Hide
Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
hide
Hide
(History of the Welsh Independent Churches)
By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books
Proof read by Eleri Rowlands (March 2008)
Carmarthenshire section (Vol 3) - Pages 407 - 420
Chapels below;
|
|
Pages 407 - 420
407
(Continued) BLAENYCOED (Cynwyl Elfed parish)
Blaenycoed. Prif amcan hon oedd dysgu sillebu a darllen y Beibi yn benaf; a dysgu penodau i'w hadrodd yn gyhoeddus; ac ymddengys mai yn hon y dysgodd Theophilus Davies, Penrhiwcowyn, (gweinidog Cana wedi hyny) yr ychydig a ddysgodd mewn darllen yn gystal ag yn egwyddorion cyntaf crefydd. O gylch y flwyddyn 1805, penderfynodd Dafydd Bowen, Daniel Davies, ac eraill o'r henafgwyr, sefydlu Ysgol Sabbothol yn yr ysgubor yn Blaenycoed. Ymddengys mai hon oedd yr Ysgol Sabbothol gyntaf drwy yr holl wlad, ac mai mynediad hon ar draws yr eglwysi ar y Sabbothau " adrodd pwnc' (fel y dywedid) a fu yn achlysur i gychwyn y mudiad addysgol ar y Sabboth yn Nhrelech, Capel Iwan, ac amryw fanau eraill.
Y mae yn anhawdd sicrhau dyddiad sefydliad eglwys yma; oblegid yr oedd y bobl grefyddol yn y gymydogaeth, y rhai a ymdrechent gyda'r achos ieuangc yn yr ysgubor, yn aelodau ac yn myned i gymundebau, eglwysi eraill, yn neillduol Drelech. Ond ar brydnawn Sabboth yn y flwyddyn 1805, torodd diwygiad allan mewn canlyniad i bregeth danllyd o eiddo Mr. Morgan Jones. Derbyniwyd y pryd hwnw tua deugain o aelodau i eglwys Iesu Grist, a llawer o honynt yn ddynion pwysig, yn benau teuluoedd yn yr ardal. Credwn mai y pryd hwn y ffurfiwyd eglwys reolaidd yma gyntaf, ac mai dyma'r pryd y daeth y waedd effeithiol gyntaf am gael estyniad ar gortynau yr hen ysgubor. Yr oeddynt wedi cael digon ar dabernacl yr ysgubor, ac yr oedd yn rhaid bellach gael rhywbeth ar ffurf teml. Cafwyd tir, ac adeiladwyd capel arno yn y flwyddyn 1807, lle y saif yr addoldy presenol. Adeiladwyd hwnw a'i wyneb i'r dehau, ac nid i'r dwyrain megis y mae y capel presenol. Codwyd yr addoldy presenol yn y flwyddyn 1837; ac y mae heddyw, er iddo fyned drwy amryw adgywiriadau, yn un o'r capelau harddaf, iachaf a helaethaf yn y gymydogaeth. Y mae hefyd fynwent eang wrth yr addoldy, a lluaws mawr o'r ffyddloniaid erbyn heddyw yn gorwedd ynddi. Bu y lle o'r dechreuad mewn cysylltiad a Threlech dan ofal Mr. M. Jones, ac yn mhen tair blynedd wedi marwolaeth y gwr da hwnw unodd a'r eglwys yn Nhrelech i roddi galwad i Mr. D. Hughes, Casnewydd. Dechreuodd ar ei weinidogaeth yn y flwyddyn 1839, yn mhen ychydig wedi agoriad yr ail deml yn Blaenycoed. Bu Mr. Hughes yn hynod lwyddianus am holl yspaid ei weinidogaeth yn y cylch. Ystyrid ef yn un o gewri y weinidogaeth yn sir Gaerfyrddin; ac yr oedd ei graffder fel duwinydd, ei argyhoeddiadau dyfnion fel Ymneillduwr, yn gystal a'i ymdrechion di-ildio gyda'r Ysgol Sabbothol, wedi ei wneyd yn boblogaidd dros ben drwy'r holl wlad. Derbyniodd yn Blaenycoed yn unig yn ystod ei weinidogaeth, sef o 1839 hyd 1849, gymaint a dau gant a dau-ar-bymtheg o aelodau. Rhifai yr eglwys y pryd yma ei chanoedd. Ond bu farw Mr. Hughes yr 20fed o Chwefror, 1849, a gellir dweyd am dano ef, fel am Samuel gynt, fod " holl Israel mewn galar" ar ei ol.
Yn mhen amser wedi marwolaeth Mr. Hughes, gwnaeth yr eglwys yn Blaenycoed apeliad taer, mewn ffurf o alwad, at Mr. W. Morgan, Caerfyrddin (y Proffeswr Morgan yn awr), gymeryd ei gofal mewn undeb a'r eglwys yn Union Street. Yr oedd Mr. Morgan ar y pryd yn byw mewn lle o'r enw Cadwgan Hall. Cydsyniodd a chais yr eglwys yn Blaenycoed, a bu yma yn ymdrechgar iawn, ac yn hynod o dderbyniol gan yr eglwys a'r gynnulleidfa am dros flwyddyn a haner. Yr oedd y pellder rhwng yr eglwysi, a'r galwadau oedd arno yn y dref, yn ei gwneyd
408
braidd yn anmhosibl iddo allu gwasanaethu y ddwy gyda chysondeb. Yn wyneb hyn, barnodd yn ddoeth i roddi Blaenycoed i fyny. Yn y flwyddyn 1856 rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Henry Lewis o Beddgelert, sir Gaernarfon; a bu yn gweinidogaethu yma gyda graddau o lwyddiant am yspaid pedair blynedd. Symudodd oddiyma i Lanidloes, sir Drefaldwyn. Yn nechreu y flwyddyn 1861, rhoddwyd galwad i'r gweinidog presenol, sef Mr. William Meirion Davies. Yr oedd y pryd hwnw yn efrydydd yn Athrofa Aberhonddu. Yr oedd yr eglwys ieuangc yn Penybont, Trelech, yn uno gyda hi yn yr alwad. Atebodd Mr. Davies hi yn gadarnhaol, a dechreuodd ar ei waith yn mis Mai yr un flwyddyn. Ordeiniwyd ef Mehefin 10fed, 11eg, a'r 12fed, 1861. Y gweinidogion a gymerasant ran swyddogol yn y gwasanaeth oeddynt Meistri W. Morgan, Caerfyrddin; W. Thomas, Bwlchnewydd; D. Davies, Pantteg; Proffeswyr Morris a Roberts, Aberhonddu; Meistri J. Wiiliams, Castellnewydd; S. Thomas, Bethlehem; a J. Lewis, Henllan. Yr oedd hefyd amryw eraill yn bresenol. Y mae Mr. Davies wedi bod yma bellach dros ddeuddeng mlynedd, a'r achos hyd yma wedi bod yn hynod o lewyrchus dan ei ofal. Y mae wedi derbyn ugeiniau os nad canoedd o aelodau yn Blaenycoed yn unig yn ystod ei weinidogaeth. Bu yma amryw ddiwygiadau yn nghorff y deng mlynedd a aeth heibio. Bu diwygiad grymus iawn yma yn 1865, a'r nesaf ato mewn nerth oedd yr un a fwynhawyd yn nechreu 1872. Rhoddwyd deheulaw cymdeithas i driugain yn y cyntaf, ac o gylch deugain yn yr olaf. Y mae cymaint o symudiadau wedi bod trwy farwolaeth a chyfryngau eraill, fel nas gallwn ddweyd fod plant yr eglwys wedi'r cwbl yn nemawr lluosocach yn awr nag ydoedd yn nechreuad gweinidogaeth Mr. Davies. Teimla eglwysi a chymydogaethau amaethyddol siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi yn rhyfeddol oddiwrth y mudiadau mynych sydd i Morganwg a Mynwy. Y mae Blaenycoed hefyd wedi gorfod dyoddef oddiwrth gyfodiad achosion ac eglwysi newyddion yn y cylchoedd cymydogaethol. Ond rhifa etto cydrhwng 250 a 300 o aelodau. Y mae yma hefyd Ysgol Sabbothol y gellir dweyd am dani yn rhif nad ydyw yn ail i un yn Nghymru, o ran trefn, gwybodaeth, a ffyddlondeb. Rhifa o gylch naw ugain.
Nis gallwn ymattal rhag nodi enwau rhai o brif golofnau yr " achos goreu" yn y lle hwn y cenedlaethau a aethant heibio - heblaw y ddau y cyfeiriasom atynt eisioes - sef Lewis Lewis, Cwm; William Davies, Glynpurfaith; Dafydd Rees Pant-hwdog; Benjamin Phillips, Pantyceidyn; Daniel Phillips, Gilfach; Griffith Jones, Penygraig; John Jones, Drysgolgoch, ac eraill. Bu y personau a enwyd uchod a'u gwragedd yn llettygar i'r achos am dymor hir; ac y mae yn llawen genym ddeall fod plant i amryw o honynt wedi cyfodi i lenwi y bylchau a wnaed ar ol colli y tadau.
Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.
- Dafydd Bowen, Brynchwith. Bu yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys hon am flynyddau lawer. Teithiodd ychydig pan yn dechreu pregethu gyda'i gyfaill Mr. S. Griffith, Horeb; ond am y rhan fwyaf o'i oes nid elai ond ychydig oddicartref; ond yr oedd yn ffyddlon gartref yn holl wasanaeth ty ei Dduw; ac nid ystyrid na chyfeillach na chyfarfod gweddi yn llawn os na byddai efe ynddynt. Cafodd fyw i oedran teg ac yr oedd ei ysbryd yn iraidd hyd ei ddiwedd.
- Samuel Bowen. Mab i Dafydd Bowen. Dygwyd ef i fyny yn Athrofa ..............
409
- ................Drefnewydd, a bu wedi hyny yn Athraw yn yr Athrofa hyd nes y symudodd i Macclesfield, lle y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Mae yn awr yn byw yn Burnley, wedi rhoddi ei ofal gweinidogaethol i fyny. Mae ei enw yn adnabyddus fel awdwr y traethawd rhagorol ar yr "Iawn."
- Jonah Lloyd. Bu yn weinidog yn Llanelwy, ac y mae yn awr yn byw yn Rhyl.
- David Davies. Urddwyd ef yn Colwyn, ac y mae yn awr yn byw yn Manchester.
- John Davies. Symudodd i Drewyddel lle y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes fel pregethwr cynorthwyol.
- Evan Evans, Pantyricket. Treuliodd ei oes yn bregethwr cynorthwyol yn y gymydogaeth. Symudodd yn ei flynyddau diweddaf i Hermon er mwyn cyfleustra. Bu yn fyfyriwr yn Athrofa Neuaddlwyd pan yn ieuangc. Yr oedd yn ddyn craff a deallgar, ac yn bregethwr derbyniol. Ymdrechodd lawer gyda'r Ysgol Sabbothol, a bu yn dra llafurus gyda'r cyfarfodydd gweddio. Bu farw yn 1872, a chladdwyd ef yn Blaenycoed.
- William Vulcan Davies. Addysgwyd ef yn Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Moelfra a Rhosfawr, Mon, lle y mae etto yn llafurio.
