhanedig ar yr achos, ond daeth pethau i'w lle yn fuan, ac iaehawyd y teimladau o bob tu. Aeth yr achos yn Rhodiad yn mlaen yn gysurus. Yn y flwyddyn 1833, codwyd capel bychan, mewn cysylltiad a Rhodiad, yn uwch i fyny ar y ffordd i Abergwaun, a galwyd ef Berea. Aeth capel Tyddewi hefyd yn rhy fychan, ac yn 1838, bu raid ei ailadeiladu. Yr oedd y tri lle hyn mewn undeb a'u gilydd, ac yn ystyried eu hunain yn un eglwys. Cynhelid gwasanaeth foreu a hwyr yn Nhyddewi a Berea bob Sabboth, ond un Sabboth yn y mis, pryd y cyfarfyddai yr eglwys oll yn Rhodiad y boreu, i gyfranogi o Swper yr Arglwydd. Yn Rhodiad y cynhelid yr holl gyfarfodydd eglwysig hefyd, fel y lle mwyaf canolog i'r holl eglwys. Yr oedd angen erbyn hyn am ddau bregethwr bob Sabboth, ac nid oedd yr un pregethwr cynorthwyol yn yr eglwys.O dan yr amgylchiadau hyn, cynygiodd Mr. Griffiths ar fod iddynt gael dyn ieuang'c i gydlafurio ag ef, neu os byddai yn fwy dewisol ganddynt, yr oedd yn hollol barod i roddi ei le i fyny, ac iddynt gael gweinidog i gymeryd yr holl ofal, ac y gwnai yntau ei oreu i'w gynorthwyo. Ni fynai yr eglwys son am i'r hen weinidog eu rhoddi i fyny, a chydunwyd i gael dyn ieuangc i gydlafurio ag ef, a rhoddwyd galwad i Mr. John Lloyd Jones, myfyriwr o athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Nhyddewi, Hydref 7fed, 1847. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Hughes, Trelech; gofynwyd yr holiadau arferol i'r gweinidog gan Mr. D. Davies, Zion's-hill; gofynwyd i'r hen weinidog ei deimladau, ac amlygodd yntau ei hollol gydsyniad, a'i lawenydd diffuant ar yr achlysur; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. B. Griffiths, Trefgarn; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr W. Davies, Rhosycaerau, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr J. Evans, Hebron. Aeth pethau yn mlaen yn dra chysurus ar ol hyn, ond fod cyfeillion Tyddewi a Berea yn myned i gwyno oblegid gorfod dyfod bob mis i Rhodiad i gymuno. Trefnwyd yn wyneb hyny eu bod i gael cymundeb bob tri mis yn mhob un o'r ddau le, a chyfarfod bob tri mis yn Rhodiad. Ond blinwyd cyn hir ar hyny hefyd, a'r diwedd fu ffurfio dwy eglwys Annibynol, un yn Nhyddewi a'r llall yn Berea, ac i bawb o'r aelodau ymuno a'r un a fyddai yn fwyaf cyfleus iddynt. Gwnaed hyn yn hollol heddychol o du y gweinidogion a'r eglwys, a phenderfynwyd i'r ddau weinidog gydweinidogaethu i'r ddwy eglwys. Yn niwedd 1854, teimlodd Mr. Griffiths ei fod yn analluog i gyflawni ei weinidogaeth, ac oblegid hyny, ymryddhaodd yn hollol oddiwrth gyfrifoldeb ei swydd, er iddo barhau i bregethu hyd y gallodd fel cynt. Yn yr adeg yma, cyfyngodd Mr. Jones ei ofal yn hollol i Dyddewi, ac felly datodwyd y cysylltiad agos ac anwyl oedd wedi bod cyhyd rhwng Tyddewi a Berea. Llafuriodd Mr. Jones yma gyda derbyniad a chymeradwyaeth hyd yn agos i ddiwedd y flwyddyn 1857, pryd y symudodd i gymeryd gofal eglwysi Crwys a Phenyclawdd, sir Forganwg. Pregethodd ei bregeth ymadawol yn Ebenezer, Tachwedd 22ain, 1857. Yn Ebrill, y flwyddyn ganlynol, bu farw yr hybarch Mr. Griffiths, ar ol bod mewn cysylltiad a'r eglwys yma am saith-mlynedd-a-deugain, ac yn weinidog iddi am fwy na deugain mlynedd. Yn y flwyddyn 1863, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. Jenkin Jones, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Gorphenaf 8fed, y