- James Howells. Mae ef yn awr yn fyfyriwr yn Athrofa Caerfyrddin.
PENYBONT
(Tre-lech a'r Betws parish)
Yn nyddiau gweinidogaeth Mr. Morgan Jones, a thrachefn yn ystod yr eiddo Mr. D. Hughes, yn Nhrelech, yr oedd yr holl blwyf o'r bron yn ymgynnull ar y Sabboth yn Nghapel y Graig. Yr oedd gan lawer ag oeddynt yn byw yn y dosbarth deheuol o'r plwyf dair, pedair, a phum' milldir o ffordd i drafaelu ar y Sabboth yno. Nis gallasai y cyfryw fod o lawer o ddefnydd i'r eglwys yn y Graig na'u cyfleusderau crefyddol yno fod o lawer o adeiladaeth iddynt hwythau. Yn wir, treulient eu prif oedfaon ar y Sabbothau yn Eglwys y Plwyf, yr hon a safai yn nghanol y dosbarth. Cynhelid Ysgol Sabbothol yn Penybont flynyddau lawer cyn sefydliad yr achos yno, ac ymddengys fod yno ysgol gref, luosog, a dylanwadol. Yr oedd manteision yn perthyn i'r lle at hyn, gan fod yma bentref bychan, a'r gymydogaeth o'i gwmpas yn dra phoblog. Dygid yr Ysgol Sabbothol yn mlaen yn Ysgoldy y Plwyf, a phregethid yma yn gyson bob mis, ar brydnawn Sabboth. Yr hen " Esau'r Gof," fel y gelwid ef, oedd a phwys y gwaith arno gan mwyaf y pryd hwnw. Dywedir y byddai dynion yn crynhoi i Benybont ar y Sabboth pregethu wrth y canoedd, ac yn aml allan yn yr awyr agored y byddai gweision Duw yn anerch y gynnulieidfa fawr a ddeuai yn nghyd.
Ond oddeutu'r flwyddyn 1855, meddyliodd amryw o'r Ymneillduwyr mwyaf egwyddorol fod yn rhaid cael capel yn Mhenybont - fod y daith i Gapel y Graig yn ormod i'w thrafaelu bob Sabboth ac nas gallasent, gydag un math o gysondeb, gyduno yn yr addoliad Sefydledig. Gwnaed cais at y fam eglwys am gefnogaeth; ac er fod llawer yn bleidiol i'r mudiad etto yr oedd lluaws o'r rhai a ystyrid yn golofnau yn dra gwrthwynebol iddo ar y cyntaf. Ond yr oedd rhai o'r brodyr yn nghymydogaeth Penybont mor selog a phenderfynol, fel nas mynent ildio na meddwl rhoddi i fyny. Yn mysg y rhai hyn yr oedd Meistri Thomas Davies, Glasfryn; John Davies, Glynpurfaith; a Howell Howells, Cwmgest. Yr
410
oedd yr olaf yn aelod yn Blaenycoed. I'r tri wyr hyn, yn benaf yr ydys i briodoli cyfodiad yr addoldy presenol yn Penybont. Yr oedd eu penderfyniad y fath, fel "rhaff deircainc," nad oedd yn bosibl ei dori ar frys; a llwyddasant yn ardderchog i gario eu penderfyniad allan i fuddugoliaeth. Cafwyd tir cyfleus am goron y flwyddyn o ardreth a les arno am dri chant o flynyddau. Y gwaethaf erbyn hyn, ydyw na ofynwyd i'r boneddwr, perchenog y tir, am fynwent, ac nid oes y fath yn y lle hyd heddyw.
Adeiladwyd yr addoldy yn 1856. Gallesid dweyd am y gymydogaeth fod ganddi "galon i weithio" gyda'r symudiad newydd. Cyfodwyd yma gapel hardd a chyfleus. Ffurfiwyd yma eglwys ynddo tua gwanwyn 1857, pryd y gweinyddwyd yr ordinhad o swper yr Arglwydd, dan lywyddiaeth Mr. Isaac Williams, Trelech; y duwiolfrydig a'r ymdrechgar Evan Lewis, Fronlas, a John Davies, Glynpurfaith, yn cario yr elfenau. Yr oedd y ddau yn ddiaconiaid parchus yn Nghapel y Graig, ond yr oedd yr olaf yn dyfod i aros gyda'r ferch yn Penybont. Dewiswyd tri o ddiaconiaid ato, sef Thomas Davies, Glasfryn; Benjamin Thomas, Brunant, a Benjamin Jones, Rhiw. Y mae'r tri hyn, yn aros hyd heddyw, ond y mae J. Davies wedi myned at ei wobr er mis Mawrth y flwyddyn hon (1873). Nid oedd yr eglwys ar y cymundeb cyntaf yn rhifo uwchlaw triugain a phump; ond yn mhen ychydig fisoedd wedi hyn, rhifai yn agos i gant. Daeth amrai a llythyrau o Gapel y Graig ar ol y fintai gyntaf, a llawer hefyd yn eu canlyn o Blaenycoed.
Agorwyd yr addoldy yn gyhoeddus yn Mehefin 9fed a'r 10fed, 1857. Yr oedd yn bresenol ar y pryd oddeutu ugain o weinidogion, a chymerasant oll o'r braidd ran yn ngweithrediadau'r agoriad. Casglwyd ar y pryd uwchlaw triugain punt at glirio y ddyled arosol ar yr adeilad. Ac er clod bythol i'r eglwys ieuangc y dylid dweyd na chafodd y ddyled fod yn boen a blinder iddynt uwchlaw dwy flynedd. Yn nechreu y flwyddyn 1861, ymunodd yr eglwys a Blaenycoed i roddi galwad i Mr. W. M. Davies o Athrofa Aberhonddu, yr hwn a ddaeth i'w mysg, ac a erys gyda hwynt hyd heddyw. Derbyniwyd ugeiniau yma yn nghorff gweinidogaeth Davies; ac er fod y rhan amlaf o sylfaenwyr yr achos - neu o'r dyfodiaid cyntaf - wedi gadael y byd, a degau wedi symud o'r ardal i'r gweithfeydd, etto, rhifa yr eglwys dros gant a haner o aelodau. Y mae yma Ysgol Sabbothol weithgar a llafurus. Adgyweiriwyd yr addoldy ychydig flynyddau yn ol; a bernir wrth weled y gynnulleidfa sydd yn dyfod i wrando ambell Sabboth yn y mis, y rhaid ei helaethu cyn bo hir.
Translation by Gareth Hicks (Jan 2009)
In the days of Mr Morgan Jones's ministry, and again in Mr Hughes's time, in Trelech, just about the whole parish gathered on Sundays in Capel y Graig. Most of them lived in the southern part of the parish with 3, 4 and 5 miles to travel on the Sunday. This couldn't have been of much use to the church in the Graig nor were the religious facilities there of much benefit to they themselves. Indeed, they partook of the main service on Sundays in the Parish Church, which stood in the middle of the district. They held Sunday Schools in Penybont many years before establishing the cause here, and it seems the school was strong, numerous and influential. There were advantages accruing to the place on top of this, for there was a small village here, and and the surrounding neighbourhood was very populous. The Sunday School went ahead in the Parish School, with regular preaching every month, on Sunday afternoons. The old 'Esau the cobbler', as he was called, had the weight of the work on him most of that time. It is said that men gathered in Penybont on the preaching Sunday in their hundreds, and often outside in the open air there would be God's servants exhorting people at large to all come.
But around the year 1855, some of the most principled Dissenters thought that it necessary to have a chapel in Penybont - that the journey to Capel y Graig was too much to travel every Sunday and they couldn't, with any sort of compatibility, join in the worship of the Established Church. A plea was made to the mother church for support, and though many were in favour of the motion there were also a multitude of those who were strongly against it from the beginning. But some of the brothers in the Penybont neighbourhood were so ardently determined that they were not going to surrender or give it up. Amongst these were Messrs Thomas Davies, Glasfryn; John Davies, Glynpurfaith; and Howell Howells, Cwmgest. The latter was a member at Blaenycoed. To these 3 men in particular can be attributed the building of the present chapel in Penybont. Their determination in the matter, like a 'three strand rope', wasn't possible to break in a hurry; and they succeeded superbly well in taking their wishes to victory. They obtained some convenient land for a crown a year rent on a lease for 300 years. The worst thing by now, was that they didn't ask the owner of the land for a graveyard, and there isn't one in the place to this day.
They built the chapel in 1856. It can be said of the neighbourhood that it had the 'heart to work' with the new movement. They raised here a beautiful and convenient chapel. They formed a church around Spring 1857, when the ordinance of the Lord's supper was administered under the presidency of Mr Isaac Williams, Trelech; the pious and energetic Evan Lewis, Fronlas, and John Davies, Glynpurfaith, carrying the elements. The two were respected deacons in Capel y Graig. but the latter came to Penybont to stay with his daughter. They picked 3 further deacons, namely Thomas Davies, Glasfryn; Benjamin Thomas, Brunant, and Benjamin Jones, Rhiw. These 3 are still there today, but J Davies has gone for his reward since March of this year (1873). The church at the first communion didn't number more than 65; but at the end of a few months from then the number was nearer 100. Some came with letters from Capel y Graig after the first group, and a lot followed from Blaenycoed.
The public opening of the chapel was on June 9th & 10th 1857. Present at the time were were about 20 ministers, and almost all took a role in the opening procedures. They collected at the time over £60 towards clearing the debt remaining on the building. And to this young church's everlasting credit one should say that the debt wasn't allowed to be a hindrence and worry to them for more than 2 years. At the start of 1861 the church and Blaenycoed decided to give a call to Mr W M Davies from Brecon College, who came amongst them, and remains with them to this day. Scores were admitted here during Davies's ministry; and although most of the founders of the cause - or the first arrivals - have departed this world, and tens have moved from the district for work, still, the church numbers over 150 members. There is here an industrious and hard working Sunday School. They repaired the chapel a few years ago; and judging from the congregation who come to listen some Sundays in the month, they'll have to expand before long.
BRYN IWAN
(Cilrhedyn parish)
Mae y capel hwn yn mhen uchaf plwyf Cilrhedyn. Prif gychwynydd yr achos yma oedd Mr. Thomas Davies, Crugiwan neu Crugifan, amaethwr cyfrifol, a thirfeddianwr yn y gymydogaeth. Y mae'n wir iddo gael help a chydymdeimlad dynion da eraill, ond efe oedd enaid yr ysgogiad. Rhoddodd haner erw o dir i adeiladu y capel, a lle claddu, yn gystal hefyd ag i godi ysgoldy arno, am fil o flynyddau, neu cyhyd ag y byddo haul yn goleuo y ffurfafen, am chwe'cheiniog o ardreth yn flynyddol. Esiampl deilwng o efelychiad, onide, i holl dirfeddianwyr y byd!