24

flwyddyn hono. Wedi llafurio yma am dair blynedd, derbyniodd alwad o eglwys Seisnig Capel Ivor, Dowlais, a symudodd yno. Ar ol bod am yn agos i ddwy flynedd heb weinidog, rhoddwyd galwad i Mr. John Foulkes, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Gorphenaf 2il, 1868. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Lewis, Henllan; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. T. Davies, Abergele ; gweddiodd Mr. S. Evans, Hebron; pregethodd Proff. Morgan, Caerfyrddin, i'r gweinidog, a Mr R. Williams, Llundain, i'r eglwys. Yn ddioed wedi sefydliad Mr. Foulkes, teimlwyd fod y capel yn rhy gyfyng i'r gynnulleidfa, a bod yn rhaid ei helaethu. Bu llawer o son am hyn, ond ofnid rhag y baich. Yr oedd yr hen gapel, fel y gwelsom wedi ei godi ar dir Mr. Griffiths, yr hen weinidog, ond oblegid rhyw esgeulustra, nid oedd gweithred y trosglwyddiad erioed wedi ei gwneyd, er fod y tir wedi ei gael yn rhad. Anfonodd yr eglwys at ei fab, Mr. Henry Griffiths, Bowden, am ddarn ycbwanegol o dir, ac yn mhen amser, cafwyd gair oddiwrtho y ceid ef ar lês o 999 mlynedd, am bunt y flwyddyn o ardreth. Codwyd capel hardd, gwerth deuddeg cant o bunau, heb gyfrif y cludiad, yr hyn a gafwyd yn rhad gan yr ardalwyr. Mesura 48 troedfedd wrth 36 troedfedd, ac y mae ystafell eang a chyfleus odditano, lle y cynhelir yr ysgol Sabbothol a moddion wythnosol. Agorwyd ef Medi 26ain a'r 27ain, 1871. Pregethwyd ar yr achlysur gan Meistri T. Rees, D.D., Abertawy; J. Thomas, Liverpool; D. Jones, B.A., Merthyr; J. Lewis, Henllan; J. Davies, Aberdar; L. James, Carfan, a D.Evans, Narberth. Casglwyd erbyn dydd yr agoriad gan yr eglwys a'r gynnulleidfa 550p.; ac y mae y gweddill o'r ddyled yn toddi yn gyflym o flaen gweithgarwch y gweinidog a'r eglwys. Mae yr eglwys yn awr yn rhifo tua 200 o aelodau. Mae yma gryn nifer o bersonau ffyddlon a gweithgar wedi bod yn yr eglwys hon o'r dechreuad, a magwyd yma ddosbarth o ddynion gwybodus a goleuedig, y fath na chyfarfyddir yn fynych a'u rhagorach, ac y mae rhai o'r un nodwedd etto yn aros. Nid ydym wedi cael rhestr o enwau y rhai mwyaf nodedig a fu yma o bryd i bryd, ond goddefer i ni oddiar ein hadnabyddiaeth bersonol, gyfeirio at Mr. David Griffiths, Trelwyd, mab yr hybarch weinidog, James Griffiths. Gwasanaethodd swydd diacon yn yr eglwys am dymor hir. Dewiswyd ef iddi pan yn ieuangc, ac ennillodd iddo ei hun ynddi radd dda. Yr oedd yn ddyn gwybodus a deallgar. Ysgrifenodd lawer gynt o dan y ffugenw Dilectus, Tyddewi. Bu farw yn nghanol ei ddyddiau, a theimlai pawb fod colled ar ei ol yn yr ardal ac yn yr eglwys. Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon : -

  • Richard Howell. Yr oedd ef yn pregethu cyn dyfodiad Mr. Griffiths yma. Gweinyddai hefyd fel diacon yn yr eglwys. Edrychid i fyny ato gan bawb a'i hadwaenai ar gyfrif ei dduwioldeb a'i ddefnyddioldeb.
  • Thomas Mortimer. Yr oedd ef wedi dechreu pregethu yn Rhodiad cyn ffurfio yr eglwys yn Annibynol yn Solfach. Daw ei hanes ef dan ein sylw etto.
  • John Owen. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Mhencadair. Ymfudodd i America, lle y bu farw yn ddiweddar. Daw ei hanes ef yn nglyn a Phencadair.
  • David Phillips. Bu yn efrydydd yn athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Carfan, lle y bu farw yn nghanol ei ddefnyddioldeb. Ceir ei fywgraphiad yn nglyn a Charfan.
  • Henry Griffiths a John Griffiths, meibion y gweinidog, a ddygwyd i fyny

25

  • yn yr eglwys hon, er nad ydym yn sicr mai yma y dechreuasant bregethu. Bu Mr. H. Griffiths yn athraw duwinyddol yn Aberhonddu, ac y mae yn awr yn Bowden. Am Mr. John Griffiths, rhoddir y ganmoliaeth uchaf iddo fel dyn ieuangc dysgedig a chrefyddol. Ganwyd ef yn Llanferan, yn mhlwyf Dewi, yn sir Benfro, lonawr 27ain, 1819. Wedi bod dan addysg barotoawl mewn amryw fanau, derbyniwyd ef i athrofa Coward, Llundain, yn Awst, 1836. Wedi bod yno yn efrydu yn ddiwyd am fwy na thair blynedd, nes ennill cymeradwyaeth ei athrawon a'i gydfyfrywyr, gwanychodd ei iechyd, a dychwelodd i dy ei dad yn Chwefror, 1840, a bu farw Ebrill 24ain, 1840, yn 21 oed. Yr oedd yn ddyn ieuangc o ysbryd gwir grefyddol, fel y tystia y rhai a'i hadwaenai orau, ac fel y dengys y dyddlyfrau a adawodd ar ei ol. Dywedai ei athrawon mai anaml y gwelsant fyfyriwr yn fwy ymroddedig i'w waith, ac yn ymdeimlo yn llwyrach a phwysigrwydd ei dymor yn yr athrofa fel adeg i barotoi ar gyfer y weinidogaeth. Mor ddyrys yw ffyrdd rhagluniaeth pan yn tori ymaith y fath flodeuyn prydferth gyda'i fod yn dechreu ymagor. " Dyfnder mawr yw dy farnedigaethau."

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