Yr oedd Ysgol Sabbothol yn cael ei chynal yn gyson bob Sabboth yn Crugiwan er's dros ddeng-mlynedd-ar-hugain yn flaenorol i adeiladiad y
411
capel. Byddai gweinidogion Trelech yn pregethu yno hefyd unwaith yn y mis drwy y blynyddau. Ond wedi i'r capel gael ei godi yn mhen uwchaf y ffarm, symudodd yr ysgol o'r amaethdy i Bryn Iwan. Bu y meddylddrych o godi capel y Bryn Iwan yn hir iawn yn yr esgoreddfa. Siaradwyd llawer am dano yn ystod gweinidogaeth Mr. Hughes, ond wedi ei farwolaeth ef, a chyn dyfodiad Mr. Isaac Williams i'r gymydogaeth, y dechreuwyd mewn gwirionedd ar y gwaith, sef yn y flwyddyn 1851. Yr oedd y diweddaf wedi dyfod i'r cylch cyn i'r eglwys gael ei ffurflo, nac i'r capel gael ei agor. Sefydlwyd eglwys yma oddeutu gwanwyn 1852. Nid oedd rhifedi yr aelodau ar y pryd uwchlaw deugain a dau, a'r rhai hyny yn dyfod o dair ffynonell, sef Blaenycoed, Hermon, a Chapel y Craig. Mr. Isaac Williams oedd yn llywyddu yn ei sefydliad. Cynaliwyd cyfarfodydd agoriad yr addoldy Mehefin 16eg a'r 17eg, 1852; ac y mae yn dda genym ddyweyd fod yr adeilad bellach er's dros ddeuddeng mlynedd yn berffaith ddiddyled. Bu dyfodiad Mr. George Bowen (wyr y Dafydd Bowen y cofnodir am dano yn hanes Blaenycoed) i fyw i Nantglas, fferm yn y gymydogaeth, yn fendithiol dros ben i'r achos ieuangc pan yn ei wendid. Gellir dyweyd yn wir fod cael y fath ddyn a George Bowen i unrhyw eglwys yn gaffaeliad nid bychan iddi. Y mae ganddo galon i weithio yn mhob cylch, a galluoedd amrywiol at lenwi y cwbl.
Yr oedd llaw Duw i'w gweled yn amlwg yn nhrefn rhagluniaeth yn nygiad oddiamgylch yr achos goreu yma, ac yn nghydgyfarfyddiad personau i ffurfio eglwys yn y lle. Y mae yn rhaid dyweyd hefyd fod llaw Duw yn amlwg yn y llwyddiant sydd wedi bod ar yr achos hyd heddyw. Rhifa yr eglwys yn awr uwchlaw saith ugain o aelodau. Y mae'n rhyfedd fod plant y fath gynnulleidfa yn ymgasglu i'r fath fan. Ychydig flynyddau yn ol, nid oedd yn y lle hwn, nac am lawer o ffordd o'i gylch, na thy na chlawdd i'w weled. Yr oedd y lle yn naturiol yn ddangoseg lled dda o sefyllfa foesol ei drigolion. A phaham lai? Nid oedd y pryd hwnw un cyfleusdra ganddynt i ymwneyd a'u gilydd yn gymdeithasol grefyddol yn nes na Blaenycoed, Hermon, Trelech, a Chapel Iwan, ac ychydig iawn a gyrchent o'r gymydogaeth hon i'r lleoedd uchod. Fel y gallesid disgwyl, yr oedd y dosbarth ieuangc, blaenffrwyth yr oes, yn cael eu hesgeuluso i raddau anghyffredin. Ond bellach, y mae'r nos hono wedi myned, a'r dydd er's blynyddau wedi gwawrio ar y trigolion.
Gweinidogaeth deithiol gan mwyaf oedd eiddo Bryn Iwan hyd o fewn dwy neu dair blynedd yn ol. Mr. Williams, Trelech, oedd a'i gofal yn benaf arno. Bu yn dyfod yma unwaith bob mis am ugain mlynedd ar " Sabboth y cwrdd mawr," fel y gelwir ef; a bu yn selog iawn drostynt ac yn ffyddlawn iawn iddynt, am yr amser hwnw. Rhoddodd Mr. Williams eu gofal hwynt i fyny yn Hydref, 1863; ac yn mhen y flwyddyn gwnaethant apeliad at Mr. W. M. Davies, Blaenycoed, i gymeryd atynt; ac y mae Mr. Davies hyd yma yn pregethu iddynt yn gyson ddwywaith yn y mis. Ychwanegwyd tua deugain at yr eglwys yma yn nghorff y ddwy flynedd a haner a aeth heibio. Y mae yma hefyd Ysgol Sabbothol nad oes nemawr o'i chyffelyb mewn undeb a gweithgarwch, yn ol ei rhif, drwy yr holl wlad. Rhifa ugain a chant.*
*Yr ydym yn ddyledus i Mr. W. M. Davies, am ddefnyddiau hanes Blaenycoed,Penybont, a Bryn Iwan.
Translation by Gareth Hicks (Oct 2008)
This chapel is at the top end of Cilrhedyn parish. The principal mover for this cause was Mr Thomas Davies, Crugiwan or Crugifan, a reputable farmer and landowner in the neighbourhood. It is true he had help from other good, sympathetic men, but he was the centre (soul) of the iniiative. He gave half an acre of land to build the chapel, and graveyard, and enough to also build a school there, for a thousand years, or whilst there is a sun lighting the firmament, for 6 pence rent a year. A worthy example, is it not, for all the landowners in the world !
There was a Sunday School held regularly every Sunday in Crugiwan for over 30 years before the chapel was built. Ministers from Trelech also preached there once a month over the years. But when the chapel had been built above the farm, the school was moved from the farmhouse to Bryn Iwan. The idea of building a chapel at Bryn Iwan was a long time in the making. A lot was talked of it during the ministry of Mr Hughes, but after he died, and before Mr Isaac Williams came to the neighbourhood, they set about the work seriously, namely in 1851. The latter had already come to the place before the chapel was built or opened. They formed a church here around the spring of 1852. The numbers of members at the time was not more than 22, and some of these came from three sources, that is Blaenycoed, Hermon, and Capel y Craig. Mr Isaac Williams presided at the ceremony. They held the opening ceremony for the chapel on 16th June 1852; and it is good to state that the building has been fully paid for over 12 years. Mr George Bowen (grandson of the Dafydd Bowen who was mentioned in the history of Blaenycoed) to live in Nantglas, a farm in the area, was a blessing over the young cause when at its weakest. It can truthfully be said that for any church to have an asset of such a man as George Bowen is no small thing. He has the heart to labour in every place, and the ability to complete the whole.
The hand of God was obvious in the providence surrounding this excellent cause, and the bringing together of people to build a church in the place. It must also be said that the hand of God can be seen in the success of the cause until now. The number of members in the church now is more than 140. It is surprising that the children of this kind of congregation are accumulating to this kind of place. A few years ago, there wasn't here, or for miles around, a house or hedge-row to be seen. It was a natural place to show the moral state of its inhabitants quite well. And why not? That period was not an appropriate one for them to become religiously entwined with Blaenycoed, Hermon, Trelech, and Capel Iwan, and very few ventured from this neighbourhood to the above places. As might have been expected, the young group, the first fruit of the period, were overlooked to an unusual degree. But now that darkness has gone, and for years the light has dawned on the inhabitants.
Ministries were mainly itinerant in Bryn Iwan up until two or three years ago. Mr Williams, Trelech, looked after them mainly. He came here once a month for twenty years on the "Sunday of the big meeting", as it was called, and he was quite zealous towards them, for those times. Mr Williams gave up his care of them in October 1863, and at the end of the year they made an appeal to Mr W M Davies, Blaenycoed, he accepted, and Mr Davies is here preaching to them regularly twice a month. About 40 people joined the church during the two and a half years that passed. There is also a Sunday School here, there is hardly a comparison in solidarity and activity, given their numbers, in the whole country. Membership is 120. *
*We are indebted to Mr W M Davies, for material regarding the histories of Blaenycoed, Penybont, and Bryn Iwan
412
FFYNONBEDR
(Tre-lech a'r Betws parish)
Dechreuwyd yr achos yma yn y flwyddyn 1808, trwy lafur Mr. Jones, Trelech. Aelodau o Drelech oedd yr holl rai a ymffurfiodd yma yn eglwys ar y dechreu, oddigerth dau o Bethlehem a ymunodd a hwy. Bu y lle dan ofal Mr. Jones mewn cysylltiad a Threlech hyd ei farwolaeth, ac wedi hyny dan ofal ei fab Mr. Evan Jones hyd nes y symudodd i Loegr. Wedi bod am flynyddau heb weinidog rhoddwyd galwad i Mr. Evan Jones, yr hwn a fu yn fyfyriwr yn Athrofa Neuaddlwyd, ac urddwyd ef Rhagfyr 19eg, 1839. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. D. Hughes, Trelech. Holwyd y gofyniadau gan Mr. T. Davies, Cana. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Jones, Saron. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. M. Rees, Pencadair, ac i'r eglwys gan Mr. S. Griffiths, Horeb. Cafwyd yma gryn ychwanegiad at yr eglwys y flwyddyn gyntaf wedi urddiad Mr. Jones, ac wedi hyny yn 1859 cafwyd yma adfywiad grymus iawn, ac nid oes un flwyddyn wedi myned heibio er ei sefydliad yma heb fod rhyw rai yn cael eu hychwanegu at yr eglwys, ac y mae wedi derbyn yma yn ystod ei weinidogaeth chwe' chant o aelodau newyddion. Yn 1825 ail-adeiladwyd y capel yma; ac yn 1851 codwyd yma gapel newydd cyfleus, a thalwyd am dano oll yr un flwyddyn. Nis gallwn grybwyll enwau yr holl ffyddloniaid a fu yma yn nglyn a'r achos, ond y mae rhai personau wedi bod mor flaenllaw gyda'r achos yma fel na byddai yn iawn i ni fyned heibio heb gyfeirio atynt. Yr oedd Mr. John Davies, Plasparciau, a'i briod, a Mr. J. Phillips yn mysg noddwyr cyntaf yr achos yma, a'u ty yn gartref i'r rhai a ddeuai heibio am dymor hir. Dafydd Evans, Glanrhyd, oedd un o sylfaenwyr yr Ysgol Sabbothol, a bu yn arolygwr iddi hyd ddiwedd ei oes. John Williams, Glandwr, a'i briod, a'u plant ar eu hol, a fu o help mawr i'r achos. Dafydd Shadrach, Pantgwyn, oedd seren ddysglaer mewn crefydd, a gosodai ei arswyd ar annuwiolion.* Gallwn enwi llawer eraill, ond ni chaniata ein terfynau.
Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:
- Griffith Griffiths, Pantycenglan. Yr oedd ef yn aelod gwreiddiol o Drelech, ac ymunodd a'r eglwys yma ar ei ffurfiad. Urddwyd ef yn Carmel, Llansadwrn, lle y daw ei hanes dan ein sylw.
- David John, Meidrym. Saer coed ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu yn bregethwr cynorthwyol defnyddiol trwy ei oes.
- William Evans. Derbyniwyd ef i Athrofa Aberhonddu, ond bu farw yn fuan.
- Daniel Jones. Urddwyd ef yn Heol Gerrig, gerllaw Merthyr, ac y mae yn awr yn byw yn agos i Lanybri, ond heb ofal eglwysig.
Cyfodwyd Jonah Rees hefyd a Jonah Thomas, ond ni wyddom ddim am danynt gan na chawsom ond eu henwau yn unig.
Translation by Maureen Saycell (Jan 2011)
The cause here was started in 1808, thanks to Mr Jones, Trelech. The original members were from Trelech, with 2 from Bethlehem. Originally it was cared for by Mr Jones, Trelech then by his son Evan Jones until he moved to England. After some years without a minister they called Mr Evan Jones, student at Neuaddlwyd, he was ordained December 19th, 1839. Those officiating were - Mr. D. Hughes, Trelech, Mr. T. Davies, Cana, Mr. T. Jones, Saron, Mr. M. Rees, Pencadair, and Mr. S. Griffiths, Horeb. There was a considerable increase in numbers in the year after Mr Jones was ordained, and again in 1859, due to a strong revival in the area. Every year has seen some additions to the church and during his ministry 600 was added to the membership.
In 1825 the capel was rebuilt, another new chapel in 1851, paid for within the year. Those taking a leading roll here include Mr. John Davies, Plasparciau, and his wife, Mr. J. Phillips, Dafydd Evans, Glanrhyd, a founder of the Sunday School. John Williams, Glandwr, his wife and descendants. Dafydd Shadrach, Pantgwyn, and many more.*
The following were raised to preach here
- GRIFFITH GRIFFITHS, Pantycenglan. Originally a member of Trelech, ordained Carmel, Llansadwrn, see history.
- DAVID JOHN, Meidrym. Carpenter, a supporting preacher all his life.
- WILLIAM EVANS, Accepted at Brecon College but died soon after.
- DANIEL JONES, Ordained Heol Gerrig, near Merthyr, now living at Llanybri, no church.
- JONAH REES and JONAH THOMAS, were also named but no history is available.
*Llythyr Mr. E. Jones, Ffynonbedr.
*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.
CAPEL IWAN
(Cilrhedyn parish)
Mae y capel hwn yn mhlwyf Cilrhedyn, o fewn tair milldir i Gastellnewydd. Nid oes gwybodaeth pwy o'r Annibynwyr a bregethodd gyntaf yn yr ardal, ond codwyd y capel cyntaf mor foreu a'r flwyddyn 1723. Nid oes sicrwydd pa un ai fel cangen o Landwr ai fel cangen o Drelech y
*Llythyr Mr. E. Jones, Ffynonbedr.
413
dechreuodd, ond y mae sicrwydd iddi fod mewn cysylltiad a Glandwr; a than weinidogaeth Mr. Griffith yr oedd hyd nes y derbyniodd Mr. Morgan Jones alwad o Drelech, ac ar yr un adeg cymerodd hefyd ofal yr eglwys yma. Yn 1795, ail-adeiladwyd y capel, a gwnaed ef yn llawer helaethach nag o'r blaen; ac o dan weinidogaeth Mr. Jones daeth yma eglwys gref a chynnulleidfa luosog, a bu ei gofal arno hyd ei farwolaeth. Yn 1837, rhoddwyd galwad i Mr. Edward Rees, Bryn Seion, a bu yma yn boblogaidd a llwyddianus hyd 1843, pryd y symudodd i Benmain, Mynwy. Bu yr eglwys ar ol hyn dair blynedd heb weinidog. Yn 1845, adeiladwyd yma gapel newydd helaeth a chyfleus, ac agorwyd ef Mehefin 16eg a'r 17eg, 1846, ac ar yr un pryd urddwyd Mr. William Jenkins, aelod o Rehoboth, Brynmawr, ond a fuasai yn yr ysgol gyda Mr. Evans, Crwys, yn weinidog i'r eglwys hon a'r eglwys yn Llwynyrhwrdd. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. D. Davies, Pantteg; holwyd y gweinidog gan Mr. W. Morris, Abergwyli; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Jones, Saron; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. D. Stephen son, Nantyglo, ac i'r eglwys gan Mr. J. Evans, Crwys. Bu Mr. Jenkins yn dderbyniol a llwyddianus yn y lle, a phrofwyd yma awelon grymus o adfywiad fel yr ychwanegwyd ugeiniau at yr eglwys. Yn 1850, derbyniodd alwad oddiwrth ei fam-eglwys yn Rehoboth, Brynmawr, a symudodd yno. Y flwyddyn ganlynol, unodd yr eglwys hon a'r eglwys yn Nghastellnewydd i roddi galwad i Mr. John Williams, Llangadog; a bu yma yn llafurus a phoblogaidd am ddeunaw mlynedd. Daliwyd ef gan angau yn anterth ei ddydd, a bu farw wedi byr gystudd yn Tachwedd, 1869. Wedi bod fwy na dwy flynedd heb weinidog, unodd yr eglwys hon a'r eglwysi yn Castellnewydd a Bryn Seion i roddi galwad i Mr. Evan A. Jones, Dolgellau, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn haf 1872. Mae yma eglwys gref yn rhifo tua 350, a chynnulleidfa luosog a chapel da, a mynwent helaeth yn nglyn ag ef, ac ysgoldy cyfleus lle y cynhelir ysgol ddyddiol, fel y mae yr achos yn ei wedd allanol mewn cyflwr tra dymunol. Mae yma hefyd ddau ysgoldy cyfleus lle y cynhelir Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddio a phregethu yn achlysurol. Un yn Llwyndrain, Clydau, a'r llall yn Tanglast; ac y mae yn y rhai hyn ag ysgol y capel tua 300 dan addysg Sabbothol.
Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.
- Benjamin Evans, St. Florence. Gwel ei hanes yn nglyn a'r eglwys yno.
- John Evans, Crwys. Yr ydym eisioes wedi cyfeirio ato yn nglyn a'r eglwys yno.
- John Hughes. Gweler ei hanes ef yn nglyn a Bethania, Dowlais, lle y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.
- David Hughes, Hendrewylim. Nid oes genym unrhyw wybodaeth bellach am dano.
- John James, Aberdwylan. Bu yn bregethwr cynorthwyol trwy ei oes. Symudodd i Bryn Seion ar ffurfiad yr eglwys yno.
- Daniel Jones. Bu yn weinidog yn Bethesda, Merthyr, ac enciliodd wedi hyny at yr Eglwys Sefydledig.
- Samuel Thomas. Mae ei hanes ef yn nglyn a Bethlehem, St. Clears.
- William Evans. Ni anfonwyd i ni ond ei enw.
- David Evans. Ymfudodd ef i America.
- David Davies (Dewi Emlyn), yr hwn sydd yn awr yn America.
414
- Thomas Phillips. Addysgwyd ef yn Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Horeb, sir Aberteifi, lle y mae etto.
Translation by Maureen Saycell (Jan 2011)
Located in the parish of Cilrhedyn, 3 miles from Newcastle Emlyn. The first chapel was built in 1723, whether as a branch of Glandwr or Trelech is uncertain but it was under the ministry of Glandwr until Mr Morgan Jones was called to Trelech and took on Capel Iwan as well. In 1795 the chapel was rebuilt and enlarged, it became a strong church with a large congregation. After his death Mr Edward Rees, Bryn Seion was called in 1837 and he stayed until 1843 when he left for Penmain, Monmouthshire. For 3 years there was no minister. 1845 a new chapel was constructed and opened July 16th and 17th, 1846, when Mr William Jenkins, member at Rehoboth, Brynmawr, was also ordained here and Llwynyrhwrdd. He had been at school with Mr J Evans, Crwys. Those officiating were Mr. D. Davies, Pantteg, Mr. W. Morris, Abergwyli, Mr. T. Jones, Saron, Mr. D. Stephenson, Nantyglo, and Mr. J. Evans, Crwys. Mr. Jenkins remained until 1850, when he accepted a call from his mother church Rehoboth, Brynmawr, and moved there. The following year they joined with Newcastle Emlyn to call Mr John Williams, Llangadog, who remained here for 18 years. He died November 1869. After 2 years without a minister they joined with Newcastle Emlyn and Bryn Seion to call Mr Evan A Jones, Dolgellau, who began his ministry in the summer of 1872. There is a membership of about 350, with a large cemetery and a schoolhouse as well. There are Sunday schools educating some 300 in Llwyndrain, Clydau and Tanglast.
The folowing were raised to preach here * -
- BENJAMIN EVANS, St. Florence - see history
- JOHN EVANS, Crwys - see history
- JOHN HUGHES, see Bethania, Dowlais, where he spent most of his life.
- DAVID HUGHES, Hendrewylim - no known history.
- JOHN JAMES, Aberdwylan - supporting preacher all his life, moved to Bryn Seion when it was formed.
- DANIEL JONES, minister at Bethesda, Merthyr - then moved to the established church.
- SAMUEL EVANS, see Bethlehem, St. Clears.
- WILLIAM EVANS, only his name given.
- DAVID EVANS, emigrated to America.
- DAVID DAVIES (Dewi Emlyn), now in America.
- THOMAS PHILLIPS, educated Brecon College, ordained Horeb, Cardiganshire, where he remains.
*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.