JAMES GRIFFITHS. Ganwyd ef mewn lle a elwir Clungwyn, yn mhlwyf Meidrym, sir Gaerfyrddin, Awst 2il, 1782. Yr oedd ei rieni, David a Margaret Griffiths, yn aelodau o'r eglwys Gynnulleidfaol yn Bethlehem, St. Clears, a'i dad yn ddiacon parchus yn yr eglwys hono. Efe oedd yr ieuengaf o wyth o blant. Derbyniodd addysg gyffredinol dda pan yn fachgen, a hyfforddiwyd ef, mewn pethau crefyddol, yn mhen y ffordd gan ei rieni. Yr oedd Mr. W. Thomas, Llwynbychau, yr hwn oedd yn bregethwr cynorthwyol yn Bethlehem, ac yn wr cyfrifol yn yr ardal, yn ewythr iddo, brawd ei fam, ac nid oedd gan James pan yn blentyn unrhyw uchelgais uwch na bod yn bregethwr fel ei ewythr. Dechreuodd deimlo argraffiadau crefyddol ar ei feddwl yn foreu, ac amlygodd ddymuniad cryf, yn enwedig ar ol marwolaeth ei fam, yr hyn a gymerodd le pan oedd tua deg oed, am fod yn aelod eglwysig. Yr oedd Mr. Morgans, Henllan, gweinidog Bethlehem ar y pryd, am ei dderbyn, ond barnai ei dad ei fod yn rhy ieuangc, ac ofnai mai oddiar deimlad plentynaidd, ac nid oddiar ystyriaeth bwyllog, yr oedd y dymuniad yn codi. Taflodd hyn y bachgen yn ol dros dymor, a bu yn brofedigaeth iddo i ymollwng gydag ieuengtyd annuwiol, er iddo gael ei gndw rhag cydredeg a hwy mewn annuwioldeb. Wedi treulio ysbaid blwyddyn gyda'i frawd, Mr. Benjamin Griffiths, Trefgarn, wedi hyny, yr hwn oedd yn fasnachwr yn Llanboidy, dychwelodd i dy ei dad, a derbynwyd ef yn aelod yn Bethlehem yn y flwyddyn 1798, pan yn un-ar-bymtheg oed. Bu farw ei dad yn fuan wedi hyny. Yr oedd ganddo frawd, David, yr hwn a fu yn noddwr caredig iddo, ac yn dyner iawn o hono, ac iddo ef yr hysbysodd gyntaf yr awydd a deimlai am fod yn bregethwr, a chefnogwyd ef ganddo yn hyny, a derbyniodd gymhelliadau i'r un perwyl gan eraill. Aeth i'r ysgol at Mr. Evans, offeiriad yn St. Clears, lle yr arhosodd o gylch dwy flynedd. Y cynyg cyntaf a wnaeth ar ddim byd tebyg i bregethu, oedd mewn ty yn agos i Lanboidy, lle yr arferai nifer o gyfeillion crefyddol gyfarfod yn wythnosol i weddio,