BRYN SEION
(Cenarth parish)
Cyn cyfodi y capel sydd yn myned dan yr enw uchod, arferid cadw cyfarfodydd gweddi mewn ty-anedd, o'r enw Cilfod, er y flwyddyn 1804. Cymerwyd y gofal mwyaf am y cyfarfodydd gan aelodau o eglwys Capel Iwan. Er nad oedd yr un capel yn y gymydogaeth y pryd hwnw, etto ychydig iawn oedd yn ymgynnull i'r cyfarfodydd gweddi nes i ddiwygiad nerthol a grymus iawn dori allan yn y flwyddyn 1805, pryd yr ychwanegwyd llawer at y gwahanol eglwysi, ac adfywiodd yr achos bychan yn Cilfod yn neillduol yr adeg heno. Dyma y pryd y dechreuwyd cadw Ysgol Sabbothol yn y lle, a thua'r flwyddyn 1810 y dechreuwyd pregethu yn lled gyson. Gosodwyd pulpud ynddo fel y byddai yn fwy cyfleus, a chedwid ysgol ddyddiol yno yn yr wythnos gan bregethwr perthynol i'r Methodistiaid o'r enw Phillip James. Bu y diweddar Mr. Morgan Jones, Trelech, yn pregethu yno lawer gwaith, ac i Gapel Iwan y byddai yr aelodau yn myned i gymundeb. Bu llawer iawn o enwogion o wahanol enwadau yn pregethu yn Cilfod, megis Ebenezer Morris, Twrgwyn; John Evans, New Inn; Daniel Davies, Aberteifi; Lewis Powel, Caerdydd; Thomas Jones, o Saron; a Thomas Griffiths, Hawey, a llu o rai ereill rhy faith i'w henwi. Ond yr un a fu yn fwyaf ffyddlon a llafurus gyda' r achos yn y lle oedd John James, Aberdwylan. Bu ef yn pregethu yn Cilfod bob yn ail Sabboth am lawer o flynyddoedd, yn nghyd ag mewn llawer o anedd-dai eraill yn y gymydogaeth, ac yn aml iawn yn Penlangych; a byddai pawb yn wir barchus o hono. Efe fyddai yn pregethu mewn angladdau fynychaf yn y gymydogaeth. Yr oedd iddo air da gan bawb a chan y gwirionedd ei hun. Bu ef farw yn y flwyddyn 1851, yn 72 oed, a chladdwyd ef yn ymyl capel Brynseion, yr hwn yr oedd ef wedi bod a'r llaw flaenaf yn ei adeiladiad. Tua'r flwyddyn 1830, daeth Mr. John Phillips, o'r Drewen, i bregethu yn Cilfod, yr hyn a fu yn foddion i adfywio ac ychwanegu yr achos yn fawr. Cynyddodd yr Ysgol Sabbothol a'r gwrandawyr dan ei weinidogaeth ef, fel yr aeth y lle yn rhy gyfyng aros ynddo. Danfonwyd at Iarll Cawdor am gael tir i adeiladu capel mewn man mwy cyfleus, a chafwyd hyny, yn nghyd a lle claddu perthynol iddo, ac yn y flwyddyn 1831, adeiladwyd capel yn ymyl Pontseli, a galwyd ef yn Brynseion, a phregethwyd ynddo y waith gyntaf yr ail Sabboth yn mis Medi y flwyddyn hono. Ar y 9fed o Hydref yr agorwyd y capel, pryd y gweinyddwyd gan Meistri M. Jones, Trelech; D. Davies, Aberteifi; a J. Phillips, Drewen, a derbyniwyd trwy lythyrau o Capel Iwan, Tyrhos, a'r Drewen, tua dau-ar-bymtheg-a-deugain, y rhai oedd wedi eu derbyn mewn cysylltiad a Cilfod. Bu yr eglwys yn llwyddianus iawn o dan ofal Mr. Phillips am yr ychydig flynyddau y bu yma cyn i'w iechyd waelu a'i orfodi i symud i Wlad yr Haf. Rhoddwyd galwad yn mhen amser i Mr. Edward Rees, o Llanrhaiadrynmochnant, swydd Dinbych, ac urddwyd ef i gyflawn gwaith y weinidogaeth yma Mai 6ed, 1835, pryd y gweinyddwyd gan Meistri J. Davies, Glandwr; D. Thomas, Penrhiwgaled; W. Miles, Tyrhos; T. Jones, Saron; T. Griffiths, Horeb; David Owens, Llechryd, ac eraill. Bu yma yn gweinidogaethu am wyth mlynedd, nes y symudodd i Benmain yn 1843. Bu yr eglwys yn ymddi-
415
bynu drachefn ar weinidogaeth achlysurol hyd y flwyddyn 1847, pryd rhoddwyd galwad i Mr. Abednego Jenkins, o Brynmair, a bu yn ymdrechgar iawn yn y lle gyda y cyfarfodydd gweddi a'r Ysgol Sabbothol, a phob moddion crefyddol, er ei fod ar y pryd yn gofalu fel gweinidog am eglwys Brynmair. Derbyniodd tua deg-a-thriugain yn aelodau y flwyddyn gyntaf o'i weinidogaeth yn y lle; a bu yma am yspaid deuddeng mlynedd, nes yn 1859 y derbyniodd alwad oddiwrth eglwysi Cana a Gibeon, a symudodd yno. Yn fuan ar ol symudiad Mr. Jenkins rhoddodd eglwys Brynseion ei hun dan ofal Mr. John Williams, Castellnewydd, a bu felly hyd ei farwolaeth yn 1869. Bu Mr. Williams yma yn ddedwydd a llwyddianus am yn agos i ddeng mlynedd. Yn bresenol mae yr eglwys dan ofal Mr. Evan A. Jones, gyda Chastellnewydd a Chapel Iwan, a phob peth yn myned yn mlaen yn gysurus, ond bod y cylch yn llawer rhy eang fel nas gall y gweinidog fod yn aml gyda'r bobl.
Codwyd i bregethu yn yr eglwys hon.
- Samuel Evans. Urddwyd ef yn Rehoboth yn sir Benfro.
- Evan Evans. Urddwyd ef yn Sciwen' gerllaw Castellnedd, lle y mae wedi llafurio am fwy nag ugain mlynedd.
- Samuel Jones. Mae yn awr yn weinidog yn Carmel, Penbre.
Hefyd, yn yr eglwys yma y magwyd ac y derbyniwyd y brodyr E. H. Evans, Caernarfon, a W. J. Evans, Hwlffordd, ond ar ol ymadael oddiyma y dechreuasant bregethu. Mae golwg siriol ar yr achos yn Brynseion, a'r eglwys yn wastad yn heddychol a thangnefeddus.
Translation by Gareth Hicks (Oct 2008)
Before building the chapel that goes by the above name, it had been customary, since 1804, to hold prayer meetings in a dwelling house, called Cilfod. It was members from Capel Iwan who took the greatest interest in the meetings. Although the same chapel wasn't in the neighbourhood at that time, nevertheless very few attended the prayer meetings until a mighty and powerful revival broke out in the year 1805, when there were large increases at different churches, and stimulated the small cause in Cilfod especially at night time. This is the time they began to hold a Sunday School in the place, and about the year 1810 they began to preach quite regularly. They installed a pulpit for convenience, and a day school was held there during the week by a preacher belonging to the Methodists called Philip James. The late Mr Morgan Jones, Trelech, preached there several times, and it was to Capel Iwan that the members went to for communion. Several distinguished men from different denominations preached at Cilfod, such as Ebenezer Morris, Twrgwyn; John Evans, New Inn; Daniel Davies, Aberteifi; Lewis Powel, Cardiff; Thomas Jones from Saron; and Thomas Griffiths, Hawey, and a host of others too many to name. But the one who was the most faithful and laborious with the cause in this place was John James, Aberdwylan. For many years he preached at Cilfod every other Sunday, along with several other dwelling houses in the neighbourhood, and quite often in Penlangych; and everyone was truly respectful of him. He frequently preached at funerals in the neighbourhood. He had a good word for everyone and was true to himself. He died in 1851, aged 72, and he was buried at the side of Brynseion chapel, the place he had been influential in building. About 1830, Mr John Phillips, from Drewen, came to preach in Cilfod, this acted as a stimulant and the cause prospered greatly. The Sunday School and listeners increased under his ministry, thus the place became too small to stay in. They sent to Earl Cawdor to get some land to build a chapel in a more convenient place, and they got this, together with adjoining land for burials, and in the year 1831 the chapel was built near Pontseli, and they called it Brynseion, and they preached in it for the first time on the second Sunday in September of that year. The chapel opened on the 9th of October, officiating were Messrs M Jones, Trelech; D Davies, Aberteifi; and J Phillips, Drewen, and there were admitted through letters from Capel Iwan, Tyrhos, and Drewen, about 57, those that had already been admitted in connection with Cilfod. The church was very successful under the care of Mr Phillips for the few years before his health worsened and he had to move to Wlad yr Haf (Somerset). After a time they gave a call to Mr Edward Rees, from Llanrhaiadrynmochnant, in Denbighshire, and inaugurated him fully to the work of the ministry here on 6th May 1835, officiating were Messrs J Davies, Glandwr; D Thomas, Penrhiwgaled; W Miles, Tyrhos; T Jones, Saron; T Griffiths, Horeb; David Owens, Llechryd, and others. He was the minister here for 8 years, until moving to Penmain in 1843. The church was again dependent on occasional ministers until 1847, when they gave a call to Mr Abednego Jenkins, from Brynmair, and he was a strong force in the place with the prayer meetings and Sunday School, and all religious matters, although he was at the time taking care of Brynmair church as minister. He admitted nearly 70 members in the first year of his ministry in the place, and was here for 12 years, until in 1859 he accepted a call from the churches of Cana and Gibeon, and he moved there. Soon after Mr Jenkins left, Brynseion church itself came under the care of Mr John Williams, Castellnewydd, and it was thus until his death in 1869. Mr Williams was happy and successful here for almost 10 years. At present the church is under the care of Mr Evan A Jones, together with Castellnewydd and Capel Iwan, and everything is going ahead smoothly, apart from the area being so large that the minister can't be with the people that often.
The following were raised to preach in this church;
- Samuel Evans. He was inaugurated in Reheboth, Pembrokeshire
- Evan Evans. He was inaugurated in Skewen, near Neath, where he has laboured for over 20 years
- Samuel Jones. He is now the minister at Carmel, Penbre
Also, in this church, were nurtured and admitted the brothers E H Evans, Caernarfon, and W J Evans, Hwlffordd, although it was after leaving that they began to preach. There is a cheerful look about the cause in Brynseion, and the church is equable and peaceful.
SARON, LLANGELER
Dechreuwyd pregethu yn yr ardal hon o gylch y flwyddyn 1670, mewn lle a elwir Penlon, yn agos i Felindre Siencyn. Yr oedd Mr. E. Hughes, yr hwn a drowyd allan o Eglwys Llandyfriog, yn byw heb fod yn mhell o'r ardal, a phregethai yn fynych i'r ychydig ddysgyblion; a deuai Mr. James Davies, o Merthyr Fach, yma yn achlysurol; ac ar ol hyny bu gweinidogion Henllan a Threlech yn cyrchu yma yn fynych; a dywedir i ryw weinidog oedd a gofal yr achos yn benaf arno ymfudo i America.