26

ac egwyddori eu gilydd.Y testyn a ddewisodd oedd Salm cxliv. 15. - " Gwyn eu byd y bobl y mae felly iddynt; gwyn eu byd y bobl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddynt." Ond methiant hollol fu y cynyg cyntaf o'i eiddo. Yr oedd wedi meddwl tipyn ar y geiriau, ac wedi ysgrifenu ychydig, ond nid oedd pethau yn dyfod yn rhwydd iawn, ond gobeithiai y deuai pethau i'w feddwl wedi iddo ddechreu llefaru. Ond erbyn codi i fyny a darllen ei destyn, gwelai ei bod yn tywyllu arno, ac yn lle cael pethau ychwanegol, yr oedd hyd yn nod yn methu cofio y pethau a ysgrifenodd, ac ar ol hwylio yn mlaen yn annyben am ychydig, bu dda ganddo ei rhoddi heibio mewn cywilydd. Teimlodd yn siomedig iawn oblegid y tro, er y gwyddai fod y cyfeillion oll yn cydymdeimlo ag ef. Ond ni pharodd ei fethiant cymharol iddo dori ei galon, ond yn hytrach deffrodd ei benderfyniad i ymroddi yn fwy, ac i barotoi rhywbeth i'w ddyweyd cyn ymddangos o hono yn gyhoeddus ger bron cynnulleidfa. Gwnaeth ail gynyg arni mewn cyfarfod eglwysig canol mis yn Bethlehem, a bu yn fwy llwyddianus y tro yma, a hyny oblegid iddo gymeryd darn o benod i'w hesbonio, a phan fyddai yn darfod arno mewn un adnod, ciliau i un arall yn ol yr hen gyfarwyddyd, "pan y'ch erlidir mewn un dinas, ffowch i un arall". Ymadawodd a'r ysgol yn St. Clears yn18 oed ac aeth i Gaerfyrddin i'r ysgol barotoawl, ac wedi treulio dwy flynedd yno, derbyniwyd ef i'r athrofa Bresbyteraidd, y pryd hwnw dan ofal Meistri D. Peter a D. Davies, Llanybri, ac arhosodd yno bedair blynedd. Gwnaeth gynydd mawr mewn dysgeidiaeth yn ystod blynyddoedd ei arhosiad yn Nghaerfyrddin, ac ennillodd ffafr neillduol ei athrawon, yn enwedig Mr Peter, a bu yn dra llafurus fel aelod yn Heol Awst yr holl amser y bu yno, fel y teimlai yr eglwys hiraeth mawr ar ei ol ar ei ymadawiad, a safai yn uchel byth yn ngolwg y genedlaeth hono. Y flwyddyn ddiweddaf y bu yn yr athrofa, yr oedd ar gais Dr. George Lewis wedi bod yn ymweled a rhai manau yn y Gogledd, ac wedi addaw i'r eglwys yn y Graig, Machynlleth, yr hon oedd yn amddifad o weinidog, i ymweled a hwy drachefn. Pan oedd tymor ei efrydiaeth bron ar ben, cafodd wahoddiad i fyned i Benybont-ar-ogwy, ond teimlai ei fod yn rhwym yn ol ei addewid i fyned i Fachynlleth yn gyntaf, a darfod a hwy cyn dechreu gydag un lle arall. Anfonwyd gwahoddiad iddo hefyd o Lanedi a Llanelli, y rhai oeddynt y pryd hwnw, yn un weinidogaeth, ond teimlai fel pe buasai yn rhwym yn yr ysbryd i fyned i Fachynlleth, a diau genym fod llaw neillduol gan ragluniaeth yn hyny. Mae yn nodedig i'w gofnodi ddarfod i'r eglwysi yn Mhenybont a Llanedi, at y rhai y gwrthododd Mr. Griffiths fyned, rwygo yn ddioed ar ol hyny, a rhwygwyd y ddwy gan yr un dyn, yr hwn oedd yn ddyn doniol, ond yn benboeth a difarn. Derbyniodd Mr. Griffiths alwad yr eglwys yn Machynlleth, a'r canghenau, ac urddwyd ef yno Mawrth 7fed, 1807. Yr ydym eisioes wedi rhoddi enwau y gweinidogion oedd yn bresenol ar y pryd yn nglyn a hanes yr eglwys hono, ond rhoddwn yma drefn gwasanaeth, yr Urddiad. Pregethwyd ar natur eglwys, a holwyd y gofyniadau gan Dr. Phillips, Neuaddlwyd; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J.Roberts, Llanbrynmair; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. D. Peter, Caerfyrddin, ac i'r eglwys gan Dr. Lewis, Llanuwchllyn. Yr oedd maes llafur Mr. Griffiths ar y dechreu yn cyrhaedd o Aberhosan i Lwyngwril, pellder o fwy nag ugain milldir, ac yntau yn ymroddi i gyflawni ei weinidogaeth yn ei gylch eang. Bu ei holl gysylltiadau gweinidogaethol yno yn nodedig o hapus, a bu dyfod i gyffyrddiad mor agos a'r

27

diweddar Mr. John Roberts, Llanbrynmair, yn fantais nodedig iddo yn nadblygiad ei feddwl, yr hwn oedd yn naturiol yn gogwyddo at gwestiynau duwinyddol. Yn ystod ei arhosiad yn Machynlleth, sef yn y flwyddyn 1811, cyhoeddodd lyfryn bychan ar Drefn yr Eglwys dan y Testament Newydd. Amcan y llyfr oedd egluro ac amddiffyn y drefn gynnulleidfaol, ac yr oedd y fath lyfr ar y pryd yn dra angenrheidiol, pan nad oedd ond ychydig o sylw wedi ei dalu i'r pwngc. Cyn ei ymadawiad a Machynlleth ysgrifenodd ddernyn byr ar Ewyllys Duw, yr hwn a gyhoeddwyd yn nglyn a'r llyfryn bychan hwnw o eiddo Mr. J. Roberts, Llanhrynmair, ar Ddybenion marwolaeth Crist. Creodd cyhoeddiad y llyfr bychan hwnw gyffroad dirfawr, fel y cawsom achlysur i sylwi yn nglyn a bywgraphiad Mr. John Roberts. Parodd i ddynion rhydd a goleuedig i ymholi "a ydyw y pethau felly ?" ond dihunodd holl gynddaredd dynion culion a rhagfarnllyd, fel nad oedd unrhyw ddirmyg yn ormod i'w bentyru ar yr ysgrifenwyr. Yr oedd cymhwysder neillduol yn Mr. Roherts ar gyfrif ei ostyngeiddrwydd, ei arafwch, a'r gred uchel oedd gan bawb am ei dduwioldeb, i fod yn arweinydd yn y dadleuon hyn, ond yr oedd yn dda iddo ar y pryd ei fodyn cael ei gefnogi gan un o ysbryd dyfalbarhaol a di-ildio Mr. Griffiths, onide y mae perygl y buasai iddo ymollwng gan mor gryf oedd y gwrthwynebiad. Ar yr I7eg o Hydref, 1811, priododd Mr. Griffiths a Miss Sarah Phillips, Llanferan, boneddiges grefyddol, yr hon oedd yn aelod o'r eglwys yn Rhodiad. Am y flwyddyn gyntaf ar ol priodi bu yn byw yn Llanferan, ac yn myned am ddau Sabboth o bob mis, yr holl ffordd, at bobl ei ofal i Machynlleth, a gofalai am ryw rai eraill i bregethu iddynt y ddau Sabboth arall. Ond yn mhen y flwyddyn, symudodd ef, a'i wraig, a'u plentyn i Fachynlleth, a buont yno am ddwy flynedd, hyd nes y cymerodd amgylchiad le a osododd angenrheidrwydd ar Mr. Griffiths i ddychwelyd i Lanferan, ac felly symudodd ef a'i deulu yno cyn diwedd y flwyddyn 1814. Derbyniodd alwad i gydlafurio a Mr Harries, Rhodiad, a chynaliwyd cyfarfod i gydnabod y berthynas. Llafuriodd yn Rhodiad, Tyddewi, a Berea fel gweinidog am ddeugain mlynedd, ac ni bu gweinidog erioed yn sefyll yn uwch yn ngolwg ei bobl; ond yn 1854, teimlai nas gallasai sefyll yn hwy dan bwys y gwaith, ac ymryddhaodd o'i ofal gweinidogaethol, er iddo barhau i bregethu yn achlysurol hyd y gallodd. Byddai yn dilyn y cyfarfodydd gartref yn lled gyson, ac elai oddicartref yn aml i gyfarfodydd y sir. Yr oedd yn nghymanfa Henllan yn haf 1856, a dyna y tro diweddaf y gwelsom ef. Ymddangosai wedi gwaelu yn fawr, ac wedi colli y craffder hwnw oedd mor amlwg ynddo yn nyddiau ei nerth. Pregethodd yno y noswaith ddiweddaf gyda thynerwch ar ddedwyddwch y nef, ac yr oedd yn amlwg ar ei ysbryd ei fod yn addfedu i'r mwynhad o hono. Bu fyw ddau auaf ar ol hyny, ond yr oedd yn myned yn amlycach arno bob dydd fod y byd yma yn colli ei swynion iddo. Boreu Sabboth Ebrill lleg, 1858, ni chododd o'i wely, ond bwytaodd ei giniaw gyda blas anarferol, ac wedi gorphen, talodd ddiolch gyda llais cryf a bywiog, a chyn dyweyd yr un gair arall, " hunodd yn yr Iesu" Claddwyd ef y dydd iau canlynol yn mynwent hen Eglwys Gadeiriol Tyddewi, lle gorphwys ei gnawd mewn gobaith am adgyfodiad gwell. Gan fod Mr. Griffiths yn ddyn anghyffredin, wedi cael byw i oedran teg, ac wedi cymeryd ei ran gyda holl symudiadau cyhoeddus ei oes, goddefer i ni wneyd rhai cyfeiriadau helaethach at ei fywyd a'i gymeriad.