Rywbryd yn haner gyntaf y ddeunawfed ganrif cymerodd Mr.Thomas Jones, Glanyffrwd, ofal yr eglwys yma mewn cysylltiad a Nantgronwy, yn mhlwyf Cynwil. Yn nhymor gweinidogaeth Mr. T. Jones, y symudwyd yr achos o Penlon i Drefach. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1753, a buwyd am dair blynedd yn cyfarfod mewn ty anedd yn Drefach. O gylch yr amser yma yr oedd dirywiad mewn barn wedi dyfod i mewn i lawer o eglwysi, ac ymddengys i rai yma gael eu llygru fel yr aeth yn gynen ac ymryson, ar diwedd fu i'r eglwys fechan ymranu. Aeth yr Arminiaid allan i Benrhiw, ac yno y maent hyd y dydd hwn. Sefydlodd y rhan arall yn nghongl yr allt goed oedd gerllaw, gosodwyd y pulpud wrth hen dderwen, ac yno y buont yn pregethu hyd 1756, pryd y codwyd capel bychan yn Drefach. Mae yr hen dy i'w weled etto, ac nid yw ond bwthyn llwyd a tho gwellt, ond edrychir arno fel llecyn cysegredig. Helaethwyd y capel ar ol ei adeiladu y tro cyntaf, a gosodwyd oriel ynddo. Bu Mr. T. Jones yn dra ffyddlon a llafurus; ond gan fod ei ffordd yn mhell ac yntau yn heneiddo, rhoddwyd galwad i Mr. John Lewis, aelod o Henllan, i fod yn gynorthwywr iddo. Urddwyd ef yn y flwyddyn 1761, ac yn mhen pedair blynedd wedi hyny rhoddodd Mr. T. Jones i fyny yn llwyr gan fod ei analluog i deithio
416
hyd yma. Yr oedd Mr. Lewis yn byw yn Nghastellnewydd, ac yn fasnachydd cyfrifol yno; ac ymddengys iddo fod yn dra llwyddianus fel masnachydd, ond ni bu felly fel gweinidog. Baich ei bregethau oedd gwrthwynebu Arminiaeth; ac yn mhen naw-mlynedd-ar-hugain nid oedd nifer yr aelodau ond deuddeg. Bu yr ychydig ffyddloniaid hyn yn petruso am yspaid, a oedd yn ddoeth iddynt barhau yr achos yn mlaen o dan y fath amgylchiadau. Yn y cyfamser yr oedd gwr ieuangc o'r enw David Davies, wedi dechreu pregethu yn Mhencadair, a chan fod ei ddoniau fel pregethwr yn tynu sylw y wlad, penderfynwyd ei wahodd yma yn fisol. Cydsyniodd a'r gwahoddiad, a bu yma amryw weithiau, a rhoddodd ei bregethau cyffrous, a'i ysbryd gwresog fywyd newydd yn yr achos. Yr oedd newydd-deb a rhagoroldeb ei ddawn, a'r arbenigrwydd a roddai yn ei bregethau i gyflwr colledig dyn fel pechadur, a'r ffordd i gadw trwy Gyfryngwr yn peri fod yr holl wlad yn cyrchu i'w wrando. Penderfynwyd rhoddi galwad iddo, ac urddwyd ef yn y flwyddyn 1790. Dechreuodd ar ei waith o ddifrif. Dyrchafai ei lais fel udgorn er mynegi i'r bobl eu camwedd, a byddai ei weinidogaeth yn danllyd a brawychus nes creu arswyd ar annuwiolion y wlad; ond newidiodd ei don yn fuan, a chyhoeddai drefn Duw i faddeu trwy Gyfryngwr nes y trodd llawer at yr Arglwydd am drugaredd. Daeth yr achos oedd ar fin marw i wisgo gwedd newydd hollol, fel yr aeth yr hen gapel cyn pen dwy flynedd yn rhy gyfyng i'r gynnulleidfa. Yn 1792, adeiladwyd capel newydd mewn man mwy cyfleus i'r holl ardal, a galwyd ef yn Saron, a llanwyd ef yn fuan a gwrandawyr. Yr oedd cysylltiad Mr. Lewis a'r eglwys yn parhau o hyd, ac er mai yn gynorthwywr iddo yr urddwyd Mr. Davies, etto arno ef yr oedd yr holl ofal. Er galar a cholled i'r holl wlad derbyniodd Mr. Davies alwad o'r Mynyddbach gerllaw Abertawy, a symudodd yno yn 1795. Yr un flwyddyn ag yr ymadawodd Mr. Davies, rhoddwyd galwad i Mr. John Bowen, aelod o'r eglwys, ac urddwyd ef Tachwedd 3ydd, 1795. Bu yma yn dra llwyddianus hyd y flwyddyn 1802, pryd y taenodd cwmwl dros yr achos. Er fod Mr. Bowen yn ddyn da a thalentog, etto nid oedd bob amser mor wyliadwrus ag y buasai ddymunol; ac yr oedd Mr. Thomas Jones, Gilfach Isaf, yn bregethwr ieuangc yn yr eglwys, ac er na chyfrifid ef mor ddoniol fel pregethwr a Mr. Bowen, etto yr oedd ei fywyd diargyhoedd yn enill iddo air da gan bawb; ac yr oedd rhai yn awyddus am ei urddo yn gydweinidog a Mr. Bowen. Pa fodd bynag aeth pethau mor anymunol yn yr eglwys fel y diarddelodd Mr. Bowen gryn nifer o'r aelodau, a rhai o honynt yn ddynion rhagorol fel crefyddwyr. Yr oedd rhan fawr o'r eglwys yn annghymeradwyo hyny, a barnai yr hen weinidog Mr. Lewis mai gweithred fyrbwyll oedd eu diarddel, ac oblegid hyny cyhoeddodd y byddai iddo y Sabboth canlynol weinyddu cymundeb i'r rhai a ddiarddelwyd, ac felly y bu. Rhanwyd yr eglwys, rhan gyda Mr. Bowen, a rhan gyda'r hen weinidog, ac ymffurfiasant yn eglwysi hollol annibynol; ond cadwodd y ddwy ran eu gafael yn y capel, ac yn pregethu ynddo bob yn ail Sabbotb, a byddent yn cadw eu moddion wythnosol ar amserau gwahanol. Urddwyd Mr. Thomas Jones yn gynorthwywr i Mr. Lewis, yr hen weinidog, yn y flwyddyn 1802. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. D. Peter, Caerfyrddin. Holwyd y gofyniadau a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Lewis, yr hen weinidog. Pregethodd Mr. T. Davies, Pantteg, i'r gweinidog, a Mr. D. Davies, Abertawy, i'r eglwys. Parhaodd pethau i fyned yn mlaen
417
felly dros rai blynyddau, ac er fod teimladau yn gwella yn raddol, etto yr oeddynt yn mhell o fod yn gysurus. Ar y cyntaf ni ddeuai neb o bobl Mr. Jones i'r capel ar Sabboth Mr. Bowen, na neb o bobl Mr. Bowen ar Sabboth Mr. Jones; ond cyn hir nesasant at eu gilydd mor agos nes dyfod i wrando y naill fel y llall. Gwnaed llawer o ymdrech i'w huno gan weinidogion cylchynol, ac eraill, ond y cwbl yn ofer hyd ryw adeg pan y daeth eu cyn-weinidog, Mr. Davies, Abertawy, heibio, a phregethodd gyda'r fath nerth a dylanwad nes eu toddi oll i'w gilydd yn un eglwys dan ofal y ddau weinidog, ac felly y parhaodd hyd farwolaeth Mr. Bowen, yr hyn a gymerodd le Ebrill 30ain, 1830. Byddai y ddau weinidog adref bob amser ar y cymundeb, un yn pregethu, a'r ddau yn cydweini wrth y bwrdd, ac yr oedd y teimladau mwyaf brawdol a chynes yn bodoli rhyngddynt.
Yn y flwyddyn 1825, ail-adeiladwyd y capel a gwnaed ef yn dy hardd a chryf, a chyrchai iddo yn rheolaidd gynnulleidfa luosog. Yn y flwyddyn 1807, adiladwyd capel yn Nghastellnewydd, yr hwn ar y cychwyn a ystyrid fel cangen o'r eglwys hon, a bu dan ofal Mr. T. Jones hyd ei farwolaeth. Adeiladwyd hefyd, yn 1836, gapel bychan yn mhlwyf Penboyr, yr hwn a alwyd yn Soar. Llafuriodd Mr. Jones yma yn ddiwyd a ffyddlon hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Mawrth 9fed, 1850.
Wedi bod am dair blynedd heb weinidog rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Jonah Morgan, yr hwn oedd yn bregethwr cynorthwyol parchus yn Cross Inn, Llandybie, ac urddwyd ef Chwefror 24ain, 1853, a bu yma hyd ddechreu haf 1856, pryd y symudodd i Cwmbach, Aberdar, lle y mae etto. Cyn diwedd y flwyddyn hono rhoddwyd galwad i Mr. Benjamin Jones, aelod o Rydybont, ac urddwyd ef Tachwedd 19eg, 1856. Bu yma dros rai blynyddoedd, ond darfu ei gysylltiad a'r eglwys yn niwedd y flwyddyn 1864. Yn nechreu y flwyddyn 1867, rhoddwyd galwad i Mr. John Elias, myfyriwr o Athrofa y Bala, ac urddwyd ef Mai 22ain yr un flwyddyn, ond darfu ei gysylltiad a'r eglwys cyn diwedd y flwyddyn hono. Derbyniodd yr eglwys yn y blynyddoedd hyny glwyfau dyfnion, and daliodd yr achos yn gryf a blagurog trwy y cwbl. Cyn diwedd y flwyddyn 1870, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas J. Morris, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Chwefror laf, 1871, ac y mae yn parhau i lafurio yma gyda chymeradwyaeth, a'r achos mewn gwedd lwyddianus.
Bu yma lawer o ddynion ffyddlon yn nglyn a'r achos o bryd i bryd, ac ymysg eraill coffeir yn barchus am enwau Thomas Price, Trebedw; John Joshua,Penrhiw; David Jones, Cefn; Evan Griffiths, David Jones, Penalltygigfran ; a William Williams, Trebedw. Yr oedd yn yr eglwys yn y dyddiau gynt lawer iawn o wres crefyddol, ac nid ydyw wedi ei lwyr golli etto, er fod y rhan fwyaf o'r hen frodyr a'r hen chwiorydd oedd yn nodedig am eu teimladau crefyddol wedi eu cymeryd ymaith.
Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.
- David Davies. Urddwyd ef yn Sardis, a daeth yn boblogaidd iawn fel pregethwr. Bydd genym ychydig i'w ddywedyd am dano pan ddeuwn at hanes yr eglwys hono.
- Methusalem Jones. Yr ydym eisioes wedi cyfeirio ato ef yn hanes Bethesda, Merthyr.
- John Bowen. Urddwyd ef yn weinidog yn yr eglwys hon.
- Thomas Jones. Bu yntau yn weinidog yma am dymor hir.
418
- Thomas Davies. Urddwyd ef yn Mhentraeth, Mon, ac yr ydym wedi gwneyd cyfeiriad byr ato yn nglyn a Moelfra, lle y bu yn gweinidogaethu ddiweddaf.
- Evan Evans. Mae yn parhau yn weinidog yn Hermon, lle yr urddwyd ef.
- David Davies. Mab Rhys Davies. Nid oes un cysylltiad rhyngddo a chrefydd er's blynyddau.
- Thomas Rhys Davies. Bu yn Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yn Cerig Cadarn. Ymadawodd at y Bedyddwyr, ac nid yw y gweddill o'i hanes yn werth ei adrodd.
- Thomas Jones. Mab yr hen weinidog Mr. Thomas Jones. Addysgwyd ef yn Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yn Llangatwg, sir Frycheiniog, ond enciliodd yn fuan i'r Eglwys Sefydledig.
- Henry Jones. Mab arall i'r hen weinidog, Mr. Thomas Jones. Dygwyd yntau i fyny yn Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yn Rhydybont, ond yn mhen rhai blynyddoedd dilynodd ei frawd i'r Eglwys Sefydledig.
- Rees S. Jones. Addysgwyd ef yn Athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Treoes, sir Forganwg; ac y mae yn awr yn America.
Gan mai yn nglyn a'r eglwys yma y treuliodd yr hen bregethwr hynod Rhys Davies y rhan fwyaf o'i oes, dichon mai yma y byddai yn fwyaf priodol i ni wneyd crybwylliad byr am dano. Nis gallwn yma wneyd olrheiniad helaeth i neillduolion ei gymeriad, ond cofnodwn y prif ffeithiau yn hanes ei fywyd. Ganwyd ef yn nghymydogaeth Castellnewydd-Emlyn, yn y flwyddyn 1772. Derbyniwyd ef yn aelod, a dechreuodd bregethu yn ieuangc, a bu am yspaid yn yr ysgol dan ofal Mr. J. Griffiths, Glandwr. Aeth i'r Gogledd cyn diwedd y ganrif ddiweddaf, a bu yn cadw ysgol mewn amryw fanau yn siroedd Trefaldwyn, Meirionydd, a Dinbych. Mewn adeg o ddiwygiad grymus yn Penarth, yn y flwyddyn 1796, digwyddodd i ddyn mawr cryf o'r enw John Rogers, wrth orfoleddu a neidio, sathru ar ei droed, ac o ddiffyg gofal mewn pryd chwyddodd yr enyniad i fyny i'w goes fel y bu raid ei thori, ac o hyny allan defnyddiai glun bren, yr hyn yn nghyd a'i ddull hynod a'i ystumiai annaturiol a roddai lawer o ddifyrwch i ieuengetyd difeddwl. Yr oedd o dymer gyffrous a chwerw, ond deuai i'w le yn union; ac yr oedd pawb yn cydnabod ei fod yn Gristion gwresog a didwyll. Teithiodd lawer trwy ei oes, a bu am flynyddoedd yn myned trwy y wlad i werthu " Llythyr y Gymanfa." Yr oedd yn wrandawr bywiog, ac yn weddiwr gafaelgar, a phregethai yn dda, ond e fod yn hynod o anfedrus fel traddodwr. Mae lluaws mawr o hanesion difyrus am dano ef a'i anifail ar gof a llafar, ond nid dyma y lle i'w cofnodi; ond y mae dwy ffaith yn nglyn ag ef sydd yn werth eu crybwyll. Efe oedd yr Annibynwr cyntaf a bregethodd yn ardal Talybont, sir Abertifi. Aeth yno o Pennal, lle yr oedd yn cadw ysgol, ar gais Mrs. Anwyl, Llugwy; a phregethodd oddiar gareg-farch o flaen y Black Lion. Efe hefyd, pan yn pregethu mewn lle a elwir Beddcoedwr, yn mhlwyf Trawsfynydd, a fu yr offeryn yn llaw yr Arglwydd i argyhoeddi bachgenyn o'r enw William Williams, yr hwn wedi hyny a adwaenid trwy Gymru oll wrth yr enw anwyl "Williams o'r Wern." Nis gellir adrodd hanes eglwys Talybont yn llawn heb son am Rhys Davies; a thra y byddo Williams o'r Wern mewn coffadwriaeth, coffeir hefyd am "Rhys y glun bren." Anfarwolwyd y pregethwr di-addurn yn anfarwoldeb un o'r " tri chedyrn cyntaf."
419
Bu Rhys Davies farw yn dra disymwth, Ionawr 6ed, 1847, yn 75 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llangeler, ac ni wybyddir hyd y dydd y datguddir y dirgelion oll pa faint o wasanaeth a wnaeth i'r efengyl yn ei oes.
COFNODION BYWGRAPHYDDOL
THOMAS JONES. Yr oedd yn byw yn Glanffrwd, yn mhlwyf Llannewydd, gerllaw Caerfyrddin. Yr oedd yn weinidog yn Penlon a Nantgronwy, ac yn ei amser ef y symudodd yr achros o Benlon i'r Drefach. Dywedir ei fod yn wr duwiol a llafurus iawn, ac yn nodedig o dawel a heddychol. Er fod ganddo lawn deng milldir i fyned o Lanffrwd i'r Drefach, etto ni byddai byth yn colli hyd nes y daliwyd ef gan henaint nes ei orfodi i roddi i fyny. Nis gallasom gael allan pa bryd y bu farw, ond yr ydym yn casglu i hyny gymeryd lle yn fuan ar ol y flwyddyn 1780. Gwelsom rai hen bobl oedd yn ei gofio, ac yr oeddynt yn coffau am dano gyda pharch.
JOHN LEWIS. Ganwyd ef yn nghymydogaeth Henllan, yn y flwyddyn 1723, ac yno y derbyniwyd ef yn aelod ac y dechreuodd bregethu; er na anfonwyd ei enw i ni yn mysg y pregethwyr a gododd oddiyno. Ymsefydlodd fel masnachydd yn Nghastellnewydd-Emlyn, ac yno y treuliodd ei oes. Urddwyd ef yn weinidog yn Nhrefach fel cynorthwywr i Mr. Thomas Jones, Glanffrwd, tua'r flwyddyn 1761, pan oedd yn 38 oed. Yr oedd yn ddyn o gorff cryf, ac o ddeall da, ond ychydig o lwyddiant a fu ar ei weinidogaeth. Pregethai bob amser yn erbyn Arminiaeth, ac os llwyddodd i atal y bobl at yr Arminiaid ni lwyddodd i'w cael ato ef. Nid oedd ganddo ond deuddeg o aelodau yn y Drefach ar ol naw-mlynedd-ar-hugain o weinidogaeth. Llwyddodd i gasglu y byd. Efe a roddodd dir i adeiladu capel yn Nghastellnewydd. Bu farw Mai 14eg, 1818, yn 95 oed, wedi bod yn aelod eglwysig am 77 o flynyddoedd. Claddwyd ef yn Hawen.
JOHN BOWEN. Mab ydoedd i Mr. Owen Bowen, offeiriad Llangeler. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1768. Derbyniwyd ef yn aelod yn y Drefach yn nhymor gweinidogaeth Mr. D. Davies, ac yn fuan dechreuodd bregethu. Ar ymadawiad Mr. Davies i'r Mynyddbach, urddwyd ef yn weinidog yn Saron yn 1795, a llafuriodd yno am bymtheng-mlynedd-ar-hugain. Yr oedd Mr. Bowen yn gweinidogaethu hefyd yn Hermon, ac wedi marwolaeth Mr. T. Dayies, Pantteg, cymerodd hefyd ofal yr eglwys yn Bwlchnewydd. Oherwydd ei lesgedd a phellder y ffordd rhoddodd Hermon a Bwlchnewydd i fyny fwy na blwyddyn cyn ei farwolaeth, ond parhaodd ei gysylltiad a Saron hyd ei ddiwedd. Yr oedd Mr. Bowen, yn ol tystiolaeth y rhai a'i hadwaenai, yn ddyn o ddeall cryf, wedi cael addysg dda, ac o ddoniau grymus fel pregethwr. Yr oedd mewn amgylchiadau bydol cysurus, ac yn cael ei barchu yn fawr fel cymydog a gwladwr, ac yr oedd ymlyniad cryf iawn wrtho gan bobl ei ofal. Bu farw Ebrill 30ain, 1830, yn 62 oed.
THOMAS JONES. Mab ydoedd i John a Mary Jones, Gilfachisaf, Llangeler. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1770, a derbyniwyd ef yn y Drefach yn fuan wedi sefydliad Mr. D. Dayies yno. Dechreuodd bregethu cyn hir, ac urddwyd ef yn y flwyddyn 1802. Ystyrid Mr. Jones yn ddyn call, yn meddu ar synwyrau cryfion, o dymer ac ysbryd heddychol, ac yn nodedig mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb. Er nad oedd yn
420
meddu doniau poblogaidd fel pregethwr, etto yr oedd ei bregethau yn orlawn o efengyl, a thraddodai hwy yn eglur, yn syml, ac yn wresog. Bu yn ffyddlon, diwyd, a llafurus fel gweinidog, a gwelodd ffrwyth ei lafur. Trwy ei ymdrechion ef yn benaf y sefydlwyd yr eglwys yn Nghastellnewydd, a bu yn gwylio drosti hyd ei ddiwedd. Yr oedd yn ddwfn iawn yn serchiadau pobl ei ofal, a chynyddai yn ei barch hyd derfyn ei oes. Bu farw Mawrth 9fed, 1850, yn 80 oed.
Translation by Maureen Saycell (March 2009)
Preaching began here about 1670, in a place named Penlon, close to Felindre Siencyn. Mr E Hughes preached most frequently to the few disciples as he lived nearby, having been turned out of the church at Llandyfriog. Along with him Mr James Davies, Merthyr Fach and the ministers of Henllan and Trelech also came occasionally.
Sometime in the first half of the 18th century Mr Thomas Jones, Glanyffrwd, took on the care of this church along with Nantgronwy, Conwil. In 1753 the cause was moved from Penlon to Drefach, and for 3 years they worshipped in a dwelling house there. During this time of arguing about different teachings, this church ended being split, the Arminian contingent went to Penrhiw, where they remain, the remainder put a pulpit by an oak in a nearby woods. They continued to worship there until 1756 when a small chapel was built in Drefach. The old house can still be seen, an old cottage with a straw roof, held in high esteem, it was extended and a gallery added. Mr Jones was very elderly, and long distances to be covered so a call was sent to Mr John Lewis, a member of Henllan, to support him. He was ordained in 1761, 4 years later Mr Jones gave up the ministry as he was unable to travel. Mr Lewis lived in Newcastle Emlyn and was a responsible businessman there. He appears to have been successful in business, but not as a minister. After 29 years there were only 12 members, a few of the faithful wondered if there was any point in continuing with the cause under the circumstance. In the meantime a young man named David Davies had started to preach at Pencader,and he was attracting attention with his preaching, and it was decided to invite him here on a monthly basis. He agreed and came many times, giving some inspired sermons and a fiery spirit breathed new life into the cause. The novelty of his method of preaching drew all people to listen to him, the decision was made to call him and he was ordained in 1790. His voice was like a trumpet and the fire and brimstone of his sermons struck terror into the ungodly, then he offered them forgiveness through God. This cause that was on the brink now had a new mantle and within 2 years the chapel was too small for the congregation. In 1792 a new chapel was erected in a more convenient position for the community, it was named Saron and was soon filled with listeners. Mr Lewis's association continued, but although Mr Davies had been ordained to support him it was on him that the burden of care rested. To everyone's sorrow Mr Davies accepted a call ffrom Mynyddbach, near Swansea, and moved there in 1795. That same year a call was sent to Mr John Bowen, a member of the chapel, and he was ordained on November 3rd, 1795. He remained here successfully until 1802 when a dark cloud descended on the cause. Despite his talent he was not always as watchful as he should be and there was an up and coming young preacher named Mr Thomas Jones, Gilfach Isaf. Although he was not as amusing as Mr Bowen his unassuming attitude made some want to ordain him to co-minister with Mr Bowen. The situation deteriorated and Mr Bowen excommunicated some members who were very religious. The majority of the church disagreed with this, and the old minister thought it was a very rash action and announced that he would offer communion to those who had been expelled. The church split with one half staying with Mr Bowen and the other with the old minister but both retained the use of the chapel using it on alternate Sundays. Mr Thomas Jones was appointed to support Mr Lewis, in 1802. On the occasion a sermon on the nature of the church was given by Mr. D. Peter, Caerfyrddin. The questions were asked and the ordination prayer offered by Mr. J. Lewis, the old minister. Mr. T. Davies, Pantteg, preached to the minister, and Mr. D. Davies, Swansea, to the church. Matters continued like this for some years, although feelings were easing they were far from comfortable. Initially none of Mr Bowen's followers would attend on the Sundays that Mr Jones ministered and vice-versa, but slowly they came together and went to listen to both ministers. Many efforts were made by neighbouring ministers, but it was all wasted until the old minister, Mr Davies, Swansea, called and preached with such conviction that they reunited as one church under the care of the 2 ministers. This continued until the death of Mr Bowen on April 30th, 1830.