28

O ran y dyn oddiallan, bychan o gorpholaeth. oedd Mr. Griffiths, ond yr oedd yn nodedig o drefnus a glanwaith ei berson a'i wisg, yn chwim a hoyw yn ei holl symudiadau, ac yn serchus a boneddigaidd yn ei gyfarchiad. nid oedd yn enwog fel pregethwr. Er fod ei barabl yn rhwydd a naturiol, ac nad oedd byth ball arno am eiriau i ddyweyd ei feddwl; etto nid oedd yn meddu y gwres a'r tanbeidrwydd sydd yn ofynol i wneyd pregethwr poblogaidd. Athraw a dysgawdwr ydoedd yu fwy nag areithiwr. Rhagorai fel bugail gofalus yn fwy nag fel efengylwr cyffrous. Ond yr oedd yn bregethwr derbyniol a chymeradwy gan wrandawyr deallus a meddylgar, ac nis gallusai gwrandawyr astud lai na theimlo yn well ar ol ei glywed. Pregethai yn athrawiaethol ac ymarferol, ac yr oedd yn meddu gallu nodedig i osod gwedd ymarferol ar bob gwirionedd. Yr oedd yn ddyn gwerthfawr mewn gwlad, a chariai ddylanwad ar bob dosbarth. Trwy ei wybodaeth gyffredinol, a'i gydnabyddiaeth a symudiadau gwladyddol y byd, ei fedrusrwydd yn achosion cyffredin bywyd, ei bwyll a'i degwch mewn amgylchiadau o anghydwelediad rhwng cymydogion, a'i safiad parchus fel dyn cyfrifol yn y byd, edrychid i fyny ato fel oracl yn ei ardal, ac yr oedd yn fwy ei ddylanwad nag unrhyw ynad heddwch yn y wlad. Bu yn ddyn gwasanaethgar iawn i'w enwad, a chymerai ran amlwg gyda phob peth cyhoeddus. Yn nghylch y gymanfa, efe, am dymor hir, oedd un o'r prif arweinwyr, a galwid arno yn fynych i lywyddu mewn cynadleddau, a hyny mown cyfnod pryd y cyfrifid cael y gadair yn anrhydedd, na roddid hyny i neb ond yr oedranus a'r profedig; ac yr oedd efe yn llywydd doeth a medrus. Rhagorai ar y rhan fwyaf yn ei allu i drin amgylchiadau allanol yr achos. Gwasanaethodd fel ysgrifenydd i'r Gymdeithas Genhadol, yn y rhan Gymreig o sir Benfro, am yn agos i ddengmlynedd- ar-hugain, ac ni bu yn segur na diffrwyth yn y swydd.Yr oedd o feddwl cryf a galluog, ac yr oedd y meddwl hwnw wedi ei ddiwyllio yn dda. Mewn eangder amgyffrediad, a gallu i weled yn glir, a dyweyd ei feddwl ar unrhyw beth yn eglur, yr oedd yn anhawdd cael ei ragorach. Yr oedd yn nodedig am ei allu i elfenu a dadansoddi, a dwyn pob gwirionedd i ffurf gyfundrefnol. Gallasai gynwys llawer o bethau yn ei feddwl ar unwaith, a'u cadw ar wahan, a'u cydbwyso, gan osod y naill ar gyfer y llall, a ffurfio ei farn yn annibynol yn eu canol oll. Y cydbwysiad yna yn ei alluoedd oedd ei brif ragoriaeth meddyliol. Nid oedd rhedeg i eithafion yn brofedigaeth iddo. Ei berygl mwyaf ef oedd oddiwrth ei annibyniaeth, yr hyn a'i gwnelai yn anhyblyg, ac ymddangosai weithiau yn ymylu ar gyndynrwydd. Ffurfiai ei farn yn bwyllog, ac unwaith y gwnai ei feddwl i fyny ar unrhyw beth, gorchwyl anhawdd oedd ei symud. Ysgrifennodd lawer i'r Dysgedydd a'r Diwygiwr; a phan yr elai y ddadl yn boeth ar ryw fater rhwng rhyw ddau, deuai ef i'r maes fel canolwr, a'i amcan bob amser fyddai dwyn y pleidiau at eu gilydd, a cheisiau wneyd y gwahaniaeth rhyngddynt mor fychan ag y byddai yn bosibl. Ysgrifenodd lawer ar Ddysgyblaeth Eglwysig, a dadleuai yn gryf yn erbyn diarddeliad uniongyrchol, beth bynag fyddai y trosedd. Nid tynerwch at bechod mewn un modd a barai ei fod yn dadleu felly. Yr oedd yn ddyn pur a manwl ei hun, ac yn llym iawn yn erbyn drygau yn eraill, ond credai ef na ddylesid diarddel unrhyw droseddwr, heb yn gyntaf wneyd pob ymdrech i adgyweirio y cyfryw un, ac mai wedi i ddyn fyned yn brofedig ddrwg, ar ol ymdrech y dynion goreu i'w ddiwygio, yr oedd "bwrw y dyn drygionus hwnw o'u mysg," yn dyfod yn ddyledswydd ar yr eglwys.