In 1825 the chapel was rebuilt to be strong and attractive, and a large congregation attended regularly. In 1807 a new chapel was built in Newcastle Emlyn which was considered to be a branch of this chapel and was under the care of Mr T Jones until his death. In 1836 another chapel was built at Penboyr, named Soar. Mr Jones worked hard and faithfully here until his death on March 9th, 1850.
After 3 years without a minister a call was sent to Mr Jonah Morgan who was a well respected supporting preacher in Cross Inn, Llandybie, he was ordained on February 24th, 1853. He stayed here until the summer of 1856 when he moved to Cwmbach, Aberdare, where he remains. Before the end of that year a call was sent to Mr Benjamin Jones, a member of Rhydybont, he was ordained November 19th, 1856. He was here for some years but left in 1864. At the beginning of 1867 a call was sent to Mr John Elias, a student at Bala, and he was ordained on May 22nd, that year, his association ended before the end of the same year. Despite many wounds the cause remained strong. Before the end of 1870 a call was sent to Mr Thomas J Morris, a student at Carmarthen College, he was ordained on February 1st, 1871 and he remains here with the cause looking very healthy.
There were many exceptional members here who are remembered with great respect, some are named here: Thomas Price, Trebedw; John Joshua,Penrhiw; David Jones, Cefn; Evan Griffiths, David Jones, Penalltygigfran ; and William Williams, Trebedw.
The following were raised to preach here:-
- DAVID DAVIES - ordained Sardis, popular preacher.
- METHUSALEM JONES - mentioned with Bethesda, Merthyr.
- JOHN BOWEN - ordained here.
- THOMAS JONES - minister for a long time here.
- THOMAS DAVIES - ordained Pentraeth, Angelsey, mentioned with Moelfre, his last placement.
- EVAN EVANS - minister at Hermon.
- DAVID DAVIES - Son of Rhys Davies. Not involved with religion for many years.
- THOMAS RHYS JONES - Educated at Carmarthen, ordained Cerig Cadarn. Became a Baptist.
- THOMAS JONES -son of old minister Mr Thomas Jones. Educated Carmarthen,ordained Llangadog, Brecon. Went to the established church.
- HENRY JONES - another son of Mr. Thomas Jones. Educated Carmarthen, ordained Rhydybont, followed his brother to the church.
- REES S JONES - educated Brecon. Ordained Treoes, Glamorgan; now in America.
- RHYS DAVIES - Born in 1772 at Newcastle Emlyn, spent most of his ministry here. Educated at Glandwr, kept schools at various locations in North Wales. Got injured at a revival meeting in Penarth, 1796, had to have an amputation, used a wooden leg. Had a short temper and was bitter but was known as a true Christian. Travelled a great deal in his life selling "Llythyr y Gymanfa". He was the first Independent to preach at Talybont, Cardiganshire, preached on the mounting block outside the Black Lion. Inspired Williams o'r Wern at Trawsfynnydd. Died January 6th, 1847, age 75, buried at Llangeler.
BIOGRAPHICAL NOTES *
THOMAS JONES - minister at Penlon and Nantgronwy - the cause moved from Penlon to Drefach in his time - date of death not known.
JOHN LEWIS - born 1723 at Henllan - businessman in Newcastle Emlyn all his life - ordained 1761 Drefach, age 38 - not a successful minister, only 12 members after 29 years - gave land to build the chapel at Newcastle Emlyn - died May 14th, 1818, age 95, buried at Hawen.
JOHN BOWEN - born 1768, son of the vicar of Llangeler - ordained Saron 1795, stayed for 25 years - also ministered at Hermon and later Bwlchnewydd - died April 30th, 1830, age 62.
THOMAS JONES - born 1770, son of John and Mary Jones, Gilfachisaf, Llangeler - ordained 1802 - very industrious minister - died March 9th, 1850, age 80.
*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.
CASTELLNEWYDD-EMLYN
(Cenarth parish)
Mae Castellnewydd-Emlyn yn hen dref, yn sefyll yn nghanol dyffryn Teifi, ac yn cael ei hamgylchynu gan y golygfeydd mwyaf prydferth, amrywiol, a thoreithiog. Gelwir y lle yn Gastellnewydd, am fod y castell diweddaf wedi ei adeiladu ar adfeilion yr un o'i flaen gan Rhys ab Thomas, yn amser Harri VII. Gelwir y lle yn Gastellnewydd-Emlyn am fod Teifi yn ymddolenu o gwmpas y dref a'r castell yn agos ar lun M.
Er fod gan yr Annibynwyr eglwysi lluosog a chyfrifol o gwmpas y dref nid oedd ganddynt achos yn y lle, hyd tua'r flwyddyn 1807. Dechreuwyd gwasanaeth crefyddol yma yn nhy Mr. John Lewis, hen weinidog Saron, yr hwn oedd yn fasnachwr cyfrifol yn y dref; a phan gynygiodd ddarn o dir i adeiladu capel arno, derbyniodd Mr. T. Jones, cyd-weinidog Mr. Lewis yn Saron, ac amryw gydag ef, y cynyg yn llawen. Cafwyd ysgrif-rwym arno am 999 o flynyddau, ac adeiladwyd addoldy yn 1807, yr hwn a alwyd Ebenezer, a ffurfiwyd yma eglwys, yn benaf o aelodau Saron. Mr. T.Jones oedd eu gweinidog cyntaf, yr hwn a'u gwasanaethodd dri Sabboth yn y mis hyd ei farwolaeth yn 1850. Yr oedd Mr. Jones yn ddyn o gymeriad pur, o dymer hynaws, ac o ddoniau melus, a bu yn llwyddianus a derbyniol yma drwy ei oes. Tua 1840 prynodd yr eglwys y tir o dan y capel, a darn arall ato; ac yn 1844 adeiladwyd capel helaethach o lawer, fel yr oedd ar y pryd y mwyaf a harddaf yn yr ardaloedd, ac y mae yr oll er's blynyddau yn ddiddyled, a'r tir yn feddiant bythol i'r eglwys, a digon o le i helaethu y capel, yr hyn yn ol yr argoelion presenol a fydd raid wneyd cyn hir. Agorwyd y capel newydd Mawrth 5ed ar 6ed, 1845. Yn 1851 rhoddodd yr eglwys yn Ebenezer, mewn cysylltiad a Capel Iwan, alwad i Mr. John Williams, Llangadog, yr hwn a fu yma yn boblogaidd a llwyddianus hyd Tachwedd, 1869, pryd y bu farw, yn 51 oed. Yn niwedd 1871 rhoddodd eglwys Ebenezer, mewn cysylltiad a Capel Iwan a Brynseion, alwad unfrydol i Mr. Evan A. Jones, Dolgellau; ac y mae ugeiniau lawer wedi eu derbyn yn y tri lle yn ddiweddar. Mae yn y tri lle naw cant o aelodau, a chynnulleidfaoedd lluosog o wrandawyr, fel y mae yn un o'r maesydd pwysicaf yn y Dywysogaeth; canys y mae y wlad o gwmpas wedi ei meddianu gan mwyaf gan yr Annibynwyr. Rhifa yr eglwys hon tua 380.
Mae yma lawer o bobl lafurus a gweithgar wedi bod gyda'r achos o bryd i bryd, ac y mae yma lawer o rai felly yn aros; ac y mae eu llafurus gariad mewn coffadwriaeth ger bron Duw, a'u henwau yn y ysgrifenedig yn y nefoedd.
Codwyd y personau canlynol i bregethu yma :
- John Evans. Bu farw yn ieuangc yn y flwyddyn 1825.
- Henry Rees. Bu yntau farw tua'r flwyddyn 1825.
- John Parry Morgan. Ymunodd ef a'r Eglwys Sefydledig.
Translation by Gareth Hicks (Oct 2008)
Newcastle Emlyn is an old town standing in the middle of the Teifi valley and is surrounded by the most beautiful, diverse and prolific scenery. The place is called Castellnewydd (Newcastle) because the last castle was built on the ruins of the one before (built) by Rhys ab Thomas, in the time of Henry VII. They called it Newcastle-Emlyn because the river Teifi winds through the town almost in the shape of an M.(lun M).*
* But see wikipedia for an alternative explanation
Although there were numerous reputable Independent churches in the area they didn't have a cause in the town until about 1807. They began a religious service here in the house of Mr John Lewis, an old Saron minister, who was a reputable merchant in the town, and when he offered a piece of land to build a chapel on, Mr T Jones, joint minister with Mr Lewis at Saron, and others with him, accepted gladly. They obtained a written agreement/lease? over it for 999 years, and they built a place of worship in 1807, which they called Ebenezer, and formed here a church, mainly from members of Saron. Mr T Jones was their first minister, who held three Sunday services in the month he died in 1850. Mr Jones was a man of pure character, an amiable temper, and of sweet talents, and he was successful and accepted here throughout his life. Around 1840 the church bought the land the chapel stood on, and another piece; and in 1844 built a much bigger chapel, as it was at the time the biggest and most beautiful in the districts, and it has for years been fully repaid, and the land in everlasting ownership of the church, and enough room to extend the chapel, and this according to present signs will have to be done before long. The new chapel opened on 5th/6th March 1845. In 1851 the church of Ebenezer, in conjunction with Capel Iwan, gave a call to Mr John Williams, Llangadog, who was successful and popular here until November, 1869, when he died, aged 51. At the end of 1871 the church of Ebenezer, in conjunction with Capel Iwan and Brynseion, gave an unanimous call to Mr Evan A Jones, Dolgellau, and scores (of people) have been admitted in the three places lately. There are in the 3 chapels 900 members, and congregations with numerous listeners, so it is one of the important places (fields) in the Principality; for the country as a whole is mostly occupied by the Independents. The number in this church is about 380.
There are many industrious and hardworking people who have been with this cause from time to time, and so there are many who stay here; and their labours of love are remembered close to God, and their names are in the heavenly records.
The following were raised to preach here;
- John Evans. He died young in 1825
- Henry Rees. He died around 1825
- John Parry Morgan. He opted for the Established Church
- Thomas Rees. He moved to America
- Lewis Williams, MA. He died in 1858, at the close of his studies at Glasgow University
- William Emlyn Jones. He was educated at Brecon College, and is now in Morriston
- William Cranog Davies. He went to Brecon College, and is now in Llantrisant
- John Rees. He was a student at Bala College, and is now in Cwmllynfell
- Hywel Thomas. He is now a student at Carmarthen College
Biographical Notes *
*Not extracted fully
JOHN WILLIAMS. ... born in Ffrwdwen, Llandilofawr parish, May 1819.... father a deacon at Capel Isaac... when he was young the family moved to Brown Hill, Llansadwrn, one of the largest farms in the Towy Valley.... the whole family worshipped at Ebenezer, Llansadwrn ... John Williams admitted there in 1837... started to preach in 1839 ... went to Ffrwdyfal College for several years ... got a call from Siloa, Llanelli, and at same time from Llangadog, and Sardis, and Myddfai ... inaugurated in Llangadog in 1841 ... accepted a call from Newcastle-Emlyn in 1851 ... he died in 1869, aged 59, buried in Capel Iwan graveyard where his wife was buried 6 years previously.
CONTINUED
[Gareth Hicks 14 Jan 2011]