29

Ond yn nglyn a dadl fawr y System Newydd y gwnaeth ei hunan yn fwyaf hysbys, ac y cyfarfu a mwyaf o wrthwynebiad. Yr oedd wedi ei ddwyn i fyny mewn golygiadau uchel-Galfinaidd, ac nid gorchwyl hawdd oedd iddo ymryddhau oddiwrthynt, ac nid oedd dim ond argyhoeddiad dwfn fod y golygiadau hyny yn rhoddi gwedd unochrog ar drefn yr efengyl, a allasai beri i un o'i feddwl pwyllog a phenderfynol ef i ymddiosg oddiwrthynt. Bu ei feddwl am ysbaid maith yn myned dan gyfnewidiad, ac yn raddol iawn y daeth i goluddu y syniadau eang oedd ganddo ar drefn yr iachawdwriaeth. Darllen gweithiau Dr Edwand Williams, a chymdeithasu a Mr Roberts, Llanbrynrmair, a fu y prif foddion i eangu ei olygiadau. Megis y crybwyllasom eisioes, yn nglyn a hanes Mr Roberts, efo oedd y cyntaf i bregethu y system newydd mewn cymanfa. Gwnaeth hyny yn Nhreffynon, mewn cymanfa, yn 1809.* Yr oedd efe yn un o "Seithwyr y Llyfr Glas," fel y gelwid Galwad Difrifol Mr J. Roberts. Yn y Gogledd yr oedd prif amddiffynwyr y golygiadau hyny, ac yr oedd gwrthwynebiad cryf iddynt gan hen weinidogion ac eglwysi y De, ac oblegid hyny dyoddefodd Mr Griffiths oddiwrth ei frodyr ei hun fwy nag a ddyoddefodd yr un arall o ysgrifenwyr y Llyfr Glas. Pan y sefydlodd ef yn sir Benfro yn y flwyddyn 1814, yr oedd yr holl hen weinidogion yn uchel-Galfiniaid, a Mr. Harries, Rhodiad, ei gydlafurwr, yn nodedig felly. Edrychid arno gyda chilwg fel un yn dwyn i mewn heresiau dinystriol, ac yr oedd yr enwau o dan ba rai y dynodid ef yn mhell o fod yn frawdol. Mae Mr. Griffiths ei hun wedi ysgrifenu yr holl hanes, ac y mae y cwbl wedi ei gyhoeddi yn ei gofiant.# Mae yn hawdd deall ar yr adroddiad, er iddo gael ei ysgrifenu yn mhen mwy na deugain mlynedd wedi i'r peth gymeryd lle, fod yr amgylchiadau wedi chwerwi ei ysbryd yn fawr, ac y mac yn fwy na thebyg iddo yntau ddyweyd geiriau caledion am ei wrthwynebwyr. Bu cyfarfod gweinidogion yn Maenclochog, yr hwn a alwyd yn ddirgelaidd, a'r hwn, yn ol fel y deallodd Mr. Griffiths, oedd wedi ei alw er mwyn ei fwrw ef a'i frawd,Mr B.Griffiths, Trefgarn, allan o'r cyfundeb, ond daethant i wybod am dano, ac aethant yno yn annisgwyliadwy, fel y dyryswyd yr holl gynlluniau. Yr oedd Mr. Griffiths yn fwy galluog mewn dadl na hwynt oll, heblaw eu bod wedi camddeall, ac oblegid hyny yn camesbonio ei olygiadau yn hollol. Yr oedd yn credu graslonrwydd yr iachawdwriaeth, a bwriadau neillduol yr Anfeidrol, mor ddiysgog ag un ohonynt, ond ei fod ef yn rhoddi i'r drefn wedd fwy ymarferol, gan ddangos rhwymedigaeth pawb oedd yn clywed yr efengyl i'w chredu. Ond aeth yr ystorm hono heibio, a daeth ei frodyr ag yntau i ddeall eu gilydd, a'r rhan fwyaf o honynt bob yn ychydig i bregothu yn hollol yr un golygiadau. Ni ddiangodd Mr. Griffiths, er ei holl bwyll a'i ddoethineb, rhag cyfarfod a phrofedigaethau. Nid rhyw lawer o drallodion eglwysig a gafodd yn ei oes hir, ond ni ddiangodd yntau yn hollol rhagddynt. Daeth dyn ieuangc i'r gymydogaeth i gadw ysgol- dyn dichongar a drygionus-a gwnaeth egni i gasglu plaid yn erbyn yr hybarch weinidog a llwyddodd i suro meddyliau ychydig bersonau yn ei erbyn, er na wnaeth un niwaid iddo yn ngolwg corph yr eglwys. Nid Paul oedd y diweddaf i gwyno oblegid rhyw rai a "wnaeth iddo ddrygau lawer." Yn nechreu y flwyddyn 1824, ...................

* Cyf I. Tu dal. 286

#Cofiant y Parch. J. Griffiths, gan Simon Evans, Hebron.

CONTINUED


( Gareth Hicks - 26 April 2008)